– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 18 Ionawr 2022.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 7, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gymorth cyfreithiol a mynediad at gyfiawnder. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers cyfres o doriadau llym ac annheg i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd y toriadau eu gwneud drwy Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog cyfiawnder, Jonathan Djanogly, y byddai'r Ddeddf yn gwneud costau cyfreithiol yn fwy teg. Ond, erbyn hyn, mae'n amlwg bod y toriadau wedi gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.
Llywydd, yn ôl canfyddiadau Cymdeithas y Gyfraith, nid yw cymorth cyfreithiol ar gael mwyach i lawer sydd ei angen. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn ei chael hi'n anodd cael gafael arno, nid yw bylchau eang mewn darpariaethau'n cael sylw, ac mae'r Ddeddf wedi cael effaith negyddol ar y wladwriaeth ac ar gymdeithas. Mae wedi arwain at greu system gyfiawnder ddwy haen, gyda diffyg cyfiawnder i gymaint o bobl yng Nghymru. Mae'r toriadau i gymorth cyfreithiol, sef yr hyn ydyn nhw, hyd yn oed wedi arwain at anfon pobl ddiniwed i'r carchar am nad ydyn nhw'n gallu sicrhau'r cymorth cyfreithiol sydd ei angen i ddiogelu eu rhyddid.
Mae'r canlyniadau gwrthnysig hyn yn gwbl groes i'r weledigaeth sy'n sail i greu system cymorth cyfreithiol y wladwriaeth gan y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel, ac maen nhw’n groes i weledigaeth a chredoau'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Y weledigaeth oedd
‘beth bynnag fo'r anawsterau o ran tlodi, ni ddylai unrhyw ddinesydd fethu â chael y cymorth cyfreithiol na'r cyngor sydd mor angenrheidiol i sefydlu ei hawliau llawn.'
Dywedwyd bod hyn yn
'ddiwygiad hanfodol mewn gwir ddemocratiaeth'.
Llywydd, rwyf i’n mynd ymhellach, i ddweud bod hon yn hawl ddynol sylfaenol sydd nawr yn cael ei gwrthod.
Mae cymorth cyfreithiol yn fwy na phroses ar gyfer ariannu cyfreithwyr mewn achosion cyfreithiol yn unig. Pan gafodd ei sefydlu yn 1949, roedden nhw’n creu GIG ar gyfer y gyfraith, a chydnabod bod sicrhau cyfiawnder, yr hawl i gyngor, cynrychiolaeth a chymorth, yn hawl ddynol sylfaenol. Nid yw'n ymwneud â'r llysoedd yn unig, mae'n ymwneud â grymuso pobl, mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bawb hawliau gwirioneddol mewn cymdeithas. Ydy hi’n syndod, felly, bod gymaint o bobl yn ymddieithrio oddi wrth gymdeithas ddinesig pan nad ydyn nhw’n teimlo'n rhan ohoni, pad nad oes neb yn gwrando arnyn nhw a phan maen nhw’n ddi-rym?
Bydd Aelodau'r Senedd hon yn ymwybodol fy mod i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig ar y cyd ynghylch y materion cyfiawnder hyn fwyfwy, a'r rheswm am hyn yw ein bod yn cydnabod bod y cysylltiad rhwng cyfiawnder, sicrhau cyfiawnder a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb. Dyna pam mae datganoli cyfiawnder yn fater mor bwysig i'r Llywodraeth hon, oherwydd mae'n cyd-gysylltu â chymaint o'r cyfrifoldebau datganoledig ac mae'n elfen angenrheidiol o'n strategaeth i fynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol.
Fe wnaeth Syr Christopher Bellamy ganfod, yn ei adolygiad annibynnol diweddar o gymorth cyfreithiol troseddol, fod 'blynyddoedd o esgeulustod' wedi bod o'r system cymorth cyfreithiol. Mae'n mynegi pryderon difrifol am effaith toriadau cyllid ar 'gydraddoldeb arfau' rhwng erlyn ac amddiffyn, sydd nid yn unig yn ymddangos yn annheg ond yn achosi annhegwch dwfn. Mae unigolion sy'n wynebu erlyniad troseddol a charcharu yn ofni y gallai costau ariannol amddiffyn eu hunain achosi methdaliad hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddiannus, ac mae hyn yn golygu mai'r unig opsiwn y gallan nhw ei ddewis yn rhesymegol yw pledio'n euog i drosedd nad ydyn nhw wedi'i chyflawni, fel bod eu cartref ac asedau eraill yn cael eu diogelu er budd eu teulu.
Yn fwyaf diweddar, mae hyn wedi cael ei weld yn yr hyn sydd wedi’i ddisgrifio fel camweinyddiad cyfiawnder mwyaf y cyfnod modern. Cafwyd cannoedd o is-reolwyr swyddfeydd post ledled Cymru a Lloegr yn euog ar gam yn sgandal Horizon Swyddfa'r Post. Roedd llawer yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ddewis pledio'n euog am droseddau nad oedden nhw wedi'u cyflawni, dim ond am nad oedd cymorth cyfreithiol yn ddigonol iddyn nhw sicrhau cyfiawnder yn erbyn grym ariannol erlyniadau preifat a ddygwyd gan Swyddfa'r Post. Nid mater mewn cyfiawnder troseddol yn unig yw hwn. Mae'r frwydr 27 mlynedd dros gyfiawnder dros Hillsborough yn enghraifft arall. Unwaith eto, nid oedd cymorth cyfreithiol i gefnogi teuluoedd y dioddefwyr i sicrhau cyfiawnder, gan arwain at alwadau am gyfraith Hillsborough.
Mae'r cyfreithwyr, y paragyfreithwyr a'r cynghorwyr hynny, a'r rhai yn y trydydd sector, sy'n gweithio'n ddiflino ar gymorth cyfreithiol neu am ddim yn arwyr cymunedol. Nid nhw yw'r cyfreithwyr blonegog, fel maen nhw’n cael eu galw, mae'r wasg mor hoff o adrodd amdanyn nhw; maen nhw ar ben digydnabyddiaeth, nad yw’n cael ei werthfawrogi o un o'r gwasanaethau pwysicaf mewn cymdeithas sifil—gwasanaeth mae ar lawer o'r bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymunedau ei angen ac yn dibynnu arno, ac mae'n sector sy'n marw'n araf. Nid yw'n syndod bod elfen cymorth cyfreithiol y proffesiwn cyfreithiol mor ddigalon. Mae swyddfeydd wedi cau, gan fod dechreuwyr yn y proffesiwn yn cael eu rhwystro gan gyfraddau cyflog sydd weithiau 50 y cant yn is nag oedd yn bodoli ar ddiwedd y 1990au, i'r fath raddau fel bod aelodau'r bar yn ystyried cymryd camau cyfreithiol a gweithredu diwydiannol. Mae llawer o'n cymunedau gwledig a chymunedau’r Cymoedd bellach wedi dod yn anialwch o ran llysoedd a chyngor cyfreithiol. I lawer, nid oes cyfiawnder mwyach, dim ond proses gyfreithiol a gweinyddol lle maen nhw’n dod yn ddioddefwyr goddefol.
Mae Syr Christopher Bellamy yn dweud bod gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd gyfyng-gyngor moesegol wrth gynghori myfyrwyr ar yrfa mewn cymorth cyfreithiol troseddol:
'Naill ai maen nhw’n annog eu myfyrwyr i fynd i broffesiwn heb lawer o gyfleoedd ar gyfer symudedd a dilyniant cymdeithasol, neu maen nhw’n cynghori yn erbyn hynny, ac os felly "heb waed newydd" mae'r proffesiwn yn sicr yn mynd i ddarfod ymhen 10-15 mlynedd os nad llai.'
Mae cyfyng-gyngor tebyg yn ymddangos mewn meysydd eraill o'r gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud iawn am fethiannau'r system bresennol ac i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gyngor lles cymdeithasol. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae dros £10 miliwn o arian grant ar gael i wasanaethau cronfa cyngor sengl yng Nghymru. Rydyn ni’n ariannu gwasanaethau sy'n cyrraedd yn ddwfn mewn cymunedau lleol, gan helpu pobl i ddatrys problemau lles cymdeithasol lluosog, sydd wedi hen ymwreiddio’n aml, gan gynnwys cynrychiolaeth gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yng Nghymru, fe wnaeth gwasanaethau'r gronfa cyngor sengl helpu 127,813 o bobl. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ariannu cynlluniau treialu llysoedd cyffuriau ac alcohol Caerdydd a llawer o fentrau eraill. Ac eto, mae problem sylfaenol o hyd. Rydyn ni’n cytuno’n llwyr ag argymhelliad canolog Syr Christopher fod angen o leiaf £135 miliwn o gyllid ychwanegol—o leiaf—bob blwyddyn dim ond i gefnogi cymorth cyfreithiol troseddol. Ac rydyn ni’n dadlau nad yw cymorth cyfreithiol sifil yn cael ei ariannu'n ddigonol yn yr un modd.
Mae llawer o bethau eraill yn adroddiad Bellamy y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei ddatblygu. Ac eto, mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd cyfiawnder presennol yn rhoi mwy o bwys ar gael gwared ar amddiffyniadau hawliau dynol i ddinasyddion cyffredin na datrys y problemau mae ei blaid ef yn y Llywodraeth wedi helpu i'w creu. Mae'n warthus bod y Llywodraeth, yn yr adolygiad o hawliau dynol sydd i ddod, wedi gwrthod rhoi unrhyw ystyriaeth i gyflwyno hawliau cymdeithasol ac economaidd, a bod rhan o bwyslais yr adolygiad ar 'chwyddiant hawliau' fel mae’n cael ei alw, gan fod gennym ni ormod o hawliau, mae'n debyg. Mae hwn yn fater mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n bwriadu mynd i'r afael ag ef yn ein hymateb i'r adolygiad.
Mae'n hawdd, wrth gwrs, galw am fwy o wariant. Felly, gadewch i mi atgoffa Aelodau o’r hyn wnaeth comisiwn Thomas ei ganfod, yn seiliedig ar ystadegau a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, mai £11.50 yw’r gwariant y pen ar gymorth cyfreithiol troseddol yng Nghymru o'i gymharu â £15 yn Lloegr. Felly, yn syml, pe byddai wedi'i ddatganoli a'n bod ni’n cael ein cyfran deg o gyllid, byddem ni’n gallu ariannu cymorth cyfreithiol yn well. Byddem yn gallu creu ein gwasanaeth cymorth cyfreithiol a chyngor Cymreig ein hunain, un sydd wedi'i gynllunio'n ddiffuant i wasanaethu pobl Cymru a sicrhau’r cyfiawnder rydyn ni gyd yn credu ynddo.
Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r diwygiadau radical sydd eu hangen i sicrhau cyfle cyfartal am gyfiawnder i'n dinasyddion, yn ogystal â chyfyngu ar y posibilrwydd o gam-drin pŵer y wladwriaeth. Dywedodd Is-iarll Simon yn 1948
'Mae'n gamgyhuddiad anghywir i ddweud bod un gyfraith i'r cyfoethog ac un arall i'r tlawd', eto dyma lle yr ydyn ni a dyma'r hyn y mae'n rhaid i ni ei newid. Diolch, Llywydd.
Bwriedir i gymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol, cyfryngu teuluol ac am gynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys. Mae'r rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys wedi'u nodi yn Neddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 a rheoliadau y cyfeirir atyn nhw gan y Cwnsler Cyffredinol. Bydd p'un a ydych yn gymwys ai peidio yn dibynnu ar y math o achos a'ch amgylchiadau ariannol.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, y llynedd, wedi gwario dros £1.7 biliwn ar gymorth cyfreithiol; eu bod wedi cyhoeddi £51 miliwn yn fwy ar gyfer y sector cymorth cyfreithiol y llynedd, gan gefnogi gweithwyr cyfreithiol proffesiynol; eu bod wedi buddsoddi £0.25 biliwn i gadw cyfiawnder ar waith a chefnogi adferiad yn ystod y pandemig yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys dros £50 miliwn yn fwy ar gyfer dioddefwyr a gwasanaethau cymorth; a bod adolygiad gwariant y Canghellor hefyd yn darparu £477 miliwn yn ychwanegol i'r system cyfiawnder troseddol i ateb y galw cynyddol gan swyddogion heddlu ychwanegol ac i adfer perfformiad yn dilyn y pandemig?
Fel pwynt o ffaith, a yw'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cydnabod bod ôl-groniad y llys yn is o dan Lywodraeth bresennol y DU ychydig cyn dechrau'r pandemig nag yr oedd ym mlwyddyn olaf Llywodraeth Lafur y DU, gan helpu felly i wneud cyfiawnder yn fwy hygyrch? A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ymuno â mi i groesawu estyniad Llywodraeth y DU o 32 o Lysoedd Nightingale y Goron, gan gynnwys un yn Abertawe, tan fis Ebrill 2022, i gynnal cymaint o wrandawiadau â phosibl mewn ymateb i'r coronafeirws, a'i bod yn agor ail 'super courtroom' yr wythnos hon, gan gynyddu capasiti ymhellach ar gyfer achosion mawr? A yw'n cytuno bod Llywodraeth y DU yn iawn i wneud yr ystadau'n ddiogel drwy osod sgriniau plexiglass mewn dros 450 o lysoedd ac mewn ystafelloedd trafod y rheithgor ac ad-drefnu tua 70 o ystafelloedd llys i gynnal achosion mawr o hyd at 10 diffynnydd?
O ran mynediad at gyfiawnder, a yw'n croesawu'r gostyngiad o tua 80,000 yn nifer yr achosion sy'n weddill mewn llysoedd ynadon ers ei anterth ym mis Gorffennaf 2020, bod lefelau achosion sy'n weddill yn Llysoedd y Goron yn sefydlogi a bod miloedd o achosion yn cael eu rhestru bob wythnos? Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r Bil Adolygiad Barnwrol a Llysoedd y DU presennol i roi mwy o bwerau i Lys y Goron ddychwelyd achosion i'r ynadon, lleihau'r galw yn Llys y Goron a rhyddhau hyd at 400 diwrnod eistedd y flwyddyn? Pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i'r cymorth a ddarperir gan Gyngor Cyfreithiol Sifil, neu CLA, gan ddarparu cyngor cyfrinachol am ddim yn rhan o gymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr?
Fis Gorffennaf diwethaf, nododd adroddiad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin ar ddyfodol cymorth cyfreithiol fod gwir angen cynllun mwy hyblyg sy'n caniatáu i unrhyw un â phroblem gyfreithiol na all fforddio cyfreithiwr gael cyngor cyfreithiol cynnar. Roedd Llywodraeth y DU i fod i ymateb i'r adroddiad hwn ac adolygiadau cysylltiedig eraill, gan gynnwys ei hadolygiad o'r prawf modd cymorth cyfreithiol, fel rhan o'i chynllun gweithredu cymorth cyfreithiol ehangach erbyn diwedd 2021. Fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol hepgor unrhyw gyfeiriad at hyn. Pa ymgysylltu, felly, y mae wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y materion hyn a'r ymgynghoriad a fydd yn dilyn? Pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ddoe am gyllid ychwanegol i'r cynllun cyfryngu teuluol i helpu miloedd yn fwy o deuluoedd i osgoi'r llys? Pa ran y mae'n ei hystyried y gall neu y dylai sefydliadau partner cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru ei chwarae wrth gyrraedd pobl cyn i'w problemau fynd allan o reolaeth, a sut y gallai gael gafael ar y gwasanaethau cynghori hynny sy'n darparu cymorth allweddol nad yw'r gronfa'n eu cefnogi?
Mae'r galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn methu â chydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol na rhanbarthol, nac ychwaith bod dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru—48 y cant o'r cyfanswm—yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 2.7 miliwn—90 y cant o'r cyfanswm—o fewn 50 milltir i'r ffin. Felly, nid ydym yn mynd i gytuno ar faterion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder. Fodd bynnag, wrth fy ateb fis Tachwedd diwethaf, dywedodd hefyd ei fod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y meysydd hynny lle gallen nhw gydweithredu a lle y gallen nhw wneud cyfraniad i wella'r trefniadau sydd eisoes ar y gweill. Felly, yn olaf, sut mae hyn yn mynd rhagddo yng nghyd-destun y datganiad heddiw?
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac am y gwahanol gwestiynau, y rhan fwyaf ohonyn nhw, er hynny, ddim mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â rhan sylfaenol y datganiad yr wyf wedi'i gyhoeddi, sy'n ymwneud â gallu dinasyddion a phobl i gael gafael ar gymorth cyfreithiol a'r problemau sy'n bodoli ynghylch hynny.
Gadewch i mi ymdrin ag ychydig o'r materion a godwyd gennych. Sonioch chi am ariannu swyddogion heddlu ychwanegol. Wrth gwrs, rydym yn croesawu hynny a'r cynnydd, er nad ydym eto wedi ei weld yn cyrraedd lefel y plismona a etifeddwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd yn 2010. Mae gennym lai o swyddogion heddlu o hyd nag yr oedd gennym ni ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r system gyfiawnder, bellach yn ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ein cymunedau oherwydd diffyg cyllid y DU.
O ran llysoedd Nightingale a threfniadau arbenigol oherwydd COVID, nid wyf yn gweld problem gyda rhai o'r trefniadau hynny. Nid wyf eto wedi gweld manylion rhai ohonyn nhw a sut y gallen nhw weithio'n ymarferol, ond nid yw'n mynd i'r afael â'r broblem ynghylch pobl yn cael gwasanaeth cyfreithwyr a chael gafael ar gyngor ac ati. Yr hyn y mae'r Aelod yn methu â'i gydnabod yw mai'r hyn a ddigwyddodd yn 2012 oedd bod y Llywodraeth Geidwadol wedi torri mynediad at gyfiawnder yn aruthrol ac wedi eithrio meysydd cyfan o fynediad at gyfraith les cymdeithasol i bobl. Roedd y gyllideb cymorth cyfreithiol yn 2012, pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth gennych, yn £2.2 biliwn. Ar un ergyd fe wnaethoch chi dorri £751 miliwn o'r gyllideb honno. Ar ben hynny rydych wedi cau llysoedd, sy'n golygu na all llawer o bobl hyd yn oed gyrraedd y llysoedd. Mae pobl—ac adroddir hyn yn adroddiad Bellamy—na allan nhw fforddio cyrraedd y llys, felly maen nhw'n aros i wŷs gael eu cyhoeddi fel y gellir eu harestio a bydd yr heddlu wedyn yn dod â nhw i'r llys. Dyma'r union gyflwr yr ydym ni ynddo. Ac mae gennym ni bobl nawr, o ran ar-lein, nad oes ganddyn nhw fodd i gael gafael ar y dechnoleg, weithiau, i fod yn rhan o achosion ar-lein, sy'n rhoi tystiolaeth dros ffôn symudol. Mae hynny'n hollol annerbyniol. Yr hyn a ddigwyddodd yn 2011 oedd bod 91,000 o ddinasyddion ledled y DU wedi cael cyngor ar faterion lles, a gostyngodd hynny, o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU, 99 y cant, ar un ergyd. Ac ers hynny, mae'r materion o ran materion lles cymdeithasol, tai a materion teuluol wedi cynyddu, mewn gwirionedd, yn sylweddol.
Rydych yn codi'r mater ynghylch cyflwyno mesurau diogelwch mewn llysoedd ac, wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny—mae mesurau diogelwch wedi'u cyflwyno yn y rhan fwyaf o weithleoedd a mannau cyhoeddus. Ond mae gennym system o hyd lle nad oes gennym fuddsoddiad priodol yn y ganolfan cyfiawnder sifil—llys priodol a boddhaol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd—rydym wedi bod yn pwyso amdano ers peth amser. Cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder ydyw, ac eto nid yw'n ymddangos ein bod yn cael cyfleusterau llys sy'n addas i gyfreithwyr, i'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr achosion, ac er diogelwch y farnwriaeth eu hunain.
O ran y Bil Adolygiad Barnwrol a Llysoedd, bydd hynny'n fater o drafodaeth fanwl iawn rywbryd, oherwydd, yn y bôn, mae'r Bil adolygu barnwrol yn ymwneud mwy â galluogi'r Llywodraeth i basio deddfwriaeth heb unrhyw graffu gan y llysoedd lle mae Deddfau'r Llywodraeth yn anghyfreithlon.
Nawr, o ran llysoedd cyffuriau ac alcohol ac ati, wel, wrth gwrs, mae gennym y cynllun treialu cyntaf yng Nghaerdydd, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Ond, wrth gwrs, er nad ein cyfrifoldeb ni ydyw, mae'n cael ei ariannu gan gannoedd o filoedd o bunnau o arian Llywodraeth Cymru.
Nawr, o ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, rwyf wedi cyfarfod, fel y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd, gyda'r Arglwydd Wolfson. Rydym wedi bod yn trafod y materion hyn. Rydym yn edrych ar y materion hynny lle y gallwn gydweithio ar faterion cyfiawnder, ac rydym hefyd yn edrych, o ran y meysydd hynny, lle mae arnom angen newid a diwygio mewn gwirionedd o ran y ffordd y caiff cyfiawnder ei gyflawni, a dyma lle yr ydym yn dod at bwysigrwydd datganoli cyfiawnder. Rydych chi, yn amlwg, wedi rhoi safbwynt Stryd Downing, o ran datganoli cyfiawnder. Yr hyn y byddwn i'n ei obeithio yw y byddwn ni'n cyflwyno, mewn gwirionedd, y ffordd y gallwn ni ddangos y gellir darparu cyfiawnder yn well. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud i gloi fy ateb i'ch sylwadau yw mai'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud, yn llwyr, yw cilgamu. Y mater sylfaenol yw bod gennym anialwch o ran cyngor yng Nghymru ac mae gennym lawer, miloedd lawer o'n hetholwyr, ledled Cymru heb fynediad at gyfiawnder o gwbl, a bod gennym system gyfiawnder ddwy haen. Mae'n drist iawn na wnaethoch chi fynd i'r afael â hynny yn eich cwestiynau i mi.
Llywydd, dwi'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad pwysig yma mewn ardal sydd ddim wedi cael ei datganoli i Gymru, ond yn dangos pa mor o ddifri mae'r Llywodraeth i ddelio gyda'r problemau enfawr mae pobl ein gwlad ni yn eu dioddef ar hyn o bryd. Dyw e ddim yn ormodedd i ddweud bod pobl Cymru wedi cael eu taro'n greulon gan bolisi llymder, didrugaredd y Llywodraeth Dorïaidd a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd nôl yn 2011 i dorri y cymorth cyfreithiol.
Gadewch inni edrych ar ychydig o ffeithiau fan hyn, a bydd yn dda i'r Torïaid fan hyn wrando ar ffeithiau oddi wrth y Legal Aid Agency. Yn Lloegr syrthiodd gwariant cymorth cyfreithiol o 2012 i 2019 gan 28 y cant; yng Nghymru fe wnaeth e syrthio gan 37 y cant. Yn Lloegr syrthiodd nifer y ffyrmiau sy'n cynnig cymorth cyfreithiol gan 20 y cant; yng Nghymru 29 y cant. Yn Lloegr syrthiodd cymorth cyfreithiol yn ardaloedd sifil a theulu gan 31 y cant; yng Nghymru 40 y cant.
Gallaf i fynd ymlaen ac ymlaen. Gallaf i roi enghreifftiau di-ri tebyg i hynny. Maen nhw yna, ffeithiau gan y Legal Aid Agency yn dangos sut mae'r toriadau yma wedi effeithio ar Gymru. Fel barnwr tribiwnlys, fe welais i gannoedd ar gannoedd o bobl—pobl yn dioddef o iechyd meddwl, o iechyd corfforol gwael, anghenion dysgu—yn gorfod wynebu sefyllfa gymhleth, cyfraith anodd, heb unrhyw gymorth proffesiynol. Roedd pobl yn ymddangos o fy mlaen i yn eu dagrau, ar ben eu tennyn. Fe wnaeth dwy weddw ymddangos o fy mlaen i oherwydd bod eu gwŷr wedi lladd eu hunain cyn yr apêl. Doedd dim cymorth yna.
Fel bargyfreithiwr, welais i filoedd o bobl yn methu sicrhau mynediad i gyfiawnder oherwydd eu sefyllfa ariannol. Yn llythrennol, drws cyfiawnder yng Nghymru wedi'i gau yn glep i'r cannoedd a miloedd o bobl sy'n byw yn ein gwlad ni sy'n byw mewn tlodi. Dyna sefyllfa cyfiawnder yng Nghymru. Ond mae modd bod yn wahanol. Yn yr Alban, er enghraifft, lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli, mae 70 y cant o'r boblogaeth yno yn gymwys i gymorth cyfreithiol.
Cwnsler Cyffredinol, mae'r ddau ohonom ni'n gwybod o'n gyrfaoedd cyfreithiol am y cysylltiad agos rhwng cyfiawnder cymdeithasol a'r system gyfiawnder, felly rwy'n falch o weld y datganiad ar y cyd rhyngoch chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae ffactorau fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd ac anfantais gymdeithasol yn chwarae rhan enfawr ym mherthynas rhywun â'r system gyfiawnder. A ydych chi'n cytuno, felly, fod angen mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder, cydraddoldebau a hyd yn oed lles fel pecyn yma? Er gwaethaf yr holl dystiolaeth ddiamheuol i'r gwrthwyneb, mae'r Torïaid yng Nghymru—a gwelsom hynny eto y prynhawn yma—mae'r Torïaid yng Nghymru a'r Torïaid yn San Steffan yn parhau â'r un ddadl flinedig bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda. Wel, dydy hi ddim. Yn hytrach na llenwi bylchau clir o fewn ein system gyfiawnder, mae Llywodraeth San Steffan yn benderfynol o gyfyngu ar hawliau ychwanegol—yr hawl i adolygiad barnwrol, yr hawl i ddibynnu ar y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, yr hawl i ddileu is-ddeddfwriaeth anghyfreithlon. Gofynnaf i'r Torïaid yma heddiw: pam, yn eich barn chi, y mae Llywodraeth Cymru yn gwario £10 miliwn ar y gronfa gynghori sengl, maes a gadwyd yn ôl. Maen nhw'n gwneud hynny oherwydd hebddon ni fydd 128,000 o bobl—mwy na phoblogaeth Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr—yn cael cyngor cyfreithiol fel arall. Fe ofynnaf i eto i'r Torïaid sy'n bresennol yma: pam ydych chi'n credu bod Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun treialu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y llys teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd? Yr ateb yw na fyddai'r teuluoedd hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw fel arall. Ac fe ofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol: pa gyfran y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwario ar y prosiect pwysig iawn hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder?
Fel yr amlygodd y Cwnsler Cyffredinol, gwelwn yng Nghymru arc enfawr rhwng Abertawe a Wrecsam heb fawr ddim gwasanaethau cyfreithiol na llysoedd a thribiwnlysoedd. Er enghraifft, byddai gan unigolyn sydd angen teithio i Ganolfan Gyfiawnder Aberystwyth o Aberteifi daith ddwy awr wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes llysoedd ym Môn. Byddai teithio o Ynys Môn ar drafnidiaeth gyhoeddus i Gaernarfon yn golygu taith 90 munud ar ddau fws. Mewn llawer o ardaloedd gwledig, fel y sonia James Evans, yr Aelod Ceidwadol, yn aml iawn, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus foddhaol o gwbl. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod canolfannau llys a thribiwnlysoedd wedi'u cysylltu gan drafnidiaeth gyhoeddus dda. Mae gwrandawiadau o bell wedi gweithio'n dda ar y cyfan yn ystod pandemig COVID. Nid yw'n addas i bawb, rwy'n cyfaddef, ond a fydd gwrandawiadau rhithwir yn parhau yn nhribiwnlysoedd Cymru yn y dyfodol?
Os yw Mark Isherwood yn credu bod Llywodraeth San Steffan wedi parhau i gadw cyfiawnder ar waith yn ystod pandemig COVID, yna mae'n amlwg nad yw wedi siarad â'r proffesiynau cyfreithiol. Erbyn hyn mae oedi hirach nag erioed. Ie, yn rhannol oherwydd COVID, ond roedd yr oedi hir yn bodoli ymhell cyn y pandemig. Roedden nhw'n bodoli oherwydd toriadau, toriad systematig, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i'r system gyfiawnder. Ac ni allwch anwybyddu hynny.
Gallaf dystio i sylwadau Syr Christopher Bellamy am ymarferwyr cyfraith trosedd. Mae llawer o'm cyfoeswyr a ddechreuodd ymarfer mewn cyfraith trosedd bellach wedi symud i feysydd eraill neu wedi gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Yn y canolbarth a'r gorllewin, mae 60 y cant o gyfreithwyr cyfraith trosedd dros 50 mlwydd oed. Ond rwy'n sylwi, Cwnsler Cyffredinol, ar gyfer Llywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o'r bargyfreithwyr y maen nhw'n eu cyfarwyddo yn dal i fod wedi'u lleoli yn Lloegr. A ydych chi'n cytuno â mi y gall Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru yn gyffredinol—awdurdodau lleol, byrddau iechyd—wneud llawer mwy i gefnogi proffesiwn cyfreithiol Cymru? Llywydd, rydym ni'n gweld erydu hawliau yn y DU. Rydym yn gweld hawliau'n cael eu tynnu oddi wrth y cyhoedd yng Nghymru. Mae arnom angen system gyfiawnder gref. Mae arnom angen mynediad at gyfiawnder nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Diolch yn fawr.
Wel, diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac am y ffigurau manwl yna, y mae pob un ohonyn nhw'n rhai yr wyf yn ymwybodol ohonyn nhw ac yn gwbl berthnasol i realiti'r sefyllfa hon. Mae'n debyg mai'r gwahaniaeth rhyngoch chi a fi ac, mae'n debyg, y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yw ein bod ni'n dau wedi ymarfer yn y llysoedd hynny. Rydym ni wedi cael y profiad uniongyrchol mewn gwirionedd. Ac mewn sawl ffordd, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad ac i ba raddau y mae'r sefyllfa'n dirywio. Mae ystadegau'r Llywodraeth ei hun mewn gwirionedd yn cadarnhau maint y dirywiad hwnnw, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi nid yn unig y mae cyfiawnder wedi'i leihau fwyfwy dros y degawd diwethaf, ond mae mynediad wedi'i dorri'n llym.
Rydych yn gwneud y pwynt am y cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol ac, mae'n debyg, y system farnwrol, ac rydych yn llygad eich lle, oherwydd mae'r cysylltiad rhwng tai, rhwng tlodi, rhwng gwasanaethau cymdeithasol, materion teuluol, trais a cham-drin domestig a'r tlodi sy'n ymwneud â hynny i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu at ddod â phobl i mewn i'r llysoedd. Ac ni all fod yn iawn nad oes gan bobl y modd i gael cyngor priodol pan fydd ei angen mewn gwirionedd ac, o bosibl, gallai hyd yn oed helpu i'w cadw o'r llysoedd neu, hyd yn oed pe bai'n rhaid iddyn nhw gymryd rhan yn y llysoedd, ni fyddan nhw'n gorfod siarad yn bersonol.
Ac wrth gwrs mae meysydd eraill o ran y materion sy'n ymwneud â datganoli cyfiawnder. Nid ydym yn dadlau hyn oherwydd rhyw fath o frwydr pŵer ynghylch p'un a ddylai San Steffan ei reoli neu a ddylem ni, credaf ei bod yn amlwg nawr fod cysylltu holl gyfrifoldebau'r Senedd hon, y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, i gyd yn rhan annatod o'r un jig-so cyfiawnder. Ac mae peidio â bod ag un arf yn yr arfdy yn tanseilio'r gallu i sicrhau gwell cyfiawnder. Gallem ddarparu gwell cyfiawnder i bobl Cymru nag y gall y system sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, a dyna ein dadl—nid pwy sy'n ei rheoli, ond oherwydd y gallwn ni ac y gallem ni wneud cymaint yn well. Mae cymaint o gynnydd wedi'i wneud o ran y cydweithio â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae hynny'n gwbl ddibynnol ar ewyllys da Llywodraeth y DU, ewyllys da dros dro a all fodoli ar unrhyw adeg ac nad yw'n sail ar gyfer cynllunio a datblygu strategol.
Fe wnaethoch chi godi mater y tribiwnlysoedd rhithwir, yn enwedig o fewn ein system tribiwnlysoedd, ac maen nhw wrth gwrs, wedi bod yn effeithiol yn ystod COVID. Mae'r tribiwnlysoedd hynny, efallai, yn fwy addas i wrandawiadau ar-lein, ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn nad ydym ni, wrth ddefnyddio manteision technoleg, mewn gwirionedd yn atal mynediad i'r rhai nad oes ganddyn nhw'r sgiliau digidol hynny na mynediad at hynny. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y maes penodol hwnnw hefyd.
Fe wnaethoch chi godi pwynt olaf ar fater cyfarwyddo bargyfreithwyr, datblygu'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn. Wrth gwrs, mae'n agored i fargyfreithwyr a chyfreithwyr o bob rhan o'r DU fynd ar y rhestr gymeradwy i gytuno ar y telerau ac amodau y mae aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol yn ymwneud â gwaith yng Nghymru yn gweithio o danyn nhw. Felly, mae hynny'n waith sydd ar y gweill; mae'n weithgarwch parhaus. Ac, wrth gwrs, rydych chi'n iawn, wrth i gyfraith Cymru ddod yn fwy a mwy helaeth, fod angen sicrhau bod gennym y sgiliau yng Nghymru, ond hefyd ein bod yn adeiladu'r economi gyfreithiol yng Nghymru—felly, edrych ar fater datblygu cyfraith gorfforaethol a chyfraith cystadleuaeth yng Nghymru a gwneud Cymru'n ganolfan o weithgarwch economaidd o'r fath. Ond, er mwyn gwneud hynny, mae arnom angen llysoedd boddhaol mewn gwirionedd i alluogi hynny i ddigwydd.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad yna. Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando ar lefarydd y Ceidwadwyr y prynhawn yma, fy mod yn credu y collodd Herod amddiffyniad o'r radd flaenaf yn y fan yna. Mae'n ymddangos nad oes bron unrhyw bolisi yn dod gan Lywodraeth y DU na fyddai'r Ceidwadwyr yn y fan yma yn ceisio'i amddiffyn. A dyma, rwy'n credu, un o'r dulliau mwyaf niweidiol yr ydym ni wedi'i weld gan Lywodraeth y DU, pryd y gwelsom ni, dros y degawd diwethaf, bobl dlotach yn cael eu hamddifadu o'u hawl sylfaenol i gyfiawnder, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gwbl annerbyniol ac a ddylai fod yn annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas waraidd. Ac rwy'n synnu y byddai unrhyw un yn ceisio amddiffyn hynny.
O ran ein dull gweithredu, Cwnsler Cyffredinol, roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y datganiad ac yna eich ymateb i Rhys ab Owen, oherwydd rwy'n credu i chi ddweud rhai pethau pwysig iawn yn y fan yna. Mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn ynghyd yr ymateb yr ydych yn ei wneud ar ochr gyfreithiol, wleidyddol pethau a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar wasanaethau cynghori, oherwydd rwy'n credu bod cyfle yn y fan yna i roi rhywfaint o gefnogaeth i bobl sydd ei angen. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y ffordd y gallwn weithio gyda'r prifysgolion ac ysgolion y gyfraith ledled y wlad i wella'r seilwaith cyfreithiol ac i ddarparu mwy o gyfleoedd i roi cymorth i bobl.
A hefyd, o ran tribiwnlysoedd—ac rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethpwyd dro ar ôl tro gan Blaid Cymru ar y mater hwn yn bwysig iawn—roeddwn bob amser yn pryderu'n fawr am y diffyg cyfranogiad mewn tribiwnlysoedd o gymunedau tlotach a mwy difreintiedig, ac rwy'n credu y bydd y materion yr ydym ni'n eu trafod y prynhawn yma yn ychwanegu at hynny. Ond sut y gallwn ni sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i'r system dribiwnlysoedd, oherwydd nid wyf yn argyhoeddedig ein bod yn y sefyllfa honno heddiw?
Ac yn olaf, Llywydd, a oes enghreifftiau y gwyddoch chi amdanyn nhw Cwnsler Cyffredinol, o awdurdodaethau cyfreithiol eraill, y gallwn ni eu defnyddio er mwyn sicrhau bod gennym fynediad i system gynghori a gwasanaeth o'r radd flaenaf, a hefyd i gymorth cyfreithiol i ddarparu'r cymorth er mwyn i bobl sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar gyfiawnder yn gyfartal?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran ymgysylltu, wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltu wedi bod yn digwydd i gael trafodaethau ynghylch llawer o'r materion hyn gyda'r farnwriaeth. Wrth gwrs, ni all y farnwriaeth gymryd rhan yn yr agweddau gwleidyddol, ond mae'n bwysig cymryd rhan yn y meysydd hynny lle gallwn roi cymorth i faterion cydweithredol, yn union fel yr ydym wedi'i wneud gyda'r llysoedd cyffuriau ac alcohol.
O ran gwasanaethau cynghori, wel, wrth gwrs, y gwasanaethau cynghori yr ydym yn eu hariannu ac yn eu sefydlu, sydd, yn fy marn i, wedi ymdrin â rhywbeth tebyg—. Wel, mae bron i 300,000 o faterion wedi'u datrys ar gyfer 130,000 o bobl. Mae hynny'n arwyddocaol, er nad yw'n ateb hirdymor i ddiwygiad mwy sylfaenol sydd ei angen. A dyna pam yr wyf i'n credu bod datganoli cymorth cyfreithiol wedi'i gydnabod gan gomisiwn Thomas, oherwydd yr oedd yn cydnabod integreiddio'r holl wasanaethau hynny, sut y daethant i gyd at ei gilydd er mwyn cael system gyfiawnder gydlynol a system gymorth. Wrth gwrs, nid oes gennym lawer o'r ysgogiadau penodol hynny, felly rydym yn gwneud y mewnbwn y gallwn ni o'n hadnoddau ein hunain mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, ac mae'n bwysig. Ond rydych yn cydnabod—. Dyma'r union bwynt a wnaethoch chi yn ddiweddarach, mewn gwirionedd, gyda'r tribiwnlysoedd, o ran y ffaith, yn sicr ymhlith cymunedau tlotach, y bydd llai o fynediad at yr hawliau hynny, mae'n debyg. Roedd yn ddiddorol iawn nodi yn adroddiad Bellamy, wrth gwrs, nad yw rhywbeth fel 53 y cant o bobl sydd â hawl i gael cymorth cyfreithiol troseddol mewn gorsafoedd heddlu yn ei gael mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod rhywfaint o waith y mae angen ei wneud i edrych ar pam y mae hynny'n bod—p'un a allan nhw gael gafael ar gyfreithiwr mewn gwirionedd, neu a yw'n wir nad yw pobl yn dal i fod yn ymwybodol o'u hawliau neu'n cael gwybod am eu hawliau pan fyddan nhw yn y sefyllfa benodol honno.
O ran prifysgolion ac ysgolion y gyfraith, ydy, mae hynny'n bwysig iawn. Dyna pam yr oeddwn mor falch bod fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, wedi dechrau'r broses hon. Unwaith eto, roedd yn un o argymhellion comisiwn Thomas, ac roeddwn yn falch o allu lansio'r cyfarfod cyntaf ohono a pharhau i'w gefnogi. Mae wedi cael ei gyfarfod cyntaf. A dyna Gyngor Cyfraith Cymru, sydd, yn fy marn i, yn fenter bwysig iawn.
O ran y tribiwnlysoedd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad oes gennym—. Nid wyf yn credu mai dyma ydyn nhw, ond rwy'n credu y gallwn ni symud ymhellach ynghylch y mater o ddiffyg gwrthwyneboldeb, pan mai swyddogaeth y panel tribiwnlys yno yw rhoi'r cymorth i sicrhau canlyniad cyfiawn, yn hytrach na'i bod yn frwydr wrthwynebol rhwng dwy ochr wahanol, pryd yn aml y gallai'r ddwy ochr fod ag adnoddau gwahanol.
O ran systemau eraill, pan oeddwn i yn yr Alban, cyfarfûm â llywydd Llys y Sesiwn yno. Wrth gwrs, mae'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd wedi'u datganoli yno. Rwy'n credu bod rhai ffyrdd diddorol iawn y maen nhw'n eu defnyddio i ymdrin â chyfiawnder, oherwydd bod cyfiawnder wedi'i ddatganoli yno. Pe bai gennym ni yr un raddfa o ddatganoli cyfiawnder ag sydd gan yr Alban, mae mentrau y gallem fod yn ei mabwysiadu nawr y mae'r Alban wedi'u mabwysiadu mewn cysylltiad â chymorth cyfreithiol, o ran mynediad, mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn gweithredu, i ddarparu gwell gwasanaeth. Felly, rwy'n credu bod dadl a thrafodaeth ddiddorol y gellid eu cynnal yna, oherwydd mae'r Alban, mewn sawl ffordd, yn dangos sut y gellid gwneud y pethau hyn yn well.
Nid mater i Gymru a'r Alban yn unig yw hwn. Mae rhannau o Loegr lle byddai datganoli cyfiawnder mewn ardaloedd yn Lloegr o fudd, lle yr ydych yn cyd-dynnu—. Mae'r un ddadl yn berthnasol o ran cydgysylltu'r gwasanaethau hynny â'r system gyfiawnder. Felly, nid ydym yn cyflwyno achos sy'n ymwneud â Chymru yn unig yn hynny o beth, ond o ran sut y gallwn sicrhau cyfiawnder yn well mewn gwirionedd. Dyna'r achos, rwy'n credu, y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n gweithio arno i'w gyflawni.
Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r Cwnsler Cyffredinol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn croesawu'r datganiad heddiw. Mae mewn maes polisi pwysig iawn. Mae'n bleser hefyd dilyn sylwadau fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor, Rhys ab Owen ac Alun Davies, sy'n wybodus iawn ac, yn achos Rhys, â gwybodaeth broffesiynol hefyd. Mae'n faes y mae'n gwybod ein bod yn cymryd diddordeb brwd ynddo.
Rydym eisoes wedi archwilio mynediad at gyfiawnder yn ystod sesiynau tystiolaeth gyda llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yr Arglwydd Thomas, mewn cysylltiad â gwaith ei gomisiwn, ac wrth gwrs gyda'r Cwnsler Cyffredinol ei hun ddoe. Yn y sesiwn honno ddoe, buom yn archwilio llawer o'r materion y cyfeiriwyd atyn nhw yn ei ddatganiad heddiw. Felly, Cwnsler Cyffredinol, roeddem yn falch o ddarparu ymarfer i chi ar gyfer y prif ddigwyddiad heddiw.
Nawr, nodwn o ddatganiad y Cwnsler Cyffredinol heddiw eich bod yn cyfeirio at ganfyddiadau Cymdeithas y Gyfraith ar effeithiau Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, a'r adolygiad annibynnol o gymorth troseddol, dan arweiniad Syr Christopher Bellamy, a'r casgliadau sy'n peri pryder yno ar gyflwr y system cymorth cyfreithiol, gan gynnwys yr anialwch cymorth cyfreithiol fel y'i gelwir mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Byddai'r pwyllgor yn ddiolchgar am unrhyw ddadansoddiad cyfredol pellach o hyn y gallech ei rannu gyda ni naill ai heddiw neu'n ddiweddarach, a gyda chyd-Aelodau yn y Senedd.
Nodwn hefyd eich bod yn cyfeirio, fel yr archwiliwyd gennym yn ein sesiwn bwyllgor gyda chi ddoe, at y pryderon a adroddwyd yn eang ynghylch hyder cyflogaeth, neu ei ddiffyg, recriwtio a hyfforddiant ar gyfer y sector cymorth cyfreithiol troseddol, a chynaliadwyedd tymor hwy y sector hwnnw, wrth wynebu ansicrwydd parhaus. Nodwn hefyd eich myfyrdodau llawn pryder ar gymorth cyfreithiol sifil hefyd, pan gyfeiriwch ato yn eich datganiad fel sector sy'n marw'n araf. Mae hynny'n peri pryder mawr.
Nawr, mae'r datganiad yn cyfeirio at y gwaith y mae ef a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei wneud o ran mynediad at gyfiawnder. Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at y cysylltiad rhwng cyfiawnder, mynediad at gyfiawnder, a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd fel allwedd i fynd i'r afael â thlodi, anfantais gymdeithasol ac anghydraddoldeb. A thrwy hynny mae'n arwain Llywodraeth Cymru i barhau i geisio datganoli cyfiawnder i Gymru a chael uchelgais i greu gwasanaeth cymorth a chyngor cyfreithiol Cymreig, os caiff ei ddatganoli gyda chyllid priodol. Felly, a gaf i ofyn i chi, Cwnsler Cyffredinol: sut ydych chi'n bwriadu bwrw ymlaen â'r uchelgeisiau hyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datganoli pellach, a pha ymgysylltu y mae wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU hyd yma a pha ymateb? A nodwn ymhellach eich cyfeiriad at y cymorth ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor lles cymdeithasol, gan gynnwys drwy'r gronfa gynghori sengl a mentrau angenrheidiol eraill. Byddem yn croesawu, unwaith eto, unrhyw ddiweddariad, yn ysgrifenedig neu heddiw, ar barhad y cyllid hwnnw, fel y nodir yn y gyllideb ddiweddar.
Nawr, Cwnsler Cyffredinol, rydym yn gobeithio ymgymryd â gwaith manylach yn y maes hwn, er bod yn rhaid i mi ddweud, mae ein rhaglen waith, a'r amser sydd ar gael i'n pwyllgor, wedi'u cyfyngu braidd gan yr hyn y gwn ei fod yn ei gydnabod fel mynydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ac offerynnau a rheoliadau statudol a mwy, sy'n cyrraedd y Senedd hon ac yn wir Llywodraeth Cymru. Ond oherwydd pwysigrwydd y materion hyn, yn y cefndir rydym, drwy ein tîm cyfathrebu, wedi dechrau defnyddio grwpiau ffocws ar-lein i wella ein dealltwriaeth gyffredinol o'r heriau a'r profiadau ar lawr gwlad o ran cael mynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Ac edrychwn ymlaen at gyfrannu ymhellach at y dadansoddiad o gymorth cyfreithiol a mynediad at gyfiawnder yn ystod y misoedd nesaf, ac ar hyn o bryd byddem yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol gadarnhau ei barodrwydd, a pharodrwydd ei swyddogion, i barhau i ymgysylltu â'n pwyllgor ar y maes gwaith hanfodol hwn, sydd, ymhell o fod yn gyfrin neu'n bwnc academaidd, yn hanfodol i hawliau pobl yng Nghymru ac i'w gallu i gael mynediad cyfartal at y gyfraith ac at gyfiawnder. Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch am y sylwadau yna ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwahoddiadau i'ch pwyllgor, oherwydd mae'n gyfle i siarad am y gwaith sy'n digwydd, i gael syniadau ynghylch meysydd y gallem ni fod yn canolbwyntio arnyn nhw, ac mae'n rhan bwysig o'r broses seneddol. A gaf i ddweud, ar fater ymgysylltu â'r pwyllgor, wrth gwrs, fy mod yn awyddus iawn i ymgysylltu mor llawn â phosibl? O ran y mater sylfaenol yr ydych yn ei godi, sy'n ymwneud â mynediad, mae hyn yn ymwneud yn y pen draw â rheolaeth y gyfraith. Dyma'r hyn yr ydym ni'n sefyll drosto yng Nghymru. Dywedodd yr Arglwydd Bingham, yn ei lyfr enwog iawn ar reolaeth y gyfraith, mai
'gwarafun gwarchodaeth gyfreithiol i'r ymgyfreithiwr tlawd na all fforddio talu yw un gelyn rheolaeth y gyfraith' ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddychwelyd at egwyddorion sylfaenol a chydnabod bod mater mynediad at gyfiawnder a chymorth cyfreithiol yn ymwneud â grymuso pobl—grymuso pawb, ni waeth faint o arian neu faint o gyfoeth sydd ganddyn nhw mewn gwirionedd.
Cyfeirioch chi at rai pwyntiau pwysig—. Gwn fod cynifer o feysydd yma y gallem ni eu datblygu a siarad amdanyn nhw am amser maith; gwn na fydd y Llywydd yn caniatáu hynny. Ond, o ran mynediad at ddata, y ffaith mai data Cymru a Lloegr yw llawer o'r data o ran y system llysoedd ac nid yw wedi ei wahanu—. Ac mae'r rheini'n drafodaethau yr wyf wedi'u cael ac mae'r Prif Weinidog wedi'u cael, ac eraill wedi'u cael, y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi'u cael, gyda'r Arglwydd Brif Ustus. Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau, wedi ceisio cael cyfarfod gyda'r Arglwydd Ganghellor newydd, Dominic Raab. Trefnwyd yn lle hynny y byddem yn cyfarfod â'r Arglwydd Wolfson. Wel, rydym wedi cyfarfod â'r Arglwydd Wolfson, ac mae gennym feysydd cydweithredu sy'n mynd rhagddynt, ond rydym wedi gwneud yr union bwyntiau hynny am ddata, ac rwy'n credu eu bod yn cael eu cydnabod. Y cwestiwn yw, bod â systemau sy'n newid ac yn cyflawni mewn gwirionedd, i'n galluogi ni i werthuso'n briodol sut y gallwn ni wneud pethau'n well. Wrth gwrs, mae gennym ni rai datblygiadau—y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ac ati—a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth, ond rydym yn dal i fod ymhell o gael y math o wybodaeth y byddai ei hangen arnom o ran cydgysylltu'r holl feysydd hynny y mae gennym ni gyfrifoldeb amdanyn nhw, ar y cyd â'r system gyfiawnder.
Mae'n debyg bod hynna wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaethoch chi. Os oes rhai'n weddill, rwy'n siŵr y byddan nhw'n cael eu harchwilio yn fy sesiwn nesaf yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a'r gwaith y tu ôl i'r datganiad hwn, gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n credu y dylai Aelodau'r Senedd hon, ni waeth pa gartref gwleidyddol yr ydym yn ein cael ein hunain ynddo, gydnabod a chroesawu Llywodraeth sy'n ceisio ail-droi mantol cyfiawnder tuag at bobl gyffredin, ac mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy'n cael ei adleisio yn y datganiad heddiw, a tybed a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw gyngor ei hun i grŵp y Ceidwadwyr Cymreig o ran hwythau yn myfyrio ynghylch eu safbwynt nhw.
Cwnsler Cyffredinol, gwelwn enghraifft ar ôl enghraifft o'r cuddio pwerus y tu ôl i system sydd wedi'i rigio o'u plaid: Grenfell, sgandal Horizon Swyddfa'r Post, ac wrth gwrs Hillsborough, i enwi dim ond ychydig ohonyn nhw. Yn aml, gall y rhai sydd â phocedi dwfn fforddio cael gafael ar dimau cyfreithiol enfawr, ac yna mae pobl gyffredin yn aml yn cael eu gadael wedi'u brawychu gan hyn, a dweud y gwir, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cael rhyw lefel o gymorth cyfreithiol, mae diffyg cydraddoldeb parch yn aml: timau o fargyfreithwyr a ariennir gan y wladwriaeth neu sefydliadau a chwmnïau mawr yn erbyn pobl sy'n poeni'n gyson ynghylch sut y byddan nhw'n ariannu eu tîm cyfreithiol eu hunain a pha mor hir y mae'r achosion hyn am bara. Dro ar ôl tro, mae'r rhai pwerus yn defnyddio oedi i wasgu ar wrthwynebwyr oherwydd eu bod yn gallu fforddio gwneud hynny. Mae'n dacteg; dim ond tacteg i osgoi cyfiawnder, ac mae hynny'n anghywir ar bob un lefel.
Cwnsler Cyffredinol, diolch byth, mae rhai cwmnïau cyfreithiol ar gael, fel Cyfreithwyr Hudgell, a fydd yn cefnogi'r gwan, ond ni ddylai'r system ddibynnu ar eu hewyllys da nhw. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol sut y dechreuwn y daith honno o ail-droi mantol cyfiawnder o ran datganoli rhagor o bwerau i fynd i'r afael â'r problemau hyn, ac, unwaith eto, a oes ganddo unrhyw gyngor i Aelodau grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ynghylch y mater hwn fel y gallan nhw fyfyrio ac ail-droi eu barn eu hunain ar fantol cyfiawnder? Diolch yn fawr.
Diolch am hynna, a diolch i chi am y ffordd gyson yr ydych yn codi'r mater hwn o fynediad at gyfiawnder, oherwydd mae'n bwysig i bawb yng Nghymru, mewn meysydd datganoledig a rhai nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Rydych yn codi materion Grenfell a Hillsborough. Hoffwn ychwanegu at hynny'r mater hirsefydlog o ran llysoedd y crwner a sut y dylai hynny fod yn rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli, wedi'r cyfan, caiff ei ariannu gan yr awdurdodau lleol. Mae'r ddarpariaeth lawn yno yn cael ei gwneud gan awdurdodau lleol; mae'n cael ei dalu o arian sy'n dod yn y pen draw gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae rhesymeg yno i rai o'r newidiadau penodol hyn.
Rwy'n cytuno â chi'n gryf iawn ynghylch y pwynt a wnaethoch ac rwy'n credu bod eraill wedi'i wneud, a dyna'r anghydbwysedd sy'n bodoli o fewn ein system gyfiawnder, a dyna pam y mae gennym y dadleuon sylfaenol hyn dros ddiwygio, oherwydd, fel y dywedais i, ni ddylai hyn fod yn fater gwleidyddol pleidiol; mae hyn yn ymwneud â democratiaeth sylfaenol, materion sylfaenol sy'n ymwneud â rheolaeth y gyfraith.
A gaf i ddweud, o ran y pwynt olaf y gwnaethoch fy nhemtio i wneud sylwadau arno, na fyddwn i fel arfer, ond y tro hwn, fe wnaf, sef cymaint yr wyf yn edmygu Ceidwadwyr yr Alban am o leiaf wneud safiad mewn cysylltiad â'u diddordeb gwleidyddol o ran yr Alban? A pha mor siomedig ydyw ar fater lle, beth bynnag fo'u perswâd gwleidyddol, y dylai pobl fod yn gwneud safiad dros rywbeth sy'n amlwg yn bwysig i bobl Cymru, yn hytrach na rhyw fath o waseidd-dra di-lewyrch i San Steffan, ni waeth beth fo'r rhesymeg a rhinweddau'r dadleuon yr ydym ni wedi bod yn eu trafod heddiw. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n newid, oherwydd gallem ni wneud cymaint mwy o gynnydd o ran diwygio a datganoli cyfiawnder pe bai gennym y Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd yn sôn am yr hyn yr wyf yn amau eu bod yn gwybod ei fod yn iawn ond nad ydyn nhw'n ddigon dewr i fabwysiadu'r safbwynt penodol hwnnw. Felly, dyna'r newid penodol yr wyf i eisiau ei weld.
Ond o ran y cynnydd cyffredinol, mae tair elfen iddo, rwy'n credu. Un ohonyn nhw yw y byddwn ni'n cydweithio fwyfwy â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y meysydd hynny nad ydyn nhw wedi'u datganoli ond lle y gallwn weithio er budd pobl Cymru. Yn ail, byddwn yn cyflwyno'r achos fwyfwy ynghylch sut y gallwn ni wneud cyfiawnder yn well yng Nghymru a'r pethau yr ydym ni eisiau eu gweld yn newid. Yn drydydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddechrau paratoi ar gyfer strwythur yr hyn y byddai ffurf system cyfiawnder newydd i Gymru, oherwydd rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd yr Arglwydd Thomas—nid yw'n fater o os, ond pryd, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae'n ddigon posibl mai un o'r ffactorau allweddol sy'n sbarduno yw'r camau o ran diwygio'r rhan honno o'r system gyfiawnder yr ydym ni eisoes yn gyfrifol amdani, a dyna'r gwasanaeth tribiwnlysoedd. Diolch am eich cwestiwn.
Dyna ddiwedd ar y datganiad yma.