– Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ordewdra. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7903 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn mynegi ei phryder bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd.
2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal critigol BMI o dros 30.
3. Yn nodi ymhellach bod gwasanaethau rheoli pwysau wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin cleifion COVID.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ailagor ar frys y gwasanaethau rheoli pwysau hynny sydd wedi'u hoedi yn ystod y pandemig;
b) nodi pryd y bydd gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yn cael eu hehangu ledled Cymru; ac
c) darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau rheoli pwysau yn gallu ymdopi â'r angen cynyddol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar. Gordewdra yw un o'r argyfyngau iechyd mwyaf y mae'r byd yn eu hwynebu. Am y tro cyntaf erioed, disgwylir y bydd plant yn byw bywydau byrrach na'u rhieni, ac mae'r rhan fwyaf o hyn oherwydd gordewdra. Mae COVID-19 wedi amlygu iechyd corfforol gwael Cymru. Gennym ni y mae'r gyfradd uchaf o farwolaethau COVID-19 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth o holl wledydd y DU, ac ar hyn o bryd, mae dwy ran o dair o'r boblogaeth dros bwysau neu'n ordew. Mae'n amlwg fod yn rhaid i iechyd corfforol y genedl fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac i'r Gweinidog. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan StatsCymru Llywodraeth Cymru ei hun yn nodi bod gan bron i ddwy ran o dair, neu 61 y cant, o bobl dros 16 oed yng Nghymru yn 2021 fynegai màs y corff (BMI) o dros 25.
Mae bod dros bwysau yn cynyddu'n sylweddol y risg o nifer o glefydau cronig. Yn fwyaf arbennig, mae'r rhai sydd dros bwysau mewn perygl penodol o ddatblygu diabetes math 2, gorbwysedd, clefyd cardiofasgwlaidd, strôc. Mae hefyd yn achosi clefyd yr arennau, mathau penodol o ganser, apnoea cwsg, gowt, osteoarthritis a chlefyd yr afu, i enwi rhai cyflyrau'n unig. Felly, mae'r achos dros flaenoriaethu gordewdra yn glir. Rhagwelir y bydd gordewdra'n costio £465 miliwn y flwyddyn i'n GIG yng Nghymru erbyn 2050, ond bron i £2.4 biliwn i economi a chymdeithas Cymru yn gyffredinol. Gallai'r costau hyn olygu bod cleifion yn ein GIG yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o driniaethau y maent eu hangen i achub eu bywydau neu sy'n ymestyn eu hoes.
Mae ffigyrau gan Cancer Research UK yn dangos mai bod dros bwysau yw'r prif achos canser mwyaf ond un yn y DU. Mae mwy nag un o bob 20 achos o ganser wedi eu hachosi gan bwysau gormodol. Nododd ymchwil canser hefyd fod cario pwysau iach yn lleihau'r risg o 13 math gwahanol o ganser. Mae angen i bob un ohonom gydweithio ar hyn. Mae hwn yn fater pwysig, a chredaf y dylem roi gwleidyddiaeth o'r neilltu. Mae angen i bob un ohonom bryderu'n briodol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr fod pawb yn cytuno bod hwnnw'n ystadegyn sy'n peri pryder.
Yn 2021, safodd y Ceidwadwyr Cymreig etholiad ar addewidion i wella iechyd a lles corfforol y genedl drwy ddarparu mynediad am ddim i gampfeydd a chanolfannau hamdden awdurdodau lleol i bobl ifanc 16 i 24 oed. Dywedasom y byddem yn buddsoddi mwy o arian mewn teithio llesol, cerdded a beicio ac y byddem yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw mewn ysgolion. Dywedasom y byddem yn creu cronfa adfer chwaraeon cymunedol, ac rwy'n awyddus iawn i weld bod Gweinidogion wedi edrych ar hyn a'i roi ar waith. Gwyddom i gyd am y dywediad fod atal yn well na gwella, ond yn anffodus, nid ydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei bregethu.
Efallai mai gwleidydd newydd gorfrwdfrydig ydw i yma, delfrydwr, rhywun sy'n credu y gall pethau newid. Nid wyf yn credu y dylem gynnal y status quo. Ond beth yw'r dewis arall yma? Ers dau ddegawd, mae gwleidyddion a Gweinidogion yn y lle hwn wedi siarad am y broblem. Maent wedi creu strategaethau, wedi cael ymgynghoriadau cyhoeddus, wedi mynd yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen, ond nid ydym yn cyrraedd unman, oherwydd mae pethau yng Nghymru'n gwaethygu. Mae'r byd wedi newid, a rhaid inni ddeall hynny. Mae pobl yn byw bywydau llawer mwy disymud nag o'r blaen. Yn y lle hwn, rydym yn tueddu i eistedd am lawer o'r amser a pheidio â byw'r ffordd o fyw egnïol honno. Os ydych dros bwysau neu'n ordew, mae angen ichi wneud hynny oherwydd eich bod yn rhoi eich hun mewn perygl mawr iawn o fynd yn sâl.
Rhoddwyd cynnig ar lawer o syniadau, gan gynnwys trethi siwgr a gwariant enfawr ar negeseuon cyhoeddus, felly pam nad ydym yn gweld y canlyniadau? Credaf fod angen inni symud oddi wrth y syniadau a'r polisïau presennol sydd ar waith, a cheisio edrych ar hyn o safbwynt strategol a gwrthrychol. Mae'n amlwg fod problem sylweddol gydag ansawdd y bwyd sy'n cael ei fwyta, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y byd. Ond nid yw pobl yn sôn am ordewdra ac o ddifrif yn ei gylch. Mae bod yn ordew mor beryglus â bod yn ysmygwr di-baid neu'n alcoholig, ond nid yw'n ymddangos bod ganddo'r un math o ddelwedd gyhoeddus â'r pethau hynny, o ran ffordd o fyw iach. Rydym i gyd yn teimlo'r canlyniadau, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn fyd-eang. Roedd diabetes yn glefyd nad oedd prin yn bodoli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn yr Unol Daleithiau ychydig amser yn ôl, roedd canran y bobl â diabetes yn un o bob 10,000, ac mae ymchwil bellach yn dangos ei fod yn un o bob 11 erbyn hyn. Mae hwnnw'n ystadegyn syfrdanol.
Fodd bynnag, mae deiet wedi newid. Rydym wedi mynd o fwydydd iachus go iawn i fwydydd wedi'u prosesu, o fwydydd wedi'u prosesu â braster isel i fwydydd wedi'u prosesu â llawer o siwgr. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith nad yw swyddi pobl mor egnïol ag yr arferent fod, fod pobl yn fwy disymud, yn golygu ein bod yn gweld gordewdra'n gwaethygu, oherwydd mae gormod o bobl yn ein hysgolion ac yn ehangach heb gael eu haddysgu am fwyd ac o ble y daw. Mae angen i bobl ddechrau mabwysiadu ffordd o fyw sy'n iach, yn gytbwys ac yn egnïol, ac mae angen i'r Llywodraeth hyrwyddo hynny. Gellir mynd i'r afael â hyn drwy rai o'r pwyntiau a godais yn gynharach ynghylch hybu ffyrdd iach o fyw yn yr ysgol, annog chwaraeon, mynediad am ddim i gampfeydd i bobl ifanc lleol ac addysgu pobl o ble y daw eu bwyd.
Credaf fod angen inni weld newid ymagwedd yn gyfan gwbl tuag at fynd i'r afael â'r mater hwn. Y polisi a godwyd yma gan y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, nad ydynt yma yn anffodus, y Democratiaid Rhyddfrydol—. Mae gan bawb yn y lle hwn syniadau da, ac nid oes gan yr un blaid fonopoli ar y rheini. Felly, rwy'n croesawu pob syniad, ac rwy'n croesawu bron bopeth a ddywedai gwelliant Plaid Cymru. Felly, gobeithio, heddiw, y gallwn gefnogi'r newidiadau, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gefnogaeth ar waith i gynnal adolygiad llawn o strategaeth gordewdra, oherwydd nid yw gwneud dim yn ddigon da. Os na wnawn unrhyw beth, dyma fydd argyfwng iechyd mwyaf y genhedlaeth hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi dynnu eich sylw at y ffaith bod yna Aelodau Plaid Cymru ar-lein sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf.
b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel:
a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob cymuned;
b) gwella addysg iechyd;
c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol mewn ysgolion.
d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet gwell.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gynnig y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw. Mi wnaf i ychydig o sylwadau a sôn am ein gwelliant ni.
Dwi'n sicr ddim yn anghytuno efo beth sydd yn y cynnig gwreiddiol, a dwi'n sicr wedi trio gwneud beth gallaf i dros y blynyddoedd i roi sylw i fy mhryderon i am effaith gordewdra. Mi roedd o'n torri fy nghalon i i weld Ynys Môn, ychydig o flynyddoedd yn ôl, yn codi i frig y tabl cenedlaethol o faint o blant oedd yn ordew, a dyna pam y clywch chi fi yn galw am fuddsoddi mewn cyfleon i ymarfer corff ac ati. A dyna sydd ar goll yn y cynnig yma, dwi'n meddwl. Gallwch chi ddim sôn am broblem gordewdra a'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau rheoli pwysau heb gymryd y cam yna yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach. A dwi'n croesawu'r awgrym clir yn fanna y byddai'r Ceidwadwyr yn cefnogi ein gwelliannau ni oherwydd hynny.
Os ydy gordewdra yn bandemig byd-eang, ac mae o, os ydy bod yn ordew yn cynyddu'r risg o afiechydon cronig, diabetes, os ydy o'n un o brif achosion canser, os ydy o'n rhoi costau sylweddol iawn, iawn ar wasanaethau iechyd, os ydy o'n gostwng safon byw, os ydy o'n arwain at broblemau seicolegol, a bod hyn yn effeithio ar ddwy ran o dair o bobl ein gwlad ni—wel, mae eisiau trio mynd at wraidd hynny, onid oes, o'r crud, a mynd i'r afael go iawn â'r agenda ataliol.
Fel mae papur gwnes i ei ddarllen yn y National Library of Medicine yn America yn dweud:
'Y strategaethau mwyaf addawol yw addysg ac ymdrechion gan unigolion i wneud dewisiadau cyfrifol sawl gwaith bob dydd i ddiogelu, yn fwyaf effeithiol drwy ymatal, eu hased mwyaf gwerthfawr.'
Does yna ddim byd yn fwy gwerthfawr na'n hiechyd ein hunain, a rywsut mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni yn buddsoddi yn yr holl bethau hynny sy'n mynd i roi y dechrau gorau i bobl mewn bywyd. A dyna pam mae'n gwelliant ni'n sôn am adnoddau hyrwyddo gweithgarwch corfforol, gwella addysg iechyd, mwy o amser i addysg gorfforol. Dwi'n croesawu’r peilotau sy'n digwydd ar y diwrnod ysgol ar hyn o bryd er mwyn creu mwy o amser i addysg gorfforol. Rydym ni yn sôn yma eto am y syniad o gael rhyw fath o lefi ar y bwydydd lleiaf iach. Ym Mecsico, dwi'n meddwl, roedd yna 10 y cant o ostyngiad yn faint oedd yn bwyta'r bwydydd lleiaf iach ar ôl i dreth gael ei chyflwyno. Gadewch i ni edrych ar yr holl bethau yma yn eu cyfanrwydd. Rydym ni wedi defnyddio'r gair 'pandemig' lot mewn cyd-destun arall yn y ddwy flynedd ddiwethaf; mae hwn yn bandemig gwirioneddol ac mae'n rhaid edrych o dan bob carreg i chwilio am yr atebion iddo fo.
Cytunaf yn llwyr â'r teimladau a fynegwyd ynghylch pwysigrwydd gordewdra a mynd i'r afael â gordewdra os ydym am greu'r math o Gymru rydym am ei gweld o ran iechyd a lles. Mae'n her fawr ac mae wedi bod yn her gynyddol ers peth amser, ac mae angen inni sicrhau bod y GIG yn ymateb yn effeithiol pan fo gan bobl broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â gordewdra. Ond rwy'n cytuno'n gryf, y tu hwnt i hynny, fod angen inni symud lawer mwy at yr agenda ataliol, a chredaf fod ysgolion yn gwbl allweddol.
Cawsom adroddiad Tanni Grey-Thompson yn sôn am bwysigrwydd sicrhau bod ein pobl ifanc, ein plant, yn mabwysiadu arferion da yn gynnar, arferion a fydd yn aros gyda hwy am oes; pwysigrwydd cwricwlwm yr ysgol i sicrhau bod plant yn ddigon egnïol mewn ysgolion, eu bod yn sylweddoli pwysigrwydd cadw'n heini, yn egnïol ac yn iach, a bod gweithgareddau ychwanegol ar gael y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod rhai plant yn cael profiad tacsi mam neu dad lle maent yn datblygu eu diddordebau a'u galluoedd drwy chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol eraill. Nid yw plant eraill, yn enwedig plant mewn cymunedau mwy difreintiedig, yn cael y profiad hwnnw mor aml, ond byddant yn ei gael, gobeithio, drwy'r ysgol os caiff ei ddarparu yn yr ysgol yn ystod neu y tu hwnt i'r diwrnod ysgol. Credaf o ddifrif fod angen inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu gyda a thrwy ein hysgolion.
Mae eraill yn helpu'r ymdrech honno. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, mae gan Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, raglen chwaraeon ysgol ac mae'n sicrhau bod ei chyfleusterau ar gael i ysgolion ac yn gweithio gyda'n hysgolion. Maent hefyd yn weithgar iawn yn y gymuned, yn ymdrin â'r ffactorau amddifadedd sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch corfforol. Mae ganddynt raglen Dyfodol Cadarnhaol, er enghraifft, sy'n estyn allan at gymunedau. Maent hefyd yn gweithio gyda'r GIG drwy gynllun cenedlaethol Cymru i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, ac mae gennym gangen County in the Community Casnewydd yn gweithio gydag ysgolion gan ddarparu rhaglen chwe wythnos ar gyfer 900 o blant rhwng naw a 10 oed bob blwyddyn, ac maent hefyd yn estyn allan at ein cymunedau gan ddefnyddio cyfleusterau i ddarparu chwaraeon a gweithgaredd drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, yn ystod misoedd y gaeaf, maent yn canfod bod yn rhaid i hanner y rhaglen allgymorth gymunedol honno ddod i ben am nad oes goleuadau yn rhai o'r cyfleusterau hynny, ac maent hefyd yn canfod nad yw'r arwynebau fel y dylent fod, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem edrych ar fynd i'r afael ag ef drwy Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, Chwaraeon Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod y cyfleusterau'n cyrraedd y safon. Ac yn yr un modd ar gyfer yr holl glybiau chwaraeon llawr gwlad, megis clwb pêl-droed Gwndy, er enghraifft, sydd â dros 500 o bobl yn cymryd rhan bob wythnos—llawer o bobl ifanc, merched, menywod, yn dod yn egnïol, yn mwynhau chwaraeon ac yn mwynhau'r agweddau cymdeithasol hefyd. Credaf fod angen inni roi mwy o gefnogaeth i'r gweithredwyr cymunedol hyn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? Ac fel y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno, rwy'n siŵr, mae gordewdra yn fater iechyd cyhoeddus difrifol; tynnodd James sylw at y materion sy'n codi, yn ogystal â Rhun. Gwasanaeth iechyd Cymru—mae'n costio miliynau y flwyddyn i hwnnw ei drin, ac mae pethau'n gwaethygu. Yn amlwg, mae'n broblem y mae angen mynd ben ben â hi, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni edrych yn ehangach ar y mater, yn hytrach na dim ond annog pobl i fod yn fwy egnïol, oherwydd yn y bôn, mae problemau fel gordewdra a diffyg maeth yn gysylltiedig â deiet pobl, sy'n dibynnu ar argaeledd a hygyrchedd bwyd. Ac felly, y cwestiwn yw sut rydym yn gwella hygyrchedd ac argaeledd bwyd maethlon, iach, o ansawdd da i helpu i atal problemau fel gordewdra yn y lle cyntaf, yn ogystal ag ymateb i'r gwahanol broblemau economaidd-gymdeithasol a all arwain at ordewdra.
Mewn adroddiad diweddar, mae Cydweithrediad Ymchwil Bwyd wedi dadlau bod corff sylweddol o dystiolaeth wedi dangos bod llunio polisïau integredig cysylltiedig yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â materion trawsbynciol cymhleth fel bwyd a gordewdra, yn hytrach na dulliau polisi tameidiog. Nid yw hyn o reidrwydd yn beth syml i'w gyflawni, ond mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi galw o'r blaen ar Lywodraethau i edrych ar eu polisïau sy'n berthnasol i systemau bwyd, gan gynyddu'r sylfaen dystiolaeth ar ryngweithiadau polisi. Credaf fod mwy o le hefyd inni ddefnyddio addysg fel mesur ataliol i helpu i wella iechyd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rhywbeth y mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi galw amdano yw polisi integredig ar gyfer bwyd mewn ysgolion, gan alinio polisi'r Llywodraeth yn well i wella bwyd ac addysg, cynnig mwy o gyfle i gynhyrchwyr lleol gyflenwi mwy o'u cynnyrch yn lleol a chynyddu'r cyflenwad o fwyd iach mewn ysgolion. Byddai hyn o fudd i'r amgylchedd, yn gwella llesiant plant, ac yn rhoi hwb i economeg leol. Mae'r nodau cyffredinol hynny'n rhywbeth y mae fy Mil bwyd arfaethedig yn anelu at ei sefydlu. Wrth ddrafftio'r Bil, rwyf wedi clywed corff cynyddol o dystiolaeth sy'n cyfeirio at yr angen i ailystyried sut y mae'r system fwyd yma yng Nghymru wedi'i chynllunio a sut i integreiddio materion fel diffyg maeth a gordewdra o fewn y system fwyd ehangach er mwyn sicrhau bod gwahanol bolisïau a chynlluniau'r Llywodraeth i gyd yn tynnu i'r un cyfeiriad.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, diolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r ddadl amserol hon ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig gwreiddiol. Mae hwn yn bwnc mor bwysig; ni allwn gilio rhagddo. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Roedd James yn iawn i sôn fod hon yn drasiedi fyd-eang. Y gwledydd tlotaf yw'r rhai sy'n cael eu targedu'n helaeth hefyd gan hysbysebion diodydd siwgr, a elwir fel arall yn ddiodydd ffisiog, a bwyd wedi'i brosesu, pan na all y gwledydd hyn fforddio trin y diabetes sy'n ganlyniad anochel iddynt. Felly, mae'n warthus fod y cwmnïau rhyngwladol hyn yn ymddwyn yn y fath fodd.
Y gwledydd prin nad oes ganddynt hysbysebion dros y lle ym mhob man yw'r rhai iachaf, a rhaid inni atgoffa ein hunain fod poblogaeth Prydain erioed wedi bod yn iachach nag yn ystod yr ail ryfel byd ac ar ôl hynny, pan oedd bwyd wedi'i ddogni, ac felly nid oedd pobl yn gallu bwyta mwy nag ychydig bach iawn o fwyd a oedd yn eu gwenwyno mewn gwirionedd.
Felly, gordewdra yw prif achos marwolaeth gynnar ar ôl ysmygu, a bydd yn ei oddiweddyd yn fuan, oherwydd rydym yn atal pobl rhag ysmygu yn effeithiol iawn. Ymhlith methiannau trasig niferus Llywodraeth y DU mae'r methiant i ddeddfu i gael labelu golau traffig clir ar bob cynnyrch bwyd, fel y gall pobl weld pa mor drychinebus yw bwydydd penodol i'ch iechyd. Mae llawer gormod o siopau bwyd tecawê yn boddi mewn braster, siwgr a halen, gan mai dyna'r ffordd rataf o guddio bwyd diflas. A dyna hefyd sut y mae'r cwmnïau prosesu bwyd rhyngwladol yn gwneud eu biliynau. Felly, mae'n anodd iawn mynd i'r afael â hynny, oherwydd mae pobl wedi anghofio sut i goginio, ac rydym yn gorfod unioni hynny ym mhopeth a wnawn, boed hynny yn ein hysgolion neu mewn canolfannau cymunedol eraill. Mae'n rhaid inni adfywio'r syniad y gallwch goginio pryd o fwyd gydag ychydig gynhwysion syml iawn, ac mae'n llawer mwy blasus nag unrhyw beth a gewch gan rywun sydd ond yn eisiau mynd â'ch arian.
Felly, rwy'n cofio cam pwysig iawn gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, sef Eluned Morgan, yn y Senedd ddiwethaf, i sicrhau bod rhaglenni rheoli pwysau ym mhob awdurdod lleol wedi'i targedu ar bobl a oedd mewn perygl o gael diabetes math 2, ac rwy'n gobeithio ei bod yn bosibl i'r Dirprwy Weinidog presennol ddweud wrthym pa mor dda y mae'r gwaith o gyflwyno'r rheini'n mynd rhagddynt, oherwydd rwy'n credu ei bod yn rhaglen eithriadol o bwysig. Mae atal bob amser yn rhatach na thrin ar ôl iddo ddigwydd, felly mae hon yn ffordd y gallwn yn bendant geisio atal yr epidemig o ddiabetes math 2.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y Siambr hon unwaith eto ar ordewdra, a diolch i James Evans am ddod â hyn i'r llawr heddiw a rhoi sylw i'r angen pendant i fynd ben ben â gordewdra unwaith eto. Nid problem gosmetig yn unig yw gordewdra; mae'n glefyd cymhleth a phroblem feddygol sy'n peri pryder ac yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau iechyd mawr, gan gynnwys llawer a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, yn gynharach, yn cynnwys clefyd y galon, diabetes, pwysedd gwaed uchel a hyd yn oed canser.
Yn 2016, roedd 1.9 biliwn o bobl yn y categori dros bwysau, gyda 650 miliwn o bobl yn ordew, ac mae gordewdra byd-eang bron â bod wedi treblu ers 1975—ffigurau sy'n peri pryder. Mae'n destun pryder ein bod yn wynebu darlun llwm yng Nghymru. Dengys ystadegau fod bron i ddwy ran o dair o bobl 16 oed a hŷn wedi nodi yn 2021 fod ganddynt BMI o fwy na 25, gan eu gwneud yn ordew neu dros bwysau. Mae'n ofid mawr nad yw'r darlun yn dda i'n pobl ifanc ychwaith, gyda lefelau gordewdra a gorbwysau ymhlith plant Cymru bellach yn uwch nag y buont erioed, a byddant yn parhau i godi oni bai ein bod yn gweithredu yn awr. Er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio nifer o gynlluniau ers i mi fod yma o dan y rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach', dair blynedd yn ddiweddarach ymddengys na wnaed fawr o gynnydd ar sefydlu arferion iach ymhlith poblogaeth Cymru.
Mae ffactorau amrywiol yn chwarae eu rhan yn yr argyfwng gordewdra, ac un o'r elfennau diweddar sy'n cyfrannu ato, yn amlwg, yw'r pandemig, fel yr amlinellwyd yn gynharach. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gwelsom gau campfeydd, pyllau nofio a chyfyngu ar ymarfer corff awyr agored hyd yn oed. Gwelsom filiynau o bobl yn cael eu gorfodi i fod yn anweithgar yn gorfforol, a chafodd hyn effaith wirioneddol ddinistriol ar iechyd ein cenedl. Mae'n amlwg fod angen cynllun gweithredu difrifol arnom i fynd i'r afael â gordewdra. Mae angen i unrhyw gynllun a ddaw fod yn hollgynhwysol, yn gydnabyddiaeth wirioneddol o natur draws-bortffolio'r broblem, ac yn gydnabyddiaeth eto fod atal bob amser yn well na gwella. Mae angen cyfleusterau chwaraeon newydd ym mhob rhan o Gymru—nid mewn dinasoedd yn unig ond mewn ardaloedd gwledig, i roi cyfle i bawb fod yn heini—a gwella ffyrdd fel ei bod yn ddiogel ac yn atyniadol i ddechrau beicio, rhedeg a cherdded. Ac eto, mae'n ymddangos ein bod yn cael ein llywodraethu gan Blaid Lafur wrth-ffyrdd nad yw wedi dyrannu unrhyw beth, yn llythrennol, i'r gronfa ffyrdd cydnerth yn y gyllideb.
Fel Gweinidog addysg yr wrthblaid, mewn unrhyw ran o gynllun i fynd i'r afael â gordewdra, rwyf am weld prydau ysgol iach, maethlon yn cael eu gweithredu, a gwell addysg ar ba mor bwysig yw deiet cytbwys, a pha mor bwysig yw ffordd o fyw egnïol. Mae atal ac addysg bob amser yn well na gwella, ac rwy'n gobeithio gweld hyn yn ffurfio rhan o'r cwricwlwm newydd. Yn hollbwysig, mae angen inni ddechrau meddwl yn greadigol, gan nad yw'r hyn a wnawn ar hyn o bryd yn gweithio. Beth am edrych ar rywbeth syml fel campfeydd awyr agored i oedolion wedi'u lleoli wrth ymyl meysydd chwarae fel y gall plant a rhieni gadw'n heini ar yr un pryd? Mae angen inni edrych ar syniadau syml, effeithiol a heb fod yn gostus fel y rhain.
I gloi, mae angen inni weld Gweinidogion yn bod yn rhagweithiol a syniadau newydd ar sut i drechu gordewdra. Nid yw'n ddigon meddwl y bydd gwahardd bwydydd neu hysbysebion gwael yn ddigon; mae maint effeithiau economaidd gordewdra mor sylweddol, ac yn ein helpu i ddeall o ddifrif ei bod hi'n bryd gweithredu ar frys yn awr. Mae angen inni annog a hyrwyddo newidiadau ffordd o fyw a'i gwneud mor hawdd â phosibl i bawb yng Nghymru gadw'n heini a mabwysiadu ffordd o fyw egnïol. Nawr yw'r amser i weithredu. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae gordewdra yn gyflwr cymhleth ac ni all y Llywodraeth na'r GIG ei ddatrys wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai dull partneriaeth a dull system gyfan yw'r unig ffordd o sicrhau newid.
Strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru yw'r cam cyntaf tuag at ddull trawslywodraethol o leihau gordewdra yng Nghymru ar raddfa poblogaeth. O ganlyniad uniongyrchol i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a basiwyd gan y Senedd ddiwethaf, lansiwyd y strategaeth ym mis Hydref 2019 a chaiff ei chefnogi gan gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd. Wrth ddatblygu'r strategaeth, daethom â'r dystiolaeth ryngwladol orau ar gyfer newid at ei gilydd. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, o gyllid i bolisi a deddfwriaeth. Dechreuodd y gwaith o'i chyflawni o ddifrif yn 2019. Gwnaethom nodi ein cynllun uchelgeisiol i gefnogi'r gwaith ar gyfer 2020-22 ac roeddem yn anelu'n uchel. Fodd bynnag, newidiodd y pandemig drywydd ein gwaith yn sylfaenol ac mae wedi gwaethygu a dyfnhau heriau a oedd yn bodoli eisoes. Cafodd gallu cyllido gwasanaethau ar draws y Llywodraeth a phartneriaid allweddol ei symud i ddiwallu anghenion brys a achoswyd gan COVID-19, sy'n golygu bod llawer o'r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun wedi'u gohirio. Cafodd staff y GIG eu hadleoli i feysydd lle roedd angen brys yn ystod yr ymateb i'r pandemig, a dyna lle'r oedd eu hangen fwyaf.
Wrth inni geisio symud heibio'r don omicron, mae byrddau iechyd yn gobeithio ailgychwyn y gwasanaethau presennol tra'n parhau â chynlluniau newydd. Ar 1 Mawrth, byddaf yn cyhoeddi cynllun cyflawni 2022-24, sy'n cynnwys y gwersi a ddysgwyd o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd hyn yn cynnwys ymrwymiad ariannu o dros £13 miliwn dros ddwy flynedd. Byddaf yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn a fydd yn tynnu sylw at raddfa ac uchelgais ein cynlluniau i sicrhau newid gwirioneddol. O'r buddsoddiad hwn, dyrennir £5.8 miliwn yn benodol i fyrddau iechyd, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cymorth teg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy ddarparu llwybr rheoli pwysau i Gymru gyfan. Bydd hyn yn helpu i sefydlu gwasanaethau ochr yn ochr â buddsoddiad ehangach drwy fyrddau iechyd. Mae llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn ei wneud yn deg drwy Gymru. I gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn, parhaodd y gwaith arno o ddifrif dros y pandemig ac roeddwn yn falch iawn o'i lansio'n swyddogol yr haf diwethaf. Gwyddom y bydd yn cymryd amser i adeiladu'r seilwaith gofynnol wrth i'r gwasanaeth ddatblygu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gydag arweinwyr lleol, gan ddangos eu hymrwymiad i gynnydd. Bydd cyfres o raglenni, o opsiynau ymarfer corff i sgiliau maeth, yn dod â dull cwrs bywyd at ei gilydd.
Mae byrddau iechyd lleol wedi cynllunio a datblygu estyniadau i gael mynediad at wasanaethau cymunedol ar lefel 2. Bydd hyn yn darparu ystod o gymorth i unigolion allu cael gafael ar gymorth ar yr adeg iawn iddynt hwy. Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd gwasanaethau lefel 3 arbenigol ar gyfer plant a theuluoedd yn cael eu darparu ledled Cymru. Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd lleol flaenoriaethu hyn ac mae cynlluniau datblygedig ar waith i wella'r gwasanaethau a ddarperir. Gyda chymorth a gwaith cydweithredol ein proffesiynau gofal sylfaenol, mae gennym bellach gynllun atal gordewdra gofal sylfaenol i gefnogi a sbarduno'r gwaith o ddarparu'r llwybr, gan gynnwys gwneud i bob cyswllt gyfrif drwy ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd wedi'u llywio gan seicoleg. Ac rydym yn adeiladu cynnig digidol ar lefel 1 y llwybr gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd hwn yn cael ei ategu gan ddull ymgyrchu ymddygiadol hirdymor a bydd yn rhoi cymorth a chyngor defnyddiol i bobl ledled Cymru. Ac a gaf fi sicrhau Jenny Rathbone ein bod yn parhau i dreialu rhaglen atal diabetes Cymru gyfan ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru? A bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny yn fy natganiad ar 1 Mawrth.
Drwy'r fframweithiau cynllunio GIG a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, bydd byrddau iechyd yn cael eu monitro a'u dal yn atebol i Weinidogion er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn parhau'n gyflym. Mae byrddau iechyd lleol hefyd yn cyflwyno gwaith monitro blynyddol i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol ac rydym wedi dyrannu £4.5 miliwn o gyllid i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol, gyda buddsoddiad pellach o £24 miliwn mewn cyfleusterau dros y tair blynedd nesaf. Mae addysg iechyd yn hanfodol, ac mae'r Cwricwlwm i Gymru, ein cwricwlwm newydd, yn cynnwys iechyd a llesiant fel un o chwe maes dysgu a phrofiad statudol. Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfleoedd gweithgarwch corfforol mewn ysgolion. Rydym wedi buddsoddi yn y gaeaf llawn lles ac rydym wedi ymrwymo i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol. Drwy ein cynllun 'Pwysau Iach', rydym hefyd yn datblygu rhaglen egnïol ddyddiol newydd ar gyfer ysgolion gyda phartneriaid. Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio'r defnydd o bwerau trethu i gefnogi deiet iach, a bydd fy swyddogion yn cwmpasu cynigion cychwynnol ar y mater hwn.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at lansio ein cynllun cyflawni 'Pwysau Iach: Cymru Iach' 2022-24 ar 1 Mawrth, a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, gan gydnabod yr ymdrechion sylweddol y mae byrddau iechyd wedi dechrau eu gwneud. Gofynnaf i bob Aelod gefnogi ein gwelliant i'r cynnig heddiw. Diolch.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gau'r ddadl heddiw, yn dilyn cyfraniadau manwl ac addysgiadol iawn o bob rhan o'r Siambr. Ac a gaf fi ddweud pa mor wych yw bod yn ôl yn y Siambr, yn gwneud yr hyn y mae ein hetholwyr wedi ein hethol i'w wneud?
Yr hyn a wnaed yn glir y prynhawn yma yw bod gordewdra yn glefyd cronig a achosir gan anghydraddoldebau iechyd, dylanwadau genetig a ffactorau cymdeithasol, ac fel y dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon, mae hon yn broblem y mae'n rhaid i bob Aelod o'r Cabinet fod yn gyfrifol amdani ar draws y Llywodraeth gyfan. Fel y nododd yr Aelod dros Ynys Môn yn gywir, mae gordewdra yn bandemig.
Roedd strategaeth Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2019, yn bryderus o amwys, er ei bod yn llawn o fwriadau da, ac fel y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud, roedd yn uchelgeisiol iawn. Ond er gwaethaf hyn, fel llawer o gynlluniau, cafodd ei gwthio o'r neilltu oherwydd pandemig COVID-19. Mae'r pwynt wedi'i wneud ei bod yn hanfodol ein bod yn ei chael yn ôl ar y trywydd cywir ar frys a byddwn yn cadw llygad barcud ar hyn.
Gwnaeth yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed hyn yn glir drwy restru'r afiechydon, yr anhwylderau a'r clefydau y gall gordewdra eu gwaethygu, a thynnodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd sylw at y pwynt am fesurau ataliol i leddfu'r baich ar y GIG. Cyfeiriodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd at ansawdd gwael bwyd, ac rwy'n cytuno â hi, felly y cyfan y gallaf ei wneud yw ei hannog hi a'i hetholwyr i gefnogi cynnyrch o Brydain, cefnogi cynnyrch o Gymru, prynu cynnyrch lleol o ansawdd uchel, gan gynnwys cig a llaeth, sydd nid yn unig o ansawdd uchel, ond yn iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy.
Tynnodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd sylw hefyd at brinder cyfleusterau o ansawdd uchel, a chyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y cyllid sydd ar gael. Ond cyfeiriwyd at hyn hefyd gan Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon yn ddiweddar, grŵp a gaiff ei gadeirio gan fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, a wnaeth y pwynt cywir nad problem gosmetig yn unig yw gordewdra; mae'n broblem iechyd hefyd.
Ni cheir un dull sy'n addas i bawb o fynd i'r afael â gordewdra, ac mae pob unigolyn yn wahanol, ond mae themâu cyffredin wedi bod erioed. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i'n dadl heddiw ac yn atgyfnerthu eu hymdrechion i roi blaenoriaeth i ymladd problem gordewdra yng Nghymru. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau i ddangos eu hymrwymiad tuag at frwydr y braster a chefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.