– Senedd Cymru am 6:27 pm ar 9 Mawrth 2022.
Galwaf yn awr ar Rhys ab Owen i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i weld yr elfen drawsbleidiol yn y ddadl yma, a nifer o Geidwadwyr wedi penderfynu cymryd rhan. Efallai mai'r teitl 'take back control' oedd wedi denu ambell un ohonyn nhw i ymuno. Ddirprwy Lywydd, dwi'n rhoi munud o fy amser i i Peredur Owen Griffiths, Mabon ap Gwynfor, Carolyn Thomas, Joel James, y ddau Samuel—Kurtz a Rowlands—a Tom Giffard. Dyna un ffordd, Ddirprwy Lywydd, i gael fi i siarad yn llai yw cael munud o fy amser i. [Chwerthin.]
Pwysleisiodd adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig mai Cymru sydd â'r hawliau tir a chymunedol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae cymunedau lleol yn wynebu brwydrau anodd yn eu hymdrechion i brynu asedau lleol er mwyn eu cymunedau, i wasanaethu eu cymunedau, boed yn dafarndai, yn eglwysi neu gapeli, neu goedwigoedd a mannau gwyrdd.
Pan wasgwyd Cymru gan gyni'r Ceidwadwyr i dalu'r bil ar ran y bancwyr, gorfodwyd cynghorau ar draws ein gwlad i werthu asedau cymunedol. Er bod dinasyddion yn yr Alban ac yn Lloegr wedi gallu trefnu, gweithio a pharatoi i brynu a diogelu eu hasedau, ni ddigwyddodd hynny yng Nghymru. Ni fyddwn byth yn gwybod faint o golled gymunedol a wynebodd y genedl hon yn ystod y blynyddoedd hynny o gyni, ond bydd pawb yn gwybod am fferm deuluol a werthwyd, canolfannau ieuenctid â'u ffenestri wedi'u bordio neu dafarndai lleol a gaeodd ac a chwalwyd er mwyn creu fflatiau ffasiynol neu flociau o fflatiau crand.
Yn rhy aml yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd yn benodol, gwelsom gymunedau trefnus yn cael eu hanwybyddu, ac asedau lleol yn cael eu gwerthu i ryw gorfforaeth neu gwmni datblygu di-wyneb ar drywydd yr elw personol mwyaf ar draul gwerth cymdeithasol i ardal gyfan.
Am wlad sy'n aml yn cael ei galw yn gymuned o gymunedau, mae diffyg hawliau i grwpiau cymunedol yma yn anhygoel. Mae gerddi a pharciau lleol, rhandiroedd a ffermydd trefol yn cynyddu gwerth ardal yn fawr, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae asedau cymunedol wedi bod, a byddant yn parhau i fod, un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gryfhau ysbryd cymunedol, o feithrin cydweithrediad ac o greu'r ymdeimlad o berthyn.
Mae pobl am fyw mewn cymunedau sy'n unigryw, sy'n bersonol, nid rhyw gopi carbon o bob tref a phentref arall. Nid yw pobl eisiau byw, ac nid ydynt am ymweld â threfi sy'n union yr un fath â'i gilydd ac nad ydynt yn cynnig unrhyw beth cyffrous, personol na deinamig. Pa waith, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i symleiddio'r broses o brynu asedau cymunedol a pha bryd y gwelwn y Senedd yn codeiddio hawliau cymunedau ar eu hasedau lleol? Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno Bil ymrymuso'r gymuned, fel yr awgrymwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig? Byddai Bil o'r fath yn creu cofrestr o asedau cymunedol, ac yn rhoi hawl gyntaf statudol i gymunedau wrthod yr asedau hyn pan gânt eu cyflwyno i'w gwerthu. A fyddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa asedau cymunedol yn seiliedig ar gronfa tir lwyddiannus yr Alban sy'n dosbarthu rhwng £5,000 ac £1 filiwn i ddechrau mynd i'r afael â'r mater?
Yng Nghaerdydd, clywn yn aml am gyfleusterau sydd dan fygythiad, bron bob wythnos: tafarn Roath Park ar Heol y Ddinas; hen Gapel Bethel yn Nhreforgan; Canolfan gymunedol Treganna; felodrom Maendy—meddyliwch am felodrom Maendy am funud—yr unig gyfleuster chwaraeon sy'n dal i sefyll yn y ddinas ers ymweliad Gemau'r Gymanwlad yn 1958. Yn y felodrom hwnnw y dechreuodd Geraint Thomas hyfforddi, y dechreuodd Colin Jackson hyfforddi, y dechreuodd Nicole Cooke hyfforddi, ac eto rydym am gael gwared ar y lleoliad chwaraeon hanesyddol hwn.
Mae Jenny Rathbone—a dwi'n falch o weld bod Jenny yn dal gyda ni ar-lein—yn gyson yn codi'r bygythiad i dafarn y Roath Park ar Heol Plwca, tafarn sydd wedi bod yno ers 1886, man cyfarfod i bobl leol i drafod, i sgwrsio ac i joio yng nghwmni ei gilydd. Ar ôl ymateb chwyrn i'r cais cynllunio i ddymchwel y dafarn ac i adeiladu blociau o fflatiau dienaid yn ei lle, fe gafodd y cynllun ei dynnu yn ôl, dim ond i ail gais fynd i mewn a hynny ddim yn codi unrhyw beth yn ei le ond gadael y safle yn wag, dim ond dymchwel y lle. Ac mae yna gynsail i hyn; mae yna dafarn ymhellach lawr yn Heol Plwca wedi'i ddymchwel a'r safle wedi bod yn wag ers blynyddoedd. Cymeradwywyd y cais gwarthus yma gan Gyngor Caerdydd, gydag arweinydd y cyngor Llafur yn galw am newidiadau i'r system gynllunio, yn dweud bod ei ddwylo fe a'r pwyllgor cynllunio wedi'u clymu tu ôl eu cefnau. Ond mae'r newidiadau o fewn ein pwerau ni yn y Senedd yma. Gallwn ni newid y system gynllunio yng Nghymru; does dim modd inni beio San Steffan y tro hwn, gyfeillion.
Mae'n rhy hwyr i achub nifer o'n hadeiladau cymunedol. Ni fydd yna gymanfa ganu na the parti eto yng nghapel Noddfa Treorci, eglwys gadeiriol Cwm Rhondda; mae'r last orders wedi hen ganu ar dafarn y Gower ac ni fydd yna gig arall yng nghlwb nos Gwdihŵ. Fe aeth y Vulcan i Sain Ffagan er mwyn creu lle parcio i lond dwrn o geir. Mae'n warthus gweld trysorau cymunedol yn cael eu dymchwel, gyda'r gobaith gorau iddynt i ddod yn grair yn Sain Ffagan. Onid yw'n drueni bod gwlad fel Cymru, sydd bob amser wedi rhoi pwyslais cryf ar bŵer y gymuned, yn rhoi cyn lleied o statws, o hawliau statudol, iddynt? Fel rŷn ni wedi cael ein hatgoffa droeon heddiw a ddoe, mae gweithredoedd yn bwysicach na geiriau.
Nid yw geiriau caredig yn ddigon i'r cymunedau hyn.
Mae'n bryd inni gywiro'r methiant yma dro ar ôl tro. Mae'n bryd i'r Senedd yma ddangos i gymunedau Cymru ddatganoli ar ei orau. Mae'n bryd inni rymuso pobl, grymuso cymunedau, a thrwy hynny, grymuso pob rhan o'n cenedl. Grym cenedl yw ei chymunedau. Diolch yn fawr.
Mae wedi rhoi munud yr un i chi. Cadwch at y funud, neu fe awn dros yr amser. Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig a ryddhawyd yr wythnos hon yn peri gofid. Daeth i'r casgliad mai cymunedau Cymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Adleisiwyd hyn yn ystod sgwrs a gefais yr wythnos hon gyda rhywun a oedd yn rhan o'r ymdrechion i adfer sefydliad y glowyr yn Abertyleri, adeilad a oedd unwaith yn wych ac sydd wedi gweld dyddiau gwell ond a allai unwaith eto fod yn ganolbwynt i'r gymuned. Dywedodd yr unigolyn hwnnw wrthyf fod llawer o'r bobl y buont yn siarad â hwy am y prosiect yn obeithiol y gallai pethau newid er gwell yn y gymuned honno.
Pe bai cymunedau'n ymrymuso fel sy'n digwydd yn yr Alban, gallai pethau fod yn wahanol iawn i bobl, a gellid rhoi gobaith iddynt. Yn yr Alban, mae hawl statudol i brynu asedau cymunedol pan gânt eu cyflwyno i'w gwerthu neu eu trosglwyddo, ond nid oes ganddynt unrhyw beth felly yng Nghymru. Mae gan gymunedau yn Lloegr hyd yn oed, sy'n cael ei llywodraethu gan y Torïaid, fwy o hawliau perchnogaeth gymunedol ar adeiladau. Os ydym am greu cymunedau iach, cadarn ac wedi'u grymuso, mae angen unioni'r anghysondeb hwn cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r ddadl hon, Rhys.
Hoffwn ddiolch i Rhys am funud o'i amser ac am ddod â'r ddadl bwysig i'r Senedd heddiw. Pan ddechreuais mewn gwleidyddiaeth leol am y tro cyntaf, gwneuthum hynny oherwydd fy mod yn credu'n gryf fod cymunedau'n bwysig. Yn ddiweddar siaradais â menter gymdeithasol ym Methesda a oedd wedi gweithio i brynu adeilad nodedig, i'w warchod er budd y rhai sy'n byw yn yr ardal. Ond ar y funud olaf, cafodd ei werthu yn sgil cynnig uwch gan brynwr preifat. Hoffwn i ystyriaeth gael ei rhoi i drigolion lleol gael llais wrth brynu asedau cymunedol o'r fath ar gyfer eu troi'n eiddo rhent lle mae eu harian yn mynd yn ôl i mewn i'r gymuned. Rwy'n falch fod sir y Fflint wedi bod yn arwain y ffordd yn y maes hwn i helpu i ddiogelu mannau ac adeiladau cymunedol. Yn ddiweddar, cafodd dau hen gae ysgol eu trosglwyddo i'r gymuned leol ar gyfer chwarae, hafan ddiogel i fioamrywiaeth, ac i bobl leol dyfu llysiau. Pan gaiff darn o dir ei ddatblygu, adeilad ei ddymchwel neu ased ei werthu, mae'n cael ei golli am byth, a dylem wneud popeth yn ein gallu i helpu cymunedau lleol i fod yn rhan o'r broses o ddiogelu eu hasedau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a llesiant yn y gymuned. Diolch.
Diolch am roi cyfle i mi siarad, Rhys. Fel cynghorydd bwrdeistref sirol, un frwydr barhaus fawr drwy gydol fy ngyrfa wleidyddol, fel petai, oedd diogelu a chynnal mannau cymunedol yn briodol. Efallai y bydd Aelodau yma'n chwerthin, ond un o'r munudau rwy'n ei thrysori fwyaf fel cynghorydd oedd pan ddaeth merch bump oed a'i thad ataf a diolch i mi am achub ei maes chwarae. I lawer o bobl, efallai nad yw'n ymddangos mor bwysig â hynny, ond i'r ferch fach hon, roedd y maes chwarae hwnnw, a gobeithio ei fod yn dal i fod, yn rhan fawr gadarnhaol o'i bywyd a fydd yn cyfrannu at wneud iddi deimlo bod ei phlentyndod yn un hapus.
Y broblem sydd gennym, hyd y gwelaf, yw bod y Llywodraeth a llywodraeth leol yn enwedig yn gweld ein mannau cymunedol fel cyfleoedd i ddatblygu yn hytrach na mannau daearyddol seicolegol arwyddocaol, yn ymwneud â chysylltiadau cymhleth rhwng ystyr, gwerth a gweithgarwch cymdeithasol sy'n cyfrannu'n sylweddol at ein hunaniaeth gymunedol, ein cydlyniant cymunedol ac at ein hymdeimlad o berthyn a theimlo'n rhan o gymuned. Mae mannau cyhoeddus i lawer o bobl yn cyfrannu at hunan-ddiffiniad rhywun, fel unigolion a chyda'n gilydd. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw y gall pobl adnabod pwy ydw i a phwy ydym ni drwy leoli eu hunain yn eu mannau cymunedol. Cydnabyddir hunaniaeth lle fel is-hunaniaeth ynddo'i hun, ac mae hyn wedi'i gysylltu'n gynhenid â sut y teimlwn a sut yr ymgysylltwn â'r lleoedd lle'r ydym yn byw. Drwy ganiatáu i fannau cymunedol gael eu dinistrio, rydym yn hwyluso'r broses o golli cymuned, a cholli balchder yn ein cymunedau, sydd yr un mor bwysig. Rhaid inni gydnabod bod dileu neu ddadleoli ein mannau cymunedol yn cael effaith negyddol iawn ar unigolion a chymunedau, a dyna pam y gwelwn gymunedau, grwpiau ac unigolion yn ymladd dro ar ôl tro â phob adnodd sydd ar gael iddynt i'w diogelu.
Mae gennych funud ac rydych wedi mynd ymhell dros hynny. Rydych chi'n mynd ag amser cyd-Aelod.
O. Iawn, fe ddof i ben yn awr. Ceir nifer o enghreifftiau o'r modd y mae mannau cyhoeddus yn cael eu colli, nad yw amser, yn anffodus, yn caniatáu imi sôn amdanynt, ond i gloi rwyf am ychwanegu nad oes amheuaeth yn fy meddwl fod dinistrio mannau cymunedol yn dangos methiant Llywodraeth i ddiogelu llesiant cymunedau nid yn unig am nad oes ganddi fawr o awydd gwneud hynny, ond hefyd am nad oes ganddi fawr o uchelgais i'w wneud. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Rhys, am ddod â'r ddadl yma, ac roeddwn i, wrth feddwl am hwn, yn cymryd bod y rhan fwyaf o bobl yn mynd i sôn am asedau cymunedol fath â thafarndai, capeli ac yn y blaen. Felly, dwi am ofyn i'r Dirprwy Weinidog yn benodol am ei farn ar bapur Canolfan Cydweithredol Cymru i mewn i berchnogaeth tir a datblygu tai cydweithredol. Beth sydd wedi dod yn amlwg i mi, yn sicr, ydy'r diffyg gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru o ran perchnogaeth tir. Pwy sydd yn berchen tir yng Nghymru a pha dir sydd yn addas i'w ddatblygu? Dwi'n awyddus i glywed os ydy'r Dirprwy Weinidog yn credu bod angen cofrestr tryloyw ar berchnogaeth tir yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae argaeledd tai yn bwysig i mi, yn benodol tai ateb y galw. Mae galluogi datblygiadau cydweithredol yn cyfarch y galw yma o ddatblygu tai fforddiadwy i ateb galw cymunedol, ac mae'n bosib galluogi mentrau lleol i gymryd perchnogaeth o eiddo neu dir lleol i'r perwyl yma, ac mae'r galw am hyn yn cynyddu. Felly, buaswn i'n falch iawn hefyd o glywed barn y Dirprwy Weinidog am sut fedr y Llywodraeth alluogi hyn. Diolch yn fawr iawn unwaith eto.
Diolch yn fawr, Rhys.
Diolch i ti am ddod ymlaen â'r ddadl yma prynhawn yma.
Hoffwn ddechrau drwy sôn am Barc Penllwyn yn fy etholaeth yn nhref Caerfyrddin, parc sy'n eiddo i Gyngor Tref Caerfyrddin, ond yn anffodus, oherwydd sbwriel a gwydr, nid ydynt wedi gallu agor y gatiau a chaniatáu i bobl fynd yno i'w ddefnyddio, felly mae'r gatiau hynny wedi'u cloi, sy'n golygu mai dim ond y clwb pêl-droed ar fore Sadwrn sy'n gallu defnyddio'r man cymunedol hwn, a chredaf fod hynny'n drueni mawr. Ac i adleisio syniadau Peredur ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig 'Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir', mae hyn yn gwbl gywir, a hoffwn ei ymestyn i'r Dirprwy Weinidog mewn perthynas â phlannu coed yng nghefn gwlad Cymru, gyda gwerthu ffermydd a thir cymunedol a phlannu coed, y coedwigo, sy'n peri pryder gwirioneddol i lawer o'r Gymru wledig. Ond rwyf am orffen, drwy—. Rwy'n siŵr mai anghofio a wnaeth Rhys, ond nid yr Alban yn unig sydd â pholisi cymunedol, polisi hawl i gynnig, ond Lloegr hefyd, yr hen Dorïaid da hynny dros Glawdd Offa. Diolch.
Diolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am roi munud imi yn y ddadl fer heddiw, a rhaid imi ddweud iddo fy nychryn drwy ddweud y byddai rhai Ceidwadwyr yn cael eu denu gan deitl y ddadl heddiw, 'Diogelu mannau cymunedol: adfer rheolaeth', a beth bynnag a ddywedwch am Rhys ab Owen, ac mae llawer yn gwneud, mae'n adnabod slogan dda pan fydd yn gweld un. [Chwerthin.] Ond gan roi diffygion yr Aelod i'r naill ochr, fel yr amlinellwyd gan lawer o bobl yn y ddadl fer, mae'n hanfodol bwysig fod cymunedau'n cael eu cynorthwyo i ddiogelu eu cymuned leol. Boed yn dafarn leol, yr eglwys, y siop leol, y llyfrgell, mae'n hanfodol fod cymunedau'n cael eu grymuso i achub yr asedau gwirioneddol bwysig hyn rhag datblygu diangen, nad oes neb ei eisiau. Yng ngoleuni hyn, rwy'n sicr yn llwyr gefnogi'r galwadau a amlinellwyd yn y ddadl ac yn galw am fesurau i gynorthwyo cymunedau lleol i adfer rheolaeth. Diolch yn fawr iawn.
Tom, mae eich cyd-Aelodau wedi mynd â'ch amser, ond fe roddaf funud ichi.
Rydych yn garedig iawn, Lywydd, diolch yn fawr. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw? Ac fe soniodd am dacteg rwy'n ei hoffi, sef cael saith siaradwr i gyfrannu at eich dadl fel nad oes rhaid i chi ddweud llawer iawn eich hun. Fe sylwais; da iawn chi. Da iawn chi, Rhys.
Roeddwn am siarad o blaid adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig y clywsom gyfeirio ato drwy'r ddadl, ond mae'n eithaf beirniadol, ac mae'n werth ailadrodd mai gan Gymru y mae'r cymunedau sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU gyfan, ac nid yw hwnnw'n ystadegyn i ymfalchïo ynddo. Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am senario ddigalon i grwpiau heb fawr o broses i gymunedau allu cael perchnogaeth ar asedau cyhoeddus neu breifat, ac yn hytrach na gadael i asedau ac adeiladau cymunedol gael eu gwerthu neu ddirywio, mae angen inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i adael i'r rheini sy'n trysori ein cymunedau fwyaf eu diogelu am genedlaethau i ddod.
Fodd bynnag, mae'n peri pryder i mi nad yw Llywodraeth Cymru yn deall. Mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog:
'Ein safbwynt ni yw y gall trefniant partneriaeth' ddod ar waith
'gyda chymorth corff cyhoeddus' a chredaf fod y Prif Weinidog yn methu'r pwynt yn llwyr. Mae cymunedau a grwpiau cymunedol am weithredu'n annibynnol, heb i gorff cyhoeddus na Llywodraeth Cymru ddweud wrthynt beth i'w wneud. Felly, mae'n wirioneddol bwysig eu bod yn deall hynny, eu bod yn ystyried yr adroddiad hwnnw, a diolch i Rhys ab Owen unwaith eto am gyflwyno'r ddadl hon.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Rhys ab Owen a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, gan ddangos y diddordeb trawsbleidiol mawr yn y pwnc hwn, ac wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelodau a minnau'n cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol, yn adeiladau a mannau gwyrdd, i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a gwyddom fod yr asedau hyn yn hanfodol fel ffocws i weithgarwch cymunedol ac fel canolbwynt i wirfoddolwyr. Ac rydym hefyd yn cydnabod cyfraniad hanfodol gweithredu cymunedol i fywyd Cymru a'r economi, yn enwedig yn ystod y pandemig, adeg pan welsom yn uniongyrchol fudd mannau gwyrdd lleol i'n hiechyd a'n llesiant. Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i adeiladu ar y profiad hwn, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau.
Dyna pam ein bod wedi lansio cronfa benthyciadau asedau cymunedol, sef cronfa £5 miliwn sy'n darparu benthyciadau ad-daladwy dros 25 mlynedd, gan alluogi grwpiau sector gwirfoddol corfforedig i brynu asedau cymunedol. Gweithredir y gronfa gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae'n ategu rhaglen cyfleusterau cymunedol sefydledig Llywodraeth Cymru, sy'n darparu grantiau o hyd at £250,000 i helpu sefydliadau sector gwirfoddol lleol i brynu neu wella asedau cymunedol. Mae'r grantiau ar gael i grwpiau sy'n berchen ar gyfleusterau neu'n eu prydlesu.
Nod y rhaglen yw sicrhau bod cyfleusterau mawr eu hangen sy'n cael eu defnyddio'n dda yn gynaliadwy, yn ariannol ac yn amgylcheddol, ac yn addas ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn buddsoddi hefyd mewn rhaglenni fel y cynllun lleoedd lleol ar gyfer natur, ac mae eraill yn darparu grantiau i gymunedau sydd am wella eu mannau gwyrdd lleol. Mae'r grant yn caniatáu i gymunedau gynllunio'r hyn y maent am ei weld yn gwella a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth iddynt. Mae'r cyllid yn cefnogi prosiectau ar gyfer creu perllannau newydd, dolydd blodau gwyllt, tyfu bwyd cymunedol, gerddi pryfed peillio, waliau gwyrdd ac ardaloedd bach o goetir. A byddwn yn buddsoddi £9.2 miliwn arall yn y rhaglen hon yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod i gefnogi natur ar y lefel leol hon, gan ddarparu manteision i'n cymunedau. Mae asedau cymunedol, megis mannau gwyrdd ac adeiladau, yn hanfodol i iechyd a llesiant ein cymunedau, a byddwn yn cefnogi eu perchnogaeth, gan weithio gyda phartneriaid, i gyflawni argymhellion ein hymchwil i drosglwyddo asedau cymunedol. Mae llawer i'w ystyried yn hynny.
Mae adborth i ni hefyd, yn rhannol o ganlyniad i brosiect rhagolwg cymunedol CGGC, sy'n nodi nifer o ffyrdd y gellir grymuso cymunedau ymhellach i greu newid a phwysigrwydd gweithredu lleol, ac mae consensws yn hynny ar sut y mae angen newid y polisi, ac mae angen llunio polisi cymunedol newydd. Ac rydym yn awyddus—. Clywaf yr hyn a ddywedodd yr Aelodau am adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, ac mae llawer ynddo y gallwn gytuno arno, rwy'n credu, a byddwn yn awyddus iawn i geisio consensws trawsbleidiol ar yr elfennau y gallwn i gyd gytuno arnynt, er mwyn bwrw ymlaen â hwy ac adeiladu arnynt yn y dyfodol, oherwydd, yn amlwg, mae hwn yn faes lle y ceir llawer o gytundeb. Diolch yn fawr.
Diolch, bawb, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.