– Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: diogelwch bwyd. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7963 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.
2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn credu bod angen chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) defnyddio'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y cyhoedd;
c) gwneud diogelwch bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cymhellion;
d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru) arfaethedig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl y prynhawn yma oherwydd ei bod mor bwysig ac mor hynod o amserol. Yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, rydym wedi siarad ar sawl achlysur am ddiogelu'r cyflenwad bwyd ac arwyddocâd hynny yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin. Wel, nawr yw'r amser i siarad yn lle gweithredu—neu weithredu yn lle siarad, yn hytrach. Cawn gyfle gwirioneddol yma i droi’r gornel a sicrhau y daw Cymru yn genedl hunangynhaliol nad oes raid iddi ddibynnu cymaint ar nwyddau a fewnforir.
Yn wir, rydym i gyd wedi gweld drosom ein hunain pa mor ansicr y gall y gadwyn gyflenwi fyd-eang fod, yn enwedig mewn perthynas â ffermio. Os nad yw’n gyflenwadau ynni, sy'n chwarae rhan hollbwysig yn seilwaith bwyd y DU, mae’n bris gwrtaith, sy'n fewnbwn allweddol yng nghynhyrchiant y ffermwr. Pan welwn y cyflenwad yn tynhau’n ddifrifol, mae'n arwain at ostyngiad yn allbwn nwyddau, ond nid dyma'r unig ffactorau. Caiff Wcráin ei hadnabod fel basged fara Ewrop am reswm da. Gyda'i gilydd, Wcráin a Rwsia sy’n cynhyrchu 30 y cant o wenith y byd a 50 y cant o allforion olew blodau’r haul, hadau a blawd y byd. Mae’r sefyllfa yn nwyrain Ewrop eisoes wedi gweld prisiau’n codi’n aruthrol, a disgwylir i hyn gael effaith uniongyrchol ar brisiau bwyd i ddefnyddwyr a chost cynhyrchu da byw, sefyllfa nad yw’r Llywodraeth hon wedi paratoi ar ei chyfer o gwbl. Dyna pam rwy’n hynod siomedig o weld y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn cyflwyno gwelliannau yn erbyn y cynnig hwn, ac ni fydd hynny’n syndod i’r Siambr hon.
Rwyf eisoes wedi siarad unwaith am gyfle, ac mae hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynhyrchiant bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan osod yr hyn y gall ei wneud ar y llyfr statud. Yn wir, gallwn adeiladu ar ein cyfradd cynhyrchu bwyd domestig o 60 y cant, a sicrhau bod diogelu'r cyflenwad yn dod yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Ac eto, yn anffodus, mae ffocws y Llywodraeth hon wedi'i ystumio. Ar y naill law, maent yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol i newid y cynnig hwn, i feirniadu Llywodraeth y DU, i ymosod ar gytundebau masnach, ac ar y llaw arall maent yn gwrthod cydnabod bod cynhyrchiant bwyd yn nwydd cyhoeddus ac yn gwrthod cynnig y cymorth y maent ei angen i'n ffermwyr gweithgar. A phan fydd polisi Llywodraeth Cymru yn arwain at gynyddu'r pwysau ar ein ffermwyr, a gostyngiad yn ein cynhyrchiant a diogelwch ein cyflenwad bwyd ein hunain hyd yn oed, deuwn yn fwy dibynnol ar fewnforion—yr union rai y mae'r Llywodraeth hon am eu beirniadu. Rhagrith yw hyn ar ran y Llywodraeth Lafur hon. [Torri ar draws.] Efallai ei fod yn 'rubbish' i'r Aelod o'r cefn, yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ond dim ond drwy gynyddu ein cynhyrchiant bwyd ein hunain y gallwn wneud Cymru'n llai dibynnol ar fewnforion ac yn fwy gwydn rhag ergydion yn y system fyd-eang, rhywbeth y mae'r cynnig hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef yn benodol.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio bod ein ffermwyr Cymreig yn enwog yn eu hawl eu hunain. Hwy sy'n cynhyrchu'r bwyd mwyaf ecogyfeillgar, cynaliadwy ac o'r ansawdd gorau ar y farchnad, ac mae'r cyhoedd yn cydnabod hyn. Dylem fod yn gweiddi o'r toeon i gefnogi cynnyrch amaethyddol Cymru. Drwy gydol y pandemig, gwelsom ymateb y wlad i gau ein sector gwasanaethau. Ni throdd pobl Cymru eu cefnau ar gynnyrch a dyfir yn lleol—roeddent yn ciwio y tu allan i'w siopau cigydd lleol i sicrhau y gallent brynu toriadau blasus o gig eidion a chig oen Cymru o'r radd flaenaf. Mae'r cyhoedd ym Mhrydain wedi dysgu a deall gwerth cig a llysiau lleol. Cymerwch datws Blas y Tir sir Benfro, er enghraifft—ni ddaw miloedd o filltiroedd awyr i'w canlyn nac allyriadau teithio cynnyrch a fewnforiwyd o rannau eraill o Ewrop neu weddill y byd. Ond yn yr un modd, nid ydynt ychwaith mor ddibynnol ar y sefyllfa geowleidyddol yn nwyrain Ewrop, de-ddwyrain Asia ac Awstralia ychwaith. Cânt eu tyfu'n lleol, eu codi gan ffermwyr lleol, a'u prynu gan bobl ledled Cymru. A gadewch inni fod yn gwbl glir, nid ydym am ddiwydiannu ein sector ffermio; yr hyn yr ydym am ei wneud yw sicrhau bod cynhyrchiant bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel yn cael ei ddatblygu fel bod bwyd o Gymru ar gael i bobl Cymru, a dyna pam y mae'r cynnig hwn gyda ni y prynhawn yma, a dyma y mae'r cynnig yn ceisio'i wneud.
Bydd y Bil amaethyddol yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y gwanwyn, felly dyma ein cyfle i newid cyfeiriad a mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Mae gennym ddau opsiwn: gallwn naill ai barhau ar yr un trywydd o osgoi'r sefyllfa geowleidyddol gyfnewidiol, neu gallwn droi at ein cymuned amaethyddol a rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen iddynt. Gallwn gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig wedi'i wneud i iechyd a ffyniant ein gwlad, a rhoi sicrwydd iddynt allu parhau i wneud hynny. Mae angen ffrind ar ffermio ac am unwaith, gadewch i'r lle hwn fod yn ffrind. Gadewch inni gael ein ffermwyr, ein proseswyr a'n manwerthwyr i eistedd o amgylch y bwrdd mewn uwchgynhadledd fwyd, gadewch inni ddefnyddio'r Bil amaethyddol i sicrhau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn nwydd cyhoeddus, gadewch inni gefnogi Bil bwyd rhagorol Peter Fox, a gadewch inni beidio â gwastraffu'r cyfle sydd ger ein bron. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;
b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd ffermydd teuluol bach cynhyrchiol o ran cynnal yr economi, yr iaith a'r diwylliant yng nghefn gwlad Cymru.
Yn credu y bydd toriadau i gyllid amaethyddol Cymru gan Lywodraeth y DU, ynghyd â Chytundebau Masnach Rydd newydd gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, yn cael effaith negyddol bellach ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) amddiffyn diogelwch bwyd a chynhyrchu bwyd drwy ddarparu taliadau sefydlogrwydd fel rhan o'r cynllun cymorth ffermio nesaf;
c) datblygu ffyrdd o leihau costau mewnbwn i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, er mwyn lleihau cost y bwyd y maent yn ei gynhyrchu i ddefnyddwyr.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Dwi'n cyflwyno'r gwelliant, a diolch i Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl mewn modd mor huawdl yma. Yn elfennol, gellir berwi'r ddadl yma lawr i un egwyddor graidd, sef yr hawl i fwyd. Ond, yn anffodus, mae llawer gormod o bobl yn byw efo ansicrwydd bwyd, heb wybod o ble y daw eu pryd bwyd nesaf. Mae chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi ac yn gorfod blaenoriaethu bwyd, neu wres, neu hanfodion eraill. Rŷn ni'n edrych ymlaen i weld taith y Bill bwyd rydyn ni wedi clywed amdano eisoes gan Sam—y daith honno drwy'r Senedd—er mwyn medru sicrhau datblygiadau cadarnhaol a chadarnhau'r ymrwymiad hynny am yr hawl i fwyd.
Ond mae'n sefyll i reswm, felly, os oes yna hawl i fwyd, yna mae'n rhaid cynhyrchu'r bwyd yma, ac allwn ni ddim dibynnu ar fewnforio bwyd o bob cwr o'r byd am byth. Mae argyfyngau diweddar, yn fwy penodol rhyfel Wcráin a'r argyfwng newid hinsawdd, yn dangos yn fwy nag erioed yr angen i ni ddatblygu ein gallu i dyfu a phrosesu bwyd yma yng Nghymru. Mae'r angen i gryfhau'r system gaffael gyhoeddus wrth gwrs yn allweddol i hyn, ond yn ganolog i'r cyfan mae ein ffermydd a'r bobl hynny sy'n gweithio ar ein ffermydd.
Rŵan, wrth sôn am ffermydd Cymru, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y diwydiant yma yn wahanol iawn i'r diwydiant amaeth dros Glawdd Offa. Yn wir, mae'n unigryw i Gymru. Ffermydd bach, teuluol sydd gennym ni yma gan fwyaf, efo swyddi gwledig yn y cymunedau cyfagos yn ddibynnol arnyn nhw, heb sôn am hyfywedd diwylliannol y cymunedau hynny. Mae parhad y Gymraeg dros y ganrif ddiwethaf wedi bod yn ddibynnol i raddau helaeth ar y ffermydd a chymunedau gwledig yma.
Ond mae'r ffermydd yma hefyd yn llawer iawn mwy agored i unrhyw niwed a ddaw yn sgil cytundebau masnach gwael. Mae cytundebau megis y rhai diweddar sydd wedi cael eu cytuno rhwng y wladwriaeth hon ac Awstralia ac Aotearoa yn golygu bod ffermwyr Cymru bellach ar fympwy marchnad sy'n poeni dim amdanyn nhw ac nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosto. Pe byddai yna newid, er enghraifft, yn y farchnad gig oen yn Tsieina neu'r Unol Daleithiau, yna buan iawn y gwelem ni gig oen o Aotearoa yn cael ei gyrru i'r Undeb Ewropeaidd neu i'r wladwriaeth hon, a gan nad oes tariff arno, yna bydd o'n tanseilio ein diwydiant ni yn llwyr. Yn wir, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhagamcanu y bydd y cytundeb ag Awstralia yn arwain at gwymp o £29 miliwn yn GVA diwydiant cig coch Cymru, a gallai'r ddau gytundeb efo'i gilydd arwain at gwymp o £50 miliwn, heb sôn, wrth gwrs, am y cannoedd o filiynau o bunnoedd y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi torri o gyllideb ffermwyr yn sgil Brexit. Mae'n deg dweud bod y Ceidwadwyr wedi gadael ffermwyr Cymru mewn pydew tywyll iawn.
Mae ein gwelliant ni heddiw, felly, yn sôn yn benodol am yr angen i gynnull uwchgynhadledd fwyd er mwyn sicrhau diogelwch bwyd. Mae hyn, wrth gwrs, yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Efo pris gwrtaith a thanwydd wedi cynyddu yn aruthrol, rydym yn gweld ffermwyr yn gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn. Mae rhai yn gorfod gwerthu eu lloeau stôr yn gynnar er mwyn sicrhau incwm i dalu am y deunyddiau crai. Mae eraill yn gorfod dogni eu defnydd o wrtaith gan beryglu eu cnwd. Mae pris gwrtaith wedi cynyddu 200 y cant mewn llai na blwyddyn, a phorthiant wedi mynd i fyny dros 60 y cant yn yr un cyfnod.
Wrth gwrs, effaith hyn fydd effeithio ar ein gallu ni i gynhyrchu bwyd, sicrhau diogelwch bwyd yma ac, yn ei dro, effeithio ar incwm ffermydd ac economi wledig Cymru. Tra bod peth o'r cynnydd diweddar yn ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y cynnydd yma wedi bod ar waith ers misoedd cyn anfadwaith Putin. Mae'r argyfwng costau byw am gael effaith andwyol ar ein ffermydd a'n gallu i gynhyrchu bwyd, ac amcangyfrifir y gwelwn ni gostau bwyd yn yr archfarchnad yn cynyddu tua 20 y cant erbyn yr hydref.
Dyma pam mae angen cynnull uwchgynhadledd o'r fath, er mwyn sicrhau bod pob dim yn cael ei wneud i sicrhau y gall ein ffermydd barhau i gynhyrchu bwyd a chyfrannu at ein cymunedau. I'r perwyl yma, mae angen taliadau sefydlogrwydd ar ffermydd er mwyn sicrhau eu hyfywedd, ac mae angen archwilio pob ffordd bosib i leihau costau cynhyrchu.
Dwi'n nodi bod Sam Kurtz, yn ystod ei gyfraniad, wedi datgan siom ein bod ni wedi rhoi gwelliant. Dwi'n nodi hynny, ac yn diolch iddo fo a'r Ceidwadwyr am y cynnig, ond, wrth gwrs, mae ein gwelliant ni yn gwneud yn union hynny: yn cryfhau ac yn gwella cynnig rydyn ni'n cefnogi'r rhan fwyaf ohono. Felly, cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr iawn.
Credaf fod hon yn sicr yn ddadl bwysig ac amserol iawn o ystyried yr argyfwng bwyd yr ydym i gyd yn ymwybodol ohono, a'r ffaith bod hynny'n mynd i gynyddu yn ei ddifrifoldeb dros y misoedd nesaf. Gwyddom i gyd ei bod hefyd yn her yn y tymor canolig ac yn hirdymor oherwydd effaith newid hinsawdd, ac mae gwir angen i ni yng Nghymru chwarae ein rhan i ddatblygu'r cadwyni bwyd lleol hyn fel bod bwyd lleol o safon yn cael ei fwyta'n lleol a'n bod yn cefnogi ein ffermydd bach a'n busnesau lleol. Hoffwn sôn am un neu ddwy enghraifft o hynny, a hefyd yr angen i fynd i'r afael â gwastraff bwyd, oherwydd fe wyddom, rwy'n credu, mai'r ffigur yw bod 9.5 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yn y DU, ac amcangyfrifir bod 70 y cant ohono'n fwytadwy ac wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta.
Felly, rwy'n credu mai rhai enghreifftiau lleol i mi, wrth ymdrin â rhai o'r heriau hyn, yw Castle Farm yn Nhrefesgob yng Nghasnewydd, sef fferm fach leol sydd â syniadau ac egni, ac sy'n troi hynny'n weithredu, gan wireddu polisïau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru drwy eu cyflawni ar lawr gwlad. Maent yn cynhyrchu bwyd lleol o safon, maent yn cynhyrchu wyau maes, mae ganddynt fuches laeth fach—rhy fach i fod yn hyfyw pe baent ond yn gwerthu'r cynnyrch crai yn unig, ond oherwydd eu bod yn ychwanegu at hynny drwy gael peiriannau gwerthu ysgytlaeth—un yn eu siop fferm leol ar y fferm, ond bydd ganddynt fwy a mwy o rai eraill o gwmpas y gymuned leol. Ac mae ganddynt, er enghraifft, ddwy siop leol, un yng nghanolfan siopa Ffordd y Brenin yng Nghasnewydd, siop Castle Farm yno, a hefyd ym marchnad Casnewydd a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac a ailagorodd yr wythnos diwethaf, mae ganddynt stondin yno hefyd. Ac yn ogystal ag ychwanegu gwerth at eu cynnyrch llaeth drwy gynhyrchu ysgytlaeth, maent hefyd yn cynhyrchu hufen iâ ar y fferm, ac yn gwerthu hwnnw yn eu siopau wrth gwrs. Maent yn mynd i farchnadoedd lleol, ac maent bob amser yn chwilio am bosibiliadau newydd, safleoedd newydd, lle y gallant werthu eu cynnyrch o safon. Ac maent hefyd yn cysylltu â ffermydd lleol eraill ac yn gwerthu cynnyrch y ffermydd hynny hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda iawn o fferm fach leol yn cael syniadau ac egni go iawn ac yn troi hynny'n weithredoedd.
A hoffwn dynnu sylw at y farchnad honno yng Nghasnewydd sydd wedi'i hadnewyddu hefyd, oherwydd mae o'r ansawdd gorau. Mae ganddi gwrt bwyd, mae ganddi fusnesau lleol yno'n gwerthu eu cynnyrch, gan gynnwys llawer o fwyd a diod. Mae ganddi le arddangos, bydd nifer fawr o ymwelwyr yn dod drwy'r farchnad honno, a bydd hynny'n wych i werthwyr bwyd a diod lleol. Felly, mae hwnnw'n gyfle gwirioneddol, ac mae angen inni gyfleu'r neges i fusnesau a ffermydd lleol y gallant gysylltu â'r farchnad honno yng Nghasnewydd i wireddu'r cadwyni cyflenwi lleol hynny.
Hoffwn bwysleisio hefyd pa mor bwysig yw pantrïau bwyd, sydd, er enghraifft, wedi'u lleoli yn llyfrgell Maendy yng Nghasnewydd, a hefyd yng Nghil-y-coed, yng nghanol y dref, lle maent yn ymdrin â heriau gwastraff bwyd drwy fynd â bwyd o archfarchnadoedd, bwyd sy'n amlwg yn fwytadwy, a'i werthu—nid ei werthu, ond sicrhau ei fod ar gael am ddim i'r rhai sydd ei angen yn lleol. Ac mae'r rheini'n enghreifftiau da iawn, yn enghreifftiau ymarferol, o'r hyn y gellir ei wneud, a chredaf y bydd gan y pantrïau bwyd hyn rôl gynyddol i'w chwarae ledled Cymru. Felly, mae ganddynt fwyd oer yn y cabinet, ond hefyd mae ganddynt amrywiaeth o fwyd arall mewn trolïau siopa sydd ar gael i gymunedau lleol. Ac wrth gwrs, maent yn gwneud llawer o waith o amgylch hynny, oherwydd pan fydd ganddynt bobl yn dod i'w gweld sydd angen y cyflenwadau bwyd hynny, yn aml bydd ganddynt anghenion eraill hefyd, ac mae modd eu cysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau eraill.
Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr holl enghreifftiau hyn—a gwyddom fod llawer ohonynt ledled Cymru, ar hyd a lled Cymru—yn cael eu dwyn i sylw Aelodau'r Senedd a Gweinidogion a swyddogion y Llywodraeth, oherwydd mae'n amlwg y gallwn ddysgu o'r arferion da sy'n digwydd ledled Cymru a lledaenu'r arferion da hynny, a chyflawni'r uchelgeisiau a'r polisïau y credaf fod llawer ohonom yn eu rhannu, gwireddu'r cylchoedd cyflenwi bwyd lleol rhinweddol hyn ar lawr gwlad a mynd i'r afael â gwastraff bwyd hefyd. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed llawer o enghreifftiau lleol da eraill yma heddiw yn y ddadl bwysig hon.
Gyda sector bwyd a chynnyrch cyfoethog ac amrywiol, mae gan Gymru rôl unigryw i'w chwarae yn dangos sut y gall fod yn hunangynhaliol yn ystod argyfyngau cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym bellach yn wynebu pennod na welwyd ei thebyg o'r blaen o ran diogelwch y cyflenwad bwyd, a'n gallu i fynd ati'n gyflym i ddiogelu diwydiant Cymru, y bobl y mae'n eu cyflogi a'r rhai y mae'n darparu ar eu cyfer. Gan fod Brynle Williams, y diweddar Brynle Williams, wedi cael ei grybwyll yma heddiw, rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â fy nghyd-Aelodau, Paul Davies ac Andrew Davies, oherwydd—. Roedd diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhywbeth arall yr oedd Brynle Williams yn ei hyrwyddo yn ystod y blynyddoedd lawer y bu yma yn y Siambr hon.
Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru nid yn unig wedi bod yn araf yn ymateb i'r heriau cynyddol sy'n ein hwynebu, ond mae wedi bod yn hunanfodlon ynghylch rhai o'r problemau a achoswyd, ac o ganlyniad, mae wedi methu'n sylfaenol â rhoi pobl Cymru yn gyntaf. Diogelwch y cyflenwad bwyd yw'r sefyllfa o gael mynediad dibynadwy at ddigon o fwydydd fforddiadwy, maethlon. Nawr, er nad oes yr un ohonom sy'n eistedd yma heddiw yn cael unrhyw anhawster cael gafael ar y rhain, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dweud bod 9 y cant o bobl Cymru yn profi lefel isel o ddiogelwch yn eu cyflenwad bwyd, ac mae un o bob pump o bobl bellach yn poeni ynglŷn â mynd yn brin o fwyd. Mae'n frawychus fod chwarter y bobl ifanc 16 i 34 oed yn mynd yn brin o fwyd ar ryw adeg bob blwyddyn.
Nawr, wrth inni fynd i'r afael â chyflwr diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru, mae'n hanfodol fod cyd-Aelodau ar y fainc gyferbyn yn cydnabod safbwynt gofidus Llywodraeth Cymru a'i gwrthodiad i ystyried bwyd fel nwydd cyhoeddus. Mae gwlad gydag adnoddau enfawr, ac a ystyrir yn fasged bara Ewrop, wedi arwain at herio'r cysyniad o ddiogelwch y cyflenwad bwyd, yn dilyn ymosodiad ofnadwy Rwsia ar Wcráin. Gyda'r gostyngiad yn ei hallforion i'w deimlo ledled y byd, dyma'r amser i Gymru adolygu ac addasu tra bod ganddi gyfle i wneud hynny.
Mae gwledydd yng ngogledd Affrica a'r dwyrain canol yn enghraifft wych o ba mor gyflym y gall pethau ddirywio. Mae'r Aifft yn mewnforio 85 y cant o'i gwenith o Rwsia, ac mae Lebanon yn cael 66 y cant o'i gwenith o Wcráin—mae'r rhanbarthau bellach yn wynebu lefel uwch o ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd. Ac yn nes adref, hyd yn oed cyn yr argyfwng yn Wcráin, mae gan Gymru ei phroblemau ei hun.
Fel y nododd yr RSPB yn eu hadroddiad ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd mewn argyfwng natur a hinsawdd yn 2018, nododd y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth fod cyflenwad bwyd oddeutu 2.2 miliwn o bobl yn y DU yn ansicr iawn, gan olygu mai 'r DU oedd y wlad gyda'r lefel uchaf a gofnodwyd o ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd yn Ewrop. Fe wnaeth dechrau'r pandemig COVID-19 waethygu ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd ymhellach, gyda cholli incwm a mynediad cyfyngedig at ffynonellau bwyd arferol.
Gyda hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod ein ffermwyr bellach ar flaen y gad yn diogelu a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd, a gallant hefyd fod rhan bwysig o chwyldro mewn perthynas â'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Bangor fod ffermydd defaid ac eidion Cymru sy'n defnyddio dulliau nad ydynt yn rhai dwys yn cynhyrchu lefelau o allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd ymhlith yr isaf o gymharu â systemau tebyg yn fyd-eang.
Wrth edrych ar ddibyniaeth ar fwyd, mae'r Adran Bwyd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi adrodd bod y Deyrnas Unedig 64 y cant yn hunangynhaliol ym mhob bwyd, a 77 y cant yn hunangynhaliol mewn bwyd o fath brodorol, o'i gymharu â'r Ffindir a Gweriniaeth Iwerddon, sef y ddwy wlad lle y ceir y lefelau uchaf yn y byd o ddiogelwch yn y cyflenwad bwyd. Maent yn sgorio 85.3 ac 83.8 ar raddfa'r mynegai, gyda'r Deyrnas Unedig ar 78.5.
Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ar unwaith o ddiogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: er bod ailgoedwigo yng Nghymru yn hanfodol, pam eich bod yn peryglu bywoliaeth a diogelwch y cyflenwad bwyd ymhellach drwy osod targed plannu coed a allai olygu bod gofyn coedwigo 3,750 o ffermydd teuluol Cymru yn llwyr?
Mae cynhyrchu bwyd yn y Gymru wledig dan fygythiad mwy difrifol nag erioed o'r blaen. Mae rhywfaint o hyn oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru ar amaethyddiaeth a newid hinsawdd. Rhaid i hyn ddod i ben a sefydlu comisiwn pontio teg i sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig, ac nad yw'n cael effaith negyddol ar y Gymraeg sy'n ffynnu'n hanesyddol a chynhyrchiant bwyd yn y Gymru wledig.
Mae angen inni gynyddu cynhyrchiant, ac mae angen inni wneud ein cynnyrch blasus hyd yn oed yn fwy cystadleuol ar y llwyfan byd-eang. Rwyf wedi dweud droeon yma o'r blaen ei bod yn annerbyniol fod oes silff cig oen Cymru oddeutu 36.5 diwrnod, tra bod Seland Newydd wedi sicrhau hyd at 110 diwrnod o oes silff i gig oen wedi'i becynnu drwy ddefnyddio nwy carbon deuocsid.
Dewch â'ch sylwadau i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
O'r gorau. Rwy'n cymeradwyo'r nod yn y Bil bwyd (Cymru) arfaethedig i ddileu gwastraff bwyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru nid yn unig gydnabod ei fod yn destun pryder mawr, mae hefyd yn gwrthdaro yn erbyn ei dull o wrthsefyll newid hinsawdd a diogelu'r cyflenwad bwyd yma yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar Jenny Rathbone.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf—os caf osod y ddarllenfa. Diolch yn fawr iawn. Cytunaf fod hon yn ddadl eithriadol o bwysig, a diolch i'r Blaid Geidwadol am ei chyflwyno. Ni allaf ddweud fy mod yn anghytuno ag unrhyw ran o'r cynnig na'r gwelliannau, a rhaid imi ddweud bod llawer iawn o gytundeb o ran yr hyn y mae angen inni ei wneud.
Felly, yn 2020, cynhaliodd Tyfu Cymru arolwg o'r 200 o fusnesau garddwriaeth a oedd gennym bryd hynny yng Nghymru, a datgelodd nad oedd Cymru'n tyfu mwy na chwarter darn o ffrwyth neu lysieuyn y dydd ar gyfer ein poblogaeth—chwarter o'r saith y dydd y credaf fod iechyd y cyhoedd yn ein hargymell i'w bwyta erbyn hyn. A gwnaethpwyd achos cryf bryd hynny, bron i ddwy flynedd yn ôl, dros gynllun grant cyfalaf bach a fyddai wedi galluogi'r cynhyrchwyr bach hynny i ddyblu eu cynhyrchiant garddwriaethol. Yn anffodus, penderfynodd y Gweinidog beidio â derbyn yr argymhelliad hwnnw.
Felly, dyma ni yn 2022, ac nid yw'n ymddangos ein bod wedi gwneud unrhyw gynnydd sylweddol, tra bod diogelwch ein cyflenwad bwyd wedi dirywio'n sylweddol. Nid Brexit yn unig, sy'n golygu nad oes gennym bobl i gasglu'r cynnyrch mwyach, sy'n gyfrifol am hynny; mae'r rhyfel yn Wcráin hefyd yn tarfu ar farchnadoedd bwyd rhyngwladol. Felly, aeth cynllun peilot bach iawn yn ei flaen yn 2020, ar ddiwedd 2020—galluogodd £20,000 bum busnes ffrwythau a llysiau i dalu am ddau dwnnel polythen, dwy sied bacio, twll turio i ddod â dŵr i safle, a thröwr compost rhenciog i greu bwyd ar gyfer y pridd. Dengys gwerthusiad Amber Wheeler fod gwerthiant llysiau ar y raddfa fach hon wedi cynyddu 75 y cant. Ac os cyfrifwch hynny ar gyfer pob un o'r 200 o fusnesau garddwriaethol hyn—ac efallai y bydd un neu ddau arall yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf—gallem ddechrau gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd ar gyfer un o dri phrif gynhwysyn deiet iach.
Felly, ar ôl 11 mlynedd o godi'r materion hyn yn y Senedd, nid yw'n wych ein bod yn dal i sôn am ddatblygu strategaeth fwyd. Nid oes gennym strategaeth o'r fferm i'r fforc ac yng nghyd-destun prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd, rhaid inni fod yn onest fod ein prosesau caffael yn dal i fod yn waith ar y gweill. Ac mae'n dal yn eithaf aneglur sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gael strategaeth gynhwysol gydlynol, hirdymor i ddwyn ynghyd yr economi sylfaenol, ein hamcanion carbon sero net, ein hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'n hamcanion iechyd cyhoeddus i greu poblogaeth iachach.
Rydym yn sôn am ddatblygu strategaeth fwyd gryfach, decach a gwyrddach, ond nid yw'n ymddangos bod gennym gynllun. Felly, rwy'n cytuno â Sam Kurtz fod bwyd yn nwydd cyhoeddus, ac mae angen inni sicrhau ein ffermwyr fod gan ffermio yng Nghymru ran bwysig iawn i'w chwarae yn gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd.
Sut y mae Gweinidog yr economi'n cynyddu nifer yr arlwywyr sydd â sgiliau coginio? Sut y bydd yr 1 filiwn o goed y byddwn yn eu plannu yn cynyddu nifer y perllannau sydd gennym, pan fydd gennym Coed Cadw yn dweud mai dim ond coed ysgaw, coed eirin a choed afalau surion fydd yn cael eu hystyried yn goed Cymreig, er bod llawer iawn o dystiolaeth i'w chael fod pobl wedi bod yn tyfu coed ffrwythau ers cannoedd o flynyddoedd yng Nghymru?
Yng ngoleuni'r hyn a ddywedodd John Griffiths, efallai y gallai Casnewydd—. Gallai'r farchnad a adnewyddwyd yng Nghasnewydd fod yn ganolbwynt i bartneriaeth fwyd leol yng Nghasnewydd, oherwydd dyna sydd ei angen arnom, ac mae angen inni wneud hyn yn lleol.
Mae gennym fygythiad llawer mwy i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd na hyd yn oed Brexit neu Wcráin, sef ein hinsawdd. Os nad awn i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a gwneud yr hyn y dywedwn ein bod am ei wneud, ni fyddwn yn gallu cynhyrchu'r bwyd y byddwn ei angen, a bydd y dyfodol yn llwm iawn i genedlaethau'r dyfodol. Felly, yn union fel y mae'r rhyfel yn Wcráin yn gofyn inni gyflymu'r broses o newid i ynni gwyrdd, mae'r rhyfel yn Wcráin yn ei gwneud yn ofynnol inni leihau ein dibyniaeth ar wrtaith a dechrau addasu ein cynhyrchiant bwyd i ddiogelu a gwella ansawdd ein pridd a mynd i'r afael â'n hargyfwng natur. Beth ar y ddaear sy'n bod arnom yn cael yr holl siediau ieir hyn sy'n ei gwneud yn ofynnol inni fewnforio corn o ben draw'r byd, gan gynnwys torri coed yr Amazon?
Felly, y mis hwn o bob mis, ym mis Mawrth, sut rydym yn annog tyfwyr i blannu fel bod gennym allu yn wir i fwydo'r tlotaf yn ein poblogaeth, sy'n gorfod dewis rhwng bwyta a gwresogi? Rydym wedi gweld pris bwyd yn codi'n arswydus i bobl ar incwm isel, a gallaf ddweud wrthych fod y prisiau yn y farchnad gyfanwerthol yng Nghaerdydd mor uchel yr wythnos hon fel bod y manwerthwyr ofn ei brynu hyd yn oed, am nad ydynt yn credu y byddant yn gallu ei werthu, ac os nad ydynt yn ei werthu, byddant yn gwneud colled enfawr wrth gwrs.
A wnewch chi dynnu tua'r terfyn, os gwelwch yn dda?
Mae gennym yr holl gynhwysion ar gyfer diogelu'r cyflenwad bwyd yng Nghymru; mae gennym ddŵr, tir a haul, ac mae gwir angen inni fwrw iddi a sicrhau bod gennym strategaeth fwyd gydlynol a diogel i fyd natur i wella diogelwch ein cyflenwad bwyd a llesiant ein pobl.
Mae'r cynnydd y mae'r ddynoliaeth wedi'i wneud hyd yma yn deillio o'r chwyldro amaethyddol. Heb i ffermio allu bwydo'r boblogaeth, ni fyddem wedi cael ein chwyldro diwydiannol, sy'n ffurfio'r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Mae gallu cynnal poblogaeth sy'n tyfu â bwyd dibynadwy o ansawdd da yn allweddol i'r gymdeithas sefydlog a ffyniannus y byddai pob un ohonom yn gobeithio byw ynddi. Byddwn yn dadlau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yr un mor bwysig yn awr ag y bu erioed. Mae cyflenwadau bwyd digonol o ansawdd da wedi caniatáu i'n cymdeithas esblygu a meithrin mwy o sgiliau. Ond mae hyn yn gwbl ddibynnol ar allu ein ffermwyr i gynhyrchu'r bwyd sydd ei angen arnom. Y rhai sy'n cynhyrchu ein bwyd yw asgwrn cefn ein bodolaeth. Rwyf fi ac Aelodau eraill o'r Senedd yn fy mhlaid, fel Sam Kurtz, Peter Fox a'n harweinydd goleuedig, Andrew R.T. Davies, wedi gweithio, ac yn dal i weithio yn y diwydiant ffermio, ac yn gwybod yn iawn am gymhlethdodau'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu.
Y peth cyntaf y mae llawer ohonom yn ei wneud pan fyddwn yn deffro yw meddwl beth a gawn i frecwast, cinio neu swper—neu yn fy achos i, rwy'n tueddu i feddwl am hynny cyn gynted ag y bydd y pryd ddiwethaf wedi'i fwyta. Ond hyd yn oed ar adegau o argyfwng ac anhrefn, ein hangen dynol sylfaenol yw bwyd a dŵr i'n galluogi i oroesi, a dylai pawb allu cael hynny. Bellach, caiff bwyd ei weld fel nwydd a fasnechir ar draws y byd; mae globaleiddio bwyd yn golygu bellach ein bod wedi dod yn agored i ergydion mewn gwledydd ledled y byd. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr, lle bydd ein dibyniaeth arferol ar farchnadoedd a arferai fod yn sefydlog yn cael ei phrofi. Fel y dywedwyd, mae'r sefyllfa yn Wcráin a Rwsia yn peri pryder sylweddol i bob un ohonom, gan fygwth cyflenwadau'r byd o flawd, grawn a gwrtaith a chemegau i farchnad y DU, pethau y mae arnom eu hangen.
Gall prinder bwyd a phrisiau cynyddol fygwth trefn y byd. Gallai codi pris bara yn Affrica a'r dwyrain canol ansefydlogi llawer o lywodraethau a democratiaethau. Gwelsom drosom ein hunain, yma yn ein gwlad ni, yn ystod COVID fod silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd wedi achosi panig eang, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cadw ein gwlad wedi'i bwydo. Rhaid inni sicrhau, yma yng Nghymru, ein bod yn gallu gwrthsefyll ergydion gwleidyddol, ffisegol ac ariannol o bob cwr o'r byd. Gwta ddeuddydd yn ôl, cafwyd erthygl yn The New York Times dan y pennawd 'Ukraine War Threatens to Cause a Global Food Crisis'. Amlinellai'r darn y ffaith bryderus fod cyfran allweddol o wenith, corn a barlys y byd wedi'i ddal yn Rwsia ac Wcráin oherwydd y rhyfel, tra bod cyfrannau mwy fyth o wrtaith y byd wedi'i ddal yn Rwsia a Belarws heb unrhyw arwydd eu bod yn mynd i unman.
Mynegwyd pryderon ynghylch mewnforio bwyd neu fwydydd anifeiliaid, nid yn unig o safbwynt diogelwch y cyflenwad bwyd, ond mewn perthynas â'r difrod amgylcheddol y mae hyn yn ei achosi yn y gwledydd hynny ac ôl troed cludiant. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi hyrwyddo cynnyrch lleol o'r fferm i'r fforc ac addysgu ein pobl ifanc a'r genedl i wybod mwy ynglŷn â tharddiad eu bwyd. Ac mae'n rhaid inni fod yn falch o'n sector amaethyddol yma yng Nghymru: maent yn cynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf mewn modd cynaliadwy ac yn gwneud gwaith anhygoel ddydd ar ôl dydd. Dylem gefnogi'r sector hwn a chydnabod pa mor hanfodol ydynt i ddiogelu'r cyflenwad bwyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn y Papur Gwyn, yn gwneud diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhan allweddol o hynny.
Rwy'n cymeradwyo Bil bwyd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, i fynd i'r afael â gwastraff bwyd. Credaf y dylem symud oddi wrth fwyd cyfleus, a hyrwyddo cynnyrch lleol tymhorol wedi'i goginio gartref, a'r holl fanteision iechyd cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn. Ers COVID, credaf fod gan boblogaeth Cymru well dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a tharddiad eu bwyd, a gwelwyd newid yn ôl, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, i brynu'n lleol a chefnogi ein busnesau lleol. Ond rwy'n credu bod angen inni ei wneud yn gliriach ar ddeunydd pacio bwyd, a nodi cynhyrchion lleol a tharddiad ein bwyd. Mae angen labelu gwell ar fwydydd fel y gallwn ddewis bwyta cynnyrch o Gymru neu Brydain. Ar hyn o bryd, mae llawer o fwydydd yn cael eu marchnata fel rhai Prydeinig er mai dim ond cael eu pecynnu yn y wlad hon y maent, a chredaf fod hynny'n warthus.
Rydym yn wynebu llawer o heriau yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod, o ryfeloedd i newid hinsawdd, a phob un ohonynt yn cryfhau ein dadl dros ddiogelu'r cyflenwad bwyd yn well o fewn ein ffiniau. Ac rwy'n erfyn ar Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw.
Yn gyntaf, a gaf fi wneud y pwynt fod prisiau bwyd cynyddol eisoes yn broblem cyn i Rwsia ymosod ar Wcráin, a'i fod, yn rhannol, yn ganlyniad i'r pandemig a hefyd oherwydd Brexit? Mae'n peri pryder i mi fod y Ceidwadwyr, mewn dadleuon diweddar, wedi ceisio anwybyddu'r ffeithiau am yr argyfwng costau byw a wynebwn yn awr, a phenderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU sydd wedi achosi'r argyfwng hwn a'r ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd sy'n dod gyda hynny, nid y rhyfel a'r pandemig yn unig, sef y rhethreg ddiweddaraf a glywaf.
Mae blynyddoedd o gyni wedi achosi ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi i'r 22 y cant o bobl yng Nghymru a gyflogir mewn gwasanaethau cyhoeddus. Torri'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol, cynyddu yswiriant gwladol 1.25 y cant ym mis Ebrill a chodi'r cap ar ynni 54 y cant yw rhai o'r rhwystrau enfawr sydd wedi'u gosod ar deuluoedd—[Torri ar draws.]—yng Nghymru a fydd yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyta neu wresogi eu cartrefi o ganlyniad uniongyrchol i'r polisïau hyn.
Yn ogystal, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ailadrodd eu pryderon am y cytundeb masnach presennol ag Awstralia. Mae rhyddfrydoli masnachu nwyddau amaethyddol yn llawn yn creu perygl o ddadleoli cynhyrchiant bwyd Cymru a'r DU, a gallai osod rhwystrau pellach ar allforion y DU i'r UE. Ond ar wahân i'r pwynt hwn, rwy'n croesawu gwelliant Lesley Griffiths ar ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol i Gymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru. Cytunaf hefyd y dylai bwyd fod yn nwydd cyhoeddus, fel y crybwyllwyd yn gynharach, ac y dylid labelu cynnyrch yn well.
Yn ddiweddar gofynnais gwestiwn am ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus yng ngogledd Cymru, ond dywedwyd wrthyf fod llawer o'r tir yn y gogledd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu cig a llaeth, gan ddilyn y cyfartaledd byd-eang o ddefnyddio 77 y cant o'r tir at y diben hwnnw, a dim ond yn Sealand yng ngogledd Cymru y caiff ei ddefnyddio ar gyfer cnydau ar raddfa fawr, felly byddai'n rhaid inni edrych ar hynny mewn gwirionedd. Ond efallai mai'r bygythiad hirdymor mwyaf i ddiogelwch ein cyflenwad bwyd yw effeithiau newid hinsawdd, sydd eisoes wedi cael effaith enfawr ar faint cnydau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfnodau anarferol o sych a llifogydd ofnadwy hefyd. Felly, rhaid inni ystyried hynny yn ogystal.
Mae angen gweithredu ar frys i ddiogelu ein bioamrywiaeth ac adfer ein hadnoddau naturiol. Dros y blynyddoedd, mewn rhai ardaloedd, er mwyn cynyddu cynhyrchiant, mae pyllau a ffosydd wedi'u draenio a gwrychoedd wedi'u difa, ac rydym wedi colli 97 y cant o'n dolydd gwair ledled y DU. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae angen inni symud cymorthdaliadau amaethyddol tuag at wobrwyo ffermwyr yn briodol am gynhyrchu canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol, gan gynnwys gwella iechyd pridd, aer a dŵr glân, a diogelu bioamrywiaeth. Ond mae angen inni hefyd annog mwy o gynhyrchiant bwyd lleol.
Ar ôl y rhyfel, adeiladwyd tai cyngor gyda gerddi mawr fel y gallai pobl dyfu llysiau ynddynt. Roedd rhandiroedd cymunedol a ffermydd yn tyfu amrywiaeth o gnydau mewn cylchdro, gan greu ecosystemau ac ardaloedd o fioamrywiaeth. Cyfarfûm â grŵp yn sir y Fflint o'r enw FlintShare, lle maent yn cyflawni ffermio cymunedol mewn tri lleoliad ac yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau tymhorol. Wrth symud ymlaen, hoffwn weld mwy o'r prosiectau sydd wedi'u gwreiddio yn y gymuned yn cael eu cefnogi mewn siroedd ledled Cymru. Diolch.
Ac yn olaf, Peter Fox.
Diolch, Lywydd dros dro. Ac er mwyn y cofnod, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol—a dweud y gwir, rwy'n edrych ar wartheg y tu allan i'r ffenestr wrth imi eistedd yma. A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? A bod yn onest, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn rhywbeth y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol. Fel cymdeithas, rydym yn gyfarwydd at ei gilydd â mynd i archfarchnad, gwneud ein siopa wythnosol a dychwelyd adref heb feddwl fawr ddim ynglŷn â tharddiad ein bwyd a sut y caiff ei gynhyrchu. Ond mae digwyddiadau diweddar wedi creu storm berffaith ac wedi dod â diogelwch y cyflenwad bwyd i'r amlwg. Mae'r pandemig COVID-19 wedi achosi hafoc i gadwyni cyflenwi ledled y byd ac mae hyn wedi cael effaith ar argaeledd cynhyrchion yma yng Nghymru. Rydym hefyd yn dechrau gweld effeithiau'r ymosodiad erchyll a diangen gan Rwsia ar Wcráin, gan godi prisiau a chyfyngu ar argaeledd mewnforion cynhwysion crai.
Rwy'n gresynu bod gwelliant Llafur wedi mynd ati'n amlwg i wleidyddoli'r mater dan sylw, ac nid yw'r iaith a ddefnyddir yn helpu dim ar adeg pan fo pobl yn chwilio am atebion gan bob Llywodraeth. Credaf hefyd fod gwelliant y Llywodraeth yn edrych yn fwy hirdymor ar y mater ac yn methu sôn am gamau y mae angen eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â phroblemau sy'n wynebu llawer o bobl ar hyn o bryd. Ac felly, yn hyn o beth rwy'n cefnogi galwadau, fel y nodwyd yn y cynnig sydd ger ein bron, am fwy o gydweithredu ar draws Llywodraethau a'r sectorau bwyd ac amaeth drwy uwchgynhadledd fwyd. Bydd hyn yn ein helpu i asesu lefelau diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i liniaru rhai o'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Fel y dadleuais o'r blaen yn y Siambr hon, mae ffermwyr yn dal i bryderu bod y cynllun ar gyfer helpu ffermwyr yn y dyfodol yn gogwyddo gormod tuag at dalu am nwyddau cyhoeddus, gyda diffyg cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru sy'n ceisio cynhyrchu bwyd fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd da i'n cymunedau. Hefyd, mae angen inni lacio rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu ffermwyr i'w galluogi i ddefnyddio mwy o'u tir ar gyfer cynhyrchu bwyd. Disgwylir i ffermwyr âr adael cyfran o'u tir yn fraenar, ond gyda mewnbynnau a gorbenion yn cynyddu ar raddfa frawychus, ni fydd llawer o ffermwyr yn gallu cynnal y lefelau cynhyrchiant presennol. Ac felly, bydd rhyddhau tir yn helpu i wneud iawn am y diffyg hwnnw mewn rhyw ffordd ac yn caniatáu i ffermwyr arallgyfeirio ychydig mwy.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn ailadrodd yr angen am sail ddeddfwriaethol gryfach i'r system fwyd yng Nghymru. Wrth ddatblygu fy nghynnig Bil bwyd, clywais dro ar ôl tro nad yw gwahanol rannau o'r system fwyd bob amser yn siarad â'i gilydd, a bod angen i lywodraethu bwyd a'r strategaeth ehangach wella os ydym am ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. A chredaf fod digwyddiadau diweddar wedi dangos sut y mae angen strwythurau ar waith a all ddod â chynhyrchwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, at ei gilydd i hyrwyddo cynlluniau strategol ac i hyrwyddo cadwyni cyflenwi cynaliadwy a gwydn yn fwy lleol. Edrychaf ymlaen at drafod y materion hyn gydag Aelodau a rhanddeiliaid wrth i fy Mil fynd drwy'r Senedd yn y dyfodol.
I orffen, Lywydd—Lywydd dros dro, mae'n ddrwg gennyf—rydym yn byw mewn cyfnod gofidus gyda chyfres o ddigwyddiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn dod at ei gilydd i greu heriau nad ydym wedi'u hwynebu ers degawdau. Nid oes ateb hawdd i'r pethau hyn; yn hytrach, rydym angen pecyn o fesurau i helpu i leddfu'r problemau gyda diogelu'r cyflenwad bwyd a welwn ar hyn o bryd. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni wella gwytnwch cadwyni cyflenwi lleol a rhoi camau ar waith i leihau ein dibyniaeth ar fewnforion o wledydd eraill, yn enwedig y rheini mewn rhannau o'r byd sy'n ansefydlog yn wleidyddol. A dyma lle mae angen y fframwaith deddfwriaethol arnom i greu cyfeiriad teithio cydlynol ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru, gan ddileu'r rhwystrau sy'n wynebu cynhyrchwyr Cymreig i'w helpu i ddiwallu anghenion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol heddiw. Gwn ein bod i gyd yn teimlo bod hwn yn faes pwysig iawn, a hoffwn pe na bai gwleidyddiaeth yn mynd o ffordd rhywbeth mor bwysig ac y gallem ddod at ein gilydd a chytuno ar rywbeth mor bwysig â'r cynnig hwn. Diolch, Lywydd dros dro.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel pob Aelod sy'n cyfrannu at y ddadl hon heddiw, hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig am y cyfraniad hanfodol a wnânt i iechyd a ffyniant ein gwlad.
Wrth inni nodi effaith negyddol y rhyfel erchyll yn Wcráin ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd, dylem hefyd nodi effaith gadarnhaol gweithredoedd cynhyrchwyr bwyd a chymunedau gwledig yng Nghymru yn cefnogi pobl sydd wedi'u dadleoli gan y rhyfel. Dylai eu hymdrechion ein hysbrydoli i gyd i gadw at y gwerthoedd y maent yn eu hadlewyrchu—undod, tegwch, a chyfrifoldeb byd-eang. Rwy'n siŵr fod meddyliau'r holl Aelodau yn y Siambr gyda'r bobl sy'n byw mewn ardaloedd o Wcráin sydd dan warchae ac mewn rhannau eraill o'r byd lle y ceir gwrthdaro, ac sy'n profi'r bygythiad mwyaf difrifol yn sgil ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd, gyda phlant dan fygythiad arbennig o newyn neu effaith diffyg maeth sy'n para am oes.
Lle y credaf y dylai safbwynt y Senedd hon fod yn wahanol i gynnig y Ceidwadwyr yw ei fethiant i gydnabod y gwir argyfyngau sy'n bygwth diogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru heddiw. Mae'r cyflenwad bwyd i Gymru yn parhau i fod yn gadarn, er gwaethaf yr heriau aruthrol y mae gweithwyr a busnesau wedi'u hwynebu: aflonyddwch y pandemig, anhrefn ac ansicrwydd safbwynt Llywodraeth y DU ar fasnachu gyda'n cymdogion Ewropeaidd. Nid yw'r rhain wedi arwain at brinder eang yn y cyflenwad. Dylem gofio hefyd fod cymaint â hanner yr holl gynnyrch bwyd yn fyd-eang yn cael ei wastraffu, fel y soniodd John Griffiths yn ei gyfraniad. Byddai'n nonsens inni osod pob mater sy'n ymwneud ag ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd mewn un categori. Mae'r gwrthdaro sy'n creu ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd yn Wcráin yn effeithio ar ddiogelwch ein cyflenwad bwyd ein hunain, ond rydym yn wynebu cyfres wahanol o heriau a fydd yn galw am set wahanol o ymatebion.
Nid gostyngiad yn y cynhyrchiant neu'r cyflenwad sy'n achosi'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd yng Nghymru heddiw, ond argyfwng economaidd sy'n tanseilio gallu pobl i gael bwyd, ac mae'n deillio o benderfyniadau bwriadol a wneir gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Ie.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. A wnewch chi enwi gwlad arall nad yw'n profi pwysau costau yr ydym yn eu profi yn y DU y gallem ei defnyddio fel enghraifft?
Credaf ei bod yn deg dweud bod y pandemig, wrth gwrs, wedi achosi aflonyddwch byd-eang yn y ffordd yr ydych yn nodi. Fodd bynnag, cafodd eich Canghellor gyfle i wneud rhywbeth yn ei gylch heddiw ac ni wnaeth hynny. Nid yw £5 biliwn o bunnoedd i dynnu 5c oddi ar litr o danwydd yn werth dim i bobl nad oes ganddynt arian ar gyfer bwyd nac arian ar gyfer ynni neu sydd heb gar.
Mae tlodi bwyd yn symptom anochel o dlodi yn gyffredinol, ac mae economi'r DU, o dan Ganghellor presennol y DU, wedi profi'r gostyngiadau termau real mwyaf mewn incwm ers dros bedwar degawd. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi penderfynu gosod y codiadau treth mwyaf, fel cyfran o incwm cenedlaethol, mewn unrhyw flwyddyn yn y tri degawd diwethaf. Bydd cymorth diweithdra yn gostwng i'w werth termau real isaf mewn mwy na thri degawd. Bydd tri chwarter yr aelwydydd sydd ar gredyd cynhwysol yn waeth eu byd y mis nesaf nag yr oeddent flwyddyn yn ôl. Ac mae ymateb y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi'i dargedu at yr argyfwng costau byw a grëwyd gan Blaid Geidwadol y DU.
Fis diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, becyn cymorth gwerth £330 miliwn, mwy nag unrhyw beth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n cynnwys taliadau costau byw uniongyrchol, taliadau tanwydd y gaeaf ychwanegol, a chyllid cymorth dewisol i gynghorau lleol. Ers 2019, rydym wedi buddsoddi £9 miliwn yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r sefydliadau cymunedol sy'n cefnogi tyfu, casglu, dosbarthu a rhannu bwyd yng Nghymru, o raglenni gwella gwyliau'r haf mewn ysgolion i brosiectau tyfu cymunedol a cheginau cymunedol. Addawodd maniffesto fy mhlaid ar gyfer yr etholiad fis Mai diwethaf ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol, ac mae ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ein hymrwymo i lunio'r strategaeth hon gyda'n gilydd.
Y mis hwn, cyfarfûm ag undebau ffermio, manwerthwyr bwyd, busnesau'r gadwyn gyflenwi, cyrff masnach y diwydiant, a fy nghymheiriaid o'r Llywodraethau eraill ledled y DU. Mae'r ymgysylltiad hwn yn rheolaidd ac mae'n ffordd bwysig o lywio a chyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'n heriau cyffredin. Rwy'n cydnabod nad yw'r Torïaid yma'n deall sut y mae Llywodraeth yn gweithio, ond nid oes arnom angen uwchgynhadledd fwyd. Mae'r trafodaethau a'r cyfarfodydd hyn yn digwydd fel mater o drefn; mae'n fusnes fel arfer. Ni fydd y strategaeth bwyd cymunedol yn disodli ymgysylltiad diwydiannol neu rynglywodraethol; yn hytrach, gall ymateb i ddymuniad cymunedau yma yng Nghymru i chwarae rhan fwy gweithredol wrth lunio'r system fwyd eu hunain. Dyna sut y bwriadwn fynd ati i'w datblygu, gan fabwysiadu dull gweithredu o'r gwaelod i fyny yn hytrach nag o'r brig i lawr.
Yr her fawr arall i ddiogelwch y cyflenwad bwyd sy'n ein hwynebu yng Nghymru, ac yn fyd-eang, nad yw mor amlwg efallai â gwrthdaro neu argyfyngau economaidd ond sy'n sicr yn fwy o ran ei maint, yw'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ymddengys nad yw'r Ceidwadwyr wedi deall eto nad dadflaenoriaethu camau gweithredu hirdymor ar natur a'r hinsawdd yw'r ffordd i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd yma yng Nghymru, fel y dangoswyd yn glir gan gyfraniad Janet Finch-Saunders. Mae argymhellion Llywodraeth Cymru ar drefniadau hirdymor ar gyfer amaethyddiaeth yn cael eu trafod fel rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yn y gwaith o'u datblygu hyd yma, rydym wedi ceisio adlewyrchu egwyddorion rheoli tir yn gynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Datblygwyd yr egwyddorion hynny wrth gwrs yng nghyd-destun mynd i'r afael â diogelwch y cyflenwad bwyd yn fyd-eang a rhoi diwedd ar newyn byd-eang. Rwy'n gobeithio y gall y Senedd gytuno nad dyma'r amser i roi'r gorau i'r egwyddorion hynny gan y Cenhedloedd Unedig na'n hymrwymiad i gynorthwyo ffermio yng Nghymru i fod yn fwy ystyriol o'r hinsawdd a natur nag unman arall yn y byd. Wrth ymateb i'r ddadl heddiw, byddwn yn croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr yn y Siambr hon i alw am newid y polisïau dinistriol a orfodwyd ar gynhyrchwyr bwyd Cymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Mae'r cytundeb masnach â Seland Newydd a negodwyd yn ddiweddar
'yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i danseilio ffermio a diogelwch cyflenwad bwyd y DU yn gyfnewid am fuddion dibwys i'r economi'.
Nid fy ngeiriau i, ond geiriau llywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Nid oes yr un o Aelodau Ceidwadol y Senedd wedi tynnu sylw hyd yma at benderfyniad cywilyddus Canghellor y DU i dorri eu haddewid maniffesto eu hunain ac amddifadu datblygu gwledig yma yng Nghymru o fwy na £200 miliwn o gyllid. Nodais fod rhai Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig wedi dechrau ymbellhau oddi wrth eu cymheiriaid yn Llundain, a gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon—
Nid wyf i wedi gwneud hynny.
—y Ceidwadwyr—[Chwerthin.] Dyna ateb ar ei ben. Rwy'n gobeithio wrth ymateb i'r ddadl hon, ac rwy'n cymryd mai arweinydd yr wrthblaid fydd yn gwneud hynny, y bydd y Ceidwadwyr yn manteisio ar y cyfle i ymbellhau oddi wrth bolisïau Llywodraeth Dorïaidd y DU—polisïau camreoli economaidd, toriadau lles a chyni sy'n bygwth diogelwch cyflenwad bwyd pobl Cymru heddiw. Mae eu polisi yn achosi niwed uniongyrchol i'n busnesau bwyd a ffermio.
Yn eu cynnig, mae'r Ceidwadwyr yn galw am chwyldro. Gadewch iddynt ddechrau heddiw gyda newid uniongyrchol a radical i bolisïau eu plaid eu hunain ar ben arall yr M4. Diolch.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser crynhoi'r ddadl hon heddiw a dilyn y Gweinidog. Cynigiais gyfle i'r Gweinidog gyfeirio at wlad nad yw o dan yr un pwysau ar brisiau ag a welwn yn y Deyrnas Unedig, a hoffwn gynnig cyfle hefyd i'r Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru wneud ymyriad arnaf i roi cyfle i edrych ar wlad nad yw'n profi yr un pwysau ar brisiau â ni, yn hytrach na'r gwelliant a gyflwynwyd gennych sy'n dweud mai'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd ar fai am hyn. Felly, os hoffech wneud ymyriad—[Torri ar draws.]—neu os hoffai'r Dirprwy Weinidog yno wneud ymyriad—[Torri ar draws.] Rhowch wlad i mi. Rhowch wlad i mi.
Beth am Costa Rica? Rwy'n credu ei bod hi'n annhebygol eu bod hwy'n dioddef yr un pwysau gan fod ganddynt ddigonedd o fwyd—[Torri ar draws.]
Mae digonedd o fwyd yn Costa Rica, ond mae'r bobl yn Costa Rica hefyd yn ei chael hi'n anodd oherwydd pwysau costau mewnforio bwyd, a dyna pam ein bod yn dod â dadleuon i lawr y Senedd heddiw, oherwydd bod angen diogelu ein cyflenwad bwyd yn well. Mae'n ffaith mai'r hyn sydd wedi digwydd i'r wlad hon dros y 30 mlynedd diwethaf—ac wrth 'y wlad hon' rwy'n sôn am Gymru a'r Deyrnas Unedig—yw bod diogelwch y cyflenwad bwyd wedi gostwng o tua 75 y cant i 60 y cant. Mae honno'n ffaith, mae'n anwadadwy. Mae gwledydd ledled Ewrop—[Torri ar draws.] Wel, os hoffech wneud ymyriad, Ddirprwy Weinidog—
Nid ydych yn hoffi cael eich heclo, ydych chi?
Na, rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad. [Torri ar draws.] Codwch ar eich traed.
Hoffwn glywed arweinydd yr wrthblaid yn cyfrannu ac yn cloi'r ddadl.
Codwch ar eich traed. Os yw'r Dirprwy Weinidog—
Parhewch.
Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. Rydym wedi gweld cyllideb y gwanwyn heddiw wrth gwrs, a'r hyn a fyddai wedi helpu pobl yma, cynhyrchwyr yn enwedig, fyddai rhywbeth yn ymwneud â chost tanwydd ac ynni. Pe bai treth ffawdelw wedi'i gosod tuag at helpu hynny, yn hytrach na'r cynnydd o 2c yn y TAW—nid y gostyngiad o 5c, ond y cynnydd o 2c yn y TAW—y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud, byddai wedi helpu'r cynhyrchwyr bwyd hynny'n aruthrol i ddatblygu eu busnes, yn enwedig y rhai bach yr ydym yn eu cynrychioli yma.
Rwy'n sefyll wrth yr hyn a ddarparodd y Canghellor heddiw ar gyfer pobl Cymru a phobl y wlad hon, fel y ceisiodd y Gweinidog ei nodi, sef toriad o 5c i doll tanwydd, nid am fis, nid am ddau fis, nid am dri mis, ond am 12 mis. Am 12 mis. Nid pobl â cheir yn unig yw hynny, fel y ceisiodd y Gweinidog ddangos, mae hynny ar gyfer y bobl sy'n cludo ein bwyd, ein nwyddau, ledled y wlad hon, a fydd yn elwa o doriad yn y pris am y 12 mis nesaf. Hefyd, yr yswiriant gwladol—[Torri ar draws.] Y trothwy yswiriant gwladol sydd wedi'i godi heddiw yn yr un datganiad, y dywedodd Martin Lewis yr arbenigwr arian ei fod y mwyaf hael—[Torri ar draws.] Y setliad mwyaf hael y gellid ei wneud—
Andrew. Andrew. Dwy eiliad. A gaf fi ofyn i aelodau'r Llywodraeth sicrhau y gallwn i gyd glywed y siaradwr os gwelwch yn dda, ac osgoi ei heclo cymaint?
Fel yr arferai rhywun ddweud ar Dad's Army, 'They don't like it up 'em'. [Chwerthin.] Dyna hyd a lled y Llywodraeth hon, oherwydd roedd yr hyn a ddarparwyd heddiw yn natganiad y gwanwyn yn ateb i'r argyfwng costau byw. Nid oedd yr hyn a glywsom gan y Gweinidog yn cynnig dim i fynd i'r afael â phroblemau diogelu'r cyflenwad bwyd yr ydym yn eu hwynebu oherwydd argyfwng Wcráin. Mae honno'n ffaith syml. Mae Wcráin a Rwsia yn rheoli 30 y cant o'r gwenith sy'n cael ei allforio ledled y byd. Bydd yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin yn arwain at ganlyniadau dinistriol i'r byd i gyd. Nodaf sylwadau pennaeth rhaglen fwyd y Cenhedloedd Unedig, David Beasley, a ddywedodd, 'Os credwch ein bod yn mynd drwy uffern ar y ddaear yn awr, dylech weld beth sydd i ddod.' Dyna sy'n mynd i ddigwydd i'r cyflenwad bwyd sy'n dod i'r amlwg yn Wcráin ar hyn o bryd.
Fel y soniodd Sam Kurtz wrth agor y ddadl—. Soniodd am bwysau costau o fewn y diwydiant, soniodd am gyd-ddibyniaeth y diwydiant, o gynhyrchwyr sylfaenol, ffermwyr, i'r proseswyr a'r manwerthwyr. Dyna pam y mae rhan mor bwysig o'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw yn ymwneud â thynnu ynghyd y gadwyn gyfan honno i drafod yr hyn sydd ei angen gan y Llywodraeth. Mae gennych gyfle unigryw i wneud hynny, Weinidog, gyda'r Bil amaethyddol sy'n dod gerbron y Senedd ym mis Ebrill. Dyna pam fod Deddf Amaethyddiaeth 1947 mor bwysig—y Ddeddf a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur yn 1947—i fynd i'r afael â'r argyfwng a wynebai Ewrop yn sgil dinistr yr ail ryfel byd a'r angen i ddiogelu'r cyflenwad bwyd. Dyna pam y cyflwynwyd y cynnig heddiw i geisio bod yn adeiladol wrth geisio cymell gweledigaeth gan y Llywodraeth ar gyfer lle mae am fod. Ond fel y clywsom gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd a ddywedodd fod diffyg cydlyniant yng nghynlluniau'r Llywodraeth—. Gallaf weld y Gweinidog yn sibrwd wrth ei chyd-Weinidog, y Gweinidog addysg. Efallai yr hoffech nodi'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd am y diffyg cydlyniant yn y cynlluniau a roddwyd ar waith gennych chi fel y Gweinidog materion gwledig dros y pum mlynedd diwethaf. Nid fi sy'n siarad; daw hynny oddi ar eich meinciau eich hun.
Rwyf am weld y Senedd yn cydweithio fel y gallwn ymdrin â phroblemau diogelu'r cyflenwad bwyd y mae Peter Fox wedi ceisio ymdrin â hwy gyda'i Fil, y Bil bwyd y mae wedi'i gyflwyno sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd ac mae'n cyffwrdd â'r pwyntiau y soniodd John Griffiths amdanynt hefyd am wastraff bwyd, oherwydd mae honno'n elfen hollbwysig arall y mae angen inni ymdrin â hi—yn hytrach na chynhyrchu'r bwyd yn unig, gweld cymaint o fwyd a wastraffir gan siopau mawr yn ogystal â bwytai. Ond ynglŷn â'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, a oedd yn sôn am y cytundebau masnach a drafodwyd ar ôl Brexit—. Nid wyf yn ymddiheuro am y cytundebau masnach hynny o gwbl. Mae'n gyfle inni ryddhau'r potensial ac agor marchnadoedd, marchnad gwledydd y Môr Tawel gydag 1.2 biliwn o ddefnyddwyr—1.2 biliwn o ddefnyddwyr. Rwy'n barod i sefyll ar unrhyw lwyfan a dadlau bod angen inni fod yn rhan o'r gwaith o gefnogi ffermwyr Cymru a gweddill y DU i ryddhau'r potensial hwnnw. O'r fan honno y daw'r twf. Ond yr hyn y mae angen inni ymdrin ag ef ar unwaith yw sicrhau bod gennym allu yma yng Nghymru i dyfu'r bwyd, i brosesu'r bwyd hwnnw, a'i werthu.
Mae'r pwynt a wnaed am gynhyrchiant llaeth wedi'i wneud yn dda dro ar ôl tro: yn anffodus, nid oes gennym gyfleuster prosesu llaeth mawr yma yng Nghymru; rhaid inni anfon y capasiti prosesu hwnnw dros Glawdd Offa a dod ag ef yn ôl. Felly, gall Aelodau ar draws y Siambr siarad am gynhyrchiant lleol, ond oni bai bod gennym gyfleusterau prosesu i'w wneud, nid ydym yn ychwanegu gwerth yma yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig iawn—rhywbeth y gallai'r Llywodraeth eto fod yn canolbwyntio ei hegni arno, a rhywbeth y mae Llywodraeth Iwerddon wedi bod mor llwyddiannus yn ei wneud. Rwyf wedi codi'r pwynt hwn dro ar ôl tro gyda'r Gweinidog a mainc flaen Llafur am y ddogfen 'Cynhaeaf 2020' a gyflwynwyd gan Lywodraeth Iwerddon, ac y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati. Roedd hi'n sôn am y gwledydd eraill—y Ffindir, er enghraifft, gyda chyfraddau diogelwch cyflenwad bwyd eithriadol, a Gweriniaeth Iwerddon yn dod yn ail yn y tabl oherwydd bod ganddynt broseswyr, mae ganddynt gynhyrchwyr, ac mae ganddynt fanwerthwyr o amgylch y bwrdd ac maent wedi cynllunio ffordd ymlaen i gyflawni hynny. Nid ydym wedi llwyddo i wneud hynny yma yng Nghymru, ac mae angen inni wneud yn well.
Roedd cyfraniad John Griffiths wedi'i amseru mor dda, wrth iddo dynnu sylw at lwyddiannau cynnyrch lleol sy'n mynd o'r fferm mewn ardal leol yng Nghasnewydd i'r gofod manwerthu o beiriannau gwerthu ac ailddatblygiad marchnad Casnewydd. Mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig y mae angen i fwy o gynhyrchwyr allu gwneud defnydd ohono a mwynhau'r budd y gallwn ei weld. Ond Weinidog, mae'n hanfodol eich bod yn defnyddio'r cyfle sydd gennych i ddefnyddio'r Bil amaethyddol i roi'r cymhellion hynny ar waith. Dywedodd sawl Aelod, gan gynnwys yr Aelod rhanbarthol dros Ogledd Cymru ar eich meinciau eich hun, fod cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus. Mae'n nwydd cyhoeddus—[Torri ar draws.] Wel, tynnodd eich Aelod eich hun ar y meinciau cefn sylw at hynny. A chyda'r parch mwyaf, bydd yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin heddiw yn cael ei fesur am ddegawdau i ddod, a'r perygl yw nad ydym yn defnyddio'r cyfle hwn i sicrhau ein bod yn gwneud diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhan bwysig o'r hyn yr ydym am ei gefnogi wrth symud ymlaen. A gallwch fod yn sicr ei fod yn nwydd cyhoeddus. Rheoliadau Ewropeaidd oedd yn atal hynny rhag bod yn nwydd cyhoeddus. Mae gennych y gallu deddfwriaethol i lunio eich trywydd eich hun yma, Weinidog, a rhoi eich stamp ar hyn. A byddwn yn gobeithio heddiw y gallem alw ar y Siambr i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron, oherwydd mae'n hanfodol bwysig ein bod yn tynnu sylw'r cyhoedd at yr hyn sydd ar y ffordd. Ac os gallwn wneud hynny drwy fwrw ymlaen â Bil bwyd y mae Peter Fox wedi'i gyflwyno i ni, a hefyd y Bil amaethyddol y mae eich Llywodraeth yn ei gyflwyno yn y gwanwyn, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ym mhob rhan o Gymru.
Ac rwyf am orffen gyda'r sylw hwnnw eto gan David Beasley, pennaeth y rhaglen fwyd, a ddywedodd os credwch ein bod yn mynd drwy uffern ar y ddaear ar hyn o bryd, dylech weld beth sydd i ddod, oherwydd dyna sy'n mynd i ddigwydd po hiraf y bydd rhyfel Wcráin yn parhau, a byddai'n anghywir inni beidio â rhoi'r rhagofalon yn eu lle i sicrhau y gall pobl gael bwyd ar y bwrdd am bris fforddiadwy. Gallwn ei wneud, rhaid inni ei wneud, ac ni allwn golli'r cyfle hwn i fwrw ymlaen â hyn. Felly, gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohirir y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yr ydym yn awr wedi cyrraedd yr amser hwnnw. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.