– Senedd Cymru ar 30 Mawrth 2022.
Item 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar domenni risg uchel, a galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7972 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:
a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;
b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;
c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;
d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Beth oedd cost glo i'r Cymoedd? Pa bris y mynnwyd bod ein pobl yn ei dalu am y cyfoeth a gymerwyd gan eraill? A ydym yn mesur y gost honno mewn cyrff a gladdwyd? A ddylid ei gyfrifo mewn bywoliaeth a gollwyd, coesau a breichau a gollwyd, ysgyfeintiau'n drwch o glefyd a llwch? Neu a ydym yn ei fesur mewn mwd a baw a godwyd o'r ddaear a'i adael i faeddu a chreithio ein nenlinell?
Ledled Cymru, mae mwy na 2,000 o domenni glo a thomenni segur—etifeddiaeth hyll, symbol grymus o'r hyn a gymerwyd oddi wrthym. Rydym wedi dod i arfer â hwy'n rhwystro ein golygfa. Ewch i bron unrhyw dref yn y Cymoedd ac fe welwch domen ar y gorwel uwch ei phen, fel ysbryd mewn hunllef. Ond ers tirlithriad Tylorstown yn 2020, y digwyddiad hwnnw a allai fod wedi bod mor drychinebus—ers y diwrnod hwnnw, rydym wedi dihuno eto i'r risg y mae'r tomenni hyn yn ei chreu. Nid dolur llygaid yn unig ydynt mwyach, ond hunllefau drws nesaf, bomiau amser tawel a allai ffrwydro unrhyw adeg.
Mae mwy na 300 o domenni yng Nghymru wedi'u categoreiddio'n rhai risg uchel. Nid ydym yn gwybod lle mae pob un ohonynt, a dyna pam y mae ein cynnig yn galw am ofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am leoliad y tomenni, er mwyn hyrwyddo ymddiriedaeth ac atebolrwydd. Cytunwn â Chomisiwn y Gyfraith y dylai'r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi. Rydym yn galw am ddatblygu, ariannu a chyflwyno systemau rhybudd cynnar fel y gellir rhybuddio cymunedau am ddiffygion posibl mewn tomenni, yn union fel gyda thrychinebau naturiol eraill fel daeargrynfeydd. Byddai monitorau o bell a ddefnyddir i ganfod gweithgarwch folcanig a tswnamïau yn synhwyro tirlithriadau ac yn seinio rhybudd, a gallai pobl sy'n byw yn y cyffiniau gael rhybuddion ar eu ffonau symudol. Byddai'r systemau hyn yn fendith, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog yn ei ymateb i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau i gyflwyno'r systemau hyn a sut y byddent yn cael eu hariannu.
Mae ein cynnig yn sôn am adfer y safleoedd lle mae'r tomenni wedi'u lleoli, ac am yr angen am gynllun adfywio cenedlaethol ar gyfer yr ardaloedd hyn a gafodd eu hamddifadu cyhyd o fuddsoddiad neu ofal. Oherwydd nid yw dad-ddiwydiannu yng Nghymru, yn y DU, wedi dilyn y patrwm a welwyd mewn mannau eraill yn Ewrop. Yn Ffrainc a'r Almaen, cafodd diswyddiadau eu cynllunio a chynigiwyd cyfleoedd hyfforddi i lowyr mewn sectorau fel peirianneg sifil. Ond yn y DU, fel y mae un cyn uwch weithredwr Cymuned Glo a Dur Ewrop wedi'i roi, 'Nid ydynt yn edrych ymhellach na rhoi'r glöwr ar ei bensiwn'. Defnyddiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol a Llywodraeth Thatcher ddiswyddiadau i orfodi cytundeb ar gau pyllau glo, a chafodd y glowyr eu bradychu. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r dreth y byddai diweithdra'n ei gosod ar gymunedau cyfan. A phan gaeodd y pyllau glo, aeth rhywfaint o ysbryd y trefi hyn gyda hwy, ac felly un o'r grymoedd cymdeithasol a gwleidyddol ffyniannus pwysicaf yn hanes Cymru. Diflannodd grym y glowyr bron dros nos. Oherwydd roedd glowyr gymaint yn fwy na'r hyn a wnaent o dan y ddaear. Roedd yna gyfeillgarwch, wrth gwrs, cwlwm a oedd yn rhwymo dynion gyda'i gilydd. Ond uwchben y ddaear, roedd y grymoedd hynny'n cyfoethogi'r trefi yn neuaddau'r glowyr, eisteddfodau, y llyfrgelloedd, yr ysfa am addysg a diwylliant cyfarfod neuadd y dref, i gyd dan arweiniad glowyr a'u teuluoedd. Efallai eu bod wedi gweithio o dan y ddaear, ond roedd eu golygon ar y wybren.
Yn un o'i gerddi, mae Harri Webb yn hel atgofion am y glowyr yn dod allan o'r cwbs yng ngorsaf Caeharris. Dynion, meddent, gyda 90 y cant o lwch, a allai daro C uchaf fel pe na bai erioed wedi bodoli. Yr aberth a wnaeth y dynion hynny, Ddirprwy Lywydd, yr erchyllterau a ddioddefasant, ac roeddent yn dal i ganu.
Tan drychineb Aberfan yn y 1960au, nid oedd deddfwriaeth ar waith i ddarparu ar gyfer rheoli tomenni glo. Cymerodd y drychineb honno a marwolaeth 28 o oedolion a 116 o blant i San Steffan ystyried y cysgodion angau yr oeddent wedi'u gosod uwch ein pennau. Ond nid yw'r Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli bellach yn addas i'r diben hwn. Daeth i rym pan oedd y pyllau glo yn dal i fod yn weithredol, ac nid yw'r safonau a oedd yn ofynnol yn y 1980au a'r 1990au bellach yn addas yn oes newid hinsawdd. Nid oes unrhyw ddyletswydd i sicrhau diogelwch tomenni glo, ac nid oes gan gynghorau bŵer i ymyrryd hyd nes y ceir pryderon fod tomen yn ansefydlog. Ni ddylem fod yn aros i drychineb arall ddigwydd cyn i fesurau ataliol gael eu rhoi ar waith.
A phwy ddylai dalu'r bil? Mae San Steffan yn dadlau'n gyfleus fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Nid ydynt yn hoffi datganoli yno heblaw pan fydd yn eu hesgusodi rhag talu eu dyledion. Ddirprwy Lywydd, ni allwch ddatganoli'r gorffennol; ni allwch deithio drwy amser i osgoi gwirioneddau lletchwith. Gadawyd y tomenni hyn ar ôl o orffennol diwydiannol a daniodd fflyd y Llynges Frenhinol, a bwerodd y rheilffyrdd, a wnaeth ddwydianwyr Prydain yn gyfoethog ac a gadwodd y glowyr a'u cymunedau mewn tlodi. Creodd glo gyfoeth na ellir ei ddychmygu. Cafodd y cytundeb cyntaf gwerth miliwn o bunnoedd yn hanes y byd ei lunio yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn sgil glo'r Cymoedd. Ond ni wariwyd dim ohono ym Margod nac ym Mrythdir. Roedd gan ein cymoedd gyfoeth o lo, ond pa gyfoeth a adawyd ar gyfer ein dyfodol ni? Fe wnaethant daro bargen gyda Mamon, morgeisio iechyd y glowyr a'u diogelwch i gael elw cyflym a hawdd o'r pyllau, ond nid oedd yr ad-daliad ar y morgais hwnnw yn un a dalwyd gan berchnogion pyllau glo na chyfranddalwyr. Mae y tu hwnt i reswm, i foesoldeb, i unrhyw gwestiwn o wirionedd neu wedduster i ddadlau y dylai sefydliad nad oedd yn bodoli pan oedd y dynion yn llafurio ac yn marw dalu i lanhau'r llanastr a adawodd y diwydianwyr hynny ar ôl—y llwch sy'n duo'r awyr yn yr un modd ag y tagodd eu hysgyfaint.
Rydym yn sôn am symiau sylweddol o arian, wrth gwrs. Mae'r Awdurdod Glo wedi amcangyfrif y bydd y gost o wneud tomenni'n ddiogel rhwng £500 miliwn a £600 miliwn dros y degawd nesaf. Ond a yw'n weddus ein bod yn cweryla ynghylch y taliad hwnnw? Oherwydd mae'r cymoedd hyn wedi cael cam ac wedi'u hamddifadu o barch yn rhy hir. Yn 1913—ac rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—collodd 439 o lowyr ac un achubwr eu bywydau yn nhrychineb pwll glo Senghennydd, y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Cafwyd ymchwiliad, gosodwyd cosbau, talodd y rheolwr ddirwy o £24, talodd y cwmni glofaol £10. Cyfrifwyd bod yn rhaid talu tua un swllt am bob dyn a bachgen a fu farw. Yn arian heddiw, byddai hynny'n gyfystyr â £13. Rwyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud na chafodd gweddwon gyflog diwrnod llawn hyd yn oed am y diwrnod y bu farw'r glowyr, am eu bod wedi marw cyn i'w shifft ddod i ben. Dyma'r etifeddiaeth y soniwn amdani—y baich a roddodd glo ar ein cymunedau. Mae gan San Steffan gyfle yma i wneud un peth bach i ddileu eu dyled, na chafodd erioed mo'i thalu, y ddyled sydd arnynt i'r glowyr a'u trefi—cyfle i wneud taliad, cydnabyddiaeth, fel na ddylent fod â chywilydd mwyach o'r atgofion hynny. O ran parch, Dduw mawr, dylent fanteisio ar y cyfle hwnnw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gynnig gwelliant 3 yn ffurfiol.
Gwelliant 3—Lesley Griffiths
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.
Yn ffurfiol.
Diolch. Felly, dwi'n galw nawr ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Janet Finch Saunders.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi gwybodaeth am union leoliadau tomenni risg uchel;
b) gosod systemau rhybuddio cynnar ar gyfer tomenni risg uchel, lle bo hynny'n bosibl;
c) creu awdurdod goruchwylio tomenni glo newydd i sefydlu cyfundrefn ddiogelwch newydd, cynnal asesiadau risg a chynlluniau rheoli tomenni;
d) ffurfioli cytundebau rhwng perchnogion, defnyddwyr tir a'r awdurdod goruchwylio tomenni glo i weithredu mewn argyfwng.
Diolch i Blaid Cymru. Diolch, Lywydd. Diolch, Blaid Cymru, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Yn y bôn, un pwynt yn unig yr ydym yn anghytuno yn ei gylch, sef eich bod yn mynnu mai Llywodraeth y DU sy'n darparu'r holl arian i addasu, adennill ac adfer y tomenni glo hyn.
Rwy'n siŵr fod fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yno wedi darllen yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar reoleiddio diogelwch tomenni glo yng Nghymru, ac mae'n datgan yn glir fod diogelwch tomenni glo yn dod o dan gymhwysedd datganoledig, ac mae hwnnw'n gymhwysedd sydd wedi bod gennych yn y fan hon ers 22 mlynedd. Felly, onid yw'n eironig, er bod Plaid Cymru yn y ddadl hon yn galw ar Lywodraeth y DU i dalu am gyfrifoldeb datganoledig, mewn mannau eraill, mae Rhys ab Owen yn cwyno bod Llywodraeth y DU yn deddfu ar faterion datganoledig eraill. Mae Rhun—fy nghyd-Aelod, Rhun, o ogledd Cymru—ap Iorwerth, yn galw am ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn, ac mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn mynd ar drywydd Cymru annibynnol sy'n annichonadwy yn economaidd.
Gwn fod Plaid Cymru yn awyddus iawn i sofraniaeth Cymru fod yn eiddo i gomisiynwyr heb eu hethol ym Mrwsel, ond y gwir amdani yw mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelwch tomenni glo. A gadewch inni fod yn onest, mae cytundeb cydweithio ar waith erbyn hyn, felly rwy'n siŵr y gallwch weithio gyda'ch gilydd i geisio gwneud rhywfaint o synnwyr o'r mater hwn. Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei dyletswydd i ddod o hyd i gyllid drwy wneud dyraniad ychwanegol o £4.5 miliwn o refeniw dros dair blynedd, a chyfanswm cyllid cyfalaf o £44 miliwn i gefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar domenni glo. Ac rwy'n cytuno â Delyth Jewell yn gynharach, y peth pwysig mewn gwirionedd yw darganfod—. Credaf fod angen yr adnoddau ar awdurdodau lleol ac mae angen i bob un ohonom wybod yn union lle mae'r tomenni risg uchel hyn. Yn hytrach na gwastraffu rhagor o amser yn y Senedd yn sôn am lobïo Llywodraeth y DU i dalu, pam nad ydym yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y pleidiau i ganfod o ble y daw'r oddeutu £0.5 biliwn sydd ei angen dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'n siŵr fod gweithio gyda Llywodraeth y DU yn ffordd ymlaen, ond unwaith eto, mae yna waith y mae angen i chi ei wneud, fel Llywodraeth Cymru, a gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi lle yn union y mae'r risg.
Er fy mod yn cytuno â gwelliant Llywodraeth Cymru, a fy mod am eich gweld yn ymgysylltu â chymunedau lleol, eironi arall yn y ddadl hon yw ei bod yn annerbyniol eich bod wedi cadw'r bobl yn eich cymunedau eich hunain yn y tywyllwch ynghylch lleoliad y tomenni risg uchel hyn. Mae angen inni hefyd weld systemau rhybuddio cynnar yn cael eu gosod lle bo hynny'n bosibl. Er bod 327 o domenni risg uchel, dim ond 70 o'r rhain sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen o dreialon technoleg, offer synhwyro a thechnegau arsylwi'r ddaear. Fe'n hysbyswyd o'r blaen fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar systemau monitro telemetrig ychwanegol ar gyfer synhwyro o bell ac mewn amser real. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud pa gynnydd sydd wedi'i wneud heddiw? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud faint o'r 2,456 o domenni sydd â system rybuddio ar waith.
Yn olaf, hoffwn symud ymlaen at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ymdrin â rhywfaint o hyn ddoe, ond hoffwn ailadrodd pwysigrwydd sefydlu un corff goruchwylio sy'n gyfrifol am ddiogelwch tomenni glo, ac roedd dros 90 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig hwn. Fodd bynnag, rwy'n bryderus, oherwydd ddoe, gofynnais y cwestiwn hwn ac ni wnaethoch ymateb, Ddirprwy Weinidog. Felly, a wnewch chi ddweud a ydych yn cytuno i hwn fod yn gorff annibynnol newydd ar wahân? Ni fyddai'n gwneud synnwyr ei wneud yn adran o CNC, yn enwedig o gofio ei fod eisoes—CNC, hynny yw—angen tua 270 o staff ychwanegol i gyflawni'r cyfrifoldebau sydd ganddo eisoes. Rwy'n gobeithio y bydd yn gorff gwirioneddol ar wahân, oherwydd os gweithredwn ar yr argymhellion, bydd ganddo ddyletswyddau pwysig a llym, megis trefnu i lunio asesiad risg a chynllun rheoli tomen ar gyfer unrhyw domen sydd wedi'i chynnwys ar y gofrestr, a dyrannu categori risg i bob tomen, yn seiliedig ar yr adroddiadau arolygu a'r asesiadau risg.
Yn olaf, o ran y tomenni risg is, ni cheir pŵer o dan Ddeddf 1969 i sicrhau gwaith cynnal a chadw rheolaidd rhagweithiol. Roedd tua 80 y cant o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion ar gyfer cytundebau cynnal a chadw tomenni, gan ddarparu ar gyfer cyflawni'r gweithrediadau a nodwyd yn y cynllun rheoli tomenni gan y perchennog. Gallai cytundebau o'r fath ysgogi a hwyluso gwaith cynnal a chadw, felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, a'r Aelodau yma yn wir, yn mynd ar drywydd y syniad hwn.
Nid oes gennyf amser i drafod rhagor o argymhellion yr adroddiad, ond edrychaf ymlaen at ddarllen ymateb manwl y Dirprwy Weinidog i'r comisiwn hwn maes o law. Ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd, atal y cecru, a gweithredu ar yr adroddiad ar frys a'n bod i gyd yn cydweithredu er budd ein cymunedau ledled Cymru. Maent yn haeddu hynny, a dim llai. Diolch.
Mae ein cymunedau'n haeddu cyfiawnder, ac mae a wnelo hyn ag atebolrwydd a chywiro anghyfiawnder hanesyddol. A chredaf mai'r cwestiwn i sylwadau Janet Finch-Saunders yw: pwy a ddaeth yn gyfoethog drwy lo? A dyna graidd y mater a pham ein bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r anghyfiawnder hanesyddol. Mae'r dadleuon y sonioch chi amdanynt ynglŷn â fy nghyd-Aelodau'n cyflwyno'r pethau yr hoffem eu gweld yn cael eu datganoli yn ymwneud â dyfodol Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs y gwnaf.
A fyddech yn cydnabod, serch hynny, fod gennym Lywodraethau Llafur ar yr adegau pan oedd y pyllau glo'n weithredol?
Yn sicr. Credaf y dylai unrhyw Lywodraeth allu bod yn atebol, ac mae wedi bod yn Llywodraeth y DU. Ond ar hyn o bryd, eich Llywodraeth Geidwadol chi sydd yno, ac mae ganddynt gyfle i unioni hyn.
Fel y mynegwyd mor huawdl gan Delyth Jewell, mae cymaint o’n hanes modern fel cenedl wedi ei lywio gan y chwyldro diwydiannol, pan ddaeth glo yn danwydd pwysig dros ben. Serch hynny, mae hanes cloddio am lo yn mynd nôl ganrifoedd cyn hynny, gyda’r Rhufeiniaid yn cloddio am lo ym Mhrydain. Yn wir, mae tystiolaeth o gloddio ym Mlaenafon yn mynd nôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac, yn Mostyn, mor bell yn ôl â 1261. Ond agor y pwll glo cyntaf yng Nghymru, yng Nghwm Rhondda yn 1790, oedd y foment fawr, ac, wedi hynny, trawsnewidiwyd tirlun ac economi’r ardaloedd glo wrth i filoedd heidio i fyw a gweithio yno. Ond, wrth i lo o Gymru deithio i bedwar ban byd, ac wrth i rai, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, elwa’n fawr ohono, dioddefodd ein cymunedau a’n pobl yn sgil diwydiant budr a pheryglus. A rŵan, wrth gwrs, rydym yn parhau i ddioddef y sgileffeithiau, nid yn unig yn economaidd a chymdeithasol, ond hefyd o ran y difrod a wnaed gan y diwydiant i’n hamgylchedd a arweiniodd at gynyddu carbon yn ein hatmosffer.
Fel y gwelsom yn Chwefror 2020, gyda’r llifogydd dinistriol, ardaloedd ôl-ddiwydiannol sydd erbyn hyn yn wynebu’r risg mwyaf o gael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd natur, gyda'r risg o lifogydd a thirlithriadau, megis yr hyn a welsom ym Mhendyrus, sydd yn peri pryder aruthrol. Yn wir, mae astudiaethau wedi awgrymu y bydd cynnydd o 6 y cant mewn glaw yn ne Cymru pob gaeaf erbyn 2050, rhywbeth sydd yn barod yn arwain at ansefydlogrwydd afonydd, tir, ac, yn bwysig, tomenni glo. Nid mater o ddiogelwch yn unig yw hyn, ond hefyd mater o gyfiawnder hanesyddol a chyfiawnder hinsawdd. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig elwa ar fanteision y diwydiant glo, gan rwygo cyfoeth o’r cymunedau hyn oedd yn ganolog iddo, gan wedyn eu taflu i’r neilltu.
Nid pobl o'r Rhondda ac ardaloedd eraill y maes glo a elwodd ac eto maent yn parhau i gael eu heffeithio'n negyddol heddiw. Un enghraifft yn unig yw tomenni glo o'r chwerwedd a adawyd ar ôl gan y diwydiant glo a sut na all ein cymunedau ddianc rhag hyn tra'u bod yn parhau i fyw yn eu cysgod. Ni allaf ddeall, fel llawer o rai eraill rwy'n siŵr, fod hwn yn fater sy'n parhau gyda ni heddiw, yn enwedig yn dilyn arswyd yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan. Mae'r ffordd na ddaethpwyd o hyd i arian cyn yn awr i sicrhau diogelwch ein pobl a rhoi tawelwch meddwl iddynt yn anghredadwy.
Mae adfer a rheoli'r tomenni hefyd yn darparu cyfleoedd, gydag adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyffwrdd ar y rôl y gall addysg ei chwarae yn cyfrannu at atebion i fater tomenni segur. Nodwyd bod problemau wedi bod gyda cholli arbenigedd yn y maes, a bod y prinder gweithwyr proffesiynol profiadol yn debygol o waethygu, gyda llawer o arolygwyr profiadol bellach wedi ymddeol neu'n agosáu at oed ymddeol. Felly, ceir cyfle i gywain gwybodaeth a phrofiad yr arolygwyr hyn a sefydlu rhaglen i fentora arolygwyr newydd.
Mae’n werth meddwl hefyd am werth safleoedd y tomenni o ran treftadaeth, ac, fel rhan o ymgynghoriad y comisiwn, pwysleisiodd Cadw ac ALGAO bod gan rai tomenni werth treftadaeth ac y byddai angen i waith adennill ystyried hyn. Mae'r tomenni glo o fewn tirwedd ddiwydiannol Blaenafon, er enghraifft, wedi'u dynodi gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn safle treftadaeth y byd. Mae nifer o domenni glo hanesyddol wedi'u cofnodi fel nodweddion amgylchedd hanesyddol hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ysytriaeth o ran y broses gynllunio.
Ond ar ôl degawdau o dawelwch ar rai o'r tomenni glo hyn, mae'r sioc a'r arswyd a deimlwyd gan lawer o bobl yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yn Tylorstown o ganlyniad i storm Dennis o'r diwedd wedi ysgogi trafodaeth a gweithredu pellach. Roedd yn ein hatgoffa'n glir o'r peryglon sy'n parhau o ganlyniad i'n hanes diwydiannol, a sut y mae Llywodraeth y DU wedi cefnu ar y cymunedau hyn yn dilyn dirywiad y diwydiant. Mae caniatáu i'r risg hon barhau yn annerbyniol.
Nid yw'r ffaith nad yw rhywbeth wedi'i wneud yn golygu y dylid caniatáu i hyn barhau, ac rwy'n gobeithio heddiw y gallwn ddod at ein gilydd yn drawsbleidiol i anfon neges glir i Lywodraeth y DU fod yn rhaid darparu cyllid i unioni'r hyn y dylent fod wedi'i wneud ymhell cyn hyn, a neges glir i'n cymunedau y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i unioni hyn.
Gwnaed datganiad ddoe gan y Gweinidog yn ei ddatganiad llafar i'r Siambr. Dywedodd hyn:
'Dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T.C. Davies, wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin
''os yw Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod y tomenni glo hynny'n anniogel, mae'n rhaid iddyn nhw weithredu yn awr.... Mae ganddi'r arian i wneud hynny."'
Mor syml â hynny, ac wrth gwrs, dywedodd y Dirprwy Weinidog,
'Nid ni sy'n dweud ei fod yn anniogel'—
Llywodraeth Cymru—
'ond yr Awdurdod Glo...ac nid oes gennym yr arian i'w wneud.'
Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd. Felly, credaf ei bod yn hawdd i Janet Finch-Saunders ddweud, 'Gadewch inni roi'r wleidyddiaeth o'r neilltu,' ond os ydynt hwy yn San Steffan yn gwrthod cydnabod bod yna broblem y maent yn gyfrifol amdani hyd yn oed, nid yw hynny'n mynd i ddatrys y broblem. Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd.
Nawr, yn fy nghyflwyniad—. Cyn imi ddweud fy nghyflwyniad, dylwn ddweud hefyd mai'r Aelodau o'r Senedd a wnaeth gyflwyniad i adroddiad Comisiwn y Gyfraith oedd Huw Irranca-Davies, Heledd Fychan, Vikki Howells, Joel James a Sioned Williams. Felly, da iawn i'r Aelodau hynny am wneud y cyflwyniadau hynny, oherwydd maent yn bwysig fel bod lleisiau eich cymunedau chi a fy nghymuned i yn cael eu clywed. Felly, roedd hynny'n hanfodol. Gwnaeth cyngor Caerffili gyflwyniad hefyd.
Yn fy un i, dywedais,
'Mae angen pwerau ychwanegol i'r awdurdodau cyhoeddus priodol (datganoledig neu fel arall) reoleiddio tomenni glo sy'n eiddo preifat yng Nghymru'.
Felly, mae rheoleiddio tomenni sy'n eiddo preifat yn allweddol yn y Papur Gwyn yn fy marn i.
'Mae angen cyllid ychwanegol ar Lywodraeth Cymru (yn fwyaf tebygol gan Lywodraeth y DU)'— er nad yn gyfan gwbl—
'i fynd i'r afael â'r gost o adfer tomenni glo sy'n eiddo cyhoeddus yng Nghymru.'
Felly, dyna'r pwyntiau allweddol a wneuthum yn fy nghyflwyniad. Byddwn hefyd yn dweud bod cyngor Caerffili wedi gwneud pedwar pwynt allweddol, ac rwy'n cytuno â thri ohonynt, ac yn anghytuno ag un ohonynt. Felly, dywedodd cyngor Caerffili fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cefnogi creu awdurdod goruchwylio trosfwaol, gan adleisio'r hyn a ddywedais, os yw'n gweithio'n hyblyg—ac mae hyn yn bwysig, Ddirprwy Weinidog—gan ganiatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r arbenigedd sy'n bodoli'n barod a chynnig adnoddau ychwanegol lle bo angen. Roeddent hefyd yn dadlau y dylid safoni cytundeb cynnal a chadw awdurdodau goruchwylio tomenni glo ledled Cymru.
Nawr, mae'r arbenigedd hwnnw wedi bod gan gyngor Caerffili. Rwyf wedi cyfarfod ag uwch swyddogion cyngor Caerffili, cyfarwyddwr yr amgylchedd, y llynedd, ac rwyf wedi siarad â'r prif weithredwr a'r arweinydd. Mae gennym gofrestr o domenni, rwyf wedi'i gweld, ac mae yna domenni categori D. Mae'n bwysig cofio, os yw tomen yng nghategori D, ni cheir risg uniongyrchol o reidrwydd. Y sicrwydd a gefais gan gyfarwyddwr yr amgylchedd cyngor Caerffili yw na cheir risg uniongyrchol mewn perthynas ag unrhyw domenni yng Nghaerffili, yn sicr yn fy etholaeth i, ond yn y fwrdeistref gyfan. Rydym yn ymwybodol o un sy'n gategori D yn benodol, ac mae'n cael ei monitro'n fisol, ac os oes glaw trwm, caiff ei monitro'n amlach na phob mis, ond ni cheir risg uniongyrchol.
Nawr, un peth y byddwn i'n ei ddweud wrth bob ymgeisydd gwleidyddol yn yr etholiadau llywodraeth leol yw na fydd trigolion yn diolch i chi am sefyll ar domenni a phwyntio atynt fel pe baent mewn rhyw fath o berygl sydd ar fin digwydd. Nid yw'n beth doeth i wneud hwn yn fater pleidiol wleidyddol yn yr etholiadau llywodraeth leol. Mae'r gwaith yn cael ei wneud. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith, y cyflwynodd pob plaid yn y Siambr hon sylwadau iddo, yn bwrw ymlaen â hynny ac yn rhoi'r camau cywir ar waith. Rwy'n credu y bydd dychryn pobl, drwy sefyll ar domenni penodol, yn anghyfrifol.
Nawr, yr hyn y mae cyngor Caerffili yn ei ddweud ynglŷn â'r gofrestr a chael cofrestr gyhoeddus, fe wnaethant ddweud mai'r rheswm pennaf a roddwyd yn erbyn gwneud cynnwys y gofrestr yn gyhoeddus oedd y risg o amharu ar eiddo gerllaw neu'n agos at domenni risg uchel, gydag effaith ar werthoedd tir a phrisiau eiddo ac ar gost yswiriant. Gallai fod effaith hefyd ar eiddo a adeiladwyd ar safleoedd a adferwyd. Pwysleisiwyd hynny gan nifer o gynghorau, gan gynnwys Caerffili.
Siaradais â Chaerffili heddiw, a chredaf fod cydbwysedd i'w daro rhwng dychryn pobl a darparu gwybodaeth i'r cyhoedd hefyd, a dyna lle mae gennyf farn wahanol. Credaf y dylid cael cofrestr gyhoeddus, dylai fod ar gael i'r cyhoedd, ond dylai hefyd gynnwys y pethau sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng risg uniongyrchol a'r mathau o risgiau sydd yno.
Felly, dywedodd cyngor Caerffili hefyd y dylai'r system categoreiddio risg ganiatáu ar gyfer is-gategorïau o risg y gellir eu hadnabod yn ôl olddodiad, e.e. ansefydlogrwydd, llifogydd, llygredd a llosgi, ac mae hynny yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith hefyd. Credaf fod angen cydnabod hynny yn y Papur Gwyn. Credaf y byddai hynny wedyn yn gwneud rhywfaint i leddfu'r broblem o gyhoeddi'r gofrestr risg, a chredaf y byddai cyngor Caerffili yn cyfaddef hynny. Yn wir, fe wnaethant ddweud wrthyf nad oedd dim yn yr argymhellion yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith a oedd yn eu poeni'n ormodol. Yn wir, roeddent yn dweud mai'r mater allweddol, wrth gwrs, yw cyllid.
Felly, mae angen inni fabwysiadu dull cyfrifol o weithredu. Nid wyf am ddechrau brwydr bleidiol wleidyddol yn ei gylch, ond mae angen i San Steffan roi'r arian, a hoffwn i Lywodraeth Cymru a'r Papur Gwyn gynnwys rhai o'r materion a nodais heddiw.
Daeth y modd y cafodd Cymru ei hecsbloetio am ei glo, gan ddisbyddu ein tir o'i chyfoeth mwynol a'r elw enfawr a ddeilliodd o'r adnodd hwn ar gost enfawr i fywydau lleol. Mae ecsbloetio cost ddynol glo yn dal i fod yn graith ar yr undeb honedig hwn. Nawr, dywed San Steffan wrthym fod yn rhaid inni dalu'r gost o wneud ein cymunedau'n ddiogel. Dywedir wrthym fod yn rhaid inni yn awr ddod o hyd i'r arian i osgoi'r canlyniadau trychinebus a all ddeillio o dirlithriad rwbel glo, canlyniadau trychinebus yr ydym yn gyfarwydd â hwy yng Nghymru, yn anffodus.
Mae ymddygiad Llywodraeth San Steffan ar hyn yn gywilyddus, ac ni chaiff ei anghofio. Yn fy rhanbarth i, ceir 145 o domenni glo risg uchel. Ym mhob cymuned sydd yng nghysgod tomen o'r fath, bydd llawer o anesmwythyd hyd nes y gwneir y tomenni hyn yn ddiogel. Bydd yn bryder arbennig pan fydd glaw trwm—rhywbeth y gallwn ddisgwyl mwy ohono yn y dyfodol oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Ni all y gwaith adfer ddigwydd yn ddigon buan.
Mae cwestiwn i'w ystyried ynglŷn â sut rydym yn datblygu tomenni glo ar ôl iddynt gael eu gwneud yn ddiogel. Mae llawer o domenni glo wedi dod yn fannau pwysig i fywyd gwyllt. Yn wir, mae rhywogaethau newydd wedi'u darganfod mewn safleoedd o'r fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi darparu lloches fawr ei hangen i rywogaethau sy'n dirywio'n gyflym yn ein tirweddau modern dirywiedig. Drwy gysylltu â chynefinoedd traddodiadol, maent hefyd yn gweithredu fel cerrig camu yn yr amgylchedd, gan ganiatáu i rywogaethau symud yn rhydd ar draws y dirwedd, a byddai cynefinoedd naturiol hefyd yn llawer mwy darniog heblaw am rwbel glofeydd.
Wrth adfywio ardaloedd sy'n gysylltiedig â thomenni yn ystod prosesau adfer, dylem ystyried gwerth y tomenni hyn, yr ardaloedd o'u cwmpas, a sicrhau'r manteision mwyaf posibl, sy'n ddaearegol—maent yn darparu mynediad at ffosiliau a mwynau; archeolegol—gellir dod o hyd i strwythurau ac olion hanesyddol ymhlith y rwbel; hanesyddol—maent yn ein hatgoffa'n weledol o'n hanes glofaol cyfoethog a helpodd i greu a siapio ein gwlad, ac maent hefyd yn adrodd straeon am gysylltiadau teuluol a thirweddol; diwylliannol—mae rwbel glofeydd yn rhan bwysig o'n hunaniaeth ddiwylliannol yn ne Cymru; cymdeithasol—yn aml, oherwydd eu mynediad agored a'u hagosrwydd at aneddiadau, cânt eu defnyddio'n rhwydd gan bobl leol ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan ddarparu manteision iechyd corfforol a meddyliol, oherwydd eu bod yn aml yn darparu'r unig fannau mynediad agored i bobl leol allu mynd allan at fyd natur; ac yn olaf, gweledol—maent yn ffurfio nodweddion gweladwy sy'n arwyddocaol yn y dirwedd leol ac sy'n ddiwylliannol berthnasol. Fe'u defnyddir mewn dehongliadau rhanbarthol a lleol.
Mae enghraifft yn fy rhanbarth o dreftadaeth ddiwydiannol yn cael ei chysylltu â'r genhedlaeth newydd i'w gweld yn natblygiad paent coch Six Bells. Mae'n golygu bod gwastraff dros ben o lofa leol yn cael ei ailgylchu fel pigment a'i ddefnyddio i greu nifer o baentiau ocr arbennig sy'n unigryw i'r pentref. Hoffwn wybod, felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth hon i gysylltu ein treftadaeth ddiwydiannol â'n cymunedau ôl-ddiwydiannol, i gynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf, i ddiogelu mannau agored mawr eu hangen ar gyfer hamdden, ac i archwilio cyfleoedd twristiaeth? Diolch yn fawr.
Mae ein treftadaeth ddiwydiannol wedi helpu i siapio ein cenedl. Gellir darllen hanes ein pobl yn ein tirwedd. Adeiladwyd cymunedau cyfan o amgylch diwydiant, roeddent yn darparu swyddi, bywoliaeth, ac ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin. Teimlwyd cyrhaeddiad ac effaith hanes Cymru ymhell y tu hwnt i'n ffiniau, gan ail-lunio'r economi fyd-eang a'r ffordd o fyw i bobl ddirifedi. Ond er y cyfan a roddodd, fe gymerodd; etifeddiaeth a ysbrydolodd ac a anafodd i'r un graddau, a adeiladodd fywydau a chymunedau, ond sydd wedi gadael cyflyrau iechyd cronig, tlodi parhaus a chreithiau amgylcheddol dwfn.
Ar draws fy rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru, ceir dros 900 o domenni segur, gyda dros 600 ohonynt yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle rwy'n byw. Bernir bod y mwyafrif llethol o'r rhain yn risg is, ond mae 39 o fewn y categorïau risg uwch. Mae'n bwysig cofio nad tomenni glo yw'r unig fath o domen y mae'n rhaid ei gwneud yn ddiogel.
Yng Ngodre'r-graig, yng nghwm Tawe, er enghraifft, mae'r bygythiad o domen rwbel chwarel wedi bod yn destun pryder ers blynyddoedd lawer. Aseswyd bod y domen rwbel chwarel yn peri risg o berygl canolig i'r gymuned islaw, ac mae daeareg y mynydd y mae'n gorwedd arno, sy'n tueddu i weld tirlithriadau, ynghyd â'r ffynhonnau a'r dŵr daear o'u cwmpas, wedi creu sefyllfa sydd wedi achosi trafferthion ac ansicrwydd. Mae'n anodd yswirio cartrefi, mae rhai teuluoedd wedi cael eu diwreiddio, ac ers 2019 mae plant Ysgol Gynradd Godre'r-graig wedi cael eu haddysgu mewn cabanau mewn ysgol filltiroedd i ffwrdd o'u pentref, yn aml heb ddarparu prydau poeth, oherwydd asesiad y cyngor o risg y domen i'w hysgol. Mae hyn wedi peri gofid enfawr i rieni, llywodraethwyr a disgyblion.
Nododd adroddiad a ddarparwyd gan Earth Science Partnership—yr arbenigwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i archwilio'r safle—risg lefel ganolig yn gysylltiedig â'r domen rwbel chwarel hon ger yr ysgol yr effeithir arni gan ddŵr daear. Pe bai'r nant yn blocio o ganlyniad i dywydd garw, canfu'r ymchwiliad bosibilrwydd y gallai lefelau dŵr a phwysedd yn y domen beri i ddeunydd lifo i lawr y rhiw. Amcangyfrifir bod y gost o gael gwared ar y domen hon yn unig yn debygol o fod dros £6 miliwn.
Mae llawer o gymunedau ar draws fy rhanbarth i ac eraill yn byw dan gysgod tebyg. Maent yn byw mewn ofn bob tro y mae'n bwrw glaw, ac mae'n hen bryd gweithredu ar hyn. Os yw'r tomenni hyn yn creu bygythiad o'r fath, rhaid diogelu ein cymunedau. Gwyddom y gallai'r glawiad cynyddol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach. Mae astudiaethau wedi awgrymu cynnydd o 6 y cant yn ystod gaeafau yn ne Cymru erbyn y 2050au, a dim ond cynyddu a wnaiff y risg hon. Mae'n hen bryd gweithredu. Ond nid mater o ddiogelwch syml ydyw, mae'n fater o gyfiawnder hanesyddol a chymdeithasol, a chyfiawnder hinsawdd.
Felly, mae'n hanfodol fod camau'n cael eu cymryd ar unwaith i nodi a chyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â'r tomenni sy'n peri'r risg fwyaf, ymgysylltu â chymunedau, a gwneud y tomenni'n ddiogel. Mae'r dadleuon dros gofrestr o domenni i fod ar gael i'r cyhoedd yn glir. Roedd ymatebwyr i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith a oedd o blaid gwneud cofrestr o domenni yn hygyrch i'r cyhoedd yn dibynnu'n fwyaf cyffredin ar yr angen i hyrwyddo ymddiriedaeth y cyhoedd, atebolrwydd a thryloywder. Fel y dywedodd y Coal Action Network:
'Credwn ei bod yn hanfodol fod y gofrestr o domenni yn cael ei gwneud yn fynediad agored ac yn hawdd ei defnyddio ar gyfer meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd ac atebolrwydd—yn enwedig i'r cymunedau sydd wedi dioddef yng nghysgod tomenni glo, heb fawr o neb i droi atynt.'
Felly, hoffwn ailbwysleisio nad yw ein dadl yn canolbwyntio ar domenni glo yn unig. Roedd sylfaen ddiwydiannol Cymru yn llawer mwy amrywiol, ac felly hefyd y gwastraff a adawyd ar ôl. Roedd cloddio am lo yn aml yn cynnwys cloddio am fwynau masnachol eraill, er enghraifft clai tân a bric-glai, a fyddai wedi cyfrannu at y rwbel.
Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn darparu gwybodaeth am fathau o domenni, na ellir dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn weledol a thomenni glo yn unig, sy'n cynnwys deunydd siâl yn bennaf, wedi'i ffurfio o gloddio cnapiau haearn ar raddfa eang mewn gweithfeydd haearn cynnar, a chloddfeydd llai o is-haenau ar gyfer gwneud brics. Mae tomenni o'r fath yn gyffredin ar draws maes glo de Cymru. Rhaid ystyried y tomenni hyn hefyd mewn unrhyw fath o waith symud neu ymdrechion adfywio.
Mae'n amlwg fod cost i hyn i gyd, ond byddai cost diffyg gweithredu yn llawer uwch, a rhaid ystyried y tomenni hyn a'r risg bosibl y maent yn ei hachosi, megis yr un yng Ngodre'r-graig, sydd eisoes yn achosi trafferthion ac aflonyddwch enfawr i gymunedau. Mae cymunedau sydd wedi bod yn sylfaen i ddiwydiannau Cymru, ac sydd wedi talu pris digon uchel am hynny dros y cenedlaethau, yn haeddu bod yn ddiogel ac maent yn haeddu cael eu hadfer, nid colli eu hysgol bentref, calon eu cymuned. Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod eu cyfrifoldeb yn y mater hwn. Gobeithio y gallwn anfon neges glir heddiw ar ran ein cymunedau i'r perwyl hwnnw.
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu at y ddadl—Lee Waters.
Wel, Lywydd, fel mab, ŵyr a gor-ŵyr i löwr, mae'n fraint gennyf ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a chredaf, ar y cyfan, ei bod wedi bod yn ddadl ragorol. Mae bron i 40 y cant o domenni glo segur y DU yng Nghymru—40 y cant—ac mae tomenni glo'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau. Gwyddom fod yna bron i 2,500 o domenni glo segur, gyda 327 yn y categori uwch. Nawr, mae'r rhain yn gategorïau dros dro ac yn adlewyrchu'r perygl o achosi risg i ddiogelwch ac felly maent yn destun archwiliadau amlach. Nid yw'n golygu eu bod yn fygythiad uniongyrchol, fel y dywedodd Hefin David mor dda yn ei gyfraniad. A Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal yr arolygiadau hyn, gyda chynghorau'n cynnal y gwaith cynnal a chadw a nodwyd drwy'r arolygiadau.
Nawr, mae'r cynnig yn cyfeirio at 'domenni risg uchel', ond rhaid inni fod yn glir nad yw cael eich rhoi mewn categori risg uwch yr un fath â bod yn risg uwch, ac mae'r iaith a ddefnyddiwn yn bwysig. Fel y dywedodd Hefin David, mae dychryn pobl yn anghyfrifol. A nododd yr anawsterau mewn perthynas â chyhoeddi lleoliadau'r holl domenni yn gynamserol. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod hyn yn annerbyniol. Ond rydym wedi rhannu'r wybodaeth gydag awdurdodau lleol a fforymau lleol Cymru gydnerth i'w helpu i ddatblygu cynlluniau rheoli. Yr hyn a fyddai'n annerbyniol fyddai rhannu'r wybodaeth hon yn gyhoeddus pan nad yw'r holl waith wedi'i wneud, ac achosi braw, gofid a phryder, ac fel y crybwyllwyd, effeithio ar eiddo ac achosi llawer iawn o ofid pan allai llawer o'r rhain fod yn domenni eithaf diniwed. Mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Roedd sylwadau Janet Finch-Saunders yn hynny o beth yn go anghyfrifol ac ni roddwyd ystyriaeth ddigonol iddynt, os caf ddweud.
Soniwyd am y treialon. Gofynnodd Delyth Jewell pryd y bydd rhybuddion ar gael ar ffonau symudol er mwyn eu cyflwyno. Nawr, rydym yn treialu ystod o dechnolegau, ac mae 70 o'r tomenni risg uwch wedi'u cynnwys yn y treialon, ac mae'r rhain yn cynnwys pethau fel mesuryddion gogwydd a monitro symudiadau tir â lloeren. Bydd y rhain yn parhau tan tua 2024. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y rhybuddion yn cael eu rhoi i awdurdodau lleol ac na chânt eu gwneud yn gyhoeddus, oherwydd ar hyn o bryd mae peth o'r dechnoleg hon yn anwadal, mae'n annibynadwy, mae'n cael ei defnyddio am y tro cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn sicrhau ei fod yn gywir cyn i ni ddechrau ei wneud yn hygyrch i bawb.
Gadewch imi droi, os caf, at fater y cyllid. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei chyfrifoldeb am y broblem yn y bôn drwy ddyrannu £44 miliwn. Roedd hyn yn anhygoel, ac rwy'n credu y byddai ein cyndeidiau a oedd yn lowyr yn gallu adnabod pa un o'r areithiau a wnaed gan y Tori y prynhawn yma. Credaf fod camddealltwriaeth sylfaenol o bwysigrwydd emosiynol y mater hwn i'n cymunedau. Fel y gofynnodd Heledd Fychan a Delyth Jewell, pwy a elwodd o'r diwydiant hwn? Iawn, fe wnaeth ein cyndeidiau a fu'n gweithio yn y pyllau glo elwa rhywfaint, ond y perchnogion, lawer ohonynt y tu allan i Gymru, oedd piau'r elw. Roedd y cyfoeth o fudd i Brydain gyfan, nid y rhai a weithiodd amdano. Ac nid yw ond yn foesol gywir fod Llywodraeth y DU yn cydnabod y cyfraniad hwn. Ac mae'r ffaith bod gennym gyfres o Dorïaid, o Simon Hart i lawr, bellach yn golchi eu dwylo o hyn yn dangos bod rheswm pam y cânt eu gweld fel plaid ar gyfer Lloegr ac nid plaid ar gyfer Cymru.
Hyd yn hyn, rydym wedi gwario £1.6 miliwn ar arolygiadau. Bydd cost o £30 miliwn i'w codi i safon, a chost o £5 miliwn y flwyddyn arall i'w cynnal, a chost adfer wedyn o tua £600 miliwn, ac mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £9 miliwn inni gan gredu bod hynny'n ddigon ganddynt. Hoffwn ofyn iddynt fyfyrio ar hynny mewn gwirionedd. Nid dyna'r undeb sy'n rhannu yr ydym yn sôn amdano, a pho fwyaf y byddant yn chwarae triciau fel hyn, y mwyaf y mae'n tanseilio'r achos dros yr undeb. Felly, hoffwn ofyn iddynt feddwl yn ofalus iawn am y ffordd y maent yn chwarae eu rhan wrth ymdrin â'r hyn y mae diwydiant Prydain wedi ei adael ar ei ôl.
Soniwyd am effaith newid hinsawdd, ac mae'n enghraifft ddramatig o'r effaith y bydd patrymau tywydd newidiol yn ei chael ar ein cymunedau. Ni allai'r effaith ar y tomenni hyn a'r canlyniadau i'n cymunedau fod yn fwy dwys. Dyna pam fod angen inni liniaru effaith newid hinsawdd, yn ogystal ag addasu i'r effeithiau sydd eisoes yn anochel.
Gofynnodd Janet Finch-Saunders hefyd am yr awdurdod goruchwylio newydd ac a fydd yn annibynnol. Yn sicr, dyna yw ein bwriad, ond byddwn yn ymgynghori ar hyn fel rhan o'n Papur Gwyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yma'n ymateb i hwnnw.
Ceir nifer o opsiynau adfer gwahanol yn y tymor canolig, a bydd yr opsiwn gorau yn dibynnu ar y domen benodol, gan gynnwys ei statws risg a'i agosrwydd at dderbynyddion sensitif fel cymunedau. Enghraifft amlwg o safle tomen wedi'i adfer yw Coetir Ysbryd Llynfi, lle plannwyd dros 60,000 o goed. Felly, mae cyfle yma, yn ogystal â gorfod ymdopi ag effaith newid hinsawdd, i addasu ac ymdrin ag effaith yr argyfwng natur hefyd.
Felly, mae gennym gyfle i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau hyn, a bydd unrhyw raglen fwy hirdymor sy'n canolbwyntio ar adfer angen sicrhau ymgysylltiad trylwyr â'r cymunedau lleol i archwilio opsiynau ar gyfer manteision ehangach, ac rydym wedi diwygio'r cynnig y prynhawn yma i dderbyn hynny. Rydym yn derbyn ysbryd cynnig Plaid Cymru. Credwn fod un y Torïaid yn iawn cyn belled ag y mae'n mynd, ond mae darn sylfaenol ar goll am nad yw'n derbyn bod gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae. Bydd yna gyfleoedd i'n cymunedau os gwnawn bethau'n iawn, ond os na wnawn bethau'n iawn, Lywydd, ni fydd pobl yn maddau i ni.
Delyth Jewell nawr, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Mae wedi bod yn amserol iawn, wrth gwrs, ac yn ddadl bwerus, dwi'n meddwl.
Mae Janet, fel y gellid rhagweld mewn gwirionedd, wedi mynd ati, yn anghywir, i gysylltu'r syniadau am ddatganoli pwerau presennol ac offer ar gyfer y dyfodol â cheisio gwadu cyfrifoldeb am gamweddau'r gorffennol. Nid wyf yn credu ei bod yn wastraff amser i'r Senedd geisio unioni hyn, ac yn eich calon, Janet, nid wyf yn credu eich bod chi'n credu hynny ychwaith.
Gwnaeth Heledd y pwynt fod hyn yn ymwneud â chywiro anghyfiawnder hanesyddol.
Mae Heledd hefyd wedi ein hatgoffa bod union yr un cymunedau wnaeth ddioddef gymaint gyda'r diwydiant glo nawr yn wynebu'r argyfwng hinsawdd fwyaf.
Nid yw'r ffaith nad oes rhywbeth wedi cael ei wneud yn golygu y dylai barhau.
Wel, ie'n wir, Heledd. Diolch hefyd i Hefin am bwyntio mas fod San Steffan yn gwadu'r gwirionedd, fel mae nifer o Aelodau fanna wedi dweud.
Diolch ichi am ddarparu mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Nghaerffili hefyd, a chytunaf yn llwyr y dylid cael cofrestr gyhoeddus, gan ystyried rhai o'r pwyntiau a wnaethoch, wrth gwrs.
Mae Peredur wedi siarad am y pris a dalwyd gan gymunedau cyfan, y posibiliadau hefyd o ran adfywio lleoliadau, a bioamrywiaeth, a bydd yn rhaid gwarchod hynny er mwyn y dyfodol.
A soniodd Sioned am ddeuoliaeth, unwaith eto, yr hyn a adawyd ar ôl gan y tomenni hyn, etifeddiaeth sydd wedi ysbrydoli ac anafu. Cawsom ein hatgoffa nad tomenni glo yw'r unig domenni y mae angen eu gwneud yn ddiogel wrth gwrs, ac unwaith eto, am y niwed ymarferol a seicolegol y mae'r tomenni hyn yn ei achosi pan fo risg wedi'i nodi ond na ellir ei hunioni eto. Roedd hynny'n bwerus iawn.
Diolch, unwaith eto, i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb, am rannu rhagor o wybodaeth gyda ni am dreialon y systemau rhybuddio cynnar, rhai o'r opsiynau adfer, ac eto am ein hatgoffa nad yw hi ond yn foesol gywir y dylai San Steffan dalu.
Lywydd, pan fyddwn yn sôn am domenni sy'n anharddu llethrau ein mynyddoedd, rydym yn sôn am frychau, staeniau, marciau ar ein cof cyfunol, gwrthrychau cywilydd. Maent yn sicrhau bod elfennau mwyaf hyll, mwyaf creulon, a mwyaf peryglus mwyngloddio wedi amharu ar gymunedau ac wedi'u creithio. Mae mwyngloddio wedi'u marcio i gyd, ond mae rhai marciau'n treulio'n denau. Mae yna fynwent yn Llanfabon uwchben Nelson ac yn agos at ble rwy'n byw. Rwy'n adnabod bron bob twll a chornel oherwydd bod fy nwy fam-gu a fy nau dad-cu wedi'u claddu yno. Mae'n fynwent hardd. Mae'n ddigon cyffredin mewn llawer o ffyrdd, ond mae o leiaf un elfen sy'n ei gwneud yn wahanol. Ar hyd y wal ogleddol, heb fod ymhell o'r fynedfa, ceir rhes o 11 bedd. Yng nghanol y rhes honno mae heneb ffurfiol, ond yr un geiriau sydd i'w gweld ar bob un o'r beddau: 'Unknown. Albion explosion, 1894'. Nid yw'r heneb ei hun yn cynnwys yr un o enwau'r eneidiau coll hynny. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw olion i ddynodi pwy ydynt. Rwyf bob amser yn ei chael hi'n anodd deall sut y gall fod na fyddai unrhyw olion ar ôl o fod dynol. Efallai fod eu hanafiadau'n golygu nad oedd modd eu hadnabod, ond mae'n siŵr y byddai eu teuluoedd wedi rhoi rhestr o'r eneidiau coll a'r meirw. Efallai nad oedd gan yr un ohonynt unrhyw deulu. Efallai mai'r unig bobl a oedd yn eu hadnabod oedd y bobl a fu farw gyda hwy.
Bu farw cyfanswm o 219 o ddynion a bechgyn yn nhrychineb glofa'r Albion, ond cafodd yr 11 hyn eu hamddifadu ymhellach ar ôl eu marwolaeth o'r hawl fwyaf sylfaenol honno—yr hawl i gael enw, i gael eu hadnabod a'u cofio. Chwarter canrif yn ddiweddarach, dewisodd Rudyard Kipling yr ymadrodd 'hysbys i Dduw' ar gyfer beddau milwyr anhysbys y Gymanwlad. Mae yr un mor addas i'r 11 dyn hyn, gan na wnaeth unrhyw fod meidrol alaru amdanynt. Ni wnaethant adael unrhyw ôl, na marc, nac arwydd eu bod erioed wedi byw, anadlu, llafurio a marw. Mae creulondeb gwrthnysig yn y ffaith ein bod, yn y tomenni hyn, yn cael ein hatgoffa'n gyson am ddiwydiant sydd, ar ei adegau gwaethaf, wedi dileu dynion a bechgyn oddi ar wyneb y ddaear heb adael unrhyw ôl. Ac fe gafodd y rhai a wnaeth fyw, y rhai lwcus, y llwch, fel y cyfeiriwyd ato—yn y Cymoedd, nid yw llwch yn golygu rhywbeth y byddwch yn ei sychu oddi ar gelfi; dyna oedd yr enw am y clefyd llesteiriol a wnaeth andwyo cenedlaethau o ddynion a'u gadael yn ymladd am eu hanadl. Dyna etifeddiaeth mwyngloddio. Dyna hefyd yw'r tomenni hyn, y creithiau sy'n cuddio o flaen ein llygaid. Ni allwn ddwyn i gof y rhai sy'n hysbys i Dduw yn unig, ond gallwn anrhydeddu'r cof amdanynt, ac anrhydeddu aberth yr holl lowyr a phawb a gollodd gymaint yn y blynyddoedd hynny. Ni allwn ddileu'r gorffennol, ond gallwn o leiaf geisio gwneud iawn am bethau. Rwy'n gobeithio y caiff y cynnig hwn ei dderbyn. Rwy'n gobeithio, yng nghoridorau San Steffan, y gellir sicrhau rhywfaint o gyfiawnder o'r diwedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr er mwyn paratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais hynny.