5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru'

– Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:43, 15 Mehefin 2022

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8024 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:43, 15 Mehefin 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gynnal ein hymchwiliad byr, penodol i orlifoedd stormydd pan oedd y mater yn cael cryn dipyn o sylw. Roedd yna benawdau newyddion cyson am garthffosiaeth amrwd yn cael ei ollwng i afonydd ledled Cymru a Lloegr. Roedd adroddiadau o ddadlau brwd yn San Steffan ynghylch deddfau llymach i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion. Yna, daeth cyhoeddiad Ofwat am ymchwiliad i gwmnïau dŵr ar y ddwy ochr i'r ffin a oedd, o bosib, yn torri trwyddedau gorlifoedd stormydd. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod hi'n bwysig cael darlun cliriach o orlifoedd stormydd yng Nghymru, a’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â gollyngiadau carthion.

Felly, beth ydym ni’n ei wybod am orlifoedd stormydd? Wel, maen nhw i fod cael eu defnyddio yn anaml ac mewn amgylchiadau eithriadol, pan fo glaw trwm yn golygu nad yw’r carthffosydd cyfun yn gallu ymdopi. Maen nhw yna fel rhyw fath o falf diogelwch fel nad yw carthion yn gorlifo yn ôl i'n cartrefi a'n strydoedd ni. Er mor annymunol ydyn nhw, o gofio’r difrod a'r gofid sy’n cael ei greu pan fydd carthffosydd yn gorlifo, maen nhw’n rhan angenrheidiol o'r system garthffosydd rydym ni wedi'i hetifeddu. 

Felly, beth yw’r broblem? Wel, mae’r ffigurau’n siarad drostyn nhw eu hunain, i ddweud y gwir. Yn hytrach na chael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, mae'n ymddangos mai defnyddio gorlifoedd stormydd yw'r norm. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, yn 2020 roedd dros 105,000 o ollyngiadau—105,000 o ollyngiadau—o’r dros 2,000 o orlifoedd a ganiateir ac sy’n cael eu monitro. Pa ryfedd, felly, fod y cyhoedd wedi ymateb mor gryf pan gyhoeddwyd y ffigurau hyn a bod y cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi’u beirniadu mor hallt? A dyw'r ffigurau yna, wrth gwrs, ddim yn dweud y stori'n llawn—dydyn nhw ddim yn cynnwys gollyngiadau o orlifoedd a ganiateir sydd ddim yn cael eu monitro, nac yn wir o orlifoedd nas caniateir. Mae hyn yn golygu, felly, y gall gwir nifer y gollyngiadau fod yn llawer iawn, iawn uwch mewn gwirionedd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:45, 15 Mehefin 2022

Yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni dro ar ôl tro nad gollyngiadau o’r gorlifoedd yw’r prif reswm dros ansawdd gwael ein hafonydd, a dydyn ni fel pwyllgor ddim yn anghytuno â hynny, wrth gwrs. Ond mae yna dueddiad gan rai i ddefnyddio hynny i geisio diystyru’r nifer annerbyniol o ollyngiadau a thrio troi’r ddadl at lygryddion a sectorau eraill, a dyw hynny'n fawr o help, wrth gwrs, gan fod gorlifoedd yn cyfrannu at ddirywiad ansawdd ein hafonydd, ac mae e yn faes lle mae angen mynd i'r afael ag e o ddifri.

Cyn troi at argymhellion penodol y pwyllgor, hoffwn gyfeirio i ddechrau at sylwadau rhagarweiniol y Gweinidog yn ei hymateb i’n hadroddiad ni. Mi ddywedodd y Gweinidog wrthon ni na fyddai taclo gorlifoedd stormydd yn unig yn arwain at welliannau cynhwysfawr o ran ansawdd dŵr. Wel, fel dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi, dŷn ni ddim yn gofyn ichi fynd i'r afael â gorlifoedd stormydd yn unig. Wrth gwrs, mae'n rhaid mynd i'r afael â phob math o lygredd dŵr mewn ffordd gymesur a theg. Ond yr hyn rŷn ni yn gofyn i chi ei wneud, wrth gwrs, ynghyd â’r cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, yw i wneud mwy, ac i wneud hynny’n gyflym, i leihau nifer frawychus y gollyngiadau sydd yn digwydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar hyd a lled Cymru.

Roedd 10 o argymhellion yn ein hadroddiad ni, ac fe gafodd pob un ohonyn nhw eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Gweinidog. Roedd rhai o'r argymhellion hefyd wedi'u hanelu at Gyfoeth Naturiol Cymru, y cwmnïau dŵr ac Ofwat, ac rŷn ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog a'r cwmnïau dŵr am eu hymatebion sydd, yn gyffredinol, mae'n rhaid i fi ddweud, yn gadarnhaol, ac rŷn ni hefyd yn edrych ymlaen at glywed gan Ofwat a Chyfoeth Naturiol Cymru pan ddaw'r amser iddyn nhw wneud hynny.

Yn ei hymateb i’n hargymhelliad cyntaf, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad, fe gyfeiriodd y Gweinidog at fap ffordd, neu road map, ar gyfer gorlifoedd stormydd sy'n cael ei baratoi gan y tasglu ansawdd dŵr afon gwell. Galwodd y pwyllgor am i’r map ffordd yma gynnwys targedau ac amserlenni ar gyfer lleihau gollyngiadau, a systemau monitro ac adrodd cynhwysfawr a thryloyw er mwyn medru asesu cynnydd. Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rŷn ni'n deall y bydd y map ffordd yn pennu amcanion a chanlyniadau mesuradwy er mwyn sicrhau gwelliannau. Felly, mae hynny yn ddechrau da ac yn beth addawol iawn. Ond beth am y targedau a'r amserlenni rŷn wedi galw amdanyn nhw hefyd? Efallai, Weinidog, y gallwch chi, wrth ymateb, ymrwymo i sicrhau bod y map ffordd yn cynnwys y rhain.

Dywedir wrthon ni hefyd mai mater i'r tasglu fydd goruchwylio'r broses o roi’r map ffordd ar waith ac mai aelodau'r tasglu fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd. Efallai, Weinidog, wedyn, allwch chi ddweud wrthon ni wrth ymateb sut y byddwn ni fel pwyllgor, a’r cyhoedd yn ehangach, felly, yn gallu craffu ar gynnydd o ran cyflawni’r amcanion? A wnewch chi sicrhau y bydd gwaith y tasglu yma yn gwbl dryloyw—rhywbeth, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi bod ar goll hyd yma?

Mae argymhelliad 4 yn galw am drefniadau monitro ychwanegol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith gollyngiadau ar ddŵr derbyn, hynny yw dŵr derbyn yw'r dŵr mae gollyngiadau yn llifo i mewn iddo fe. Fe gawsom ni wybod y bydd rhaglen fonitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd. Mae hynny'n codi’r cwestiwn: pam ei bod hi wedi cymryd tan nawr i wneud hynny? Mae angen i’r rhaglen yma arwain at ganlyniadau, ac mae angen inni weld y canlyniadau hynny yn gyflym.

Dwi eisiau dychwelyd at y mater o orlifoedd nas caniateir y gwnes i sôn amdanyn nhw'n gynharach, oherwydd does fawr ddim gwybodaeth, wrth gwrs, am y rhain, felly dŷn ni ddim yn gwybod pa ddifrod y gallan nhw fod yn ei wneud. Mi fuaswn i'n licio clywed, felly, gan y Gweinidog yn nes ymlaen: ydych wedi pennu amserlen gref a chlir sy’n dangos pryd rŷch chi’n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnwys y rhain yn y drefn reoleiddio? I ba raddau ŷch chi'n meddwl y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru roi blaenoriaeth i hyn?

Yn olaf, mae’r Gweinidog wedi dweud bod dal angen sgôpio allan y gost o ymgymryd â llawer o'r gwaith y mae’n ei amlinellu yn ei hymateb. Dyw hynny ddim yn ateb arbennig o foddhaol. Allwch chi roi syniad inni, efallai, Weinidog, o bryd y caiff y gwaith hwn ei gwblhau? A allwch chi hefyd ein sicrhau ni—yr un mor bwysig—fod digon o gyllid ar gael i dalu am y gwaith rŷch chi wedi ei amlinellu?

I gloi, felly, Dirprwy Lywydd, er bod gorlifoedd stormydd wedi cael llai o sylw yn y cyfryngau yn ystod y misoedd diwethaf, dyw'r problemau'n ymwneud â gollyngiadau carthion, wrth gwrs, ddim wedi diflannu. Nawr bod gwir faint y gollyngiadau wedi dod i'r amlwg, rŷn ni yn disgwyl gweld camau mwy pendant yn cael eu cymryd i'w lleihau. Rŷn ni'n disgwyl gweld cynnydd yn y ddealltwriaeth o effaith gronnol gollyngiadau ar ansawdd dŵr. Rŷn ni'n disgwyl, fel pwyllgor, gweld gostyngiad yn y difrod sy'n cael ei greu gan ollyngiadau i'n hafonydd ac i'r bywyd gwyllt gwerthfawr sy'n byw ynddyn nhw. Rŷn ni hefyd, wrth gwrs, fel pwyllgor, yn edrych ymlaen at drafod y cynnydd a fydd yn cael ei wneud, gobeithio, o ran rhoi ein hargymhellion ni ar waith yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon. Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:50, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Llyr a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith ar y mater hynod bwysig hwn? O’r sgyrsiau a gaf, a’r ohebiaeth a gaf, carwn awgrymu bod pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am ansawdd ein dyfrffyrdd. Mae llawer o sylw wedi'i roi yn y cyfryngau, a hynny’n gwbl briodol, i afon Hafren ac afon Gwy, ac effaith llygredd o ffermydd ieir, er enghraifft. Gelwais yn y gorffennol am foratoriwm ar y datblygiadau hyn ar sawl achlysur, a byddaf yn gwneud hynny eto, oherwydd, i ddyfynnu llythyr y Gweinidog atom:

'Nid gollyngiadau o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol… yw prif achos ansawdd dŵr gwael yng Nghymru—y prif achosion yw dŵr ffo o wastraff anifeiliaid a chemegau a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth, llygredd o byllau segur, dŵr ffo o ardaloedd adeiledig, a phibellau carthion yn cael eu cysylltu, yn anghywir, â rhwydweithiau draenio.'

Mae gwaith modelu Dŵr Cymru ei hun ar afon Gwy yn dangos bod eu hasedau’n gyfrifol am 21 y cant o'r ffosfforws yn y prif gyrff dŵr, gyda gorlifoedd stormydd cyfunol yn gyfrifol am 1 y cant yn unig. Achosir y gweddill gan y ffactorau eraill rwyf newydd eu crybwyll.

Yn sicr, ceir problemau gorlifo yn fy rhanbarth i. Yr wythnos diwethaf, cysylltodd prosiect cymunedol Gofynnwch am yr Arth â mi, sef prosiect sy’n gweithio gyda Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Ceredigion Birds and Wildlife i leihau’r gorlif i afon Arth, ac i adennill statws baner ar gyfer traeth Aber-arth. Yn 2019-20, cafodd carthion amrwd eu pwmpio am 230 diwrnod, ac mae'r grwpiau am i hynny gael ei leihau i 60 diwrnod. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch ymgysylltu â phrosiect Gofynnwch am yr Arth yn y dyfodol, ac rwy'n fwy na pharod i’ch rhoi mewn cysylltiad â’r grŵp hwnnw.

Ar nodyn cadarnhaol, ceir enghreifftiau hefyd o arferion da iawn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Edrychodd y pwyllgor ar brosiect GlawLif arloesol Llanelli, lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £115 miliwn rhwng 2012 a 2020, ac sydd wedi darparu oddeutu 14 milltir o bibellwaith newydd a draeniau yn y cyrbiau, yn ogystal â thwnnel newydd a bron i 10,000 o blanhigion a choed. Ac mae'n enghraifft wych o ateb seilwaith mawr wedi'i baru â dull sy'n seiliedig ar natur. Ond gall newid bach wedi'i luosi sawl gwaith fod yr un mor effeithiol. Bum mlynedd yn ôl, arweiniais ddadl fer o'r enw, 'Dŵr Ffo o'r Mynydd ac ar ein Ffyrdd', ac rwy'n dal yn falch ohoni. Roedd yn dilyn fy nghynnig deddfwriaethol yn 2009 i ymdrin â llifogydd dŵr wyneb drwy gyfyngu ar y defnydd o arwynebau caled o amgylch cartrefi pobl, rhywbeth a gymeradwywyd gan y Cynulliad, fel y'i gelwid ar y pryd. Ac roedd yn un o brif argymhellion adolygiad Pitt a ddilynodd llifogydd dinistriol 2007, ac y bydd yr Aelodau'n eu cofio. Ond 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r digwyddiadau tywydd hyn yn llai eithriadol. Fel y nododd Hafren Dyfrdwy yn eu tystiolaeth,

'mae digwyddiadau glawiad eithafol 30% yn fwy tebygol yn y degawd nesaf'.

Y ffaith amdani yw, o gymharu â gardd, mae cerrig palmant, tarmac a choncrit anhydraidd yn arwain at gynnydd o gymaint â 50 y cant mewn dŵr ffo. Ac er bod cyfyngiadau cynllunio ar yr hyn y gellir ei osod mewn gardd flaen, ychydig iawn, os o gwbl, sy'n bodoli ar gyfer yr ardd gefn, ac yn fy marn i, fe ddylai fod. Felly, unwaith eto, carwn annog y Gweinidog, os gall, i fynd i’r afael â’r mater hwnnw a bod yn feiddgar yn y Bil cynllunio nesaf—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:55, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Joyce, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Un bach. Mae'n wych gweithio gyda chi ar y mathau hyn o faterion ar y pwyllgor, ochr yn ochr â chi. A fyddech yn cytuno mai'r ffasiwn ddiweddaraf yn awr yw lawntiau plastig? Wrth gwrs, nid yw lawntiau plastig yn amsugno unrhyw beth. A chan ein bod yn cymryd camau bellach i geisio gwarchod ein hamgylchedd, gwn na allwn gyflwyno polisi neu ddeddfwriaeth, ond oni ddylem, efallai, gyfleu'r neges ei bod yn llawer gwell ichi gadw eich lawnt naturiol o ran hyn ac o ran diogelu ein hamgylchedd? Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno’n llwyr â hynny, gan ei fod yn ymwneud â mwy na’r dŵr wyneb y maent yn ei greu, mae’n ymwneud hefyd â’r gronynnau micro o blastig a fydd yn mynd i lawr y draen hefyd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rydych newydd fy nal, gan fy mod ar fin gorffen drwy annog y Gweinidog i fod yn feiddgar yn y polisïau y mae'n eu cyflwyno, fel y bu yn y gorffennol, felly i fod yn fwy beiddgar nag y bu yn y gorffennol wrth ymdrin â dŵr wyneb.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:56, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae Cymru’n adnabyddus am un o’i hasedau naturiol mwyaf, sydd wedi cyfrannu at ran annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae’n llunio ein hamgylchedd naturiol a’n tirweddau, gan gefnogi bioamrywiaeth a’n hecosystemau. Fel adnodd naturiol hanfodol, mae dŵr yn sail i’n heconomi a gweithrediad effeithiol seilwaith, gan gynnwys y cyflenwad ynni. Mae mynediad at gyflenwad dŵr glân, diogel a sicr hefyd yn hanfodol i gefnogi iechyd a llesiant pawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chymru. Dyna pam fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a gweithio i ddiogelu ei allu i gael ei ddefnyddio er budd Cymru yn y dyfodol.

Nawr, yn ôl y sôn, mae rhaglen y Llywodraeth yn ein hymrwymo i wella ansawdd dŵr drwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol at ddibenion hamdden a chryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr. Mae hefyd yn awgrymu ymrwymiad i wella’r fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â systemau draenio cynaliadwy er mwyn darparu manteision amgylcheddol, bioamrywiaeth, llesiant a manteision economaidd ychwanegol i’n cymunedau, a dylid mabwysiadu’r rhain hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth dreigl ar gyfer rhaglen amlflwyddyn, gwerth miliynau o bunnoedd, yr amcangyfrifir ei bod oddeutu £40 miliwn ar hyn o bryd, i wella ansawdd dŵr. Fodd bynnag, mae adroddiadau gan CNC yn nodi nad yw’r data diweddaraf mor addawol ag y dylai fod ar ôl 22 mlynedd o Lywodraeth ddatganoledig. Dim ond 40 y cant o gyrff dŵr Cymru sydd â statws ecolegol 'da' neu 'well'. Fel y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod, mae ein cyrff dŵr o dan bwysau oherwydd amryw o heriau, ond mae tywydd eithafol, llygredd, effeithiau hinsawdd, prosesau diwydiannol a’r galw cysylltiedig am ddŵr a thwf poblogaeth wedi methu annog Llywodraeth Cymru i gyflymu camau gweithredu a allai ddatrys llawer o'r problemau hyn.

Fel y dywedais eisoes, mae angen diogelu ein cyrff dŵr fel y gall cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol elwa o Gymru lewyrchus, gydnerth ac iach. Mae arnaf ofn—. Gwn ei bod yn broblem fawr, gwn ei bod yn ymwneud â seilwaith ac nad ydym am drosglwyddo'r gost i gwsmeriaid, ond credaf y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy.

Er bod data addawol i'w ystyried, mae faint o garthion sy’n cael eu gollwng i afonydd Cymru yn ystod glaw trwm yn annerbyniol ac mae hyn yn peri risg y gellir ei osgoi i’r cyhoedd. Mae gorlifoedd stormydd wedi bod yn destun trafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf. Mynegwyd pryderon ynghylch amlder gollyngiadau carthion o orlifoedd stormydd, effaith andwyol gollyngiadau ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, diffyg adrodd am ddigwyddiadau llygredd gan gwmnïau dŵr, a methiant rheoleiddwyr amgylcheddol i roi camau gorfodi ar waith pan geir digwyddiadau llygredd. Ac mae cymaint o ddigwyddiadau wedi bod yn fy etholaeth yn ddiweddar, ac rwy’n cysylltu â Dŵr Cymru, maent yn dweud wrthyf am gysylltu â CNC i nodi bod hynny’n digwydd, felly mae’r ddwy asiantaeth yn gweithio ar hyn, neu dyna rwy'n ei feddwl, ac mae'n rhaid imi ddal i fynd ar eu holau o hyd ac o hyd. Os yw Llywodraeth Cymru am ddechrau adfer hyder y cyhoedd, rhaid i CNC allu ymateb yn amserol ac yn effeithiol i achosion o lygredd, a rhaid iddynt fod yn barod i roi camau gorfodi ar waith ar unwaith pan fydd achosion o dorri amodau trwyddedau yn digwydd.

Mae llygredd afonydd yn argyfwng sy'n mynd i waethygu heb ymyrraeth sylweddol ar unwaith. Felly, er bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn argymhellion yn yr adroddiad—rhai argymhellion—ni cheir fframwaith a chynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer y tymor hir.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi amlinellu mesurau i fynd i’r afael â gorlifoedd stormydd, gyda chynlluniau a fydd yn rhoi targedau uchelgeisiol ar waith i gwmnïau dŵr leihau gollyngiadau 80 y cant. O dan y cynllun a argymhellir, erbyn 2035, bydd effeithiau amgylcheddol 3,000 o orlifoedd stormydd sy’n effeithio ar ein safleoedd gwarchodedig pwysicaf wedi’u dileu. Yn ogystal, bydd 70 y cant yn llai o ollyngiadau i ddyfroedd ymdrochi, ac erbyn 2040, bydd oddeutu 160,000 o ollyngiadau, ar gyfartaledd, wedi'u dileu.

Mae’r dystiolaeth gan gyfranwyr i’r adroddiad diweddaraf yn awgrymu bod y sector yn awyddus i fabwysiadu atebion sy'n seiliedig ar natur i reoli dŵr. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n llawer arafach na’r hyn a ddisgwylir gan CNC. Felly, rwy’n awyddus i ddeall pam, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl mynd i'r afael â hyn. Felly, tybed a wnewch chi ystyried cynnal fforwm agored i drafod atebion, Weinidog, fel y gall amrywiaeth o arbenigwyr yn y diwydiant a deddfwyr roi cyngor ar hyn. Mae'n rhaid inni weld camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, yn ei rôl arweiniol, i sicrhau bod nifer a graddau'r gollyngiadau yn cael eu lleihau fel mater o frys. Hoffwn weld y Gweinidog yn adrodd yn ôl i’n pwyllgor chwe mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru, gan nodi’r camau y mae wedi’u cymryd, gyda phartneriaid, i fynd i’r afael â’r mater hwn. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:01, 15 Mehefin 2022

Mae’n bleser siarad yn y ddadl hon, a hoffwn i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, gweddill y pwyllgor a’r tîm clercio am y gwaith pwysig maen nhw wedi'i wneud gyda’r adroddiad a’r ymgynghoriad byr.

Mae gorlifoedd storm yn fater pwysig, ac, fel dŷn ni wedi'i glywed, hefyd mae hyn yn fater emosiynol. Codwyd pryderon gyda ni am ba mor aml mae'r gorlifoedd storm yn gollwng carthion, yr effaith niweidiol mae hyn yn ei chael ar yr amgylchfyd ac iechyd cyhoeddus. Codwyd pryderon am y diffyg adrodd sy’n digwydd gan gwmnïau dŵr, eto fel dŷn ni wedi'i glywed, a’r methiant gan reoleiddwyr amgylcheddol i gymryd camau cryfach yn erbyn cwmnïau pan fo llygredd yn digwydd.

Rwy’n siŵr, Dirprwy Lywydd, roedd pob un ohonom ni wedi’n brawychu i glywed, yn gynharach eleni, fod 105,000 o achosion o ddadlwytho carthion wedi’u recordio yng Nghymru. A beth sy’n waeth ydy, fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi'i ddweud, gwnaethon ni fel pwyllgor ddod i ddeall fod y ffigwr go iawn siŵr o fod yn sylweddol uwch, gan fod cymaint o ddiffyg recordio yn digwydd, neu ddadlwytho sy'n anghyfreithlon.

Dylai gorlifoedd storm ond cael eu defnyddio yn anaml, eto fel oedd y Cadeirydd wedi'i ddweud, dan amgylchiadau eithriadol, ond nid fel yna y mae. Beth sy’n glir ydy bod y nifer o achosion o ddadlwytho yn cynyddu. Ac fel mae Llyr Gruffydd wedi dweud yn y gorffennol, all y sefyllfa hon ddim parhau, lle mae rhiant yn ofni gadael i’w plentyn nofio mewn afon yng Nghymru oherwydd maen nhw’n poeni cymaint am garthion. Mae fe'n ffiaidd. Mae jest yn sefyllfa hollol echrydus. Mae’n amlwg bod hi’n hen amser i’r diwydiant dŵr lanhau’r ffordd maen nhw'n gweithio. Diwygio, buddsoddi, gwneud beth maen nhw’n cael eu talu i'w wneud, sef diogelu llefydd dŵr ar gyfer pobl ond hefyd ar gyfer yr amgylchfyd.

Mae nifer yr achosion dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, mae hwnna'n dangos fod gap yn y broses reoleiddio amgylcheddol, ac yn y ffordd mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio mewn realiti. Pryd bydd y Llywodraeth yn taclo’r gap llywodraethu amgylcheddol? A fydd y Gweinidog, plîs, yn gallu rhoi diweddariad inni am hyn?

Mae ymateb y Llywodraeth i’n hadroddiad yn sôn am £40 miliwn o fuddsoddiad dros dair blynedd, eto fel dŷn ni wedi'i glywed, mewn i SuDS, neu sustainable urban drainage solutions. Does gen i ddim syniad sut i ddweud hwnna yn Gymraeg. Mae hwnna i’w groesawu, ond all SuDS ar eu pennau eu hunain ddim ateb y broblem ynghylch y cynnydd mewn datblygiadau trefol a’r lleihad mewn pa mor permeable mae’r tir. Mae gwledydd eraill wedi edrych mewn i ffyrdd eraill o wella’r draeniad, y drainage: mae Awstria wedi ceisio lleihau sprawl trefol; mae Gwlad Belg yn ailddefnyddio tiroedd brownfield ar gyfer datblygiadau; mae’r Czech Republic wedi arwain y ffordd wrth ddiogelu tir amaethyddol trwy ffragmenteiddio tirlun, neu landscape fragmentation. Buaswn i’n hoffi clywed gan y Gweinidog os ydy’r Llywodraeth yma yng Nghymru wedi edrych ar beth sy’n digwydd yn rhyngwladol, neu y tu fas i Gymru, pan fyddan nhw yn ymateb i'r her yma. Gyda llaw, pan ŷn ni'n sôn am ddatblygiadau trefol, buaswn i'n cytuno'n gyfan gwbl gyda beth oedd Janet Finch-Saunders wedi'i ddweud ynglŷn â plastic grass. Eto, dwi ddim yn siŵr sut i ddweud hynna yn Gymraeg, o dop fy mhen.

I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhellion, ond rwy’n dal i bryderu. Dywedodd Dŵr Cymru wrth y pwyllgor y byddai cymryd mas pob gorlifydd storm, ac osgoi pob spill, yn golygu dyblygu’r rhwydwaith draeniad gyda chost o rhwng £9 biliwn a £14 biliwn. Dywedon nhw y byddai’r gost yn golygu cynnydd mewn biliau cwsmeriaid ar adeg o greisis costau byw, felly sut bydd y Llywodraeth yn ymateb i'r sialens yma o ran y gost, os gwelwch yn dda? Diolch.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:05, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar y mater hwn, o ystyried nad wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond yn enwedig gan fod yr adroddiad yn eithaf cadarn ei ddadansoddiad ac yn eithaf damniol ei gasgliadau. Mae gennyf ddiddordeb yn yr adroddiad oherwydd bod cynnig deddfwriaethol fy Aelod ar wella dyfrffyrdd mewndirol, ac yn amlwg, mae llygredd dŵr yn effeithio ar fy etholaeth i.

Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad, mewn du a gwyn ar dudalen 6, yn dweud

‘Mae nifer y gollyngiadau carthion i afonydd Cymru yn annerbyniol. Rhaid i ni weld camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’ sy'n gyfaddefiad damniol fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn fodlon gweld carthion amrwd yn cael ei ollwng i'n dyfrffyrdd, dyfrffyrdd fel afon Tywi yn sir Gaerfyrddin ac afon Cleddau yn sir Benfro, ill dau yn fy etholaeth, ers dros 20 mlynedd. Nid yw'n ddigon da. Dyna pam rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’i Gadeirydd, Llyr Gruffydd, am ymchwilio i’r mater pwysig hwn. Mae'n fater sy'n effeithio ar etholwyr pob Aelod yn y Siambr hon, gyda hysbysiadau am ollyngiadau yn gorlifo fy mewnflwch. Bob tro y bydd gorlif carthffosiaeth cyfunol trwyddedig yn gollwng carthion, caf fy hysbysu gan etholwyr pryderus, y rhai sy'n defnyddio'r dyfrffyrdd mewndirol, sy'n cysylltu mewn dicter ac anobaith drwy system ar-lein Surfers Against Sewage.

Yn ôl adroddiad y pwyllgor, cafwyd 105,751 o ollyngiadau a ganiateir—a ganiateir—yn 2020. Mae’r rheini’n achosion lle roedd polisi Llywodraeth Cymru yn dweud y gallai carthion amrwd gael eu gollwng i'n hafonydd a’n moroedd. Mae’r nifer hwn yn hepgor gollyngiadau carthion heb eu trwyddedu, achosion lle nad oedd unrhyw drwyddedau wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i ollwng gwastraff dynol yn ein hafonydd, pwynt a godwyd ac a bwysleisiwyd gan Gadeirydd y pwyllgor, Llyr, yn gynharach. Nid ydym yn gwybod yr union nifer, am nad yw Llywodraeth Cymru na'r corff a noddir ganddynt, CNC, yn monitro achosion o'r fath. A bod yn onest, nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da.

Ar draws y ffin, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r union faterion hyn; mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim, wedi cymeradwyo trwyddedau carthion a pharhau i ollwng gwastraff crai i'n hafonydd.

Mae Dŵr Cymru wedi datgan, ac rwy’n dyfynnu,

‘nid dyma yw’r sefyllfa yr hoffem fod ynddi.’

Mae Ofwat wedi cydnabod eu pryderon dwfn ynghylch gollwng carthion, gan fynd rhagddynt i ddweud bod y 'lefel bresennol yn annerbyniol'. Ac eto, polisi Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain at y sefyllfa hon, felly drwy ddewis gwneud dim, dim ond gwaethygu a wnaiff y sefyllfa.

Ni allwn sicrhau newid heb gymryd sylw o'r adroddiad hwn a'r argymhellion sydd ynddo. Mae pob un o'r 10 argymhelliad yn adeiladol, yn effeithiol ac yn gyraeddadwy.

Hoffwn bwysleisio hefyd fod angen i'r tasglu ansawdd dŵr afon gwell fod yn fwy tryloyw na'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Lle mae cofnodion y cyfarfod hwn? Mae hwn yn bwnc sy’n ennyn cymaint o ddiddordeb cyhoeddus fel bod y syniad na fydd tasglu a sefydlwyd i wella ansawdd afonydd yn cyhoeddi cofnodion ei gyfarfodydd yn gwbl ryfeddol.

Rhaid i Lywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr ddod at ei gilydd i sicrhau newid ystyrlon. Nawr yw’r amser i wrando, i weithredu ac i weithio’n adeiladol gyda’n gilydd, ac rwy’n siŵr y gallwn wneud rhai camau cadarnhaol yn ein blaenau. Dyma gyfle i droi dalen newydd a sicrhau bod ein hafonydd yn gadarnleoedd ar gyfer bioamrywiaeth ac yn lleoedd i bob un ohonom eu mwynhau. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ein deffro i'r hyn sydd angen ei wneud. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:09, 15 Mehefin 2022

Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad manwl, a gyhoeddwyd ganddynt ar 15 Mawrth, ac rwyf eisiau cydnabod gwaith caled a brwdfrydedd gwirioneddol y pwyllgor wrth iddynt gyflawni’r gwaith hwn a chydnabod y casgliadau a wnaed yn yr adroddiad. Fel Cadeirydd y pwyllgor, mae Llyr eisoes wedi nodi ein bod wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r 10 argymhelliad a wnaed.

Ddirprwy Lywydd, ni fydd amser yn caniatáu imi fynd drwy bob peth unigol y mae'r Aelodau wedi'i godi heddiw, ond rydym yn gwbl gefnogol i'r pwyntiau cyffredinol sy'n cael eu gwneud, a bydd Llyr yn gwybod ein bod wedi derbyn y rheini. Lle rydym wedi eu derbyn mewn egwyddor, mae hynny oherwydd ein bod naill ai yn ei wneud yn barod neu oherwydd ein bod eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg iawn. Felly, nid yw’n golygu ein bod yn erbyn gwneud hynny yn y dyfodol. Felly, roeddwn eisiau gwneud y pwynt hwnnw. Rwyf am ganolbwyntio ar un neu ddau o’r pwyntiau, ond rwy’n hapus iawn i barhau â’r ddeialog gyda’r pwyllgor a chyda’r Senedd.

Felly, yn amlwg, mae diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i wella ansawdd dŵr drwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden a chryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i wella'r fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â systemau draenio cynaliadwy. At hynny, a gaf fi ddweud cymaint rwy’n croesawu’r ffaith bod pawb yn y Senedd wedi sylweddoli'n sydyn syniad mor wych oedd y rheini? Nid felly oedd hi pan wnaethom eu cyflwyno, ond rwyf wrth fy modd gyda’r dröedigaeth. Maent yn darparu'r manteision ychwanegol sydd ganddynt i'w cynnig i'r cymunedau o ran bioamrywiaeth, llesiant, yr amgylchedd a'r economi.

Rydym eisoes wedi darparu ar gyfer rhaglen waith amlflwyddyn gwerth miliynau o bunnoedd i wella ansawdd dŵr, sy’n werth cyfanswm o dros £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Fel y mae llawer o bobl eisoes wedi’i ddweud yn y Siambr, cafwyd llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar am ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion i ddyfrffyrdd, gyda chanfyddiad eang mai dyma brif achos ansawdd dŵr gwael. Fel y cydnabuwyd ar draws y Siambr—wel, ar wahân i’r cyfraniad diwethaf, na ddilynais mewn gwirionedd—mae’r dystiolaeth yn dangos bod ffactorau niferus yn cyfrannu at ansawdd dŵr gwael, yn cynnwys llygredd amaethyddol, camgysylltiadau draenio preifat, tanciau septig ac yn y blaen. Felly, nid dyma'r prif achos; mae'n un o nifer o achosion. Rwy’n cydnabod yn llwyr, fodd bynnag, fod angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cadw hynny mewn golwg.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:11, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, mae’r holl bwyntiau a roddais yn fy araith wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, felly nid wyf yn credu eich bod yn onest pan ddywedwch na wnaethoch ddeall fy nghyfraniad.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, yr hyn a olygwn oedd ei bod yn ymddangos eich bod yn ceisio ein cyferbynnu â gwaith dros y ffin, ac mae'n broblem wirioneddol ledled y DU mewn gwirionedd. Felly—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf am ddadlau ar draws y Siambr.

Fel y mae’r Cadeirydd wedi cydnabod, mae gorlifoedd stormydd yn darparu man rhyddhau wedi'i reoli ar adegau o law trwm. Gyda digwyddiadau tywydd mwy eithafol yn digwydd, maent yn cyflawni rôl hanfodol er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd difrifol i gartrefi a mannau cyhoeddus, gan atal carthion rhag gorlifo i gartrefi a busnesau. Rwy’n derbyn yn llwyr, fodd bynnag, mai dim ond mewn digwyddiadau eithafol y dylent fod yn digwydd a dim ond pan fydd yr afonydd wedi gorlifo’n llwyr, sydd, wrth gwrs, yn caniatáu symud yn gyflymach drwy’r afon. Ni allai unrhyw gorff dŵr yng Nghymru gyflawni statws ecolegol da o ganlyniad i fynd i’r afael â gollyngiadau o orlifoedd stormydd yn unig. Nid yw hynny'n golygu nad oes angen mynd i'r afael â hwy. Ym mhob achos, mae angen inni ddatblygu atebion sy'n mynd i'r afael â phob achos arall o lygredd hefyd.

Felly, mynd i’r afael â gorlifoedd yw un o elfennau blaenoriaeth allweddol y dull cyfannol ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu i wella ansawdd dŵr. Mae arnom angen dull cyfannol, traws-sector i’w gyflawni; rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cyflawni, rheoleiddwyr a’r sectorau perthnasol i nodi a gweithredu’r atebion cynaliadwy sydd nid yn unig yn cyflawni canlyniadau gwella ansawdd dŵr dymunol, ond sydd hefyd yn cefnogi ein hymaddasiad i newid hinsawdd, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cyflawni ein targed sero net.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:13, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A fyddech yn ychwanegu gwyddonwyr y bobl sydd wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn pwysleisio'r risgiau at y rhestr honno o bartneriaid yr ydych eisiau gweithio gyda hwy, yn enwedig ar gyfer monitro yn y dyfodol? Hoffwn i chi ymuno â mi i longyfarch Surfers Against Sewage am y gwaith y maent wedi'i wneud yn tynnu sylw at y problemau sy'n ein hwynebu yma. Mae argymhelliad 4 yn pwysleisio, onid yw, y rôl y gall gwyddonwyr y bobl ei chwarae yn y dyfodol.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cydnabod hynny’n llwyr, a soniaf amdano’n gryno—rwyf am siarad yn gyflym iawn yn awr—yng ngweddill fy nghyfraniad.

Roeddwn eisiau cydnabod gwaith Joyce Watson ar fater draenio dŵr wyneb. Mae hi wedi gadael y Siambr yn awr, ond mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hynny ers imi ei hadnabod. Rwyf eisiau ei sicrhau ein bod yn gwbl gefnogol i hynny.

Rydym eisoes wedi cymryd camau i fynd i’r afael â gollyngiadau o orlifoedd, gan gynnwys gwneud systemau draenio cynaliadwy yn orfodol ym mhob datblygiad adeiladu newydd, sy’n helpu i leddfu’r pwysau ar y rhwydwaith drwy ddargyfeirio ac arafu’r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i’r system garthffosydd a sicrhau mai dewis olaf yw gorlifoedd stormydd.

Mae CNC wrthi'n cwblhau'r fersiwn nesaf o'r cynlluniau rheoli basn afon, a fydd yn nodi trosolwg cynhwysfawr o'n cyrff dŵr, y pwysau a chyfres o fesurau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau ansawdd dŵr.

Ni allaf bwysleisio ddigon mai dim ond drwy gydweithio cyffredinol y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau lluosog y mae ein cyrff dŵr yn eu hwynebu. Rydym yn gweithio gyda'r rheolyddion, cwmnïau dŵr, Afonydd Cymru a Chyngor Defnyddwyr Cymru drwy'r tasglu ansawdd dŵr afon gwell i ddatblygu cynlluniau gweithredu. Bydd y cynlluniau gweithredu yn cefnogi ein dealltwriaeth ac yn nodi newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu system garthffosydd yn effeithiol i oresgyn heriau'r presennol a'r dyfodol.

Rwyf eisoes wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor yn yr hydref, yn dilyn cyhoeddi'r map ffordd gan y tasglu ym mis Gorffennaf eleni. Bydd y cynlluniau gweithredu hynny'n ymdrin â phum maes newid a gwella, sef: lleihau effaith weledol; gwella ansawdd elifion ac ansawdd afonydd; gwella rheoleiddio amgylcheddol gorlifoedd; cynllunio mwy hirdymor ar gyfer capasiti yn y rhwydwaith gwaith dŵr; gwella ymgysylltiad a dealltwriaeth y cyhoedd o ansawdd dŵr, a bydd y cynllun gweithredu ansawdd hefyd yn canolbwyntio ar drefniadau monitro. Rydym yn sefydlu rhaglen fonitro ymchwiliol rhwng CNC a’r ddau gwmni dŵr i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd ledled Cymru a’r angen i fonitro ystod ehangach o lygryddion, gan gynnwys microblastigion a chynhyrchion fferyllol, a bydd paramedrau iechyd y cyhoedd hefyd yn cael eu hasesu.

Rydym hefyd yn ymchwilio ac yn hyrwyddo'r defnydd o fonitro a—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:15, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr, Weinidog. Rwyf wedi rhoi digon o amser i chi i wneud iawn am yr ymyriadau.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Gadewch imi grynhoi felly, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddweud ein bod ni eisiau gweithio'n weithredol gyda gwyddonwyr y bobl fel y crybwyllodd Rhun er mwyn gwella'r monitro a'r cymorth. Bydd yr archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, fel y crybwyllwyd yn y pwyllgor y bore yma, yn ein helpu gyda’r targedau y sonioch chi amdanynt, Llyr. A hoffwn bwysleisio i gloi mai dim ond drwy weithio gyda'n gilydd a mabwysiadu ymagwedd Tîm Cymru y gallwn fynd i'r afael â risgiau lluosog, ac mae gennym uwchgynhadledd yn cael ei chadeirio gan y Prif Weinidog ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol i orffen. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour

Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Dwi'n meddwl bod rhai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi wedi, yn sicr, cyfoethogi y gwaith pwyso a mesur mae'r pwyllgor wedi'i wneud. Mi gawsom ni ein hatgoffa mai un o ganlyniadau ymarferol y diffygion yma yw bod yna draethau yn colli eu baneri glas, ac mae hynny nid yn unig yn dod â goblygiadau amgylcheddol, ond mae yna oblygiadau economaidd ehangach hefyd yn dod yn sgil hynny.

Dwi'n falch bod yna gyfeirio wedi bod at y SuDS. Buodd yna gyfeirio at RainScape yn Llanelli pan gyrhaeddais i yma gyntaf yn 2011. Mae'n drueni ein bod ni'n dal i sôn am hynny, i raddau, fel rhywbeth rŷn ni eisiau dal lan fel enghraifft gadarnhaol. Mae yna waith wedi digwydd yn Grangetown fan hyn yng Nghaerdydd yn fwy diweddar, a dyna'r norm rŷn ni eisiau ymgyrraedd ato fe, a dwi'n gwerthfawrogi bod yna waith angen ei wneud i gyrraedd y lle yna, ond yn sicr mae e'n rhywbeth sydd angen gweld mwy ohono fe, yn hytrach nag efallai ein bod ni'n gallu cyfeirio atyn nhw fel rhyw eithriadau y dylem ni ymgyrraedd tuag atyn nhw.

Mae'r pwynt ynglŷn â chael y capasiti ymhlith y rheoleiddiwr, wrth gwrs, i fedru stopio llygru afonydd, gorfodi y rheoliadau yn fwy effeithiol, a chosbi hefyd lle mae angen gwneud hynny, yn un pwysig. A diwedd y gân yw'r geiniog, ac mae pob sgwrs debyg, wrth gwrs, yn bennu lan yn trafod ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, dwi'n gwybod bod yna waith yn digwydd yn y cyd-destun hynny.

Diolch i Delyth Jewell jest am ein hatgoffa ni. 'Echrydus', dwi'n credu, oedd y gair ddefnyddiodd hi, ac mae e yn echrydus pan ŷch chi jest yn stopio i feddwl beth sydd yn y dŵr. Mae'r peth jest yn gwbl, gwbl annerbyniol, ond hefyd realiti'r ffaith y byddai yn costio rhwng £9 biliwn ac £14 biliwn i ddatrys y broblem yn llwyr, ac felly mae'n rhaid inni ddelio â'r mater cam wrth gam. Mae tryloywder y tasglu yn rhywbeth pwysig. Byddwn i'n dweud, efallai, ar hyn o bryd ei fod e mor glir â pheth o dŵr rŷn ni'n ei weld yn ein hafonydd ni, sydd ddim yn beth da iawn, a bod angen gwella ar hynny.

Ac yn olaf, mae'r pwynt ynglŷn â citizen science yn bwysig iawn. Wrth gwrs, mae casglu data, felly, yn bwysig. Mae monitro amser byw—real-time monitoring—yn bwysig. Ac, wrth gwrs, dwi ddim wastad yn licio cyfeirio at gymharu rhwng Cymru a Lloegr, ond yn Lloegr mae disgwyl i gwmnïau adrodd o fewn awr yn ôl Deddf Amgylchedd 2021 pan fydd achosion fel hyn yn codi, sydd ddim yn ymrwymiad sydd gennym ni yng Nghymru.

Beth bynnag, mae afonydd Cymru, fel rŷn ni'n gwybod, yn rhan hanfodol o'n treftadaeth naturiol ni. Un rhan o'r broblem yw llygredd o garthffosiaeth, ond mae e yn un rhan o'r ateb hefyd, sy'n rhywbeth sy'n gorfod cael ei ddelio ag e. Mae mwy o law o ganlyniad i newid hinsawdd yn dod—rŷn ni'n gwybod hynny; mae yna dwf yn dal i ddigwydd yn y boblogaeth ac mae yna ehangu trefol yn digwydd, felly mae risg gwirioneddol y bydd y sefyllfa yma yn gwaethygu cyn iddi fynd yn well. A dyna pam y mae'r pwyllgor yn awyddus i weld camau pendant, a dyna pam y mae ein hadroddiad ni yn cynnwys yr ystod o argymhellion ar gyfer gweithredu o ran Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr. A phle y pwyllgor i chi yw ichi i gyd ddod at eich gilydd, fel rŷch chi wedi awgrymu yn yr uwchgynhadledd, er mwyn taclo'r broblem a chyflawni y newid sydd ei angen, a helpu i wella cyflwr afonydd Cymru. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:19, 15 Mehefin 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.