– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 20 Medi 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll ymwelwyr. Mae'r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad wedi'u datblygu gyda Phlaid Cymru yn rhan o'r cytundeb cydweithredu. Ein huchelgais ar y cyd yw datblygu twristiaeth er lles Cymru gyda thwf economaidd, cynaliadwyedd amgylcheddol a lles cymdeithasol a diwylliannol wrth wraidd yr uchelgais honno. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn cael y gefnogaeth a'r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Nid Cymru yw'r unig un sy'n dilyn y dull hwn. Mae gan dros 40 o wledydd ardollau ymwelwyr, gan gynnwys Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Seland Newydd. Bydd llawer ohonom ni wedi talu ardoll wrth deithio dramor, a bydd rhai wedi gwneud hynny heb sylwi hyd yn oed. Ar draws y byd, mae mwy a mwy o gyrchfannau yn dewis defnyddio ardollau ymwelwyr i wella gwasanaethau a seilwaith lleol. Gall y trethi hyn alluogi math mwy cynaliadwy o dwristiaeth. Yn dilyn galwad am syniadau cyhoeddus am drethi newydd yn 2017, awgrymwyd y dylid ystyried ardoll ymwelwyr. Rydym ni bellach yn bwrw ymlaen â'r syniad hwn drwy ein hymrwymiad rhaglen lywodraethol.
Mae trethi lleol yn cefnogi'r gwaith o ariannu seilwaith a gwasanaethau lleol, o gadw traethau, llwybrau troed ac arfordiroedd yn lân, darparu seilwaith trafnidiaeth leol a chynnal ardaloedd o harddwch naturiol. Mae'r rhain yn gynhwysion hanfodol ar gyfer cyrchfannau twristiaeth llwyddiannus. Onid yw'n deg y dylai ymwelwyr wneud cyfraniad bach at y costau hyn? Mae hwn yn ddull sy'n fwyfwy cyffredin ac y mae dealltwriaeth gynyddol well ohono, y mae mwy a mwy o lefydd yn ceisio ei fabwysiadu. Gallai refeniw sy'n cael ei godi o ardoll ddarparu arian ychwanegol i ddiogelu ardaloedd lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn y Deyrnas Unedig, efallai mai Cymru fydd un o'r llefydd cyntaf i gyflwyno ardoll ymwelwyr, ond rwy'n amau mai hon fydd yr olaf. Mae rhannau eraill o'r DU wedi galw'n frwd am gyflwyno pwerau tebyg, gan gydnabod y buddion y gall ardoll eu cynnig i ardaloedd lleol.
Wrth gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori hon, hoffwn fod yn glir am ein bwriadau. Mae'r polisi hwn yn gyson â'n cefnogaeth hirsefydlog i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Amcangyfrifwyd bod gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghymru dros £5 biliwn yn 2019 ac fe hoffem ni barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru yn rhan o adferiad cryf yn dilyn effaith COVID-19. Mae'n hysbys bod seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o brofiad yr ymwelwyr, a bydd ardoll yn helpu i annog buddsoddiad parhaus ynddynt.
Hoffwn bwysleisio y cai'r ardoll arfaethedig ei gymhwyso'n deg mewn modd sy'n gyson â'n hegwyddorion treth craidd. Byddai unrhyw ardoll ymwelwyr a gyflwynir yn glir, sefydlog a syml, a byddai'n ymdrechu i greu Cymru fwy cyfartal. Ein bwriad yw sicrhau ymdeimlad o gydgyfrifoldeb rhwng trigolion ac ymwelwyr, er mwyn gwarchod a buddsoddi yn ein hardaloedd lleol. Byddai ardoll yn cynrychioli tâl bychan a byddai'n annog ymagwedd fwy cynaliadwy at dwristiaeth. Mae'n bwysig cofio bod ein cynnig yn ystyried pwerau dewisol i awdurdodau lleol; hoffem i ardaloedd lleol benderfynu a yw ardoll yn iawn iddyn nhw. Rydym ni'n ffodus i fyw mewn gwlad sydd ag arlwy mor amrywiol i ymwelwyr. Rydym yn cydnabod bod graddfa ac effaith yr economi ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Ein nod ar gyfer unrhyw gynnig ardoll a weithredir arno yw y bydd y cyrchfannau hynny sy'n dewis ei weithredu yn gyson wrth wneud hynny.
Dros yr wyth mis diwethaf, rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall ac ystyried safbwyntiau gwahanol. Caiff y safbwyntiau hyn eu hadlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori a'r asesiad effaith, i gefnogi eraill wrth ddarparu eu hymatebion. Cynhaliwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol, busnesau, cynrychiolwyr o'r trydydd sector, cyrff diwydiant a swyddogion mewn gweinyddiaethau tramor sydd ag ardollau ymwelwyr aeddfed eu datblygiad. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yn hyn.
Byddwn ni'n cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol rhannol ochr yn ochr â'r ymgynghoriad a fydd yn amlinellu costau a manteision posibl y gwahanol ddewisiadau ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr. Gobeithiwn fod hyn yn rhoi sylfaen gadarn i ennyn mwy o dystiolaeth ac adborth arno. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio asesiad effaith terfynol ar gyfer unrhyw fesurau a weithredir arnynt, ochr yn ochr â chanlyniadau o'r ymchwil annibynnol yr ydym wedi'i gomisiynu.
Penderfynir ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen yn dilyn ystyriaeth ddyledus o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth arall. Byddai galluogi ardoll ymwelwyr yn ôl disgresiwn ar draws Cymru yn cymryd sawl blwyddyn yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, ac yn dilyn proses ofalus o ddylunio a gweithredu. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i fusnesau, llywodraeth leol a chymunedau lleol gynllunio o flaen llaw.
Llywydd, fe fydd yna wastad groeso cynnes i ymwelwyr yng Nghymru. Bwriad y polisi blaengar yma yw cefnogi ardaloedd lleol, sicrhau bod ymwelwyr, boed nhw wedi teithio o rywle arall yng Nghymru neu o bellach i ffwrdd, yn gwneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella'r lle y maent yn ymweld ag o. Wedi'i wneud yn iawn ac yn deg, gall hyn fod o fudd mawr, a rhoi cyfle i wella ein gwlad brydferth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i sicrhau bod eu barn yn helpu i lywio ein cynlluniau wrth i ni eu symud ymlaen.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae'n rhaid i mi gyfaddef, bu'n rhaid i mi wirio pwy oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am dwristiaeth heddiw, oherwydd y Gweinidog cyllid, unwaith eto, sy'n gwneud cyhoeddiad arall o'r fainc flaen ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thwristiaeth, yn hytrach na Gweinidog yr Economi sy'n gyfrifol am hynny. Yn wir, nid yw Gweinidog yr Economi, sy'n gyfrifol am y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru, erioed wedi gwneud datganiad llafar yn y Siambr ar gynlluniau ar gyfer y sector ers ysgwyddo'r swyddogaeth. Mae hynny oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gweld twristiaeth yng Nghymru nid fel rhywbeth i'w feithrin, ei amddiffyn a'i wella, ond yn rhywbeth i'w drethu yn lle. Ac mae'r ffaith ein bod yn bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar dreth dwristiaeth ond yn sail bellach i hynny.
O ran Llywodraeth Cymru ac ymgynghori i wneud â'r diwydiant twristiaeth, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid ichi faddau i mi, Weinidog, am beidio â bod yn or-frwdfrydig o ystyried eich hanes yn y maes yma. Dim ond 1 y cant o gyfanswm yr ymatebwyr oedd yn cefnogi'r cynnydd i 182 diwrnod yn yr ymgynghoriad diweddar ar y newidiadau i lety gwyliau, ond fe wnaethoch chi anwybyddu eu barn yn llwyr a bwrw ymlaen gyda'r newidiadau beth bynnag. Sut yn y byd y gall y sector twristiaeth yng Nghymru gael unrhyw ffydd y bydd hwn yn ymgynghoriad teg a gynhaliwyd gan eich Llywodraeth pan fo gennych chi hanes mor wael?
Mae'r diwydiant hwn wedi teimlo ei fod wedi ei anwybyddu gymaint ac wedi ei gymryd yn ganiataol gan y Llywodraeth hon ers cyhyd fel ein bod ni, dros yr haf, wedi gweld sefyllfa chwerthinllyd lle gwaharddwyd Gweinidogion Llywodraeth Cymru rhag ymweld ag un o brif atyniadau twristiaeth Cymru, ogofâu Dan-yr-Ogof, oherwydd hynny. Mewn datganiad a ryddhawyd ganddyn nhw wrth gyhoeddi'r cam digynsail hwn, fe ddywedon nhw, ac rwy'n dyfynnu:
'Oherwydd bod pholisïau gwrth-dwristiaeth a gwrth-Seisnig Llywodraeth Cymru yn cael eu gorfodi ar ddiwydiant twristiaeth Cymru, does dim croeso bellach i aelodau Llywodraeth Cymru yn yr atyniad yma. Bydd eu polisïau yn arwain at orfodi busnesau twristiaeth i gau, a cholli miloedd o swyddi twristiaeth.'
Mae eich tystiolaeth eich hun yn cefnogi hynny. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol y gwnaethoch chi sôn amdano yn datgan, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae llai o gystadlu yn bosibilrwydd'.
Fe wnaethon nhw gyfeirio hefyd at astudiaeth sy'n datgan yn glir yn y crynhoad fod
'tystiolaeth empirig yr astudiaeth yn awgrymu achos cryf dros drethi llai ar dwristiaid er mwyn gwella cystadleurwydd cyrchfannau twristiaeth a chefnogi'r sector twristiaeth leol.'
Mae hynny yn eich tystiolaeth. Bydd gwir effaith y dreth hon sy'n cael ei chyflwyno yn peryglu bywoliaeth yng Nghymru, gan fod un ym mhob saith swydd—tua 200,000—yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth. Dyma'r polisi anghywir ar yr adeg anghywir. Mae pobl ar draws y byd yn delio gyda chwyddiant mawr a chostau byw uwch. Mae ychwanegu bil arall ond yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd ymwelwyr posib yn dewis cadw draw.
Rydym yn gwybod mai'r sector lletygarwch yng Nghymru'n benodol, sy'n cynnwys twristiaeth, sydd wedi dioddef waethaf o COVID-19 ar ôl cael eu cadw ar gau yn hirach na'u cymheiriaid yng ngweddill y DU. Nid yn unig hynny, ond mae treth o'r fath yn targedu yr union bobl yr ydym ni am eu hannog i ddod i Gymru yn y lle cyntaf. Os yw'r dreth hon, fel sy'n ymddangos yn debygol, yn cymryd ffurf tâl ar ymwelwyr dros nos, rydym yn trethu'r union bobl sy'n gwario'r fwyaf o arian yn ein heconomïau lleol. Ond mae'r sector wedi bod yn dweud hyn wrthych chi drwy'r adeg, Weinidog, a byddan nhw'n dweud wrthych chi eto yn yr ymgynghoriad, ond bydd angen iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw wedi cael gwrandawiad. Dywedwch hefyd fod trethi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, ond o dan 'diben a chwmpas y dreth' yn y ddogfen, mae'n dweud bod rhai cyrchfannau yn defnyddio ardollau ymwelwyr fel dull o gyfyngu neu leihau nifer yr ymwelwyr—sgil-effaith allweddol eich polisi a eglurir yn eich dogfen eich hun mewn du a gwyn.
Ac yn olaf, gan fy mod wedi gofyn dro ar ôl tro yn ystod y datganiadau hyn, rydw i'n dal eto i glywed unrhyw sicrwydd gan y Gweinidog, neu unrhyw un yn Llywodraeth Cymru o ran hynny, y bydd cyflwyno'r dreth hon yn cynyddu gwariant gan gynghorau ar dwristiaeth mewn gwirionedd. Wedi'i gladdu ym mhrint mân yr ymgynghoriad, mewn gwirionedd, yw'r consesiwn gan Lywodraeth Cymru, er y bydd yna ddisgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r refeniw a godwyd trwy ardoll ymwelwyr i ariannu gweithgarwch sydd o fudd i brofiad yr ymwelwyr ac yr ymgynghorir gyda rhanddeiliaid lleol yn y broses hon, na fydd gofynion ffurfiol wedi'u nodi mewn fframwaith cenedlaethol. Felly, dyna ni: rydym ni'n lansio ymgynghoriad ar dreth lle mae gan Lywodraeth Cymru hanes o anwybyddu'r canlyniadau. Bydd yn niweidio busnesau ledled y wlad, yn lleihau cystadleurwydd ac ni fydd hyd yn oed yn gweld unrhyw fudd ariannol i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio. Siawns nad nawr, Weinidog, yw'r amser i anghofio'r cynllun hwn am byth?
O'r diwedd holodd gwestiwn yn y frawddeg olaf un. Na, nid dyma'r amser i anghofio'r syniad hwn. Dyma'r amser i lansio ymgynghoriad i ymgysylltu'n eang ac i ystyried cymaint o safbwyntiau â phosib ar y syniad a gyflwynwyd.
Mae hyn yn deillio'n ôl, wrth gwrs, i waith Holtham, a awgrymodd y gallai hyn fod yn faes treth arbennig a fyddai'n addas iawn i Gymru. Cyflwynwyd y syniad eto yn 2017 pan ofynnodd Prif Weinidog Cymru bellach i bobl Cymru am eu syniadau o drethi allai gael eu cyflwyno yng Nghymru, ac ardoll twristiaeth neu ardoll dros nos oedd un o'r syniadau hynny. Cafodd pobl y syniad hwnnw am eu bod wedi ei brofi drostynt eu hunain ac roedden nhw wedi gweld y manteision drostynt eu hunain pan oedden nhw wedi mynd dramor i amryw o wledydd ledled y byd sydd wedi cyflwyno ardoll twristiaeth, ac wedi gwneud hynny gyda llwyddiant a gwneud hynny mewn ffordd y maen nhw'n gallu ail-fuddsoddi yn eu seilwaith twristiaeth lleol i greu'r amodau hynny ar gyfer twristiaeth lwyddiannus, gynaliadwy.
Rwy'n credu bod yna, fel y nodir yn y dogfennau a welwch chi o'ch blaen heddiw, beth wmbreth o fanteision y gellir eu cyflwyno o ganlyniad. Rydym ni wedi gweld buddsoddiad mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft, mewn gwledydd sydd ag ardoll twristiaeth, rydym ni wedi gweld buddsoddiad mewn trafnidiaeth leol gynaliadwy. Bydd sawl posibilrwydd, rwy'n credu, i awdurdodau lleol eu hystyried o ran ble mae'r pwysau oherwydd twristiaeth yn eu hardaloedd a sut y gellir lleddfu'r rheini, ond hefyd y ffyrdd y gall y buddsoddiad yn y seilwaith wella'r ardal leol a buddsoddi yn yr amodau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.
Rydym ni wedi ymgynghori'n eang yn ystod datblygiad y polisi hwn. Rydym ni wedi ymgysylltu gryn dipyn â'r sector, gyda llywodraeth leol, gyda'r trydydd sector, gyda phob math o bobl a chyrff sydd â diddordeb yn hyn, a byddwn yn gwneud mwy o'r gwaith hwnnw yn y cyfnod sydd i ddod. Byddaf i a'r Aelod dynodedig, Cefin Campbell, yn y gogledd ddydd Gwener, ym Mhortmeirion, yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn ar gyfer y sector fel y gallant graffu ar rai o'r cynigion a rhoi eu hymatebion penodol i'r rheini. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn bwriadu cynnal digwyddiadau tebyg i wrando'n uniongyrchol ar farn y rhai fydd â diddordeb yn y cynigion yma.
Mae'n wir y gellir cyflwyno unrhyw dreth am un o ddau reswm. Mae gennych chi drethi ymddygiad, sy'n ceisio newid ymddygiad pobl. Mae gennym ni rai enghreifftiau o'r rhai hynny yr ydym yn eu hystyried yng Nghymru a'n bod eisoes yn gweld y cânt eu gweithredu ar draws y DU. Er enghraifft, yng Nghymru, mae gennym ni'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae hynny'n ymwneud â newid arferion a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Ond wedyn ar yr un pryd, mae gennym ni'r trethi hynny sy'n anelu at godi refeniw. Yn Fenis, er enghraifft, maen nhw eisiau lleihau nifer y twristiaid sy'n ymweld â Fenis oherwydd y pwysau eithafol sydd arnyn nhw. Fodd bynnag, mewn amrywiaeth fawr a bron yn y mwyafrif llethol o feysydd eraill, maent yn cyflwyno'r trethi hyn i godi refeniw i ail-fuddsoddi yn y cymunedau hynny a'r gwasanaethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant. A dyna lle'r ydym ni; dydym ni ddim yn ceisio lleihau nifer y bobl sy'n dod i Gymru, rydym ni'n ceisio cefnogi twristiaeth gynaliadwy lle gall pobl sy'n ymweld â Chymru wneud cyfraniad teg a bach i gynnal a chadw ardaloedd lleol.
Felly, fel y dywedais i, dim ond heddiw yr ydym ni'n lansio'r ymgynghoriad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny. Rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, fel ar feinciau eraill, i gyd yn manteisio ar eu cyfle i fod yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed rhagor o safbwyntiau wrth i ni symud ymlaen.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod pwysigrwydd y sector twristiaeth yn ddiamau; byddwn i a fy mhlaid a phawb arall fan hyn, dwi'n meddwl, yn cydnabod y cyfraniad pwysig mae'r sector yn ei wneud. Yr hyn y mae'n rhaid inni ochel rhagddo fe yw ffeindio'n hunain mewn sefyllfa lle mae yna ormod o dwristiaeth echdynnol. Hynny yw, rŷn ni wedi ffeindio enghreifftiau dros y blynyddoedd diwethaf o le mae hynny wedi bod yn broblem mewn cymunedau ar draws Cymru, felly, symud tuag at sefyllfa fwy cynaliadwy sydd angen i ni ei wneud.
Rŷn ni wedi gweld y straen ar adnoddau seilwaith lleol, gwasanaethau lleol ac adnoddau naturiol. Y llynedd, mae yna gynnydd wedi bod, ac mae ystadegau i ddangos cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon, sbwriel, gwastraff dynol yn cael ei adael ar lwybrau, meysydd parcio ac yn y blaen, ac erydu llwybrau yn broblem gynyddol. Felly, er mwyn creu dyfodol mwy llewyrchus i'r sector, mae angen inni symud at fodel o dwristiaeth mwy cynaliadwy, ac nid mecanwaith—yn fy marn i, beth bynnag—yw lefi fel hyn i gosbi y sector nac i gosbi unrhyw un. Dwi'n gweld e fel ffynhonnell fydd yn creu refeniw fydd yn gallu cael ei fuddsoddi mewn isadeiledd, nid yn unig i wella profiad cymunedau sy'n croesawu pobl, ond y bobl sydd yn ymweld, a bod e'n gwella profiad ymwelwyr, fydd, yn y pen draw, gobeithio, yn help i ddenu mwy o ymwelwyr—virtuous circle, hynny yw, bod gennym ni sefyllfa fwy cynaliadwy na beth sydd gennym ni nawr.
Ymgynghoriad, wrth gwrs, yw hwn; cychwyn ymgynghoriad, trafodaeth, sgwrs. Gobeithio bydd y sylwadau rŷn ni'n clywed gan y Ceidwadwyr ddim yn golygu na fydd y sector yn dod i'r bwrdd, a bod nhw ddim yn rhannu'r un sinigiaeth rŷn ni wedi clywed yn y cyfraniad blaenorol. Mae e yn gyfle i bawb—y sector, y cymunedau a phawb arall—i rannu eu barn, ac os caiff e ei wneud yn iawn, ac os ydy e yn rhywbeth sydd yn cael ei gyd-gynhyrchu, yna dwi yn teimlo y byddai rhywbeth fel hyn â photensial i ddod â budd i'r sector. A phŵer disgresiwn rŷn ni’n sôn am fan hyn i awdurdodau lleol. Bydd neb yn cael eu gorfodi i weithredu hwn.
Mae'r Ceidwadwyr yn licio'n hatgoffa ni yn aml iawn: dyw datganoli ddim yn stopio ym Mae Caerdydd—digon teg. Wel, dyma chi enghraifft ymarferol o ymbweru awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mater—ac rŷch chi'n gwrthwynebu. Os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â helpu'r sector yng Nghymru, yna siaradwch â'ch Canghellor eich hunain ynglŷn â threth ar werth. Mae yna ddigon o gyfleoedd eraill y gallwch chi fod yn cefnogi'r sector. Mae'r Ceidwadwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cefnogi'r cam yma. Mae Ceidwadwyr yn arwain yn Ynys Wyth, mae Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf wedi bod yn galw am hyn; mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cotswolds hefyd yn dweud eu bod nhw'n cefnogi hyn. Rŷn ni wedi clywed am y dwsinau lawer o wledydd eraill sydd â lefi o'r fath, felly mae'n rhaid inni weithiau weld y cyfle mewn pethau fel hyn, a ddim jest gweld y broblem.
Felly, cwpwl o gwestiynau gen i, Weinidog. Mae yna wahanol ffyrdd, wrth gwrs, o gyflwyno lefi—aros dros nos yw'r un amlwg—ond dwi jest eisiau eglurder ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn meddwl mai dyna yw'r modd rŷch chi'n bwriadu symud ymlaen, neu ydych chi'n feddwl agored i ffyrdd eraill o gasglu lefi o'r fath?
Rŷn ni wedi clywed, ac yn berffaith iawn i glywed, fod yna greisis costau byw; sut rŷch chi, felly, am sicrhau y byddai unrhyw ardoll yn gymesur ac yn deg ar bocedi'r bobl fydd disgwyl iddyn nhw gyfrannu tuag ato fe? Allwch chi hefyd gadarnhau mai'ch bwriad chi yw—mae e'n implicit; dwi ddim yn siŵr os ydy e'n ddigon explicit—mai'r bwriad yw y bydd unrhyw bres sy'n cael ei godi'n lleol yn cael ei wario'n lleol? Dwi'n meddwl bod yna gwestiwn pwysig angen ei ateb yn fanna.
Ac rŷn ni'n clywed pobl yn dweud y bydd e'n cymryd ambell i flwyddyn i hwn ddod yn realiti, os ydy e yn digwydd. Ai'r bwriad yw y bydd hynny'n digwydd o fewn y Senedd yma, neu ydych chi'n rhagweld efallai y gallai fod yn linell amser hirach na hynny? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y gyfres honno o gwestiynau, ac am y cyfraniad a ddechreuodd, mewn gwirionedd, gan sôn am sut nad oes rhaid i hyn fod yn rhywbeth sy'n achosi drwgdeimlad rhwng y Llywodraeth a'r sector twristiaeth. I'r gwrthwyneb, gall fod yn rhywbeth y gellir ei gyd-gynhyrchu'n effeithiol gyda'r sector, gan ddeall y manteision y gellid eu cyflwyno i'r arlwy lleol ar gyfer twristiaeth trwy ardoll. Rydym ni'n ei weld ar draws y byd, mewn gwirionedd, o ran y buddion sy'n cael eu cyflwyno.
Yn Seland Newydd, er enghraifft, fe wnaethon nhw ariannu 10 prosiect yn eu cynllun 2019-20 drwy eu hardoll cadwraeth ymwelwyr a thwristiaeth rhyngwladol. Eu nod yw diogelu tirweddau sensitif ac ecolegol werthfawr; uwchraddio mwynderau, llwybrau troed ac arwyddion i ymwelwyr; amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl; gwella mynediad i ymwelwyr trwy agor meysydd parcio newydd a llwybrau cerdded a beicio; a hyrwyddo gyrfaoedd twristiaeth. Rwy'n credu bod yr holl bethau hynny'n bethau yr hoffem fod yn gweld mwy ohonynt yn digwydd yma yng Nghymru. Byddai ardoll twristiaeth yn caniatáu i awdurdodau lleol allu mentro a gwneud hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod enghreifftiau gwych y gallwn ni edrych atynt yn y llefydd hynny sydd wedi eu cyflwyno.
Cyfeiriodd Llyr Gruffydd hefyd at rai o rannau eraill y DU sydd hefyd wedi galw am ardoll twristiaeth. Wrth gwrs, rydym ni'n gweld y gwaith yn cael ei ddatblygu nawr o ddifrif gan yr Alban, ond hefyd y cynghorau Ceidwadol hynny a'r cyn-gynghorau Ceidwadol sydd wedi galw am roi'r pŵer iddyn nhw gyflwyno ardoll twristiaeth. Ac mi roddodd Llyr Gruffydd restr gyfan ohonynt, gan gynnwys Ynys Wyth a Chaerfaddon, a arferai fod yn Geidwadol, ac fe fyddwn i'n ychwanegu Cernyw at y rhestr honno hefyd. Felly, rwy'n credu bod diddordeb cynyddol ledled y DU mewn cyflwyno ardoll.
O ran pa fath o ardoll, rwy'n credu bod ein hymgynghoriad yn glir bod datblygiad y meddylfryd hyd yma wedi bod ynghylch ardoll dros nos, o ystyried mai dyna'r math mwyaf poblogaidd o ardoll yn fyd-eang a dyma fu craidd ein hysbrydoliaeth ohono. Ond mae'n bwysig cydnabod bod y ddogfen ymgynghori yn holi'r cwestiwn agored hwnnw i bobl: a ydym yn canolbwyntio ein hymdrechion yn y lle cywir neu a oes ganddynt syniadau ar gyfer ardoll ymwelwyr dydd, er enghraifft? Rydych chi'n ei weld yn gweithio'n eithaf effeithiol ar gyfer teithwyr ar longau mordaith neu deithwyr fferi; gwelwch hynny'n digwydd mewn llefydd fel Amsterdam, Rotterdam a Chatalonia, lle mae ganddyn nhw'r ardoll ymwelwyr dydd hwnnw ar gyfer teithwyr ar longau mordaith a theithwyr fferi. Mae hynny, rwy'n credu, yn adlewyrchu'r nifer fawr o'r ymwelwyr hynny sydd ganddyn nhw yn aml iawn.
Mewn mannau eraill, mae gennych chi drethi adloniant, er enghraifft, yn Amsterdam, a hynny ar gyfer gweithredwyr teithiau cychod, rhentwyr canŵs a chychod pedol, gweithredwyr teithiau a theithiau dinas. Nid dyna'r maes y buom yn canolbwyntio arno o ran datblygu polisi, ond rydym yn ymwybodol bod modelau gwahanol mewn mannau eraill, ac rydym yn croesawu'n agored iawn unrhyw gyfraniadau, drwy'r ddogfen ymgynghori, i hynny.
Mae 'cymesur' a 'teg' yn ddau o'r pethau sy'n egwyddorion craidd i ni sy'n arwain, mewn gwirionedd, ein ffordd o feddwl o ran treth, a dyna pam rydyn ni'n awyddus iawn i archwilio rhai o'r cwestiynau ynglŷn ag ymhle rydym ni'n cyflwyno'r gyfradd. Felly, rydym ni wedi gwneud ychydig o waith ynghylch elastigrwydd prisiau, yr ydym yn ei gyhoeddi ochr yn ochr â'n dogfen heddiw, a fydd yn ein helpu gyda rhywfaint o'r meddylfryd ynghylch hynny. Hefyd, mae'r ddogfen ymgynghori yn gofyn i bobl am eu barn o ran ydym ni'n codi tâl ar yr ystafell fesul noson, ydym ni'n codi tâl fesul person y noson, neu ydym ni'n gwneud rhywbeth fyddai'n ymwneud â chanran o gost yr ystafell y noson neu gyfuniad o'r pethau hynny. Felly, eto, mae hyn yn gynnar iawn o ran ein hymgynghoriad ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl a'u syniadau ynglŷn â'r hyn maen nhw'n meddwl fyddai'n gweithio orau.
O ran a gai'r cyllid ei wario'n lleol, mae'n wir, o ran rhoi'r grym i awdurdodau lleol godi arian yn lleol, y bydden ni'n disgwyl i'r arian gael ei defnyddio i wella ac amddiffyn y gwasanaethau y daw twristiaid i Gymru o'u herwydd gan eu bod yn gwybod ein bod yn eu cynnig a'u bod nhw yn eu hoffi. Mae gennym ni syniad yn ein dogfen ymgynghori, eto, am sut y gallwn ni ychwanegu rhywfaint o dryloywder ynghylch hynny, felly adroddiad blynyddol gan lywodraeth leol efallai. Mae'n rhaid i ni fod yn gymesur o ran faint o adrodd sydd ei angen arnom ni ar hyn, gan gofio y byddwn yn sôn am symiau cymharol fach ond pwysig o arian ond, eto, mae hynny'n rhywbeth yn y ddogfen ymgynghori o ran faint o dryloywder y gallwn ei gynnig i'r bobl a fydd â'r diddordeb priodol, yn ymwelwyr ac, wrth gwrs, y diwydiant twristiaeth.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Bydd yr Aelodau'n falch o glywed y byddaf ond yn gwneud ymyrraeth fer y prynhawn yma. Rwy'n llwyr gefnogi ymgynghoriad, ac yn llwyr gefnogi'r ardoll yr ydych yn ei chynnig. Rwy'n credu bod angen i ni gael dadl go iawn am natur twristiaeth ac effaith twristiaeth ar ein cymunedau. Yn rhy aml o lawer yn y Siambr hon, rydym yn gwneud rhagdybiaethau ac rydym yn gweithio ar sail rhagdybiaethau, ac un o'r rhagdybiaethau hynny yw mai dim ond er lles y mae twristiaeth dorfol. Ond rydym ni'n gwybod bod twristiaeth dorfol yn effeithio'n negyddol iawn ar nifer o gymunedau, ac rydym wedi cael y drafodaeth honno am le tai, digartrefedd a gallu pobl i fyw yn eu cymunedau eu hunain. Felly, rwy'n credu bod angen trafodaeth go iawn ynglŷn â sut mae twristiaeth yn effeithio ar Gymru mewn ffordd gadarnhaol, yn ogystal â rhai o'r materion mwy negyddol.
Rwy'n talu ardoll ymwelwyr, neu dreth twristiaeth—beth bynnag rydych chi am ei alw—pan fyddaf yn teithio, mewn llawer o lefydd, ac nid yw'n effeithio arnaf i o gwbl. A dweud y gwir, rwy'n credu bod gen i ddyletswydd wirioneddol i dalu am y gwasanaethau rwy'n eu defnyddio pan wy'n ymweld â lle arall, ac rwy'n credu bod gen i gyfrifoldeb i wneud hynny hefyd. Mae arnaf i eisiau i'r dwristiaeth rwy'n cychwyn arni fel unigolyn neu fel teulu, beth bynnag, i fod o fudd i lefydd eraill, ac os yw hynny'n golygu cyfrannu tuag at seilwaith, rwy'n falch iawn o allu gwneud hynny, ac rwy'n credu y dylem ni ddadlau dros hynny.
Byddwn yn dweud wrthoch chi, Weinidog: Gobeithio y byddwch yn archwilio'r posibiliadau fydd ar gael i lywodraeth leol o ran darparu'r ardoll dwristiaeth hon. Gobeithio hefyd y byddwch yn edrych ar enghreifftiau mewn mannau eraill yn y byd. Er enghraifft, rwyf wedi talu toll, os mynnwch chi, i yrru i mewn i barc cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â thalu treth ystafell, neu dreth dinas, mewn mannau ar draws Ewrop. Rwy'n credu bod yna amryw o bosibiliadau gwahanol ar gael i ni. A gobeithio, Weinidog, na fyddwch yn gwrando ar y lleisiau croch y tu ôl i chi, ond y byddwch yn edrych ar y ffeithiau caled o wahanol rannau o'r byd, lle mae ardoll twristiaeth yn helpu i gyfrannu at uniondeb y gymuned sy'n cael ei gwasanaethu, ac fe ddylem ni sicrhau bod y gymuned, bod pobl, yn dod yn gyntaf. Rwy'n gwybod bod y Torïaid wastad yn blaenoriaethu elw—byddan nhw'n gwneud hynny ddydd Gwener eto yn Llundain, maen nhw'n ei wneud heddiw. Ond fe hoffwn i i'r Llywodraeth yma flaenoriaethu cymunedau, pobl a bywoliaeth pobl, achos rwy'n credu mai dyna mae pobl Cymru yn disgwyl i ni ei wneud.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Alun Davies am ei sylwadau a'i gefnogaeth i'r ymgynghoriad sy'n cael ei lansio heddiw. Mae'n hollol gywir bod arnom ni wrth gwrs eisiau rhannu beth sydd gyda ni yma yng Nghymru gyda phobl o bob cwr o'r byd, mae angen i ni hefyd sicrhau bod twristiaeth yn gynaliadwy ac nad yw'n niweidio cymunedau. Ac mae'n bwysig cael y cydbwysedd yna'n iawn. Hefyd, rwy'n credu bod hyn yn cysylltu mewn gwirionedd â rhywfaint o'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ei wneud o ran sicrhau bod y math yna o dwristiaeth gydol y flwyddyn yn gallu tyfu yng Nghymru, fel bod gennym ni well cydbwysedd trwy gydol y tymhorau, ac y gallwn ni fodloni disgwyliadau pobl yn well pan ddônt i ymweld â ni yma yng Nghymru. A byddan nhw wastad yn sicr o groeso Cymreig cynnes iawn pan fyddan nhw'n dod atom ni yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod y sylw am deimlo'r cyd-gyfrifoldeb hwnnw yn un pwysig iawn, oherwydd pan fyddwch chi'n teimlo'r cyfrifoldeb hwnnw i'r gymuned rydych chi'n ymweld â hi, mae hynny yn rhoi cwlwm emosiynol gwahanol i chi, rwy'n credu, gyda'r lle rydych chi ar eich gwyliau ynddo neu'n ymweld ag o. Ac rwy'n credu ei bod hi'n beth hyfryd, i bobl gael cwlwm emosiynol gyda Chymru ac wedyn gadael, a bydden nhw siŵr o fod yn awyddus iawn i ddychwelyd i'n gweld ni eto.
Mae'r lleisiau y tu ôl i mi yn sawl peth; ni fyddwn yn eu disgrifio yn lleisiau croch. Ond, yn bendant, byddwn ni'n edrych ar beth mae'r dystiolaeth yn ei dweud wrthym ni o ran datblygu'r cynigion ar gyfer yr ardoll dwristiaeth. Byddwn ni'n edrych yn fanwl iawn ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill. Rydym ni wedi trafod â llefydd fel Philadelphia yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, i gael ymdeimlad o'u profiad. Cawsom gynrychiolwyr o Amsterdam yn siarad yn ein cynhadledd dreth y llynedd. Ac rydym ni'n dysgu llawer o bethau ganddyn nhw, nid yn unig am sut mae'r trethi'n cael eu datblygu'n lleol, ond gweithredu'r trethi hynny. Does dim rhaid i ni fod yr un fath â rhan arall o'r byd i ddysgu ganddyn nhw o ran gweithredu trethi a darparu trethi ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu mai gorau po fwyaf y gallwn ni ei ddysgu o wledydd eraill. Mae gennym ni gyrchfannau twristiaeth o'r radd flaenaf sy'n rhoi ardollau twristiaeth ar waith ac nid yw'n rhwystr i bobl. Pam nad oes gan y Ceidwadwyr yr un uchelgais i Gymru fod yn gyrchfan dwristiaeth o'r radd flaenaf lle bydd pobl yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn?
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Gweinidog, rydych chi yma heddiw yn cyflwyno'r syniad o ardoll ymwelwyr, a elwir hefyd yn dreth dwristiaeth, i bobl a busnesau Cymru ar ffurf ymgynghoriad, er ei fod yn gwbl syfrdanol ei fod wedi mynd mor bell â hyn. Bydd yn cosbi'r sector twristiaeth, ac fel Llyr, cyfaddefodd arweinydd eich plaid eich hun, Adam Price, nad oes bwriad i'r arian a godir gan y Llywodraeth hon hyd yn oed fynd yn ôl i'r sector twristiaeth. Dyma dreth y mae arbenigwyr yn y diwydiant fel Jim Jones, prif swyddog twristiaeth y gogledd, yn ei wawdio, wrth ddweud, a dyfynnaf:
'Byddai treth ar dwristiaeth yn gam mawr yn ôl a fyddai'n niweidio diwydiant sydd eisoes yn gwegian ar ôl dioddef y pandemig'.
Mae arnom ni eisiau ac angen annog pobl i aros yng Nghymru a chymryd gwyliau gartref, nid yn unig am resymau amgylcheddol, ond i ysgogi ein heconomi ac i ddiogelu ein busnesau lleol. Felly, ar adeg o argyfwng economaidd, pan fo llawer yn ein sector twristiaeth wedi cael eu lambastio gan y pandemig a'r argyfwng economaidd ac angen ein cefnogaeth a'n helpu fwyaf, yr hyn rydych chi'n ei wneud, Gweinidog, yw cyflwyno i bobl Cymru rywbeth a brofwyd sydd wedi cael effaith andwyol mewn llawer o wledydd hefyd ar draws y byd: treth dwristiaeth, treth fydd yn annog pobl i beidio â dod i Gymru ac i aros yng Nghymru.
Gweinidog, rydych chi wedi sôn am eithriadau. Rydych chi wedi dweud y byddech chi'n gwneud rhai eithriadau, ond nid ydych chi wedi dweud beth allai'r eithriadau hynny fod. A allen ni gael rhywfaint o eglurder ynghylch mewn gwirionedd, pwy fyddai'n cael eu heithrio o'r dreth dwristiaeth, a thryloywder ynghylch ble mae'r arian yn mynd, os yw hyn yn mynd yn ei flaen, y syniad chwerthinllyd hwn? Os yw'n mynd yn ei flaen, mae angen i ni ddilyn yr arian yna i weld os yw, mewn gwirionedd, yn mynd yn ôl i'r diwydiant twristiaeth, gan nad yw'n rhywbeth y gallwch chi sefyll yma a gwarantu y bydd, yn enwedig os mai llywodraeth leol sy'n gyfrifol am hynny. Felly, nid yw'n rhywbeth, siawns, Gweinidog, y gallwch ei hyrwyddo fel rhywbeth sy'n gwneud hynny.
Felly, fe wnaf i ddechrau gyda'r pwynt yma ynghylch ei fod yn gyfnod o argyfwng economaidd, ac mae hynny'n hollol wir. Rydym yn wynebu argyfwng costau byw, a gadewch i ni obeithio y bydd y Canghellor yn cyflwyno pecyn o gefnogaeth gref iawn i fusnesau pan fydd yn gwneud ei gyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym ni'n sôn am ardoll dros nos, ond dydyn ni ddim yn sôn am ei gyflwyno dros nos. Y pwynt yma yw bod yr hyn yr ydym ni'n ei lansio heddiw yn ymgynghoriad ar y syniad, fel y gall pobl ymgysylltu â ni a'n helpu i lunio'r cynnig hwn.
Bydd cyd-Aelodau yn gwybod yn iawn y bydd hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddeddfwriaeth gael ei symud drwy'r Cynulliad hwn—mae'n ddrwg gennyf, drwy'r Senedd hon—a bydd angen gwaith difrifol ar gyfer hynny. Mae'n broses pedwar cymal, felly mae llawer iawn o amser i gyd-Aelodau geisio craffu ac i ddatblygu'r syniad gyda ni. Felly, ni chaiff ei gyflwyno dros nos. Mae'n cymryd nifer o flynyddoedd er mwyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, i ddatblygu'r syniadau yn llawn ac yna symud i'r cyfnod gweithredu, sydd ynddo'i hun yn ymgymeriad sylweddol.
Rwy'n credu bod y cwestiwn am eithriadau yn un pwysig. Rwy'n hapus i rannu gyda chyd-Aelodau y mathau o feysydd yr ydym yn eu hystyried o ran eithriadau. Un fyddai safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Byddem yn ystyried eithrio prif safleoedd preswyl Roma a Sipsi o'r ardoll gan fod eu ffordd o fyw yn gynhenid grwydrol am resymau diwylliannol. Byddem hefyd yn ystyried efallai—ac mae hyn i gyd yn rhan o'n hymgynghoriad, felly byddai safbwyntiau'n cael eu derbyn yn ddiolchgar—eithrio arosiadau brys a drefnir gan awdurdodau lleol; er enghraifft, pobl sy'n dioddef digartrefedd neu sy'n ffoi rhag trais yn y cartref.
Hefyd, gallai eithriadau gynnwys arosiadau wedi'u trefnu gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a hefyd eraill sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, sydd efallai'n aros mewn llety arbenigol at y diben hwnnw, ac yna arosiadau brys mewn safleoedd sy'n cael eu gweithredu gan sefydliadau elusennol neu ddi-elw—eto, yn aros at ddibenion seibiant neu loches. Y sefyllfa rydym ni'n ei ffafrio yw nad yw llety ymwelwyr a ddarperir gan elusen neu sefydliad dielw at ddibenion seibiant, lloches neu gysgod yn cael ei gynnwys yng nghwmpas yr ardoll.
Felly, mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi ystod o amgylchiadau lle credwn y gallai hi fod yn amhriodol cyflwyno ardoll, ond wrth gwrs rydym yn gofyn i bobl rannu eu sylwadau a'u casgliadau ar hynny i'n helpu, eto, i lunio'r ardoll. Ac rwy'n credu fy mod eisoes wedi sôn am y sylw ynghylch tryloywder a phwysigrwydd y cwestiwn yn y ddogfen ymgynghori sy'n cyfeirio at adrodd blynyddol a mecanweithiau eraill. Mae'r ddogfen hefyd yn sôn am neilltuaeth rannol ac yn edrych ar wahanol fodelau sydd wedi cael eu defnyddio mewn gwahanol fannau, er mwyn ein helpu i ddatblygu ein syniadau wrth i ni symud ymlaen.
Mae'r Aelod yn sôn am lefydd sydd wedi cael eu dinistrio gan ardollau twristiaeth ar draws y byd, ond dydym ni ddim yn gweld hynny. Rydym wedi edrych ar enghreifftiau o ble nad yw ardollau twristiaeth wedi bod yn llwyddiannus—un fyddai'r ynysoedd Balearaidd, a gyflwynodd dreth eco yn 2001, efallai cyn ei amser, ac fe ddiddymwyd y dreth yn fuan ar ôl hynny, oherwydd bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng, ond roedd hynny yn erbyn cefndir o niferoedd ymwelwyr yn gostwng yn fyd-eang beth bynnag ar draws nifer o gyrchfannau ar y pryd. Ond maen nhw wedi ailgyflwyno'r dreth wedyn, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Fe wnaethon nhw hynny yn 2015, ac fe welon nhw gynnydd o 11.2 y cant yn yr ymwelwyr rhyngwladol y flwyddyn ganlynol. Felly, rwy'n credu, pan ydych chi'n edrych yn fanwl ar yr enghreifftiau lle mae hyn wedi'i gyflwyno mewn mannau eraill, rydych chi'n gweld gwaith cadarnhaol y bu modd ei wneud oherwydd yr ardoll twristiaeth, ac nid yw'n cael ei weld, yn y gwledydd hynny sy'n gweithredu'r fath ardoll, fel un sy'n mygu busnes; mae'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n creu buddsoddiad i gefnogi'r busnesau hynny.
Fe wnes i gyfarfod â Thwristiaeth Bannau Brycheiniog yn ddiweddar, Gweinidog, ac mae ganddyn nhw lawer o bryderon, ond un o'u pryderon mwyaf oedd y diffyg eglurder gan y Llywodraeth dros hyn. Mae'r newid mewn iaith a ddefnyddir o ganolbwyntio ar dwristiaeth i ardoll ymwelwyr wedi cyfrannu at ansicrwydd. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun nad dim ond ar gyfer pobl sy'n dod i Gymru at ddibenion twristiaeth fydd hyn—bydd yr ardoll yn berthnasol i ymwelwyr am resymau eraill hefyd. Mae hwn yn newid mawr ac fe fydd canlyniadau enfawr, ond ni fu unrhyw fanylion ynghylch hynny, felly tybed a allwch chi ehangu ar yr hyn yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano. Ydy hyn yn mynd i fynd ymhellach nag aros dros nos? Oherwydd does dim manylion ynghylch hynny.
Rydym ni hefyd wedi clywed arweinydd Plaid Cymru'n dweud y bydd arian yn mynd tuag at dalu am brydau ysgol am ddim, ac rydych chi wedi dweud eich hun heddiw, ac mewn datganiadau ysgrifenedig, y caiff yr arian yma ei fuddsoddi i wasanaethau lleol. Felly, beth fydd yn digwydd? Oherwydd nid yw'r glymblaid rhyngoch chi eich hunain a Phlaid Cymru ddim i'w gweld yn gwybod i ble mae'n mynd. Dydy'r llaw chwith ddim yn gwybod pa mor bell i'r chwith y mae'r llaw arall yn mynd. Ac fe hoffwn i wybod hefyd: a all y Gweinidog roi sicrwydd priodol i'r busnesau dilys hynny y bydd hyn yn effeithio arnynt—y bydd eu bywoliaeth yn cael ei heffeithio, eu teuluoedd yn cael eu heffeithio—y byddwch chi'n gwrando ar yr ymgynghoriad ac, os nad oes ar y diwydiant twristiaeth eisiau hyn, y byddwch chi'n parchu eu barn a'u sylwadau? Oherwydd dyna mae Llywodraethau a etholwyd yn ddemocrataidd yn ei wneud—maen nhw'n gwrando ar eu pobl; dydyn nhw ddim yn eu gorchymyn o'r brig.
Felly—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Gweinidog ymateb, os gwelwch yn dda.
Felly, fe af i'r afael â'r pwynt hwnnw lle gofynnodd yr Aelod am y gwahaniaeth rhwng treth dwristiaeth ac ardoll ymwelwyr a pham y newidiodd yr iaith ynghylch hynny, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn pwysig. Y rheswm ein bod ni'n newid pwyslais o'r gair 'twristiaeth' i 'ymwelwyr' oedd oherwydd nad oedd ardoll dwristiaeth neu dreth dwristiaeth yn cynnwys pawb fyddai'n aros dros nos yng Nghymru. Ein bwriad ni fyddai i deithwyr busnes, er enghraifft, dalu'r ardoll dros nos hefyd, oherwydd eu bod yn cael effaith debyg ar yr amgylchedd lleol, ond hefyd oherwydd na allwch chi bob amser wahaniaethu'n union rhwng busnes rhywun ac ymweliad twristiaeth, oherwydd yn aml, wrth gwrs, mae pobl ar deithiau busnes yn ymgymryd â rhywfaint o hamdden a thwristiaeth tra maen nhw yma ac rydym ni am barhau i annog hynny. Felly, dyna'r rheswm pam—oherwydd bod arnom ni eisiau i'r ardoll ymwelwyr gynnwys pawb fyddai'n aros dros nos ar wahân i'r eithriadau hynny yr wyf newydd roi rhai enghreifftiau ohonyn nhw, wrth gwrs. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n egluro pam y gwnaethom ni newid y geiriad 'treth dwristiaeth' i 'ardoll ymwelwyr'.
O ran yr arian sy'n mynd yn ôl i wasanaethau lleol ac i gael ei ail-fuddsoddi yn y pethau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, rwy'n credu y buom ni'n gwbl glir, yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar hyn, i ddangos, drwy'r ddogfen ymgynghori, sydd wedi ei lansio heddiw, a thrwy bopeth y buom ni'n ei ddweud am yr ardoll, bod hyn yn ymwneud yn fawr â buddsoddi yn y pethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiannus—buddsoddi mewn seilwaith lleol, diogelu amwynderau lleol ac yn y blaen. Rydym ni'n glir iawn ynghylch hynny. Rydym ni wedi gwneud llawer iawn o waith da gyda Phlaid Cymru. Byddwch yn clywed datganiad yn ddiweddarach heddiw ar brydau ysgol am ddim, o ran ein cefnogaeth i hynny. Felly, rwy'n credu bod y rhain yn ddwy enghraifft wirioneddol glir o ble mae'r cytundeb cydweithredu yn gweithio'n dda iawn. Mae'n gydweithio gwirioneddol, a bydd mewn difrif yn darparu ar gyfer pobl yng Nghymru.
Hoffwn ddweud bod yr ymgynghoriad yn ymgynghoriad dilys wrth gwrs ac mae arnom ni eisiau clywed barn pawb. Yr hyn mae arnom ni ei eisiau yw ymatebion ymarferol i'r awgrymiadau ymarferol rydym ni wedi'u gwneud yn y ddogfen ymgynghori. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried pob un ohonynt. Yn yr un modd, rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau bwrdd crwn y byddwn ni'n eu cael—yr un cyntaf, fel y soniais i yn gynharach, gyda Cefin Campbell ym Mhortmeirion ddydd Gwener.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dim ond dau beth. Treth yw hon—nid ardoll mohono—a braint Llafur yw cyflwyno trethi, ac maen nhw'n gwneud hynny'n gyffredinol. Dyna pam rydym ni mor wahanol ar y llwyfan yma, yn sicr yma yng Nghymru. Byddwn i'n gofyn pa werthuso rydych chi eisoes wedi'i wneud o gynlluniau gwario awdurdodau lleol a chyllidebau ynghylch datblygu economaidd a thwristiaeth, fel y gallant gyflawni'r nodau rydych chi'n ceisio eu cyflawni gyda'r ardoll hwn. Oherwydd peidiwch â bod yn naïf wrth feddwl y bydd yr ardoll hwn yn arwain yn sydyn at balmentydd ychwanegol ac at bethau ychwanegol neu beth bynnag ar draethau, neu unrhyw atyniadau—bydd hyn yn mynd i lenwi bylchau mewn cyllidebau sydd dan bwysau mawr, ac ni fyddwch yn gweld unrhyw beth ychwanegol; fe welwch ddisgwyliad o ddim ond crafangu treth ychwanegol yn yr awdurdod hwnnw. Hoffwn wybod pa sicrwydd y gallwch ei roi na chaiff yr awdurdodau lleol hynny sy'n penderfynu peidio â gwneud hyn eu cosbi trwy eu setliadau yn y dyfodol o ganlyniad i beidio â gweithredu hyn.
Ac eto, sylw a wnaed ddwywaith—sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd treth dwristiaeth yn gwneud yr hyn rydych chi am iddi ei wneud ac nid dim ond ychwanegu at neu ddisodli cyllidebau economaidd sydd eisoes yn cael eu dargyfeirio i wasanaethau cymdeithasol, addysg neu beth bynnag? Rwy'n gwbl gefnogol i roi arian heb ei glustnodi i awdurdodau lleol, ond rwy'n ofni yn y cyfnod yma o angen mawr mewn awdurdodau lleol y caiff trethi ychwanegol fel hyn dim ond eu defnyddio i liniaru peth o'r pwysau mae awdurdodau'n eu hwynebu.
Felly, byddwn wedi dweud bod ffordd lawer gwell o fod wedi edrych ar rai o anghenion ein cymunedau twristiaeth, drwy weithio gydag awdurdodau lleol a'u strategaethau datblygu economaidd presennol i wella'r cynnig sydd gennym ni yng Nghymru. Mae llawer o bobl yng Nghymru—. Beth os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn mynd ar wyliau yng Nghymru? Rydych yn talu treth ddwywaith. Rydych chi'n talu treth yn eich treth cyngor lleol i wella'r economi a thwristiaeth leol, yna rydych chi'n gofyn iddyn nhw dalu eto yng Nghymru i aros a mwynhau eu gwyliau yng Nghymru. Felly, mae cymaint o bethau yn yr ymgynghoriad hwn sy'n esgor ar lawer o gwestiynau, ac rwy'n credu ei fod yn ffordd hawdd o wynebu rhywbeth—trethu, trethu, trethu.
Felly, dechreuaf drwy ymateb i'r cwestiwn penodol iawn hwnnw o ran awdurdodau lleol yn cael eu cosbi trwy'r grant cynnal refeniw. Hoffwn fod yn glir iawn nad oes cysylltiad o gwbl rhwng y grant cymorth refeniw a'r gwaith hwn. Diben hyn yw rhoi'r grym i awdurdodau lleol ddewis codi arian ychwanegol yn eu hardaloedd; nid yw'n cael unrhyw effaith o gwbl ar y grant cymorth refeniw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i ni ei gydnabod. Bydd yn ofyniad cyfreithiol bod rhaid defnyddio unrhyw arian a godir o'r ardoll i ariannu gwariant awdurdodau lleol.
Rwy'n credu y gwelwch chi yn y ddogfen ymgynghori rai cwestiynau yr ydym ni'n awyddus i glywed ymatebion pobl iddynt o ran sut y dylid adrodd am hynny, p'un a ydynt—wyddoch chi, faint o glustnodi mae pobl yn credu fyddai'n briodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael cydbwysedd, mewn gwirionedd, rhwng bod yn bragmataidd ac ymarferol o ran faint o wybodaeth yr ydym yn gofyn i awdurdodau lleol ei chasglu a'i rhannu. Ac rwy'n credu efallai y gallai'r adroddiad blynyddol hwnnw sy'n cael ei awgrymu yn y ddogfen ymgynghori fod yn ffordd dda o sicrhau'r tryloywder hwnnw ac i bobl allu dal eu hawdurdodau lleol i gyfrif ac i ymwelwyr ddeall i ble'r aeth eu cyfraniad.
Felly, mae hynny'n awgrym yn y ddogfen ymgynghori. Rydym ni'n agored i bob syniad, oherwydd mae hwn mewn difrif calon yn ymgynghoriad lle rydym ni'm ceisio clywed cymaint o safbwyntiau ag y gallwn ni o bosib ynghylch y cynigion, ac, wrth gwrs, byddwn yn annog pob cyd-Aelod sydd â diddordeb i ddweud eu dweud.
Ac yn olaf, Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw. Gweinidog, byddwch yn ymwybodol wrth gwrs, bod yr adroddiad dros yr haf gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ar dwristiaeth yn dangos mai twristiaeth sy'n gyfrifol am dros 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, ac yn cyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yma yng Nghymru, gan ddangos pa mor hanfodol yw'r sector honno i ni fel gwlad ac i lawer o'n cymunedau ledled Cymru. O fewn yr adroddiad hwnnw, Gweinidog, byddwch chi hefyd yn ymwybodol eu bod nhw wedi datgan—y Ffederasiwn Busnesau Bach—
'Nid yw trafodaethau am fwy o dreth o unrhyw gymorth, felly dylid rhoi'r gorau i ystyried treth dwristiaeth'.
Yn ogystal â hyn, Gweinidog, yn ystod egwyl yr haf yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, cefais y pleser o gwrdd â nifer o fusnesau yn y sector twristiaeth, gan wrando ar eu pryderon a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Ac mae'n amlwg i mi, o'r hyn a glywais gan y rhai yn y sector, mai dyma'r amser anghywir i gyflwyno treth dwristiaeth, ac, yn eu geiriau nhw, gallai fod yn niweidiol i'w busnesau. Felly, Gweinidog, mae gennym eich ochr chi o'r stori, sydd fel pe bai'n dweud bod treth dwristiaeth yn syniad gwych, ac mae gennym ni fusnesau diwyd a'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud nad yw hyn yn syniad da. Felly, pwy sy'n anghywir yma, Gweinidog? Ai nhw neu chi?
Wel, rwy'n credu eich bod chi'n anghywir yn yr ystyr nad ydym yn cyflwyno ardoll twristiaeth yn fuan. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth rwy'n gresynu bod y Ceidwadwyr wedi bod yn ei bortreadu i bobl yn y diwydiant twristiaeth fel pe bai hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn ei gyflwyno dros nos ac yn fuan. Dydy o ddim o gwbl. Rydym yn cyflwyno ymgynghoriad heddiw i glywed barn pobl am y cynigion. Ac fel y bydd cyd-Aelodau yn gwybod, bydd hyn yn cymryd nifer o flynyddoedd i ddwyn ffrwyth. Felly, yn sicr nid yw'n rhywbeth sydd ar fin cael ei gyflwyno a hynny oherwydd bod yn rhaid i ni ymgynghori, mae'n rhaid i ni ystyried yr holl ymatebion hynny i'r ymgynghoriad—ac rwy'n disgwyl ymateb cryf iawn i'r ymgynghoriad—ac yna, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ffurfioli ein cynigion deddfwriaethol, dod â nhw i'r Senedd, mynd trwy'r holl gamau hynny mewn pwyllgorau, trwy graffu, trwy welliannau ac yn y blaen, ac yna'n amlwg yn symud ymlaen i'r cyfnod gweithredu; drwy'r amser hwnnw yn edrych ar y math o seilwaith fyddai ei angen i gefnogi gweithredu ardoll. Felly, er enghraifft, y cynllun cofrestru ar gyfer busnesau yn y sector llety. Gallai hynny helpu fel rhan o'r model ar gyfer cyflawni'r ardoll a chaniatáu i ni ei weithredu. Mae'r ddogfen ymgynghori yn edrych ar sawl ffordd y gellid ei gweithredu, a byddwn yn annog cydweithwyr i fynegi barn ynghylch pa rai o'r rheiny fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen. Felly, bydd hyn i gyd yn cymryd nifer o flynyddoedd. Ni fydd unrhyw ardoll twristiaeth yn cael ei gyflwyno ar fin digwydd, ond fyddech chi byth yn dyfalu hynny wrth edrych ar y cyfraniadau gan y Ceidwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly, rwy'n credu nad yw'n gwneud cyfiawnder â'r sector twristiaeth i fod yn gwneud iddyn nhw boeni am rywbeth sydd ddim yn mynd i ddigwydd am beth amser ac y byddant yn cael y cyfle i'n helpu i lunio, mewn partneriaeth, wrth i ni symud ymlaen.
Diolch i'r Gweinidog.