– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 19 Hydref 2022.
Eitem 8 sydd nesaf.
Y drafodaeth am ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl'. Rwy'n ymwybodol fod y deisebydd yn y Senedd; hoffwn ei chroesawu, ac fe fydd hi'n gwrando'n astud ar y ddadl.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y ddeiseb,
P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion canser metastatig y fron yng Nghymru ar ôl' a gafodd 14,106 llofnod.
Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei bod hi'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Canser Eilaidd y Fron ddydd Iau diwethaf. Mae'r diwrnod yn nodi bod y ffordd y gwnawn ddiagnosis, y ffordd yr ydym yn trin, y ffordd yr ydym yn cefnogi a'r ffordd yr ydym yn gofalu am ganser eilaidd y fron wedi bod yn rhy araf yn rhy hir. Rwy'n credu y gall y ddadl hon heddiw wneud cyfraniad pwysig tuag at dynnu sylw at rai o'r heriau a wynebwn yma yng Nghymru. Yn ôl gwerthusiad o gymorth a gofal i gleifion a gafodd ddiagnosis o ganser metastatig y fron yn 2019, gwneir diagnosis o 2,786 achos newydd o ganser y fron bob blwyddyn, gyda 612 o farwolaethau cysylltiedig yng Nghymru bob blwyddyn—612, Ddirprwy Lywydd. Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud mai canser y fron yw prif achos marwolaeth mewn menywod rhwng 35 a 64 yn y DU erbyn hyn. Mae'r ddeiseb hon yn galw am newid. Mae'r ddeiseb yn nodi fel a ganlyn:
'Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.'
Ddirprwy Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tassia Haines, sy'n un o nifer o gleifion, ymgyrchwyr a chefnogwyr yma y prynhawn yma, yn gwylio yn yr oriel gyhoeddus, a hoffwn eu croesawu i Siambr y Senedd. Cefais y fraint o gyfarfod Tassia ddydd Llun, ac rwyf am dalu teyrnged i'r ymroddiad a'r dewrder y mae hi wedi'i ddangos drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr dinistriol hwn, a thrwy neilltuo cymaint o'i hamser i ymgyrchu dros welliannau a fydd ond o fudd i eraill.
Nawr, rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd, Dai Rees, yn rhannu fy sylwadau am Tassia, gan ei fod wedi gweithio'n agos gyda hi yn ei rôl ei hun fel Aelod o'r Senedd dros Aberafan. Fel y dywed Tassia, yn ei llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n dyfynnu, Ddirprwy Lywydd:
'Yn anffodus, bûm yn byw gyda chanser metastatig y fron ers dros ddwy flynedd er mai dim ond deg ar hugain oed ydw i. Rwy'n cael triniaeth gan ddau fwrdd iechyd ac wedi cyfarfod â phobl sy'n cael triniaeth o bob cwr o Gymru, ac yn anffodus mae'n rhaid imi eich hysbysu fod Cymru'n methu pan ddaw'n fater o ddiwallu anghenion cleifion canser metastatig y fron, yn ôl yr hyn a welwn ni—y bobl sy'n marw o'r clefyd a'r bobl agos sy'n cefnogi'r rhai sydd â chanser metastatig y fron.'
Mae deiseb Tassia, a'r ymgyrch ehangach, yn galw am dri pheth. Yn gyntaf, casglu data gwell am bobl sy'n byw yng Nghymru gyda chanser eilaidd y fron nad oes modd ei wella. Ar hyn o bryd, nid yw System Gwybodaeth Rhwydwaith Canser Cymru yn adrodd ar nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis o'r clefyd metastatig. Mae'r ymgyrch hon yn gofyn am system ganolog i Gymru a fydd yn casglu manylion holl gleifion canser eilaidd y fron yn y wlad. Yn ail, gwell ymwybyddiaeth o symptomau baner goch canser metastatig y fron. Ceir diffyg dealltwriaeth ymhlith cleifion canser cynradd y fron ynglŷn â sut i ddweud bod canser wedi lledaenu y tu hwnt i'r fron, ac mae'r ymgyrch hon am i gleifion cynradd a meddygon teulu gael mwy o fanylion ynglŷn â sut i adnabod y symptomau baner goch hyn er mwyn gwella diagnosis cynharach. Ac yn drydydd ac yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, gwell gofal i gleifion. Mae'r ymgyrch eisiau i bob claf yng Nghymru gael mynediad at nyrs canser metastatig y fron wedi'i hyfforddi'n arbennig, sydd â llwyth gwaith yn canolbwyntio ar gleifion canser metastatig y fron yn unig, ac mae'r ymgyrchwyr yn teimlo y gall hynny fod yn gosteffeithiol i'r GIG trwy atal derbyniadau i'r ysbyty, er enghraifft.
Ddydd Llun, nid Tassia'n unig a gyfarfûm, cefais y fraint o gyfarfod â chleifion a nyrsys eraill, a bwysleisiodd fod rhaid inni ddeall, Aelodau—rhaid inni ddeall bod canser cynradd y fron a chanser eilaidd y fron yn wahanol, ac felly, mae angen darpariaeth gofal iechyd wahanol arnynt. Fe wnaethant bwysleisio bod angen cefnogaeth ar unigolion ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau pan gânt ddiagnosis o salwch terfynol, ac mae angen cefnogaeth wedi'i deilwra i unigolion trwy gydol triniaeth barhaus hyd at ofal lliniarol.
Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i hybu gwelliannau mewn gofal canser yng Nghymru. Mae safon ansawdd newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, yn amlinellu sut olwg fydd ar ofal da yn y dyfodol. Yn ddiweddarach eleni, rydym yn disgwyl gweld cynllun gweithredu ar gyfer canser dan arweiniad y GIG yn cael ei gyhoeddi, i roi rhagor o fanylion i'r weledigaeth o ofal sy'n cael ei arwain gan gleifion i ddioddefwyr canser. Ond gyda hynny i gyd mewn cof, Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-aelodau o'r Pwyllgor Deisebau, cyd-Aelodau, ac wrth gwrs, gan y Gweinidog iechyd, i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes gofal canser, ac i ymateb y benodol i dair prif alwad y ddeiseb, a sut y gallwn helpu'r bobl sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Pwyllgor Busnes am y brys, gan alluogi'r ddadl hon i ddigwydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf. Gwn fod Tassia yma heddiw, a hoffwn ddiolch iddi a'i llongyfarch ar ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron.
Tassia, ni allaf ddechrau dychmygu pa mor anodd y mae'r ymgyrch hon wedi bod i chi. Rydych chi'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, a bydd eich llais yn siarad dros y 35,000 o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron ar draws y DU. Ni all gofal canser diwedd oes fod yn seiliedig ar ragdybiaethau. Mae pobl yng Nghymru yn marw nawr. Nid yw'n bosibl cynllunio gofal na chreu llwybrau heb ddata cadarn, dibynadwy. Os ydym am gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yng Nghymru, mae angen inni wybod faint yn union o bobl sy'n cael eu trin. Mae llawer ohonom wedi sefyll yn y Siambr hon ar fwy nag un achlysur yn galw am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ym maes iechyd menywod. Mae'n ffaith mai prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU yw canser metastatig y fron. Mynediad at arbenigwr nyrsio clinigol yw'r prif bwynt cyswllt cyson rhwng gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol. I bobl sy'n dioddef gyda chanser metastatig y fron, mae'n rhaid ystyried hyn o ddifrif.
Mae Tassia wedi rhannu llythyr agored a gefnogir gan 277 o gleifion canser metastatig y fron sy'n dweud nad yw pobl yn cael y gofal sydd ei angen. Mae dyfyniad o'r llythyr yn dweud:
'A allwch chi amgyffred sut beth yw llywio'ch misoedd/blynyddoedd olaf drwy anabledd, poen a marwolaeth? Ac yn fy achos i i fod yn rhy sâl i ddilyn gyrfa a chael teulu, ond heb fod yn ddigon sâl i farw, ddim eto?'
Oni bai ein bod ni ein hunain yn y sefyllfa honno, y gwir amdani yw na allwn ddechrau deall sut beth ydyw, ond yr hyn y gallwn ei wneud yw helpu i godi ymwybyddiaeth. Yr wythnos diwethaf, mynychais angladd ffrind annwyl, Marion Abbott, a fu farw gyda chanser metastatig y fron. Heddiw ac yfory, mae tîm Canolfan Pentre yn cynnal arwerthiant gacennau 'gwisgwch binc' i godi arian ac ymwybyddiaeth o ganser metastatig y fron er cof am Marion, ac i gefnogi'r rhai sy'n ymgyrchu, fel Tassia. Ein cyfrifoldeb iddynt hwy yw parhau i godi ymwybyddiaeth, i weithio ar frys tuag at gasglu data gwell, ac i roi ystyriaeth ddifrifol i gynyddu nifer yr arbenigwyr gofal clinigol canser eilaidd y fron, sy'n amhrisiadwy i wella gofal ac ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef o ganser metastatig y fron yng Nghymru. Diolch.
Rwyf am ddechrau drwy ddweud bod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n cytuno'n llwyr â'r galwadau a geir yn y ddeiseb hon, ac mae'r ffaith bod cymaint o lofnodion wedi'u casglu yn dangos cryfder y teimlad a geir yng Nghymru ynghylch yr angen i wneud llawer mwy i helpu'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Rwyf am ddiolch i Tassia a phawb sydd wedi arwyddo'r ddeiseb.
Fel y clywsom eisoes, canser metastatig y fron yw prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU, ac mae angen gwneud llawer mwy i atal y loteri cod post o ran mynediad at ofal priodol. Mae'r ffaith mai un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru yn mynd yn groes i ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar weithwyr allweddol ar gyfer canser metastatig y fron. Mae'n sefyllfa warthus a allai fod yn gadael cannoedd o bobl heb gefnogaeth ddigonol. Ar ben hynny, rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn cael yr effaith ganlyniadol o greu'r argraff nad yw'r rhai sydd mewn grym yng Nghymru yn poeni am y rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw hynny'n wir.
O siarad gyda'r deisebwyr, yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd bod llawer ohonynt yn teimlo eu bod wedi gorfod brwydro am eu diagnosis, a bod amharodrwydd i drafod yn y cyfnod cyn y diagnosis, a bod diffyg cefnogaeth a gwybodaeth sylfaenol ar ôl ei chael.
Rydym wedi trafod prinder nyrsys a dosbarthiad anghyson o nyrsys yn adrannau GIG Cymru ac ar draws byrddau iechyd sawl gwaith yn y Siambr, ac rwy'n ofni y bydd y ddeiseb hon yn disgyn ar glustiau byddar ac yn cael ei gweld yn syml fel cwyn arall i ychwanegu at y rhestr. Ond rwyf am annog y Gweinidog i gydnabod y dylai darparu'r nyrsys arbenigol hyn fod yn fwy nag ymarfer ticio bocsys yn unig. Mae llawer o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yn wirioneddol ofnus am eu bywydau bob dydd, a gall cael y gefnogaeth gywir wella canlyniadau byw gyda chanser metastatig y fron yn sylweddol.
Mae'r ddeiseb hon hefyd yn gofyn am gofrestr genedlaethol o'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes digon o ddealltwriaeth o'r darlun cenedlaethol, a fyddai'n caniatáu ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gofal, a dull gwell o fesur effaith ymyriadau, ac ni allaf weld sut nad yw hyn eisoes wedi'i wneud, gyda'r holl offer technolegol sydd gennym at ein defnydd. Nid wyf yn credu bod cost yn broblem hyd yn oed—rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud mwy â chyfyngiadau ein byrddau iechyd o ran dod o hyd i'r amser a'r arbenigedd angenrheidiol i ddod at ei gilydd a llunio a gweithredu modelau casglu data a fydd yn gallu darparu tystiolaeth addas i lywio cynlluniau diagnosis a thriniaeth hirdymor.
Weinidog, dyma lle gofynnir i chi ymyrryd. Mae 'r gymuned sy'n byw gyda chanser metastatig y fron angen eich cefnogaeth. Maent angen i chi ddarparu ysgogiad i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn colli cyfleoedd hawdd i wneud diagnosis o ganser metastatig y fron gan adael y rhai sy'n dioddef ar ôl. Weinidog, pe bai cronfa ddata genedlaethol yn cael ei chreu, byddai'n helpu i wella dealltwriaeth o ganser metastatig y fron ymysg y boblogaeth, ac yn sicr byddai hyn yn helpu i ddarparu cynlluniau triniaeth gwell, yn helpu i reoli ac oedi amrywiolion penodol o'r clefyd a lleddfu symptomau, gan ganiatáu i bobl fyw'n dda am gyn hired â phosibl. Rwy'n annog pawb yma i gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ei hargymhellion. Diolch.
I gychwyn, fel fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddweud y dylai Tassia fod yn falch o’i gwaith ac yn falch o’i deiseb. Yn y swydd hon, ac mewn bywyd a dweud y gwir, y bobl sy'n ysbrydoli fwyaf yw'r rhai yr ydym yn cymryd eu profiadau o adfyd ac yn eu defnyddio i gael dylanwad da. Anaml y cewch bencampwyr heb greithiau. Hwy yw'r cryfaf ohonom a'r gorau ohonom, ac yn fy marn i, os oes unrhyw un wedi dilyn Tassia dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn y newyddion, neu wedi cael y pleser o'i chyfarfod, ni chredaf y gallai unrhyw un amau ei chryfder. Hyd yn oed heddiw, mae hi wedi bod yn y Senedd yn cyfarfod ag Aelodau, yn ymgyrchu hyd yr eiliad olaf cyn y ddadl hon.
Mae Tassia ei hun yn byw gyda chanser metastatig y fron, ac mae ei phrofiadau o fyw gyda'r cyflwr wedi ei hysgogi i ymgyrchu dros ymyriadau clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Mae pobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso'n arw gan y system. Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn frawychus nad oes gennym ffigur cywir, cyfredol o hyd o faint o bobl sy'n byw gyda chanser eilaidd y fron yn y DU ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw: pan nad ydych yn gwybod pwy sy'n fyw ac am ba mor hir, sut y gallwch nodi tueddiadau'n gywir? Sut y sicrhewch nad yw cynlluniau'n seiliedig ar ragdybiaethau? Mae cael y data cywir yn hollbwysig.
Mae rhwystredigaeth amlwg iawn ymhlith y rheini sydd â chanser metastatig y fron eu bod yn cael clywed bod y llwybrau'n bodoli a bod y gofal yn cyrraedd y safon. Ymddengys bod datgysylltiad rhwng yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Dyna roddodd sbardun i'r ddeiseb hon—i'r 14,000 o bobl a’i llofnododd, i'r 277 o gleifion â chanser metastatig y fron a’r rhai sy’n rhoi gofal iddynt a lofnododd lythyr agored yn tynnu sylw at eu pryderon ynghylch gofal, ac i’r cleifion sydd wedi cyfrannu at arolygon Macmillan.
Ar hyn o bryd, dim ond un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru. Canfu ymchwil Breast Cancer Now mai 68 y cant yn unig o ymatebwyr yng Nghymru a gafodd enw nyrs glinigol arbenigol pan gawsant eu diagnosis, sy’n golygu nad oes gan filoedd fynediad at nyrs glinigol arbenigol a’r cymorth hanfodol y maent yn ei ddarparu. Roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i asesu’r angen am nyrsys canser eilaidd y fron, ond hyd yn hyn, nid ymddengys bod hynny wedi arwain at unrhyw ganlyniadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r prinder nyrsys clinigol arbenigol, gan gynnwys darparu’r buddsoddiad sydd ei angen i recriwtio a hyfforddi digon o nyrsys clinigol arbenigol i gefnogi pobl â chanser eilaidd y fron yn awr ac yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd hefyd i greu swydd nyrs canser eilaidd y fron amser llawn ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru. Dywedwyd wrthyf heddiw fod Macmillan yn ariannu un o’r rhai cyntaf ym mwrdd Cwm Taf. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth.
Nod y ddeiseb hon yw gwella ansawdd bywyd i bobl â chanser metastatig y fron. Bydd ei nodau'n helpu i unioni methiannau Cymru mewn perthynas â chefnogi anghenion cleifion â chanser metastatig y fron. Dyfynnodd Buffy lythyr agored Tassia, a dyma ddilyn ymlaen o’r dyfyniad hwnnw gan Tassia:
'Nawr ystyriwch y teimlad o ofn wrth ichi sylweddoli bod y system yr ydych wedi'i chefnogi drwy gydol eich oes wedi celu gwybodaeth rhagoch a allai fod wedi atal hyn rhag digwydd, a hefyd yn gwneud i chi wynebu diwedd eich oes ar eich pen eich hun?'
Fe all ac fe ddylai Cymru weithredu’r ddau bolisi hyn, gweithredu nodau’r ddeiseb hon, er mwyn helpu i wella ansawdd bywyd y rhai sy’n byw gyda chanser metastatig y fron. Efallai mai deiseb Tassia yw hon, ond mae hi'n siarad dros gynifer o bobl.
Pan fydd cleifion canser metastatig y fron yn dweud wrthym eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu hesgeuluso, mae'n rhaid inni gydnabod eu bod yn cael eu hesgeuluso, a hoffwn dalu teyrnged i Tassia a phawb sy'n ymgyrchu ar ran cleifion ddoe a heddiw. Ond y peth allweddol i'w gofio yma yw y bydd cleifion yn y dyfodol hefyd, a drostynt hwy y mae'r ymgyrchwyr yn ymgyrchu. Dyna pam eu bod yn deisebu. Dyna pam eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan ymateb presennol Llywodraeth Cymru. Gwyddom beth yw’r gofynion, gwyddom fod angen y swyddi nyrsio allweddol hynny, a gwyddom fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i roi’r cyfle i gleifion y dyfodol gael y driniaeth orau bosibl a’r gobaith gorau o oroesi.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl hon yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Hoffwn groesawu’r deisebwyr i’r Siambr, yn enwedig Tassia, ac eraill sydd wedi ymgyrchu mor frwd ar y mater hwn. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, a hefyd i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, David Rees, y gwn ei fod wedi codi’r mater hwn gyda mi ar sawl achlysur. A hoffwn roi gwybod y byddaf yn rhoi rhywfaint o fy araith yn Gymraeg.
Mae hwn yn fater pwysig iawn, a hoffwn roi sicrwydd i’r holl bobl yng Nghymru sy’n wynebu diagnosis o ganser metastatig y fron na fyddwn yn eich gadael ar ôl ar unrhyw gyfrif. Mae llawer o’r rheini sydd eisoes wedi siarad wedi egluro’r anawsterau y bydd pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser metastatig y fron yn eu hwynebu, felly nid wyf am ailadrodd hynny, heblaw dweud fy mod yn deall, i raddau, pa mor anodd yw hi i deuluoedd yn y sefyllfa honno, gan fod teulu fy mrawd yn un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun yr effaith y mae’n ei chael, nid yn unig ar yr unigolyn sy’n dioddef, ond hefyd ar y teulu ehangach.
Ysgrifennais at y Pwyllgor Deisebau yn eithaf diweddar i egluro fy ymrwymiad i wella gwasanaethau canser ac adfer ar ôl effaith y pandemig. Ynddo, esboniais fy mod yn disgwyl i'r gwasanaeth iechyd gefnogi pobl â chanser metastatig y fron nid yn unig gyda thîm amlbroffesiynol, ond hefyd gyda mewnbwn nyrsio arbenigol yn ôl yr angen. Rwyf hefyd yn disgwyl i bawb â chanser gael asesiad cyfannol o anghenion i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Er mai cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw defnyddio’r gweithlu sydd ar gael iddynt yn unol â safonau proffesiynol ac mewn ffordd sy’n deg ar gyfer mathau eraill o ganser, rwy’n falch o ddweud bod canolfan ganser de-orllewin Cymru wedi cyflwyno nyrsio arbenigol ar gyfer canser eilaidd y fron, ac mae canolfan driniaeth canser gogledd Cymru yn y broses o wneud hynny. Mae trafodaethau pellach ar y gweill rhwng y GIG a’r trydydd sector ynghylch y posibilrwydd o swyddi yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda’r trydydd sector, clinigwyr y fron a byrddau iechyd i adolygu gwasanaethau canser eilaidd y fron a phrofiad cleifion. Mae wedi datblygu cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cyflwyno i fwrdd y rhwydwaith eu hystyried ym mis Tachwedd.
Mae clinigwyr arbenigol Rhwydwaith Canser Cymru hefyd wedi nodi sut y dylid trin cleifion ledled Cymru mewn llwybr sydd wedi ei gytuno yn genedlaethol. Flwyddyn nesaf, byddwn ni'n cyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o wasanaethau canser metastatig y fron i helpu i wella'r gofal mae pobl yn ei gael.
Felly, er eglurder, mae'r ddeiseb yn galw am well prosesau casglu data ar ganser metastatig, ac rwy'n gobeithio y bydd y deisebwyr yn falch o glywed fy mod wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gyflwyno archwiliad clinigol cenedlaethol o ganser metastatig y fron yng Nghymru. Mae darparu gwell gwasanaeth o ran data cynllunio yn un o'r rhesymau pam ein bod yn buddsoddi £11 miliwn mewn system gwybodaeth canser newydd i Gymru.
Rŷn ni wedi nodi ein dull ehangach yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Mae'r datganiad yn cynnwys y disgwyl y caiff y gweithlu canser ei gynllunio i fodloni'r galw a ragwelir, yn benodol o ran oncoleg glinigol a meddygol, nyrsys canser arbenigol, ffiseg feddygol, radiograffwyr a therapiwtig. Rŷn ni bellach yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd drwy ei brosesau cynllunio ac atebolrwydd i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni hyn. Ac wrth inni ddod allan o effaith y pandemig, rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adfer gwasanaethau canser a lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Yn fwy cyffredinol, dwi am achub ar y cyfle hwn i annog pobl i leihau eu risg o ganser y fron drwy wneud yr hyn a allan nhw, megis byw bywyd iach, ac annog menywod sydd yn gymwys i gymryd rhan mewn sgrinio'r fron. Ond pan fydd angen y cymorth hwnnw ar fenywod a thriniaeth ar gyfer canser y fron, fy mwriad yw y gall y gwasanaeth iechyd ei darparu. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am ymateb, ac wrth gwrs, i aelodau fy mhwyllgor, Rhun ap Iorwerth, ac i Buffy am ei chyfraniad a’i theyrnged i’w ffrind agos hefyd—cyfraniadau pwerus iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r ddadl frys hon a’r ffordd y’i trefnwyd.
Lywydd, mae’n bwynt arferol imi geisio crynhoi sylwadau’r Aelodau, ond heddiw, teimlaf fod gennyf ddyletswydd bwysicach. Rwyf bob amser wedi ceisio dweud mai pwyllgor y bobl yw’r Pwyllgor Deisebau, ac rwyf wedi addo ceisio sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. A fyddech yn cytuno â mi nad yw gwir arwyr ein cymdeithas yn gwisgo clogynnau, pobl fel y deisebydd ydynt, a gyflwynodd y deisebau hyn i godi materion fel hyn ar lwyfan cenedlaethol? Ac a ydych yn cytuno â mi y dylai fod mwy o gyfle i faterion fel hyn gael eu trafod yn y Senedd fel y gall pawb ledled Cymru, fel y deisebydd, ddwyn y pwyntiau hanfodol bwysig hyn i'n sylw ni fel y swyddogion etholedig yn y lle hwn?
A gaf fi ddiolch i James Evans am ei ymyriad? Cytunaf yn llwyr â James, a’r pwynt rwyf am geisio'i wneud yn awr yw nad pobl fel ni, James, pobl mewn siwtiau sy’n eistedd yn y Siambr hon, sy’n creu newid gwirioneddol, ond pobl fel Tassia. Roedd Tassia'n ddigon caredig, Weinidog, i roi rhai sylwadau i mi ar y llythyr y sonioch chi amdano, a anfonwyd ataf ar 14 Hydref: o ran llwybrau, mae gan Lywodraeth Cymru gyfres o lwybrau delfrydol, ond mae pryderon nad oes llwybr penodol ar gyfer canser metastatig y fron, a dylem geisio mynd i’r afael â hynny. Ar nyrsio arbenigol, credaf y dylem fod yn ystyriol—ac rwy'n darllen geiriau Tassia yma—dylem fod yn ystyriol wrth ddatgan nad rôl Llywodraeth Cymru yw pennu pa gyflyrau a ddylai elwa o gymorth nyrsio arbenigol penodedig, gan mai dyma'n union a wnawn gyda chyflyrau eraill.
I sôn yn fyr am yr archwiliad, rwy'n croesawu'r ffaith bod yr archwiliad wedi'i gyhoeddi, a’r £11 miliwn a gyhoeddwyd gennych heddiw yn y Siambr, ond gwn o sgyrsiau a gefais gydag ymgyrchwyr, y bydd peth rhwystredigaeth ei fod wedi cymryd gormod o amser.
Gwn fy mod yn brin o amser, felly rwyf am orffen gyda hyn, Lywydd: mae 277 o gleifion a rhai sy’n rhoi gofal i gleifion canser metastatig y fron yng Nghymru wedi llofnodi llythyr agored Tassia, y mae pob un ohonom wedi’i glywed, ac yn cytuno â’r ddeiseb. Mae Tassia a’r 14,105 o bobl eraill wedi arwyddo deiseb i wneud yn well. Yn fy ngeiriau fy hun yn awr, Lywydd, dylai’r ystadegau hyn fod yn gloch yng nghlustiau pawb yn y Siambr, a phawb sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau, y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, ac wrth gwrs, ein byrddau iechyd, y dylem i gyd eu dwyn i gyfrif. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.