– Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf fydd dadl Plaid Cymru ar effaith fyd-eang defnydd domestig, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8121 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang;
b) y gellir priodoli mwy na 50 y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei drawsnewid i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae defnyddwyr yn galw amdanynt;
c) bod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw yn unig o nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion, cacao, rwber naturiol, lledr, pren, papur a mwydion);
d) bod ardaloedd eang dramor yn cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda chanlyniadau trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a cholli bioamrywiaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i fod yn atebol am ac adrodd yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru dramor o ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â mewnforio nwyddau i Gymru;
b) i gryfhau ei chontract economaidd—sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac arferion cyfrifol—i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi nad ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol;
c) i ddatblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i gymunedau a fyddai'n cynnwys:
(i) gwrthdroi colli capasiti prosesu lleol;
(ii) gyrru cadwyni cyflenwi lleol;
(iii) blaenoriaethu mewnforio nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a
(iv) helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg maeth.
d) i ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol;
e) i gefnogi ffermwyr Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor;
f) i gefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau; a
g) i sicrhau ei bod yn hyrwyddo cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi llym.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r cyfrifoldeb sydd gennym am ein gweithredoedd a chanlyniadau'r cyfrifoldeb hwnnw wrth iddynt ymestyn a chwyddo ar draws y byd. Mae'n ddadl am effaith ein gweithredoedd, canlyniadau ein harferion defnydd ar bobl a lleoedd ar ochr arall ein planed, ac mae'n ddadl am ddewisiadau—y dewisiadau sydd gennym i gyd, boed ein bod yn ymwybodol ohonynt ai peidio, i wneud pethau'n wahanol—a'r dewisiadau sydd gan Lywodraethau i rymuso eu dinasyddion i wneud y dewisiadau hynny'n ddoeth. Rwy'n defnyddio'r gair 'doeth' oherwydd dywedodd George Bernard Shaw,
'Cawn ein gwneud yn ddoeth nid drwy gofio ein gorffennol, ond gan y cyfrifoldeb am ein dyfodol.'
Yn y ddadl hon, hoffwn i bawb ohonom gadw'r dyfodol hwnnw ar flaen ein meddyliau, oherwydd ni all doethineb dreiddio go iawn heblaw ein bod yn dysgu nid yn unig o rywbeth ond ar gyfer y dyfodol hwnnw. Felly, pa gyfrifoldeb sydd gan Gymru? Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae hynny'n golygu, yn ogystal â chymryd camau yma yng Nghymru a fydd yn helpu bywydau pobl yn ein gwlad, fod angen inni fod yn ymwybodol o sut mae ein cadwyni cyflenwi'n rhwystro ac yn tagu gwledydd eraill, sut mae'r dewisiadau a wnawn am y pethau rydym yn eu bwyta ac yn eu gwisgo ac yn buddsoddi ynddynt, sut mae i'r holl bethau hyn sgil-effeithiau sy'n chwyddo ac yn tyfu'n don lanw o wastraff, o ddifrod, o drawma mewn rhannau eraill o'n byd. Efallai na welwn ni eu heffeithiau, ond nid yw hynny'n eu gwneud yn llai real nac yn llai erchyll yn ei wir ystyr.
Mae yna salwch yn ein cymdeithas—salwch difaterwch, y dirmyg cyfforddus a ddangoswn tuag at yr hyn na allwn ei weld. Mae pob un ohonom yn hoffi meddwl ein bod yn gwneud ein rhan, ein bod yn gwneud ein rhan ein hunain yn y ffordd orau er mwyn y blaned, ond faint ohonom sy'n defnyddio sebon neu golur wedi ei wneud ag olew palmwydd? Faint o'r pwdinau a fwytwn sy'n cynnwys coco nad yw'n fasnach deg neu'n deillio o ffynonellau moesegol? Faint o'r porthiant da byw a ddefnyddiwn ar gyfer anifeiliaid sy'n arwain at ddifodiant rhywogaethau eraill o anifeiliaid mewn rhannau eraill o'r byd, fel teigr y gogledd, cathod gwyllt yn Ne America, orangwtaniaid yn Swmatra? Mae ein dewisiadau bob dydd, er eu bod yn ymddangos yn ddi-nod ar eu pen eu hunain, yn gwneud i bethau ddigwydd ac yn rhoi cychwyn ar yr effeithiau tawel trychinebus a ddaw yn sgil yr ymdeimlad llechwraidd o fod 'o'r golwg, o'r ffordd'.
Lywydd, ni allwn aros yn ddall i'r effeithiau hyn bellach. Fe nodaf rai o'r ystadegau mwyaf llwm, a daw llawer o hyn o'r adroddiad gwych 'Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang', a gomisiynwyd gan Maint Cymru, WWF Cymru ac RSPB Cymru. Mae eu canfyddiadau'n cynnwys y ffaith bod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o fàs tir Cymru, 823,000 hectar, wedi cael ei defnyddio dramor i dyfu mewnforion Cymru o goco, palmwydd, cig eidion, lledr, rwber naturiol, soi, pren, mwydion a phapur mewn blwyddyn gyfartalog rhwng 2011 a 2018. Mae llawer o'r tir hwn—30 y cant ohono—mewn gwledydd sy'n wynebu risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo, difodiant rhywogaethau neu broblemau cymdeithasol fel llafur plant a cham-drin hawliau pobl frodorol. Mae'r broses o drosi'r tir hwn dramor a dinistrio'r cynefinoedd hynny'n arwain at 1.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn—sy'n cyfateb i 4 y cant o gyfanswm ôl troed carbon nwyddau domestig a nwyddau wedi'u mewnforio yng Nghymru.
Rwy'n aml yn poeni, Lywydd, yn y dadleuon hyn, pan fydd Aelodau'n rhestru ystadegau, fod pobl yn mynd i gysgu. Ni all ein hymennydd brosesu'r holl arswyd, yr holl ddinistr. Felly, yn ogystal â'r ystadegau hynny, fe ddywedaf hyn: mae bywydau pobl yn cael eu dinistrio gan ein trachwant a'n gwrthodiad ystyfnig i newid ein harferion, ac mae'r gwaed yn ein cadwyni cyflenwi yn staenio cydwybod y byd, ond ychydig iawn o ddefnyddwyr a fydd yn ymwybodol o ddim o hyn. Mae pwerau dros labelu yn nwylo Llywodraeth y DU, ac mae angen iddynt weithredu i rymuso pobl i ddeall hyn i gyd.
Ond mae llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud hefyd a llawer y dylai fod yn ei wneud. Yn ein dadl, byddwn yn nodi pam fod rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau'r contract economaidd drwy ddatblygu cysylltiadau gyda busnesau o amgylch twf cyfrifol ac arferion moesegol, gan ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i ddefnyddio cadwyni cyflenwi sy'n rhydd o ddatgoedwigo ac ecsbloetio cymdeithasol. Bydd Luke Fletcher yn nodi hyn yn fanylach. Mae gan bob un ohonom yng Nghymru ran i'w chwarae. Mae angen i bob un ohonom leihau ein dibyniaeth ar nwyddau wedi'u mewnforio sy'n gyrru'r datgoedwigo. Mae angen cynorthwyo busnesau i wneud eu cadwyni cyflenwi'n lleol. Bydd Mabon ap Gwynfor yn nodi sut y gellir gwneud hyn drwy strategaeth bwyd cymunedol gadarn.
Cafodd breuder cadwyni cyflenwi byd-eang ei amlygu gan Brexit, rhyfel Wcráin a'r argyfwng costau byw. Nid yw ein ffordd o fyw yn gynaliadwy. Ond bydd pobl mewn rhannau eraill o'r byd, eu ffyrdd o fyw, yn dod i ben os na newidiwn y ffordd y gweithredwn, a dyna fydd Heledd Fychan yn canolbwyntio ei sylwadau arno.
Mae Cymru a'r byd ar groesffordd mewn hanes. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, os nad newidiwn ein llwybr ar newid hinsawdd, fod perygl y byddwn yn creu planed anghyfannedd. Nawr, rydym ni yng Nghymru wedi arwain y ffordd drwy ddatgan argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r geiriau hynny'n bwysig, ac rydym yn cymryd camau tuag at sero net erbyn 2035 drwy'r cytundeb cydweithio, ond erbyn y dyddiad hwnnw, os ydym ond yn newid y pethau y gallwn eu gweld yn ein gwlad ein hunain, o flaen ein llygaid ein hunain, byddwn wedi caniatáu i anghyfiawnderau enfawr ddigwydd yn ein henw. Nid dyna'r gwaddol y dylem ei adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.
Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru a Delyth Jewell am gyflwyno'r drafodaeth hynod bwysig a difrifol hon. Rydym yn gwybod bod COVID-19 wedi amlygu gwendidau difrifol a oedd eisoes yn bodoli yn ein system fwyd. Tra oedd rhai ffermwyr llaeth yn arllwys llaeth i lawr y draen, roedd gennym lawer o silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd, hyd yn oed yn yr adran cynnyrch llaeth. Er hynny, dechreuodd y pandemig fomentwm gwych o ran prynu bwyd lleol: yn hytrach na theithio i archfarchnadoedd mawr, mae llawer o drigolion ledled Cymru wedi troi at eu siopau fferm lleol a'u cigyddion yn eu pentrefi. Ni cheir unrhyw ffordd well o gefnogi ffermwyr a chynnyrch Cymreig na'n bod ni, bobl Cymru, yn prynu cynnyrch Cymreig.
Fel y dengys y gwelliant yn enw Darren Millar, hoffwn weld siarter bwyd lleol yn datblygu, siarter y gallai pob siop, caffi, bwyty a bar sy'n gwerthu bwyd yn lleol i'r ardal ei chefnogi, gan helpu defnyddwyr i wybod pa fusnesau sydd nid yn unig yn darparu bwyd lleol, ond hefyd yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol. Byddai'n system syml, fel y sgôr hylendid bwyd ar y drws. Byddai'n grymuso cwsmeriaid i wybod a yw'r busnes y maent ar fin mynd i mewn iddo yn caffael cynnyrch lleol o Gymru.
Yn y pen draw, mae angen inni ymddwyn yn fwy cyfrifol, oherwydd amcangyfrifir y byddai angen gwerth 2.5 planed o adnoddau pe bai'r byd yn defnyddio'r un faint o adnoddau â'r dinesydd Cymreig cyffredin. Blaid Cymru, rydych chi'n hollol gywir fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn galw ar Gymru i ymsefydlu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Gofynnwch i chi'ch hunain, Aelodau: a ydym yn gweithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang os oes angen ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru dramor i dyfu mewnforion coco, olew palmwydd, cig eidion, lledr, rwber naturiol, soi, pren, mwydion a phapur i Gymru mewn blwyddyn arferol? Mae 30% o'r tir sy'n cael ei ddefnyddio i dyfu mewnforion nwyddau i Gymru mewn gwledydd sydd wedi'u categoreiddio fel rhai sy'n wynebu risg uchel neu uchel iawn o broblemau cymdeithasol a datgoedwigo. Mae cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â thrawsnewid ecosystemau naturiol a newidiadau mewn gorchudd tir ar gyfer cynhyrchu mewnforion soi, coco, palmwydd a rwber naturiol i Gymru yn 1.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Felly, i roi hyn mewn persbectif, mae mewnforion pren i Gymru yn defnyddio arwynebedd tir sydd ddwy waith a hanner maint Ynys Môn; mae mewnforion palmwydd i Gymru yn defnyddio arwynebedd tir sy'n fwy na sir Wrecsam; mae mewnforion soi i Gymru yn defnyddio arwynebedd tir sy'n fwy na maint sir Fynwy; ac mae mewnforion papur a mwydion i Gymru'n defnyddio arwynebedd tir o faint Ceredigion.
Yr hyn sydd gennym yw storm berffaith. Er bod Llywodraeth Cymru, ac mewn rhai achosion yn cael eu cefnogi bellach gan Blaid Cymru—. Bydd rhai polisïau amaethyddol, fel rheoliadau dŵr ledled Cymru a gofynion i blannu 10 y cant o goed, yn lleihau rhywfaint o gynhyrchiant bwyd Cymru. Mae hefyd yn ein gwneud yn fwy dibynnol ar fewnforion. Eisoes, mae mewnforion cig eidion i Gymru'n defnyddio arwynebedd tir o faint Bannau Brycheiniog. Ni all Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang fynd ar drywydd polisïau sy'n achosi cynnydd diangen mewn dibyniaeth ar nwyddau o bob cwr o'r byd sy'n dinistrio ein planed. Dylai Llywodraeth Cymru roi cyfrif ac adrodd ar yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr y mae Cymru'n eu hachosi dramor.
Ochr yn ochr â chefnogi cynhyrchiant bwyd Cymru, mae angen inni gefnogi ein ffermwyr i ddatblygu eu busnesau fel bod llai o ddibyniaeth ar soi sy'n cael ei fewnforio. Soi, ar ffurf blawd a ffa ar gyfer porthiant da byw, yw bron 60 y cant ac 20 y cant o gyfanswm y mewnforion. Amcangyfrifir bod diwydiant dofednod Cymru yn defnyddio 48 y cant o'r porthiant soi ar gyfer da byw a fewnforir i Gymru. Felly, Weinidog, byddai'n helpu pe gallech amlinellu pa gamau rydych chi'n eu cymryd, gyda'r Gweinidog perthnasol yma hefyd, i weithio gyda'n ffermwyr i gaffael porthiant amgen. Er enghraifft, mae canola, sef blawd hadau olew, pys a ffa, grawn wedi'i ddefnyddio gan fragdai a blawd pryfed wedi'u nodi fel rhai o'r dewisiadau mwyaf addawol yn lle blawd ffa soi.
Weinidog, fe ddywedoch chi fod adroddiad y WWF am gyfrifoldeb byd-eang Cymru yn frawychus a'ch bod yn benderfynol o newid y polisi caffael presennol. Honnodd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, yn COP26 ei fod yn rhoi cyfle i lywodraethau rhanbarthol gydweithio. Erbyn hyn mae COP27 yn cael ei gynnal a Chymru'n dal heb fod yn gweithredu fel cenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang. Drwy gefnogi'r cynnig hwn a fy ngwelliant bach heddiw, gallwn ddysgu o'r gorffennol a gallwn helpu hefyd i arwain y ffordd a chael system fwyd sy'n deg i bawb. Gallwn gydweithredu i adeiladu ar y momentwm gwych i brynu bwyd lleol yng Nghymru. Diolch, Blaid Cymru. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn i Delyth am gyflwyno a chynnig y cynnig yma. Wel, am wlad sydd yn wledig, mae'n ymddangos yn rhyfedd gweld ein bod ni, fel cenedl, yn mewnforio nwyddau amaethyddol a choedwigaeth o wledydd o ar draws y byd, ond dyna, wrth gwrs, yw'r gwir. O wrtaith i borthiant i goed adeiladu a llawer iawn mwy, mae nifer fawr o'r nwyddau yma yn cael eu cynhyrchu mewn gwledydd eraill. Ac mae gan bob un o'r gwledydd yma lefelau gwahanol o risg pan fo'n dod i ddatgoedwigo neu risgiau cymdeithasol, megis llafur plant neu lafur gorfodol. Yn wir, mae ôl troed mewnforion Cymru o dramor yn gyfwerth i 823,000 hectar.
Martin Luther King Jr. a ddywedodd, 'Cyn i chi orffen bwyta brecwast yn y bore, rydych chi wedi dibynnu ar hanner y byd.' Mae i'n gweithredoedd dyddiol, y penderfyniadau a wnawn, a'r ffordd y penderfynwn wario ein harian ganlyniadau pellgyrhaeddol i wledydd a phobl eraill ar draws y byd, fel y soniodd Delyth ar ddechrau'r ddadl hon. Mae amcangyfrifon yn dangos y byddai angen dros 1.7 Daear arnom i gynnal ein lefel bresennol o dwf a defnydd.
Beth am edrych ar rai o'r nwyddau sy'n cysylltu ein sector amaethyddol â'r byd ehangach. Yn gyntaf, soi. Rydym yn mewnforio ychydig o dan 200,000 tunnell o soi bob blwyddyn. Er mwyn i'r soi hwn dyfu, mae'n defnyddio bron i 95,000 hectar o dir. Mae hynny'n cyfateb i ardal sy'n fwy na sir Fynwy, fel y nododd Janet. Fel y clywsom gan Janet, caiff soi ei fewnforio i Gymru gan amlaf ar ffurf blawd a ffa ar gyfer da byw, a'r diwydiant dofednod yng Nghymru sydd i gyfrif am bron i hanner ein defnydd o borthiant soi. Ond yr hyn na chlywsom oedd bod bron i dri chwarter yr ôl troed tir yn sgil mewnforio soi i'w weld mewn gwledydd sydd â risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo a/neu broblemau cymdeithasol, gan gynnwys Paraguay, Brasil, a'r Ariannin.
Nawr gadewch inni edrych ar bren. Mewn blwyddyn gyfartalog, rydym yn mewnforio 768,000 cu m o ddeunydd pren crai. Pren sy'n gyfrifol am yr ôl troed tir mwyaf yn sgil mewnforio nwyddau i Gymru. Mae'r arwynebedd tir cyfartalog sydd ei angen bob blwyddyn er mwyn ateb galw Cymru am bren yn 184,000 hectar. Mae hon yn ardal, fel y clywsom, sy'n cyfateb i ddwy waith a hanner maint Ynys Môn. Mae gan Lywodraeth Cymru nodau canmoladwy ar gyfer plannu coed, ond o gymharu â'r coed a dorrir i ateb ein hanghenion defnydd, prin y bydd yr uchelgeisiau hynny'n gwneud tolc. Mae un rhan o bump o ôl troed tir mewnforio pren i'w weld mewn gwledydd sydd â risg uchel o ddatgoedwigo a/neu broblemau cymdeithasol, gan gynnwys Brasil, Rwsia a Tsieina. Mae ein defnydd o bren yn dinistrio cynefinoedd, diwylliannau brodorol, ac ysgyfaint y byd.
Felly, beth ddylid ei wneud? Wel, fel dywedodd Dewi Sant, gwnewch y pethau bychan. Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion sydd yn gyrru newid hinsawdd a'r argyfwng natur, mae'n rhaid sicrhau bod ein cadwyni cyflenwi yn rhai lleol, ac er mwyn gwneud hynny mae angen datblygu strategaeth fwyd lleol a chadarn.
Mae yna lawer o enghreifftiau o fentrau bwyd cymunedol llwyddiannus, ac ar adeg pan ein bod ni'n byw mewn cyfnod o argyfwng costau byw, gyda miloedd yn ddibynnol ar fanciau bwyd a chyda newid hinsawdd yn digwydd o flaen ein llygaid, yna mae'n rhaid inni ddatblygu strategaeth sydd yn gweithio nid yn unig i ni, ond i'n brodyr a'n chwiorydd ar draws y byd.
Ystyriwch y gwaith gwych sy'n cael eu wneud gan Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n gweithio ar brosiect tyfu bwyd yn lleol, ac yn cydweithio efo Grŵp Llandrillo Menai i gynnal sesiynau coginio, gan ddysgu pobl sut i baratoi bwyd maethlon. Mae Antur Aelhaearn yn Llanaelhaearn hefyd wedi bod yn datblygu prosiectau cyffelyb, a phe byddech wedi mynd yno rhai misoedd yn ôl, yna byddech wedi gallu cael gwledd o lysiau o'r ardd gymunedol. Mae yna enghreifftiau tebyg ar draws y wlad, ond mae angen eu cefnogi a galluogi eraill i'w hefelychu.
Mae yna botensial aruthrol yma ar gyfer tyfu bwyd yn lleol. Dyna pam ein bod ni yn galw yma heddiw i ddatblygu system fwyd mwy hunangynhaliol, gan sicrhau bod yna gynnyrch cynaliadwy yn cael ei ddatblygu ym mhob cymuned, ac nad ydyn ni yn or-ddibynnol ar fewnforio deunyddiau.
Byddai hyn yn golygu gwyrdroi y colledion yr ydym ni wedi eu gweld yn y gallu i brosesu bwyd yn lleol; yn gyrru'r gadwyn gyflenwi lleol ymlaen; yn blaenoriaethu mewnforio deunydd cynaliadwy yn unig o dramor; a helpu i ddatrys y problemau o ddiffyg maeth a thlodi sydd yn endemig mewn rhai o'n cymunedau. Diolch.
Diolch i Blaid Cymru am y cynnig hwn, i gyd-fynd â COP27, a hefyd am yr angerdd y ddangosodd Delyth Jewell wrth gyflwyno'r ddadl. Rwyf innau hefyd am dalu teyrnged i'r adroddiad rhagorol a bendithiol o fyr gan Shea Buckland-Jones ar ran WWF, sy'n crynhoi'n union sut nad ydym yn ystyried ein cyfrifoldebau byd-eang a'n hangen i beidio â pharhau i ecsbloetio gwledydd rhannau deheuol y byd, gyda holl ganlyniadau annerbyniol gwneud cymunedau lleol na allant fforddio bwydo eu hunain yn dlawd wrth iddynt barhau, yn eironig, i dyfu nwyddau braf i'w cael i ni yn y rhannau gogleddol.
Felly, mae angen inni gael newid teg mewn perthynas â'n bwyd yn ogystal ag mewn perthynas â'n hallyriadau carbon, fel ein bod yn cefnogi'r tlotaf yn y byd ac yn byw'n llawer mwy ysgafn ar y ddaear, gan newid ein harferion bwyd a bwyta—rwy'n cytuno'n llwyr â Mabon—bwyd tymhorol a dyfir yn lleol yn lle dibynnu ar fwyd o dramor. Rhaid inni wylio na wnawn hyn yn rhy sydyn er hynny, oherwydd mae rhai pobl yn dibynnu ar werthu bwyd i ni o dramor er mwyn ennill bywoliaeth, ond mae'n rhaid inni gael trefniadau trosiannol i'w galluogi i dyfu mwy o'u bwyd eu hunain a chyfoethogi eu deiet tra byddwn ni'n mewnforio bwyd yr ystyriwn ei fod yn ddanteithfwyd yn unig, yn hytrach na bwyd rydym yn dibynnu arno.
Yn rhy aml y dyddiau hyn gwelsom fod y dyddiau wedi'u rhifo ar ddibynnu ar fewnforion bwyd mewn union bryd—mae'r dyddiau hynny wedi'u rhifo beth bynnag. Mae'r cyfuniad o Brexit, yr argyfwng hinsawdd a thensiynau cynyddol a gwrthdaro rhwng ac o fewn gwahanol wledydd yn golygu bod problemau diogeledd bwyd yn amlwg bellach. Beth bynnag, mae bwyd ffres, a gynhyrchir yn lleol, yn blasu'n well ac yn fwy maethlon na bwyd sydd wedi cael ei gasglu cyn pryd a'i chwistrellu â chwyr neu gemegau er mwyn gwneud iddo edrych yn dda wedi iddo gael ei gludo ar draws y byd. Felly, mae gwir angen inni ganolbwyntio ar dyfu bwyd yn lleol.
Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd sero net fel cyfraniad Cymru i osgoi'r trychineb hinsawdd byd-eang, ac mae hynny'n galw am newidiadau enfawr i bob un ohonom. Ac mae lleihau ein hallyriadau carbon o fwyd yn rhywbeth y gall pawb ohonom chwarae ein rhan yn ei wneud, oherwydd er mai ein gwaith ni yw craffu ar Lywodraeth Cymru i weld pa mor gyflym y gall Cymru ddatgarboneiddio ei diwydiant, ei hallyriadau trafnidiaeth ac adeiladau cyhoeddus, nid yw hynny'n rhywbeth y mae deiliaid tai cyffredin yn mynd i allu dylanwadu arno. Ond gallant wneud cyfraniad gwirioneddol i'r hyn rydym yn ei fwyta, oherwydd dysgais yn ddiweddar, ac roedd yn neges hynod bwysig, nad y defnydd o gerbydau, nad gwresogi'r cartref, na hyd yn oed hediadau gwyliau sydd ar frig y rhestr o allyriadau carbon mewn cartrefi unigol; yn ôl gwaith ymchwil ar ran Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae allyriadau carbon aelwydydd o fwyd a diod yn cynhyrchu mwy na dwywaith yr allyriadau carbon rydym yn eu creu o deithiau gwyliau.
Felly, mynychais gynhadledd yn ddiweddar a drefnwyd gan Cynghrair Gweithwyr Tir Cymru, lle clywais ddigonedd o dystiolaeth fod amaethyddiaeth atgynhyrchiol yn broffidiol heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus. Mae hynny'n werth ei ailadrodd: heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus. Dywedodd un siaradwr y gall un erw fwydo 50 o deuluoedd, dywedodd un arall eu bod yn bwydo 150 o aelwydydd ar naw erw. Ac mae'n creu swyddi hefyd. Mae'n amrywio cryn dipyn, ond yn gyffredinol byddai'n ymddangos bod pob erw o dir yn gallu cynhyrchu un swydd. Felly, pe bai gennym gynllun hyfforddi priodol i bobl ddatblygu gyrfa mewn garddwriaeth, gallem ddechrau darparu'r bwyd sydd ei angen arnom yn gyflym ar gyfer ein rhaglen prydau ysgol am ddim yn lleol a pheidio â dod ag ef i mewn o'r tu allan i Gymru. Cawsom ein bendithio gan bobl fel Castell Howell, sy'n ymroddedig i'r ymgyrch hon hefyd, ond rydym yn dal i brynu llawer gormod o fwyd o'r tu allan i Gymru, sy'n golygu bod yr elw i gyd yn gadael Cymru.
Felly, mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac agweddau caffael cyhoeddus y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cynnig cyfleoedd gwych i gyflawni'r newid sydd ei angen arnom i wneud ein rhaglen uchelgeisiol i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb yn fforddiadwy, fel sbardun i'r genedl gyfan fwyta bwyd gwell ac iachach, hyd yn oed ynghanol yr argyfwng costau byw. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gael gwell cyllid i hyfforddeion er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n gadael ysgol yn deall bod gyrfa gyffrous iawn i'w chael mewn garddwriaeth, a dyna un o'r diwydiannau twf y mae angen inni eu datblygu.
Mae gan Gymru hanes hir o ryngwladoliaeth. Mae mudiadau undod wedi bodoli ers cenedlaethau gyda chymunedau mor bell i ffwrdd â Somalia, fel y gwyddom o hanes masnachu glo Cymru a'i diaspora hirsefydlog; Lesotho, drwy Dolen Cymru, a sefydlwyd yn 1982, a oedd, wedi'r cyfan, yn enghraifft gyntaf y byd o efeillio rhwng gwledydd; ac Uganda, lle mae sawl elusen wedi gweithio dros bedwar degawd.
Gadewch inni gymryd enghraifft wych rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae'r rhaglen yn cysylltu gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd, y sector addysg a'r sectorau amgylcheddol a diaspora yng Nghymru ac Affrica, ac yn harneisio pŵer cysylltiadau cymdeithas sifil cydweithredol yn y gymuned. Yn hytrach nag asiantau neu staff proffesiynol mewn swyddfeydd cenedlaethol, mae prosiectau'n digwydd drwy wirfoddolwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â phartneriaid lleol yn y wlad, mewn meysydd fel iechyd, addysg, newid hinsawdd a dŵr. Mae Cymru o blaid Affrica yn gatalydd i lawer iawn o waith cymunedol yma yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth ac arian ar lefel leol, ac mae cyllid Llywodraeth Cymru wrth gwrs wedi cefnogi hyn trwy feithrin capasiti; cydlynu mudiad masnach deg Cymru, gyda Chymru'n dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008; ymdrechion i liniaru newid hinsawdd, gan gynnwys prosiect Maint Cymru i helpu i ddiogelu ardal o fforestydd glaw maint Cymru; a lleoliadau gwaith gwirfoddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Felly, rydym yn deall yma yng Nghymru beth yw manteision gweithio ar y cyd ar y lefel ryngwladol i helpu ein cymheiriaid dramor, ond gyda chyfraniadau fy nghyd-Aelodau mewn cof, a allwn ni'n onest, â'n llaw ar ein calonnau, ddatgan ein bod yn gwneud cyfraniad net cadarnhaol i'r byd, pan fo'n defnydd ar y lefel ddomestig yn gyrru newid hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth a cholli diwylliant? Sut y gallwn bregethu ar yr un pryd am gynaliadwyedd a gwarchod diwylliant yma yng Nghymru tra bôm yn cyfrannu at yr hyn sy'n hil-laddiad diwylliannol ac amgylcheddol mewn tiroedd pell?
Beth am edrych eto ar astudiaeth achos arall—un a hyrwyddwyd gan Maint Cymru—sef achos pobl Guarani. Mae'r Guarani yn un o'r grwpiau mwyaf o bobl frodorol yn America Ladin, ac mae tiriogaeth eu hynafiaid yng nghoedwig yr Iwerydd ym Mrasil, coedwig nad oes ond 7 y cant ohoni'n dal heb ei difa. Mae coedwig yr Iwerydd yn dal i gynnal tua 5 y cant o fioamrywiaeth y byd, ac mae'n darparu dŵr i tua 67 y cant o boblogaeth Brasil. Maent yn maethu, yn diogelu ac yn parchu'r tir, y planhigion, yr anifeiliaid a'r pryfed, ac yn ystyried eu bywydau'n gyfartal, ac nid ydynt yn ceisio cael goruchafiaeth a phŵer dros fyd natur na'i ecsbloetio. Er bod y goedwig yn dioddef lefelau enfawr o ddatgoedwigo, mae'r gorchudd llystyfiant yn y tiroedd Guarani a gydnabyddir yn gyfreithiol bron yn 100 y cant, sy'n dangos mai pobl frodorol yw gwarcheidwaid gorau coedwigoedd y byd.
Ond mae patrymau bwyta ar y lefel ddomestig yn taflu cysgod hir a thywyll dros y diwylliannau brodorol hyn dramor. Mae grymoedd economaidd pwerus yn bygwth yr ychydig diroedd y mae'r Guarani wedi gallu eu hamddiffyn, ac yn eu hatal rhag gosod terfynau a diogelu'r gweddill o diriogaeth eu hynafiaid, drwy bethau fel cynhyrchu mwynau a phrosiectau seilwaith mawr. Yn wir, mae tiriogaethau Guarani yn cael eu bygwth ar hyn o bryd gan hyd at 178 miliwn hectar o ddatgoedwigo cyfreithlon ar dir preifat, a hyd at 115 miliwn hectar o ddatgoedwigo anghyfreithlon mewn tiriogaethau brodorol a ddiogelir ar hyn o bryd: cyfanswm arwynebedd o fwy na 12 gwaith maint y Deyrnas Unedig. Gyrrwyd y bygythiadau hyn yn rhannol o leiaf gan arlywyddiaeth niweidiol Jair Bolsonaro, a nodweddwyd gan lygredd, trachwant a diffyg parch eithafol tuag at hawliau brodorol a hawliau byd natur.
Ond mae dirywiad cynefinoedd yn cael ei yrru gan ymddygiad llawer mwy sylfaenol, sef defnydd. Ni sy'n gyfrifol am beth o'r difrod sy'n deillio o ddefnydd, ac mae angen inni fod yn onest am hynny. Fel cenedl, rydym wedi ceisio gwneud iawn am ein troseddau yn y gorffennol, yn cynnwys ein rôl yn sefydlu trefedigaethau ac ymerodraeth, ond rydym hefyd wedi cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang, at golli cynefinoedd, ac mae ein hymddygiad heddiw yn dal i yrru datgoedwigo dramor; perthynas economaidd echdynnol a adeiladwyd ar drachwant sy'n dinistrio diwylliannau brodorol a chynefinoedd.
Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd, ac wrth ymateb i'r ddadl, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog amlinellu sut y bwriada Llywodraeth Cymru gyflawni'r nodau hyn er mwyn sicrhau bod Cymru'n genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, nid yn unig mewn perthynas â'r hinsawdd, ond mewn perthynas â phobl a'u diwylliannau hefyd.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Yn sicr, mae'n gynnig diddorol iawn ac yn un pwysig iawn yn wir, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod mater sydd efallai'n cael ei anwybyddu pan fyddwn yn trafod newid hinsawdd, sef y modd y mae ein defnydd ni yma yng Nghymru yn effeithio ar bobl a chymunedau ym mhob cwr o'r byd yn ogystal â llesteirio ymdrechion i wrthsefyll newid hinsawdd. Cafodd materion o'r fath eu crybwyll wrth ddatblygu fy Mil bwyd ac maent wedi helpu i lywio rhai o'r darpariaethau sydd ynddo. Lywydd, nid wyf am rannu gormod am fy Mil ar hyn o bryd—rwy'n siŵr fod yr Aelodau ar draws y Siambr yn edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn cael ei gyflwyno i'r Siambr y mis nesaf—ond bydd y Bil yn edrych ar roi effaith system fwyd Cymru ar ein hamgylchedd yn ogystal ag ar yr amgylchedd byd-eang ynghanol y broses o wneud penderfyniadau drwy sefydlu nodau bwyd.
Nawr, wrth gwrs, fel y nododd Delyth, mae cyfrifoldeb byd-eang yn un o saith nod llesiant a nodir yn y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae disgwyliad eisoes y dylai cyrff cyhoeddus ystyried effaith eu penderfyniadau ar y byd ehangach. Ond fel y mae'r cynnig yn datgan yn gywir, gellir gwneud mwy, yn wir mae'n rhaid gwneud mwy, i dynnu sylw at hyn. Ac ydym, rydym yn rhan o system fyd-eang o gynhyrchiant a defnydd, ond mae gennym gyfle i arwain yma yng Nghymru. Dyma pam y bydd fy Mil yn y dyfodol yn ceisio cryfhau'r modd y llywodraethir y system fwyd ymhellach, fel un elfen o gynyddu atebolrwydd o fewn y system ehangach, sy'n golygu y gallwn ganolbwyntio mwy ar sefydlu beth yw effaith ein defnydd a sut i liniaru hyn. Gwrandewais gyda diddordeb ar arweinydd Plaid Cymru ddoe yn ei gwestiwn i arweinydd y tŷ am yr angen am gomisiwn bwyd. Fodd bynnag, Lywydd, fe gawn fwy o gyfle i siarad am hyn, ond rwy'n siŵr y bydd Plaid Cymru'n gweld bod llawer o'r pwyntiau a godwyd ym mhwynt 2(c) eu cynnig yn rhyngweithio â fy Mil.
Felly, beth arall y gallwn ei wneud i leihau effeithiau amgylcheddol ein defnydd? Mae'r cynnig yn rhestru rhai pwyntiau diddorol, fel cefnogi'r sector amaethyddol i gyrchu porthiant sy'n fwy ecogyfeillgar ac nad yw'n cyfrannu at ddatgoedwigo. Ar y pwynt hwn wrth gwrs, rwyf am gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau fel ffermwr. Hefyd, mae angen inni edrych ar gadwyni cyflenwi bwyd lleol, sydd eisoes wedi'i grybwyll, a nodi cyfleoedd i gynhyrchu mwy o'r hyn rydym yn ei fwyta a helpu cyrff cyhoeddus i gyrchu'r cynnyrch hwn. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd Bil Caffael Cyhoeddus y Llywodraeth yn galluogi awdurdodau lleol i adeiladu'r capasiti i gyrchu mwy o gynnyrch lleol a rhoi cyfleoedd i gynhyrchwyr lleol fod yn rhan o drefniadau caffael lleol.
Ond un peth y gallem ei wneud ac efallai y gellid bod wedi edrych arno o fewn y cynnig sydd o'n blaenau yw sut i gryfhau'r cynlluniau labelu sydd gennym i'w gwneud yn haws i ddefnyddwyr nodi cynhyrchion sy'n cael effaith fwy cadarnhaol ar bobl a'r amgylchedd. Yn rhan o hyn, mae angen inni gynyddu lefel y data a gasglwn ar lefel Cymru a'r DU i gynyddu tryloywder a dealltwriaeth o effaith ein defnydd. Felly, byddai'n ddiddorol clywed gan Lywodraeth Cymru sut mae'n gweithio gyda phartneriaid i gynyddu'r gwaith o gasglu data a sut y gallwn wella dulliau olrhain o fewn cadwyni cyflenwi. I gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, ac rwy'n cefnogi'r sail dros y cynnig ac yn sicr yn cefnogi ein gwelliant. Diolch.
Yn anffodus i chi i gyd, nid Luke Fletcher ydw i, fel y dywedodd Delyth, ond rwyf am archwilio'r contract economaidd. Drwy'r contract economaidd, rhaid i fusnesau ddangos gweithredu presennol mewn meysydd megis cryfder economaidd a gallu i addasu, gwaith teg, hyrwyddo llesiant a dod yn garbon isel a gallu i ddygymod â newid hinsawdd. Yn ddelfrydol, byddai'r contract economaidd yn helpu i greu Cymru lle mae sefydliadau'n wydn ac yn addasu i amodau economaidd ac amodau marchnad cyfnewidiol, a lle maent yn barod i dyfu'n gynaliadwy. Ar ben hynny, dylem weld bod gweithwyr yn ddiogel, yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, ac yn gallu camu ymlaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu. Yn hyn o beth, byddai amgylchedd gwaith diogel lle mae hawliau cyfreithiol yn cael eu diogelu yn hanfodol i gyflawni nodau'r contract economaidd.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys ymrwymiad fod rhaid i fusnesau gymryd camau rhagweithiol i sicrhau gweithlu iachach gan wneud y gorau er eu lles corfforol a meddyliol, gan greu cymunedau cydlynol sy'n ddeniadol, yn llwyddiannus, yn ddiogel ac wedi'u cysylltu'n dda. Ar ben hynny, mae'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau hyrwyddo a diogelu ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith Gymraeg. Ond fel y clywsom, mae Cymru'n mewnforio nwyddau amaethyddol a nwyddau pren o sawl gwlad ledled y byd, ac mae llawer ohonynt yn creu risgiau cymdeithasol. Rydym wedi ymbellhau o'r broses gynhyrchu, felly nid ydym bob amser yn gweld effaith ein polisïau caffael ar fusnesau. Mae perygl o lafur plant neu lafur gorfodol, caethwasiaeth fodern a niwed i ecosystemau hanfodol ynghlwm wrth gadwyni cyflenwi nwyddau sy'n cyflenwi Cymru yn y gwledydd hyn. Dylem gywilyddio ynghylch hynny. Sut y gallwn honni ein bod eisiau gwneud y gorau er lles meddyliol a chorfforol tra bôm yn cymell arferion llafur sy'n ecsbloetio? Ym mha ystyr y caiff hawliau eu parchu pan fydd plant yn cael eu gorfodi i weithio er mwyn i ni gael ein coffi boreol? A ydym yn hyrwyddo cymunedau cydlynol sy'n ddeniadol, yn llwyddiannus, yn ddiogel ac wedi'u cysylltu'n dda tra bôm yn rhan o'r broses o ddinistrio erwau niferus o goedwig? Rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan i sicrhau bod busnesau'n adolygu eu polisi caffael a sicrhau ei fod yn cynnwys arferion teg a moesegol. Dylent weld bod sefydliadau'n adolygu a datblygu eu polisïau bwyd a'u contractau caffael i gynyddu ystod y cynnyrch i gynnwys sudd ffrwythau, byrbrydau a bwydydd eraill sy'n deg, yn foesegol ac yn gynaliadwy lle bo modd, a chynnwys contractau bwyd heb olew palmwydd neu gydag olew palmwydd cynaliadwy i sicrhau bod cynefinoedd naturiol yn cael eu cynnal, fel yr amlygwyd gan Masnach Deg Cymru.
Felly, i gloi, mae angen i'r Llywodraeth gryfhau'r contract economaidd i'w gwneud yn ofynnol i'w lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi sy'n rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol. Byddai'n rhagrithiol i'r Llywodraeth geisio gwarantu arferion gwaith teg a thwf busnes cynaliadwy gartref gan fynd ati ar yr un pryd i gyfrannu at gaethwasiaeth, amgylcheddau gwaith erchyll a dirywiad amgylcheddol dramor. Diolch yn fawr.
Diolch i Blaid Cymru am y ddadl yma, a diolch hefyd i Delyth am agor hyn.
Rwyf am ganolbwyntio'n fyr iawn ar un agwedd. Mae cymaint yn hyn, onid oes, ac mae mor bwysig ein bod yn edrych ar y mater. Ond roeddwn i am edrych ar fwyd a ffermio. Mae'r ddadl rydym yn ei chael mor bwysig yn sgil datblygiad Bil amaethyddol i Gymru, ac rydym am weld cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn cael lle canolog yn hwnnw. Rydym yn falch o weld bod cynhyrchu bwyd bellach wedi'i gynnwys yn rhan o'r Bil, ond eto mae rhywfaint o ddiffyg eglurder ynglŷn ag a fydd ffermwyr yn derbyn y taliad sylfaenol am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a byddai'n wych clywed gan y Gweinidog a'r Llywodraeth am unrhyw fwriadau'n ymwneud â hynny. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cyrraedd eu huchelgeisiau sero net, a dylem siarad lawer mwy am leihau mewnforion bwyd, fel y clywsom y prynhawn yma, yn enwedig y rhai sydd â'r ôl troed carbon mwyaf. Felly, rhaid inni dyfu cymaint â phosibl o'n bwyd ein hunain mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru. Mae angen inni fywiogi rhwydweithiau bwyd lleol, ac mae angen cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer marchnadoedd bwyd lleol. Pan fyddaf yn siarad â ffermwyr yn y canolbarth a'r gorllewin, dyna yw eu huchelgais hwy hefyd. Fel ffermwyr, maent yn gweld eu rôl fel ceidwaid tir, sy'n ymwybodol o'r amgylchedd ac yn pryderu yn ei gylch, ac fel cynhyrchwyr bwyd. Felly, rwy'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau gweithio gyda ffermwyr i wireddu'r uchelgais o gynhyrchu a bwyta mwy o fwyd yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Delyth, ers 2016, mae diwydiant bwyd ac amaeth Cymru wedi dioddef effeithiau tair her fawr: Brexit, COVID-19 a'r argyfwng costau byw nawr. Rydym am weld cynllun beiddgar a radical gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwydiannau bwyd ac amaeth Cymru i sicrhau bod y sector yn goroesi ac yn ffynnu.
Mae'n bwysig iawn nodi diogeledd bwyd hefyd, rhywbeth sy'n mynd i fod yn her fawr, yn enwedig gyda rhyfel Wcráin. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwarchod pobl—preswylwyr a'n gweithwyr—rhag ansicrwydd bwyd, ac mae angen inni leihau ein gwastraff bwyd. Mae'r Rhwydwaith Ffermio Natur Gyfeillgar yn amcangyfrif bod 30 y cant o gyfanswm y bwyd a gynhyrchir yn fyd-eang yn cael ei wastraffu, ac yn y Deyrnas Unedig, fod cyfanswm y gwastraff bwyd yn 9.5 miliwn tunnell, sy'n syfrdanol, gyda 70 y cant ohono'n fwytadwy ac wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta. Rwyf wedi gweld cymunedau yn fy rhanbarth yn cydweithio i leihau'r gwastraff bwyd hwnnw, drwy oergelloedd cymunedol er enghraifft. Mae Hanging Gardens yn Llanidloes yn un enghraifft o'r rheini. Byddai'n ddiddorol clywed mwy gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y gallant hwy ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i leihau gwastraff bwyd.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru ers peth amser wedi bod yn galw am gyrchu bwyd lleol, a gorau po fwyaf y gall y sector cyhoeddus ei wneud i gymell ymddygiad i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n gobeithio ein bod yn sicrhau, er enghraifft, fod y rhaglen prydau ysgol am ddim yn defnyddio cymaint o fwyd wedi'i gynhyrchu a'i gyrchu'n lleol â phosibl. Er fy mod yn cydnabod mai awdurdodau lleol yn y pen draw sy'n gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â chaffael, byddai'n dda gennyf glywed gan Lywodraeth Cymru sut y gellid gwneud hynny, o bosibl, yn un o amodau'r cynllun, fel ein bod yn ariannu hynny'n iawn er mwyn defnyddio cynnyrch Cymreig lle bynnag y bo modd.
Diolch yn fawr iawn, eto, i Blaid Cymru; mae'n ddadl bwysig, bwysig iawn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu ati. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Byddwn yn dadlau, fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ein bod ni, mewn gwirionedd, yn mynd dipyn pellach na'r cynnig. Rydym yn amlwg yn cefnogi'r uchelgeisiau a adlewyrchir yn y cynnig, ond yr her go iawn yw gweithredu'n ymarferol, gan gynnwys derbyn yr angen i flaenoriaethu, i fod yn gyson wrth gymhwyso ein hegwyddorion ac i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â busnesau ac undebau llafur sy'n canfod bod angen iddynt wneud newidiadau mawr i'w ffyrdd o weithio.
Rydym yn falch iawn o'r gwaith y buom yn ei wneud eisoes i leihau ein heffaith ar y blaned. Mae ein penderfyniad i wrthod cefnogi allforwyr tanwydd ffosil dramor ac ailffocysu ymdrechion tuag at gyfleoedd rhyngwladol newydd yn y sectorau ynni carbon isel ac adnewyddadwy yn un o nifer o gamau cadarnhaol rydym eisoes wedi'u cymryd i gyrraedd nod 'Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang'. Er mwyn cyrraedd y nod penodol hwn yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni sicrhau ein bod yn ystyried effaith ein holl bolisïau yng Nghymru ar raddfa fyd-eang. Mae ein gwaith ar fioamrywiaeth yn dangos ymrwymiad clir i'r nod hwn, gyda Llywodraeth Cymru yn rhan lawn o COP15 ac yn bartner allweddol wrth ddatblygu fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang newydd. Mae'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar ddull Cymru o weithredu'r targed a osodwyd gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ddiogelu o leiaf 30 y cant o'r tir a 30 y cant o'r môr erbyn 2030. Cyhoeddwyd argymhellion i gefnogi cyflwyno'r nod 30x30 yn ystyrlon ac mae camau ar waith i weithredu ar unwaith.
I droi at ail ran y cynnig, rydym yn y broses o ailgyfrifo ein hôl troed byd-eang ein hunain, gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu ôl troed ecolegol byd-eang i Gymru a gwella ein dealltwriaeth o'r aliniad rhwng y gwahanol fetrigau sy'n seiliedig ar ddefnydd sydd ar gael, yn enwedig mewn perthynas â charbon. Byddwn hefyd yn cyhoeddi amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru, yn y DU a thramor.
Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi'r angen i weithredu a gwreiddio ein hymateb i'r argyfyngau ym mhob dim a wnawn. Mae ein contract economaidd yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer economi llesiant sy'n wyrdd, yn ffyniannus ac yn gyfartal. Rydym yn mynd ymhellach drwy ddatblygu cyfres o safonau, ac mae busnesau yng Nghymru eisoes yn cael eu hannog i fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Yn wir, bydd y contract economaidd yn parhau i fod yn elfen allweddol wrth inni fynd ar drywydd gwerth cymdeithasol, gan yrru newid cymdeithasol a chyfrifoldeb byd-eang yn ein heconomi.
Mae gennym weledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru, gyda pholisi amaethyddol newydd yn cael ei ddatblygu a pholisi iechyd cyhoeddus gyda phwyslais ar fwyd, 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Mae'r polisïau hyn, ochr yn ochr â pholisïau allweddol eraill, megis prydau ysgol am ddim a chanllawiau caffael ar gyfer cyrff cyhoeddus, yn creu pecyn polisi integredig cyfunol, a'r cyfan wedi'i gynllunio o amgylch fframwaith Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn cydnabod yn llwyr fod llawer o waith da'n digwydd ar lefel leol, gyda nifer o siopau a chaffis yn dewis bwyd a diod o ffynonellau lleol. Rydym am fanteisio ar yr ymdrechion hyn a dwyn ynghyd y gwahanol weithgareddau a'r gefnogaeth i fwyd ar lefel gymunedol drwy ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol. Hefyd, bydd y strategaeth hon yn ceisio grymuso diwydiant i arwain y ffordd ar alluogi ac annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod o ffynonellau lleol. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Darren Millar hefyd. Gallwn ei archwilio fel rhan o'r gwaith ar y strategaeth bwyd cymunedol, gan gydweithio gyda'r diwydiant. Fel y bydd yn cytuno, rwy'n siŵr, fe allant ac fe ddylent arwain ar siarter o'r math yma. Drwy gefnogaeth i'r diwydiant bwyd-amaeth a gweithgarwch bwyd cymunedol gallwn gynyddu cyfran y cynnyrch o Gymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru.
Rydym yn gwbl ymroddedig i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yng Nghymru. Eleni rydym wedi dyrannu £4.9 miliwn i fynd i'r afael â thlodi bwyd, i gynnig darpariaeth o fwyd argyfwng ac i gefnogi datblygiad partneriaethau bwyd a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Er mwyn sicrhau nad yw plant o deuluoedd ar incwm is yn llwgu yn ystod gwyliau'r ysgol, rydym wedi cyhoeddi £11 miliwn o gymorth ychwanegol tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror.
Mae bwyd yn cyffwrdd â phob un o'r nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae caffael felly yn sbardun pwerus i sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd, cyrchu moesegol, ansawdd, maeth, ystyriaethau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol yn hytrach na chost yn unig. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ymgorffori cynaliadwyedd ac amcanion yr economi sylfaenol yn rhan o gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus. Mae gwariant ar gaffael bwyd y sector cyhoeddus oddeutu £84 miliwn y flwyddyn. Mae'r gwariant hwn yn ymwneud â'r hyn y mae pobl agored i niwed, a bregus yn aml, mewn cymdeithas yn ei fwyta'n ddyddiol, felly mae angen iddo fod yn fwyd iach, yn faethlon ac yn gynaliadwy. Mae angen inni sicrhau'n bendant ei fod yn parhau i ddod o ffynonellau cynaliadwy. Ac er fy mod yn cytuno'n llwyr fod rhaid inni ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi newid eang, rhaid inni roi hyn yn ei gyd-destun hefyd: mae cyfanswm gwariant cyhoeddus ar gaffael bwyd yng Nghymru yn debyg i wariant defnyddwyr mewn un siop archfarchnad fawr yn unig yng Nghaerdydd.
Felly, er mwyn mynd i'r afael yn iawn â datgoedwigo, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi'i ddweud, a throsi ac ecsbloetio cymdeithasol o fewn y cadwyni cyflenwi, mae angen newid patrymau prynu bwyd ar lefel cymdeithas. Byddai hyn yn cael hwb mawr pe bai Llywodraeth y DU yn annog gofynion labelu. Rwy'n galw ar Aelodau ar y meinciau gyferbyn i ymuno â ni i ofyn i Lywodraeth y DU adolygu ei strategaeth labelu bresennol, sy'n ddifrifol o annigonol, i gynorthwyo defnyddwyr i brynu'n foesegol. Fel y nododd Delyth yn huawdl iawn yn ei sylwadau agoriadol, heb hynny, mae llawer o bobl a fyddai'n ceisio gwneud y peth iawn yn ei chael hi'n anodd deall beth yn union y maent yn ei brynu.
Rydym yn gryf iawn ar brynu cynnyrch Cymreig penodol, megis llaeth, cynnyrch llaeth a chig, ond mae yna gynhyrchion hefyd a gaiff eu bwyta ar raddfa fawr yng Nghymru ond sydd ond yn cael eu cynhyrchu ar raddfa gymharol fach yma, megis cynnyrch garddwriaethol, fel y nododd Jenny. Mae cyfle sylweddol i newid hyn, i sicrhau bod y cyflenwad yn dilyn y galw ac i sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau'n cael eu darparu mewn prydau ysgol. [Torri ar draws.] Ewch amdani, Jenny.
Rwy'n croesawu cyflwyno'r datblygiad garddwriaeth a'r grantiau lefel mynediad, ond ar hyn o bryd dim ond chwarter cyfran y person y dydd o ffrwythau a llysiau a gynhyrchwn, felly mae honno'n ffordd hir iawn i'w theithio. Sut y gallwch chi gyflymu'r newid sydd ei angen arnom fel bod llawer mwy o'n ffrwythau a'n llysiau, sydd i fod yn draean o'n deiet, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru?
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy holl fanylion hynny, ond mae pocedi o arloesedd yn dangos beth sy'n bosibl i gyfanwerthwyr a sefydliadau cymdeithas sifil sy'n gweithio gyda chynhyrchwyr a thyfwyr lleol i helpu i ddatblygu prydau ffres ac iach i ysgolion.
Weinidog, nid wyf yn gwybod a weloch chi'r cais am ymyriad gan arweinydd yr wrthblaid hefyd.
Naddo, mae'n ddrwg gennyf. Ewch amdani.
Diolch, Weinidog. Mae pawb yn gefnogol i'r teimlad heddiw, ond fe wnaethoch chi gyffwrdd ar ddau faes yno lle rydych eisiau cynyddu caffael lleol—llaeth a chig coch. Mae'n ffaith bod y sectorau prosesu yn y ddau faes yn gyfyngedig iawn yng Nghymru. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o'n llaeth yn cael ei brosesu mewn llaethdai yn Lloegr. Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i atal y dirywiad a chynyddu buddsoddiad mewn capasiti prosesu i gefnogi'r teimladau a fynegwyd yn gyffredinol y prynhawn yma?
Yn sicr, Andrew. Ni fydd gennyf amser i fynd drwy bob polisi unigol y soniwyd amdanynt mewn cynnig eang iawn, ond rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Un o'r pethau mawr i ni yw gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr holl werth o'n cadwyn gyflenwi bwyd, ac wrth wneud hynny, ein bod yn helpu'r proseswyr i ddod i Gymru a defnyddio'r cynnyrch hwnnw. Ond ymddiheuriadau—mae'r Dirprwy Lywydd ar fin dweud wrthyf fod fy amser bron ar ben ac rwyf eto i fynd drwy hanner arall fy araith.
Fe roddaf ychydig bach mwy o amser i chi oherwydd yr ymyriadau.
Efallai y bydd angen ychydig mwy nag ychydig bach mwy.
Mae cynigion y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys llu o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo ffermwyr i barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae ffermio cynaliadwy yn gwbl allweddol i'n dyfodol. Mae gennym safonau cynaliadwyedd eisoes sy'n arwain y byd yn ein sector cig coch drwy ein dulliau cynhyrchu sy'n seiliedig ar borfa, ac mewn ymateb i'r prinder protein a gynhyrchir yn y wlad hon ar gyfer bwyd anifeiliaid, bydd y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun peilot i annog tyfu cnydau a phorfeydd sy'n darparu manteision amgylcheddol, megis cnydau protein. Wrth gwrs, mae angen inni sicrhau bod ein ffermwyr yn chwarae eu rhan yn ymladd yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur hefyd, ac wrth wneud hynny, mae angen inni eu hannog i fanteisio i'r eithaf ar eu cnydau. Felly, dyna ateb hynny'n rhannol, Andrew—roeddwn i'n dod ato. Nid oes gennyf amser i fynd drwyddo'n ddigon manwl—ymddiheuriadau.
Drwy ein rhaglen Cymru ac Affrica, rydym wedi gallu dangos ein hymrwymiad i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy gefnogi nifer o brosiectau tyfu coed yn Affrica is-Sahara. Drwy ddiogelu a phlannu coed, boed yng Nghymru neu tu hwnt, gwyddom y gallwn wneud cyfraniad sylweddol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd a datgoedwigo trychinebus. Mae yna bryderon byd-eang, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i Maint Cymru a sefydliadau Cymreig eraill sy'n cyflwyno ymgyrchoedd a phrosiectau yn Affrica, gan weithio mewn partneriaeth â nifer o wledydd ar eu mentrau tyfu coed. Y blaenaf ymhlith y rhain yw rhaglen coed Mbale yn nwyrain Uganda, lle mae ein partneriaid bellach wedi dosbarthu dros 20 miliwn o goed, gan weithio tuag at darged o 50 miliwn erbyn 2030.
I gloi heddiw, os caf droi at fasnach fel rhan o'n cyfrifoldeb i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, rydym wedi bod yn glir gyda Llywodraeth y DU na ddylai unrhyw gytundeb masnach fyth danseilio ein polisïau domestig economaidd. Yng Nghymru, nid ydym yn gweld cytundebau masnach mewn termau economaidd yn unig. Mae elfennau o gytundebau masnach a allai ddatblygu amddiffyniadau'n ymwneud â llafur a'r amgylchedd, gan gynnwys datgoedwigo, yn cael eu trin fel un o'n prif flaenoriaethau. Er bod gennym bŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yn ystod negodiadau masnach—ac rydym yn gwneud hynny'n aml—gyda Llywodraeth y DU yn y pen draw y mae'r pŵer i drafod y cytundebau masnach eu hunain. Nid ni sydd â'r gair terfynol ar gytundebau, ond rydym yn parhau i wthio Llywodraeth y DU yn galed i sicrhau bod cytundebau masnach yn cynnwys darpariaethau sy'n gweithio er budd Cymru ac er budd Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Diolch.
Galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl werthfawr, bwysig hon heno.
Roedd hon yn ddadl hynod o amserol. Mae WWF wedi cyflwyno adroddiad heddiw a rybuddiai fod datgoedwigo yn yr Amazon yn cyflymu i'r pwynt lle na ellir ei wrthdroi, felly rwy'n croesawu brwdfrydedd pawb dros y ddadl hon.
Janet, fe wnaethoch ein helpu i weld ar fap Cymru beth yw effaith ein harferion defnydd. Rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Diolch am eich cyfraniad.
Diolch, Mabon. Mae'r dyfyniad yna gan Martin Luther King yn dweud y cyfan, a diolch am osod mas sut gall y sector amaeth fod yn rhan o ateb y sefyllfa yma.
Diolch i chi, Jenny, am nodi'r gwrthgyferbyniad rhwng yr arferion 'braf i'w cael' sydd gennym a'r bygythiad i fywyd ei hun mewn sawl man, a siarad am y newidiadau y mae angen i bawb ohonom eu gwneud drwy ein deiet.
Rwy'n credu roedd cyfraniad Heledd yn bwysig iawn yn y ffordd y gosododd hyn yng nghyd-destun undod byd-eang, gan sôn am bobl Guarani a'r diwylliannau sydd mewn perygl oherwydd ein difaterwch ni. Ni ddaw'r hyn y gellid ei golli yn ôl, a byddai'r byd gymaint yn dlotach o'r herwydd.
Roedd sylwadau Peter Fox am ei ddeddfwriaeth yn ddiddorol iawn, yn amserol iawn, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllen mwy am hynny. Rwy'n cytuno â'ch pwynt am labelu, Peter. Mae'n fater a gadwyd yn ôl i San Steffan, ac rwy'n adleisio'r hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud a'r hyn roeddech chi hefyd yn ei ddweud, Peter: mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen edrych arno. Mae angen inni rymuso pobl i wneud y penderfyniadau cywir.
Diolch, Pred. Fy ymddiheuriadau am gymysgu rhwng Peredur a Luke; mae hynny oherwydd y barfau. Ond o ddifrif ac yn ddiffuant, diolch am nodi'r hyn y gall busnesau ei wneud a'r hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud yn y cyd-destun hwn.
Diolch, Jane, am eich sylwadau ar wastraff bwyd. Mae hwnnw'n ystadegyn arswydus iawn, fod tua 30 y cant o fwyd yn cael ei wastraffu, yn enwedig o ystyried faint y dywedoch chi sy'n dal yn fwytadwy mewn gwirionedd.
Weinidog, diolch am eich sylwadau'n nodi'r heriau sy'n rhan annatod o wneud y peth iawn. Rwy'n falch iawn eich bod yn cefnogi'r cynnig, ond unwaith eto, hoffwn adleisio'r hyn roeddech yn ei ddweud am labelu. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gwir angen i Lywodraethau rymuso pobl, oherwydd ceir cymaint o bethau lle mae pawb eisiau gwneud y peth iawn; mae'n fater o'i wneud yn y ffordd hawsaf sy'n bosibl i hynny allu digwydd.
Cyn inni bleidleisio ar y cynnig pwysig hwn, hoffwn rannu ychydig o ystyriaethau terfynol gyda'r Aelodau. Ddoe, cynhaliais ddigwyddiad COP ieuenctid yn y Pierhead. Cafodd ei drefnu gan Maint Cymru, ac yn y cyfarfod, cafodd llond ystafell o blant ysgol eu hannerch gan George Sikoyo o Fenter Tyfu Coed Mynydd Elgon yn Mbale, Uganda. Siaradodd George â'r plant a'r rhai ohonom ni wleidyddion a oedd yn ddigon ffodus i fod yn yr ystafell am y miliynau o goed a blannwyd yn Uganda ar ran dinasyddion Cymru. Siaradodd am y problemau byd-eang sy'n ein hwynebu a sut y gallwn ni helpu'r ddynolryw drwy ddangos undod a chyfeillgarwch. Dywedodd wrth y plant, 'Rydym yn yr un pentref a'i enw yw'r Fam Ddaear.' Gobeithio y gallwn i gyd fyfyrio ar eiriau George. Os gallwn dyfu coed mewn rhannau eraill o'r blaned, ni ddylem adael i ni'n hunain gyfrannu'n uniongyrchol ar yr un pryd at dorri coed a dinistrio coedwigoedd mewn rhan arall o'r blaned honno. Ni ddylai ein cydwybod ganiatáu i'r anghysondeb hwnnw barhau.
Mae yna un peth olaf yr hoffwn orffen ag ef. Mae'n ymwneud â geiriau John Donne. Efallai mai geiriau enwocaf Donne a ddyfynnir amlaf yw ei sylwadau
'nad oes yr un dyn yn ynys ar ei ben ei hun', a hynny oherwydd bod pob dyn yn rhan o'r cyfan, a marwolaeth pob dyn yn gwneud yr awdur yn llai am ei fod yn rhan o'r ddynolryw. Ddirprwy Lywydd, nid oes yr un dyn yn ynys, ond nid yw ein hynys ni ar gyrion gogleddol yr Iwerydd wedi'i thorri oddi wrth y cyfan ychwaith, nac wedi'i hymryddhau oddi wrth ei chydwybod neu ganlyniad. Gall difaterwch ddifetha cenhedloedd cyfan hefyd. Mae Donne yn ein cymell yn yr un myfyrdod i beidio
'â gofyn dros bwy y mae'r gloch yn canu cnul.'
Pan fydd cloch yn canu cnul yr ystyr hon, mae'n arwydd fod rhywun wedi marw. Mae Donne yn dweud bod marwolaeth unrhyw un yn golygu bod y gloch yn canu cnul dros bob un ohonom.
Seiliwyd y ddadl hon ar y syniad fod y gloch sy'n canu'n arwydd o drychineb sydd ar fin digwydd, a dylai pob un ohonom ei chlywed yn atseinio yn ein pennau—atsain yr hinsawdd—ac mae'n canu cnul nid yn unig dros leoedd ar ein planed sydd y tu hwnt i'n cyrraedd, wedi'u torri oddi wrth y cyfan. Mae'r gloch honno'n alwad ar bob un ohonom ni hefyd. Bydd effaith y trychineb yn arwain at ganlyniadau i bawb, oherwydd ein bod yn perthyn i'r ddynolryw; rydym yn rhan o'r ddynolryw. Mae'n gloch sy'n canu cnul drosoch chi a drosof innau hefyd. Gofynnaf i chi wrando arni, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes; felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.