– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Eitem 7 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol. Galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8130 Jenny Rathbone
Cefnogwyd gan Huw Irranca-Davies, Mike Hedges, Sam Rowlands, Sioned Williams, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyhoeddi adroddiad 'Gyda'n Gilydd Drwy Adegau Anodd' gan MIND Cymru;
b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:
(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;
(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;
(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;
b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yn byw mewn cyfnod anodd iawn. Rydym wedi gweld y lleihad mwyaf yng nghefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus ers blynyddoedd lawer, ac mae gennym y gyfradd chwyddiant uchaf ers 41 mlynedd, gyda phrisiau defnyddwyr yn cynyddu dros 10 y cant. Mae prisiau bwyd wedi cynyddu dros 16 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, sef y naid fwyaf ers Medi 1977, pan oedd Jim Callaghan yn Brif Weinidog—amser maith yn ôl. Felly, rydym yn wynebu gaeaf pwysig a heriol iawn.
Nid pryderon ariannol yw'r unig beth sy'n gallu achosi salwch meddwl, ond yn sicr nid yw'n helpu. Roeddwn yn gwerthfawrogi sylwadau Dr Kamila Hawthorne heddiw, sydd bellach yn llywydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a ddywedodd fod gan nifer o'i chleifion yn Aberpennar broblemau mor anhydrin nes ei bod yn teimlo'n ddi-rym i wneud unrhyw beth i'w helpu. Mae'n teimlo fel pe bai wedi cael ei gwasgu fel lemwn ar ddiwedd y dydd. Mae lefel y trallod y mae sefyllfa ei chleifion yn ei hachosi iddi hi a chymaint o feddygon teulu rheng flaen eraill yn faromedr go iawn o lefel y boen yn ein cymdeithas. Felly, roeddwn yn credu y byddai'n ddefnyddiol i ni drafod yr adroddiad hwn, 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' a gynhyrchwyd y llynedd. Ond rwy'n credu ei fod yn atgoffa'n amserol iawn o'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud ar y cyd yn ein cymunedau i gefnogi pobl sydd mewn trallod.
Cafodd yr ymchwil a gomisiynwyd ganddynt, ar y cyd â chwaer elusennau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ei wneud mewn pedwar lle ledled y DU: un yn Hwlffordd, un arall yn Portadown yng Ngogledd Iwerddon, un yn Glasgow, ac un mewn maestref yn Wolverhampton. Mae'n cyflwyno tair neges allweddol i ni: siarad am les meddyliol; cefnogi hybiau cymunedol; a sector cymunedol a gwirfoddol cryf, cydweithredol. Mae'r rhain yn allweddol i'n galluogi i oroesi drwy gyfnodau anodd a datblygu cymunedau cryf sy'n gallu cefnogi ei gilydd.
O edrych ar y pwynt cyntaf, mae'n hanfodol fod lles meddyliol yn cael ei ystyried yn gydradd ag iechyd corfforol, ac rydym yn siarad am hynny yn aml. Mae pobl yn barod iawn i ddweud wrthyf am yr amser y bydd rhaid iddynt ei aros am lawdriniaeth ar y glun neu'r cefn drwg sydd ganddynt. Mae'n rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i ymladd y stigma sydd ynghlwm wrth drallod meddwl.
Rydym wedi siarad llawer am yr epidemig o drallod meddwl yn ein hysgolion a'n colegau o ganlyniad i COVID ac yn amlwg bydd pobl sy'n byw mewn tai gorlawn, annigonol wedi dioddef yn fawr yn ystod y cyfyngiadau symud, ond nid tai gwael yw'r unig broblem. Byddai unrhyw blentyn sy'n byw mewn cartref camweithredol, lle mae trais yn y cartref yn cuddio o dan y radar, wedi dioddef o beidio â gallu dianc i ddiogelwch yr ysgol. Mae rôl bwysig iawn i ysgolion roi lle i bobl ifanc siarad am bethau sy'n eu poeni, mewn ffordd ddiogel, anfeirniadol. Yn hytrach nag aros am y drasiedi o ddisgybl ifanc yn cyflawni hunanladdiad, fel a ddigwyddodd yn Hwlffordd, mae angen inni sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn sbarduno'r newid sydd ei angen i ganolbwyntio ar lesiant disgyblion yn ogystal â'u cyflawniadau academaidd.
Mae gair o rybudd yn adroddiad Mind na ddylai cymunedau fod yn or-ddibynnol ar ysgolion i ddarparu'r gefnogaeth hon, a bod angen i bobl ifanc allu cael mynediad at gymorth y tu hwnt i'w cylch cymdeithasol hefyd. Ac mewn perthynas â bwlio, rwy'n siŵr fod hwnnw'n bwynt cwbl berthnasol. Mae gan wasanaethau ieuenctid rôl hynod bwysig i'w chwarae yma, ac maent yn aml yn sylwi ar faterion sy'n peri pryder nad ydynt wedi cael sylw yn yr ysgol. Ond mae hynny'n cysylltu â'r ail neges allweddol am wytnwch cymunedol drwy'r cyfnod anodd hwn, sef rôl hybiau cymorth cymunedol.
Roedd ymchwil Hwlffordd yn canolbwyntio ar bobl ifanc, a daeth i'r casgliad nad oedd plant a phobl ifanc yn Hwlffordd yn teimlo llawer o gysylltiad â'u cymunedau na llawer o berchnogaeth ar eu cymunedau. Mae'n rhaid i hybiau cymunedol ddarparu ar gyfer pobl o bob oedran, nid yr ifanc iawn a'r hen iawn yn unig. Nid oes gan blant a phobl ifanc geir, ac mewn lle fel Hwlffordd, mae'n debyg mai ychydig iawn o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yno hefyd, felly maent yn ddibynnol iawn ar oedolion i'w hebrwng i lefydd lle gallant ddod o hyd i gyfeillgarwch a chael hwyl. Mae angen i hybiau lleol ddarparu ar gyfer pobl ifanc, er mwyn rhoi lle y tu allan i'r cartref iddynt i'w helpu i wneud y newid anodd o fod yn blentyn i fod yn oedolyn, nid o reidrwydd yn yr un gofod neu amser.
Ar y llaw arall, rwy'n hoff iawn o ddysgu rhwng cenedlaethau. Nid oedd fy ffrind da Stan Thorne yn bartïwr mawr, ond roedd yn cael pleser enfawr o'r cystadlaethau gwyddbwyll rhyngseneddol gyda phobl ifanc a oedd yn digwydd bob blwyddyn. I'r rhai nad oes ganddynt neiniau a theidiau sy'n byw gerllaw, gall gweithgareddau sy'n dod â'r cenedlaethau at ei gilydd—boed yn wyddbwyll, garddio, canu neu ryw weithgaredd arall—fod yn sbardun i gyngor ac ysgogiad annibynnol ar gyfer y ddwy ochr. Os mai'r unig le cymunedol mewn ardal yw tafarn, lle gall pobl ifanc o dan 18 oed fynd?
Fel pobl ifanc, amlygodd yr adroddiad fod newydd-ddyfodiaid i ardal, lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n byw mewn tlodi hefyd yn ei chael hi'n llawer anos dod yn rhan o rwydweithiau cymunedol presennol. Wedi dweud hynny, mae yna ddyfyniad gwych gan fenyw ym Mhortadown yng Ngogledd Iwerddon sy'n dangos y gall newydd-ddyfodiaid chwistrellu syniadau ac egni newydd i gymuned.
'Rwy'n byw ar ystad lle mae pobl yn garedig a chyfeillgar. Rydym yn bobl siaradus iawn'— meddai'r fenyw hon—
'Mae fy nghymdogion ar bob ochr yn dod o Ddwyrain Ewrop. Roedd yn newydd i fi—rwy'n arfer byw gyda phobl o fy nghymuned ond yn ystod y cyfyngiadau symud rydym wedi cael mwy o amser i sgwrsio. Mae ganddynt yr un pwyslais teuluol ac maent yn dod â fy min i mewn.'
Rwy'n credu ei fod yn ein hatgoffa bod Gogledd Iwerddon yn llawer mwy amrywiol nag yr arferai fod—nid dim ond dwy gymuned sydd prin yn siarad â'i gilydd sydd yno. Efallai y bydd newydd-ddyfodiaid o'r tu allan, gyda phersbectif gwahanol ar y byd, yn chwarae rhan bwysig iawn yn y modd y gwnawn y newid tuag at heddwch parhaol yng Ngogledd Iwerddon, sut bynnag y bydd hynny'n edrych.
Yng Nghymru hefyd, mae newydd-ddyfodiaid yn aml yn dod â dynameg newydd gyda hwy, ac fe welais dystiolaeth gref o hynny nos Sul pan ymunais â Jane Hutt i rannu pryd o fwyd gydag aelodau o'r hen gymuned Asiaidd Ugandaidd a gafodd eu taflu allan o Uganda ym 1972, a gorfod gadael eu cartrefi a'u busnesau ar eu holau, a gwneud eu cartref newydd yng Nghymru. Nid yn unig fod llawer ohonynt yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein GIG, pwrpas y noson oedd cynnal cinio blynyddol ar gyfer elusen Vale for Africa, i godi arian ar gyfer ardal Tororo, sydd yn y rhan dlotaf o Uganda. Mae'n enghraifft wirioneddol wych o ganlyniad cadarnhaol i amgylchiadau adfydus. Yn yr un modd, aeth y Menywod yn Erbyn Cau'r Pyllau Glo ymlaen i wneud llawer o waith hollol wych yn y degawd ar ôl gorchfygiad 1984-85.
Ond i droi'n ôl at yr hybiau cymunedol, maent wedi bod yn chwarae rhan mor bwysig yn cadw cymunedau gyda'i gilydd, oherwydd maent yn perthyn i bawb ohonom. Ein trethi sy'n talu amdanynt, ac felly mae gwir angen inni wneud yn siŵr, yng nghanol yr holl benderfyniadau anodd sy'n rhaid eu gwneud yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol, ein bod yn parhau i gadw'r hybiau i fynd, oherwydd maent yn rhan mor bwysig o wead ein cymunedau. Ond mae'n rhaid i ni hefyd eu hatal rhag cael eu cadw mewn asbig ar gyfer un criw bach yn unig.
Trydedd elfen gwytnwch cymunedol yw sector cymunedol a gwirfoddol cryf, cydweithredol. Mae hynny'n rhywbeth y mae gennym lawer iawm ohono yng Nghaerdydd, hyd yn oed yn rhai o'n cymunedau tlotaf. Mae gardd gymunedol Plasnewydd—sydd wedi ennill gwobrau fel lle i bobl gyfarfod, i drin bwyd a blodau, ond lle hefyd i rannu rhai o'r agweddau mwy trist ar eu bywydau. Mae Siediau Dynion hefyd yn ofod gwych i ddod â dynion at ei gilydd, gan fod dynion yn draddodiadol wedi ei chael hi'n anos mynegi eu hofnau a'u gobeithion neu eu trallod emosiynol. Gwn fod fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies wedi chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo Siediau Dynion—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Nid yw'r ymyriad yn ymwneud â Siediau Dynion fel y cyfryw. Un o'r pethau diddorol o'ch cyfraniad da iawn yma, rhaid i mi ddweud, yw'r angen am amrywiaeth o fewn y gofod hwn, ac y gallai fod yn hyb sy'n gwneud sawl peth mewn un gymuned. A fyddech yn cytuno â mi mai cryfder hyn yw cael cymunedau lle mae yna amryw o opsiynau i wahanol rannau o'r gymuned gydag anghenion amrywiol ddod at ei gilydd? Gallai fod yn Siediau Dynion, gallai fod yn siediau menywod, gallai fod yn gorau, gallai fod yn weuwyr a chrefftwyr, neu fel sydd gennyf yn fy etholaeth, grŵp sy'n galw eu hunain yn 'Stitch 'n Bitch'.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Wyddoch chi, mae pobl yn ffraeo hefyd, felly o bryd i'w gilydd ni fydd pobl eisiau mynd yn ôl i hyb cymunedol X, oherwydd bod angen iddynt symud i rywle arall.
Mae pethau bendigedig yn cael eu gwneud gan y sector gwirfoddol, boed yn Rubicon Dance yn fy nghymuned, rhywbeth o'r enw Rhythms Free Dance yng Ngogledd Caerdydd, sy'n darparu ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu—i gyd yn rhad ac am ddim i bobl sydd ag anawsterau dysgu—neu'r cyfarfodydd Cyfeillion a Chymdogion sy'n digwydd ledled Cymru, yn sicr yn fy nghymuned i, sef lle gall pobl fynd i siarad mewn ffordd strwythuredig. Maent hefyd yn cynnig trafodaethau i bobl sy'n ddysgwyr Saesneg, sy'n wych, i wella eu Saesneg yn ogystal ag adrodd o lle maent wedi dod a sut maent yn teimlo am y byd. Mae Gweithdai Crochenwaith Caerdydd yn cydweithredu â Platfform, Gofal yn flaenorol, i alluogi pobl i weithio drwy eu trallod meddwl drwy eu dwylo, ac rwy'n credu bod hynny'n hollol wych.
Yn fwy na dim, yn y gymuned rwy'n ei chynrychioli, grwpiau crefyddol sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith caled mewn perthynas â'r agwedd bwysicaf a mwyaf pryderus o'r argyfwng costau byw. Mae yna rai cymunedau crefyddol wedi parhau i gynnal banciau bwyd wythnosol neu bantrïau i wasanaethu'r llwglyd a'r newynog. Ni all y rhain oroesi oni bai ein bod yn cael cymorth gan bobl sy'n well eu byd nad oes angen iddynt feddwl o lle y daw'r pryd nesaf. Byddant dan ormod o bwysau, oherwydd mae'r tlodion yn llai abl i gyfrannu at yr elusennau hyn bellach, ac felly mae angen i'r cyfoethog a'r rhai sy'n well eu byd sefyll mewn undod â'r bobl eraill sy'n wynebu cymaint o anawsterau yn y cyfnod anodd hwn. Rwy'n teimlo bod hyn yn rhywbeth y mae angen i bawb ohonom feddwl amdano, ym mhob agwedd ar y cymunedau a gynrychiolwn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Diolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig heno. Ac mae'n hollol iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl yn ein cymunedau sy'n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Yn fy etholaeth fy hun yn Nyffryn Clwyd, mae gennym gyfleusterau gwych i gefnogi pobl, gan gynnwys Siediau Dynion Dinbych, Rhyl a Phrestatyn a Mind Dyffryn Clwyd, i enwi ond ychydig. Ond mae lle bob amser i wneud mwy a chyflawni uchelgeisiau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar les gwybyddol pobl.
Wrth i fy amser fel Aelod o'r Senedd fwrw ymlaen, hoffwn fanteisio ar gyfle byr, os caf, i siarad am rai o fy mrwydrau iechyd meddwl fy hun. Nawr, rwyf am sicrhau pobl nad wyf yn gwneud y mathau hyn o ddatganiadau am hwyl neu i gael sylw, ond rwy'n ei gweld hi'n bwysig rhannu rhywfaint o wybodaeth er mwyn helpu i annog pobl i siarad am eu trafferthion iechyd meddwl a rhai o'r problemau a welwn yn rhy aml mewn cymdeithas. Cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol ychydig flynyddoedd yn ôl a threuliais gyfnod byr yn yr ysbyty am fy mod yn hunanladdol ac roedd gennyf gynllun, a bydd unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am hyn yn gwybod nad yw hwnnw'n gymysgedd iach iawn. Ond yr unig reswm y meddyliwn yn y ffordd hon oedd oherwydd fy anwybodaeth fy hun yn peidio ag ymdrin â'r hyn y gwyddwn ei bod yn broblem ers cyfnod hir o amser. Fel llawer o ddynion ifanc, roeddwn yn dweud wrthyf fy hun, 'Paid â chynhyrfu, cer am beint a bydd popeth yn iawn. Bydda'n ddyn', a'r holl bethau hynny—rydym yn gwybod sut mae hi. Roeddwn yn credu hynny am flynyddoedd ac roeddwn wedi mynd i arfer afiach o geisio ymdrin â phroblemau yn y ffyrdd caeedig hynny o feddwl nad oedd yn gwneud unrhyw les i mi. Ac yn y pen draw, aeth y cyfan yn ormod, a dyna pam yr euthum i'r cyflwr roeddwn ynddo. Bu'n rhaid imi gymryd tri mis i ffwrdd o'r gwaith, roedd gweithwyr proffesiynol yn ymweld â fy nghartref yn ddyddiol a bûm ar raglen hir o feddyginiaethau, therapïau siarad a thriniaeth i fy nghael yn ôl i lle rwyf fi heddiw. Ac ni allaf ddiolch digon i dimau iechyd meddwl cymunedol yr Hafod a gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl am yr amser y gwnaethant ei fuddsoddi ynof i fy nghael yn ôl yn iach.
Nawr, roedd yn rhaid i mi ailadeiladu fy hun yn ôl o'r dechrau, ac rwy'n berson gwell o fod wedi gwneud hynny, ond ni fyddwn wedi gallu gwneud hyn heb dîm o weithwyr proffesiynol, ynghyd â llawer o ffactorau diogelu, gan gynnwys fy ngwraig a fy nheulu a ffrindiau amyneddgar. Ond nid pawb sydd mor lwcus, a dyna pam y mae'n hanfodol ein bod yn cael y seilwaith cywir yn ei le i sicrhau nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd ac y gall unrhyw un sy'n profi problemau acíwt deimlo'n ddiogel gan wybod bod system ar waith i'w hamddiffyn rhag y problemau y gall iechyd meddwl eu hachosi.
Rwyf wedi bod yn weddol fyr a bras wrth siarad am rai o fy mhroblemau personol, a byddwn yn dweud celwydd pe bawn yn dweud bod y broblem wedi'i datrys—ydw, rwy'n teimlo'n llawer gwell nawr, ond rwy'n dal i gael dyddiau gwael o bryd i'w gilydd, ac mae'r rheini'n gam bach yn ôl. Ond rwy'n ceisio dysgu o bob digwyddiad gwael a dysgu gwersi o bob tro rwy'n eu cael, ac rwy'n gofyn i mi fy hun, 'Beth ddigwyddodd yno? Beth gyfrannodd at y digwyddiad hwnnw? Sut y gallaf fi osgoi hyn rhag digwydd eto?' Ac mae hyn yn gweithio'n dda, a dyma fy ffordd i o ymdopi â phethau. Ac rwyf wedi dysgu nad yw cuddio eich problemau'n gwneud unrhyw les yn y pen draw, ac rwy'n cael cymaint o fudd a phositifrwydd o fod yn fwy agored ac rwy'n gobeithio, drwy rannu rhai o fy mhrofiadau personol, y gallaf annog pawb, ac yn enwedig dynion, sy'n ystadegol yn fwy tebygol o guddio eu problemau, i siarad yn agored, siarad â'r bobl iawn a chael y cymorth a'r driniaeth y maent eu hangen ac yn eu haeddu. Diolch.
Diolch o galon i ti, Gareth, am siarad am dy sefyllfa. Mae'n wirioneddol bwysig, oherwydd dylem i gyd fod yn siarad am iechyd meddwl, felly diolch o galon am y cyfraniad hwnnw. Ac rwy'n diolch i Jenny hefyd am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw. Mae'n fater pwysig iawn, yn enwedig ar hyn o bryd. Rydych wedi siarad am fanciau bwyd, a'r ffaith bod pobl angen mynediad at fwyd, ond rwyf eisiau cyffwrdd ar unigrwydd, oherwydd rwy'n teimlo bod unigrwydd yn broblem fawr yma yng Nghymru ac yn ein cymdeithas, sy'n arwain at bobl yn teimlo mor ynysig, o ran eu trafferthion iechyd meddwl, ond mae'n gallu gwaethygu'r trafferthion hynny hefyd mewn gwirionedd.
Rydym yn gwybod bod ystadegau'n dangos bod 15 y cant o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn unig. Ac mae hynny ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, ond mewn gwirionedd yr hyn a'm synnodd yn arbennig oedd mai'r grŵp oedran â'r ganran uchaf oedd pobl ifanc—pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed oedd y grŵp a oedd yn fwyaf tebygol o adrodd eu bod yn teimlo'n unig. Mae yna broblem mewn grwpiau oedran hŷn hefyd, yn enwedig pan fydd pobl yn colli eu partneriaid gydol oes. Ac rwy'n siarad o brofiad personol yma oherwydd, pan fu farw fy nhad, dioddefodd fy mam yn ddifrifol o unigrwydd, ac ar ben hynny, rwy'n siŵr bod y trawma hwnnw wedi gwaethygu ei dementia, ac mae'n rhaid inni feddwl mewn gwirionedd, fel cymdeithas, ynglŷn â sut y gall ein cymunedau helpu'r bobl hynny sy'n unig. Rydym i gyd wedi siarad rhywfaint am yr adnoddau a'r llefydd y gwyddom amdanynt yn ein hardaloedd ni, ac rwy'n gwybod, yn fy nhref fy hun, sef y Gelli Gandryll, rydym wedi sefydlu pryd o fwyd wythnosol i bobl ei fynychu, ac mewn gwirionedd, nid yn gymaint y bwyd yw'r peth mwyaf iddynt hwy, ond y siarad, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r rhyngweithio cymdeithasol hwnnw. Mae'r grŵp oedran hŷn yn cynnwys pobl sydd ar eu pen eu hunain, nad ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus i fynd allan, ond sy'n cael rhyw fath o gysur o allu siarad gyda phobl.
Felly, diolch i chi am y ddadl y prynhawn yma, Jenny. Rwy'n credu ei bod mor bwysig ein bod yn meithrin gwytnwch cymunedol. Rwy'n hoffi ei alw'n 'gymorth cyntaf iechyd meddwl cymunedol', a hoffwn weld hyfforddiant mwy hygyrch, addysg, a chodi ymwybyddiaeth i bobl sydd eisiau dod yn swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf innau'n falch hefyd o'r cyfle i siarad am y cynnig hwn heddiw, cynnig rwyf wedi ei gefnogi ac y bydd Plaid Cymru yn ei gefnogi, a hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd. Fel y dywedodd, mae'n amserol dros ben.
Gall rhwydweithiau cymdeithasol unigolyn gael effaith sylweddol ar ei iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae astudiaethau wedi dangos bod perthnasoedd cymdeithasol unigolyn yn ffactor yr un mor bwysig â gordewdra, ysmygu neu yfed gormod o alcohol wrth ragweld cyfraddau marwolaethau. Mae'n ffactor wrth wella o salwch, a lle mae diffyg cefnogaeth gymdeithasol, lle ceir amddifadedd cymdeithasol ac unigedd, mae cydberthynas uniongyrchol â chanlyniadau iechyd gwael, ymddygiadau niweidiol a phroblemau iechyd meddwl. Yn wir, mae llawer o astudiaethau'n dweud bod perthnasoedd cymdeithasol iach a chadarnhaol yn bwysicach i iechyd pobl nag effaith ffactorau fel ysmygu neu ordewdra ar farwolaethau. Mae tystiolaeth ar roi'r gorau i ysmygu, er enghraifft, yn dangos mai'r ysgogiad mwyaf yw digwyddiad bywyd cadarnhaol, ac mae cael rhwydwaith cymorth cadarnhaol, gan sicrhau amgylchedd iach o ran perthnasoedd, yn fwy llwyddiannus fel offeryn polisi cyhoeddus na defnyddio cywilydd neu orfodaeth.
Er ei fod yn amlweddog a chymhleth, ni ellir gwadu bod ein llesiant fel cymdeithas yn gysylltiedig, yn anorfod, â chydlyniant a rhyngweithio cymdeithasol, ac mae adroddiad 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' yn egluro sut mae cryfder cymunedau, eu hadnoddau a'u gwytnwch yn creu'r effeithiau cadarnhaol hyn ar iechyd meddwl. Ac rwyf wedi gweld yn fy rhanbarth fy hun sut mae'r hybiau cymunedol lleol hynny, a grwpiau a gofodau cymunedol, wedi helpu i gyfoethogi a grymuso, meithrin empathi a chydweithrediad, ffurfio cysylltiadau a magu hyder, ac rwy'n siŵr y gallwn i gyd feddwl am enghreifftiau yn ein cymunedau. Rwy'n meddwl am waith aruthrol cydlynwyr ardaloedd lleol, y sefydliadau gwirfoddol hynny—mawr a bach—a grwpiau cymunedol sy'n gwneud cymaint i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol o bob math. Ac fel y sonioch chi, Huw Irranca-Davies, mae'r amrywiaeth honno'n allweddol, ac mae adroddiad Mind Cymru yn nodi bod llawer o wahanol fathau o bobl mewn gwahanol fathau o amgylchiadau angen gwahanol fathau o fynediad a chyfleoedd a chyfleusterau a all eu helpu i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl, a llawer o'r problemau a all eu hachosi neu eu gwaethygu.
Mae hefyd yn tanlinellu'r rhwystrau, y clywsom amdanynt gan Jenny, a all atal gwahanol grwpiau rhag gallu elwa o fod yn rhan o rwydweithiau cymdeithasol, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd hefyd yn ymwybodol iawn fod yr argyfwng costau byw a'r pwysau ar gyllid cyhoeddus yn rhoi pwysau ar y strwythurau sy'n helpu i gefnogi cyfalaf cymdeithasol a diogelu asedau cymunedol. Yn union fel y byddem, yn naturiol, yn gwrthwynebu cau ysbytai, dylid gwrthsefyll unrhyw fygythiad i lyfrgelloedd, neuaddau cymunedol, canolfannau celfyddydau a chyfleusterau chwaraeon yn yr un modd. Un o'r ymgyrchoedd cyntaf i mi fod yn rhan ohoni yn fy nghymuned oedd ymgyrch yn erbyn toriadau a oedd yn bygwth dyfodol fy nghanolfan gelfyddydau gymunedol leol ym Mhontardawe, oherwydd gwyddwn y byddai'r grwpiau a ddefnyddiai'r gofod hwnnw'n colli llawer mwy na rhywle i weld pantomeim neu gyngerdd. Dylid ystyried Siediau Dynion yn gyfleusterau lawn mor hanfodol â chlinigau iechyd dynion; dylid ystyried bod boreau coffi yr un mor bwysig ag unrhyw ganolfannau cyngor ffurfiol.
Yn ddiamheuaeth, mae tlodi ac esgeulustod economaidd, yn ogystal ag ideoleg fwriadol, wedi cynyddu'r bygythiadau i weithgarwch cymdeithasol buddiol o'r fath. Mae pwysigrwydd cydweithredu, a'n dynoliaeth gyffredin, hefyd yn cael ei golli pan fo unigolyddiaeth yn cael ei ddyrchafu'n wleidyddol dros werthoedd a rennir, ac mae rhai grwpiau'n cael eu difrïo a'u gwneud yn fychod dihangol. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos ei bod yn gweld gwerth pobl, yn rhannu eu pryderon—
Sioned, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gennyf, fe gyfeirioch chi at Siediau Dynion. Rwyf wedi ymweld nifer o weithiau ag un o'r siediau a gafodd ei henwi'n gynharach, ac mae llawer o'r dynion yno wedi bod yn y carchar neu mewn gofal, ac maent i gyd wedi cael eu labelu gyda chyflyrau iechyd meddwl, ond rai blynyddoedd yn ôl, cefais wahoddiad fel gwestai i agor eu sied awtistiaeth, oherwydd roedd yn ymddangos bod cyfran sylweddol o'r bobl hyn yn niwroamrywiol. Felly, a ydych yn cytuno bod hynny'n pwysleisio'r angen am ymyrraeth gynnar, asesiadau a chefnogaeth fel nad yw pobl yn mynd ar y trywydd anghywir, lle mae cymaint ohonynt yn mynd oherwydd cyflyrau y cawsant eu geni gyda hwy?
Yn bendant. Mae modd atal yr holl bethau hyn, onid oes, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei ddangos yn glir iawn yn yr adroddiad.
Fel roeddwn yn dweud, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos ei bod yn gweld gwerth pobl ac yn rhannu eu pryderon, yn clywed eu safbwyntiau ac yn gweithio i greu cymdeithas lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn iddi er mwyn meithrin amgylchedd cymdeithasol iach ac osgoi dyfnhau achosion iechyd meddwl gwael, sydd, wrth gwrs, yn ei dro, yn rhoi pwysau, hyd yn oed mwy o bwysau, ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, gall y Llywodraeth fynd ati'n uniongyrchol i feithrin y cydlyniant sy'n creu gwytnwch drwy gefnogi gwirfoddoli, oherwydd mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn fuddiol i iechyd a llesiant ac yn gallu lleihau ynysigrwydd ac allgáu cymdeithasol. Gellir cefnogi grwpiau cymunedol ffurfiol ac anffurfiol i ddarparu lleoedd ar gyfer rhyngweithio a ffurfio rhan helaeth o'r agwedd gyfannol ac ataliol tuag at iechyd meddwl a llesiant sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed yn y cyfnod hwn o bwysau economaidd acíwt.
Mae'r cysylltiad rhwng cymunedau hyfyw ac iechyd meddwl wedi cael ei bwysleisio'n gynhwysfawr gan yr elusen iechyd meddwl Platfform Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o ymdeimlad o gysylltiad, perchnogaeth a llesiant yn y lleoedd y maent yn byw ynddynt. Dyna pam, fel y mae'r cynnig yn galw amdano, y dylai Llywodraeth Cymru ddiogelu, buddsoddi a chydnabod y rôl y mae rhwydweithiau ac asedau cymunedol yn ei chwarae wrth greu cymunedau cydweithredol, cynhwysol a gofalgar a allai helpu i gynnal strategaeth iechyd meddwl lwyddiannus. Rwy'n eich annog i gyd i gefnogi'r cynnig.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rydym yn gwybod nad yw ein hiechyd a'n llesiant yn cael eu pennu gan fynediad at wasanaethau gofal iechyd yn unig, ond gan lu o ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddofn. Mae effeithiau uniongyrchol COVID a COVID hir, y newidiadau i'r ffordd y gweithiwn a'r tarfu ar addysg oll wedi cyfrannu at lefelau cynyddol o orbryder i ni ein hunain ac i'n teuluoedd.
Yn benodol, mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar effaith unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar iechyd y cyhoedd. Mae mynd i'r afael â hyn yn flaenoriaeth genedlaethol drwy ein strategaeth cymunedau cysylltiedig, ac mae'n flaenoriaeth rwy'n teimlo'n gryf iawn yn ei chylch. A nawr, wrth i bobl ddechrau cael eu traed oddi tanynt ar ôl y pandemig, cawn ein taro gan argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen. Heb os, bydd hyn yn effeithio ar iechyd meddwl cymaint o bobl. Un o'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig yw rôl hanfodol ein perthnasoedd a'n cysylltiadau ag eraill, boed yn anwyliaid, ffrindiau neu ein cymuned, maent yn bwysicach nag erioed. Dyma pam fy mod mor angerddol fy nghefnogaeth i bŵer cysylltiad cymunedol i gefnogi ein llesiant. Mae rôl perthnasoedd a chysylltiadau cadarnhaol, boed yn y gymuned rydym yn byw ynddi neu'n gymuned sy'n seiliedig ar ddiddordebau a gwerthoedd a rennir, yn hanfodol i gefnogi ein llesiant. Gall cymuned gref fod yn ffactor pwerus, amddiffynnol ym mywydau pobl, yn enwedig mewn cyfnodau anodd.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn a'i bod wedi cyflwyno nifer o ymrwymiadau i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cadarn yng Nghymru. Mae ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn mynd rhagddo, ac fe wnes ymgynghori'n ddiweddar ar fodel addas ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru. Mae ein fframwaith presgripsiynu cymdeithasol yn tanlinellu pwysigrwydd asedau cymunedol a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gefnogi llesiant.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu amrywiaeth eang o bolisïau i gefnogi cymunedau. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom nodi ein hymrwymiad i ddatblygu polisi cymunedau yng Nghymru a fydd yn hyrwyddo ffyrdd gwell o weithio rhwng Llywodraeth Cymru, partneriaid allanol, gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol, a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n gydgynhyrchiol gyda'r holl bartneriaid ar lefel leol i alluogi cymunedau lleol i gael eu grymuso ac i fod yn fwy cysylltiedig a ffyniannus, ac yn fwy cadarn yn y pen draw.
Diolch am dderbyn ymyriad. Mae'r cynnig yn sôn am asedau cymunedol a phwysigrwydd asedau cymunedol, ac rydych wedi sôn amdano eich hun a'i bwysigrwydd i'r Llywodraeth. Gwyddom fod llawer o asedau cymunedol yn cael eu colli, fel capeli a sinemâu a thafarndai, a gwyddom mai'r ffordd orau i gymunedau yw cymryd rheolaeth ar yr asedau hynny a grymuso cymunedau'n briodol drwy roi cyfle iddynt eu rheoli. Ond mae Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Lafur wedi addo hyn ers 2007, gan ddweud y byddai'n deddfu i rymuso cymunedau a chaniatáu i gymunedau gymryd rheolaeth ar asedau cymunedol, ond mae'r ddeddfwriaeth honno'n dal i fod heb ei llunio. Onid ydych yn cytuno mai un o'r pethau gorau y gallech ei wneud yw cyflwyno deddfwriaeth i rymuso cymunedau a chaniatáu i gymunedau gymryd rheolaeth ar yr asedau hynny?
Wel, mae'n ddiddorol eich bod yn dweud hynny, oherwydd roeddwn i'n dod at asedau cymunedol. Rwyf innau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol. Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedol hirsefydlog a'n cronfa benthyciadau asedau cymunedol newydd ac arloesol yn rhai o'r ffyrdd rydym yn cydnabod ac yn cefnogi datblygiad parhaus seilwaith ar gyfer canolfannau cymunedol, gan weithio gyda phartneriaid cymunedol i gryfhau gwytnwch mewn cymunedau. Rydym hefyd yn ceisio gwella cydleoli gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr ymrwymiad i ddatblygu 50 o ganolfannau cymunedol lleol i gydleoli gwasanaethau iechyd rheng flaen yn ogystal â buddsoddi mewn canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Mae 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant drws agored ar gyfer iechyd meddwl. Wel, yma yng Nghymru, mae creu dull 'dim drws anghywir' o ymdrin ag iechyd meddwl eisoes yn un o ymrwymiadau allweddol y rhaglen lywodraethu. Rydym wedi cynyddu'n sylweddol ein buddsoddiad yn ein cymorth haen 0 a haen 1 i ddarparu mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl heb fod angen atgyfeirio, ac rydym yn gwneud cynnydd da ar gyflwyno gwasanaeth 111, 'gwasgu 2 ar gyfer iechyd meddwl' 24/7 yng Nghymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw ein bwrdd iechyd cyntaf i fynd yn fyw gyda'r gwasanaeth.
Rydym hefyd wedi cryfhau ein dull o weithredu ar atal hunanladdiad ac yn ddiweddar wedi sefydlu grŵp srategol trawslywodraethol ar atal hunanladdiad. Mae 'Siarad gyda fi 2', ein strategaeth atal hunanladdiad, yn cydnabod bod cysylltiad cymunedol yn helpu i gryfhau amddiffyniad rhag hunanladdiad. Yn gynharach eleni hefyd, gwnaethom lansio'r system gwyliadwriaeth hunanladdiad amser real—[Torri ar draws.] Rwy'n cymryd y byddwch yn ychwanegu at fy amser.
Fe roddaf amser ychwanegol i chi i wneud iawn am yr ymyriadau.
Fe fyddaf mor fyr ag y gallaf, oherwydd mae llawer o ddiddordeb yn hyn. Roeddech yn cyfeirio at asedau a chysylltiadau cymunedol. A ydych chi'n cydnabod ac yn cefnogi'r cysyniad o ddatblygiad cymunedol sy'n seiliedig ar asedau, sy'n ymwneud â datgloi cryfderau unigolion o fewn eu cymunedau i'w grymuso, cael gwared ar y rhwystrau y dônt ar eu traws a'u galluogi i gyfrannu at feithrin gwytnwch cymunedol yn eu hardal eu hunain?
Diolch, Mark. Yn amlwg, mae grymuso cymunedau yn rhan allweddol o'r hyn a wnawn ac rwy'n gefnogol iawn i'n gweld yn mabwysiadu dull yn seiliedig ar gryfder ar gyfer y gwaith hwnnw.
Fel y dywedais, fe wnaethom lansio'r system gwyliadwriaeth hunanladdiad amser real, a fydd yn darparu mynediad cynharach at wybodaeth i helpu i lywio gwaith atal yn y dyfodol, ond yn allweddol, er mwyn sicrhau cefnogaeth briodol i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth yn sgil hunanladdiad gan ein bod yn gwybod eu bod hwythau'n wynebu mwy o risg o farw drwy hunanladdiad.
Ac roeddwn yn arbennig o falch fod ymchwil 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' yng Nghymru wedi canolbwyntio ar bobl ifanc ac wedi tynnu sylw at rôl allweddol ysgolion a cholegau. Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr. Dyna pam ein bod yn bwrw ymlaen â'n dull ysgol gyfan o weithredu ar iechyd meddwl yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau statudol ar y dull ysgol gyfan. Nod y canllawiau yw sicrhau cysondeb yn y dulliau gweithredu y mae ysgolion yn eu mabwysiadu ar gyfer mynd i'r afael ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl eu dysgwyr i alluogi ysgolion i sefydlu strategaethau i adeiladu ar eu cryfderau a mynd i'r afael ag unrhyw wendidau. Mae'r canllawiau wedi'u gwreiddio yng ngwerth perthnasoedd a chysylltiadau cryf, sydd i'w weld yn glir yn yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw ac a ategir gan dros £43 miliwn o gyllidebau Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd. Ac mae hyn yn ychwanegol at ein cwricwlwm newydd arloesol i Gymru, sydd â maes dysgu a phrofiad iechyd a llesiant yn ganolog iddo.
Nod ein rhaglen ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned a buddsoddiad cyfalaf yw gwneud safle'r ysgol yn fwy hygyrch ac agored i'r gymuned leol, ymateb i anghenion y gymuned honno, adeiladu partneriaethau cryf gyda theuluoedd a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill. Ac rydym yn falch iawn o'n fframwaith NYTH, sy'n ceisio sicrhau dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant a chymorth i fabanod, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a'u teuluoedd. Mae'r fframwaith yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau diogel a chefnogol i deuluoedd allu byw, chwarae a chymdeithasu ynddynt.
Yn olaf, mae ein strategaeth iechyd meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn mabwysiadu dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol o wella iechyd meddwl. Un o brif ysgogiadau ein strategaeth yw gweithio i'w wella a'i ddiogelu. Mae rôl y gymuned a phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl da eisoes wedi'u gwreiddio yn rhan o'r dull hwn. Rydym yn cyrraedd diwedd ein strategaeth 10 mlynedd, a chyhoeddir gwerthusiad annibynnol o'n cynnydd maes o law. Mae'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth newydd eisoes wedi dechrau, ac rwy'n bwriadu ymgynghori arni y flwyddyn nesaf. Mae fy swyddogion yn datblygu cynllun ymgysylltu i lywio'r strategaeth newydd, ond rydym yn gwybod y bydd rôl cymunedau yn cefnogi llesiant, cysylltiadau cymdeithasol ac yn cynyddu gwytnwch yn ffocws allweddol. Rwy'n falch o ddweud y bydd argymhellion a chynnwys yr adroddiad 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' yn ein helpu i lywio ein ffordd o feddwl ynghylch datblygu'r strategaeth yn y dyfodol.
Ac a gaf fi ddod i ben, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i Gareth Davies am siarad am ei iechyd meddwl ei hun heddiw? Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw siarad am hynny yn y Siambr hon, ond mae'n hanfodol wrth fynd i'r afael â stigma, a bydd eich cyfraniad heddiw yn helpu ac yn ysbrydoli llawer o bobl eraill. Diolch.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch i bob Aelod am eu cyfraniadau ac yn enwedig Gareth Davies am fod yn ddigon dewr i godi llais, oherwydd eich dewrder a'ch parodrwydd chi i rannu eich stori sy'n rhoi gobaith i bobl eraill sy'n mynd drwy brofiadau tebyg y gallant hwythau wella ac ailddechrau byw bywyd normal. Mae'r ffordd y gwnaethoch chi ddisgrifio sut rydych chi'n dysgu o bob digwyddiad ac anhawster er mwyn cryfhau eich gwytnwch emosiynol yn wirioneddol eithriadol, felly diolch yn fawr iawn i chi am hynny.
Siaradodd Jane Dodds am unigrwydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr y gall hwnnw fod yn lladdwr. Mae'n un o'r grwpiau na siaradais amdanynt yn fy sylwadau agoriadol: y rhai sy'n byw mewn tlodi. Dyna un o'r pethau sy'n ynysu, yn ogystal â phobl sy'n newydd-ddyfodiaid, neu bobl o leiafrifoedd ethnig. Os ydych chi'n byw mewn tlodi, rydych chi'n meddwl yn gyson, 'A feiddiaf i fynd â fy mhlant i'r gweithgaredd hwn neu'r llall? A fyddaf yn teimlo embaras am fod gofyn imi gyfrannu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn ariannol?' Felly, mae'n rhaid inni feddwl mor galed am hyn yn y sefyllfa bresennol. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod unigrwydd yn un o'r ffactorau mwyaf sy'n tanseilio iechyd a llesiant pobl, ac fe siaradodd Sioned am hynny hefyd.
Jane, fe wnaethoch chi siarad hefyd am gymorth cyntaf cymunedol ar gyfer iechyd meddwl—. Mae'n ddrwg gennyf, a wnaethoch chi ddweud rhywbeth? Na. Maddeuwch i mi. A phwysigrwydd bondio'r cyfalaf cymdeithasol o achub asedau cymunedol pwysig, fel canolfan celfyddydau cymunedol Pontardawe, sydd, rwy'n siŵr, yn lle poblogaidd iawn. Oherwydd, pan fyddant wedi mynd, mae'n anodd tu hwnt eu cael yn ôl eto. Os nad oes gennym adnoddau i redeg rhywbeth yn y tymor byr, dyna pam fod angen inni eu rhoi i'w cadw a sicrhau eu bod yn dal yno ar gyfer y dyfodol. Ond gobeithio nad oes raid inni wneud hynny. Efallai y bydd rhaid inni alw ar wirfoddolwyr i'w rhedeg ar ein rhan, ond mae gwir angen inni gadw ein canolfannau cymunedol i fynd, oherwydd dyna lle mae pobl yn brwydro yn erbyn unigrwydd. Oherwydd mae dim ond cyfarfod â rhywun unwaith, mewn un cyd-destun, yn eich galluogi wedyn i ddweud 'helo' wrthynt pan fyddwch yn eu gweld yn y siop neu ar y bws, ac mae hynny wedyn yn gallu arwain at ddyfnhau perthnasoedd ac, 'O, nid wyf wedi gweld hwn neu'r llall yn ddiweddar; fe af draw i weld a ydynt yn iawn.' Dyna'r pethau pwysicaf mewn gwirionedd am frwydro yn erbyn unigrwydd.
Mark Isherwood, yn eich ymyriad, yn bwysig iawn fe siaradoch chi am awtistiaeth fel ffordd—. Mae pobl awtistig yn gallu teimlo mor unig ac ynysig, yn enwedig fel oedolion, os ydynt yn colli eu rhieni ac nad ydynt ar gael iddynt mwyach i'w cefnogi. Gwelais raglen wych—ar S4C rwy'n meddwl—am fenyw yn swydd Gaerloyw a oedd wedi troi'r fferm a etifeddodd gan ei rhieni yn fferm fenter gymdeithasol i alluogi pobl ifanc i weithio, er gwaethaf eu hawtistiaeth, gyda chefnogaeth pobl eraill. Mae honno'n enghraifft mor dda o sut y gall pawb weithio, cyn belled â'n bod yn rhoi'r cyd-destun iawn iddynt. Mater i'r gymuned yn gyffredinol yw estyn allan at bobl sydd ag anableddau penodol, a sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn eu herbyn, yn syml iawn am nad ydym wedi meddwl am y peth.
Felly, Lynne Neagle, rydych chi'n llysgennad mor dda dros iechyd meddwl; rwy'n teimlo'n hyderus ein bod mewn dwylo da o ran cadw'r faner hon i chwifio. Rwy'n credu bod y gwaith pwysig y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yn gwbl allweddol. Mabon, fe wnaethoch chi ein hatgoffa mewn modd amserol am bwysigrwydd trosglwyddo asedau cymunedol, sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru ddull gwahanol o weithredu, ond mae angen dal gafael ar hynny.
Nid yw pobl ofidus yn dysgu'n dda, ac yn anffodus, maent yn aml yn cael problemau iechyd meddwl parhaus yn y pen draw, neu'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Felly, mae bonws go iawn o fynd i'r afael â'r problemau hyn yn gynnar. Yn olaf, rwyf am ddod i ben drwy ddweud mai'r Nadolig yw'r amser gwaethaf i bobl dlawd. Mae i fod yn gyfnod hapus. A dweud y gwir, mae'n amser ofnadwy os ydych chi'n dlawd. Roeddwn eisiau gorffen drwy ddarllen rhywbeth a ddywedodd dyn o Glasgow:
'Ar hyn o bryd...ni allaf fynd i dŷ fy ffrind fel y byddwn yn ei wneud bob Nadolig. Mae fy nghymydog yn gwybod hynny ac wedi fy ngwahodd i dreulio'r Nadolig gyda hi a'i theulu. Ar adegau anodd, gall y bobl o'ch cwmpas fod yno i chi os oes angen.'
Felly, mae angen i bawb ohonom feddwl pwy yn ein cymuned sy'n mynd i gael Nadolig diflas, a sut y gallwn eu helpu i gael Nadolig gwell o ganlyniad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.