– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau gan ddweud diolch yn fawr i bwyllgorau'r Senedd, Aelodau a staff am eu gwaith craffu ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) hyd yn hyn.
Mae llawer o waith caled yn mynd i rôl graffu y Senedd, a’r cyfan ohono bron y tu ôl i'r llenni, yn enwedig o ran deddfwriaeth. Dyma fy Mil cyntaf fel Gweinidog cyfrifol, ac rwy'n dymuno cofnodi fy niolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaeth Cyfnod 1 gofalus ac argymhellion ystyriol.
Hoffwn ddechrau drwy roi sylw i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a chroesawu'r argymhelliad gan fwyafrif o'r Aelodau y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Mae argymhelliad 2 yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn i'r Llywodraeth fod yn glir am yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni trwy'r Bil, a nodi metrigau a chanlyniadau y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn. Rwy'n hapus i dderbyn hyn mewn egwyddor ac i dderbyn argymhelliad 20, oedd yn ein hannog i sicrhau bod unrhyw drefniadau adrodd yr ydym ni’n eu gosod ar gyfer ein partneriaid yn gymesur, ac osgoi dyblygu. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar y dangosyddion a'r canlyniadau sydd eu hangen i fonitro effaith y ddeddfwriaeth hon, er y bydd y gwaith hwnnw'n cymryd amser ac yn dibynnu, i raddau, ar y materion y mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn penderfynu canolbwyntio arnyn nhw.
Mae argymhellion 10, 14 a 24 yn ymdrin â'r canllawiau fydd yn cael eu cyhoeddi i bartneriaid cyn gweithredu. Mae'r Llywodraeth yn derbyn 10 a 14, a bydd y canllawiau hynny'n glir ar yr amcanion yr ydym ni’n eu dilyn a'r disgwyliadau a'r dyletswyddau yr ydym ni’n eu gosod arnon ni ein hunain a'n partneriaid. Mae argymhelliad 24 yn gofyn i ni gyhoeddi canllawiau statudol ar ffurf ddrafft ar gyfer ymgynghori, gan gynnwys gyda'r Senedd. Rydym ni’n derbyn hyn mewn egwyddor, ar y sail y byddwn ni’n sicr yn ymgynghori â rhanddeiliaid, ond nid ydym ni o'r farn y dylai fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r Senedd mewn perthynas â chynhyrchu canllawiau statudol, rhywbeth sydd eisoes wedi'i wneud gan y Llywodraeth drwy ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw arweiniad yn addas i'r diben ac wedi'i dargedu at y gynulleidfa y bwriedir iddo ei dargedu.
Mae argymhellion 3, 5 a 6 yn ymwneud â gweithrediad y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Ni fydd y Llywodraeth yn derbyn yr argymhellion hyn gan y byddant, yn ein barn ni, yn amharu ar ymreolaeth ac annibyniaeth y cyngor ac o bosib yn tanseilio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn ymarferol. Nid oes angen cylch gorchwyl gan fod y Bil ei hun yn nodi swyddogaethau'r cyngor ar sut y dylid ymgynghori ag ef. Yn unol â'r dull partneriaeth gymdeithasol, nid mater i'r Llywodraeth yw dweud wrth y cyngor faint o is-grwpiau y dylai eu sefydlu a pha faterion y dylent ymdrin â nhw, na'r dull y dylai ei ddefnyddio ar gyfer ei waith. Mae'r materion hyn mewn gwirionedd yn rhywbeth i'r cyngor ei hun benderfynu arno.
Fodd bynnag, rwy'n hapus i dderbyn argymhelliad 4. Rydym ni’n derbyn argymhelliad 7 mewn egwyddor ac yn derbyn 8. O ran aelodaeth y cyngor, rwy'n rhannu barn y pwyllgor y dylai'r aelodaeth fod yn eang ac yn gynrychioliadol. Mae gwaith eisoes wedi dechrau gyda phartneriaid cymdeithasol i sicrhau bod y broses o enwebu'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn adlewyrchu hyn, a byddaf yn diweddaru'r pwyllgor ar ganlyniad y gwaith hwnnw cyn Cyfnod 2.
Mae argymhelliad 9 yn ymwneud â'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 16 o'r Bil. Barn y pwyllgor yw bod angen mwy o ran gorfodi neu gydymffurfio â'r ddyletswydd hon. Mae drafftio'r argymhelliad hwn yn gofyn i mi esbonio safbwynt y Llywodraeth ar y materion hyn, ac rwy'n hapus i wneud hynny eto heddiw. Fe wnes i nodi mewn tystiolaeth i'r pwyllgor bod dyletswydd adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus geisio yn hytrach na sicrhau consensws neu gyfaddawdu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu eu cynrychiolwyr staff wrth osod eu hamcanion llesiant. Os, am ba bynnag reswm, nad yw'n bosib dod i gytundeb er gwaethaf yr ymdrechion gorau, bydd y ddyletswydd i geisio consensws neu gyfaddawd yn cael ei ryddhau er hynny. I bob pwrpas, ni fyddai dim i gyfryngu rhwng y ddwy blaid dan sylw.
Lle gallai fod pryderon am sut mae corff cyhoeddus yn mynd ati i gyflawni ei swyddogaethau statudol, mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cwynion am gamweinyddu, ac mae rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli a gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau gwerth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn y pen draw, gellir herio gweithredoedd cyrff cyhoeddus yn y llysoedd.
Mae argymhellion 11, 12 a 21 yn cyfeirio at y gydberthynas rhwng y Bil a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ni fydd gwelliant arfaethedig i Ddeddf 2015, sy'n disodli'r cyfeiriad at 'waith addas' gyda 'gwaith teg', yn newid naill ai cylch gwaith neu swyddogaethau'r comisiynydd, ac nid oes angen i ni wella ein Bil i ddyblygu'r ddyletswydd sydd gan gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at bob nod llesiant wrth arfer eu swyddogaethau, sydd eisoes yn cynnwys nod llesiant Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn derbyn argymhellion 11 na 12.
O ran argymhelliad 21, rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn yn rhoi mwy o fanylion ar sut y bydd ymchwiliadau caffael yn rhyngweithio â'r pwerau sy'n bodoli eisoes gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, er na fydd hyn yn bosibl nes y bydd diwygiadau caffael Llywodraeth y DU yn cael eu cwblhau.
Mae argymhelliad 13 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Comisiwn Elusennau i benderfynu a fyddai gwneud addysg bellach a sefydliadau addysg uwch a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn effeithio'n negyddol ar eu statws cyfrifyddu cenedlaethol a/neu statws elusennol, gyda'r bwriad o ddod â nhw o fewn cwmpas y Bil oni ddylai hyn fod yn wir. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal, er y dylwn i ychwanegu bod ffactorau eraill, gan gynnwys y gallai rhai o'r cyrff hyn weithredu y tu allan i Gymru, sydd hefyd yn dylanwadu ar y drafodaeth.
Gan droi at argymhelliad 15, sy’n gofyn i ni osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau ar gyfer cyfran y caffael sy'n cael ei gwario yng Nghymru ac sy’n cael ei gwario gyda mathau penodol o gyflenwyr, megis busnesau bach a chanolig neu fentrau cymdeithasol, mae'r Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor ac rydym ni’n cytuno â'r rhagosodiad y dylem ni fod yn defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a gellid cyflawni hyn drwy osod targedau, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Byddaf yn parhau i gynnal trafodaethau pellach gyda phartneriaid mewn perthynas â'r argymhelliad hwn, a diweddaru'r pwyllgor cyn Cyfnod 2.
Mae argymhellion 16 i 19 yn ymdrin â rhan caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol y Bil. Mae'r Llywodraeth yn derbyn yr holl argymhellion hyn, yn amodol ar y trafodaethau pellach sy'n ymwneud ag argymhelliad 15, a bydd yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil yn ogystal â'r memorandwm esboniadol a'r canllawiau perthnasol.
Mae arnaf ofn na allaf dderbyn argymhelliad 22 a 23 yn ymwneud â'r cymalau ymchwiliadau caffael, gan na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r archwilydd cyffredinol cyn cyhoeddi pob ymchwiliad. Ni fyddaf ychwaith yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn manylu ar y meini prawf a fyddai'n sbarduno ymchwiliad o dan adran 41 ar wyneb y Bil. Byddai hyn yn llawer rhy gyfyng. Bydd rhestr nad yw’n gynhwysfawr o feini prawf yn cael ei nodi yn y canllawiau, sef y lle priodol ar ei gyfer.
Mae argymhellion 25 a 26 yn gofyn i ni wneud gwaith pellach i fireinio'r costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil. Rwy'n derbyn yr argymhellion hyn. Mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, a bydd asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig yn cael ei osod o flaen Cyfnod 3.
Mae'r ddau argymhelliad terfynol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â'r cyngor partneriaeth gymdeithasol cysgodol. Er nad ydw i mewn sefyllfa i gytuno i gyhoeddi'r holl bapurau, fel yr awgrymwyd gan y pwyllgor yn argymhelliad 27, rwy'n derbyn argymhelliad 28 mewn egwyddor, a byddaf yn sicrhau bod y pwyllgor yn cael adroddiad cryno, a gobeithio y bydd Aelodau'n ei gael yn ddefnyddiol.
Gan droi nawr at adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y cyntaf o'i argymhellion yw bod cyfeiriad i'r diffiniad o 'benderfyniadau o natur strategol' sydd yn y canllawiau a wneir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei ychwanegu at y Bil. Nid yw'r Llywodraeth o'r farn ei bod yn briodol cynnwys o fewn adran ddehongli'r Bil ddiffiniad sy'n cael ei nodi mewn mannau eraill yn unig mewn canllawiau statudol. Mae'r canllawiau y cyfeirir atynt yn cael eu cyhoeddi o dan bŵer ar wahân mewn Deddf arall o bwrpas penodol, na fydd o bosibl yn cyd-fynd â'r dyletswyddau yn y Bil. Mae'r Bil yn darparu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus ynghylch gweithredu'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, a dyna'r ffordd briodol o ymdrin â materion fel hyn, felly ni allwn dderbyn argymhelliad 1.
Rwy'n derbyn argymhellion 2, 4 a 5 a byddaf yn sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'r Bil a'r canllawiau. Nid ydym yn derbyn argymhelliad 6, oedd yn gofyn i ni sicrhau bod fersiwn ddrafft o'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu ar gael cyn Cyfnod 3. Ein bwriad yw bod y cod yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol ac mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Byddwn felly yn ymgysylltu â'r grwpiau hyn, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau ac undebau o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na chyhoeddi drafft, yna ymgynghori arno.
Mae argymhellion 3, 7 ac 8 i gyd yn cwestiynu'r dewis o weithdrefn yr ydym ni wedi'i chynnig ar gyfer gwneud y cod a'r rheoliadau. Mewn perthynas â'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, fel y soniais yn gynharach mewn perthynas ag argymhelliad 24 y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, mae cyhoeddi canllawiau o'r fath yn swyddogaeth i Weinidogion Cymru, a fydd, am resymau sydd wedi’u hamlinellu uchod, yn destun ymgynghoriad llawn â rhanddeiliaid, a fydd, yn fy marn i, yn rhoi cyfle priodol i gael mewnbwn gan y rhai sydd agosaf at bwnc y cod, yn fy marn i, ac felly nid wyf yn bwriadu diwygio'r Bil i wneud y cod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae argymhellion 7 ac 8 yn ymwneud â'r rheoliadau yr ydym ni’n eu cyflwyno o dan adran 38 o'r Bil. Rydym ni’n hyderus ein bod ni wedi cymhwyso'r dull gweithredu cywir mewn perthynas â phob un, ac felly nid ydym yn bwriadu cefnogi'r argymhellion hyn. Fodd bynnag, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i roi mwy o fanylion am hyn.
Yn olaf, hoffwn ymddiheuro i'r pwyllgor am gyfeiriad cyfeiliornus at gonfensiwn yn fy llythyr ar 15 Hydref. Codwyd hyn yn adroddiad y pwyllgor o dan argymhelliad 9, ac rwy'n dymuno rhoi ar gofnod bod y cyfeiriad hwn wedi'i gynnwys mewn camgymeriad a chydnabod nad oes confensiwn o'r fath yn bodoli.
Wrth symud ymlaen i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch o dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, ar wahân i 3 a 9. Bydd y Llywodraeth, fel y crybwyllwyd yn gynharach, yn sicrhau bod fersiwn ddiwygiedig o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael mewn da bryd cyn Cyfnod 3. Mae'r ddau argymhelliad na allaf eu derbyn yn gofyn am lefel o fanylion ar effeithiau'r darpariaethau caffael cymdeithasol gyfrifol nad oes modd ei chyflawni'n realistig yn yr amser rhwng nawr a Chyfnod 3. Mae cyfyngiad ar yr hyn sy'n bosib, o ran dadansoddi ac amcangyfrifon costau, cyn i unrhyw drefniadau newydd ddod i rym ac yna cael digon o amser i'w hymgorffori. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn deall, er fy mod wrth gwrs yn gwerthfawrogi'r ysbryd y cafodd yr argymhellion hyn eu cyflwyno ynddo, a rhoi ar gofnod fy sicrwydd y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i wella'r elfennau hynny o'r asesiad effaith rheoleiddiol y gellir eu gwneud yn fwy cywir rhwng nawr a Chyfnod 3, yn y pen draw, bydd ymarferion fel y rhain ond yn gallu rhoi amcangyfrifon gorau o gostau a manteision i ni.
Wrth gloi, Llywydd, rwyf eisiau diolch eto i holl Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn sydd wedi ymgysylltu mor adeiladol â'r ddeddfwriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu, gan aelodau eraill o bob rhan o'r Siambr, ac i barhau i weithio ar y cyd ac yn adeiladol ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone.
Diolch, Llywydd. Diolch, Hannah, am eich crynodeb o'r ymateb i'n hargymhellion, ac yn amlwg bydd yn rhaid i ni eu hystyried yn fanwl wedi hyn. Ond rydym ni'n diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am ymgysylltu'n adeiladol yn ystod proses Cyfnod 1, yn ogystal â'r 31 sefydliad ac unigolion hynny a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig, yr holl dystion a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr, yn ogystal ag arbenigwyr sy'n ymwneud â chaffael nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â, mae'n rhaid i mi sôn, am y gefnogaeth ardderchog rydyn ni wedi'i chael gan y Gwasanaeth Ymchwil a chlercod y pwyllgor oedd yn cefnogi ein gwaith.
Mae nod cyffredinol y Bil, i wella ac ehangu gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth, gwaith teg a chaffael sy'n gymdeithasol gyfrifol, yn un mae'r pwyllgor yn ei gefnogi, yn gyffredinol, egwyddorion y Bil hwn, ar wahân i un Aelod. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru nodi sut mae'n bwriadu sicrhau canlyniadau clir a diriaethol mewn mwy o fanylder, gallai'r Dirprwy Weinidog fod wedi amlygu rhai ohonyn nhw'n gynharach heddiw. Byddai gosod partneriaeth gymdeithasol ar sail gyfreithiol yn adlewyrchu'r sefyllfa mewn sawl gwlad Ewropeaidd gyfagos sydd â gweithluoedd cryf ac economïau cynhyrchiol. Ac roedd yn nodedig bod cynrychiolwyr sefydliadau mawr yn cefnogi egwyddorion y Bil, ond gallaf ddeall pam nad oedd cynrychiolwyr busnesau bach yn gweld llawer o rinwedd ynddo, gan eu bod yn cael llawer llai o anhawster cyfathrebu â'u gweithluoedd.
Mae creu cyngor partneriaeth gymdeithasol deirochrog wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon. Mae adran 5(2) yn nodi bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ofyn am enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr o TUC Cymru. Efallai na fyddwch yn synnu o wybod bod TUC Cymru a'i gysylltwyr wedi cefnogi'r broses hon ar gyfer enwebu cynrychiolwyr gweithwyr i'r cyngor, fodd bynnag roedd undebau nad ydynt yn gysylltiedig â TUC Cymru ac eraill yn arddel safbwyntiau gwahanol. Roedd y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain yn dadlau'n gryf dros wella'r Bil, a dywedodd yr RCN wrthym y gallai'r Bil fel y'i drafftiwyd arwain at adael undebau nad ydynt yn gysylltiedig â'r TUC allan o bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a lleihau eu gallu i gydweithredu a chydweithio. Gan ein bod ni’n gwario hanner cyllideb Llywodraeth Cymru ar ein gwasanaeth iechyd, a bod gan y sector hwn grynodiad uchel o undebau nad ydynt yn gysylltiedig â'i gilydd, roedd y pryder hwnnw'n un o brif bryderon y pwyllgor. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr argymhelliad 7 hwnnw, sy'n galw am welliant i'r Bil i roi gofyniad ar TUC Cymru i enwebu cyfran benodol o aelodau'r undeb nad ydynt yn gysylltiedig â'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn mynd ymlaen.
Dylai'r dull o gaffael cyhoeddus a ragwelwyd gan y Bil hwn gadw mwy o arian yn cylchredeg yn lleol, gan helpu i adeiladu cymunedau mwy gwydn ac economïau sylfaenol mwy bywiog. Ond, i fod yn wirioneddol feiddgar, rydyn ni am weld targedau mesuradwy yn cael eu gosod ar gyfer caffael, gan gynnwys cyfran yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru. Fel arall, ni allwn weld a yw'r Bil hwn wedi cael yr effaith yr ydym ni’n gobeithio y bydd yn ei gael. Felly, mae argymhelliad 15 yn nodi barn y pwyllgor y dylid gwella'r Bil i osod gofyniad ar Weinidogion i osod targedau ar gyfer caffael cyhoeddus. Mae'n cydnabod hefyd y gallai casglu data a'r mecanweithiau sydd eu hangen i fod yn sail i dargedau effeithiol fod angen amser i weithio drwyddo, ac mae’n argymell felly y dylai amserlen tymor canolig o dair blynedd fod yn briodol i gyflawni hyn.
Rwy'n credu y bydd llawer o sefydliadau amgylcheddol yn siomedig o ddeall fod y Gweinidog yn gwrthod ein hargymhelliad 12, a fyddai'n sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn cyfrannu at ddinistrio coedwigoedd glaw. Rwy'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 dderbyn eu cyfrifoldebau byd-eang, ond rwy'n credu y byddai'n anodd disgwyl nad ydym ni’n mewnforio stwff ar hyn o bryd sydd wedi cael ei greu ar hyn o bryd o rwygo coedwigoedd glaw ac achosi mwy o gynhesu byd-eang.
Pan fyddwn ni'n gweithredu'r Ddeddf, mae'n rhaid i ni weld y cysylltiadau sydd ganddi gydag amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru, yn enwedig y broses o drosglwyddo i sero net. O'r ymateb i'r argyfyngau ynni a bwyd i ddiwygio amaethyddiaeth a rheoli tir cynaliadwy, mae gan y Bil hwn y potensial i ddarparu fframwaith ar gyfer gweithredu a chydweithio ar draws cyrff cyhoeddus.
Er mwyn gwireddu uchelgeisiau'r Bil, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus, diwydiant ac eraill i feithrin capasiti, gallu a newid diwylliannol. Clywodd y pwyllgor bryderon bod nifer o gyrff cyhoeddus yn wynebu anawsterau wrth recriwtio staff caffael, wedi'u cafnu gan flynyddoedd o gyni, ac roedd cael gafael ar unigolion o'r fath yn cael ei ddisgrifio yn brin iawn. Gall hyn arwain at broblemau capasiti difrifol ac anghysondebau mewn dulliau ar draws cyrff cyhoeddus.
Mae'r Bil hwn yn creu canolfan ragoriaeth ar gyfer caffael, ond mae angen eglurhad ar ei rôl a rôl is-bwyllgor caffael y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Yn benodol, mae angen i Lywodraeth Cymru nodi sut mae'n bwriadu sicrhau y bydd y ganolfan ragoriaeth a'r is-grŵp caffael yn sbarduno cydweithio a newid. Mae yna fater hefyd ynghylch a ddylai fod yn ofynnol i sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddilyn deddfwriaeth gaffael Llywodraeth Cymru yn yr un modd ag awdurdodau contractio'r sector cyhoeddus, ond rwy'n derbyn yn llawn na allwn fod yn peryglu tanseilio statws elusennol rhai o'r cyrff hyn a'u hannibyniaeth bwysig. Ond er hynny, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog wedi derbyn argymhelliad 13. Rwy'n croesawu hynny'n fawr.
O ran y canllawiau, clywsom gan randdeiliaid sy'n gweithio yn y diwydiant am bwysigrwydd canllawiau da yn chwarae rhan ganolog wrth weithredu, ac rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd wedi gwneud argymhelliad tebyg i'n rhai ni. Felly, byddai'n ddefnyddiol deall manylion sut yn union mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu gafael yn ysbryd y gwelliannau hynny, ond nid o reidrwydd eu gosod mewn deddfwriaeth. Fel arall, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Gyfnod 2 o'r Bil ac at weld sut mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu cryfhau'r Bil yn ei argymhellion manwl.
Huw Irranca-Davies nawr, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol trydydd Bil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Yn ein hadroddiad, daethom i un casgliad, a gwnaethom naw argymhelliad. I ddechrau, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ysgrifennu atom gyda gwybodaeth bellach i gynorthwyo ein gwaith craffu ar y Bil, yn lle'r sesiwn dystiolaeth a gafodd ei chanslo ym mis Medi.
Fel y bydd y Senedd yn gwybod, rydym ni’n edrych yn fanwl iawn ar gynnwys pwerau mewn Biliau i wneud is-ddeddfwriaeth. Felly, Llywydd, mae'r Bil hwn yn cynnwys pum pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, un pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod, a dau bŵer i gyhoeddi cyfarwyddiadau.
Nawr, mae nifer o'n hargymhellion yn ymwneud â'n cred gyson nad yw'r gweithdrefnau craffu sydd ynghlwm â rhai o'r pwerau hyn yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau'r Senedd ar gyfer craffu. Felly, mae argymhellion 7 ac 8 o'n hadroddiad yn galw ar y Dirprwy Weinidog i gyflwyno gwelliannau i'r Bil i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i bwerau o fewn is-adrannau (3)(a) a (3)(b) o adran 38 o'r Bil. Gellir defnyddio'r ddau bŵer hyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac fe wnaethom ystyried y pŵer o fewn is-adran (3)(a) yn benodol i fod yn bŵer Harri VIII eang, diderfyn, a does gennym ni fawr o feddwl, yn gyffredinol, o bwerau Harri VIII.
Mae tri o'n hargymhellion yn ymwneud â'r ddyletswydd o fewn adran 32 o'r Bil i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu. I ni, bydd y cod hwn yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Felly, fe wnaethom argymell y dylai'r Dirprwy Weinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i gymhwyso'r weithdrefn negyddol i'r pŵer i gyhoeddi'r cod ac unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol iddo. Byddai hyn yn lle peidio rhoi gweithdrefn ar waith fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Fe wnaethom argymell hefyd y dylai fod dyletswydd i ymgynghori ar y cod sydd wedi'i gynnwys o fewn y Bil, ac y dylai'r Dirprwy Weinidog gyhoeddi fersiwn ddrafft ohoni cyn dechrau Cyfnod 3 y Bil, a fydd yn helpu ein hystyriaeth ac ystyriaeth pwyllgorau eraill.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym y bydd yr holl ganllawiau statudol a gyhoeddir o dan y Bil yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ac y bydd yn destun ymgynghoriad. Felly, gan fod hyn yn wir, fe wnaethom argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i gynnwys dyletswydd i ymgynghori ar ganllawiau a gyhoeddwyd o dan adran 43 ac unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol i'r canllawiau hynny.
Mae ein dau argymhelliad sy'n weddill yn ymwneud â hygyrchedd y Bil. Mae'r Bil yn cynnwys yr ymadrodd 'penderfyniadau o natur strategol'. Nid yw'r Bil yn rhoi diffiniad o'r ymadrodd hwn, ond darperir diffiniad o fewn y canllawiau statudol ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a wnaed dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, am resymau hygyrchedd, fe wnaethom argymell felly y dylai'r Bil gynnwys cyfeiriad i'r diffiniad hwn.
Mae'r Bil hefyd yn diwygio adran 4 o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i amnewid 'gwaith teg' am 'waith addas'. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym fod diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o 'waith teg' wedi cael ei dderbyn yn eang. Er mwyn helpu pobl i ddeall y term hwn, fe wnaethom felly argymell y dylid cynnwys diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o fewn canllawiau anstatudol i randdeiliaid a chyrff sy'n ddarostyngedig i'r dyletswyddau dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, cyn i mi ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn dynnu sylw at yr unig gasgliad y daethon ni ato yn ein hadroddiad—yr unig gasgliad penodol. Fel y bydd Aelodau'n gwybod, mae pwyllgorau'r Senedd ar hyn o bryd yn ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd mewn perthynas â Bil Caffael Llywodraeth y DU—Bil Caffael Llywodraeth y DU—ac rydym ni’n deall bod mwy o LCMs ar y ffordd yn fuan. Rydyn ni'n credu bod y Bil rydyn ni'n ei ystyried heddiw wedi darparu llwybr amlwg i Lywodraeth Cymru gynnwys darpariaethau i ddiwygio cyfraith gaffael Cymru, yn hytrach na defnyddio Bil Llywodraeth y DU a'r broses gydsynio.
Felly, Dirprwy Weinidog, edrychwn ymlaen at glywed eich ymatebion i'r argymhellion yr ydym ni wedi'u gwneud mewn perthynas â'r Bil hwn. Un pwynt, er hynny: mae'n siomedig i'r pwyllgor nad oedd ymateb gan y Llywodraeth ar gael mewn pryd heddiw i lywio'r ddadl heddiw, o ystyried ei bwysigrwydd i'r broses ddeddfwriaethol, felly byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai'r Dirprwy Weinidog fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw yn eich sylwadau a'ch ymatebion.
Un pwynt olaf, Llywydd, ac mae'n rhaid i mi dynnu fy het Cadeirydd pwyllgor i ffwrdd ar gyfer y foment arbennig hon, ond gwn na allaf sefyll eto. Gan roi fy het fel cydweithredwr ac aelod o'r grŵp Senedd cydweithredol, ac rwy'n cyfeirio at fy nghofrestr o fuddiannau, tybed a ydynt—. Y gwir amdani yw bod Biliau fel hyn yn dod yn anaml iawn yn ystod unrhyw dymor y Senedd, ond a fyddai'r Gweinidog, ar wahân i'r pwyntiau rydw i newydd eu gwneud fel Cadeirydd y Pwyllgor, yn ystyried cwrdd ag awduron adroddiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ar berchnogaeth gweithwyr yng Nghymru, i drafod a ellid ymgorffori eu cynigion yn y Bil er mwyn cryfhau perchnogaeth gweithwyr ymhellach yng Nghymru? Rydyn ni'n gwneud llawer ar berchnogaeth gweithwyr yn barod, ond byddai trafodaeth ar hynny yn ddefnyddiol iawn yn wir. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Peter Fox nawr ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Rydym ni wedi cyflwyno cyfanswm o 11 argymhelliad, ond o ystyried yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif bryderon.
Er ein bod ni’n gefnogol i nod y Bil, un o'r prif bryderon i ni oedd diffyg data a nifer y costau anhysbys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. O ganlyniad roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r pwyllgor asesu goblygiadau ariannol cyffredinol y Bil. Rydym ar sawl achlysur wedi mynegi ein barn y dylai asesiadau effaith rheoleiddiol gynnwys yr amcangyfrif gorau posibl. O ganlyniad, rwy'n siŵr na fydd yn syndod i'r Dirprwy Weinidog a'i chydweithwyr gweinidogol bod nifer o'n hargymhellion yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith pellach i asesu'r costau. Mae'n siomedig hefyd bod yn rhaid i'r pwyllgor wneud y pwyntiau hyn yn barhaus, ac mae'n annog y Dirprwy Weinidog i wrando ar ein hargymhellion, a gweithredu arnynt.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi siarad yn y Siambr o'r blaen am ein pryderon o chwyddiant cynyddol ar gost deddfwriaeth. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi yn dweud y dylid dileu effeithiau chwyddiant cyffredinol wrth amcangyfrif cost Biliau. Fodd bynnag, o ystyried y gyfradd chwyddiant uchaf ers 40 mlynedd a'r ansicrwydd y bydd grant bloc Llywodraeth Cymru yn codi ar yr un lefel, rydym ni’n credu y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol ystyried chwyddiant wrth gyfrifo costau posibl. Mae gan y Bil gyfnod arfarnu pum mlynedd ac felly gallai chwyddiant cynyddol arwain at gostau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym ni’n argymell bod y Dirprwy Weinidog yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol i fodelu costau yn seiliedig ar ddata chwyddiant a ragwelir drwy gydol cyfnod arfarnu'r Bil.
Gan droi at y costau sy'n ymwneud â'r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol sydd yn y Bil, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y byddai'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ysgwyddo costau o £20.5 miliwn a £6.5 miliwn yn y drefn honno. Mae nifer o senarios posibl wedi'u nodi a allai godi o'r disgwyliad cynyddol ar ddarparu canlyniadau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gan gynnwys defnydd ehangach o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy; staff yn derbyn mwy o hyfforddiant a thelerau ac amodau gwell; ac amser staff wrth fynychu hyfforddiant ychwanegol.
Fe wnaethom ni ofyn a oedd ymdrechion wedi'u gwneud i fodelu'r senarios posib i benderfynu ar gostau posib, a dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym, gan fod y Bil yn cwmpasu ystod enfawr o gyrff cyhoeddus, nad oedd ganddi'r data ar hyn o bryd i fesur y waelodlin. O ganlyniad, mae ein hargymhelliad 3 yn galw am wneud gwaith pellach i asesu'r costau i gyrff cyhoeddus a phreifat sy'n ymwneud â'r ddyletswydd hon. Dylai'r gwaith hwn gynnwys dadansoddiad o sensitifrwydd i ddangos yr ystod bosibl o gostau hefyd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig, gan fy mod yn deall nad yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
O ran y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â chostau cynnig a chyflogau byw go iawn, roedd y pwyllgor o'r farn y gallai mwy o bwyslais ar ganlyniadau caffael cyhoeddus sy'n gymdeithasol gyfrifol, yn y tymor byr, gynyddu prisiau ymgeisio. Rydym ni’n poeni felly y gallai busnesau ymateb i'r cynnydd drwy leihau gweithwyr neu basio'r gost ymlaen i gwsmeriaid. Er mwyn lliniaru hyn, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gofynion ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar fusnesau yn gymesur, a bod y canllawiau statudol yn rhoi'r cymorth angenrheidiol i staff caffael a rheoli contract yng Nghymru.
Gyda mwy o bwyslais ar waith teg, byddai cost ychwanegol arall tebygol yn cael ei ysgwyddo drwy fabwysiadu’r cyflog byw go iawn yn gynyddol trwy gadwyni cyflenwi. Er na all Llywodraeth Cymru orfodi'r cyflog byw go iawn, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ei bod ni’n disgwyl y bydd y Bil yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar yr un agwedd ar arferion cyflogaeth gwell. Rydym ni’n croesawu'r pwyslais cynyddol ar waith teg yn fawr ac rydym ni’n gobeithio y bydd cyrff cyhoeddus a phreifat yn mabwysiadu'r cyflog byw go iawn, fodd bynnag, mae hwn yn faes yr hoffem ni gadw llygad arno, ac mae ein hargymhelliad 7 yn gofyn i'r adolygiad ôl-weithredu ar gyfer y Bil hwn gynnwys gwybodaeth am y nifer sy'n manteisio ar y cyflog byw go iawn o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon.
Costau rheoli'r contract adeiladu yw'r dyraniadau mwyaf sylweddol a wnaed yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar gontractau adeiladu mawr gyda gwerthoedd dros £2 miliwn. Er y bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yn gosod gofynion ychwanegol ar sefydliadau sy'n rheoli contractau a chostau ychwanegol, gobeithiwn y bydd yn arwain at welliannau mewn contractau ar draws sectorau ac yn atal arferion anfoesegol, fel caethwasiaeth fodern, rhag digwydd mewn cadwyni cyflenwi.
Serch hynny, rydyn ni'n poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar fusnesau bach a chanolig. Argymhellwyd bod cymorth penodol yn cael ei ddarparu i fusnesau bach a chanolig i'w galluogi i gymryd rhan mewn contractau—i'w gweld yn argymhelliad 8—a bod dadansoddiad pellach o sut mae'r ddyletswydd hon yn effeithio ar fusnesau bach a chanolig yn cael ei ddarparu—argymhelliad 9. Unwaith eto, rwy'n siomedig—neu byddwn yn siomedig—os nad yw'r argymhelliad hwnnw 9 wedi cael ei dderbyn.
Ac yn olaf, Llywydd, fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, rydym ni’n siomedig gyda'r data cyfyngedig sydd ar gael ar ganlyniadau ariannol y Bil. Am y rheswm hwn, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad canol tymor yn ogystal ag adroddiad gwerthuso pum mlynedd terfynol, a ddylai amlinellu'r costau ariannol sydd wedi cael eu hysgwyddo o ganlyniad i weithredu'r Bil. Diolch.
Iawn, rwy'n trio glanio'r awyren hon erbyn 6 o'r gloch, fel bod y rhai ohonom ni sy'n dal yn y Siambr yn gallu cyrraedd rhywle i wylio'r gic gyntaf erbyn 7 o'r gloch. Felly, o'r siaradwyr sydd gen i o fy mlaen, byddaf yn eich cadw chi i bum munud. Joel James.
Diolch, Llywydd. Ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Llywodraeth hon wedi methu'n llwyr â chyfathrebu pa broblem mae'n ceisio ei datrys a pham ei bod yn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod am roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol i wella prosesau caffael cyhoeddus, ond nid yw wedi gwneud unrhyw asesiad credadwy o'r arferion partneriaeth gymdeithasol presennol yng Nghymru. Felly, nid ydym yn gwybod i ba raddau mae cydweithio eisoes yn bodoli, sut y bydd y ddeddfwriaeth statudol hon yn effeithio ar greu partneriaethau cymdeithasol sy'n tyfu'n organig o angen cydfuddiannol, ac felly, mae'r Llywodraeth hon yn creu deddfwriaeth i ddarparu ateb i broblem anhysbys.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais â chyrff allanol a fydd yn cael eu heffeithio gan y Bil hwn, ac nid ydyn nhw’n deall pam mae angen hyn. Nid ydyn nhw’n deall sut y bydd o fudd i'r gweithle, gan fod Bil cenedlaethau'r dyfodol eisoes yn rhoi cryn gyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i ymgorffori nodau iechyd a lles yn eu cynllunio. Mae ganddyn nhw strategaethau caffael eisoes sy'n anelu at brynu'n lleol lle bo modd, ac maen nhw eisoes yn gweithio'n effeithiol gydag undebau llafur. Maen nhw hefyd o'r farn y bydd y Bil hwn naill ai'n arwain at ddim gwerth go iawn na chanlyniad cadarnhaol ac yn dod yn ymarfer ticio blwch tâp coch arall o ddyblygu, neu bydd ganddo'r potensial i amharu'n sylweddol ar arferion caffael sydd eisoes wedi hen ennill eu plwyf, drwy osod dyletswyddau adrodd beichus ar gyflenwyr annibynnol bach y mae Llywodraeth Cymru—yn wrthnysig—yn ceisio eu helpu.
Rwy'n deall yn iawn bod y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar helpu busnesau lleol i gael gafael ar gontractau caffael y Llywodraeth i helpu i greu swyddi yn lleol, ond nid yw caffael mor syml â hynny. Mae'n fwyfwy annhebygol y bydd busnesau lleol yn gallu cyflenwi ystod a maint yr eitemau sydd eu hangen ar yr holl gyrff cyhoeddus hyn. At hynny, drwy osod targed ar faint o nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu caffael yn lleol, mae'r Llywodraeth hon yn creu'r amodau i ganolwyr yn y gadwyn gaffael a fydd wedi'i lleoli yng Nghymru yn anfwriadol ond yn dod o hyd i nwyddau o'r tu allan i Gymru, a fydd wrth gwrs yn arwain at gostau uwch i gyrff cyhoeddus. Dywedir yn yr adroddiad:
'Byddai’r broses o weithredu’r Ddeddf...yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r sector cyhoeddus datganoledig i feithrin capasiti, gallu a newid diwylliannol ar adeg pan fo cyllidebau’n debygol o grebachu', sydd, yn fy meddwl i, yn gwbl groes i'w gilydd, oherwydd mae adeiladu capasiti a gallu yn cymryd buddsoddiad. Os ydych chi'n mynd i gynyddu capasiti cyrff cyhoeddus i gaffael yn lleol, yna mae'n rhaid i chi ystyried y bydd costau'n dod yn uwch oherwydd bydd gan fusnesau lleol llai gostau rhedeg uwch.
Yn ehangach, mae gan y Bil hwn sawl diffyg difrifol. Mae'r gofyniad statudol i bob corff cyhoeddus ddod i gonsensws ag undebau llafur ar osod eu hamcanion llesiant yn debygol iawn o arwain at ganlyniadau sy'n achosi problemau. Er enghraifft, os oes gan undeb llafur dargedau llesiant anfforddiadwy, byddai'n ofynnol i'r corff cyhoeddus drafod cynigion na fydden nhw'n gallu fforddio eu gweithredu, ac felly'n methu â dod o hyd i gonsensws a methu â chyflawni ei rwymedigaethau statudol. Nid oes mecanwaith ffurfiol o gwbl yn y Bil hwn i helpu cyrff cyhoeddus i osgoi'r mater hwn, a fydd, heb os, yn achosi problemau difrifol, oherwydd mae p’un a yw consensws wedi'i gyflawni ai peidio yn gwbl oddrychol. Ar ben hynny, nid oes gan y Bil unrhyw ffordd o orfodi'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn na mesur llwyddiant neu fethiant y ddeddfwriaeth hon, ac nid oes ganddo unrhyw ffordd o fesur pa effaith y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chael, oherwydd fel yr wyf wedi datgan o'r blaen, nid yw'r Llywodraeth hon hyd yn oed wedi gwneud y pethau sylfaenol wrth gynnal unrhyw asesiad mesuradwy o arferion partneriaethau cymdeithasol cyfredol yng Nghymru.
O droi at y cyngor partneriaeth gymdeithasol, mae sawl bwriad anghyson yma. Mae'r Bil yn dibynnu ar y cyngor yn galluogi llais i bawb, ond pe bai hon yn bartneriaeth gymdeithasol go iawn byddai'n sicrhau bod pob llais, waeth pa mor fach, yn cael ei glywed ac â sedd ddilys wrth y bwrdd, sydd, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi cydnabod, yn anghyraeddadwy. Bydd y Bil hwn felly'n debygol o ffafrio'r grwpiau mwyaf dan sylw, a fydd yn ei dro â'r potensial i fod dim ond yn siambr atsain arall ar gyfer yr hyn mae Llywodraeth Cymru eisiau ei glywed. Mae angen i'r Llywodraeth hon ddeall nad yw busnesau'n trefnu eu hunain yn sylfaenol yn yr un modd ag undebau llafur neu Lywodraethau, a bydd creu'r ddeddfwriaeth bartneriaeth gymdeithasol hon yn rhoi rhywfaint o anhyblygrwydd arnynt a fydd yn arwain at beidio â bod yn ddigon ystwyth i ymateb i sefyllfaoedd economaidd sy'n symud yn gyflym. Ar ben hynny, mae'n anghywir i feddwl bod busnesau angen Llywodraeth i ddod â nhw at ei gilydd mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn naturiol bydd cwmnïau'n chwilio am bartneriaethau cymdeithasol ac yn creu partneriaethau cymdeithasol os yw'n helpu eu busnes ac os yw amodau'r farchnad yn ei ffafrio.
Yn olaf, rwy’n credu bod y Llywodraeth hon yn creu'r Bil hwn gyda'r syniad cyfeiliornus y bydd yn rhoi rhywfaint o fudd i Gymru gan anwybyddu'r dystiolaeth a’r erfyniadau yn llwyr am yr hyn sydd ei angen. Mae busnesau ledled Cymru yn dweud eu bod wedi eu cyfyngu gan sgiliau gweithwyr, a dyma'r rhwystr mwyaf i'w twf. Mae busnesau rwyf i wedi siarad â nhw yn gyffredinol eisiau codi cyfraddau cyflog i'w staff, ac maen nhw eisiau eu cefnogi a gwella amodau gwaith oherwydd ei fod er eu lles i wneud hynny, ond maen nhw’n cael eu cyfyngu gan eu gallu, nid oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at gontractau caffael cyhoeddus, ond oherwydd na allant gael mynediad at set sgiliau digon eang. Y ddeddfwriaeth hon—
Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr.
Diolch, Llywydd. Ar y sail hyn, rwyf felly'n annog Aelodau i beidio â chefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.
Diolch. Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a diolch i Jenny Rathbone fel Cadeirydd y Pwyllgor ESJ, fy nghyd-Aelodau, a’r tîm clercio ac ymchwil am eu cydweithrediad yn y broses o sgrwtineiddio’r Bil yma; hefyd i’r Dirprwy Weinidog am ei pharodrwydd i gysylltu ar y ddeddfwriaeth bwysig yma, a beth mae wedi dweud y prynhawn yma. Mae hefyd yn galonogol i glywed rhai o’r pethau mae wedi ymrwymo i’w gwneud ac i’w trafod.
Hoffwn ddechrau gydag aelodaeth y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Mae'n ystyriaeth allweddol. Rhaid sicrhau y bydd y corff dylanwadol hwn yn adlewyrchu pob agwedd o gymdeithas Cymru yn llawn. Er mwyn i hyn ddigwydd mae'n rhaid cael hyblygrwydd o ran mecanwaith yr aelodaeth fel bod modd tynnu arbenigedd a phrofiad o faes mor eang â phosib. Os ydym am gyflawni'r agenda mwy uchelgeisiol a'r penderfyniadau cadarn y mae'r Bil yn ei addo, mae angen ystyried hyn. Rwy’n nodi bod argymhelliad 7 yn cael ei dderbyn mewn egwyddor, ac 8 yn cael ei dderbyn, ac yn edrych ymlaen at wneud y gwaith yn ôl yr addewid.
Rhaid i ni hefyd ymdrechu i ddarparu o fewn y Bil i sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn gyfrifol yn fyd-eang. Rwy'n gwybod fod hyn yn bryder nid yn unig i Blaid Cymru, ond mae clymblaid o gyrff o fewn bywyd dinesig Cymru wedi dod at ei gilydd i fynegi eu pryderon bod gweithredoedd i ddatblygu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy gaffael moesegol yn absennol. Mae'r glymblaid hon, sy'n cynnwys Cytûn, Maint Cymru ac Amnest Rhyngwladol eisiau i'r ymrwymiad hwn fod yn fwy amlwg, ac felly ar wyneb y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl ystyriaeth yn cael ei roi i hyn a mynd i'r afael â hi. I gyd-fynd â'n geiriau cynnes â gweithredoedd cynnes, mae hyn yn bwysig.
Nawr, hoffwn droi at elfen gaffael leol y Bil hwn. Rwy'n gwybod y gall caffael cyhoeddus ymddangos fel pwnc sych iawn, ond mae gan hyn y potensial, os cawn ni hyn yn iawn, i uwchgodi'r economi. Ni allwn adael i'r cyfle hwn fynd heibio. Mae caffael lleol, neu'r arian rydyn ni'n ei gadw o fewn ein ffiniau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu prynu gan y sector cyhoeddus, wedi bod yn bwnc llosg i fy mhlaid dros y degawd diwethaf. Nôl yn 2013 galwodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, ar y Llywodraeth Lafur i gyfateb lefelau caffael cyhoeddus yr Alban i greu 48,000 yn rhagor o swyddi i Gymru. Er mwyn cael yr hwb swyddi hwn, byddai wedi gofyn i Gymru fynd o gyfradd caffael cyhoeddus o 50 y cant i 75 y cant. Dychmygwch pe byddem ni’n gallu rhagori ar y ffigwr hwnnw a chyfateb cyfradd caffael cyhoeddus yr Almaen, a oedd ar y pryd yn 98.9 y cant.
Pe bai'r camau beiddgar hynny wedi'u cymryd bryd hynny, dychmygwch yr effaith y byddai hyn wedi'i chael ar greu swyddi, economïau lleol a ffyniant—byddai wedi bod yn seismig. Ers hynny, mae Cyngor Gwynedd, sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, wedi dangos beth sy'n bosib gydag agwedd gadarnhaol tuag at siopa'n lleol. Arweiniodd eu strategaeth o gadw'r budd yn lleol at hwb sylweddol mewn gwariant lleol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae caffael cyhoeddus ar flaen y gad yn agenda'r Llywodraeth hon o'r diwedd, diolch i Blaid Cymru a'r cytundeb cydweithredu. Cafodd hyn ei gynnwys yn benodol o ran polisi prydau ysgol am ddim, ond mae'r Bil hwn yn rhoi'r cyfle i ni ehangu cylch gwaith caffael cyhoeddus a chadw'r bunt Gymreig yn cylchredeg o fewn ein heconomi. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi swyddi lleol, cynhyrchwyr lleol, ffermwyr lleol a chymunedau lleol fynd y tu ôl i'r Bil hwn, a sicrhau ei fod mor eang, cadarn a buddiol â phosibl.
Felly fy nhri chwestiwn i'r Gweinidog: sut fydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn sicrhau bod lleisiau mudiadau bach yn cael eu clywed, a pha fecanweithiau sy'n cael eu hystyried? Sut bydd y Bil yn sicrhau bod y Llywodraeth yn darparu dull sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac a fydd telerau a tharged yn cael eu cynnwys ar wyneb y Bil? Ac rwyf wedi clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud am argymhellion 15 i 19. A oes modd gosod targed caffael o 75 y cant, sydd wedi bod yn bolisi i Blaid Cymru ers amser maith, i ganolbwyntio'r meddwl a sicrhau bod y Bil hwn yn uchelgeisiol pan ddaw at gaffael cyhoeddus? Diolch yn fawr.
Gweinidog, rwyf eisiau diolch i chi am ddod â'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Cyn cael fy ethol, roeddwn yn gwirfoddoli yn Cymru Gynaliadwy, ym Mhorthcawl, sydd yn elusen ar lawr gwlad sy'n annog pobl i weithio wrth i gymuned arwain ar ddatblygu cynaliadwy. Mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn greiddiol i'w gwaith o fewn cymunedau o'r fath, ac mae hefyd yn ymwneud â dadlau dros ymddygiad moesegol ym maes caffael. Felly, mae'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle i wella ei fframwaith drwy gydol gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod sefydliad anllywodraethol fel WWF Cymru, Amnest Rhyngwladol, Oxfam, Masnach Deg Cymru ac eraill wedi cymryd rhan mewn cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar y Bil, ac rwy'n gwybod eu bod hefyd wedi cydweithio i lunio nifer o argymhellion, gan gynnwys ar gaffael moesegol a chynaliadwy. Felly, Gweinidog, roeddwn i'n pendroni, pa ymgysylltu mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda chyrff anllywodraethol yn gweithio ar y Bil hwn, a beth y gall Llywodraeth Cymru ei ddysgu gan gyrff anllywodraethol sydd eisoes wedi ymgorffori partneriaeth gymdeithasol yn eu modelau gwaith? Diolch.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb nawr i'r ddadl—Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n teimlo dan bwysau yn yr amser sy'n weddill i mi ymateb beth bynnag, o ystyried yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ei bod yn grynodeb pan geisiais gwmpasu cymaint o'r ymatebion i welliannau â phosib. Roeddwn i'n awyddus iawn, mae'n debyg i lawer o anfad gan fy swyddogion, i wneud llawer o waith i ddarparu cymaint o'r rhesymeg y tu ôl i safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd ag y gallwn. Ond, a gaf i ddweud, yn ogystal, oherwydd fy mod yn cydnabod y cyfyngiadau ar amser y prynhawn yma, y byddwn i’n hapus i ymateb yn ysgrifenedig i bob un o'r Cadeiryddion pwyllgor i nodi'r pwyntiau hynny yn fanylach i chi hefyd. Rwyf eisiau ymuno gyda'r hyn a ddywedodd Jenny o ran diolch i'r unigolion a'r sefydliadau a roddodd dystiolaeth. Roedd ymgysylltu enfawr ynghylch y ddeddfwriaeth hon, sydd i'w groesawu, ac mae'n adlewyrchid cadarnhaol iawn, rwy'n credu, o'r gefnogaeth ehangach sydd i'r Bil fel yr ydym wedi'i nodi.
Rydw i’n mynd i droi'n fyr iawn at un o'r pwyntiau wnaeth Jenny, Cadeirydd y pwyllgor, a hynny o ran y pwynt i dderbyn argymhelliad 7 mewn egwyddor. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n gweithio gyda—. Y rheswm dros dderbyn mewn egwyddor oedd oherwydd bod angen i ni weithio gyda phartneriaid i gyrraedd sefyllfa lle gall hynny weithio'n ymarferol hefyd. Rwyf wedi cael sgyrsiau ar wahân gyda sefydliadau fel y Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd ar hynny.
Gan droi at gyfraniad Huw Irranca-Davies fel Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad, diolch yn fawr, mewn gwirionedd, am y cyfle i roi tystiolaeth ysgrifenedig pan nad oeddem ni’n anffodus yn gallu cadw at y dyddiad gwreiddiol o dystiolaeth lafar. Rwy'n credu eich bod wedi codi ar nifer o bwyntiau a godais eisoes ar gychwyn fy nghyfraniad, ond dim ond ar argymhelliad 7 neu 8, mae'r ymrwymiad hwnnw yno i ysgrifennu at y pwyllgor ac i ymgysylltu ymhellach ar hynny yn ystod proses y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen. Roeddwn i'n hoffi'r rhyddid y gwnaethoch chi ei gymryd o ran tynnu eich het Cadeirydd pwyllgor i ffwrdd—[Torri ar draws.] Oes, wel, manteisiwch ar bob cyfle; byddai'n esgeulus ohonoch chi i beidio. Ar y pwynt wnaethoch chi am adroddiad CLES a'r potensial o ran perchnogaeth gweithwyr, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ac i drafod hynny. Efallai nad y ddeddfwriaeth hon yw'r cyfrwng mwyaf priodol ar ei gyfer, ond mae'n bendant yn fenter sy'n werth ei hystyried. Mewn gwirionedd, roeddwn i mewn digwyddiad—crwydrais dros y ffin dros y penwythnos i Preston, i gynhadledd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Roedden ni'n siarad am adeiladu cyfoeth cymunedol, ac roedd Richard Leonard, Aelod o Senedd yr Alban, yno'n siarad amdano—ac efallai bod eich enw chi wedi cael ei grybwyll mewn cenadwri, Huw—y potensial yn y fan yna o ran cwmnïau cydweithredol gweithwyr a pherchnogaeth gweithwyr. Felly rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i'r cyfarfod hwnnw i drafod sut y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith mewn perthynas â hynny.
Gan droi nawr at Peter Fox, diolch yn fawr iawn am gamu i mewn a'ch cyfraniad ar ran y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â llawer o'r pwyntiau yn fy sylwadau agoriadol, ond, fel y dywedais i, hoffwn ymrwymo eto i ymateb yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid. A dim ond cwpl o bethau eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw: rwy'n meddwl amser staff a hyfforddiant ychwanegol a chael y wybodaeth honno, y waelodlin ddata ochr yn ochr â'r gwaith—. Yn amlwg, mae yna heriau o ran cael y wybodaeth yna cyn i bethau gael eu hymgorffori o ran y dyletswyddau. Ond, ochr yn ochr â hynny—ac rwy'n credu i mi sôn amdano wrth un o'r pwyllgorau, ond mewn gwirionedd dydw i ddim yn cofio nawr pa un oedd o, oherwydd fy mod i wedi bod mewn sawl sesiwn tystiolaeth pwyllgor fel rhan o'r broses hon—rydyn ni'n gwneud rhywfaint o waith i edrych ar hyfforddiant gyda staff mewn gwirionedd, ond hefyd yr effaith, efallai, o ran pethau fel amser cyfleuster. Rydym ni’n cynnal arolwg, ar hyn o bryd, gyda'r gwahanol sefydliadau, i gael mesurydd gwell ar hynny, fel y gwnes i ymrwymo i un o'r pwyllgorau y byddai angen i ni ei wneud i gael y waelodlin honno, i allu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Os gwnaf i efallai droi yn awr at gyfraniad Joel James. Byddwn i'n chwilfrydig i weld pwy yw'r cyrff allanol hyn mae'n dweud ei fod wedi ymgynghori â nhw. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ar hynny, mae'r cynnig yn dal yn agored i gael briff ynghylch y ddeddfwriaeth, i drafod ei bryderon yn ei gylch. Rhaid i mi ddweud, Llywydd, mae'n siomedig ond ddim yn syndod. Mae pob un ohonom ni yma wedi clywed y sylwadau gynt nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi deddfwriaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus a lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru, a hefyd grym y pwrs cyhoeddus i wneud gwahaniaeth i bobl a llefydd.
Gan droi'n fyr yn awr at gyfraniad Peredur—
Ie, yn gryno, os allwch chi, Gweinidog. Rydych chi allan o amser.
Rwyf bron â gorffen, peidiwch â phoeni.
Diolch o galon am hynny, Peredur. Mae'r ymrwymiad hwnnw yno i weithio ar yr uchelgeisiau cyffredin hynny sydd gennym ni, i gael yr effaith hwnnw mewn gwirionedd—. Fel y gwnaethoch chi ddweud, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n cynhyrfu cymaint wrth siarad am gaffael cyhoeddus, ond mae'n un o'r ysgogiadau sydd â'r potensial enfawr hwnnw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn gyflym iawn, oherwydd dydw i ddim eisiau gadael Sarah Murphy allan, a gaf i ddiolch i Sarah am ei chyfraniad? Rwy'n gwybod ei fod yn cyfeirio at elfen o'r ddeddfwriaeth, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sut mae'n berthnasol i sefydliadau y tu allan i Gymru, ond, mewn gwirionedd, nid yw'n eithrio sefydliadau rhag cynnwys eu caffael sy'n gymdeithasol gyfrifol—pethau fel mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, ond hefyd yn ymwneud â chanlyniadau amgylcheddol. Rwyf wedi gweld yr adroddiad rwy'n credu yr oedd yr Aelodau yn sôn amdano, ac nid yr argymhelliad yn unig, ond y llythyr a ddaeth gan nifer o sefydliadau, ac rwy'n ymrwymo i gwrdd â nhw i drafod hynny ymhellach, wrth i ni symud i gamau nesaf y ddeddfwriaeth.
A gaf i gau drwy ddweud, 'diolch yn fawr' i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth, wrth i ni symud ymlaen gyda'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, a gan fod yna wrthwynebiad i hynny, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais, a hefyd y bleidlais ar y penderfyniad ariannol, tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, a dwi'n mawr obeithio nad oes, byddwn ni'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.