3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi

– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:53, 29 Tachwedd 2022

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ar gyhoeddi’r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Logan Mwangi, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Julie Morgan.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae marwolaeth unrhyw blentyn yn achos tristwch mawr ac rwyf i am ddechrau drwy fynegi fy nhristwch dwfn yn sgil marwolaeth Logan Mwangi, ac achub ar y cyfle hwn i gydymdeimlo yn ddiffuant â Mr Ben Mwangi a theulu Logan yn fwy eang yn eu colled ddirdynnol.

Mae cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf o'r adolygiad o ymarfer plant yn dilyn llofruddiaeth Logan, rwy'n siŵr, wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i dad a theulu Logan, yn enwedig gan fod hynny wedi tynnu rhagor o sylw at fanylion eraill ynghylch y digwyddiadau a wnaeth arwain at farwolaeth Logan ar oedran mor gynnar. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr ag ef a phob un a gafodd ei effeithio gan farwolaeth Logan.

Rwyf i wedi darllen yr adroddiad yn ofalus iawn ac rwy'n deall ac yn derbyn y themâu ar gyfer dysgu a'r argymhellion sydd wedi cael eu gwneud. Ar hyn o bryd, ni fyddai hi'n briodol i mi ymateb gyda manylder i'r holl argymhellion a wnaethpwyd, gan fod angen sgyrsiau pellach gyda darparwyr gwasanaethau. Eto i gyd, rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i wneud popeth sydd yn fy ngallu i amddiffyn plant ac erlyn yn y llysoedd y rhai sy'n peri'r archoll a'r dioddefaint mwyaf ofnadwy i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac fe fyddaf i'n rhoi gwybod i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:55, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Nid pwrpas yr adolygiad ymarfer plant yw cynnal ymchwiliad, ond ystyried ein gwasanaethau ni a'n cynorthwyo ni i ddysgu beth allwn ni ei wneud i wella yr hyn y gallwn ni ei wneud i amddiffyn plant. Rwy'n ddiolchgar i'r panel adolygu am sicrhau eu bod yn ystyried meysydd dysgu a nodwyd mewn adolygiadau eraill ledled Cymru a Lloegr wrth gynnal yr adolygiad ymarfer plant hwn. Mae hi'n iawn i ni barhau i ystyried dysgu o ddigwyddiadau trasig eraill wrth lunio'r dull gweithredu sy'n ofynnol i wneud gwelliannau i sicrhau diogelwch plant yng Nghymru.

Fodd bynnag, y ffaith drist a chyson amdani yw bod adolygiadau o'r fath yn rhannu, mewn llawer o achosion, themâu tebyg, yn enwedig ynghylch yr heriau o ran rhannu gwybodaeth a data rhwng asiantaethau, a materion ynghylch systemau a phrosesau, a phryderon ynglŷn ag arweinyddiaeth a diwylliant. Fe fyddem ni i gyd yn dymuno gweld byd lle na allai digwyddiadau fel rhain fyth ddigwydd ac mai hwn fyddai'r achos olaf o'i fath. Mae'r ffaith nad ydym ni'n gallu gwybod pob amser pwy yw'r unigolion a allai weithredu fel y rhai a gafwyd yn euog o lofruddiaeth Logan yn awgrymu na fydd hwn yr olaf. Serch hynny, ni ddylai hynny ein hatal ni rhag gwneud popeth sydd yn ein gallu i leihau'r perygl i'r fath raddau ag y gallwn ni a chynnig y cymorth sydd ei angen ar blant yn sefyllfa Logan ac y maen nhw'n ei haeddu.

Mae'r adolygiad yn dangos yn eglur fod cyfle i wella ymarfer. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y pedair thema dysgu allweddol a nodwyd yn yr adolygiad y mae'n rhaid eu hystyried gyda'r un gofal a brys â'r 10 argymhelliad lleol a'r pum argymhelliad cenedlaethol a nodwyd. Disgrifir y themâu dysgu a nodwyd yn yr adroddiad fel rhai cyfundrefnol ac nid achosion ynysig o wall unigol neu arfer gwael mohonyn nhw. Mae hi'n eglur o'r adolygiad nad yw'r argymhellion yn cael eu neilltuo i un asiantaeth unigol. Mae diogelu plant yn gofyn am ddull amlasiantaeth ac, o'r herwydd, mae'n rhaid i'r holl gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r themâu dysgu hyn a gweithredu'r argymhellion gael eu cyflwyno gyda'i gilydd, ar sail cyfrifoldeb a rennir.

Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn nodi'r dyletswyddau statudol sydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Tra bod yn rhaid i'r asiantaethau hyn, wrth gwrs, gadw at ddeddfwriaeth o'r fath bob amser, byddaf yn ceisio cryfhau'r dulliau fel bod asiantaethau yng Nghymru yn cydweithio â'i gilydd yn fwy agos i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol. Mae cyfrifoldeb gan bob un ohonom ni i weithredu'r hyn a ddysgwyd a nodir yn yr adolygiad ymarfer plant hwn a gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r camau sydd eu hangen i greu newid yn y systemau y mae ein gweithwyr proffesiynol yn gweithio ynddyn nhw a'u cefnogi i gyflawni eu gwaith. Rwy'n disgwyl i'r holl asiantaethau perthnasol ystyried yr adolygiad ymarfer plant yn ei gyfanrwydd, a chymryd camau ar unwaith i ystyried sut mae pob thema ac argymhelliad yn berthnasol iddyn nhw, a nodi sut y gellir gweithredu'r themâu a'r argymhellion dysgu o fewn y meysydd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. Byddaf yn cysylltu ag uwch arweinwyr asiantaethau sydd â chyfrifoldeb wrth fwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad i ganfod eu cwrs gweithredu arfaethedig o ran eu hymateb i'r adolygiad ymarfer plant.

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth strategol allweddol o ran amddiffyn plant, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, ac rwy'n derbyn fy swyddogaeth i yn llwyr yn hynny o beth, fel Gweinidog. Yng ngoleuni'r adolygiad hwn ac yn dilyn adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a gwaith sydd eisoes ar y gweill o ran ein rhaglen i drawsnewid gwasanaethau plant a meysydd eraill, byddaf yn cyflymu gwaith ar fframwaith ymarfer cenedlaethol i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau gyda gwasanaethau plant. Bydd y fframwaith yn sylfaen allweddol ar gyfer ein dulliau o weithio yng Nghymru er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant mwyaf agored i niwed. Fe fydd yn ein helpu ni i fod â mwy o gyffredinrwydd a gweithio mewn ffordd fwy di-dor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol er mwyn cefnogi plant i aros gyda'u teuluoedd, a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth i ni newid i addasu gwasanaethau ar gyfer pobl, ac nid addasu pobl ar gyfer gwasanaethau.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cytuno i gynnal adolygiad cyflym o strwythurau a phrosesau sydd ar waith i lywio penderfyniadau ynghylch sut mae plentyn yn cael ei ychwanegu at neu ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant, ac fe fyddaf i'n gweithredu ar eu canfyddiadau nhw, yn ôl yr angen. Rwy'n ymwybodol o'r galwadau am ymchwiliad annibynnol i wasanaethau plant yng Nghymru. Gan fy mod wedi darllen yr adolygiad ymarfer plant erbyn hyn, rwyf i'n parhau i fod wedi fy argyhoeddi mai nawr yw'r amser i weithredu ac nid i adolygu ymhellach. Lluniwyd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad ymarfer plant gydag ystyriaeth o adolygiadau eraill yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhaid i ni flaenoriaethu gwneud yr hyn a allwn ni nawr a pheidio ag aros am adroddiad arall i ddweud yr hyn yr ydym ni'n gwybod yn barod y mae'n rhaid i ni ei wneud.

I wella'r dull amlasiantaeth a amlinellais i heddiw, rwy'n dymuno atgoffa'r Aelodau ein bod ni ar gamau olaf datblygu'r adolygiad diogelu unedig sengl, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru. Datblygwyd yr adolygiad diogelu unedig sengl i leihau'r angen am nifer o adolygiadau oherwydd un digwyddiad unigol, gan alluogi cwblhau adolygiadau yn gyflymach, megis adolygiadau ymarfer plant ac oedolion, i nodi a gweithredu'r holl ddysgu ar fwy o gyflymder a hynny ym mhob cwr o Gymru. Fe fydd y canllawiau statudol drafft i gefnogi'r adolygiad diogelu unedig sengl yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd.

Er nad yw hi'n arfer arferol i ymateb i adolygiadau ymarfer plant, roeddwn i a fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o'r farn ei bod hi'n gwbl briodol cydnabod cyhoeddiad yr adolygiad hwn, ac fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro yn bersonol i Mr Ben Mwangi a'i deulu am y methiannau a gyfrannodd at farwolaeth drasig Logan mor ifanc. Diolch.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 3:01, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch yn fawr iawn am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, a diolch i chi am ddod i'w gyflwyno ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Cyn i mi ddechrau prif neges fy ymateb i'ch datganiad chi, fe hoffwn i fynegi ar goedd y prynhawn yma fy nghydymdeimlad diffuant â Ben Mwangi, a theulu a ffrindiau Logan a'i holl rwydwaith cymdeithasol, sydd i gyd wedi cael eu heffeithio gan y llofruddiaeth ofnadwy a thrist iawn hon. Yn dad i fachgen ifanc o oedran tebyg, mae meddwl am y boen a'r dioddefaint y byddai ef wedi ei ddioddef yn fy nychryn i'r byw. Pa bynnag brosesau Llywodraeth ac awdurdod lleol y byddwn ni'n eu rhoi ar waith, ni wnaiff hynny fyth â lleihau'r anfadwaith hwn na ffieidd-dra'r bobl a gyflawnodd hyn dros gyfnod maith o gam-drin, esgeulustod ac, yn wir, llofruddiaeth hefyd. Ac rwy'n falch o weld bod y lefel briodol o gyfiawnder wedi ei rhoi iddyn nhw a'u bod nhw, yn wir, yn cael eu cadw hyd y mynno Ei Mawrhydi—hyd y mynno Ei Fawrhydi, fe ddylwn i ddweud.

Gallwn ni i gyd gytuno bod yr hyn a ddigwyddodd i Logan Mwangi yn drasiedi, na ddylai fyth fod wedi digwydd ac yn rhywbeth y dylem ni geisio sicrhau na fydd fyth yn digwydd eto. Roedd modd atal marwolaeth Logan pe byddai methiannau'r cyngor wedi cael eu nodi ar gam cynharach a phe cymerwyd camau eraill wedyn. Mae'r adroddiad ar achos Logan yn dangos bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r bai ar COVID am rai o'i ddiffygion ei hun, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol yn methu â dilyn canllawiau'r Llywodraeth oherwydd nad oedden nhw'n ddigon eglur nac ymatebol i sicrhau diogelu priodol ar gyfer plant agored i niwed, yn ystod pandemig COVID. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn derbyn, pe byddai'r cyfarpar diogelu personol cywir wedi bod ar gael iddyn nhw, yna fe fyddai staff gofal cymdeithasol wedi gallu asesu Logan 24 awr yn unig cyn ei farwolaeth? Ac a yw'r Dirprwy Weinidog yn nodi'r diffyg arweinyddiaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld drwy'r celwyddau'r oedd y drwgweithredwr yn eu palu—mai COVID oedd y rheswm na ellid gweld Logan, i dynnu sylw oddi wrth sylwedd yr hyn a oedd yn digwydd mewn gwirionedd?

Fe wnaeth COVID effeithio ar bob gwasanaeth y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, ond mae'r methiant i uwchgyfeirio sefyllfa Logan, er gwaethaf y dystiolaeth sylweddol fod angen cefnogaeth arno, yn dangos bod prinder staff mewn adrannau yn profi'r pryderon fod y cyngor yn rhy ddibynnol ar weithwyr asiantaeth. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod yr orddibyniaeth ar staff asiantaeth yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a pha drafodaethau a gawsoch chi, neu a fyddwch chi'n eu cael yn y dyfodol gyda'r awdurdod i recriwtio gweithwyr llawn amser i'r adran gwasanaethau cymdeithasol?

Ac, yn ogystal â hynny, mae'r diffyg rhannu gwybodaeth wedi tynnu sylw at ddiwylliant o reolaeth dra awdurdodol, a oedd yn golygu nad oedd staff iau yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan staff uwch, fel mewn llawer o broffesiynau, fel profodd yr achos hwn. Ni ddylai staff fyth deimlo'n ofnus ac fe ddylen nhw deimlo eu bod nhw'n rhan o dîm a phob un yn cydweithio yn y broses honno o wneud penderfyniadau. Ac yn ogystal â hynny, bod yn rhaid i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddysgu gwersi sylweddol o argymhelliad yr adroddiad, mae hi'n amlwg bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu adolygiad ledled Cymru o wasanaethau plant i sicrhau na fydd hyn fyth yn digwydd eto. Mae angen arweinyddiaeth a Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog sy'n gyfrifol am hynny, ac fe ddylen nhw sicrhau nad Cymru yw'r unig genedl ar ôl yn y DU heb adolygiad plant ledled y wlad.

Felly, a wnewch chi ailystyried eich penderfyniad chi i beidio â chynnal adolygiad ledled Cymru o wasanaethau plant, a rhoi gwarantau cadarn i bob plentyn, rhiant a gofalwr ar draws y 22 awdurdod fod y Llywodraeth hon yng Nghymru ar eu hochr nhw ac yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddiogelu pob plentyn ledled Cymru, oherwydd mae'n anffodus bod Llywodraeth Cymru yn atal adolygiad o'r fath pan mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf yn y DU o blant yn derbyn gofal? Fe hoffwn i, yn olaf, annog y Llywodraeth i newid cyfeiriad cyn i ni beryglu trychineb arall eto fel un Logan Mwangi. Diolch i chi.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:06, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i Gareth am ei sylwadau a diolch iddo am fynegi ei dristwch am y drasiedi hon, gan gydnabod mai, yn y pen draw, y tri unigolyn hynny a garcharwyd sy'n gyfrifol. Rwy'n credu bod mater COVID yn fater pwysig ac, yn sicr, mae'r adolygiad yn cyfeirio at COVID ar sawl achlysur. Rwy'n credu ei fod wedi ei gwneud hi'n fwy anodd oherwydd, yn sicr, roedd pob un o'r cynadleddau achos yn rhai rhithwir ac, o ran siarad â Logan yn y cnawd, fe achosodd rai anawsterau—y ffaith bod cyfyngiadau COVID yn weithredol. Ond, rwy'n credu bod yna ganllawiau clir ynglŷn â sut y dylech chi weithredu, o ran amddiffyn plant, felly nid wyf o'r farn y gallwn ni ddweud mai ar COVID yr oedd y bai i gyd am yr hyn a ddigwyddodd.

Ond, yn sicr fe effeithiodd COVID yn sylweddol ar y gweithlu. Fe wyddom ni fod llawer wedi bod yn absennol oherwydd salwch, felly roedd y straen ar y gweithlu yn waeth nag arfer. Ond, eto, nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi ddweud, pe byddai rhywbeth wedi bod yn wahanol, yna ni fyddai hyn wedi digwydd. Mae yna orddibyniaeth ar staff asiantaeth, ac rydym ni'n gwneud ein gorau glas i ddenu mwy o weithwyr cymdeithasol. Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi cyflwyno'r bwrsari i annog gweithwyr cymdeithasol i ymuno ac aros, gan geisio rhoi mwy o gysylltiad rhyngddo a'r bwrsariaethau yn y gwasanaeth iechyd. Rydym ni wedi rhoi cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol hefyd, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod pa mor anodd yw swyddi gwaith cymdeithasol. Roeddwn i'n weithiwr cymdeithasol fy hunan, felly yn sicr rwy'n gwybod am y straen enfawr sydd ar weithwyr cymdeithasol, ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi nhw mewn swydd sydd mor anodd.

Roedd Gareth yn cyfeirio at rannu gwybodaeth, sef mater cwbl allweddol, a hefyd bod staff iau ag ofn herio, ac fe gyfeiriwyd at hynny yn yr adroddiad. Rwy'n credu mai dyma un o'r gwersi y mae'n rhaid ei dysgu o'r adroddiad; roedd yna themâu o ran dysgu yn codi o'r adroddiad ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y diwylliant yn newid yn y sefydliadau yr atgyfeirir atynt.

O ran adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru, rwyf i eisoes wedi dweud fy mod i'n derbyn yr holl argymhellion sydd yn yr adroddiad. Yn sicr, nid ydyn nhw i gyd yn berthnasol i Lywodraeth Cymru, felly fe fydd yn rhaid i mi eu derbyn a gweithio gyda'r asiantaethau partner i wneud yn siŵr ein bod ni'n symud ymlaen i weithredu'r argymhellion hynny. Rwy'n teimlo ar hyn o bryd na fyddai adolygiad o wasanaethau cymdeithasol i blant o gymorth i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn gwirionedd, oherwydd cymerodd yr un yn Lloegr 16 mis; rwy'n rhagweld y bydd yr un sydd am ddigwydd yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd 16 mis. Mae llawer o'r pethau a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiadau hynny yn rhai sy'n cael eu hadleisio yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac yn cael eu hadleisio yn yr adolygiad hwn.

Felly, mae'r argymhellion yr ydym ni'n eu derbyn yn rhai pellgyrhaeddol, sy'n ystyried sut mae cynadleddau achos yn cael eu cadeirio a llawer o argymhellion pwysig iawn eraill. Rwy'n credu bod hynny, ynghyd â'r gwaith a'r adolygiadau a wnaethom ni eisoes, yn rhoi sylfaen dda iawn i ni ddechrau gweithio ar hyn nawr. Ac nid wyf i o'r farn y byddai cael adolygiad pellach ar hyn o bryd o gymorth gwirioneddol, felly rwyf i o'r farn mai dechrau gweithio nawr sydd ei angen arnom ni. Diolch i chi.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:10, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ddechrau, efallai, trwy fyfyrio ar eiriau cyn-brifathro Logan Mwangi amdano, a oedd yn ei alw yn 'fachgen bach annwyl' gyda 'gwên ddireidus' a oedd 'wrth ei fodd yn siarad'. Yn aml, rydym ni'n anghofio am Logan ei hun. Rydym ni i gyd wedi gweld lluniau ohono, ond roedd clywed am ei bersonoliaeth a pha mor hapus yr oedd yn yr ysgol, yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd ei fam yn ei ddweud, roedd yn ymddwyn yn yr ysgol ac yn mwynhau ei hun yno, ac eto, fe ddaeth ei fywyd i ben yn resynus o ifanc gan y rhai hynny a ddylai fod wedi bod yn ei warchod a'i garu ac yn gofalu amdano—. Rwy'n adleisio'r holl deimladau a fynegwyd eisoes gan y Dirprwy Weinidog a Gareth Davies o ran meddwl yn arbennig am ei dad, a'i deulu a'i ffrindiau, gan deimlo trueni nad oedden nhw wedi gallu ymyrryd ychwaith, fel llawer, llawer iawn o'r rhai a ddaeth i gysylltiad ag ef, rwy'n siŵr, yn ei deimlo hefyd o ddarllen yr adolygiad.

Rwy'n credu mai'r hyn a'm trawodd i wrth ddarllen yr adolygiad oedd y ffaith bod llawer o gyfleoedd wedi eu colli i'w amddiffyn, ac yn hollbwysig fe fynegwyd nad oedd llais Logan wedi cael ei glywed, nad oeddem ni wedi gwrando ar y bachgen bach hwn, er ein bod ni yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod hawliau'r plentyn yn llwyr—bod pob plentyn yn ymwybodol o'r rhain. Ac eto, dyma ni: dyma blentyn na chlywyd ei lais.

Felly i mi, fe hoffwn i fod â mwy o eglurder heddiw. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymateb o ran pwynt Gareth Davies o ran ymchwiliad annibynnol, ond nid wyf i'n deall pam nad yw'r ymchwiliad annibynnol hwnnw'n mynd rhagddo. Nid yw bodolaeth adolygiadau pellach cyfredol yn eich rhwystro chi rhag gallu rhoi'r argymhellion hyn ar waith. A thro ar ôl tro ers i mi gael fy ethol yma, rwyf i wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud na fydd gennym ni ymchwiliad annibynnol i COVID, ac yn gwrthod galwadau am ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020, er bod adolygiad gennym ni yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid. Felly beth allai'r amgylchiadau fod a fyddai'n gwneud i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad annibynnol, os nad mewn achosion fel hyn? Mae hyn er mwyn edrych ar bethau yn eu llawnder, ac fe all hynny ystyried hefyd y camau a gymerwyd eisoes, a ddysgwyd o adolygiadau eraill.

Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i oedd clywed y comisiynydd plant yn dweud ein bod ni wedi gweld yr argymhellion eisoes mewn adroddiadau blaenorol. Rydym ni wedi clywed ymrwymiadau o'r blaen yn dweud y bydd gwersi yn cael eu dysgu ac y bydd newidiadau, ac eto mae'r argymhellion hyn yn parhau i ddod i'r golwg. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall o ymchwiliad pam allai hynny fod. Felly, rwyf i am ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, ailystyried, oherwydd nid pwynt gwleidyddol mohono; nid y fi sy'n dweud hyn, dyma y mae arbenigwyr yn ei ddweud wrthym ni, dyma y mae gweithwyr cymdeithasol ar lawr gwlad yn ei ddweud wrthym ni, dyma y mae'r NSPCC wedi bod yn ei ddweud wrthym ni. Felly, mae hynny'n rhywbeth pwysig rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni fod yn agored iddo—craffu ac ymchwiliadau annibynnol—ac rwy'n bryderus, unwaith eto, o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud nad yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu.

Fe hoffwn i sôn hefyd am alwad NSPCC Cymru am fap ffordd eglur a llawn o ran adnoddau ar gyfer trawsnewid gofal cymdeithasol plant. Maen nhw wedi gofyn yn y briff a roddwyd ganddyn nhw i bob un ohonom ni i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi map ffordd manwl, cwbl eglur o drawsnewid gofal cymdeithasol plant, gyda chanlyniadau mesuradwy, o fewn y chwe mis nesaf. A yw hyn yn rhywbeth y gall y Dirprwy Weinidog ymrwymo iddo heddiw?

Roeddwn i'n awyddus i ystyried hefyd un agwedd bryderus yn yr adroddiad lle'r oedd yn cyfeirio yn arbennig at hil ac ethnigrwydd Logan, gan sôn am dreftadaeth ei dad, Ben Mwangi, sy'n dod o Kenya, a'r rhan yn yr adroddiad sy'n dweud,

'Nid oedd gweithwyr proffesiynol wedi archwilio yn llawn gyd-destun...hil ac ethnigrwydd' yn yr achos hwn. Wel, fe wyddom ni, ar draws y Llywodraeth, ein bod ni wedi ymrwymo i weithio tuag at Gymru wrth-hiliol, ond unwaith eto, yn yr achos hwn, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n dod drwodd yn gryf yn natganiad heddiw ychwaith, ond mae'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ystyried a sicrhau ei fod yn flaenaf ym meddyliau pawb sy'n dod i gysylltiad â phlentyn mewn amgylchiadau fel hyn. Felly, o ran safbwynt Plaid Cymru, rydym ni'n dymuno gweld ymchwiliad annibynnol. Rydym ni'n llwyr gefnogi'r newidiadau sy'n cael eu gweithredu, ond rydym ni'n pryderu, o wybod, fel roedd asiantaethau yn eu codi nhw gyda ni, y pryderon ynghylch diffyg strategaeth tlodi plant yma yng Nghymru, gan wybod, gyda'r argyfwng costau byw hefyd, y bydd mwy o deuluoedd yn eu cael eu hunain mewn amgylchiadau anodd, gyda pherygl mwy o gamdriniaeth ac esgeulustod i blant. Felly, a gaf i ofyn i chi ailystyried eich safbwynt o ran yr ymchwiliad annibynnol hwnnw, a gweithredu'r argymhellion, ond, os gwelwch yn dda, symudwch ymlaen hefyd o ran yr ymchwiliad annibynnol hwnnw? 

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:15, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, Heledd, am y cyfraniad yna, a diolch am gychwyn drwy ein hatgoffa ni o'r bachgen bach hyfryd a gollwyd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio hynny, ac am sôn hefyd am yr hyn a ddywedodd ei brifathro, achos rwy'n credu eich bod chi i gyd wedi nodi'r ganmoliaeth a roddwyd i'r ysgol yn yr adroddiad, a'r ffaith i'r ysgol wneud ymdrechion mawr i gadw mewn cysylltiad ag ef yn ystod COVID—ymweld â'i gartref ac anfon gwaith iddo ei wneud, ac anfon tedi, un o'r tedis y maen nhw'n eu defnyddio mewn ysgolion i helpu plant i siarad am eu teimladau. Ac felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio hynny.

Do, fe gollwyd cyfleoedd. Rwyf i o'r farn bod hynny'n gwbl eglur. Mae'r adroddiad yn dweud y collwyd y cyfleoedd hynny, ac mae eu hargymhellion nhw'n mynd i'r afael â hynny. Ac ni chafodd lais Logan ei glywed, ac rwy'n credu o ran hil, mae'r adroddiad yn dweud, ac mae honno'n sicr yn ffaith, na roddwyd digon o ystyriaeth i'r hyn yr oedd Logan yn ei deimlo wrth fod yn byw fel yr unig blentyn o'i ethnigrwydd mewn teulu ac mewn amgylchedd lle'r oedd pawb arall yn wyn. Ni chafodd hynny ei archwilio, yn sicr, ac rwyf i o'r farn bod hwnnw'n fater pwysig.

Rydym ni'n trawsnewid gofal cymdeithasol. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol iawn, ac mae rhai ohonyn nhw'n rhan o'r cytundeb cydweithredu y byddwn ni'n cydweithio arnyn nhw, ac rydym ni'n benderfynol o wneud hynny. Rydym ni'n bwriadu gweithredu ar rai ohonyn nhw erbyn diwedd y tymor hwn, felly yn sicr, mewn ymateb i'r NSPCC, rwy'n gallu ymateb bod rhai rhannau o'n rhaglen ni wedi cael eu cynllunio i ddigwydd yn ystod y tair blynedd a hanner nesaf, i'w cwblhau erbyn hynny.

Ond gan droi yn ôl at yr ymchwiliad i'r gwasanaethau cymdeithasol, nid wyf i'n teimlo y byddai hynny o lawer o gymorth ar hyn o bryd, mewn gwirionedd. Rwyf i o'r farn ein bod ni'n gwybod beth yw'r trafferthion, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld llawer o ymchwiliadau yma eisoes yn y Senedd. Fe allaf i fynd drwyddyn nhw—rhestr gyfan o ymholiadau a gynhaliwyd. Dim ond edrych ar y rhain—yr adolygiad argyfwng gofal gan y Grŵp Hawliau Teulu; 'Ganed i ofal' Sefydliad Nuffield; Adroddiad ac argymhellion gweithgor Cyfraith Cyhoeddus Cymru. Pethau diddiwedd sydd wedi digwydd. Rwyf i o'r farn bod yn rhaid i ni fwrw ymlaen gyda'r camau hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:18, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fe ddylai Logan Mwangi fod yn fyw ac iach heddiw, ac yn cael ei fagu mewn teulu a chymuned gariadus, ofalgar. Fe ddylai Ben Mwangi a'i deulu fod yn gofalu amdano. Fe ddylai cymuned addysgu Ysgol Gynradd Tondu fod yn gafael amdano, fel gwnaethon nhw, fel roedden nhw'n ceisio ei wneud. Mae hi'n iawn fod llofruddion creulon Logan Mwangi yn y carchar am amser maith, ond mae hi'n iawn hefyd ein bod ni'n croesawu pa mor drylwyr yw'r adroddiad hwn, nad yw wedi dal yn ôl rhag mynegi barn onest, rhag mynd yn fforensig ar ôl pob manylyn y mae angen mynd ar ei ôl. Er cymaint braw ac arswyd y llofruddiaeth i bawb a ddarllenodd amdani, yn yr un modd, wrth i chi fynd trwy'r adroddiad, manylion y cyfleoedd lluosog aflwyddiannus i ymyrryd ar y foment gywir—ac nid un unigolyn nac un asiantaeth mo hyn; bu sawl cyfle—ac, fel mae eraill wedi dweud, rydym ni wedi gweld colli cyfleoedd fel hyn o'r blaen hefyd mewn amgylchiadau eraill dros lawer o flynyddoedd.

Mae yna gyfres o argymhellion, Gweinidog, ar lefel leol ar gyfer yr holl asiantaethau dan sylw ac ar gyfer y dull amlasiantaeth ar lefel leol, ond rhai sylweddol ar lefel genedlaethol hefyd. Ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad chi, Gweinidog, i gymryd camau nawr mewn gwirionedd, i fwrw ymlaen â hi a gwneud y gwelliannau ar hyn o bryd, ar lefel genedlaethol. Mae hynny'n cynnwys canllawiau penodol i ymarferwyr amddiffyn plant o ran eu dyletswydd nhw—eu dyletswydd nhw—i hysbysu a chynnwys pob unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant mewn asesiadau a phrosesau amddiffyn plant; bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad ledled Cymru o ddulliau o ymdrin â chynadleddau amddiffyn plant—dyma un o'r pethau sy'n cael ei dynnu allan o'r adroddiad hwn, sef methiant y cynadleddau amlasiantaeth hynny i nodi a chymryd y camau priodol—ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â sut i roi gwybod am bryderon o ran diogelu. Oherwydd mae llawer o bobl yn y gymuned hon yn dweud, 'Sut y gwnaethom ni fethu â gweld hyn?' Ond hefyd, 'Pe byddai rhywbeth tebyg yn digwydd eto, sut ddylem ni roi gwybod?' Felly, Gweinidog, rwyf i eisiau gofyn i chi sut y byddwch chi'n symud ymlaen â'r argymhellion hynny ar lefel leol a chenedlaethol, sut y byddan nhw'n cael eu monitro, sut y bydd hyn yn cael ei fwydo yn ôl yma i Lywodraeth Cymru, ond i'r Senedd hefyd, er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd i bobl. Ni allwn ni fyth â dweud, 'Ni fydd hyn yn digwydd byth eto'. Fe hoffwn i ddweud hynny, ond rydym ni'n gwybod na allwn ni. Ond yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w ddweud wrth bobl yw: fe fyddwn ni'n gwneud ein gorau glas i wneud popeth er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:21, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad hwnnw ac, wrth gwrs, am mai ef yw'r Aelod lleol, mae ganddo ef wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ran y teulu a'r gymuned hon. Ac fe allaf ei lwyr sicrhau y bydd y pum argymhelliad cenedlaethol—y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r rhannau hynny o'r argymhellion sy'n cyfeirio atom ni, ac fe fyddwn ni'n eu cyflwyno yn gyflym ond yn drylwyr. Ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau eu bod nhw'n bwrw ymlaen â'r argymhellion ar eu cyfer hwythau hefyd. Rwy'n sylwi ei fod ef, ar y diwedd, wedi cyfeirio yn arbennig at ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol, ac rwy'n benderfynol iawn y byddwn ni'n gwneud hyn. Fe wnaethom ni hyn o'r blaen mewn gwirionedd; fe wnaethom ni hynny yn ystod COVID yn 2020, i godi ymwybyddiaeth o ran sut i roi gwybod am bryderon diogelu, ac fe wnaethom ni ddefnyddio'r hashnod #GalwaNawr bryd hynny. Felly, rwy'n rhagweld y byddwn ni'n gwneud rhywbeth fel hyn yn flynyddol, fel y mae'r adroddiad yn gofyn, oherwydd, fel ddywedodd ef, mae angen i bobl wybod beth y dylen nhw ei wneud a sut i wneud eu hadroddiadau. Oherwydd ein bod ni wedi clywed, ar ôl y digwyddiad, fod pobl yn bryderus, ac felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod sut i adrodd y pethau y maen nhw'n pryderu amdanyn nhw.

Ac yna'r adolygiad ledled Cymru o'r dulliau o weithredu ar gyfer cynnal cynadleddau amddiffyn plant: eto, mae cynnal cynadleddau diogelu plant yn parhau i fod yn ddyletswydd statudol i'r awdurdodau lleol, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni gyfrifoldeb allweddol, fel arweinydd strategol, felly rwy'n sicr yn gweld hyn yn waith i mi sef sicrhau bod hynny'n digwydd, ein bod ni'n cymryd yr awenau hyn, yn y Llywodraeth hon. Ac nid wyf i am fynd drwyddyn nhw i gyd yn fanwl, oherwydd rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd yn nodio ei ben, ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ddychwelyd ato, ac rwy'n ymrwymo i adrodd yn ôl i'r Senedd ar sut mae hyn yn datblygu.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:23, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig yr ydych chi i'r maes hwn, ond, ddydd Iau diwethaf, roedd Cymru yn y penawdau cenedlaethol am y rhesymau anghywir, oherwydd roedden ni wedi siomi bachgen bach. Logan Mwangi, fel clywsom ni—a gadewch i ni ei alw o'n Logan Mwangi, oherwydd ni wnaeth yr adroddiad hynny; roedd yr adroddiad yn cyfeirio ato fel 'Plentyn T' trwy'r amser. Newidiodd Logan Mwangi o fod yn blentyn byrlymus, siriol, doniol a oedd yn hoff o Spider-Man i fod yn un ag atal dweud arno. Yn yr 11 mis lle'r oedd gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdano, bu pedwar achlysur lle gellid fod wedi achub ei fywyd, o fis Awst 2020 hyd yr amser y torrodd ei fraich, cafwyd ei fod yn gleisiau i gyd, a'i gam-drin yn rhywiol, hyd y dydd y bu farw ym mis Gorffennaf 2021. Roedd ef ar y gofrestr amddiffyn plant am ddim ond dau fis a hanner, felly nid wyf i'n gweld y byddai adolygiad o brosesau'r gofrestr amddiffyn plant o unrhyw gymorth i ni.

Fe wn fod fy amser ar ben. Mae gen i lawer i'w ddweud ynglŷn â'r mater hwn, fel gallwch chi ddychmygu, ac mae hyn yn fy ngwneud i'n emosiynol iawn.

Rwyf i wedi darllen llawer o adolygiadau fel hyn; yn anffodus, maen nhw'n codi'r un hen bethau, fel rydych chi'n dweud. Mae gen i ddau gwestiwn i chi. Un yw: os nad nawr yw'r amser i gynnal adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant—. Rwyf i'n gwahaniaethu ychydig yn hyn o beth. Nid wyf i'n gofyn am ymchwiliad; mae ymchwiliad yn swnio fel rhywbeth ar gyfer cosbi a beio—fe hoffwn i adolygiad. Rwyf am i ni gael gwybod, fel Aelodau'r Senedd, fod gan bob plentyn gyfle i gael ei amddiffyn, ac ni chafodd Logan hynny. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw: os nad nawr, pryd felly? Oherwydd nid wyf i'n dymuno sefyll yn y fan hon ymhen 12, 16 mis a chlywed am farwolaeth plentyn arall a ninnau heb gynnal adolygiad eto. Felly, dyna fy nghwestiwn cyntaf i.

Fy ail yw: sut allwn ni Aelodau'r Senedd hon wybod pa mor effeithiol y mae ein hawdurdodau lleol ni o ran eu gwasanaethau amddiffyn plant? Oherwydd dyna beth yr ydym ni'n fwyaf awyddus i'w wybod. Does dim adolygiad wedi bod o wasanaethau amddiffyn plant yng Nghymru hyd yn hyn. Rydych chi wedi darllen allan llawer o adolygiadau ac ymchwiliadau eraill, ond nid oes yr un wedi canolbwyntio ar wasanaethau amddiffyn plant. Fe hoffwn i gael clywed sut y mae ein gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau amddiffyn plant yn dymuno gweld ffordd amgen o weithio. Dyna pam yr hoffwn i gael adolygiad. Felly, atebwch y ddau gwestiwn hyn i mi, os gwelwch chi'n dda. Os nad oes adolygiad i fod nawr, pryd felly? A allwn ni fod â'r sefyllfa lle mae Aelodau'r Senedd yn gwybod yn union pan fo eu hawdurdodau lleol yn gwneud yn dda, neu fel arall, ac efallai bod angen cymorth arnyn nhw, o ran gwasanaethau amddiffyn plant? Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:26, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jane, yn fawr am hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n teimlo yn emosiynol am y peth, ac rwy'n gwybod bod gennych chi lawer iawn o ymrwymiad i'r maes hwn o waith, a diolch i chi am eich sylwadau. Rwyf i wir o'r farn fod angen i ni fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad hwn. Mae yna lawer o bethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud hefyd; mae angen i ni fwrw ymlaen â phob un ohonyn nhw, ac mae angen i ni sicrhau bod plant yn fwy diogel nag y maen nhw ar y foment. Rwy'n credu bod y sail gennym ni i wneud hynny. Nid wyf i'n credu bod angen adolygiad arall arnom ni ar gyfer gwneud hynny, ac rwy'n gwbl ymroddedig i wneud yr hyn a allaf i gyflawni'r holl argymhellion a gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol.

O ran sut yr ydym ni i gael gwybod a yw plant yn cael eu diogelu yn ein hardaloedd unigol ein hunain, fe fydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn yn adolygu pedwar maes—rwy'n credu i mi ysgrifennu atoch chi mewn llythyr ynglŷn â hyn, os ydych chi'n cofio—ar gyfer gweld sut maen nhw'n perfformio wrth amddiffyn plant, ac fe fyddwn ni'n edrych ar ganlyniadau hynny i weld a oes angen i ni wneud hynny ym mhob cwr o Gymru. Fe allaf i eich sicrhau chi y byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i atal unrhyw drychineb fel yr un hwn a ddigwyddodd i Logan.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 3:27, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fe deimlais i ddydd Iau diwethaf mai hwnnw oedd un o'r diwrnodau anoddaf a welais fel Aelod yn y Senedd hon. Fe eisteddais i lawr ac fe ddarllenais i bob tudalen o'r adroddiad, ac fe wnaeth hynny fi'n hynod o drist, ond yn fy nigio i'n fawr hefyd, i fod yn onest gyda chi, wrth ddarllen am y methiannau a'r diffygion o ran rhannu gwybodaeth. Rydym ni'n clywed yn aml iawn am ddull amlasiantaeth—wel, rwyf i o'r farn nad oedd y dull amlasiantaeth yn gweithio yn yr achos hwn mewn gwirionedd.

Mae cydweithwyr wedi sôn am y goblygiadau ledled Cymru yn sgil yr adroddiad hwn. Roeddwn i'n awyddus i ganolbwyntio ychydig yn fwy lleol, efallai. Yn y blynyddoedd cyn dod i'r Senedd hon, fe fûm i ar bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol a oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid pleser o gwbl i mi yw dweud wrthych chi heddiw, am gyfnod maith iawn, roedd aelodau'r pwyllgor hwnnw wedi bod yn codi pryderon am yr adran gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—y ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn benodol, dull y cyngor o gyllidebu, ac fe soniwyd am gyfres gyfan o bryderon eraill hefyd. Ond roedd y cyngor o'r farn bod ganddyn nhw enw da am wasanaethau cymdeithasol, ac nid fy lle i yw barnu heddiw a oedd hynny'n wir ai peidio. Ond rwy'n teimlo yn gryf iawn, Dirprwy Weinidog, fod yna ddiwylliant o laesu dwylo yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y modd y cafodd gwasanaethau cymdeithasol eu rheoli ganddyn nhw, ac, yn benodol, roedd diffyg goruchwyliaeth wleidyddol gan aelodau'r cabinet dros y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan swyddogion ymroddedig gweithgar ac eraill yn y cyngor hefyd. Felly fe wn i, yn hanesyddol, mewn achosion o gynghorau â phroblemau eglur o ran eu hadrannau gwasanaethau cymdeithasol, fel y digwyddodd ym Mhowys, fod pwerau gwell ar gyfer monitro wedi cael eu rhoi trwy Arolygiaeth Gofal Cymru. A wnewch chi roi gwybod i ni beth yw eich barn chi ynglŷn â'r trothwy ar gyfer gwneud felly yn yr achos hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:29, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Tom, am y cwestiwn hwnnw. Fel gwyddoch chi, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi bod yn gweithio yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr eisoes ac wedi adrodd yn gynharach eleni. Ac roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld rhai gwelliannau, ond roedden nhw am barhau i fonitro ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi, a dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd. Felly, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edrych ar ymarfer Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:30, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog, a diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae hi'n gwbl dorcalonnus clywed am farwolaeth Logan, ac rwy'n llwyr adleisio'r cyfan a fynegodd pob Aelod arall heddiw, ac yn dweud ein bod ni'n meddwl am dad Logan a ffrindiau ac athrawon Logan i gyd, a phawb a oedd yn ei garu.

Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi sôn ynglŷn â'r argymhellion cenedlaethol, a'ch bod chi'n awyddus i ddechrau gweithio nawr, ond rwy'n dymuno gofyn ychydig mwy efallai am rai o'r amserlenni yr ydych chi'n bwriadu eu gweithredu. Fel clywsom ni'n barod, roedd yr adolygiad yn tynnu sylw at y diffyg a fu o ran gwrando ar lais Logan. Sut ydych chi am sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a gwrando arnyn nhw? Rwy'n gwybod eich bod chi'n bryderus iawn ynglŷn â hynny. Yn ein gwaith ni yma ar y Pwyllgor Plant, Addysg a Phobl Ifanc, rydym ni eisoes wedi gweld pan mor bwerus yw clywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol trwy'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â phant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â rhai eraill. Sut allwch chi rymuso lleisiau'r bobl ifanc hynny ar gyfer eu cryfhau nhw a'u chwyddo nhw, yn rhan o unrhyw addysg yn sgil tristwch enbyd marwolaeth Logan?

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:31, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Jayne am y cwestiynau yna. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig ymateb mor gyflym â phosibl, ac rydym ni'n ymateb eisoes gan ein bod ni wedi cael cyfarfodydd yn barod gyda nifer o'r asiantaethau dan sylw. Ond mae hi'n bwysig i ni wneud pethau yn y ffordd iawn hefyd. Felly, ni allaf i mewn gwirionedd roi amserlen fanwl i chi ar hyn o bryd, gan fy mod i o'r farn ei bod hi'n bwysicach i ni fynd i drafodaeth gyda'r asiantaethau a dechrau gweithio ar yr amserlen o'r fan honno.

Mae llais y plentyn yn gwbl hanfodol, ac rwy'n credu bod hi'n gwbl wir i ddweud na chafodd llais Logan ei glywed. Rydym ni'n benderfynol y bydd llais y plentyn yn cael ei glywed i'r fath raddau sy'n bosibl, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol o waith Llywodraeth Cymru yn hybu lleisiau plant, ac yn hybu gwrando ar leisiau plant, fel gwna hithau ar y pwyllgor, yn arbennig felly drwy'r adroddiad hwn yr ydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd.

Fe fyddwn ni'n sicrhau y bydd lleisiau plant yn cael eu clywed drwy ein perthynas waith glòs ni, er enghraifft, gyda Voices from Care, wrth i ni weithio yn agos iawn â Voices from Care, ac, mewn gwirionedd, fe gynhelir uwchgynhadledd ddydd Sadwrn nesaf gyda Voices from Care, yn ceisio clywed lleisiau'r plant hynny sydd â phrofiadau o ofal, a'r wybodaeth sy'n cael ei bwydo i mewn gan y comisiynydd plant a chan Gymru Ifanc hefyd. Felly, mae yna lawer o ffyrdd y gallwn ni weithio ynddyn nhw i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed. Ond mae hi'n gywir: ni chlywyd llais Logan.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Roeddwn i'n dymuno gwneud dau bwynt yr hoffwn i chi eu hystyried wrth fwrw ymlaen o ran sut rydych chi am weithredu'r argymhellion hyn. Nid llais y plentyn yn unig y mae angen ei glywed; mae angen clywed llais y gweithiwr cymdeithasol rheng flaen, a rhoi mwy o allu i'r gweithiwr cymdeithasol rheng flaen, mae angen i hynny ddigwydd hefyd, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo yn ddigon hyderus y gallan nhw fynnu bod ymateb i'w greddfau ynglŷn â diffyg uniondeb sefyllfa, yn enwedig felly pan nad yw plant sydd mewn perygl yn bresennol yn yr ysgol. Mae'n rhaid iddi hi fod yn ganolog ac yn orfodol i'r plentyn gael ei weld yn ei gartref gan rywun arall, ym mhob amgylchiad.

Ac mae hynny'n dod â mi at fy ail bwynt, sydd ynghylch ystyried sut fyddech chi'n teimlo pe byddech chi'n weithiwr rheng flaen a oedd wyneb yn wyneb â John Cole. Ni fyddech chi'n dymuno mynd i mewn trwy ddrws y tŷ hwnnw ar eich pen eich hun; fe fyddai hynny'n arswydus i chi. Ac, felly, ni ddylid gofyn i neb wneud hynny, ac, felly, mae angen i rywun arall fod gyda nhw, ac mae hynny'n golygu'r heddlu. Ac mae hynny'n dod a ni at yr ail her, sef nad yw'r holl asiantaethau partner yma dan gyfrifoldeb datganoledig Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cynnwys yr heddlu. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi'r ystyriaeth ddyledus i sut y gallwn ni sicrhau bod yr heddlu yn bresennol pan fo angen i weithwyr cymdeithasol fynd i mewn i safleoedd lle mae'r oedolion ym mywyd y plentyn hwnnw'n gwrthod eu gadael nhw i mewn trwy'r drws.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:34, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Jenny, am y pwyntiau hynny, pwyntiau pwysig iawn, rwy'n credu, am weithwyr cymdeithasol yn teimlo'n ddigon hyderus i allu cael mynediad i dŷ. Rydym ni'n datblygu fframwaith ymarfer, fel dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, fel bydd pob gweithiwr cymdeithasol yn gwybod beth sy'n ddisgwyliedig mewn unrhyw ddigwyddiad neilltuol, neu ynglŷn ag unrhyw beth arbennig y maen nhw'n ei wneud, fe fydd yna ddisgwyliadau eglur o'r hyn sy'n digwydd bryd hynny.

Ac yn amlwg, o ran yr heddlu, yn yr adroddiad, fe ddywedwyd eu bod wedi ymateb i bopeth a ofynnwyd iddyn nhw—nid oedd yna feirniadaeth o gwbl o'r heddlu yn yr adroddiad. Ond mae hi'n gwneud y pwynt pwysig ynglŷn â'r ffaith nad yw plismona yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ac un o'r argymhellion yw y dylen ni edrych ar y ffyrdd o adrodd a gwybodaeth data, ac mae gofyn i Lywodraeth Cymru arwain ar hynny. Wel, wrth gwrs, nid yw plismona wedi'i ddatganoli, felly mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i ni gysylltu â'r Swyddfa Gartref ar gyfer edrych ar y maes penodol hwnnw. Felly, mae'r ffaith na chafodd ei ddatganoli yn ei gwneud hi'n llawer mwy cymhleth ac yn fwy anodd i ni fwrw ymlaen. Ond, yn sicr, fe fydd y ddau bwynt hynny yn cael eu cadw mewn cof gennyf i pan fyddwn ni'n symud ymlaen.