6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'

– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:44, 11 Ionawr 2023

Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Asedau Cymunedol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM8170 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Asedau Cymunedol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:45, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar asedau cymunedol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y grwpiau sy’n ymwneud â’r asedau cymunedol y buom yn ymweld â hwy: Maindee Unlimited, Canolfan Gymunedol y Fenni, Sinema Neuadd y Farchnad ym Mryn-mawr, Antur Nantlle, Ty’n Llan, a Phartneriaeth Ogwen. Roedd yn ddefnyddiol iawn inni gyfarfod â'r grwpiau hyn i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau uniongyrchol. Fe wnaeth eu tystiolaeth ein helpu ni i ddeall manteision perchnogaeth gymunedol yn well, yn ogystal â rhai o’r heriau a’r rhwystrau a wynebir gan gymunedau.

Mae asedau cymunedol yn gwneud cyfraniad mawr i fywydau’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae llawer o wahanol fathau o asedau ledled Cymru a llawer o ffyrdd y gall y rhain wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u llesiant. Gallant fod yn adeiladau, megis canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thafarndai, sy'n gweithredu fel hybiau ar gyfer eu hardaloedd lleol a lle gall pobl gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, dysgu sgiliau newydd, dod ynghyd i gymdeithasu a rhannu profiadau. Gallant fod yn lleoedd, fel parciau a mannau gwyrdd, lle gall pobl ymlacio neu ymarfer corff a lle gall plant chwarae; gallant hyd yn oed ddarparu cartrefi i bobl.

Yng Nghymru, gallwn fod yn falch o frwdfrydedd ac ymrwymiad gwych cymunedau ledled y wlad i gynnal asedau lleol a sicrhau eu cynaliadwyedd. Clywsom fod pobl yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith o redeg prosiectau cymunedol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at amwynderau yn eu hardaloedd lleol, nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw rhedeg ased cymunedol yn orchwyl hawdd. Yn ogystal â brwdfrydedd ac ymrwymiad, mae angen digon o amser ac arian hefyd. Hoffem ei gwneud yn haws i grwpiau lleol allu cymryd rhan yn y gwaith o redeg yr asedau sy’n iawn i’w cymunedau. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom 16 o argymhellion a fydd yn ein barn ni yn helpu i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer grymuso cymunedau'n well. Mae wyth o’r argymhellion hynny wedi’u derbyn yn llawn a saith wedi’u derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Gwrthodwyd un.

Ein hargymhelliad trosfwaol oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i ysgogi syniadau arloesol ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod angen esbonio rhai materion ymhellach, felly, fe wnaethom argymell y gallai’r comisiwn wneud gwaith o’r fath. Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi nodi ei bod yn bwriadu sefydlu comisiwn o’r fath, ac eto, dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad. Felly, hoffwn ofyn i’r Gweinidog ymhelaethu ar y rhesymau dros beidio â derbyn yr argymhelliad yn llawn. Awgrymai ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru y gallai’r amserlen o 12 mis a argymhellwyd gennym ar gyfer sefydlu’r corff hwnnw fod yn broblemus. Hoffwn ofyn, felly, i’r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â faint o amser sydd ei angen i sefydlu comisiwn. Mae Cwmpas eisoes wedi galw am gomisiwn, a gwyddom fod rhanddeiliaid ymroddedig eraill yn barod ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith angenrheidiol. Felly, fel pwyllgor, credwn y dylai'r gwaith allu dechrau'n weddol gyflym.

Ddirprwy Lywydd, fel y nodais, mae nifer o'n hargymhellion eraill yn cyfeirio at waith y credwn y gellid ei wneud gan gomisiwn, gan gynnwys archwilio gyda rhanddeiliaid y pecyn cymorth a ddylai fod ar gael i grwpiau cymunedol sy'n dymuno rhedeg ased cymunedol. Nid yw'n broses hawdd, a bydd angen cymorth gwahanol ar grwpiau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Ac wrth gwrs, efallai y bydd gan rai cymunedau fynediad parod at bobl a chanddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen, ond bydd angen i eraill ddibynnu ar gymorth allanol. Beth bynnag y bo’u hamgylchiadau, rydym am i bob cymuned gael cyfle i fwrw ymlaen â phrosiectau.

Er bod ffynonellau amrywiol o gyngor a chymorth eisoes ar gael, clywsom nad yw'n hawdd cael mynediad atynt, yn enwedig i grwpiau sydd newydd eu sefydlu ac a fydd yn llai cyfarwydd â’r trefniadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at rai o'r ffynonellau gwybodaeth, ond nid yw'n mynd i'r afael â hygyrchedd yr wybodaeth honno. Credwn ei bod yn bwysig dysgu o brofiadau pobl sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o redeg asedau cymunedol i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth cywir ar gael, a dyna pam y credwn mai comisiwn o arbenigwyr a fyddai yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â hyn. Pan roddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol dystiolaeth i ni, cyfeiriodd at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar bolisi cymunedol newydd, gan gynnwys archwilio'r angen am hyb canolog ar gyfer cyngor a gwybodaeth. Credwn fod y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni wedi dangos angen clir am ddarpariaeth o’r fath, ac felly, rwyf am ofyn i’r Gweinidog egluro pam na chafodd ein hargymhelliad ei dderbyn yn llawn.

Clywsom am yr heriau a wynebir yn aml gan grwpiau sy’n caffael asedau sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae'n cymryd amser i grwpiau a ffurfiwyd o'r newydd i sefydlu eu hunain a sicrhau cyllid, a gall fod yn anodd cystadlu yn erbyn unigolion neu fusnesau preifat a chanddynt gyllid at eu defnydd. Dywedodd sawl tyst wrthym fod gan gymunedau yng Nghymru lawer llai o bwerau na’r rheini yn yr Alban a Lloegr. Mae hawl y gymuned i brynu wedi bod ar waith yn yr Alban ers 2003, ac mae gan gymunedau Lloegr hawl i wneud cynigion am asedau drwy Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae amser wedi symud yn ei flaen, ac rydym yn pryderu bod cymunedau Cymru yn cael eu hamddifadu o bwerau tebyg.

Gwnaethom argymell hefyd y dylai comisiwn archwilio a oes angen deddfwriaeth i rymuso cymunedau a rhoi cyfle cyfartal iddynt wrth gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat i brynu asedau o ddiddordeb. Felly, credwn fod sefydlu comisiwn yn allweddol er mwyn bwrw ymlaen â nifer o’n hargymhellion a’r rheini a wnaed gan randdeiliaid nodedig, gan gynnwys Cwmpas a’r Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n hollbwysig felly fod y gwaith o sefydlu comisiwn yn dechrau fel mater o frys, fel nad yw cymunedau Cymru yn colli cyfleoedd i gaffael a rhedeg asedau a all wella llesiant eu poblogaethau lleol.

Rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad i sefydlu cronfa dir cymunedol i Gymru wedi’i wrthod. Mae cronfeydd tebyg yn bodoli yn yr Alban a Lloegr, a galwodd sawl rhanddeiliad am gronfa yma yng Nghymru.

Fel pwyllgor, rydym yn bryderus iawn ynghylch y dystiolaeth gynyddol a glywn am yr anawsterau y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu wrth sicrhau llety i’w rentu neu ei brynu. Credwn fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhoi cyfle i gymunedau ddarparu eu hatebion tai eu hunain. Er na fydd hyn yn opsiwn ymarferol i bawb, hoffem weld prosesau’n cael eu symleiddio fel bod cymunedau’n gallu cael mynediad at y tir a’r cyllid sydd ei angen arnynt i adeiladu cartrefi priodol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y grant tai cymdeithasol, y gall grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad ato os ydynt yn partneru â landlord cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn pryderu nad yw’r dull hwn wedi sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i grwpiau cymunedol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried ei hymateb i’r argymhelliad hwn.

Ddirprwy Lywydd, mae mynediad at dai fforddiadwy yn fater pwysig iawn i ni fel pwyllgor, ac i bob un ohonom yn y Senedd, rwy'n siŵr, ac i bobl ledled Cymru. Fel pwyllgor, byddwn yn dychwelyd at hyn yn ystod tymor y chweched Senedd i weld sut mae ein hargymhellion yn cael eu datblygu. Diolch yn fawr.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 3:54, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gofnodi fy niolch yn gyntaf i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am ei gadeiryddiaeth a’i waith yn llunio adroddiad y pwyllgor heddiw, ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y Gweinidogion a roddodd dystiolaeth, y clercod, tîm cymorth y pwyllgor, wrth gwrs, a'r llu o sefydliadau a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad rydym yn ei ystyried yma heddiw?

Ac fel yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y pwyllgor heddiw ar asedau cymunedol, maent yn gwneud cyfraniad mor fawr i fywydau pobl sy'n byw yn ein cymunedau, a chredaf weithiau ein bod yn anghofio am hynny, ac yn anffodus, ni chofiwn hynny nes y bydd hi'n rhy hwyr, pan nad yw’r adeiladau cymunedol hynod bwysig hynny, yr asedau, y darnau o dir ar gael i’n cymunedau mwyach. Credaf ei bod yn bwysig i bob un ohonom roi eiliad i ystyried yr asedau sydd yn ein cymunedau, ynghanol y bobl rydym yn eu cynrychioli, i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau ar gyfer ein cymunedau.

Drwy ein gwaith fel pwyllgor, gwelsom fod yna lawer o wahanol fathau o asedau cymunedol ledled Cymru, gyda phob un ohonynt yn darparu manteision aruthrol i’r bobl rydym yn eu cynrychioli a’u llesiant. Mae’r asedau hynny’n amrywio o lyfrgelloedd i dafarndai, y mae pob un ohonom i'n gweld yn eu gwerthfawrogi, canolfannau cymunedol, ac yna mae’n rhaid inni fynd i’r canolfannau hamdden hefyd. Ond mae ystod mor fawr o'r asedau cymunedol hyn yn gwneud gwahaniaeth. Credaf fod hynny'n rhan o’r her, pan fyddwn yn sôn am asedau cymunedol, gyda grŵp mor eang o bethau y gallem fod yn sôn amdanynt yma. Ond maent yn aml yn hybiau hollbwysig mewn ardaloedd lleol, sy'n galluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, i ddod at ei gilydd, i gymdeithasu, i gael gwared ar rai o'r rhwystrau ym mywydau pobl sy'n eu hatal rhag cyfarfod â ffrindiau. Maent yn bwysig i gymunedau lleol er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i rymuso cymunedau hefyd.

Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2, a oedd yn galw arnynt i adolygu a diweddaru’r canllawiau presennol ar drosglwyddo asedau cymunedol. Credaf fod hyn i'w groesawu, gan yr ymddengys bod anghysondeb sylweddol ledled Cymru, ond hefyd, ar adegau, o fewn awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo asedau. Roeddwn hefyd yn falch fod argymhelliad 12, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa asedau cymunedol, wedi’i dderbyn yno hefyd.

Wrth gwrs, un agwedd allweddol ar sicrhau pwysigrwydd a llwyddiant asedau cymunedol yw rhannu arferion da. Fe roddaf ychydig funudau i ganolbwyntio ar rannu'r arferion da hynny, gan ei fod yn rhywbeth a gododd dro ar ôl tro pan fuom, fel aelodau'r pwyllgor, yn ymweld â nifer o'r asedau hyn sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Cefais y fraint o fynd draw i rai o’r lleoedd hyn, gan gynnwys Antur Nantlle, Ty’n Llan a Phartneriaeth Ogwen hefyd, ac roedd gan bob un ohonynt brofiad ardderchog ac arbenigedd mewn perthynas â'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol, ond roedd pob un ohonynt yn dweud hefyd y byddent yn hoffi gweithio'n agosach gyda sefydliadau eraill sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg, i ddeall, i ddysgu ac i rannu rhywfaint o'r arferion gorau hynny. Gan fod y sefydliadau sydd wedi gwneud hyn unwaith wedi bod drwy'r boen, maent yn gwybod ble mae'r elfennau trafferthus ac maent yn fwy na pharod i rannu a gweithio gydag eraill, gan y gall fod yn eithaf brawychus, wrth gwrs, pan ddaw'n fater o gymryd rheolaeth ar ased cymunedol. Felly, credaf fod angen deall y gwaith hwnnw'n well, a sicrhau ein bod yn cysylltu'r rheini sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw â'r rheini sydd am fynd drwy'r profiad hwnnw hefyd.

Buom yn sôn am nifer o'r rhwystrau a'r heriau sy’n wynebu cymunedau lleol pan fyddant yn ceisio rheoli'r asedau cymunedol hyn, ac fel y nodwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, ymddengys bod cymunedau Cymru ymhlith y rhai sydd wedi’u grymuso leiaf ym Mhrydain, gyda’r system gyfyngedig sy'n bodoli ar hyn o bryd

'yn cael ei gyrru o’r brig i’r bôn.'

Ceir pryder hefyd ar draws rhai awdurdodau lleol—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:58, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Yn gryno iawn, a ydych yn rhannu fy mhryder fod Llywodraeth Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi ers cyflwyno Deddf Lleoliaeth 2011 y DU i gyflwyno cofrestr asedau cymunedol a hawl gymunedol i wneud cynigion, i helpu i fynd i’r afael â’r dull o’r brig i’r bôn hwnnw y cyfeiriwch ato?

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 3:59, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, credaf fod hynny'n bryder gwirioneddol, ac mae'n rhywbeth y gwnaethom ni fel pwyllgor ymchwilio iddo, ac rydym yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru'n awyddus i edrych ymhellach arno eu hunain hefyd. A Mark Isherwood, credaf eich bod yn llygad eich lle i’w godi yma y prynhawn yma.

Ond ceir pryder hefyd mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru fod llawer yn amharod i roi neu drosglwyddo eu hasedau. Weithiau, yn hytrach na throsglwyddo ased, credaf mai’r hyn sy’n digwydd yn aml yw trosglwyddo atebolrwydd, sy'n ymagwedd gwbl anghywir gan lawer o awdurdodau lleol. Felly, roedd yn dda gennyf weld argymhelliad 4, sy’n nodi'n glir fod y broses drosglwyddo asedau cymunedol nid yn unig yn berthnasol i awdurdodau lleol, ond hefyd i bob corff cyhoeddus. Credaf fod cyfle gwych ar draws y cyrff cyhoeddus i sicrhau bod yr asedau hynny'n cael eu trosglwyddo'n effeithiol.

I agosáu at y diwedd, Ddirprwy Lywydd, mae’n amlwg fod angen gwneud mwy i hwyluso mwy o rym a chydweithio i gymunedau lleol, gyda phobl leol yn y sefyllfa orau i ddeall a thrin materion lleol. Credaf fod gwir angen brys nawr i fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Gwyddom fod cyrff cyhoeddus yn debygol o wynebu cyfnod heriol o’n blaenau, pan fydd defnyddio asedau a rheoli asedau'n rhan bwysig o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hyderus fod ein cymunedau’n barod, yn abl ac yn awyddus i ymgymryd â'r asedau hyn, ond fod angen yr offer a’r cymorth cywir arnynt. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad pwysig hwn ar asedau cymunedol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:00, 11 Ionawr 2023

A gaf i roi datganiad diddordeb, sef fy mod i'n gyfranddalwr mewn amryw fentrau cymunedol, sydd ar y record gyhoeddus? Diolch am y cyfle i gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cynnig cyn yr haf y llynedd ar rymuso cymunedau—cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd hon. Ond, er gwaethaf ein bod wedi cytuno ar y ffordd ymlaen fel Senedd, y gwir ydy nad oes yna fawr ddim wedi digwydd, a bydd dim yn digwydd yn fuan chwaith.

Roedd hi’n hyfryd cael bod yn rhan o’r ymchwiliad yma, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, ac ymweld â rhai o’r cynlluniau cymunedol sydd ar y gweill. Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith bod Dwyfor Meirionnydd yn arwain y gad pan fo’n dod i ddatblygu mentrau cymunedol, a bod gennym ni hanes balch iawn o hyn yng Ngwynedd, efo’r newyddion diweddaraf, er enghraifft, fod Menter y Glan ym Mhennal wedi llwyddo i godi’r pres angenrheidiol fel cymuned i brynu tafarn Glan yr Afon. Felly, llongyfarchiadau iddyn nhw.

Yn wir, gellir olrhain y cyfan yn ôl i fenter gymunedol gyntaf y Deyrnas Gyfunol, a sefydlwyd yn Llanaelhaearn—menter Aelhaearn, a ffurfiwyd gan y diweddar a’r dihafal Dr Carl Clowes a thrigolion yr ardal. Ond, er mai Cymru oedd yn arwain yn y maes yma yn ôl yn y 1970au, mae’n fy nhristáu ein bod ni bellach mor bell ar ei hôl hi, yn enwedig wrth edrych ar yr Alban a Lloegr a’r grymoedd deddfwriaethol sydd gan gymunedau yno pan fo’n dod i berchnogaeth ar asedau cymunedol a datblygu mentrau cydweithredol cymunedol.

Roedd yr ymchwiliad yma yn ddifyr oherwydd y cyfoeth o dystiolaeth y mae wedi’i thynnu ynghyd, yn dangos yn glir buddiannau hyrwyddo mentrau cymunedol yma. Er enghraifft, mae gan gymunedau sy’n profi mwy o amddifadedd ond sydd â niferoedd uwch o asedau cymunedol a gweithredoedd cymunedol ganlyniadau iechyd a lles gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd difreintiedig nad oes ganddyn nhw lefelau uchel o asedau cymunedol na gweithredu cymunedol.

Mae hyn yn cydberthyn â chanfyddiadau ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mewn partneriaeth â’r Oxford Consultants for Social Inclusion. Mae eu canfyddiadau yn awgrymu y bydd ardaloedd difreintiedig sydd ag asedau cymunedol a dinesig yn llai tueddol o gael eu hadnabod fel rhai sydd mewn perygl. Felly, mewn geiriau eraill, mae cymunedau difreintiedig sy'n meddu ar asedau cymunedol a dinesig cryfach fel arfer yn fwy gwydn na’r cymunedau hynny sydd heb hyn. Mae yna dystiolaeth galed i gefnogi hynny hefyd.

Dwi’n credu mai peth arall sy’n werth sôn amdano yma ydy’r hyn a wnaed yn glir yn ein sesiynau tystiolaeth, sef i ba raddau y mae cefnogaeth a chyngor ar gael i’r grwpiau cymunedol hynny sy’n ceisio ymgymryd ag ased cymunedol. Yn y pen draw, mae’r gefnogaeth ymhell o fod yn ddigonol a chyson. Mae’n amrywio ar draws Cymru. Mae’r grwpiau yn y sector wedi dweud bod angen cefnogaeth ychwanegol ddi-gost.

Hoffwn ailadrodd yr alwad am wella’r rhaglen cyfleusterau cymunedol, i edrych hefyd ar feithrin capasiti cymunedol. Mae angen inni adeiladu rhai o’r sgiliau meddalach hynny sydd eu hangen o fewn grwpiau cymunedol i hwyluso eu rhedeg parhaus, yn enwedig o ran datblygu a throsglwyddo asedau.

Mae’r adroddiad yn sôn am yr angen i greu comisiwn. Roeddwn i, yn bersonol, yn ffafrio deddfu, ond mae’r Llywodraeth wedi’i gwneud yn glir nad yw am ddeddfu yn y maes yma, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod yn ymrwymiad maniffesto ganddi ers 2006. Yn absenoldeb deddfu, mae’r comisiwn i’w groesawu, ond mae taer angen ei sefydlu’n fuan a gweld gwaith yn digwydd yn syth.

Wrth inni wynebu austerity 2.0, y peryg go iawn yw y bydd ein cynghorau sir yn cael eu temtio efo fire sales o’u hasedau er mwyn dod â phres i mewn i’r coffrau, a fydd yn golygu ein bod yn colli mwy o asedau, gan dynnu grym i ffwrdd o’n cymunedau ymhellach. Felly, yn ei hymateb i’r drafodaeth hon, hoffwn glywed y Gweinidog yn ymrwymo i gyflymu sefydlu’r comisiwn a rhoi amserlen glir a buan i’r comisiwn cyn i ni golli mwy o adnoddau a cholli cyfle go iawn i rymuso ein cymunedau.

Fy nodyn olaf, wedyn, ar dai o dan arweiniad y gymuned. Does dim angen dweud bod cryfhau hawliau cymunedol yn gallu helpu tyfu’r mudiad tai cymunedol. Mae angen i Lywodraeth Cymru helpu cymunedau i ddod dros rwystrau i wneud tai sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn ffurf gyffredinol boblogaidd o dai, fel sy’n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Trwy gyflwyno deddfwriaeth sy’n galluogi perchnogaeth gymunedol ar dir ac ar asedau, bydd cymunedau’n gallu darparu cartrefi fforddiadwy sy’n ddiogel yn yr hinsawdd yma, yn fwy effeithiol, ac sy’n cael eu datblygu gan a chyda phobl leol i ddiwallu anghenion lleol ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Diolch. 

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 4:05, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeirydd a staff y pwyllgor a luniodd yr adroddiad hwn a threfnu ymweliadau ledled Cymru, ac i bawb a gyfrannodd. Gall cyfleusterau cymunedol rymuso cymunedau a sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl. Gallant helpu gyda chynaliadwyedd a llesiant. Dylid gwarchod neuaddau cymunedol, tafarndai, caeau chwarae a mannau eraill ar gyfer pobl a natur, llefydd fel gwarchodfa natur Penrhos ym Môn neu hen gae'r ysgol yn Llanfynydd yn sir y Fflint, sydd newydd fod yn destun trosglwyddo asedau. Mae ynni cymunedol, bwydydd cymunedol a thai cymunedol oll yn fentrau gwych sydd angen anogaeth a buddsoddiad pellach. Un enghraifft wych yw Partneriaeth Ogwen ym Methesda, y gwnaethom ymweld â hi fel pwyllgor, ac mae'n berchen ar swyddfa, siopau, fflatiau, busnesau, llyfrgell gymunedol, cerbydau trydan, cynllun atgyweirio beiciau, rhandiroedd cymunedol a chynllun hydro cymunedol. Mae'r hyn y maent wedi'i gyflawni yno'n anhygoel.

Mae cyfoeth cymunedol yn enfawr ac yn anfesuradwy. Mae Canolfan Biwmares yn ganolfan hamdden a menter drafnidiaeth gymunedol sy'n cael ei rhedeg gan y gymuned, ac maent yn hysbysebu am staff ar hyn o bryd. Maent yn gweithio ar eu cynllun pum mlynedd, gyda bwriad i fod yn ganolfan lesiant erbyn hyn, yn hytrach na chael ei dosbarthu fel neuadd chwaraeon yn unig, sy'n dangos sut mae pethau wedi symud yn eu blaenau. Mae cymunedau gwledig yn aml yn cael eu heffeithio'n fwy am nad oes ganddynt yr un mynediad at wasanaethau cyhoeddus, siopau a chyfleusterau, ond mae pobl yn aml yn adnabod ei gilydd yn well. Rwy'n credu mai dyma oedd grym y gymuned a brynodd Ty'n Llan. I rai pobl, yr unig berson y byddent yn ei weld yn rheolaidd fyddai'r postmon, ac efallai na fydd hynny'n digwydd mwyach os yw cynigion ofnadwy y Post Brenhinol yn llwyddo.

Bydd methiant Llywodraeth y DU i sicrhau arian yn lle cronfeydd strwythurol pwysig yr UE yn effeithio ar lawer o gymunedau a grwpiau trydydd sector. Mae'n helpu i ariannu buddsoddiad mewn neuaddau pentref, arloesedd, cynlluniau ynni cymunedol, amaethyddiaeth gymunedol, trafnidiaeth gymunedol, a gweithredai fel cyllid sbarduno ar gyfer digwyddiadau cymunedol. Roeddwn yn aelod o Gadwyn Clwyd ac roedd yr arian hwnnw'n bwysig iawn. Mae croeso mawr i gyllid rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru, ac mae'n parhau i wneud gwahaniaeth mawr. Byddai'n wych gweld cronfa yr ardoll agregau ar gyfer Cymru'n cael ei hadfer, yn enwedig gan fod chwareli a oedd ar un adeg wedi'u cadw'n segur yn cael eu defnyddio eto erbyn hyn, ac mae lorïau chwareli'n effeithio ar gymunedau nad ydynt wedi arfer eu gweld. Mae cronfa benthyciadau asedau cymunedol Llywodraeth Cymru sy'n cael ei dosbarthu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn bwysig iawn hefyd, a nodwyd pa mor anodd yw cael benthyciadau gan fanciau. Yn fwyaf arbennig, roedd croeso i fenthyciad drwy'r CGGC ond roedd y llog yn eithaf uchel; rwy'n meddwl ei fod yn 6 y cant ar y pryd, ac mae'n debygol o fod yn llawer mwy erbyn hyn. Efallai fod hwn yn faes i Fanc Cambria helpu gydag ef.

Yn sir y Fflint ceir polisi da iawn ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol, a chafwyd sawl llwyddiant, ond nid yw'n gyson ar draws Cymru. Efallai y byddai'n dda pe ceid rhai canllawiau cenedlaethol a rhwydwaith i alluogi grwpiau cymunedol i rannu profiad, fel gwefan neu rywbeth efallai. Argymhellwyd y dylid cael comisiwn a allai ysgogi meddwl arloesol ynghylch perchnogaeth gymunedol, a chofrestru neu fapio asedau cymunedol. Yn aml iawn yn y pwyllgor rydym wedi trafod pwysigrwydd mapio cadastrol, a fyddai'n helpu gydag asedau cymunedol, yn cefnogi tai cymdeithasol, yn creu ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt, a threth gwerth tir hefyd o bosibl, pe bai hynny'n digwydd. Soniwyd am Ystadau Cymru, ond rwy'n meddwl bod angen hyrwyddo hynny'n well, oherwydd nid oeddwn i wedi clywed amdano o'r blaen.

Mae mentrau cymdeithasol cymunedol yn llefydd lle mae cyfoeth yn cael ei rannu yn hytrach na'i storio mewn banciau, a lle dylai hapusrwydd a llesiant fod yn fesur llwyddiant. Ac maent yn fesurau llwyddiant—fe welsom hynny. Ond ni allant gymryd lle gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr. Mae cyllid craidd ac arweinyddiaeth yn hanfodol, ac fe welsom hynny. Aethom allan i gymunedau a oedd â rhywun a oedd yn arwain yr holl fentrau gwych hyn. Gallant fod yr un mor fregus â gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn enwedig yn yr argyfwng costau byw presennol. Diolch.

Photo of Joel James Joel James Conservative 4:10, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy adleisio'r sylwadau a wnaed eisoes, a diolch i John Griffiths am ddod â hyn ger bron ac am yr holl waith y mae'n ei wneud fel Cadeirydd y pwyllgor.

Fel un sydd wedi siarad droeon yn y Siambr ynglŷn â pha mor bwysig yw diogelu ein treftadaeth naturiol, gwarchod adeiladau o bwysigrwydd cymunedol, hyd yn oed os nad ydynt yn cydymffurfio â meini prawf rhy llym Cadw, a gwarchod ein heglwysi ac addasu adeiladau at ddefnydd y gymuned, gallaf ddweud fy mod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hwn yn llwyr. Credaf fod mawredd y genedl yn deillio o'r balchder sydd gan bobl ynglŷn â ble maent yn byw. Y gwir trist yw ein bod ni yng Nghymru wedi colli llawer o asedau diwylliannol a chymunedol pwysig oherwydd methiant i gydnabod eu gwerth i'r gymuned ac i lesiant ehangach y genedl. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig hyd yn oed wedi dweud am gymunedau Cymreig ei bod yn ymddangos mai hwy sydd wedi eu grymuso leiaf ar yr ynys hon, ac mae hon yn sefyllfa wirioneddol drist. Fel Aelodau o'r Siambr hon, mae dyletswydd arnom i bobl Cymru i newid hyn. 

Er bod y Llywodraeth wedi derbyn bron bob un o'r argymhellion, rwy'n teimlo bod angen mwy o bwyslais ar rymuso cymunedau i gydnabod yr hyn sydd o werth iddynt hwy, i feddwl am yr hyn sy'n rhan o'u hunaniaeth, ac i'w hannog i chwarae rhan ganolog yn diogelu'r asedau y maent am eu gweld yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Gallwn siarad yn ddiddiwedd ynglŷn â sut mae trosglwyddo asedau cymunedol yn ffordd wych o helpu cymunedau i ddod at ei gilydd a datblygu ymlyniad cymdeithasol a theimlad o hunaniaeth, ond os nad yw cymunedau'n ymwybodol o ba hawliau a mecanweithiau sydd ar gael iddynt, gallant ddigalonni'n hawdd a rhoi'r gorau i geisio achub eu hasedau cymunedol. 

Ar ben hynny, mae angen i'r Llywodraeth annog awdurdodau lleol a pherchnogion asedau presennol i fod yn ystyriol o gymunedau yn ystod y broses o drosglwyddo asedau cymunedol. Yn yr un modd, mae angen inni gynnig mwy o amddiffyniadau i gymunedau lle mae asedau cymunedol sy'n eiddo preifat a chyhoeddus mewn perygl o gael eu dymchwel. Rhaid inni fod yn ymwybodol efallai na fydd gan lawer o'r bobl a fydd yn gwneud ceisiadau trosglwyddo asedau unrhyw brofiad o gwbl o ddilyn y prosesau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth wneud hynny, a gall yr holl broses fod yn eithaf brawychus iddynt.  

Mae angen inni wneud yn siŵr hefyd fod gan gymunedau syniad llawer gwell o'r diwydrwydd dyladwy sydd ei angen wrth reoli ased, a bod cymorth cyfreithiol a phroffesiynol ar gael iddynt gael cynlluniau busnes wedi'u paratoi'n dda sy'n nodi sut y byddant yn rheoli'r ased yn y tymor hir, yn ariannol ac fel arall, a bod cymunedau'n deall eu cyfrifoldebau'n llawn. Er bod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor y dylid sefydlu comisiwn i helpu i wneud hyn, nid oes darpariaeth ariannol gyfredol, ac yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol, nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y Llywodraeth yn gallu dod o hyd i'r arian sydd ei angen yn fuan. Felly, yn y cyfamser rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y dylai'r rhai sydd am fynd drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol allu cael mwy o gyllid gan awdurdodau lleol. 

Nid wyf yn credu bod angen egluro'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ymhellach oherwydd rwy'n teimlo eu bod yn siarad drostynt eu hunain, ond hoffwn bwysleisio fy mod yn falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu gweithredu. Diolch. 

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:13, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n briodol fy mod yn dilyn cyfraniad fy nghyd-Aelod Joel James fel Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd y mae Joel hefyd yn aelod ohono. Rwy'n dymuno dweud ychydig eiriau yn rhinwedd y swydd honno heddiw, Lywydd, gan ganolbwyntio ar ddeiseb o'r enw, 'Helpwch Gymunedau yng Nghymru i Brynu Asedau Cymunedol: Gweithredwch Ran 5 o Bennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011'. Galwai ar 

'y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i weithredu ar unwaith y darpariaethau yn Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 i sicrhau bod gan grwpiau yng Nghymru yr hawl gyfreithiol i brynu a rheoli asedau cymunedol.'

Lywydd, cafodd y ddeiseb hon ei chyflwyno gan Dan Evans ac mae'n cynnwys 655 o lofnodion. Y tro diwethaf inni ystyried y ddeiseb fel pwyllgor, fe wnaethom nodi'r ymchwiliad hwn a'r adroddiad gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a chytunwyd y byddem yn tynnu sylw at y ddeiseb a'r hyn y mae'n sefyll drosto yn y ddadl hon heddiw. Mae'n edrych ar asedau cymunedol mewn modd cyffredinol, ond fel pwyllgor rydym hefyd wedi ystyried nifer o ddeisebau sy'n ceisio gwarchod adeiladau lleol penodol, er enghraifft Ysgol i Ferched y Bont-faen neu Goleg Harlech.

Bydd gan bob un ohonom adeilad yn ein cymunedau nad yw'n gwneud digon o arian i'w berchennog, adeilad sydd efallai wedi mynd yn rhy gostus i'w gynnal, ond sydd â lle er hynny yng nghalonnau ein trigolion a'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau. Lywydd, ym mis Chwefror y llynedd, buom yn trafod deiseb Ysgol i Ferched y Bontfaen. Dadleuais ei bod yn llawer rhy anodd i bobl leol angerddol ac ymroddedig brynu asedau cymunedol a rhaid bod mwy y gall pob un ohonom yn y Siambr hon ei wneud i'w cefnogi.

Rwy'n arbennig o falch o ddarllen adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai tuag at ddiwedd y llynedd, a'r 16 argymhelliad a wnaed ganddynt, i yrru'r lefel uwch o gefnogaeth, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif o'r argymhellion hyn ac wedi ymroi i ysbryd yr argymhellion hynny na chafodd eu derbyn yn llawn. Ond os caf, Lywydd, hoffwn annog y Gweinidog i edrych eto ar rai o'r argymhellion lle mae'r pwyllgor yn galw am weithredu o fewn 12 mis ac mae'r Llywodraeth yn dweud, a dyfynnaf eto, 'Ni fyddai'r adnoddau presennol yn ddigon'. Rwy'n fodlon derbyn—rwy'n berson eithaf ymarferol, rwy'n credu—ac rwy'n fodlon derbyn bod ystyriaethau ymarferol yr argymhellion hyn weithiau'n golygu y gallai 'o fewn 12 mis' olygu 13, 14 neu 15 mis. Ond byddwn yn falch pe bai'r Gweinidog yn gosod targed ymarferol a real y gellir ei gyflawni ar gyfer y math hwn o waith i sicrhau ei fod yn digwydd i bobl y cymunedau lleol y mae'r adeiladau hyn mor annwyl iddynt, a'i nodi mor realistig â phosibl, ac nad yw'n cael ei osod naill ochr a'n bod yn gweld deiseb arall mewn 17, 18 mis heb fod angen. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:16, 11 Ionawr 2023

Diolch yn fawr i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw ac am yr adroddiad pwysig yma.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae ein cymunedau wedi wynebu caledi ar ôl caledi yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn dros ddegawd o gyni dan law'r Ceidwadwyr yn San Steffan, yna fe gawsom Brexit, a'r pandemig, a'r argyfwng costau byw hollbresennol nawr. Ac eto, yn anad dim, rydym wedi gweld bod caredigrwydd yn ein cymunedau yn parhau. Mae Cymru'n gyfoethog nid yn unig mewn adnoddau neu ddoniau ond o ran ein cymunedau. Mae'n rhaid inni feithrin hyn a sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel y gall ein cymunedau ffynnu; fel bod gwasanaethau nid yn unig yn cael eu darparu, ond eu bod yn dod yn wasanaethau rhagorol lle gwneir y mwyaf o wybodaeth a sgiliau lleol er budd y gymuned.

Dyma pam rwy'n croesawu argymhellion adroddiad y pwyllgor hwn, ac yn credu bod angen inni fynd ymhellach i rymuso ein cymunedau. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad i raddau helaeth, ond rwy'n gresynu at y meysydd lle bydd y cymunedau'n cael cam oherwydd diffyg ymrwymiad. Er enghraifft, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr ymrwymiad i sicrhau bod cronfa Gymreig benodol ar gael ar gyfer prosiectau tai cymunedol. Mae hyn ar gael ar gyfer cymunedau yn Lloegr a'r Alban, ond nid ein cymunedau ni yma yng Nghymru. Er bod y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi datgan ei bod â'i bryd ar gytuno i sefydlu comisiwn i ysgogi meddwl arloesol am berchnogaeth gymunedol ac asedau cymunedol yng Nghymru, mae'n drueni, felly, mai dim ond mewn egwyddor y cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn hyd yma am nad yw'r adnoddau presennol yn ddigon i gefnogi datblygiad o fewn y ffrâm amser a argymhellir. Thema gyffredin yn y ddadl hon—a byddaf yn ailadrodd y cwestiwn—yw: pryd y gallwn ddisgwyl sefydlu comisiwn o'r fath, os yw'r Gweinidog yn amlwg yn cydnabod ei werth? Bydd gohirio'r comisiwn hwn yn achosi oedi pellach rhag gallu archwilio hawl cymuned i brynu, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Mae'r diffyg deddfwriaeth yn y maes yn rhwystredig eisoes o'i gymharu â deddfwriaeth hawl i brynu yn Lloegr a'r Alban. Mae ein cymunedau dan anfantais enfawr, ar fympwy unigolion sy'n gallu newid eu meddwl ar unrhyw adeg, ac yn gorfod cystadlu gyda grymoedd y farchnad hyd yn oed mewn achosion lle gallai fod gwerth cymdeithasol clir i flaenoriaethu perchnogaeth gymunedol.

Hyd nes y byddwn yn deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, rydym yn gadael ein cymunedau mewn sefyllfa lle gallent fod yn ymdrechu ac yn treulio cryn dipyn o amser ac yn gwario arian sylweddol i'r cyfan fod yn wastraff o bosibl. Nid yw hyn yn deg ar unigolion, cymunedau na sefydliadau lleol, sy'n teimlo ymrwymiad at dir, adeiladau neu gyfleusterau yn eu cymunedau. Mae grymuso ein cymunedau yn ymwneud â sicrhau bod cefnogaeth ac arian ar gael sy'n hygyrch i gymunedau allu ffynnu, yn ogystal â rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith i gefnogi'r Llywodraeth. O ran hynny, mae'r adroddiad yn nodi'n glir fod yna faterion sylweddol yn codi mewn perthynas â throsglwyddo asedau cymunedol. Rwy'n cytuno bod angen dysgu o arferion gorau ac annog creu rhwydweithiau cymheiriaid fel bod anghysondebau rhwng awdurdodau lleol yn cael eu lleihau. Er enghraifft, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod dull un cyngor lle mae gwefan y cyngor yn cynnwys arweiniad, templedi ar-lein, disgrifiadau manwl o adeiladau ac un pwynt cyswllt am wybodaeth, gyda'r nod o helpu i sicrhau bod asedau'n cael eu trosglwyddo'n ddidrafferth. Er hynny, at ei gilydd, mae angen gwell canllawiau. Roedd clywed nad oedd gan rai awdurdodau lleol bolisi cyhoeddus ar drosglwyddo asedau cymunedol yn destun pryder mawr, ac wrth symud ymlaen, rhaid inni sicrhau bod gennym ganllawiau cyffredinol ar draws yr awdurdodau lleol sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o le i hyblygrwydd. Mae'n rhaid iddo fod yn gymesur â maint y trosglwyddiad er mwyn rhoi cyfle teg i'n cymunedau.

Yn olaf, hoffwn orffen drwy nodi sut mae trosglwyddo asedau a pherchnogaeth gymunedol yn gymaint mwy na'r hyn y gallent ei gynnig mewn gwerth ariannol neu i arbed costau. Mae ganddynt allu gwirioneddol i wella bywyd a llesiant cymunedol, ac i ddod â gwerth cymdeithasol wrth rymuso ac uno ein cymunedau. Gadewch inni roi cyfle i'n cymunedau drwy warantu hawl iddynt allu adfywio eu hunain, hawl i redeg eu hunain, a hawl i brynu'r asedau cymunedol y maent wedi buddsoddi cymaint o amser ac egni ynddynt dros y blynyddoedd. Diolch yn fawr.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:21, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r pwyllgor, ei aelodau, y tîm clercio a'r tystion am yr adroddiad pwysig hwn. Mwynheais ddilyn yr ymchwiliad, ac rwy'n cytuno gyda nifer o'r pwyntiau sydd ynddo. Fel y mae adroddiad heddiw yn ein hatgoffa, pwrpas trosglwyddo asedau, wrth gwrs, yw sicrhau bod asedau sy'n wirioneddol bwysig i gymuned leol yn gallu aros o fewn y gymuned honno. Weithiau, dyma fydd un o ganlyniadau degawd o gyni Torïaidd. Mae pyllau padlo yn fy etholaeth yn Abercynon, Aberdâr, Aberpennar, Penrhiw-ceibr ac Ynys-y-bŵl bellach yn cael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol, gan ddarparu cyfleoedd a fyddai wedi'u colli fel arall, ond maent hefyd yn gweithredu fel cerrig sylfaen ar gyfer creu rhywbeth mwy a gwell.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cymunedol yn gwneud y pwynt yn ei dystiolaeth fod cymunedau'n darparu'r ffactor ychwanegol hwnnw. Roeddwn yn falch y llynedd o agor Splashpad newydd Dŵr Dâr yn swyddogol ac rwyf wedi cefnogi grŵp Pwll Lee Gardens wrth iddynt gychwyn datblygu eu seilwaith ar ôl trosglwyddo ased cymunedol, ac maent wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol i'w cymunedau lleol.

Rwy'n credu mai'r pwynt am grwpiau'n gallu mynd ag ased i'r cam nesaf sy'n tynnu sylw orau at pam fod hyn mor bwysig. Unwaith eto, ambell astudiaeth achos o Gwm Cynon: canolfan oriau dydd a gâi ei rheoli gan y cyngor yn Aberdâr oedd Santes Fair a chafodd yr ased ei drosglwyddo'n llwyddiannus i Age Connects Morgannwg. Erbyn hyn, fel Cynon Linc, a diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae'n gwasanaethu fel canolfan gymunedol sy'n cynnig amrywiaeth fawr o wasanaethau a chyfleusterau, ac mae'n gartref i feddygfa, elusennau a chaffi ardderchog. Cymerodd Cylch Meithrin Seren Fach feddiant ar adeilad segur yn Aberpennar, gan ei drawsnewid yn ofod croesawgar i blant a theuluoedd ac ehangu eu cynnig dysgu Cymraeg drwy chwarae. Ac mae ASD Rainbows wedi cymryd meddiant ar ganolfan gymunedol ym Mherthcelyn i ddatblygu eu gweledigaeth i ymestyn y gefnogaeth y maent yn ei darparu i blant a'u teuluoedd ac i ddarparu ased mawr ei angen sydd wedi ei adfer i'r gymuned leol.

Mae adroddiad y pwyllgor yn dystiolaeth gryno o'r rheswm pam fod angen y rhain arnom, gyda Sefydliad Bevan, er enghraifft, yn nodi y gall trosglwyddo asedau ysgogi datblygiad economaidd mewn gwirionedd. Cefais fy nharo hefyd gan y dystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau fod ardaloedd llai cyfoethog sy'n cynnwys llawer o'r asedau cymunedol hyn wedi'u gyrru gan berchnogaeth gymunedol, yn dangos

'gwell canlyniadau iechyd a lles, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant' na'r rhai nad ydynt yn meddu ar lawer ohonynt. 

Felly, nid oes modd gwadu'r elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn. Fel y mae'r adroddiad yn nodi'n glir, rhaid cael prosesau a chymorth i gyd-fynd ag awydd cymuned i ymgymryd ag ased er mwyn gallu gwireddu'r weledigaeth. Yn sgil yr holl enghreifftiau cadarnhaol y soniais amdanynt yn fy etholaeth, er nad ydynt yn syndod, mae'n wych gweld y cyfeiriadau niferus yn yr adroddiad at arferion da a roddwyd ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi RhCT fel un o'r enghreifftiau da o gyngor yn rhoi seilwaith a gwybodaeth yn eu lle sy'n arwain at 'drosglwyddo asedau'n ddidrafferth'. Nodir un pwynt cyswllt, tîm cymharol fawr o swyddogion, ac arweiniad sydd ar gael yn rhwydd fel elfennau o hyn. Fel y mae paragraff 59 yr adroddiad yn ei nodi'n glir, rhaid i'r broses drosglwyddo beidio â bod yn rhy fiwrocrataidd. Rhaid rhoi mecanweithiau priodol o gadarn ar waith, ond ni ddylent fod yn rhwystr, ac rwy'n falch o weld bod Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn gwneud y pwynt hwn yn eu tystiolaeth, gan fy mod yn gwybod bod y grŵp wedi bod yn sbardun allweddol i gefnogi'r trosglwyddiadau hyn yn fy etholaeth.

Mae llawer o'r enghreifftiau a nodais wedi cyfeirio at drosglwyddiadau o'r sector cyhoeddus ond fel y mae'r adroddiad yn ein hatgoffa, ceir heriau penodol pan fo'r ased mewn perchnogaeth breifat. Rwy'n ymdrin ag un achos ar hyn o bryd, gan weithio'n agos gyda grŵp Gwlyptiroedd Cymunedol Cwmbach wrth iddynt geisio cymryd meddiant ar dir sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig y grŵp yn defnyddio nifer o atebion arloesol i yrru'r trosglwyddiad yn ei flaen, megis cyhoeddi cyfranddaliadau cymunedol sy'n boblogaidd iawn. Fodd bynnag, maent yn wynebu anawsterau'n ymwneud ag amser a gwybodaeth gwirfoddolwyr. Yn rhannol, rwy'n credu y gellid darparu atebion drwy ddatblygu rhwydwaith cymheiriaid—fel y nododd Cwmpas ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn eu tystiolaeth—i rannu syniadau, i rannu arbenigedd, ac i rannu'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Mae'r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i'r argymhellion i'w groesawu. Fodd bynnag—a nodwyd y pwynt hwn eto yn yr adroddiad—rhaid i gefnogaeth o'r fath fod yn barhaus ac nid ar y dechrau'n unig pan fydd ased yn cael ei drosglwyddo. Gall pethau fynd o chwith, ond gall mynediad at yr wybodaeth gywir helpu cymunedau i gael pethau'n ôl ar y trywydd iawn. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:26, 11 Ionawr 2023

Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Llywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i John Griffiths am waith caled iawn ei bwyllgor yn rhoi hyn at ei gilydd ac am gyflwyno'r cynnig heddiw, a diolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hynod bwysig hon? Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc y mae pobl yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch.

Mae asedau cymunedol wedi cael sylw mewn dadleuon yn y Siambr ar sawl achlysur eleni, gan adlewyrchu'n glir pa mor bwysig yw asedau a gwasanaethau a ddarperir o fewn cymunedau. Ac mae'r cymunedau eu hunain, wrth gwrs, yn un o'n hasedau mwyaf yng Nghymru, ac yn ganolog i'n polisïau a'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu. Mae ein bwrdd polisi cymunedau yn parhau i ddatblygu polisi i rymuso ein cymunedau mewn meysydd polisi allweddol. Bydd eu gwaith presennol yn ein helpu i sicrhau ein bod wedi nodi'r rhanddeiliaid cymunedol cywir i fwydo i'r gwaith penodol hwn sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol ar asedau.

Mae asedau tir ac eiddo yn galluogi ein cymunedau i gael mwy o reolaeth dros wasanaethau a chyfleusterau o fewn eu cymunedau ac maent yn hynod o bwysig i'r economi sylfaenol. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad a'r argymhellion gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Rwyf i a fy nghyd-Weinidogion Cabinet, Rebecca Evans a Jane Hutt, wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion mewn egwyddor neu'n llawn, fel y mae pawb wedi nodi. Un yn unig a wrthodwyd gennym, sef argymhelliad 14—fel y nododd nifer o bobl—y byddem yn sefydlu cronfa Gymreig benodol ar gyfer prosiectau tai cymunedol. A'r rheswm dros wrthod yw oherwydd ein bod yn credu bod ein dull presennol eisoes wedi'i gynllunio i gyflawni amcan yr argymhelliad. Ein rheswm dros gredu hynny yw ein bod yn dilyn argymhellion yr adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy 2019 y dylem symleiddio rhaglenni ar gyfer tai fforddiadwy, ac fe wneuthum dderbyn yr argymhelliad hwnnw. Felly, rydym wedi cymryd camau i symud yr argymhelliad hwnnw yn ei flaen ac rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau bod cyllid ar gael yn benodol ar gyfer datblygiadau tai a arweinir gan y gymuned.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos gyda Cwmpas ar gynllun ar gyfer ymddiriedolaeth tir cymunedol yn Abertawe. Os yw eu cais am arian o'r gronfa datblygu tir ac adeiladau yn llwyddiannus, bydd fy swyddogion yn sicrhau wedyn y gellir defnyddio'r mecanwaith hwn yn llawer ehangach i gefnogi prosiectau tai a arweinir gan y gymuned. Mae'r gronfa'n cynnig cyfle i grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad at gyllid ar gyfer gwaith cyfnod cynnar, fel astudiaethau dichonoldeb safleoedd ac arfarniadau o opsiynau, y clywsom eu bod yn rhwystr penodol a wynebant. Ac rwy'n edrych ymlaen at allu adrodd i'r pwyllgor ar gynnydd wrth i'r peilot hwnnw ddatblygu. Credaf yn gryf mai gweithio mewn partneriaeth yw'r ffordd ymlaen. Drwy weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gall grwpiau tai a arweinir gan y gymuned hefyd gael mynediad at grant tai cymdeithasol. Mae'r dull hwn o weithredu hefyd yn rhoi mynediad i'r grŵp cymunedol at yr arbenigedd technegol a phroffesiynol y byddant yn ei chael hi'n anodd cael gafael arno fel arall.

I droi at argymhellion eraill y pwyllgor, maent yn amlwg yn bellgyrhaeddol iawn. Mae ein pecyn cymorth ar gyfer grwpiau cymunedol yn fframwaith o ganllawiau, cyllid a chefnogaeth arall, ac mae llawer ohono'n cael ei ddarparu gan bartneriaid yn y trydydd sector, megis Cwmpas, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol. Mae'r argymhelliad y dylid sefydlu comisiwn i edrych yn fanylach ar rai o'r rhwystrau i sut y darparwn gymorth yn cydnabod cymhlethdod a phwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn perthynas â pherchnogaeth gymunedol neu reoli asedau yn eu cymunedau. Ac yn y man, byddaf yn trafod yr angen i ystyried ffurf a chwmpas y comisiwn ac i ystyried beth fydd ei drefniadau cymorth yn dibynnu arno a phwy fydd y rhanddeiliaid pwysicaf. Rydym yn llwyr gefnogi ein cymunedau lle mae perchnogaeth yn briodol, ond nid dyma'r opsiwn gorau bob amser, yn enwedig mewn cyfnod heriol yn economaidd. Gall modelau eraill fod yr un mor rymusol a thrwy dderbyn yr argymhellion ein bod yn sefydlu rhwydwaith cymheiriaid ac yn casglu astudiaethau achos, gallwn rannu gwahanol brofiadau a dysgu a sicrhau nad dull un ateb i bawb sydd gennym, Ddirprwy Lywydd. 

Mae'r argymhellion hefyd yn cynnwys galwad am fwy o ganllawiau ar werth cymdeithasol, yn enwedig sut y gellir adlewyrchu hyn yn y pris y mae grwpiau cymunedol yn ei dalu am asedau. Rwy'n cydnabod bod hyn yn cael ei weld fel rhwystr mawr rhag trosglwyddo'n fforddiadwy i grwpiau cymunedol. Fodd bynnag, rydym yn darparu grantiau a benthyciadau hael i gymunedau er mwyn galluogi cymunedau i brynu asedau. Rydym eisoes wedi buddsoddi £46.4 miliwn mewn grantiau i 369 o brosiectau ers 2015 ac rydym wedi ymrwymo £19 miliwn arall yn y tair blynedd nesaf; mae £5 miliwn hefyd ar gael o'r gronfa benthyciadau cymunedol sy'n cael ei rhedeg ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae pob un yn rhoi mynediad i grwpiau cymunedol at hyd at £300,000 i brynu asedau. Bydd ein hadolygiad o'r canllawiau yn ystyried gwerth cymdeithasol, gan gynnwys yr ymchwil a wnaed gan Compass Cymru mewn perthynas â chaffael cyhoeddus.

Mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o'n hymrwymiad statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac wrth gwrs, rwy'n derbyn yr argymhelliad y dylai hyn fod yn llawer mwy eglur yn ein canllawiau. Bydd hyn a gwaith parhaus arall ar werth cymdeithasol a chynaliadwyedd yn ein helpu i weithredu ar yr argymhelliad hwn o fewn y ffrâm amser y mae'r pwyllgor wedi'i osod i ni. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol er mwyn cynhyrchu canllawiau i fodloni disgwyliadau'r pwyllgor a gallaf gadarnhau bod swyddogion eisoes wedi dechrau gweithio ar hyn. Felly, gallaf eich sicrhau'n bendant nad ymgais i'w osod naill ochr yw hyn—rwy'n awyddus tu hwnt i wneud i hyn ddigwydd. 

Un o'r rhwystrau mwyaf cyson a amlygwyd yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor oedd prinder y data a oedd ar gael i'r cyhoedd. Mae ein platfform mapio data, DataMapWales, eisoes ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn rhad ac am ddim, ond ar hyn o bryd nid yw ond yn dangos tir mewn perchnogaeth gyhoeddus. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio gyda DataMapWales gyda'r bwriad o gynnwys y data a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF ar dir mewn perchnogaeth breifat. Bydd hyn yn cynyddu'r data i gwmpasu tua 87 y cant o dir. Mae'r gofrestrfa tir hefyd yn anelu at gofrestru'r holl dir erbyn 2030, a fydd yn rhoi data llawn i ni ar ein platfformau mapio.

Mae'r pwyllgor wedi argymell sefydlu comisiwn i ystyried nifer o'r 16 o argymhellion a wnaethant, ac rwy'n croesawu'r syniad yn llwyr. Mae hwn yn faes cymhleth lle ceir llawer o ddiddordebau a safbwyntiau a rhwystrau anodd a pharhaus y mae angen eu hystyried yn fanwl iawn. Bydd natur y comisiwn, ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl yn hollbwysig os yw'r comisiwn am ddod o hyd i atebion ymarferol sy'n grymuso grwpiau cymunedol, ac mae'n bwysig iawn fod gan randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau eu hunain, lais yn hyn. Ac fel rwy'n dweud, mae'r gwaith eisoes wedi dechrau.

Nododd nifer o'r Aelodau bwynt am yr amseru. Felly, hoffwn ddweud ein bod eisoes yn gwneud llawer o'r gwaith. Y rheswm ei fod 'mewn egwyddor' yw nad ydym yn ei wneud yn union yn y ffordd y nododd y pwyllgor, ond rydym eisoes wedi ei ddechrau. Mater mawr i ni fydd sut i gael cymunedau i gymryd rhan yn y broses o sefydlu cylch gorchwyl a chwmpas a maint ac aelodaeth y comisiwn. Rwy'n hapus iawn i'r Aelodau fod yn rhan o hynny neu'n wir i'r pwyllgor wneud argymhellion pellach, John, os ystyrir bod hynny'n briodol. 

Byddwn am ofyn i'r comisiwn edrych ar sut y gellir rhoi mwy o gyfle cyfartal i gymunedau wrth iddynt gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat, unwaith eto, fel y soniodd nifer o bobl, Mabon yn arbennig, ac fe wnaeth nifer o bobl eraill nodi hyn hefyd. Mae hyn yn cynnwys ystyried a fyddai deddfwriaeth yn briodol i Gymru. Felly, mae'n bwysig iawn fod y comisiwn yn ystyried tystiolaeth ynglŷn â pha mor effeithiol y bu'r ddeddfwriaeth o ran grymuso pwyllgorau lle cafodd deddfwriaeth ei chyflwyno, ac rydym yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth yn yr Alban a Lloegr i gynorthwyo'r comisiwn yn ei waith. Ond yn bendant, mae'n dal i fod yn agored i'w ystyried. Os mai dyna mae'r comisiwn yn ei argymell yn y dyfodol, byddem yn hapus iawn gyda hynny. Rydym am eu cynorthwyo i wneud y gwaith hwnnw.

Felly, ochr yn ochr â'r cynlluniau peilot eraill a gyflawnwyd drwy ein bwrdd polisi cymunedau, bydd hyn yn darparu tystiolaeth i alluogi'r comisiwn i ystyried a fyddai darpariaethau tebyg o fudd i'r cymunedau yng Nghymru. Mae'r pwyllgor wedi ein herio yn gwbl briodol i wneud trosglwyddo asedau'n haws i'n cymunedau. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod y trosglwyddiadau hynny'n gynaliadwy ac yn gwella gwytnwch ein cymunedau. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am ei argymhellion ac rwy'n hapus iawn i fwrw ymlaen â'r gwaith ochr yn ochr â'r pwyllgor ac Aelodau eraill sydd â diddordeb. Diolch. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:34, 11 Ionawr 2023

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i ymateb i'r ddadl—John Griffiths.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i holl Aelodau'r Senedd a gymerodd ran yn y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor a'r ffordd y gwnaethant hynny? Rwy'n credu ei bod yn glir iawn, onid yw, fod Aelodau'n gwerthfawrogi'r asedau cymunedol sydd ganddynt yn eu hardaloedd eu hunain ac yn gallu pwyntio at lawer o enghreifftiau o arferion da, ac yn wir, cyfeiriodd llawer o Aelodau at yr angen i ledaenu'r enghreifftiau hynny o arferion da a sefydlu rhwydwaith cymheiriaid a dulliau eraill o wneud hynny. Ond mae'n galonogol iawn clywed yr enghreifftiau hynny, ac fel rwy'n dweud, rwy'n credu y bydd gan bob un ohonom, nid y rhai a gymerodd ran yn y ddadl heddiw yn unig, ond holl Aelodau'r Senedd, yr enghreifftiau da hynny yn eu hardaloedd eu hunain.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:35, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn farn gyffredin fod angen inni ystyried amseroldeb gweithredu wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad a'r cynnydd angenrheidiol mewn perthynas â'r materion hyn. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ymateb i hynny ac yn datgan ei hymrwymiad ei hun i sicrhau amseroldeb wrth fwrw ymlaen ag ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud beth bynnag. Rwy'n credu bod y comisiwn yn allweddol i hynny, sefydlu'r comisiwn a'r cyfan y gall y comisiwn ei wneud wedyn i ystyried y ffyrdd gorau ymlaen, gan gynnwys deddfwriaeth, fel y soniodd y Gweinidog. Ac unwaith eto, da clywed y Gweinidog yn ymrwymo i roi ystyriaeth lawn a dyledus i ddeddfwriaeth, yn dibynnu ar yr hyn y mae'r corff annibynnol yn ei gyflwyno a barn y comisiwn ei hun, oherwydd gallai honno fod yn ffordd bwysig iawn ymlaen, a soniodd llawer o Aelodau am enghreifftiau'r Alban a Lloegr.

Rwy'n credu ei bod yn glir hefyd, onid ydyw, Ddirprwy Lywydd, fod yr Aelodau'n ystyried yr angerdd a'r ymrwymiad yn eu cymunedau eu hunain ac o fewn eu henghreifftiau eu hunain o arferion da yn lleol, felly mae yna lawer y gallwn bwyso arno wrth ddatblygu'r gwaith hwn, oherwydd rydym yn aml yn clywed mai cymuned o gymunedau yw Cymru, ac rwy'n credu bod llawer o gryfder yn hynny ac yn hanes ein gwlad a'r realiti presennol. Mae pobl eisiau gweld eu hansawdd bywyd lleol yn eu dwylo eu hunain, i raddau ystyrlon. Maent eisiau cael eu grymuso. Maent eisiau bwrw ymlaen â'u prosiectau eu hunain. Maent eisiau gweithio gyda'i gilydd a mudiadau eraill. Wedi'r cyfan, ein cymunedau ni—wyddoch chi, pobl, eu teuluoedd, eu ffrindiau—sydd ar y rheng flaen, fel petai. Hwy sydd eisiau ac sy'n elwa ar wasanaethau lleol da, o ddatblygu cymunedol, o'r angerdd a'r ymrwymiad hwnnw sy'n trosi'n weithredu ar lawr gwlad, ac unwaith eto fe glywsom am sawl enghraifft o sut mae hynny o fudd gwirioneddol i'n cymunedau ni yng Nghymru heddiw.

Ac rwy'n credu bod yr Aelodau a soniodd am y materion cyfiawnder cymdeithasol—Mabon a Vikki Howells ac eraill rwy'n credu—yn gwneud pwyntiau pwerus iawn; mae tystiolaeth yn dangos, lle mae yna lefel dda o drosglwyddo asedau cymunedol a lle mae gan gymunedau fwy o reolaeth ar eu materion eu hunain a'u hamgylchiadau eu hunain, rydym yn gweld y manteision i lefelau sgiliau yn y gymuned leol, i iechyd a llesiant, i ddatblygu economaidd, i ansawdd bywyd yn gyffredinol. Mae hynny'n bwerus iawn yn wir, onid ydyw, ac rwy'n credu bod angen inni roi ystyriaeth ddigonol i hynny.

Ddirprwy Lywydd, credaf fod y sefyllfa bresennol, lle rydym wedi cael cymaint o flynyddoedd o gyni ers amser maith bellach, a'r argyfwng costau byw nawr, yn golygu bod angen bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar fwy o frys, oherwydd un ymateb i hynny yw edrych ar yr hyn sy'n rhoi gwerth da am arian a buddsoddiad. A phan fyddwch yn meddwl am yr hyn y mae cymunedau'n ei gynnig o ran eu hymrwymiad eu hunain, yr amser y maent yn fodlon ei roi, yr egni y maent yn fodlon ei roi, mae ychydig o gyllid sbarduno, fel petai, yn mynd yn bell iawn os gallwch harneisio'r ymrwymiad hwnnw a'r angerdd hwnnw, ac mae hwn yn faes lle gellir cyflawni hynny a lle gellir ei wneud mewn modd ystyrlon mewn gwirionedd.

Felly, rwy'n credu bod hon yn gyfres o argymhellion ac yn adroddiad amserol, ac os gallwn ni gefnogi ein cymunedau—. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod yr Aelodau wedi gwneud pwyntiau pwerus yn y ddadl hon am yr angen i beidio â throsglwyddo asedau a chyfrifoldeb am wasanaethau er mwyn lleihau cyfrifoldebau ariannol awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn unig, ond yn hytrach er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a gwelliant cynaliadwy yn y gwasanaethau hynny a defnydd o'r cyfleusterau hynny. Os gallwn gyflawni hynny, byddwn yn gwneud gwaith pwerus iawn a da iawn i'n cymunedau yma yng Nghymru.

Ac fel rwyf wedi'i ddweud fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, Ddirprwy Lywydd, gan adlewyrchu sylwadau aelodau'r pwyllgor, wrth lunio ein hadroddiadau yn y Senedd hon, byddwn yn fwy ystyriol byth o'r angen i gynnal ein diddordeb, i ddychwelyd at yr argymhellion, i barhau i graffu ar Lywodraeth Cymru i weld a yw'r ymatebion yn cael eu gwireddu ar lawr gwlad, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i'r adroddiad hwn lawn cymaint ag unrhyw un arall. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:40, 11 Ionawr 2023

Diolch, John. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.