7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfrifiad 2021 — Y Canlyniadau o ran y Gymraeg

– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 5:25, 24 Ionawr 2023

Symudwn ymlaen yn awr i eitem 7, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gyfrifiad 2021 a'r canlyniadau o ran y Gymraeg. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi wedi dweud yn barod bod penawdau’r cyfrifiad yn siomedig, ac nad dyna roedden ni'n gobeithio ei weld. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig nodi bod mwy i'r stori na jest y pennawd, ac mae yna fwy i bolisi iaith na jest y cyfrifiad.

Gyntaf i gyd, gadewch i ni atgoffa'n hunain o'r canlyniadau. Ar ddiwrnod y cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd tua 538,000 o breswylwyr arferol Cymru tair oed ac yn hŷn wedi nodi eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg. Mae hynny jest o dan 18 y cant o'r boblogaeth. Ond mae hwnna bron i 24,000 yn llai o bobl nag yng nghyfrifiad 2011. O ran plant tair i 15 oed, roedd yna leihad o tua 6 phwynt canran yn y gyfran a gafodd ei nodi eu bod nhw'n medru'r Gymraeg. Ond yn yr un cyfnod, roedd twf o dros 11,000 wedi bod ers cyfrifiad 2011 yn y niferoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Mi oedd yna gynnydd bach yn yr oedolion iau sy'n medru'r Gymraeg—hynny yw y grŵp oedran 16 i 44—o 17.2 y cant yn 2011 i 17.9 y cant yn 2021, ac mae yna fwy o ddata ar y ffordd. Bydd hwn yn cynnwys gwahanol lefelau daearyddol, data am ethnigrwydd, a syniad o faint o blant sy'n gallu siarad Cymraeg mewn cartrefi lle mae yna oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg hefyd—trosglwyddo'r Gymraeg rhwng y cenedlaethau, i ddefnyddio'r term technegol. Rŷn ni'n gobeithio y bydd y data newydd yma yn cael ei ryddhau o fewn y misoedd nesaf, a dwi'n cael ei weld e ar yr un pryd â phawb arall—dwi ddim yn ei gael e unrhyw funud ynghynt, yn union fel roedd hi yn nôl ym mis Rhagfyr. Dyma ni wedi cael cyfle cychwynnol, felly, i gnoi cil ar y canlyniadau. Y peth sy'n gyfan gwbl amlwg yw bod angen i ni edrych yn fanwl iawn ar y grŵp oedran tair i 15 oed. Heb os, fe fydd angen dadansoddiadau pellach, a byddwn ni'n gweithio ar hyn drwy gydol y flwyddyn.

Mae’n werth nodi, wrth i ni edrych ar wahanol ganlyniadau a gwahanol arolygon ar y Gymraeg, ein bod ni'n gweld eu bod nhw'n dweud pethau gwahanol wrthym ni, ac mae angen i ni wybod pam mae hynny. Mae'r arolwg blynyddol diweddaraf o'r boblogaeth yn dangos bod bron i 900,000 yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â'r 538,000 mae cyfrifiad 2021 yn ei nodi. Mae'n harolwg cenedlaethol ni yn dangos cynnydd sylweddol yng nghanran yr oedolion 16 mlwydd oed neu'n hŷn sydd â rhywfaint o allu i siarad Cymraeg. Pam? Mae cwestiwn y cyfrifiad yn eithaf binary a moel, a dwi'n nabod lot o bobl—fel chi, siŵr o fod, hefyd—sy'n dweud wrthyf i, yn Gymraeg, nad ydyn nhw'n ddigon hyderus i dicio bocs Cymraeg y cyfrifiad.

Mae siaradwyr newydd yn hollbwysig i ddyfodol ein hiaith ni. Byddwn i'n hoffi gweld cydnabyddiaeth bod siaradwyr goddefol yn rhan bwysig o'r ateb ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu mwy o sgyrsiau dwyieithog a newid diwylliant. Rŷn ni'n adeiladu ar ddegawdau o orfod dewis rhwng Saesneg a Chymraeg lle mai'r realiti i'r rhan fwyaf ohonom ni ydy bywydau dwyieithog. Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr ystadegydd gwladol yn gofyn iddo fe edrych ar sut a pham mae gwahanol arolygon am yr un testun yn gallu dangos canlyniadau sy'n amrywio. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn deall mwy am hyn. Mae bwlch rhwng yr arolygon; dyw hynny, a dweud y gwir, ddim yn anarferol. Yr hyn sydd yn anarferol yw i'r naill un fynd am i fyny, a’r llall fynd am i lawr. Pan gawn ni’r ateb, a phan gawn ni weddill data’r cyfrifiad, fe wnawn ni ddiweddaru taflwybr ystadegol—y trajectory—ar gyfer 'Cymraeg 2050', yn union fel y gwnaethon ni addo nôl yn 2017.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:30, 24 Ionawr 2023

Mae’n eithaf naturiol, wrth gwrs, i bobl holi beth yw goblygiadau’r canlyniadau diweddaraf yma i’n gwaith ni. Yn gyntaf i gyd, dwi am i chi fod yn siŵr ein bod ni'n dal wedi ymrwymo’n llwyr i filiwn o siaradwyr a hefyd ddyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Ac mae’n bwysig nodi hefyd bod Cymraeg 2050 ond wedi bod yn ei le am lai na phedair blynedd adeg cynnal cyfrifiad 2021. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod cyfnod sylweddol o’r cyfnod yna wedi cael ei darfu gan bandemig COVID-19. Er gwaethaf y pandemig, rŷn ni wedi gweithio’n galed i greu sylfaen angenrheidiol i’r strategaeth, yn arbennig ym myd addysg, a byddaf i’n gwneud datganiad bellach am addysg a’r Gymraeg yr wythnos nesaf.

Er mwyn cyrraedd y nod, mae wedi bod yn glir erioed bod angen lot mwy na jest ni yn Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni i gyd—penaethiaid ysgolion, busnesau, gwleidyddion, awdurdodau lleol, arweinwyr sefydliadau—gymryd mwy o gyfrifoldeb am Gymraeg 2050 a’i gwneud hi’n fwy o flaenoriaeth fel rhan ganolog o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Mae hynny’n golygu efallai fod angen newid y ffordd mae’r 'ni' ehangach yn gweithio a’r pethau rŷn ni’n eu gwneud. Ac yn ystod y misoedd sy’n dod, fe fyddaf i’n gwneud tipyn o bethau fy hun. Er enghraifft, dwi am edrych yn galed ar sut mae’r Gymraeg yn gweithio yn ein hysgolion Saesneg ni.

Mae dirywiad pellach yn ein cymunedau Cymraeg. Mae’r comisiwn cymunedau Cymraeg, a wnes i lansio fis Awst diwethaf, wedi estyn galwad am dystiolaeth. Mae gen i ddiddordeb cael gwybod beth yw’r hyn sy'n dod i law. A dwi’n arbennig o awyddus i ddeall mwy am ddiboblogi a'r normal newydd, ac a oes yna gyfleoedd newydd i’r ardaloedd hynny ffynnu mewn ffordd wahanol. Mae mentrau cymdeithasol yn ffordd i gymunedau afael yn eu dyfodol ac mae yna enghreifftiau gwych yn barod. Dyna pam dwi wedi rhoi £400,000 eleni i fudiad Cwmpas weithio mewn partneriaeth gyda ni i gynyddu nifer y rhain sy’n gweithio drwy’r Gymraeg.

Maes arall sy’n bwysig i ni yw’r oedran 0 i 4 oed. Mae tyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd i barhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, felly mae gweithio gyda theuluoedd i roi llwybr i bawb i mewn i’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg. Ond mae’n werth nodi hefyd bod y grŵp yma o blant yn mynd yn llai o ran nifer, felly mae’n bwysig i ni gwneud yn siŵr bod cynifer ag sy’n bosibl yn manteisio ar yr hyn sydd ar gael.

Bydd cohort arall ar ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog. Mae’r rhaglen yma i uwch arweinwyr drafod sut mae gwneud Cymraeg 2050 yn eu sefydliadau nhw. Mae hyn am werthoedd personol a sefydliadol, a sut mae dod â chalonnau a meddyliau gyda ni. Mae hefyd yn golygu gwrando’n ddwfn ar straeon pobl am eu profiad eu hunain o’r Gymraeg. Mae cynllunio gweithlu digonol i alluogi defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn hollbwysig, ac yn bwysicach fyth i’r bobl ifanc sy’n dod drwy’r system addysg. Bydd ein partneriaid ni mor bwysig ag erioed i sicrhau bod cyfleoedd i ni i gyd ddefnyddio'r Gymraeg. Dyna pam dwi newydd gymeradwyo dros £260,000 yn ychwanegol iddyn nhw yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. 

Hoffwn i, dros y flwyddyn nesaf, ddeall mwy am y meysydd canlynol: yn gyntaf, pam nad yw cynifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn hyderus i’w defnyddio hi ar ôl gadael ysgol? Ai diffyg cyfle yw’r broblem neu ffurfioldeb iaith addysg, neu’r ddau, efallai? Ond, i fynd nôl at ffurfioldeb y Gymraeg, mae hwn yn rhywbeth dwi eisiau edrych arno fe’n fwy manwl. Mae sawl un wedi codi gyda fi bod y Gymraeg wedi troi i fod yn iaith cyfieithu, a ddim iaith sy’n eu cyffwrdd nhw fel pobl. A dwi eisiau gwybod beth ymhellach sydd gan dechnoleg i’w gynnig i wneud y Gymraeg yn haws ei defnyddio ac i wneud y Gymraeg yn gyfredol i blant a phobl ifanc. Dwi felly am gadarnhau y byddaf i’n parhau i fuddsoddi yn y maes pwysig yma, a dwi am weld ein cyfrifiaduron yn gallu bod yn siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.

Felly, fy neges heddiw yw bod rhaid i ni barhau i fod yn optimistaidd am ein hiaith ni. Dwi’n teimlo bod siom y canlyniadau wedi sbarduno brwdfrydedd newydd i weithio mewn ffyrdd gwahanol er lles y Gymraeg. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill wedi dangos yn glir bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n gallu dod â ni at ein gilydd, pa faint bynnag ohoni hi rŷn ni’n ei siarad. Mae mwy o falchder yn ein hiaith a’n hunaniaeth ni nag erioed o’r blaen, a dwi’n hyderus bod modd i ni gynyddu nifer ein siaradwyr, bod modd i bawb fod ar daith iaith a bod modd i ni roi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’n bywydau bob dydd.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 5:35, 24 Ionawr 2023

Diolch i'r Gweinidog am roi golwg o'r datganiad imi o flaen llaw—diolch yn fawr. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2021 yn siom, o ystyried uchelgais y Llywodraeth Cymru hon: miliwn o siaradwyr erbyn 2050, rwy'n ei gweld fel setback sylweddol bod Cymru wedi mynd yn ôl ar gyrraedd ein targed. Felly mae'n bwysig nad ydyn ni'n gadael i'r setback yma danseilio'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni.

Nawr, rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r heriau o fewn recriwtio athrawon, yn benodol wrth sicrhau ein bod yn recriwtio digon o addysgwyr Cymraeg eu hiaith i addysgu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog—pwynt yr wyf yn meddwl sy'n cael ei amlygu gan ddata'r cyfrifiad. Mae canran uchel o athrawon sy'n siarad Cymraeg yn nesáu at oedran ymddeol tra bod rhai yn dewis gwneud y penderfyniad i adael y proffesiwn yn gynnar. O ystyried nad oes digon o athrawon newydd gymhwyso Cymraeg eu hiaith yn ymuno â'r proffesiwn, mae hyn yn fudiad sylweddol o'n hymdrechion i gyflawni Cymraeg 2050. Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, er mwyn cyrraedd targed Cymraeg 2050 a gweithredu pob cynllun strategol Cymraeg mewn addysg mewn ffordd effeithiol, dylai Llywodraeth Cymru fod yn recriwtio a hyfforddi 550 o athrawon y flwyddyn. Mewn gwirionedd, mae'r ffigwr hwn yn 250,—300 o athrawon yn brin bob blwyddyn. O ystyried hyn, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut mae'r Gweinidog yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg hwn. Rwy'n siŵr ei fod yn cytuno â mi bod angen gwelliant mawr mewn polisïau recriwtio pe baem ni i gael unrhyw obaith o ran cyrraedd ein targedau.

Yn ogystal â hyn, gwyddom hefyd na fydd addysg Cymraeg a dwyieithog yn unig yn cyflawni niferoedd y siaradwyr Cymraeg sydd eu hangen i gyrraedd targed 2050. Fel y dywedais yn flaenorol, dylen ni ddefnyddio pob offeryn sydd ar gael i ni er mwyn cyrraedd y targed, ac felly, o ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i ni o fewn addysg cyfrwng Saesneg, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod ganddyn nhw rôl gynyddol bwysig i'w chwarae. Mae'r drefn newydd o gategoreiddio ysgolion a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i bob ysgol cyfrwng Saesneg ddarparu 15 y cant o weithgareddau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sef cynnydd ar y lefelau presennol, ond nid oes gan ddigon o athrawon y lefel iawn o sgiliau iaith Gymraeg i gyflawni'r cynnydd hwn, ac adlewyrchwyd hyn o fewn data'r cyfrifiad. Yn y meysydd lle cyflwynir addysg yn bennaf trwy'r Saesneg, yna gwelodd y nifer a gafodd eu defnyddio yn yr iaith Gymraeg ddiffygion sylweddol.

Mae'n rhaid inni fod yn glir bod y problemau ynghylch y gweithlu addysg yn gymhleth iawn ac mae angen cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, prifysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i'w datrys. Un maes lle gallai Llywodraeth Cymru leddfu'r broblem hon yn sylweddol yw o fewn ymgynghoriad presennol sy'n asesu'r meini prawf o ran achrediad addysg gychwynol i athrawon, AGA, yng Nghymru, a daeth yr ymgynghoriad i ben yr wythnos ddiwethaf. Mae gan bartneriaethau addysg gychwynnol athrawon y rôl o ddatblygu gweithlu addysg ddwyieithog, ac felly mae meini prawf i'w achredu yn ffordd glir iawn i Lywodraeth Cymru nodi ei ddisgwyliadau am y Gymraeg i ddarparwyr AGA. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod meini prawf sydd wedi eu hadnewyddu yn mynd yn ddigon pell ac yn gyson â pholisi cyfredol y Llywodraeth o gwmpas y Gymraeg ac addysg Gymraeg—ffordd glir ac ymarferol i'r Llywodraeth ddangos y polisi o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn darged ac yn uchelgais.

Pwynt olaf ar y cyfrifiad: o ystyried bod dau gyfrfiad i ddod cyn y flwyddyn 2050, hoffwn wybod os yw'r Llywodraeth wedi cyfrifo beth ddyslai cyfanswm y siaradwyr Cymraeg fod ar gyfer y ddau gyfrifiad hynny er mwyn sicrhau ein bod ar y llwybr cywir i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Cytunaf â chi, Weinidog, mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, fel y mae'r cyfrifoldeb am ei dyfodol, ond eich Llywodraeth chi sy'n gosod y polisïau ar gyfer ei dyfodol. Felly, pob lwc. Diolch, Llywydd.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:40, 24 Ionawr 2023

Diolch i Samuel Kurtz am yr amryw gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i ddelio gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw, os caf i. Dwi ddim yn mynd i ailddweud yr hyn ddywedais i ynglŷn â'r pwysigrwydd o edrych ar y data yn ei gyd-destun ac edrych ar y ffynonellau eraill o ddata hefyd wrth ddadansoddi lle'n union mae'r rhifau siaradwyr ar hyn o bryd. Dwi ddim fy hunan yn y feddylfryd o edrych ar hyn fel setback. Mae dewis gyda ni: naill ai i edrych arno fe fel setback neu edrych arno fel sbardun. Dwi'n credu, ar y cyfan, bod pobl wedi edrych arno fe fel sbardun. Mae'n sicr bod y ffigurau yn siomedig, ond y dasg nawr yw i edrych tua'r dyfodol ac edrych ar beth mae hynny'n dweud wrthym ni, ac ailymrwymo ar draws y genedl. 

O ran y gweithlu addysg, mae'r Aelod yn gwybod fy mod i'n gweld hwn yn faes heriol iawn. Mis Mai y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi 'Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg'. Mae'r cynllun hwnnw'n nodi'r camau y byddwn ni'n cymryd mewn partneriaeth gyda amryw o eraill i gynyddu nifer yr athrawon, ond hefyd, arweinwyr a chynorthwywyr i'r sector cyfrwng Cymraeg, a hefyd—ac mae hyn yn bwysig yng nghyd-destun rhan arall cwestiwn yr Aelod—i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd. Mae'r cyfnod 10 mlynedd hwnnw yn cyd-fynd â'r cylch 10 mlynedd ar gyfer y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd, a bydd arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y dair blynedd nesaf i weithredu'r cynllun 10 mlynedd. Felly, mae hynny'n arwydd clir o'n hymrwymiad ni i fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Byddwn ni'n ailedrych ar y lefelau recriwtio yn gyson ac yn adrodd yn swyddogol i'r Senedd hon bob dwy flynedd, ond bydd y data ar gael, wrth gwrs, yn fwy aml na hynny.

O ran dysgu'r Gymraeg yn y system addysg Saesneg, mae'r Aelod yn gwybod ein bod ni wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer hyn yn ddiweddar. Fe wnaeth e sôn am gategoreiddio. Mae hynny'n ffordd bwysig iawn o gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y system addysg Saesneg. Am y tro cyntaf, mae gyda ni, fel rhan o'r cwricwlwm newydd, ei fod e'n ofynnol fod y Gymraeg ym mhob ysgol. Felly, mae hynny'n gam mawr o'n blaenau ni. Rwy'n credu mai'r peth pwysig, y cyfle sydd gyda ni, yw i uno'r system Gymraeg a Saesneg fel bod gan bob plentyn sy'n mynd drwy'r system, pa bynnag un, gyfle teg i adael y system yn medru'r Gymraeg. Dyna'r her. Nid ein bod ni'n edrych arno fel bod y ddwy system ar wahân, ond ei bod hi'n un system sy'n darparu hynny i bob dysgwr. Mae angen sicrhau ein bod ni'n deall sgiliau'r gweithlu yn well nag yr ŷm ni ar hyn o bryd, gan gynnwys sgiliau goddefol a sgiliau pobl sy'n medru'r Gymraeg ond yn ddihyder yn ei defnyddio hi yn eu gwaith. 

Mae'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am addysg gychwynnol yn bwysig. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda'r partneriaethau wrth ein bod ni'n edrych ar y cohort o fyfyrwyr sydd gyda nhw ar hyn o bryd. Mae edrych ar y criteria ar gyfer cymhwyso yn rhan o hynny, fel mae'r Aelod yn awgrymu.

Yn olaf, os caf i, o ran y taflwybr ar gyfer 2050 yn gyffredinol, rŷn ni wedi ymrwymo i ailedrych ar hwnnw yn sgil y canlyniadau. Roedden ni'n bwriadu gwneud hynny beth bynnag, felly byddwn ni'n gwneud hynny dros y flwyddyn nesaf.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:43, 24 Ionawr 2023

Diolch, Weinidog, am y datganiad pwysig hwn heddiw. Dwi'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud yn llwyr o ran rydyn ni i gyd yn adnabod pobl sydd ddim wedi ticio'r bocs o ran y Gymraeg. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, dwi yn pryderu o'ch clywed chithau, amryw o weithiau rŵan, a'r Prif Weinidog—fe wnaethoch chi ddefnyddio’r geiriau 'jest' y cyfrifiad. Ond, yn amlwg, mae'r cyfrifiad yn eithriadol o bwysig. Yn 2011, dywedodd y Llywodraeth, yn sgil y canlyniadau hynny, y byddai canlyniadau'r cyfrifiad yn llywio eich gwaith ar yr iaith Gymraeg nawr ac yn y dyfodol.

Yn sicr, dwi ddim eisiau i ni roi yr argraff fod y cyfrifiad ddim yn arf pwysig tu hwnt. Os ydyn ni'n meddwl bod 96.4 y cant o breswylwyr wedi ymateb o gymharu efo'r 12,000 sydd yn cymryd rhan yn arolwg cenedlaethol Cymru, efallai fod yna gwestiynau i'w gofyn o ran yr arolwg cenedlaethol a'r ffurf hwnnw, yn fwy, felly, na'r cyfrifiad. Beth fyddwn i'n hoffi gweld ydy ein bod ni ddim yn difrïo neu diystyru'r canlyniadau hyn, ond ein bod ni'n cymryd y rhybudd amlwg hwnnw, y rhybudd cawsom ni yn 2011, ac mi oedd y Llywodraeth yn cydnabod pa mor bwysig oedd y cyfrifiad o ran hynny. Oherwydd, yn amlwg, mae'r cyfrifiad yn edrych i sicrhau bod yr ystadegau hynny yn edrych ar yr holl ddata sydd ar gael er mwyn rhoi'r sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posib i ddefnyddwyr. Felly, gaf i ofyn pam, felly, mae yna newid wedi bod ers 2011 i rŵan o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried canlyniadau'r cyfrifiad, a pha reswm sydd yna i gwestiynu'n arbennig, felly, y data y tro yma? Buaswn i jest yn hoffi deall, yn enwedig os oedd y pwyslais mor bwysig yn y gorffennol, pam y newid rŵan, os ydych chi'n cyfeirio at sampl o 12,000 yn yr arolwg cenedlaethol mae Llywodraeth Cymru yn ei arwain arno fo.

Ond dydy hyn ddim yn ein helpu ni o ran—. Rydyn ni'n gwybod o brofiadau pobl rydyn ni'n siarad efo nhw. Mi oedd yna ddisgyblion o ysgol cyfrwng Saesneg mewn heddiw, yn 13 a 14 oed, yn dweud, 'Rydyn ni'n barod wedi colli'r cyfle o ran cael y Gymraeg.' Mae'r rhain yn ein system addysg ni ers i'r Senedd hon fodoli, wedi mynd i'r ysgol uwchradd ers i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg fodoli, felly rydyn ni'n gwybod am bobl sydd yn colli allan ar y cyfleon yn ein system addysg ni rŵan. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud bod hwnna'n flaenoriaeth i chi, wrth ystyried yr ymateb—beth ydy profiadau pob disgybl yng Nghymru, pa bynnag ysgol maen nhw ynddi? Dwi'n sicr yn meddwl bod hwn yn gwestiwn oedd yn cael ei ofyn ddegawd yn ôl, ond, os ydyn ni o ddifrif am sicrhau bod y targed yna o filiwn o siaradwyr yn darged, yn hytrach na dim ond uchelgais, yna mae'n rhaid inni weld y gweithredu. Ac yn sicr, dwi ddim eisiau gweld y targed hwn yn digwydd yn yr un modd ag yr oedd y targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020, lle mae gennym ni'r sefyllfa bod tlodi plant yn uwch nag erioed. Mae'n rhaid i hwn fod yn darged. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn cael y cynlluniau strategol yma. Ac mae yna dargedau yn y rheini sydd wedi cael eu colli dro ar ôl tro, ac mi oedd Sam Kurtz yn berffaith iawn o ran y targed yna. Dim jest y canlyniadau hyn sydd yn bryderus, ond y targedau sydd o dan y strategaeth miliwn o siaradwyr sydd yn cael eu colli yn barod, hyd yn oed ym mlynyddoedd cynnar hynny. 

Mae'r pwynt o ran nifer yr athrawon yn un eithriadol o bwysig oherwydd—. Rydyn ni wedi cwestiynu hyn nifer o weithiau ac mae o'n gwestiwn eithriadol o bwysig o ran, os ydyn ni'n dweud bod angen hyfforddi tua 550 bob blwyddyn, a'n bod ni'n cyrraedd 250, yna, wrth gwrs, dydyn ni ddim yn mynd i gyrraedd y targed—mae hynny'n berffaith amlwg. Pan oeddwn ni'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf, roeddwn i'n gweld blwyddyn ar ôl blwyddyn ein bod ni'n methu nifer o'r targedau, os ydyn ni am gyrraedd y filiwn o siaradwyr, o ran y sir o ran nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, dwi'n meddwl bod yn rhaid i'r ymyriadau rydyn ni'n eu gwneud fod yn rhai llawer mwy radical oherwydd, yn amlwg, os ydyn ni'n gwybod bod y targedau, ein bod ni'n mynd ar ei hôl hi'n barod, wel sut mae hynny wedyn yn cyd-fynd â chanlyniadau'r cyfrifiad ac ati?

Yr hyn hoffwn i ei ofyn hefyd ydy—. Rydych chi'n cyfeirio at ymdeimlad, ac mae'n eithriadol o bwysig bod yr ymdeimlad a'r balchder cenedlaethol yma yn rhan o hynny, ond dydy hynny ddim yn mynd i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw, ac mae angen sicrhau bod y cyfleoedd hynny y tu hwnt i'r dosbarth. Beth sydd yn fy mhryderu i ydy, efo'r argyfwng costau byw, mai dyna'r math o weithgareddau rydyn ni'n mynd i weld yn cael eu colli os nad oes defnydd ohonyn nhw, os dydy cynghorau sir ac ati ddim yn gweld eu gwerth nhw, neu'n meddwl eu bod nhw'n wasanaethau sydd ddim yn statudol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych o ddifrif. 

Mi oeddech chi'n sôn yn eich datganiad ynglŷn â rôl pawb, ond, yn amlwg, mae yna rôl flaenllaw i'r Llywodraeth o ran hyn, gan darged y Llywodraeth. Felly'r hyn byddwn i'n hoffi ei gael yn glir heddiw ydy beth ydy'r newid o ran agwedd tuag at ystadegau'r cyfrifiad. Pam nid jest y cyfrifiad rydych chi'n cyfeirio ato fo? A sut o ddifrif ydyn ni am sicrhau ein bod ni ddim yn colli'r targedau hynny, ein bod ni'n cydweithio efo'n gilydd, yn lle dod at ein gilydd mewn 10 mlynedd i ddweud bod angen gweithredu radical pan fo'r cyfle gennym ni rŵan? 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:49, 24 Ionawr 2023

Ambell gwestiwn teg fanna. Y peth i gadarnhau ydy dydyn ni ddim wedi newid o gwbl ein safbwynt tuag at y cyfrifiad—hwnnw sydd yn dangos inni'r ffigurau o fewn y strategaeth. Rŷn ni wedi dweud hwnna ar y cychwyn cyntaf, a dyw hynny ddim wedi newid, ond gallwch chi ddim jest edrych ar hyn yn unllygeidiog. Mae dwy ffynhonnell ddata sydd yn dweud pethau gwahanol iawn wrthych chi—a, gyda llaw, nid Llywodraeth Cymru sydd yn arwain ar hyn; mae'r ONS yn gwneud y ddau. Dyna pam rôn i wedi ysgrifennu at yr ystadegydd gwladol i ofyn iddyn nhw i'n helpu ni ddeall y gwahaniaeth rhwng y ddau er mwyn edrych ar ymyriadau polisi sydd yn ymarferol ac yn uchelgeisiol yn y ffordd rwy'n cytuno gyda'r Aelod yw'r ateb ar gyfer hyn. Mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun yn llwyr; dyw jest un darn o ddata ddim yn ddigonol. Ond jest i fod yn glir, dŷn ni ddim yn diystyru beth mae’r cyfrifiad yn ei ddweud, ond mae’r ffaith ei fod wedi digwydd yn yr amser mae wedi digwydd, yng nghanol COVID, yn amlwg yn rhywbeth na allwch chi jest ei anwybyddu. Allwch chi byth fod yn unllygeidiog am hyn. Mae’n rhaid edrych ar y cyd-destun i gyd. Byddwn ni’n edrych ar y tafl-lwybr eto yn sgil beth rŷn ni wedi'i weld yn y cyfrifiad.

O ran yr ymyriadau rŷch chi’n sôn amdanyn nhw, mae gyda ni ddewis, os hoffech chi—dewis ar un lefel, efallai, sy’n dewis gwleidyddol. Hynny yw, mae ystod o bethau y gellid wedi eu dal yn ôl fel ymateb i’r cyfrifiad rŷn ni wedi bod yn eu gwneud dros y flwyddyn diwethaf. Rwyf wedi sôn am rai ohonyn nhw yn barod heddiw—y cynllun iaith strategol, y cynllun gweithlu addysg, a lot o bethau eraill o ran gwersi am ddim i bobl. Gallem ni wedi dal rheini nôl, ond, ar ddiwedd y dydd, petasai’r ffigurau yma wedi dangos cynnydd sylweddol, byddai dal angen gwneud y pethau yna a'u gyrru yn eu blaenau. Felly, dyna’r penderfyniad strategol i’w gymryd. Mae angen cynyddu’r nifer hyd yn oed o’r 900,000 sy’n cael ei ddangos yn yr adolygiad. Felly, dyna’r dewis y gwnes i—bwrw ati yn hytrach nag aros, ac rwy’n sicr eich bod chi’n cytuno mai dyna’r peth iawn i’w wneud, wrth gwrs.

Ond mae yna bethau i’w dysgu sy'n dod allan o’r cyfrifiad. Rwyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes heddiw. Mae eisiau edrych o ddifrif ar gyfraniad dysgu Cymraeg yn y system addysg Saesneg. Rwyf eisiau edrych ar y rhanbarthau hynny lle mae’r cwymp wedi bod yn sylweddol, fel sir Gaerfyrddin, sydd, am yr ail dro, dros ddau gyfrifiad, yn dangos gostyngiad. Mae hynny yn wir yn peri gofid. Felly, mae angen edrych ar lefel gymunedol, neu fwy o ymchwil gymunedol, i weld beth yn union sy’n digwydd. Rwy’n bwriadu gwneud cyfres o gyfarfodydd lleol i edrych i mewn i'r ffactorau lleol sydd wedi bod, efallai, yn berthnasol i hyn hefyd.

Ond rwyf wedi sôn mewn cyd-destun arall, o flaen y pwyllgor yn ddiweddar, ein bod ni’n edrych eto ar y cynllun grantiau i weld ydy e’n wir yn gyrru’r nod sydd gennym ni. Felly, dwi ddim yn mynd i jest ddweud, ‘Wel, mae gennym ni un set o ffigurau sy’n dangos cynnydd, felly dyna ni’; mae angen gweithio a bwrw yn ein blaenau. Mae gyda ni bethau rŷn ni wedi’u gwneud dros y flwyddyn diwethaf, ond mae ystod o bethau mwy y gallen ni eu gwneud, ac rŷn ni’n bwriadu eu gwneud, dros y flwyddyn nesaf hefyd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:52, 24 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'r cyfrifiad yn fesur gwael iawn o nifer y siaradwyr Cymraeg. Wrth gwrs, yn y cyfrifiadau cynnar, y cwestiwn oedd 'Cymraeg, Saesneg neu'r ddau'. Mae'n hunan-ddewis. Mae rhieni hefyd yn gwneud penderfyniad ar ran eu plant, felly nid yw'n ddull cywir o gasglu gwybodaeth. Rwy'n siarad Cymraeg bob dydd, ond yn anaml iawn mewn dadleuon, ac rwyf dim ond yn siarad â phobl rwy'n ffyddiog na fyddan nhw'n ceisio fy maglu i gyda fy niffyg rhuglder.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

Dwi ddim yn hyderus yn siarad Cymraeg.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Fe wnes i dicio'r blwch 'siarad Cymraeg', ond gallwn i fod wedi ticio'r blwch 'nid wyf yn siarad Cymraeg'. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, mewn cyfrifiadau yn y dyfodol, ar ôl 'Ydych chi'n siarad Cymraeg?', dylech fod â chwestiwn yn gofyn, 'Pa mor aml? A yw'n ddyddiol, fwy nag unwaith yr wythnos neu fwy nag unwaith y mis?' Rwy'n disgwyl am y data ychwanegol fydd yn nodi'r ardaloedd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg. Lle mae mwy na thri o bob pedwar o bobl yn siarad Cymraeg, fel Caernarfon, mae'n dod yn iaith sy'n cael ei defnyddio mewn cymdeithas, mewn siopau ac mewn tafarndai. Ydy'r Gweinidog yn cytuno â mi, gyda thwf mewn Cymraeg achlysurol mewn ysgolion cynradd, y gellir dweud bod bron pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn siarad rhywfaint o Gymraeg? Fydd y cyfrifiad ddim yn nodi hynny,  ond ydych chi'n credu y dylen ni fod yn dod i wybod mwy am safon Cymraeg plant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sy'n codi llawer iawn o Gymraeg cymdeithasol?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:53, 24 Ionawr 2023

Diolch i'r Aelod am hynny. Mae hynny’n bwysig; mae jest yn taflu rhywfaint o oleuni, rwy’n credu, ar y sgwrs rwyf newydd ei chael gyda Heledd Fychan. Mae’n rhaid edrych ar a deall beth mae’r ffigurau yma yn ei ddweud wrthym ni. Rwyf yn cytuno, os ŷch chi’n gofyn y cwestiwn ‘Ydych chi’n medru’r Gymraeg?’ ar yr un llaw, a’r llall, ‘Faint o’r Gymraeg ydych chi’n gallu siarad?’ rŷch chi’n debygol o gael canlyniadau gwahanol. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae’r ffigurau hynny’n uwch na nifer y blant yr oedd eu rhieni yn datgan eu bod yn medru’r Gymraeg. Felly, mae rhywbeth yn sicr y mae’n rhaid edrych arno fe yn hynny o beth. Rwyf yn cytuno bod yr adolygiad blynyddol yn gofyn cwestiynau tebycach i ‘Ba mor aml ydych chi’n siarad y Gymraeg?’, ac felly mae hynny’n debygol o ddangos darlun mwy cymhleth, rwy’n credu.

Os edrychwch ar ble mae’r ffigurau o ran tair i 15 oed wedi gostwng, mae yn yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae dwysedd y siaradwyr ar ei hisaf, efallai, er enghraifft, llefydd fel Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent, ac rwy’n credu bod hynny yn gyd-destun pwysig hefyd i ymwybyddiaeth neu ganfyddiad rhieni am allu eu plant i siarad Cymraeg mewn cyfnod pan oedden nhw wedi bod allan o’r ysgol am gyfnodau oherwydd COVID. Rwy’n credu bod jest yn rhaid i ni ddeall y cyd-destun i hwnnw hefyd.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:54, 24 Ionawr 2023

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn bron bob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed, ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Felly, mae’n hollbwysig bod yr amrywiaeth o fentrau lleol sy'n hybu’r iaith, yn enwedig rhai sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i gael eu cefnogi, fel gwnaethoch chi sôn.

Mae Tŷ’r Gwrhyd, fel rŷch chi'n gwybod, yn ganolfan Gymraeg ym Mhontardawe, a sefydlwyd â chefnogaeth grant buddsoddi cyfalaf Bwrw Mlaen, ac mae'n enghraifft dda o’r hyn sy'n bosib i sicrhau cefnogaeth anffurfiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion a sicrhau defnydd cymunedol yr iaith, ac yn gwneud y gwaith hollbwysig yna o godi hyder y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae'r ganolfan, trwy ei siop lyfrau, yn cynhyrchu incwm sy'n cael ei fuddsoddi'n llwyr yn y ganolfan a'i gweithgareddau, gan gynnwys hefyd darparu cyflogaeth i ddau siaradwr Cymraeg lleol, ond dyw’r incwm ddim yn ddigon i gynnal y fenter i’r hir dymor ar ôl i daliadau yr adeilad gyda grant Bwrw Mlaen orffen yn 2026. Beth felly mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi mentrau fel Tŷ’r Gwrhyd, sydd â thrac record llwyddiannus o gryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, ond sy'n wynebu dyfodol ansicr yn sgil y wasgfa economaidd fel y darluniwyd gan Heledd Fychan?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:56, 24 Ionawr 2023

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn un o'r mentrau sydd wedi cael dyraniad cyllideb fel rhan o'r datganiad gwnes i heddiw ar gyfer edrych ar y pwysau cyfredol sydd o ran costau ychwanegol, felly bydd cyllideb bellach yn mynd i'r fenter honno. Roeddwn i yno wythnosau nôl mewn noson ddiddanol iawn gan Cleif Harpwood yn lansio ei lyfr e. Roedd hi'n noson hwylus iawn, ac mae hynny'n enghraifft o'r pethau cymunedol grêt sy'n digwydd gyda'n mentrau ni. Yr her, rwy'n credu, yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n symud y lens i ymrymuso cymdeithasol—hynny yw, beth yw rôl y fenter yn creu capasiti yn y gymuned i allu defnyddio'r Gymraeg, a chreu gofodau eraill lle mae'r Gymraeg hefyd yn gallu cael ei defnyddio.

Dyna pam roeddwn i'n falch o allu dyrannu rhyw £400,000 i Cwmpas i allu gweithio gyda'r mentrau i ddatblygu gofodau cymdeithasol Cymraeg. Rŷm ni wedi gweithio gyda phedair menter, rwy'n credu, sydd wedi gwneud hynny o fewn eu strwythurau nhw eu hunain. Mae hynny'n dangos bod creadigrwydd ac arloesi'n digwydd o fewn y sector. Felly, mae'r gwaith mae amryw o fentrau yn ei wneud yn bwysig iawn, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:57, 24 Ionawr 2023

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma, a dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod y Gweinidog yn ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad a dwi'n falch ei fod e wedi, a dwi'n croesawu'r gweithgareddau mae wedi eu datgan y prynhawn yma. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig ei fod e'n ymateb yn y ffordd mae wedi. Mae yna dri peth hoffwn i ddweud wrtho fe heddiw—tri blaenoriaeth, efallai, yn ffordd well o esbonio fy hun. 

Yn gyntaf, addysg. Rydyn ni wedi trafod addysg yn barod yn y sesiwn yma. Mae addysg yn hollbwysig pan ŷm ni'n dod i sicrhau ein bod ni'n creu siaradwyr newydd, yn rhoi cyfle i bobl sydd yn dod o deuluoedd di-Gymraeg i ddysgu'r iaith a magu hyder yn y Gymraeg, a hefyd dysgu'r plant amboutu'r iaith a rhoi cyfle i blant gael gafael ar yr iaith. So, mae addysg yn hollbwysig. 

Yr ail beth yw cymunedau. Rydyn ni yn gwybod am y pwysau sydd ar y Gymraeg mewn sawl un o'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn draddodiadol wedi bod y brif iaith, yn iaith gref, ac mae'n bwysig ein bod ni'n amddiffyn dyfodol y cymunedau Cymraeg. 

Y trydydd peth—dwi ddim eisiau torri ar draws y Llywydd fan hyn—yw hybu'r Gymraeg, achos mae yna sawl person dwi'n ei adnabod—mae Mike wedi trafod hyn—sydd â'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ond sydd ddim â'r hyder ambell waith i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae yna sawl cyd-destun hefyd lle mae pobl wedi dod i arfer defnyddio'r Saesneg, a dwi yn meddwl bod yn rhaid inni greu y math o ddiwylliant lle mae pobl yn teimlo'n ddigon cyfforddus i ddefnyddio'r Gymraeg lle maen nhw wedi defnyddio Saesneg o'r blaen, ond hefyd rhoi cyfleoedd gwahanol a newydd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. A dwi'n lot fwy hyderus nag efallai rai pobl yn y Siambr fan hyn, a dwi wedi gweld newid trwy fy mywyd i mewn agweddau tuag at y Gymraeg. Dwi'n hollol sicr ein bod ni'n gallu cyrraedd targed o filiwn o siaradwyr, a hefyd ein bod ni'n gallu creu'r Cymru ddwyieithog mae pob un ohonom ni'n cytuno rydyn ni eisiau ei gweld, ond dydyn ni erioed wedi ei gweld yn y gorffennol. So, daliwch ati, Weinidog—dwi'n hyderus iawn yn eich gallu.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:00, 24 Ionawr 2023

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran ei flaenoriaethau. Rŷn ni wedi sôn eithaf lot am addysg, ond jest i wneud dau bwynt am hynny—yn gyntaf, pa mor bwysig yw'r cynllun trochi i ganiatáu bod unrhyw un sy'n symud i Gymru sydd eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn llwyddo i wneud hynny. Mae gyda ni gronfa nawr, o nawr tan ddiwedd tymor y Senedd, o tua £6.6 miliwn i'w gwario ar hynny. Mae pob rhan o Gymru, pob awdurdod lleol, wedi cael dyraniad o'r gronfa honno. Mae hynny yn ei hunan yn beth calonogol iawn. Fe wnes i gael fy nghyfweld lan llofft yn gynharach heddiw gan ferch chwe blwydd oed, a oedd wedi symud o Loegr, o deulu o Fecsico, i Gymru ym mis Medi, ac fe wnaeth hi fy nghyfweld i yn Gymraeg, ar ôl bod drwy'r system drochi. Mae'r peth yn fwy nag effeithiol; mae e, ar un lefel, yn wyrthiol, i weld pa mor gyflym y mae'r broses drochi'n gallu cael canlyniadau. Dyna'r peth cyntaf. A'r ail beth yw'r ymwybyddiaeth yn yr ysgol o'r Gymraeg fel cyd-destun diwylliannol i addysg pobl ifanc—yn y cwricwlwm, gwaith y siarter iaith, ac ati. Rwy'n cytuno'n llwyr bod hynny'n bwysig.

O ran y pwyslais ar y cymunedau, rŷn ni wedi trafod hynny, wrth gwrs, eisoes mewn amryw o gwestiynau, ond, jest i ddweud, mae hi wir yn bwysig, ynghyd â chwestiwn rhifau, ein bod ni'n edrych ar ddaearyddiaeth yr iaith hefyd. Mae'r Gymraeg mewn sefyllfa lle mae hi'n iaith genedlaethol ond hefyd yn iaith gymunedol, ac mae'r ddau beth yna'n hollbwysig o ran ymateb polisi'r Llywodraeth ac yn ehangach.

Jest ar ei bwynt ynglŷn â hybu, rwy'n cytuno mai un o'r heriau o'n blaenau ni yw her hyder. Mae plant yn gadael ysgol addysg Gymraeg efallai ddim â'r hyder i'w siarad. Mae pobl fel Mike, sy'n medru'r Gymraeg, ond, fel mae e ei hunan yn dweud, ddim â digon o hyder. Dyna'r her nesaf sydd gyda ni—dod o hyd i ble mae pobl yn gallu'r Gymraeg ond bod angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw i'w defnyddio hi, ac mae angen pwyslais cliriach ar hynny, efallai, yn y dyfodol.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:02, 24 Ionawr 2023

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad—mae yna dipyn o waith cnoi cil yn y fan honno. Mae hi'n bryder, wrth gwrs, gweld y cwymp yng Ngwynedd, er enghraifft. Mae'n rhaid i fi, ar yr adeg yma, rŵan, gymryd y cyfle i dalu teyrnged i waith rhagorol Cyngor Gwynedd dros gyfnod o ddegawdau er mwyn sicrhau bod yn agos i bob plentyn sy'n mynd drwy'r system addysg yno yn rhugl yn y Gymraeg. Ond sut, felly, mae sgwario hynny efo canlyniad y cyfrifiad, sy'n dangos niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn disgyn? Mae'n rhaid bod yna rywbeth arall ar waith yma.

Mae'n demograffeg ni yn dangos ein bod ni'n heneiddio, ac mi rydyn ni'n gwybod bod mudo yn chwarae rhan bwysig, yn enwedig allfudo ein pobl ifanc o gadarnleoedd y Gymraeg. A dyma, o bosib, yr agoriad i ddatrys y broblem yma, ac rydych chi wedi sôn amdano fo yn eich cyflwyniad agoriadol. Mae'n rhaid edrych i mewn i hynny mewn dyfnder, felly. Ymhlith yr holl elfennau sy'n chwarae rhan yn hyn, mae elfen tai—diffyg fforddiadwyedd tai, diffyg argaeledd tai, ac, yr un mor bwysig, mae diffygion isadeiledd er mwyn cynnal economi hyfyw. Felly, dwi am ofyn i chi sicrhau bod y comisiwn rydach chi'n ei gynnal yn cynnal deep-dive—ymchwiliad trylwyr, manwl—i mewn i allfudo: pam nad yw pobl ifanc yn aros yn y cymunedau hynny, a pha rôl y mae tai a diffyg isadeiledd yn ei chwarae yn hynny?

Yn olaf, mae'n rhaid hefyd sôn am faes technoleg. Dwi'n gweld fy mhlant i, o bump i 15 oed, ac maen nhw'n byw ar Netflix, YouTube, TikTok, ac yn y blaen, a does nemor ddim cynnwys Cymraeg ar y platfformau hynny. Mae'n rhaid edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r platfformau hynny er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg yn well a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw ar y platfformau modern yma. Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:04, 24 Ionawr 2023

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei fod e'n iawn i ddweud bod elfennau o ran symud, o ran mudo, o ran demograffeg, o ran cyfleoedd, ac mae'r comisiwn, yn sicr, yn mynd i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bethau—dadansoddiad sosio-economaidd yw rhan o'r gwaith y maen nhw wrthi'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae'r galw wedi bod am dystiolaeth ac mae hynny'n dod i law, ac rwy'n disgwyl y gwnawn ni glywed pethau heriol yn sgil hynny—clywed yr ateb onest, gyda'r dystiolaeth go iawn ar lawr gwlad, yw'r hyn sydd ei angen yn sail i bolisi. Felly, rwy'n croesawu hynny.

O ran yr her economaidd, rwy'n credu bod gyda ni—. Os edrychwch chi ar y dosbarthiad o ran cymunedau, mae rôl bwysig iawn, rwy'n credu, gan ein prifysgolion ni fel gyrwyr economaidd mewn rhannau o Gymru lle mae hyn yn her. Mae angen edrych ar beth mwy y gallem ni ei wneud yn y maes hynny. Mae rhaglen Arfor, wrth gwrs, eisoes yn gwneud ei gwaith, ond rwy'n ffyddiog iawn bod y gwaith wnaiff y comisiwn yn mynd i fod yn arwyddocaol iawn o'r safbwynt hynny.

O ran buddsoddiad mewn technoleg, rŷn ni fel Llywodraeth eisoes yn buddsoddi mewn ffyrdd cyfredol, er enghraifft, y buddsoddiad mewn VR ar gyfer trochi pobl ifanc, fel eu bod nhw'n gallu gwneud hynny mewn cyd-destun virtual reality—felly, pethau mae pobl ifanc yn eu hadnabod fel cyfle, yn defnyddio hynny i ledaenu'r iaith hefyd. Ond rwyf yn credu bod yr Aelod yn iawn i sôn am bethau fel YouTube a Netflix hefyd nawr. Mae'r streamers, y cwmnïau fel Netflix ac Amazon Prime, yn gyfle pwysig iawn. Mae Dal y Mellt, wrth gwrs, ar Netflix nawr, sydd yn grêt—gobeithio'r cyntaf o lot o gynnwys Cymraeg yn mynd ar y rhwydweithiau hynny.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Mae'r Gymraeg wedi profi nifer o heriau dros y canrifoedd, ac mae hi wedi dyfalbarhau, ond beth rŷn ni angen gweld ydy’r iaith nid yn unig yn goroesi, ond yn blodeuo. Fydd hynny ddim yn dod o fyd y plant yn unig, wrth gwrs; mae'n rhaid ffeindio ffyrdd gwell o normaleiddio dysgu’r iaith ymysg pobl hŷn, oedolion. Mae canolfannau gwych fel Canolfan Soar ym Merthyr yn bodoli. Pa gefnogaeth sydd yna i alluogi cymunedau i gymryd risg, i annog awdurdodau i fuddsoddi mewn canolfannau fydd yn gwneud mwy na chreu enillion economaidd, gan greu enillion diwylliannol, enillion i enaid ein cymdeithas? Achos soniodd Waldo Williams am obaith fel meistr, ac mae gobaith yn angenrheidiol. Ond rhaid i’r gobaith wreiddio; mae'n rhaid iddo fagu gwraidd yn rhywbeth. Felly, fe wnaf i ofyn, Weinidog: sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori'r gobaith hwnnw yn ein cymunedau?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:07, 24 Ionawr 2023

Diolch yn fawr am hynny. Wel, o ran y dilyniant i ddysgu gydol oes, mae hynny wir yn bwysig, ac un o'r pethau rŷn ni eisiau gwneud yw sicrhau ein bod ni'n deall sut mae'r holl ffyrdd sydd gyda ni o ddysgu'r Gymraeg yn eistedd ar gontinwwm yn erbyn ei gilydd, os hoffwch chi—hynny yw, cymwysterau TGAU a lefel A, ond hefyd gymwysterau addysg oedolion. Mae dangos y llwybr a dangos y dilyniant yna yn ffordd bwysig o ysgogi pobl i barhau â'u dysgu o'r Gymraeg neu i ddechrau o'r cychwyn cyntaf, os nad ydyn nhw wedi cael cyfle yn yr ysgol. Felly, mae'r gwaith yna yn waith pwysig.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r gofodau cymdeithasol hynny lle gall y Gymraeg gael ei defnyddio, ac rwy'n credu bod capel Soar yn fetaffor da am hyn, rwy'n credu. Mae'r capeli, ar y cyfan—. Nid y rheini sydd yn gyrru defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg yn ein cymunedau ni, am resymau y byddwn ni i gyd yn eu deall. Ond yr her i ni yw beth yw'r gofodau sydd yn gwneud hynny. Os ydych chi yma yng Nghaerdydd, mae gyda chi lefydd fel Chapter, lle mae pobl yn gallu jest dod a bod gyda phobl eraill. Dyw hynny ddim yn bodoli ym mhob cymuned, felly beth yw'r cyfle inni wneud hynny? Felly, mae hynny yn rhan o'r feddylfryd hefyd, a dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r weledigaeth optimistaidd sydd gan yr Aelod yn ei chwestiwn.