– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 1 Mawrth 2023.
Rydyn ni'n mynd ymlaen nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Bydd Jayne Bryant a Peredur Owen Griffiths yn siarad am un funud.
Lywydd, Ddirprwy Weinidog, dwi eisiau dechrau’r ddadl fer heddiw drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi ac i bawb yma yn y Senedd. Rwy’n falch o gael y ddadl yma ar y diwrnod pan ydym yn dathlu ein sant cenedlaethol. Fel llawer yn Nwyrain Casnewydd a ledled Cymru, byddaf yn nodi’r diwrnod. Rwy’n falch iawn o fod o Gasnewydd ac yn Gymro, ond, fel byddech chi'n siŵr o wybod, Weinidog, nid yw’r teimlad o Gymreictod yn fy ninas wedi bod yn syml. Mae hanes sir Fynwy—sy’n cynnwys Casnewydd—a’i le yng Nghymru wedi newid dros bedwar canrif.
Cyn y Ddeddf Uno gyntaf ym 1535, pan gafodd Cymru ei chyfeddiannu gan Loegr, roedd sir Fynwy yn cael ei hystyried yn rhan o Gymru. Ar ôl yr ail Ddeddf Uno ym 1542, aeth pethau'n gymhleth. Cofrestrwyd deuddeg sir yng Nghymru, ond gwnaed sir Fynwy yn uniongyrchol atebol i lysoedd San Steffan. Roedd y Gymraeg yn ddadl allweddol ar ochr y rheini a honnai y dylai'r sir fod yn rhan o Gymru. Ysgrifennodd y teithiwr o Loegr, George Borrow, ym 1862:
'Ystyrir sir Fynwy ar hyn o bryd yn un o siroedd Lloegr, er heb fawr o reswm, oherwydd nid yn unig ei bod ar ochr orllewinol afon Gwy, Cymraeg yw enwau ei holl blwyfi bron, ac mae miloedd lawer o'i phoblogaeth yn dal i siarad Cymraeg.'
Roedd Casnewydd ei hun yn dref Gymraeg ei hiaith yn bennaf ar ddechrau'r 1800au. Fodd bynnag, fwy na 100 mlynedd yn ddiweddarach, roedd gan Gasnewydd a sir Fynwy boblogaeth Saesneg ei hiaith yn bennaf, ond roedd yn tyfu’n nes at Gymru yn ddiwylliannol ac yn economaidd.
Hoffwn ddefnyddio’r ddadl heddiw i archwilio hunaniaeth Gymreig yn y ddinas ychydig ymhellach, i egluro'r sefyllfa ar hyn o bryd yn fy marn i, ond hefyd, sut y credaf y gall dyfu, yn enwedig ymhlith ein cenhedlaeth iau, ond hefyd yng nghyd-destun uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Nôl ym mis Tachwedd ac ychydig cyn cwpan y byd, roeddwn yn Rodney Parade ar gyfer gêm Casnewydd yn erbyn Gillingham. Cyn y gic gyntaf, perfformiodd yr ymgyrchydd a’r canwr Cymraeg blaenllaw, Dafydd Iwan, ei gân ‘Yma o Hyd’, ac yn union fel y gwelsom gyda’r Wal Goch yn nifer o gemau Cymru yng nghwpan y byd, gwelsom cefnogwyr y tîm cartref yn canu mewn harmoni. Cyn y ddadl hon, fe wnaethom ofyn i Dafydd sut deimlad oedd canu yng Nghasnewydd, a dywedodd yhyn wrthym:
'Gwnaeth cynhesrwydd, ac yn wir, natur Gymreig gref y croeso a gefais yn Rodney Parade ac yng nghanol y ddinas argraff fawr arnaf. Roedd yn achlysur llawen, a chefais fy synnu gan y nifer yn y gynulleidfa a siaradodd gyda mi yn Gymraeg. Nid oes unrhyw amheuaeth fod Casnewydd yn herio Caerdydd o ran ei Chymreictod.'
Dywedodd hefyd ei fod wedi mwynhau'r profiad yn fawr a'i fod yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol. Ddirprwy Weinidog, rwy’n sôn am hyn oherwydd ychydig flynyddoedd yn ôl, byddai’r syniad o gerddor Cymraeg yn perfformio mewn harmoni gyda'r cefnogwyr yn Rodney Parade wedi swnio'n obeithiol iawn, a dweud y lleiaf.
Os caf aros gyda phêl-droed am eiliad, hoffwn dalu teyrnged hefyd i un o hoelion wyth tîm Cymru Chris Gunter, a aned yn Nwyrain Casnewydd ac a fynychodd Ysgol St Julian. Roedd yn rhan o’r genhedlaeth aur ddiweddar o bêl-droedwyr Cymru, a than yn ddiweddar, ef oedd y pêl-droediwr â'r nifer fwyaf erioed o gapiau i Gymru, gyda 109 o gapiau rhyngwladol. Dim ond rhywun o'r enw Gareth Bale sydd â mwy erbyn hyn, gyda 111. Felly, dylem fod yn falch iawn o gyflawniadau Chris.
Wrth edrych ar hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd, mae'r refferenda datganoli yn addysgiadol. I mi, maent yn arwydd o’r cynnydd a’r daith rydym wedi bod arni dros y blynyddoedd ac yn dangos y twf mewn Cymreictod ar draws y ddinas. Oddeutu 26 mlynedd yn ôl bellach, bûm yn cadeirio Newport Says Yes fel rhan o’r ymgyrch i Gymru gael ei chynulliad cenedlaethol ei hun, fel y’i gelwid bryd hynny. Ac er i’r ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ lwyddo ledled y wlad, yng Nghasnewydd, pleidleisiodd mwyafrif clir dros ‘na’. Ond roedd y canlyniad hwnnw'n gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i ddatganoli o gymharu â’r refferendwm blaenorol ym 1979. Yn ardal gyfagos sir Fynwy, sy’n cynnwys rhan o fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd, gwelsom ganlyniadau tebyg. Bedair blynedd ar ddeg ar ôl y bleidlais a sicrhaodd ddatganoli, cawsom ail refferendwm ynglŷn ag a ddylid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad ar y pryd, a phleidleisiodd 54 y cant o bleidleiswyr yng Nghasnewydd o blaid hynny, gan barhau â’r duedd o fwy o gefnogaeth i roi mwy o gyfrifoldeb a phwerau i Gymru i wasanaethu ein cymunedau.
Wrth inni weld y cynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghasnewydd a Chymru, rydym hefyd wedi gweld twf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Cyn 1999, nid oedd unrhyw ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae gennym bump ohonynt yn yr awdurdod lleol bellach, y ddwy gyntaf yn agor yn 2008-09, ac yna un arall yn 2011-12, a dwy arall yn y chwe blynedd diwethaf. A hefyd, yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, mae llawer mwy o hanes a diwylliant Cymru yn cael eu haddysgu, a bydd hynny, rwy’n siŵr, yn cael ei gryfhau gan y cwricwlwm newydd. Pan oeddwn yn yr ysgol yn y 1960au ac ar ddechrau’r 1970au yng Nghasnewydd, ychydig iawn a gâi ei ddysgu i mi am yr iaith Gymraeg, a diwylliant a hanes Cymru. Mae’n rhaid ein bod wedi dysgu’r anthem genedlaethol, ond fawr ddim mwy na hynny. Diolch byth, rydym wedi dod yn bell yn y 23 i 24 mlynedd diwethaf. Dylai ein plant ddysgu am hanes lleol a hanes Cymru, yn ogystal â hanes y DU, Ewrop a'r byd.
Wrth gwrs, yng Nghasnewydd, mae gennym hanes balch iawn, gan gynnwys Siartiaeth a’r rhan hollbwysig a chwaraeodd y ddinas yn hanes Cymru, gyda gwrthryfel y Siartwyr y tu allan i Westy Westgate yn y dref ar y pryd. Ganed un o'r arweinwyr, John Frost, yng Nghasnewydd yn nhafarn y Royal Oak ym 1784. Roedd Frost a'r Siartwyr eraill yn galw am chwe pheth: y bleidlais i bob dyn yn 21 oed, etholaethau cyfartal, talu ASau, cael gwared ar y gofyniad i ASau fod yn berchen ar eiddo, pleidlais gudd, a seneddau blynyddol. Dim ond yr olaf sydd heb ddod i fodolaeth. Y gwrthryfel yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 1839 oedd yr enghraifft gryfaf o Siartiaeth rymusol yn hanes y mudiad. Gorymdeithiodd cannoedd o ddynion ar westy'r Westgate, a arweiniodd at frwydr â'r milwyr a oedd wedi eu lleoli yno. Collodd o leiaf 22 o Siartwyr eu bywydau, a dilynwyd y brwydro gan achosion o fradwriaeth.
Ddirprwy Weinidog, hoffwn sôn hefyd am ddata cyfrifiad 2021, a chofnodi rhai o’r canfyddiadau a gofnodwyd ar ein cyfer yn lleol. Mae 56.3 y cant o bobl yn Ringland, ardal o Ddwyrain Casnewydd sydd wedi’i dylanwadu’n drwm gan waith dur cyfagos Llan-wern ers y 1960au, yn nodi eu bod yn Gymry'n unig, ond o ran sgiliau iaith Gymraeg, dywedodd dros 90 y cant o’r bobl yno nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau iaith Gymraeg. Ac yn Beechwood ac ardaloedd eraill o’r etholaeth, mae’r sefyllfa'n debyg. Felly, er nad iaith yw’r unig ffactor, yn amlwg, pan fydd pobl yn meddwl am eu Cymreictod, mae’n ffactor pwysig y bydd pobl yn ei ystyried. O ystyried rhai o'r ffigurau rwyf newydd eu nodi, mae angen inni edrych yn fanylach ar rai o'r ffactorau sy'n sail i hynny.
Dyna pam rwy'n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn fawr. Mewn lleoedd fel Casnewydd, mae angen inni ddeall y sefyllfa, ac mae Casnewydd yn barod i chwarae ein rhan a helpu i wireddu’r targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Ddirprwy Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â sut y gallwch chi a Llywodraeth Cymru weithio gyda phobl yn yr ardaloedd hyn a manteisio ar yr ymdeimlad cryf o Gymreictod sydd gan bobl, er mwyn cynyddu sgiliau iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn yr ardal.
Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gynllun iaith Gymraeg, ac maent o ddifrif ynghylch y mater. Bydd yn dathlu’r Gymraeg fel rhan o’n hunaniaeth gyffredin ac yn cynyddu cyfleoedd i bawb weld, clywed, dysgu a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Y dyhead hirdymor yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, codi ymwybyddiaeth, a chynyddu amlygrwydd yr iaith yn ein holl gymunedau. Maent yn awyddus i gynnig cyfleoedd i’r rheini sydd â phob lefel o Gymraeg i ymarfer a siarad yr iaith mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar a chefnogol, ac i ymgysylltu â’r rheini nad ydynt efallai’n ymwybodol o’r iaith na’i manteision. Wrth lansio ymgyrch 'Many faces of Welsh-ness' y cyngor, dywedodd Janice Dent, y rheolwr polisi a phartneriaethau:
'Efallai ei bod yn cael ei hystyried yn iaith Brydeinig wen, ond rydym yn ceisio ymgysylltu â holl gymunedau Casnewydd.'
Dyma ddull o weithredu rwy'n ei groesawu’n fawr. Yn yr un lansiad, dywedodd y Cynghorydd Miqdad Al-Nuaimi, sy’n cynrychioli Stow Hill:
'Mae cryn dipyn o bobl o leiafrifoedd ethnig am i'w plant siarad Cymraeg.'
Dyma fy mhrofiad innau hefyd. Mae Shah Alom, un o gyd-sylfaenwyr Amar Cymru, grŵp cefnogwyr pêl-droed i Gymry de Asiaidd sydd â gwreiddiau cryf yng Nghasnewydd, wedi bod yn awyddus i ailddysgu a manteisio ar y Gymraeg yn ei amser hamdden.
Mae gennym wyliau yng Nghasnewydd gan gynnwys Gŵyl Newydd. Dyma ddigwyddiad newydd i bobl Casnewydd a thu hwnt, a gynhelir ym mis Medi yn theatr Glan yr Afon. Mae’n dod â nifer o sefydliadau a gwirfoddolwyr ynghyd i gynnal diwrnod o weithgareddau a pherfformiadau. Mae’r grwpiau’n cynnwys Cymdeithas Cymry Casnewydd, cymdeithas Gymraeg yng Nghasnewydd sy’n trefnu cyfarfodydd a dathliadau rheolaidd ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Mae ganddynt swyddfa ym marchnad Casnewydd ac maent yn cynnig arlwy eang iawn i bobl y ddinas. Un arall yw Merched y Wawr i fenywod o bob oed, yn Gymry Cymraeg a dysgwyr. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd.
Dirprwy Weinidog, rwyf am orffen drwy sôn am fy etholwr a’m ffrind, Olwen, a oedd yn gyn-athro Cymraeg yma yn y Senedd. Roedd hi’n naw mlwydd oed pan symudodd i Gasnewydd o Gaerdydd, lle roedd hi’n ffodus i fynd i ysgol gynradd Gymraeg. Pan symudon nhw i Gasnewydd, ychydig iawn o Gymraeg oedd yn y dref, fel yr oedd bryd hynny, ac yn sicr ddim yn yr ysgolion.
Yn yr 1960au, gyda Lilian Jones, pennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gwynllyw, dechreuodd ei mam ysgol Gymraeg ar fore dydd Sadwrn. Brwydrodd hi, a llawer o bobl eraill, dros addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Sefydlwyd yr uned gyntaf yn ysgol Clytha yn y 1970au cynnar, ac roedd chwaer fach Olwen yn ddisgybl. Yn ddiddorol, daeth un o ddisgyblion yr ysgol fore dydd Sadwrn yn bennaeth cyntaf Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
Mae Olwen yn hapus ac yn falch aeth ei phlant i’r uned yn ysgol High Cross cyn i'r ysgol Gymraeg gyntaf—Ysgol Gymraeg Casnewydd—agor yn y 1990au. Oddi yno, aethant i Ysgol Gyfun Gwynllyw. Heddiw, mae plant teulu Olwen nawr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, un yn Ysgol Gymraeg Ifor Hael ac un yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. Cytunaf gydag Olwen pan ddywedai bod pethau’n sicr wedi newid yng Nghasnewydd.
Lywydd, fel rhywun sydd wedi ymrwymo i ddatganoli ac i Gasnewydd, mae’n braf iawn myfyrio ar y cynnydd rydym wedi’i wneud. Bellach, mae gennym Senedd i Gymru—rhywbeth y mae cenedlaethau wedi ymgyrchu drosto ac wedi gweithio i’w sicrhau. Mae gan Gasnewydd a Chymru hunaniaeth Gymreig gryfach a atgyfnerthir gan y setliad democrataidd newydd. Mae'n bwysig i bobl gael ymdeimlad clir o'u lle yn y byd, eu hanes a'u diwylliant, man cychwyn er mwyn camu ymlaen i addysg, gwaith a bywyd. Mae iaith yn rhan allweddol o hunaniaeth, ac mae pawb yng Nghymru, boed yn ddigon ffodus i siarad Cymraeg neu beidio, yn elwa o’n hiaith unigryw a’i rôl ganolog yn ein hanes a’n diwylliant. Diolch yn fawr.
Rwy’n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill a fy nghyd-frodor o Gasnewydd am arwain y ddadl hon heddiw.
Diolch, John. Mae'n bleser cyfrannu heddiw.
Nawr, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy fynnu nad wyf mor hen â hynny, ac eto, pan euthum i'r ysgol gynradd yng Nghasnewydd, dysgais yr anthem genedlaethol yn Saesneg. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw hynny erioed wedi bod yn ddefnyddiol, ond diolch byth, roedd fy nhad-cu a fy mam-gu eisoes wedi ei dysgu i mi yn Gymraeg.
Nid oedd Casnewydd, oherwydd ei hanes fel rhan o sir Fynwy, yn cael ei hystyried yn rhan lawn o Gymru, a newidiodd hynny yn y 1970au, fel y dywedodd John, ac ers hynny, cafwyd ymdeimlad cynyddol o falchder yn ein hunaniaeth Gymreig. Cafodd hyn ei helpu gan y sîn gerddoriaeth Gymraeg yng Nghasnewydd o’r 1980au a’r 1990au, a’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion, ac yn ehangach yn y gymuned.
Nid yw wedi dod yn hawdd, ond mae’r newidiadau wedi digwydd oherwydd gwaith caled ac ymroddiad pobl fel Elin Maher, y mae ei hegni a’i hangerdd wedi helpu i sbarduno cynnydd y Gymraeg yng Nghasnewydd. Dros y penwythnos, mynychodd fy mam a’i ffrind ddigwyddiad ym marchnad newydd wych Casnewydd, lle gallai dysgwyr wrando ar y Mabinogi yn Gymraeg, a chredwch fi, ni fyddai hynny wedi digwydd 10, 15 mlynedd yn ôl.
Rwyf am gloi drwy dalu teyrnged i fy nghyfaill, y diweddar Paul Flynn, neu ei enw barddol, Paul y Siartwr. Roedd yn Gymro balch, ac ar ôl dysgu Cymraeg fel oedolyn, fe fu'n hyrwyddo'r Gymraeg, ac roedd yn eiriolwr brwd dros ei defnyddio. Dywedodd Paul fod dwy iaith yn cael eu siarad yng Nghaerllion yn oes y Rhufeiniaid—o fewn y waliau, roeddent yn siarad Lladin, a'r tu allan, roeddent yn siarad Cymraeg. Pe bai unrhyw un o'r canwriaid yng Nghaerllion wedi awgrymu mai Cymraeg fyddai'r iaith a fyddai'n goroesi hyd heddiw, byddai wedi bod yn broffwydoliaeth ryfedd iawn. Ond dyna'r gwir. Dywedodd,
'Mae ieithoedd yn cynrychioli hiwmor, ffraethineb ac angerdd cenedlaethau yn atseinio ar hyd y canrifoedd ac mae pob un ohonynt yn unigryw yn eu ffordd eu hunain. Rydym yn ddigon ffodus i fod wedi etifeddu iaith hynafol ogoneddus, gyda llenyddiaeth wych sy'n fyw, yn llawn egni, amrywiaeth a brwdfrydedd. Dylem ddathlu hynny'.
Rwy’n hyderus y byddai wrth ei fodd gyda’r cynnydd. Gobeithio y bydd yn parhau. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd.
Diolch yn fawr i John am ddod â'r ddadl yma.
Mae’r ddadl hon wedi gwneud imi feddwl am sgwrs ddiweddar a gefais mewn digwyddiad, ac e-bost dilynol a gefais gan etholwr. Roeddwn mewn digwyddiad, a chawsom drafodaeth ynglŷn â beth mae bod Gymro yn ei olygu. Dywedais, yn fy marn i—a dim ond yn fy marn ostyngedig i—os ydych yn galw Cymru'n gartref, ac yn teimlo fel Cymro, yna o'm rhan i, rydych chi'n Gymro. Dyma'r e-bost a gefais, a'r teitl oedd, 'Diolch personol':
'Hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am sgwrs a gawsom mewn digwyddiad yn ddiweddar. Soniais fod Brexit wedi dileu fy hunaniaeth Ewropeaidd, ac er fy mod wedi byw yng Nghymru ers dod yn oedolyn a bod fy nheulu yma, gan imi gael fy ngeni yn Llundain, roeddwn yn teimlo na allai rhywun ddod yn Gymro am nad oedd mecanwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud hynny. Fe ddywedoch chi'n garedig nad oedd unrhyw beth o'i le ar hunanadnabod fel Cymro. Yr wythnos diwethaf, wrth lenwi’r gwaith papur ar gyfer symud tŷ, cefais fy nghyfle cyntaf i ddatgan fy mod yn Gymro ar ddogfen ffurfiol. Diolch yn fawr iawn am eich anogaeth'.
Weinidog, hoffwn wybod sut y gallwn annog mwy o bobl i deimlo’n hyderus ac i hunanadnabod fel Cymry, ni waeth ble y cawsant eu geni. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip i ymateb i’r ddadl—Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, John, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr. Diolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl fer y prynhawn yma. Mae'n wir teimlo fel dathliad o Gymreictod yma yn y Siambr yr wythnos yma, gyda nifer o ddatganiadau, cyfraniadau a sawl dadl i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
Mae'n ddrwg gennyf, roedd yna wich yn fy nghlust gyda'r cyfieithiad. Ymddiheuriadau.
Felly, ddoe soniodd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ynglŷn â sut mae Cymru'n gymuned o gymunedau, ac yn ei datganiad i’r Senedd, soniodd am sut mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn bethau i’w dathlu a sut y dylem ni fel Llywodraeth a'n partneriaid ddathlu ein hunaniaeth Gymreig a’n hiaith fel rhywbeth a ddylai ddod â phobl Cymru a chymunedau ynghyd.
Lywydd, soniodd John Griffiths am ei hunaniaeth Gymreig a pherthynas ei ddinas â Chymreictod, ac fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant a threftadaeth, rwy'n croesawu'r cwestiwn y mae John yn ei ofyn heddiw, sef: sut mae dysgu o’r gorffennol i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru, Casnewydd a’r Gymraeg? A soniodd hefyd am bêl-droed, wrth gwrs, a chafodd fy sylw ar unwaith ar y pwynt hwnnw, gan fod hynny'n rhywbeth y gŵyr ei fod yn agos iawn at fy nghalon. Felly, hoffwn innau ychwanegu fy nheyrnged i gyfraniad rhagorol Chris Gunter i dîm pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd—tîm sydd hefyd yn bwysig iawn i'n diwylliant cenedlaethol.
Lywydd, hoffwn dynnu sylw'n gryno at yr hyn rydym yn ei wneud yn ardal Casnewydd yn benodol, ond ledled Cymru gyfan. Dechreuaf drwy sôn am y strategaeth ddiwylliant, ac rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar ymrwymiad a rennir i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru y gobeithiwn y bydd ar gael yn ddiweddarach eleni. Ein gweledigaeth ar gyfer y strategaeth newydd honno yw y bydd yn cynnig cyfeiriad blaengar sy’n seiliedig ar werthoedd i’r sectorau sydd o fewn ei chwmpas, ac y bydd yn cryfhau cydweithio a chydlyniant ar draws ein sectorau diwylliannol, ac yn sail i bob rhan o gymdeithas. Bydd y cysyniad o ddemocratiaeth ddiwylliannol a datblygu’r cysylltiadau rhwng diwylliant a llesiant yn ystyriaethau pwysig ar gyfer y strategaeth newydd, ac wrth ddatblygu’r strategaeth honno, byddwn yn awyddus i sicrhau bod ein sectorau, ein casgliadau a’n gweithgarwch diwylliannol yn adlewyrchu Cymru fel cenedl hyderus, ddwyieithog, amrywiol, gynhwysol, fyfyriol a blaengar.
Mae diwylliant a hunaniaeth yn seiliedig ar amrywiaeth anfesuradwy o safbwyntiau a phrofiadau, fel y nodoch chi'n glir iawn yn eich cyflwyniad, John. Felly, nid lle’r Llywodraeth yw ceisio diffinio beth ddylai hynny fod ar lefel unigol neu gymunedol, ond fe allwn ac fe ddylem fod yn meddwl ynglŷn â sut rydym yn cynnwys, yn adlewyrchu, yn cefnogi, yn dathlu ac yn deall natur amlddimensiynol diwylliant a hunaniaeth Cymru yn well. Ac rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth yn gatalydd i ddod â chymunedau ynghyd i ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog honno o hunaniaethau sy’n bodoli nid yn unig yng Nghasnewydd, ond ledled y genedl gyfan.
Ond a gaf fi droi’n benodol nawr at Gasnewydd? Mae’n enghraifft wych o sut mae hanes bro yn effeithio ar hanes ehangach Cymru a’r DU, gan helpu i lunio nid yn unig hunaniaeth leol, ond hunaniaeth genedlaethol hefyd. Rydych eisoes wedi cyfeirio at y Siartwyr; ni all unrhyw un sôn am Gasnewydd heb sôn am y Siartwyr, ac mae casgliad Siartwyr yr amgueddfa, wrth gwrs, yn adrodd hanes cyfraniad Cymreig balch ac arwyddocaol i fudiad Prydeinig a sicrhaodd ddiwygiad gwleidyddol pwysig. Ac mae 20 mlynedd ers i long Casnewydd gael ei darganfod yn ystod gwaith adeiladu ar lan yr afon, ac mae estyll y llong honno o’r bymthegfed ganrif bellach wedi’u hadfer ac yn barod i’w rhoi yn ôl at ei gilydd. Mae hwn yn ddarganfyddiad o bwys yn rhyngwladol, ac mae’n adlewyrchu pwysigrwydd teithio a masnach forwrol i Gymru ar hyd y canrifoedd, sydd wedi dylanwadu’n fawr ar y Gymru a welwn heddiw.
Rwyf eisoes wedi sôn am yr hyn rydym yn mynd i’w wneud, ond credaf ei bod yn briodol imi dynnu sylw at ychydig o bethau rydym wedi’u gwneud yn barod, a’r hyn rydym yn parhau i’w wneud i sicrhau bod diwylliant Cymru yn ffynnu yng Nghasnewydd. Felly, mae amgueddfeydd Casnewydd yn dathlu sbectrwm eang o ddiwylliannau, cymunedau, diwydiannau a chyfnodau, sydd oll yn cyfrannu at ddatblygu hunaniaeth Gymreig Casnewydd heddiw. Mae amgueddfeydd yn bodoli wrth galon cymuned. Dyma ble mae pobl yn mynd i gysylltu â'i gilydd ac i rannu a phrofi ein hanes a'n diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ariannu nifer o weithgareddau yn ardal Casnewydd, ac mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau Portffolio Celfyddydol Cymru, Ballet Cymru a chanolfan Glan yr Afon, y sonioch chi amdanynt hefyd. Ac mae nifer o sefydliadau eraill Portffolio Celfyddydol Cymru wedi ymgymryd â gweithgarwch o fewn ardal awdurdod lleol Casnewydd. Mae meysydd rhaglenni allweddol, fel dysgu creadigol a chelfyddydau mewn iechyd, hefyd yn gwasanaethu Casnewydd. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyflwyno rhaglen helaeth Celf ar gyfer y Faenor yn ddiweddar fel rhan o ddatblygiad ysbyty newydd y Faenor.
I droi at y Gymraeg, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn barod wedi siarad yn y Siambr y prynhawn yma am y gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud i gefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant ar draws Cymru.
Rwy’n ymwybodol o’r gwaith gwych y mae Menter Iaith Casnewydd yn ei wneud dros y Gymraeg yng Nghasnewydd. Mae’r £60,000 o arian grant rydym yn ei ddarparu 'r Fenter Iaith yn mynd tuag at hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Casnewydd, a gwn mai un o’u blaenoriaethau yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith teuluoedd, a darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r ysgol, yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i’r gymuned ehangach a dysgwyr ddefnyddio’u Cymraeg. Mae'r Fenter Iaith wedi agor uned mewn safle blaenllaw yn y farchnad gyda’r bwriad o fod yn ganolbwynt i’r Gymraeg a diwylliant Cymru ar Stryd Fawr Casnewydd. Yn ogystal â chynnal nifer o weithgareddau a drefnir gan Fenter Iaith Casnewydd, megis clybiau ar ôl ysgol i blant, mae hefyd yn fan y gellir ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol lleol ac sy’n addas ar gyfer perfformiadau, cynnal cyfarfodydd hybrid, ac mae hefyd yn cynnwys ardal arddangos sydd yn agored i sefydliadau, ysgolion, artistiaid, busnesau a grwpiau lleol. Mae Menter Iaith Casnewydd hefyd wedi sefydlu nifer o grwpiau cymunedol lle daw pobl at ei gilydd i ddefnyddio’u Cymraeg, a chyda chymorth Menter Iaith Casnewydd, mae’r grwpiau hyn bellach yn gallu gweithredu ar eu pennau eu hunain.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedaf yn aml pan ofynnir i mi, cefais fy ngeni'n Saesnes, ond rwy'n Gymraes o ddewis, ac fel eraill, rwy'n falch iawn o'n treftadaeth a'n diwylliant Cymreig a'r Gymraeg, a'r ffordd mae hyn yn cyfrannu at ein hymdeimlad o hunaniaeth Gymreig, a welwn yng Nghasnewydd, ac sydd wedi’i fynegi mor angerddol gan Aelodau sy’n cynrychioli’r ddinas honno yma yn y Senedd, hunaniaeth sy’n cael ei chefnogi, ac a fydd yn parhau i gael ei chefnogi gan y Llywodraeth hon. Diolch yn fawr iawn.
A daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.