– Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl ar ailenwi y Cynulliad Cenedlaethol. Cyn i mi alw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig ac agor y ddadl, hoffwn wneud datganiad byr.
Mae’r Cynulliad bellach yn lle tra gwahanol i’r un a etholwyd yn 1999. Mae nawr yn pasio Deddfau a’n cytuno trethi, yn ogystal â dwyn y Llywodraeth i gyfrif a rhoi canolbwynt i drafodaethau democrataidd ar faterion o bwys i bobl Cymru. Mae’n briodol felly i ni ystyried o ddifrif ailenwi'r sefydliad.
Mae Mesur Cymru sy’n cael ei ystyried yn San Steffan ar hyn o bryd—o bosib wrth ein bod ni’n siarad—yn darparu’r pwerau i’r Cynulliad newid ei enw. Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma, yn unol â threfniadau ein proses deddfwriaethol a bydd angen i ddwy ran o dair o’n haelodaeth gefnogi’r ddeddfwriaeth yma. Mae sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer unrhyw gynnig felly yn allweddol.
Os cymeradwyir y cynnig heddiw felly, y camau nesaf fydd i ymgynghori yn fuan ar yr hyn dylai’r enw fod. Mae yna sawl enw posib a sawl term cysylltiol sy’n deillio o’r dewis. Rhaid ystyried pa mor fuan dylid gwneud y newid ac ystyried sut rydym yn cyfathrebu’r newid yn glir a symboli hyn. Dylai’r enw barhau i ysgogi hyder a balchder ymysg bobl Cymru.
Byddaf yn trafod y materion yma ymhellach gyda fy nghyd-Gomisiynwyr ar y cyfle cyntaf ac yn hysbysu’r Cynulliad o’r camau nesaf ar gychwyn tymor yr hydref. Ond, am heddiw, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau cychwynnol yr Aelodau ar ailenwi ein Cynulliad Cenedlaethol.
I gyflwyno’r cynnig, rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Nid oes dim byd y gallaf i ei ychwanegu at hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid imi ddweud.
Fe gewch chi eistedd i lawr [Chwerthin.]
Ond a gaf fi ddweud felly fy mod i’n cytuno’n hollol â’r hyn yr oedd gennych chi i’w ddweud? Jest i ychwanegu, felly, safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â gwelliannau: nid ydym yn erbyn y gwelliannau mewn egwyddor, ond, ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n rhaid sicrhau bod y cwestiwn o beth ddylai’r sefydliad hwn gael ei alw yn un sydd yn gwestiwn agored. Felly, er nad yw’r gwelliannau’n creu sefyllfa lle byddai’n rhaid newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd’ yn Saesneg ac yn Gymraeg, byddai pobl yn erfyn i hynny ddigwydd, yn fy marn i, pe byddem yn cefnogi’r gwelliannau hyn y prynhawn yma. Felly, nid oes gennyf ragor i’w ychwanegu, ond i symud y cynnig yn ffurfiol ac i ddweud wrth y Cynulliad beth yw safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â’r gwelliannau.
Rwyf wedi dethol dau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Diolch, Lywydd, a hoffwn i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy’n credu fy mod i’n mynd i ddechrau’r ddadl yma heddiw, ond heb ei gwthio at bleidlais, er mwyn inni allu cael y drafodaeth ynglŷn â’r newid yma yn y Cynulliad ac i ganiatáu wedyn i’r Llywydd ymgynghori ar y sefyllfa.
Ond, yn gyntaf, hoffwn groesawu’r cyfle i siarad ar y mater yma a geiriad agored y cynnig—cynnig sy’n rhoi cyfle inni ystyried yn ofalus enw ein corff democrataidd cenedlaethol. Fel pob un ohonom, rwy’n credu y dylem, fel sefydliad, anelu at fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i’r genedl, o ran ein polisïau, ein deddfwriaeth flaengar, ond hefyd ein defnydd o’n hiaith genedlaethol unigryw.
Yn 1997, enillom ni ddatganoli ar y sail y byddem yn creu democratiaeth o fath newydd a fyddai’n adlewyrchu gwerthoedd Cymru, nid fforwm i ddilyn arferion gwledydd eraill, heb eu cwestiynu. Yn ystod y degawd a hanner diwethaf, efallai y gallech chi ddadlau ein bod ni wedi canolbwyntio gormod ar statws ein sefydliadau yn hytrach nag ar ddilyn ein trywydd ein hunain. Dros gyfnod o 17 mlynedd, rydym wedi ceisio adeiladu sefydliad sy’n cael ei barchu, wedi gwahanu’r ddeddfwrfa o’r Weithrediaeth ac wedi ailenwi ‘Ysgrifenyddion’ yn ‘Weinidogion’, ac yn ôl eto. Penderfynodd gwleidyddion yr Alban alw’r ‘Scottish Executive’ yn ‘Llywodraeth yr Alban’ yn 2007 ac wedyn, yn 2011, fe wnaethom ni eu dilyn. Mae fel petai ein hyder yn deillio o, ac yn dibynnu ar efelychu eraill, fel bod yn rhaid edrych dros ein hysgwydd am arweiniad o hyd.
Dywedodd Raymond Williams yn 1975 mai arwydd o’r wir Gymru newydd fyddai, ac rwy’n dyfynnu, cyfnod
‘o greu newydd a gweithredol: pobl yn ddigon sicr o’u hunain i daflu eu beichiau; gwybod bod y gorffennol yn perthyn i’r gorffennol, fel llunio hanes, ond gydag ymdeimlad hyderus newydd o’r presennol a’r dyfodol, lle bydd yr ystyron a’r gwerthoedd tyngedfennol yn cael eu ffurfio.’
Felly gadewch i ni ddilyn ein trywydd ein hunain, gadewch i ni fod yn ddigon sicr o’n hunain i daflu ein beichiau meddyliol, a manteisio ar y cyfle i fod yn unigryw drwy gael enw swyddogol uniaith Gymraeg ar ein Senedd.
Ystyriwch y sefydliadau rydym fel Senedd yn eu cefnogi sydd ag enwau uniaith Gymraeg, o Chwarae Teg i’r Urdd, o Merched y Wawr i’r Mudiad Meithrin. Os ydym ni am feithrin ein plant bach gyda’r Gymraeg ar eu tafodau, gadewch i ni feithrin ein democratiaeth yn yr un modd. Mae’n hanthem genedlaethol yn uno ein cenedl—efallai mai dyna pam nad oes gen i ddim llais heddiw—gyda geiriau uniaith Gymraeg. Pan fo torf yn ei bloeddio, mae’n cenedl yn unedig. Mae’n uno pobl waeth beth yw eu cefndir na’u hiaith gyntaf. Ac, wrth sôn am ein hanthem, dylem gofio y foment pan wisgodd ein tîm pêl-droed grysau â’r gair ‘diolch’ arnynt—ein tîm pêl-droed cenedlaethol ar lwyfan y byd yn defnyddio’r Gymraeg yn hyderus. Oni ddylem ni weithredu yn yr un modd?
Cyn cloi, hoffwn ddelio â rhai dadleuon posib yn erbyn yr awgrym yma. Efallai y bydd nifer ohonoch chi yn credu y dylem ni gadw’r enw ‘Cynulliad Cenedlaethol’, ac mae gen i gydymdeimlad â’r ddadl honno. Mae’n enw a ddefnyddir ar draws y byd, o Giwba i Ffrainc, ond fe hoffwn i i’r Llywydd ystyried ‘Senedd’, gan fod y gair yn un sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar lawr gwlad. Mae adroddiad gwallus wedi bod yn y wasg yn honni bod y gair ‘Senedd’ yn cyfeirio at Senedd San Steffan. Fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, mae ‘Senedd’ yn cyfeirio at gorff deddfu gwlad, nid at Senedd y Deyrnas Unedig yn benodol.
Yn olaf, gwn fod rhai wedi dadlau mai enw’r adeilad yma yw ‘Senedd’ ac y dylai fod enw arall ar y ddeddfwrfa. Un ateb syml i hynny fyddai ailenwi’r adeilad yn ‘Senedd-dy’ os dymunwn ni, ond nid wyf i’n gweld bod yna broblem fawr wrth gael enw ar adeilad ac wedyn enw ar sefydliad—cael yr un enw ar yr adeilad a’r sefydliad. Rwy’n credu ei bod hi’n weddol hawdd i bobl allu deall hynny. Mae’r gair ‘Senedd’ â’i wreiddiau yn Lladin, iaith sy’n uno ein cyfandir yn ei holl amrywiaeth. Ac, wedi i ni, yn groes i ewyllys nifer ohonom yn y Senedd yma, benderfynu cefnu ar yr Undeb Ewropeaidd, gadewch i ni gymryd cam a fyddai’n cryfhau undeb Ewropeaidd arall, drwy atgyfnerthu hen undeb ddiwylliannol o’r newydd. Diolch yn fawr.
Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn fwy na thebyg yn gwneud yr un fath â'r Prif Weinidog o ran cadw fy sylwadau'n fyr, oherwydd bod y Llywydd, yn ei chyflwyniad, yn fy marn i, wedi amlygu'r broses a oedd ar gael i'r Senedd hon, neu 'parliament', neu Gynulliad—galwch ef yr hyn a fynnoch, oherwydd bydd trafodaeth ynglŷn â hynny.
Ond, rai blynyddoedd yn ôl, rhoddais fy enw, yn amlwg, i ailenwi'r sefydliad hwn, gan fy mod yn credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn y gymuned yn deall swyddogaeth y ddeddfwrfa mewn gwirionedd o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. A, phe byddwn yn cael punt am bob tro y mae pobl wedi beirniadu'r Cynulliad am hyn, a'r Cynulliad am y llall, oherwydd, ym meddyliau llawer o bobl, maent yn dal â'r corff corfforaethol hwnnw, lle'r oedd popeth yn cael ei redeg gan y Cynulliad yn y dyddiau cynnar, ac mae pobl yn dal i beidio â gweld y gwahaniaeth rhwng yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud a'r hyn y mae'r ddeddfwrfa yn ei wneud ar eu rhan ac yn eu henw.
Rwyf yn credu bod unrhyw ailenwi yn gorfod cael ei dderbyn gan yr etholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma i weithredu ar eu rhan. Ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad, yn amlwg, i'r gwelliannau a osodir heddiw, ond rwyf yn meddwl bod angen iddynt gael eu hystyried yn llawn, oherwydd nid wyf ddim yn gweld pam na allem gael 'Senedd' a 'parliament', oherwydd, yn amlwg, mae gan bobl ddealltwriaeth gyflawn o'r gair 'parliament', yn y ffordd y mae democratiaeth y DU yn gweithio, a, dros gyfnod o amser, rwyf yn credu y gallai'r gair 'Senedd' gael ei dderbyn yn rhwydd. Ond, ar gyfer llawer o bobl, mae'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi datblygu—ac, yn enwedig, ei allu deddfwriaethol, ei allu i drethu, wrth symud ymlaen, ar ôl i Bil Cymru gael ei basio, ac, yn y pen draw, swyddogaeth Llywodraeth—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, rwy'n fodlon.
Ydych chi'n credu er hynny pe byddech yn ei roi yn y Gymraeg yn unig, na fyddai gennych hyd yn oed y broblem bosibl o bobl yn camddeall pa un ai Senedd Cymru ynteu Senedd y DU yr oeddech yn sôn amdani? Yn y Gymraeg, felly, byddai'n unigryw ac yn sefyll drosti ei hun, neu a fyddech chi'n anghytuno â hynny?
Wel, fel yr wyf wedi ei ddweud, o fy safbwynt i, nid wyf wedi cael problem â hyn, oherwydd, yn amlwg, rwyf yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ac rwyf yn llwyr ddeall ystyr y gair Senedd yn y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio yn y Gymraeg, ond, yn amlwg, i lawer o bobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa'n gweithio, y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio yma, ac os meddyliwch chi am yr Alban, er enghraifft, mae'r cyfeiriad yn gyfeiriad at y 'Parliament' yn yr Alban, er gwaethaf, yn amlwg, bod gan yr Alban ei hiaith ei hun ac, yn amlwg, yr hyrwyddir yr iaith honno. Ac rwyf yn credu bod angen i unrhyw ailenwi fod â'r gallu, wrth wraidd ei broses, yn amlwg, i bobl ddeall yn rhwydd pwy sydd â chyfrifoldeb a phwy sydd â'r swyddogaeth, ac, fel y dywedodd y Llywydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd cyfrifoldeb hwnnw bellach yn dod atom ni drwy Fil Cymru, a'r gallu hwnnw i ni ailenwi’r corff hwn. Ceir trafodaeth bod rhai Aelodau yn credu'n amlwg y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol barhau fel ag y mae, ac rwyf yn croesawu'r cyfle am y drafodaeth a'r ymgynghori y dywedodd y Llywydd fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf. O'n safbwynt ni, mae gennym bleidlais rydd ar hyn, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n fater gwleidyddol; nid wyf yn ei weld fel mater gwleidyddol, a dweud y gwir. Ein dyletswydd ni fel Aelodau yw ceisio myfyrio ar ein gwaith, myfyrio ar y cyfathrebu gydag aelodau'r cymunedau a'n hetholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma, ac, yn y pen draw, adlewyrchu deinameg newydd y ddeddfwrfa, y berthynas â'r Llywodraeth, a'r berthynas â'r cymunedau, boed nhw yn y gogledd, y canolbarth neu'r de. Felly, rwyf yn croesawu'r ddadl gychwynnol hon, ond, yn amlwg, bydd nifer o ddadleuon eraill yn ymwneud â'r mater hwn.
Fel pawb arall, rwyf yn croesawu'r ddadl hon, er fy mod yn meddwl tybed, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, a allent fod yn ei ystyried fel rhyw fath o fogailsyllu ymhongar braidd ac nad ydynt yn poeni fawr am yr hyn yr ydym yn galw ein hunain—cyn belled ag y gallaf ddweud, maen nhw'n feirniadol iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn. Ond, mae nifer ohonom, wrth gwrs, wedi bod yn Aelodau Seneddol mewn lle arall, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu'r ffaith bod gennym bellach y cyfle i greu senedd wirioneddol yno, yn hytrach na'r un a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Ond, pan fydd Bil Cymru yn cael ei basio a phwerau trethu yn cael eu datganoli i'r sefydliad hwn, bydd, wrth gwrs, dadl wirioneddol i alw ein hunain yn senedd, gan fod trethu a chynrychiolaeth wedi cyd-fynd yn draddodiadol ym meddyliau pobl sy'n cefnogi democratiaeth.
Rwyf i'n bersonol yn eithaf hoff o'r syniad o gael 'Senedd' fel enw, ac rwyf yn mwynhau bod yn 'Aelod o'r Senedd', a tybed a fyddai hynny'n ein gwneud i ni yn seneddwyr, yn y pen draw, a beth fyddai barn y cyhoedd ar hynny. Fel y nododd Bethan Jenkins, mae hyn yn tarddu o'r hen Rufain, ac roedd yn golygu, wrth gwrs, os oeddech yn berson hen, roeddech yn cael eich ystyried fel bod yn ddoeth yn awtomatig, ac mae hon yn ddamcaniaeth yr wyf wedi closio ati—yr hynaf yr wyf yn mynd, y doethaf yr wyf yn mynd rwy’n credu. Ond nid oeddwn yn hoff o'i dadl ynglŷn â'r Cynulliad oherwydd ei fod yn cael ei alw yn hynny yn Cuba ac yn Ffrainc. Nid wyf yn awyddus i ddilyn esiampl yr un o'r ddwy wlad hynny.
Ond rydym yn croesawu, yn ein plaid ni—a bydd gennym ni bleidlais rydd ar hyn hefyd—trafodaeth genedlaethol ar y pwnc hwn, ac rwy'n siwr, yn dilyn y refferendwm, y bydd yr un faint o ddiddordeb gan y cyhoedd yn ein trafodaeth ar yr hyn yr ydym yn mynd i alw ein hunain. Felly, nid oes gennym yn bendant unrhyw wrthwynebiad i'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried goblygiadau'r newid hwn ac, yn wir, ymgynghori mor eang â phosibl, ac yna byddwn yn dod yn ôl a thrafod y mater mewn modd gwirioneddol.
Rwy’n croesawu’r ffaith ein bod ni’n cael cyfle i drafod hwn. Erioed yn fy mywyd gwleidyddol i, rwyf wedi ymffurfio ac ymgyrchu yn enw senedd i Gymru, ac er ein bod ni wedi ffurfio’r Cynulliad, rwyf wastad yn teimlo mai’r rheswm dros alw’r lle yma’n Gynulliad yn y lle cyntaf oedd ei wneud e’n israddol i’r hyn a ystyriwyd ar y pryd yn senedd go iawn, sef y Senedd yn San Steffan. Mae’n wir fy mod innau hefyd wedi gwasanaethu yn y Senedd yn San Steffan, ac mae’n dal i fod yn wir—digwyddodd e dair gwaith dros y penwythnos diwethaf—fod pobl yn dod lan ataf i ac yn wastad yn gofyn, efallai fel ffordd o dorri’r garw, ond maen nhw’n wastad yn gofyn, ‘A ydych chi’n colli San Steffan?’, ‘Do you miss Parliament?’, ac rwy’n gorfod eu hateb, ‘I am in a Parliament, you know. I’m still in a Parliament’. Ond mae’r syniad yma fod ‘parliament’ uwchben cynulliad yn rhan o’r ffaith ein bod ni’n byw yn ynysoedd Prydain, ac mae’n grêt i feddwl bod ‘Cynulliad’ yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill, ond y ffaith amdani yw ein bod ni’n rhannu treftadaeth ar y cyd gyda gwledydd Prydain sydd yn dreftadaeth seneddol. Ac os ydym am i’r lle yma feithrin yr un statws â’r Senedd yn San Steffan, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, rwy’n credu bod rhaid inni alw ein hunain yn ‘Senedd’. Ac yn yr un ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen i fod yn ‘Llywodraeth Cymru’, er taw’r enw swyddogol yw ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’, rwy’n meddwl, o hyd yn ôl y ddeddfwriaeth, mae modd inni ddechrau galw ein hunain yn ‘Senedd’.
Nawr, a ddylai hynny fod yn ddwyieithog neu unieithog? Rwy’n ddigon agored. Yn bersonol, wrth gwrs, byddwn i’n ddigon hapus ein bod ni’n galw’n hunain yn ‘Senedd’, fel y Dáil yn Iwerddon; byddai’n ddigon cyffredin i fi, fel un sy’n siarad Cymraeg, i wneud hynny, ond rwy’n credu y dylem ni ymgynghori, ac mae’r cynnig gan Bethan yn gofyn i ni ystyried. Felly, rwy’n hapus iawn i gefnogi hynny, ond dylem ni ymgynghori—dylem wrando ar beth sydd gan bob un o’r bobl i’w ddweud ynglŷn â’r ffordd maen nhw angen cyfeirio at y sefydliad yma. Ond rwy’n credu ein bod ni’n Senedd—rydym yn hawlio yr hawl i ddeddfu ac rydym yn mynd i drethu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod—a gawn ni alw ein hunain yn enw sy’n cydnabod y statws sydd gan y sefydliad?
Yr hyn sydd gennym yma gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn rhyw ffordd, yw tipyn o broblem marchnata. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn yr etholiadau yn sylweddol is nag ar gyfer fersiwn San Steffan. Mae gwleidyddion yng Nghymru yn aml yn dweud bod llawer o etholwyr Cymru yn aml yn gwbl anwybodus ynghylch pa faterion sydd wedi eu datganoli a pha rai nad ydynt. Y broblem yn ei hanfod yw nad yw'r mwyafrif llethol o'r bobl yng Nghymru wedi eu lapio mewn swigen wleidyddol, fel yr ydym ni'n tueddu i fod yma. Mae angen i ni fod yn ofalus cyn i ni newid ei enw na fyddwn yn ymddieithrio pobl hyd yn oed ymhellach oddi wrth y corff gwleidyddol sydd i fod i'w gwasanaethu.
Gadewch i ni edrych yn gyntaf ar y cynnig y dylai'r Cynulliad ddechrau galw ei hun yn 'parliament' neu senedd. Wel, mae hynny'n iawn, yn ddamcaniaethol, ar ôl i bwerau trethu ddod i rym, ond nid ydym wedi cyrraedd hynny eto. Mae sefyllfa UKIP braidd yn gymhleth gan fod llawer ohonom wedi gwrthwynebu'r cydsyniad ar gyfer pwerau trethu heb y refferendwm a addawyd, fel yr esboniodd fy nghyd-Aelod Mark Reckless yn gynharach heddiw.
Ond gan hyd yn oed roi'r mater trethu o'r neilltu a chan dybio bod y pwerau yn cael eu gweithredu, oni fyddai'n gwneud synnwyr i ohirio ailenwi'r Cynulliad fel 'parliament' neu senedd tan efallai ddechrau'r chweched tymor yn 2021? Rwyf yn awgrymu y byddai hyn yn fwy cost-effeithiol na'i wneud yng nghanol tymor, ac ni fyddem yn rhagfarnu canlyniad y mater trethu.
Af ymlaen at welliant, neu welliannau, Bethan, mae hi eisiau i'r term 'Senedd' yn unig gael ei ddefnyddio yn hytrach na 'Parliament', oherwydd mae'n dweud bod y term hwn eisoes yn ddealladwy yn eang a bod ganddo gefnogaeth eang. Wel, rydym yn y fan yma yn dod yn ôl at y swigen wleidyddol, neu o leiaf swigen ddiwylliannol. Mae Bethan yn dod o gefndir Cymraeg neu gefndir dwyieithog, ac yn ei chylch cymdeithasol hi, efallai'n wir fod 'Senedd' yn derm a ddefnyddir yn helaeth. Ysywaeth, pe byddwn yn dechrau siarad am y 'Senedd' yn nhafarn Wetherspoon's [Torri ar draws.]
Rwy'n defnyddio 'Senedd' drwy'r amser yn fy mywyd cymdeithasol.
Iawn, wel, efallai nad yw hyd yn oed yn hynny, ond mae hynny efallai yn pwysleisio fy mhwynt. Pe byddwn yn dechrau siarad am y Senedd yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth yr oeddwn yn sôn amdano.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, siŵr iawn.
Rwy'n ceisio bod o gymorth, i efallai eich arbed rhag eich hunan. Cefais fy nharo gan fy nhudalen Facebook fy hun, nad yw o fewn swigen ddiwylliannol, a gofynnais y cwestiwn ynglŷn â barn pobl ar hyn. Roedd amheuaeth, fel y dywedwch, o ran ein bod yn trafod hyn ar hyn o bryd, ond y consensws oedd defnyddio'r term dwyieithog 'Senedd' gan ei fod yn gynhwysol ac eisoes yn cael ei ddefnyddio. Felly, er nad yw'n wyddonol, nid oeddwn yn ystyried hynny fel adlewyrchiad o unrhyw swigen ddiwylliannol ond o deimlad synnwyr cyffredin bod hwn yn derm sydd eisoes yn gynhenid ac sydd wedi ennill ei blwyf.
Iawn, diolch, Lee; a gaf i barhau? Iawn, y swigen ddiwylliannol. Y pwynt yw ein bod ni mewn swigen wleidyddol—rwyf innau ynddi erbyn hyn hefyd—ond mae'n rhaid i ni gadw rhywfaint o gyswllt â'r byd go iawn y tu allan. [Torri ar draws.] Iawn, diolch. Yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth oeddwn i'n sôn amdano pe byddwn yn dechrau sôn am y 'Senedd', a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad.
Mae Bethan wedi crybwyll yr Urdd, Chwarae Teg a Merched y Wawr. Ie, ond y broblem yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl y tu allan i drefedigaeth Gymraeg ei hiaith Pontcanna—y rhan fwyaf o'r bobl yng Nghaerdydd—yn gwybod beth yw'r pethau hyn. Ar y sail honno, rwyf yn ofni bod angen i ni anghofio am y term 'Senedd' hwn. Ar bob cyfrif defnyddiwch ef yn anffurfiol fel y cyfieithiad Cymraeg, ond nid fel prif enw'r sefydliad gwleidyddol hwn os gwelwch yn dda. Fel arall, rydym yn ymddieithrio'r Cynulliad ymhellach oddi wrth y rhan fwyaf o bobl Cymru. Diolch.
Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i ymateb i’r ddadl.
Ychydig iawn, yn y bôn, yr oeddwn i'n mynd i'w ddweud, ond ar ôl hynna, rwyf yn teimlo y dylwn ymateb. O ran y mater amseru, rwyf wedi treulio, erbyn hyn, 17 mlynedd yn y lle hwn ac mae pobl bob amser yn dweud nad yw hi byth yr adeg iawn ar gyfer rhywbeth. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei sefydlu fel enw a chysyniad cyn iddo fodoli yn y gyfraith. Pan wahanwyd y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn ffurfiol, roedd yn bodoli felly. Mae'r enw 'Llywodraeth Cymru' bellach yn cael ei ddefnyddio yn helaeth, ond eto, nid yw'n bodoli mewn gwirionedd yn y gyfraith, 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' ydyw o hyd, ond gwnaethom hepgor yr enw 'Cynulliad' ar ôl 2011, ac mae pobl wedi derbyn hynny fel yr arfer.
Rwy'n agored i'r hyn y dylai'r sefydliad alw ei hun. I mi, nid yw 'Cynulliad Cenedlaethol' wir wedi gweithio erioed; nid yw pobl yn ei ddeall yn yr hyn y gallaf ei ddisgrifio fel byd y gyfraith gyffredin. Ydy, mae'n cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill; yn Ffrainc, yr 'Assemblée Nationale' ydyw, rwyf yn gwybod hynny. Ond i ni, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym sefydliad y mae pobl yn ei ddeall. Mae pobl yn deall beth yw ‘Parliament’; nid wyf yn dweud y dylai hynny fod yr unig ddewis ar y bwrdd, ond maent yn deall beth y mae'n ei olygu.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett; gallaf ei sicrhau fy mod i'n byw mewn stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae fy mhlant yn mynd i ysgol leol ac rwyf yn siopa'n lleol—nid wyf yn byw mewn swigen. Rwy'n treulio fy amser mewn tref lle y cefais fy magu, gyda phobl y tyfais i fyny â nhw, ac, yn sicr, rwyf yn treulio fy amser yn y gymuned leol. Rwyf yn gwrthwynebu'r awgrym bod Cymry sy'n byw yng Nghaerdydd yn drefedigaeth—trefedigaeth. Pe byddai rhywun yn sefyll ar ei draed yn y Siambr hon a disgrifio pobl yng Ngheredigion neu yng Ngwynedd, sydd yn siaradwyr Saesneg, fel 'trefedigaeth', byddai'r lle yma'n ferw a gofynnaf iddo fyfyrio ar y ffaith honno. Mae'n gwneud iddi swnio fel pe nad oes lle yn ein prifddinas i bobl yng Nghymru sy'n siarad iaith benodol, ac mae hynny'n sylw cwbl anghywir ac yn rhywbeth y mae angen iddo fyfyrio arno. Nid wyf yn siŵr ei fod yn ei olygu yn y ffordd honno, ond bydd yn sarhaus iawn i nifer o bobl. Nid dim ond ef sydd â'r hawl i fyw yn ein prifddinas; mae gan holl bobl Cymru a phobl o bob cwr o'r byd yr hawl i ddod yma, i gael eu croesawu yma ac i gyfrannu at ein heconomi.
Mae hefyd yn gwneud y pwynt nad yw pwerau trethu yn cael eu datganoli; maent wedi eu datganoli. Mae ardrethi busnes wedi eu datganoli; trethi ydyn nhw. Mae treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiad tir ar y gweill ac ar eu hynt trwy'r Cynulliad; maent eisoes wedi eu datganoli. Ni fu erioed awgrym y byddai refferendwm cyn iddyn nhw gael eu datganoli. Felly, mae datganoli pwerau amrywio treth incwm rhannol yn ddatblygiad naturiol yn y modd hwnnw.
Mae'n gwneud y pwynt eto am amseru. I mi, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn dod i arfer ag enw newydd, os mai dyna'r casgliad y bydd y Cynulliad yn dod iddo, ymhell cyn yr etholiad nesaf, fel bod pobl yn gwybod enw'r sefydliad y maen nhw mewn gwirionedd yn pleidleisio Aelodau i mewn iddo. Felly, ar wahân i'r nodyn hwnnw o anghytgord a glywsom gan y siaradwr diwethaf, nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn y Siambr wedi dadlau yn erbyn y cynnig hwn, ond, wrth gwrs, bydd dadl lawnach ynghylch yr hyn y dylai'r enw fod mewn gwirionedd yn ystod y misoedd i ddod.
Diolch, Brif Weinidog. Wrth gyflwyno’r gwelliannau, fe wnaeth Bethan Jenkins grybwyll y ffaith nad yw hi’n dymuno eu gosod nhw gerbron pleidlais y prynhawn yma. A allaf gadarnhau bod hynny’n gywir am y ddau welliant?
Ydy, mae’n ‘fine’.
Ac fe wnaf i gytuno i hynny, os nad oes yna wrthwynebiad i’r ddau welliant beidio cael eu cymryd. Nid oes yna wrthwynebiad.
Felly fe wnaf symud i ofyn a oes yna wrthwynebiad i’r cynnig. Os nad oes yna wrthwynebiad i’r cynnig, yna mae’r cynnig wedi’i dderbyn.