– Senedd Cymru am 3:47 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda, felly, yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, y BBC yng Nghymru, ac rydw i’n galw ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6027 Bethan Jenkins, Lee Waters, Russell George, Jeremy Miles, Jenny Rathbone, Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd diwethaf.
2. Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.
3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos a'r dyfodol pellach.
Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon heddiw. Cychwynasom y ddadl hon ochr yn ochr ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ar sail drawsbleidiol yng nghyd-destun proses adnewyddu siarter y BBC, i geisio rhoi pwysigrwydd ein perthynas gyda’r BBC ar yr agenda yn nhymor gwleidyddol newydd y Cynulliad, a dangos iddynt nad ydym yn mynd i ddiflannu ac y byddwn yn craffu nid yn unig arnynt hwy ond ar bob darpariaeth ddarlledu a’r cyfryngau yma yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Wrth ymchwilio ar gyfer y ddadl hon, roedd yn ddiddorol mynd yn ôl dros beth o’r allbwn y mae BBC Cymru wedi ei ddarparu i’r wlad hon ar hyd y blynyddoedd. Bydd rhai ohonoch yn gwybod, er bod BBC Cymru wedi ei sefydlu yn gyntaf yn 1964, mewn gwirionedd, roedd y darllediad cyntaf yng Nghymru yn llawer cynharach, yn 1923, gan orsaf radio o’r enw 5WA, a aeth ymlaen i fod yn rhan o drefn raglennu BBC. Byddai rhai o’r rhaglenni a welsom yn sicr yn dân ar y croen heddiw gyda’n gwerthoedd modern. Pan fyddwn yn dweud bod rhywbeth yn ‘perthyn i gyfnod’, gall hefyd olygu bod gennym gofnod byw o sut yr oedd pobl yn meddwl, yn siarad ac yn gweithredu mewn ffordd arbennig mewn cyfnod penodol yng Nghymru yn y gorffennol. Ond dyna sydd wrth wraidd y ddadl heddiw—fod gan BBC Cymru rôl hanfodol i’w chwarae yn adlewyrchu bywydau, dyheadau a heriau pobl Cymru heddiw. Yn ein barn ni, mae gan BBC Cymru ran allweddol i’w chwarae yn sicrhau bod hynny’n parhau, a rhaid iddo chwarae’r rhan honno.
Nid oes fawr o amheuaeth fod BBC Cymru wedi encilio o’r rôl hon, nid yn unig yn y cyfnod diweddar, ond dros flynyddoedd lawer. Cyaddefodd Tony Hall gymaint â hynny mewn araith a roddodd tua dwy flynedd yn ôl bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y rheswm pennaf y daeth y cynnig hwn i olau dydd oedd er mwyn i ni fel Aelodau’r Cynulliad fynegi ein rhwystredigaeth ynghylch y diffyg gweithredu yn y cyfamser i fynd i’r afael â sylwadau’r cyfarwyddwr cyffredinol. Yn wir, daeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad diwethaf a dywedodd bron yr un peth ag y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl—oes, mae yna ddiffyg portreadu ac rydym yn mynd i ddatrys y broblem. Wel, fy neges heddiw yw bod angen i chi ddangos eich bod yn mynd i wneud hynny yn awr. Nid oes dim o hyn yn bychanu beth y mae BBC Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni ddweud hynny. Mae peth o’i waith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf—’Sherlock’,’Life on Mars’,’Ashes to Ashes’,’Being Human’—wedi bod yn llwyddiannus. Ond nid ydynt yn ymwneud â Chymru, yn y bôn, ac nid ydynt wedi eu gosod yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod hyn o wylio ‘Doctor Who’. Wrth gwrs, ni ellid disgwyl i raglen sy’n cynnwys estron sy’n gallu teithio drwy amser fel ei chymeriad canolog gael ei chyfyngu i’r ochr hon i Glawdd Offa. Ond sawl gwaith rydym wedi eistedd o’i blaen gan fwmian, ‘Nid Llundain yw’r fan honno ond y Rhath’?
Rwy’n meddwl bod uwch-reolwyr BBC Cymru yn gwneud yr hyn a allant, ond mae’r broblem ar ben arall yr M4 mewn gwirionedd. Gwelsom hynny yr wythnos diwethaf, rwy’n meddwl, pan gyhoeddodd y BBC na fyddai Cymru yn cael llais ar fwrdd y BBC heblaw drwy gyfarwyddwr y gwledydd a’r rhanbarthau. Dyna oedd eu trefn o’r blaen, ac maent wedi ei newid yn ôl i’r drefn honno. Byddwn yn cwestiynu a yw hyn yn gam i lastwreiddio ein dylanwad ar y BBC ac a ddylem gael gyfarwyddwr anweithredol o Gymru, gan fod penodiad cyhoeddus yn rhywbeth y mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi ei grybwyll yn ddiweddar iawn yn yr adroddiad a gawsom fel Aelodau’r Cynulliad heddiw. Fel Cadeirydd pwyllgor newydd y pwyllgor cyfathrebu—pwyllgor ag iddo ddannedd, gobeithio—rydym eisoes wedi ysgrifennu at y BBC i ofyn iddynt am fanylion ynglŷn â’r penodiad a pham eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw heb unrhyw ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad neu Aelodau Seneddol neu’r Llywodraethau, naill ai ar lefel y DU, yn ôl yr hyn a ddeallaf, neu ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd.
Felly, ai gwahanolrwydd BBC Cymru sydd dan sylw fan hyn? A’r cwestiwn, yn dilyn ymlaen o hynny, yw: beth y gallwn ei wneud am hyn yma yng Nghymru? Rhaid i atebolrwydd fod yn allwedd i hyn oll. Fel gyda’n sefydliad ni, fel gyda sefydliadau ac elusennau anllywodraethol eraill, maent yn derbyn arian cyhoeddus, ac felly dylid eu gorfodi i esbonio eu penderfyniadau gan fapio eu canlyniadau posibl. Ddoe, wrth i adolygiad blynyddol diwethaf Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC gael ei gyhoeddi, dywedodd Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr cenedlaethol y BBC dros Gymru, a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, a dyfynnaf, 'Mae yna heriau sylweddol o’n blaenau, ac un o’r rhain yw sicrhau bod nifer lawer uwch o’n straeon yn cael eu clywed a’u gweld ar ein sgriniau yng Nghymru, ar draws y DU a thu hwnt. Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol, rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth ar gyfer cyfnod nesaf y siarter.'
Mae rôl y BBC ym mywyd y genedl yn hollbwysig, ac felly nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod yn ystyried ei waith yn feirniadol wrth ei amddiffyn yn frwd. Nawr, mae’n rhaid i ni fod yn benderfynol ac yn feiddgar yn ein gweledigaeth ar gyfer ei rôl yn gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, wrth gwrs, fel Aelodau Cynulliad, dylem groesawu’r sylwadau hyn fel datganiad o fwriad gan BBC Cymru, ond nid yw geiriau’n ddigon; mae angen i ni weld gweithredu ganddynt yn awr. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd, edrychaf ymlaen at wahodd yr ymddiriedolwr cenedlaethol a chyfarwyddwr Cymru y BBC i gyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad a rhoi rhywfaint o gig ar esgyrn yr hyn y maent wedi’i ddweud. Pan ddaethant i’n gweld yn flaenorol, fe ddywedasant y byddent yn hoffi monitro canlyniadau a sut y gellir dadansoddi ac asesu’r portread, ac edrychaf ymlaen at eu holi ynglŷn â hynny yn y dyfodol.
Felly, mae angen i ni ofyn: sut y bydd y BBC yn mynd i’r afael â’r dasg newydd? A yw’n mynd i wneud ei hun yn fwy atebol i’w gynulleidfaoedd ac i’r Cynulliad hwn? Beth fyddant yn ei wneud drwy’r siarter newydd? Sut y bydd yn sefydlu ei drefniadau llywodraethu newydd? Sut y bydd yn mesur eu canlyniadau? A yw’n nod ganddo i ymateb i farn a phryderon ei gynulleidfaoedd mewn ffordd real a sylfaenol? A sut y bydd BBC Cymru yn sicrhau bod ei gynulleidfa yn cael eu diogelu rhag unrhyw benderfyniadau anffafriol posibl yn Llundain?
Yr wythnos hon mae Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC yn dweud, ac rwy’n dyfynnu:
‘dylai fod yn ofynnol i’r BBC adrodd i’r cyhoedd yng Nghymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn flynyddol ar y ffordd y mae ei holl wasanaethau, o ran y Rhwydwaith a BBC Cymru wedi bodloni Dibenion Cyhoeddus y BBC yng Nghymru yn ystod y flwyddyn flaenorol.’
Mae hyn yn rhywbeth rwyf i ac ACau eraill wedi galw amdano dro ar ôl tro ers amser mawr, ac rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny yn y dyfodol. Felly, rwy’n gobeithio gweld ffocws newydd gan reolwyr BBC Cymru ac y bydd hyn yn arwain at arloesi newydd.
Awgrymwyd wrthyf y dylai fod rhywbeth fel ‘The One Show’ ar gyfer Cymru, o bosibl, neu efallai y gallai gyfateb yn Saesneg i ‘Golwg 360’, gan fod ‘Golwg 360’ wedi rhoi newyddion arbennig ac unigryw am Gymru i ni drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai’r ddau awgrym gynyddu cyfranogiad y gynulleidfa ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i BBC Cymru wella’i berfformiad. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl bod ffafrio papurau newydd Llundain yng Nghymru yn hytrach na chyfryngau cynhenid o gryfder amheus wedi chwarae rhan yng nghanlyniad refferendwm. Canlyniad hynny, fel y gallwn weld, yw bod pawb a’n harweiniodd i’r llanast hwn wedi gadael y llong sy’n suddo i’r gweddill ohonom lenwi’r tyllau, cael gwared ar y dŵr a dal ati i hwylio.
A hoffech chi ildio?
Gwnaf.
Ar y pwynt y mae hi’n ei wneud am y berthynas rhwng y wasg a’r BBC, mae’n gwybod bod y BBC wedi dweud, fel rhan o broses y siarter, fod ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi’r wasg ar lefel leol drwy rannu newyddiaduraeth, rhannu straeon ac yn y blaen. A yw hynny’n rhywbeth y mae hi wedi edrych arno gyda—? Mae’n ddyddiau cynnar ar y pwyllgor newydd, rwy’n gwybod, ond a yw hynny’n rhywbeth sydd o ddiddordeb i’r pwyllgor neu o ddiddordeb yn ehangach, ac a oes ganddi unrhyw sylwadau ar sut y gellid symud hynny yn ei flaen yn awr, yn enwedig o ystyried y ffaith ein bod yn colli newyddiadurwyr o’r lle hwn, er enghraifft, sy’n rhoi sylw i wleidyddiaeth yng Nghymru?
Yn amlwg, nid wyf am siarad fel rhyw fath o unben ar hyn o bryd; rydym yn mynd i fod yn siarad fel pwyllgor. Rwy’n siŵr na fyddai pobl eisiau meddwl y byddwn yn dweud wrth bawb yn awr beth y byddwn yn ei wneud fel pwyllgor, ond mae’n rhywbeth sy’n—wel, wyddoch chi, gallai’r pŵer fynd i fy mhen—. Mae’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried fel pwyllgor gyda’n gilydd. Oherwydd, wrth gwrs, roedd hyn yn rhywbeth a ddarllenais yn ymgynghoriad y BBC cyn y tymor Cynulliad hwn. Yr hyn rwy’n bryderus yn ei gylch, fodd bynnag, yw y byddai adnoddau’r BBC yn cael eu rhannu’n rhy denau wedyn, ac a allai’r BBC ymdopi â hynny, ac a fyddai’n esgus wedyn i rai sefydliadau cyfryngau nad wyf am eu henwi gael gwared ar wasanaethau am eu bod yn dweud, ‘Wel, mae’r BBC yn llenwi’r bwlch yno, felly nid oes angen i ni fod yno rhagor’. [Torri ar draws.] Iawn.
Ar y pwynt hwnnw, er gwybodaeth, pan grybwyllais y mater hwn, mater newyddiadurwr y ‘Daily Post’ yma, yr ymateb gan y ‘Daily Post’ oedd, ‘O, rydym yn ystyried rhannu gyda’r BBC.’
Wel, rydych wedi profi’r pwynt hwnnw ar ei ben felly.
I didn’t want to finish without mentioning S4C in the minute that I have left. We should also mention the fact that they want to be part of the BBC charter and that they believe that there should be a clause in the new charter talking about their independence and what they do. From what I hear from S4C the Westminster Government may not be 100 per cent in favour of this, but if S4C, for the short term at least, is to be funded through the licence fee, then why shouldn’t they be included as part of that new charter? I think it’s important to establish what their status will be for the future and what the work programme for S4C is to be. Perhaps the Minister can tell us what the response is to this, or perhaps he could speak to S4C and the DCMS on the strategic position of S4C in the future to ensure that they are given the support that they deserve. Thank you.
Diolch, Lywydd. A gaf fi roi teyrnged i Bethan Jenkins am y diddordeb y mae wedi ei ddangos yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf? Rwy’n falch iawn fod y Cynulliad hwn yn awr wedi sefydlu pwyllgor gyda chyfathrebu yn benodol yn ei gylch gwaith, ac rwy’n falch iawn o fod yn aelod ohono, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi.
Fel y noda’r cynnig, yn y 10 mlynedd diwethaf torrwyd chwarter yr arian a fuddsoddwyd mewn gwneud rhaglenni ar gyfer Cymru yn y Saesneg, ac mae nifer yr oriau a ddarlledir chwarter yn llai hefyd. Ar adeg pan fo Cymru fel cenedl wedi ei diffinio’n gliriach nag erioed, mae’r ffynonellau gwybodaeth ar gyfer trafod a chraffu ar ein gwlad yn diflannu. Mae hyn yn ddifrifol.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi cydnabod bod hon yn sefyllfa anghynaliadwy. Ddwy flynedd yn ôl, ym mis Ebrill 2014, mynychais ei araith yn y Pierhead pan gyfaddefodd fod rhai agweddau ar fywyd cenedlaethol yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cyfleu’n ddigonol gan y BBC, gan gynnwys comedi, adloniant a diwylliant. Mae hyn, meddai, yn llyffetheirio ein potensial creadigol a’n gallu i harneisio ein doniau amrywiol.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw Tony Hall wedi gwneud dim i gywiro’r diffygion hynny a nododd. Ar 12 Mai eleni ysgrifennodd at y Prif Weinidog i adael iddo wybod sut roedd yn bwrw ymlaen, ac unwaith eto nododd ddiffygion, yn ei eiriau ef, nad oedd yr amrywiaeth llawn o ddiwylliannau a chymunedau’r DU yn cael eu hadlewyrchu’n briodol ar y BBC—mae’r rhain yn ddatganiadau mawr i gyfarwyddwr cyffredinol eu gwneud—a bod cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a wnaed yng Nghymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy. Ond ni chafwyd unrhyw fanylion ynglŷn â sut y caiff hyn ei unioni. Nawr, gadewch i ni roi hyn mewn cyd-destun. Mae gan uwch-swyddogion gweithredol BBC hanes o hyn. Chwe blynedd yn ôl, dywedodd Joanna Bennett, cyfarwyddwr gweledigaeth—teitl yn syth allan o ‘W1A’—y byddai pentref drama Porth y Rhath yn sicrhau budd creadigol o ran y lleisiau rydym yn eu clywed, y straeon rydym yn eu hadrodd, y lluniau rydym yn eu paentio.
Geiriau cain—empathi deniadol. Ond fel y mae’r adroddiad ymadawol yr wythnos hon gan Gyngor Cynulleidfa Cymru yn dangos, chwe blynedd yn ddiweddarach, geiriau gwag yw’r rhain. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae’r cyngor cynulleidfa yn dweud, yr wythnos hon, fod:
‘Prinder portread o Gymru yng nghynnyrch teledu a Radio rhwydwaith’, ac yn arbennig felly mewn drama a chomedi. Yn wir, mae’n dweud mai prin y cynhyrchwyd unrhyw raglenni drama a chomedi rhanbarthol yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Y mis diwethaf, ysgrifennodd dwy ran o dair o Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol hwn at yr Arglwydd Hall i alw arno weithredu ar sail ei eiriau. Ei ymateb? Yr wythnos diwethaf, cafodd wared ar gyfarwyddwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dîm gweithredol y gorfforaeth. Mae hyn yn gwrthdroi’r penderfyniad i roi sedd iddynt ar y prif fwrdd mor ddiweddar â 2008, gyda’r bwriad ar y pryd i ddwyn cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ynghyd.
A yw’n credu ein bod yn wirion? Nid yw’r BBC byth yn blino dweud wrthym mai cynulleidfaoedd Cymreig yw eu cynulleidfaoedd mwyaf ffyddlon. Mae’r Bîb yn bwysig i ni, ond nid yw swyddogion gweithredol y BBC yn mynd ati gydag unrhyw argyhoeddiad i ddangos bod Cymru’n bwysig iddynt hwy. Maent yn ein cymryd yn ganiataol. Hyd yn hyn, mae rheolwyr y BBC i’w gweld yn fyddar i siâp newidiol y DU. Mae angen llais cryf i Gymru ar fwrdd newydd y BBC; llais annibynnol heb ei benodi gan Lywodraeth y DU—fel y mae eu Papur Gwyn yn awgrymu ac fel y cymeradwyodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn anffodus ac yn annoeth—ond yn hytrach fel y mae grŵp polisi cyfryngau mawr ei barch y Sefydliad Materion Cymreig yn ei argymell heddiw, drwy’r broses benodiadau cyhoeddus arferol, gyda’r enwau’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo, a byddwn yn ychwanegu, yn amodol ar graffu cyn penodi gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd y Cynulliad.
Mae hon, fel y maent wedi dweud, yn sefyllfa anghynaliadwy. Fel y maent wedi dweud, mae’r BBC yn anghymesur o bwysig i Gymru. Maent yn cydnabod hynny, ond nid yw geiriau’n ddigon mwyach. Diolch.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl a noddwyd ar y cyd heddiw ar rôl y BBC yng Nghymru fel darlledwr, sydd â rôl unigryw yn adlewyrchu bywydau pobl Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg ar y teledu, y radio ac ar-lein. Rwy’n swnio ychydig fel jingl radio yn dweud hynny. Rwy’n cytuno i raddau helaeth â geiriau Bethan Jenkins a Lee Waters heddiw. Rwy’n falch iawn fod gennym bwyllgor wedi ei sefydlu yn arbennig ar gyfer darlledu ac rwyf wrth fy modd o fod wedi gweld hynny’n cael ei gytuno. Er nad wyf ar y pwyllgor, bydd gennyf ddiddordeb mawr yn ei waith.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y ffordd y mae gan y BBC, fel unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymru, rôl nid yn unig yn dod â chynulleidfaoedd ledled y DU at ei gilydd, ond yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru iddi ei hun ac i weddill y wlad. Ddoe, cyhoeddodd Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC ei adolygiad blynyddol, a oedd yn crynhoi’r heriau sy’n wynebu’r darlledwr. Ar y naill law, mae’r BBC yn gwneud cyfraniad sylweddol i gynhyrchiant rhwydwaith Cymru drwy raglenni fel ‘Doctor Who’, ‘Casualty’, ‘War and Peace’ a ‘Sherlock’ fel y crybwyllodd Bethan; pob un ohonynt yn rhaglenni sydd wedi ennill gwobrau a chredaf y dylem fod yn hynod falch ohonynt. Ond mae’n glir na ddylai cynyrchiadau rhwydwaith gymryd lle rhaglenni a wneir yn benodol ar gyfer gwylwyr yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun datganoli cynyddol, gwasg bapur newydd wan, sector radio masnachol gwan a llai o luosogrwydd barn yn gyffredinol.
O ystyried uchafiaeth y BBC yng Nghymru a’r toriad anghynaliadwy—rwy’n cytuno â Lee Waters—y toriad o 25 y cant yn y cyllid i raglenni Saesneg ar gyfer Cymru dros y degawd diwethaf y cyfeiriodd yr Arglwydd Hall ato o’r blaen fel y soniwyd, mae ganddo botensial i effeithio’n anghymesur, neu mae eisoes yn effeithio’n anghymesur ar Gymru o ystyried y diffyg lluosogrwydd o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU fel Llundain, sydd â nifer fawr o ffynonellau cyfryngau a rhaglenni newyddion a rhaglenni heb fod yn newyddion.
Roedd y cyngor cynulleidfa hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i’r BBC wneud mwy i adlewyrchu’r Gymru fodern a bywydau ei phobl yng nghyfnod nesaf y siarter. Rhaid iddo wneud mwy i fynd i’r afael â’r diffyg portread o’r Gymru gyfoes ar deledu rhwydwaith ac allbwn radio ac mewn rhaglenni teledu heb fod yn newyddion megis drama, a chomedi yn arbennig hefyd.
Rhaid cydnabod bod newyddiaduraeth y BBC wedi gwella’n sylweddol ers cyhoeddi adroddiad King, gan gydnabod bod gwahanol wledydd y DU a’r ffordd y mae rhaglenni heb fod yn newyddion wedi adlewyrchu pob rhan o’r DU wedi bod yn ddiffygiol weithiau yn fy marn i. Ond wrth wrando ar newyddion Radio 2 yr wythnos diwethaf, pan oeddwn yn y car, gallwn glywed adroddiadau ar lwyddiant pêl-droed Cymru, ac roedd y cyfan yn stori newyddion gadarnhaol iawn, ond câi ei wneud fel pe bai Cymru yn drydydd parti—roedd wedi ei eirio yn y ffordd honno. Roedd y gohebydd newyddion yn ei eirio yn y ffordd honno. Pe bai wedi bod fel arall, byddai wedi cael ei eirio’n wahanol iawn. Yn wir, mae ymrwymiad i olygydd comisiynu sy’n gyfrifol am ddrama deledu ym mhob gwlad, gydag amcanion o ran portreadu, yn gam cadarnhaol yn fy marn i tuag at sicrhau bod yr holl raglenni rhwydwaith yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol holl genhedloedd y DU yn gywir.
Mae’n galonogol fod y BBC wedi gwneud ymrwymiad clir i fabwysiadu’r argymhellion, gan gynnwys llais cryfach i Gymru ar y bwrdd unedol newydd, a thrwydded genedlaethol i Gymru, a fyddai’n ategu’r atebolrwydd dros y gwasanaethau a ddarperir ym mhob gwlad. Mae cynigion diweddar y gorfforaeth i wario cyfran fwy ar wasanaethau penodol i bob gwlad ac i wario mwy ar raglenni Saesneg yng Nghymru, i’w croesawu wrth gwrs, ond rwy’n cytuno’n llwyr â barn Lee Waters a Bethan Jenkins nad yw geiriau’n ddigon. Mae angen gweithredu, ac mae angen ymrwymiad ariannol pendant.
Nid yw’r ffi’r drwydded yn berffaith, ond mae’n well na dim arall a gynigiodd unrhyw un erioed, oherwydd mae’n gwbl hanfodol fod y BBC yn parhau i fod yn annibynnol oddi ar lywodraethau o bob math, gan mai un o’i swyddogaethau allweddol yw dwyn gwleidyddion a Llywodraeth i gyfrif, ac ni ellir ei lyffetheirio gan y syniad y gallai ffi’r drwydded gael ei thorri am fod y BBC yn mynd ati’n drylwyr i ddatgelu pethau sy’n anffafriol. Yn ddiweddar, gwelwyd risg sylweddol y gallai hynny ddigwydd.
Nid yw pwysigrwydd y BBC fel sefydliad yn ein bywyd cyhoeddus wedi ei bwysleisio’n ddigonol. Mae’r Athro Brian Cox, sydd wedi gwneud mwy i ddealltwriaeth boblogaidd o wyddoniaeth nag unrhyw un arall yn ddiweddar o bosibl, wedi disgrifio’r BBC fel sefydliad cyhoeddus yn gyntaf, a chwmni cyfryngau yn ail, a chytunaf yn llwyr â hynny. Mae’n rhaid i ni ddeall mai’r tair llythyren—BBC—yn ôl pob tebyg yw’r logo a adwaenir orau yn unrhyw le yn y byd, ac ni ddylem geisio dadwneud hynny. Efallai nad ydynt mor effeithiol am werthu brand Cymru ag yr oedd cyrraedd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth chwaraeon fawr, ond nid oes amheuaeth fod y ffordd y mae’r BBC yn cyflwyno Cymru i’r byd ehangach ac yn adlewyrchu’n ôl ar ein dealltwriaeth ein hunain o’n Cymreictod ein hunain yn eithriadol o bwysig.
Rwy’n anghytuno gyda Bethan Jenkins ar un mater, sef na allwn esbonio pleidlais i adael yr UE ar sail y ffaith fod yr holl bapurau newydd yn cael eu cyhoeddi yn Llundain, am fod Llundain, ar y cyfan, wedi pleidleisio dros aros, wrth gwrs. Rwy’n credu ei fod yn llawer mwy cymhleth na hynny, ond mae’n sicr yn wir fod y sylw a roddir i Gymru yn fach iawn ac yn eithriadol o wan am fod y rhan fwyaf o bapurau newydd—ac mae llai a llai o bobl yn darllen papurau newydd—yn cael eu cynhyrchu yn Llundain. Felly, dyna pam ei bod ddwywaith mor bwysig i ni gael elfen ddarlledu gref iawn yng Nghymru er mwyn galluogi pobl i ddeall y byd rydym yn byw ynddo a’r wleidyddiaeth y gweithredwn o’i mewn.
Yn y dyddiau cyn Deddf Darlledu 1990, rhaid i ni gofio bod gofyn i gwmnïau ITV hefyd sicrhau cynnwys rhanbarthol, ac roedd hynny’n helpu i gynnal y modd egnïol a thrylwyr yr âi’r BBC i’r afael â’i rwymedigaethau. Ers diflaniad y cwmnïau ITV rhanbarthol dan doriadau Mrs Thatcher, mae gennym ITV hollol wan yn rhanbarthol, ac mae wedi caniatáu i gynnwys radio a theledu’r BBC wywo yn ei sgil. Mae bron yn syndod eu bod yn llwyddo i wneud cymaint ag y maent yn ei wneud gyda’r ychydig sydd ganddynt, ond mae cael teledu a radio yn gwbl hanfodol i’r drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â’r hyn sy’n creu ein byd cyhoeddus, oherwydd gyda 25 y cant o’n poblogaeth yn anllythrennog yn ymarferol, dyna’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwybodaeth am y byd a’u dealltwriaeth ohono. Ac mae’n beryglus iawn pan fyddwn yn ymgyrchu ac yn gwrando ar bobl yn dweud wrthym, ‘Nid ydym yn pleidleisio Llafur rhagor oherwydd y toriadau rydych wedi eu gwneud i’r anabl.’ Mae’n mynd â’ch gwynt, ond dyna lefel y gamddealltwriaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y byd, a phwy sy’n gwneud penderfyniadau ar ran pobl, a aeth â ni i ble’r oeddem gyda’r refferendwm.
Darparodd y BBC wefan ardderchog i geisio dadelfennu honiadau a gwrth-honiadau timau’r ymgyrch dros adael yr UE a’r ymgyrch dros aros, ond rwy’n amau’n fawr a lwyddodd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ei chael yn anodd deall yr hyn roedd y refferendwm cymhleth hwn yn ymwneud ag ef i gyrraedd yno byth, a byddai wedi bod yn well o lawer pe baem wedi mynd i’r afael â rhywfaint o’r ysgogiadau croes i reswm a wnaeth i bobl bleidleisio dros adael, yn bennaf y bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd heb lawer iawn o fewnfudwyr, ac eto ysgogwyd pobl i bleidleisio dros adael ar y sail ei fod yn mynd i roi diwedd ar fewnfudo. Byddai yna ddigon o raglenni wedi gallu archwilio’r gwrthddywediad hwnnw, ac efallai y byddai wedi galluogi pobl i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a oedd yn y fantol.
Ond rwy’n credu bod rhaid i ni fynd yn ôl at y ffaith fod yn rhaid cadw rôl Reithaidd y BBC i hysbysu, addysgu a diddanu yn unedig, ac ni allwn adael i’r BBC gael ei ddarnio i wneud rhaglenni difrifol a pheidio â gwneud rhai poblogaidd. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol y dylai’r bwrdd newydd hwn, at ei gilydd, gael ei wneud drwy broses benodiadau cyhoeddus. Rwy’n deall y bydd angen i Lywodraeth benodi cadeirydd, ond mae angen i weddill y bwrdd, gan gynnwys cynrychiolydd Cymru, gael eu penodi drwy’r broses benodiadau cyhoeddus.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu i’r drafodaeth yma. Rwy’n codi fel cyn aelod o staff y BBC; mae gen i brofiad uniongyrchol helaeth o weithio i’r gorfforaeth yng Nghymru, ac rwy’n gwybod fod BBC Cymru ei hun, wrth gwrs, yn frwd iawn dros wneud rhaglenni i ac am Gymru, ond bach iawn ydy BBC Cymru o fewn cyfundrefn ehangach y BBC drwy Brydain. Mi glywn ni yn aml iawn y geiriau cywir yn cael eu siarad gan benaethiaid y BBC yn Llundain, ac mae’r un yn wir y tro yma efo’r addewid o arian ychwanegol ar gyfer rhaglenni Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru. Ond un peth ydy geiriau, wrth gwrs—peth arall ydy gweithredu, a pheth arall wedyn ydy gweld effaith wirioneddol y gweithredu yna.
Nid wyf yn amau y bydd y BBC yn cadw at yr addewid o roi rhagor o arian ar gyfer rhaglenni Saesneg yng Nghymru; nid ydym yn gwybod faint o arian sydd yna, wrth gwrs, ac mae’n rhaid cofio hefyd y bydd yr arian ychwanegol yna yn dod ar adeg pan fydd disgwyl i’r BBC drwyddo draw wneud arbedion sylweddol iawn, iawn. Felly, ni allwn ganiatáu i’r arian yma fod yn ddim mwy nag arian lliniarol pan, fel rydym wedi glywed yn barod, mae’r gyllideb rhaglenni Saesneg wedi disgyn o bron i chwarter yn barod dros y degawd diwethaf.
I wneud rhaglenni go iawn mae angen cyllidebau go iawn. Wrth gwrs bod yna arbedion y mae’n bosibl eu gwneud, ac mae’n werth llongyfarch S4C yn y fan hyn am lwyddo i wneud arbedion mor rhyfeddol mewn cyfnod anodd yn y blynyddoedd diwethaf; maen nhw wedi llwyddo i wneud rhaglenni rhagorol ar gyllidebau bach iawn. Rwy’n gwybod achos fy mod i wedi cyflwyno llawer ohonynt nhw, ac mae’n dda iawn gweld cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn ffigurau cynulleidfaoedd S4C yn ddiweddar ar draws platfformau gwahanol darlledu ym Mhrydain yn y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae llawer o’r llwyddiant yna o ran gwneud rhaglenni da yn rhatach wedi digwydd oherwydd ymrwymiad staff rhagorol i ddarlledu Cymraeg, ond hefyd i’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Ond allwn ni ddim parhau i ddisgwyl i’r ymrwymiad yna wneud i fyny am golledion mewn arian. Ni all y gwasgu fod yn ddiddiwedd, ac os ydym am gael rhaglenni efo cynnwys da, sy’n edrych yn dda, sydd â’r gallu i ddenu cynulleidfaoedd, mewn unrhyw iaith, mae angen buddsoddiad.
Mater arall ydy’r rhwystrau ymarferol hefyd, wrth gwrs. Wrth i gyllidebau ddirywio gostwng hefyd mae nifer y slots darlledu sydd wedi bod yng Nghymru ar gyfer rhaglenni neilltuol Cymreig. Felly, yn ogystal â’r arian i gynhyrchu’r rhaglenni mae angen y llwyfan i ddarlledu y rhaglenni hynny. Rwyf wedi sôn yma yn y Siambr yn y gorffennol am 2W a’r ffaith bod yna, bryd hynny, oriau brig helaeth iawn ar gael yn Saesneg yng Nghymru. Mae’r dyddiau yna wedi mynd ond mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill o allu llwyfannu rhaglenni Cymraeg yma.
Mater arall ydy’r pryder ynglŷn â newidiadau i brif fwrdd rheoli y BBC, sydd wedi cael ei grybwyll yn barod lle, fel y clywsom ni gan Lee Waters, mi oedd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynrychioli ar y brif haen o reolaeth. Mae o’n gam yn ôl bellach mai un cynrychiolydd sydd yna i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau. Mae o’n gwanhau llais Cymru ac rwy’n bryderus iawn am y goblygiadau. Mae o’n gwthio Cymru i’r ymylon, nid oes yna ddim amheuaeth am hynny.
Mae gan y BBC enw, yn anffodus, am fod yn gorff lle mae’r canol yn tra-arglwyddiaethu. Oes, mae yna lawer o ddrama yn cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd. Oes, mae yna dwf wedi bod ym mhresenoldeb y BBC ym Manceinion, ond nid dyna’r cyfan sydd yn bwysig. Mae angen i’r BBC ddatblygu agwedd llawer mwy datganoledig, yn parchu gwahaniaeth o fewn yr ynysoedd yma, yn parchu a grymuso y cenhedloedd. Y canol yn rhannu drama i Gaerdydd ddigwyddodd—hynny ydy rhywbeth economaidd sydd i’w groesawu, wrth reswm, ond mae angen rhywbeth mwy na hynny. Rwy’n chwilio am rywbeth mwy na hynny lle mae’r BBC yn ganolog yn grymuso BBC Cymru er mwyn ei alluogi i wasanaethu ei gynulleidfaoedd.
Rwyf yn dymuno’n dda i’r pwyllgor newydd sydd gennym ni â chyfathrebu rŵan yn ei deitl o. Mae ganddo waith pwysig iawn i’w wneud, ac anodd, mewn sefyllfa lle nad ydy darlledu wedi ei ddatganoli. Mae angen i ni yma—i gloi—drwy adlewyrchu barn y bobl sy’n ein hethol ni, fynnu bod y BBC yng Nghymru wir yn gallu cyrraedd ei botensial o fod yn wir ddarlledwr cenedlaethol Cymreig, achos ar hyn o bryd, er gwaethaf talent ac ymroddiad staff rhagorol, mae o’n disgyn yn fyr iawn o hynny.
Hoffwn gyfrannu’n fyr iawn at y ddadl gan Aelodau unigol heddiw, dadl sy’n cyflwyno nifer o faterion allweddol sy’n ymwneud â darlledu yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar un agwedd ar y cynnig fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
‘Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i’w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.’
Pan fyddwn yn sôn am adlewyrchu bywydau, dyheadau a heriau pobl Cymru, rhaid i hyn olygu holl bobl Cymru waeth ble rydym yn byw neu’n gweithio. Yn anffodus, dro ar ôl tro ar garreg y drws ac yn y gymuned yn Nelyn, mae pobl Delyn wedi mynegi pryderon fod allbwn newyddion ein darlledwr gwasanaeth cyhoeddus i’w weld yn canolbwyntio’n rhy aml ar ddigwyddiadau a phobl o fewn radiws cyfyngol ein prifddinas. Er fy mod yn cydnabod y gallai fod cyfyngiadau ar adnoddau, mae llawer o fy etholwyr yn gwbl briodol yn credu bod gan y BBC ddyletswydd ddemocrataidd nid yn unig i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol yn eu cynnyrch, ond gwell cydbwysedd daearyddol yn ogystal.
Ar nodyn cadarnhaol, fel y mae cyd-Aelodau wedi dweud, gallwn fod yn falch fod brand BBC Cymru yn allforio rhagoriaeth ledled y byd. O safbwynt gogledd Cymru, gwn ein bod wedi symud ymlaen ers y dyddiau pan allech gael BBC Cymru i fyny’r grisiau yn y tŷ lle y cefais fy magu a ‘BBC North West Tonight’ i lawr y grisiau. Y cyfleoedd a gafwyd gyda dyfodiad teledu digidol sydd gennym i’w ddiolch am hynny i raddau helaeth. Ond yn amlwg, mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau bod ein BBC yn cyrraedd ar draws ein gwlad, a’i fod yn adlewyrchu ein cenedl amrywiol ac yn berthnasol iddi hefyd.
Nid oes amheuaeth nad yw’r BBC yn destun parch mawr ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Yn ei adolygiad blynyddol olaf o allbwn BBC Cymru, dywedodd Cyngor Cynulleidfa Cymru fod tri o bob pump o bobl, sef 62 y cant, yng Nghymru, yn teimlo bod ffi’r drwydded deledu yn cynnig gwerth am arian, a byddai mwy na phedwar o bob pump o bobl yng Nghymru yn gweld eisiau’r BBC pe na bai yno.
Mae hynny’n 83 y cant. Felly, heddiw rwy’n codi i siarad yn y ddadl hon, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, o awydd a rennir i weld y BBC yn cyflawni ei botensial llawn yng Nghymru ddatganoledig, ôl-ddiwydiannol yr unfed ganrif ar hugain.
Heddiw, os ydych yn sefyll ar falconi Aelodau’r Cynulliad, fel y gwneuthum yn gynharach, bydd eich llygaid yn nodi ehangder stiwdios gwych BBC Cymru ym Mhorth Teigr. Mae’n ffatri creu breuddwydion Gymreig go iawn sy’n gartref i raglenni teledu hynod o boblogaidd ‘Casualty’, ‘Doctor Who’ a ‘Pobol y Cwm’, rhaglenni sy’n eiconig ac yn cael eu darlledu ar draws y DU, a’r byd yn wir.
Yng nghanol Caerdydd, yng nghysgod gorsaf Caerdydd Canolog a Stadiwm Principality, mae pencadlys newydd BBC Cymru yn araf godi. Mae’r rhain yn asedau gwirioneddol wych yr ydym ni yng Nghymru a’r BBC yn haeddiannol falch ohonynt. Ond ni allwn adael i hynny ein dallu at y diffygion amlwg sy’n peri gofid ac sy’n drawiadol ac yn amlwg, fel y disgrifiwyd.
Wrth i’r setliad datganoli yng Nghymru aeddfedu a datblygu gyda Bil Cymru—y cam diweddaraf yn y daith hir honno—gwelwn yma yn y sefydliad hwn effeithiau toriadau’r DU i gyllid y BBC yng Nghymru. Rhaid ffilmio cyflwyniad y rhaglen ‘am.pm’ er enghraifft, sy’n cynnwys trafodion yma yn y Siambr hon, yn stiwdios Llandaf, lle roeddent ar un adeg yn ffilmio ar bedwerydd llawr Tŷ Hywel. I mi, dyma dystiolaeth symbolaidd, er bod Aelodau’r Cynulliad wedi galw ar y BBC i gynrychioli Cymru’n well, fod ystyriaethau ariannol wedi arwain at grebachu mewn gwirionedd.
Ar un adeg roeddwn yn aelod o Gyngor Darlledu Prydeinig Cymru, felly gallaf ddweud yn ddiedifar fod y BBC yn fy ngwaed innau hefyd. Mae BBC Cymru gyda digon o adnoddau ac wedi’i gyfarparu’n dda yn allweddol ac yn hanfodol ar gyfer ein cenedl yn y blynyddoedd i ddod. Byddaf yn un o’i gefnogwyr mwyaf hefyd, ond yn yr un modd, nid yw hynny’n golygu y byddaf yn ofni bod yn ffrind beirniadol.
Yn ei rhagair i’r adroddiad dywedodd Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru a chadeirydd Cyngor Cynulleidfa Cymru, fod y neges gan gynulleidfaoedd Cymru yn glir iawn o ran eu bod am i’r BBC wneud mwy i adlewyrchu’r Gymru fodern a bywydau ei phobl. Dywedodd:
‘Wrth i ni gyrraedd diwedd Siarter bresennol y BBC, ac edrych ymlaen at y BBC dros y ddegawd nesaf, mae hon yn her y mae’n rhaid i’r BBC fynd i’r afael â hi.’
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod—ac ailadroddaf ymadrodd y mae fy nghyd-Aelod Lee Waters eisoes wedi ei ddefnyddio—
‘Prinder portread o Gymru yng nghynnyrch teledu a Radio rhwydwaith’.
Soniaf hefyd am ffrind arbennig i mi, Max Boyce, un o bobl ddoniau creadigol mwyaf ein gwlad, ac roedd yn dda gweld mai ‘Max’s World Cup Warm-Up’, yng nghwmni’r diddanwr Cymreig ei hun, oedd y gyfres deledu Saesneg fwyaf poblogaidd ar BBC Cymru, gan ddenu 322,000 o wylwyr. Ond profiad cyntaf Max Boyce o enwogrwydd oedd ar ‘Opportunity Knocks’ y BBC yn y 1970au cynnar. Bedwar deg pump o flynyddoedd yn ddiweddarach, pa gyfleoedd sy’n curo ar y drws i’n dynion a’n menywod yng Nghymru? Pa lwyfan y mae’r BBC yn ei gynnig iddynt hwy i ddarlunio’r Gymru gyfoes fodern?
Un o fy hoff ganeuon eiconig gan Max Boyce yw’r un â’r teitl ‘Rhondda Grey’ ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn gwybod ei bod yn sôn am orffennol diwydiannol; cartref yn y cwm llwyd a arferai fod yn gymuned lofaol; bachgen a ddaeth adref i chwarae gyda phaent a phensiliau lliw a’i waith cartref ar gyfer y diwrnod, ‘We’ve got to paint the valley, mam, for Mrs Davies Art. What colour is the valley, mam, and will you help me start?’ Felly, heddiw, nid yw Cymru’n cael ei phortreadu’n ddigonol. Pa gynfas y mae’r BBC yn ei roi i’n holl gymunedau ar gyfer paentio lliw datganoli ôl-ddiwydiannol modern yng Nghymru?
Roedd fy rhagflaenydd a fy nghyfaill, Gwyn Price, y cyn-Aelod Cynulliad dros Islwyn, yn falch o wasanaethu ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac rwyf wrth fy modd fy mod bellach ar y pwyllgor hwnnw hefyd. Bydd ein Cadeirydd, John Griffiths yn falch o wybod fy mod i hefyd wedi bod yn gwneud gwaith darllen. Mae ymchwiliad y pwyllgor i’r adolygiad o siarter y BBC yn waith darllen angenrheidiol a chwblhaodd ei waith ym mis Mawrth eleni a gwneud cyfres o argymhellion y cyfeiriwyd atynt eisoes, felly cyfeiriaf yn uniongyrchol at argymhelliad 6, lle roedd y pwyllgor yn cefnogi’r alwad gyson gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod yn rhaid i’r BBC fynd i’r afael â bwlch cyllid yng Nghymru. Dywedodd:
‘Rydym yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru y dylai’r BBC fuddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer Cymru. Rydym yn credu bod y buddsoddiad hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cynnwys o safon i Gymru yn dal i gael ei wneud’.
Dywedodd hefyd yn ei lythyr at gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, y llynedd:
Byddai hyn yn caniatáu i gynulleidfaoedd yng Nghymru gael gorsaf deledu genedlaethol gredadwy a allai ddarparu cynnwys o safon yn Saesneg, gan gynnwys drama, comedi a rhwydweithio cyfraniadau hefyd o bosibl.
Felly, i etholaeth drefol yn y cymoedd, fel fy un i yn Islwyn, mae’n hanfodol fod y gymuned Gymreig sy’n siarad Saesneg yn cael eu bywydau wedi eu hadlewyrchu ar y sgrin ar eu cyfer hwy eu hunain ac o bosibl, ar gyfer cynulleidfa yn y DU gyfan. Mae gennym y sgiliau i wneud hyn. Rydym yn ymfalchïo yn y lle hwn ein bod yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru, felly mae’n ddyletswydd arnom hefyd i sicrhau bod ein cynnyrch teledu a radio hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfartal y ddwy brif famiaith yng Nghymru. Fel y dywedwyd, mae’r amser ar gyfer geiriau caredig wedi pasio ers amser hir. Fel y mae’r pwyllgor hwn wedi argymell hefyd, mae’n bryd i’r BBC ddatblygu targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith. Nawr yw’r amser i ddatganoli comisiynu, fel y dywedwyd, er mwyn sicrhau bod comisiynwyr rhwydwaith ar gyfer y gwledydd wedi eu lleoli yn y gwledydd hynny. A nawr yw’r amser i’r BBC adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad hwn ar ei gynnyrch a’i weithrediadau sy’n berthnasol i Gymru.
Yn olaf, mae gwefan BBC Cymru yn cyhoeddi’n falch fod y BBC wedi darparu drych ar gymdeithas yng Nghymru ar radio, teledu ac ar amrywiaeth o lwyfannau digidol. Felly, gadewch i ni sicrhau gyda’n gilydd fod y drych hwn yn darparu adlewyrchiad cywir, ei fod yn disgleirio ac ar gael i bob un o’n cymunedau sy’n ffurfio tapestri hyfryd bywyd yng Nghymru. Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig hwn. Diolch.
Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynnig hwn ac i siarad yn y ddadl bwysig hon, oherwydd credaf fod y BBC yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein gwlad, ac mae’n gwbl hanfodol fod y BBC yn cyfathrebu â’r cyhoedd ac yn rhoi’r holl wybodaeth a’r materion sy’n codi ynglŷn â pholisïau a datblygiadau yma yn y Cynulliad. Mae gan deledu a radio rôl bwysig iawn i’w chwarae yn hynny. Gyda’r Cynulliad bellach yn ei bumed tymor, rwy’n dal i gael cwestiynau ar garreg y drws—’O, a ydych chi’n delio ag iechyd, ac onid yw’n ofnadwy ynglŷn â streic y meddygon iau? Beth ydych chi’n ei wneud am y peth?’—gan ddangos yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud: nad oes gwybodaeth ymysg y cyhoedd am yr hyn sy’n digwydd go iawn yng Nghymru a’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl bod gan y BBC, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ddyletswydd i ehangu ei gyrhaeddiad i’r 40 y cant o bobl, rwy’n credu, sy’n gwylio rhaglenni lle na cheir newyddion Cymreig neu gyd-destun Cymreig. Gwelaf hynny fel un o’r prif amcanion y dylai’r BBC eu cael, ac yn sicr, rydym wedi cael ymrwymiad i hynny, ond rydym am ei weld yn digwydd.
Rwyf hefyd yn credu bod hyn wedi cael effaith yn refferendwm yr UE: fod y bobl hynny, y 40 y cant o’r cyhoedd yng Nghymru sy’n gwylio rhaglenni heb unrhyw gyd-destun Cymreig, heb gael gwybodaeth ynglŷn â sut y mae’r UE wedi bod o fudd arbennig i Gymru. Rwy’n credu bod hynny yn cael effaith.
Y pwyntiau eraill roeddwn eisiau eu gwneud—rwy’n credu mai Bethan Jenkins a wnaeth y pwynt pwysig am y bartneriaeth rhwng S4C a’r BBC, ac a ddylai S4C fod â rhan yn y siarter, ac rwy’n meddwl ei bod hi wedi gofyn i’r Gweinidog ymateb i hynny. Rwyf am ddefnyddio’r cyfle yn y ddadl hon i roi teyrnged, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth, i ymrwymiad staff S4C i ddarlledu Cymraeg, ond hefyd i fynegi fy siom fod S4C yn mynd i fod yn gadael ei safle yn Llanisien cyn hir, lle rwyf wedi cael cysylltiad â hwy ers blynyddoedd lawer, a symud allan o Gaerdydd. Rwy’n gresynu’n fawr iawn at hynny, ond wrth gwrs, bydd rhai o staff S4C yn symud i adeilad newydd y BBC lle bydd darlledu ar y cyd. Felly, bydd hynny, mewn gwirionedd, yn arbed llawer o arian, ond rwy’n gresynu eu bod yn symud.
Y pwynt arall roeddwn am ei wneud oedd—rwy’n gwybod bod Jenny Rathbone wedi sôn am y broses benodiadau cyhoeddus. Wel, hoffwn ddweud hyn: pam na ddylai’r cadeirydd gael ei benodi drwy broses benodiadau cyhoeddus? Oherwydd os yw cadeirydd yn cael ei benodi gan y Llywodraeth—a oes modd i’r cadeirydd hwnnw fod yn gwbl annibynnol byth? Rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y dylem edrych arno.
Yn olaf, roeddwn yn awyddus i siarad am gyd-destun cyfryngau gwan Cymru yn gyffredinol, y soniodd y rhan fwyaf o’r siaradwyr amdanynt, a phwysigrwydd y ffaith nad yw’r BBC, darlledwyr eraill a’r cyfryngau print, fel y mae pethau, yn darparu lluosogrwydd yn eu sylw i Gymru. Os edrychwch ar y cyfryngau print, wedi eu dominyddu gan Trinity Mirror, maent wedi cael eu hanrheithio yn sgil colli swyddi sy’n mynd yn ôl dros fwy na degawd. Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod mae’n debyg fod Media Wales wedi symud i mewn i’w adeilad newydd, bron i 10 mlynedd yn ôl rwy’n credu—rwy’n siŵr fod llawer ohonom wedi bod i mewn yno—ac roedd yn defnyddio pum llawr o’r adeilad chwe llawr hwnnw, ac mae bellach ar un llawr yn unig, sy’n dangos y gostyngiad yn nifer y newyddiadurwyr sy’n gweithio ar bapur newydd cenedlaethol Cymru ac ar y ‘South Wales Echo’. Wrth gwrs, mae swyddfeydd lleol yr ‘Echo’ a’r ‘Western Mail’ yng Nghastell-nedd, Glyn Ebwy, Merthyr Tudful a Phontypridd hefyd wedi cau, felly nid yw’r papurau newydd yn agos at eu cymunedau fel y maent wedi bod yn y gorffennol.
Felly, credaf fod hynny’n destun gofid mawr, a gwyddom gyn lleied o newyddiadurwyr sydd yma mewn gwirionedd i adrodd ar yr hyn sy’n digwydd yma yn y Senedd a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws Cymru. Ceir cyn lleied ohonynt ar gyfer gwneud gwaith go iawn o graffu ar yr hyn a wnawn yma. A ydym wir yn teimlo fod newyddiadurwyr yn ein dwyn i gyfrif mewn gwirionedd? Nid wyf yn credu bod y cryfder yno yn yr holl gyfryngau. Wrth gwrs, rydym wedi nodi yma yn y Siambr y ffaith fod y ‘Daily Post’ yng ngogledd Cymru yn colli ei ohebydd yn y Senedd. Rwy’n tybio mai mater o amser yw hi cyn i ‘Wales Online’ a’r ‘Western Mail’ wneud yr un peth. Felly, wyddoch chi, rwy’n credu ei fod yn ddarlun eithaf difrifol o ran y cyfryngau yng Nghymru. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y BBC yn gwneud yr hyn y mae’n ei ddweud a’r hyn yw ei fwriad, ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn cynyddu’r swm o arian a’r ymdrech y mae’n ei wneud mewn perthynas â Chymru.
Rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n credu ein bod wedi mwynhau dadl gyfoethog iawn y prynhawn yma, gan drafod nid yn unig y BBC ei hun, ond hefyd y cyfraniad y mae’n ei wneud i fywyd cyhoeddus a’i gyfraniad at ddiwylliant Cymru a’r Deyrnas Unedig. Dylwn ddechrau fy sylwadau drwy groesawu Bethan i’w rôl fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych yn sicr yn llwyddo lle y methais i. Rwy’n cefnogi’n fawr iawn—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Rwyf am orffen y frawddeg. Rwy’n croesawu’n fawr y newyddion fod y Cynulliad yn mynd i greu pwyllgor—pwyllgor parhaol ar yr achlysur hwn—a fydd yn edrych ar y materion hyn. Rwy’n credu ei fod yn beth amserol iawn i’w wneud, ac rwy’n credu y daw’n bwysig iawn yn fuan, ac yn bwyllgor a fydd yn siarad ag awdurdod, nid yn unig ar ran y lle hwn ond ar ran pobl Cymru yn ogystal. Rwy’n meddwl bod y llais a glywsom y prynhawn yma o bob ochr i’r Siambr—ac mae’n dda gweld cefnogaeth unfrydol i’r materion hyn ar bob ochr i’r Siambr—yn cael ei glywed yn gryfach o ganlyniad i’r Cynulliad ei hun yn cael y gallu i wneud y penderfyniadau hyn. Felly, mae’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn ei groesawu’n fawr iawn, a hefyd y ffordd feddylgar y mae’r Aelodau wedi strwythuro eu cyfraniadau.
A gaf fi dweud, yn anad dim, ei bod hi’n bwysig fod y BBC yn cydnabod, os yw am gyflawni addewidion y mae’n eu gwneud—ac rwy’n meddwl bod Lee Waters wedi egluro nifer o addewidion a glywais i ac eraill dros nifer o flynyddoedd—mae’n rhaid iddo gael strwythur a fydd yn cyflawni’r addewidion hynny? Mae hynny’n golygu strwythurau rheoli, llywodraethu ac atebolrwydd sy’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed. Rwy’n rhannu pryderon yr Aelodau am y newidiadau strwythurol diweddar i fwrdd rheoli’r BBC—y bwrdd gweithredol—ac rwy’n edrych ymlaen at weld y BBC yn egluro sut y bydd yn cryfhau llais Cymru, sut y bydd hwnnw’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed pan fydd yr holl benderfyniadau yn cael eu gwneud, a sut y bydd hwnnw’n sicrhau bod Cymru yn rhan o’r holl benderfyniadau a wneir gan fwrdd gweithredol y BBC. Byddaf yn disgwyl i’r BBC, wrth roi’r esboniad hwn i ni, sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed bob amser lle bynnag y gwneir y penderfyniadau hyn.
Mae’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud gan wahanol Aelodau ar adegau gwahanol i gyd yn ymwneud â diwylliant o fewn y BBC—a chredaf fod Rhun ap Iorwerth wedi esbonio hyn yn dda—lle y ceir rhagfarn fetropolitanaidd o ran penderfyniadau rheoli ac o ran y meddwl a’r diwylliant sy’n sail i’r penderfyniadau hynny, sydd wedi gwreiddio, nid yn anghenion y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ond ym meddyliau cyfforddus a rhagfarnau, weithiau, y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hynny. Mae hynny’n rhywbeth sydd angen ei herio. Gallaf sicrhau’r holl Aelodau nad proses adnewyddu’r siarter yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan ynddi; mae hefyd yn ceisio sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny.
Rwyf am ymateb i’r ddadl y prynhawn yma drwy edrych ar rai o’r materion y mae Aelodau wedi’u crybwyll. Gadewch i mi yn gyntaf oll ddechrau gyda’r cyllid a’r adnoddau. Mae’n hollol gywir ein bod wedi gweld buddsoddiad y BBC yng Nghymru yn lleihau ar adeg pan fo’i fuddsoddiad yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr allweddol wedi cynyddu. Mae hyn yn annerbyniol, ac mae’n annerbyniol, nid yn unig fod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud, mae’n annerbyniol fod y strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd wedi galluogi a chaniatáu i’r penderfyniadau hynny gael eu gwneud, a’r hyn rydym ei angen yn y dyfodol yw strwythurau atebolrwydd na fydd yn caniatáu i’r sefyllfa hon ddigwydd eto. Mae’n glir iawn fod angen i’r BBC fuddsoddi cyllid ychwanegol yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer Cymru, a chytunaf yn llwyr â’r pwyntiau a wnaeth Lee Waters. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn derbyn llythyrau pellach neu glywed areithiau pellach heb ymrwymiad i adnoddau ychwanegol i ddarparu’r gwasanaethau y mae’r BBC eu hunain wedi dweud bod Cymru eu hangen ac yn eu haeddu, ac edrychaf ymlaen at glywed cynigion y BBC ar hynny.
A phan siaradwn am adnoddau a chyllid, rydym yn sôn am adnoddau net a chyllid net. Nid oes gennym ddiddordeb mewn rhoi adnoddau ag un llaw, a chael gwybod ein bod yn mynd i gael yr arian ychwanegol hwn i wneud rhaglenni ychwanegol, i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, a chael gwybod wedyn ar y llaw arall fod arbedion effeithlonrwydd yn golygu na fydd hanner yr adnoddau hynny’n cyrraedd y BBC yng Nghymru mewn gwirionedd. Felly, rydym yn chwilio am ymrwymiad go iawn, ac nid ymrwymiad sy’n gwneud y tro mewn datganiad i’r wasg, a byddwn yn sicrhau bod hynny’n digwydd. Ac ar yr un pryd, rydym wedi clywed droeon fod yr Arglwydd Hall wedi gwneud ymrwymiadau i wella’r modd y mae BBC Cymru yn portreadu Cymru ar deledu rhwydwaith ac i sicrhau bod gennym raglenni’n cael eu gwneud yma yng Nghymru fel y byddem yn ei ragweld ac yn ei ddisgwyl.
Gadewch i mi ddweud hyn hefyd: gwyddom fod newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffordd y mae’r BBC yn strwythuro stiwdios ac is-adrannau gwneud rhaglenni. Materion y mae’n gywir ac yn briodol i’r BBC ymdrin â hwy yw’r rheini. Fodd bynnag, mae’n iawn ac yn briodol ein bod hefyd yn dwyn y BBC i gyfrif wrth sicrhau nad yw hynny’n arwain at wneud llai o raglenni ar gyfer y rhwydwaith o Gymru ac nad yw’n arwain at leihau cyfleusterau stiwdio yng Nghymru. Mater i reolwyr y BBC yw sut y maent yn strwythuro a sut y maent yn rheoli’r sefydliad, ac mae’n iawn ac yn briodol i’r rheolwyr gael yr awdurdod i wneud hynny, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod strwythurau’r BBC yn sicrhau bod ei ymrwymiadau yn cael eu cyflawni ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Ac wrth wneud hynny, cyfeiriaf eto at sylwadau Rhun ap Iorwerth am lefelau’r awdurdod a ddarperir i gyfarwyddwr BBC Cymru. Mae’n gwbl hanfodol fod gan gyfarwyddwr BBC Cymru y lefelau o bŵer a chyfrifoldeb ar gyfer darparu gwasanaeth cydlynol ar draws yr holl wahanol wasanaethau sydd ar gael gan y BBC yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu lefelau awdurdod dros holl amserlennu a chynhyrchu a chomisiynu rhaglenni. Mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddaf i a llawer o bobl eraill rwy’n credu, yn chwilio amdano.
O ran atebolrwydd, cytunaf â’r hyn sydd wedi’i ddweud gan yr Aelodau y prynhawn yma, y dylai atebolrwydd y BBC orffwys yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ac nid yn y Llywodraeth yn unig. Rwy’n hen ffasiwn, weithiau, ac rwy’n credu bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn wahanol i ddarlledwr y wladwriaeth ac y dylai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fod yn atebol i’r lle hwn, i’r corff seneddol, ac nid yn syml i’r Llywodraeth ac i Weinidog. Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywedodd Julie Morgan ynglŷn â phenodi aelodau bwrdd unedol y BBC, a byddwn yn sicr am weld hynny’n cael ei gymeradwyo mewn rhyw ffordd neu ei wneud drwy broses gyhoeddus drwy’r lle hwn, ac nid yn syml drwy’r Llywodraeth a phenderfyniadau a wneir gan Weinidogion.
Mewn perthynas ag i ble yr awn o’r fan hon—ac rwy’n ymwybodol fod amser yn symud ymlaen, Lywydd—cyfarfûm â Rhodri Talfan Davies ddoe i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran ailstrwythuro’r BBC ac adnewyddu’r siarter. Hefyd cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr S4C yr wythnos diwethaf i drafod y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r siarter a’r adolygiad sydd ar y gweill o S4C, sydd i ddod yn 2017. Gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn yn parhau i ymgysylltu’n llawn â phob un o’r prosesau hyn.
Mae fy swyddogion wedi parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a gweinyddiaethau datganoledig eraill i drafod adolygiad y siarter, a bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau dros yr haf. Gallaf ddweud bod yna gynnydd cadarnhaol wedi bod ar nifer o faterion, ond rydym yn dal i fod yn ymwybodol fod yna bwyntiau i’w datrys. Rwy’n gobeithio cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yr wythnos nesaf i drafod darlledu. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach gyda thrawsgrifiad o’r datganiad llafar a wneuthum yma rai wythnosau yn ôl a chyfraniadau dilynol yr Aelodau. Rwyf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y cytundeb trawsbleidiol yn y Cynulliad ar y rhan fwyaf o faterion darlledu, a gallaf sicrhau’r Aelodau, yn fy nghyfarfod yr wythnos nesaf, byddaf hefyd yn ystyried y pwyntiau a nododd yr Aelodau yma heddiw.
O ystyried digwyddiadau yn San Steffan ar hyn o bryd, rydym yn ansicr a fydd Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â chyhoeddi siarter ddrafft cyn toriad yr haf, ond hyd yn oed os nad yw, byddem yn disgwyl bod siarter ddrafft yn cael ei chyhoeddi’n gyflym iawn ar ôl i’r Senedd ddychwelyd yn yr hydref. Byddaf yn ceisio trefnu dadl yma yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Medi i roi cyfle i’r holl Aelodau gael trafodaeth fanylach ar gynnwys y siarter ddrafft. Rwy’n gobeithio y gallaf dawelu meddyliau’r Aelodau y byddaf yn parhau i ymwneud yn llawn â’r materion hyn, a hynny o ran y dadleuon a’r trafodaethau gyda’r BBC ei hun, a hefyd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon er mwyn sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed ar bob adeg.
Edrychaf ymlaen at waith y pwyllgor sy’n cael ei sefydlu yma. Edrychaf ymlaen at waith y pwyllgor yn siarad ar ran y Cynulliad Cenedlaethol ac yn siarad dros Gymru. Gobeithiaf y bydd y consensws sydd gennym yn y Siambr heddiw ar yr holl faterion hyn yn un a fydd yn aros gyda ni wrth i ni fynd drwy’r cyfnod hwn o adnewyddu’r siarter. Diolch yn fawr iawn.
Rwy’n galw ar Jeremy Miles i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i gloi’r ddadl gyfoethog a phwysig hon, fel y dywedodd y Gweinidog. Rhan o’r rheswm pam y mae mor bwysig, fel yr amlinellodd Bethan Jenkins yn ei sylwadau agoriadol, yw’r gwerth a roddwn ar y BBC fel ased, ased cenedlaethol, i ni yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn gyffredinol. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at gryfder brand y BBC, a chredaf fod hynny’n dod gyda set o werthoedd y byddem i gyd yn dymuno eu cymeradwyo yma yn y Siambr hon rwy’n siŵr.
Rwy’n falch o fod yn aelod o’r pwyllgor a gallaf gadarnhau fod Bethan Jenkins wedi ei gadeirio mewn ffordd anunbeniaethol iawn, fel y dywedoch, hyd yn hyn. Felly, edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach yn rhan o’r pwyllgor hwnnw.
Mae’r ddadl yn mynd i galon ein hymdeimlad ohonom ein hunain fel cenedl a sut y gwelwn ein hunain wedi ei adlewyrchu yn ôl arnom yn y cyfryngau. Dyna reswm arall pam y mae mor bwysig. Hefyd, ceir mater effaith economaidd y BBC yng Nghymru. Siaradodd Rhianon Passmore am y buddsoddiadau eiddo yng Nghymru, sy’n sylweddol, a siaradodd Russell George am raddfa cynhyrchu ar gyfer y rhwydwaith yng Nghymru, ond nid yw’r un o’r rhain yn ateb yr her rydym yn ceisio mynd i’r afael â hi yn y ddadl hon heddiw. Yr her honno yw’r cwestiwn o fuddsoddi mewn rhaglenni sy’n adlewyrchu Cymru yn ôl arnom.
Siaradodd Rhianon am y diffyg o £30 miliwn y flwyddyn y mae’r Prif Weinidog wedi ei nodi, ac o ran maint, mae’n werth cofio bod bwrdd gweithredol y BBC yn 2013 wedi diystyru costau prosiect yr oedd yn cydnabod ei fod wedi gwastraffu £98 miliwn dros gyfnod o dair blynedd, sydd, yn daclus iawn, yn cyfateb yn fras i’r hyn y gallai rhaglenni Saesneg yng Nghymru wneud defnydd ohono a dweud y gwir. Fel y nododd Lee Waters, mae hynny o ganlyniad i dorri chwarter y gyllideb yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Siaradodd Lee, Bethan a llawer o siaradwyr am yr hyn sy’n fwlch gwirioneddol ddiflas rhwng yr iaith y mae’r BBC yn barod i’w addef ar hyn a realiti’r bwlch yn y cyllid. Ac rwy’n ategu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â pheidio â bod eisiau derbyn rhagor o lythyrau sy’n cydnabod maint y bwlch heb awgrymu ateb iddo.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen cyllidebau go iawn arnoch i wneud rhaglenni go iawn, sy’n mynd â ni o ddifrif at gwestiwn y cymysgedd genres, sy’n dioddef o ganlyniad i’r diffyg buddsoddiad hwn. Mae newyddion yn dda ac yn boblogaidd, ond hefyd rydym angen rhaglenni drama, comedi, adloniant a diwylliant, nad yw’r setliad presennol yn caniatáu digon ohonynt fel y dywedodd Lee. Siaradodd Jenny Rathbone am werthoedd Reithaidd rhaglenni dogfen sy’n benodol i Gymru, a fy ffefryn o’r holl sylwadau yn y maes hwn oedd cyfeiriad Rhianon Passmore at un o fy etholwyr, Max Boyce. Rwy’n siŵr y bydd wedi ei blesio’n fawr wrth glywed y sylwadau hynny.
Daw hyn â ni yn ôl at gwestiwn, nid yn unig amrywiaeth a gwerth am arian, ond cynrychiolaeth a phwyntiau cyfeirio at ddiwylliant Cymru a sut y caiff ein persbectif ei gynrychioli, rwy’n tybio, ar y teledu. Siaradodd Russell George am bwysigrwydd sicrhau bod teledu’n adlewyrchu amrywiaeth y Gymru fodern. Soniodd nifer o’r siaradwyr am y pryder fod y BBC yn encilio rhag y rôl i’n cynrychioli, nid yn unig i ni ein hunain, ond i’r byd, y tu hwnt i’r DU, sy’n agwedd bwysig iawn o’r ddadl hon.
Rhoddodd Julie Morgan ac eraill hyn yng nghyd-destun y cyfryngau print cyfyngedig sydd gennym yng Nghymru, ac mae hynny’n tanlinellu pwysigrwydd gwasanaeth rhaglennu Saesneg ffyniannus wedi ei ariannu’n dda. Cwestiwn daearyddiaeth a chynrychiolaeth ddaearyddol: siaradodd Hannah Blythyn am y profiad ar garreg y drws yn Nelyn a phryderon pobl fod y sylw wedi gogwyddo’n ormodol tuag at Gaerdydd. I’r rhai ohonom sy’n byw y tu allan i Gaerdydd, mae hwnnw’n sylw cyfarwydd. Fe gyfeirioch at y ddyletswydd ddemocrataidd i sicrhau cydbwysedd daearyddol yn ogystal â chydbwysedd gwleidyddol. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn y Siambr hon yn anghytuno â hynny.
Canolbwyntiodd llawer o siaradwyr ar gwestiwn atebolrwydd a llywodraethu, sydd wrth wraidd y ddadl hon. Ychydig iawn sydd gan Bapur Gwyn y Llywodraeth i’w ddweud mewn gwirionedd, fel y nododd y Gweinidog, am atebolrwydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Soniodd llawer o siaradwyr am gyfraniad y Sefydliad Materion Cymreig heddiw gan fynd i’r afael â’r pwynt hwnnw’n benodol.
Mae mwy nag un siaradwr wedi gresynu at y ffaith nad yw’r tîm gweithredol bellach yn cynnwys cyfarwyddwyr y cenhedloedd unigol, a galwodd Bethan Jenkins a Lee Waters yn arbennig am lais cryf i Gymru ar fwrdd y BBC, wedi ei benodi’n annibynnol ar y Llywodraeth.
Mae’r cwestiwn ynglŷn â’n rôl yma fel Cynulliad wedi cael ei amlygu gan lawer o siaradwyr a siaradodd Bethan Jenkins am y gobaith ac yn wir, rwy’n meddwl, y disgwyliad y byddai’r pwyllgor yn cael cyfle i graffu a holi swyddogion gweithredol BBC, mae’n siŵr, mewn perthynas â rhai o’r ymrwymiadau sydd wedi’u gwneud. Rwy'n croesawu hefyd eich cyfeiriad at gwestiwn annibynniaeth S4C a bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y siarter hefyd.
Rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder â’r ystod o gyfraniadau a wnaed heddiw. I orffen, mae’r nifer sy’n gwylio BBC One yn arbennig yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU, ac mae cyfran uwch o bobl yn gwylio’r bwletin newyddion min nos yn arbennig yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Felly, ‘mae Cymru wrth ei bodd gyda’r BBC’ yw’r neges rwy’n ei chael o hynny. Nid yw’n ymddangos yn iawn felly mai’r hyn a geir yn ymateb i’r hoffter hwnnw yw gwasanaeth sydd, fel y mae’r BBC ei hun yn cyfaddef, wedi ei danariannu yn anghynaladwy ac yng ngeiriau Cyngor Cynulleidfa Cymru, wedi dod â BBC Cymru i ymyl y dibyn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.