6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Deithio Llesol

– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:52, 20 Medi 2016

Rŷm ni’n symud i’r eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaeth Cymdeithasol ar deithio llesol. Rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Mae gwella lles pobl yng Nghymru a’u galluogi i fod yn fwy egnïol yn ymrwymiad maniffesto allweddol i ni. Mae cerdded a beicio yn arbennig yn cynnig llu o fanteision i unigolion, i gymdeithas ac i'r blaned.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Cynulliad blaenorol, wedi sefydlu fframwaith newydd a fydd yn sicrhau y gallwn wireddu'r manteision hyn. Rydym yn dechrau ar sylfaen isel. Y llynedd, dim ond 6 y cant o oedolion yng Nghymru oedd yn teithio ar feic unwaith yr wythnos neu fwy a 63 y cant yn cerdded. Mae hyn yn golygu nad yw traean yr oedolion yng Nghymru yn gwneud unrhyw deithiau cerdded neu feicio mewn wythnos arferol. Yn yr un modd, dim ond 49 y cant o blant oedran ysgol gynradd sy’n cerdded i'r ysgol fel arfer a dim ond 2 y cant sy’n beicio, a cheir ffigurau hyd yn oed yn is ar gyfer plant ysgol uwchradd.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn amcangyfrif bod anweithgarwch corfforol yn costio £51 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Rydym am helpu pobl ledled Cymru i gynyddu eu gweithgarwch corfforol trwy ddarparu ffordd o wneud cerdded a beicio pellteroedd byr yn rhywbeth arferol. Bydd hyn yn helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol ein cenedl, arbed arian i bobl a busnesau, gwella ansawdd yr aer, lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon, ac yn gwella ein cefnogaeth o siopau a busnesau lleol.

Elfen allweddol o hyn yw ein deddfwriaeth arloesol, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a weithredwyd yn gyntaf bron dwy flynedd yn ôl. Ers hynny, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â cherdded a beicio yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym ein safonau dylunio cenedlaethol, sy'n nodi'n glir yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o’r seilwaith cerdded a beicio. Rydym yn disgwyl gallu defnyddio’r seilwaith yn ddiogel ac yn gyfforddus, a diwallu anghenion defnyddwyr yn wirioneddol. Bydd y safonau hyn yn helpu i drawsnewid llwybrau ar draws Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Rydym wedi cynnal arolwg cynhwysfawr o’r seilwaith cerdded a beicio presennol yng Nghymru, a gwblhawyd yn ystod gwanwyn 2015. Ar y sail hon, roedd awdurdodau lleol yn gallu archwilio a nodi’r llwybrau presennol yn eu trefi, yr ymgynghorwyd arnynt a’u cyflwyno i ni, ar eu mapiau o lwybrau presennol eleni. Mae awdurdodau lleol bellach wedi dechrau gweithio ar y cam nesaf, lle rydym yn bwriadu ystyried yr hyn yr ydym yn dymuno ei gael ar gyfer y dyfodol, yn hytrach nag edrych ar yr hyn sydd gennym yn barod. Bydd hyn yn arwain at gyflwyno'r set gyntaf o fapiau rhwydwaith integredig ar gyfer 142 o leoedd yng Nghymru fis Medi nesaf. Mae'n hollbwysig bod y broses o gynllunio’r rhwydweithiau hyn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n well â chynifer o ddefnyddwyr cyfredol a newydd â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod eu barn a'u gwybodaeth yn helpu i gysylltu’n effeithiol y mannau cychwyn a’r cyrchfannau y mae angen i bobl deithio rhyngddynt.

Mae annog pobl i gerdded a beicio wrth deithio bob dydd yn gofyn am fwy na seilwaith da, er mor bwysig yw hynny. Mae angen i ni newid agwedd pobl tuag at gerdded a beicio, a chefnogi datblygiad diwylliant teithio llesol newydd yng Nghymru. Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer teithio llesol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, yn nodi'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r newid hwn. Mae'n ategu'r gwaith ehangach ar gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru dan y cynllun 'Cael Cymru i Symud', a fydd yn llywio ein strategaeth byw’n iach a gweithgar, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys ein rhaglen Teithiau Llesol proffil uchel, sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo ac ymgysylltu teithio llesol mewn llawer o ysgolion ar draws Cymru. Yn ei blwyddyn gyntaf, mae 230 o ysgolion i gyd wedi elwa ar y rhaglen newydd. Mae hyn yn amrywio o wneud gwaith mwy dwys gydag ysgolion, gan gynnwys ceisio cyfranogiad disgyblion mewn cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i ddarparu cyngor a gwybodaeth. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys ysgolion uwchradd am y tro cyntaf. Gwnaeth pedwar deg pump o ysgolion uwchradd elwa ar y rhaglen, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal gweithdai i sicrhau mewnbwn gan fyfyrwyr yn y broses o fapio rhwydwaith integredig.

Rydym hefyd yn cefnogi Her Teithio Cymru, sy'n targedu gweithleoedd ar draws Cymru. Ceir tair her, â’r bwriad yw ysgogi dros 4,500 o weithwyr ar draws Cymru i gynyddu pa mor aml maent yn teithio’n llesol a pha mor aml maent yn defnyddio cludiant cyhoeddus ar gyfer teithiau bob dydd, yn lle teithiau car gydag ond un gweithiwr yn y car. Cynhaliwyd yr her gyntaf ym mis Mai lle’r oedd dros 700 o gyfranogwyr wedi cofnodi 6,500 o deithiau a lle’r oedd teithiau cerdded a beicio wedi cymryd lle 32 y cant o deithiau car. Mae’r ail her yn dechrau ar 10 Hydref.

Mae cynyddu lefelau teithio llesol yng Nghymru yn rhywbeth sy’n gofyn am gamau gweithredu gan lawer o bleidiau, o fewn y Llywodraeth a'r tu allan. Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth allweddol er mwyn cyflawni hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd a gafwyd gan lawer ohonynt wrth gofleidio'r heriau o weithredu'r ddeddfwriaeth newydd hon. Rwy’n gweithio'n agos ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ac rydym yn cytuno ar bwysigrwydd hanfodol sicrhau bod teithio llesol yn rhan annatod o gynllunio prosiectau mawrion yn ymwneud â seilwaith trafnidiaeth, megis y prosiectau metro yn y gogledd a’r de, er mwyn sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn wirioneddol integredig, yn effeithlon ac o ansawdd uchel. Rwyf hefyd yn cydweithio â’m cydweithwyr eraill yn y Llywodraeth i sicrhau y cyflawnir camau gweithredu a dyletswyddau Llywodraeth Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r bwrdd teithio llesol, y byddaf yn mynd i’w gyfarfod nesaf ar 5 Hydref. Thank you.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:57, 20 Medi 2016

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? A allaf i groesawu’r manylion sydd gerbron ar y diweddariad yma ar deithio llesol? Wrth gwrs, cawsom ni drafodaeth fer ar y pwnc yma o ffitrwydd yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf a bydd y Gweinidog yn cofio i ni sôn am bwysigrwydd ffitrwydd a phwysigrwydd cadw’n heini i ni i gyd, o ba bynnag oedran, ond yn enwedig wrth i ni ddylanwadu ar ein plant achos mae’n sefydlu ymddygiad am oes.

Ond mae ffitrwydd o gadw’n heini—. Mae rhai astudiaethau, fel y gwnes i grybwyll wythnos diwethaf, yn dangos gostyngiad o 30 y cant yn lefel y siwgr yn eich gwaed os ydych chi’n ffit o gymharu â phan nad ydych chi’n ffit, gostyngiad o 30 y cant yn eich pwysau gwaed, a gostyngiad hefyd o 30 y cant yn lefel eich colesterol ac yn eich pwysau. Beth sy’n cael ei nodi o hynny, wrth gwrs, ydy petai ffitrwydd yn dablet neu yn gyffur, gyda’r gostyngiad sylweddol yna yn yr elfennau yna o 30 y cant, byddai pawb yn clochdar ac yn sgrechain ar i NICE adael i ni feddygon fod yn ei ragnodi cyn pen dim. Dyna pam mae ffitrwydd yn haeddu llawer mwy o sylw nag mae o’n ei gael. Mae o’n llawer mwy effeithiol na’r rhan fwyaf o dabledi sydd gennym ni i fynd i’r afael efo’r materion hyn.

Ond, gan fynd yn ôl at y datganiad, dyna pam roeddwn i’n synnu braidd at eich trydydd paragraff, pan ŷch chi’n dweud bod y ffigurau diweddaraf ynglŷn â’r gost o beidio â chadw’n ffit i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn £51 miliwn y flwyddyn. Buaswn i’n meddwl, o gofio’r holl gostau yna o fynd i’r afael â gordewdra sydd gennym ni, y byddai’r arbediad yn nhermau ariannol yn llawer mwy na £51 miliwn y flwyddyn. Mae hwnnw jest yn edrych fel ffigwr isel iawn i mi, mae’n rhaid imi ei ddweud, i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma.

Yn benodol, ar eich ymrwymiad o dan y Ddeddf yma ynglŷn â theithio llesol, a allaf ofyn sut y mae teithio llesol yn cael ei gysidro yn y trafodaethau bydd pobl yn eu cael ar y fasnachfraint rheilffyrdd? Ac, yn benodol, felly, pan ydych chi’n sôn dylai mwy o blant ac ati fod yn cerdded i’r ysgol neu yn seiclo i’r ysgol, wrth gwrs, materion diogelwch sy’n cael eu henwi fel rhai o’r pethau sydd yn amharu ar allu pobl unai i gerdded neu i farchogaeth beic i’r ysgol. Sut ydych yn ymdrin, felly, ag amheuon ynglŷn â diogelwch fel rhan o’r materion teithio llesol yma?

Yn olaf, wrth gwrs, hefyd—yn enwedig pan ydych chi’n sôn am weithlu sydd, yn lle mynd yn eu car i’r swyddfa, nawr yn mynd unai i gerdded, rhedeg neu farchogaeth beic i’r swyddfa—mae yna oblygiadau ynglŷn â gorfod datblygu cyfleusterau fel toiledau, cawodydd a storfeydd beiciau i gyd-fynd efo’r llwybrau teithio llesol yma. Sut mae trafodaethau’n mynd ymlaen i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau i gyd-fynd efo’r dyhead hefyd mewn lle? Wedi dweud hynny i gyd, a gaf i groesawu, fel y bydden nhw’n dweud yn Saesneg, ‘the direction of travel’. Diolch yn fawr.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:01, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny a hefyd yn diolch i chi am y sesiwn adeiladol iawn a gawsom gyda’r pwyllgor lle gwnaethom archwilio mewn cryn fanylder yr agweddau ar weithgarwch corfforol y gwnaethoch chi gyfeirio atynt. Gwnaethoch chi ofyn am yr ystadegau—y ffigur £51 miliwn fel cost i’r GIG bob blwyddyn o ran y diffyg gweithgarwch corfforol. Rhoddwyd y ffigur hwnnw i ni gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Maen nhw wedi gwneud ymarfer cwmpasu, gan edrych ar gost economaidd amrywiol bethau megis trais yn y cartref, iechyd meddwl, diffyg gweithgarwch corfforol, ysmygu a llawer o agweddau eraill hefyd mewn dogfen newydd o'r enw 'Gwneud Gwahaniaeth'. Mae'n ddogfen fyrrach, ond yn ddogfen sy’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, sy’n edrych ar yr amrywiol agweddau hyn. Er bod hyn dim ond yn ymwneud â chost yr anweithgarwch corfforol i'r GIG yn benodol, yn amlwg ceir cost llawer mwy o ran costau i'r economi, er enghraifft, costau i ansawdd bywyd unigolion ac yn y blaen, hefyd. Felly, dim ond edrych ar un o'r agweddau yn unig oedd hyn.

Soniasoch am bwysigrwydd cael plant i gymryd diddordeb mewn teithio llesol yn gynnar iawn, iawn yn eu bywydau, ac rydym yn cytuno’n llwyr â hynny. Credaf fod ein rhaglen eco-ysgolion yn allweddol er mwyn cyflawni hynny. Mae dros 860 o ysgolion yng Nghymru eisoes wedi ennill gwobr ryngwladol y Faner Werdd am y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud yn rhan o’r rhaglen eco-ysgolion ac, yn rhan o hynny, maen nhw wedi bod yn edrych ar bethau—ceir diwrnodau cerdded i'r ysgol, er enghraifft, a rhaglenni bws cerdded. Mae gan ysgolion swyddogion iau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, ac mewn rhai o'r ysgolion hynny byddant yn gwneud tocynnau parcio pwrpasol i roi ar geir rhieni sydd efallai wedi parcio’n flêr ac yn amhriodol ar balmentydd ac ati, y tu allan i ysgolion. Credaf efallai fod derbyn neges gan blentyn sydd wedi’i hysgrifennu â llaw yn llawer mwy pwerus na gwleidyddion a phobl eraill yn dweud wrth rieni lle y dylent a lle na ddylent barcio ac yn y blaen. Yn fy marn i, mae gan blant swyddogaeth bwysig iawn yn yr agenda benodol hon.

Rydym hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr bod plant yn ddiogel ar y ffyrdd, a hynny o oedran ifanc iawn, a dyna pam, drwy adran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, rydym yn nodi a chreu llwybrau diogel i ysgolion ar gyfer cerdded a beicio, ac mae hynny'n ganolog iawn i'r Ddeddf teithio llesol. Mae bron £800,000 hefyd yn cael ei dalu i awdurdodau lleol ar gyfer hyfforddiant yn ymwneud â phlant sy'n cerdded, ac mae 17,000 o blant ysgolion cynradd wedi elwa ar hynny. Ei fwriad yw helpu plant i fagu’r hyder i gerdded i'r ysgol, ond hefyd sicrhau eu bod yn deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel wrth gerdded. Mae dros £0.5 miliwn hefyd yn cael ei dalu i awdurdodau lleol ar gyfer hyfforddiant beicio o safon genedlaethol, sydd hefyd o fudd i 15,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd y flwyddyn. Mae Caerdydd hefyd yn derbyn grant ar hyn o bryd i dreialu rhai dulliau newydd o ddarparu hyfforddiant diweddaru i blant, oherwydd gallwn addysgu hyn ar adeg benodol, ond wedyn rydym eisiau gweld a oes budd mewn gwirionedd o gynnig hyfforddiant diweddaru ac efallai hyfforddiant manylach sy'n fwy addas i’w hoedran nhw wrth iddynt fynd yn hŷn.

Ynglŷn â’r mater yn ymwneud â seilwaith, rydym wedi nodi’n glir—a gwnes i siarad gyda’m cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach am hyn heddiw hefyd—pa mor bwysig yw hi fod teithio llesol wrth wraidd y prif brosiectau seilwaith a phob prosiect seilwaith, mewn gwirionedd, gan fod gennym Ddeddf yng Nghymru yn benodol i hyrwyddo teithio llesol. Felly, dylid gwneud hynny drwy ganolbwyntio ar drafnidiaeth integredig mewn cyd-destun ehangach, gan gynnwys cyfleoedd cerdded a beicio hefyd.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:05, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw, sydd i'w groesawu'n fawr. Ymddengys bod y ddeddfwriaeth hon wedi dioddef o ddiffyg diddordeb ac uchelgais ar ran y Llywodraeth, gan achosi, dylwn i ddweud, rwystredigaeth ymhlith prif gefnogwyr y Ddeddf hyd yn oed. Gwnaeth pedwerydd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad nifer o argymhellion yn ystod ei waith craffu ôl-ddeddfwriaethol cynnar ar y ddeddfwriaeth ym mis Chwefror eleni. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y mae'r Llywodraeth wedi gweithredu argymhellion y pwyllgor. Yn gyntaf, nodwyd gan gydweithwyr fod y gwaith o weithredu’r ddeddfwriaeth yn cael ei rwystro gan ddiffyg cyllid ac adnoddau pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, er mwyn iddynt allu cyflawni amcanion canmoladwy’r Ddeddf. Dywedodd rhagflaenydd y Gweinidog o'r blaen nad oedd Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhesymeg ar gyfer ystyried cyllid trafnidiaeth ar ei ben ei hun. Nawr, ers i chi gael eich penodi i'ch swydd newydd, a ydych chi wedi ailystyried dyrannu cronfa bwrpasol yn benodol ar gyfer teithio llesol? Ymddengys hefyd fod diffyg amlwg o ran gweithgarwch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. A allech chi felly o bosib amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â phryderon y pwyllgor o ran hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Ddeddf?

Rydych wedi sôn hefyd heddiw eich bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi i sicrhau y dylai prosiectau seilwaith mawrion megis y metro a’r fargen ddinesig ganiatáu ar gyfer darpariaethau teithio llesol. Felly, a allwch chi amlinellu pa fesurau penodol sydd wedi’u datblygu yn hynny o beth? Yn olaf, o ystyried bod y Ddeddf yn sail i gynifer o agendâu polisi trawsbynciol holl adrannau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys strategaeth 'Cael Cymru i Symud' a strategaeth 'Dringo'n Uwch: Creu Cymru Egnïol', a wnewch chi amlinellu sut yr ydych chi’n sicrhau bod y Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu ar draws y Llywodraeth?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:07, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuaf gyda’r cwestiwn a godwyd gennych chi ynglŷn â chynllunio, a sut yr ydym ni’n sicrhau bod cynllunio yn galluogi teithio llesol. Rwy’n ystyried nawr sut y gallem wneud diwygiadau i'r polisi a chanllawiau cynllunio i roi mwy o bwyslais ar deithio llesol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i’n gweithio gyda chydweithwyr arno hefyd. Byddech chi wedi clywed sylwadau’r Prif Weinidog heddiw o ran teithio llesol. Roedd ei gefnogaeth iddo yn glir iawn, sy’n golygu y dylem ni, wrth feddwl am adeiladu ffyrdd newydd, feddwl yn yr un modd am adeiladu llwybrau beicio newydd ac yn y blaen, hefyd. O ran cyllid, nid wyf yn credu y dylem ni edrych ar gyllid ar gyfer teithio llesol ar wahân oherwydd y nod yw ei integreiddio i’r ffordd arferol yr ydym yn teithio, a dylid ystyried gwneud teithiau byrion ar droed neu ar feic yn bethau i'w gwneud yn arferol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen cyllid penodol i gefnogi gweithrediad y Ddeddf. Felly, rydym wedi rhoi yn flaenorol gyfran o £300,000 i awdurdodau lleol tuag at gynhyrchu eu map llwybrau presennol a pharatoi’r gwaith yno. Hefyd, cafodd £200,000 o arian cyllido trafnidiaeth leol ei neilltuo'n benodol ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â’r cyfnod o’r broses ar gyfer creu map rhwydwaith integredig. Rydych chi yn llygad eich lle wrth ddweud bod ymgysylltu yn gwbl allweddol o ran sut yr ydym yn datblygu hyn, a chael sgwrs gyda'r cyhoedd am y llwybrau y maent yn dymuno eu cael ac y maent eu hangen, gan y bydd hynny mewn gwirionedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen hon.

Byddaf yn disgwyl i’n bwrdd teithio egnïol gymryd cam arweiniol gwirioneddol yn hyn o beth, ac mae hyn yn cynnwys adrannau allweddol y Llywodraeth a phartneriaid allanol, Adnoddau Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau’r trydydd sector a chynrychiolwyr busnes hefyd. Bydd ganddynt swyddogaeth, rwy'n siŵr, o ran bod yn atebol, wrth gyflwyno'r Ddeddf, ond hefyd o ran bod yn eiriolwyr ar gyfer y Ddeddf. Lansiais yn ddiweddar, ochr yn ochr â'n sefydliadau sector gwirfoddol, wefan newydd lle gall aelodau o'r cyhoedd fynegi eu diddordeb i gael ymgynghoriad gan awdurdodau lleol ar y cynlluniau. Felly, byddwn i’n argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb yn mynd ati i edrych ar wefan Living Streets i gael gwybod mwy a mynegi eu diddordeb o ran rhoi gwybod i'r awdurdod lleol beth yw eu llwybrau, beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth ar eu cyfer nhw, beth sy’n eu hatal rhag beicio neu gerdded i gyrchfan ar hyn o bryd. Felly, mae hynny yn sicr yn rhywbeth y byddwn i’n gofyn i’r Aelodau yma, mewn gwirionedd, eu hybu yn eu hetholaethau nhw hefyd.

Rydym yn sicr yn ceisio cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau. Rydym yn gwybod ein bod yn gofyn llawer, ond credaf fod modd i ni gael llawer ganddyn nhw hefyd. Felly, cyhoeddwyd ac ymgynghorwyd ar ganllawiau cyflwyno ar sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau dan y Ddeddf teithio llesol, a chredaf fod hyn yn bodloni rhai o'r argymhellion y gwnaethoch chi gyfeirio atynt. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau dylunio sy'n nodi safonau seilwaith ac sy’n darparu offer a chanllawiau ar gyfer cynllunio ac archwilio rhwydwaith gan awdurdodau lleol. Felly, rydym yn sicr am wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r dyletswyddau newydd hyn. Bydd llawer o waith i’w wneud, ond credaf y gallwn gyflawni llawer. Mae hyn mewn gwirionedd yn gyfle cyffrous iawn i Gymru. Rwy'n ymwybodol iawn fod gan y byd i gyd ddiddordeb yn hyn ar lawer ystyr. Rwyf wedi gweld blogiau o America yn trafod yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd heb os i wneud yn siŵr bod hyn yn llwyddo, fel rwy’n gwybod y gall wneud.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:11, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae'r cynllun teithio llesol yn fenter dda o ran ei hamcanion. Gellid cael arbedion hirdymor yng nghyllideb y GIG os yw pobl yng Nghymru yn y bôn yn heini, fel yr haerodd Dai Lloyd, ac, yn ddelfrydol, dylid meithrin gweithgarwch corfforol o oedran cynnar. Credaf ein bod yn cytuno ar yr egwyddorion hyn. Y broblem, fel erioed, yw pa mor dda y gellir cyflawni amcanion y cynllun teithio llesol mewn gwirionedd.  Weithiau, bydd datblygiadau bywyd modern yn tueddu i weithio yn erbyn cyflawni hyn yn effeithiol. Er enghraifft, gallwn annog plant ysgol i gerdded i'r ysgol ar ddiwrnod penodol fel rhan o'r cynllun hwn. Ond pan geir ad-drefnu sy'n arwain at gau ysgolion lleol, mae posibilrwydd y byddai’n rhaid i lawer o blant ddefnyddio ceir i deithio i'r ysgol. Byddai cerdded mwy na thair milltir i'r ysgol yn sicr o fod yn rhy bell ac yn cymryd gormod o amser yn rheolaidd. Felly, ni fyddech chi’n debygol o fod yn annog plant i gerdded yn rheolaidd i'r ysgol yn yr achos honno. Mae'r un broblem yn bodoli yn achos gweithwyr y mae eu gweithle yn llawer o filltiroedd i ffwrdd, ac, yn anffodus, y duedd gyda bywyd modern yw bod pobl yn teithio ymhellach ac ymhellach i’w gweithle.

Wrth gwrs, mae eich cynllun hefyd yn cynnwys beicio, a all fod yn fwy hyfyw yn y tymor hir. Er hynny, bydd yn anodd goresgyn y rhwystrau eithaf sylfaenol hyn, ond bydd yn ddiddorol gweld pa gynnydd y gellir ei wneud o ran y cynllun teithio llesol, a byddaf yn ymdrechu i’w fonitro'n ofalus. Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:13, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am groesawu’r cynllun ac am y gefnogaeth rwy’n credu ein bod wedi ei chael ar draws y Siambr yma yn y Cynulliad heddiw. O ran y gweithle, rwy’n credu bod cyfle i gyflogwyr gefnogi ymdrechion eu gweithwyr i wneud teithiau llesol, er enghraifft drwy ddarparu cawodydd yn y gweithle ac yn y blaen. Gwn ein bod yn sicr yn darparu’r math hwnnw o gyfleuster yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae ein Her Teithio Cymru, y cyfeiriais ati yn y datganiad ar y dechrau, yn gyfle i weithleoedd ymgysylltu â'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yma. Mae llawer o weithleoedd hefyd yn gweithio tuag at y safon iechyd corfforaethol, sef Cymru Iach ar Waith, sy’n gyfle i weithleoedd ddangos i'w gweithwyr eu bod yn cymryd eu hiechyd o ddifrif a’u bod yn barod i fuddsoddi ynddynt a’u cefnogi ar gyfer y dyfodol hefyd.

Rwy'n awyddus iawn—. Gwnaethoch chi sôn am ymgysylltu â phobl o oedran cynnar, ac mae hynny'n bwysig oherwydd mae’n rhaid dangos bod cerdded a beicio yn gyfle i bawb. A dyna pam mae’n bwysig iawn fod ein dull ni o weithredu teithio llesol hyd yn hyn wedi ymgysylltu â phobl ar draws yr holl gymunedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut y gallwn ymgysylltu â chymunedau ac unigolion sy’n anodd eu cyrraedd â’r agenda teithio llesol. Felly, cawsom gynhadledd teithio llesol, a oedd yn edrych yn benodol ar hyn ac ar ein hymdrechion i gynyddu cyfranogiad ymhlith pobl anabl, menywod, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl hŷn. Nid ydym am i bobl deimlo efallai nad yw hyn ar eu cyfer nhw, oherwydd mae yna deithiau y gall y rhan fwyaf ohonom eu gwneud ar droed neu ar feic.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:14, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad ac am yr ymroddiad personol yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ei ddangos ar gyfer yr agenda hon.

Mewn sawl ffordd, pasio’r ddeddfwriaeth yw'r rhan hawdd yn y prosiect hwn. Dyma brosiect uchelgeisiol sy’n ymwneud â sawl cenhedlaeth i geisio newid agweddau ac ymddygiad. Ac er bod gennym, drwy fodolaeth y Ddeddf, rai canllawiau dylunio blaengar iawn, fwy na thebyg y canllawiau dylunio mwyaf blaenllaw yn y DU, yr hyn sy’n bwysig yw sut y caiff y prosiect ei weithredu. Er enghraifft, yn fy etholaeth i fy hun, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi adeiladu dau ddarn newydd o lwybrau beicio ar hyd y brif ffordd rhwng Llangennech a Dafen yn ddiweddar, ac yn hytrach na dilyn y canllawiau sy'n dweud y dylid cael llwybr 3m o led, maen nhw wedi penderfynu adeiladu dau lwybr: llwybr 1.5m o led ar un ochr, a llwybr 1.5m o led ar yr ochr arall, gydag arwyddion 'un ffordd' ar y ddwy ochr. Nid wyf erioed wedi gweld arwydd 'un ffordd' ar lwybr beicio o'r blaen, ac mae'n annhebygol y bydd yn cael llawer o sylw.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'r gynulleidfa darged yma, nid y bobl sydd eisoes yn beicio; ond y bobl nad ydynt erioed wedi beicio. Mae hyn, wedi'r cyfan, yn ymwneud â newid ymddygiad, ac felly mae'n arbennig o siomedig yn yr ymgynghoriad ar y mapiau cyntaf mai dim ond tua 30 o bobl yr ymgynghorwyd â nhw gan bob awdurdod lleol ledled Cymru. A fyddai hi’n gwneud ei gorau i sicrhau y byddwn, ar gyfer yr ymgynghoriad ar fersiwn nesaf o'r mapiau—y mapiau lle byddem yn hoffi gweld y llwybrau—yn ymgysylltu â chymaint o bobl ag y bo modd, fel rwy’n dweud, nid â’r bobl sydd eisoes yn beicio ac yn cerdded, ond y bobl nad ydynt yn beicio nac yn cerdded?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:16, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y pwyntiau hynny. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi i’r awdurdodau lleol y math o gymorth sydd ei angen arnynt, a'r canllawiau sydd eu hangen arnynt. Felly, mae'n siomedig clywed am yr enghraifft lle nad yw'r canllawiau dylunio o bosib wedi’u dilyn er mwyn darparu’r llwybr beicio gorau posibl, yn enwedig gan fod cael llwybr beicio newydd yn beth gwych. Felly gadewch i ni geisio sicrhau ei fod o’r ansawdd a’r safon gorau posib.

Ynglŷn â’r gynulleidfa darged, rydych chi’n hollol gywir, fel y dywedais i yn fy natganiad, nid yn unig y dylai gynnwys y defnyddwyr presennol a’r bobl sy'n teithio’n llesol ar hyn o bryd, ond hefyd y bobl a allai fod yn teithio’n llesol. Rwyf wedi dweud bod y ffigurau isel o ran teithio llesol yn cyflwyno her go iawn i ni, ond maent hefyd yn cyflwyno cyfle go iawn. Felly rwyf wir yn dymuno gweld awdurdodau lleol yn ymgysylltu â phobl newydd, pobl efallai na fyddent fel arfer yn ystyried hyn. Yn fy ateb i'r cwestiwn diwethaf soniais am ymgysylltu â rhai o’r grwpiau y mae wedi bod yn anoddach eu cael i gymryd rhan yn yr agenda hon yn y gorffennol.

Roeddwn i eisiau eich sicrhau fy mod wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru yn amlinellu iddyn nhw ddifrifoldeb a phwysigrwydd teithio llesol a gweithrediad llwyddiannus y Ddeddf hon yn ôl Llywodraeth Cymru. Felly, byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda nhw, ac os ydynt yn teimlo bod angen cefnogaeth arnynt, byddwn yn gobeithio y byddent yn gallu rhoi gwybod i mi am hynny.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:17, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, cerddais i'r gwaith y bore yma a byddaf hefyd yn cerdded adref. Cerddais ar draws y morglawdd o Benarth. Weithiau byddaf yn dilyn y llwybr arall ar draws Pont y Werin. Mae’r daith honno ychydig yn hwy. Ni fyddai'r un o'r llwybrau hyn wedi bod ar gael i mi bum neu chwe blynedd yn ôl. Yr unig ffordd y gallwn i fod wedi cerdded i mewn i'r Cynulliad bryd hynny oedd i lawr Heol Penarth, llwybr llawer hirach ac yn un llawer llai dymunol. Rwy'n credu mai’r hyn sydd angen i chi ei annog yw datblygu seilwaith allweddol fel y cysylltiad hwnnw yn y morglawdd, y bont gerdded rwyf newydd sôn amdani, a chysylltu efallai llwybrau newydd—nid o reidrwydd ar hyd y prif ffyrdd bob amser, ond weithiau mae hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio seilwaith ar gyfer targedau allweddol—hynny yw, pobl sy’n gallu cerdded i'r gwaith. Gallwch gael meysydd parcio nad ydynt yn ganolog, gyda llaw, sy’n golygu bod pobl yn cerdded tua milltir oddi yno, gan ryddhau ein hardaloedd trefol, lleihau nifer y ceir a gwella ansawdd yr aer. Hefyd, yn sicr mae angen inni fod yn canolbwyntio ac yn datblygu ein seilwaith o gwmpas ysgolion, oherwydd os bydd plant ysgol yn dod i’r arfer o gerdded a beicio, wedyn mae hynny o bosib yn sicrhau eu bod am gadw’n ffit am oes.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:19, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau hynny. Dim ond i bwysleisio unwaith eto y pwysigrwydd allweddol yr ydym yn ei weld o ran rhoi ystyriaeth i seilwaith pan ydym yn sôn am adeiladu cysylltiadau trafnidiaeth a’r dinasyddion a fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol. Yn sicr mae’n rhaid iddynt gynnwys cerdded a beicio.

Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud am y cyfleusterau parcio nad ydynt yn ganolog. Rwy'n credu bod hynny'n wych, oherwydd fel y dywedodd un o'r siaradwyr blaenorol, mae’n rhaid i rai pobl yrru milltiroedd lawer i’r gwaith, ond daw cyfle ar ddiwedd y daith, am ryw 10 neu 15 munud, i glirio’ch pen cyn wynebu diwrnod caled yn y gwaith, ac yn y blaen.

Rwy'n awyddus iawn i wrando ar unrhyw syniadau arloesol, o ble bynnag y maen nhw’n dod, o fewn y Siambr hon neu gan y cyrff sy’n cefnogi ein gwaith. Mae'n rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i'r sefydliadau gwirfoddol ac i eraill sydd wedi bod yn gweithio mor agos ac yn cynnig cymorth ac arbenigedd mor wych dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:20, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac yn olaf, Julie Morgan.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Sicrhau bod Cymru’n egnïol a gwireddu’r Ddeddf teithio llesol yw un o'r prif dasgau i Lywodraeth Cymru yn ystod y tymor nesaf hwn, ac rydym eisoes wedi sôn heddiw am yr ystadegau a'r canlyniadau a'r materion iechyd y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw yma yng Nghymru. Mae'n dda clywed bod yr holl fapiau o’r llwybrau presennol wedi’u cwblhau gan yr awdurdodau lleol. A ydych chi wedi dysgu unrhyw beth o'r broses honno a ddilynwyd ar gyfer llunio’r mapiau hynny a fyddai'n helpu awdurdodau lleol i gynhyrchu eu mapiau rhwydwaith integredig nhw? A ydych chi’n teimlo bod angen unrhyw ganllawiau ychwanegol, er enghraifft? Dywedasoch eich bod am gefnogi awdurdodau lleol gymaint ag y gallwch; a oes angen rhagor o gefnogaeth ar gyfer y cam nesaf?

A fyddai'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bwysig iawn nad y swyddogion trafnidiaeth ac adrannau awdurdodau lleol yn unig sy’n cymryd rhan yn hyn, ond yr holl adrannau eraill—yr adrannau addysg, yr adrannau tai— gan fod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar ymddygiad pawb yn y rhan fwyaf o’r agweddau ar eu bywyd? A yw'r Gweinidog yn gwybod a yw’r adrannau eraill hynny o fewn awdurdodau lleol wedi cymryd rhan neu’n mynd i gymryd rhan, a beth y gallai hi ei wneud i sicrhau y bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd?

Roeddwn yn falch iawn o glywed am gyfranogiad ysgolion wrth ystyried y broses o fapio’r rhwydwaith integredig, oherwydd yn amlwg mae hwn yn gyfle gwbl allweddol, i bobl ifanc, plant ac, wrth gwrs, i’r cyhoedd yn gyffredinol i gael dweud eu dweud, mewn gwirionedd, o ran y llwybrau teithio llesol y bydden nhw’n dymuno eu defnyddio. Rwy’n credu eich bod eisoes wedi crybwyll y grwpiau penodol yr hoffech chi sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud—y lleiafrifoedd ethnig—ac mae'n arbennig o bwysig bod menywod yn cael dweud eu dweud, oherwydd, o ran beicio, mae llai o fenywod yn barod i feicio am nifer o resymau, oherwydd rhesymau diogelwch yn arbennig. Mae Living Streets, Sustrans Cymru, Beicio Cymru a Cycling UK, fel y gwyddoch, wedi lansio ymgyrch ar y cyd sy'n galluogi pobl i gysylltu â'u hawdurdodau lleol ynglŷn â’r broses fapio, gan ofyn am gael bod yn rhan o unrhyw ymgynghori ac unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i awdurdodau lleol gael digwyddiadau, nid yn unig i ymgynghori ar-lein, ond i geisio cynnal rhai digwyddiadau byw go iawn, megis archwiliad o ardal—archwiliad o lwybrau teithio llesol, er enghraifft—gyda’r trigolion. A ydych yn gallu annog cynnal y math hwnnw o ddigwyddiad, fel ein bod yn y pen draw yw gwireddu’r Ddeddf teithio llesol a bod gennym weledigaeth ein bod yn annog Cymru i fod yn egnïol?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:23, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny. Rydym wedi derbyn yr holl fapiau llwybrau presennol erbyn hyn, a byddaf, yn fuan, yn derbyn yn ffurfiol y tri map olaf. O ran yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu, byddwn yn cefnogi ein hawdurdodau lleol o ran datblygu mapiau rhwydwaith integredig drwy gynllun peilot yr wyf ond wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar. Bydd y cynllun yn sicrhau bod nifer o awdurdodau lleol yn cydweithio yn ystod rhai o gamau allweddol y map rhwydwaith integredig a bydd yn eu galluogi i rannu gwersi ac arfer da gyda'i gilydd. Mae hynny’n rhywbeth rwy'n credu ein bod wedi’i ddysgu yn ystod y cam blaenorol—fod angen i ni gael awdurdodau lleol i weithio'n llawer agosach, gan rannu gwybodaeth ac arfer gorau, ac yn y blaen, gyda'i gilydd, er mwyn sicrhau bod hyn yn llwyddiant, rhywbeth yr ydym yn gwybod y gallai fod. Felly, bydd y cynllun peilot yn rhedeg ar sail fodiwlaidd, a bydd hynny’n helpu i osgoi unrhyw oedi wrth aros i’r prosiect gael ei gwblhau a chael y wybodaeth i ni ei dadansoddi.

Cynhelir cynhadledd yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ymwneud â theithio llesol, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau, unwaith eto, nad y rhai arferol yn unig sy'n bresennol, y rhai y byddech chi’n disgwyl i fod yno. Hoffwn weld cynrychiolwyr o’r adran dai, yr adran addysg, ac yn y blaen, a’r adran iechyd yn y gynhadledd honno hefyd, i weld sut y gallwn ddatblygu hynny mewn partneriaeth.

Rydych wedi codi’r pwynt am bwysigrwydd ymgysylltu â phlant, unwaith eto. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae plant wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymarferion mapio ac o ran deall pa lwybrau y byddai plant yn hoffi eu gweld, a beth yw'r rhwystrau sy’n eu hatal rhag bod yn fwy egnïol hefyd. Soniasoch am fenywod, ac mae llawer o waith da yn cael ei wneud. Er enghraifft, mae Breeze yn Abertawe yn glwb a sefydlwyd ar gyfer menywod sydd eisiau beicio, ond nad ydynt yn dymuno beicio ar eu pennau eu hunain, ac yn y blaen. Hoffwn hefyd sôn am BikeAbility a Pedal Power, er enghraifft, fel sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl a phobl eraill i roi cynnig ar feicio, oherwydd gall y math hwn o offer fod yn ddrud iawn i unigolyn. Ond, gyda chefnogaeth elusennau gallant gael gafael ar yr hyn y maent ei angen. Felly, rwy’n llwyr ystyried y Ddeddf hon yn Ddeddf i bawb yng Nghymru ac yn gyfle i'r Llywodraeth gefnogi pobl i fod yn fwy egnïol drwy feicio a cherdded. Ni allwn wneud hyn ein hunain; mae angen partneriaeth yr awdurdodau lleol. Rwy'n hyderus fod hynny gennym a bod gennym gefnogaeth y sefydliadau sy'n rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd â ni hefyd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:25, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog.