– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Hydref 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar gyllideb ddrafft 2017-18 ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd, am y cyfle i wneud datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Rwyf wedi gosod y gyllideb o flaen y Cynulliad y prynhawn yma ar gyfer proses ymgynghori a chraffu.
Rydym ni’n byw mewn cyfnod ansicr iawn. Ar ôl ystyried yn ofalus iawn dros yr haf, rwyf wedi penderfynu, cyn y ‘fiscal resetting’ y mae Canghellor y Trysorlys yn ei addo yn natganiad mis Tachwedd, mai dim ond cyllideb refeniw un flwyddyn mae’n bosib i ni ei gosod o flaen y Cynulliad. Mae Gweinidogion cyllid Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi dod i gasgliad tebyg. Yn y cyd-destun anodd iawn hwn, fy nod oedd gosod cyllideb sy’n rhoi sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus allweddol dros y 18 mis nesaf. Ond mae hi hefyd yn gyllideb ag uchelgais, yn gyllideb sy’n gwneud cynnydd yn y rhaglen lywodraethu a’n haddewidion i bobl Cymru.
Mae’r gyllideb sydd o’ch blaen heddiw, Lywydd, hefyd wedi ei datblygu yn sgil cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Hoffwn i ddiolch i Adam Price a’i dîm ef am y trafodaethau gofalus, adeiladol a manwl sy’n sylfaen i’n cytundeb. Mae’n darparu ar gyfer pecyn o ymrwymiadau gwario ychwanegol, yn ogystal â mesurau anghyllidol. Mae’r rhain i’w gweld yn y dogfennau cyllideb sydd ar gael i Aelodau. Rydym ni hefyd wedi cytuno ar raglen waith ar gyfer y pwyllgor cyswllt cyllid am y 12 mis nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen i ddechrau trafod.
Llywydd, let me say a little more about the context in which this budget has been created. Since 2010-11, we have experienced successive cuts to the Welsh budget. By the end of the decade, our overall budget will have been reduced by 9 per cent in real terms—equivalent to almost £1.5 billion less for vital public services here in Wales. And, of course, I again restate today the urgent macroeconomic case for the abandonment of the self-defeating policies of austerity. It is because of those policies that there remain threats of further cuts to come, as the UK Government has yet to announce how it will find the £3.5 billion of departmental reductions announced in the March budget. This alone could mean another £150 million cut for services in Wales. As the Institute for Fiscal Studies recently concluded, Wales is looking at an extraordinary 11 or more years of retrenchment in public service spending.
Now, despite this, and the immediate impacts of the EU referendum on Wales, the budget before Members today will: invest an additional £240 million in the Welsh NHS to meet the ongoing growth in demand and costs of services; it will secure £111 million for apprenticeships and traineeships as part of our commitment to invest in skills and jobs in Wales, including £88.3 million to create 100,000 all-age apprenticeships; it will deliver a £100 million tax cut for small businesses; provide the best local government funding settlement in years; confirm our investment in the intermediate care fund; raise school standards with a £20 million investment next year; safeguard and increase funding for the pupil deprivation grant; take forward work on the UK’s most generous childcare offer for working parents. And, over and above the £240 million just identified, we will also provide £16 million next year for the NHS to establish a new treatment fund, which will make new and innovative treatments for life-changing and life-threatening diseases available to all those who need them in Wales. We will also allocate £4.5 million to raise the capital limit so people can keep more of their life savings when entering residential care, as promised in my party’s manifesto.
Our agreement with Plaid Cymru will see further additional investments for health services—£1 million for end-of-life care services, £1 million for eating disorders and transgender services, and £7 million over and above that already in the budget for additional investment in the training of extra healthcare professionals.
Llywydd, while it has only proved prudent to lay a one-year revenue budget, I have judged it possible to set out a four-year capital plan. Allocating the majority of the available capital will provide confidence and assurance to the construction sector, businesses and investors, and support the best decision making. We will provide over £1.3 billion over the next four years to deliver an extra 20,000 affordable homes here in Wales in line with our manifesto commitment. We will invest more than £500 million of conventional capital in our £2 billion twenty-first century schools programme, and use new innovative finance models to take forward the development of a new specialist Velindre Cancer Centre and the dualling of the A465.
Capital funding has been set aside in reserves to deliver the new M4 relief road by 2021, subject to the outcome of the public inquiry next year. There is almost £370 million in the capital budget over the next four years to deliver our ambitious plans for the south Wales metro, and we are investing to advance proposals for a metro for north Wales as well. Fifteen million pounds in the health capital programme for 2017-18 will be invested in improving diagnostics, as reflected in our budget agreement with Plaid Cymru.
Llywydd, this statement has focused on budget plans for the future, but we also know that there are some real pressures in the current financial year in some of our core services. I expect to be able to recognise some of those in-year pressures. Our response to those issues, however, will need to be balanced with what the Chancellor’s autumn statement will mean for Wales. I will, of course, update Members about these plans as they develop.
So it is, Llywydd, that this is a budget for stability and ambition. It invests for today and it prepares for tomorrow. It will help us to take forward our NHS, to raise school standards, to implement the biggest education reform package Wales has seen since the 1940s, and it will ensure that our local government partners can go on providing their essential services. It is also, Llywydd, a budget for ambition, investing in Wales, in vital new infrastructure, in housing, in transport, in jobs and in our future prosperity. It is a budget that takes Wales forward.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei alwad ffôn yn gynharach, yn rhoi prif ffigurau cyllideb ddrafft heddiw i mi ymlaen llaw? Rwy’n deall ei resymeg wrth bennu cyllideb refeniw un flwyddyn a chyllideb gyfalaf dros bedair blynedd, ond rwy'n siŵr na fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet na allwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr gefnogi'r gyllideb ddrafft hon yn ei ffurf bresennol. Unwaith eto, mae Plaid Cymru wedi gwneud pob ymdrech i ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru a’i chefnogi doed a ddelo. Er bod rhai cyhoeddiadau sydd i'w croesawu yn y datganiad hwn, mae cymunedau ledled Cymru yn dal wedi eu gadael ar ôl.
Wrth gwrs, rwy’n dymuno o ddifrif y bydd y gyllideb ddrafft hon yn cyflawni i gymunedau Cymru lle y mae cymaint o rai eraill wedi methu o’r blaen, ond maddeuwch i mi am fod braidd yn amheus, o gofio bod y canlyniadau mewn cynifer o feysydd o fywyd cyhoeddus yn dal i fod mor annigonol. Wrth i ni symud i gam nesaf y pumed Cynulliad, mae ein gwlad yn parhau i gael ei thagu gan economi sy'n tanberfformio, sy'n gweld teuluoedd yng Nghymru yn ennill y cyflogau isaf ym Mhrydain—ac mae hyn yn ôl dadansoddiad ystadegol Llywodraeth Cymru ei hun. Yr wythnos diwethaf, gosodwyd system addysg Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU gan astudiaeth mynegai cynnydd cymdeithasol rhanbarthol yr UE—ac nid dyna’r astudiaeth gyntaf i wneud hynny. Mae iechyd y cyhoedd, hefyd, yn parhau i fod yn bryder mawr. Amlygodd arolwg iechyd Cymru fod lefelau gordewdra yn cynyddu ac mae nifer yr achosion o ddiabetes wedi mwy na dyblu er 1996. Mae'r materion hyn, yn ystyfnig, yn dal i fodoli.
Wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol bod pob punt a warir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gwario'n effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru a phwyslais o'r newydd ar ganlyniadau. Nid oes neb yn gwadu ein bod wedi bod drwy gyfnod economaidd anodd ac mae Llywodraeth y DU wedi gorfod cymryd penderfyniadau economaidd caled i gael yr economi yn ôl ar y trywydd iawn. Wrth gwrs, ar yr un pryd, mae pleidlais y refferendwm i adael yr UE yn codi cyfres gyfan o gwestiynau ynglŷn â chynllunio cyllidebau yn y dyfodol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa effaith y mae canlyniad refferendwm yr UE wedi ei gael ar brosesau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y pumed Cynulliad a pha waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers canlyniad y refferendwm o ran ei phrosesau cyllidebol a’i rhagolygon economaidd cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?
Nawr, gan droi at rai o'r prif ffigurau o gyhoeddiad heddiw, wrth gwrs, rwy’n croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi ei neilltuo i'r gyllideb iechyd, ac rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn mynd ran o’r ffordd i fynd i’r afael â’r materion gwirioneddol sy'n wynebu ein GIG. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio yr anhawster o ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru o'i gyfnod o fod yn Weinidog iechyd, ac felly efallai y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd cyllideb heddiw yn tynnu’n ôl ar y canoli gwasanaethau yr ydym wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn llenwi’r bylchau mewn darpariaeth sy’n bodoli mewn rhannau o’r gorllewin, y canolbarth ac, yn wir, y gogledd. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau mewn gwirionedd ar gyfer y cofnod y prynhawn yma, yn wyneb yr adroddiadau niferus yn beirniadu cyllid GIG Cymru, ei fod bellach yn gwbl ffyddiog bod y gyllideb ddrafft hon yn fforddiadwy ac y bydd yn cefnogi’r GIG yng Nghymru mewn modd digonol?
Fel y gwyddom, mae costau uwch i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, ac felly mae'n bwysig bod yr ardaloedd hyn yn cael eu blaenoriaethu'n ddigonol mewn unrhyw gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n deall y bydd llywodraeth leol yn cael setliad arian gwastad yn y gyllideb ddrafft hon, ond, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym heddiw sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ac a fydd awdurdodau gwledig yn cael eu blaenoriaethu, o gofio eu bod wedi dioddef sawl toriad sylweddol yn y gorffennol? Mae’n rhaid cydnabod yr heriau y mae awdurdodau gwledig yn eu hwynebu yn y gyllideb hon, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd y gyllideb hon yn mynd i'r afael yn benodol â'r heriau y mae awdurdodau lleol gwledig yn eu hwynebu.
Mae datganiad heddiw yn cynnwys £30 miliwn yn ychwanegol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach, sydd yn sicr i'w groesawu. Rwy'n siŵr bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon eisiau gweld system addysg gref yng Nghymru sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n bosibl i’r £30 miliwn ateb pob un o broblemau Cymru o ran addysg uwch ac addysg bellach, ond gallai’r arian hwn wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gynigion newydd fydd yn cael eu rhoi ar waith gyda’r arian ychwanegol hwn a sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gau'r bwlch cyllido rhwng addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr? O ran colegau addysg bellach, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu i golegau a pha feini prawf y bydd yn rhaid i'r colegau eu bodloni i gael unrhyw gyllid ychwanegol?
Lywydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw wariant drwy'r Cynulliad hwn yn effeithiol a’i fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau rheng flaen allweddol ar gyfer pobl Cymru. Roeddwn yn siomedig dros ben, fel llawer yn y Siambr hon, yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan nad yw'n rhoi’r hyder na’r manylder sydd ei angen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y bydd y Llywodraeth yn profi canlyniadau unrhyw gyllideb yn y Cynulliad hwn, mewn gwirionedd, os nad oes unrhyw dargedau ar gyfer cymharu yn eu herbyn? Yn hollbwysig, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau gwerth am arian ar draws meysydd portffolio pan mai dim ond ychydig iawn o fanylion sydd yn y rhaglen lywodraethu i fesur cynnydd ei chyllideb? Felly, wrth gloi, felly, Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad heddiw? Mae fy nghydweithwyr a minnau yn edrych ymlaen at graffu ar y gyllideb ddrafft ymhellach yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Diolch.
Diolch i Paul Davies am ei gyfraniad. Rwy'n cymryd yn ganiataol, mewn gwirionedd, ein bod yn rhannu uchelgais ar draws y Cynulliad i sicrhau bod yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol, ei fod yn creu gwelliannau gwirioneddol ym mywydau pobl a'n bod yn gwario'r arian sydd gennym yn y modd sy’n cael yr effaith fwyaf. Rwy'n edrych ymlaen at graffu’n fanwl ar y gyllideb o’i chymharu â’r meini prawf hynny a fydd yn dilyn datganiad heddiw.
Roedd cyfres o gwestiynau penodol yn yr hyn a oedd gan Paul Davies i’w ofyn, felly ceisiaf fynd i'r afael â’r rheini, Lywydd. Cyn belled ag y mae effaith y refferendwm yn y cwestiwn, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull deuol i geisio ymateb i hynny. Mae’r effeithiau uniongyrchol o ran y cyllid sy'n dod o Ewrop i Gymru, a’n galwadau dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr y dylai pob ceiniog a ddaw o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru fod wedi dwyn peth ffrwyth yn y ddau ddatganiad a wnaed gan Ganghellor y Trysorlys, gan roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y cyllid hwnnw i Gymru. Rwy'n falch o weld hynny ac rwy’n gobeithio gweld mwy o hynny yn y dyfodol. Yr her yn y tymor hwy i Lywodraeth y DU, ac yna i Gymru, fydd yr effaith hirdymor ar economi'r DU yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n gwbl amhosibl i ni wneud asesiad dibynadwy o hynny yng Nghymru pan fo gennym gymaint o ddiffyg eglurder o ran Llywodraeth y DU ynglŷn â’r telerau gadael y maent yn ceisio eu sicrhau. Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i ddod i gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn cymryd sylw llawn o fuddiannau Cymru, gan gynnwys mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad rydd.
Gofynnodd Mr Davies gwestiynau am y gyllideb iechyd i mi. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yr ydym yn ei roi i’r gyllideb iechyd yn y gyllideb ddrafft hon yn ddigonol i fodloni bwlch Nuffield. Bydd yn parhau ein polisïau o symud gofal o ofal eilaidd i ofal sylfaenol, bydd yn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd ati i wneud y gwaith rhyfeddol sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y cyfnod diweddar wrth gynyddu'r gyfran o wasanaethau salwch cronig sy'n cael eu darparu y tu allan i'r ysbyty—un o'r rhesymau pam y mae adroddiad Nuffield a'i olynwyr wedi dod i'r casgliad bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol, ar yr amod—a dyma'r pwynt allweddol mewn gwirionedd, Lywydd, y bydd Aelodau ar ochr y Ceidwadwyr eisiau ei glywed—bod gwasanaethau cyhoeddus, yn y dyfodol, yn cael cyfran deg o'r twf yn yr economi. Nid yw lywodraeth leol, yn y gyllideb arfaethedig hon, a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, wedi cael unrhyw doriadau o gwbl yn yr arian sydd ar gael iddi. Rwy'n ofni y bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan yfory, pan fyddaf yn cyflwyno’r setliad arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol, i weld sut y mae hynny'n effeithio ar awdurdodau unigol.
Roeddwn yn ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd addysg bellach ac addysg uwch. Bydd y £30 miliwn ychwanegol yr ydym wedi gallu dod o hyd iddo ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn cael ei defnyddio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a bydd hi’n gwneud hynny mewn modd sy'n gyson â'n huchelgeisiau ar gyfer gweithredu adolygiad Diamond.
Yn gyntaf, hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd cyllid am ei ddatganiad heddiw, ac am yr alwad ffôn a gefais i gynnau hefyd ganddo fe, ond yn fwyaf oll, wrth gwrs, am y broses o gyd-drafod gyda fe dros gyfnod o fisoedd dros yr haf. Wrth gwrs, mae’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn ffrwyth y trafodaethau aeddfed hynny roeddem ni yn gallu eu rhoi yn sylfaen i’r datganiad y mae e newydd ei roi. Wrth gwrs, roedd yna gyfaddawdu—mae’n rhan annatod o unrhyw drafodaeth rhwng dwy blaid—ond a gaf i dalu teyrnged iddo fe am y ffordd adeiladol, creadigol, call ac ystyrlon a oedd yn nodweddu ei ddynesiad ef at y trafodaethau hyn? Mae’n gytundeb rŷm ni’n falch iawn gyda fe ym Mhlaid Cymru—y ddêl fwyaf erioed rhwng Llywodraeth Cymru ac unrhyw wrthblaid: £119 miliwn ar gyfer addewidion maniffesto Plaid Cymru, y blaenoriaethau sy’n adlewyrchu uchelgais Plaid Cymru yn nhermau sgôp a sylwedd, ond yn bwysicach fyth, rhai a fydd yn arwain at welliannau go iawn i fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru; £30 miliwn ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, ac rwy’n falch o weld Paul Davies yn croesawu hynny a dweud y gwir; £50 miliwn ar gyfer y sector twristiaeth y clywsom ni sôn amdani gynnau gan y Prif Weinidog; £5 miliwn ychwanegol ar gyfer yr iaith Gymraeg, ac yn y blaen. Mae’r rhestr yn rhy hirfaith i fi fynd drwyddi yn llawn, ond yn sicr, mae’n cynrychioli dêl arbennig o dda i bobl Cymru.
The agreement delivers on many of our key commitments as a party, set out in the manifesto upon which all Members elected as Plaid Cymru Members stood for in this Assembly election. It’s the mandate that we have been given by hundreds of thousands of our fellow citizens. I may be paraphrasing someone who has been a political mentor of mine by saying that it is always important that Plaid Cymru makes full use of its position to secure tangible improvements to the lives of the people in Wales. That is what democratic politics, ultimately, is all about; not grandstanding and carping on the sidelines, but delivering real improvement for the people of Wales. Often, in politics—[Interruption.] Often in politics, we can do more when we work across party boundaries, when we look for that common ground and we welcome that opportunity to deliver, together, the kind of changes that the people of Wales themselves want to see.
There will of course be aspects of the broader budget that we will disagree with. We will be seeking to discuss and amend the draft, and the budget process, as we go through scrutiny at committee level and on the floor of the Assembly, affords us all that opportunity to improve upon the draft budget. Our party, along with other stakeholders in wider society in Wales, will be seeking to be part of that wider engagement as well.
I have a few questions for the Cabinet Secretary, briefly. He has already referred to the autumn statement. The finance spokesperson of the Conservative Party referred to the ‘chokehold’ that we’re facing. Well, if we are talking about public finances, the real chokehold is being put there by a Conservative Government in Westminster that has actually left us with hard Brexit and austerity; it may be austerity lite, but I’m not convinced of that. That’s the chokehold. That’s the difficult context that we are looking at. But, could the Cabinet Secretary say a little bit more about the potential differential effects of the autumn statement in terms of the revenue or capital budgets, and perhaps give us some greater detail on how the changes that may need to be put in place as a result of the autumn statement will affect our revision process here?
I’m sure that the Cabinet Secretary will agree that one of the positive and unique features of this budget agreement, because it actually is embedded as part of a wider process with the finance liaison committee and the wider compact, is that it also contains a forward work programme beyond the budget agreement. One of the areas that we are keen to explore together is this vital area of improving effectiveness, which was referred to, and efficiencies within the public sector, broadly, which are absolutely vital, of course, if we are to deal with some of the fiscal challenges and the other pressures on public services that we will face. Finally, we will have a statement on the national infrastructure commission, so I won’t intrude too much on that subject. We have seen a significant reduction in capital expenditure compared to the beginning of this decade. The finance Secretary did refer to some of the innovative sources of finance that he is exploring in order to fill this gap, so that we can actually continue to increase and accelerate the rate of increase in infrastructure investment. Could he say a little bit more about what work is being done to take that forward?
A gaf i ddweud gair o ddiolch i Adam Price am yr hyn a ddywedodd wrth gyflwyno ei gwestiynau?
I will go immediately to the specific questions that Adam Price raised. He’s absolutely right to point to the fact that we are having to lay our budget before the Assembly in advance of the autumn statement, where the Chancellor promises a fiscal reset, and where we have to make our judgments without knowing exactly how that reset is to be brought about. As a result, I have had to make a series of judgments with Cabinet colleagues.
As far as the capital budget is concerned, I have made a judgement that, based on what we are able to read from the various statements that the Chancellor has made—most recently, perhaps, in Washington—that he has an intention of not reducing capital investment in the UK economy and that we may even see some modest investment—welcome as it would be—taking advantage of historically low interest rates and so on to give some boost to infrastructure spending. For that reason, I feel confident in laying a four-year capital budget.
The uncertainty over revenue is why I've been confined to a one-year revenue budget. When Members have an opportunity to study the budget in more detail, they will see that, in the draft budget, I propose to take a higher than usual revenue reserve into next year. That is there as a precaution against the autumn statement reducing the level of revenue available to the Welsh Government next year. And if people think that that is just a remote possibility, there’ll be Members here who’ll recall that only last year there were £50 million-worth of in-year revenue cuts that the Welsh Government had to absorb. What I am anxious to avoid is having to reopen the very detailed discussions that I've had with Cabinet colleagues over the summer, and, indeed, with Plaid Cymru, to be able to lay the budget that I'm able to today. If there are to be further cuts to the Welsh Government's revenue budget next year, I'd rather be able to deal with those through the reserve than by asking colleagues to absorb further reductions. If we don't face such a reduction next year, then I'll look to make some further adjustments to that reserve in advance of the final budget.
Adam Price drew attention to the forward work programme that's been agreed for the finance liaison committee. I thought it was an important part of our agreement to be able to identify that forward work programme. There are some very significant and long-term matters that we have agreed to address jointly, and I look forward to the opportunity to be able to move beyond the inevitable dealing with the detail that we’ve had to do over recent weeks to grapple with some of those matters.
Finally, I was asked a question about capital, and Adam Price is absolutely right to point to the fact that the capital available to public services in Wales will have reduced by a third between 2009 and 2019, and we have had to work hard to find ways in which we can bridge that gap. The budget in front of Members today deploys to the fullest extent the new borrowing ability that we have agreed with the UK Government. It builds on the work that my predecessor, Jane Hutt, did in taking advantage of the borrowing ability of housing associations and local authorities where we provide the revenue consequences of that borrowing. I look forward, as well, to the development of further innovative financial instruments to take forward, as I said in my statement, the new cancer centre at Velindre and the complete dualling of the Heads of the Valleys road.
Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a’r rhybudd amdano ymlaen llaw, ond mae’n rhaid fy mod wedi colli ei alwad ffôn. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi cael copi o'r gyllideb yn ystod datganiad y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] O wel, ta waeth, ta waeth. Rwyf wedi bod yn gwneud fy ngorau i o leiaf sganio’r gyllideb ers fy nghwestiwn yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, gan wrando, wrth gwrs, ar yr un pryd, ac yn sicr mae agweddau ar y gyllideb hon y byddem yn eu croesawu, yn enwedig y cynnydd mewn gwariant ar iechyd. Rwy'n credu ei fod tua 4 y cant ar gyfer iechyd, lles a chwaraeon yn gyffredinol, a 5.4 y cant ar gyfer yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei alw’n ‘wasanaethau craidd y GIG’. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi ychydig mwy o eglurder am y £240 miliwn ychwanegol hwn ac yna’r £44 miliwn ychwanegol y cyfeiriodd ato, rwy’n credu, o ganlyniad i alwad Plaid Cymru, ac yn arbennig y £20 miliwn sydd wedi’i glustnodi i iechyd meddwl—sydd i’w groesawu, er mai dim ond un rhan o ddeuddeg o'r cynnydd ydyw—a'r £15 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer diagnosteg? A yw’r ddau neu'r naill neu'r llall o'r rhain wedi’u cynnwys yn y £44 miliwn?
Hoffwn groesawu yn arbennig y £7 miliwn ychwanegol ar gyfer hyfforddiant meddygol. Mae’r ychwanegiad gofal diwedd oes o £1 filiwn i'w groesawu yn amlwg, ond, rwy’n ofni mai dim ond piso dryw bach yn y môr ydyw yn y maes hwnnw
Pam na wnewch chi roi'r arian o Frwsel i ni? Yna byddai gennym ddigon o arian i dalu amdano.
Rydym yn edrych ymlaen at yr arian ychwanegol o Frwsel, a fydd yn rhoi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn sefyllfa dda maes o law, ar ôl i ni adael.
Y datganiad Plaid Cymru a gawsom yn gynharach gan Adam Price—rwy’n credu iddo ddweud bryd hynny ‘y byddwn yn cyflawni gyda'n gilydd’, ac rwy’n credu iddo gael ei ddyfynnu yn y cyfryngau yn gynharach gan ddweud y byddai amseroedd aros yn y GIG yn cael eu lleihau oherwydd yr ymyrraeth hon gan Blaid Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym i ba raddau yr ydym i ddwyn Plaid Cymru i gyfrif am ei swyddogaeth wrth gyflawni’r gostyngiad hwn mewn amseroedd aros, neu a yw'n rhywbeth y mae ef yn parhau i gymryd y cyfrifoldeb llwyr drosto ei hun a chyda’r Llywodraeth Cymru ffurfiol?
Y tu hwnt i’r maes iechyd, lle’r wyf yn credu bod cynnydd i’w groesawu, rydym yn nodi bod llywodraeth leol yn cael cynnydd o 3.1 y cant, sy’n gyfalaf bron i gyd, rwy’n credu—£123 miliwn—ac rwy’n credu bod hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, cefais lythyr ar ddechrau'r eleni yr oeddwn yn ei groesawu'n fawr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dweud wrthyf, mewn gwirionedd, nad oeddent yn mynd i gynyddu fy nhreth gyngor wedi'r cyfan, oherwydd bod y setliad grant wedi bod yn fwy hael nag yr oeddynt wedi’i ragweld. Eleni, rydym yn clywed bod £25 miliwn arall diolch i Blaid Cymru, ac rydym yn cael gwybod hefyd, am y flwyddyn gyntaf mewn pedair, y bydd cynnydd yn y grant heb ei neilltuo. A allwn ni fforddio hyn i gyd? Rwy'n siŵr bod croeso mawr i hyn gan gynghorwyr Llafur a Phlaid Cymru sy’n sefyll i gael eu hail-ethol fis Mai nesaf, ond o ystyried yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud am y pwysau cyffredinol, onid y risg yw y bydd toriadau sylweddol iawn yn dilyn yr etholiadau hynny, ac o gofio haelioni cymharol y setliadau gwario ers i’r cyni ddechrau yn 2010 i Gymru ym maes llywodraeth leol, yn sicr o'i gymharu â Lloegr? Nid wyf yn awgrymu o gwbl ein bod yn ailadrodd y toriadau a wneir yno. Yn sicr, mae’r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a’r integreiddio gyda'r GIG i’w groesawu. Ond a yw’r Gweinidog yn gallu parhau i ddiogelu llywodraeth leol i'r graddau y mae’n ei ddweud yn y gyllideb hon?
Y £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach—rydym yn cefnogi rhai o'r ychwanegiadau addysg bellach hynny. Mae'r arian ychwanegol ar gyfer addysg uwch, dywedir wrthym, ar gyfer y pontio i'r trefniadau cymorth i fyfyrwyr newydd, y dywedwyd wrthym eu bod yn mynd i fod yn niwtral o ran cost, neu, yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr, yn arbediad o £48 miliwn. A all y Gweinidog gadarnhau pa mor niwtral o ran cost neu fel arall y bydd y newidiadau hyn, ac a yw ef, o ystyried ei hanes hir o wleidyddiaeth adain chwith flaengar, yn ystyried bod y rhoddion hyn o grantiau prawf modd i deuluoedd sy'n ennill rhwng £50,000 ac £81,000 yn flaenoriaeth iddo ef, gan gynnwys hefyd y £1,000 ar gyfer teuluoedd sy'n ennill hyd yn oed mwy na hynny? A yw'n bosibl y gallem chwilio am rai arbedion yn y maes hwn o ystyried y newidiadau eraill a'r pwysau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei nodi yn ei gyllideb?
O ran trafnidiaeth, rydym yn croesawu'r astudiaeth i'r llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, ac o bosibl ailagor hwnnw, er am £300,000 nid ydym yn hollol siŵr, o ystyried yr heriau, faint y mae hwnnw yn mynd i arwain ato. Ond rydym yn ei groesawu yn gyffredinol. Roedd hyn yn ein maniffesto yn ogystal ag ym maniffesto Plaid Cymru. Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi neilltuo mwy na £900 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer ffordd liniaru ar gyfer yr M4. A yw hynny'n ddigon o ystyried yr amcangyfrifon o gostau yr ydym bellach yn eu cael ar gyfer y llwybr du hwnnw? Dywedodd yr Athro Stuart Cole wrthyf yr wythnos cyn diwethaf ei fod bellach o’r farn y byddai’n costio o leiaf £1.2 biliwn, o’i gymharu â dim ond £0.5 biliwn ar gyfer ei lwybr glas neu £0.6 biliwn gyda’r ail gymal i fyny at yr A449.
Yn olaf gennyf i, hoffwn gyfeirio at bontydd Hafren a'r trefniadau codi tollau. Roedd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn dweud y byddai hynny’n fater i'w gytuno rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau Cymru. Nid yw'n ymddangos bod llawer o gytundeb, fodd bynnag, gyda’r dreth barhaus hon y mae Llywodraeth y DU yn mynd i roi ar y tollau ar ôl yr adeg y dylent gael eu diddymu oddeutu blwyddyn i nawr. A fydd hynny’n parhau ar ôl i’r ddyled honedig gael ei thalu, neu a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ymlaen gyda mi at rywbeth yn y gyllideb y flwyddyn nesaf i wneud cyfraniad tuag at gynnal a chadw er mwyn i’r tollau ar y pontydd hynny allu cael eu dileu?
Diolchaf i Mark Reckless am y rhannau hynny o'r gyllideb y gwnaeth gydnabod bod croeso iddynt. Ceisiaf fynd i'r afael â’i gwestiynau penodol.
O ran y cyllid iechyd meddwl sy'n rhan o'r £240 miliwn, mae'r £15 miliwn ar gyfer diagnosteg yn rhan o'r rhaglen gyfalaf a ddarparwyd i'r prif grŵp gwariant iechyd, ac, wrth gwrs, yn sgil y buddsoddiad hwnnw, bydd yr amseroedd aros ar gyfer diagnosteg yn parhau i ostwng ymhellach eto.
Mae'r £7 miliwn ar gyfer hyfforddiant yn ychwanegol at y £240 miliwn, ac yn sicr, ni ddylid ystyried yr £1 filiwn ar gyfer gofal diwedd oes yn biso dryw yn y môr. O ran y sector hosbis yng Nghymru, mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn ac rwy’n gwybod y bydd croeso mawr iawn iddo gan wasanaeth sydd y gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan.
Cyn belled ag y mae llywodraeth leol yn y cwestiwn, rwy’n falch iawn o fod wedi gallu darparu cyllideb heb dorri unrhyw arian i lywodraeth leol eleni, ond gadewch i mi ddweud yr hyn yr wyf eisoes wedi ei ddweud wrth lywodraeth leol: mae cyfnodau anoddach a dewisiadau anoddach o'n blaenau. Mae'r gyllideb a addewir i ni gan Lywodraeth y DU yn parhau i dorri’r adnoddau sydd ar gael i’r lle hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid oes unman lle y gall unrhyw un leddfu’r pwysau hwnnw. Yn anochel, mae’n siŵr o gael effaith ar ein partneriaid cyflenwi. Roeddwn yn awyddus i ddarparu cyfnod o 18 mis o sefydlogrwydd ar gyfer y gwasanaethau allweddol hynny, ac mae angen iddynt ddefnyddio'r amser hwnnw i baratoi ar gyfer y dewisiadau sydd o'n blaenau.
Cyn belled ag y mae addysg yn y cwestiwn, rwy’n hapus iawn i ddarparu copi o fy nhaflen ar gyffredinoliaeth flaengar— [Chwerthin.]—ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn ei mwynhau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau y mae gan ein holl ddinasyddion fudd ynddynt. Dyna sut yr ydych chi’n cael y gwasanaethau gorau. Ni fyddai defnyddio prawf modd fel y mae ei blaid ef mynnu ei wneud ond yn mynd yn ôl at yr hen ddywediad hwnnw bod gwasanaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer pobl dlawd yn fuan iawn yn dod yn wasanaethau tlawd/gwael. Y rheswm pam y mae gwasanaethau yn parhau i fod o'r safon y maen nhw mewn cymdeithas waraidd yw ein bod yn gwneud yn siŵr bod gan bawb—y bobl hyddysg yn ogystal â'r rhai sy'n ymgodymu, y bobl huawdl yn ogystal â'r rhai anhuawdl—eu rhan mewn gwneud y gwasanaethau hynny mor dda â phosibl. Dyna'r math o wasanaeth addysg yr ydym eisiau ei weld yma yng Nghymru.
Cyn belled ag y mae ffordd liniaru'r M4 yn y cwestiwn, rwyf wedi cynllunio’r gyllideb yn ofalus iawn fel bod y gwariant sydd ei angen ar Ysgrifennydd y Cabinet sydd â’r cyfrifoldeb y flwyddyn nesaf at ddibenion yr M4, ar gael yn uniongyrchol iddo yn ei bortffolio, ond bod gweddill y gwariant ar gyfer yr M4 yn cael ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn fel ein bod yn rhoi parch priodol i'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol sydd i’w gynnal. Byddwn yn gwybod, pan fydd yr ymchwiliad hwnnw wedi dod i ben, pa lefel o gyllid fydd angen ei sicrhau ar gyfer y dibenion hynny. Diolch byth, Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi gorfod mynd i'r afael â mater y tollau ar bontydd Hafren at ddibenion cyllideb y flwyddyn nesaf.
Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall ac mae'n bwysig bod nhw’n cael eu clywed hefyd. Felly, rwy’n mynd i ofyn am gwestiynau heb y rhagymadroddion, os yn bosibl. Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud bod yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i gytuno gyda Phlaid Cymru yn cynnwys llawer o’r materion y byddwn i, mewn gwirionedd, wedi bod yn gofyn iddo amdanynt, pe na byddai wedi gwneud hynny?
Polisi gwleidyddol yw cyni i'r Torïaid ac nid un economaidd. Mae'n ymwneud â chrebachu’r wladwriaeth. Mae'n cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gennyf dri chwestiwn. O ran iechyd, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y gyllideb iechyd, lles a chwaraeon bellach yn cynnwys dros 50 y cant o wariant a reolir a’i bod ychydig llai na hanner cyfanswm yr adnoddau a chyfalaf?
Ar lywodraeth leol, sy'n bwysig iawn i bobl Cymru, yn enwedig cymorth ar gyfer iechyd—mae pethau fel casglu sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, iechyd yr amgylchedd a thai i gyd yn chwarae rhan bwysig o ran cadw pobl yn iach—mae’r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau plant ac oedolion, yn aruthrol, a, byddwn i’n dweud, yn llawer mwy na'r pwysau ar iechyd. Rydym wedi trafod pwysigrwydd addysg yn gynharach. Pa wybodaeth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet am y pwysau ar wariant llywodraeth leol?
Y trydydd cwestiwn yw—cawsom ddatganiad am Gymunedau yn Gyntaf yr wythnos diwethaf, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud wrthym beth sy'n cael ei dorri o'r gyllideb o ran darpariaeth? Os na fydd Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli yn y ddarpariaeth, beth sy'n mynd i ddigwydd i rai o'r cynlluniau sy'n cael eu cefnogi gan Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd? A fyddant yn bodoli mewn ffurf arall, neu a fyddant yn diflannu?
Fel arfer, mae'n bosibl gwneud y syms mewn sawl ffordd wahanol. Fel y dywedodd Mike Hedges, mae cyfrifoldebau fy nghydweithiwr Vaughan Gething bellach yn cynnwys chwaraeon yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Yr amcangyfrif gorau sydd gennyf o gyfran y gwariant ar iechyd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yw y bydd yn parhau i fod yn is na 50 y cant o gyllideb y Cynulliad hwn.
Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwysau sydd ar wasanaethau cymdeithasol. Yn bersonol, nid wyf o’r farn mai’r ffordd orau o ystyried y pethau hyn yw ystyried bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol rhywsut yn cystadlu â'i gilydd. Ein nod yw gwneud yn siŵr eu bod yn cydweithio cymaint â phosibl.
Rwy'n clywed am y pwysau ar lywodraeth leol yn rheolaidd iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi ymweld â phob un o'r 22 awdurdod lleol yn y misoedd diwethaf, ac ni wnaeth yr un ohonynt golli’r cyfle i egluro wrthyf y pwysau sy'n eu hwynebu, ac mae’r negeseuon hynny yn dod i benllanw yn yr is-grŵp cyllid sydd gennym yma yn Llywodraeth Cymru, lle y mae gwleidyddion o lywodraeth leol ac arbenigwyr yn dod at ei gilydd i asesu'r pwysau hynny.
Cyn belled ag y mae Cymunedau yn Gyntaf yn y cwestiwn, fel y nododd Carl Sargeant yn glir yn ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, nid cyfres o benderfyniadau a ysgogwyd gan y gyllideb yw’r rhain. Bydd ef wedi penderfynu dwyn ynghyd yn ei bortffolio cyfres o ffrydiau gwariant mewn cyllideb ataliol newydd, sydd yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, ond hefyd Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Y polisi y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddilyn yw’r modd gorau o ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym, yn hytrach na sut i'w lleihau.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y ffordd aeddfed ac adeiladol y mae wedi trafod y gyllideb ddrafft gyda fy nghyfaill Adam Price? Bydd y gyllideb nawr, wrth gwrs, yn mynd i ymgynghoriad. Yn gyntaf oll, byddwch yn dod i’r Pwyllgor Cyllid bore yfory i ddechrau ar y broses yma. A gaf i ofyn i chi, ar ran y pwyllgorau i gyd a fydd yn edrych ar y gyllideb yn ystod yr wythnosau nesaf, a fedrwch chi esbonio pa rôl sydd gan wariant ataliol a hefyd pa ddylanwad y bydd gan Ddeddfau pwysig a gyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac a ydynt wedi dylanwadu ar y ffordd rydych wedi dosrannu’r gwariant yn y gyllideb ddrafft yma?
Dau gwestiwn penodol iawn hefyd, os caf i, ynglŷn â beth sydd yn y gyllideb fel rydym yn ei gweld ar hyn o bryd: a fedrwch chi gadarnhau, fel y mae’r Cynulliad yn dymuno, nad oes unrhyw doriad i gyllideb y cynllun Cefnogi Pobl, a bod hynny’n aros, fel rwy’n ei deall hi, heb doriad i’r gyllideb? A fedrwch chi ddweud beth sydd wedi digwydd i’r cynnydd o 1 y cant a wnaeth y Llywodraeth flaenorol ar gyfer gwariant ar ysgolion ac addysg o bump i 16 yn benodol? Yn ôl beth rwy’n gallu gweld, mae’r canllaw yna wedi diflannu o’r gyllideb yma. Os felly, a oes canllaw neu amcan gwariant mewn ysgolion sydd wedi llywio’r penderfyniad yn y gyllideb ddrafft bresennol?
Y cwestiwn olaf: a ydw i’n iawn i ddehongli eich ateb ynglŷn â’r M4 i olygu nad oes gwariant cyfalaf yn debygol o ddigwydd yn y gyllideb arbennig yma ar yr M4, ar wahân i, wrth gwrs, dalu am ymchwiliad cyhoeddus a phethau felly?
Diolch yn fawr i Simon Thomas am y cwestiynau. Rwy’n edrych ymlaen at y broses graffu. Rwy’n cydnabod nad yw Aelodau wedi cael cyfle eto i edrych trwy’r ‘budget narrative’ rwyf wedi ei gyhoeddi y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio y bydd mwy o fanylion ynddi am y pethau y mae Simon Thomas wedi eu codi. Rwy’n gallu dweud y prynhawn yma na fydd Cefnogi Pobl yn wynebu toriad i’w gyllideb.
The protection of 1 per cent, which was a feature of the last Assembly term, has not been possible to provide again in this Assembly term, but there are very significant investments in the education field. There is £20 million for general education improvement as part of the £100 million commitment that we made as a Government, and those budgets that are there as part of the pupil deprivation grant, which was a time-limited programme, will be taken forward next year. Nearly £90 million will now be available for those very important purposes.
As far as the M4 is concerned, just to repeat what I said, the money that the Cabinet Secretary will need for purposes next year is available to him through his own MEG, but the bulk of the expenditure that might be necessary for the M4, depending upon the outcome of the public inquiry, is held in reserve to make sure that that inquiry can be seen to be conducted with the independence that we need it to have.
Diolch. Yn olaf, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cynnes iawn i’r datganiad cyllideb hwn heddiw, a gyflwynir yn erbyn cefndir o amgylchiadau economaidd heriol iawn, iawn?
Rwy'n falch iawn o weld cymaint o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu yn cael eu hariannu yn y datganiad. Rwy’n croesawu yn arbennig yr arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, Weinidog, nid ydym wedi dilyn y trywydd y maen nhw wedi ei ddilyn yn Lloegr, lle’r ydym wedi gweld gostyngiadau llym dros ben mewn cyllid, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Rydym wedi bod o’r farn erioed bod y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn mynd law yn llaw yng Nghymru. A ydych chi’n gallu amlinellu pa gyllid ychwanegol sydd ar gael yn y gyllideb hon ar gyfer gofal cymdeithasol?
Rwy'n falch iawn â’r cyhoeddiad am ddiogelu cyllid llywodraeth leol hefyd. Mae fy awdurdod fy hun yn gweithio'n hynod o galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o dan amgylchiadau heriol iawn. Yn wahanol i Paul Davies, fodd bynnag, hoffwn gael sicrwydd ychydig yn wahanol ar ddyraniad y cyllid. Yn fy mhrofiad i, awdurdodau difreintiedig sydd yn aml yn dioddef o dan y fformiwla llywodraeth leol. Felly, hoffwn ofyn pa gamau yr ydych chi’n mynd i’w cymryd, ac yn amlwg rydym yn disgwyl cael mwy o fanylion yfory i sicrhau mai ein cymunedau mwyaf anghenus sy'n cael y diogelwch mwyaf.
Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am ei sylwadau agoriadol? Mae pob un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon wedi eu hadlewyrchu yn y gyllideb hon. Dyna pam mae hi’n gyllideb uchelgeisiol, gan ei bod yn ein rhoi ni ar y llwybr i gyflawni'r holl bethau allweddol hynny y gwnaethom eu rhoi gerbron pobl Cymru yn gynharach eleni. Rwyf yn cytuno’n llwyr â hi mai'r unig gam call i'w gymryd, o safbwynt y dinesydd, yw ystyried ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel continwwm lle maent yn cael gwasanaeth cyflawn, sy’n ymdrin â'r holl wahanol agweddau y maent eu hangen, a dyna pam yr ydym wedi parhau i sicrhau ein bod yn buddsoddi yn ein gwasanaethau gofal cymdeithasol, ar yr un pryd â rhoi’r buddsoddiad sydd ei angen arnynt i’n gwasanaethau iechyd.
O ganlyniad, yn ogystal â diogelu Cefnogi Pobl yn y gyllideb hon, byddwn yn parhau y flwyddyn nesaf i ddarparu'r £60 miliwn llawn a fuddsoddwyd eleni yn y gronfa gofal canolraddol—£50 miliwn mewn refeniw a £10 miliwn arall mewn cyfalaf. Ac yn y gyllideb awdurdodau lleol, yr wyf wedi ei gosod heddiw, mae £25 miliwn wedi ei glustnodi yn y gyllideb honno ar gyfer dibenion y gwasanaethau cymdeithasol, fel y clustnodwyd £21 miliwn ar gyfer y dibenion hynny eleni, er mwyn ei gwneud yn glir i’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol pa mor benderfynol yr ydym i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hynny yn ein cymunedau.
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ym mhob un o'r 22 o’r ymweliadau a wnes ag awdurdodau lleol, roedd pob awdurdod lleol yn gallu esbonio i mi pam yr oedd y fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn cosbi eu hanghenion a'u hamgylchiadau penodol nhw mewn modd unigryw. Pan fydd yr unigolion hynny’n dod at ei gilydd yn y grŵp cyllid, maent yn cydnabod bod ein fformiwla ariannu yn dod ag ystod eang o anghenion at ei gilydd, gan gydnabod natur wledig a theneurwydd poblogaeth, ond yn bendant iawn, gan gydnabod wrth ei gwraidd, yr angen cymharol rhwng ein cymunedau. Ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i drafod â'r Aelodau y modd y mae’r ystyriaethau hynny’n cyfrannu at y datganiad y byddaf yn ei roi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol brynhawn yfory.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.