– Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl UKIP, ac rwy’n galw ar Caroline Jones i wneud y cynnig. Caroline Jones.
Cynnig NDM6214 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai’r tro cyntaf, a’r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad â’r GIG yw drwy bractis cyffredinol.
2. Yn gresynu bod practisau cyffredinol, er gwaethaf hyn, yn cael llai nag wyth y cant o’r gyllideb iechyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu practisau cyffredinol drwy roi buddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, pobl a seilwaith.
Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig ger eich bron a gyflwynwyd yn fy enw i.
Y cyswllt cyntaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei gael yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yw drwy ein meddyg teulu. Diolch byth, i’r mwyafrif llethol ohonom, hwn yw’r unig gysylltiad â’r GIG. Mae ychydig o dan 2,000 o feddygon teulu yng Nghymru yn gweithio yn y 454 practis cyffredinol ledled Cymru. Er bod hyn yn swnio’n llawer, mae’n cyfateb i ychydig dros hanner meddyg teulu i bob 1,000 o gleifion. Hefyd, mae traean o boblogaeth Cymru sy’n oedolion yn dweud bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig, ynghyd â’r ffaith, yn y degawd diwethaf, fod niferoedd meddygon teulu wedi aros yn ddigyfnewid i raddau helaeth.
Rydym yn gwybod y bydd effaith cyflyrau cronig yn gwaethygu dros y degawdau nesaf wrth i nifer y bobl 65 oed a hŷn gynyddu oddeutu traean. Mae ein poblogaeth o feddygon teulu hefyd yn heneiddio, ac mae chwarter ein meddygon teulu bellach yn 55 oed a hŷn. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad yw swyddi hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr, Janet.
A fuasech yn cytuno â mi ei bod hi fel arfer yn gywir i Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog fod yn bresennol yn y ddadl i ymateb i chi ac i bawb arall ohonom sydd am gyfrannu at drafodaeth UKIP?
Nid mater i Caroline Jones yw hynny. Gallwch barhau gyda’ch araith.
Diolch. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad yw swyddi hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi, y ffaith fod llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol yn gynnar, a’r nifer fawr sy’n ceisio gweithio’n rhan-amser oherwydd pwysau gwaith, yn rysáit ar gyfer trychineb.
Mae ymarfer cyffredinol yn wynebu pwysau cynyddol a digynsail. Ceir bwlch sylweddol a chynyddol rhwng y galw arno a’i allu i ymateb. Nid yw’r pwysau hwn wedi’i gyfyngu i un ardal; mae ymarfer cyffredinol yn cael ei orfodi i geisio ymdopi gydag adnoddau annigonol, llwyth gwaith anghynaladwy, a gweithlu o dan bwysau sylweddol ar draws Cymru gyfan—[Torri ar draws.]
Ni allaf gymryd un arall, Jeremy, mae’n ddrwg iawn gennyf.
Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond sylwadau Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn rhybuddio ers tair neu bedair blynedd fod argyfwng ar y ffordd mewn ymarfer cyffredinol. Maent wedi bod yn galw am gynnydd yn nifer y meddygon teulu, ond weithiau cafodd eu galwadau eu hanwybyddu. Ydy, mae Llywodraeth Cymru yn gwrando: lansiwyd ymgyrch newydd ganddi ar gyfer recriwtio meddygon teulu ym mis Hydref, ond nid yw’n ddigon. Mae angen i ni recriwtio oddeutu 200 o feddygon teulu y flwyddyn. Yn lle hynny, rydym yn cael trafferth i lenwi 125 o’r lleoedd hyfforddi sydd ar gael bob blwyddyn. Bydd yr ymgyrch recriwtio newydd yn helpu, ond nid yw’n ddigon.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi gofyn am roi mwy o bwyslais ar fyfyrwyr o Gymru i astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru, gan mai’r myfyrwyr hynny sydd fwyaf tebygol o aros yng Nghymru. Mae Caerdydd yn gofyn am yr hyn sy’n cyfateb i wyth A* lefel TGAU ar gyfer eu cyrsiau. Mae llawer o’r meddygon sy’n gweithio yn y GIG heddiw wedi cyfaddef yn barod na fuasent yn ateb y meini prawf. Nid ydym yn gofyn am wneud cyrsiau’n haws, ond am ofynion mynediad mwy realistig, dyna’i gyd, a mwy o ffocws ar fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru.
Nid niferoedd y meddygon teulu’n unig sydd angen i ni eu cynyddu. Mae arnom angen Llywodraeth Cymru sydd â ffocws cryfach ar, ac ymrwymiad i ymarfer cyffredinol a gofal sylfaenol. Mae’r rhan fwyaf o gyllideb y GIG yng Nghymru yn mynd tuag at ofal eilaidd. Cyn 2004 roedd gwariant ar ymarfer cyffredinol dros 10 y cant o gyfanswm cyllideb y GIG. Roedd yna gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu, ar gyfer gwasanaethau newydd, cystadleuaeth am swyddi, mwy o geisiadau am leoedd hyfforddi nag o leoedd, a morâl yn uchel. Ers hynny, mae’r cyllid wedi gostwng i rhwng 7 ac 8 y cant, ac nid oes gan ymarfer cyffredinol ddigon o arian ar gyfer y gweithlu, y safleoedd na’r gwasanaethau. Dros yr un cyfnod, mae cyfraddau ymgynghoriadau wedi saethu i fyny a mwy o feichiau’n cael eu rhoi ar ymarfer cyffredinol gan ofal eilaidd.
Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod 84 y cant o feddygon teulu yn poeni y gallant fethu canfod rhywbeth difrifol oherwydd llwyth gwaith afresymol, ac mae 92 y cant o feddygon teulu yn poeni bod diffyg adnoddau yn rhoi gofal cleifion mewn perygl. Mae dros hanner y meddygon teulu a holwyd yn dweud eu bod naill ai wedi cynllunio i leihau eu horiau neu adael ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl o fewn y pum mlynedd nesaf. Mae 17 y cant o feddygon teulu wedi gofyn am gymorth ar gyfer straen sy’n gysylltiedig â gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwn am un meddyg teulu sydd fel mater o drefn yn gorfod gweld dros 100 o gleifion yn ystod sesiwn ymgynghori. Nid yw hyn yn dda i gleifion na meddygon.
Rydym yn gweld effeithiau’r pwysau ar ymarfer cyffredinol ar draws y GIG. Un o’r rhesymau pam y gwelwn ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’n hysbytai a phobl sy’n aros mwy na 12 awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yw o ganlyniad uniongyrchol i orweithio mewn ymarfer cyffredinol. Mae pobl nad ydynt yn gallu gweld eu meddyg teulu yn mynd i’r ysbyty.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi galw am gynyddu cyllid ar gyfer ymarfer cyffredinol i dros 12 y cant o gyllideb y GIG. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai mwy o wario ar ymarfer cyffredinol arbed dros £90 miliwn i’r GIG yng Nghymru erbyn 2020. Mae ffigurau’r coleg brenhinol yn seiliedig ar ymchwil manwl gan Deloitte. Mae’r ymchwil yn dangos y gallai cynnydd o tua £3.5 miliwn y flwyddyn ar ymarfer cyffredinol ar draws Cymru i dalu am bethau megis rhagor o feddygon teulu a nyrsys practis dorri dros chwarter yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys a sicrhau arbedion o tua £21.5 miliwn bob blwyddyn ariannol, gan godi at arbedion blynyddol o tua £34 miliwn erbyn diwedd y degawd hwn.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn cytuno bod angen i ni fuddsoddi a gwella’r seilwaith sydd ar gael i ymarfer cyffredinol. Mae angen i ni wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i wella gofal cleifion, cyflymu diagnosteg a symleiddio gwasanaethau. Mae meddygon teulu yng Nghymru yn dal i aros i ragnodi electronig gael ei gyflwyno, rhywbeth y mae eu cydweithwyr ar draws y ffin yn ei fwynhau. Mae rhagnodi electronig yn gwella profiad y claf, mae’n fwy diogel i gleifion ac yn lleihau’r baich gwaith ar feddygon teulu. Mae’r seilwaith TG sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru yn ofnadwy. Mae’n unfed ganrif ar hugain ac rydym yn dal i ddibynnu ar y post traddodiadol a pheiriannau ffacs. Mae gwelliannau, pan fyddant yn dod, yn araf yn cyrraedd. Mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith sydd gennym ar waith yn addas i’r diben, yn gallu addasu i anghenion y dyfodol ac yn lleihau llwyth gwaith ein meddygon teulu mewn gwirionedd, yn hytrach nag ychwanegu at y baich biwrocrataidd.
Gyd-Aelodau, rydym yn wynebu argyfwng mewn ymarfer cyffredinol. Bydd argyfwng sy’n cael ei adael i ddigwydd yn tanseilio ein gwasanaeth iechyd gwladol yn ei gyfanrwydd. Ni allwn barhau i anwybyddu’r broblem neu dincran â’i hymylon. Mae angen buddsoddi’n sylweddol mewn ymarfer cyffredinol, buddsoddi’n sylweddol mewn pobl, buddsoddi’n sylweddol mewn adnoddau a buddsoddi’n sylweddol mewn seilwaith. Ond mae angen y buddsoddiad hwnnw yn awr.
Anogaf yr Aelodau i ddangos i’n meddygon teulu gweithgar, neu ein meddygon teulu sy’n gorweithio, dylwn ddweud, ein bod yn eu cefnogi 100 y cant drwy gefnogi’r cynnig sydd ger eich bron heddiw. Ni fydd UKIP yn cefnogi’r gwelliannau gan Lywodraeth Cymru a byddwn yn gwrthod gwelliannau Plaid Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig am ei fod yn ychwanegu at y ddadl, ac nid yw’n tynnu oddi wrth y neges graidd yr hoffwn ei gweld yn mynd allan o’r Siambr hon heddiw.
Mae meddygon teulu ac ymarfer cyffredinol yn bwysig i ni. Hwy yw conglfaen ein GIG, a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod meddygon teulu yn cael y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn trin cleifion mewn modd diogel ac amserol. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 1, 3, 4, 5, 6 ac 8, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y meddygon teulu yn ystod y blynyddoedd diwethaf; yn nodi y bydd angen mwy o lawer o feddygon teulu i gydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn gwasanaeth gofal sylfaenol cryf; yn credu y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ategu a chefnogi’r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan feddygon teulu, ac na ddylid eu defnyddio i wneud y gwaith yn eu lle.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol, gofal eilaidd, a gofal cymdeithasol yn cydweithio i gynorthwyo cleifion i reoli eu cyflyrau yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar atal derbyniadau ysbyty; gan gydnabod y bydd angen cynllunio hirdymor priodol ar gyfer hyn, buddsoddi mewn seilwaith a pholisïau ehangach o du’r llywodraeth i hybu iechyd da.
Thank you very much, Llywydd.
Rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae’n ddadl amserol a phriodol, ac nid am y rhesymau y mae’r blaid gyferbyn yn ei feddwl efallai. Mae’n amserol oherwydd, unwaith eto, mae arweinydd newydd y blaid wedi cadarnhau mai nod hirdymor ei blaid yw preifateiddio’r GIG—[Torri ar draws]. Mae wedi cofnodi ei farn, unwaith eto, nad yw wedi newid ei feddwl fod holl fodolaeth y GIG yn mygu cystadleuaeth. Felly, rhaid i’r ddadl hon gael ei gweld yn y cyd-destun hwnnw. Yn anffodus, mae ffigyrau blaenllaw UKIP yn dal ati i wneud camgymeriadau mewn materion sy’n ymwneud ag iechyd. Rydym yn gwybod nad yw Nigel Farage yn credu nad oes unrhyw gysylltiadau rhwng ysmygu a chanser. Mae Roger Helmer wedi galw ar y GIG i ariannu therapi iacháu hoywon. Yr wythnos diwethaf, siaradodd y llefarydd iechyd yma yn erbyn trethu sigaréts ar y sail nad ydym wedi lleihau nifer yr ysmygwyr o ryw lawer. Gwiriad cyflym o’r ffeithiau hynny: 20 mlynedd yn ôl, roedd bron i 30 y cant o ferched 15 oed a bron i 25 y cant o fechgyn yn ysmygwyr. Yn awr, mae ysmygu ymhlith rhai yn eu harddegau ar ei lefel isaf erioed, gydag 8 y cant o fechgyn a 9 y cant o ferched yn unig yn ysmygu. Mae ysmygu ymhlith oedolion wedi gostwng o tua 30 y cant i 19 y cant dros yr un cyfnod, ond beth a ŵyr yr arbenigwyr, a beth y mae’r ystadegau yn ei ddangos, e?
Gan roi’r pwyntiau hynny i’r naill ochr, yn rhyfedd iawn, rydym yn cefnogi teimladau’r cynnig, ond rydym yn credu bod angen newidiadau sylweddol i adlewyrchu’n gywirach yr heriau a’r mathau o atebion sydd eu hangen arnom yn y GIG. Mae gwelliant 1 yn adlewyrchu’r ffaith fod y rhan fwyaf o gleifion sy’n cael gofal yn y GIG modern, yn amlddefnyddwyr y gwasanaeth mewn gwirionedd, pobl sydd angen cyswllt a gofal cyson gan wasanaethau iechyd sylfaenol i reoli eu cyflyrau cronig. Nid yw hyn yn ymwneud â’r defnyddiwr untro y mae ei gyswllt cyntaf a’i unig gyswllt gyda meddyg teulu.
Mae gwelliant 2 yn nodi pwysigrwydd gofal cymdeithasol da wrth gyfrannu tuag at y nodau hyn—rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano yma y prynhawn yma eisoes—gan nodi’r pwysau ariannol sydd wedi ei osod ar ofal cymdeithasol, yn ôl pob tebyg o ganlyniad i agenda adain dde nad yw’n deall rôl gofal cymdeithasol ac sy’n credu bod caledi yn ddewis gwleidyddol heb ganlyniadau.
Gwelliant 3: mae hwn wedi’i dargedu at Lywodraeth Cymru. Mae’n nodi y bydd meddygon teulu yn parhau bob amser yn ganolog i wasanaeth sylfaenol da. Rydym yn nodi’r gostyngiad yn y niferoedd, er bod y Llywodraeth yn hoffi dangos cyfres wahanol o ffigurau ar adegau. Mae’r ffeithiau’n glir: roedd gennym 2,026 o feddygon teulu yn 2013, a 1,997 o feddygon teulu yn 2015, sef yr ystadegau diweddaraf sydd ar gael. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn rhan hanfodol bwysig o ofal sylfaenol, ond ni ddylid eu defnyddio yn lle meddygon teulu. Dylid eu defnyddio, wrth gwrs, i ategu eu gwaith. O gyfrifiadau Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, nodwn ein bod angen 400, efallai, o feddygon teulu ychwanegol yng Nghymru. Mae’n ffigur na welwn unrhyw reswm i’w amau yn sicr, ac rwy’n tynnu eich sylw, wrth gwrs, at safbwynt hirsefydlog Plaid Cymru: fod angen i ni symud dros gyfnod o flynyddoedd tuag at gyflogi, hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol yng Nghymru.
Yng ngwelliant 4, dychwelwn at y gwrthddywediad ym mholisïau iechyd UKIP, drwy nodi bod llawer o feddygon teulu, er mawr syndod, nad ydynt yn Brydeinwyr mewn gwirionedd, ac os yw’r hinsawdd o elyniaeth tuag at weithwyr mudol y mae UKIP wedi helpu i’w danio yn parhau, efallai y byddant yn dewis gadael y GIG. Rwy’n meddwl tybed a ydynt o ddifrif ynglŷn â—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf; a hoffech ymyrryd?
Hoffwn, mewn gwirionedd.
Wel, buaswn yn ofalus iawn o’r hyn a ddywedwch.
Rwy’n teimlo bod hyn yn haerllug braidd. Rydych yn gyson yn gwneud sylwadau ar draws y Siambr ynglŷn â’r ffaith nad yw Neil Hamilton yn byw yma, ac yn byw yn Lloegr, ar draws y ffin, felly rwy’n meddwl bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn eithaf haerllug, mewn gwirionedd.
A allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth o hynny?
Gallaf. Rydym yn edrych arno o—
Fe gymeraf ymyriad arall, ar bob cyfrif, neu gallwn ddychwelyd at y pwnc dan sylw.
[Yn parhau.]—o Gyfarfodydd Llawn yn y gorffennol. O Gyfarfodydd Llawn yn y gorffennol. Mae’r dystiolaeth yno.
Rhun ap Iorwerth, nid oes unrhyw ymyrraeth. Ewch ymlaen gyda’ch araith.
Nid oes unrhyw ymyrraeth am fod yr Aelod, a bod yn hollol onest, yn bod yn chwerthinllyd.
Yng ngwelliant 5, rydym yn fwy penodol ynglŷn â sut y mae angen i ofal sylfaenol wella. Mae’n galw am gyfuniad o ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd lawer mwy, gyda buddsoddiadau’n cael eu gwneud yn y lle mwyaf priodol yn hytrach na gosod canrannau mympwyol, a gweithio ochr yn ochr â pholisïau ehangach y Llywodraeth sy’n hybu iechyd da—er enghraifft, trethu sigaréts yn drwm.
Yng ngwelliant 6, rydym yn nodi bod gwir angen i ni weld, ochr yn ochr â’r buddsoddiadau hyn—ac mae hyn yn rhywbeth y gwn fy mod wedi’i drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o achlysuron, gan gynnwys yn y Siambr hon—cymaint ag sy’n bosibl, ac ystod mor eang ag y bo modd o ddata perfformiad ar ofal sylfaenol yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd. Er mwyn mapio’r ffordd ymlaen ar gyfer gofal sylfaenol, mae angen i ni gael yr offer at ein defnydd, ac mae hynny’n sicr yn cynnwys cael y data cywir a’r data gorau at ein defnydd. Cefnogwch ein gwelliannau heddiw.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol. Cyn iddo wneud hynny, rwy’n siŵr y bydd yn awyddus i ymddiheuro i’r Siambr ac i gynigydd y cynnig heddiw am gyrraedd yn hwyr i’r ddadl.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a’r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru.
Yn wir, Lywydd. Rwy’n cydnabod mai fy nghyfrifoldeb yw bod yma ar amser, ac rwy’n ymddiheuro i’r cynigydd ac i’r Siambr am fod yn hwyr ar gyfer dechrau’r ddadl heddiw. Felly, rwy’n ymddiheuro heb betruso, ac rwy’n cynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Galwaf yn awr ar Angela Burns i gynnig gwelliant 7 yn enw Paul Davies. Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Gyda pheth anesmwythder rwy’n mynd i geisio arllwys ychydig o olew ar y dyfroedd cythryblus hyn, oherwydd rydym yn cefnogi eich cynnig yn llwyr. Ni all unrhyw un ddadlau pa mor anhygoel o bwysig yw ymarfer cyffredinol i gynnal a darparu gwasanaethau iechyd gwladol. Rydym hefyd yn cefnogi’r gwelliannau gan Blaid Cymru, oherwydd eich bod yn manylu ar y ffeithiau mewn gwirionedd, er fy mod yn meddwl eich bod yn ddrwg iawn, Rhun ap Iorwerth, yn ceisio priodoli pechodau ein tadau i ni, neu bechodau’r brawd mawr ar yr ochr arall i’r wal, oherwydd yma, mae’r blaid hon yn cefnogi gofal cymdeithasol yn fawr, ac rydym wedi dangos hynny ar sawl achlysur. Hoffwn ddweud hefyd, gan gyfeirio at welliant 5, nad yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn goddef unrhyw un sy’n ymosod ar, yn cam-drin neu’n dangos unrhyw elyniaeth at unrhyw aelod o’r gwasanaeth iechyd gwladol, gan fod hynny’n drosedd nad yw’n dderbyniol ar unrhyw lefel.
Mae gofal sylfaenol yn hanfodol bwysig i’n gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy’n ddiolchgar i chi am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy’n teimlo na allaf gefnogi gwelliant y Llywodraeth tan ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet siarad, oherwydd hoffwn weld beth y mae’n bwriadu ei wneud i gefnogi gofal sylfaenol, gan fy mod yn teimlo bod gwasanaethau gofal sylfaenol wedi’u hesgeuluso. Rydym yn credu y dylai fod yn flaenoriaeth flaenllaw i Lywodraeth Cymru, mewn ymdrech i wella’r GIG. Ran amlaf o lawer, daw cleifion i gysylltiad cyntaf â’r gwasanaeth iechyd drwy ymarfer cyffredinol, ac o’r herwydd, hwy yw un o’r agweddau pwysicaf ar y rhyngweithio rhwng y cyhoedd a’r GIG. Er gwaethaf hyn, rydym wedi gweld nifer y meddygfeydd yng Nghymru’n gostwng bron i 9 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae gofal sylfaenol o ansawdd yn hanfodol wrth leihau’r baich ar ein hysbytai a’n gwasanaethau brys. Po fwyaf o adnoddau y gallwn eu rhoi i’n meddygon teulu ar gyfer gwneud diagnosis yn gyflym a thrin cleifion, y mwyaf o le y gallwn ei ryddhau mewn mannau eraill yn y gwasanaeth iechyd. Rwy’n credu ein bod wedi gweld dro ar ôl tro o dan Lywodraeth Lafur Cymru fod amseroedd aros am driniaeth a diagnosis yn ein GIG wedi llusgo ar ôl. Rwyf am ddweud yn glir wrth Lywodraeth Cymru, nid am y tro cyntaf, mai’r hyn sydd fwyaf o’i angen, ac eto yr hyn sy’n cael ei esgeuluso fwyaf wrth geisio unioni’r anghysondeb, yw buddsoddiad ychwanegol mewn gofal sylfaenol.
Yng Nghymru, mae ein meddygon teulu yn ysbrydoledig yn eu gallu i wneud y gorau o’r hyn a roddir iddynt. Fodd bynnag, yn rhy aml nid oes ganddynt ddigon o adnoddau ac yn sgil hynny, ni allant ymdopi â’r sefyllfa eu hunain, gan eu gorfodi i atgyfeirio eu cleifion i ysbyty neu at arbenigwr. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG, ac mae angen i ni roi’r gallu i feddygon teulu gymryd cymaint o’r pwysau ag y bo modd oddi ar y sector gofal eilaidd.
Hoffwn roi un neu ddau o enghreifftiau o ble rwy’n gweld hyn yn gweithio. Dyma pam rydym wedi cyflwyno ein gwelliant ynglŷn â rôl hynod o bwysig y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n ymwneud â gwaith amlddisgyblaethol mewn practis meddyg teulu. Rwyf am gyfeirio at un enghraifft, Meddygfa Argyle Street yn Noc Penfro, sy’n un o’r meddygfeydd ymarfer cyffredinol mwyaf, os nad y fwyaf, yng Nghymru gyfan. Mae’r tîm gwaith amlddisgyblaethol y maent wedi’i roi at ei gilydd, ac sydd wedi bod yn weithredol bellach ers peth amser, wedi caniatáu i bobl gael eu gweld gan y person cywir ar yr amser cywir. Eu geiriau hwy yw’r rhain, nid fy ngeiriau i: maent yn dweud mai’r budd y mae’n ei gynnig yw ei fod yn caniatáu dilyniant gofal gan y person mwyaf priodol, ac nid oes rhaid i hynny olygu meddyg teulu; fod lleihad wedi bod yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty, gwell gofal i gleifion ac yn anad dim, cleifion sy’n fwy bodlon gyda’r gwasanaeth. Maent yn dweud ei fod yn galluogi pobl i arfer eu sgiliau a’u doniau, ei fod wedi arwain at well gofal diwedd oes a llai o gleifion sydd â chanser a chleifion heb ganser yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Yn fwy na dim, mae wedi cynyddu boddhad swydd.
Mae eu tîm amlddisgyblaethol—rwyf wedi bod yn ei weld, ac mae’n eithaf eithriadol. Maent wedi dwyn llu o bobl ynghyd, ac maent yn gweithio fel tîm ymroddedig sy’n ateb anghenion y claf. Mae gan Ddoc Penfro rai ardaloedd hynod o ddifreintiedig gyda phobl â phroblemau cymhleth a llawer o gydafiachedd, ac eto mae’r ffactor hapusrwydd yn cynyddu’n araf yno, oherwydd bod pobl yn deall eu bod yn gweld therapydd galwedigaethol yn eu cartref eu hunain; maent yn gallu cael mynediad at ffisiotherapydd heb orfod mynd i’r ysbyty; neu gallant weld yr un nyrs gofal lliniarol ag sy’n mynd i ofalu amdanynt drwy gydol y broses ddiwedd oes, nid ar y diwedd yn unig, ond o ddechrau’r diagnosis yr holl ffordd drwodd.
Dyna pam rwy’n credu ei bod mor hanfodol bwysig ein bod nid yn unig yn cydnabod pwysigrwydd y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond ein bod yn cydnabod bod yn rhaid i bractis meddyg teulu da yn yr unfed ganrif ar hugain gynnwys mwy na meddyg, a bydd y meddygon yn dweud hyn hefyd. Hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro i ni sut y mae’n mynd i sicrhau digon o arian a digon o hyfforddiant ar gyfer ymarfer cyffredinol er mwyn galluogi meddygon teulu i allu datblygu ar hyd y ffordd hon. Rwy’n sylweddoli bod y clystyrau’n dechrau gweithio’n dda mewn rhai ardaloedd, ond mae’n dal i fod anghysondeb o ran dilyniant mewn ymarfer ledled Cymru, ac mae angen i ni sicrhau y gall lle fel Meddygfa Argyle Street ddod yn batrwm ar gyfer ymarfer cyffredinol ledled Cymru mewn gwirionedd. Diolch.
Rwyf bob amser yn cael fy niddanu gan ddadleuon UKIP, am eu bod yn darlunio gwlad o oes a fu. Rwy’n edrych ar y cynnig y maent wedi’i gyflwyno heddiw a chlywn sôn yn unig am feddygon teulu—rydym yn gwneud eilun o’r meddyg teulu. Mae’n thema gyson fod UKIP yn paentio llun o’r 1950au, ac nid yw’r cynnig heddiw yn wahanol i hynny. Roedd yn fy atgoffa o rai o’u polisïau diweddaraf—y polisïau mwyaf od y maent wedi’u llunio, sy’n cydweddu’n llwyr â’r darlun gwladaidd hwn y maent yn ei baentio o’r Brydain wledig—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gadewch i mi ddatblygu rhywfaint ar fy mhwynt. Polisïau a awgrymwyd ganddynt chwe mlynedd yn ôl yn unig o wisg briodol yn y theatr, ailbaentio trenau mewn lliwiau traddodiadol, mwy o dyngu llwon o deyrngarwch i’r Frenhines, cwrw rhatach ac adfer mesurau imperial. Y 1950au yw hyn, pan oedd y meddyg teulu, wrth gwrs, yn echel y model gofal sylfaenol. Wrth ddarllen cynnig UKIP heddiw, gellid maddau i rywun am feddwl eu bod am ail-greu’r ymagwedd hon tuag at ofal iechyd sylfaenol heddiw.
Ond wrth gwrs, mae’r amser wedi newid. Mae’r galw wedi cynyddu—fel y nododd Caroline Jones yn ei sylwadau agoriadol ei hun, mae’r pwysau ar feddygon teulu yn sylweddol bellach. Mae meddygon teulu’n gweld mwy na 50,000 o gleifion y dydd. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar y system iechyd gyfan. Roeddwn yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli yn ddiweddar, ac fe eglurwyd wrthyf fod cyfartaledd oed cleifion yno yn awr yn 82 mlwydd oed. Felly, mae galw aruthrol ar y system gyfan, ac wrth gwrs, mae’n rhaid iddi newid i fodloni’r gofynion hynny.
Un o’r heriau y mae gofal iechyd modern yn ei hwynebu yw’r gallu i ddatblygu system newydd wrth weithredu’r hen system yn gyfochrog ar yr un pryd. Felly, fe fydd yna straen a brwydrau o bryd i’w gilydd, ond mae’r model newydd yn dod yn amlwg yn raddol. Mantais y model newydd yw ei fod yn parchu ac yn dyrchafu sgiliau a hyfforddiant meddyg teulu, ac yn eu rhyddhau i edrych ar yr achosion mwy cymhleth, tra bo rhai o’r pethau eraill y gallai meddyg teulu wedi eu gwneud yn draddodiadol, neu wasanaethau nad oeddent hyd yn oed yn bodoli yn ôl yn y 1950au yn wir, yn cael eu gwneud gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Felly, er enghraifft, mewn llawer o leoliadau gofal iechyd sylfaenol modern bellach, mae gennym ymarferwyr parafeddygol, fferyllwyr-ragnodwyr, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol, a phob un yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i bobl ar yr adeg y byddant ei angen, yn aml pan nad yw meddyg teulu yn gallu gwneud hynny. Er enghraifft, soniais yn gynharach fy mod wedi croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i feddygfa Minafon yng Nghydweli yn ddiweddar, lle y gwelsom fferyllwyr-ragnodwyr sy’n gweithio’n rhan-amser yn y feddygfa, ac sydd wedi gallu cynnal adolygiad o’r holl gleifion sydd ag asthma yn y practis, i adolygu eu meddyginiaeth ac i roi cyngor iddynt, sy’n rhywbeth na fuasai model dan arweiniad meddygon teulu yn unig wedi gallu ei wneud—ni fuasai ganddynt amser i fod wedi’i wneud. A hefyd, mae angen i ni dalu sylw i egwyddorion gofal iechyd darbodus—eich bod ond yn gwneud yr hyn na all neb ond chi ei wneud. Ac rwy’n meddwl bod y model newydd hwn yn gweddu’n berffaith i’r athroniaeth honno.
Wrth gwrs, mae yna heriau o ran gallu ailadrodd y model hwn. Fel y clywsom yr Ysgrifennydd Iechyd yn dweud yn gynharach, nid oes ond 15 o bractisau a reolir yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn amlwg pan fyddwch yn cael eich rheoli gan y bwrdd iechyd, mae gennych fwy o ryddid a hyblygrwydd i allu arloesi, ac i allu dechrau o’r dechrau ac ailosod model sy’n addas i’r diben. Mae’r system yn cael ei newid yn organig. Siaradais â meddygon teulu yn Llanelli yn ddiweddar, sy’n cael problemau gyda recriwtio—mae ganddynt feddygon yn mynd ar gyfnod mamolaeth, maent yn cael problemau enfawr i recriwtio, ac mae staff locwm, er enghraifft, bellach yn mynnu £1,500 y dydd mewn rhai achosion am ateb anghenion meddygfa, ac maent yn dweud wrth y feddygfa beth y maent am ei wneud, pa oriau y byddant yn eu gweithio, pa bethau y maent am eu gwneud am yr arian hwnnw, ac yn eu dal yn wystlon. Felly, mae yna straen enfawr ar wasanaethau meddygon teulu, ac mae’r model contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol dan straen enfawr ac angen ei newid. A dyna pam rwy’n credu bod cynnig UKIP yn gyfeiliornus, gan ei fod yn seiliedig ar fodel sy’n araf ddadfeilio.
Rydym wedi clywed sôn gan Angela Burns am y model clwstwr, sy’n anghyson yn ôl yr hyn a ddywedodd, ac rwy’n meddwl mai un o heriau’r model clwstwr yw ceisio annog meddygon teulu sy’n gweithredu o fewn y model contractwr presennol—a rhywbeth y mae pobl o’r tu allan i’r GIG yn aml yn anghofio yw mai busnes preifat yw hwn i lawer o hyd—mae angen i’r clystyrau meddygon teulu hyn annog y practisau i ddod ynghyd, i uno, ac mewn rhannau o Gymru’n unig y mae cefnogaeth ar gael i’r gwasanaethau ymarfer cyffredinol hyn allu gwneud hynny—cymorth ar gyfer contractau TG, cyllid, ac yn y blaen. Rwy’n meddwl bod Aneurin Bevan a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth i wneud hynny. Ac oherwydd bod hyn yn mynd â chymaint o le, nid oes gan lawer o bractisau meddygon teulu ofod i fod yn fwy strategol. A dyna ddychwelyd at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach—mae gennym yr her o ddatblygu model newydd o ofal iechyd, gan weithredu’r model presennol o ofal iechyd, sydd o dan straen enfawr, ar yr un pryd.
Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bryd i UKIP adael y 1950au, ymuno â ni yn y byd modern, a derbyn bod y meddygon teulu—[Torri ar draws.] Yn anffodus, David, nid oes gennyf amser ar ôl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad os gwelwch yn dda?
Mae fy amser ar ben, mae’n ddrwg iawn gennyf.
Oni wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae adlais yma. Mae fy amser ar ben, mae’n ddrwg gennyf.
A derbyn na all y model newydd ddibynnu’n syml ar feddygon teulu, fel yn y dyddiau a fu. Diolch.
Diolch i’r Aelod am gyflwyno’r cynnig hwn yma heddiw, ac fe wnaethoch hynny mewn modd huawdl a chytbwys iawn. Rwy’n croesawu’r ddadl hon, sy’n amlygu pwysigrwydd llwyr y rôl a chwaraeir gan ein meddygon teulu, ac nid wyf yn eu gwneud yn eilunod—fel yr awgrymodd yr Aelod fod fy nghyd-Aelodau yn UKIP yn ei wneud—ond maent yn gam cyntaf sylfaenol i unrhyw glaf sy’n ceisio cael diagnosis. Gofal sylfaenol yn wir yw’r pwynt cyswllt cyntaf â’r GIG i fwy na 90 y cant o’n cleifion, ac eto mae meddygfeydd yn fy etholaeth a ledled Cymru yn wynebu pwysau difrifol, gyda chleifion yn cysylltu â mi ynglŷn â mynediad yn ddyddiol. Terfynodd Meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy ei chontract â’r GIG y llynedd o ganlyniad i lwyth gwaith na ellid ei reoli, gyda’r ddau feddyg teulu yn gweithio 12 awr y dydd. Mae meddygfeydd Bae Penrhyn a Deganwy wedi gweld eu darpariaeth o feddygon teulu yn disgyn o bump i ddau. Sut rydych chi’n rheoli’r niferoedd hynny o gleifion—miloedd ohonynt?
Mae meddygon teulu yn dweud wrthyf yn awr fod y system ar ymyl y dibyn. Rydym wedi gweld blynyddoedd o danfuddsoddi cronig—do, Aelodau—ac mae 17 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, wedi’i chynnal gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi bod yn gyfrifol am gyllido ein gwasanaethau meddyg teulu ledled Cymru. Rydym wedi gweld y cyllid yn gostwng o £20 miliwn dros bedair blynedd a’r sector yn wynebu prinder staff difrifol a meddygfeydd yn cau, gan arwain at Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhybuddio bod meddygon teulu yng Nghymru yn wynebu storm berffaith o gynnydd yn y galw, llwyth gwaith cynyddol a gweithlu sy’n crebachu. Tynnodd Cymdeithas Feddygol Prydain sylw at ei chanfyddiadau yn yr hydref fod mwy na chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn awr yn ystyried gadael y proffesiwn. Mae 60 y cant yn teimlo nad oes ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, ac mae 80 y cant yn poeni am gynaliadwyedd eu darpariaeth eu hunain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd wedi’i ddisgrifio fel argyfwng yn y ddarpariaeth ymarfer cyffredinol.
Yn amlwg, mae’r system o dan bwysau aruthrol. Yn 2005-06, roedd gofal ymarfer cyffredinol yn derbyn dros 10 y cant o wariant y GIG; nawr, mae i lawr i lai nag 8 y cant. Lle y caiff buddsoddiad ei wneud, nid yw’n cael yr effaith a ddymunir. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi dweud am y £42.6 miliwn a fuddsoddwyd yn ddiweddar mewn gofal sylfaenol, fod unrhyw arian sy’n dod drwy’r system clwstwr i’w weld yn araf iawn yn gwneud unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd i’r rhan fwyaf o bractisau. Mae’r ffordd y mae’r clystyrau’n gweithio yn amrywio’n fawr ledled Cymru, felly mae hynny’n rhoi mwy o anghydraddoldebau i mewn yn y system.
Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi’n monitro hyn? Yn y Pedwerydd Cynulliad, galwodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr oeddwn yn aelod ohono ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae gan yr Alban nifer gryn dipyn yn uwch o feddygon teulu y pen na Chymru, gyda 8.1 i bob 10,000, o’i gymharu â 6.5 yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gostyngiad o naw wedi bod yn nifer yr ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru ers mis Medi 2014, i 1,997. Ar ben hynny, mae’r gyfran a’r nifer o feddygon teulu 55 oed a throsodd bellach yn 23 y cant o’r gweithlu. Felly, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod y gweithlu’n cael ei ddiogelu at y dyfodol cyn ymddeoliad haeddiannol llawer o’n meddygon teulu gweithgar.
Yn olaf, mae ein gwelliant, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, yn ceisio cydnabod pwysigrwydd y rhan y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis fferyllwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a pharafeddygon yn ei chwarae yn sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ddarparu’n effeithiol. Mae integreiddio a chydweithio effeithiol rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn lleddfu pwysau ar feddygon teulu. I gloi, mae’r pwysau aruthrol ar y sector yn golygu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn adnoddau, pobl a seilwaith. Dyma fy nghwestiynau, i orffen: a wnewch chi ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau gweithredu eich cynllun ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol heddiw ac effaith cyflwyno’r arweinydd clinigol ar gyfer gofal sylfaenol? Sut dderbyniad a gafodd y cynnig cyflogaeth ar ei newydd wedd a chymhellion i feddygon teulu sy’n dod i weithio yng Nghymru? Rydym eisiau gwybod. Ac yn olaf, sut rydych yn gweithio gydag ysgolion meddygol yng Nghymru i gynyddu profiad o ymarfer cyffredinol yn ystod hyfforddiant meddygol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r argyfwng yn y ddarpariaeth ymarfer cyffredinol yn real; nid yw gwadu’n opsiwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n croesawu’r ddadl heddiw, sy’n amlygu pwysigrwydd gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel, a’r cyfle i ymateb i rai o’r sylwadau a wnaed, ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws Cymru, ac mae hyn mewn cyferbyniad uniongyrchol â Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol i wella gofal i bobl ledled Cymru.
Rydym yn gwybod bod y galw am wasanaethau gofal sylfaenol meddygon teulu a gwasanaethau ehangach yn parhau i gynyddu, gydag oddeutu 19 miliwn o gysylltiadau â chleifion y flwyddyn. Dyma yw mwyafrif llethol y cysylltiadau rhwng cleifion a’r GIG ac mae’n gweithredu fel porth i ystod o wasanaethau eraill. Ac rwy’n cydnabod bod y gaeaf yn gosod pwysau arbennig ar bob rhan o’n system iechyd a gofal. Ni fyddai ein system gyfan wedi ymdopi heb ymrwymiad anhygoel y staff iechyd a gofal. Ac rwyf am nodi bod ymrwymiad o’r fath gan feddygon teulu heb gael ei wobrwyo’n hael o gwbl ar draws y ffin yn Lloegr, gydag ymgais gwbl gywilyddus gan y Prif Weinidog i feio meddygon teulu am bwysau’r gaeaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, rwyf am ddatgan yn gwbl eglur: nid dyna fy agwedd yma yng Nghymru, ac nid dyna fydd fy agwedd. Yn fwy na pheidio â beio meddygon teulu, gwneuthum y penderfyniad i weithredu mewn partneriaeth â Chymdeithas Feddygol Prydain pan euthum ati i lacio’r fframwaith ansawdd a chanlyniadau hyd at ddiwedd mis Mawrth, a dylai hynny leihau’r pwysau ar feddygon teulu a darparu mwy o amser ar gyfer cleifion. Mae’n enghraifft glir o’r modd y mae’r Llywodraeth yn gwrando ac yn gweithredu, a dyna’r adborth uniongyrchol a gefais gan feddygon teulu eu hunain.
Nawr, mae meddygon teulu eu hunain hefyd yn cydnabod yn gynyddol eu bod angen ac eisiau bod yn rhan o’r tîm gofal sylfaenol ehangach hwnnw. Bydd hynny’n golygu bod rôl meddygon teulu’n newid, lle y byddant yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion mwy cymhleth ac yn cydlynu tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn nodi camau gweithredu allweddol er mwyn darparu gwasanaeth mwy integredig ac amlbroffesiynol ym mhob cymuned. Ac yn gynyddol, mae’r timau hynny’n cael eu creu o amgylch ein 64 o glystyrau. Bydd y tîm yn cynnwys meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys, therapyddion, timau deintyddol, optometryddion, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, y trydydd sector ac eraill yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gofal cywir ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
Ac ymhell o fod yn fygythiad i ymarfer cyffredinol, fel yr oedd rhai yn ei ofni, mae’r dull newydd hwn wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth bellach gan ein cymuned o feddygon teulu. Rwyf wedi cyfarfod â nifer o feddygon teulu a oedd, a bod yn onest, yn gyffredinol amheus ynglŷn â’r dull clwstwr a thîm ehangach o weithredu, ond maent yn argyhoeddedig bellach mai dyma’r dull cywir ac na fuasent yn dychwelyd i’r ffordd y gwneid pethau yn y gorffennol. Ac mae’r defnydd o arian yn uniongyrchol wedi bod yn rhan bwysig o hynny. Nid wyf yn cydnabod sylwadau Janet Finch-Saunders nad yw hyn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn. Cyfarfûm â meddygon teulu heddiw, fel rwy’n ei wneud ar bob ymweliad ymarfer cyffredinol, sy’n gallu pwyntio at y cyswllt uniongyrchol a’r defnydd uniongyrchol o’r arian hwnnw a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’w clwstwr, oherwydd eu bod yn adnabod eu poblogaethau ac yn defnyddio’r arian hwnnw’n unol â hynny.
Mae’r £43 miliwn yr ydym wedi’i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi ychwanegol—meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, parafeddygon, therapyddion galwedigaethol ac eraill. Ceir nifer o enghreifftiau da iawn o uwch-ymarferwyr nyrsio yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Roedd un enghraifft dda a welais yn etholaeth Carl Sargeant, yn yr Hob, lle y mae hynny’n helpu’n fawr i ymdopi â rhai o’r anawsterau y maent wedi’u cael yn recriwtio meddyg teulu arall, ac maent yn cydnabod bod hynny wedi bod yn ychwanegiad pwysig iawn at eu tîm staff. Rwyf wedi gweld mwy o fferyllwyr yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan glystyrau i gefnogi meddygon teulu, i fynd â gwaith oddi wrthynt ac i ddarparu gofal o ansawdd gwell i’r etholwyr unigol hynny, ond gall ddigwydd er mwyn i’r meddyg teulu gael mwy o amser gyda chleifion y mae arnynt wir angen eu gweld. Wrth gwrs, Dewis Fferyllfa—rydym wedi siarad amdano o’r blaen—yw’r llwyfan sy’n golygu y gall ac y bydd rhagor o gymorth yn cael ei ddarparu mewn fferyllfeydd cymunedol ar draws y wlad.
Rwy’n falch iawn fod llawer o’r Aelodau wedi cydnabod, heddiw yn y ddadl hon ac mewn cwestiynau cynharach, swyddogaeth gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Angela Burns i gynllun peilot Argyle Street gydag iechyd galwedigaethol, a buom yn siarad yn gynharach am Gydweli a nifer o wahanol therapyddion yno yn ogystal. Ond yn benodol, mae gan ffisiotherapi rôl fawr i’w chwarae yn y dyfodol. Bydd hyd at 30 y cant o faich achosion meddyg teulu yn faterion iechyd cyhyrysgerbydol, ond gall ffisiotherapydd ymdrin yn effeithiol ag oddeutu 85 y cant o’r rheini heb fod angen iddynt weld meddyg teulu. Mae cynllun peilot yng ngogledd-orllewin Cymru wedi gosod ffisiotherapydd mewn pedwar practis meddyg teulu, gan arbed bron i 700 o apwyntiadau meddygon teulu dros dri mis. O ganlyniad, mae hynny bellach wedi’i ymestyn i gynnwys mwy na 40 practis ar draws gogledd Cymru. Felly, unwaith eto, dysgu o’r hyn sy’n gweithio a gwneud pethau’n wahanol, yn hytrach na meddwl yn syml am fodelau o’r gorffennol.
Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio ar y cyd â meddygon teulu yng Nghymru, a mynd i’r afael yn benodol â heriau recriwtio meddygon teulu, fel rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Nid yw’r heriau hyn yn unigryw i Gymru. Yr hyn sy’n unigryw yw’r dull o eistedd o gwmpas bwrdd yn siarad, trafod a chytuno ar yr hyn y dylem ei wneud. Felly, mae gennym yr ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol a lansiwyd ym mis Hydref 2016, sy’n dangos yn glir fod Cymru yn lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, i hyfforddi, gweithio a byw, a bydd gennyf fwy i’w ddweud am hynny yn y misoedd i ddod ac am ganlyniadau’r ymgyrch honno. Yn rhan o hynny, fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi cynllun cymhelliant. Felly, bydd hyfforddeion sy’n derbyn lle hyfforddi mewn ardal benodol sy’n anodd recriwtio iddi yn gymwys i gael taliad o hyd at £20,000, ac o fis Awst eleni, bydd y cynllun hwnnw’n dechrau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. Hefyd, cyflwynir ail gymhelliant o daliad untro o £2,000 at gostau arholiad pob hyfforddai ar raglen hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu er mwyn helpu i dalu am arholiadau terfynol ar ôl astudio yng Nghymru. Unwaith eto, mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r ddau fesur. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i edrych ar ble y bydd hyfforddiant meddygol yn digwydd, ar niferoedd hyfforddeion meddygol ac yn arbennig, wrth gwrs, ar gyfleoedd i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru o fewn hynny.
Rwyf am fod yn wirioneddol glir nad ydym wedi torri’r cyllid i ofal sylfaenol. Rwyf wedi fy aflonyddu gan rai o’r ffeithiau amgen heddiw sy’n awgrymu ein bod wedi mynd ag arian allan o ofal sylfaenol. Nid ydym wedi gwneud hynny o gwbl. Yn wir, ni fu ein buddsoddiad ariannol cyffredinol ar draws gofal sylfaenol erioed yn uwch. Yn 2015-16, roedd yn £878.5 miliwn. Roedd hynny’n 13.7 y cant o gyfanswm y gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ran canran, mae hynny’n fwy nag y mae’r Alban yn ei wario ar ofal sylfaenol ar yr un sail, o ran y diffiniad o ofal sylfaenol, ag y cytunodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn yr Alban. Yr her bob amser yw sut rydym yn rhannu cyllideb gyfyngedig i gyflawni ein blaenoriaethau sy’n cystadlu ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd a’r system integredig gyfan.
Cyhoeddwyd cyllid cyfalaf ychwanegol yn y gyllideb derfynol o £40 miliwn i ailbeiriannu’r ystad iechyd yma yng Nghymru ac i ddarparu mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn cael ei dargedu at y genhedlaeth newydd o ganolfannau i wneud yn siŵr ein bod yn darparu mwy o ofal yn nes at adref. Ond rydym yn gwybod bod meddygon teulu a’r tîm gofal sylfaenol ehangach yn wynebu her real iawn, ac nid yn y gaeaf yn unig. Dyna pam y mae gofal sylfaenol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Dyna pam y gelwais am ddigwyddiad cenedlaethol ym mis Hydref i ddod â byrddau iechyd at ei gilydd i edrych ar yr hyn y maent wedi’i wneud i fynd i’r afael â’u heriau, i ddeall beth yw’r heriau ar hyn o bryd, yr hyn y maent yn ei wneud yn eu cylch, faint o gefnogaeth sydd iddynt ymhlith cymunedau meddygon teulu a thu hwnt. Ac roedd yn ddiwrnod llwyddiannus, oherwydd roeddwn yn gallu gweld y ffordd y mae meddygon teulu yn cael mwy o ran a mwy o rôl arweiniol wrth bennu, gyda’u partneriaid yn y bwrdd iechyd, yr hyn y byddant yn ei wneud a chyda phwy y byddant yn ei wneud.
Rwy’n gyffrous iawn ynglŷn â’r cyfle i gael mwy o ddysgu ar draws ein system gyfan ac ni fydd hynny’n digwydd heb ffocws parhaus a phwyslais cyson ar bartneriaeth. Dyna sy’n fy nghalonogi’n fawr ynglŷn â’n clystyrau—yr ethos partneriaeth sy’n datblygu, y modd y mae meddygon teulu yn arwain eu tîm gofal iechyd sylfaenol lleol. Mae hynny’n rhan hanfodol o’n llwyddiant yn y dyfodol o ran gofal sylfaenol yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’n meddygon teulu a’n tîm gofal sylfaenol ehangach i ddarparu’r gwasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel y byddai pob un ohonom yn dymuno eu gweld.
Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ac rwy’n croesawu’r cyfraniadau a wnaed gan Angela Burns a Janet Finch-Saunders yn arbennig, a ychwanegodd at y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones yn ei datganiad agoriadol. Rwy’n anghymeradwyo’r modd y dechreuodd llefarydd Plaid Cymru ei araith heddiw, ac roedd yn sicr yn tynnu o gyfanswm gwybodaeth ddynol drwy gamliwio safbwynt fy mhlaid ar y gwasanaeth iechyd gwladol.
A wnewch chi ildio?
Ddim ar hyn o bryd, ond fe ildiaf yn nes ymlaen. Oherwydd fe safodd UKIP yn gadarn yn ei maniffesto ym mis Mai yng Nghymru, ac yn yr etholiad cyffredinol yn Lloegr y tro diwethaf, ar yr egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol wedi’i ariannu gan drethi ac am ddim i’r defnyddiwr yn y man darparu. Roedd yn sen ac rwy’n ofni ei fod wedi diraddio ansawdd y ddadl a diraddio ei hun drwy’r ffordd yr agorodd ei araith. Rwy’n siomedig, a dweud y gwir. Rwy’n siomedig gydag ef oherwydd bod gennym lawer iawn o gydymdeimlad â’r pwyntiau a wneir yng ngwelliannau Plaid Cymru, ar wahân i welliant rhif 5. Nid oes unrhyw wlad yn y byd eisiau mewnfudo cwbl ddigyfyngiad. Nid oes gennym fewnfudo digyfyngiad o weddill y byd y tu allan i’r UE, ond tôn gwelliant 5 yw bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu pob math o reolaeth ar fewnfudo mewn gwirionedd am eu bod yn ystyried hynny fel rhyw fath o hiliaeth a gynlluniwyd i gynyddu gelyniaeth tuag at fewnfudwyr. Y rheswm pam y ceir unrhyw elyniaeth tuag at fewnfudwyr heddiw i raddau helaeth iawn yw oherwydd methiant Llywodraethau i reoli mewnfudo. [Torri ar draws.] Mae Plaid Cymru yn amlwg yn methu derbyn y gwir—mae 86 y cant o’r wlad, yn ôl Papur Gwyn y Llywodraeth, sy’n dwyn enw arweinydd Plaid Cymru, am i fewnfudo gael ei leihau; nid yw Plaid Cymru eisiau hynny ac rwy’n hapus iawn i gychwyn ar ymgyrch etholiadol ar sail hynny.
Ac nid oes amheuaeth y byddwch yn gwneud cystal ag y gwnaethoch yn y gorffennol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae’n rhy hwyr yn awr. Nid oes gennyf amser ac a dweud y gwir nid wyf yn meddwl y byddai’n werth chweil. [Torri ar draws.] Ond rwyf am gyfeirio hefyd at—[Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl y bydd gennyf amser i ymateb i’r ddadl.
Mater i’r Aelod yw penderfynu a yw’n dymuno cymryd ymyriad ai peidio. Ewch ymlaen, Neil Hamilton.
Gresynaf hefyd fod fy ffrind, Lee Waters, wedi difetha yr hyn a oedd fel arall yn araith dda iawn y cytunwn i raddau helaeth â hi, drwy wneud rhai pwyntiau dychanol am UKIP yn dymuno mynd yn ôl i’r 1950au. Nid yw’n werth ymateb i hynny hyd yn oed. Hoffwn pe bai’r Aelodau yn y lle hwn yn cyrraedd y safon o ran y parch y maent yn ein hannog ni i’w ddangos ond sydd mor brin ganddynt hwy eu hunain mor aml. Fe ildiaf i Mark Isherwood.
A wnewch chi gydnabod—[Anghlywadwy.]—nad oes angen i chi fynd yn ôl ymhellach na phum mlynedd at yr adeg yr oedd Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn anelu ymgyrchoedd at Aelodau’r Cynulliad yn eu rhybuddio y buasem yn cyrraedd y fan hon, fod 90 y cant o gysylltiadau cleifion yn gysylltiadau ag ymarfer cyffredinol ac eto fod cyllid fel cyfran o gacen y GIG wedi gostwng, ac maent wedi gorfod ail-lansio’r ymgyrchoedd hynny yn awr am na wnaethant wrando.
Ac felly y pwynt yr hoffwn ei wneud i Lee Waters yw nad yw’r ffaith nad oedd ein cynnig yn sôn am lawer o bethau da eraill, megis y pethau y cyfeiriodd atynt yn ei araith, yn golygu ein bod am fynd â’r GIG yn ôl i’r 1950au neu ein bod yn gweld y problemau gyda lleihau’r gyfran o wariant y GIG ar feddygon teulu fel yr unig achos dros ei anawsterau. Rwy’n ofni nad yw Plaid Cymru yn rhan o’r ateb; maent yn rhan o’r broblem, oherwydd maent wedi cefnogi toriadau Llafur Cymru dros y blynyddoedd i’r gyfran o gyllideb y GIG a werir ar feddygon teulu, ac maent yn cefnogi, ac yn parhau i gefnogi, cyllidebau a pholisïau sydd wedi cynyddu’r baich ar ymarfer cyffredinol. Felly, rydym yn gwybod yn dda iawn, mewn gwirionedd, eu bod yn rhan o’r clefyd, yn hytrach na’r meddygon sy’n ei wella.
Yn ei haraith, cyfeiriodd Caroline Jones at realiti ymarfer cyffredinol, fel y gwnaeth Angela Burns a Janet Finch-Saunders. Mae gennym nifer sefydlog o feddygon teulu yng Nghymru, mae gennym weithlu sy’n heneiddio ymhlith meddygon teulu ac mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio, fel ein bod wedi ein dal mewn gefail yn awr, rhwng y cyfyngiadau yn y cyflenwad o wasanaethau meddygol ar y naill law a chynnydd yn y galw.
Mae recriwtio yn anhawster mawr. Rwy’n derbyn bod y Llywodraeth yn gwneud llawer iawn i ddatrys yr argyfwng recriwtio, ond serch hynny, yn y bôn, mae’n ymwneud ag ailgydbwyso cyllideb y GIG a rhoi mwy o arian tuag at ymarfer cyffredinol, fel arall byddwn yn yr un sefyllfa ag a geir yn Lloegr, lle y caiff adrannau damweiniau ac achosion brys yn yr ysbytai eu llethu am fod yr arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yn annigonol.
Un o’r ffeithiau diddorol na chafodd ei chrybwyll heddiw am y GIG yng Nghymru yw bod nifer yr ymarferwyr cyffredinol wrth gefn wedi disgyn mor yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf—pobl sy’n gweithio am ychydig o oriau’r wythnos yn unig. Mae honno’n ffordd o gynyddu hyblygrwydd o fewn y system a’i gwneud yn bosibl mynd i’r afael â’r pwysau. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymdrin ag ef yn y blynyddoedd i ddod.
Dylai’r Llywodraeth ddweud wrthym sut y mae’n bwriadu cyrraedd y targed y mae hi ei hun wedi’i osod o uchafswm amser aros o chwe awr i gleifion sy’n gaeth i’w cartrefi nad ydynt yn gallu mynd i’r feddygfa. Gwn am nifer o achosion, yn anecdotaidd, lle y mae pobl yn aros hyd at 20 awr am ymweliad cartref, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol yn y byd modern. Felly, nid dychwelyd i’r 1950au ydyw. Dyma ni yn yr unfed ganrif ar hugain, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod yna derfyn, yn amlwg, i faint o arian y gellir ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Mae terfyn ar faint o arian sydd ar gael, ond serch hynny, rwy’n credu, o fewn y cyfanswm, mae angen ailgydbwyso’n llwyr er mwyn dychwelyd at ble roeddem bum mlynedd yn ôl, pan werid cyfran lawer mwy ar feddygon teulu, ac rwy’n cymeradwyo ein cynnig i’r Cynulliad y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.