6. 4. Datganiad: Yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru

– Senedd Cymru am 4:04 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:04, 31 Ionawr 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Hazelkorn o addysg yng Nghymru. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn 'Tuag at 2030—Fframwaith ar gyfer Datblygu System Addysg Ôl-orfodol o’r Radd Flaenaf i Gymru’, a gyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2016.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:04, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad ar gyfer gwaith yr Athro Hazelkorn, ochr yn ochr â’r nifer o randdeiliaid, yn adolygu'r trefniadau presennol ac yn tynnu ar ei phrofiad rhyngwladol helaeth. Yn wir, yn y llyfr diweddaraf yr oedd hi’n awdures ar y cyd arno, sef ‘The Civic University’, dadleuodd fod yn rhaid i’r gwaith o gyflawni cenhadaeth ddinesig fod yn ffordd o drefnu addysg uwch a gwerth y sefydliadau mewn partneriaeth, gan ymrwymo i wella bywydau cymunedau a chenhedloedd. Yn y gorffennol, rwyf wedi gosod her i addysg uwch yng Nghymru i adennill ei hymdeimlad o genhadaeth ddinesig yn dilyn y bleidlais Brexit. Ond rwyf hefyd yn cydnabod bod angen eglurder yn y fframwaith ehangach ar gyfer ein system addysg ôl-orfodol, o ran ei ymdeimlad o bwrpas a sut yr ydym ni’n sicrhau dewisiadau a chanlyniadau o ansawdd uchel ar gyfer ein dinasyddion.

Comisiynodd y weinyddiaeth flaenorol yr adolygiad oherwydd pryderon ynglŷn â chymhlethdod cynyddol y system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, dysgu sy’n seiliedig ar waith a’r addysg i oedolion yn y gymuned. Caiff yr amryw sectorau a darparwyr eu rheoleiddio a'u hariannu mewn ffyrdd gwahanol gan wahanol gyrff a gall hyn arwain at gystadleuaeth ddi-fudd rhwng darparwyr addysg a hyfforddiant, dyblygu neu fylchau yn y ddarpariaeth, a dryswch i ddysgwyr. Mae mathau newydd o ddarparwyr wedi dod yn rhan o’r system yn y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer sylweddol o gyrsiau AU yn cael eu dysgu mewn sefydliadau AB erbyn hyn. Mae’r ffiniau rhwng addysg uwch ac addysg bellach, a oedd unwaith yn glir, yn diflannu erbyn hyn.

Rwy’n ymwybodol o newidiadau sylweddol yn yr ymagwedd at addysg a hyfforddiant ôl-orfodol mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bydd y rhain yn cael sgil effaith ar Gymru ac mae angen i ni sicrhau bod ein system yn addas at y diben ac y bydd dysgwyr o bob oedran, cyflogwyr a chymunedau yn elwa arni. Mae bywydau gwaith yn hirach erbyn hyn, ac maent yn newid yn gyflym, ac mae angen system arnom sy'n ei gwneud hi’n haws i bobl ddysgu a chaffael sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae ein bywydau a'r economi yn mynd trwy gyfnod o newid technolegol enfawr. Gwyddom fod y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer ein heconomi yn newid yn gyson ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ymateb i effaith Brexit. Nid yw gwneud dim byd, neu gadw’r status quo, yn ddewis dichonol.

Daeth yr Athro Hazelkorn i'r casgliad nad yw'r system bresennol yn canolbwyntio'n ddigonol ar ddysgwyr nac ychwaith yn cyflawni gwerth am arian yn llwyr. Pwysleisiodd ei hadroddiad hi yr angen i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol weithredu fel sector unigol. Cynigiodd hefyd sut y dylai'r sector ôl-orfodol gael ei reoleiddio a'i fonitro i sicrhau cynaliadwyedd, cydlyniant ac effeithiolrwydd yn y dyfodol. Roedd ei hargymhellion yn cynnwys: datblygu gweledigaeth gyffredinol, yn seiliedig ar gysylltiadau cryfach rhwng polisi, darparwyr a darpariaeth addysg a nodau cymdeithasol ac economaidd; sefydlu un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu ar gyfer y sector ôl-orfodol—hwn fyddai’n gyfrifol am ariannu darpariaeth ar bob lefel, monitro arferion llywodraethu, sicrhau ansawdd a bod yn gyllidwr arweiniol ar gyfer ymchwil; gosod anghenion dysgwyr wrth wraidd y system addysg drwy sefydlu llwybr gyrfa a dysgu sy’n glir a hyblyg; a dylai fod parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd a chysylltiadau rhwng cymwysterau a'r farchnad lafur, ac mae'n rhaid eu gwella.

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi ystyried y cynigion hyn yn ofalus, ochr yn ochr â chydweithwyr gweinidogol. Fel y nodwyd yn fy nghytundeb â’r Prif Weinidog, rydym yn awyddus i hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i addysg bellach ac uwch a’r llwybrau drwyddynt, gan sicrhau ein bod yn ehangu mynediad fel bod dysgwyr yn elwa drwy gydol eu bywydau. Mae codi safonau mewn ysgolion yn hollbwysig, ond gwyddom hefyd fod dysgu gydol oes, dysgu rhan-amser a dysgu sy’n seiliedig ar waith yn hanfodol ar gyfer symudedd cymdeithasol a ffyniant cenedlaethol.

Rwy’n cydnabod bod y model a gynigiwyd gan yr Athro Hazelkorn yn datblygu’r hyn sydd wedi’i brofi mewn systemau llwyddiannus fel y rhai yn Ontario a Seland Newydd, ac rwy’n awyddus i weld Cymru yn mwynhau’r un manteision hynny. Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy’n bwriadu ymgynghori, yn ddiweddarach eleni, ar gynigion i sefydlu un awdurdod strategol, sy'n gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr ynglŷn â sut y mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn bodloni eu hanghenion a sut y gall fod yn rym cryfach fyth ar gyfer y symudedd cymdeithasol a’r ffyniant cenedlaethol y soniais amdanynt yn gynharach.

Y bwriad yw y byddai cyfrifoldeb yn cael ei osod ar y corff newydd dros gynllunio, ariannu, contractio, sicrhau ansawdd, monitro ariannol, archwilio a pherfformiad, a bod y prif gyllidwr ar gyfer ymchwil. Yn unol ag argymhellion yr Athro Hazelkorn, byddai swyddogaethau presennol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod newydd, a fyddai'n gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Gadewch imi fod yn glir: sefydlwyd a datblygwyd ein prifysgolion yn sefydliadau annibynnol a chanddyn nhw ryddid academaidd sy’n ffynnu erbyn hyn—egwyddor sy’n parhau i fod yn gadarn. Mae hwn yn gyfle i lunio system lle y caiff sefydliadau o bob math eu hannog i weithio gyda'i gilydd i fodloni anghenion dysgwyr, gan alluogi cynnydd a datblygu cysylltiadau cryf â busnesau, fel y gellir mynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau. Byddai'r corff newydd yn datblygu cysylltiadau cryf ag eraill, gan gynnwys ysgolion a busnesau, fel y gall pobl ifanc bontio’n ddidrafferth i addysg uwch neu addysg bellach a dod o hyd i’r cyfleoedd sy'n bodloni eu hanghenion a'u dyheadau yn y modd gorau.

Yn dilyn ymgynghoriad, Ddirprwy Lywydd, rwy’n bwriadu cyflwyno cynigion deddfwriaethol yn ddiweddarach yn y tymor Cynulliad hwn. Er mwyn helpu i reoli'r pontio, mae cadeirydd presennol CCAUC wedi cytuno'n amodol i barhau yn y swydd hon am dair blynedd arall, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Ochr yn ochr â hyn, rwy’n chwilio am aelodau newydd ar gyfer cyngor CCAUC sydd â phrofiad mewn amrywiaeth ehangach o feysydd, gan gynnwys dysgu yn seiliedig ar waith, addysg bellach a chyflogaeth o bwys yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn ogystal â chryfderau presennol mewn addysg uwch, arloesedd ac ymchwil. Hefyd, rydym yn parhau i geisio’r cyngor a’r gefnogaeth orau ar gyfer codi safonau a gwella cyfleoedd.

Drwy adeiladu ar y gwaith a wnaed gan yr Athro Hazelkorn a'r Athro Ian Diamond, rwy’n gallu cyhoeddi y bydd yr Athro Graeme Reid yn goruchwylio adolygiad o fuddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau cysylltiedig mewn gweithgarwch arloesi ac ymchwil. Yn ddiweddarach yn y gwanwyn, rwyf hefyd yn bwriadu adolygu sut yr ydym ni’n monitro ac yn gwella effeithiolrwydd a chanlyniadau yn ein system addysg ôl-orfodol.

Felly, Lywydd, rwy’n ystyried y cynigion hyn a'r gwaith arall yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn gychwyn trafodaeth wybodus. Mae’n rhaid iddo gynnwys y sector addysg yn ei gyfanrwydd, busnes, dysgwyr a phob un sydd â diddordeb mewn sicrhau bod ein system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, y gorau y gall fod.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:12, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac a gaf i ailadrodd ei diolch hi i'r Athro Hazelkorn am ei gwaith, wrth gwrs, wrth arwain yr adolygiad? Mae Plaid Cymru yn cefnogi byrdwn cyffredinol eich datganiad y prynhawn yma ac rydym yn ymrwymedig, wrth gwrs, i weithio yn ysbryd Hazelkorn i hyrwyddo tegwch rhwng addysg academaidd a galwedigaethol er mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth wastraffus sydd wedi dod i'r amlwg ym maes addysg ôl 16 yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, wrth gwrs, i ddatblygu llwybrau dysgu cliriach a mwy hyblyg ar gyfer addysg ôl 16.

Felly, dim ond ambell i gwestiwn, mewn gwirionedd, ynglŷn â’r manylion, efallai, yn fwy na dim, er y byddwn i’n dechrau drwy ofyn i chi egluro fy mod i’n iawn, rwy’n credu, wrth ddehongli eich datganiad fel arwydd clir y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati’n ddyfal i sicrhau, fel y dywed Hazelkorn, gwell cymysgedd o reoleiddio ac ariannu ar sail cystadleuaeth yn hytrach na system sydd wedi’i seilio ar alw yn y farchnad.

O ran yr awdurdod addysg drydyddol—ac mae'n rhaid i ni ddod i arfer ag acronymau newydd bob dydd yn y lle hwn—fel y gwyddoch, un o'r penderfyniadau allweddol y bydd angen eu gwneud yw beth fydd y sefyllfa mewn cysylltiad â chweched dosbarth yn y strwythur arfaethedig newydd hwn. Mae gennyf ddiddordeb yn eich syniadau cychwynnol o ran a ddylen nhw aros fel y maen nhw—yn rhan bwysig o'r system ysgol, yn destun arolygiadau Estyn, ac ati—neu a ydych chi’n eu hystyried erbyn hyn mewn gwirionedd yn dod yn rhan o ddarpariaeth ôl 16 o dan yr awdurdod addysg drydyddol newydd arfaethedig, os daw hwnnw i fodolaeth neu pan fydd hynny’n digwydd.

Yn yr un modd, wrth gwrs, rydym ni’n ymwybodol o’r estyniad arfaethedig i gylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg bellach, a'r Coleg Cymraeg bellach yn cael ei ariannu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Beth fydd y drafodaeth honno o ran ei chysylltiad â'r awdurdod addysg drydyddol arfaethedig? Rydych chi’n dweud yn eich datganiad ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n clywed gan ddysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr yn y broses hon, ac rwy’n cytuno’n llwyr, ond oni fyddech chi’n cytuno bod angen i hynny fod yn beth parhaus, ac wrth ystyried, er enghraifft, bwrdd llywodraethu’r awdurdod addysg drydyddol, dylai aelodau staff a myfyrwyr gael cynrychiolaeth ar y bwrdd, fel y gall y lleisiau hynny barhau i gael eu clywed?

Ni cheir manylion penodol am amserlen yma, er fy mod i’n nodi’r cytundeb â chadeirydd CCAUC am gyfnod o dair blynedd ychwanegol—efallai y gallech chi roi syniad i ni o ba un a ydych chi felly’n disgwyl i’r broses hon ddod i ben o fewn y tair blynedd hynny.

Fe wnaethoch chi gyhoeddi dau adolygiad arall tuag at ddiwedd y datganiad. Mae'r adolygiad o weithgarwch arloesi ac ymchwil yn—yn amlwg cawsom ni’r adolygiad Diamond, a fyddai, y byddech chi’n meddwl, wedi gorgyffwrdd rhywfaint. Efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig am yr hyn yr ydych chi’n ei ddisgwyl gan adolygiad yr Athro Graeme Reid yn ychwanegol at yr adolygiad Diamond, a’r meddylfryd wrth wraidd gofyn am hynny. Ac yn olaf, ynglŷn â’r adolygiad arall yr ydych wedi’i gyhoeddi y prynhawn yma ynghylch sut yr ydym yn monitro a gwella effeithiolrwydd a chanlyniadau: ai dyma eich cam cyntaf chi, efallai, wrth greu fersiwn Gymraeg o'r fframwaith rhagoriaeth addysgu? Neu ai dyma, o bosibl, eich cam cyntaf wrth fynd ati i wrthbrofi’r fframwaith addysg drydyddol yng Nghymru?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:16, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Llyr am ei gwestiynau a'r cyd-ddealltwriaeth a chytundeb sydd gennym yn fy marn i ynglŷn â’r materion y mae angen i ni eu datrys o ran addysg ôl-orfodol. Rydych chi’n hollol gywir, mae'r system bresennol yn arwain at ddyblygu a chystadleuaeth mewn ffordd sy'n aml yn ddi-fudd. Nid yw'n darparu, fel y dywedodd Hazelkorn ei hun yn yr adroddiad, werth da am arian cyhoeddus, ac ar adeg o galedi mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bunt yng Nghymru yn gweithio'n galed iawn, iawn ac yn cyflawni canlyniadau da. Mae angen i ni sicrhau bod cydweithio ar draws y sector, yn hytrach na chystadlu, gan nad yw hynny weithiau yn hyrwyddo budd gorau y myfyriwr unigol. O bryd i’w gilydd, yn ddealladwy, mae'n hyrwyddo budd gorau’r sefydliad yn hytrach na'r dysgwr, a dyna’r hyn y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef yn y fan yma.

Felly, o ran yr awdurdod addysg drydyddol, a elwir yn TEA—ac os gallai rhywun feddwl am enw gwell ar ei gyfer yn ystod yr ymgynghoriad, byddwn i’n ddiolchgar, gan nad wyf o’r farn bod 'TEA' yn derm gwych, felly mae angen i ni ei alw’n rhywbeth arall, ond cyfeirir ato fel TEA yn yr adroddiad Hazelkorn. O ran y mater yn ymwneud â’r chweched dosbarth, mae’r Aelod yn dweud ar hyn o bryd bod y chweched dosbarth yn rhan o system ysgolion —mewn gwirionedd, nid yw’n rhan o'r system ysgolion o gwbl. Caiff y chweched dosbarth ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun dyraniadau i awdurdodau lleol. Nid yw’n rhan o'r grant cynnal refeniw. Nid yw’r chweched dosbarth mewn gwirionedd yn cael ei arolygu gan Estyn—efallai y bydd yn syndod i rai pobl, ond nid dyna beth y mae Estyn yn ei wneud o reidrwydd pan fydd yn arolygu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion. Gwaith Estyn yw arolygu’r system addysg orfodol, ac rwy’n credu bod hynny’n broblem.

Mae Hazelkorn ei hun yn dweud yn yr adolygiad nad oes penderfyniad wedi’i wneud ynghylch yr ateb gorau ar gyfer y chweched dosbarth yn y ddadl hon, ac mae rhinwedd mewn eu symud yn rhan o'r system addysg ôl-orfodol i fod yn rhan o’r TEA, ond mae yna rinwedd hefyd, fel sydd mewn rhai gwledydd yr wyf wedi’u crybwyll, lle mae’r chweched dosbarth yn rhan gadarn iawn o’r system addysg. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i ni ystyried manteision ac anfanteision y ddau ddewis. Mae gennyf feddwl agored tuag at hyn. Rwy'n credu bod rhinwedd o ran symlrwydd a swyddogaeth Estyn i gadw’r chweched dosbarth mewn ysgolion a’i gosod yn y fframwaith ysgolion. Ond ar yr un pryd, os ydym yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw gystadleuaeth a bod cynllunio cyffredinol, mae yna reswm dros ei symud o dan ofal yr awdurdod addysg drydyddol. Ond mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i drafod rhai o'r materion hynny yn fanylach.

O ystyried y 'coleg', fel y gwyddoch, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar hyn o bryd yn ystyried cylch gwaith y 'coleg' ar gyfer y dyfodol. Mae’r 'coleg' wedi gwneud gwaith gwych wrth ehangu'r cyfleoedd mewn addysg uwch i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r ffaith ei fod wedi gwneud gwaith cystal yn rhoi rhywfaint o hyder i mi y gallwn ni, yn awr, ystyried ymestyn ei gylch gwaith i gynnwys addysg bellach. Gwyddom fod prinder darpariaeth o ran dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn AB, a bod y Llywodraeth hon yn awyddus i wneud rhywbeth yn ei gylch, felly mae angen i ni ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hynny. Mae cylch gwaith yr hyn y bydd y ‘coleg’ yn ei wneud yn y dyfodol, wrth gwrs, yn amodol ar y grŵp adolygu gorchwyl a gorffen, ac nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y bydd grŵp Delyth Evans yn ei gyflwyno. Ond, yn amlwg, bydd y gwaith o gomisiynu rhai o'r materion hyn yn y dyfodol, unwaith eto, yn rhan o'r ymgynghoriad yn ymwneud â’r TEA. Yr hyn a oedd yn bwysig i mi yn ystod y cyfnod hwn oedd sicrhau'r cyllid ar gyfer y 'coleg' wrth symud ymlaen yn y tymor byr a’r tymor canolig, fel bod rhywfaint o sicrwydd am ei waith.

Wrth ystyried cynrychiolaeth—unwaith eto, mae’r manylion am sut yn union y bydd y TEA a'r bwrdd yn edrych—byddwn i’n disgwyl, pe byddem yn cael sefydliad sy’n canolbwyntio’n wirioneddol ar y dysgwr, byddem yn dymuno bod yr holl randdeiliaid yn cyfrannu at hynny a gallu clywed gan y lleisiau hynny, a byddai hynny’n cynnwys llais y myfyriwr. Byddai hynny'n cynnwys llais y myfyrwyr yn y modd y caiff ei glywed yn CCAUC, o dan y trefniadau presennol, ac nid wyf yn ystyried hyn mewn unrhyw ffordd yn ymgais i ddistewi llais y myfyrwyr, neu i ddistewi llais y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau.

O ran y materion eraill, bydd adolygiad yr Athro Graeme Reid yn nodi cryfderau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, ac yn amlinellu sut y gall busnesau, cymunedau, ac, yn wir, y Llywodraeth ei hun, ddefnyddio’r asedau hyn yn fwy effeithiol. Gwyddom, oherwydd y newidiadau sy'n deillio o Fil Addysg Uwch ac Ymchwil 2016-17 yn Lloegr, fod yna faterion posibl ynglŷn â gwaith ymchwil a sut yr ydym yn trefnu ymchwil, felly rydym ni’n dymuno i Graeme Reid ystyried hyn i sicrhau, unwaith eto, ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a sut y gallwn ni ddiogelu buddiannau Cymru yn ystod y cyfnod newidiol hwn.

Ynglŷn â’r adolygiad arall yn ymwneud â chanlyniadau, dyma’r broblem wrth i ni—. Mewn rhai ffyrdd, rydym yn monitro pob agwedd bosibl ar ysgolion. Rydym yn treulio llawer o amser yn poeni am lefel 2 gynhwysol ac uwch a chanlyniadau arholiadau TGAU plant a mesurau perfformiad. Rydym yn treulio llai o amser yn poeni am ganlyniadau Safon Uwch, ac rydym yn treulio llai o amser yn pwyso a mesur canlyniadau cyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith, felly mae hyn yn ymwneud â sicrhau y ceir yr un trylwyredd o ran cynnydd a symud ymlaen ym mhob agwedd ar ddysgu yn hytrach na dim ond y sectorau penodol y mae tuedd gennym i ganolbwyntio arnyn nhw ar hyn o bryd. Nid ymgais yw hon i gyflwyno TEF yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol nad wyf wedi diystyru prifysgolion a sefydliadau yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y TEF—eu penderfyniad nhw yw gwneud hynny—ond rwy'n nodi penderfyniad llawer o sefydliadau yn yr Alban yn ddiweddar i beidio â chymryd rhan yn y TEF oherwydd bod pryderon difrifol ynglŷn â’r ffordd y datblygir y fframwaith TEF yn Lloegr, a beth y mae hynny'n ei olygu i sefydliadau. Mater i sefydliadau unigol Cymru yw hwn, ond nid yw hon yn ymgais i gyflwyno’r TEF, ond i sicrhau bod gennym ni systemau trylwyr i wirio’r budd y mae dysgwyr yn ei gael ac y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael am ei buddsoddiad.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:22, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rydym ni ar ochr hon y Siambr yn croesawu'r datganiad heddiw, ond efallai, o'r cychwyn cyntaf, a gaf i egluro y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn yr holl argymhellion yn adroddiad yr Athro Hazelkorn? A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Athro Hazelkorn am ymgymryd â'r darn pwysig hwn o waith, ac rwy’n credu ei bod hi’n llygaid ei lle yn dweud bod addysg yn chwarae rhan hanfodol mewn ffurfio ein cymdeithas?

Ni allwn wadu y bu llu o ddogfennau polisi strategol gan Lywodraethau olynol Cymru, er bod y strategaethau hynny wedi methu â chyflawni canlyniadau sylweddol ar gyfer dysgwyr, ac yn eithaf amlwg, bu diffyg o ran capasiti strategol a meddwl cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn y sector addysg ôl-orfodol, mae angen mwy o ddewis, ond mae hefyd angen cydweithio i sicrhau màs critigol. Ceir enghreifftiau da o’r cydweithio hynny, ac un enghraifft yn unig yw’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia.

Mae'n hanfodol bwysig inni fanteisio ar y cyfle newydd hwn yn awr oherwydd bod Cymru, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn wynebu heriau demograffig, cymdeithasol ac economaidd. Rydym hefyd yn wynebu newid pellach yn y berthynas rhwng gwledydd y DU, rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, a rhwng Cymru a gweddill y byd. Rwy’n cytuno â'r datganiad heddiw nad yw gwneud dim na chynnal y status quo yn ddewis ymarferol. Felly, mae'n hollbwysig ein bod ni’n sicrhau y caiff ein system addysg ôl-orfodol ei nodweddu gan addysg agored a chystadleuol, gan gynnig y cyfle a'r dewis ehangaf i’r nifer fwyaf o fyfyrwyr.

Nawr, rwy’n sylwi o ddatganiad heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn bwriadu ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar gynigion i sefydlu un awdurdod strategol sy'n gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. O ystyried y bydd CCAUC yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod newydd hwn, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd y sectorau ôl-orfodol unigol yn cael eu blaenoriaethu yn y corff newydd hwn, a sut y byddwch chi’n sicrhau y bydd pob agwedd ar y gwahanol sectorau yn cael eu hadlewyrchu'n briodol gan yr awdurdod newydd hwn?

Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod gan y sefydliad newydd hwn yr adnoddau priodol fel bod ganddo’r gallu i ymgymryd â’i swyddogaethau a’u gweithredu. Felly, a oes gennych chi amlen ariannol cychwynnol mewn golwg ar hyn o bryd? Neu a yw darparu adnoddau ar gyfer corff o'r fath yn rhywbeth y mae angen ei drafod llawer yn fanylach wrth i chi symud ymlaen, ac a fydd hyn yn rhan o'ch ymgynghoriad? Nawr, rwy’n gofyn y cwestiwn hwn oherwydd gwyddom y bu cyllideb CCAUC dan straen sylweddol dros y chwe blynedd diwethaf, a bod hynny wedi cael effaith ar yr arian sydd wedi’i ddyrannu i brifysgolion Cymru. Felly, mae'n bwysig y caiff y corff newydd hwn ei ariannu’n gywir ac yn briodol fel y gall weithredu'n effeithiol a diwallu anghenion y sector addysg ôl-orfodol. Ac a wnewch chi, yn y cyfnod hwn, roi syniad i ni o beth fydd y goblygiadau cost o ddirwyn CCAUC i ben ac a ydych chi’n credu y bydd arbedion cost sylweddol? Sut ydych chi’n bwriadu ymdrin â’r goblygiadau o ran adnoddau dynol sydd ynghlwm wrth ei ddiddymu?

Nawr, bydd sefydlu’r corff newydd hwn yn amlwg yn arwain at gytundeb lefel gwasanaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r corff newydd hwn. A gaf i ofyn i chi, felly, sut yr ydych chi’n rhagweld y bydd y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod addysg drydyddol yn gweithredu mewn cysylltiad â rhaglen waith gytunedig? Rwy’n gobeithio y gallwch chi hefyd roi sicrwydd i ni y bydd unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth newydd yn ddigonol o'r cychwyn, oherwydd yn sicr nid ydym eisiau ail-greu cytundebau lefel gwasanaethau annigonol eraill, megis cytundeb lefel gwasanaeth Estyn â’r Llywodraeth, sydd wedi gorfod mynd at Weinidogion Cymru i ofyn am adnoddau ychwanegol i ymgymryd ag agweddau penodol ar ei waith. Felly, mae'n hanfodol bod unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth newydd yn briodol o'r cychwyn. O ystyried bod sefydliad cwbl newydd yn cael ei gynnig, a ydych chi’n rhagweld rhagor o uno neu bartneriaethau ffederal yn y sectorau AB ac AU o ganlyniad i'r ailstrwythuro hwn?

Nawr, oherwydd cymhlethdod y system ôl-orfodol ar hyn o bryd, mae'n iawn dweud bod sicrwydd ansawdd ar draws AB ac AU wedi bod yn gymysg, ac y bydd sicrwydd ansawdd yn elfen hanfodol o'r corff newydd i sicrhau bod safonau a llywodraethu yn uchel. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd sefydlu’r corff newydd hwn yn effeithio ar swyddogaeth Estyn, oherwydd, fel y gwyddom, mae Estyn yn rheoleiddio AB, dysgu yn seiliedig ar waith galwedigaethol, yn ogystal â dysgu cymunedol? Felly, sut y bydd ei swyddogaeth yn newid yn y dyfodol ac, yn hollbwysig, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi’n bwriadu adolygu swyddogaethau Estyn cyn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol sylweddol?

Wrth gwrs, fel yr ydych chi wedi dweud heddiw, mae sicrhau parch cydradd yn hanfodol ar gyfer ein darparwyr AB a galwedigaethol gan nad ydyn nhw wedi eu gwerthfawrogi ddigon yn ystod y degawdau diwethaf. Mae angen i ni gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae AB a sgiliau galwedigaethol yn ei wneud i economi Cymru, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a chydnabod y dylen nhw gael yr adnoddau priodol. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd y corff newydd yn sicrhau bod sefydliadau AB yn datblygu ac yn gweithredu i'w llawn botensial? Mewn geiriau eraill, sut ydych chi'n credu y bydd y corff newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydliadau AB o’i gymharu â'r strwythur presennol?

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn maes o law.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:27, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, a gaf i ddiolch i Paul Davies am gamu i'r adwy ac am ei gwestiynau y prynhawn yma? Os dechreuwn ni o'r pwynt o egwyddor, rwy’n credu bod hwnnw yn mynd i'r afael â llawer o'r materion yr ydych chi wedi’u codi. Bydd sefydlu un awdurdod i oruchwylio'r holl addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, rwy’n credu, yn gwella cynllunio strategol; bydd yn helpu i atal dyblygu, sydd wedi digwydd, a chystadleuaeth nad yw’n iach; ond bydd hefyd yn mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth lle nad yw myfyrwyr a dysgwyr wedi gallu cyflawni eu dyheadau, gan nad yw’r cyfleoedd hynny wedi bod ar gael. Rwy’n disgwyl iddo hybu cydweithio rhwng sefydliadau, gan ei gwneud yn haws, er enghraifft, i ddysgwr allu symud yn ddidrafferth rhwng dysgu yn seiliedig ar waith ac AB, AB ac AU, ysgolion ac AU, fel y byddai’r cydweithio hyn yn creu llwybrau sydd wir, wir yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr unigol ar bob pwynt ar eu taith addysgol. Yn hollbwysig, mae angen i ni hefyd gryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion, ond hefyd cyflogwyr. Mae'n hollbwysig—hollbwysig—ein bod yn cael hyn yn iawn, ac mae’r system bresennol, ar hyn o bryd, yn gallu bod yn uffernol, yn gythreulig o anodd i gyflogwyr gymryd rhan ynddi a gwybod pwy i weithio gyda nhw. Felly, unwaith eto, dyma un o'r rhesymau pam y mae angen i ni gael yr un awdurdod hwn.

Nawr, rwy’n credu os gwnawn ni hynny, bydd yn gwella’r cymorth i ddysgwyr yn ogystal â chael gwell gwerth am arian. Ar y cam hwn, mae cynllunio ariannol cychwynnol iawn yn ar waith, ac mae hwn yn ymgynghoriad gwirioneddol am sut y bydd y TEA hwn yn gweithio mewn gwirionedd a sut y caiff ei gyfansoddi. Felly, ar y cam hwn, mae'n anodd gallu pennu ffigur, ond rydym yn gwybod y gall y system bresennol fod yn wastraffus yn aml. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, o ran ariannu, er gwaethaf y sefyllfa anodd yr ydym yn canfod ein hunain ynddi, ein bod wedi gallu dod o hyd i adnoddau ychwanegol ar gyfer CCAUC eleni ac, wrth gwrs, un o'r holl seiliau rhesymegol y tu ôl i'n diwygiadau Diamond yw rhoi cyllido AU yn ei gyfanrwydd, ar gyfer sefydliadau a myfyrwyr unigol, ar sail fwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dyna un o'r seiliau rhesymegol y tu ôl i'n rhaglen ddiwygio.

Felly, ar hyn o bryd, rwy’n cyfaddef y bydd cwestiynau yn bennaf ynglŷn â sut y byddai'r awdurdod newydd yn gweithredu, a byddwn ni’n rhoi ystyriaeth ofalus iddyn nhw yn yr ymgynghoriad. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn gallu dechrau yn y gwanwyn a—mae’n flin gen i—wnes i ddim ateb cwestiwn Llyr mewn gwirionedd am yr amserlenni. Byddem yn gobeithio ceisio cael cyfle deddfwriaethol trwy ymgynghori â'r pwyllgor cyswllt deddfwriaethol sy'n bodoli rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond rwyf wedi gwneud cais am slot deddfwriaethol a fyddai'n gweld y broses hon, gobeithio, yn cael ei chwblhau o fewn amserlen tair blynedd. Rydych chi'n iawn; o bosibl, mae yna faterion adnoddau dynol y bydd angen eu trin yn ofalus ac yn sensitif wrth fwrw ymlaen â’r broses hon. Felly, rwy’n rhoi amserlen eithaf eang i mi fy hun i wneud hynny oherwydd bod angen ei wneud yn iawn, ac osgoi rhai o'r peryglon yr ydym wedi’u profi wrth ddod â sefydliadau at ei gilydd yn y gorffennol. Mae angen i ni ddysgu gwersi o hynny a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn llwyddiannus, wrth fwrw ymlaen.

Gofynnodd Paul am hierarchaeth angen a phwy sy'n cael blaenoriaeth. Holl bwynt cael y sefydliad hwn yw bod yna, yn wir, parch cydradd yn y sefydliad. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â blaenoriaethu AB dros AU, neu ddysgu yn seiliedig ar waith dros ddysgu mewn prifysgol neu goleg. Holl bwynt hyn yw bod gwerth cynhenid ym mhob un o’r cyfleoedd dysgu ac addysgu hyn. Mae angen i ni gynllunio hynny yn strategol. Credaf o ddifrif—ac yr oedd yn yr adborth gan Hazelkorn ei hun—fod y sefydliadau AB ac AU yn dymuno gweld eu hunain fel un system, ond yn aml mae'n anodd gwneud hynny. Bydd dod â phobl i mewn i un sefydliad, yn fy marn i, yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny y maen nhw eu hunain wedi’u nodi. Yn ail, bydd bod â’r awdurdod hwn, gyda dysgwyr yn ganolog iddo, yn caniatáu’r cynnydd yr wyf wedi siarad amdano yn gynharach. Yn drydydd, mewn systemau eraill, megis yn Seland Newydd, ac i raddau llai, efallai, yn yr Alban, y parch cydradd hwnnw yw'r egwyddor arweiniol ganolog yn y sefydliad ei hun. Mae’r arweinyddiaeth honno wedyn yn atseinio drwy’r system.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:32, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu’r ymateb cynhwysfawr y datganiad i adolygiad Hazelkorn, ond byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i fater penodol ond—yn fy marn i—mater sy’n bwysig iawn. Mae Hazelkorn a’r datganiad hwn yn cydnabod bod yn rhaid cael ymdrech ar y cyd i gyflawni parch cydradd at lwybrau galwedigaethol ac academaidd. Credaf fod hyn yn golygu y bydd angen darparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant newydd a llawer gwell, fel y bo’n briodol, i ysgolion, athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd ar sut i arwain ein pobl ifanc—a rhieni—tuag at y llwybrau priodol. I ganfod maint yr her, efallai y bydd angen i ni yn gyntaf wneud rhywfaint o ddadansoddi o’r lefel ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar hyn o bryd sydd gan rieni, gwarcheidwaid ac addysgwyr o'r gwahanol lwybrau sydd ar gael. Credaf fod honno'n ffaith syml. Erbyn hyn, mae llawer o rieni a disgyblion hŷn yn troi fwyfwy at y rhyngrwyd i gael cyngor gyrfaoedd, neu i chwilio am wybodaeth am golegau, SABau a phrifysgolion, am gyfleoedd prentisiaeth neu hyfforddeiaethau. Mae porth Gyrfa Cymru yn cael ei adnewyddu, ac mae hyn i'w groesawu'n fawr, oherwydd bod angen iddo fod y safle y mae pawb yn mynd iddo i gael arweiniad priodol amserol ac ar gyfer cyfleoedd penodol. Nid yw wedi cyflawni’r swyddogaeth honno yn dda yn y gorffennol diweddar. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog eu hannog i barhau i wella’r porth hwnnw a'r gwasanaeth ehangach y mae’n ei ddarparu.

A gaf i ofyn i'r Gweinidog ystyried sut y caiff cynnig ehangach y DU ei ymgorffori yn y cyngor hwn? Yn aml, mae cwmnïau mwy o faint â phresenoldeb yn y DU yn cynnig cyfleoedd y tu allan i Gymru. Er y byddwn i wrth fy modd pe byddai pawb sy’n dyheu am fod yn beirianydd awyrofod neu’n beirianydd sifil yn dymuno treulio eu bywydau cyfan yn gweithio yma, yn eu mamwlad, y gwir amdani—fel fi, pan oeddwn i’n rheolwr ifanc ar ganolfan chwaraeon—bydd pobl yn gweld bod yr alwad yn mynd â nhw i ffwrdd cyn y bydd hiraeth yn dod â nhw yn ôl. Felly, sut ydym ni’n ymgorffori hynny yn y cyngor yr ydym ni'n ei roi?

Ac a fyddai hi'n cytuno â mi y byddwn yn gwybod pan fyddwn wedi llwyddo? Bydd hynny pan fydd hi a minnau’n camu i'r seremonïau gwobrwyo hynny mewn ysgolion a’u bod yn rhoi amlygrwydd cyfartal i lwyddiant galwedigaethol a llwyddiant academaidd; eu bod yn dathlu gwobrau BTEC a BTEC lefel uwch, cynigion o brentisiaethau a hyfforddeiaethau a phrentisiaethau uwch gyda chwmnïau blaenllaw yng Nghymru a'r DU, ochr yn ochr â chynigion o leoedd prifysgol. Yna byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo yn wirioneddol.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:35, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Huw, rydych chi’n codi pwynt hanfodol bwysig ein bod yn gallu cael y strwythur gorau a'r cynllunio strategol gorau ar gyfer y cyfleoedd hyn, ond oni bai ein bod yn ymgysylltu'n llwyddiannus â phobl ifanc, darpar fyfyrwyr a dysgwyr o bob math, a'r bobl sy'n dylanwadu ar eu dewisiadau, ni fyddwn yn sylweddoli budd llawn hyn. Rydym ni i gyd yn euog o hyn. Mae ein plant, yn aml, yn garcharorion i’n profiad ein hunain. Felly, os yw mam a dad wedi ei wneud mewn ffordd arbennig, pa ffordd bynnag yw honno, os yw mam a dad wedi ei wneud yn y ffordd honno, dyna’r ffordd yr ydych chi’n credu y dylid ei wneud. Weithiau mae'n anodd torri'n rhydd o'ch profiad eich hun ac, weithiau, eich rhagfarnau eich hun ynghylch sut y dylai plant symud ymlaen.

Mae fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau â Gyrfa Cymru ynglŷn â gwneud yn siŵr bod plant a myfyrwyr yn cael y cyngor gyrfaoedd gorau posibl sy'n rhoi'r ystod ehangaf posibl o ddewisiadau a chyfleoedd iddyn nhw, beth bynnag fyddai hynny, a’i fod wedi’i seilio’n llwyr, nid ar fanteision i sefydliadau unigol, ond ar y manteision i’r myfyriwr penodol hwnnw, a’i anghenion. Os bydd angen i ni wneud mwy o ymchwil, ac mae angen i ni wneud mwy o waith ar hyn, yna rwy'n siwr bod y Gweinidog wedi eich clywed chi, ac nid oes ofn arnom wneud hynny.

Mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf eisoes yn mynd i seremonïau gwobrwyo lle caiff amrywiaeth eang o gyflawniadau o bob math ei dathlu, boed hynny'n academaidd neu’n gymdeithasol —y plentyn sydd wedi cyfrannu at yr ysgol trwy ofalu am fyfyrwyr eraill, drwy eu hymrwymiad i geisio bod o gymorth i'r ysgol, yn ogystal â phobl sydd wedi dilyn cyrsiau gwahanol. Felly, rwy’n gweld hynny allan yna, ond mae'n dameidiog ac nid yw'n gyffredin, ac mae angen i ni ei wneud yn gyffredin. Ond rwyf hefyd yn cyfarfod â phobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau cadarnhaol iawn. Gwn am un dyn ifanc—mae ei fam yn ffrind i mi—a gafodd y dewis dros yr haf rhwng gradd peirianneg mewn prifysgol yng Nghymru neu brentisiaeth gyda chwmni peirianneg, ac mae ef wedi dewis y brentisiaeth, oherwydd ei fod yn ddigon call i wybod, yn y pen draw, y bydd y cwmni hwnnw yn talu am ei radd ar ei ran, ac mae e’n dymuno dysgu yn y swydd. Mae hwnnw’n ddewis cadarnhaol iawn iddo. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr eraill yn cael y cyfleoedd hynny a bod ganddyn nhw’r gallu i wneud y dewisiadau sydd orau ar eu cyfer nhw. Byddaf yn parhau i weithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes i sicrhau bod gennym system o gyngor ac arweiniad a fydd yn gwneud y mwyaf o'r newidiadau strwythurol yr ydym yn eu gwneud.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:38, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Athro Hazelkorn am ei holl waith. Rwyf wedi darllen yr adroddiad, yn amlwg. Mae'n adroddiad rhagorol, ac mae'n adroddiad diddorol iawn, iawn.

Mae'r problemau a nodir yn yr adroddiad hwn wedi eu codi mewn amrywiaeth o adroddiadau eraill ers 2001. Mae’r problemau hynny wedi eu gadael heb eu datrys er yr adeg honno. Mae adroddiad Hazelkorn yn gwneud llawer o argymhellion rhagorol, ac rwy’n cytuno y dylid sefydlu un awdurdod newydd, ond byddwn i’n dweud ei bod yn drueni nad yw'r blaid sy’n datgan mai hi yw’r blaid ar gyfer addysg wedi gwneud hynny'n barod. Rwyf hefyd yn cyd-fynd â'r angen am swyddogaethau sydd wedi’u hamlinellu’n glir ar gyfer y weithrediaeth—yr awdurdod addysg drydyddol newydd—Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau, gan gynnwys cytundeb lefel gwasanaeth rhwng y TEA a Llywodraeth Cymru. Os byddwch chi’n gweithredu'r argymhelliad hwn, ac rwy’n credu y dylech chi, a fyddwn ni’n gweld y cytundeb lefel gwasanaeth cyn iddo gael ei weithredu?

Y cwestiwn mwyaf y mae’r adroddiad hwn yn ei godi i mi yw pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi meddwl am y syniadau hyn yn barod. Pam na wnaeth gweinyddiaethau blaenorol Llafur Cymru wrando ar yr adroddiadau blaenorol? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod y ffaith bod angen i'r Llywodraeth gael gwybod gan awduron yr adroddiad hwn bod yn rhaid iddyn nhw wneud mwy i greu polisïau ac arferion priodol i annog gwell meddylfryd hirdymor a chydgysylltiedig yn dangos mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn ôl yn yr ystafell ddosbarth? Siawns bod hynny'n ofyniad mor sylfaenol o Lywodraeth nad oes esgus dros beidio â’i chael yn iawn.

Mae eich plaid a'ch ffrindiau newydd yn y Blaid Lafur yn honni’n anwir y gallai cynlluniau UKIP i ddatblygu cenhedlaeth newydd o ysgolion gramadeg a thechnegol arwain at anghydraddoldeb o ran parch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd. Mae Llafur Cymru wedi eu dallu ac yn parhau i gael eu dallu gan obsesiwn gwrthgynhyrchiol Tony Blair â chael cynifer o bobl drwy ddrysau prifysgol ag y bo modd. Pam hynny, ac o ble mae hynny'n dod?

Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod Llafur ei hun wedi bod yn taflu’r bobl hynny nad oes ganddyn nhw feddwl academaidd ar y domen sbwriel. Mae'n dweud nad yw'r Llywodraeth yn gwneud digon i werthfawrogi a gwobrwyo parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd. Tybed a fydd Ysgrifennydd y Cabinet gystal â chyfaddef rhagrith y rhai hynny sy'n ceisio ymddangos fel eu bod yn gwarchod buddiannau'r rhai a fyddai'n elwa fwyaf o lwybr dysgu galwedigaethol, gan fod yn euog ar yr un pryd o wneud fel arall.

Rwy’n gwerthfawrogi mai dim ond yn ddiweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dechrau yn ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond tybed a all hi ddweud wrthyf beth oedd Gweinidogion addysg Llafur cyn hyn yn ei chael yn anghywir am gymaint o amser ei bod wedi arwain at yr adroddiad braidd yn anffodus hwn.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cymeradwyo ac yn cytuno â'r adroddiad yn ei gyfanrwydd ac, os ddim, pam ddim? Os yw hi, pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i weithredu ei argymhellion a beth yw'r amserlen? Hefyd, sut y byddwch chi’n sicrhau bod digon o adnoddau yn cael eu darparu i weithredu’r diwygiadau? Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:41, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Michelle Brown am ei chwestiynau. O ran yr argymhellion, rwyf wedi nodi fy mod i’n derbyn yr argymhellion. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn y gwanwyn. I roi hyn ar waith, bydd angen i mi gyflwyno deddfwriaeth ac mae angen i hynny gyrraedd yr amserlen deddfwriaeth gyffredinol ar draws y Llywodraeth gyfan. Ond, fel y nodais yn gynharach, rwy'n obeithiol y gallwn wneud hynny, y broses gyfan hon—yr ymgynghoriad, y prosesau craffu priodol ar ddeddfwriaeth y bydd angen i'r Bil fynd drwyddyn nhw yn y Siambr hon—yn ystod y cyfnod o dair blynedd.

Nid wyf i’n gyfrifol am weithredoedd y Gweinidogion blaenorol, ond dylwn i nodi mai Gweinidog blaenorol a gomisiynodd yr adroddiad hwn, ar ôl nodi’r angen i wneud cynnydd yn y maes hwn. Dylid nodi hefyd, nid ymgais debyg, ond gwnaethpwyd ymgais yn yr agenda hon yn nyddiau cynnar Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond yn anffodus nid oedd gennym y pwerau deddfwriaethol i greu’r awdurdod hwn. Rwy’n cofio’r dyddiau hynny’n dda iawn, pan yr oeddem yn ei chael hi’n anodd creu yr un endid hwnnw oherwydd y diffyg gallu o fewn y Siambr hon i wneud y newidiadau yr oeddem yn awyddus i’w gwneud. Nawr, nid yw hynny’n rheswm dros beidio â gweithredu erbyn hyn. Mae gennym y pwerau. Fe ddywedasom, pan gawsom y pwerau hynny, y bydden nhw’n bwerau â phwrpas iddynt ac rwyf i'n defnyddio’r pwerau hynny at y diben o ddiwygio’r rhan benodol hon o addysg.

Parch cydradd—mae'n fater sydd wedi ein llethu. Fel yr ydym ni newydd glywed gan Huw Irranca-Davies, mae rhywfaint o hynny’n ddiwylliannol. Rydym ni’n euog o rywfaint o hynny ein hunain yn ein bywydau bob dydd a’r sgyrsiau yr ydym wedi eu cael gyda'n plant. Nod y system hon, fel yr eglurais i Paul Davies mewn ymateb i'w gwestiwn, yw creu strwythur sy'n hybu parch cydradd. Ond fe ddywedaf wrthych am un ffordd lle nad ydym yn hybu parch cydradd, sef drwy rannu plant 11 oed o ran a ydyn nhw’n gwneud cymwysterau galwedigaethol neu academaidd. Bydd y system hon yn galluogi plant i ddilyn y ddau lwybr, os mai dyna y maent yn dymuno ei wneud, er mwyn symud yn rhwydd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu yn seiliedig ar waith, rhwng addysg ymarferol a’r llwybrau mwy academaidd. Dyna holl bwrpas gallu dod â’r llwybrau hyn at ei gilydd, oherwydd nid oes dim—dim—sy'n hybu parch cydradd wrth ddweud wrth blentyn 11 oed, ‘Rwyt ti’n mynd un ffordd ac mae dy ffrind yn mynd y ffordd arall’, a rhannu'r plant hynny ar yr adeg honno.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:43, 31 Ionawr 2017

Fel un sydd wedi bod yn ffodus iawn i allu cyfrannu at addysgu a llywodraethu ar draws y system am flynyddoedd lawer, a gaf i’n gyntaf longyfarch y Gweinidog ar ei dewrder? Mae’n hen bryd ein bod ni wedi cael Gweinidog sydd yn fodlon cymryd gafael yn y rhaniadau a’r gwahaniaethau a’r anghyfartaledd sydd wedi bod yn rhan o’r gyfundrefn ôl-16 o’r dechrau. Rwy’n ddiolchgar iddi am wneud hynny. Rwy’n falch ei bod hi wedi gallu manteisio ar waith athrylithgar Ellen Hazelkorn a’r bobl sydd yn dadlau dros bwysigrwydd cael cenhadaeth ddinesig mewn addysg, achos nid oes cenhadaeth arall i gael mewn addysg—rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog yn cytuno efo hynny.

Rwyf am ofyn un neu ddau o bethau iddi. A fyddai hi’n ystyried, er enghraifft, mai un ffordd o danseilio unrhyw wrthwynebiad a allai ddod o rai dinosoriaid yn rhannau o’r sector yma fyddai cyhoeddi Bil drafft? Hynny yw, yn hytrach na gwneud ymgynghoriad ac yna mynd ati i ddeddfu, ei bod hi’n gofyn i’r swyddogion—. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eistedd dros y ffordd imi, ac rydw i’n siŵr y byddem ni’n barod iawn i gynorthwyo mewn unrhyw broses o graffu ar Fil drafft—nid ein bod ni’n chwilio am waith, ond rydw i’n siŵr y byddem ni’n hapus i wneud rhywbeth fel yna, oherwydd mi fyddai’n rhoi cyfle wedyn i’r ymgynghoriad ac i’r paratoi ar gyfer deddfu ddigwydd ar yr un pryd.

A gaf i hefyd ddiolch iddi am barhau i ddefnyddio gwasanaeth David Allen? Dyma ddyn ardderchog, sydd wedi cyfrannu at brifysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr. Beth sy’n bwysig i’w gofio am David—rydw i’n siŵr y buasai’r Gweinidog yn cytuno—ydy ei fod yn parhau, fel rydym ni’n siarad, ar lywodraethwyr coleg addysg bellach Caerwysg, fel cyn-gofrestrydd y brifysgol, ac yn parhau gyda’i waith inni yng Nghymru, ac mae’n deall yn union beth ydy’r anghenion. Mae gen i, mae gen i ofn, syniadau radical, braidd, ynglŷn â’r angen i brif-ffrydio addysg ddwyieithog drwy’r system i gyd. Mae gen i syniadau hyd yn oed mwy ymosodol na ellir eu dychmygu ynglŷn â chael gwared â’r gyfundrefn chweched dosbarth, fel rydym ni wedi ei wneud yn Nwyfor Meirionnydd ers degawdau—ond diwrnod arall i drafod hynny, efallai.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:46, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Dafydd Elis-Thomas am ei sylwadau? Byddaf, yn wir, yn rhoi ystyriaeth briodol i'r fformatau deddfwriaethol mwyaf priodol y gallwn fynd ar eu trywydd. Rwy'n credu bod rhinwedd mewn edrych ar Fil drafft, a byddaf yn dymuno rhoi i’r sefydliad hwn—i roi’r parch dyledus a rhoi pob cyfle i gydweithwyr ar draws y Siambr gymryd rhan mewn datblygu'r polisi ymhellach. A gaf i hefyd gytuno â chi am ymrwymiad parhaus David Allen i'r sector? Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am yr arweinyddiaeth y mae wedi ei roi a'i barodrwydd i barhau yn y swyddogaeth honno. Bydd hynny'n beth pwysig iawn.

O ran systemau trydyddol, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed i’n ateb cwestiynau o'r blaen. Nid wyf yn gweld bod dweud wrth gymunedau lleol pa system addysg sy'n gweddu orau i'w hardal nhw yn rhan o fy ngwaith i. Mae rhai rhannau o Gymru lle mae system addysg drydyddol wedi ffynnu ac mae’n gwasanaethu ei myfyrwyr yn dda iawn; mae rhannau eraill o Gymru lle mae chweched dosbarth mwy traddodiadol yn system sydd, unwaith eto, yn gwasanaethu'r boblogaeth leol yn dda iawn. Nid natur y ddarpariaeth sy'n bwysig i mi, ac eithrio bod y ddarpariaeth honno o ansawdd uchel, ond ei bod yn diwallu anghenion a dyheadau ein pobl ifanc, a’i bod yn cyflawni ar eu cyfer, boed hynny mewn system drydyddol neu mewn chweched dosbarth. Ac un o'r pethau y byddwn yn ei ystyried yw lle y gall y chweched dosbarth eistedd orau o fewn y system hon.

Ac, fel y cyhoeddais, byddaf yn ystyried ffyrdd o fonitro canlyniadau addysg ôl-orfodol yn well, a hynny efallai mewn modd yr ydym wedi ei esgeuluso, fel gyda Safon A, er enghraifft. Yn y gorffennol, nid ydym erioed wedi gosod targedau llym i’n hunain ar gyfer perfformiad Safon A. Efallai bod hyn oherwydd ein bod o’r farn ei bod yn gamp leiafrifol ac y bydd y plant hynny, wel, byddan nhw’n bwrw ymlaen â nhw beth bynnag, ac nid oes angen i ni boeni am y peth. Ond i fyfyrwyr sy'n astudio ar y lefel honno nawr, nid yw'n gamp leiafrifol—mae mwyafrif ein pobl ifanc yn mynd ymlaen i astudio yn y cyfnod ôl-orfodol, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cymaint o sylw i berfformiad yn y maes hwnnw ag yr ydym yn ei wneud yn y sector gorfodol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:49, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ac, yn olaf, Suzy Davies.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy’n llwyr gymeradwyo eich sylwadau ar yr angen i gyflogwyr gefnogi hyn, yn enwedig ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith ac, wrth gwrs, yr angen am barch cydradd. Dywedasoch sawl gwaith nad yw hyn yn seiliedig ar y sefydliad, ond bod y pwyslais ar y dysgwr a chyflawni dyheadau dysgwyr. A wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd y newid strwythurol hwn yn helpu’r rhai hynny sy'n gobeithio astudio addysg ôl 16 drwy gyfrwng y Gymraeg?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am hynna, Suzy. Y fantais o gael yr un corff hwn yw y gallwn gynllunio'n strategol ac y gallwn fynd i'r afael â bylchau, fel y dywedais. Ac un o'r bylchau sydd gennym ar hyn o bryd, rwy’n credu, yw bwlch yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn gwybod bod galw cynyddol am bobl sydd â sgiliau yn y Gymraeg mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel sydd gan fy nghyd weinidog, mewn sut y gallwn sicrhau bod gennym swyddogaethau gofalu—bod gan bobl sgiliau Cymraeg i wneud hynny, boed hynny ar gyfer pobl hŷn, neu, er enghraifft, wrth i ni gyflwyno cynnig gofal plant y Llywodraeth, mae angen i hwnnw fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae cael cyfleoedd hyfforddi i roi cymhwysterau i’r bobl hynny allu gwneud y swydd honno a gallu gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol bwysig. Felly, rwy’n credu y bydd cael corff strategol sy'n ystyried y cynllun cyffredinol yn helpu i wella hynny, yn ogystal â gwaith Delyth Evans, sydd ar hyn o bryd yn edrych ar gylch gwaith y ‘coleg’ ac a allwn ni ymestyn hynny i gynnwys AB. Nid wyf i’n dymuno rhagfarnu canlyniadau hynny, ond rwy'n credu bod y ‘coleg’ wedi gwneud gwaith da iawn o ran AU. Rwy'n credu ei fod wedi profi ei allu i gyflawni pethau ac, felly, rwy’n credu ei bod yn iawn y dylem ystyried yn awr i weld a allan nhw gynllunio hynny. Ond rwy’n credu y bydd cael trosolwg mwy strategol o'r hyn yr ydym ni'n ei gomisiynu a monitro ansawdd y canlyniadau, yn gwneud gwahaniaeth i ddarpariaeth yn y Gymraeg.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:51, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.