– Senedd Cymru am 3:10 pm ar 15 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol, ac rydw i’n galw ar Russell George i wneud y cynnig. Russell George.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i. Roedd ymchwiliad y pwyllgor i gomisiwn seilwaith cenedlaethol yn waith sylweddol i’r pwyllgor. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, rwy’n credu ei bod yn ymddangos bod sawl prosiect blaengar a phwysig gennym ar y gweill. Mae gennym ymchwiliad cyhoeddus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ffordd liniaru’r M4, wrth gwrs—a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gynnal sesiwn alw heibio ar gyfer yr Aelodau heddiw—cynigion ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, trydaneiddio’r brif reilffordd drwy Gaerdydd ac i Abertawe a metro de Cymru, ac wrth gwrs, y potensial hefyd ar gyfer morlyn llanw yn Abertawe, a dylwn ychwanegu fod cefnogaeth drawsbleidiol i’r syniad hwnnw yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, nid wyf am anghofio am ganolbarth Cymru: mae gennym brosiectau fel ffordd osgoi’r Drenewydd, a fydd yn hynod fuddiol i economi canolbarth Cymru. Felly, credaf ei bod yn briodol fod Ysgrifennydd y Cabinet yn argymell comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru cyn diwedd y flwyddyn hon.
Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dangos cryn ddiddordeb yn y cynlluniau, ac wedi sicrhau y bydd un o’i ymchwiliadau cyntaf yn ymdrin â’r cynlluniau hynny. Felly, edrychodd y pwyllgor yn fanwl ar y cynigion a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn gynharach eleni. Gwahoddwyd rhanddeiliaid yng Nghymru sy’n ymwneud â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd y DU i roi tystiolaeth, a buom yn edrych ar sut y mae sefydliadau tebyg yn gweithio yn Awstralia. Dylwn ychwanegu na chynhaliasom ymweliad safle; gwnaed popeth heb ymweliad safle, yn anffodus. Roedd ein casgliadau at ei gilydd yn gadarnhaol iawn. Credaf fod gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet am gorff arbenigol sy’n gallu dadwleidyddoli rhai o’r penderfyniadau mwyaf dadleuol a phellgyrhaeddol yng Nghymru yn weledigaeth gref iawn, ac roedd y pwyllgor o’r un farn.
Ond argymhellodd y pwyllgor newidiadau mewn tri maes. Er ein bod yn cytuno na ddylai deddfwriaeth ohirio’r broses o sefydlu’r corff, credwn y byddai rhoi sail statudol iddo yn fuddiol iawn, er mwyn sicrhau bod ganddo fwy o hygrededd a grym, ac i’r perwyl hwnnw, argymhellwyd y dylid ei sefydlu gyda’r rhagdybiaeth y bydd deddfwriaeth yn dilyn. Roeddem o’r farn y dylai cylch gwaith y comisiwn fod ychydig yn ehangach er mwyn iddo gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol, ac roeddem hefyd yn awyddus i sicrhau bod y corff yn fwy annibynnol, drwy ei wneud yn atebol i gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, a thrwy sicrhau ei fod wedi’i leoli y tu allan i Gaerdydd, a heb fod yn rhannu adeilad gyda’r Llywodraeth, a thrwy roi cyfle i un o bwyllgorau’r Cynulliad graffu ar y cadeirydd cyn ei benodi neu ei phenodi. Felly, at ei gilydd, gwnaethom 10 argymhelliad, ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi ymgysylltu o ddifrif â’r gwaith a wnaethom ac wedi ystyried y syniadau a gyflwynwyd gennym, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwech o argymhellion y pwyllgor. Mae tri arall wedi’u derbyn mewn egwyddor, a gwrthodwyd un.
Felly, rwy’n falch fod y pwyllgor wedi gallu dylanwadu ar y model ar gyfer y comisiwn seilwaith cenedlaethol yn y ffyrdd canlynol. Bydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir i gadeirio’r comisiwn mewn gwrandawiad cyn penodi, fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar ar gyfer y sawl a ffafrid yn gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd y comisiwn yn cynhyrchu adroddiad ‘cyflwr y genedl’ bob tair blynedd ar anghenion seilwaith Cymru ar gyfer y dyfodol, i ddatgysylltu ei waith oddi wrth y cylch gwleidyddol, a bydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar lywodraethu a gwaith yn y gorffennol a gwaith sydd ar y gweill, ac mae’r Llywodraeth wedi cytuno i ymateb i’r holl argymhellion o fewn chwe mis. Bydd llythyr cylch gwaith blynyddol y comisiwn yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â faint y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gallu ei wario ar gyllid seilwaith dros yr amser hiraf posibl i roi cyd-destun pwysig i’r argymhellion. Bydd y llythyr cylch gwaith hefyd yn annog y comisiwn i adeiladu perthynas gref gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU a’r Scottish Futures Trust i sicrhau ei fod mor effeithiol â phosibl. Bydd angen ystyried amrywiaeth y cymunedau ledled Cymru wrth benodi i’r comisiwn, a bydd ei gylch gwaith yn cynnwys ymgysylltu ar lefelau rhanbarthol. Yn olaf, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio mecanweithiau megis y banc datblygu i ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio mwy o arian preifat i gefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith.
Yr unig argymhelliad a wrthodwyd gan y Llywodraeth yw ein safbwynt y byddai’r comisiwn mewn sefyllfa gryfach pe bai’n cael ei sefydlu gyda’r rhagdybiaeth y byddai’n cael ei roi ar sail statudol maes o law. Nawr, dylanwadwyd ar ein hargymhelliad gan y dystiolaeth gan gyrff ymgynghorol ar gyfer seilwaith ar lefel ffederal a lefel y taleithiau yn Awstralia, a ddywedodd wrth y pwyllgor fod eu statws fel llais awdurdodol ar seilwaith wedi cael ei wella gan eu statws annibynnol, ac y gallai manteision dull o’r fath ymestyn y tu hwnt i Awstralia. Dywedodd prif weithredwr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU wrth y pwyllgor fod y ffaith ei fod yn gorff anstatudol wedi ei gwneud yn bosibl ei sefydlu’n gyflymach, ond roedd yna ochr lai cadarnhaol hefyd gan fod rhanddeiliaid yn ei ystyried yn llai parhaol. Roedd y pwyllgor yn cytuno â’r Llywodraeth na ddylem aros am ddeddfwriaeth er mwyn sefydlu’r comisiwn yn gyflym, ond teimlem y byddai budd gwirioneddol mewn rhoi ymrwymiad clir o’r cychwyn y byddai deddfwriaeth yn debygol o ddilyn. Nawr, fel y mae pethau, mae’r risg yn parhau y gallai un o Ysgrifenyddion y Cabinet yn y dyfodol—un llai ymroddedig, efallai, nag Ysgrifennydd presennol y Cabinet a’i weledigaeth am gomisiwn seilwaith cenedlaethol—gael gwared ar y sefydliad mewn dim o dro, neu beryglu ei annibyniaeth. Felly, byddai corff statudol yn darparu diogelwch i’r corff newydd ac yn rhoi neges glir i’r rhanddeiliaid ei fod yma i aros. Felly, rwy’n siomedig, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad penodol hwn.
Fodd bynnag, rwy’n nodi nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi clepio’r drws ar gau yn llwyr ar hyn, a gobeithiaf y bydd ei gynllun i adolygu’r corff cyn diwedd tymor y Cynulliad yn rhoi cyfle i ystyried y materion hyn eto. Felly, byddaf i a fy nghydweithwyr ar y pwyllgor yn edrych ymlaen at adolygu cynnydd yn 2021—mae’n swnio’n bell i ffwrdd—a gweld a yw’r weledigaeth yr ydym oll yn ei rhannu heddiw wedi cael ei gwireddu. Felly, gwn fod nifer o aelodau’r pwyllgor yn awyddus i siarad a chael eu galw yn y ddadl hon heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, croesawaf y cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon ac ychwanegu fy nghefnogaeth i’r cynnig. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor a staff y pwyllgor am eu gwaith a wnaed ar gynhyrchu’r adroddiad, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ystyriaeth ofalus a chadarnhaol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r Cadeirydd yn iawn ynglŷn ag ystod a maint y prosiectau posibl sydd ar y gweill, ac fel Gogleddwraig falch, byddwn yn esgeulus pe na bawn yn ychwanegu metro gogledd-ddwyrain Cymru a’r trydydd croesiad posibl dros y Fenai at y cynnwys.
Hoffwn ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor yn fy nghyfraniad heddiw, sef argymhellion 7 ac 8. Gan ddechrau tuag yn ôl, mae argymhelliad 8 yn nodi y
‘Dylai’r penodiadau a wneir i’r Comisiwn adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru er mwyn sicrhau bod y Comisiwn yn deall pob rhan o Gymru.’
Rwyf bob amser wedi pwysleisio bod angen i’r corff hwn ar gyfer Cymru gyfan, mewn egwyddor, fod yn union hynny yn ymarferol, a bod potensial i bob rhanbarth o Gymru elwa. Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i’r comisiwn sicrhau bod ganddo ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion a dyheadau gwahanol ardaloedd ein cenedl. O ystyried ffocws a chydnabyddiaeth o rôl y gwahanol fargeinion dinesig a’r weledigaeth ar gyfer twf trawsffiniol yng ngogledd Cymru, rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y bydd yn bwysig i’r comisiwn ymgysylltu â fforymau rhanbarthol ar y lefelau priodol. Yn wir, noda’r ymateb ysgrifenedig i’r pwyllgor:
‘Bydd yr egwyddor hon yn cael ei hymgorffori yn y cylch gorchwyl. Rwy’n credu mai mater i’r Comisiwn yw penderfynu ar y trefniadau manwl.’
Wedi i’r comisiwn gael ei sefydlu, gobeithiaf y byddwn fel pwyllgor yn gallu chwarae ein rhan yn sicrhau bod y mecanweithiau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn ddigonol ac yn effeithiol, wrth gwrs.
Gan ddychwelyd at argymhelliad 7, sy’n dweud
‘Dylai’r Comisiwn lunio adroddiad rheolaidd ar “Gyflwr y Genedl” gan ddilyn amserlen wahanol i’r amserlen wleidyddol’, a chynnig awgrym o bob tair blynedd—awgrym a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru—cafwyd consensws a chefnogaeth, mewn digwyddiad diweddar Dyfodol Sir y Fflint a gynhaliwyd gennyf yr wythnos hon yn fy etholaeth er mwyn trafod anghenion a dyheadau ein heconomi leol gyda rhanddeiliaid ledled yr ardal, i’r syniad hwn o gymryd camau i sicrhau y cedwir prosiectau sydd mor arwyddocaol i fuddsoddi ein heconomi yn y dyfodol a seilwaith ein gwlad ar wahân i’r cylch gwleidyddol, ynghyd â’r llif gwaith, y cynlluniau a’r weledigaeth hirdymor a ddaw, gobeithio, o ganlyniad i sefydlu’r comisiwn. Dylid sicrhau mai’r flaenoriaeth yn awr yw sefydlu’r comisiwn o fewn yr amserlen a gynlluniwyd a thanio’r gwaith ar y prosiectau allweddol hyn, a fyddai nid yn unig o fudd i fusnesau, cymunedau a rhanddeiliaid yn fy ardal i, ond ledled Cymru gyfan.
Fel y nododd y Cadeirydd, er bod ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i rai o’r argymhellion i’w groesawu, credaf fod peth anghytuno ynghylch rôl a chylch gwaith y comisiwn seilwaith cenedlaethol, ac mae peth ohono’n anghytundeb sylfaenol. Mae’n mynd i wraidd y cwestiwn ynglŷn â pha broblem y mae’r comisiwn yn ceisio’i datrys. Ni fyddech o reidrwydd yn ymwybodol o’r lefel hon o anghytuno o edrych ar y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â’i hymgynghoriad ei hun. Y canrannau sy’n anghytuno: 1 y cant a 0 y cant yn unig mewn llawer ohonynt. Mae’n rhaid i mi ddweud—ac nid wyf yn ceisio bod yn fwriadol bryfoclyd yma—fod rhai ohonynt bron yn gwestiynau y mae’n amhosibl anghytuno â hwy:
‘Ydych chi’n cytuno y dylai’r Comisiwn gydweithio â Chomisiwn Seilwaith y DU...?’
Pwy’n wir a allai anghytuno â hynny? Nid oes unrhyw un yn anghytuno â hynny. Yn yr un modd, ‘Ydych chi’n cytuno y dylai pob penodiad i’r Comisiwn gael ei wneud drwy ymarfer penodi cyhoeddus agored?’ Felly, os ydym am ddysgu rhywbeth o ymgynghoriadau, credaf efallai y dylem fframio’r cwestiynau am y meysydd lle y ceir anghytuno dilys a diffuant yn eu cylch. Hyd yn oed yn y cwestiwn cyntaf, sef yr un sylfaenol am y rôl a’r cylch gwaith, mae’n dweud bod 87 y cant yn cytuno—ond mewn cromfachau, mae’n dweud ‘yn llwyr neu’n rhannol’. Yn yr ail ran—’yn rhannol’—y gwelwn, wrth gwrs, fod yna anghytuno. Felly, o ran y cwestiwn ynglŷn â’r sail statudol, mae rhai o gyrff allweddol y diwydiant—Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil—yn amlwg yn dadlau, fel y gwnaethant mewn perthynas â Chomisiwn y DU, fod angen i’r comisiwn hwn, er mwyn iddo gyflawni ei waith ar ran pobl Cymru, gael ei sefydlu ar sail statudol. Yn wir, aeth yr Arglwydd Kinnock, mewn ymateb i’r tro pedol yn dilyn yr ymrwymiad yn araith y Frenhines yn San Steffan—sy’n golygu bellach, wrth gwrs, na fydd sail statudol i Gomisiwn y DU ychwaith—mor bell â dweud bod hynny’n dinistrio holl effaith y corff o ran creu’r math o annibyniaeth ac awdurdod sydd ei angen er mwyn sicrhau ymagwedd hirdymor tuag at ein hanghenion seilwaith, sy’n mynd y tu hwnt i’r cylch gwleidyddol ac yn mynd y tu hwnt i fympwyon newid yn y weinyddiaeth o un tymor i’r llall. Felly, mae’n rhaid i mi ddweud bod hynny’n siom enfawr, nid yn unig i fy mhlaid, ond yn amlwg, fel y gwelir yn adroddiad y pwyllgor, ar draws y Siambr ac ymhlith cyrff a sectorau allweddol sy’n ei seilio ar eu harbenigedd eu hunain.
O ran seilwaith cymdeithasol, unwaith eto, rhan o’r broblem sydd gennym ac rydym yn ceisio’i datrys yw anghydbwysedd ein buddsoddiad mewn seilwaith: y ffaith nad oes ymagwedd hirdymor, ond hefyd nad oes ymagwedd gynhwysfawr neu gyfannol ychwaith. Dyna pam, er na allwn argyhoeddi pob un o fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor ynglŷn â hyn—. Pam hepgor seilwaith cymdeithasol? Fel y clywsom yn rymus y bore yma, yn fy marn i, mewn tystiolaeth gan Karel Williams, mae’n rhaniad mympwyol—y gwahaniaeth rhwng seilwaith cymdeithasol a seilwaith economaidd neu gynhyrchiol. Felly, dewch inni ei gynnwys. Ceir ymdrechion petrus, o bosibl, yn cuddio o fewn ymateb y Llywodraeth, ond mewn gwirionedd, gadewch i ni sicrhau ei fod yn rhan o’r cylch gwaith craidd. Rwy’n falch o weld bod y Llywodraeth wedi dweud y bydd yn archwilio dewisiadau eraill mewn perthynas â’r cwestiwn allweddol ynglŷn â sut yr awn ati i ariannu buddsoddiad mewn seilwaith, ond a gaf fi ofyn cwestiwn uniongyrchol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet? A yw hynny’n golygu y bydd buddsoddi mewn seilwaith yn rhan o’r llythyr cylch gwaith arall y bydd yn ei ysgrifennu cyn bo hir at fanc datblygu Cymru?
Yn olaf, ynglŷn â’r cwestiwn o ran yr anghydbwysedd arall, sef anghydbwysedd mewn buddsoddi ledled Cymru, mae’n obsesiwn personol, ac yn wir, yn obsesiwn gan ein plaid ar hyn o bryd. Ceir cyfeiriad at gael lleisiau gwahanol ranbarthau Cymru wedi’u clywed yng nghyd-destun y comisiwn seilwaith, ond a allwn gael ymrwymiad yn y llythyr cylch gwaith i’r corff hwn i gydraddoli buddsoddiad—yn wir, yn rhanbarth ei etholaeth hefyd, yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru—er mwyn iddo fod yno’n rhan amlwg o’r cylch gwaith? Ac i ni gael syniad—os na chaiff ei osod ar sail statudol, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym, o leiaf, os oes ganddo ffigur, beth fydd maint y gyllideb ar gyfer y corff newydd, er mwyn inni gael rhyw fath o syniad o’i allu i gwblhau’r gwaith o oresgyn y degawdau o danfuddsoddi y cyfeiriais atynt yn gynharach?
Fel y nodwyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad ein pwyllgor,
‘Gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet yw sefydlu corff arbenigol, annibynnol a all wneud penderfyniadau hynod bwysig mewn meysydd dadleuol heb unrhyw ddylanwad gwleidyddol. Mae’r weledigaeth honno’n un gref... Gobeithiwn y bydd ein hargymhellion yn rhoi sail i sefydlu’r Comisiwn yn ddiymdroi. Bydd y Comisiwn hwnnw—ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei chryfhau—yn gallu sicrhau bod Cymru yn datblygu’r seilwaith hanfodol rydym i gyd yn dibynnu arno er mwyn creu cenedl ffyniannus yn yr unfed ganrif ar hugain.’
Fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb,
‘rydym wedi ymrwymo i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol ac arbenigol ar yr anghenion a’r blaenoriaethau o ran y seilwaith strategol’.
Felly, mae’n drueni fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis gwrthod argymhelliad y pwyllgor y dylai’r comisiwn gael ei sefydlu fel corff anstatudol ond gyda rhagdybiaeth glir y bydd deddfwriaeth yn dilyn i sicrhau bod y comisiwn yn dod yn gorff statudol annibynnol.
Fel y dywed ein hadroddiad,
‘Er bod y Pwyllgor yn credu mai’r ffordd orau o sicrhau annibyniaeth a hygrededd y Comisiwn yw rhoi sail statudol iddo, nid oes angen oedi cyn ei sefydlu drwy aros am ddeddfwriaeth.’
Ond fel y dywedodd y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil wrth y pwyllgor, os yw’n rhan o’r Llywodraeth, nid wyf yn credu y byddwn yn cael yr hyn yr ydym ei angen ganddo. Rwy’n golygu hynny nid fel diwydiant, ond fel cenedl.
Roedd tystiolaeth gan gyrff seilwaith Awstralia yn pwysleisio pwysigrwydd cael eu sefydlu drwy ddeddfwriaeth. Dywedodd Infrastructure Australia wrthym fod y ffaith fod deddfwriaeth wedi cryfhau eu rôl fel corff ymgynghorol annibynnol, tryloyw ac arbenigol wedi eu galluogi i weithredu’n fwy effeithiol ac annibynnol. Dywedodd Infrastructure Victoria wrthym fod y rhesymau dros sefydlu corff annibynnol i gynghori ar seilwaith nid yn unig yn berthnasol i’w hamgylchiadau penodol hwy, ond i wledydd gwahanol, gan gynyddu hyder cymunedol mewn prosesau a chanlyniadau.
Er bod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ymrwymo i adolygu statws y comisiwn cyn etholiad nesaf y Cynulliad, daeth y pwyllgor i’r casgliad, er mwyn sicrhau ei ddylanwad a’i hygrededd ac i fynd i’r afael â’r canfyddiad nad yw comisiwn anstatudol yn ddigon parhaol, y byddai’n rhaid i’r corff fod yn gorff annibynnol, a chael ei ystyried yn gorff annibynnol.
Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn ymwybodol fod ymgyrchoedd lleol yn erbyn datblygiadau tai arfaethedig yn canolbwyntio’n gyffredinol ar amhriodoldeb honedig y safle arfaethedig ac annigonolrwydd seilwaith lleol megis ysgolion, meddygfeydd a chysylltiadau trafnidiaeth i gynnal poblogaeth fwy. Felly, mae’n drueni hefyd mai mewn egwyddor yn unig y derbyniodd argymhelliad y pwyllgor y dylid ymestyn cylch gwaith y comisiwn i gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig ochr yn ochr â’r seilwaith economaidd ac amgylcheddol. Golyga ei ddatganiad na fydd y mater yn cael ei ystyried nes yr adolygiad o’r comisiwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn fod Llywodraeth Cymru yn dilyn yn hytrach nag yn arwain yr agenda.
Yn eironig, mae llawlyfr Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun datblygu lleol, sy’n nodi’r meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio lleol, yn cynnwys tai, mynediad, parcio, dylunio, seilwaith gwyrdd a thirlunio, ac yn cyfeirio at safleoedd i’w datblygu yn ogystal ag ardaloedd atal datblygu. Felly, byddai’n hollol anghyson pe na fyddai cylch gwaith y comisiwn yn cynnwys hyn. Mewn cyferbyniad, gwelir arfer da yn adroddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ‘Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru’, sy’n nodi y bydd y gwaith o gyflawni’r weledigaeth yn cael ei integreiddio i mewn i gynlluniau ar gyfer cynllunio cymunedol cynaliadwy, ond er mwyn sicrhau economi fwy llwyddiannus a chytbwys, y bydd angen buddsoddiad hirdymor i fynd i’r afael â heriau hirdymor, gan gynnwys anghenion tai, ac y bydd yn rhaid i’r cynnig tai yng ngogledd Cymru, sy’n elfen allweddol o ran hybu twf, ymateb i newidiadau demograffig a diwallu anghenion tai ledled y rhanbarth. Mae hefyd yn nodi’r angen i fynd i’r afael â’r rhwystrau allweddol mewn perthynas â chyflenwi tai er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o dir yn cael ei ddarparu ar gyfer datblygiadau eiddo preswyl i fodloni’r galw a’r angen a ragwelir, yn enwedig o ran ailddefnyddio safleoedd tir llwyd, ac i gynorthwyo gyda chostau sy’n gysylltiedig ag adfer safleoedd a galluogi seilwaith.
Wrth dderbyn, mewn egwyddor yn unig, argymhelliad y pwyllgor y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd ac na ddylai rannu adeilad ag adrannau Llywodraeth Cymru, ond y dylai rannu adeilad gyda chorff cyhoeddus arall i leihau’r costau, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i nodi bod angen i’r comisiwn warchod ei annibyniaeth rhag nifer o ddylanwadau a chyrff, sef yr union bwynt a wnaed gan y pwyllgor. Fodd bynnag, nid yw ei ymateb yn cyfeirio o gwbl at leoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd, ac felly gofynnaf iddo wneud sylwadau ar hyn yn ei ymateb heddiw.
Rwy’n falch o allu siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y tîm clercio, Aelodau eraill a thystion am ymchwiliad diddorol iawn. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad cyntaf yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cynnwys tai a seilwaith ategol cysylltiedig yn adroddiad y comisiwn, ochr yn ochr â seilwaith economaidd ac amgylcheddol. Gwnaeth tystiolaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, a’r Gymdeithas ar gyfer Ymgynghori a Pheirianneg achos cryf iawn a nodai fod angen i’n hymagwedd at dai fod yn gyfannol, ar gyfer Cymru gyfan ac wrth wraidd y ffordd y meddyliwn am seilwaith.
Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd y defnyddiwn dir strategol yn ystod yr adolygiad o’r comisiwn yn y Cynulliad hwn. Ond hoffwn ychwanegu, pan fo tai’n cael eu datblygu, fod angen inni sicrhau hefyd fod y seilwaith ymylol yn iawn. Er enghraifft, rwy’n ymdrin â mater ar ystad dai a ddatblygwyd ychydig flynyddoedd yn ôl yng nghanol ardal drefol yn fy etholaeth. Dros yr holl amser hwn, nid yw’r trigolion wedi gallu cael band eang boddhaol. Er enghraifft, dywedodd un o’r trigolion wrthyf mai 0.3 cilobeit yr eiliad yn unig oedd cyflymder eu band eang. Y rheswm am hyn: nid yw’r ddarpariaeth seilwaith ar y safle erioed wedi’i gydgysylltu. Mae hyn yn effeithio ar eu gallu i weithio, i astudio, i gyfathrebu ac i ymlacio. Mae trigolion yn cael eu gorfodi i fynd i gostau diangen ac yn cael eu siomi nad yw’r disgwyliad o ran seilwaith ar ystad o dai newydd sbon yn cyrraedd y safon.
Ochr yn ochr â hyn, ystyriwyd seilwaith cymdeithasol gan y pwyllgor. Ni ddaethom i gytundeb y dylai cylch gwaith y comisiwn gynnwys pob agwedd ar hyn, ond rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cofnodi yn ei ateb y bydd disgwyl i gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru ystyried y rhyngweithio posibl rhwng ei argymhellion yn y dyfodol a’r seilwaith cymdeithasol. Yn gryno, hoffwn archwilio pam fod hyn mor bwysig, a pham mai dyma yw’r glud sy’n gallu dod â chymunedau lleol ynghyd a’u cryfhau, i ddyfynnu o ddogfen ar ystyried seilwaith ym mhorth Tafwys. Cafwyd tystiolaeth bwysig, a ddyfynnir yn ein hadroddiad, gan Ed Evans, o Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru. Dywedodd:
[fod] angen inni weld seilwaith yn ei gyfanrwydd, ac mae hynny’n cwmpasu ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Os na wnawn hyn, byddwn yn dadlau na fyddwn yn cydymffurfio â’r egwyddorion cynaliadwyedd sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Tynnodd Chwarae Teg sylw at y pwynt hwn hefyd, gan nodi bod y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn y Ddeddf yn cydblethu agweddau cymdeithasol gydag agweddau economaidd ac amgylcheddol. Bydd cynnwys gofal plant, gofal cymdeithasol a chyfleusterau addysgol yn sicrhau y gall y comisiwn gyflawni ei rôl strategol yn effeithiol. Yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, mae angen inni ystyried yr elfennau hyn o seilwaith cymdeithasol ochr yn ochr ag agweddau mwy traddodiadol ar seilwaith megis trafnidiaeth neu fand eang, gan y gallant bennu a yw pobl yn gallu cael mynediad at waith ai peidio, yn ogystal â sut a ble y gallant wneud hynny. Mae gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn elfennau allweddol o’r economi sylfaenol ac roeddwn yn falch o allu cyflwyno cynnig yr wythnos diwethaf gyda dau aelod arall o’r pwyllgor ar y mater hollbwysig hwn.
Mae darpariaeth gofal plant sy’n hyblyg yn un agwedd ar hyn. Mae fy etholaeth i ac eraill ledled y Cymoedd gogleddol yn cael eu gwasanaethu’n dda gan lu o ddarparwyr gofal plant, ac rydym yn gweld rhai arferion arloesol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, megis ysgol feithrin awyr agored gyntaf Cymru, a fydd yn agor ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn ystod yr haf. Bydd y rhwydwaith presennol o ddarpariaeth yn cael rhagor o ddefnydd wrth i bolisi gofal plant Llywodraeth Cymru gael ei roi ar waith, ac yn wir, efallai y bydd y galw am ofal plant yn fwy na’r cyflenwad. Yn ôl pob tebyg, bydd angen rhagor o ddarparwyr gofal plant i ddarparu’r seilwaith hanfodol hwn—seilwaith sydd â’r potensial i gynorthwyo trigolion i wella eu rhagolygon cyflogadwyedd, cynyddu eu hincwm gwario a hybu eu symudedd cymdeithasol.
Fy mhwynt olaf i gefnogi’r syniad o gynnwys seilwaith cymdeithasol yng nghylch gwaith y comisiwn yw’r ffaith mai dyma beth y mae’r enghreifftiau mwyaf uchelgeisiol ledled y byd eisoes yn ei wneud. Mae’r llywodraeth ffederal a llywodraethau’r taleithiau yn Awstralia yn edrych ar seilwaith economaidd a chymdeithasol. Mae cyrff seilwaith cenedlaethol Seland Newydd a Chanada hefyd yn cynnwys agweddau cymdeithasol yn eu cylchoedd gwaith. Ac ymddengys eu bod yn enghreifftiau da i ni eu dilyn.
Bydd llawer o’r hyn a ddywedaf yn adleisio sylwadau gan aelodau eraill y pwyllgor, ond nid yw ailadrodd rhai o’r pwyntiau hynny’n gwneud unrhyw niwed. Yn gyntaf, gallaf gadarnhau bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cydnabod ac yn croesawu’r syniad o ffurfio comisiwn a fydd yn darparu cyngor arbenigol, proffesiynol, ac yn anad dim, annibynnol i Lywodraeth Cymru. Fel aelod o’r pwyllgor hwnnw, rwy’n falch hefyd y bydd y comisiwn hwn yn derbyn mandad eglur a syniad clir o’i fodel ariannu.
Er fy mod yn sylweddoli ac yn derbyn y bydd yn cael ei sefydlu fel corff anstatudol i gychwyn, nodaf y wybodaeth a gafwyd gan nifer o gyrff cynghori ar seilwaith yn Awstralia, ac roeddent i gyd bron yn dweud bod canfyddiadau ynglŷn â’r corff wedi gwella’n sylweddol o ganlyniad i’w statws fel corff statudol. Yn ogystal â chyhoeddi’r statws hwn, byddai mantais ychwanegol o ganlyniad i’r ffaith y byddai’r comisiwn yn sefydliad parhaol. Felly, er fy mod yn siŵr na fyddai Ysgrifennydd presennol y Cabinet yn ceisio diddymu’r corff hwn ar unrhyw adeg, byddai’n atal unrhyw un sy’n ymgymryd â’r swydd ar ei ôl rhag gwneud hynny ar ryw adeg yn y dyfodol. Hoffwn ychwanegu hefyd fy mod o’r farn y byddai parhauster y comisiwn yn gwella’i ragolygon yn fawr o ran recriwtio personél o’r ansawdd gorau. Ystyrir bod derbyn mewn egwyddor y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd yn gam cadarnhaol a chroesawaf yr argymhelliad hwn.
Hoffwn nodi’r pwynt fod craffu ar y comisiwn yn hollbwysig, a nodaf yma nad oes gennym set ddiffiniedig o dargedau. Teimlaf y dylid cywiro’r diffyg hwn cyn gynted â phosibl. Ni ellir gorbwysleisio y dylai penodiad i swydd cadeirydd y comisiwn fod yn destun gwrandawiad cyn penodi gan bwyllgor perthnasol. Mae hyn yn gwbl angenrheidiol, o ystyried pwysigrwydd y penodiad, a byddai’n sefydlu annibyniaeth y comisiwn o’r cychwyn cyntaf. Hefyd rwy’n awyddus i adleisio sylwadau fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor o ran cynnwys seilwaith cymdeithasol yng nghylch gwaith y comisiwn.
Felly, i gloi, rydym ni yn UKIP yn croesawu gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â chreu corff sydd ar wahân i faich hwylustod gwleidyddol wrth wneud penderfyniadau o bwys strategol gyda goblygiadau hirdymor. Bydd fy mhlaid yn cefnogi ei weithrediad yn llawn.
A gaf fi adleisio’r diolch y mae fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor eisoes wedi’i roi i staff Comisiwn y pwyllgor a phawb sydd wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor? Credaf fod tystiolaeth ddefnyddiol iawn yn y trawsgrifiadau nad yw o bosibl wedi cyrraedd yr adroddiad, a byddai’n werth myfyrio arni.
Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Mae’n drueni nad oedd yn teimlo y gallai fynd ymhellach o ran tir ar gyfer tai ac mewn perthynas hefyd â chydnabod cyfeiriad statudol ar gyfer y comisiwn yn y pen draw, os mynnwch, ond rwyf hefyd yn derbyn y ffaith y bydd yn dychwelyd at y cwestiwn hwnnw yn ei adolygiad maes o law.
Rwyf am wneud sylwadau cryno ar dair agwedd ar waith y comisiwn a’i oblygiadau. Y cyntaf yw’r llinell amser 30 mlynedd y bwriada’r comisiwn weithio drosti. Clywsom, yn anecdotaidd mewn trafodaethau ac yn ffurfiol, pa mor bwysig oedd hynny i fuddsoddwyr ac i’r diwydiant yn gyffredinol o ran cynllunio adnoddau, cynllunio ariannol, ac yn wir, cynllunio sgiliau. Felly, croesawaf y ffrâm amser hir y bydd yn gweithio ynddi. Gŵyr unrhyw fusnes fod mwy o sicrwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar na’r blynyddoedd canlynol, ond serch hynny, credaf fod gwelededd yn bwysig. Fe’i croesawaf hefyd gan fy mod yn credu y bydd, mewn gwirionedd, yn cynyddu’r posibilrwydd o gonsensws gwleidyddol mewn perthynas â rhai o’r prosiectau a fydd, yn anochel, yn cael eu cynnig. Mae cael sylfaen gadarn o dystiolaeth gyhoeddus dros amser, tystiolaeth a fydd ar gael i fyfyrio drosti a’i herio, yn sicr o arwain at gymaint o gyfle â phosibl i gyrraedd consensws gwleidyddol lle y bo hynny’n bosibl.
Fodd bynnag, byddwn yn deud nad yw llinell amser 30 mlynedd yn dasg hawdd. Nid oes 30 mlynedd wedi bod eto ers dyfeisio’r we fyd-eang, ac os gall unrhyw un ohonom feddwl am ddatblygiad mwy trawsnewidiol dros y degawdau diweddar—rwy’n sicr na allwn ni. Mae gwneud hynny’n dasg sylweddol, boed yn sector ynni adnewyddadwy ar y môr, o ran yr heriau sy’n ein hwynebu mewn perthynas â dosbarthu ynni, sut y byddwn yn pweru ein cerbydau, beth fydd ein porthladdoedd yn ei wneud, a sut y bydd y rhyngrwyd o bethau’n dod yn rhan annatod o’n bywyd bob dydd. Dychmygwch fyd lle y mae cysylltedd 10G yn gwbl hanfodol ym mhob rhan o Gymru ar gyfer darparu gofal iechyd yn y cartref, a allai fod yn arferol erbyn hynny. Mae sawl math o her na ellir ei dirnad ar hyn o bryd. Credaf, felly, ei bod yn bwysig fod gennym unigolion ar y comisiwn sy’n gallu meddwl yn greadigol, ac na chawn faddeuant am adeiladu seilwaith ddoe yfory. Ac o ystyried cyflymder newidiadau technolegol, nid yw’r cyfnod o 30 mlynedd erioed wedi bod yn hwy nag y mae heddiw.
Rwyf am siarad ychydig am gyfansoddiad ac ymagwedd at waith y comisiwn. Yn ogystal â’r unigolion creadigol a grybwyllais, bydd angen pobl ar y comisiwn hefyd sydd â phrofiad ymarferol o gyflawni: pobl â’r dychymyg i feddwl ymlaen. Gan adlewyrchu’r sylwadau a wnaeth Vikki Howells a siaradwyr eraill heddiw, er gwaethaf y ffaith nad yw seilwaith cymdeithasol yn rhan o’r cylch gwaith, credaf ei bod yn bwysig fod gennym bobl â dealltwriaeth o seilwaith cymdeithasol ar y comisiwn, gan fod deall y rhyng-gysylltiad rhwng seilwaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn hanfodol, hyd yn oed os nad yw hynny’n rhan ffurfiol o’i weithgaredd.
Mentraf ddweud hefyd nad wyf yn credu mai dyma’r amser ar gyfer y wynebau cyfarwydd yn unig. Dylem fod yn feiddgar a dylem geisio dod o hyd i’r bobl orau sydd ar gael, ni waeth o ble y dônt. Yn bersonol, hoffwn weld profiad o seilwaith rhyngwladol ar y comisiwn ei hun. Rwy’n digwydd meddwl fod ansawdd y bobl y gallwn eu denu i’r comisiwn yn cyfateb yn agos iawn i’w hyder yn annibyniaeth y corff. Beth bynnag y bo’r strwythur ffurfiol, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn myfyrio ar hynny yn nhrefniadau’r comisiwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn hollol hanfodol fod gan aelodau’r comisiwn hyder llwyr yn ei annibyniaeth.
Mae’r trydydd pwynt yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â’i rôl fel partner her. Nid yw’n gorff cyflawni: mae’n gorff ymgynghorol ac mae’n bodoli er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru yn bennaf, ac i fod yn bartner her i Lywodraeth Cymru yn hynny o beth. Ond gobeithiaf hefyd y bydd cyrff cyhoeddus eraill sydd â diddordeb a chyfrifoldeb dros seilwaith yn ymgymryd yn yr un modd â gwaith y comisiwn, ac y gall fod o ddefnydd wrth herio rhai o’r rhagdybiaethau yn ein hawdurdodau lleol, y GIG a’n dinas-ranbarthau. Gobeithiaf y bydd y cyrff hynny’n ei groesawu. Nid oes gan unrhyw gorff cyhoeddus fonopoli ar ddoethineb, ac yn sicr nid dros linell amser 30 mlynedd. Ar yr amod ei bod yn her resymol, credaf y byddai’n gyfraniad defnyddiol i fywyd economaidd Cymru, a gobeithiaf y bydd cyrff cyhoeddus eraill yn ymgysylltu yn yr un ffordd ag y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei wneud.
Mae’n bleser dilyn fy ffrind Jeremy Miles, ac adleisio ei alwad am unigolion creadigol i ymroi i’r drafodaeth ynglŷn â’n hanghenion seilwaith ar gyfer y dyfodol. Rwyf ychydig yn betrus ynglŷn â’r pwyslais ar bwysigrwydd seilwaith. Fel rydym wedi’i drafod o’r blaen yn y Siambr hon, bydd angen ymateb ailadroddol mwy ystwyth a chyflym i fynd i’r afael â’r pwysau economaidd y byddwn yn ei wynebu yn y dyfodol, yn hytrach na chanolbwyntio’n helaeth ar seilwaith fel y gwnaethom yn y gorffennol. Wedi dweud hynny, mae angen i ni feddwl yn hirdymor er mwyn goresgyn yr heriau hirdymor y gwyddom eu bod yn wynebu ein heconomi a’n cymdeithas, yn enwedig y targed newid hinsawdd y mae pawb ohonom wedi ymrwymo iddo, a goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n eithaf amlwg nad yw’r system bresennol yn gweithio yn arbennig o dda. Cofiaf Gerry Holtham yn dweud wrthyf am ei brofiad fel cynghorydd Llywodraeth Cymru ar gyllid, pan ofynnwyd iddo fynd i’r ddinas i geisio codi arian amgen i ariannu uchelgeisiau seilwaith Llywodraeth Cymru. Treuliodd ei amser yn meithrin cysylltiadau yn y ddinas yn amyneddgar, gan gytuno ar becyn o gyllid, ac roedd ar fin arwyddo pan ad-drefnwyd y Cabinet a olygai fod blaenoriaethau seilwaith y Llywodraeth wedi newid gan wneud yr holl waith yn ofer, a bu’n rhaid dechrau o’r dechrau o ran ceisio dod o hyd i arian ar gyfer seilwaith.
Credaf, fodd bynnag, ei bod yn hanfodol fod unrhyw gorff newydd yn gwneud ei benderfyniadau mewn modd sy’n ystyried yr heriau hirdymor, ac yn nodi, yn hollol dryloyw, ar ba sail y mae’n gwneud y penderfyniadau hynny, ac yn eu rhoi ar waith mewn modd cyson. Dylai gwerth am arian fod yn fesur allweddol. Yn sicr, dylem roi blaenoriaeth i’r cynlluniau sy’n rhoi’r elw mwyaf. Yn ddefnyddiol iawn, mae Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn categoreiddio’r hyn y mae’n ei ystyried yn werth da am arian.
Soniaf yn gryno am ei ganllawiau. Ystyrir bod cynllun sy’n darparu rhwng £1 a £1.50 am bob £1 a fuddsoddir yn cynnig gwerth isel am arian. Ystyrir bod cynllun sy’n darparu £2 am bob £1.50 a fuddsoddir yn cynnig gwerth canolig am arian. Ystyrir bod cynllun sy’n darparu rhwng £2 a £4 am bob £1 a fuddsoddir yn cynnig gwerth uchel am arian, ac ystyrir bod unrhyw beth sy’n darparu elw o dros £4 yn cynnig gwerth uchel iawn am arian. Fel enghraifft o hynny, mae cynlluniau sy’n annog cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr, er enghraifft, fel arfer yn darparu oddeutu £9 am bob £1 a fuddsoddir. Ond nid yw rhai o’r cynlluniau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd neu sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn ddiweddar yn talu’n arbennig o dda yn ôl y meincnod hwnnw.
Rhagwelir y bydd llwybr du yr M4, er enghraifft, yn darparu elw o £1.62 am bob £1 a fuddsoddir. A dylid cofio bod y fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo’r ffigur hwnnw yn rhagfarnllyd iawn er mwyn gwneud i gynlluniau adeiladu ffyrdd edrych yn ddeniadol. Felly, er mwyn rhoi enghraifft i chi o sut y mae’n gweithio, bydd yn rhagweld y bydd y cynllun yn cynhyrchu arbedion o nifer penodol o funudau o ran amser teithio, ac yn amcangyfrif wedyn sawl car a fydd yn gwneud y daith honno; bydd yn cymryd y ffigur hwnnw ac yn ei luosi â’r flwyddyn honno—felly, i bob pwrpas, bydd yn dewis rhif ar hap nad oes iddo unrhyw sail yn ffeithiol; amcanestyniad ydyw—ac yna bydd yn lluosi’r rhif hwnnw â 30, gan mai dyna nifer y blynyddoedd y mae’n credu y bydd y cynllun yn darparu adenillion ar fuddsoddiad. Felly, mae cynlluniau ffyrdd yn cael eu hystumio i edrych fel pe baent yn darparu cymaint o elw â phosibl ar arian cyhoeddus. Hyd yn oed o ddefnyddio’r fformiwla honno, nid yw’r cynlluniau a roddwn ar waith yn talu’n arbennig o dda.
Unwaith eto, roedd yr A477, rhwng Sanclêr a Rhos-goch, yn darparu elw o £1.35 am bob £1 a fuddsoddwyd, hyd yn oed o ddefnyddio’r fformiwla uchelgeisiol iawn honno a’i rhagdybiaethau. Mae hynny’n cynnig adenillion isel ar fuddsoddiad. Cefais fy syfrdanu wrth dderbyn ymateb ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â ffordd osgoi Llandeilo, a ddywedai mewn gwirionedd nad oedd ganddo ffigur yn sail i’w benderfyniad i roi sêl bendith i’r cynllun. Dyfynnaf:
Gan nad oes unrhyw waith datblygu wedi ei gyflawni ar y cynllun dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r Gymhareb Budd a Chost yn dyddio’n ôl i’r Ymchwiliad Cyhoeddus yn y nawdegau, ac ar y pryd, 1.16 oedd y ffigur hwnnw.
Ffigur isel iawn am fuddsoddiad o £1. Aeth ymlaen i ddweud:
y bydd sefydlu Cymhareb Budd a Chost gadarn ar gyfer y prosiect yn weithred gynnar fel rhan o ddatblygiad y cynllun.
Nawr, pan fydd gennym gomisiwn seilwaith, gobeithiaf na fyddwn yn rhoi sêl bendith i gynlluniau heb ddata cadarn i’w cyfiawnhau a heb eu bod yn cydymffurfio’n gadarn â’r nod o gyflawni’r targed yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddo mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd.
Clywaf Adam Price yn mwmian. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo sôn am yr angen am gorff statudol, a fyddai’n mynd â’r disgresiwn o ddwylo’r Gweinidogion, ac ar yr un pryd yn cael eithriad ar gyfer unrhyw gynllun—
Yn anffodus, nid oes gennyf amser.
Na, mae ei amser ar ben. Mae’n ddrwg gennyf, Adam; mae’r Aelod yn—[Torri ar draws.]
Cael eithriad—. Fel y mae’n digwydd, Dai Lloyd, rwyf wedi ildio i Adam Price lawer mwy o weithiau nag y mae ef wedi ildio i mi.
Rydych yn dirwyn i ben yn awr, onid ydych? Diolch.
Ydw. Caniatawyd eithriad i ffordd osgoi Llandeilo fel na fyddai angen i’r comisiwn annibynnol ei hystyried, gan wybod yn iawn, ar sail elw o £1.16 ar y buddsoddiad, na fyddai’n ddigon da. Rwyf wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo fynnu bod yn rhaid i gynlluniau eraill basio prawf tebyg. Rydym oll wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i bawb ohonom gyflawni ein hymrwymiad a’i adlewyrchu yn y penderfyniadau a wnawn.
Diolch yn fawr iawn. Hefin David.
Gadewch i ni dawelu. Hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad 1 ac argymhelliad 8 yn fy ymateb, yn enwedig argymhelliad 1:
‘y modd y cyflenwir tir ar gyfer datblygiadau tai ac iddynt arwyddocâd strategol, ynghyd â’r seilwaith cysylltiedig’.
Mae hon yn thema y siaradais amdani ar sawl achlysur yn y Siambr pan gefais fy ethol gyntaf ac yn wir, roeddwn yn rhan o ddeuawd annhebygol gyda Neil McEvoy, yn siarad am yr angen am gynlluniau cydgysylltiedig—. [Torri ar draws.] Mae’n drueni nad yw yma heddiw, oherwydd gyda’i statws annibynnol newydd efallai y gallem fod wedi ailffurfio’r ddeuawd honno. Soniasom am yr angen am gynlluniau datblygu strategol cydgysylltiedig i fynd i’r afael â’r heriau trawsffiniol ym maes tai yn arbennig, ond cyflogaeth a thrafnidiaeth hefyd, yn hytrach na nifer o gynlluniau datblygu lleol yn cystadlu mewn ardaloedd agos yn ddaearyddol. Mae hyn yn rhywbeth a drafodwyd yn helaeth yn y pwyllgor, ac mae’n rhywbeth nad wyf yn credu ein bod wedi mynd i’r afael ag ef yn iawn o hyd. Rwy’n gobeithio y gallai fod modd i’r comisiwn archwilio hyn, hyd yn oed os nad yw’n rhan o’i gylch gwaith ffurfiol.
Gan fod y galw am dai a’r cyflenwad tai wedi’u cysylltu’n agos â’r economi a’r amgylchedd, i mi, mae’n gwneud synnwyr i ehangu cylch gwaith y comisiwn yn hyn o beth. Gwnaeth Mark Isherwood y pwynt hwnnw, er iddo wneud hynny mewn ffordd ychydig yn flin. Nid yw’n flin mewn bywyd go iawn, ond roeddwn yn cytuno ag ef. [Chwerthin.] Nodais fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, yn amodol ar adolygiad ffurfiol. Yn ei ymateb mae’n dweud bod mecanweithiau presennol ar waith eisoes i ystyried y mater hwn a bod angen i gynlluniau datblygu rhanbarthol wreiddio cyn ymestyn cylch gwaith y comisiwn. Hoffwn wybod mwy am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei olygu wrth wreiddio, ac mae angen cynlluniau rhanbarthol yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach yn fy marn i. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fonitro’r sefyllfa honno’n agos iawn felly. Maent wedi dweud ‘yn ystod y tymor Cynulliad hwn’. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro i mi felly sut y caiff datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol eu hymgorffori’n anffurfiol yng nghylch gwaith y comisiwn er mwyn mabwysiadu’r safbwynt cyfannol y mae’n cyfeirio ato yn ei ymateb i’r adroddiad?
Yn olaf, mae argymhelliad 8 yn dweud y dylai bwrdd y comisiwn:
‘adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru er mwyn sicrhau bod y Comisiwn yn deall pob rhan o Gymru.’
Ac y dylai
‘ystyried sefydlu fforwm i ddwyn ynghyd y gwahanol ranbarthau yng Nghymru ac i ystyried y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y rhanbarthau hynny.’
Mae hynny, wrth gwrs, yn uniongyrchol gysylltiedig â’r fargen ddinesig yng Nghaerdydd—bargen ddinesig Caerdydd. Byddai fy etholwyr yng Nghaerffili yn elwa o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd a’r metro de Cymru cysylltiedig. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ond un o’r cysyniadau y ceisiais ei ddatblygu yn y Siambr, ac y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato heddiw, yw’r cysyniad o’r Cymoedd gogleddol, a’r angen am strategaeth economaidd ar gyfer y rhannau hyn o Gymru nad ydynt yn denu cymaint o fuddsoddiad â’r canol dinesig. Rwy’n awyddus i’r fargen ddinesig wasanaethu’r Cymoedd gogleddol. Gyda’r diddordeb yn y Cymoedd gogleddol, sy’n gymunedau yn eu hawl eu hunain, a fyddai gennych gynrychiolwyr o’r ardal honno wedyn ar fwrdd y comisiwn i sicrhau bod yr ardal hon yn cael ei hystyried mor drylwyr ag y dylai, yn awr ac yn y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn, a galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am eu hymchwiliad a’u hadroddiad? Roedd yr ymchwiliad yn drylwyr a chynhwysol, ac fe’i cadeiriwyd yn fedrus gan Russell George, ac roedd gan aelodau’r pwyllgor ddiddordeb dwfn a chwilfrydig iawn yn y pwnc. Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad cryf y mae eu canfyddiadau wedi’i wneud i ddatblygiad comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru. Mae sicrhau bod pobl yn unedig a chysylltiedig yn rhan sylfaenol o waith y Llywodraeth hon, ac yn rhan allweddol o ‘Symud Cymru Ymlaen’. Caiff ein llwyddiant ei fesur yn ôl y twf economaidd a’r sefydlogrwydd y gallwn ei ddarparu i gymunedau ledled Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod, a dyna pam y mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ddatblygu economi gryfach a thecach.
Elfen sylfaenol ar gyfer gwella sefydlogrwydd economaidd yw ystod ac ansawdd seilwaith gwlad—y systemau ffisegol a’r gwasanaethau sydd angen inni eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod Cymru’n gweithio’n effeithiol. Mae angen i unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau gael eu cefnogi gan wasanaethau cynaliadwy sy’n diwallu anghenion heddiw, ond sydd hefyd yn ein paratoi ar gyfer heriau yfory. Bydd hyn yn arbennig o hanfodol gan ein bod yn gwybod pa mor anodd y mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod. Felly, ein her yw creu’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar gyfer lles hirdymor ein pobl a’n cymunedau.
Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol mawr, sy’n ei gwneud hyd yn oed yn fwy pwysig ein bod yn gweithredu yn awr ac yn cryfhau’r ffordd yr ydym yn ystyried ac yn blaenoriaethu anghenion seilwaith yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni greu’r amodau ar gyfer buddsoddiad cynaliadwy hirdymor ac nid oes amheuaeth fod cael y seilwaith cywir yn hanfodol. Am y rheswm hwn mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i symud tuag at strategaeth fwy gwybodus, mwy hirdymor o fuddsoddi mewn seilwaith, sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru yn gam hanfodol tuag at yr uchelgais hwn, ac roeddwn yn falch fod y pwyllgor wedi cydnabod pwysigrwydd y comisiwn drwy ei wneud yn destun un o’i ymchwiliadau cyntaf yn y Cynulliad hwn. Ni allai’r amseru fod wedi bod yn well gan i mi lansio ymgynghoriad cyhoeddus dros 12 wythnos y llynedd ar y comisiwn i redeg ochr yn ochr ag ymchwiliad y pwyllgor. Croesawaf yn fawr adroddiad y pwyllgor a’r cyfle heddiw i drafod ymhellach gyda’r Aelodau.
Roedd yr adroddiad, a oedd yn adleisio llawer o’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus, yn un adeiladol iawn a helpodd i lunio fy ystyriaethau o’r comisiwn. Roeddwn yn falch o dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, bron bob un o’r argymhellion. Un o’r themâu amlycaf a godai o’r adroddiad ac o’r ymarfer ymgynghori oedd yr angen dybryd am gyngor sy’n strategol, yn drawsbynciol ac yn cynnal safbwynt gwrthrychol hirdymor.
Bydd cylch gwaith y comisiwn yn cael ei deilwra i sicrhau bod ffocws ac adnoddau wedi’u cyfeirio tuag at anghenion seilwaith strategol. Fe fydd yn hanfodol er mwyn amddiffyn annibyniaeth y comisiwn hefyd. Felly, rwy’n croesawu awgrymiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol fabwysiadu rôl weithredol yn y gwaith o graffu ar annibyniaeth ac argymhellion y comisiwn, yn ogystal â’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argymhellion hyn. Felly, er mwyn hwyluso hyn, rwy’n bwriadu gosod adroddiad blynyddol y comisiwn gerbron y Siambr. Rwyf hefyd yn cytuno ag awgrym y pwyllgor ynglŷn ag adroddiad tair blynedd ar gyflwr y genedl i ddarparu fframwaith effeithiol ar gyfer y trefniadau adrodd.
Nawr, er bod argymhellion y pwyllgor yn cyd-fynd i raddau helaeth â’n syniadau ni, ceir rhai meysydd lle y mae angen mwy o amser i asesu’r budd a’r effaith bosibl. Rwy’n ystyried mai cam cyntaf mewn proses sy’n datblygu yw sefydlu’r comisiwn a chefais fy nghalonogi gan y gefnogaeth glir yn adroddiad y pwyllgor a’r ymatebion i’r ymgynghoriad i adolygiad o statws a chylch gwaith y comisiwn tuag at ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Byddwn yn sefydlu’r comisiwn ar sail anstatudol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu darparu cyngor ac argymhellion cyn gynted ag y bo modd.
Rwy’n cytuno â’r pwyllgor na ddylai’r cylch gwaith ymestyn i seilwaith cymdeithasol yn gyffredinol, ac wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ymestyn y cylch gwaith i gynnwys cyflenwi tir ar gyfer datblygiadau tai. Rwy’n cydnabod y cysylltiadau clir rhwng y cyflenwad tai a thwf economaidd, ond rwy’n bwriadu rhoi ystyriaeth fwy gofalus i hyn o gofio’r mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli yn y sector hwn. Ar ben hynny, mae angen mwy o amser i gynlluniau datblygu strategol aeddfedu ac i’w heffeithiolrwydd gael eu hasesu. Felly, rwy’n ystyried y bydd cwmpas y comisiwn yn ffocws i adolygiad a gynlluniwyd cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Fodd bynnag, o’r cychwyn cyntaf, bydd disgwyl i’r comisiwn ystyried y rhyngweithio posibl rhwng ei argymhellion a seilwaith cymdeithasol, fel y mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi sôn heddiw. Bydd hyn yn sicrhau bod argymhellion y comisiwn yn edrych yn gyfannol ar anghenion seilwaith, ond hefyd yn cynnal ei brif ffocws. Ar ben hynny, drwy ei gyngor a’i argymhellion, bydd disgwyl i’r comisiwn adlewyrchu’n llawn y rhwymedigaethau ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Deddf yr amgylchedd yn ogystal â nodau ac egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Agwedd allweddol arall ar yr ymgynghoriad oedd pwysigrwydd cael perthynas waith agos gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu a datblygu perthynas adeiladol a buddiol i’r ddwy ochr gyda chomisiwn y DU ar feysydd allweddol megis cysylltedd rheilffyrdd ac ynni, ac roedd y pwyllgor ac ymatebion i’n hymgynghoriad yn cefnogi hyn yn gryf.
Mae comisiwn y DU wedi cydgysylltu’n agos gyda ni ar ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru i helpu i lywio ei asesiad seilwaith cenedlaethol cyntaf. Rydym yn cydweithio i gynnal ymweliad gan gomisiwn y DU â Wrecsam yr wythnos hon gyda thrafodaethau o gwmpas y bwrdd i wleidyddion ac i fusnesau.
Fe af ar ôl y nifer fach o bwyntiau ychwanegol a nodwyd heddiw yn ystod y ddadl. Fel y mae’r Aelodau wedi nodi, rwy’n credu y dylid lleoli’r comisiwn y tu allan i Gaerdydd, ond mewn ardal, mewn adeilad, sy’n ei osod ychydig ar wahân i unrhyw sefydliadau a allai elwa o’i ystyriaethau. Rwyf hefyd yn credu, fel y mae Aelodau wedi nodi, y dylai adnoddau gael eu dyrannu’n decach ar gyfer prosiectau ledled Cymru. Ni ddylem edrych yn unig ar gyfran decach o adnoddau, fodd bynnag, ar gyfer y rhanbarthau, ond hefyd o fewn y rhanbarthau. Oherwydd, a dweud y gwir, pe baem yn dilyn yr awgrym a gynigiwyd gan rai i leihau gwariant yn ddramatig yn ne-ddwyrain Cymru heb edrych ar sut y rhennir y gwariant o fewn de-ddwyrain Cymru, yna—
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Yn sicr.
Pa bryd y mae unrhyw un, rwy’n meddwl, yn y Siambr hon, wedi galw mewn gwirionedd am lai o fuddsoddiad yn ne-ddwyrain Cymru, neu yn unrhyw ran o Gymru? Y pwynt yw cynyddu buddsoddiad yn y rhanbarthau eraill yn ogystal. Rydym wedi darparu rhai dulliau arloesol ar ei gyfer er mwyn iddo allu gwneud hynny.
Wrth sôn am wahaniaethau rhwng rhanbarthau, ac yn ei hanfod, drwy osod rhanbarthau yn erbyn ei gilydd o ran y gwariant, oni bai eich bod yn gallu nodi sut i gynyddu’r gwariant a’r adnoddau yn yr ardaloedd hyn heb dorri mewn meysydd eraill o’r Llywodraeth, rhaid cymryd yn ganiataol eich bod yn trafod, ac yn argymell toriad mewn rhyw ardal neu’i gilydd o Gymru er mwyn cynyddu’r cyllid mewn ardal arall. Mae fy mhwynt yn bwynt y dylech ei gefnogi, ‘does bosibl: nid yw’n ymwneud yn unig ag anghydraddoldeb rhanbarthol, mae’n ymwneud ag anghydraddoldeb o fewn rhanbarthau yn ogystal, a rhaid inni sicrhau, o fewn y rhanbarthau, fod adnoddau’n cael eu dyrannu’n deg er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gymunedau’n cael eu gadael ar ôl neu dan anfantais.
O ran rhai o’r pwyntiau eraill a wnaed, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol y dylem ystyried denu’r arbenigwyr technegol gorau nid yn unig o Gymru, ond o bedwar ban byd, a byddwn yn cytuno yn llwyr gyda Jeremy Miles fod yn rhaid i ni estyn allan a dod â gwaed newydd a syniadau newydd ac arloesedd i mewn. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod â’r Arglwydd Adonis ddydd Gwener.
Yn olaf, o ran seilwaith cymdeithasol, gwnaeth Vikki Howells bwynt pwysig iawn am ofal plant. Wrth gwrs, dylai darpariaeth gofal plant fod yn gysylltiedig iawn â datblygu gorsafoedd metro newydd, a dyna pam y credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod dealltwriaeth dda o seilwaith cymdeithasol yn datblygu ar y comisiwn.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen yn awr at weld y comisiwn wedi’i sefydlu ac yn dechrau cyflawni ei botensial. Fy nod yw lansio’r ymarfer penodiadau cyhoeddus ar gyfer y cadeirydd a’r aelodau yn gynnar yn yr hydref a chael y comisiwn yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Russell George i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw. Rwy’n meddwl bod y ffaith fod pob aelod o’r pwyllgor, ac Aelodau eraill hefyd nad ydynt yn rhan o’r pwyllgor, wedi cymryd rhan yn y ddadl yn dangos lefel y diddordeb mewn comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac yn wir, y potensial sydd ganddo, rwy’n credu, i ddatblygu Cymru’r dyfodol.
Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch nid yn unig i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn, ond hefyd am y gefnogaeth a gawsom gan dîm clercio’r pwyllgor a’r tîm integredig ehangach. Rwy’n siarad ar ran fy holl aelodau yn hynny o beth. Maent wedi cynnig cefnogaeth wych yn ein cynorthwyo yn ein gwaith.
Cyflwynodd Adam Price safbwyntiau teg mewn perthynas â rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd yn ymgynghoriad y Llywodraeth, ac rwy’n meddwl tybed a oes cyfle yma lle y mae’r Llywodraeth yn ymwybodol fod yna bwyllgor yn cynnal ymchwiliad lle y gallai, yn wir, ymgynghori â’r pwyllgor hwnnw a chynnwys y pwyllgor hwnnw, yn wir, drwy ofyn i’r pwyllgor am ei farn ar ei gwestiynau ymgynghori ei hun. Rwy’n meddwl y byddai pawb ohonom eisiau gweld cwestiynau dilys a phwrpasol mewn ymgynghoriad, a tybed a oes gan bwyllgorau yn y Cynulliad rôl i’w chwarae yn cefnogi’r Llywodraeth yn hynny o beth. Siaradodd Adam Price hefyd ynglŷn â pham hepgor seilwaith cymdeithasol, a chawsom sesiwn dda iawn gyda’r Athro Karel Williams y bore yma ar hynny hefyd. Rwy’n ddiolchgar i Hannah Blythyn ac i Mark Isherwood, sy’n aml, ill dau, yn chwifio’r faner dros ogledd Cymru yn y pwyllgor, ac fe wnaethant hynny yn y ddadl heddiw yn ogystal, ac i Mark am ehangu’n fwy manwl ar yr argymhellion a gafodd eu derbyn mewn egwyddor yn unig.
Mae Vikki Howells wedi cefnogi seilwaith cymdeithasol yn gryf yn y pwyllgor yn ein trafodaethau, a bu’n rhan fawr iawn o’r gwaith o siapio ein hadroddiad yn hynny o beth ac ysgogodd yr argymhelliad oddi wrthym yn hynny o beth yn ogystal, rwy’n meddwl, a diolch i Vikki am ymhelaethu rhywfaint yn rhagor ar hynny a chyflwyno’r enghreifftiau a gafwyd ganddi heddiw hefyd. Diolch i David Rowlands a Jeremy Miles a Hefin David am eu cyfraniadau, a Lee Waters—diolch i Lee am gymryd rhan yn y ddadl heddiw; ag yntau heb fod yn aelod o’r pwyllgor, mae’n ddiddorol cael barn o’r tu allan i’r pwyllgor. Roeddwn ychydig yn siomedig nad oedd amser ar gyfer ymyriad Adam Price, ond pe bai Adam eisiau i mi gymryd ymyriad iddo allu cyflwyno’r pwynt yr oedd am ei roi i chi, byddwn yn hapus i dderbyn yr ymyriad hwnnw. [Chwerthin.]
Rwy’n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor—mor gydsyniol a chydweithredol ag erioed. Rwy’n meddwl mai’r pwynt allweddol oedd rôl comisiwn seilwaith cenedlaethol os yw, yn y llythyr cylch gwaith, yn cael arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru fod angen inni gydraddoli’r lefelau o fuddsoddiad seilwaith ar draws y rhanbarthau ac yn bendant—i adleisio’r pwynt a wnaeth Hefin David—o fewn y dinas-ranbarthau presennol hefyd fel nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl.
Byddwn yn sicr yn cefnogi hynny’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn meddwl mai’r pwynt pwysig yma hefyd yw nad yw hynny’n cael gwared ar—ni fyddai comisiwn seilwaith yn mynd â chyfrifoldeb oddi wrth Weinidog y Llywodraeth, ond byddai’n caniatáu i’r comisiwn weithio y tu allan i wleidyddiaeth, ac rwy’n credu mai dyna pam y sefydlwyd y comisiwn o ran hynny.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mabwysiadu dull pragmataidd, rwy’n meddwl, o sefydlu’r comisiwn, ac mae ei fwriad, rwy’n credu, i adolygu ei effeithiolrwydd ar ddiwedd tymor y Cynulliad i’w groesawu yn ogystal? Bydd yn rhoi cyfle i ni ystyried a yw’r comisiwn wedi cyflawni ac yn cyflawni ei botensial hefyd, ac a oes angen cymorth arno, er enghraifft, drwy ei roi ar sail statudol er mwyn iddo lwyddo. Bydd y camau nesaf yn gwbl hanfodol, rwy’n credu, a siaradodd Jeremy Miles yn gryf i’r perwyl hwn, ond rwy’n dymuno’n dda i Ysgrifennydd y Cabinet a’i dîm wrth iddynt recriwtio’r unigolion o ansawdd uchel y bydd eu hangen, gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiad a gwybodaeth am Gymru, i roi’r seilwaith dynol sydd ei angen ar y comisiwn er mwyn iddo allu cyflawni dros Gymru. Felly, hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor a Lee Waters am gyfrannu at y ddadl heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig i nodi adroddiad y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.