– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 29 Mawrth 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar ganser yr ofari. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Mike Hedges, i gynnig y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb a ddaeth i law yn galw am raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari. Cafodd y ddeiseb yma ei threfnu gan Margaret Hutcheson, ac fe’i cefnogwyd gan 104 o bobl. Cafodd Ms Hutcheson, nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol, ei hysbrydoli i gychwyn y ddeiseb ar ôl i sawl un o’i ffrindiau gael diagnosis o ganser yr ofari. Ei phrif bryder oedd gwella diagnosis a thriniaeth amserol ar gyfer y clefyd dychrynllyd hwn. Ei phrif uchelgeisiau ar gyfer y ddeiseb oedd gweld rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari, a mwy o ymwybyddiaeth o ganser yr ofari a’i symptomau ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Fel pwyllgor, cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth lafar gyda’r deisebwr, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, ac ysgrifennwyd hefyd at elusennau canser i ofyn am eu barn. Fel pwyllgor, rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cancer Research UK, Ovarian Cancer Action, a Target Ovarian Cancer, sydd wedi rhoi eu barn ar destun y ddeiseb.
Mae canser yr ofari yn arwain at oddeutu 240 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru—neu, mewn termau yr ydym yn eu deall, chwech ym mhob etholaeth—ac mae’n un o brif achosion marwolaeth ymhlith menywod yn y DU. Bydd un o bob 50 o fenywod yn cael canser yr ofari ar ryw adeg yn ystod eu bywydau ac yn drasig, bydd llai na hanner y menywod sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl cael y diagnosis. Roedd y dystiolaeth a gawsom hefyd yn dangos bod cyfraddau goroesi yn y DU yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Ewrop. Cafodd Margaret Hutcheson, y deisebydd, gwmni ei ffrind Jenny Chapman i ateb cwestiynau’r pwyllgor, a hoffwn gofnodi diolch diffuant y pwyllgor i’r ddwy ohonynt am ddod draw i roi eu safbwyntiau.
Mae’r holl safbwyntiau a glywsom yn cefnogi pwysigrwydd nodi symptomau canser yr ofari yn gynnar. Onid yw hynny’n swnio’n gyffredin ar gyfer pob canser? Mae diagnosis cynnar yn gwella’r gobaith o drechu’r clefyd yn llwyddiannus, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y mae angen i ni ei ddweud yn amlach. Clywsom fod cydberthynas agos rhwng diagnosis cynnar a’r rhagolygon i fenywod sy’n cael y diagnosis. Er nad yw hyn yn unigryw i ganser yr ofari, clywodd y pwyllgor y gall canser yr ofari fod yn arbennig o anodd gwneud diagnosis yn ei gylch. Y rheswm am hyn yw y gellir yn hawdd gamgymryd y symptomau cyffredin am gyflyrau eraill, neu nid oes unrhyw symptomau o gwbl. Am y rhesymau hyn, erbyn yr adeg y bydd y rhan fwyaf o fenywod â chanser yr ofari yn datblygu symptomau a’u canser yn cael ei ganfod, mae wedi lledaenu y tu allan i’r ofarïau ac yn llawer anos ei drin yn llwyddiannus.
Mae ffigyrau a gawsom gan Cancer Research UK yn dangos bod y gyfradd goroesi pum mlynedd ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru a Lloegr yn 46 y cant, neu o’i roi mewn ffordd arall, mae 54 y cant yn marw o fewn pum mlynedd. Fodd bynnag, ymysg menywod sy’n cael diagnosis ar y cam cynharaf, mae’n codi i 90 y cant. Felly, mae dros draean yn fwy o fenywod sy’n cael diagnosis yn y cyfnod cynnar yn goroesi nag a fyddai pe baent yn aros nes y cam diweddarach. Credwn fod hyn yn gwneud achos argyhoeddiadol dros roi camau pellach ar waith i gynyddu nifer y menywod â chanser yr ofari sy’n cael diagnosis cynnar.
Roedd y ddeiseb hon yn galw’n bennaf am gyflwyno rhaglen sgrinio i ganfod canser yr ofari ar gam cynnar. Dadleuodd y deisebydd yn gryf y gallai hyn helpu i achub bywydau merched sy’n datblygu canser. Gwnaeth y deisebwr yr achos y dylai hyn gynnwys prawf gwaed blynyddol i fenywod gyda’r nod o ganfod canser yr ofari ar gam cynnar. Yn ei thystiolaeth i’r pwyllgor, awgrymodd Margaret Hutcheson y dylai’r rhaglen dargedu pob menyw dros 50 yn benodol. Nid yw sgrinio canser yr ofari ar gael ar y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, nac yn unrhyw ran arall o’r DU.
Clywodd y pwyllgor fod astudiaethau i ddod o hyd i brawf sgrinio poblogaeth cyffredinol ar gyfer canser yr ofari yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Y mwyaf o’r rhain yw treial cydweithredol sgrinio canser yr ofari y DU sydd wedi bod ar waith ers 2001. Cyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Rhagfyr 2015. Roeddent yn dangos y gallai fod manteision o sgrinio drwy ddefnyddio profion gwaed, ond roedd y rhain yn amhendant ar y cyfan. O ganlyniad, mae’r astudiaeth wedi cael ei hymestyn am dair blynedd arall.
Yn ei thystiolaeth, amlinellodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd y broses lle y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyngor gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, sy’n cynghori pob Llywodraeth yn y DU. Gwelsom fod y pwyllgor sgrinio wedi adolygu ei argymhelliad yn ddiweddar ynglŷn â sgrinio ar gyfer canser yr ofari a’u hargymhelliad presennol o hyd yw na ddylid sgrinio’r boblogaeth ar hyn o bryd.
Clywsom bryderon hefyd ynglŷn â chywirdeb y prawf gwaed mwyaf cyffredin ar gyfer canser yr ofari, y prawf CA125. Mae menywod â chanser yr ofari yn tueddu i fod â lefelau uchel o’r protein CA125 yn eu gwaed—mwy na menywod heb ganser yr ofari. Ond gall y lefelau CA125 fod yn uwch am nifer o resymau nad ydynt yn ymwneud â chanser. Mae hyn yn golygu bod risg sylweddol o ganlyniadau positif anghywir. Clywsom ei bod yn bosibl mai 1 y cant yn unig o fenywod a atgyfeirir at ofal eilaidd yn dilyn prawf gwaed CA125 a fyddai â chanser yr ofari mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl mai un o’r pethau a deimlem oedd nad ydym am i bobl ofni rhywbeth pan fo’r posibilrwydd eu bod yn dioddef ohono mor isel â hynny. Felly, mae’r gwaith ymchwil ar hyn o bryd yn dangos nad yw’r prawf yn ddigon cywir i gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen sgrinio.
Ar ôl ystyried yn ofalus yr ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor, ar y cyfan, rydym yn derbyn nad yw’r dystiolaeth bresennol yn cefnogi cyflwyno rhaglen sgrinio poblogaeth. Fodd bynnag, o ystyried bod yr astudiaeth yn dal i fod ar y gweill ac y bydd yn adrodd ar ganfyddiadau pellach yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gadw llygad agos ar y sefyllfa a rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â rhaglen sgrinio genedlaethol newydd. O ystyried bod diagnosis cynnar mor bwysig mewn achosion o ganser yr ofari, gallai rhaglen sgrinio effeithiol chwarae rôl hanfodol yn gwella cyfraddau goroesi, ac rwy’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Fel y nodwyd yn gynharach, er nad ydym yn gallu cefnogi rhaglen sgrinio genedlaethol, rydym yn teimlo fel pwyllgor fod mesurau eraill a gymerir i wella camau i nodi canser yr ofari yn gynnar—. Trof yn awr at y rheini.
Yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari oedd thema ganolog y dystiolaeth a gawsom. Mynegodd y deisebwr bryder fod ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyflwr yn isel iawn a disgrifiodd ganser yr ofari fel ‘llofrudd tawel’. Clywsom fod taflen ar ganser yr ofari, gan gynnwys symptomau cyffredin y clefyd, ar gael drwy feddygfeydd meddygon teulu, a chynhaliodd Ymddiriedolaeth GIG Felindre ymgyrch ymwybyddiaeth drwy gydol mis Mawrth 2016. Fel rhan o hyn, cynhyrchwyd pecynnau gwybodaeth ar gyfer meddygon teulu gan elusen Target Ovarian Cancer. Rydym yn croesawu’r camau hyn a’r ymdrechion a wnaed i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari a’r symptomau cyffredin.
Serch hynny, teimlwn y gellid ac y dylid gwneud mwy i sicrhau bod mwy o fenywod yn ymwybodol o’r clefyd. Mae adeiladu ymwybyddiaeth yn allweddol, oherwydd, pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono ac yn dod yn ymwybodol o symptomau, yna mae mwy o obaith y byddant yn mynd i weld eu meddyg teulu a chael eu hatgyfeirio. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari, gan gynnwys y symptomau cyffredin a phryd y dylai pobl ofyn am gyngor meddygol. Byddem yn hoffi gweld hyn yn adeiladu ar waith blaenorol ac yn rhedeg dros gyfnod estynedig.
Rwy’n cydnabod bod gwerth mewn codi proffil cyhoeddus nifer fawr o gyflyrau a chlefydau. Fodd bynnag, cawsom ein hargyhoeddi gan y dystiolaeth a gawsom y dylai fod ffocws ar ganser yr ofari yn benodol oherwydd pwysigrwydd hanfodol canfod y clefyd ar y cam cynharaf posibl. Câi hyn ei gefnogi’n gryf gan y deisebydd a chan yr elusennau y cysylltwyd â hwy. Er enghraifft, dywedodd Ovarian Cancer Action wrthym:
Byddai’n well gwario arian ar hyn o bryd ar ymgyrch gyhoeddus genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod y Gweinidog wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Rwy’n gobeithio yn ateb y Gweinidog y bydd yn gallu egluro sut y bydd ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yn gyffredinol yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cael yr effaith a ddymunir o godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari.
Mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud ag ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o ganser yr ofari. Mae’n hanfodol i bob menyw allu cael profion a diagnosis amserol pan fydd canser yr ofari yn bosibilrwydd. Rhaid i fenywod sy’n mynd at y meddyg gyda symptomau canser yr ofari allu cael mynediad at y profion diagnostig priodol yn gyflym fel bod y driniaeth orau sy’n bosibl ar gael iddynt. Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn glir ynglŷn â phwysigrwydd ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn benodol, mae’n hanfodol fod meddygon teulu—y person cyntaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei weld pan fyddant yn cael symptomau sy’n eu gwneud yn sâl—yn gyson yn gallu adnabod symptomau canser yr ofari a chyfeirio pobl i gael profion diagnostig yn briodol. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw meddygon teulu nad ydynt yn gwybod am y peth, yn eu hanfon yn ôl a dweud wrthynt ddod yn ôl ymhen tri mis os nad ydynt wedi gwella, oherwydd bydd hynny’n golygu bod yr amser y mae’n rhaid iddynt aros i gael eu trin yn cynyddu a bydd eu gobaith o oroesi’n lleihau.
Roeddem yn falch o glywed bod gwaith diweddar wedi cael ei wneud mewn perthynas ag ymwybyddiaeth meddygon teulu yng Nghymru, a siaradodd y Gweinidog am ei bwriad i barhau i wella dealltwriaeth o symptomau a diagnosis cynnar o ganser yr ofari gan glinigwyr. Nododd y pwyllgor fod hyn eisoes yn faes â blaenoriaeth yng nghontractau meddygon teulu a’i bod yn ofynnol i feddygon teulu adolygu pob achos o ganser yr ofari a ganfuwyd yn 2015 er mwyn helpu i ddysgu gwersi o ran diagnosis ac atgyfeirio.
Rydym yn argymell bod y Llywodraeth yn parhau â’r gwaith hwn ac yn cynorthwyo arweinwyr canser gofal sylfaenol i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r adolygiad hwn i lywio cynlluniau ym mhob bwrdd iechyd gyda’r nod o wella diagnosis cynnar. Rwy’n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw.
I gloi, Llywydd, hoffwn ailadrodd bod y pwyllgor yn cefnogi’r ysgogiad sy’n sail i’r ddeiseb. Er nad yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r alwad am sgrinio cenedlaethol i bob menyw ar hyn o bryd, credwn fod yna dystiolaeth gref o bwysigrwydd ceisio datblygu mwy o ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad a’r drafodaeth y prynhawn yma yn helpu i gyfrannu mewn rhyw ffordd fach tuag at hyn.
Yn olaf, hoffwn gofnodi diolch y pwyllgor i Margaret Hutcheson am ddefnyddio’r broses ddeisebu i ddod â’r mater i sylw’r Cynulliad, ac am ei gwaith caled a’i brwdfrydedd drwy gydol y broses. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau’r pwyllgor ac i’r staff a fu’n helpu wrth i ni ystyried y ddeiseb a chynhyrchu ein hadroddiad. Os caiff un fenyw ddiagnosis digon cynnar i achub ei bywyd, bydd wedi bod yn werth chweil.
Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon. Nid oeddwn yn aelod o’r pwyllgor ar y pryd, ond darllenais yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth, a siaradais â nifer o sefydliadau a gyflwynodd eu pryderon ynglŷn â’r mater hwn. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd a’i dîm clercio, a hoffwn ddiolch yn arbennig i’r deisebydd, Margaret Hutcheson, gan ei bod wedi defnyddio ei hawl ddemocrataidd i gyflwyno mater pwysig iawn ger ein bron—pwysig iawn oherwydd yr ystadegyn arswydus fod menyw’n marw bob dwy awr o ganser yr ofari yn y DU. Fel y dywedodd Margaret ei hun, ni lwyddodd dwy o’i ffrindiau agos—y ddwy’n nyrsys cemotherapi—i adnabod arwyddion o ganser yr ofari. Felly, mae’n dangos ei fod yn ganser anodd iawn i’w ganfod. Mae llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel lladdwr tawel, ond mae ganddo rai symptomau clir iawn: bol wedi chwyddo’n barhaus, poen parhaus yn y stumog, anhawster i fwyta, teimlo’n llawn yn gyflymach ac angen i basio dŵr yn amlach. Felly, yn hytrach na meddwl am ganser yr ofari fel lladdwr tawel, byddwn yn awgrymu ei fod yn feistres mewn cuddwisg. Roedd 41 y cant o fenywod wedi gorfod ymweld â’u meddyg teulu fwy na thair gwaith cyn cael eu hatgyfeirio am brofion diagnostig, oherwydd bod y symptomau’n anodd iawn i’w nodi. Gallant fod yn debyg iawn i syndrom coluddyn llidus, neu gael eu gweld fel un o ganlyniadau’r menopos. Dyma un o’r canlyniadau trist: pe bai canser yr ofari yn cael ei ddal yng ngham 1, mae cyfraddau goroesi oddeutu 90 y cant. Gwn fod y Cadeirydd wedi gwneud y pwynt hwn, ond rwy’n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn i’w ailbwysleisio—90 y cant os caiff ei ddal ar gam 1. Ond erbyn i fenyw gyrraedd cam 3, mae ei chyfradd goroesi’n plymio i 19 y cant yn unig. Mewn geiriau eraill, bydd 81 y cant o’r holl fenywod ar gam 3 yn marw. A dyna ddedfryd marwolaeth uffernol.
Mae hwn yn fwy nag ystadegyn sobreiddiol, ond mae’n fyd o ofid i’r unigolion hyn ac i’w teuluoedd, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn. Felly, fy her i Lywodraeth Cymru—ac i chi, Gweinidog—yw hyn: wrth wrthod argymhelliad 3, pa mor hyderus ydych chi fod symptomau canser yr ofari, y feistres mewn cuddwisg, yn dod yn fwy cyfarwydd i fenywod a’r gymuned feddygol, yn enwedig meddygon teulu, oherwydd hwy yw ein rheng flaen? A gaf fi ofyn beth yn union y mae eich ymateb yn golygu pan fyddwch yn dweud—rwy’n mynd i ddarllen o’ch ymateb, Gweinidog—am y cynllun cyflawni ar gyfer canser:
‘Mae’n cynnwys ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth am symptomau canser. Bydd y Grŵp Gweithredu ar gyfer Canser yn penderfynu ar gynnwys y gweithgarwch hwn ar sail nifer yr achosion o diwmor a’r canlyniadau’?
Nawr, darllenais hynny gan gymryd bod ‘nifer yr achosion o diwmor’ yn golygu faint o bobl a allai fod ag ef. Wel, nid niferoedd enfawr, mae’n debyg, ond digon i fenyw farw bob dwy awr. Ond yr hyn sy’n glir iawn am ganser yr ofari, pan fydd arnoch, oni bai ei fod yn cael ei ddal yn gyflym, nid ydych yn mynd i gael amser hawdd. Felly, gwyddom beth a olygir wrth nifer yr achosion.
Gwyddom hefyd mai gan Gymru y mae’r gyfradd oroesi waethaf o bob un o’r gwledydd cartref. Mae’r gyfradd oroesi pum mlynedd, Gweinidog, ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru yn ddim ond 38 y cant. Felly, fel y dywedodd y Cadeirydd, bydd 62 y cant o’r holl fenywod yng Nghymru sydd â chanser yr ofari yn marw o fewn pum mlynedd. Felly, credaf ei bod yn hanfodol eich bod yn sicrhau bod y symptomau’n cael eu gwneud yn hysbys iawn i fenywod a’r gymuned feddygol.
Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod ymrwymiad gennych chi a Llywodraeth Cymru i ddilyn canllawiau NICE a sicrhau bod unrhyw un sydd â risg o 10 y cant o gario un o’r genynnau BRCA yn cael prawf? Oni fyddai hwnnw’n lle da i ddechrau? Er fy mod yn deall y pwysau ar gyllid, a pha mor anodd yw hi i ni wneud yr holl ganserau’n hysbys i bawb, y broblem gyda’r un arbennig hwn yw bod eich gobaith, unwaith y bydd wedi mynd y tu hwnt i gam penodol, yn mynd yn fain iawn yn wir. Dim ond 10 y cant yw’r gyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd os ydych wedi cyrraedd cam 3. Felly, byddai’n bwysig iawn pe gallech geisio sicrhau bod canser yr ofari yn cael sylw difrifol iawn o ran y negeseuon i bobl. Yn syml iawn, menywod a meddygon teulu: mae yna bedwar neu bump o symptomau allweddol cryf iawn, ac os bydd menyw yn parhau i fynd at y meddyg fwy nag unwaith neu ddwywaith â’r rheini, rhaid i chi ei gwneud yn bosibl iddynt gael prawf, a rhaid i chi eu galluogi i gael eu symud ymlaen, drwy’r llwybr diagnostig. Ond mae angen i chi ddweud wrth fenywod nad yw’n fater syml o fod â dŵr poeth neu boen bol a theimlo’n gwla, ac mae angen i chi wneud yn siŵr fod meddygon teulu yn deall beth yw symptomau canser yr ofari mewn gwirionedd. Y ffordd i wneud hynny yw drwy negeseuon iechyd y cyhoedd. Diolch.
A gaf i ddiolch i Margaret Hutcheson am gyflwyno’r ddeiseb bwysig iawn yma? Mi ddarllenais i’r adroddiad efo diddordeb mawr a hefyd cryn fraw, achos mi oedd y ddeiseb ei hun yn nodi’r effaith syfrdanol y mae canser yr ofari wedi’i gael. Rydym ni wedi clywed rhai o’r ffigyrau yn barod: yn 2014, 345 o ferched yn cael diagnosis, a 238 o ferched yn marw o’r clefyd yma. Mae’n ganran sydd yn methu â goroesi yn frawychus o uchel, hefyd. Felly, rydw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen mynd i’r afael â’r sefyllfa, newid y sefyllfa fel y mae, ac mae angen i fwy o bobl allu goroesi’r clefyd creulon yma. Mae gennym ni gyfraddau goroesi is na llefydd eraill, sy’n dangos y dylem ni fod yn dysgu gan eraill hefyd.
Mae’r ddeiseb yn galw am gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol, ac mae’r adroddiad gan y pwyllgor yn nodi efallai nad dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o wella diagnosis a’i ganfod yn gynnar ar hyn o bryd. Felly, hyd nes y byddwn ni yn cael prawf mwy cywir, rydw i’n credu y dylem ni ganolbwyntio ar ffyrdd eraill o gael diagnosis cynnar, tra, ar yr un pryd, chwilio yn rhagweithiol am y dystiolaeth ddiweddaraf ar effeithlonrwydd sgrinio.
Y peth cyntaf hanfodol i’w wneud yn bendant ydy cynyddu ymwybyddiaeth o’r symptomau—hynny ydy, cynyddu ymwybyddiaeth o symptomau ymysg merched, ond hefyd ymhlith meddygon teulu. Mae cyfraddau ymwybyddiaeth cyffredinol yn dal i fod yn isel iawn, a dyna oedd argymhelliad 3 y pwyllgor. Yn ddigon rhyfedd, mae wedi cael ei wrthod gan y Llywodraeth. Nid ydw i cweit yn deall y rhesymau pam, os ydy’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hyn beth bynnag fel rhan o’i chynllun canser, fyddai’n gwrthod yr argymhelliad yma.
Rydw i’n meddwl bod yna bwynt diddorol i’w wneud yma hefyd am y gwrth-ddweud rhwng, ar y naill law, y negeseuon yr ydym ni’n eu rhoi yma am wneud yn siŵr bod pobl yn mynd at eu meddyg teulu yn ddigon cynnar, pam mae’r symptomau yn dod i’r amlwg, fel bod clefydau difrifol yn cael eu dal yn gynnar, a thriniaethau, felly, yn gallu bod yn fwy llwyddiannus, ac ar y llaw arall, y negeseuon am sut y dylech chi ond fynd i weld eich meddyg teulu os ydy pethau’n ddifrifol ac y dylech chi yn hytrach o bosibl fod yn edrych tuag at ddefnyddio fferyllfa, nyrs practis, neu hyd yn oed aros i weld sut mae pethau’n mynd.
Mae o’n gydbwysedd, rwy’n gwybod, rhwng meddygon teulu yn gorfod delio efo’r rheini sydd yn iawn ond sydd yn poeni, tra’n gwneud yn siŵr bod y rhai sydd ddim yn iach ond ddim yn poeni yn cael eu hannog i geisio sylw meddygol yn gynharach a chael gwell cyfle i oroesi.
Yr ail beth rydym ni i fod i’w wneud yn sicr ydy dod ag amseroedd aros am brofion diagnostig i lawr pan mae rhywun yn ddigon dewr i fynd at eu meddyg teulu. Unwaith eto, mae’r model rydym yn ei weld yn Denmarc o ganolfannau diagnostig amlddisgyblaethol yn werth edrych arno fel rhywbeth a allai gyfrannu at gynyddu capasiti er mwyn galluogi hyn i ddigwydd.
Felly, i gloi, fe wna i ailadrodd cymeradwyaeth galonnog Plaid Cymru o’r negeseuon yn yr adroddiad yma. Mae’n drueni nad yw pob un ohonom ni yn y Siambr yn gallu cytuno efo’r tri argymhelliad. Ond, fel y dywedais ar y dechrau, rwy’n falch bod hwn wedi cael ei gyflwyno gan Margaret Hutcheson fel trafodaeth i’r Pwyllgor Deisebau.
Mae’n amserol ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, wrth i Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari ar gyfer eleni dynnu at ei derfyn. Yn wir, fel y mae eraill wedi dweud, mae codi ymwybyddiaeth yn gwbl allweddol ar gyfer mynd i’r afael â chanser gynaecolegol mwyaf marwol y DU. Hefyd, rwyf am ddiolch i’r deisebydd, Margaret Hutcheson. Er na fydd yr argymhellion yn cyflawni’n llawn yr hyn yr oedd yn gofyn amdano i gychwyn, o bosibl, rwy’n credu na ellir bychanu’r ffaith fod ei gweithred wedi sicrhau bod y mater ar agenda’r Cynulliad heddiw. Am gam sylweddol ymlaen yw hynny o ran codi ymwybyddiaeth a’n galluogi i gamu ymlaen a siarad am symptomau canser yr ofari.
Yn fy nadl 90 eiliad ar y mater hwn wythnos neu ddwy yn ôl, soniais ynglŷn â sut y bydd y rhan fwyaf ohonom yma yn adnabod rhywun sydd wedi cael y canser hwn, neu sydd â ffrind neu aelod o’r teulu, ac mae hynny’n wir yn fy achos i. Felly, nid yn unig y mae mynd i’r afael â chanser yr ofari yn flaenoriaeth i mi fel gwleidydd ond mae’n flaenoriaeth wedi’i gyrru gan brofiad personol. Y ffordd orau y gallwn weithio gyda’n gilydd heddiw i drechu canser yr ofari yw bod yn ymwybodol o’r ffeithiau, bod yn ymwybodol o’r symptomau a bod yn ymwybodol o hanes eich teulu eich hun.
Yn wir, mae un o bob pedair menyw yn credu bod cael prawf ceg y groth yn golygu eu bod wedi cael prawf am bob canser gynaecolegol. Er ein bod yn gwybod bod profion ceg y groth yn bwysig ac na ddylid eu hofni ac yn sicr ni ddylid eu colli, mae’n bwysig cydnabod nad ydynt yn canfod canser yr ofari.
Ar hyn o bryd, y ffordd orau o hyd o ganfod canser yr ofari yw i fenywod ac ymarferwyr iechyd fel ei gilydd, fel y mae eraill wedi dweud, wybod a gweithredu ar brif symptomau’r canser hwn. Ar yr olaf, mae’n hanfodol fod gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill well dealltwriaeth o symptomau canser yr ofari, er mwyn cynyddu’r gobaith o’i ganfod yn gynnar.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, gwneir diagnosis anghywir o’r symptomau’n aml ar y pwynt cyswllt cyntaf fel pethau fel syndrom coluddyn llidus neu bethau sy’n gysylltiedig â’r menopos. Yn achos fy mam, credid yn wreiddiol fod ganddi gerrig bustl. Daeth rhai o’r symptomau a ddaethai’n amlwg yn flaenorol yn llythrennol gronig dros nos fwy neu lai. Aeth at y meddyg teulu ym mis Mawrth ac er nad oedd yn ddiagnosis hawdd, cafodd lawdriniaeth ym mis Mehefin. Yr allwedd i hynny yw ymwybyddiaeth o symptomau ac i fenywod sy’n mynd at y meddyg allu dweud, ‘A dweud y gwir, rwy’n poeni y gallai fod hyn’, a gallu teimlo’n hyderus y bydd y meddyg yn gwneud yr asesiad hwnnw i gael diagnosis cynnar.
Byddai’n esgeulus ohonof i beidio â dweud heddiw fy mod yn fythol ddiolchgar, fel y mae fy nheulu, i’r GIG gwych a’r tîm anhygoel o arbenigwyr yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr oncolegydd a ddywedodd wrth fy mam, ‘Er bod y canser yn ymosodol, rydym yn mynd i fwrw ymlaen â hyn’. Roedd hyn yn 2009 a chyn hynny, roedd hi wedi cael canser y fron yn 2005.
Mae’n debyg y dylwn nodi ar y pwynt hwn fod fy mam yn rhan o’r grŵp dethol hwnnw, gawn ni ddweud, o wylwyr brwd Senedd.tv—gobeithio ei bod hi’n gwylio heddiw. Ond mae’n debygol na fydd yn gwneud sylwadau ar gynnwys fy nghyfraniad, mae’n fwy na thebyg y bydd hi’n dweud wrth ei iPad fy mod yn siarad yn rhy gyflym neu’n gwylio i weld a wyf wedi bachu un o’i heitemau o emwaith eto.
Mae’n swnio fel mam wych.
Diolch. Felly, mae canfod canser yr ofari yn gynnar yn achub bywydau ac mae gwybod am y symptomau yn gwneud gwahaniaeth, ond mae’r anhawster gyda gwneud diagnosis wedi golygu bod canser yr ofari yn cael ei alw’n lladdwr tawel. Rwy’n credu bod angen inni wrthod hynny, oherwydd nid yw’n dawel—fel yr ydym wedi dweud, mae yna symptomau, ac mae’n hanfodol ein bod yn siarad yn y ddadl hon ac wrth fynd ymlaen, ein bod yn defnyddio hynny fel arf i fynd i’r afael â’r canser creulon hwn.
Gwn fod eraill wedi dweud beth yw’r symptomau, ond rwy’n mynd i’w nodi eto, oherwydd po fwyaf y byddwn yn eu nodi a pho fwyaf y byddwn yn eu rhannu, y mwyaf y bydd y neges yn mynd ar led. Felly, y pedwar prif symptom i edrych amdanynt yw: poen parhaus yn y stumog, bol wedi chwyddo’n barhaus, anhawster i fwyta neu deimlo’n llawn yn gyflym ac angen i basio dŵr yn amlach.
Hefyd—crybwyllais hyn ar y cychwyn—yn gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth, mae’n bwysig i bobl fod yn ymwybodol o hanes eu teulu. Mae tua 20 y cant o’r achosion o ganser yr ofari yn cael eu hachosi gan gellwyriadau genetig, gan gynnwys cellwyriad y genyn BRCA. Os canfyddir bod menyw yn cario genyn BRCA diffygiol, mae ei risg o ddatblygu canser yr ofari yn cynyddu o un ym mhob 54 i un o bob dau, ac mae hefyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y fron. Gwn fod Ovarian Cancer Action yn ymgyrchu dros ddefnyddio BRCA fel strategaeth atal canser, gan nodi bod ymwybyddiaeth o’u statws BRCA yn rhoi’r pŵer i bobl roi camau ar waith i atal canser.
Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol iawn nad yw cymryd camau i gael prawf am BRCA yn benderfyniad y byddai unrhyw un yn ei gymryd yn ysgafn, ac mae’n aml yn un a fydd yn llawn ofn a phryder am y penderfyniadau pwysig, a allai newid bywydau, a fyddai’n cael eu gwneud o ganlyniad i gael y prawf. I mi, mae hynny’n cysylltu’n ôl at werth—yr angen—i gynyddu ymwybyddiaeth a gwneud pobl yn ymwybodol y gallai fod ganddynt y genyn BRCA, ond gan wneud yn siŵr fod cymorth ar gael i bobl mewn ffordd hygyrch a digonol.
I gloi, ceir consensws clir o’r elusennau canser blaenllaw, gan gynnwys Ovarian Cancer Action a Cancer Research UK, nad yw cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari yn cael ei argymell, ar sail y dystiolaeth gyfredol sydd ar gael. Nid yw 90 y cant o fenywod yn ymwybodol o bedwar prif symptom canser yr ofari, ond er bod gan fenywod sy’n cael diagnosis ar gam 1 gyfradd oroesi o 90 y cant, ymwybyddiaeth yw’r arf gorau sydd gennym ar hyn o bryd o ran diagnosis a thriniaeth gynnar ar gyfer canser yr ofari.
Yn bendant, argymhellion y Pwyllgor Deisebau, o ran cynnig bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau profion priodol a diagnosis cynnar, ac yn yr un modd, i wneud mwy i wella ymwybyddiaeth o ganser yr ofari dros gyfnod hir o amser, yw ein hamddiffyniad gorau o ran cynyddu cyfraddau canfod a diagnosis cynnar o ganser yr ofari. Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr fod y ddadl heddiw yn tanio’r gwn i gychwyn gwneud hynny.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y gwaith a wnaethant i ystyried y ddeiseb hon. Mae canser yr ofari’n taro tua 20 o fenywod bob dydd yn y DU ac yn anffodus, mae’n gyfrifol am oddeutu 248 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar, yn achos canser, yn golygu mwy o obaith goroesi. Os gwneir diagnosis yn y camau cynnar o ganser yr ofari, bydd 90 y cant yn goroesi am bum mlynedd neu fwy. Fodd bynnag, os gwneir diagnosis yn y cyfnod diweddarach, tri yn unig o bob 100 sy’n goroesi y tu hwnt i bum mlynedd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud diagnosis o ganser yr ofari yn gynt.
Yn anffodus, nid oes prawf sgrinio dibynadwy ar gyfer canser yr ofari ar gael eto. Cynhaliodd treial cydweithredol y DU ar ganser yr ofari astudiaeth 14 mlynedd yn edrych ar fanteision prawf gwaed CA125 a stilwyr uwchsain i ganfod arwyddion cynnar o ganser yr ofari. Yn anffodus, ni ddaeth y canlyniadau o hyd i unrhyw dystiolaeth bendant y byddai’r math hwn o sgrinio’n lleihau marwolaethau o ganser yr ofari. Yn wir, canfu’r treial fod yna nifer fawr o ganlyniadau positif anghywir. Ni fyddai canser ar ddwy o bob tair menyw a gâi lawdriniaeth i edrych am ganser yr ofari yn seiliedig ar eu prawf gwaed. Mae ymestyn hynny dros y boblogaeth gyfan yn arwain at lawer o lawdriniaethau diangen.
Nid yw’n llawdriniaeth fach—fel gydag unrhyw lawdriniaeth, mae’n cynnwys risgiau sylweddol. Cafodd oddeutu tair o bob 100 menyw a gafodd lawdriniaeth gymhlethdodau mawr o ganlyniad i hynny—yn cynnwys heintiau neu ddifrod i organau eraill. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd well o sgrinio—dull mwy dibynadwy—cyn i ni gyflwyno sgrinio i’r boblogaeth gyfan.
Mae’r Pwyllgor Deisebau’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ofari dan arolwg ac rwy’n llwyr gefnogi’r argymhelliad hwn. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn hynny. Hoffwn i ni fynd ymhellach. Dylem fod yn gwthio’n weithredol am ymchwil pellach i ffyrdd o sgrinio ar gyfer canser yr ofari. Ar wahân i sgrinio, mae’n bwysig fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn adnabod arwyddion a symptomau cynnar canser yr ofari, gan mai dyma’r allwedd i ddarparu diagnosis a thriniaeth gynnar. Mae dros 40 y cant o fenywod â chanser yr ofari wedi gorfod ymweld â’u meddyg teulu ar nifer o achlysuron i gael eu hatgyfeirio i gael profion pellach. Felly, rwy’n croesawu ail argymhelliad y pwyllgor a’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei dderbyn.
Fodd bynnag, roeddwn yn siomedig iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod trydydd argymhelliad y pwyllgor, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari. Yn aml gelwir canser yr ofari yn lladdwr tawel gan mai un o bob pedair o fenywod sy’n gallu enwi’r symptomau, fel bol wedi chwyddo’n barhaus, poen parhaus yn y stumog, anhawster i fwyta ac angen i basio dŵr yn amlach. Mae chwarter y menywod hefyd yn credu, yn anghywir, y bydd prawf ceg y groth yn canfod canser yr ofari. Os nad yw menywod yn adnabod arwyddion a symptomau’r clefyd hwn sy’n lladd, sut yn y byd y gallant obeithio cael triniaeth? Rwy’n gofyn, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried os gwelwch yn dda. Gall ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r clefyd hwn achub bywydau yn sicr, felly hyd nes y cawn sgrinio gwell ar gyfer canser yr ofari, dyma yw ein gobaith gorau i achub menywod rhag marw o’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr.
Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond rwy’n falch iawn o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Hoffwn longyfarch y pwyllgor ar ei adroddiad, ac yn arbennig, hoffwn longyfarch Margaret Hutcheson a’i ffrindiau am dynnu sylw at ganser yr ofari, ac fel y dywedodd Hannah Blythyn, am lwyddo i’w gael wedi’i drafod yma ar lawr y Siambr. Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n gam mawr ymlaen ynddo’i hun.
Rwy’n siŵr fod llawer ohonoch yn bresennol yn y digwyddiad Lleisiau Cleifion Canser yn gynharach eleni, yn ôl ym mis Ionawr. Dyma oedd yr ail ddigwyddiad o’i fath. Trefnwyd y digwyddiad cyntaf, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan Annie Mulholland. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio, neu efallai hyd yn oed yn adnabod Annie, a oedd yn ymgyrchydd gwych ac a ymddangosai’n aml yn y cyfryngau ac ar y teledu i dynnu sylw at faterion yn ymwneud â chanser yr ofari. Sefydlodd y digwyddiad Lleisiau Cleifion Canser i ddod â phobl sy’n dioddef o’r holl wahanol fathau o ganser at ei gilydd. Cafodd Annie ei hun ddiagnosis o ganser yr ofari yn 2011 ac yn anffodus, bu farw ym mis Mai 2016. Ond hoffwn dalu teyrnged i’r sylw a dynnodd at yr achos ar y pryd. Gwn ei bod yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar ganser yr wyf yn gadeirydd arno, a’i chenhadaeth oedd amlygu materion sy’n gysylltiedig â chanser a’u dwyn i sylw pawb.
Rwy’n llongyfarch Margaret Hutcheson ar gyflwyno’r ddeiseb hon ac rwy’n cydnabod y lleisiau cryf iawn a geir ar y mater hwn. Mae llawer o etholwyr wedi dod i fy ngweld i ofyn am sgrinio, a gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno sgrinio ac yn y digwyddiad Lleisiau Cleifion Cancer yn gynharach eleni, cafwyd galwad gyson gan fenywod a dynion am raglen sgrinio. Gwn y bydd y deisebwyr wedi eu siomi gan yr argymhellion, gan fy mod yn gwybod bod Margaret Hutcheson, sydd ei hun yn nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol, eisiau sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari gan ddefnyddio’r prawf gwaed CA125. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, a’r dystiolaeth a amlinellir yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ceir perygl o ganlyniadau positif anghywir gyda’r prawf hwn a daw’r adroddiad i’r casgliad, waeth faint y dymunwn iddo weithio, nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi cyflwyno rhaglen sgrinio poblogaeth gan ddefnyddio’r prawf gwaed CA125, neu ddull amgen, ar hyn o bryd. Rwy’n credu bod rhaid i ni dderbyn y penderfyniad hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac felly rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Deisebau yn iawn yn eu hargymhellion. Ond rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r posibilrwydd o sgrinio dan arolwg, gan fod gwyddoniaeth yn newid drwy’r amser a cheir datblygiadau enfawr drwy’r amser. Felly, gadewch i ni barhau i adolygu hyn er mwyn i ni wybod, os daw cyfle byth i fynd i’r afael â’r clefyd hwn, y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.
Rwy’n cytuno ag Angela Burns a Hannah Blythyn na ddylai hwn gael ei alw’n lladdwr distaw, am fod hynny’n awgrymu nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud am y peth. O’r holl ddadlau a glywsom heddiw, mae yna lawer y gallwch ei wneud am y peth. Gallwch adnabod y symptomau, gall meddygon teulu gael eu helpu drwy hyfforddiant gydag ymwybyddiaeth o’r materion hyn ac rwy’n credu bod y ffaith ei fod wedi dod yma heddiw ac yn cael ei drafod yn bwysig tu hwnt.
Cynhaliwyd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth gan Ganolfan Ganser Felindre yn gynnar yn 2016 ac rwy’n croesawu hynny. Croesawaf y ffaith eu bod wedi gweithio gyda Target Ovarian Cancer i ddosbarthu pecynnau gwybodaeth i feddygon teulu ac i geisio gwneud meddygon teulu yn fwy ymwybodol o symptomau a chydnabod—oherwydd, fel rwy’n meddwl bod pawb wedi dweud heddiw, mae diagnosis cynnar yn gyfan gwbl allweddol.
Rwy’n credu ein bod angen mwy o’r ymgyrchoedd gwybodaeth hyn ac ymgyrchoedd hefyd i dynnu sylw at y symptomau i fenywod eu hunain, fel y mae pobl wedi sôn heddiw. Nid wyf yn credu y gallwn roi proffil rhy uchel i’r mater hwn. Ni ddylai fod yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth untro, oherwydd gwyddom y gall diagnosis cynnar arwain at wella. Felly, hoffwn orffen mewn gwirionedd drwy ddweud da iawn wrth bob menyw sydd wedi gwneud ymdrechion o’r fath i dynnu sylw at yr ymgyrch hon a diolch i’r Pwyllgor Deisebau am ei ymateb.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ymuno â’r siaradwyr eraill i ddiolch i’r deisebwyr a dynnodd sylw at y mater pwysig hwn, a hefyd i gofnodi fy niolch i’r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o’r mater a’i adroddiad a’i argymhellion, a hefyd i’r holl siaradwyr yn y ddadl am eu cyfraniadau ystyriol a phwerus.
Gall canser yr ofari effeithio ar fenywod o unrhyw oedran, ond mae’n fwy cyffredin ymhlith menywod sydd wedi bod drwy’r menopos ac fel y clywsom yn y ddadl, gall symptomau canser yr ofari fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill ac felly gall fod yn anodd gwneud diagnosis ohono. Mae hwn yn fater pwysig i fenywod yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd ystyriaeth y pwyllgor o’r mater hwn a’n dadl heddiw yn helpu i godi proffil canser yr ofari.
Sgrinio’r boblogaeth yw’r broses o nodi pobl iach a allai wynebu mwy o risg o glefyd neu gyflwr, neu nodi presenoldeb clefyd neu gyflwr nad oes diagnosis wedi’i wneud ohono hyd yma mewn unigolyn. Yna gallwn ymateb drwy ddarparu gwybodaeth, profion neu driniaeth bellach. Mae gan sgrinio botensial felly i nodi cyflyrau ar gam cynnar pan ellir eu trin yn haws. Gall sgrinio achub bywydau, gwella ansawdd eich bywyd a lleihau’r angen am ymyriadau a thriniaethau costus ar gam mwy datblygedig.
Fodd bynnag, mae’n bwysig deall beth y gall sgrinio ei wneud a beth nad yw’n gallu ei wneud. Gall sgrinio achub bywydau drwy nodi risgiau’n gynnar, ond gall hefyd achosi niwed drwy nodi rhai ffactorau na fydd byth yn datblygu i fod yn gyflwr difrifol. Nid yw sgrinio yn gwarantu amddiffyniad chwaith. Efallai y bydd rhai pobl yn cael canlyniad risg isel o sgrinio, ond efallai na fydd hynny’n eu hatal rhag datblygu’r cyflwr yn ddiweddarach.
Ni ddylid cynnig sgrinio poblogaeth ac eithrio lle y ceir tystiolaeth gadarn o ansawdd da y bydd yn gwneud mwy o les na niwed a’i fod yn gosteffeithiol o fewn cyllideb gyffredinol y GIG. Lle y ceir tystiolaeth o’r fath, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn rhaglenni sgrinio.
Hoffwn eich sicrhau bod pob un o’n rhaglenni sgrinio ar sail y boblogaeth cyn i symptomau ymddangos, sy’n amrywio o sgrinio cyn-geni i fenywod beichiog i sgrinio dynion hŷn am ymlediadau, yn cael eu datblygu a’u darparu gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael ac maent yn destun adolygu rheolaidd.
Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn darparu cyngor annibynnol, arbenigol ar sgrinio’n seiliedig ar boblogaeth i holl Weinidogion y DU. Mae’r pwyllgor yn sicrhau trylwyredd academaidd ac awdurdod mewn maes hynod o gymhleth ac mae’n arwain y byd yn ei faes. Mae’r rhaglenni sgrinio yn y DU ymhlith y mwyaf uchel eu parch yn y byd. Yn ddiweddar, bu Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn ystyried y dystiolaeth o dreial mawr yn y DU i sgrinio canser yr ofari. Nid yw’r dystiolaeth hyd yma yn derfynol ac nid yw’r pwyllgor arbenigol wedi argymell sgrinio ar hyn o bryd ar gyfer canser yr ofari.
Mae treial cydweithredol y DU ar gyfer sgrinio canser yr ofari ac elusennau canser blaenllaw yn cytuno nad yw’r dystiolaeth yn dangos y gall sgrinio leihau nifer y marwolaethau o ganser yr ofari. Fel y clywsom yn ystod y ddadl, gwelodd yr astudiaeth fod nifer o fenywod wedi cael llawdriniaeth ddiangen am bob canser yr ofari a ganfuwyd drwy sgrinio, a chafwyd cymhlethdodau mawr yn achos oddeutu 3 y cant o’r menywod a gafodd lawdriniaeth ddiangen. Bydd angen ystyried y rhain a mathau eraill o niwed, fel lefelau uwch o orbryder, yn ofalus pe bai tystiolaeth bellach yn cefnogi sgrinio.
Mae treial cydweithredol y DU ar gyfer sgrinio canser yr ofari yn mynd rhagddo a deallaf y bydd rhagor o dystiolaeth ar gael yn 2019. Bydd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn adolygu ei argymhelliad pan ddaw’r dystiolaeth hon i law. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r posibilrwydd o gael rhaglen sgrinio poblogaeth genedlaethol ar gyfer canser yr ofari dan arolwg ac rydym yn parhau i gael cyngor gan bwyllgor ymgynghorol arbenigol y DU ar y mater hwn.
Rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i ganfod canserau’n gynt. Rhaid i’n GIG ymateb yn briodol i fenywod sydd â symptomau sydd angen eu harchwilio. Mae’r GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau atgyfeirio newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer achosion lle y ceir amheuaeth o ganser, sydd wedi gostwng y trothwy amheuaeth ac wedi’u hanelu’n benodol at annog mwy o atgyfeiriadau. Mae ein contract meddygon teulu ar hyn o bryd yn mynnu bod pob meddygfa’n adolygu achosion o ganser yr ofari i nodi cyfleoedd i wella’r gofal a roddir i fenywod. A bellach, ceir arweinydd meddygon teulu ym mhob bwrdd iechyd i helpu gofal sylfaenol i wella’r modd y maent yn nodi, atgyfeirio a chefnogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’r GIG ledled Cymru i wella lefelau canfod canser yr ofari yn gynnar a gwella mynediad cyflym at y driniaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n bwysig fod pobl yn gallu adnabod symptomau ac yn teimlo’n hyderus i gysylltu â’u meddyg teulu. Nid her o ran canser yr ofari yn unig yw hon, ond o ran sawl math o ganser gyda symptomau amhenodol. Cynhaliwyd ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofari yn ddiweddar. Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Mawrth 2016 ac roedd yn cynnwys dosbarthu taflenni a phosteri i bob meddygfa yng Nghymru. Mae’r gweithgaredd hwn, ynghyd â gwaith gwerthfawr elusennau canser ac ymgyrchwyr, wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ar draws Cymru. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer canser, a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2016, yn cynnwys ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser. Mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybod gan yr arbenigwyr pa ganserau i’w targedu a sut. Yn syml, fel lleygwr, nid wyf am achub y blaen ar hynny, a dyna’r rhesymeg sy’n sail i’n hymagwedd at argymhelliad 3. Bydd y grŵp gweithredu ar gyfer canser yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gweithgaredd codi ymwybyddiaeth yn y dyfodol. Byddant yn ystyried ymgyrchoedd ymwybyddiaeth safle-benodol, ond byddant hefyd yn ystyried manteision ymgyrch fwy cyffredinol i godi ymwybyddiaeth. Mae cynigion ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth i’w chyflwyno fesul cam tan 2020 i ddod yn ddiweddarach eleni.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl ar lawr y Senedd heddiw ac rwy’n siŵr y bydd gwaith craffu’r pwyllgor ar y mater hwn a’r ddadl hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ar draws Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Mike Hedges, i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a siaradodd heddiw. Ac a gaf fi ddweud rhywbeth nad wyf yn aml yn ei ddweud? Roeddwn yn cytuno â phob gair a ddywedodd pob un ohonoch. Felly, gallwn eistedd yn awr a dweud, ‘Rwy’n cytuno â phopeth rydych wedi’i ddweud’, ond rwy’n meddwl efallai y byddai’n well i mi ddweud ychydig bach rhagor. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb? Yn bennaf oll—ac rwy’n meddwl y byddai pawb yn cytuno—hoffwn ddiolch i Margaret Hutcheson am drefnu’r ddeiseb a dod â hyn ger ein bron.
Angela Burns: mae dynes yn marw bob dwy awr yn y DU. Mae hynny’n golygu bod dwy wedi marw ers i ni gychwyn y cyfarfod hwn. Mae’n ganser anodd ei ganfod, ac roeddwn yn dwli ar eich disgrifiad, ‘meistres mewn cuddwisg’—hoffwn pe bawn wedi meddwl amdano. Gellir drysu rhyngddo a syndrom coluddyn llidus neu’r menopos, ac mewn gwirionedd, os byddwch yn ei ddal yn gynnar, mae pobl yn byw; os byddwch yn ei ddal yn hwyr, mae pobl yn marw.
Rhun ap Iorwerth: mae angen inni newid y strwythur a gwella cyfraddau goroesi. Rwy’n credu bod pawb wedi dweud hynny. Rydym am i bobl gael eu canfod yn gynnar a goroesi. Mae angen i ni gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith menywod a meddygon teulu. I aralleirio’r hyn a ddywedwch, problem y rhai iach pryderus sydd gennym ym maes iechyd drwy’r amser yn hytrach na’r rhai sâl nad ydynt yn poeni.
Hannah Blythyn, a gaf fi ddiolch i chi am ddangos dewrder drwy sôn am fater teuluol? Rhaid ei bod yn anodd iawn, ond a gaf fi ddiolch ichi am hynny, oherwydd pan fydd pobl yn cyflwyno profiadau personol i’r dadleuon hyn, credaf ei fod yn ychwanegu llawer mwy na’r rhai ohonom sy’n siarad yn y trydydd person?
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser yr Ofari—pwysig iawn. Nid oeddwn yn gwybod mai dyma ganser gynaecolegol mwyaf marwol y DU. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen i ni ei gyfleu. Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth. Mae angen i bobl wybod nad yw prawf ceg y groth yn ei ganfod, ac mae’n rhaid i ddealltwriaeth meddygon teulu wella. Unwaith eto, siaradodd Caroline Jones am ddiagnosis cynnar a phroblem canlyniadau positif anghywir yn sgil sgrinio—dyna un o’r rhesymau pam nad ydym wedi cefnogi sgrinio. Mae arnom angen dull sgrinio dibynadwy, a gorau po gyntaf y cawn hynny. Soniodd Julie Morgan am Annie Mulholland. Roedd llawer ohonom yn gwybod am ei chenhadaeth i dynnu sylw at ganser a chanser yr ofari. Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw’r prawf CA125 yn gweithio, a dyna pam nad oedd y pwyllgor yn ei argymell, ond mae angen i ni gael diagnosis cynnar. Mae angen i bobl fynd at eu meddygon teulu, mae angen i’r meddygon teulu ei adnabod, a pheidio â dweud, ‘Wel, efallai mai syndrom coluddyn llidus ydyw yn ôl pob tebyg’, neu, ‘Eich menopos ydyw, dowch yn ôl mewn tri mis’. Ond mae dau o’r tri mis yn lleihau’r gobaith o oroesi yn ddramatig.
Weinidog, rydych yn hollol gywir, mae sgrinio yn achosi niwed a gofid. Os ydych yn sgrinio pobl a’ch bod yn cael canlyniadau positif anghywir, mae pobl yn poeni. Rwyf wedi bod gydag aelod o’r teulu i gael ei sgrinio ar gyfer canser, a diolch byth, nid oedd ganddynt ganser, ond gallaf ddweud wrthych, gallwn fod wedi darllen y papur ar ei ben i lawr ac ni fyddwn wedi sylwi fy mod yn gwneud hynny. Mae’n creu llawer iawn o bryder. Dyna pam nad oedd y pwyllgor yn argymell cyflwyno sgrinio ar hyn o bryd. Mae’n lladdwr distaw; nid fy ngeiriau i, ond geiriau’r deisebydd, ond mae’n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei gael allan. Hoffwn ddweud fy mod yn dal yn siomedig, ac rwy’n siŵr y bydd gweddill y pwyllgor ac efallai Aelodau eraill yn siomedig nad yw’r cynnig y ceisiwn ei hyrwyddo, y cynnig y ceisiwn gael gwell dealltwriaeth ymhlith meddygon teulu a chleifion o’r hyn ydyw, wedi cael ei dderbyn gan y Gweinidog. Felly, a gaf fi, fel apêl, ofyn i’r Gweinidog feddwl eto am y peth? Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn mynd allan ac yn gadael i bobl wybod.
Fel y dywedais, bydd dwy fenyw wedi marw y prynhawn yma ers i ni gyfarfod. Mae dau o deuluoedd bellach yn galaru o’i herwydd. Y tebygolrwydd yw eu bod wedi cael eu dal yn hwyr. Pe baent wedi cael eu dal yn gynnar, byddai’r teuluoedd hynny yn awr yn mynd drwy fywyd teuluol arferol. Dyna’r darn sy’n dod â’r neges adref i mi, nid wyf yn gwybod a yw’n gwneud hynny i eraill, ein bod yn gwneud penderfyniad. Os ydych yn ei ddal yn gynnar, yna bydd pobl yn byw, ac os byddwch yn ei ddal yn hwyr—. Rwy’n credu mai Angela Burns a ddywedodd fod y posibilrwydd y byddwch yn marw ohono yn un mewn 10 os yw’n cael ei ddal yn gynnar iawn, a’r posibilrwydd y byddwch yn goroesi yn un mewn 10 os yw’n cael ei ddal yn hwyr iawn. Dyna’r gwahaniaeth. Mae’n ddedfryd marwolaeth os ydym yn ei gael yn anghywir. Dyma apelio ar y Gweinidog i ailystyried, unwaith eto, i gael mwy o wybodaeth ar gael a chael mwy o bobl i sylweddoli pa mor bwysig yw hi os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau hyn, i fynd yno ac i feddygon teulu fod o ddifrif yn ei gylch. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.