– Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2017.
A’r eitem hon yw’r ddadl ar adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig, Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6321 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau’r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi’i gyhoeddi.
2. Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:
a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy’n creu budd i’r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a
b) o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig bywiog.
3. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a’r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.
Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â’r cyfraniad y mae ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a’n parciau cenedlaethol yn ei wneud i Gymru. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cwmpasu bron i chwarter tir Cymru, ac mae'r ddadl yn ymwneud â sut y gallant, a bod yn rhaid iddynt, gyflawni mwy. Mae gan bob tirwedd ei gwerth arbennig i bobl. Mae tirwedd yn creu ac yn cynnal yr ymdeimlad o gynefin i’n cymunedau, ar gyfer y bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt, ac i'r rhai sy'n ymweld â hwy.
Ar 9 Mai, cyhoeddais 'Tirweddau’r Dyfodol: yn Cyflawni dros Gymru', ar ran y bartneriaeth eang sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygiad. Mae'r cyhoeddiad yn nodi cyflawniad yr adolygiad a fu ar dirweddau dynodedig, a bydd yn arwain y ffordd bellach at ymagwedd newydd ar gyfer cyflawni. Mae'n adeiladu ar sail gadarn y ddeddfwriaeth amgylcheddol yr ydym wedi ei sefydlu, drwy gyfrwng Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae'r adolygiad wedi ei gynnal mewn dau gyfnod cysylltiedig ond gwahanol i’w gilydd. Ymgymerwyd â’r cyfnod cyntaf gan banel annibynnol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Marsden. Cafodd yr ail gyfnod—gydag agwedd partneriaeth ehangach iddo—ei gadeirio gan Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, dan y teitl Tirweddau Dyfodol Cymru, a hoffwn nodi’n ffurfiol fy niolch i Dafydd a'r holl grŵp am eu gwaith.
Mae adroddiad swmpus yr Athro Marsden, a’i argymhellion, yn rhoi sylfaen werthfawr i raglen Tirweddau Dyfodol Cymru, a oedd yn gallu myfyrio ar yr adolygiad cychwynnol hwn a hynny ar adeg pan oedd y Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol a'r Ddeddf Amgylchedd (Cymru), wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Mae'r cynnig a ddatblygwyd gan Tirweddau Dyfodol Cymru yn rhoi’r tirweddau a ddynodwyd ar lwybr i hybu rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol o fewn eu hardaloedd, a’r tu hwnt i'w ffiniau presennol.
Ers cyhoeddi'r adroddiad, bu llawer o drafod ar egwyddor Sandford, ac mae hi'n cael ei chrybwyll yn un o'r gwelliannau i gynnig heddiw. Mae'r egwyddor hon yn berthnasol i ddau ddiben presennol y parciau cenedlaethol, sef gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, a hyrwyddo cyfleoedd i fwynhau'r ardal. Daeth yr egwyddor i'r amlwg yn yr adolygiad o'r parciau cenedlaethol yn 1974, ac mae bellach wedi’i hymgorffori yn y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer parciau cenedlaethol drwy Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i roi mwy o bwyslais ar ddiben cadwraeth pan ei bod yn ymddangos bod gwrthdaro â dibenion hamdden. Nid yw hynny’n golygu mai diben cadwraethol yw diben pwysicaf ein parciau cenedlaethol na’i bod yn ofynnol i gymhwyso’r egwyddor hon ym mhob penderfyniad.
Rwy’n ddiysgog yn fy ymrwymiad i sicrhau y bydd ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol yn ardaloedd a fydd yn parhau i gael eu gwerthfawrogi am eu harddwch naturiol, gyda chymunedau bywiog a chydnerth , cyfleoedd ar gyfer hamddena yn yr awyr agored ac ecosystemau toreithiog.
Cyflwynodd adroddiad Marsden y syniad o Sandford a mwy. Yr hyn y mae adroddiad 'Tirweddau’r Dyfodol' yn ei argymell yw ystyried swyddogaeth ehangach i’r tirweddau a ddynodwyd drwy symud ymlaen o fod â dyletswyddau cul sy’n cystadlu â’i gilydd i rywbeth llawer mwy cyfannol. Ar yr un pryd, mae'n awgrymu bod angen rhoi mwy o bwys ar rinweddau arbennig yr ardaloedd hyn wrth wneud penderfyniadau a fydd yn cynyddu’r union rinweddau sy'n eu gwneud yn unigryw ac yn annwyl yn ein golwg.
Rydym eisoes wedi cyflwyno egwyddorion i gyfraith Cymru drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’n hadnoddau naturiol gael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cynnal ac yn cynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd. Mae gan yr egwyddorion cadarn hyn, ynghyd â'r cynigion yn 'Tirweddau’r Dyfodol', yn fy marn i, y potensial i fod yn Sandford a mwy, a mwy.
Mae adnoddau ac ecosystemau naturiol Cymru yn sylfaen i bob agwedd ar ein llesiant, gan gynnwys ein ffyniant, ein hiechyd a’n diwylliant. Rydym yn dibynnu ar adnoddau naturiol sy’n gweithredu’n gywir i roi bwyd, dŵr glân ac awyr iach a hamdden inni, ac maen nhw’n darparu ar gyfer aml i fusnes twristiaeth. Mae ein 'Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol' gyntaf ar gyfer Cymru yn tynnu sylw at faterion yn yr holl ecosystemau, o ran eu cydnerthedd a'r manteision y maen nhw’n eu darparu. Nawr mae gennym yr her bellach o’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n achos cynnwrf mawr yn y sectorau allweddol sy’n ffurfio’r defnydd o adnoddau naturiol. Mae saith deg y cant o’r twristiaid sy’n ymweld â Chymru yn dweud mai mwynhau'r dirwedd yw’r rheswm am eu hymweliad. Mae tirweddau eraill yn arbennig yng ngolwg unigolion neu gymunedau, gan atgyfnerthu’r ymdeimlad hwnnw o berthyn i le penodol. Mae tirweddau o'r fath yn cynnwys ein parciau trefol yn ogystal â'n mynyddoedd a’n haberoedd ysblennydd. Mae'n bwysig iawn bod yr ardaloedd hyn, a'r ffordd y maen nhw’n cael eu rheoli, yn chwarae rhan hanfodol yn y defnydd cynaliadwy o'n hadnoddau naturiol fel sylfaen i ffyniant a lles yn y dyfodol.
Mae 'Tirweddau’r Dyfodol' wedi bod yn rhywbeth cydweithredol iawn, gan ddod â grŵp o sectorau amrywiol ac eang at ei gilydd sy'n aml yn arddel barnau gwrthwynebus ar yr hyn y dylai tirwedd ddynodedig fod. Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr adolygiad oedd agor y drws i ffordd newydd ac arloesol o ddatblygu agenda strategol ar gyfer tirweddau dynodedig, ac rwy'n credu'n gryf bod cyfranogiad llawn y partneriaid yn hanfodol o ran darparu ymateb cadarnhaol i'r heriau a nodwyd, hyd yn oed os yw hynny’n anodd ar adegau. Y cam nesaf yw cyflawni'r uchelgais yn yr adroddiad, nid ar ein pennau ein hunain, ond drwy rymuso’r dull cydweithredol yr ydym wedi ymrwymo iddo.
Rwyf eisoes wedi dechrau arni drwy ymgynghori ar gynigion i leihau costau gweinyddol awdurdodau parciau cenedlaethol sy’n ymwneud ag archwilio, a maint y bwrdd ym Mannau Brycheiniog. Byddaf yn gwneud penderfyniad ar sut i symud ymlaen pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben ddiwedd y mis hwn. Byddaf hefyd yn ymgynghori ar ba un a ellid newid deddfwriaeth mewn ffordd ddefnyddiol i gefnogi argymhellion yr adroddiad. Bydd angen i’r ymgynghoriad hwn ystyried faint o ddylanwad a ellid ei roi i bwysigrwydd yr ardaloedd hyn a'u hecosystemau wrth wneud penderfyniadau, a pha un a ddylai trefniadau llywodraethu esblygu er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol.
Bydd unrhyw newid sylweddol i'r ddeddfwriaeth ar barciau cenedlaethol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae parciau cenedlaethol yn faterion datganoledig, a’r man cywir ar gyfer cyflwyno a chraffu ar ddeddfwriaeth o'r fath yw yn y Cynulliad hwn. Bydd Dafydd yn parhau ei gysylltiad â Thirweddau’r Dyfodol, a’i swyddogaeth fydd llywio partneriaeth genedlaethol eang i gymryd perchnogaeth o weithredu'r blaenoriaethau. Mae cyfarfod o'r partneriaid i’w drefnu ar gyfer mis nesaf.
Mae'r adolygiad yn cyflwyno swyddogaeth gyfoes i dirweddau dynodedig, wedi’i gosod o fewn fframwaith deddfwriaethol newydd yng Nghymru, lle caiff ein tirweddau dynodedig eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu harddwch naturiol, ond fel mannau ffyniannus a bywiog sy’n cefnogi cymunedau byrlymus a chydnerth. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau’r Aelodau.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n dda gennyf weld ein bod wedi cyrraedd o’r diwedd drafodaeth ar yr adroddiad hir arfaethedig yma, ac rwy’n edrych ymlaen at y ffaith bod yr awr sydd gennym ni heddiw dim ond yn gychwyn ar y drafodaeth sydd ei hangen. Achos, fel mae’r Gweinidog newydd amlinellu, rwy’n meddwl bod angen ymgynghori’n ehangach ar y materion hyn, a bydd angen tipyn o drafod arnynt.
Mae’n siŵr fel nifer o Aelodau eraill, rwyf wedi derbyn dros 300 o e-byst erbyn hyn yn pryderu am natur yr adroddiad yma. Rwy’n credu mai’r broblem sydd gennym ni, efallai jest ar gychwyn y drafodaeth, yw bod yna gynifer o randdeiliaid sydd wedi cael eu disgrifio gan y Gweinidog fel rhan o’r broses yn amlwg yn teimlo nad ydyn nhw’n rhan o’r broses. Rwy’n credu bod angen mynd i’r afael â hynny yn y man cyntaf. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd yr allbwn a’r canlyniad o gyfarfod nesaf y grŵp yma sy’n dal yn mynd i gael ei gadeirio, rwy’n cymryd o ddatganiad y Gweinidog heddiw, gan yr Aelod Dafydd Elis-Thomas.
Mae’r ddau welliant gan Plaid Cymru yn ceisio crisialu a rhoi goleuni ar y materion hyn a fydd angen eu datrys ac angen i ni benderfynu arnyn nhw. Wrth gynnig y ddau welliant yma, nid ydym mewn unrhyw ffordd yn tanseilio’r angen i drafod hyn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gofio bod y gwahanol ddeddfwriaeth sydd y tu ôl i’r parciau cenedlaethol, ac yn wir ardaloedd o harddwch eithriadol hefyd, yn deillio cyn datganoli. Mae’n gwbl briodol ein bod ni’n ailedrych ar yr egwyddorion a’r ymagwedd tuag at gadwraeth tirwedd. Rwy’n teimlo bod y dirwedd rwy’n byw ynddi mor bwysig i fi a thirwedd unrhyw barc cenedlaethol, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gweld hynny yn cael ei adlewyrchu drwy Gymru gyfan.
Felly, dylai’r ddeddfwriaeth gael ei hadolygu, ac yn sicr yn sgil datganoli, ac yn sicr yn sgil Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae cyfle nawr i weld pa rôl sydd gan y parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol i’w chwarae yn y ffordd rydym yn datblygu ein cenedl a defnyddio ein hadnoddau naturiol ni. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rydym yn croesawu’r ffaith bod y gwaith yma yn cael ei wneud ac yn cael ei barhau.
Mae’n ffaith bod yna egwyddor, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan y Gweinidog—egwyddor Sandford—sydd wedi ei chrisialu yn fwy penodol yn Neddf Amgylchedd 1995, sy’n cael ei chyfeirio ati yn ein gwelliant cyntaf ni, sydd angen ei thrafod, sydd angen penderfynu arni, ac sydd angen gwneud yn sicr bod pob un yn hapus gyda’r cyfeiriad rydym yn ei gymryd wrth fynd ymlaen. Yn sicr, ar hyn o bryd, nid yw pob corff cadwraeth na phob corff dringo mynyddoedd neu ddefnyddio tirwedd ar gyfer hamdden yn hapus eto gyda’r drafodaeth rydym wedi ei chael hyd yma.
Rydym wedi mynd o adroddiad Marsden a oedd yn trafod yr egwyddor yma ac yn moyn, os rhywbeth, hyrwyddo’r egwyddor yn fwy, i bapur nad yw’n trafod yr egwyddor o gwbl, ond sy’n cymryd dynesiad cwbl wahanol a dweud y gwir at y peth. Mae’n rhaid, rhyw ben, cysoni’r ddau beth yma.
Mae’r ail welliant sydd gennym ni yn ailddatgan y ffaith gyfreithiol. Mae’n siŵr bod y Gweinidog yn cydnabod bod unrhyw newid i lywodraethiant parciau cenedlaethol neu egwyddorion craidd y parciau cenedlaethol angen deddfwriaeth gynradd fan hyn. Pwrpas cynnig y gwelliant, yn syml iawn, yw rhoi’r sicrwydd yna i’r bobl sy’n dilyn y ddadl, sy’n ymddiddori yn yr adroddiad, sy’n ymddiddori yn nhirwedd gynhenid a hardd Cymru, y bydd yna drafodaeth drylwyr gan bwyllgorau, gan ‘Plenary’, gan y Cyfarfod Llawn, gan bawb, cyn y byddem ni yn newid y ddeddfwriaeth.
Bu tipyn o ymateb i’r adroddiad ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gan bobl sydd wedi camddeall bod yr adroddiad rhywsut yn awgrymu bod y newid yn digwydd heddiw, yn y drafodaeth heddiw—nid dyna beth sy’n digwydd. Ond, rydym yn cychwyn, gobeithio, ar sgwrs genedlaethol ynglŷn â rôl tirweddau hardd Cymru—tirweddau y mae pob un yng Nghymru â’r hawl i barchu, sef y dirwedd y maen nhw’n byw ynddi, a’r ffaith bod yn rhaid inni weld datblygiad sy’n gydnaws â’r dirwedd er mwyn inni sicrhau bod gennym ni gymunedau byw ym mhob rhan o Gymru ac nad ydym yn troi unrhyw ran o Gymru yn rhyw fath o gymuned mewn asbig. Nid oes yr un ohonom ni’n dymuno gweld hynny.
Ond, mae’r her sy’n wynebu’r Llywodraeth yn cael ei grisialu i fi gan ymateb a gefais i gan RSPB Cymru, ac rwyf am ddyfynnu ohono i gloi, gan ei fod yn tanlinellu pa mor anodd fydd rhai o’r trafodaethau rydym angen eu cael ar y mater yma. Rwy’n dyfynnu yn Saesneg, fel y cafodd ei dderbyn gennyf. Mae’n mynd fel hyn:
‘Our gravest concern is that the report explicitly recommends the need to create new laws that will re-purpose National Parks and AONBs, and even worse, it presents this as the view of the working group.’
A dyna’r pwynt rydw i eisiau ei bwysleisio.
‘This is absolutely not RSPB Cymru’s view and we believe it was not the view of the working group either. The group did not identify the current legal objectives of designated landscapes as a key barrier to sustainably managing our natural resources, but rather the group proposed that the focus should be on using the frameworks set out by the Environment Act and Well-being of Future Generations Act. We do not recall the group discussing the Welsh Government’s new proposal to legislate on the purposes…in any detail at all. This means that we feel the published report does not accurately represent our views.…We are unhappy therefore that the Welsh Government’s view that there is a need for new legislation is still being represented as endorsed by the group.’
Rydw i’n dyfynnu hynny dim ond i ddangos bod yna dipyn o drafod a thipyn o gytuno eto i’w gwneud ar y materion hyn.
A gaf i ddweud ein bod yn fodlon i nodi'r adroddiad, ac rydym yn gobeithio y bydd yn dechrau proses o ddatblygu polisi sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig gan weld eu potensial economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ehangach yn cael eu hymestyn? Rwy'n credu bod honno'n ffordd briodol o symud ymlaen.
Mae'r adroddiad yn nodi cynnig newydd ar gyfer tirweddau dynodedig i fynd y tu hwnt i'w dibenion cadwraeth ac amwynder cyfredol, ond mae'n gwneud hyn, fel y clywsom ni, heb unrhyw ailddatgan o egwyddor Sandford, yn wahanol i adroddiad Marsden, ac mae hynny wedi bod yn eithaf dadleuol fel y mae’n digwydd. Yn wir, yn ei ddatganiad o weledigaeth, nid yw'r adroddiad yn sôn am gadwraeth o gwbl ac eto, rwy’n credu er y gallai rhai ddweud ein bod wedi symud ymlaen i gysyniadau a geirfa ehangach, mwy cynhwysol, rwy'n dal i gredu bod cadwraeth yn rhan bwysig. Gan ddatgan ei weledigaeth ar hyn o bryd,
Mae Cymru yn wlad sy’n gwerthfawrogi ei thirweddau am yr hyn y maen nhw’n ei gyfrannu i bobl Cymru a thu hwnt. Mae tirweddau dynodedig Cymru yn cyfrannu o fewn a thu hwnt i'w ffiniau i gynyddu eu hadnoddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol; gan gyfrannu’r manteision lles mwyaf i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol wrth loywi yr union rinweddau sy'n eu gwneud yn unigryw ac yn annwyl yn ein golwg.
Nawr, gallwch ddod i’r casgliad bod cadwraeth yn rhan o hynny, rwy’n derbyn, ond rwy’n credu y byddai wedi tawelu meddyliau llawer yn y cyfnod hwn o newid pe byddem wedi sôn am gadwraeth yn uniongyrchol. Mae'r adroddiad yn troi’n gyflym at dynnu ar yr hyn y mae'n ei ystyried yn graidd adroddiad Marsden, sef, ac rwy’n dyfynnu eto,
“hyrwyddo" dyletswydd gyfredol y Parc Cenedlaethol i roi ystyriaeth i les economaidd-gymdeithasol yr ardal yn un o'i ddibenion, a chymhwyso yr un dibenion hynny ar gyfer AHNE.
Er nad oes unrhyw beth o'i le ar yr ymagwedd hon, mae angen cydbwyso hynny, yn fy marn i, gydag egwyddor Sandford, a mynegiant clir o werth cadwraeth. Nawr, fe glywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrthym ni yn ei hanerchiad agoriadol yn y ddadl hon, ac fe wnaeth hi gyfeirio at Sandford a hyd yn oed ddyfeisio neu ddisgrifio rhywbeth y mae’n dymuno ei alw yn Sandford a mwy, a mwy. Nid oes gennyf broblem fawr gyda chi’n ymestyn ystod y pethau sydd bellach yn cael eu mynegi fel bod o fewn cwmpas y dibenion, ond, ar y funud, cadwraeth yw'r prif ddiben. Dyna beth mae egwyddor Sandford yn ei olygu. Mae’n rhaid i chi eich holi eich hun pan fo gwrthdaro gydag un o'r dibenion eraill—yn aml, nid oes gwrthdaro, ond pan fo hynny’n digwydd, cadwraeth sydd â’r flaenoriaeth o ran llywodraethu, ac mae'n rhaid i chi holi eich hun—‘beth yw’r pwynt o ddynodi tirweddau os nad yw’r egwyddor honno o gadwraeth wrth wraidd hynny?’ Fel arall, fe fydden nhw yn union yr un fath â phob tirwedd arall, gan gael eu gwarchod yn helaeth gan ddeddfwriaeth, rwy’n cyfaddef, ond mae eu gwneud yn ardaloedd arbennig, rwy’n credu, yn awgrymu ein bod yn meddwl bod y cysyniad hwn yn un pwysig iawn a chadwraeth wrth ei wraidd.
Nid wyf yn credu bod problem fawr o ran cyflawni’r cydbwysedd y mae'r Llywodraeth a'r adroddiad—ac rwyf innau’n diolch i Dafydd Elis-Thomas am gynhyrchu’r gwaith hwn gyda'i grŵp. Mae’r cysyniadau twf gwyrdd a'r economi gylchol, yn ogystal ag adeiladu ar sylfeini deddfwriaethol defnyddiol iawn fel y Ddeddf amgylchedd a Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n credu, yn mynd i’n harwain at gonsensws cyffredinol, ond nid yw hynny gennym eto, ac rwy’n credu bod Simon yn llygad ei le wrth dynnu sylw at hynny. Ac mae sylwadau niferus wedi’u cyflwyno i bob un ohonom. Megis dechrau'r ddadl hon ydym ni, rwy’n sylweddoli hynny, ond credaf ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru nodi'r angen i wneud datganiad clir. Sandford yw’r conglfaen ers y 1970au, ac rwy'n credu bod angen i chi fynegi eich barn yn glir iawn ar hynny. Rwy'n credu mai cadwraeth sydd wrth wraidd bodolaeth yr ardaloedd hyn fel cyrchfannau poblogaidd iawn i dwristiaid, yn ogystal â bod yn fannau i hamddena sy’n hynod boblogaidd, gyda thri chwarter ohonom ni’n ymweld â pharc cenedlaethol o leiaf unwaith y flwyddyn.
A gaf i orffen drwy sôn am gyfranogiad ac atebolrwydd llywodraethu? Rwy'n falch fod y materion hyn yn cael sylw oherwydd bod hynny’n angenrheidiol a chyfeiriaf hefyd at yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur a'r egwyddorion ar gyfer llywodraethu effeithiol sydd wedi’u llunio. Mae'r egwyddorion hyn yn ystyried deialog, llais, cyfranogiad a cheisio consensws yn bethau pwysig ac rwyf yn credu bod angen iddynt fod wrth wraidd rhai o'r datblygiadau. Fy unig feirniadaeth hyd yn hyn o’r adroddiadau hyn yw nad yw’r alwad am lais, deialog, ac yn y blaen, wedi edrych yn ddigon manwl mewn gwirionedd ar gymunedau a dinasyddion lleol. Mae'n edrych yn hytrach tuag at sefydliadau a haenau Llywodraeth ac rwyf yn credu bod angen edrych ar gymunedau a'u dinasyddion.
A gaf i ddweud er ein bod ni am gefnogi'r cynnig, ein bod hefyd yn cefnogi’r ddau welliant? Os oes unrhyw newid deddfwriaethol i fod, yna rwy'n credu bod angen iddo ddigwydd drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Roeddwn yn falch o glywed sicrhâd y Gweinidog ar hynny. Ond, wrth gwrs, mae’r hyn sy’n golygu newid deddfwriaethol mawr sydd angen ei hoelio i lawr ynddo’i hun ac ni fyddwn yn hoffi gweld newidiadau llai yn mynd yn un newid mawr, ond yn cael ei gynnal neu ei gyflawni drwy ddeddfwriaeth eilaidd. Rwyf i yn credu bod angen iddo ddod yn ei ôl yma os bydd newid mawr yn y polisi ar gyfer deddfu sylfaenol. Diolch.
A gaf i ychwanegu fy llais at y rhai sy'n mynegi’r gwerth amlwg iawn y mae pobl Cymru ac, yn wir, ymhell y tu hwnt i Gymru, yn ei roi ar ein hawyr agored? Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn mewn llawer ffordd i’n gwlad ac rydym yn ffodus iawn o gael y fath dirwedd ddeniadol, ac yn wir y morlun sydd gennym. Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn o ran twristiaeth, a thwristiaeth gweithgaredd yn rhan o hynny, ac o ran ansawdd bywyd yn gyffredinol, y lles a’r iechyd corfforol a meddyliol y mae pobl Cymru yn ei fwynhau, yn rhannol oherwydd gwerth ein cefn gwlad, ein hamrywiaeth o olygfeydd a phopeth y mae hynny’n ei ychwanegu at ein bywydau beunyddiol. Felly, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom ni, nac unrhyw un o bobl Cymru, mewn unrhyw amheuaeth o ran gwerth ein hawyr agored ac, fel rhan o hynny, wrth gwrs, yn enwedig o ran y ddadl heddiw, y tirweddau dynodedig.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn moderneiddio ein hymagwedd at y materion hyn, fel yr ydym wedi clywed eisoes, oherwydd er mor bwysig yw’r tirweddau dynodedig, mae llawer sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf sy'n rhoi gwerth ar y dull datblygu cynaliadwy o ran Cymru gyfan , ac, wrth gwrs, mae llawer o rannau gwych o'n gwlad y tu allan i'r tirweddau dynodedig. Rwy'n gwybod y bydd yn rhan bwysig o waith Llywodraeth Cymru, a gwaith sefydliadau eraill yn y maes hwn, wrth symud ymlaen, i ddeall y dull gweithredu ehangach hwnnw. Ond, serch hynny, wrth gwrs, mae'r tirweddau dynodedig wedi cael, ac yn cael eu cydnabod fel rhai sy'n arbennig o werthfawr oherwydd ansawdd y dirwedd a'r morlun a'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae’r gwerth hwnnw yn berthnasol i ddatblygu cynaliadwy a'r holl elfennau. Felly, mae'n bwysig iawn, iawn yn amlwg ar gyfer yr economi, ar gyfer bywyd cymdeithasol yng Nghymru ac ar gyfer yr amgylchedd.
Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn i ni gymryd sylw o'r pryderon yr ydym eisoes wedi’u clywed yn cael eu crybwyll yma heddiw, ac mae pob un ohonom wedi derbyn llawer o gyfathrebiadau yn mynegi’r pryderon hynny. Yn amlwg, rwy’n meddwl y bu, efallai, rhywfaint o ddiffyg cyfathrebu digonol rhywle ar y ffordd i’r lefel honno o bryder ddatblygu. Felly, croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am ymarfer ymgynghori o'r pwynt hwn ymlaen, ac rwy’n gwybod bod llawer o'r sefydliadau wedi siarad am yr angen i hwnnw fod yn ymgynghoriad llawn iawn yn wir, ac i roi sylw gwirioneddol i’r mater hwn ynghylch egwyddor Sandford, lle ceir gwahaniaeth anghymodlon rhwng dibenion gwneud yn siŵr ein bod yn cadw harddwch naturiol y dirwedd a’r morlun a hefyd yn hyrwyddo mwynhad o'n tirweddau dynodedig, lle y ceir y gwrthdaro hwnnw, ac yna ein bod yn sicrhau bod cadw harddwch naturiol y dirwedd a’r morlun yn cael blaenoriaeth. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan bwysig o'r ymarfer wrth symud ymlaen, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed yr hyn a ddywedwyd heddiw a’r safbwyntiau yr ydym i gyd wedi’u cael.
Rwyf hefyd yn meddwl, o ran Marsden fel darn o waith, Llywydd, yn amlwg roedd yn drylwyr iawn ac rwy'n credu bod y broses yn gryf, ac roedd yn glir ac yn fanwl. Felly, erbyn hyn pan fyddwn yn cael y gwaith pellach y mae grŵp Dafydd Elis-Thomas wedi’i gynhyrchu, rydym yn ei weld yn nhermau, unwaith eto, fel yr wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i nodi, adeiladu ar waith Marsden ac edrych ar y darnau hynny o waith yn eu cyfanrwydd, gan fod Marsden yn amlwg yn dal i fod wedi gosod y llwyfan ar gyfer y ffordd yr ydym yn symud ymlaen, ac mae ganddo, rwy'n credu, yr eglurder a’r manylder a'r broses y tu ôl i hynny, yr wyf yn credu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac sy’n dal i gael eu gwerthfawrogi.
Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, Llywydd, ein bod yn rhoi’r ystyriaeth lawnaf i'r ffordd yr ydym yn symud ymlaen. Mae gennym y ddeddfwriaeth newydd, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ar sut yr ydym yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cynaliadwy yng Nghymru; mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nhw sy’n gosod y llwyfan a nhw sy’n gosod y cyd-destun cyfredol, ond mae gennym ni hefyd y gwaith pwysig hwn gan grŵp Marsden a Dafydd i fwrw ymlaen â hynny ac ychwanegu at y cyd-destun. Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu, wrth edrych ar y dull gweithredu tymor hir sydd mor bwysig i lesiant cenedlaethau'r dyfodol, bod diogelu ein morlun a'n tirwedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwbl unol â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac ni welaf unrhyw wrthdaro rhwng hynny o gwbl. Ac rwy’n gobeithio'n fawr bod yr hyn a welwn yn dod i'r amlwg o'r gwahanol elfennau o waith sydd wedi eu gwneud, ac a fydd yn cael eu gwneud, yn sicrhau ein bod yn mynd â’r holl gyrff sydd â diddordeb hanfodol yn y materion hyn gyda ni yn rhan annatod o'r broses honno .
Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn? Ond, os, fel y mae'n ymddangos, mai pwrpas adroddiad 'Tirweddau’r Dyfodol' yw ffurfio sail y bydd unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar ein parciau cenedlaethol yn cael ei gwneud arni, y cwestiwn cyntaf y mae’n rhaid i ni ei ofyn felly yw: pam y mae Llywodraeth Cymru yn gweld angen am ddeddfwriaeth o'r fath? Mae'r adroddiad yn ymddangos i awgrymu bod yr angen am ddeddfwriaeth newydd i reoli'r hyn yr ydym yn cyfeirio atynt fel parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn ffaith bendant. Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod llawer o'r byrddau a'r partïon â buddiant sy'n gweinyddu neu’n gweithio ar hyn o bryd o dan y rheoliadau presennol yn cytuno â'r egwyddor gyffredinol hon, ac y bu cytundeb cyffredinol gydag argymhellion yr adroddiad gan y partïon â buddiant hyn.
Fodd bynnag, ac i adleisio cyfranwyr eraill at y ddadl hon, rwyf wedi derbyn llawer o negeseuon e-bost oddi sefydliadau ac unigolion sydd ynghlwm nad yw hyn yn ymddangos i fod yn wir. Un diffyg amlwg a nodwyd gan nifer, os nad y cyfan, o'r gohebwyr hyn yw nad yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at egwyddor Sandford. Mae hyn yn ymddangos yn arbennig o esgeulus o ystyried bod yr egwyddor hon yn cael ei hystyried fel conglfaen polisi gwarchodaeth ar gyfer yr holl barciau cenedlaethol ac AHNE. Mae hefyd yn ymddangos i anwybyddu argymhellion adroddiad Marsden, a oedd yn cynghori y dylai gwarchod ein parciau cenedlaethol gael ei ymestyn, nid ei leihau.
Mae egwyddor Sandford yn datgan pan fo gwrthdaro anghymodlon rhwng cadwraeth a mwynhad y cyhoedd, yna dylai cadwraeth gael blaenoriaeth. Byddai hyn, wrth gwrs, hefyd yn berthnasol i unrhyw a phob cynnig datblygu yn ein parciau cenedlaethol. Os bydd unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn ceisio rhoi’r egwyddor sylfaenol hon o'r neilltu, yna dylai'r ddeddfwriaeth honno fod yn agored i’r craffu llymaf.
O ystyried yr effaith enfawr bosibl y byddai unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn ei chael ar barciau cenedlaethol ac, yn wir, ar yr amgylchedd yng Nghymru yn gyffredinol, rwy’n credu na ddylai fod unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath sy’n effeithio ar bwrpas craidd ein parciau cenedlaethol hyd y bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn wedi ei gynnal, ac ymhellach y dylai egwyddor Sandford barhau i fod yn gonglfaen unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar y parciau cenedlaethol ac AHNE Cymru.
Mi ydw i yn ddigon ffodus i gael cynrychioli rhan o Barc Cenedlaethol Eryri—ardal nodedig o ran tirwedd, byd natur, a’i ffordd o fyw unigryw. Yn ogystal a bod yn un o lefydd prydferthaf y byd, mae Eryri hefyd yn gartref i 26,000 o bobl, llawer ohonyn nhw’n gweithio yn y parc o dydd i ddydd.
Yn y blynyddoedd diweddar, fe welwyd twf aruthrol mewn un rhan o’r economi yn yr ardal, sef twristiaeth awyr agored. Yn ôl un astudiaeth, fe gyfrannodd y sector yma dros £480 miliwn i economi Cymru. O safbwynt Eryri, mae tyfu’r sector gweithgareddau awyr agored yn un o gonglfeini strategaeth economaidd Gwynedd, wrth iddo gael ei gydnabod fel un o nifer o sectorau twf yn yr ardal ac mae’r pwyslais ar hyrwyddo cyfleon busnes i bobl ifanc lleol.
Mae o’n weithgaredd economaidd sy’n gwbl gydnaws â dau ddiben statudol parc cenedlaethol sef, fel rydym ni wedi clywed, gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd, a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd. Wedyn, fel rydym ni wedi clywed, os oes yna wrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod yn y parc cenedlaethol droi at egwyddor Sandford. Dyna ydy’r sefyllfa ar hyn o bryd.
Yn amlwg, mae’r egwyddor Sandford yma yn hollbwysig i lawer o bobl—yn sicr yn bwysig i lawer sydd wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf. Ac mae yna lawer mewn penbleth am na chyfeiriwyd at yr egwyddor hon yn yr adroddiad sydd dan sylw heddiw. Mae’n gwbl briodol i adolygu pwrpas yr ardaloedd dynodedig, wrth gwrs, ac fe wnaed hynny dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, ac yna fe gyhoeddwyd ‘Tirweddau’r Dyfodol’ ym mis Mai. Mae’n dda cael y drafodaeth, ond, wrth gwrs, y broblem ydy bod yr egwyddor Sandford ar goll o’r adroddiad presennol, sydd yn gam gwag yn fy marn i. Drwy beidio â sôn am un o egwyddorion canolog presennol y tirweddau dynodedig, mae’r adroddiad yn annigonol, ac fe lwyddwyd i godi gwrychyn nifer fawr o bartneriaid sy’n ymwneud â’r parciau cenedlaethol heb fod eisiau efallai, a’r rhain ydy’r union bartneriaid y mae angen eu cydweithrediad wrth symud ymlaen yn y drafodaeth yma. Fe lwyddwyd hefyd i greu pryder ymhlith fy etholwyr i yn Arfon yn sicr. Mae pobl yn teimlo bod yna rywbeth mawr ar fin newid, fod Eryri am newid am byth, fod natur unigryw'r parc dan fygythiad. Er mwyn tawelu’r pryderon yma, mae’n bwysig bod gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu pasio heddiw. Mae’n rhaid cael eglurder, craffu manwl, ac ymgynghori llawn, ar ddyfodol ein parciau a’n tirweddau dynodedig.
Buaswn i’n licio diolch i’r holl etholwyr sydd wedi cysylltu â mi i wyntyllu eu pryderon. Buaswn i’n licio medru mynd yn ôl atyn nhw i ddweud fod y Cynulliad wedi derbyn gwelliannau Plaid Cymru, fod y Cynulliad yn cydnabod yr angen am drafodaeth dryloyw a llawn os oes unrhyw fwriad i newid pwrpas mannau mor eiconaidd â pharc cenedlaethol Eryri.
Yn ogystal ag arddel y ddau ddiben statudol, mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ychwanegu trydydd diben, sef meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. Diben hollbwysig yn fy marn i. Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.
I gloi, felly, mae angen ymgynghoriad lawn yn genedlaethol, ond hefyd mae angen ymgynghoriad efo’r boblogaeth leol a’r cyrff priodol am yr holl faterion perthnasol—yr angen i warchod a gwella, ie, yn sicr, yr egwyddor Sandford, ie, yn sicr, ond hefyd yr angen i feithrin lles economaidd ei chymunedau yn yr ardaloedd dan sylw.
Gyda thri pharc cenedlaethol, a phedair a hanner o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, mae tirweddau dynodedig yn cyfrif am 25 y cant o'n cenedl, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i swyddogion a staff ym Mharc Cenedlaethol Eryri, llawer ohono yn gorwedd o fewn fy etholaeth i yn Aberconwy hefyd, am eu gwaith caled a'u hymdrechion aruthrol i warchod a chynnal ein hardaloedd ysblennydd, ein 'tlysau'r goron' fel y cyfeirir atynt yn aml. Â darllen rhwng llinellau'r adroddiad hwn, fodd bynnag, rwy’n cwestiynu hanfodion dau hepgoriad penodol. Mae hepgor sylfaenol y gair 'cadwraeth' wedi achosi pryder mawr i mi, ac yn sicr fe’i codwyd gyda mi gan lawer sy'n byw o fewn cymuned Aberconwy, ac, fel y mae llawer o Aelodau yma wedi ei ddweud, y ffaith nad oes sôn am egwyddor Sandford. O ran unrhyw adroddiad sydd wedi cael ei ysgrifennu erioed, mae pobl yn chwilio am yr hyn na ddywedwyd yn gymaint â’r hyn a nodir ynddo, ac mae hyn yn achosi pryder i mi. Yn sicr, mae hyn wedi achosi dychryn i lawer yn fy nghymuned fy hunan, llawer sy'n defnyddio'r parc cenedlaethol, llawer o'n grwpiau gwirfoddol, megis Cymdeithas Eryri, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru—ac rwy’n cefnogi’r galwadau hyn—i warchod gwarchodaeth, rheoli, ac adnoddau priodol ar gyfer tirweddau dynodedig i sicrhau bod cadwraeth a mwynhad tawel o nodweddion arbennig yr ardaloedd dynodedig yn parhau'n ganolog i'w diben, er mwyn sicrhau bod egwyddor Sandford yn cael ei chadw er mwyn sicrhau diogelu rhag datblygu amhriodol, cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn cyn gwneud unrhyw newidiadau i ddibenion tirweddau dynodedig, ac ailedrych ar adroddiad Marsden a'i argymhellion. Mae'r rhain yn hanfodol o ystyried mai un o ddibenion penodol dynodi parciau cenedlaethol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth. Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, roedd adolygiad Marsden 2015 yn crybwyll hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygu economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal. Yn ogystal, fodd bynnag, mae argymhelliad 7 yr un adroddiad, unwaith eto, yn galw am i egwyddor Sandford gael ei defnyddio ar draws pob un o'n tirweddau dynodedig, gan gynnwys ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Rwy’n awgrymu wrthych, Ysgrifennydd y Cabinet: y dylech wneud yn glir yma heddiw y byddwch yn cydnabod pwysigrwydd cadwraeth, gwarchod, ac, wrth gwrs, cymhwyso egwyddor Sandford ar draws yr holl dirweddau dynodedig. Nid wyf yn sicr, mewn gwirionedd, beth fydd Sandford a mwy yn ei olygu i’r holl bobl sydd wedi ysgrifennu ataf ar negeseuon e-bost. Gwnewch eich safbwynt yn glir yn hyn o beth.
Yn sicr, byddwn yn cefnogi'n gryf y ddau welliant heddiw. Mae diogelu, gwarchod, gwella, a chefnogi ein tirweddau naturiol yn dod ar gost, ac mae'n deg i ddweud bod barn gyffredinol o fewn fy etholaeth fy hun, cyn datganoli, bod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth fel y tlws yng nghoron parciau cenedlaethol y DU, ond yn awr mae’n ymddangos nad yw’n cael ei ystyried mor uchel gan y Llywodraeth hon.
Wrth i ni fwynhau proffil byd-eang cynyddol fel cyrchfan twristiaeth, mae cyllidebau llai yn golygu penderfyniadau anodd ar gyfer ein parciau cenedlaethol, pob un ohonynt yn dod ar gost ein diogelwch amgylcheddol a diogelwch ymwelwyr. Cafwyd toriad 19 y cant i’r gyllideb ers 2011, yn flynyddol—ac eto, yn Lloegr, gyda chefnogaeth y Llywodraeth, maen nhw wedi sicrhau hyd at 2020 gynnydd blynyddol o 1.7 y cant. Felly, mae'n dangos pwy sy’n gwerthfawrogi eu parciau cenedlaethol. Felly, dylem fod yn dychryn bod cost gyfartalog archwiliadau allanol awdurdodau parciau fel canran o'u hincwm yn sefyll ar 0.82 y cant yng Nghymru, yn anghymesur yn fwy na 0.2 y cant yn Lloegr a 0.16 y cant yn yr Alban. Rwyf felly yn croesawu'r ymrwymiad i leihau'r baich rheoleiddio o archwilio ar barciau cenedlaethol. Ond gofynnaf hefyd am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau setliadau mewn cyllideb o flaen llaw, a heb wybod beth sydd ganddynt—wyddoch chi, misoedd y mae'n rhaid iddyn nhw wedyn gynllunio ar eu cyfer ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Mae arnynt angen eu datganiadau cyllideb a gwybod yr hyn y maen nhw’n mynd i’w gael ymhell cyn hynny.
Llywydd, roedd adolygiad Marsden yn galw am i dirweddau cenedlaethol Cymru gael eu gwerthfawrogi gan y genedl fel ffatrïoedd pwysig o les, i gael eu cefnogi, i gael eu hamddiffyn, ac i barhau eu swyddogaeth o wella bywydau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, ac i’w nodweddion arbennig gael eu cynnal, eu gwella, a’u gwerthfawrogi yn eang, ac rwy’n cefnogi’r galwadau hynny.
Wrth gyfrannu at y ddadl hon, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Dafydd a'i weithgor am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud? Nid yw hwn yn llwybr hawdd ei ddilyn, ac i gyflwyno gwahanol fuddiannau, diddordebau weithiau'n cystadlu, ond i'w cael ar yr un dudalen—ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi dweud yn ei sylwadau agoriadol fod hyn yn rhan o daith, wrth symud ymlaen. Bydd angen trafod ac ymgynghori pellach, a chroesawaf hynny. Ond rwyf eisiau diolch i Dafydd am y gwaith y mae ef a'i grŵp wedi'i wneud, hefyd yr adroddiad rhagflaenydd, yr hyn a elwir yn adroddiad Marsden hefyd, a oedd yn wahanol, ond yn cwmpasu rhywfaint o'r un tir. Gyda llaw, mae—nid yw pobl wedi ei grybwyll heddiw, ond mae rhai pethau i'w croesawu yn yr adroddiad hwn y mae Dafydd a'i weithgor wedi’i gynhyrchu, a byddaf yn troi at hynny mewn munud. Ond rwyf eisiau diolch i'r Cynulliad hwn a’r Llywodraeth am fod yn ddigon dewr i edrych mewn gwirionedd ar hyn.
Cyn i mi atgoffa pobl pam y mae angen i ni edrych ar y mater hwn o lywodraethu a sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn o fewn Cymru, wyth mlynedd yn ôl, sefais ar lwyfan yn y South Downs a chyhoeddasom agor parc cenedlaethol, Parc Cenedlaethol y South Downs, busnes anorffenedig mawr Deddf parciau cenedlaethol 1946. Hwn oedd yr un agosaf at boblogaeth drefol fawr Llundain a Brighton ac yn y blaen, ac nid oedd hynny wedi cael ei wneud ar y pryd, ond fe wnaethom hynny. Siaradais yno fel y peiriannydd tu ôl i'r llenni am sut yr oeddem yn ei lywodraethu a'r anawsterau o ddod ag awdurdodau lleol a grwpiau a oedd yn cystadlu â’i gilydd ynghyd, ac fe lwyddwyd i wneud hynny. Fe wnes i hyn i gyd, a chafwyd cymeradwyaeth gwrtais, ac yna cododd Hilary Benn, yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ei draed a siaradodd gyda llawenydd a barddoniaeth am yr hyn yr oedd parciau cenedlaethol yn ei olygu, ac fe swynwyd pawb.
Felly, wrth ddechrau hyn, rwy’n mynd i ddweud—ac mae'n ddiddorol, hyn. Mae hyn yn dod gan Iolo Morganwg, un o feirdd mawr Morgannwg, yn ei 'Emyn i Iechyd', pan oedd yn gwella o salwch difrifol ac o bosibl terfynol. Dyma ei awdl, os mynnwch, yr ‘Emyn i Iechyd', ac meddai, mewn dyfyniad byr:
‘Through dewy dales and waving groves, / The vernal breeze unruffled roves.
'Delicious Health!' -
Rwy'n ebychu hynny, oherwydd bod ebychnod ar ei ôl—
‘I range the vale, / And breathe once more thy balmy gale; / ‘Scap’d from the wrathful fangs of pain, / I view, rejoic’d, thy skies again.’
Wel, gallai fod wedi bod yn rhagweld Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, neu’r ffatrïoedd llesiant y cyfeirir atynt yn yr adroddiadau hyn, a'r llawer o nwyddau cyhoeddus lluosog eraill yr ydym yn eu cael gan yr amgylchedd naturiol ac y mae’r ddau adroddiad yn dweud— [Torri ar draws.] Mae'r ddau adroddiad mewn gwirionedd yn dweud bod angen i ni wneud mwy i ledaenu, mewn ffordd o degwch cymdeithasol, y buddion sy'n deillio o hyn hefyd.
Dim ond wrth fynd heibio, un o'r pethau yr wyf yn ei groesawu yn adroddiad Dafydd, a'i ragflaenydd, yw ei gydnabyddiaeth nad yw hyn yn ymwneud yn unig â thirweddau a ddynodwyd yn genedlaethol. Rwy'n cael cymaint o lawenydd a chymaint o iechyd a lles corfforol o sefyll ar Bulpud y Diafol ar fynydd Bwlch yn Ogwr, yn edrych i lawr ar ddyffryn Ogwr, ag yr wyf o sefyll ar Ben y Fan neu gopa’r Wyddfa. Mae'n rhaid i mi ddweud hynny. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hynny, ac mae'n sôn am hynny yn gweithio y tu hwnt i ffiniau—pwysigrwydd yr awdurdodau cenedlaethol dynodedig hyn yn gweithio y tu hwnt i'w ffiniau, nid ar gyfer cael llinell wedi’i thynnu’n artiffisial ar y map a dyna lle mae'r cyfrifoldebau yn gorwedd, ond sut yr ydym mewn gwirionedd yn ymestyn y manteision a ddaw o bob un o'n tirweddau, ar draws pob un o'n poblogaethau.
Mae'n sôn yn adroddiad Dafydd am arloesi wrth ddarparu adnoddau. Mae angen i ni fod o ddifrif ynglŷn â hyn, oherwydd, er gwaethaf y cyfraniad yn awr, mae ein holl barciau cenedlaethol a’n holl ardaloedd dynodedig, ar draws y DU, wedi wynebu toriadau, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae angen i ni gael mwy o arloesi wrth ddarparu adnoddau.
Mae'n sôn am wella atebolrwydd a pherfformiad, am sbarduno lles ac am gynaladwyedd ehangach a thwf gwyrdd. I ateb y cwestiwn a ofynnwyd funud yn ôl sef, 'Pam mae angen i ni wneud hyn?', cyfeiriaf chi yn ôl at adroddiad cynharach yr Athro Marsden, lle mae'n dweud fod ei banel wedi canfod bod ymagwedd newydd at ddibenion a llywodraethu tirweddau dynodedig Cymru yn hwyr ... am o leiaf dri rheswm.
Rhoddodd sylw i maint a chymhlethdod yr heriau amgylcheddol a chyfeiriodd at y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â'n colled o ran bioamrywiaeth, yn wahanol i'r hyn yr oedd yn y ganrif ddiwethaf. Cyfeiriodd at sut y mae anghydraddoldebau gofodol a chymdeithasol cymharol mewn lles, iechyd, addysg a mynediad at hamdden awyr agored yn galw am lawer mwy gan y tirweddau dynodedig ac eraill. Nid yw'n ddigon da, mae'n ddrwg gen i, i gael rhai mathau o bobl yn mynd yn eu ceir ac yn ymweld â'n tirweddau dynodedig—ac rwy’n dweud hyn fel rhywun a gafodd ei eni ar Benrhyn Gŵyr, yr AHNE cyntaf erioed ym Mhrydain Fawr. Nid yw'n ddigon da i gael dim ond rhai pobl sy'n ymweld ac yn cael y manteision iechyd a lles. Mae angen iddyn nhw fod ar gael i bawb, ac mae hynny'n golygu lledaenu hyn y tu hwnt i’r ardaloedd dynodedig cenedlaethol hynny.
Yn olaf mae’n dweud bod angen i’r ardaloedd hyn fod yn gartref i gymunedau gwledig llawer mwy bywiog, lle gall yr ifanc gael eu cadw, eu hyfforddi a'u denu gan gartrefi a swyddi cynaliadwy.
Ond byddwn yn dweud wrth y Gweinidog, fel y mae eraill wedi gwneud, mae'n werth, yn y rhannau da sydd o fewn yr adroddiad sydd bellach wedi dod i law, dychwelyd ac edrych ar adroddiad Marsden—ac yn arbennig argymhelliad 6, lle mae'n nodi tair swyddogaeth statudol newydd a fyddai'n tanategu, yn ymwneud â chadwraeth, lles dynol a rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy. Mae'n dweud y dylai hyn fod yn ddull 'Sandford a mwy'. Edrychwch ar hynny wrth inni fwrw ymlaen a thrafod hyn mewn deialog, cynnwys y grwpiau, gan barhau â’r gwaith y mae Dafydd ac eraill wedi ei wneud, a gadewch i ni fynd i le da lle mae pawb wedi ei ymrwymo i ffordd wahanol o lywodraethu yng Nghymru.
Roeddwn yn mynd i ymyrryd ar Huw Irranca-Davies, felly rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle i siarad, mewn gwirionedd. Rwy'n cytuno ei bod yn amser i ni fod yn adolygu pwrpas ein tirweddau dynodedig ac adolygu cryfder yr amddiffyniadau sydd wedi'u hymgorffori ynddyn nhw ar hyn o bryd. Hynny yw, nid yw mor bell yn ôl pan oeddem yn sefyll yma yn siarad am y parciau cenedlaethol ac anhryloywder eu trefniadau llywodraethu, er enghraifft, felly mae'n hollol iawn bod y materion hyn yn cael eu hadolygu. Roedd y papur, hyd yn oed yn ei gamau ymgynghori cynnar, yn codi ychydig o gwestiynau i mi. Os ydw i'n iawn yn meddwl mai un o ddibenion y papur hwn yw ysgwyd ein parciau cenedlaethol yn benodol allan o'u meddwl seilo, ac efallai dylanwadu ar y defnydd o dirweddau y tu allan i'w ffiniau, i mi, rwy'n meddwl os mai hynny yw eich 'Sandford a mwy a mwy', Ysgrifennydd y Cabinet. Oherwydd fy nealltwriaeth i o hynny yw y byddai'n fwy na thebyg wedi gwarchod Mynydd y Gwair, sydd wrth gwrs yn bont enwog rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ardal Gŵyr o harddwch naturiol eithriadol. Os nad yw wedi’i fwriadu i wneud hynny, efallai y byddech yn esbonio i mi beth y mae'n bwriadu ei wneud. Oherwydd, wrth gwrs, mae perygl y gallai hyn weithio'r ffordd arall, ac y byddai'n gadael tirweddau dynodedig yn fwy agored i ymosodiad seilwaith anghymesur ymwthiol yn enw twf gwyrdd.
Ynglŷn â hynny, rwyf mewn gwirionedd yn cydnabod rhywbeth yr ydych wedi’i ddweud yn y papur ynghylch cryfhau'r ddyletswydd ar gynllunwyr a datblygwyr i roi sylw dyledus i ddibenion y dynodiadau o safleoedd amrywiol. Ond os yw’r dynodiadau hynny yn mynd i fod yn llawer ehangach eu diben—ac nid wyf yn dweud na ddylent fod, ond os ydynt yn mynd i fod—sut y gall y Llywodraeth sicrhau nad yw’r diben sy'n adeiladu amddiffyn ar gyfer cywirdeb y tirweddau wedyn yn cael ei wanhau i bwynt lle mae’r ddyletswydd gryfach i roi sylw dyledus yn dod yn amherthnasol, mae'n dod yn ddiystyr, neu yn wir, hyd yn oed efallai yn dod yn asiant ar gyfer newid negyddol? A phan ddywedaf 'negyddol', byddai hynny yng ngolwg rhai pobl y mae eu synnwyr o hunaniaeth, fel yr ydych yn cydnabod yn eich papur, yn rhwym mewn modd mor gadarn â'r dirwedd y maen nhw’n byw ynddi.
Mae eich egwyddorion cyntaf o lywodraethu—soniodd David Melding am rai o'r rhain—yn cynnwys geiriau fel 'cyfranogiad', 'llais', 'derbyn yn y gymdeithas', 'cynrychiolaeth' a 'consensws'. Rwy'n meddwl tybed os yw hynny—rwy’n gobeithio ei fod—yn awgrym y gallech fod yn paratoi'r ffordd yn y fan yma ar gyfer y diddymu TAN 8, oherwydd mae TAN 8, ym mhob achos y gallaf feddwl, wedi goresgyn unrhyw ymgais i ddibynnu ar y cysyniadau hynny ar hyn o bryd.
Yn olaf, yn fyr, rwy’n sylwi y cymerodd tan dudalen olaf y naratif yn y ddogfen i sôn am y cysyniad o fiosffer UNESCO, ac wrth gwrs mae gennym esiampl anhygoel o hynny yn nyffryn Dyfi—er nad yw’r ffaith ei fod yn fiosffer yn cael ei defnyddio ddigon yn ei botensial o ran twristiaeth. Ynglŷn â hynny, gyda llaw, rwy'n falch iawn o weld y tro pedol ar y materion brandio ynghylch parciau cenedlaethol ac AHNE, gan fy mod yn credu bod y trafodaethau cynharach, ychydig o flynyddoedd yn ôl, am newid yr enw, yn gwbl wrthgynhyrchiol. Felly, rwy'n chwilfrydig—nid wyf yn gwybod os bydd gennych amser i ymdrin â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet— ynglŷn â faint o'ch gweledigaeth sy'n cael ei hymgorffori yn y ddogfen Cabinet yr ydym wedi’i darllen heddiw yn seiliedig ar yr egwyddorion hynny o fiosffer UNESCO. Oherwydd, yn sicr, byddai fy nheulu sy'n byw yn y biosffer yn ei argymell fel ffordd o edrych ymlaen at sut y byddwn yn ymdrin â’r—nid wyf yn meddwl y bydd mor hawdd â hynny—cydbwysedd hwn rhwng gwarchod yr amgylchedd ac ehangu ei ddibenion.
Fel pawb arall sydd wedi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, rwy’n cefnogi egwyddorion Sandford yn gryf, er fy mod yn derbyn y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei haraith bod yn rhaid i’r rhannau prydferth hyn o'n cefn gwlad fod yn lleoedd ffyniannus a lleoedd i fyw ynddynt, ac yn anochel fe fydd gwrthdaro rhwng polisïau a gwrthdaro rhwng buddiannau, y mae'n rhaid eu cysoni rhywsut. Rwy’n credu, fel y mae David Melding ac eraill a’i dilynodd, a fy nghydweithiwr David Rowlands, wedi ei ddweud: beth yw'r pwynt o ddynodi ardaloedd fel rhai o harddwch naturiol eithriadol neu fel parciau cenedlaethol, os nad i roi blaenoriaeth i'r egwyddor o gadwraeth? Dyna'r egwyddor sylfaenol sy'n sail i gyflwyno’r ddeddfwriaeth gychwynnol, gyda chefnogaeth pob plaid, sydd wedi cael ei gynnal hyd yn oed hyd heddiw. Ond hoffwn innau hefyd—yn dilyn Huw Irranca-Davies—longyfarch Dafydd Elis-Thomas a'i weithgor ar gynhyrchu’r adroddiad ardderchog hwn, sydd, yr wyf yn credu, yn rhoi golwg gytbwys i ni ar y ffordd ymlaen.
Hoffwn gyfeirio at un neu ddau o'r darpariaethau y mae'n sôn amdanynt yn ei adroddiad, yn arbennig ar dudalen 8, lle mae'n cyfeirio at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a'r angen i adlewyrchu dealltwriaeth eang o bwysigrwydd y meysydd hyn a'u hecosystemau, ac y mae angen rhoi mwy o bwys iddynt wrth wneud penderfyniadau. Ac yna, unwaith eto, ar dudalen 17:
yr angen am well integreiddio polisïau a mwy o ddealltwriaeth o sut y gall tirweddau dynodedig ymgysylltu'n gadarnhaol yn yr agenda, yn enwedig ynglŷn â datblygu cynlluniau rheoli tir cynaliadwy wedi’u teilwra i ardal i gymryd lle neu ategu taliadau amaeth-amgylchedd presennol, gan gynnwys gweithio gyda chlystyrau o reolwyr tir.
Nawr, mae dau fater yr wyf eisiau cyfeirio atynt, yn fyr, yn ystod yr araith hon, yn dilyn yr egwyddorion cyffredinol hynny. Rydym wedi cael y dadleuon hyn yn y Cynulliad o'r blaen, yn enwedig ynglŷn ag ymyrraeth peilonau a melinau gwynt mewn tirweddau parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a chefn gwlad yn gyffredinol. Credaf y dylem gael ymdeimlad o gymesuredd yma, er nad wyf yn rhannu brwdfrydedd mwyafrif Aelodau’r Cynulliad hwn am y rhan fwyaf o'r mesurau gwyrdd sydd wedi eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf eisiau mynd i ddadl ar egwyddorion cyffredinol hynny, ond byddaf ond yn dweud bod yn rhaid i'r cyfraniad i orchfygu cynhesu byd-eang—os yw hynny'n bosibl—y gellir ei wneud gan felinau gwynt yn yr ardaloedd hyn fod mor ddibwys fel, os oes gennych ymdeimlad o gymesuredd, yn sicr, i'w gwneud yn ofynnol i osod buddiannau cadwraeth cyn buddiannau polisi amgylcheddol. Oherwydd gan gadw mewn cof yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd, gydag India a Tsieina rhyngddynt yn adeiladu 800 gorsaf ynni glo newydd arall, beth yw diben halogi ein mannau gwyllt yng Nghymru er mwyn gwneud cyfraniad mor fychan at leihau allyriadau carbon deuocsid fel na all gael unrhyw effaith ymarferol ar yr hinsawdd o gwbl? Felly, byddwn yn gwneud ple yn yr achos hwn, hyd yn oed ar gyfer y rhai sydd â golwg gwahanol iawn i mi ar gynhesu byd-eang o waith dyn, i wneud eithriad i'r ymagwedd gyffredinol er mwyn diogelu ein hardaloedd gwyllt yn y canolbarth, y gogledd a’r gorllewin yn arbennig.
Mae’r ail bwynt yr wyf eisiau ei wneud yn un yr wyf yn gobeithio y byddwn yn dychwelyd ato maes o law, sef dad-ddofi bryniau Cymru, yn dilyn ymlaen o gyfarwyddebau cynefinoedd yr UE, ac o ganlyniad iddynt yr ydym wedi gweld cynnydd trychinebus yn y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr ac, felly, dirywiadau weithiau tuag at ddiflaniad llawer o rywogaethau ysglyfaeth agored i niwed. Credaf fod gadael yr UE yn rhoi cyfle i ni, gan fod yr amgylchedd yn amlwg yn un o'r materion datganoledig ac yn rhoi pŵer i ni yn y Cynulliad hwn, i gymryd ymagwedd wahanol iawn i'r un sydd wedi ei mabwysiadu hyd yma. Rydym wedi gweld cynnydd mewn gweiriau bras ac annymunol yn bla o drogod, ac o ganlyniad i rug aeddfed heb ei losgi, sydd hefyd yn dod yn bla o chwilod y grug. Mae rhedyn sydd allan o reolaeth wedi creu tirluniau diffrwyth sy'n anniogel i ymwelwyr a cherddwyr, a hefyd yn fectorau clefyd Lyme. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i ni ailystyried y ffordd yr ydym yn edrych ar yr ardaloedd hyn o gefn gwlad. Mae'n rhaid i ni sicrhau, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, eu bod yn parhau i fod yn amgylcheddau sy’n ffynnu lle mae pobl yn gweithio yn ogystal â byw ac, yn arbennig, yn ymweld â nhw. Felly, rwyf yn credu bod mwy o wrthdaro arwynebol rhwng y gwahanol elfennau hyn o bolisi nag sy’n bodoli mewn gwirionedd os ydym yn defnyddio ymdeimlad priodol o gymesuredd tuag atynt. Ond yr elfen allweddol yw rhoi'r cymorth cyffredinol i egwyddor Sandford y mae ei angen arni.
Mae gen i’r fraint anhygoel o gael cartref mewn parc cenedlaethol, yn Nhyddewi. Nid oes dim byd yn debyg i ddihuno yn y bore a chael gweld yr arfordir yna o’ch blaen chi. Ond mae yna gyfyngiadau o fyw mewn parc cenedlaethol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag adeiladu. Mae’n swyddogaeth ac yn gyfrifoldeb arbennig ar y parc cenedlaethol i sicrhau bod yna falans rhwng cadw prydferthwch y wlad a galluogi’r boblogaeth leol i fyw yna—un y mae angen delio ag ef gyda sensitifrwydd.
Now, many of you will be aware that I’m currently, along with a team of successful businesses and organisations in rural Wales, trying to develop an economic development plan for rural Wales. What was clear was that it was important for us to have a representative from the national parks on that group, and that’s because the national parks of course have a responsibility to protect beauty in the landscape they administer, but they also, as the planning authorities, have a responsibility to be a part of the answer to economic development in rural Wales, and not, as they’ve been portrayed in the past, a hindrance to it.
I want to be clear: I understand that the primary responsibility of a national park, according to the 1995 Environment Act, is to first of all
‘conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage’ of national parks. Secondly, their task is
‘to promote opportunities for the understanding and enjoyment’ of the special qualities of the park by the public. And thirdly, and importantly, the element that is often forgotten is that national parks also have that duty
‘to foster the economic and social well-being’ of their local communities. Now, what I didn’t understand until recently is that that is only a duty in as far as it relates to conserving beauty and to promoting the enjoyment of the park. I was very interested to hear Sian Gwenllian talk about what’s happening in Snowdonia. I’d be interested to know how they are managing to divorce economic and social well-being from those two things, because I don’t understand how that is in keeping with the 1995 Environment Act. It will be interesting to find out—[Interruption.] I think at the moment that restriction is there, and I think it’s important that we understand that it is quite a restriction in terms of their planning abilities.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs, gwnaf.
Rwy'n meddwl bod y pwynt y mae Siân Gwenllian—gall hi siarad drosti ei hun, ond y pwynt yr oeddwn i’n deall yr oedd yn ei wneud yn amlwg iawn oedd bod Eryri wedi rhoi sylw i’r angen am gymunedau byw a bywiog yn eu hardal ac wedi cymhwyso hynny o fewn yr egwyddorion sydd yn y ddeddfwriaeth, ac wedi bod yn llwyddiannus.
Fy nealltwriaeth i, yn sicr o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yw na allant ond hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol yr ardal os yw yn ymwneud â phwyntiau 1 a 2. Dyna’r hyn a ddywedwyd wrthyf yn glir iawn, felly os ydych chi'n gallu gwneud hynny yn wahanol, byddai diddordeb mawr gennyf mewn deall sut.
Oni bai ein bod yn creu cymunedau cynaliadwy lle y gall pobl fyw a gweithio, ni fydd neb i edrych ar ôl a gwasanaethu’r nifer anhygoel o ymwelwyr sy'n dod â chymaint o gyfoeth i mewn i’r cymunedau hyn, ond hefyd i wasanaethu'r bobl sy'n byw yno. Ble fydd gofalwyr y rhai sy'n byw mewn parciau cenedlaethol yn gallu byw os nad oes tai fforddiadwy ar gael iddynt i fyw ynddynt?
Nawr, un o'r problemau y mae parciau cenedlaethol yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw bod diffyg eglurder rhwng cyfrifoldebau Deddf yr Amgylchedd 1995, y cyfrifoldebau o gadw at egwyddorion Sandford, a chadw at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n gobeithio mai dyna fydd yn digwydd nawr yn y cyfnod nesaf—y bydd fframwaith cyfreithiol gwell i’r parciau cenedlaethol hyn i allu cadw at y tri maes hynny y mae angen iddynt ei wneud.
Rwy’n credu y dylem, wrth gwrs, gadw at yr argymhellion Marsden hynny, a fyddai'n caniatáu i ddatblygiad economaidd ddigwydd—ie, hyd yn oed mewn parciau cenedlaethol, os yw’r datblygiad, wrth gwrs, yn cael ei wneud â chydymdeimlad, gyda golwg ar ecoleg a harddwch naturiol yr ardal, ac os yw'n helpu i gefnogi gwasanaethau a chyflogaeth ar gyfer pobl sydd wedi byw yn yr ardal am nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, yn y blynyddoedd sydd i ddod rydym yn mynd i orfod darparu llety digonol ar gyfer pobl hŷn. Dyna pam mai un o'r prif argymhellion yn ein cynllun datblygu economaidd gwledig fydd bod angen i ni geisio adeiladu eco-gartrefi i bobl hŷn—ie, hyd yn oed o fewn parciau cenedlaethol. Mae hynny wedi ei wneud yn Sir Benfro. Mae hi yn bosibl, mae hi yn bosibl gwneud hynny’n chwaethus, ac mae'r prosiectau hyn wedi darparu swyddi lleol a gwell cadwyni cyflenwi lleol, gan alluogi pobl ifanc i aros yn y parciau. Mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio bod y parciau cenedlaethol hyn yn lleoedd byw. Ceir poblogaeth breswyl o dros 80,000 o bobl. Mae angen i ni wneud bywyd yn hawdd i bobl sy'n gweithio yno fel nad ydym yn colli mwy o bobl ifanc i oleuadau llachar y dinasoedd.
Nawr, mae parciau cenedlaethol yn cyfrif am tua 20 y cant o arwynebedd tir Cymru. Ni ellir ac ni ddylid eu piclo mewn asbig. Mae angen iddyn nhw fod yn gymunedau bywiog lle gall gwahanol genedlaethau fyw a gweithio, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn belled â phosibl gan warchod harddwch yr amgylchedd ar yr un pryd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon a byddaf yn ceisio ymateb i nifer o'r pwyntiau a godwyd. Mae'r gwaith sylweddol a wnaed, yn gyntaf gan yr Athro Terry Marsden a'i banel ac wedyn gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a'r gweithgor, bellach yn gosod y tirweddau a ddynodwyd mewn swyddogaeth yr wyf yn credu y gall helpu i roi sylw i heriau amgylcheddol cynyddol gymhleth, anghydraddoldeb mewn lles ac iechyd, a chreu cymunedau gwledig bywiog a chydnerth, fel y mae Eluned Morgan newydd gyfeirio ato.
Rwyf eisiau ailadrodd eto, yn y termau cryfaf posibl, fy mod i a Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y parciau cenedlaethol ac AHNE. Mae'n rhaid i mi ddweud, byddech yn meddwl mai fy adroddiad i ydyw, y ffordd y mae rhai Aelodau wedi siarad; nid fy adroddiad i yw hwn, adroddiad y grŵp ydyw.
Mae Cymru wedi pennu uchelgeisiau beiddgar yn y Deddfau llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac amgylchedd diweddar ac mae hyn yn darparu'r fframwaith ar gyfer rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a’r llwybr i ecosystemau cydnerth, sy'n allweddol i gynyddu manteision economaidd, diwylliannol, ac amgylcheddol .
Os caf i droi at y ddau welliant gan Blaid Cymru. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf. Nid wyf awyddus i danseilio trafodaethau ac adroddiad y gweithgor Tirweddau’r Dyfodol—ac, er tegwch, dywedodd Simon Thomas yr un peth: nid oedd ef eisiau ei danseilio—drwy welliant sy'n gresynu sut y maent wedi ymdrin ag egwyddor Sandford. Nid wyf yn credu ei fod yn amlwg yn y gwelliant pa un a ddylai’r egwyddor hon gael ei chynnal ai peidio. Rwy’n gwybod, yn eich sylwadau, mai dyna’n sicr y neges sydd wedi dod drwyddo, ond nid wyf yn credu bod y gwelliant wedi nodi hynny.
Byddwn yn cefnogi'r ail welliant. Rwyf wedi dweud yn fy sylwadau agoriadol, ac rwy’n gobeithio ei fod yn glir iawn i bawb, y bydd unrhyw newid sylweddol i'r ddeddfwriaeth ar barciau cenedlaethol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol. Maent yn faterion datganoledig a'r lle priodol ar gyfer y ddeddfwriaeth honno yw yma.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf.
Dim ond er mwyn cael eglurhad, rwy’n deall yr hyn a ddywedodd am ein gwelliant cyntaf, ond bwriad y gwelliant cyntaf mewn gwirionedd yw sicrhau ein bod yn cael y ddadl honno, yr ydym wedi ei dechrau yma heddiw, rwy’n derbyn, ond nid yw’n bendant eto, ac rwy'n credu y gallai’r Gweinidog fod ychydig yn rhy hunanfodlon ynglŷn â pha mor bendant yw hyn.
Na, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl, ac rwy’n gobeithio, yn fy sylwadau agoriadol, fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn. Dof yn ôl at egwyddor Sandford oherwydd, yn amlwg, mae nifer o Aelodau wedi codi hynny yn eu cyfraniadau.
Os caf i ddechrau gyda chyfraniad Simon Thomas: soniasoch yn benodol am RSPB Cymru, a oedd yn cael eu cynrychioli ar y gweithgor. Mae pobl eraill wedi dweud wrthyf ei fod yn adlewyrchu—nhw yw’r unig bobl sydd wedi dweud nad yw'n adlewyrchu'r adroddiad. Felly, ar y sail nad oes modd i chi fodloni pawb bob amser, wyddoch chi, mae'n anffodus iawn bod yr RSPB yn teimlo felly ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei drafod ymhellach gyda nhw.
Cyfeiriodd David Melding eto at egwyddor Sandford. Rydym bellach wedi cyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru gyda'n hegwyddorion ein hunain, er mwyn sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cynnal a gwella cydnerthedd ein hamgylchedd, ac mae hynny'n sylfaen bendant ar gyfer polisi amgylcheddol yng Nghymru ac fe ddylai hynny mewn gwirionedd adeiladu ar AHNE a’n parciau cenedlaethol.
John Griffiths, chi oedd yr unig berson i sôn am forluniau. Rydych chi’n hollol iawn, mae'n ymwneud â'n holl dirweddau a'r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol.
Gofynnodd David Rowlands pam mae angen deddfwriaeth. Wel, daeth hyn yn amlwg o'r broses a sefydlwyd i ystyried hyn. Roeddech hefyd yn honni ar gam fod Sandford yn ymwneud â datblygiadau newydd ac mai dyna, rwy’n credu, sydd wedi sbarduno’r lefel o ohebiaeth yr ydym i gyd wedi’i chael a pham eu bod yn dweud nad ydynt yn cael eu cefnogi. Ond fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, mae gennym ein hegwyddorion ein hunain yma yng Nghymru.
Siaradodd Siân Gwenllian am Eryri ac, unwaith eto, ei chred bryderus bod parciau dan fygythiad. Wel, nid yw hynny wedi dod oddi wrth Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, rwy’n gobeithio fy mod i wedi ailadrodd hynny yn fy sylwadau.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at Eryri. Gan fy mod yn dod o’r gogledd, mae Eryri yn hynod annwyl i mi, ac mae'n hynod annwyl i Lywodraeth Cymru. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr wyf newydd ei ddweud wrth Siân Gwenllian: nid wyf yn gwybod o ble mae hyn wedi dod, ond nid yw wedi dod gan Lywodraeth Cymru. Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa i ddiogelu cyllidebau parciau cenedlaethol oherwydd llymder eich Llywodraeth yn San Steffan, ond gobeithio y bydd yn newid ddydd Iau.
Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y dull o ddarparu adnoddau—mae'n bwynt pwysig iawn, ac rwy’n meddwl bod hynny wedi dod yn amlwg yn y gweithgor ac mae angen i ni edrych ar hynny, wrth symud ymlaen.
Suzy Davies, fe wnaethoch ofyn am Fiosffer Dyfi—rwy’n meddwl bod llawer i'w ganmol yn y dull hwnnw, ond, unwaith eto, y mae angen ymgynghori arno. Mae adroddiad y gweithgor yn awgrymu archwilio sawl ffordd o edrych ar hynny, ond bydd angen ymgynghori ar hynny mewn gwirionedd.
Neil Hamilton, rydych yn aml yn codi Tsieina gyda mi. Wel, a ydym ni’n mynd i daflu ein dwylo i fyny yn yr awyr a dweud, 'Wel, ni fyddwn yn gwneud yr hyn yr ydym yn meddwl y mae angen i ni ei wneud'? Mae’n rhaid i mi ddweud, maen nhw’n dechrau—. Wyddoch chi, ynni adnewyddadwy—roeddwn i’n darllen erthygl yr wythnos diwethaf am y lefel o ynni adnewyddadwy y maen nhw’n ei gyflwyno.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders hefyd at ymestyn Sandford i AHNE. Wel, dim ond un pwrpas sydd iddynt, AHNE, a hynny yw cadw, felly, mewn gwirionedd, ni ellid ymestyn Sandford i AHNE.
Dim ond i gloi, Dirprwy Lywydd [Torri ar draws.]
Dim ond pwynt byr iawn ydi e: rwy'n credu mai un o'r pethau na ddylem ei golli—rwy’n deall bod llawer o'r pwyslais heddiw wedi bod ar ardaloedd dynodedig, ond nid wyf eisiau colli'r peth y mae’r adroddiad hwn yn mynd â ni ymlaen arno, lle mae'n dweud mai
awydd Tirweddau Dyfodol Cymru yw datgloi potensial llawn pob tirwedd yng Nghymru, gan gynnwys tirweddau dynodedig.
Ac mae hynny’n hanfodol ar gyfer datblygu twristiaeth mewn etholaethau yng nghymoedd y de neu’r canolbarth—lleoedd nad ydynt yn dirweddau dynodedig. Mae'r adroddiad hwn yn mynd â ni ymlaen at y diriogaeth honno. Peidiwch â cholli hynny wrth i chi ei ddatblygu.
Yn hollol, a soniasoch yn benodol am ardaloedd rwy’n meddwl mai yng Ngŵyr oedd hynny, wrth symud ymlaen.
Dylai ein tirweddau dynodedig nid yn unig gael eglurder pwrpas, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid bod ganddynt drefniadau llywodraethu effeithlon ac effeithiol iawn, ac mae pobl wedi cyfeirio at hynny. Fel y dywedais, byddaf yn dod â mwy o safbwyntiau ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad sy'n dod i ben ddiwedd y mis.
Mae rhaglen Tirweddau Dyfodol Cymru wedi bod yn gydweithredol iawn o ran natur, gan gynnwys ystod eang o randdeiliaid yn ei dadleuon a thrafodaethau, ac rwyf eisiau parhau yn yr un modd— [Torri ar draws.] Does gen i ddim amser, mae'n ddrwg gennyf. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgynghori'n eang cyn penderfynu ar newidiadau i'r gyfundrefn dirwedd ddynodedig ar hyn o bryd. Rwyf wedi rhoi sicrwydd, ar ôl ymgynghori, y bydd unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol yn dod yma, bydd yn cael ei chraffu yma, ac rwy’n gobeithio, wrth ymateb i bob un o'r nifer o negeseuon e-bost yr ydym wedi eu cael y byddwn yn gallu cyfleu’r pwynt hwnnw. Rwy'n credu mai’r her yn awr yw ein bod, gyda'n gilydd, yn cyflwyno ymagwedd gydweithredol iawn a ddechreuodd gyda'r gweithgor, a bod yn rhaid i hynny arwain at fanteision parhaol i bobl Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.