– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 21 Mehefin 2017.
Y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw’r eitem nesaf, ac rydw i’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn heddiw o gael yr amser yn ystod wythnos y ffoaduriaid i drafod adroddiad ein pwyllgor ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Y cyd-destun ar gyfer yr ymchwiliad yw trasiedi rhyfel, ansefydlogrwydd, a phobl wedi’u dadleoli. Canfu astudiaeth ddiweddaraf y Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd ddydd Llun, fod 65.6 miliwn o bobl wedi’u dadleoli o’u hanfodd ar draws y byd ar ddiwedd 2016. Ar gyfartaledd, cafodd 20 o bobl eu gyrru o’u cartrefi bob munud y llynedd, neu un bob tair eiliad. Ac mae cyfanswm y bobl sy’n chwilio am ddiogelwch ar draws ffiniau rhyngwladol fel ffoaduriaid yn 22.5 miliwn, y nifer uchaf ers yr ail ryfel byd.
Mae lluniau a straeon y bobl sy’n dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac, a gwledydd eraill yn drychinebus o gyfarwydd. Mae’r daith beryglus y mae llawer ohonynt yn ei gwneud i groesi Môr y Canoldir mewn cychod bach gorlawn wedi arwain at farwolaeth nifer enfawr o bobl, gyda llawer ohonynt yn blant, cyn iddynt gyrraedd y lan. Fel y clywodd y pwyllgor, mae’n debygol fod y rhai sy’n goroesi ac yn cyrraedd y DU, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, wedi profi digwyddiadau hynod drawmatig, sy’n gadael creithiau seicolegol parhaol, ac ar yr adeg hynod fregus hon yn eu bywydau, maent yn wynebu cyfres newydd o heriau anferth. Clywsom mai un ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw ‘Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun’. Rhoesom y datganiad grymus a thrawiadol hwn yn deitl ar ein hadroddiad.
Roeddem yn ymwybodol, wrth benderfynu sut i fwrw ati gyda’n hymchwiliad, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw polisi lloches. Fodd bynnag, mae profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn dibynnu i raddau helaeth ar hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau a ddatganolwyd, ac felly mae’n perthyn i gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Yn ystod ein hymchwiliad, buom yn edrych ar gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’i chynllun cyflawni cydlyniant cymunedol. Cawsom dystiolaeth hefyd ynglŷn ag adsefydlu ffoaduriaid o Syria yng Nghymru, yn ogystal â chymorth ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac sy’n wynebu heriau penodol. Yn ogystal â derbyn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar, buom ar ymweliadau yng Nghaerdydd, Abertawe, Glasgow a Chaeredin. Gohebwyd hefyd â’r Swyddfa Gartref a darparwr llety lloches yng Nghymru.
Gwelsom dystiolaeth o arferion da ledled Cymru. Mae’n amlwg, mewn llawer o fannau, ac mewn sawl ffordd, fod y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yn gweithio’n effeithiol i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i addasu i fywyd yn ein cymunedau ac i gael y cymorth y maent ei angen. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu partneriaid cyflenwi mewn nifer o feysydd. Mae angen iddi gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, adnewyddu ei chyfeiriad strategol, a chwarae rhan uniongyrchol yn y broses o gyflenwi.
Mae’n braf fod gwaith y pwyllgor wedi cael effaith sylweddol yn ystod yr ymchwiliad, a hynny cyn i ni ddod i gasgliadau hyd yn oed. Roeddem yn falch o ddau ddatblygiad allweddol cyn i ni gyhoeddi ein hadroddiad: yn gyntaf, ehangu rôl bwrdd gweithrediadau Llywodraeth Cymru i gynnwys yr holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches, nid rhaglen adsefydlu Syria yn unig. Yn ail, dywedodd rhanddeiliaid wrthym, yn sgil y sylwadau a wnaed i’r pwyllgor, a chan y pwyllgor, fod ymgysylltiad ystyrlon rhwng y sector preifat a’r trydydd sector mewn perthynas â llety lloches. Felly, mae ein gwaith eisoes yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
Mae’r rhain yn gamau pwysig ac maent i’w croesawu, ond rydym yn wynebu heriau eang a chymhleth. Dyna pam y gwnaethom 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae 18 ohonynt wedi cael eu derbyn yn llawn neu mewn egwyddor.
Dirprwy Lywydd, mae’n bwysig i mi gofnodi yn y fan hon, er ein bod yn ceisio cael consensws yn ein gwaith fel pwyllgor, ar yr achlysur hwn, roedd yna un Aelod na allai gytuno ar yr adroddiad. Serch hynny, mae cytundeb y saith Aelod arall yn cynrychioli mwyafrif pwerus o blaid y newidiadau rydym am eu gweld.
Rydym wedi galw am ddiweddaru a gwella’r dull strategol. Mae hyn yn cynnwys tair prif elfen, gyda phob un ohonynt yn destun argymhelliad pwyllgor a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, adolygu’r cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches—byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu, amserlenni ac adnoddau mesuradwy yn ogystal ag arferion gorau o’r Alban, gan gynnwys safonau gwasanaeth. Yn ail, sicrhau bod y bwrdd gweithrediadau yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn agored—rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu blaenraglen waith y bwrdd gyda’r pwyllgor. Yn drydydd, paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Mewnfudo’r DU—byddai’n ddefnyddiol gwybod lle mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyrraedd yn ei drafodaethau â rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU ar y mater pwysig hwn.
Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hwyluso integreiddio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i ddiweddaru’r cynllun cydlyniant cymunedol a byddwn yn croesawu cadarnhad y bydd hyn yn cynnwys ymgyrch gyhoeddusrwydd ledled Cymru, yn debyg i’r un yn yr Alban, a wnaeth argraff ar y pwyllgor.
Ochr yn ochr â’n hargymhelliad ynglŷn â’r cynllun cydlyniant, galwasom am gamau gweithredu ar y meysydd penodol a oedd yn peri pryder i randdeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y dylai rôl cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol gael ei hymestyn y tu hwnt i gefnogi ffoaduriaid Syria yn unig. Awgrymodd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet nad yw rôl y cydgysylltwyr yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn barhaol a byddwn yn croesawu eglurhad ar hyn.
Roeddem yn cytuno â’r rhanddeiliaid mai rhwystr allweddol arall i integreiddio yw trafnidiaeth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn cynlluniau trafnidiaeth rhatach i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Byddai’n ddefnyddiol pe gallem glywed mwy o fanylion y prynhawn yma am y rhesymau dros hynny, ac a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu mynd i’r afael â’r mater hwn mewn ffyrdd eraill.
Un maes ffocws penodol i’r pwyllgor, yn dilyn y dystiolaeth a gawsom, oedd y ddarpariaeth addysg Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Roeddem eisiau gweld gwelliannau ar gyfer y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi. Rwy’n derbyn bod yr amserlenni tynn ar gyfer gwneud hynny wedi arwain Ysgrifennydd y Cabinet i dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, i’w weithredu dros gyfnod ychydig yn hwy. Byddwn yn croesawu cadarnhad ynglŷn â’r amserlenni a sicrwydd y bydd y pwyntiau manwl a wnaed gan y pwyllgor yn cael sylw.
Roedd llety lloches yn faes allweddol arall o ddiddordeb i’r pwyllgor. Galwasom am fonitro a datrys cwynion am lety lloches yn well. Argymhellwyd adolygu’r contract llety lloches cyn iddo gael ei adnewyddu nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor, ac edrychaf ymlaen at glywed beth y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol. Roeddem hefyd eisiau i landlordiaid ceiswyr lloches gael eu cofrestru a’u harolygu. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn a byddwn yn croesawu manylion ynglŷn â sut y caiff ei roi ar waith.
Galwodd y pwyllgor hefyd am welliannau i gyngor a chefnogaeth yn ystod y broses o geisio lloches. Cafodd hyn ei dderbyn mewn egwyddor. Mae cymorth effeithiol ar ôl y broses o geisio lloches yn hanfodol, i ffoaduriaid ac i’r rhai na fu eu ceisiadau am loches yn llwyddiannus. Felly, cafodd ein hargymhellion ynglŷn â hyn, yn galw am fwy o help i ffoaduriaid ddod o hyd i lety, gwell mynediad at addysg a chyflogaeth a gweithredu i atal amddifadedd, eu derbyn mewn egwyddor hefyd.
Ar anghenion penodol plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, llwyddodd y dystiolaeth a glywsom fod angen cefnogaeth fwy rhagweithiol i argyhoeddi’r pwyllgor, a dyna pam y galwasom am wasanaeth gwarcheidiaeth. Roeddem yn awyddus i sicrhau hefyd fod digon o gapasiti a gallu ar draws Cymru i gynnal asesiadau oedran, a chawsom dystiolaeth bwerus o’r angen i bennu safonau gofynnol ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Unwaith eto, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhellion ynglŷn â chymorth i blant, ac unwaith eto, byddai o gymorth i ni ac i randdeiliaid glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y bydd yn sicrhau ei fod yn bodloni byrdwn ein hargymhellion yn llawn, hyd yn oed os nad yw’n gallu ymrwymo i bob manylyn am resymau y bydd yn eu hegluro rwy’n siŵr.
Dirprwy Lywydd, rwy’n siŵr y bydd aelodau’r pwyllgor, yn ogystal ag Aelodau eraill yn y Siambr yma heddiw, yn dymuno tynnu sylw at rai o’r manylion mewn adroddiad sy’n eang a chynhwysfawr. Ond cyn i mi orffen, hoffwn dynnu sylw at yr argymhelliad olaf a wnaeth y pwyllgor, ac a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd Cynghrair Ffoaduriaid Cymru ein sylw at y saith cam i noddfa. Cafodd y rhain eu datblygu gan dros 20 o sefydliadau a chânt eu nodi yn ein hadroddiad. Rydym yn rhannu barn y gynghrair y dylai Cymru gymryd y camau hyn a dod yn genedl noddfa gyntaf y byd. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i’r pwyllgor? Yn amlwg, nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond roeddwn o’r farn fod hwn yn waith clir a diamwys gyda ffocws go iawn, felly nid wyf yn synnu ei fod wedi bod yn ddylanwadol yn barod. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, oherwydd a barnu wrth y dystiolaeth a ddyfynnir yn yr adroddiad, roedd gennych ymagwedd agored ac ymatebol iawn i’r dystiolaeth a glywyd yno.
O ran cefnogaeth i ffoaduriaid Syria yn benodol, rwy’n meddwl y byddai’n deg nodi bod unrhyw lywodraeth—ac rydym yn siarad am fwy na dwy Lywodraeth yn hyn, wyddoch chi; mae yna sawl un ar draws cyfandir Ewrop—ychydig iawn o amser a gawsant i geisio rheoli nifer enfawr o bobl wedi’u dadleoli. Maent yn wynebu her enfawr, a chyda’r chynllunio gorau yn y byd, rwy’n meddwl bod y dyddiau cynnar enbyd iawn pan oedd y galw’n fwy na’r gallu i’w ateb—. Wyddoch chi, mae’n amlwg ei fod yn sioc i ni, ond mae angen inni ddeall bod hynny bron yn anochel.
Ond er hynny, John, efallai y byddwch yn cofio i mi ofyn i chi yn ôl ym mis Medi os oeddech yn mynd i edrych i weld pam nad yw Cymru ond wedi cymryd 112 o ffoaduriaid o Syria, a pham nad oedd 13 awdurdod lleol ar y pryd wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid o gwbl. Gallaf weld yn y dystiolaeth fod Unsain wedi dweud wrthych fod pa mor barod oedd awdurdodau lleol yn pennu cyflymder yr ymateb i bob pwrpas. Ond rwy’n meddwl tybed a lwyddodd y pwyllgor i fynd i wraidd hynny, i ganfod pam fod cynghorau fel Torfaen—sy’n haeddu eu llongyfarch yn fawr yn hyn—yn gallu gweithredu’n llawer cyflymach na chynghorau eraill, oherwydd byddai hynny’n sicr wedi effeithio ar allu’r Cenhedloedd Unedig a’r gweithwyr atodol i baru unigolion a wiriwyd cyn iddynt adael Syria gyda’r awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r adroddiad, pan ddechreuodd y system symlach weithredu, mae’n ymddangos iddo fod yn brofiad llawer gwell i’r rhai a’i hwynebodd.
Gallaf yn sicr weld yr atyniad o gael gwared ar y gwahaniaeth rhwng y cynllun adsefydlu pobl agored i niwed o Syria a’r llwybr lloches arferol. Rwy’n derbyn nad yw hwnnw’n fater ar gyfer y lle hwn. Ond mae yna gwestiwn, rwy’n meddwl, ynglŷn ag a ellir cael gwared ar y gwahaniaeth yn ddiogel heb i ddechrau’r broses gael ei leoli yn y wlad wreiddiol neu o leiaf yn agos iawn ati. Er hynny, rwy’n dymuno’r gorau i fwrdd gweithrediadau Llywodraeth Cymru wrth iddynt geisio sgwario’r cylch hwnnw, os oes cylch yno i gael ei sgwario, yn wir. Mae’n tynnu’n groes braidd i’r pryderon a fynegwyd gennych, John, am ddyfodol y cydgysylltwyr cydlyniant. Mae’n ymddangos ychydig yn rhyfedd, wyddoch chi, pan fyddwch yn siarad am gydraddoli dwy system, nad yw hynny’n ymestyn mor bell â’r cydgysylltwyr.
Daliodd y pwynt a wnaed am y cyfnod symud ymlaen 56 diwrnod fy llygaid yn sicr, fel y gwnaeth yr amrywiol argymhellion i helpu gydag integreiddio o safbwynt y ffoadur sy’n ceisio lloches, ac aelodau’r gymuned y byddant yn mynd iddi, wrth gwrs. Afraid dweud, rwy’n meddwl, fod angen i’r cynllun cydlyniant cymunedol fynd i’r afael â’r mythau sy’n ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid—eu hawliau, eu cymorth ariannol, eu gallu i weithio ac yn y blaen. Ond rwy’n credu bod angen iddo fod yn wirioneddol feiddgar a diysgog hefyd pan fyddwn yn sôn am blant, ar eu pen eu hunain neu fel arall. Oes, mae yna blant yng Nghymru sydd ag anghenion difrifol a bywydau yr ydym—. Dylem deimlo’n euog fod gennym blant o hyd sy’n byw fel y maent yn byw, ond plant yw plant, ac nid wyf yn poeni o ble y dônt—mae eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn hawliau y mae pawb ohonom wedi ymrwymo i’w cadw. Nid y darn o dir lle y dowch i’r byd a ddylai bennu lefel y cymorth y gallwch ei ddisgwyl os ydych yn digwydd bod yn blentyn yng Nghymru. Ni fydd gan blentyn ar ei ben ei hun unrhyw gyfrifoldeb am y penderfyniad i ddod i’r wlad hon a’r modd y cafodd ei wneud. Mae’n debyg y byddant wedi dioddef trawma aruthrol cyn i’r daith gychwyn hyd yn oed. Ni ellir eu hanwybyddu oherwydd bod gan blentyn sy’n byw yma eisoes anghenion mawr hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gobeithio bod yr argymhellion diweddarach hyn yn yr adroddiad wedi gwneud argraff go iawn arnoch, fel y maent wedi’i wneud arnaf fi. Rwy’n cofio mai Leanne Wood, rwy’n meddwl, a gyflwynodd un enghraifft o stori a glywsoch am blentyn ar ei ben ei hun, a’r erchyllterau roedd wedi’u hwynebu—dod i mewn drwy Calais a wnaeth. Plentyn ydyw—nid oes ots gennyf o ble y daeth. Ni ddylai neb fynd drwy’r profiad hwnnw.
Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer, mewn gwirionedd, fod pobl sy’n dod i’r wlad hon mewn amgylchiadau enbyd yn aml yn gweld dysgu Saesneg gweithredol yn llawn gymaint o flaenoriaeth â thai gweddus a mynediad at gymorth cymdeithasol ac ariannol. Rhaid bod yr anallu i gyfathrebu yn brofiad mwy unig na dim arall. Rwy’n gwybod bod hyn yn ddrud, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n derbyn y bydd yn cymryd amser, ond ceir argymhellion yn yr adroddiad hwn ynglŷn â defnyddio myfyrwyr a gwirfoddolwyr, o dan arweiniad proffesiynol, a allai helpu i gyflymu hyn ychydig bach mewn gwirionedd. Wrth gwrs—cydgynhyrchu, wyddoch chi—gadewch i ni ddefnyddio rhai o’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches sydd wedi meithrin rhai sgiliau eu hunain, gan fod eu gwirfoddoli yn fwy cyffredinol yn allweddol hefyd i wella eu sgiliau cyfathrebu, eu hyder, eu rhwydweithio a sgiliau eraill sy’n gwella cadernid meddyliol, a gwn ein bod wedi siarad am hyn o’r blaen.
Mae gennyf ddigon o eiriau eraill i’ch llongyfarch chi, John, a’r pwyllgor, ond fe adawaf y rheini ar gyfer diwrnod arall gan nad oes gennyf ragor o amser. Diolch.
Rydym yn canmol pwyllgor arall yr wythnos hon, felly, Suzy—mae yna thema’n ymddangos yma. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor—y rhan fwyaf o aelodau’r pwyllgor—am gytuno i’r adroddiad hwn. Mae’n un o’r profiadau mwyaf boddhaus a gefais ers amser hir. Yn aml iawn, mae’n bosibl y byddwn yn mynd i ddigwyddiadau allgymorth lle y ceir nifer weddus o bobl yn bresennol, ond nid yw’n gymaint ag y gallem fod wedi’i ddisgwyl weithiau. Euthum i’r YMCA yn Abertawe ac roedd y lle’n orlawn o bobl—pobl yn disgyn allan drwy’r drysau am nad oedd digon o le iddynt ymuno â mi a Joyce Watson, a oedd yno ar ran y pwyllgor.
I mi, y peth mwyaf oedd eu bod am gael eu clywed a’u bod yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn y wlad yr oeddent wedi’i chyrraedd, sef Cymru. Roeddent eisiau i ni wleidyddion ddeall eu bod yn haeddu cael y llais hwnnw a’u bod yn deilwng o’r llais hwnnw, a gwneuthum addewid o’r diwrnod hwnnw ymlaen y byddwn yn gwneud yn siŵr y byddwn yn ceisio eu cynrychioli hyd eithaf fy ngallu.
Y maes a oedd yn peri fwyaf o bryder iddynt yn y cyfarfod cyhoeddus arbennig hwnnw oedd tai. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, mewn gwirionedd, am fod mor flaengar—mae wedi caniatáu i mi gyfarfod â gweision sifil i drafod y materion penodol hyn. Rwyf wedi cyfarfod â chyngor Abertawe hefyd, ac maent wedi dweud wrthyf yn syth eu bod hwy hefyd, oherwydd y newidiadau ac argymhellion y pwyllgor, yn cyflwyno newidiadau i’r protocol ar gyfer archwilio adeiladau.
Ond yr hyn y gallem ei weld yn glir iawn oedd bod rhai o’r adeiladau roedd pobl yn byw ynddynt yn ofnadwy—yn gwbl ofnadwy. Ni ddylai neb orfod byw mewn adeiladau o’r fath, pa un a ydynt yn dod o Syria, neu o Irac neu o Aberfan—ni ddylent orfod byw mewn adeiladau yn y fath gyflwr. Felly, rwyf wedi cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda Clearsprings ar sawl achlysur bellach i wneud archwiliadau o gartrefi, ac maent yn newid eu harferion. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu clywed yn glir gan Clearsprings, a’u bod yn cael eu clywed gan Lywodraeth y DU pan fyddant yn bwrw ymlaen i adnewyddu’r contract hwnnw.
Mae angen i ni gael proses fonitro sy’n fwy llym; mae angen i ni gael hyfforddiant cydraddoldeb ar gyfer staff, oherwydd clywsom gan geiswyr lloches nad oeddent yn cael eu trin yn deg mewn llawer o achosion gan y rhai a ddôi i mewn i’w hadeiladau; ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod yna weithdrefn gwyno annibynnol, os nad mecanwaith cwynion annibynnol. Roedd llawer o bobl yn teimlo’n anghyfforddus yn ffonio Clearsprings am mai hwy oedd y cwmni a oedd wedi bod yn fwyaf gelyniaethus tuag atynt wrth iddynt gyrraedd y DU. Rwy’n gobeithio bod y rheini’n bethau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â hwy ac yn mynd ar eu trywydd.
Cawsom lawer o dystiolaeth hefyd gan y rhai a ddaeth i’r pwyllgor eu bod yn awyddus i ddatganoli’r cyfrifoldeb hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn gwirionedd, a byddwn hefyd yn gobeithio, felly, y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwthio i allu gwneud hynny. Gwn fod y sector tai yma’n dweud eu bod yn gymwys ac yn gallu gwneud hynny, felly pam na ddylid ei ddatganoli, pan fo gennym yr holl gyfrifoldebau tai eraill yma yn y lle hwn?
O ran meysydd eraill o ddiddordeb, roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedodd un seiciatrydd a ddaeth i roi tystiolaeth yn wirioneddol ddirdynnol. Dywedodd fod gan lawer o bobl ifanc a gyrhaeddodd y DU glefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Roedd hyn, i mi, yn rhywbeth ofnadwy i’w glywed yn rhan o sesiwn dystiolaeth. Felly, nodaf eich ymateb yn dweud bod mwy o arian yn mynd tuag at CAMHS, ond beth y gallwn ei wneud yn benodol ar gyfer y bobl hyn, sydd wedi mynd drwy drawma na fyddwn byth yn gallu ei ddeall, ac wedi mynd drwy brofiadau na fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael â hwy? Felly, pa hyfforddiant penodol y gallwch ei ddarparu ar gyfer swyddogion CAMHS a fyddai’n wahanol i’r ffordd y byddent o bosibl yn ymdrin â chyflyrau eraill yma yng Nghymru?
Mater arall i mi—mae gennyf gymaint ar yr agenda hon, fel y gallwch weld—rwyf wedi cyfarfod â cheiswyr lloches ac maent wedi dweud, ‘Ydw, rwyf am ddysgu Saesneg neu Gymraeg, ond rwyf am allu gwneud hynny mewn ffordd sy’n berthnasol i mi’. Felly, cyfarfûm â phlwmwr o Syria sy’n byw yng Nghastell-nedd, ac mae’n dweud, ‘Wel, rwyf am ddysgu Saesneg, ond rwyf eisiau gallu gwneud mwy na mynd i mewn i ystafell ac eistedd yno. Mae academia yn eistedd wrth fwrdd, mewn gwirionedd, yn codi ofn go iawn arnaf. Felly, a gaf fi ddilyn cwrs prentisiaeth mewn gwaith plymio neu offer trydanol, ond a gaf fi ddysgu Saesneg drwy’r cwrs penodol hwnnw?’ Dywedodd nad oes dim ar gael iddo allu gwneud hynny ar hyn o bryd. Felly rwy’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth, unwaith eto, os nad yw wedi’i adlewyrchu’n uniongyrchol yn yr adroddiad—nawr fy mod wedi sôn amdano, y gallwch edrych arno ymhellach, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn yr amser sydd gennyf yn weddill, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r materion diwylliannol ac integreiddio. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gweld hyn fel cyfrifoldeb i’r ffoaduriaid yn unig i integreiddio yn ein plith; fod angen i ni newid ein hagweddau tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches hefyd. Mae’n wirioneddol anffodus fod un aelod o’r pwyllgor wedi dosbarthu rhyw ddogfen nad oedd yn cynrychioli’r safbwyntiau a glywsom yn y pwyllgor. Rydym yn falch fel cenedl o groesawu ffoaduriaid, ac rydym yn falch o gefnogi’r ffoaduriaid hynny ac ni ddylem osgoi gwneud hynny.
Cyfarfûm â ffoadur o Irac yr wythnos diwethaf a oedd wedi colli pob aelod o’i deulu yn sgil y gwrthdaro yn Irac. Roedd cael gwared ar Saddam Hussein yn ymddangos yn syniad da i lawer ar y pryd, yn 2003, ond ni wrandawyd ar y geiriau o rybudd—y byddai’n arwain at danio gwrthdaro sectyddol nad oedd gan y rhan fwyaf o bobl yn y wlad hon, yn gwbl deg, fawr iawn o ddealltwriaeth ynglŷn â’i gymhlethdod. Y rhyfel cartref sydd wedi ffrwydro—yr ymladd sectyddol—ni allai’r ffoadur hwn fod wedi talu pris uwch. A oedd gennym ddyletswydd i gynnig lloches i’r unigolyn hwn ac eraill tebyg iddo? Wrth gwrs bod.
Pan fydd ceiswyr lloches yn cael eu dosbarthu gyntaf i Gymru, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd Lynx House ar Heol Casnewydd yn fy etholaeth. Ar ôl tair neu bedair wythnos mewn llety hostel, cânt eu rhoi wedyn mewn llety dros dro—gallai hynny fod yng Nghaerdydd, gall fod yng Nghasnewydd, gall fod yn Abertawe neu ymhellach efallai. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd sy’n ceisio lloches yn amddifad, ac wedi cyrraedd heb fawr mwy na’r dillad sydd amdanynt. Mae ein hymchwiliad yn amlygu’r ffaith mai plant yw rhwng 13 a 20 y cant o’r boblogaeth amddifad leol.
Mae’n ffaith drist fod budd-daliadau ceiswyr lloches yn rhy isel i ddiwallu anghenion sylfaenol y gymuned hon mewn gwirionedd ac un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd yn syml iawn yw nad oes ganddynt arian i dalu am daith fws i gyrraedd gwasanaethau. Felly, mae’n rhaid iddynt gerdded neu fynd ar feic. Felly, mae’n arbennig o bwysig fod gwasanaethau ar gael yn agos at Lynx House, oherwydd yn amlwg, dyna ble y ceir crynodiad o geiswyr lloches.
Roeddwn eisiau talu teyrnged i aelodau o’r gymuned sydd wedi ymateb i’r her ac sy’n darparu gwasanaethau, yn bennaf ar sail wirfoddol, gan nodi’r ffaith fod Caerdydd yn ddinas noddfa ar gyfer y rhai sy’n ceisio lloches rhag rhyfel ac erledigaeth a bod hynny’n golygu rhwydwaith o bobl sy’n barod i hyrwyddo partneriaethau gwirfoddol yn bennaf i gefnogi pobl sy’n chwilio am loches yma.
Er enghraifft, mae canolfan ffoaduriaid Oasis, yr ymwelodd y pwyllgor â hi, wedi’i lleoli mewn hen gapel Methodistiaid yn Sblot. Sefydlwyd Oasis Caerdydd yn 2008, ac mae wedi helpu cannoedd o bobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth wleidyddol o ystod eang o wledydd a lethwyd gan ryfel a gwrthdaro—ac mae ein Llywodraeth wedi helpu llawer ohonynt, neu wedi methu osgoi gwneud hynny. Mae’n meddu ar naw aelod o staff rhan-amser a dwsinau, yn llythrennol, o wirfoddolwyr, gan fod o leiaf 150 o bobl yn cerdded drwy’r drws bob dydd. Pan oeddem yno, roedd o leiaf 35 o bobl mewn ystafell i fyny’r grisiau i gyd yn cael gwers Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill gan un gwirfoddolwr—roedd yn olygfa anhygoel.
Yn fy etholaeth, nad yw mor bell â hynny o Oasis, ceir Canolfan y Drindod, sydd wedi’i lleoli mewn hen gapel Methodistaidd arall. Dros y pum mlynedd diwethaf, maent wedi darparu cartref i o leiaf dri sefydliad gwirfoddol. Mae Space4U yn gweithredu system galw heibio sy’n cynnig gwybodaeth, gwersi Saesneg, banc bwyd a dillad, sesiynau crefft, yn ogystal â bwyd a diod a chyfeillgarwch. Mae yna grŵp rhieni a phlant bach sy’n gysylltiedig â Space4U yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos, ac mae’n agored, nid yn unig i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ond i aelodau o’r gymuned leol yn ogystal, ac felly mae’n gyfle gwych i bobl ryngweithio ac i ymarfer yr ychydig Saesneg a allai fod ganddynt. Hefyd, mae yna rywbeth o’r enw Home4U, sy’n gweithio’n agos gyda Space4U, i gynnig llety dros dro mewn adeiladau gwag a roddwyd ar fenthyg i’r prosiect.
Mae un o fy etholwyr yn chwarae rôl strategol yn goruchwylio’r gwasanaethau hyn, heb ei rwystro gan y ffaith ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson, a chefais yr anrhydedd o’i enwebu ef a’i wraig i fynychu garddwest y Frenhines i gydnabod ei gyfraniad i’r gymuned, er gwaethaf ei anabledd.
Yn wyneb yr ymosodiad terfysgol erchyll yr honnir iddo gael ei gyflawni gan un arall o fy etholwyr yr wythnos hon, roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cofnodi bod y rhan fwyaf o fy etholwyr yng Nghanol Caerdydd yn fwy na pharod i estyn llaw cyfeillgarwch. Diolch i chi am wrando ar fy nghyfraniad.
Diolch i’r Cadeirydd am gyflwyno adroddiad y pwyllgor gerbron y Siambr. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â gwella sefyllfa ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar ôl iddynt gyrraedd Cymru, ac i’r perwyl hwnnw, mae’n ymdrech deilwng. Clywyd llawer o dystiolaeth fanwl iawn yn ymwneud â chyflwr byw ffoaduriaid yng Nghymru, a gallodd nifer o aelodau’r pwyllgor dynnu sylw’n fedrus at hyn. Ac ynddo’i hun, mae’r awydd i wella cyflwr byw ffoaduriaid yn nod canmoladwy.
Fodd bynnag, mae’n rhwym y bydd yna feini tramgwydd posibl wrth lunio adroddiad o’r fath. Un maen tramgwydd yw’r perygl o ddarparu gwasanaethau i ffoaduriaid sy’n mynd y tu hwnt i’r gwasanaethau a ddarperir i aelodau cyffredin o’r cyhoedd. Er enghraifft, gallwn geisio gwella cyflwr tai ar gyfer ffoaduriaid, ond efallai na fydd hyn i’w weld yn dderbyniol i rannau helaeth o’r cyhoedd, os yw’n golygu bod yn rhaid iddynt lithro ar ôl y ffoaduriaid yn y ciw am dai cymdeithasol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na. Y mater tai yw’r maen tramgwydd mwyaf amlwg efallai, ac un sy’n cael ei drafod yn eithaf aml ymhlith y bobl rwy’n dod ar eu traws yn fy mywyd o ddydd i ddydd pan fo materion yn ymwneud â ffoaduriaid yn cael eu crybwyll.
Yn gysylltiedig â darparu tai, mae mater cyllido. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, cawsom ein cynghori’n gryf ar un pwynt gan y Gweinidog perthnasol, Carl Sargeant, i beidio â lobïo am bwerau ychwanegol heb gael sicrwydd o arian ychwanegol yn gyntaf. Rhybuddiodd fod hyn wedi’i wneud yn y gorffennol, ac roedd problemau wedi codi o ganlyniad i hynny. Pan fyddaf yn edrych ar yr argymhellion sy’n dod yn awr, rwy’n ei chael yn anodd gweld bod unrhyw arwydd o arian ychwanegol yn dod gan y Swyddfa Gartref neu o unrhyw adran arall yn San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru ei hun yn ystyried sefydlu cronfa grantiau bach i osgoi amddifadedd ar gyfer ceiswyr lloches aflwyddiannus, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae hwn yn arian sy’n dod o gyllideb Llywodraeth Cymru ei hun. Felly, pa wasanaethau fydd yn rhaid eu torri mewn rhan arall o’r gyllideb i ganiatáu ar gyfer hyn? A beth bynnag, nid ydym yn gwybod a fydd unrhyw arian yn dod.
Un o’r pwyntiau a godai’n rheolaidd yn y sesiynau tystiolaeth oedd bod amddifadedd yn anochel ymysg ceiswyr lloches aflwyddiannus, gan nad oedd unrhyw fudd-dal lles iddynt os oedd eu cais cychwynnol yn methu. Ond nid oes unrhyw ddull cytunedig o’u hailwladoli i’w gwlad wreiddiol chwaith. Nid oes gan y rhan fwyaf ohonynt arian i dalu am eu dychweliad. O ganlyniad, mae llawer o’r ceiswyr lloches aflwyddiannus yn aros yn y DU ac yn diflannu oddi ar y map. Mae’n system wirioneddol hurt. Ni allwn obeithio newid y system hon yng Nghymru gan nad yw’r pwerau i wneud hynny yn ein dwylo ni. Ond gyda’r adroddiad hwn, rydym yn ceisio dod yn genedl noddfa gyntaf y byd, a allai annog llawer mwy o geiswyr lloches i geisio dod yma. Rwy’n ofni mai effaith anochel mwy o bobl yn dod heb ddiwygio dim ar y system loches ymlaen llaw fydd mwy o amddifadedd. Diolch.
Rwyf am ddatgysylltu fy hun, fel rwy’n siŵr y bydd pawb arall yma sydd â meddwl rhesymol yn ei wneud, oddi wrth sylwadau’r siaradwr blaenorol. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r adroddiad, dyma oedd ymchwiliad mawr cyntaf y pwyllgor, ac fe’i cyflawnwyd ar adeg pan ydym yn wynebu’r argyfwng ffoaduriaid byd-eang gwaethaf ers yr ail ryfel byd. Ac yn wleidyddol, cafodd ei lansio yn y misoedd ar ôl y bleidlais Brexit, a heb amheuaeth, fe luniodd yr argyfwng ffoaduriaid rai o’r dadleuon Brexit ynglŷn â sefydlogrwydd a chynaliadwyedd yr UE. Ond yn fwy eang, ymddangosai ar y pryd fod mudiadau cenedlaetholgar yn ysgubo drwy’r cyfandir, ond yn dilyn methiannau diweddar pleidiau poblyddol Ewrosgeptig mewn etholiadau yn Ffrainc, Awstria a’r Iseldiroedd, a gwrthdroadau yn y Ffindir, yr Eidal a’r Almaen, efallai bod y llanw wedi troi.
Er hynny, ar y pryd, roedd rhai pobl yn dadlau na ddylai’r pwyllgor flaenoriaethu dioddefaint ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Gwrthododd fy nghyd-aelod UKIP o’r pwyllgor gymeradwyo’r adroddiad, er na chrybwyllodd unrhyw wrthwynebiad o gwbl yn ystod yr ymchwiliad ei hun. Ond fe symudaf ymlaen o hynny. Yn bersonol, rwy’n falch o’r adroddiad hwn, ac rwy’n credu ei fod yn adlewyrchu’n dda ar y Cynulliad hwn ac ar Gymru ein bod yn ymgymryd â’r gwaith hwn. Yn yr un modd, rwy’n meddwl bod papur amgen Gareth Bennett, sy’n dwyn yr enw ‘Wales’ Refugee Problem’, yn adlewyrchu’n wael ar ei blaid—fawr ddim tystiolaeth, a llawer iawn o ragfarn.
Ond at ei gilydd, cafwyd llawer o gefnogaeth i’r ymchwiliad. Darparodd grwpiau fel grŵp cefnogi ffoaduriaid y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth gipolwg go iawn ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad, ac un o’r materion a nodwyd ganddynt oedd datgysylltiad canfyddedig rhwng y grwpiau gwirfoddol hynny a’r gwasanaethau dan arweiniad proffesiynol. Rwy’n meddwl bod grŵp Powys yn dangos y gorau o haelioni ac ewyllys da ein cenedl, ac er ein bod angen cydgysylltiad proffesiynol wrth gwrs, byddai’n anghywir mygu brwdfrydedd ar lawr gwlad gan fiwrocratiaeth lawdrwm. A hoffwn gofnodi fy niolch i bob gwirfoddolwr, pwy bynnag y bônt, sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas, a chroeso cynnes Cymreig.
Dychwelaf at yr adroddiad a nodaf un neu ddau o’r argymhellion. Fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad sy’n ymwneud â masnachu mewn pobl, rwy’n arbennig o bryderus ynglŷn â dioddefaint plant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain. Felly, mae’n galonogol fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad ynglŷn â gwasanaeth gwarcheidiaeth plant ar gyfer Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hynny’n rhywbeth y mae’r grŵp trawsbleidiol rwy’n ei gadeirio wedi ymgyrchu drosto ers amser hir iawn. Rwyf am ganolbwyntio ar hyn yn iawn, gan fy mod yn gwybod bod plant, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn cael mynediad at eiriolaeth, ond rwy’n awyddus iawn i wahaniaethu rhwng eiriolaeth a gwarcheidiaeth. Mae gwarcheidwaeth yn golygu bod rhywun, pwy bynnag y bônt, yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol i siarad ar ran y plentyn, pwy bynnag y bônt, fel nad oes rhaid iddynt ailadrodd eu straeon dirdynnol dro ar ôl tro pan fyddant yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau y mae cymaint o’u hangen arnynt. Ac rwy’n credu bod angen inni feddwl am hynny o safbwynt eu lles, eu llesiant a’u gallu iechyd meddwl i wneud hynny. Rwyf am roi enghraifft: pan gefais y fraint o gyfarfod â pherson ifanc a oedd wedi dod i’r DU fel plentyn ar ei ben ei hun, dywedodd wrthyf ei fod yn bwriadu hyfforddi i fod yn feddyg. Dangosodd yr unigolyn ifanc ostyngeiddrwydd a thosturi, er gwaethaf y driniaeth a ddioddefodd ar ei daith yma. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y rhinweddau hynny’n cael eu defnyddio—wedi iddo gymhwyso—gan yr unigolyn hwnnw i bwy bynnag a allai fod eu hangen. Mae’n ddigon posibl y bydd yn defnyddio’r rhinweddau hynny pan ddaw’n feddyg teulu neu’n feddyg yn nes ymlaen mewn bywyd, ac y bydd mewn gwirionedd yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd a thosturi wrth rai o’r bobl sy’n siarad yn ei erbyn.
Diolch. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl bwysig hon. Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond fe hoffwn longyfarch y pwyllgor a’r Cadeirydd am y gwaith helaeth a wnaed ar yr adroddiad hwn ac rwy’n credu ei bod yn dda iawn ein bod yn gallu ei drafod yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn llawer o argymhellion y pwyllgor. Ac er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r polisi lloches yn gyffredinol wrth gwrs, fel y mae’r adroddiad yn dweud yn glir, rwy’n cytuno ei bod yn hollbwysig ein bod yn gwneud ein gorau glas yma yng Nghymru i wneud bywydau pobl a’u teuluoedd yn well pan fyddant yn cyrraedd fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig pan fydd y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio yn gyfrifoldeb i ni. Felly, credaf fod gennym rôl glir yn y broses hon gan ein bod yn gwybod bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn wynebu llu o broblemau pan fyddant yn cyrraedd y wlad hon—tai gwael, problemau gydag iaith a hefyd, rwy’n meddwl, ein diffyg dealltwriaeth ni yn aml, gan y cyhoedd, o’r amgylchiadau a adawsant ar eu holau, gan fy mod yn meddwl bod yna ddiffyg dealltwriaeth gyffredinol o rai o’r amgylchiadau erchyll y mae ceiswyr lloches wedi’u gadael.
Mae eisoes wedi cael ei grybwyll heddiw: y gwaith da sy’n cael ei wneud yn croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac rwy’n falch iawn fod gan Gaerdydd 52 o sefydliadau sy’n ymroddedig i weithio gyda’i gilydd mewn grŵp rhwydweithio Dinas Noddfa. Gwn fod yna grwpiau eraill yn Abertawe, y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth, a chroesawaf yr argymhelliad yn y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu saith cam i ddod yn genedl noddfa.
Ond mae rhai o’r materion sy’n effeithio’n fwyaf dwfn ar geiswyr lloches yn arbennig yn faterion sy’n rhan o benderfyniadau Llywodraeth y DU, ond maent yn effeithio arnynt yn fawr iawn yma. Un o’r problemau mwyaf a dynnwyd i fy sylw gan geiswyr lloches dros y blynyddoedd, mewn gwirionedd, yw’r ffaith nad ydynt yn gallu gweithio, ac rwy’n meddwl mai dyna un o’r problemau mawr sydd wedi achosi anawsterau mawr o ran eu gallu i integreiddio’n hawdd, gan fod gan lawer ohonynt, yn amlwg, y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu taer angen arnom.
Tuag at ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf euthum i ddigwyddiad yn y Pierhead, a oedd yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng y BBC World Service a Radio Wales, a daeth pobl i’r Pierhead a oedd wedi dod i’r wlad hon fel ceiswyr lloches ac roeddent yn ysu am gael gweithio. Ac nid am resymau ariannol yn unig, ond oherwydd eu bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r wlad a oedd wedi rhoi lloches iddynt. Roedd gan lawer o’r ceiswyr lloches rwyf wedi eu cyfarfod dros y blynyddoedd sgiliau y mae eu gwir angen arnom. Rwyf wedi cyfarfod â meddygon, athrawon, pobl a allai ein helpu’n fawr fel gwlad, ond fel y mae pethau, ni chânt wneud cais am ganiatâd i gael gwaith ar restr galwedigaethau prin swyddogol y DU oni bai eu bod wedi aros am fwy na 12 mis i’w cais gael ei benderfynu, a lle na ystyrir eu bod wedi achosi’r oedi eu hunain. Felly, rwy’n gwybod mai penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn, ond rwy’n teimlo y dylem wyntyllu hyn yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan ei fod yn effeithio i’r fath raddau ar bobl sydd yma’n byw yn ein gwlad, felly roeddwn am dynnu sylw at hynny.
Cafwyd cryn drafodaeth eisoes ynglŷn â thai, ac rwy’n falch iawn ynglŷn â’r cynnydd a wnaed a’r gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i symud ymlaen. Ond un o argymhellion yr adroddiad yw y dylid gwneud asesiad uniongyrchol o Ddeddf Mewnfudo y DU 2016 a’r effaith y mae honno’n mynd i’w chael yng Nghymru. Gwn fod hyn wedi cael ei ddwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet sawl gwaith gan y pwyllgor, ac roeddwn eisiau gofyn a oes unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â phryd y cyflwynir y profion hawl i rentu. A fyddant yn cael eu cyflwyno yng Nghymru? Sut y bydd yn effeithio ar deuluoedd? A fydd yn effeithio ar deuluoedd â phlant ac a yw hyn yn debygol o arwain at fwy o risg o amddifadedd? Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, wedi ceisio cael eglurhad gan y Swyddfa Gartref, felly roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gallai ei ddweud wrthym heddiw mewn ymateb i hynny.
Yn olaf, rwyf am orffen drwy sôn am blant. Rwy’n credu ei bod yn bendant yn destun cywilydd nad ydym fel cenedl ond yn caniatáu nifer cyfyngedig iawn o blant sy’n ceisio lloches a phlant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain i mewn, er gwaethaf holl ymdrechion yr Arglwydd Dubs i gael y gwelliant hwnnw wedi’i basio yn Nhŷ’r Arglwyddi. Deallwn o’r adroddiad fod Llywodraeth y DU wedi cau’r cynllun yn dawel bach gyda dim ond 350 wedi’u dwyn i Brydain. Felly, rwy’n credu bod hyn yn warth llwyr, yn gywilydd llwyr, oherwydd, fel y mae pobl eraill wedi’i ddweud yn y ddadl hon, plant yw plant yw plant. Ni waeth beth sydd wedi digwydd iddynt, o ble bynnag y daethant, mae angen iddynt gael eu croesawu yma yng Nghymru, ac rwy’n credu ei bod yn drueni mawr fod Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar eu nifer yn y modd hwn.
Fel aelod o’r pwyllgor, rwyf finnau hefyd am groesawu’r adroddiad hwn. Mae’n waith cynhwysfawr yn wir. Cadeiriwyd y pwyllgor yn fedrus iawn gan John Griffiths, ac rwy’n awyddus hefyd i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith staff ein pwyllgor a’n cynorthwyodd yn fedrus.
Yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar rai o’r argymhellion yn yr adroddiad ‘"Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun" Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru’. Roedd argymhelliad 4 yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cynllun cyflawni cydlyniant cymunedol cenedlaethol 2016-17, ac yn pwysleisio:
‘Dylai’r cynllun diwygiedig gynnwys strategaeth gyfathrebu sy’n pwysleisio manteision mewnfudo i gymdeithas Cymru ac yn chwalu mythau ac anwiredd mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.’
Gwelsom rai o’r rhain yn cael eu disgrifio’n gynharach.
Yn yr ychydig fisoedd trawmatig diwethaf ar yr ynysoedd hyn, gwelsom sut y mae eithafwyr a chanddynt wahanol ideolegau gwyrdroëdig wedi ceisio creu rhaniadau a chasineb, ac rydym hefyd wedi gweld ymateb anhygoel y gymuned o undod a chariad ar draws y gwahanol grwpiau cymunedol a chan unigolion. Nodaf ymateb Llywodraeth Cymru eu bod hefyd wedi
‘ariannu’r Rhaglen Hawliau Lloches, a hynny drwy’r Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant, er mwyn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i greu adroddiadau i’r cyfryngau a’r rheini’n herio stereoteipiau negyddol.’
Mae hyn yn hanfodol, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y pryder cyhoeddus a’r anesmwythyd ynglŷn â sut yr adroddwyd am yr ymosodiadau terfysgol diweddar yn y cyfryngau print prif ffrwd. Portreadwyd yr ymosodiadau erchyll ym Manceinion, San Steffan a phont Llundain fel gweithredoedd yn seiliedig ar derfysgaeth a gyflawnwyd gan derfysgwyr, ac eto roedd papur newydd ‘The Times’, ddoe ddiwethaf, yn ei brif bennawd ar ei dudalen flaen yn cynnwys yr ymadrodd emosiynol ‘lone wolf’ i ddisgrifio’r terfysgwr diweddaraf yn y DU, gan gyfeirio’n amlwg hefyd at yr elfennau lliniarol posibl yn sgil problemau iechyd meddwl yr unigolyn gwyn a ddrwgdybir. Er mwyn pob un o’n dinasyddion, rhaid peidio â gwahaniaethu. Cyflawnir ymosodiadau terfysgol gan derfysgwyr, ni waeth beth yw eu lliw croen. Pwysleisiaf hyn oherwydd ei bod yn hanfodol na cheir canfyddiad ein bod yn stigmateiddio un gymuned dros un arall.
Mae argymhelliad 15 yn dweud
‘y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at addysg a chyflogaeth drwy’ dri phrif gam: yn gyntaf,
‘hyrwyddo Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru mor eang ag y bo modd’ yn ail,
‘ei gwneud yn ofynnol bod prifysgolion Cymru yn trin ffoaduriaid fel myfyrwyr cartref’ ac yn drydydd, i greu,
‘mwy o gyfleoedd ar gyfer interniaethau sector cyhoeddus’.
Cefais fy nghalonogi fod Llywodraeth Cymru, yn ei ymateb, yn bendant
‘yn cydnabod pwysigrwydd addysg a chyflogaeth er mwyn integreiddio pobl yn effeithiol mewn cymdeithas’, ac y bydd yn diweddaru’r polisi Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill ar gyfer Cymru ac yn mapio’r ddarpariaeth Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill fel y mae ar hyn o bryd. Nodaf fod cynllun cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru yn cynnwys y nod i Lywodraeth Cymru ei hun ddod yn batrwm o amrywiaeth a chynhwysiant erbyn 2020. Mae’n rhaid bod hynny’n iawn hefyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru, a ninnau yma, fel Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, arddangos i’r genedl Gymreig y bydd Cymru bob amser yn wlad agored, oddefgar, amlddiwylliannol ac amrywiol.
Cefais fy nharo gan ansawdd y sylwadau a gyflwynwyd i’r pwyllgor—rwyf finnau hefyd, fel eraill, wedi cyfarfod â cheiswyr lloches a ffoaduriaid fel rhan o’r gwaith hwn a thu allan iddo—a Chymdeithas y Plant, a helpodd i ddisgrifio’n glir i mi rai o’r materion allweddol sy’n ymwneud â gweithredu Deddf Mewnfudo 2016 yng Nghymru, y soniodd Julie Morgan amdani eisoes. Mae hyn yn ennyn pryder mawr yn Lloegr. Mae’n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i’n hadroddiad o blaid gwerthuso Deddf Mewnfudo 2016 ar brofion hawl i rentu yn Lloegr. Ond dylai’r broses o gyflwyno hyn gael ei gwerthuso gan yr Ysgrifennydd Cartref cyn ei chyflwyno ledled Cymru, o ganlyniad i gynnydd yn y pryderon a leisiwyd gan landlordiaid, tenantiaid a gafodd eu gwrthod a gwaith adroddiad y Cydgyngor er Lles Mewnfudwyr—bydd yr holl faterion o’r fath yn cyfrannu heb amheuaeth at y cynnydd yn y troseddau casineb a gofrestrwyd ac yr adroddwyd yn eu cylch.
Yn olaf, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn ddweud ein bod i gyd, yma, yn y lle hwn—hoffwn ddweud—yn meddu ar yr ewyllys, yr awydd a’r ysgogiad i fynd i’r afael â’r heriau niferus hyn, gan fod hynny er budd ein holl ddinasyddion, a dyngarwch, gwerthoedd a gweddusrwydd pobl Cymru sy’n ein gyrru fel cynrychiolwyr yn hyn o beth ac yn yr adroddiad hwn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu hadroddiad ystyriol ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am yr amser a roddwyd a’r ymdrech a wnaed gan y rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cefnogi ffoaduriaid i sicrhau bod y broses hon mor gynhwysfawr â phosibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth yn gallu cyflawni eu potensial. Mae gan Gymru hanes balch o ddarparu noddfa i ffoaduriaid o bob cwr o’r byd, a bydd y traddodiad hwn yn parhau. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo ffoaduriaid drwy ddatblygu diweddariad o’r cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan roi ystyriaeth lawn i adroddiad y pwyllgor a’r argymhellion. Gofynnodd John Griffiths, a gadeiriodd y pwyllgor yn fedrus, ‘Pa bryd fydd hyn yn digwydd?’ Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun drafft yn yr hydref, gan gynnwys y ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn y broses honno.
Dirprwy Lywydd, ni allwn anwybyddu’r ffaith fod llawer o’r cyfrifoldeb sy’n ymwneud â pholisi lloches wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn golygu mai Llywodraeth y DU a ddylai weithredu’r atebion i rai o’r problemau pwysig a heriol a godwyd gan y pwyllgor. Byddwn yn gweithio gyda hwy i gyflawni hyn, er enghraifft drwy drafod atebion posibl i wella pethau yma yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys safon llety lloches, proses gwynion annibynnol, argaeledd rhagor o gyllid ar gyfer trafnidiaeth, llythyrau atgoffa mewn perthynas â sgrinio iechyd a ffyrdd o osgoi amddifadedd ymhlith ceiswyr lloches a ffoaduriaid newydd. Yn wir, Bethan Jenkins, rydym wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â chyflwr peth o’r llety a oedd yn gwbl warthus o ystyried bod disgwyl i bobl fyw ynddo.
Rydym hefyd yn rhoi camau ar waith ein hunain ac yn buddsoddi mewn cymorth sylweddol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys oddeutu £1 filiwn dros y tair blynedd nesaf, o dan y rhaglen Hawliau Lloches, a bydd y gwaith hwn, dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’u partneriaid, yn darparu cyngor a chefnogaeth o ansawdd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn ystod eang o amgylchiadau. Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer adsefydlu plant agored i niwed o dan gynllun Dubs, ac rwyf finnau hefyd, fel Julie Morgan, wedi fy siomi fod Llywodraeth y DU wedi cau’r cynllun hwnnw. Bydd hyn yn cefnogi gwaith i feithrin gallu mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y gallant ymateb i anghenion y plant hyn, a phlant yw’r plant hyn, fel y nododd Suzy Davies.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ar gyfer y Prosiect Tai i Ffoaduriaid i gynorthwyo unigolion sydd wedi cael statws ffoadur i integreiddio i gymdeithas Cymru. Buddsoddwyd cyllid ychwanegol yn ddiweddar i hyfforddi clinigwyr iechyd meddwl i drin anhwylder straen wedi trawma mewn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n blant ac yn oedolion. Cynhyrchodd y pwyllgor nifer o argymhellion yn ymwneud â materion datganoledig, ac fe nodaf y rhain yn awr.
Rwy’n cydnabod pryder y pwyllgor ynglŷn ag ymddangosiad system ddwy haen ers cyflwyno rhaglen ffoaduriaid Syria. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i leihau hyn, gan weithio i sicrhau bod pob ffoadur yn gymwys i gael mynediad at gynlluniau integredig yng Nghymru, er ein bod yn cael ein cyfyngu, unwaith eto, gan amodau cyllido Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni weithio o fewn y cyfyngiadau hynny, ond byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu yn hynny o beth.
Rydym eisoes wedi ehangu cylch gwaith tasglu a bwrdd gweithrediadau Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddwn yn gofalu ein bod yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau a chanllawiau a gynhyrchwn, gan gynnwys y cynllun cyflawni a’r cynllun cydlyniant cymunedol, yn addas ar gyfer amgylchiadau’r holl grwpiau ffoaduriaid cyn belled ag y bo modd.
Rydym yn cydnabod hefyd fod darparu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill yn hanfodol ar gyfer integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddwn yn diweddaru’r polisi Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill erbyn mis Mawrth 2018 ac yn gweithio gyda chydgysylltwyr Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru i fapio darpariaeth ffurfiol ac anffurfiol a nodi rhwystrau, ac atebion yn wir, i sicrhau mynediad at ddysgu.
A wnewch chi ildio?
Un eiliad; fe wnaf. Wrth gwrs, lle bo hynny’n briodol, byddwn hefyd yn annog ffoaduriaid i gael mynediad at ddarpariaeth Cymraeg i oedolion, yn rhan o’r egwyddor honno. Ar fy ymweliad ag un o’r canolfannau yng Nghaerdydd, gwelais wirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn, gan gynnwys ffoaduriaid yn cynorthwyo ffoaduriaid eraill yn y rhaglen Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Fe gymeraf yr ymyriad.
A gaf fi ofyn pam mai 2018 fydd hyn? Oherwydd clywsom gan rai tystion a oedd yn dweud eu bod yn gorfod gwirfoddoli am nad oedd neb arall i wneud hynny. A allwn gael rhywfaint o frys o ran y posibilrwydd o edrych ar hyn yn gynharach oherwydd, ar hyn o bryd, maent o dan gymaint o bwysau fel y credaf fod hyn yn rhywbeth sy’n galw am ei archwilio?
Fe nodaf gyfraniad yr Aelod, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i roi’r manylion pam ein bod wedi gosod y dyddiad ar gyfer 2018. Mae’n rhywbeth i’w wneud â’r ffrydiau ariannu mewn perthynas â hynny, ond fe edrychaf ar hynny’n fwy gofalus.
Rwyf hefyd yn derbyn yr egwyddorion sy’n sail i argymhellion y pwyllgor ynghylch gwarcheidiaeth, y gwasanaeth gwarcheidiaeth a chronfa amddifadedd. Byddwn yn edrych i weld a yw’r cynlluniau hyn ar gael ac yn ddymunol, gan gyfeirio at ddatblygiadau mewn rhannau eraill o’r DU a’r cyd-destun Cymreig unigryw mewn perthynas â hynny hefyd.
Nid wyf wedi mynd ar drywydd cyfraniadau’r Aelodau yn fanwl heddiw, heblaw fy mod am nodi cyfraniad Gareth Bennett. Cefais fy synnu gan ei gyfraniad. Lle dywedodd y bydd pobl eraill yn cael eu gorfodi i lawr y rhestr i gefnogi rhoi tai i ffoaduriaid, a gaf fi ddweud mai myth yw hyn? Mae’n rwtsh llwyr, a byddwn yn gobeithio na fyddai’r Aelod yn defnyddio’r cyfraniad hwnnw eto. Mae cyffredinoli ffoaduriaid, fel y mae Gareth Bennett wedi’i wneud heddiw, yn beryglus, yn anwybodus ac yn sarhaus. Rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, a ydym yn credu bod y plant hyn mewn dingis rwber, sy’n symud ar draws y cefnforoedd a’r moroedd mwyaf peryglus, yn gwneud hynny’n ysgafn a thrwy ddewis? Yn aml yn ffoi rhag gwrthdaro, rhyfel a hil-laddiad, rhaid iddynt edrych am hafan ddiogel, ac rwy’n synnu at gyfraniad yr Aelod yma heddiw.
Yn olaf, rwy’n cefnogi’n gryf y syniad o ddatblygu Cymru fel cenedl noddfa. Fodd bynnag, heb reolaeth ar bolisi mewnfudo, byddai’n anodd iawn cyflawni rhai o gamau’r ‘Saith Cam i Noddfa’, ond o ran hyn, sydd wedi’i nodi gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru, byddaf yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i geisio goresgyn rhai o’r materion hynny. Nid yw’n fater o beidio â bod eisiau cymryd rhan. Serch hynny, fel rhan o’r broses o ddatblygu ein cynllun cyflawni newydd, byddwn yn archwilio materion pellach i benderfynu pa gynnydd y gellir ei wneud. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at fodloni’r argymhellion hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y misoedd nesaf.
Yn olaf, i nodi un o’r pwyntiau mewn perthynas â phrofion hawl i rentu yng Nghymru, rwy’n rhannu pryderon yr Aelodau—Julie Morgan a Rhianon Passmore. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt werthuso’r cynllun. Rwy’n dal i aros am ateb gan Lywodraeth y DU i fy llythyrau, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny gyda fy nhîm dyddiadur.
A wnewch chi gymryd ymyriad? Rwy’n bryderus iawn—
Rwy’n hapus i wneud hynny.
[Yn parhau.]—ynglŷn â’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynglŷn â’r contract preifat ar gyfer tai a’r ffaith na reoleiddir y landlordiaid hyn, gan nad yw’n gontract tenantiaeth â landlord. Ac roeddwn yn meddwl tybed a allwch ddweud ychydig mwy am hynny.
Yn dilyn y trafodaethau a gefais o’r blaen gyda Bethan Jenkins ynglŷn ag a allem gynnwys y rhain yn y cynllun Rhentu Doeth Cymru, rwyf wedi gofyn i fy nhîm roi rhagor o gyngor i mi ynglŷn â ble y gellid cynnwys hyn, i weld a oes rhagor o reoleiddio y gallwn ei wneud ar yr egwyddor hon. Ond fel y soniodd Bethan Jenkins, rydym wedi cael trafodaethau gyda rhai awdurdodau lleol sydd bellach yn mynd ar drywydd hyn mewn perthynas â materion yn ymwneud â mannau derbyniol i fyw ynddynt. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau pan gaf ragor o wybodaeth am hynny.
Yn olaf, caiff Cymru ei chyfoethogi gan amrywiaeth y diwylliannau sy’n cael eu hadsefydlu yma, a byddwn yn parhau i groesawu hynny. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ni fyddaf yn gallu ymdrin â’r holl bwyntiau, gan mai amser cyfyngedig yn unig sydd gennyf, ond a gaf fi ddechrau drwy groesawu’r ddadl eang ac angerddol a glywsom y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod yn adlewyrchu pwysigrwydd y materion hyn, ac mae hefyd yn adlewyrchu’r ymrwymiad y mae aelodau’r pwyllgor a’r clercod, a’r rhai a roddodd dystiolaeth ac a ymgysylltodd â gwaith y pwyllgor, wedi’i ddangos i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i helpu i ddatblygu ffyrdd posibl ymlaen. Rwy’n credu ei fod yn dyst, mewn gwirionedd, i Gymru yn ei chyfanrwydd mai’r hyn a welsom ar draws y wlad, wrth gymryd tystiolaeth a mynd ar ymweliadau, yw bod cymunedau o ddifrif eisiau croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Gymru, ac eisiau eu cynorthwyo pan fyddant yma. Pan fo cysylltiad personol o’r fath—wyddoch chi, y gymuned sy’n rhoi llety, fel petai, ffoaduriaid a cheiswyr lloches—mae stereoteipiau a mythau’n chwalu yn gyflym iawn, ac mae wedi bod yn brofiad calonogol a chadarnhaol iawn.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Suzy Davies am dynnu sylw at rai o’r materion yn ymwneud â pha mor barod yw awdurdodau lleol. Rwy’n credu ein bod wedi gweld bod anawsterau cyfathrebu yno sydd angen eu datrys, ac mae rhagor o waith i’w wneud ar hynny. Dangosodd Bethan ymrwymiad ac angerdd mawr ynghylch materion llety, ac yn wir y materion yn gyffredinol, a ddaeth ag ymdeimlad o frys gwirioneddol ac effeithiolrwydd, yn fy marn i, i waith y pwyllgor. Mae llawer o’r materion sy’n ymwneud â Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill a’r hyblygrwydd yn hanfodol bwysig, oherwydd mae’n amlwg, os nad oes gennych Saesneg o’r safon sydd ei hangen i allu gweithredu’n llawn fel dinesydd yma, yna mae’n eich cyfyngu o ran cyflogaeth, o ran gwirfoddoli, o ran deall y gwasanaethau sydd ar gael a chyfathrebu i’r graddau sy’n angenrheidiol. Felly mae hynny, rwy’n meddwl, yn ymwneud â phopeth a glywsom a phopeth yr hoffem ei weld yn cael ei wneud.
Jenny, roedd y ganolfan Oasis yn Sblot yn ysbrydoli’n fawr, ac roedd ymrwymiad y gwirfoddolwyr, fel y sonioch, yn galonogol i ni i gyd, rwy’n credu. Joyce, unwaith eto, mae’r ymrwymiad i blant a phlant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches a’r materion gwarcheidiaeth drwy eich gwaith yn y grŵp trawsbleidiol ac yn y pwyllgor hwn yn eithriadol o bwysig.
Rwy’n meddwl bod pwynt Julie Morgan ynglŷn â gallu gweithio, methu gallu gweithio, y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig, wedi mynd at wraidd llawer o’r hyn a glywsom mewn gwirionedd, ac yn wir, dyna a roddodd deitl i’r adroddiad—’Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun’—oherwydd mae gan y bobl hyn gymaint o brofiad, a chymaint o sgiliau lefel uchel, maent yn cynnig cymaint, ac mae’n drueni mawr fod y cyfyngiadau hyn ar waith i atal y cynnig gwych i Gymru rhag dwyn ffrwyth yn y ffordd amserol y dylai wneud.
Rhianon, ar strategaeth gyfathrebu, rwy’n meddwl bod yr Alban wedi creu argraff fawr arnom ac roeddwn yn meddwl bod yr hyn y maent yn ei wneud i chwalu’r stereoteipiau a’r mythau, a’r ffordd y maent yn cyfeirio at geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n dod i’r Alban fel ‘Albanwyr newydd’ yn gadarnhaol tu hwnt, ac maent wedi adeiladu cymaint o gwmpas hynny.
Gareth—rwyf finnau, hefyd, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn gresynu at sylwadau Gareth Bennett. Rwy’n meddwl bod y syniad y dylem sicrhau rywsut fod safonau llety’n is na’r rhai sydd ar gael yn gyffredinol yng Nghymru yn anghywir ym mhob ffordd. Mae’r syniad fod pobl sy’n profi rhyfel, erledigaeth a dadleoli yn ymchwilio polisïau mewn gwledydd o gwmpas y byd i ddewis pa un y gallant fynd iddi ar sail yr haelioni sydd ar gael, a’r canfyddiadau rheini, yn eithriadol o annhebygol.
Dirprwy Lywydd, gallaf weld bod fy amser wedi dod i ben, ond a gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen yn awr at weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, a’r holl randdeiliaid, i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni ac yn helpu ein cymunedau i gynorthwyo pobl sy’n chwilio am ddiogelwch yn yr hyn y gobeithiaf y daw’n genedl noddfa.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.