2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y Pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae’r Llywodraethau yn Lloegr a'r Alban wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gweithredu i ddarparu mynediad am ddim at wasanaethau erthylu i fenywod o ogledd Iwerddon. A fydd Cymru’n dilyn yr esiampl honno?
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'bydd'. Dyna’r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Rydym ni’n edrych ar fanylion sut y gellir gwneud hynny, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr un gwasanaeth yn cael ei gynnig yng Nghymru ag a gynigir yn Lloegr a'r Alban. Ceir materion fel, er enghraifft, costau teithio, a materion fel sut yr ydych chi’n darparu gofal parhaus ar gyfer triniaeth, yn hytrach na phobl ddim ond yn mynd adref. Mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond gallaf sicrhau arweinydd Plaid Cymru mai’r yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw sicrhau bod Cymru, Lloegr a'r Alban yn cynnig yr un gwasanaeth.
Rwy’n croesawu eich ateb, Prif Weinidog, felly diolch yn fawr iawn am hynny. Wrth wynebu’r Llywodraeth hon yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i gyni ariannol, mae angen Llywodraeth ar Gymru nawr sy’n rhagweithiol o ran iechyd. Mae bron i 30,000 o nyrsys yng Nghymru wedi gweld toriad o 14 y cant i’w cyflogau ers 2010 oherwydd cap cyflog y GIG. Ar dudalen 56 eich maniffesto, rydych chi’n dweud y byddwch chi’n cael gwared ar gap cyflog y GIG. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared ar y cap cyflog yn ei chyllideb nesaf. Y cwbl yr wyf i wedi ei weld gan Lywodraeth Cymru yw llythyr at Jeremy Hunt. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y llythyr hwnnw i bob pwrpas ac mae bellach wedi ymrwymo i’r cap cyflog hwnnw. Mae'n bryd nawr, Prif Weinidog, i chi weithredu. Pam nad ydych wedi cyhoeddi unrhyw gynlluniau eto i gael gwared ar y cap cyflog ac a fyddwch chi’n gwneud hynny yn flaenoriaeth yn eich cyllideb nesaf?
Rydym ni eisiau cael gwared ar y cap cyflog. Mae goblygiadau ariannol y credwn y dylent gael eu bodloni gan Lywodraeth San Steffan. Nid wyf yn gwybod beth yw eu barn nhw, i fod yn onest ag arweinydd Plaid Cymru, ar y cap cyflog. Rwyf wedi clywed gwahanol safbwyntiau gan wahanol Weinidogion ar wahanol adegau. Mae'n dangos y diffyg arweinyddiaeth sy'n bodoli yn San Steffan. Mae hi a minnau yn yr un sefyllfa'n union o ran bod eisiau gweld diwedd ar y cap cyflog. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o adnoddau a byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn ariannol er mwyn bwrw ymlaen â hynny.
Os yw'n gymaint â hynny o flaenoriaeth, Prif Weinidog, dylech chi allu ymrwymo i hyn heddiw. Mae gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae gennym ni 28 o ASau Llafur Cymru, ac mae cap cyflog y GIG yn dal i fodoli. Efallai eich bod chi’n hapus i feio eraill o ran cyfyngiadau cyllidebol San Steffan, ond gallech chi fod yn cymryd camau heddiw i ddiogelu gweithwyr, nyrsys y GIG a staff y GIG yng Nghymru. Holl bwynt datganoli yw dilyn gwahanol drywydd, trywydd gwell, a gallech chi fod wedi gwneud ymrwymiad eglur heddiw i ystyried o ble y gallai’r arian hwnnw ddod yn y gyllideb nesaf. Felly, mae eich diffyg gweithredu yn codi'r cwestiwn: beth yw diben y Blaid Lafur os nad ydych chi'n gallu amddiffyn gweithwyr Cymru? Prif Weinidog—[Torri ar draws.]
A gaf i glywed arweinydd Plaid Cymru os gwelwch yn dda, ac a gaf i glywed llai ar Weinidogion yn y Llywodraeth? Gadewch i'r Prif Weinidog glywed y cwestiynau.
Diolch i chi, Llywydd. Byddaf yn rhoi un cyfle arall i chi gyfaddef popeth nawr: a ydych chi’n edifarhau o gwbl am weithredu cynni ariannol y Torïaid, a phryd wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar gap cyflog y GIG?
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru beth yw pwynt y Blaid Lafur. A gaf i ei hatgoffa bod gennym ni 28 o ASau a bod gan ei phlaid hi bedwar. Dyna yw pwynt y Blaid Lafur. Mae gan bobl ffydd yn Llafur Cymru. Gwelsom hynny yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Maen nhw’n dweud dro ar ôl tro, 'Gwnewch hyn, gwnewch hynna'. Wel, nid yw pobl yn gwrando arnyn nhw. Mae hi a minnau o’r un safbwynt o ran cap cyflog y sector cyhoeddus. Yn sicr, mae dau beth y mae'n rhaid ei bod hi’n cytuno â nhw. Yn gyntaf, mai’r peth cyntaf y mae’n rhaid ei wneud yw sicrhau’r arian gan San Steffan. Nid ydym yn troi ein cefnau ar hynny, does bosib. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wneud. Yn ail, does bosib ei bod hi’n disgwyl i ni wneud penderfyniad difeddwl, heb archwilio'r holl gostau posibl, ac mae hynny'n rhywbeth—
Mae yn y maniffesto.
Roedd y Llywydd yn iawn i atal pobl rhag heclo arweinydd Plaid Cymru, felly gall hi wneud yr un peth i mi. Fel y dywedais, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i fwrw ymlaen ag ef, ond y peth cyntaf i’w wneud yw dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Fe ddaethoch chi o hyd i'r arian i Ogledd Iwerddon; nawr dewch o hyd i’r arian i Gymru'.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn amlwg, gwnaeth y Llywodraeth y penderfyniad i beidio â chefnogi datblygiad Cylchffordd Cymru ym Mlaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent. Un o'r cynigion a wnaed oedd, yn amlwg, datblygu parc technoleg modurol a allai o bosibl greu 1,500 o swyddi yn ystod ei oes. Mae'r ardal fenter wedi bodoli ym Mlaenau Gwent ers dros bum mlynedd erbyn hyn. Yn ystod ei phedair blynedd gyntaf, creodd 172 o swyddi, ac yn y flwyddyn ddiwethaf y mae'r ffigurau ar gael ar ei chyfer, llwyddodd i greu wyth o swyddi yn unig. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y parc technoleg hwn yr ydych chi’n ei gynnig wir yn creu’r swyddi yr ydych chi’n dweud y bydd yn eu creu—1,500—pan nad yw eich ardal fenter, sydd wedi bod yn gweithredu ers pum mlynedd, wedi creu 200 o swyddi hyd yn oed?
A gaf i, cyn i mi ateb y cwestiwn, estyn fy nghydymdeimlad hefyd i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ac, yn wir, ei grŵp, a theulu, dyweddi, ffrindiau a chydweithwyr Ben Davies? Roedd yn ddigwyddiad trasig a welsom yng Ngwlad Groeg. Felly, yn gyntaf oll, a gaf i fynegi fy nghydymdeimlad o ran yr hyn a ddigwyddodd i Ben? Rydym ni i gyd yn dibynnu ar ein staff ac roedd yn ddigwyddiad trasig iawn i ŵr mor ifanc.
Yr ateb syml i'r cwestiwn hwn yw '£100 miliwn'. Rydym ni’n mynd i roi £100 miliwn i mewn i'r parc technoleg. Rydym ni wedi siarad â busnesau i asesu lefel y galw, gan gofio, wrth gwrs, bod hyn yn rhan o gynllun y gylchffordd, y parc technoleg. Roedd yn rhywbeth a gafodd ei grybwyll yn rhan o'r cynllun hwnnw. Teimlwn y gellir bwrw ymlaen ag ef, ac, ar ôl gwneud ymholiadau ymhlith busnesau am yr angen i fuddsoddi, wrth gwrs, mewn sgiliau, mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei gefnogi. Un o'r problemau yr ydym ni wedi eu hwynebu ym Mlaenau'r Cymoedd ers rhai blynyddoedd yw buddsoddwyr yn dweud nad oes unrhyw adeiladau iddyn nhw fynd i mewn iddynt. Nawr, nid yw adeiladu hapfasnachol yn rhywbeth yr ydym ni eisiau ei annog, ond mae hyn yn seiliedig ar yr hyn y mae busnesau eu hunain wedi bod yn ei ddweud wrthym ni. Ar y sail honno, rydym ni’n hyderus y gall y swyddi gael eu creu.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am eich sylwadau am farwolaeth drasig ein dirprwy bennaeth staff, Ben Davies. Yn wleidyddol, rydym ni wedi ein rhannu yn y Siambr hon, a dyna ddiben y Siambr hon: dadl a thrafodaeth. Ond, mewn gwirionedd, mae’r ysbryd dynol yn ein huno ni oll, ac o safbwynt plaid, o safbwynt grŵp, ac o safbwynt teulu Ben, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi mynegi eu cydymdeimlad a’u dymuniadau da i gael eu rhannu â'r teulu yn y cymorth y bydd ei angen arnynt yn y diwrnodau, yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Maen nhw wedi mynd o fod mewn sefyllfa o gynllunio priodas i drefnu angladd. Mae hynny wir yn rhoi popeth mewn persbectif pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni ei ddadlau a’i drafod yn y Siambr hon.
Ond os caf i ddychwelyd at thema fy nghwestiynu, os caf, Prif Weinidog, rwy’n derbyn y pwynt bod y cynnig amgen y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar y bwrdd o’r £100 miliwn hwn dros 10 mlynedd a’r cyfle i agor y drws i 1,500 o swyddi yn y cynnig amgen hwn yn cael ei wneud yn ddiffuant gan Lywodraeth Cymru yn ôl pob tebyg, ond y dystiolaeth y cyfeiriodd Cylchffordd Cymru ati, mewn gwirionedd, yn eu trafodaethau helaeth—a chyfeiriasoch at hyn yn eich ateb i mi—yn ymwneud â datblygu parc technoleg yn seiliedig ar y diwydiant modurol, byddai angen trac arnoch chi ar gyfer profi, a’r cyfle hwnnw ar gyfer cyfleusterau profi i gyd-ffinio â’r parc technoleg, i fod yn llwyddiannus. Dro ar ôl tro, rydym ni wedi gweld adroddiadau ac adroddiadau craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod meddylfryd 'adeiladwch ef, a byddant yn dod' llywodraethau blaenorol wedi methu, a symiau sylweddol o arian cyhoeddus yn cael ei roi ar y bwrdd gan feddwl y bydd yr arian yn datrys y broblem. Sut gallwch chi fod â’r hyder hwn y tro yma, pan fo’r dystiolaeth yn dangos, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i chi gael y ddau yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y parc technoleg yn llwyddiant mewn ardal sydd ag angen taer am y llwyddiant hwnnw i greu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd?
Rydym ni wedi cael trafodaeth gyda busnesau, yn enwedig y rhai yn y sector modurol, ac maen nhw wedi dweud wrthym nad oes angen cylchffordd i fwrw ymlaen â'r parc technoleg. Mae'n rhywbeth y byddai wedi bod yn braf ei gael ond nid yn hanfodol ei gael. Rwy’n credu os gwnaf ei roi yn y termau hynny, bod hynny’n deg. Ond, yn sicr, nid yw datblygiad y parc technoleg yn eu barn nhw yn ddibynnol ar ddatblygu cylchffordd. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod ni’n sicrhau'r swyddi yn y parc technoleg ac yn diogelu pwrs y wlad. Mae hynny'n hynod bwysig, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud wrth wneud y penderfyniad hwn.
A wnewch chi, felly, felly, Prif Weinidog, gyhoeddi’r holl dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich penderfyniad arni—y buddsoddiad o £100 miliwn a'r diwydrwydd dyladwy yr ydych chi fel Llywodraeth, rwy’n gobeithio, wedi ei wneud, a'r gallu i fod â hyder y bydd y ffigur swyddi 1,500 yna’n cael ei gyrraedd—fel na fyddwn ni, ymhen dwy, tair neu bedair blynedd, yn edrych yn ôl ar sied fawr sy'n wag a’r cyfleoedd hyn am swyddi wedi eu colli i'r ardal benodol honno o Gymru? Fel yr wyf i wedi ei ddweud—ac rwy’n ei feddwl yn ddiffuant—rwy’n gobeithio y bydd y swyddi’n dod, ond os edrychwch chi ar hanes pum mlynedd yr ardal fenter, a oedd yn ardal fenter fodurol, dylwn ychwanegu, nid ydych chi wedi llwyddo i greu 200 o swyddi yn yr ardal honno, ac yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, dim ond wyth o swyddi sydd wedi eu creu, er gwaethaf holl gymhellion yr ardal fenter. A wnewch chi, felly, gyhoeddi'r dystiolaeth yr ydych chi wedi seilio eich penderfyniad arni i ganiatáu gwerth £100 miliwn o fuddsoddiad, a dichonoldeb y ffigur yr ydych chi wedi ei fynegi o 1,500 o swyddi'n cael eu creu?
Byddwn yn rhoi ar gael popeth y gellir ei roi ar gael, yn amodol ar drafodaethau cyfrinachedd masnachol, wrth gwrs, gyda busnesau eraill. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn o ran y penderfyniad hwn ac o ran y prosiect hwn bod cymaint o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd â phosibl. Nid ydym yn ofni hynny ac, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried: sut y gallwn ni gael cymaint o wybodaeth â phosibl i mewn i'r parth cyhoeddus. Gwelsom rywfaint yn dod i'r amlwg heddiw mewn modd anffodus, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yno i’r Aelodau ac i aelodau o'r cyhoedd.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Hoffwn barhau â’r thema holi hon gyda'r Prif Weinidog, os caf. Onid yw'n drasiedi ei bod yn ymddangos bod prosiect Cylchffordd Cymru wedi cael ei dagu nid oherwydd unrhyw amheuon credadwy am ddichonoldeb y prosiect trac rasio—oherwydd nid oedd unrhyw beth yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet i’r perwyl hwnnw—ond oherwydd dyfais cyfrifyddu mewnol technegol gan Drysorlys ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol? Oni ddylem ni edrych drwy ffurf y cyfrifon i sylwedd y prosiect? Mae'n brosiect a ariennir gan y sector preifat yn gyfan gwbl ymlaen llaw. Y cwbl y gofynnwyd i Lywodraeth Cymru amdano oedd gwarant, y byddent yn cael eu talu £3 miliwn y flwyddyn amdano. Fe’i sicrhawyd ar yr asedau sydd i'w hadeiladu, gan nad yw'r warant hyd yn oed yn dechrau tan ar ôl i’r cam adeiladu gael ei gwblhau, ac roedd 100 y cant o'r asedau ar gael i sicrhau’r hyn a oedd yn fenthyciad o lai na 50 y cant o'r cyllid. Felly, ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod hynny’n sicrwydd eithaf da. Ac onid oes ffordd drwy hyn, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, y gallem ni barhau i edrych ar y posibilrwydd o ddatod y cwlwm annatod gyda'r Trysorlys a gweld a oes ateb llawn dychymyg i hyn o safbwynt cyfrifyddu, a fyddai'n galluogi'r arian sector preifat i gael ei gyfrannu, a fyddai, ar y cyfan, rwy'n credu, yn well nag i Lywodraeth Cymru orfod ymrwymo ei harian ei hun ymlaen llaw, sef yr hyn a gynigir ar hyn o bryd?
Y broblem yw hyn, ynte: y broblem erioed fu pe byddai gan y prosiect hwn gefnogaeth gref gan fuddsoddwyr preifat, ni fyddai angen gwarant gan y Llywodraeth, a byddai'n gallu sefyll ar ei draed ei hun heb y warant. Fel y dywedasom yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yr anhawster yr ydym ni wedi ei wynebu yw na fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol nac Eurostat o ran ba un a fydd y cytundeb ariannol hwn ar neu oddi ar y fantolen tan fod y contractau wedi eu llofnodi, ac mae’n rhy hwyr erbyn hynny. Ac, wrth gwrs, ar yr adeg honno, rydym ni mewn sefyllfa lle, ymhen dwy neu dair blynedd, pe na byddai’r gylchffordd yn llwyddo, y gelwir am y warant. Dyna'r broblem gyda hyn. Nawr, ni allwn gymryd y risg honno. Rydym ni’n gwybod na fyddem ni’n cael penderfyniad terfynol ganddyn nhw. Y ffaith yw, fel y mae’r cytundeb wedi ei strwythuro ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos ei fod wedi bodloni ein hamodau. Os bydd cynnig newydd yn cael ei wneud, yna, wrth gwrs, byddem ni’n ei archwilio. Ond ni allwn gymryd y risg gydag arian cyhoeddus a chymryd y risg y bydd yr arian hwn yn ymddangos ar ein mantolen. Pe byddai hynny'n digwydd, byddem ni’n cael ein trin fel pe byddem ni eisoes wedi talu’r arian hwnnw a byddai'r arian yn cael ei dorri o’n cyllideb gyfalaf, a fyddai'n golygu, er enghraifft, gorfod gwneud toriadau yn y flwyddyn ariannol hon o bosib. Nid yw hynny’n rhywbeth y gallwn ni fel Llywodraeth gyfrifol gymryd risg ynglŷn ag ef.
Rwy’n deall y pwynt hwnnw’n llwyr ac roedd hynny, wrth gwrs, wedi ei gynnwys yn y datganiad gwreiddiol. Ond mae'r syniad, ar gyfer prosiect a fyddai'n cael ei ariannu'n breifat am gost o £375 miliwn, gwarant ar ran Llywodraeth Cymru a fyddai'n cwmpasu llai na hanner hynny y gellid ei roi ar lyfrau Llywodraeth Cymru fel prosiect sector cyhoeddus yn gyfan gwbl yn amlwg yn hurt. Ac felly, mae’n rhaid bod ffordd drwy hyn. Ni fyddai gwarant Llywodraeth Cymru byth yn cael ei alw amdano ymlaen llaw beth bynnag o dan delerau'r cytundeb, gan ei fod yn swm blynyddol y byddai'r Llywodraeth yn gorfod ei dalu. Y sefyllfa waethaf fyddai bod yr asedau yn cael eu hadeiladu ac na fyddai’r trac rasio ei hun yn gwneud ceiniog o elw er mwyn talu'r llog i'r buddsoddwyr—Aviva yn yr achos penodol hwn. Yna, byddai galw blynyddol ar y Llywodraeth i dalu’r elfen honno o'r warant iddyn nhw. Ni fydd byth alwad arnoch i ddarparu £210 miliwn mewn un cyfandaliad, ac mae'r warant £8 miliwn yn y sefyllfa waethaf wedi ei amorteiddio dros gyfnod o 35 mlynedd. Mae'n gwbl afresymol y dylid defnyddio’r confensiynau cyfrifyddu Llywodraeth hyn i rwystro prosiect a fyddai'n llwyr weddnewid de-ddwyrain Cymru gyfan. Does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru ymestyn ei hun a gwneud pob ymdrech posibl i geisio dod o hyd i ffordd drwy hyn.
Ni allwn anwybyddu realiti’r ffaith fod risg uchel, yn ein barn ni, y byddem ni’n gweld £373 miliwn yn cael ei golli o gyllideb cyfalaf Cymru. Mae hynny'n rhywbeth na allai unrhyw Lywodraeth gyfrifol ei anwybyddu. Rwy’n dod yn ôl at y pwynt pe byddai’r prosiect yn gallu sefyll ar ei—. Nid prosiect Llywodraeth yw hwn; prosiect sydd wedi dod ymlaen o gonsortiwm preifat yw hwn. Y cwestiwn nad yw erioed wedi cael ei ateb yw pam na all y prosiect sefyll ar ei draed ei hun. Os yw’r buddsoddwyr preifat yn meddwl ei fod mor llwyddiannus â hynny, yna bydd pobl yn gofyn y cwestiwn pam mae hynny. Rydym ni wedi gweithio, wrth gwrs, gyda'r busnes, maen nhw wedi cyflwyno sawl cynllun yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni wedi ceisio eu helpu nhw mewn unrhyw ffordd, ond ni wnaethant fodloni’r amodau a osodwyd gennym. Rydym ni wedi archwilio'r holl risgiau, ac mae'n eithaf amlwg bod y risgiau’n rhy uchel i fwrw ymlaen â'r cynllun hwn.
Ond nid yn rhy uchel, yn ôl pob tebyg, i gonsurio £100 miliwn allan o'r boced gefn mewn ymateb i'r methiant hwn. Ac, os yw'n bosibl dod o hyd i £100 miliwn ymlaen llaw, i bob pwrpas, nawr, pam mae’n amhosibl dod o hyd i £8 miliwn y flwyddyn, ymhen tair blynedd, am y 30 mlynedd ganlynol? Does bosib—ailadroddaf y cwestiwn—gydag owns o ddychymyg, mae’n rhaid bod ffordd drwy hyn. A byddai gan Lywodraeth Cymru gefnogaeth unedig, rwy’n credu, yr holl bleidiau yn y Cynulliad hwn y tu ôl iddi i wneud i’r prosiect hwn lwyddo. Does bosib nad yw’r wobr yn rhy fawr i roi'r gorau iddi ar y cam hwn.
Cyfrifoldeb y gylchffordd yw cyflwyno unrhyw gynnig newydd, nid Llywodraeth Cymru. Nid cynllun Llywodraeth Cymru yw hwn. Rhoddwyd amodau i’r gylchffordd yr oedd yn rhaid iddynt eu bodloni ac ni wnaethant fodloni'r amodau hynny pan edrychwyd ar y diwydrwydd dyladwy. Mae'n dweud ei fod yn £100 miliwn allan o'r boced gefn; mae'n £100 miliwn dros 10 mlynedd. Felly, nid £100 miliwn yn sydyn yn ystod un flwyddyn. Dyna'r ymrwymiad a wnawn i Lynebwy i ddod â'r swyddi i'r parc technoleg, ac rydym ni’n ffyddiog, ar ôl siarad â busnesau, y bydd y parc technoleg hwnnw yn llwyddiant.