– Senedd Cymru am 2:18 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar i arweinydd y tŷ i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ychwanegu tri datganiad llafar i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad am adroddiad interim yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiadau llafar ar y strategaeth iaith Gymraeg ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y tasglu gweinidogol ar Gymoedd y De. Ac yn olaf, rwyf wedi lleihau hyd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a geir ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Arweinydd y tŷ, dau beth, os caf. Yn gyntaf, bûm i ddiwrnod gwobrwyo yn Ysgol Trefynwy ddydd Sadwrn—ysgol sy'n cyflawni canlyniadau sy’n gynyddol dda. Yn y cyfamser, ychydig i fyny'r ffordd, mae adeilad ysgol newydd Ysgol Gyfun Trefynwy yn cael ei adeiladu, a ariennir yn rhannol gan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru. Dwy ysgol ragorol, ac ysgolion sy'n cydweithio'n agos. Tybed a fyddai modd clywed gan yr Ysgrifennydd Addysg ynghylch sut mae'r sector ysgolion annibynnol yng Nghymru a’r sector gwladol yn gweithio gyda'i gilydd a sut maent yn cael eu hannog i weithio gyda'i gilydd. Rwy'n credu bod llawer o groesbeillio a all ddigwydd rhwng y ddau. Rwy'n gwybod, yn draddodiadol, y caniateir i’r sector annibynnol fynd ymlaen a gwneud ei beth ei hun, ond rwy’n credu bod gwersi i’w dysgu. Yn sicr mae hynny’n digwydd yn Nhrefynwy, a chredaf fod gwaith da y gellir ei wneud ar draws Cymru.
Yn ail, hoffwn ddiolch i Julie James, y Gweinidog dros fand eang cyflym iawn—neu ddim yn gyflym iawn mewn rhai achosion, mewn rhai rhannau o Gymru. Bu mewn cyfarfod yn fy etholaeth i neithiwr a daeth nifer dda ynghyd. Sicrhaodd fy etholwyr fod gobaith gan fan gwan amlwg y tu allan i Gas-gwent yn nyffryn Gwy o gysylltiad ar ryw adeg yn y dyfodol yn y tymor canolig. Deallaf fod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fand eang yn dod i ben yn fuan, o bosibl yn ddiweddarach yr wythnos hon, ac mae'n bwysig iawn, rwy’n siŵr y cytunwch, arweinydd y tŷ, bod cymaint o bobl a busnesau â phosibl yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, fel bod Llywodraeth Cymru yn gwybod lle mae’r mannau gwan, a'r math o wasanaethau fydd eu hangen—pwrpasol mewn sawl achos—i lenwi'r mannau gwan hynny yn y dyfodol. Nid ymdriniwyd â nhw yn ystod cam 1 cyflwyno band eang, ond mae'n bwysig nawr bod pobl ledled Cymru yn cyfrannu i'r ymgynghoriad hwnnw fel eich bod yn cael y darlun llawnaf posibl ar gyfer symud ymlaen.
Diolch i chi, Nick Ramsay, am ddau gwestiwn cadarnhaol iawn ar y datganiad busnes. Yn amlwg, rwy’n cofio ymweld ag Ysgol Gyfun Trefynwy, fel Gweinidog Addysg ar y pryd, a gallu helpu i sicrhau cyllid drwy ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Byddwn mewn gwirionedd yn hoffi ail ymweld, efallai pan fyddaf yn pasio heibio, gan fy mod i'n siŵr fod ganddi adeiladau ysblennydd erbyn hyn sy'n cael effaith ar ddysgu, ond hefyd, yn amlwg, yn gweithio yn y gymuned addysg yn Nhrefynwy. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Addysg wedi clywed eich pwynt am y rhyngweithiadau hynny, wrth gwrs, sy’n cael eu meithrin rhwng y sector annibynnol a’r sector sy’n cael arian cyhoeddus mewn addysg. Mae hynny’n ymwneud â rhannu cyfleusterau, weithiau, yn ogystal â dysgu ar y cyd.
Ar eich ail bwynt, rwy'n siŵr y bydd Julie James yn croesawu'n fawr iawn y ffaith eich bod wedi atgoffa Aelodau’r Cynulliad i sicrhau eu bod yn cael eu pwyntiau gan eu hetholwyr o ran band eang cyflym iawn, o ran y mannau cryf a’r mannau gwan hynny a’r ardaloedd penodol hynny lle’r ydym yn cael anawsterau. Rwy'n credu mai’r ymgynghoriad ar y cam nesaf yw, fel y dywedwch, yr ychydig ganran terfynol o safleoedd nad oedd wedi eu cynnwys pan gyflwynwyd Cyflymu Cymru, neu yn wir gan gynlluniau'r cwmnïau telathrebu eu hunain. Rydym am wneud yn siŵr bod pawb sydd heb fynediad yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, ac mae honno’n neges yr wyf yn siŵr sydd angen ei rhannu eto. Diolch i chi, Nick Ramsay, am hynny heddiw.
Cyfarfûm â thrigolion o gymdeithas dai ym Mhen-y-bont yn ddiweddar, Tai Hafod, ac roeddwn yn meddwl a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer tai mewn cysylltiad â rhai o'r materion y maent wedi eu codi gyda mi ynglŷn â sut mae cymdeithasau tai yn cael eu monitro gan Lywodraeth Cymru, pa wiriadau sy’n cael eu gwneud i sicrhau bod cymdeithasau tai yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, ac a oes unrhyw sancsiynau ar gyfer y rhai sy'n methu â chydymffurfio. A allai Llywodraeth Cymru edrych i weld pa gymdeithasau tai sy’n codi tâl ar denantiaid am eu gwasanaethau? Er enghraifft, mae rhai o'r tenantiaid y siaradais i â nhw yn Tai Hafod yn dweud nad oes angen rhai o'r gwasanaethau y maent yn talu amdanynt o fewn y taliadau gwasanaeth penodol, ac mae’r union bwynt hwnnw yn peri gofid i mi. Deallaf ein bod yn brin o amser oherwydd ein bod yn dod i ddiwedd y tymor, ond pe gallem gael datganiad am y berthynas rhwng y Llywodraeth a chymdeithasau tai a monitro eu cynnydd, byddwn yn ddiolchgar iawn.
Yr ail ddatganiad yr oeddwn eisiau gofyn amdano gan Lywodraeth Cymru oedd un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg mewn cysylltiad ag addysg ariannol. Nodaf o newyddion heddiw bod yr adroddiad gan Estyn—ei adolygiad thematig—wedi ymddangos, a dywed fod angen gwneud mwy i hyfforddi athrawon ar addysg ariannol. Unwaith eto, fel y nodais trwy fy Mil Aelod preifat, mae'n anghyson iawn o ardal i ardal, gydag ysgolion uwchradd yn llai effeithiol wrth addysgu addysg ariannol nag ysgolion cynradd. Felly, byddwn yn croesawu datganiad am hyn er mwyn deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adweithio i’r adolygiad thematig penodol hwn, a sut y gallwn symud ymlaen ar yr agenda benodol hon drwy argymhellion Donaldson.
Diolch i chi, Bethan Jenkins. Ar eich pwynt cyntaf, credaf efallai y bydd materion penodol y byddwch o’r farn sy’n briodol ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet amdanynt, o ran eich cyfarfod a’ch ymweliad â chymdeithas dai benodol. Mae eich pwyntiau cyffredinol yn bwysig o ran y trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r sector cymdeithasau tai, yn enwedig o ran cynnydd i safon ansawdd tai Cymru.
O ran eich ail bwynt, oes, mae cyfleoedd y gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn awyddus i’w datblygu a mynd i'r afael â nhw mewn cysylltiad â'r cwricwlwm a chyfrifoldebau eraill, ac yn wir Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol arfaethedig lle bydd cyfle i graffu arno gan bwyllgor i ystyried yr effaith ar Gymru hefyd.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ddatganiad ar daliadau tai yn ôl disgresiwn, os gwelwch yn dda. Mae ffigurau gan Shelter Cymru wedi dangos yn glir fod £100,000 o'r arian hwn, a oedd yno yn benodol i helpu pobl nad oedd eu budd-dal tai yn talu cost eu rhent, wedi cael ei anfon yn ôl gan awdurdodau lleol i San Steffan y llynedd. Roedd pum cyngor, tri o'r rheini yn fy etholaeth i, yn cyfrif am 75 y cant o'r arian a anfonwyd yn ôl; y rhain oedd Caerfyrddin, Gwynedd a Cheredigion. Mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr â chynghorau eraill, gan gynnwys Torfaen, Sir Fynwy, Caerdydd, Bro Morgannwg, ac Ynys Môn, a wariodd yr holl ddyraniad ac, fel yn achos Torfaen, a gafodd hwb gyda rhywfaint o'u harian eu hunain. Mae'r gronfa taliad tai yn ôl disgresiwn yn hynod bwysig ar gyfer helpu'r rhai sy'n cael trafferth gyda'u rhent i allu aros yn eu cartrefi ac i'w hatal rhag naill ai gael eu troi allan neu fod yn ddigartref. Felly, rwy'n awyddus i ddeall a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau o gwbl gydag awdurdodau lleol ynghylch yr arian hwn yn cael ei anfon yn ôl, er mwyn deall pam mae rhai cynghorau nid yn unig yn gwario'r dyraniad ond yn ychwanegu ato, tra bod eraill, yn fy marn i, yn siomi eu tenantiaid yn llwyr.
Mae Joyce Watson yn iawn wrth ddweud pa mor bwysig yw taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn wir, amlygwyd hynny yn glir iawn yn ymgyrch Shelter Cymru, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi clywed am yr wythnos ddiwethaf—yr ymgyrch Waste Not Want Not—yn tynnu sylw at eu pryderon a chodi ymwybyddiaeth y gallai pobl fod â hawl i help ychwanegol trwy'r cynllun taliadau tai yn ôl disgresiwn. Yn amlwg, o'r cychwyn cyntaf, o ran fy ymateb i, mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw’r taliadau tai yn ôl disgresiwn wedi eu datganoli ac maent yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol Cymru, rydym wedi cyflwyno canllawiau gwell, gan sicrhau dull mwy cyson o ymdrin â cheisiadau, gan dargedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac wrth gwrs, rhaid i hynny gynnwys dealltwriaeth—. Yn amlwg, mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfle yma i ledaenu'r arfer da gan yr awdurdodau hynny y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ato, a oedd nid yn unig yn gwario at y terfyn, ond rai ohonynt yn gwario mwy ac yn penderfynu bod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth, fel Caerdydd a Bro Morgannwg.
Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond i ddilyn ymlaen o’r hyn a ddywedodd Joyce Watson, a gawn ni ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y drefn a ddilynir gan awdurdodau lleol ynghylch rhoi tystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon yn eu hardaloedd? Gwnaeth etholwr imi, sydd wedi bod yn rhedeg busnes teuluol ers dros 30 mlynedd yn yr un ardal yng Nghasnewydd, gais i Gyngor Dinas Casnewydd am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd presennol ar gyfer yr un busnes. Talodd £380 am hyn, tra bod y taliad cychwynnol yn £190 yn unig. Ar ôl cyfarfod â'r swyddog a chael craffu ar y cais, roedd yn rhaid iddo dalu yn ychwanegol i’r £190 i gael cyflwyno ei gais i'r cyngor. Ar ôl dau fis, oherwydd gwall bach yn y cais, cafodd ei wrthod ar y sail nad oedd yn gallu cael ei gymeradwyo ar gyfer defnydd cyfreithlon gan nad oedd wedi gallu sicrhau'r cyfnod lleiaf sydd ei angen—am 10 mlynedd yn yr un ardal yn yr un busnes. Ond, fel y dywedais yn gynharach, bu’n rhedeg y busnes ers 30 mlynedd, ac mae’r adran ardrethi wrth ymyl yr adran drwyddedu—a thalodd £380. Yr ateb a gafodd yr wythnos diwethaf yw, os oes rhaid iddo gael y drwydded hon eto, mae'n rhaid iddo dalu i ailymgeisio eto a thalu £380 eto. A oes modd gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch p ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dosbarthu i'r awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod synnwyr cyffredin yn rhagori ar fiwrocratiaeth mewn sefyllfaoedd o'r fath? Diolch.
Wel, rwy’n credu bod yr Aelod yn amlwg yn gwrando ar ei etholwr lleol, sef busnes, ac yn ei gynrychioli. Ond rwy’n credu eich bod wedi egluro, yn wir, o ran adrodd am y profiad y mae’r busnes hwnnw, etholwr lleol, wedi’i gael, pam ei fod ef neu hi wedi cael ei hun yn y sefyllfa honno. Mae hwn yn fater i'r awdurdod lleol, ac mae'n fater, nid yn unig o ran rheoleiddio a sail statudol, mae'n fater o ddisgresiwn ar sawl achlysur, ond hefyd o ran cydymffurfiaeth. Ac mae angen i fusnesau gydymffurfio.
Bythefnos yn ôl, cafodd gyrrwr motor-beic ei ladd ar yr hyn sy’n cael ei alw, yn anffodus, yn ‘“Evo” triangle’—cyfres o ffyrdd neu rwydwaith o ffyrdd yn ardal Pentrefoelas a Cherrigydrudion, sydd wedi cael ei hyrwyddo gan y cylchgrawn ceir ‘Evo’ fel man da i fynd i brofi’ch sgiliau gyrru ac i wthio’ch car i’r eithaf. Nawr, mae hyn i gyd wedi creu, dros gyfnod, ddiwylliant lle gallwch chi nawr brynu sticeri ceir, crysau-T ac yn y blaen sy’n hyrwyddo hwn fel rhyw fath o ‘destination’. Mae'n cael ei ddisgrifio fel ‘life-size Scalextric track’. Mae'n cael ei ddisgrifio fel ‘Disney World for driving enthusiasts’. Ond y canlyniad, wrth gwrs, yw bod pobl yn cael eu lladd. Ddydd Sul yma, buodd dwy ddamwain angheuol ar yr A5, nid nepell o’r ardal honno hefyd.
Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd yr economi i esbonio beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud i daclo hyn, oherwydd mae angen ‘approach’ aml-asiantaeth i fynd i’r afael â hyn mewn gwirionedd, neu fel arall, rwy’n ofni na fyddwn yn gweld hyn yn stopio? Ond mi fyddwn i hefyd yn gofyn i’r Llywodraeth ystyried a yw’r cylchgrawn ‘Evo’ wedi croesi ffin fan hyn ynglŷn â’r modd y maen nhw wedi bod yn hyrwyddo yr ‘“Evo” triangle’ yma? Ac oes yna le i gyfeirio’r cylchgrawn at IPSO, sef sefydliad annibynnol safonau’r wasg, oherwydd nid ffyrdd rasio yw ffyrdd cyhoeddus Cymru, ac mae'n rhaid inni roi stop ar hyn, unwaith ac am byth?
I’m also aware that the communities Secretary has made a series of statements around fire safety recently, but following the terrible tower fire that, of course, we all know about of late, could we also have a statement from the Cabinet Secretary explaining what the Government is going to do to ensure that the fire service in north Wales doesn’t face further cuts after what has been a decade of cutting back on services? We know that 20 per cent of Welsh firefighters have been lost over the last 10 years, and that there are now proposals as well to cut around 24 of our firefighters in north Wales—that’s one in six of all the firefighters that we have—and also to scrap one of the two fire engines that serve the Wrexham area. It’s austerity that’s driving this agenda, whereas our priority, of course, should be saving lives. So, do you not agree that cutting front-line services like this is wholly unacceptable, and we need a statement explaining exactly what the Government is going to do about it?
Diolch i Llyr Gruffydd am y ddau gwestiwn. O ran y cwestiwn cyntaf, sydd, fel y dywedwch, nid yn unig yn fater o ddiogelwch ar y ffyrdd, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried yn flaenoriaeth uchel wrth gwrs, ond yn ymwneud ag ardal benodol yn y gogledd lle bu’r atyniad hwn, ac, yn amlwg, lle caiff cymryd risgiau, fe ymddengys, ei annog, a marwolaethau o ganlyniad i hynny, a soniasoch am y diweddaraf gyda'r beiciwr modur. Mae hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu, yn sicr yn edrych arno, ond gall fod yn ddefnyddiol pe gallech hefyd roi hynny yn ysgrifenedig i Ken Skates, dim ond er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa benodol a'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd gennych chi.
O ran eich ail bwynt, yn amlwg mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn gweithio'n agos iawn gyda'r grŵp cynghori Cymru ar ddiogelwch tân a gafodd ei sefydlu. Mae'n bwysig iawn, o ran y cyfrifoldebau hynny sydd gan awdurdodau tân ac achub o ran eu dyletswyddau cyfreithiol i hyrwyddo diogelwch tân, a chydnabod eu cyfrifoldebau enfawr. Ac, unwaith eto, gallwn ddweud bod cydnabod eu cyfrifoldebau, ond eu dewrder a'u sgiliau hefyd, yn hanfodol bwysig. Ond, wrth gwrs, daw hyn yn ôl at y pwynt lle y byddem yn dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Wel, mae'n amlwg iawn bod y bobl, y cyhoedd, ac yn sicr y cyhoedd yng Nghymru, a’r Llywodraeth hon, yn dymuno iddynt gamu at y marc, o ran gwrth-gyni, a rhoi'r adnoddau i ni gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae dau fater yr oeddwn yn awyddus i’w codi. Yn gyntaf oll, roeddwn wedi bod yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r sgandal gwaed halogedig, yn dilyn y llythyr gan holl arweinwyr y gwrthbleidiau yn San Steffan, ac, wrth gwrs, gefnogaeth gan bob plaid yma yn y Cynulliad hwn. Ond mae'n newyddion gwych bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi o'r diwedd, yn ystod yr ychydig oriau diwethaf, y cynhelir ymchwiliad cyhoeddus. Ac rwy’n credu ei fod yn deyrnged i'r holl gleifion a theuluoedd hynny sydd wedi ymgyrchu ers degawdau i gael yr ymchwiliad cyhoeddus hwn, oherwydd, yng Nghymru, bu farw 70 o bobl, ac mae bywydau llawer mwy o deuluoedd wedi cael eu difetha’n llwyr, ac maent yn haeddu atebion. Felly, mae croeso mawr i’r ymchwiliad cyhoeddus hwn.
Ond, wrth gwrs, mae llawer o gwestiynau yn awr am yr ymchwiliad cyhoeddus—am ei ffurf, pwy fydd yn ei arwain, sut y bydd pobl yng Nghymru yn cymryd rhan. Felly, a gaf i alw am ddatganiad, cyn gynted ag y bo modd, gan y Llywodraeth, am y ffordd y maent yn gweld y caiff yr ymchwiliad cyhoeddus hwn ei sefydlu, a sut y bydd Cymru yn cymryd rhan ynddo? Mae'n gwbl hanfodol bod dioddefwyr Cymru yn cael gwneud sylwadau yn y broses. Felly, rwy’n gofyn am ddatganiad, cyn gynted ag y bo modd, i edrych ar beth sy’n fuddugoliaeth i'r holl bobl hynny sydd wedi ymgyrchu cyhyd. Ond rydym am wneud yn siŵr nawr bod yr ymchwiliad cyhoeddus hwn yn ateb yr holl gwestiynau hyn.
Yn awr, yr ail bwynt yr oeddwn am ei godi, sy'n gysylltiedig â hyn, gan ei fod yn ymwneud â hepatitis C, wrth gwrs, a oedd hefyd, mewn rhai achosion, wedi ei gael trwy waed halogedig—cawsom ddadl lwyddiannus iawn yma ar hepatitis C ar 14 Mehefin, a chytunodd pawb mai’r her fawr yw cael mwy o bobl i gael prawf, i ddod ymlaen. Ac mae digwyddiad heno i lansio ymgyrch 'Rwy'n werth...', i dynnu sylw at y mater hwn. Ond sut y byddem yn gallu cael diweddariadau rheolaidd gan y Llywodraeth ynghylch a yw’r ymgyrchoedd y mae’r Llywodraeth, a'r GIG ac eraill yn eu gwneud i gael mwy o bobl i ddod ymlaen—sut ydym ni’n gallu cadw golwg ar sut mae hynny’n gweithio mewn gwirionedd? Hoffwn i ofyn i arweinydd y tŷ a oes rhai ffyrdd o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ar sut y mae hyn wedi bod mor llwyddiannus—wyddoch chi, Llywodraeth Cymru yn talu am y cyffuriau hyn, cyfradd llwyddiant 95 y cant o ran gwella pobl, datblygiadau hollol aruthrol, ac mae pawb yr ydym yn gwybod amdanynt yn cael eu trin, er bod o leiaf 50 y cant o’r bobl sydd â hep C ddim yn gwybod hynny.
Diolch i chi, Julie Morgan, am y cwestiynau hynny. A Julie Morgan a arweiniodd y ddadl ar y mater hwn—o ran eich cwestiwn cyntaf—yma yn y Senedd. Ac roedd cefnogaeth unfrydol gan Aelodau Cynulliad ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd o ran pwyso am ymchwiliad cyhoeddus llawn. Ac rydym, wrth gwrs, yn awr yn croesawu cadarnhad y Prif Weinidog y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r sgandal gwaed halogedig.
Ac rwy’n meddwl ei fod yn bwysig, fel y dywedodd Julie Morgan, y bydd ymgynghori â theuluoedd, yn enwedig y rhai a gollodd eu hanwyliaid yn sgil y gwaed halogedig, ynghylch y ffurf y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. Deallaf ei fod wedi cael ei fynegi—mae’r dymuniad hwnnw i ymgynghori â theuluoedd eisoes wedi ei fynegi. Mae'n briodol ein bod nawr—. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a ychwanegodd ei gefnogaeth i'r alwad am ymchwiliad y DU, yn gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddweud ein bod yn falch, fel Llywodraeth Cymru, bod Llywodraeth y DU o’r diwedd yn mynd i gydnabod cryfder teimladau'r rhai yr effeithir arnynt, a'u teuluoedd, ond y byddant hefyd yn egluro'r hyn a ddigwyddodd iddynt, ac yn parchu’n llawn ac yn ymgysylltu â hwy, o ran y ffurf y bydd yr ymchwiliad yn ei gymryd. A hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r rhan y mae Julie Morgan wedi’i chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn.
Hefyd, o ran eich ail gwestiwn, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau nid dim ond â’r gwaith trawsbleidiol, yr ydych yn ei arwain, Julie, ond hefyd, fel Llywodraeth, ein bod yn ymateb o ran bwrw ymlaen ag ymwybyddiaeth o hepatitis C, gan alluogi pobl i ddod ymlaen. Mae lansiad yr ymgyrch yn bwysig iawn. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ymgysylltiad Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran y cyfle hwnnw.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ddiagnosis o gyflyrau sbectrwm awtistiaeth? Dim ond heddiw, rwyf wedi cael llythyr oddi wrth Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch merch i etholwr nad oedd wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth drwy ei gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed, ond a gafodd ddiagnosis gan feddyg annibynnol, profiadol—clinigydd, sydd mewn gwirionedd mor uchel ei pharch yn y proffesiwn fel ei bod yn cyfrannu at ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, mae’n rhan o gymuned mewnwelediad NICE ac yn rhan o grŵp astudio ar y rhyngrwyd Sefydliad Iechyd y Byd o ran y meini prawf diagnostig, sydd i fod yn berthnasol yn y wlad hon. Ac yn bryderus iawn—wrth gwrs, roedd hwnnw’n ddiagnosis ei bod ar y sbectrwm, ond, yn bryderus, roedd y llythyr gan y bwrdd iechyd yn dweud nad oedd y ddau asesiad yn awgrymu gwahaniaethau sylweddol, dim ond gwahaniaeth mewn label, ac nid yw'n broblem oherwydd nid yw CAMHS Sir y Fflint yn gweithio yn unig ar label diagnostig ac nid oes angen diagnosis penodol ar y rhan fwyaf o'r ymyriadau a gynigir. Fodd bynnag, fel yr ydych yn sicr yn ymwybodol ohono, ddoe, ar draws Cymru, rhoddwyd sylw eang yn y cyfryngau y gallai methu â gwneud diagnosis cywir o blant awtistig arwain at hunan-niweidio; roedd mam yn dweud pe byddai ei merch wedi cael diagnosis syndrom Asperger yn gynharach y byddai wedi arbed llawer o ofid iddi; ac roedd academig o ysgol feddygol Prifysgol Abertawe yn rhybuddio bod rhieni yn ofni bod plant yn dioddef problemau iechyd meddwl gan nad yw cyflyrau sbectrwm awtistiaeth yn cael eu hadnabod. Dywedodd:
Yr hyn sy’n gyson ar draws yr ymchwil yw bod mwy o risg, os oes gennych awtistiaeth, o feddwl am hunanladdiad neu o ymddygiadau hunan-niweidio. Mae'n arbennig o amlwg mewn merched ac yn arbennig o amlwg mewn merched sydd wedi aros heb gael diagnosis nes eu bod yn oedolion.
O ystyried bod gwasanaeth awtistiaeth newydd Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gyflwyno drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn mynd i gymryd peth amser i gyrraedd y gogledd ac yn parhau i fod yn anstatudol, a bod Bil hir-ddisgwyliedig Paul Davies yn mynd i gymryd peth amser i basio drwy'r Cynulliad—gobeithio, gyda chymorth cyffredinol—mae angen i ni wybod pa ganllawiau a pha ryngweithio fydd yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a’n byrddau iechyd a gwasanaethau CAMHS i sicrhau nad yw sefyllfa o'r math hwn yn dal i ddigwydd.
Wel, Mark Isherwood, fe wyddoch, fel Llywodraeth Cymru, rydym yn ymrwymo i gyflawni'r gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth a'u rhieni a’u gofalwyr yn dweud wrthym eu bod eisiau eu gweld. Yn wir, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dechrau trawsnewid y ffordd y mae pobl yn derbyn gofal a chefnogaeth. Rydym ni hefyd yn cyflawni ar flaenoriaethau ein cynllun strategol anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth newydd, gan fuddsoddi £13 miliwn mewn gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd. Yn awr, mae hyn yn hanfodol bwysig—mae'n ymwneud â’r llwybr asesu Cymru gyfan unigol hwnnw. Wrth gwrs, rydych yn adlewyrchu pryderon ynghylch sut y gellir ei ddatblygu a sut y gall fod yn ystyrlon i blant—gan ei fod yn llwybr asesu Cymru gyfan unigol newydd, bydd yn gwneud y system yn llawer cliriach ar gyfer teuluoedd. Mae'n cynnwys targed amser aros o 26 wythnos ar gyfer plant a gaiff eu cyfeirio ar gyfer ASD neu ADHD posibl. Hefyd, gellir gwneud atgyfeiriadau at CAMHS ar draws gwahanol feysydd. Felly, mae'n bwysig bod rhieni sydd â phryderon am eu plant yn cysylltu â'u meddygon teulu, ond mae'r trefniadau strategol ehangach a buddsoddiad yn glir iawn.
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan adolygiad Taylor o weithwyr yn yr economi gig ac rwy'n credu ei fod yn deg dweud bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn dipyn o siom. Does dim byd concrid ar ddileu contractau dim oriau. Mae hawl i ofyn am oriau gwarantedig gan gyflogwr, ond, wrth gwrs, mewn oes lle mae'n rhaid i weithwyr dalu £1,200 i fynd i dribiwnlys, mae'n anodd iawn gweld sut y mae hawliau bondigrybwyll o’r fath yn mynd i gael eu gorfodi. Ond pryder arbennig yw'r awgrym y dylid cyflwyno categori newydd o weithiwr yng nghyfraith cyflogaeth y DU—contractwr dibynnol. Mae hyn yn edrych fel canlyniad pledio arbennig gan y cwmnïau hynny nad ydynt yn hoffi talu trethi ac nad ydynt yn hoff iawn o dalu'r isafswm cyflog chwaith. Tybed a allai'r categori contractwr dibynnol fod yn rhywbeth sy'n cynyddu dros y blynyddoedd, yn enwedig wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac wrth i hawliau gweithwyr gael eu disodli gan fframweithiau’r DU. A allem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru fel mater o frys, yn enwedig o gofio bod y wlad hon yn awr yn gynyddol yn dod yn brifddinas y DU o ran gweithwyr sy’n cael eu hecsbloetio?
Mae'n bwysig bod yr adroddiad hwn wedi cael ei godi. Mae'n adroddiad annibynnol, fel y dywedodd Steffan Lewis. Rwy'n credu, yng Nghymru, ein bod wedi siarad am bwysigrwydd sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae gennym ymgynghoriad ar hyn o bryd ac, yn wir, mae Rebecca Evans yn bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad am gontractau dim oriau o ran y sector gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Ond rwy'n credu hefyd, yn bwysig iawn, o ran mynd i'r afael â'r economi gig yn god ymarfer ein Llywodraeth ar gaffael moesegol, ac o edrych ar y ffyrdd yr ydym ni yng Nghymru o ran gwaith tecach—. Ac, wrth gwrs, mae’r gwaith yr ydym wedi bod yn ei ddatblygu fel Llywodraeth Lafur Cymru cyn belled ag y mae hynny yn y cwestiwn—ein partneriaeth gweithlu, yn enwedig gydag undebau llafur—yn hanfodol i ni fwrw ymlaen â’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau, a hefyd gamddefnyddio’r economi'r hwn, yr ydym, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn ohono.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Nid wyf yn ymddiheuro am ofyn am un ar y morlyn llanw. Gwn fod y morlyn llanw wedi cael ei grybwyll ddwywaith y prynhawn yma yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond rwy'n credu ei fod mor hynod bwysig i'r rhai ohonom sy'n byw yn ninas-ranbarth bae Abertawe fel fy mod yn credu yr hoffem gael datganiad arno, i gwmpasu dau bwynt: un yw’r drwydded forol y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani; ac, yn ail, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth San Steffan am roi ei sêl bendith. Mae hyn mor bwysig, ac rwy’n meddwl am sut y mae Aarhus yn Nenmarc wedi creu diwydiant cyfan o ran tyrbinau gwynt, oherwydd ei bod y cyntaf i wneud hynny. Mae gennym gyfle yn ne-orllewin Cymru i fod y cyntaf i wneud morlynnoedd llanw a chael yr holl fanteision o hynny.
Mae’r ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano yn dilyn yr hyn yr oedd Steffan Lewis yn ei ofyn. Mae’r gweithlu dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei throi i fod yn weithlu o swyddi dros dro i raddau helaeth. Rydym wedi mynd o’r dyddiau pan oedd pobl yn ciwio y tu allan i’r dociau i gael eu galw, i dderbyn neges destun, ond mae'r egwyddor yn union yr un fath. Nid yw swyddi dros dro yn dda ar gyfer y gweithlu, nid yw'n dda ar gyfer y wlad ac nid yw'n dda ar gyfer y system drethi. Felly, rwy’n credu y byddwn yn ychwanegu fy llais at un Steffan Lewis wrth ofyn am ddatganiad ar yr hyn y gallwn ni ei wneud. Gwn fod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn gyfyngedig oherwydd yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn nad yw wedi’i ddatganoli, ond mae angen i ni geisio lleihau nifer y bobl sy'n cael eu hecsbloetio’n amlwg o fewn y system hon.
Rwy'n falch fod Mike Hedges wedi manteisio ar y cyfle i ofyn cwestiwn arall ar forlyn llanw Abertawe. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, rydym yn parhau i fod yn gefnogol i fanteision morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe, ac rydym yn aros am ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Hendry—yn aros gyda diffyg amynedd, byddwn yn dweud, gan ei fod mor araf yn dod. Mae'n ddiddorol bod y Prif Weinidog yn gofyn am syniadau ac ymgysylltu â phleidiau eraill. Wel, o leiaf mae ganddi rywbeth ar ei stepen drws y gallai ddweud 'ie' wrtho ar unwaith o ran ymgysylltu. Wrth gwrs, mae cefnogaeth drawsbleidiol gan y Cynulliad hwn ar gyfer y morlyn llanw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyfarfod â Tidal Lagoon Power ar y prosiect arfaethedig yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd ar draws ystod o feysydd er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru a'r economi leol yn cael y budd mwyaf. Yn wir, yn ei adolygiad, roedd Hendry yn cydnabod y dull integredig yr ydym wedi’i gymryd ar sgiliau a datblygu'r gadwyn gyflenwi i gefnogi'r sector pwysig hwn. Ac, yn wir, rydym yn cydnabod y rhan y mae’r sector preifat a buddsoddwyr wedi’i chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn, at y pwynt lle’r ydym yn awr yn aros am ymateb gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu fod Huw Irranca-Davies yn gynharach wedi adrodd ar y ffaith y bydd cyfarfod trawsbleidiol, rwy'n credu, gyda Greg Clark fel cadeirydd. Felly, credaf fod hynny i’w groesawu’n fawr. Byddem yn awyddus i glywed am hynny, ond, unwaith eto, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gael ymateb cyflym.
Ni allaf ond dweud, ‘Ydy, mae Mike Hedges yn hollol gywir'. Rwy'n credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud llawer iawn i fynd i'r afael â swyddi dros dro ac annhegwch contractau dim oriau, yn enwedig mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol. Felly, byddaf yn gofyn am ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar bob agwedd ar y gwaith hwnnw.
Rydym dros amser ar y datganiad hwn, ond byddaf yn galw ar ychydig o siaradwyr ychwanegol os ydynt yn addo bod yn gryno yn eu cwestiynau, a chawn atebion cryno hefyd. Darren Millar.
A gaf i eilio'r galwadau gan Llyr Huws Gruffydd am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar y triongl Evo yn fy etholaeth i? Rwy'n bryderus iawn bod diogelwch yn dirywio o ganlyniad i wneud y llwybr hwn mor ddeniadol i fodurwyr anghyfrifol. Un o’r nodweddion eraill, nad oedd Llyr yn gallu sôn amdanynt yn ei gyfraniad i ofyn am ddatganiad, oedd y ffaith fod y rhyngrwyd yn cael ei defnyddio i wneud hyn mor ddeniadol. Mae fideos ar YouTube yn annog pobl i fynd i ymweld â’r safle ac i garwyr ceir ymgasglu yno er mwyn gwibio o gwmpas y llwybr hwn. Ac, yn wir, mae cwmnïau hapchwarae hefyd yn gwneud fersiynau o hyn o fewn eu gemau er mwyn annog pobl i ymweld â’r safle. Rydym wedi cael rhai gwelliannau hanesyddol o ran diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr, nid wyf am i bethau fynd i'r cyfeiriad arall oherwydd ein bod wedi methu ag ymdrin â'r broblem arbennig hon yn fy etholaeth i. Tybed a oes modd cael rhywfaint o symudiad tuag at gael nid yn unig orfodaeth ymweld, ond rhai camerâu cyflymder ar hyd y llwybr hwn oherwydd byddai hynny yn atal y broblem hon unwaith ac am byth.
Diolch. Mae Darren Millar wedi cryfhau'r achos dros ganolbwyntio ar y triongl Evo a'r ffordd y mae wedi cael ei hyrwyddo. Yn wir, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd—ac y maent wedi gwneud hynny heddiw—dynnu sylw at y peryglon, a gallwch hefyd godi'r pwyntiau hynny eich hunain gyda chylchgronau sy’n ei hyrwyddo ac, yn wir, ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond, GanBwyll—roedd Ysgrifennydd y Cabinet allan yno yn y gwanwyn gyda GanBwyll, ac mae'n glir iawn yn uchel ar ei agenda.
Arweinydd y siambr, datganiad sydyn yn unig yw hwn ar rywbeth a gododd heddiw yn y Pwyllgor Deisebau. Rhoddodd Beth Baldwin ddewr iawn dystiolaeth wirioneddol wefreiddiol ynghylch diabetes 1 ac ymgyrch ei theulu i wella canfod yn gynnar trwy bolisi. Mae gan bedwar cant ar ddeg o blant yng Nghymru y cyflwr hwn, ac mae angen i rieni gadw golwg am y pedwar T: syched, blinder, mynd i'r toiled yn aml, a mynd yn deneuach neu golli pwysau. Collodd y teulu Baldwin eu mab, Peter, oherwydd y cyflwr hwn, ac roedd ei fam yn ddewr iawn, iawn heddiw.
Ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ôl ym mis Chwefror yn gofyn am gyfarfod gyda'r teulu—roeddent yma heddiw. Atebodd Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd nad oedd yn gallu—ddim yn gallu—cwrdd â'r teulu. Felly, o fis Chwefror tan heddiw nid yw wedi gallu cwrdd â’r teulu hwn sydd â rhywbeth mor bwysig i’w drafod. A wnewch chi roi datganiad ynghylch a fyddai Vaughan Gething o bosibl, efallai, ar gael i ffitio’r teulu hwn i mewn i’w amserlen brysur?
Diolch i Neil McEvoy am dynnu sylw at yr hyn sy'n amlwg yn ddeiseb bwysig iawn a ddaeth gerbron y Pwyllgor Deisebau am ddiabetes 1. Yn wir, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru—ac rwy'n cofio pan oeddwn i’n Weinidog iechyd, yn ymgysylltu’n fawr yn enwedig ynghylch sut yr effeithir ar blant, ac, yn wir, ymyrraeth a diagnosis cynnar a phob un o’r pwyntiau pwysig a wnaed gan y teulu hwn a roddodd dystiolaeth. Yn amlwg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol erbyn hyn o'r angen penodol hwnnw ac o gais y teulu.
Hoffwn godi gydag arweinydd y tŷ y posibilrwydd o gael datganiad. Er nad yw yn fy etholaeth i, rwyf wedi bod yn cysylltu â gweithwyr sy'n ofidus iawn gan y newyddion am Coilcolor heddiw a'r potensial y gallai 50 o swyddi gael eu colli erbyn diwedd yr wythnos yng Nghasnewydd. Ymddengys bod anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a’r cwmni penodol hwn. Nid wyf yn arbennig o awyddus i niweidio unrhyw drafodaethau a negodi sy'n mynd rhagddynt, ond ymddengys mai craidd y mater yw hawliad yn erbyn Llywodraeth Cymru sydd bellach yn rhoi marc cwestiwn dros hyfywedd tymor hir y busnes ac, yn benodol, y 50 o swyddi sydd o fewn y busnes. Ymddengys fod ganddynt lyfr archebion cryf, o'r hyn y gallaf ei gasglu ar ôl siarad â rhai o'r gweithwyr y bore yma. I egluro'r darlun sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr awr neu ddwy ddiwethaf, a gaf i annog Ysgrifennydd y Cabinet sy’n eistedd nesaf atoch chi i wneud datganiad ac i roi cymaint o wybodaeth ag y bo modd yn y parth cyhoeddus, fel y dywedaf, heb niweidio unrhyw hawliadau a allai fod o flaen y Llywodraeth, er mwyn i weithwyr ac, yn wir, berchennog y cwmni hwn allu cael eglurder ynghylch yr union sefyllfa o ran datrys yr anghydfod a'r goblygiadau ariannol i’r cwmni hwn. Oherwydd yn fy marn i, y peth olaf y mae unrhyw un ohonom eisiau deffro iddo fore dydd Sadwrn—h.y. diwedd yr wythnos hon—yw bod 50 o bobl allan o waith yng Nghasnewydd oherwydd anghydfod yr ymddengys iddo fod wedi para am rai misoedd.
Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n credu mai’r peth mwyaf priodol fyddai i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at yr holl Aelodau, o ystyried y materion a godir gennych o ran peidio rhagfarnu’r canlyniad. Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau ei fod yn ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn llawn i’r Aelodau am y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd—rwy'n siŵr yn ystod y 24 awr nesaf.
Ac yn olaf, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth cyn diwedd y tymor, gan fod dim amser am drafodaethau neu ddadleuon bellach? Yn gyntaf oll, pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o bwysigrwydd Euratom ynglŷn â’r gwaith sydd ar gael yng Nghymru? Yn benodol, wrth gwrs, mae gennym ni ddau safle niwclear, ond mae hefyd gwastraff niwclear yn cael ei storio mewn safleoedd yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae defnydd o ddeunydd niwclear tu fewn i’r gwasanaeth iechyd hefyd ynghlwm â’r rheoliadau sy’n cael eu trafod a’u cytuno ar lefel Ewropeaidd drwy ddulliau Euratom. Roedd y llythyr i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, llythyr enwog cymal 50, yn sôn am dynnu allan o Euratom hefyd, er bod y cytundeb hwnnw yn hŷn o lawer na’r cytundeb i fynd i mewn i’r Undeb Ewropeaidd. Erbyn hyn, rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei safiad yn glir ynglŷn â’r asesiad y mae hi wedi ei wneud o berthynas Euratom i’n gwaith ni yng Nghymru a sut mae parhau yn y broses yna wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
A’r ail ddatganiad yr hoffwn i ei glywed, yn enwedig gyda’r sioe amaethyddol ar y gorwel—wel, gyda llawer o sioeau amaethyddol ar y gorwel, ond y Sioe Fawr yn benodol mewn rhyw bythefnos—yw datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â phryd ydym ni’n debygol o weld y cynllun datblygu gwledig yn agor ar gyfer ffermio a throsi i ffermio organig. Ni, nawr, bellach, yng Nghymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Gyfunol sydd heb gynllun trosi i ffermio organig mewn lle. Mae cynnydd mewn ffermio organig a gwerthiant organig yn 7 y cant y flwyddyn. Mae pob punt sy’n cael ei buddsoddi o arian cyhoeddus yn creu elw o £21 o fasnach yn y maes organig, ac mae’n edrych yn chwithig iawn i mi ein bod ni angen gwario’r arian sydd gennym ni o hyd cyn inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a bod y Llywodraeth wedi bod yn eistedd ar eu dwylo cyn belled ag y mae agor cynllun ar gyfer ffermio organig yn y cwestiwn. Nid wyf i eisiau i hynny barhau dros yr haf heb ateb ar ryw fath o ganllawiau pendant gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â phryd fydd y cynllun hwn yn cael ei agor yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, byddwn yn edrych ar yr ymateb mwyaf priodol ar asesu ein perthynas ag Euratom o ran yr effaith ar Gymru. Fel y dywedwch—ac rwy’n credu ei fod wedi bod yn y newyddion bod radiolegwyr yn pryderu—mae'n feddygol yn ogystal ag yn amgylcheddol, a byddwn yn sicr yn edrych ar y datganiad mwyaf priodol i gael ei wneud ac ar ba bwynt ar yr asesiad hwn.
O ran eich ail bwynt, ie, yn wir, ar drothwy Sioe Frenhinol Cymru, rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl cwestiynau am hyn a bydd yn awyddus i wybod—a byddwn yn gwneud yn siŵr ei bod yn gwybod—bod y cwestiwn wedi cael ei godi heddiw am unrhyw gynlluniau pontio i droi'n organig yng Nghymru drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig.
Diolch, arweinydd y tŷ.