– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet iechyd ar adroddiad interim yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Mae sefydlu'r adolygiad seneddol o ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymrwymiad allweddol yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Cyhoeddais y bydd panel annibynnol o arbenigwyr yn cael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2016, a heddiw mae’r adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi. Bydd yr adolygiad yn dod i ben ym mis Rhagfyr eleni, wrth i adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi.
Mae’r panel adolygu annibynnol yn cael ei gadeirio gan Dr Ruth Hussey, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, ac mae'n cynnwys arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. I ddechrau, hoffwn ddiolch i Ruth a'i chyd-aelodau o’r panel, ac, yn wir, i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r panel, am eu hymrwymiad i'r gwaith pwysig hwn. Rwyf hefyd yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer yr adolygiad, a’r modd y mae llefarwyr y gwrthbleidiau, a chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, wedi ymwneud ag ef. Mae hyn wrth gwrs yn dod o gytundeb cychwynnol rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn.
Mae’r cylch gorchwyl a gytunwyd ar gyfer yr adolygiad yn heriol. Rhoddwyd i’r panel y dasg o asesu a gwneud argymhellion ar: sut y gallai’r system iechyd a gofal ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl ledled Cymru; lleihau anghydraddoldebau sy'n bodoli rhwng grwpiau penodol o’r boblogaeth; a’r ffordd orau o alluogi system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan i fod yn gynaliadwy dros y pump i 10 mlynedd nesaf.
Mae’n hanfodol creu newid yn y system er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Yn ôl y Sefydliad Iechyd, os na cheir gweithredu effeithiol i leihau pwysau costau, cynyddu effeithlonrwydd, neu leihau'r galw am wasanaethau, bydd angen i wariant y GIG yng Nghymru godi ar gyfartaledd o 3.2 y cant y flwyddyn hyd at 2030-31 mewn termau real, dim ond i allu cynnal y gwasanaeth. Rhagwelir y bydd pwysau costau ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn codi hyd yn oed yn gyflymach na’r rhai ar gyfer y GIG, ar raddfa o 4.1 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd.
Rwy'n falch bod y panel wedi ymateb ar y cam cynnar hwn gydag adroddiad interim craff. Dros y sawl mis nesaf, bydd y panel adolygu yn cynnal trafodaethau ar draws Cymru, gan ymgysylltu â grwpiau allweddol, a gweithio gyda rhanddeiliaid ar fodelau gofal integredig. Byddant hefyd yn edrych yn fanylach ar rai materion allweddol ac yn gwneud argymhellion clir ar faterion allweddol ar gyfer yr adroddiad terfynol.
Mae'r panel yn cydnabod yn briodol ymrwymiad aruthrol y gweithlu iechyd a gofal a'i gyflawniadau arwyddocaol. Fodd bynnag, ni allai'r achos dros newid y modd y dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu trefnu yn y dyfodol fod yn fwy clir. Fel y mae'r adroddiad yn dangos, mae'r newid yng nghyfansoddiad y boblogaeth yn cyflwyno her arbennig. Cymru sydd â'r gyfran fwyaf ac sy’n tyfu gyflymaf o bobl hŷn yn y DU. Er bod hynny, wrth gwrs, yn achlysur i’w ddathlu, bydd poblogaeth gynyddol hŷn gydag amodau ac anghenion iechyd mwy cymhleth hefyd yn arwain at fwy o alw am ofal. Ar yr un pryd, bydd y gyfran o bobl o oedran gweithio yn crebachu, gan ddarparu cronfa lai o drethdalwyr, gofalwyr answyddogol a darpar weithwyr ym maes iechyd a gofal.
Er gwaethaf ein llwyddiannau diweddar wrth recriwtio, mae Cymru—fel llawer o wledydd eraill —yn dioddef o brinder mewn meysydd proffesiynol penodol. Yn ogystal â llawer o gymdeithasau ôl-ddiwydiannol, mae Cymru eisoes yn wynebu anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd a llesiant. Mae'r panel wedi rhannu'r farn a fynegwyd gan weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd fel ei gilydd, nad yw gofal iechyd bob amser yn cael ei ddarparu yn effeithiol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Fodd bynnag, gellid achub ar gyfleoedd cadarnhaol drwy sicrhau bod technolegau yn cael eu mabwysiadu’n gyflymach a thrwy sicrhau ymagwedd fwy systematig tuag at arloesi, a allai helpu i ddarparu gofal mwy effeithiol.
Bydd llawer o bobl, wrth gwrs, yn cydnabod y darlun hwn. Yr hyn sydd wedi’i amlygu’n glir yn yr adroddiad interim hwn yw pa mor gyflym y mae ffactorau cymdeithasol a thechnolegol sy’n newid yn gyflym yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir. Mae'r adroddiad yn glir na fydd gwasanaethau iechyd a gofal yn gynaliadwy os bydd trefniadau gwasanaeth a ffyrdd o weithio traddodiadol yn parhau. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen modelau newydd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol.
Ond canfu’r panel gonsensws sylweddol ymysg rhanddeiliaid iechyd a gofal o ran y nodweddion a ddylai berthyn i system iechyd a gofal integredig yn y dyfodol. Y nodweddion hyn yw: gwasanaeth iechyd sylfaenol cyffredinol, sy'n hyrwyddo llesiant y boblogaeth; mwy o bwyslais ar ofal ataliol; unigolion i gael cefnogaeth i reoli eu cyflyrau eu hunain lle bo hynny'n bosibl ac yn ddiogel; sicrhau bod mwy o gymorth ar-lein ar gael; lle bynnag y bo'n bosibl, darparu gwasanaethau yn y cartref yn gyntaf neu yn y gymuned, gan ddefnyddio gwasanaeth gofal mewn ysbyty dim ond ar gyfer gwasanaethau y gellid eu darparu gan gyfleuster ysbyty yn unig; model o ofal a chefnogaeth yn y cartref mwy hyblyg sy'n galluogi'r unigolyn i gael rheolaeth dros bryd, ac am ba hyd, y mae’n defnyddio gwasanaeth; cydgysylltiad cyson rhwng gwahanol fathau o ofal; sicrhau bod diwylliant gofal yn canolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r dinesydd eu heisiau ac yn gallu eu cyflawni; a phwyslais di-baid ar ansawdd ac effeithlonrwydd, gan sicrhau bod gan aelodau staff amgylchedd gwaith cefnogol ac ymroddgar.
Gellir gwella pob un o'r materion uchod hynny drwy dechnoleg newydd a’u llywio gan ddata a dadansoddiadau wedi’u rhannu. Fodd bynnag, er bod yna, wrth gwrs, gonsensws eang ar y weledigaeth, mae'r panel yn adrodd bod sefydliadau iechyd a gofal yn chwilio am gyngor a chymorth ymarferol ar sut y mae hyn i’w gyflwyno’n gyson ar draws ein system. I ymdrin â hyn, mae'r panel yn awgrymu mai’r camau nesaf i Gymru yw nodi’r modelau system gyfan bras a mwyaf addawol o iechyd a gofal cymdeithasol gan dynnu ar dystiolaeth ryngwladol, ac yna y dylid defnyddio modelau newydd ar raddfa i gyflwyno newid gweddnewidiol i’r system gyfan.
Dylai'r modelau gofal newydd hyn gynnwys cyfuniad o ofal mewn ysbyty, darparwyr gofal sylfaenol a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol. Dylen nhw weithio mewn gwahanol leoliadau, megis lleoliadau trefol a gwledig, ac wrth gwrs dylen nhw ystyried anghenion iaith Gymraeg. Mae'r panel yn rhagweld y gallai nifer cyfyngedig o fodelau gael eu treialu, eu datblygu a'u gwerthuso’n eang. Bydd y panel yn sefydlu fforwm rhanddeiliaid i weithio gyda nhw i ddatblygu’r modelau newydd hyn a'r egwyddorion y dylid eu defnyddio i gynllunio datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol.
Bydd gwneud y gwaith hwn yn awr yn creu momentwm ac amgylchedd ar gyfer cynnydd ar ôl i'r adolygiad ddod i ben. Ochr yn ochr â hyn, barn y panel yw na fydd y modelau newydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy heb weithredu yn gyfochrog ar nifer o ddulliau galluogi. Caiff y rhain eu hamlinellu yn yr adroddiad yn feysydd lle bydd y panel yn ceisio datblygu argymhellion. Hynny yw: deialog gyhoeddus; y gweithlu; dulliau digidol a seilwaith; arloesedd; ac, yn hanfodol, ei gwneud yn bosibl i newid ddigwydd yn gyflymach.
Mae hwn yn adroddiad interim cadarn ac rwy'n croesawu'r dull gweithredu ymarferol y mae'r panel adolygu yn bwriadu ei fabwysiadu tuag at ei waith. Rwy’n galw ar sefydliadau iechyd a gofal ac aelodau o'r cyhoedd i ymateb â’r un egni, gan weithio'n adeiladol gyda’r adolygiad seneddol dros y misoedd nesaf.
Rwyf wrth fy modd i allu siarad am y datganiad hwn ac fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i Dr Ruth Hussey ac aelodau'r panel am eu gwaith ar hyn. Rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y ffordd agored a thryloyw y mae'r cadeirydd a'r panel wedi ymgysylltu â mi ac, rwy’n gwybod, ag Aelodau’r Cynulliad eraill a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Credaf fod hwn yn foment arloesol i Lywodraeth Cymru—ar gyfer pob gwleidydd, mewn gwirionedd—i’r GIG a’r sector gofal, a chredaf fod yr adroddiad y maen nhw wedi ei gynhyrchu—yr adroddiad interim—yn glir iawn iawn, ac yn gosod nid yn unig maint yr her sy'n ein hwynebu, ond rhai o'r llwybrau posibl y gallem ni eu dilyn i ddatrys rhai o'r heriau hynny. Rwy'n credu nad oes llawer yn yr adroddiad hwn nad oedd neb ohonom yn gwybod amdano, ond weithiau mae’n rhaid i chi ofyn i rywun o’r tu allan i ddweud wrthych chi yr hyn sy'n amlwg, oherwydd eich bod yn ei wybod, ond mae'n rhaid i chi ei glywed eto. Rwy'n credu iddyn nhw nodi unwaith eto yn ofalus iawn lawer o'r problemau, llawer o'r materion, llawer o’r heriau yr ydym ni i gyd yn eu hadnabod mor dda. Ond maen nhw wedi ei wneud mewn ffordd ddigynnwrf a phwyllog iawn ac maen nhw wedi ei osod yn glir iawn. Felly, dyma’r seinfwrdd yr oedd ei angen arnom ni a dyma ni wedi cael hynny.
Credaf fod yr adroddiad yn glir iawn, unwaith eto, ar nifer o bethau. Un peth yw bod yn rhaid i gyflymder y newid gynyddu—nid yw gwneud dim yn opsiwn y gallwn fforddio ei gymryd, ac ni ddylem ni ei gymryd. Roedd yn drawiadol iawn i mi pa mor eglur yr esboniwyd bod yna eisoes lawer o weithgarwch o fewn cyfundrefn y GIG eisoes yn dwyn ffrwyth—mae yna fodelau gwych o arloesedd i’w cael yna, ond rywsut mae yna rwystr sy’n atal y modelau arloesol hynny rhag ymwreiddio a ffynnu a chael eu trawsblannu i feysydd eraill er mwyn gallu ennill hygrededd ar draws y GIG cyfan. Felly, i mi, mae'r adroddiad hwn wedi nodi'n glir iawn ein bod ni i gyd yn gwybod y cyfeiriad teithio, ond nid yw'r map ffordd yn glir i lawer iawn o sefydliadau y mae angen i ni weithio gyda nhw. Felly, fel bob amser, y cwestiwn yw: beth yw'r rhwystrau hynny i’r broses o wella? Rwy'n edrych ymlaen at ail gam yr adroddiad. Cyfarfûm â Ruth Hussey y bore yma ac roedd hi’n glir iawn eu bod nhw’n dymuno canolbwyntio ar rywfaint o'r manylion hynny yn ail gam yr adroddiad.
Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy’n credu bod yna rai gwersi clir y gallwn ni ddechrau dysgu ohonyn nhw yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ychydig o'r cwestiynau hynny, gan fod yna gymaint y gallech chi siarad amdano yn yr adroddiad hwn—mae'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i ddirnad y darnau gorau i siarad amdanyn nhw yn yr amser a roddir. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ei chael hi’n anodd gwthio rhai polisïau da yn eu blaenau. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw hyn: sut y byddwch chi’n rhoi rhagor o sgiliau i’ch adran a'ch swyddogion, fel bod ganddynt fwy o allu i arwain ac argyhoeddi ar gyfer newid? Fy ail gwestiwn yw, o ystyried y cyntaf: sut y byddwch chi’n mynd ati i reoli'r tensiynau a grëwyd gan y penderfyniadau hyn ar gyfer Cymru y mae’r adroddiad yn sôn amdanynt, ac rwy’n gallu deall yr angen hwnnw yn llwyr? A pha fath o benderfyniadau yr ydych chi’n rhagweld y gallen nhw fod—mawr, mân—a pha fath o raddfa? Ac o ystyried y tensiynau hynny o'r cwestiwn cyntaf a'r ail: sut y byddwch chi’n ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu denu i’ch ochr chi? Gan fy mod yn sylwi mai’r un peth nad ydych yn sôn amdano yn eich datganiad yw ymgysylltu â'r cyhoedd ar unrhyw lefel sylweddol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r adroddiad hwn yn ei bwysleisio’n gryf iawn, iawn, iawn, ac rwy'n poeni nad ydych chi’n sôn amdano yn eich datganiad. Hoffwn i gael sicrwydd gennych chi y byddwch yn ymgysylltu â'r cyhoedd, ac y bydd llais y claf, llais y defnyddiwr, a llais y rhai nad ydynt eto wedi defnyddio'r GIG yn cael ei glywed yn hyn i gyd.
Mae'r adroddiad yn nodi meysydd sydd eisoes angen gwaith ac nid wyf yn credu bod angen i ni aros am ail adroddiad i ddod i’r casgliad bod angen i ni edrych ar sut yr ydym yn dod â chyd-gynhyrchu i iechyd a gofal cymdeithasol; sut yr ydym yn trawsnewid a throsglwyddo gwybodaeth. Tybed a wnewch chi amlinellu pa gamau yr ydych yn credu y gallech chi eu cymryd yn barod; sut y gallech chi gefnogi'r sector gofal hynod fregus; sut y gallech chi gefnogi—ac rwy’n dwlu ar yr ymadrodd hwn—y llu gofalu: y bobl sy'n rhoi gofal gwirfoddol i bob un o'r teuluoedd hynny yn y cartref ac i'r rhai hynny y maen nhw’n eu caru, a beth y gallwn ni ei wneud yn awr i'w cefnogi? Byddai gennyf ddiddordeb mawr i wybod beth y gallem ei wneud nawr i edrych ar anghenion hyfforddi a thâl ac amodau gwaith ein llu gofalu, y sector gofal cyflogedig, gan fy mod yn credu eu bod yn cael eu gadael ar ôl yn y ras i geisio gwella ein GIG ar hyn o bryd.
Roeddwn i’n falch iawn o weld bod yr adroddiad hwn yn sôn yn helaeth am dai a sut y byddwn ni’n derbyn iechyd a gofal cymdeithasol yn ein cartrefi yn y dyfodol. Hoffwn i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi gynlluniau i siarad â'ch cydweithwyr am sut y gallwn ni ddechrau mynd i'r afael â rhai o’u hanghenion o ran tai. Er enghraifft, rwy’n gwybod yn fy etholaeth fy hun bod yr holl dai sy'n cael eu hadeiladu, pa un a ydyn nhw yn cael eu hadeiladu yn breifat, gan y cyngor sir neu gan gymdeithasau tai, mai canran fach iawn sy’n cael ei hadeiladu i fod yn gartref i bobl ag anableddau, neu i fod yn gartref i bobl â dementia, yr henoed, i osod lifftiau grisiau—beth bynnag y byddai angen ei wneud—ac eto mae'n ymddangos i mi, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, bod yn rhaid i ni sicrhau bod mwy o'n stoc tai cyhoeddus a phreifat yn gallu gofalu amdanom ni. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn glir iawn ynghylch faint o bobl yn mynd i fod ag angen mwy a mwy o gefnogaeth yn eu cartrefi.
Rwyf wedi sylwi ar eich sylw neu eich amnaid hynaws iawn, iawn yn y fan yna, Dirprwy Lywydd; fe af i’n gyflym iawn drwy'r darn bach diwethaf, ac, mewn gwirionedd, dim ond i ofyn un peth arall. Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i'r Prif Weinidog heddiw ai hwn fyddai cyfeiriad y daith ai peidio. Nawr, rwy’n credu bod hwn yn gonglfaen gwych ar gyfer dechrau adeiladu dyfodol ar gyfer ein GIG. Rwy'n credu bod gweithlu'r GIG, rwy'n credu bod y gwleidyddion ac rwy'n credu bod y cleifion i gyd wedi blino ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd, a bod angen i ni gael dyfodol cliriach, mwy disglair. A byddwn wir yn hoffi deall pa ymrwymiad sydd gennych i fwrw ymlaen â’r adroddiad hwn. Rwy'n siwr y byddwn ni’n dadlau dros y blynyddoedd, ynghylch y modd o ddarparu rhannau ohono, ac ynghylch pa un a ddylai un peth neu beth arall fod yn flaenoriaeth. Ond rwy’n credu bod yr amlinelliad sydd wedi ei lunio yma yn gryf iawn, iawn, a hoffwn i wybod a chael sicrwydd gennych chi—gan nad wyf yn credu i ni gael yr ateb cywir gan y Prif Weinidog—bod hyn mewn gwirionedd yn mynd i gael ei fabwysiadu a’i ddefnyddio ac nad yw’n mynd i gael ei adael ar silff i hel llwch, fel y digwyddodd i gymaint o adroddiadau eraill yn y gorffennol.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Ac rwy’n croesawu eich cydnabyddiaeth ar y dechrau bod y panel wedi bod yn agored ac yn dryloyw, ond hefyd bod hyn wedi, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, dod o ymgysylltiad trawsbleidiol gwirioneddol. Dechreuodd fel cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, ond fe fu, nid yn unig gan y ddau barti ond gan bawb yn y Siambr hon, parodrwydd i eistedd i lawr a chytuno ar y cylch gorchwyl, a’r panel i ymgymryd â’r adroddiad penodol hwn. Felly, roedd yna her y gwnaeth pob un ohonom ei derbyn drwy ddechrau ar y broses hon, ac rwy’n gobeithio eich bod o’r farn bod y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu â phob un o'r pleidiau hynny wedi bod yn wirioneddol agored hefyd, oherwydd mae hwn yn fater i bob un ohonom, nid dim ond i un blaid benodol fynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu y bu’n ddefnyddiol iawn cael grŵp gwirioneddol annibynnol o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol i ddilysu'r pryderon, yr heriau a'r rheidrwydd i newid yr ydym wedi dadlau a thrafod yn eu cylch yn nhymhorau blaenorol y Cynulliad, ac rwyf yn meddwl tybed a wnaiff Cadeirydd y pwyllgor ddweud rhywfaint wrthym am ei swyddogaeth flaenorol yn Aelod Cynulliad pan grybwyllwyd materion tebyg.
Ond yr her sydd gennym erbyn hyn yw bod yr her yn fwy difrifol. Mae hyd yn oed mwy o alw ar ein system. Mae hyd yn oed mwy o alw yn sgil oedran y boblogaeth, heriau iechyd y cyhoedd, galw a gaiff ei ysgogi gan ymddygiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, ond hefyd yn sgil y realiti bod yr arian yn prinhau o hyd. Felly, bydd esgus y gallwn gynnal yr un system sydd gennym yn awr ymhen pump a 10 mlynedd yn arwain at gyfaddawdu ar ran ein holl etholwyr a'u buddiannau. Ac rwy’n croesawu'r gydnabyddiaeth o’r newid a’r arloesi sydd eisoes ar y gweill.
Rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch ddechrau ei wneud am y cydbwysedd rhwng arweinyddiaeth ac arloesi lleol a rhanbarthol sy’n dechrau o'r gwaelod ac yn gweithio i fyny, a chyfrifoldebau grwpiau lleol, boed yn glystyrau gofal sylfaenol, yn fyrddau iechyd neu yn sefydliadau yn y canol, ond hefyd y pwynt am yr arweinyddiaeth ganolog a wneir yn yr adroddiad, ond hefyd yn yr adroddiad OECD blaenorol—. Ac mae Aelodau'r Siambr hon yn gofyn yn rheolaidd ynghylch bod eisiau i'r Llywodraeth ymyrryd a darparu arweinyddiaeth ganolog a chyfarwyddyd ar amrywiaeth gyfan o faterion, gan gynnwys yr hyn sy'n digwydd mewn ward benodol, meddygfa benodol a heriau sy’n effeithio ar y bwrdd iechyd cyfan. Mae angen i ni gael cydbwysedd o ran sicrhau y darperir cyfarwyddyd canolog i helpu i leddfu rhai o'r heriau sydd wedi atal newid rhag digwydd yn y gorffennol, heb ddweud yn syml wedyn y bydd y Llywodraeth, yn ganolog, yn penderfynu ar bopeth sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. A dyna’r her y gwnaethom ei chydnabod o'r blaen, ac, yn yr un modd, y mae wedi’i nodi ar ein cyfer yn eglur iawn yn yr adroddiad interim. Edrychaf ymlaen at y cam nesaf a'r modelau gofal a ddylai roi rhagor o atebion ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud hynny. Ond wrth i ni aros pump, chwe mis arall i hynny ddigwydd, mae busnes i'w wneud o hyd yn awr i geisio gwella ein system. Yr hyn y mae'r adroddiad interim yn ei wneud, fel yr ydych chi’n ei gydnabod, yw ein galluogi i wneud rhywfaint o'r cynnydd hwnnw yn awr i ddilysu cyfeiriad y teithio, ac i feddwl am sut yr ydym yn darparu'r camau ychwanegol, y cynnydd cychwynnol, yr hoffem ei wneud, a grymuso pobl yn lleol ac yn genedlaethol hefyd.
Ac rwy’n derbyn o ddifrif eich pwynt ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd. Pan fyddwn yn sôn am yr adroddiad interim sy’n cael ei ddefnyddio erbyn hyn i siarad â rhanddeiliaid. Wel, y cyhoedd yw'r grŵp mwyaf o randdeiliaid, ac rwy’n gobeithio bod cael adroddiad yn awr sy'n amlinellu, unwaith eto, natur dros dro yr adroddiad hwn i ymgysylltu ar ac ynghylch, nid dim ond y cwestiwn mawr 'Beth yw eich barn am iechyd a gofal cymdeithasol?', ond dyma adroddiad sy'n dweud, 'Dyma’r heriau mawr yr ydym ni’n eu hwynebu; dyma’r sbardun ar gyfer newid; dyma’r angen a'r rheidrwydd i newid; dyma’r hyn sy’n gweithio eisoes; dyma’r hyn y mae angen i ni ei wella', a dylai hynny arwain at sgwrs fwy goleuedig, nid yn achlysurol yn unig wrth i’n digwyddiadau cyhoeddus gael eu cynnal, ond yn ffordd fwriadol wedi’i chynllunio o ymgysylltu â dinasyddion hefyd, ac mae hynny'n bwysig, yr un mor bwysig â siarad â grwpiau staff a'r trydydd sector yn uniongyrchol hefyd. Felly, rwy'n glir iawn, ac rwy'n credu bod y panel hefyd yn glir bod hynny'n rhan o'u cenhadaeth yn ystod yr haf.
Ond yr hyn sydd hefyd wedi’i gynnwys, ac rwy’n troi at eich cyfeiriad at ofal iechyd darbodus, wel, rydym yn gweld eisoes yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, y cynllun yn hynny, ond hefyd ym maes gofal iechyd darbodus, camau sy’n cynnwys ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd fel dinasyddion sy'n gwneud eu dewisiadau eu hunain, yn hytrach na bod dewisiadau yn cael eu gwneud ar eu cyfer. Mae hynny'n glir iawn ac wedi’i nodi yn yr adroddiad, ond hefyd yn y gwaith yr ydym yn ceisio ei wneud i'w gyflwyno ar draws ein system gyfan. Mae hynny hefyd yn arwain at eich pwynt am y sector gofal, lle mae Rebecca Evans eisoes yn arwain y gwaith yr ydym wedi dweud yn gyson yr ydym yn dymuno ei weld yn y sector gofal cyflogedig—i godi statws y proffesiwn, ac mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant a'r buddsoddiad a wnawn yn y gweithle. Rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud am dai fel ffactor allweddol o ran canlyniadau iechyd, yn ogystal â mannau lle y darperir iechyd a gofal cymdeithasol.
Rwyf am gloi gyda’r pwynt hwn, Dirprwy Lywydd, ond mae eich pwynt ynghylch cyfeiriad y teithio yn y dyfodol—. Rwy'n falch o gadarnhau mai’r sgwrs aeddfed a arweiniodd at ddechrau’r adolygiad hwn yn y lle cyntaf yw'r man yr wyf yn dymuno symud ymlaen ohono heddiw a phan fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i ni. Oherwydd os ydym yn credu bod yr heriau yn rhy bwysig i'w hanwybyddu, mae her i bawb yn yr ystafell hon a'r tu hwnt o ran sut yr ydym wedyn yn siarad ynghylch, yn trafod ac yn cytuno ar yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf. Rwy’n disgwyl y bydd yr adolygiad hwn ac ymateb y Llywodraeth iddo yn ffurfio cyfeiriad y teithio ar gyfer rhyw ddegawd arall, ac i wneud hynny, dylem ymgysylltu yn gyfan gwbl ar draws pleidiau ynghylch sut yr ydym yn dymuno dod o hyd i'r meysydd mwyaf ar gyfer consensws a chytundeb ar symud ymlaen. Yr hyn na allaf ei wneud, fodd bynnag, yr hyn na all unrhyw un yn yr ystafell hon ei wneud, yw dweud y bydd yn derbyn popeth ac unrhyw beth y dywed yr adroddiad. Mae'n rhaid i ni gynnal prawf synnwyr ar yr hyn sy’n dod yn ôl am hynny, ac mae'n rhaid i ni ymateb yn agored ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud a pha mor gyflym yr ydym yn credu y gallwn ni wneud hynny gyda'n gilydd. Ond bydd hyn yn sicr yn rhan allweddol o osod y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, a sut y mae pob un ohonom yn ymateb yn y Siambr hon, gan gynnwys, wrth gwrs, y Llywodraeth.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma, ac fe wnaf innau hefyd ddefnyddio’r cyfle yma i ddiolch i Ruth Hussey a’i thîm am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud hyd yma. Rydw i’n falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa rŵan lle rydym ni yn gallu cael y datganiad yma, ac rydw i’n falch o weld y sylw yn y wasg ac ati heddiw i’r adroddiad yma, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet, rydw i’n meddwl, yn iawn i’n hatgoffa ni mai cynnar ydym ni mewn difri yn y gwaith mae’r panel yn ei wneud, ac mai adroddiad interim ydy hwn.
Rydw i’n croesawu nifer o’r canfyddiadau sydd wedi cael eu dwyn i’n sylw ni—mae llawer ohonyn nhw, fel dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yn eithaf amlwg, ond beth sydd yn bwysig rŵan ydy beth sy’n cael ei wneud o’r canfyddiadau yma wrth i waith y panel barhau, pa fath o argymhellion fydd yn cael eu gwneud ar sail y canfyddiadau, a pha fath o fodelau fydd yn cael eu datblygu. Rydw i’n edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd dros y misoedd nesaf, ond dyna fo.
Er mai adroddiad interim ydy hwn, rydw i’n meddwl bod rhai o’r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn rŵan yn ymwneud â’r camau a all gael eu cymryd rŵan gan y Llywodraeth mewn difri, o ystyried yr hyn glywsom ni gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, yn dweud bod yr achos dros newid yn sut mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu trefnu yn y dyfodol yn gwbl glir erbyn hyn. Wel, os ydy o’n glir, siawns bod yna rai camau y gall y Llywodraeth fod yn eu cymryd rŵan, heb ddisgwyl am yr adroddiad ei hun yn y pen draw.
Mae’r adroddiad, unwaith eto, yn pwysleisio gwerth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol—mi fyddwn i’n ychwanegu at hynny fod integreiddio adrannau tai llywodraeth leol i mewn i hynny yn bwysig hefyd. Ac rydym ni’n gwybod bod yna sylweddoliad o werth integreiddio, ond bod hynny ddim yn digwydd. Felly, er bydd yr adroddiad terfynol yn rhoi rhagor o gig ar yr asgwrn, tybed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno nad oes rhaid inni efallai aros i’r Llywodraeth ddechrau edrych ar sut y gall y canllawiau, y ‘protocols’, y camau gweithredu i sefydliadau, er mwyn eu galluogi nhw i weithio efo’i gilydd, gael eu tynhau rhywfaint a bod y gwaith yna yn digwydd rŵan.
Ynghlwm â hyn y mae’r broblem o sefydliadau unigol yn cymryd penderfyniadau ynglŷn â’u cyllidebau, sy’n rhai synhwyrol iddyn nhw eu hunain, ond sydd weithiau yn arwain at roi pwysau ychwanegol ar gyllidebau gwasanaethau eraill. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i ddechrau newid diwylliant o fewn y gwasanaethau cyhoeddus fel bod hyn yn stopio, oherwydd mae hynny’n mynd i fod yn gam pwysig tuag at wireddu’r syniad o integreiddio?
Mae’r adroddiad interim hefyd yn cefnogi llawer mwy o fuddsoddiad mewn gofal sylfaenol—‘primary care’. Rydym ni’n cytuno’n llwyr â hynny. Felly, pa newidiadau i’w adran o all yr Ysgrifennydd Cabinet eu gwneud rŵan er mwyn sicrhau ein bod ni’n dechrau meddwl mwy yn nhermau rhoi gofal sylfaenol yn gyntaf?
Ac yn olaf, mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod gwerth technoleg. Weithiau, nid ydy technoleg, ac yn arbennig y cyflymder newid rydym ni’n ei weld mewn technoleg a’r posibiliadau newydd mewn technoleg, yn cael eu deall yn ddigon da gan reolwyr a chomisiynwyr iechyd, ac o bosib bod hynny wedi golygu nad ydy’r sylw priodol wedi cael ei roi i’r maes yma yn y gorffennol. O ystyried hynny, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl y dylem ni ddechrau meddwl am bobl broffesiynol ym maes IT a phobl broffesiynol ym maes technolegau eraill—y dylem ni ddechrau eu gweld nhw fel gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n chwarae rôl gwbl allweddol mewn delifro gwasanaethau, gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau yn gweithio a sicrhau bod technoleg yn cael ei chynnwys i’r eithaf mewn llwybrau gofal i gleifion yng Nghymru?
Mi adawaf i’r cwestiynau yn y fan yna. Adroddiad interim, ie. Cam pwysig, ond rydw i’n meddwl bod yna gamau y gall y Llywodraeth fod yn eu cymryd mor gynnar â hyn yn y broses.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at y modelau gofal—y modelau newydd o ofal integredig—y bydd y tîm adolygu yn eu cyflwyno i ni yn eu hadroddiad terfynol, ac rwy'n siwr y byddant yn heriol i ni mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Dyna ran o'r pwynt o sefydlu'r broses. Mae i fod yn heriol ac yn anodd. Mae i fod i ofyn cwestiynau lletchwith i ni.
Mae nifer wedi dod yn ôl at y pwyntiau yr ydych chi ac Andrew wedi eu gwneud ynghylch sicrhau newid a’r anawsterau yn sgil gwneud hynny, yn rhannol oherwydd ei bod yn system fawr a chymhleth. Hyd yn oed yn y sector preifat—roeddwn i’n arfer gweithio mewn cwmni â rhyw 20 o swyddfeydd ledled y wlad—wrth gyflwyno newid o fewn system lle’r oedd pawb wedi’u cyflogi gan yr un sefydliad, byddech yn gweld bod y diwylliant yn wahanol mewn gwahanol swyddfeydd. Roedd cyflwyno un system, i reoli achosion er enghraifft, yn anoddach mewn gwirionedd nag y byddech yn meddwl y byddai. Felly, bydd cyflawni rhywbeth ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol—nid iechyd yn unig, ond iechyd a gofal cymdeithasol—yn anodd, wrth reswm, ond yr her i ni yw cydnabod, fel y dywedais yn gynharach, y rheidrwydd i newid a'r ffaith nad ydym wedi gwneud cymaint ag y byddem wedi dymuno ei wneud cyn hyn.
Dylem ni fod yn onest am y ffaith, hyd yn oed ar sail tystiolaeth wirioneddol, fod pob un ohonom yn cael ein tynnu i wahanol gyfeiriadau gan bwysau lleol. Bob tro y mae cynnig gwasanaeth sylweddol ar gyfer newid, wrth reswm, bydd pwysau ar Aelodau o bob plaid i ymladd yn lleol ac i ddweud bod rheswm gwahanol pam na allai neu pam na ddylai newid ddigwydd. Nawr, mae'n rhaid i ni fod yn barod i gydnabod hynny, a phan fydd y modelau gofal newydd hynny yn cael eu cyflwyno i’w hystyried, a'r awgrym ac argymhelliad gan y panel adolygu eu bod yn wedyn yn cael eu treialu ac wedyn eu cyflwyno’n sylweddol ac yn gyflym ledled y wlad, bydd hynny’n anodd i bob plaid, nid dim ond i un yn y Siambr hon, ac i bobl leol mewn amrywiaeth o wahanol ardaloedd. Ond yr her fel arall yw ein bod yn mynd yn ôl i, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym yn arafu cyflymdra y newid ac rydym yn caniatáu i newid ddigwydd i ni yn hytrach na gwneud dewis goleuedig am yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yn wahanol'. Mae hynny'n mynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi wedyn.
Rwy'n credu bod gennych bwynt diddorol ynghylch sut yr ydym yn cymell neu’n mynnu integreiddio yn y system iechyd—mewn gwirionedd, rhwng gwahanol rannau o'r gwasanaethau eilaidd a gwasanaethau aciwt eraill, yn ogystal â gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill hefyd. Mae rhywfaint o hynny eisoes yn digwydd. Mae gennym gyllidebau cyfun yn dod i mewn i’r cynllun yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf mewn nifer o wasanaethau. Mae gennym fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a byrddau rhanbarthol sydd eisoes yn cydweithio fel partneriaethau ac yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud, os mynnwch chi, â’r ymagwedd o'r gwaelod i fyny fwy real, lle mae pobl yn eistedd gyda'i gilydd ac yn sylweddoli y gallent ac y dylent wneud mwy gyda'i gilydd, a bod mwy o werth i'w gael wrth i’r amryw gyllidebau hynny yn y sector cyhoeddus weithio ar y cyd â’r broses o wneud penderfyniadau.
Yr hyn y mae'r adolygiad hefyd yn ei nodi yw bod hynny, ar ei ben ei hun, yn annhebygol o fod yn ddigon. Felly, mae digon yn gyffredin yn y fframwaith canlyniadau, y cymwyseddau a'r dangosyddion perfformiad allweddol yr ydym yn eu gosod i bobl ar draws gwahanol sectorau i alluogi a gorfodi pobl i gydweithio ar yr un pryd. Mae gennym hefyd yr her o weithio gyda'r heddlu—y grŵp amlycaf sydd heb ei ddatganoli sydd â buddiant gwirioneddol mewn canlyniadau iechyd a gofal, ac sy’n effeithio arnynt. Felly, mae hynny hefyd yn cyfrannu at rai o'r camau yr ydym eisoes wedi eu cymryd wrth, er enghraifft, gymell gofal sylfaenol i gydweithio'n wahanol. Rydym wedi ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gyda'i gilydd mewn clystyrau. Cawsom bwyntiau a oedd yn dibynnu ar gyfraniad y fframwaith ansawdd a chanlyniadau, ond hefyd arian a oedd yn gysylltiedig â hynny. Felly, yr oedd yna gymhelliant hefyd i ddweud, 'Dyma’r arian. Cewch chi ddewis sut yr ydych yn ei wario yn lleol i ddiwallu anghenion eich poblogaeth leol.’ Felly, mae rhywfaint o hynny eisoes yn digwydd ac mae'r tîm adolygu yn gadarnhaol am waith y clystyrau. Yr her unwaith eto yw: sut ydych chi wedyn yn deall beth yw arloesi lleol, ac yna sut ydych chi'n cyrraedd y pwynt o werthuso hynny a phenderfynu beth i'w wneud, beth y dylid gwneud mwy ohono, ac yna beth i beidio â buddsoddi ynddo, hefyd? Dyna’r dewis mwy anodd y mae’n rhaid i ni ei wneud yn aml.
Yn olaf, ynglŷn â’r maes arbennig hwn, rwyf eisoes wedi gwneud gofynion, ac yn disgwyl i rai pethau ddigwydd. Rydym yn gwybod ein bod wedi cael her o ran gweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd. Dyna pam y mae Hywel Dda ac ABM yn cydweithio. Maen nhw wedi cael cyfarfod cydgynllunio eisoes ac maen nhw wedi bod yn gall ac yn ddoeth iawn, gan dderbyn fy ngwahoddiad i gwrdd yn rheolaidd i gydgynllunio gwasanaethau—ac mae'r un peth yn wir yn y de-ddwyrain hefyd, gyda Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro. Oherwydd bod yna wasanaethau, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y rhai arbenigol, ond yn y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau dewisol arferol hefyd, lle y gellid ac y dylid cynllunio ar draws y ffiniau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn gwneud synnwyr. Ac os na allwn ni ysgogi’r math hwnnw o waith yn ein gwasanaeth, rydym yn annhebygol o weld y math o newid sylweddol yr ydym yn dymuno ei weld, ac yr ydych chi a fi a phawb arall yn yr ystafell hon yn credu ei fod yn angenrheidiol ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
Mae hynny’n rhan o sut a pham yr ydym yn buddsoddi mewn gofal sylfaenol, y dewis yr ydym eisoes wedi ei wneud, ond mae angen mwy o hynny gan fod y pwysau bron bob tro i fuddsoddi mewn staff a gwasanaethau drud mewn ysbytai. Mae angen i ni wneud mwy i gynnal llinell a gweld y buddsoddiad hwnnw yn dod i ofal sylfaenol a gofal yn y gymuned. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed yn dda gennych yn tynnu sylw at dechnoleg a'r gallu nid yn unig i gael dull ‘unwaith i Gymru’ mewn systemau allweddol, nid yn unig i gael system lle gallwch chi drosglwyddo gwybodaeth rhwng y sector gofal sylfaenol a gofal eilaidd a gofal cymdeithasol, ond hefyd i’r dinasyddion eu hunain gael mwy o reolaeth dros eu gwybodaeth a mynediad at sut i ddefnyddio'r system. Rydym eisoes yn gallu gwneud hynny mewn cynifer o wahanol elfennau o fywyd. Gallwch fancio ar-lein a chael mynediad at wybodaeth sensitif iawn. Yr her i ni yw: sut ydym ni’n galluogi dinasyddion i gael mynediad at eu gwybodaeth gofal iechyd eu hunain mewn ffordd a ddylai eu helpu i reoli eu cyflyrau eu hunain a gwneud dewisiadau mwy goleuedig? Mae potensial gwirioneddol yno, ond unwaith eto, mae angen i ni fodloni llawer yn well y disgwyliadau o ran sut y mae pobl eisoes yn byw eu bywydau ac rwy’n dymuno galluogi hynny i ddigwydd yn gyson ledled y wlad hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn fynd ar drywydd y pwynt ar ymgysylltu â'r cyhoedd. Nid ydym wedi bod yn brin o ddadansoddiad arbenigol dros y degawd diwethaf, mwy neu lai, ar yr heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru, ond un o'r pethau y mae'r system wedi ei weld yn heriol dros ben i’w wneud yw ymgysylltu â chymunedau. Mae Llanelli yn astudiaeth achos enwog ar sut i beidio â gwneud hynny, wrth ail-lunio'r gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, a, gan roi clod mawr i'r tîm yno, maen nhw’n astudiaeth achos ar sut i wneud hynny, o ran y ffordd y gwnaethon nhw wedyn fynd yn ôl i’r dechrau, a gwrando ar y clinigwyr a'r gymuned wrth ddod o hyd i ateb newydd, sydd bellach yn cael ei weld fel model ar gyfer lleoedd eraill.
Rwyf wedi fy synnu’n arw yn yr wythnosau diwethaf gan y newidiadau yr ydym yn eu gweld mewn gofal sylfaenol, lle mae meddygfeydd yn gorfod cau rhestrau neu orfod rhoi eu contractau yn ôl, ac mae'r ffordd y mae hynny’n cael ei gyfleu i’r cleifion yn gadael cryn le i wella. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â phrif weithredwr Hywel Dda i drafod, ac mae ef yn deg yn nodi mai busnesau sy’n cael eu rhedeg yn breifat yw’r rhain—pwynt nad yw wedi ei ddeall yn dda iawn, yn fy marn i, ymhlith y cyhoedd—a does dim llawer y gall y bwrdd iechyd ei wneud os nad yw’r busnesau preifat hyn yn fodlon cydweithredu. Y meddygfeydd hyn sydd yn aml yn cyfathrebu’r negeseuon anodd hyn drwy ddulliau amherffaith. Felly, er enghraifft, poster ar y drws fel rhybudd i bobl bod y feddygfa ar gau i gleifion newydd.
Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym am gam nesaf y gwaith, sut mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn mynd i fod yn rhan annatod o’r dull sydd ei angen, a hefyd a yw’r modelau yr ydym yn gweithio â nhw yn mynd i gael eu hadolygu yn rhan o hynny, oherwydd os oes gennym ni fodel gofal sylfaenol sy'n dibynnu ar fusnesau preifat, a fyddent neu efallai na fyddent yn awyddus i gydweithredu â'r agenda hon, a yw hi'n bryd i edrych eto ar y model hwnnw?
Diolch i chi am y cwestiwn; mae'n un yr wyf wedi ei drafod yn flaenorol gyda'r Aelod dros Lanelli, ac nid, i fod yn deg, o ran ei etholaeth ei hunan yn unig—nid ynglŷn ag Ysbyty’r Tywysog Philip yn unig, lle, fel y gwnaethoch gydnabod, yr oedd enghraifft dda o’r hyn i beidio â’i wneud, yn ogystal â'r ffordd y cafodd hynny wedyn ei gyflawni'n llwyddiannus, ac mae'r un peth yn wir yng Nghydweli hefyd, mewn rhai ffyrdd. Mae yna neges bwysig iawn yma, yn fy marn i, am fod yn gallu siarad â'r cyhoedd yn ddigon cynnar, ond mewn ffordd sy’n golygu bod ganddyn nhw ffydd yn nharddiad y neges. Mae gennyf i gyfrifoldebau cenedlaethol nad wyf yn bendant yn ceisio cerdded i ffwrdd oddi wrth gontract i’w hosgoi. Rwy'n hapus iawn i ysgwyddo’r cyfrifoldebau hynny; dyna yw braint y swydd. Ond yn yr un modd, os nad yw clinigwyr yn rhan o hynny, mae'n ei gwneud yn anodd iawn i bobl ymddiried yn y wybodaeth a'r hanfodion ar gyfer newid, ac mae gwir angen sgwrs sydd nid yn unig rhwng y gwasanaeth iechyd ar ffurf pobl sydd yn brif weithredwyr ac aelodau gweithredol o’r bwrdd. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wneud hynny, oes, ond mewn gwirionedd, clinigwyr lleol y mae pobl yn gyfarwydd â’u gweld ac yn ymddiried ynddynt. Oherwydd fel arall, nid wyf yn credu bod pobl yn ymddiried yn y rheswm a'r rhesymeg.
Mae'n hawdd deall pam mae aelodau o'r cyhoedd yn reddfol amheus a bron bob amser yn meddwl mai’r rheswm cyntaf yw, 'Mae hyn yn ymwneud ag arian, ac nid ydych yn fodlon gwario arian ar y gwasanaeth,' yn hytrach na’i fod yn ymwneud â llawer iawn mwy nag arian, ac mae yna bethau hyd yn oed pe byddem ni mewn cyfnod o ddigonedd o ran gwariant gwasanaethau cyhoeddus, byddai angen newid rhai o'r ffyrdd yr ydym yn darparu gofal, ac mae hynny'n rhan o'r her y byddwn yn ei hwynebu. Os na allwn ymgysylltu â’n cymunedau clinigol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i fod yn rhan o'r sgwrs honno, rydym yn annhebygol o weld newid ar y cyflymder a’r raddfa y dywedir wrthym, unwaith eto, sy’n gwbl hanfodol i ddyfodol ein system iechyd a gofal.
Dyna pam mae hi’n bwysig, fel y dywedais wrth ymateb i Angela Burns, yn y cam nesaf, mai’r grŵp mwyaf a phwysicaf o randdeiliaid fydd y cyhoedd—ymgysylltu dinasyddion eu hunain cymaint â phosib yn y sgwrs. Rwy'n credu bod y ffordd y mae hyn wedi ei drafod heddiw wedi bod yn ddefnyddiol yn hynny o beth, ond gadewch i ni beidio ag esgus mai hon fydd yr eitem gyntaf ar yr agenda newyddion am y chwe mis nesaf. Fe fydd her o ran sut yr ydym yn gwneud yn siwr bod ymgysylltu yn real ac yn ystyrlon, hyd yn oed os ydym yn onest yn derbyn nad yw pob person yng Nghymru sydd â budd heddiw yn ymgysylltu yn yr un ffordd pan ddaw, dyweder, mis Tachwedd, pan fydd yr adroddiad yn cael ei lunio a’i baratoi i ddod yn ôl atom ni, ond nid yw honno'n ddadl a all ddod i ben bryd hynny. Nid yw’n syml yn fater o gael yr adroddiad a dweud, 'Iawn, dyna ni. Nid oes gennym ddiddordeb mewn unrhyw un arall.’ Mae rhaid i’r ymgysylltu fod yn broses barhaus, ac mae hyn yn mynd yn ôl i’ch pwynt chi am y ffordd y mae pobl yn cymryd rhan mewn newid ar lefel leol, ac yn aml mae pobl yn synnu clywed bod newid yn ofynnol neu'n angenrheidiol neu wedi ei gynnig, a'r ymateb cyntaf yw brwydro yn erbyn y newid hwnnw, ac eto, rwy’n deall hynny’n llwyr. Mae'n ymateb a geir ym mhob un cymuned ym mhob rhan o’r wlad.
Os nad ydym yn llwyddo i gael clinigwyr i ymgysylltu mewn ffordd fwy agored i drafod a dadlau’r materion hyn gyda'r cyhoedd, nid ydym yn mynd i weld y newid hwnnw o gwbl, ac o ran eich pwynt am y model gofal sylfaenol, mae newid eisoes yn digwydd. Mae rhai ohonoch chi’n gweld hyn fel tipyn o fygythiad i'r model contractwyr annibynnol. Wel, mewn gwirionedd, mae’r newid mwyaf i'r model hwnnw yn dod oherwydd newydd ddyfodiaid i'r proffesiwn, llawer ohonynt nad ydyn nhw eisiau dilyn y ffordd honno o weithio, naill ai oherwydd nad ydyn nhw’n dymuno prynu i mewn i adeilad a rhwymedigaethau posibl hynny ar gyfer y dyfodol, neu oherwydd eu bod yn syml eisiau bod yn fwy hyblyg ynghylch eu gyrfa. Nid yw pob person sy'n dod allan o hyfforddiant i fod yn feddyg, neu unrhyw fath arall o broffesiwn gofal iechyd, yn awyddus i ddweud, 'Rwy'n ymrwymedig i fod mewn un gymuned am weddill fy mywyd gwaith fwy neu lai.’ Mae angen i ni gydnabod y newid hwnnw a dod o hyd i ffordd i ganiatáu i’r modelau gwahanol hynny o ofal weithio. Ac i fod yn deg, rwy’n credu mewn gwirionedd fod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r BMA yn bod yn ymarferol iawn ynghylch y drafodaeth honno, gan gefnogi eu haelodau sydd eisiau cynnal y model contractwyr annibynnol, ac ar yr un pryd, galluogi’r aelodau eraill hynny o’u cyrff aelodaeth i ddod o hyd mewn gwirionedd i ffyrdd gwahanol o weithio gyda byrddau iechyd yn y tîm amlddisgyblaethol ehangach hwnnw. Felly, rwyf wir yn credu bod achos am rywfaint o obaith, ond nid yw hynny'n golygu y bydd hynny'n gwneud pethau’n hawdd.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am roi diweddariadau rheolaidd i mi a fy nhîm ar gynnydd yr adolygiad. Mae'r adroddiad interim yn nodi'n blaen yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod o esblygu gyda'n systemau iechyd a gofal: rydym yn addasu neu rydym yn marw. Nid yw hon yn broblem y gellir ei datrys drwy daflu arian ati. Fel y mae Dr Hussey yn nodi’n gywir, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau systemig brys i'r ffordd yr ydym yn darparu gofal. Mae'n rhaid i ni weithio’n gallach. Mae'n rhaid i ni wario’n gallach. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r adroddiad interim hwn a'r canfyddiadau a nodir gan Dr Hussey a'i thîm. Erbyn hyn mae gennym farn llawer cliriach o'r her sy'n ein hwynebu ni fel cenedl a'r her sy'n ein hwynebu ni fel gwleidyddion.
Rwy’n argyhoeddedig bod yn rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Ein cyfrifoldeb ni yma, yn y Siambr hon, bellach yw argyhoeddi'r cyhoedd am yr angen i newid ac i ymgysylltu â nhw wrth gynllunio ein system iechyd a gofal yn y dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu annog cymaint â phosibl o aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn yr adolygiad seneddol?
Mae'r panel yn awgrymu y gallai nifer newydd o fodelau gofal gael eu treialu a'u gwerthuso. Ysgrifennydd y Cabinet, os gallwch chi ateb ar hyn o bryd, pa mor hir y bydd y treialon yn weithredol, a sut ydych chi’n bwriadu cynnal treialon o'r fath ar yr un pryd?
Pa bynnag fodelau gofal newydd y byddwn yn eu mabwysiadu, byddant i gyd yn dibynnu ar dechnoleg newydd a data a rennir. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i wella Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i sicrhau y gall addasu i anghenion y dyfodol?
Sut bynnag y darperir gofal, mae angen gweithlu arnom i'w gyflawni. Mae angen i ni annog mwy o bobl ifanc i fod yn feddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a fferyllwyr. Mae hefyd angen arbenigwyr mewn dysgu peirianyddol a data mawr, arbenigwyr rhwydwaith cyfrifiadurol a rhaglenwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu sydd ei angen arnom yn y dyfodol?
Mae'n hanfodol ein bod yn cyflawni'r newidiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl os ydym am sicrhau y bydd gan genedlaethau'r dyfodol system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n diwallu eu hanghenion. O ran ein seilwaith, fel y soniwyd yn flaenorol, os yw pobl yn mynd i gael eu hannog i aros yn eu cartrefi, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i gydnabod anghenion newidiol mewn rheoliadau adeiladu i ddarparu ar gyfer anghenion pobl anabl. Mae ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd i orfod newid hefyd yn y dyfodol.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r adolygiad seneddol dros y misoedd nesaf, i dderbyn yr adroddiad terfynol, a gweithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni'r argymhellion a nodwyd gan Dr Hussey a'r panel. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Gwnaf hyn gan ddechrau gyda’r olaf. Unwaith eto, rwy’n cydnabod y pwyntiau ynghylch tai, ond rydych yn gwneud pwynt ynghylch trafnidiaeth ac anghenion trafnidiaeth, i arbenigwyr mewn canolfannau ysbyty, ond hefyd o ran mynediad corfforol i ofal lleol a sut y cyflawnir hynny, a faint fydd yn cael ei gyflawni mewn canolfannau y mae pobl yn teithio iddynt, a faint fydd yn y cartref. Mae hynny'n hanfodol a, byddwn i’n dweud, hefyd yn gysylltiedig â'r ffordd yr ydym ni’n darparu teleiechyd a gwneud hynny yn llawer mwy hygyrch a chyffredin. Mae gennym eisoes enghreifftiau da o hynny ac, eto, bydd hyn yn ychwanegu at sylwadau Rhun ap Iorwerth yn gynharach ar y pethau y gallem ni eu gwneud ar hyn o bryd. Ac, mewn gwirionedd, mae darparu dull mwy heriol o weithredu teleiechyd, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn un o'r pethau rwy’n credu y gallwn ni ei wneud, a byddwn i'n synnu os nad yw hynny'n rhan o'r drafodaeth derfynol yn yr adroddiad a'r argymhellion.
O ran eich pwynt am addysg ac annog pobl i astudio gwahanol bynciau, wel, wrth gwrs, mae hwnnw yn safbwynt a gymerir ar draws y Llywodraeth, nid dim ond drwy'r cwricwlwm cyn-16 a’r blynyddoedd cynnar, y mae gan Alun Davies a Kirsty Williams ddiddordeb uniongyrchol ynddynt. Mae’n ymwneud hefyd â’r ffordd yr ydym yn paratoi ac yn annog pobl, yn cynnig gofal plant a’r hyn y mae hynny'n ei wneud i wella cyrhaeddiad pobl ac agweddau eraill ar y dyfodol, yr holl ffordd drwy addysg yn yr ysgol a thu hwnt, lle, mewn gwirionedd, mae pobl wedyn yn gwneud dewisiadau gwahanol am yr hyn y maent yn dymuno ei wneud. Mae rhywbeth eto am y cwricwlwm ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Maent yn dilyn eu hyfforddiant eu hunain. Os ydym yn dymuno i bobl weithio mewn ffordd wahanol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, yna mae angen iddynt gael eu hyfforddi i weithio yn y ffordd honno wrth ymgymryd â'u cymwysterau hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn y fan yna.
O ran NWIS, sef Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, mae her yn y fan yna, a nodir yn yr adroddiad, ynglŷn â sut y maent yn addasu i anghenion y dyfodol, ac mae'n fwy na dim ond y pwyntiau a godwyd gan Angela Burns a Rhun ap Iorwerth. Mae hefyd yn ymwneud â'r gallu i feddwl mewn gwirionedd am sut rydym yn paratoi hynny, nid dim ond am ddarparu dulliau ‘unwaith i Gymru’ a gwneud yn siŵr bod byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cefnogi hynny, ond sut y mae mewn gwirionedd yn llwyddo i gynnal y gwaith sydd wedi ei wneud eisoes. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod llawer o'r hyn y mae NWIS yn ei wneud yn cynnal yr hyn sy'n bodoli eisoes, ac nid yw’r cyfle iddo ddatblygu a chyflwyno systemau newydd bob amser yn rhwydd—y gallu ac, os mynnwch chi, y capasiti a'r grym i wneud hynny. Mae'n gofyn rhai cwestiynau yn yr adroddiad am faint y mae'n ymwneud â datblygu naill ai gapasiti mewnol neu mewn gwirionedd yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â datblygwyr meddalwedd eraill sy'n gweithio i gomisiwn a ddarperir gan NWIS. Rwy’n credu bod hynny'n sgwrs synhwyrol iawn i gymryd rhan ynddi ac i fwrw ymlaen â hi.
O ran eich pwynt am ba mor hir y bydd y treialon yn weithredol ar y modelau gofal newydd, nid wyf mewn sefyllfa i ateb hynny. Ni wn hyd yn oed beth yw’r modelau gofal newydd eto. Yn bendant nid wyf wedi gweld copi ymlaen llaw o'r adroddiad sydd i’w gyhoeddi ymhen pump neu chwe mis, rwy’n eich sicrhau chi o hynny. Ond pan gaiff ei gyflwyno, cawn ni wedyn syniad gan y panel ei hun pryd yn union y byddai angen i ni aros nes cael digon o dystiolaeth i chwilio am newid ar draws y system i’r ffordd o ddarparu gwasanaethau. Felly, bydd yn rhaid i ni i gyd aros am rai misoedd eto i weld beth fydd y treialon, heb sôn am ba hyd y byddant wedyn yn weithredol.
O ran y pwynt am ymgysylltu â'r cyhoedd, eto, soniodd siaradwyr blaenorol am hyn hefyd, ac rwy’n sicr yn cydnabod bod angen i ni ystyried sut yr ydym yn gwneud hynny yn fwriadol ac yn benodol. Rwy'n credu bod galw ar y cyhoedd ac annog y cyhoedd i gymryd rhan yn un peth, nid yn unig am yr hyn yr ydym wedi ei wneud heddiw, ond wrth ymgysylltu yn y dyfodol hefyd. Nid wyf i’n credu bod neb o ddifrif yn disgwyl i mi guro ar bob drws yn y wlad a gofyn i bobl ymateb i'r adolygiad seneddol. A dweud y gwir, ni fyddai rhai pobl eisiau fy ngweld ar garreg eu drws o bosibl. Ond mae’r pwynt ehangach hwnnw am yr holl wahanol weithredwyr yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, a sut maen nhw’n rhan o fod eisiau pobl i ymgysylltu hefyd. Mae gan y trydydd sector gwmpas mawr, o bosibl, yn eu rhwydweithiau cymorth ac ymgysylltu eu hunain mewn ffyrdd nad oes gan sefydliadau eraill. Gallent fod yn bwysig iawn wrth gael y cyhoedd i gymryd rhan, dadlau a thrafod y syniadau hyn. Y peth olaf y byddaf yn ei ddweud yw, er nad wyf yn cytuno’n llwyr â'ch cyfatebiaeth â Darwiniaeth ac a fydd newid yn digwydd i ni neu a fyddwn yn gwywo, y pwynt am hyn yw bod gennym ddewis i’w wneud. Yn wahanol i’r bobl lle mae newid yn digwydd iddynt yn y broses esblygu honno, mae gennym ddewis gwirioneddol i’w wneud am y ffordd yr ydym yn dewis newid ein system neu a ydym yn eistedd yn ôl a chaniatáu i newid ddigwydd i ni. Rwy'n credu’n llwyr y dylem ddewis beth i'w wneud gyda’n dyfodol tra bod y gallu gennym i wneud hynny, ac nid aros i rywun arall wneud y newid hwnnw i ni.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a diolch i Dr Ruth Hussey am ei gwaith caled—hi a'i thîm—hyd yn hyn? A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, fodd bynnag, bod angen gweithredu ar frys ar rai materion yn awr? Rydym wedi clywed rhai ohonynt gan Rhun ac eraill, ond, yn benodol, recriwtio a chadw staff meddygol iau yn ein hysbytai. Nawr, ar ôl cymhwyso, byddwch yn peidio â bod yn fyfyriwr meddygol ac rydych chi’n mynd yn feddyg iau mewn ysbyty—bydd pawb yn feddyg iau mewn ysbyty, mewn geiriau eraill—cyn i chi barhau â hyfforddiant pellach i fod yn llawfeddyg ymgynghorol, meddyg teulu, meddyg ymgynghorol, neu beth bynnag. Felly, daw ein cronfa o feddygon o hynny. Ond mae ein meddygon iau o’r farn nad oes neb yn poeni amdanynt ar hyn o bryd, ac nid yw eu hymrwymiad aruthrol i’w galwedigaeth yn cael ei gydnabod gan reolwyr mewn ysbytai ar bob lefel, wrth iddynt ymdopi â llwythi gwaith enfawr, bylchau yn y rota, penderfyniadau risg uchel sy’n gallu golygu bod rhywun yn byw neu’n marw, ac yn gorfod brwydro am amser i ffwrdd i astudio a sefyll arholiadau a hyd yn oed amser i ffwrdd i briodi. Nawr, nid dyna oedd y sefyllfa yn fy nghyfnod i fel meddyg iau mewn ysbyty, a oedd beth amser yn ôl erbyn hyn, mae’n rhaid i mi gyfaddef. Ond, Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydym ni’n mynd i'r afael â'r materion hyn heddiw?
Diolch. I fod yn deg, mae'n fater sy'n cael ei godi yn rheolaidd gan y coleg brenhinol a'r BMA hefyd. Yr hyn a ystyriaf yn ddefnyddiol, ac eto, yn wahanol, ac i raddau sy’n rhoi cyfle i ni, yw bod ein perthynas ni yn wahanol o’i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ar draws y ffin mae'n berthynas llawer mwy gwrthwynebol. Mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei godi yn rheolaidd gan y meddygon iau eu hunain. Yr her yw sut yr ydym yn elwa ar hynny a chymryd mantais briodol o hynny ac yn annog pobl i ddod yma i weithio ac i aros ac, yn yr un modd, nad ydynt yn dweud hynny, gan nad Jeremy Hunt ydw i, bod popeth yn iawn, oherwydd mae heriau gwirioneddol yma. Mae'r adroddiad yn cydnabod unwaith eto rai o'r cyfleoedd sy'n bodoli o ran e-amserlennu, o ran rhoi gwahanol ddewisiadau i bobl ynghylch sut i reoli eu bywydau eu hunain, pan fydd gan bobl gyfrifoldebau eraill yn aml, ac nid eu gwaith yn unig. Unwaith eto, rydych chi’n sôn am ‘yr hen ddyddiau '. Rwyf yn petruso cyn dweud pa mor bell yn ôl oedd hynny. Ond, yn y gorffennol, roedd pobl yn disgwyl gweithio oriau hir iawn, ac roedden nhw’n derbyn mai dyna oedd yn rhaid ei wneud. Ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, boed hynny’n golygu dynion neu ferched y gweithlu, mae llawer o bobl â gwahanol gyfrifoldebau y tu allan i'r gwaith—gyda theuluoedd, yn benodol—yn gwneud dewisiadau gwahanol. Felly, nid ydych yn dod o hyd i feddygon sy'n barod i ddweud, 'Rhywun arall fydd yn magu fy mhlentyn i tra fy mod i yn y gwaith am 80 awr yr wythnos'.
Felly, mae angen i ni ystyried yn briodol y ffordd yr ydym ni’n rheoli hynny, a nifer y bobl yr ydym ni ei hangen yn ein gweithlu i sicrhau bod yr holl system yn gweithio. Rwy’n derbyn y pwynt yr ydych chi’n ei wneud am y ffordd wahanol y mae’r byrddau iechyd yn ymgysylltu â'u meddygon iau. Mae hwnnw’n fater a gyflwynwyd imi gan randdeiliaid, ac yn fater sy'n gyfarwydd o fewn y gwasanaeth, am y gwelliannau y mae angen iddyn nhw eu gwneud hefyd—ond hefyd y pwynt am seibiant i astudio a sut y gallwn feddwl yn greadigol am sut i wneud rhywbeth a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran pobl yn dewis aros yn y proffesiwn ac yn y wlad hon hefyd.
Diolch. Yn olaf, Eluned Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Credaf mai’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’n poblogaeth oedrannus yn y dyfodol fydd y ffordd y byddwn ni’n cael ein barnu fel cenedl, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn. Rwy'n credu bod rhai arbenigwyr blaenllaw iawn ar y bwrdd adolygu hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu hargymhellion terfynol. Ond rwy'n credu bod un peth wedi dod i’r amlwg yn glir iawn yn yr adroddiad hwn, ac mewn rhai eraill, a hynny yw bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy oherwydd yr heriau demograffig yr ydym ni’n eu hwynebu. Felly, yr hyn sydd ei angen yw rhywfaint o syniadau radicalaidd. Rwyf wastad wedi bod o'r farn y dylai gofal am yr henoed ffurfio rhan o strategaeth datblygu economaidd, yn ogystal â bod yn strategaeth gymdeithasol ac iechyd. Mae rhai o'r syniadau yr ydym wedi bod yn eu cynnig mewn cynlluniau peilot yn y cynllun datblygu economaidd ar gyfer Cymru wledig yn gwneud hynny. Mae'n dwyn ynghyd y syniad hwn o ddatblygiad economaidd a gofal yn rhan o un peth. A byddwn i’n annog y Gweinidog i siarad â'i gydweithwyr am sut y gallwn gael dull Llywodraeth gyfan o weithredu ar hyn yn gynhwysfawr; ni all fod yn gyfyngedig i faes iechyd a gofal yn unig. Mae'n rhaid i ni ei ymestyn y tu hwnt i hynny.
Nawr, yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf hefyd wedi dod â grŵp o arbenigwyr at ei gilydd i feddwl am rywfaint o syniadau creadigol ar y modd yr ydym ni’n mynd i'r afael â mater gofal yng Nghymru yn y tymor hir. Ac rwy’n credu ein bod ni’n ymwybodol iawn eich bod yn ymladd â thân, a bod problem yn bodoli nawr, mewn gwirionedd. Rydym ni’n ceisio meddwl yn ehangach mewn awyrgylch lle gallwn ni ddweud pethau sy'n anodd eu dweud. A’r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, yn dilyn trafodaeth gyda chadeirydd y tîm adolygu seneddol, yw canolbwyntio ar y meysydd lle nad yw'r adolygiad wedi canolbwyntio arnynt. Felly, er gwaethaf yr awgrym yn yr adroddiad interim fod angen cynllunio cyfalaf, nid yw mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar fater adeiladau a thai sy’n ymwneud â gofal, er y cydnabyddir y bydd yn rhaid gwneud mwy o ofalu yn y cartref. Ac, yn dyngedfennol, nid yw'r adolygiad hwn yn edrych ar fater ariannu gofal, chwaith.
Felly, yn fy marn i, dylem ni, yng Nghymru, fod yn arwain. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau anodd hyn. Ond dim ond trwy gydweithio ar y materion hyn y llwyddwn ni i wneud hynny, ac mae'n rhaid myn y tu hwnt i Blaid Cymru a’r Blaid Lafur. Rwy'n hynod falch ein bod ni eisoes yn ymestyn y tu hwnt i hynny. Ond mae'n rhaid i ni ateb i hyn yn drawsbleidiol neu, yn syml, ni fyddwn yn dod o hyd i ateb, oherwydd maent yn sgyrsiau anodd iawn iawn i’w cael â'r cyhoedd.
Ac yn olaf, ar y pwynt hwnnw o gyfathrebu, mae'n rhaid i ni werthfawrogi bod cyfathrebu gyda'r cyhoedd—. Wyddoch chi, mae cymaint o bobl nad ydynt yn deall bod yn rhaid i chi dalu am eich cartref gofal eich hun erbyn hyn. Nid ydyn nhw’n gwerthfawrogi hynny. Felly, os ydym yn awgrymu rhywbeth gwahanol, yna mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol, mae’n rhaid i bobl fod yn ymwybodol, o'r sefyllfa bresennol cyn i ni awgrymu pethau eraill yn y dyfodol.
Ac yn olaf—
A wnewch chi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Dim ond i gloi, o ran fy nghwestiwn i, roedd adroddiad yr wythnos hon nad oedd 32 y cant o ofalwyr hirdymor wedi cael diwrnod i ffwrdd ers pum mlynedd. A yw hyn yn rhywbeth y dylid hefyd rhoi sylw iddo?
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Unwaith eto, yn yr adroddiad, un o'r ffactorau sydd wedi ei gydnabod yw’r ehangu sylweddol o ran ein poblogaeth hŷn—rydym yn mewnforio pobl hŷn sydd eisiau ymddeol yng Nghymru, yn ogystal â’r ffaith bod mwy o bobl sydd wedi bod yma am gyfnod hwy o amser yn syml yn byw'n hirach. Fel y dywedais, mae'n destun dathlu, ond mae'n golygu her i ni. Ac rwy’n credu ei fod yn deg dweud, mewn trafodaethau, nid yn unig gyda'r Gweinidog, Rebecca Evans, ond hefyd gyda Ken Skates, bod cydnabyddiaeth o werth economaidd y sector gofal, gan gydnabod ei fod yn gyflogwr mawr yn barod, ac, os ydym ni’n gwella amodau gwaith a chyflog y bobl yn y sector hwnnw, mae 'na effaith economaidd hefyd, ac yn aml, yn fras, ar gyfer pobl dlotach. Mae’r bobl sy'n gweithio yn y sector gofal yn tueddu i beidio â bod yn bobl sydd â chefndir o fantais economaidd sylweddol—yn sicr y rhai sy’n gweithio i’r sector gofal cyflogedig—ac mae rhywbeth ynghylch codi statws y proffesiwn, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i Angela Burns, a hefyd yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran helpu'r sector i ddeall mewn gwirionedd beth fydd hyn yn y dyfodol. Dyna pam mae pethau fel datganiadau am sefyllfa’r farchnad yn bwysig o ran bwrw ymlaen â chynllun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, fel y gall pobl wneud dewisiadau a phenderfyniadau am y dyfodol, boed yn gwmnïau bach annibynnol o fewn y sector neu’n weithredwyr mwy hefyd.
Y pwynt am gynllunio cyfalaf—mae hyn yn ymwneud â'r ystad iechyd a gofal. Nid yw hynny’n golygu cartrefi pobl—wyddoch chi, lle mae pobl yn adeiladu ardaloedd i ddarparu iechyd a gofal mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd, ac, wrth gwrs, mewn gofal preswyl hefyd. Ond bydd angen meddwl, unwaith eto, am ein safonau ansawdd tai, gan nad yw ein cymdeithasau tai ond yn darparu’n unig, os mynnwch chi, dai cymdeithasol safonol ar gyfer pobl i fyw ynddynt. Mae llawer o'r tai a ddarperir ganddynt yn gartrefi gofal, ac maen nhw’n darparu llawer o ofal ychwanegol erbyn hyn hefyd. Mae hon yn nodwedd sy'n datblygu, a dyma fydd yr her: ai’r hyn sy’n cael ei greu yw’r hyn y credwn, o ddifrif, sy’n mynd i ddiwallu anghenion y boblogaeth bresennol ac ymhen pump a 10 mlynedd, ac yn hwy hefyd? Ac mae honno’n her nid o ran sut mae pobl yn gweithio ar draws y Llywodraeth, ond â phartneriaid y tu allan i'r Llywodraeth hefyd.
Ar eich pwynt am ariannu, fe wnaethon ni ddiystyru hynny’n benodol ac nid aethom i fanylion ariannu yn y dyfodol ar gyfer y system iechyd a gofal. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad eisoes yn sylweddol. Byddai ychwanegu hyn eto hyd yn oed yn fwy o broblem, ac, mewn gwirionedd, mae trethi cyffredinol yn ariannu rhan fawr o'r hyn yr ydym yn sôn amdano. Ac i geisio dweud wedyn bod gennym safbwynt gwahanol yma—mewn gwirionedd, mae cwestiynau ehangach ledled y DU am ariannu gwasanaethau cyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.
Eich pwynt olaf, ar ofalwyr—bydd gan y Gweinidog rywbeth cadarnhaol i'w ddweud, rwy’n credu, am sut yr ydym yn rhoi mwy o gymorth i ofalwyr yn y presennol i sicrhau bod cyfle iddynt gael seibiant a hwnnw’n seibiant priodol, gan nad yw hynny’n rhywbeth y dylem ei ohirio am bump neu 10 mlynedd i’r dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.