– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 19 Medi 2017.
Rydym yn symud ymlaen at eitem 4, sydd, unwaith eto, yn ddatganiad gan y Prif Weinidog—Bil yr UE (Ymadael). Galwaf ar Carwyn Jones i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am faterion sy’n ymwneud â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac yn benodol, y gyfres o welliannau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar y cyd y bore hwn.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r memorandwm hwnnw'n nodi'n fanwl yr agweddau hynny ar y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Cynulliad, ac mae'n disgrifio'n glir iawn pam nad ydym yn derbyn y Bil yn ei ffurf bresennol. Nid wyf yn bwriadu cyflwyno’r dadleuon hynny'n fanwl eto. Yn hytrach, hoffwn i ganolbwyntio ar yr ateb adeiladol, y mae’r gwelliannau a gyhoeddwyd yn eu cynrychioli, sef ateb i broblem a grëwyd yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU i’w hun, ac un y gellid fod wedi'i hosgoi pe bai ymgais wirioneddol i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ar gynnwys y Bil hwn. Nid ydym yn brathu. Byddai wedi bod yn llawer haws inni fod wedi cael y drafodaeth hon beth amser yn ôl.
Gadewch i mi, yn gyntaf, fod yn glir iawn am ein dull cyffredinol ni o ymdrin â’r materion y mae'r Bil yn ceisio mynd i'r afael â nhw. I wneud y pwynt cyntaf ac amlwg, nid yw cyflwyno'r gwelliannau hyn yn ymwneud â herio egwyddor Brexit. Nid ydynt yn herio canlyniad y refferendwm, ond mae'n rhaid i ni fod â Brexit sy'n parchu’r datganoli, a bwriad y gwelliannau hyn yw sicrhau hynny. Rydym bob tro wedi cydnabod yr angen i baratoi ein cyfreithiau ar gyfer ymadael â’r UE, ac yn cytuno bod angen deddfwriaeth i roi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i ni adael yr UE.
Cytunwn ei bod yn gwneud synnwyr i gyfraith yr UE gael ei throsi i amryw gyfreithiau'r DU ar adeg yr ymadael, ac mai trwy ddeddfu ar gyfer y DU gyfan yn Senedd San Steffan y bydd hyn yn digwydd orau. Ac rydym yn cytuno bod angen pwerau dirprwyedig ar Weinidogion i wneud y gwelliannau technegol niferus iawn y bydd eu hangen i sicrhau bod y gyfraith yn parhau i weithio'n briodol. Rydym ni bob amser wedi derbyn y bydd meysydd polisi a fydd yn gofyn am gytundeb gan y pedair Llywodraeth i sicrhau, pan fyddwn ni y tu allan i'r UE, na fyddwn yn gwneud unrhyw beth i atal llif rhydd masnach yn y DU. A gwnaethom esbonio sut y dylid ymdrin â hyn yn ein dogfen bolisi, 'Brexit a Datganoli', sy'n cyflwyno dull clir ac ymarferol, sy'n parchu datganoli ac yn ateb y cwestiynau ar sut i sicrhau tegwch ledled y DU o ran polisïau lle mae fframweithiau rheoleiddio yr UE, hyd yma, wedi darparu hyn.
Ond, nid yw'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn addas i'w ddiben. Ni fyddai'n sicrhau y caiff holl gyfraith yr UE ei throsglwyddo i lyfr statud y DU: mae hepgor y siarter hawliau sylfaenol yn un amlwg ac wedi’i wneud am resymau gwleidyddol. Byddai'n rhoi pwerau ysgubol i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac mae'n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Byddai'n disodli'r cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn, a fydd yn diflannu wrth i'r DU adael yr UE, cyfyngiadau, y dylid nodi, sydd yr un mor berthnasol i Senedd y DU, a dim mwy na allwn ni ddeddfu mewn ffyrdd sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE, gyda chyfres newydd o gyfyngiadau a fyddai'n berthnasol i'r sefydliadau datganoledig yn unig ac a fyddai’n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU.
Felly, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i ddatblygu cyfres o welliannau a fydd yn ceisio mynd i'r afael â diffygion y Bil sy’n ymwneud â datganoli. Disgrifiaf yn fyr beth mae'r gwelliannau hyn yn ceisio'i gyflawni, ond cyn i mi wneud hynny, mae angen i mi ddweud unwaith eto nad yw hyn yn ymwneud mewn unrhyw fodd â cheisio rhwystro neu wrthdroi'r broses o ymadael â’r UE. I'r rhai hynny sy'n parhau i honni hyn, estynnaf yn syml wahoddiad iddyn nhw nodi pa rai o'n gwelliannau a fyddai, pe’u derbynnir, yn cael effaith o’r fath.
Llywydd, mae'r gwelliannau a gyhoeddwyd gennym yn ceisio cyflawni pedwar amcan. Yn gyntaf, maen nhw'n diddymu’r cyfyngiad newydd a roddir ar gymhwysedd y deddfwrfeydd a'r Llywodraethau datganoledig sy'n rhoi holl gyfraith yr UE a gedwir y tu hwnt i'n pwerau ni i gyd, trwy ei throi'n gyfraith ddomestig. Mae hon yn ddarpariaeth gwbl ddiangen sy'n torri ar draws egwyddorion y setliad datganoli. Fel y nodais eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dewis arall adeiladol i'r cyfyngiad hwn, sy’n cynnwys y DU a gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno ar fframweithiau cyffredin pan fo angen er lles y DU yn gyffredinol. Pe baent wedi dewis ymgysylltu â ni ar hyn, efallai na fyddai fod wedi angen y cymal 11 nodedig.
Yn ail, mae'r diwygiadau yn atal y pwerau dirprwyedig eang a roddir i Weinidogion y DU rhag cael eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 neu Ddeddf yr Alban 1998, neu’n mynnu bod angen caniatâd y weinyddiaeth ddatganoledig i wneud hynny. Ni all fod yn iawn bod modd i Weinidogion y DU ddiwygio Deddfau o’r fath arwyddocâd cyfansoddiadol heb gytundeb y deddfwrfeydd datganoledig, nac yn wir Senedd y DU ei hun, o dan y rheolau a’r confensiynau sefydledig presennol.
Yn drydydd, maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU geisio caniatâd y gweinyddiaethau datganoledig os ydynt yn defnyddio eu pwerau dirprwyedig mewn meysydd sydd â chyfrifoldeb datganoledig. Rydym yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau, am resymau ymarferol, pan fo’n gwneud synnwyr i Weinidogion y DU ddefnyddio eu pwerau yn y modd hwn, ond ni allwn dderbyn y dylent allu gwneud hynny heb ein caniatâd.
Yn olaf, mae'r gwelliannau yn dileu cyfyngiadau ar y pwerau dirprwyedig a roddir i weinyddiaethau datganoledig fel eu bod yn unol â'r rhai hynny a roddir i Weinidogion y DU. Nid oes unrhyw sail i osod cyfyngiadau ar bwerau gweinyddiaethau datganoledig nad ydynt hefyd yn berthnasol i Weinidogion y DU. Gadewch i mi fod yn glir, fodd bynnag: nid yw hyn yn golygu ein bod yn dymuno'r pwerau ysgubol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd. Fel llawer o bobl eraill, mae gennym bryderon ynghylch ehangder y pwerau a’r craffu prin ar eu defnydd y mae'r Bil yn ei ddarparu, a byddwn yn fodlon cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gerbron y Senedd i sicrhau bod y pwerau a roddir i Lywodraeth y DU, a ni ein hunain fel Gweinidogion, yn briodol.
Llywydd, ddoe, siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig i nodi ugeinfed pen-blwydd y refferendwm datganoli. Mae yna eironi chwerw yn y ffaith fy mod i’n sefyll yma heddiw yn gwneud datganiad ar Fil y DU sy'n cynrychioli'r bygythiad mwyaf, y byddwn i'n dadlau, i'n setliad datganoli ers y diwrnod yr enillwyd y refferendwm. Rwy’n gobeithio’n fawr iawn, felly, y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl ei dull o weithredu’r agweddau datganoli ar y Bil hwn.
Rwy'n gobeithio y byddan nhw, a'r holl Aelodau yma, yn cydnabod bod y gwelliannau hyn yn gyfraniad adeiladol a fyddai'n sicrhau'r eglurder a'r sicrwydd y mae pob un ohonom yn cytuno sy’n angenrheidiol, ac yn parchu setliadau datganoli caled y DU. Nid yw'n ymwneud ag atal Brexit; mae'n ymwneud ag amddiffyn buddiannau pobl Cymru. Rydyn ni'n fodlon ac yn barod i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ar y Bil, ond os byddan nhw’n parhau â hyn beth bynnag, byddan nhw’n ysgogi argyfwng cyfansoddiadol nad oes ei angen arnyn nhw ac nad ydym ni’n ei ddymuno.
Fel y dywedais yn y ddadl ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yma ar 18 Gorffennaf, mae angen i’r Bil sicrhau y gall y llyfr statud weithredu ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE. Mae'n dechnegol ei natur, yn sicrhau bod deddfwriaeth anweithredol yn weithredol, ac yn rhoi pŵer â chyfyngiad amser i lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i gywiro deddfau yn ôl is-ddeddfwriaeth na fyddai’n gweithredu’n iawn fel arall ar ôl i ni adael yr UE, gan sicrhau y gall busnesau Cymru, gan gynnwys ffermwyr a chynhyrchwyr dur, barhau i fasnachu yn yr UE yn syth ar ôl i'r DU adael yr UE. Felly, croesawaf eich cytundeb yn fawr ei bod yn gwneud synnwyr i gyfraith yr UE gael ei throsi'n gyfraith y DU ar y sail hon ac mai trwy ddeddfu ar gyfer y DU gyfan yn Senedd San Steffan y bydd hyn yn digwydd orau. Rydym ni hefyd, fel chi, bob amser wedi derbyn y bydd meysydd polisi a fydd yn gofyn am gytundeb gan y pedair Llywodraeth i sicrhau, pan fyddwn ni y tu allan i'r UE, nad ydym yn gwneud unrhyw beth i atal y llif rhydd o fasnach yn y Deyrnas Unedig.
Ond wedyn rydych yn parhau i ddweud, fodd bynnag, bod y Bil
'yn cynrychioli ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli', sy'n adlewyrchu'n fawr iawn y sylwadau a wnaethoch ar y diwrnod y cyhoeddwyd y Bil, pan wnaethoch chi ei ddisgrifio, ac rwy’n dyfynnu, fel ‘ymgais hyf i fachu pŵer’. Pam wnaethoch chi ddweud hynny bryd hynny, o gofio eich bod wedi dweud y diwrnod wedyn bod Ysgrifennydd Cymru wedi eich sicrhau y byddech chi a fe yn cydweithio i greu sefyllfa dderbyniol, a’ch bod wedi cael y sicrwydd hwnnw eisoes cyn cyhoeddi eich sylw am 'ymgais hyf i fachu pŵer’?
Rydych chi’n datgan mai'r dewis adeiladol arall fyddai i'r DU a gweinyddiaethau datganoledig gytuno ar fframweithiau cyffredin pan fo angen er lles y DU yn gyffredinol, ac wrth gwrs, rydym yn cytuno â chi’n gyfan gwbl ar y pwynt hwnnw. Bydd Cymal 11, yr ydych wedi cyfeirio ato, yn rhewi pwerau cyfredol y Cynulliad i basio deddfau ar ôl diwrnod yr ymadael. Ond mae'r Bil hefyd yn darparu mecanwaith ar gyfer dadrewi neu ryddhau'r pwerau hyn i'r deddfwrfeydd datganoledig yn ddiweddarach trwy Orchmynion yn y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw'n—[Torri ar draws.] Datganiad o ffaith yw hynny; rwy'n datgan ffaith yn syml. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y byddwch chi hefyd yn cytuno nad yw'n cynnwys yr hyn a elwir—[Torri ar draws.] Dyna mae'n ei ddweud. Nid yw'n cynnwys yr hyn a elwir yn 'gymal machlud', ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei resynu hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen fframweithiau cytûn ar gyfer y DU gyfan, sy'n parchu'r setliadau datganoli mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd, a bod meysydd anghydfod posibl hefyd, megis meysydd cymhwysedd dros fasnach, cyflogaeth ac, wrth gwrs, feysydd megis cymorth gwladwriaethol. Felly, cynigiais ym mis Gorffennaf y gallem ni edrych ar fodel a nododd y gallai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig ddod i ben pan ddaw fframweithiau cytûn cyffredin i rym. Beth yw barn y Prif Weinidog ar y model hwnnw, o ystyried ei bryder ynghylch absenoldeb, rwy’n dyfynnu, 'cymal machlud', ond hefyd y risg y gallai hyn arwain at orfodaeth yn hytrach na chytundeb y fframweithiau y mae pob un ohonom yn ei geisio?
Fel y dywedais ar ddiwedd dadl mis Gorffennaf, gadewch i ni fynd drwy'r Bil yn gyfrifol, nodi'r newidiadau y gallwn ni i gyd gytuno arnynt—ac yn amlwg mae rhai—ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Senedd i'w cyflwyno yn yr Ail Ddarlleniad. Nid yw fy mhlaid i wedi clywed dim oddi wrthych ers hynny, Brif Weinidog. A wnewch chi ddweud pam nad ydym ni wedi ymgysylltu â’n gilydd ar dir cyffredin ac efallai y byddai gweithio ar y cyd yn ddefnyddiol o bosibl wedi helpu i symud pethau ymlaen?
Rwyf hefyd yn clywed gan y Swyddfa Gymreig y bydd y materion yr wyf wedi'u codi gyda nhw, sy'n gyson â’r sylwadau yr wyf eisoes wedi'u gwneud a phynciau allweddol a godwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, yn sicr yn cael eu bwydo i gamau nesaf y Bil. Ond dywedasant wrthyf hefyd fod llawer o ymgysylltu wedi bod â swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod yr haf. A wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am yr ymgysylltiad hwnnw ac i ba raddau y mae'n gysylltiedig â'r pryderon yr ydych wedi'u hamlygu a'r symud sydd wedi digwydd, yn ôl pob tebyg, rhwng y ddau grŵp o swyddogion, i geisio ffordd ymlaen ar hyn? Diolch.
Mae nifer o faterion yno. Diolch i'r Aelod am gyflwyno barn sy'n wahanol i'r farn yr ydym wedi'i chlywed gan ei blaid yn San Steffan. Dywedodd Ceidwadwyr yr Alban yr un peth, mewn gwirionedd, yn eu dadl nhw, a chredaf fod hynny'n ddatblygiad pwysig o ran y modd y gwelir hyn yn y Siambr hon. Yr egwyddor allweddol yma yw ein bod yn credu mai'r ffordd ymlaen yw trwy gytundeb, nid trwy orfodaeth. Dyna hi; dyna'r egwyddor sylfaenol. Efallai fod gennym yr un nod, ond mae anghytundeb sylfaenol yma ynglŷn â sut y dylid cyrraedd y nod.
Mae'n wir dweud y dywedwyd y bydd y pwerau na fyddant yn dod yma ac a fydd yn mynd i Whitehall, yno dros dro yn unig, ond nid oes cymal machlud, fel y dywedodd. Nid oes gennyf unrhyw ffydd na fydd y pwerau hynny yn aros yno yn barhaol. I mi, ar hyn o bryd, byddai cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Siambr hon a gofyn i'r Siambr hon ei gefnogi yn golygu y byddai'n rhaid i mi sefyll i fyny a gofyn i'r Aelodau gefnogi cynnig a fyddai'n atal pwerau rhag dod yma o Frwsel, a fyddai'n dod yma’n awtomatig, a derbyn, yn lle hynny, y dylem ganiatáu i'r pwerau hynny fynd i Whitehall ac aros yno am gyfnod amhenodol. Ni allai unrhyw Brif Weinidog, does bosib, dderbyn y sefyllfa honno. Ni fyddai Llywodraeth y DU byth yn derbyn hynny eu hunain, felly pam ar y ddaear bydden nhw’n disgwyl hynny ohonom ni?
Mae'n sôn am yr angen am fframweithiau cyffredin; rydym yn cytuno ar hynny. Rydym hefyd yn cytuno nad oes angen i ddim byd newid nes cytuno ar fframweithiau cyffredin. Rydw i’n cytuno ag ef yn hynny o beth, ond mae’r ffordd y mae'n cael ei wneud, wrth i Lywodraeth y DU, yn y bôn, bennu pryd y mae'n credu y dylid llunio fframwaith cyffredin a sut y dylai edrych. Dyna'r broblem. Os bydd cyfyngiadau, gadewch i’r cyfyngiadau fod ar Weinidogion y DU hefyd—nid dim ond ar Weinidogion datganoledig. Mae'n rhaid iddo fod yn un rheol i bawb neu ddim rheolau o gwbl, ac yn yr ystyr hwnnw byddai angen cytundeb i ddim byd newid nes y cytunwyd ar fframwaith cyffredin ar, dyweder, amaethyddiaeth neu bysgodfeydd yn y dyfodol. Dyna'r broblem yma. Mae'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn tynnu’r pwerau ar eu ffordd i Gymru ac yn eu llusgo i Whitehall am gyfnod diderfyn. Dyna'r broblem ar wyneb y Bil, a dyna pam y mae angen i'r Bil newid er mwyn darparu'r math o gysur sydd ei angen arnom ni ac sydd ei angen ar bobl Cymru.
Pam mae hynny'n bwysig? Oherwydd bod gan Lywodraeth y DU wrthdaro buddiannau mewn cynifer o feysydd. Os ydym yn ystyried amaethyddiaeth a physgodfeydd, bu Llywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer, mewn gwirionedd, yn Llywodraeth Lloegr, os caf ddweud hynny. Mae wedi bod yn gyfrifol am amaethyddiaeth Lloegr, pysgodfeydd Lloegr. Sut mae'n datrys y gwrthdaro buddiannau hwnnw? Ers blynyddoedd, rydym wedi dadlau dros gwota wrth sôn am adran benodol o'n pysgodfeydd, lle mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dadlau y dylai gael cyfran fwy o'r cwota ac y dylem ni roi’r gyfran honno iddyn nhw. Pwy sy'n datrys hynny nawr? Nhw, ac o’u plaid nhw eu hunain. Sut ar y ddaear ydych chi'n datrys y gwrthdaro hwnnw? Mae’n rhaid i ni gael ffordd o fod yn siŵr na cheir sefyllfa lle—i fod yn ddiflewyn ar dafod, ond dyma'r unig ffordd y gallaf ei fynegi—gall Lloegr wneud yr hyn a fynn ond ni all Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyna'r broblem yr ydym yn ei hwynebu, y gwrthdaro buddiannau hwnnw.
Oes, mae swyddogion wedi ymgysylltu â’r Swyddfa Gymreig. Ac nid oes problem, dim rheswm pam na ddylem ni ymgysylltu â nhw, ond pa ddylanwad sydd gan y Swyddfa Gymreig, mae'n rhaid i mi ei ddweud. Mae angen i ni fod yn siarad â Phrif Weinidog y DU ynglŷn â hyn. Mae hwn yn fater difrifol sy'n mynd i wraidd y DU a'i dyfodol, ac mae modd ei ddatrys, ac, yn fy marn i, yn eithaf hawdd ei ddatrys. Ond a yw’r Swyddfa Gymreig yn sefydliad lobïo neu a yw'n gallu gwneud penderfyniadau ei hun? Rwy’n amau mai’r diwethaf sy’n wir, yn anffodus.
Ie.
Rwyf i mewn gwirionedd—
Mae hyn yn—
Mae'n ddatganiad, onid ydyw?
Datganiad yw hwn. Ni cheir ymyrryd.
[Torri ar draws.] Trafodwch. Trafodwch. Felly, mae'n hynod bwysig bod gennym y lefel honno o ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU. Nid ydym eto wedi cael cyfarfod llawn o'r Cydbwyllgor Gweinidogion. Mae'n iawn dweud bod cyfarfodydd eraill o’r Cydbwyllgor Gweinidogion yn cael eu trefnu, ond, ar y mater pwysig iawn hwn, dim byd—dim cytundeb i gyfarfod, hyd yn oed. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny’n ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth i ni geisio datblygu strwythurau a fydd yn ein galluogi i gytuno ar ffyrdd ymlaen cyffredin yn y dyfodol. Ar fater ymylol, ond i roi blas i'r Aelodau o’r anawsterau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, rydym ni a Llywodraeth yr Alban wedi dadlau bod anghydfod y mae angen ei ddatrys rhyngom ni a Llywodraeth y DU dros y setliad ariannol i Ogledd Iwerddon. Rydym ni’n dadlau ei fod yn chwalu a diystyru, yn ein barn ni, yn eithaf rhesymol, o ran y ddadl, fformiwla Barnett, wrth ddarparu arian ychwanegol, cyllid refeniw ychwanegol, ar gyfer iechyd ac addysg i Ogledd Iwerddon y tu allan i'r fformiwla honno. Rydym ni’n dadlau bod anghydfod. Nid yw Llywodraeth y DU yn derbyn bod anghydfod, ac felly maen nhw’n dadlau na ellir sbarduno’r broses o ddatrys anghydfod. Felly, os oes gennym anghydfod â Llywodraeth y DU ac maen nhw'n anghytuno bod anghydfod o gwbl, maen nhw’n ennill bob tro. Nawr ni all hynny fod yn iawn. Dyna pam mae angen i ni roi strwythur sy'n fwy cadarn ar waith, strwythur sy'n cydnabod y ffaith bod pedair gwlad yn y DU. Mae angen i ni weld mwy o ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn gallu amddiffyn buddiannau Cymru. Gwneir y cynnig gan yr Aelod am gael ymgysylltiad trawsbleidiol. Nid oes gennyf unrhyw anhawster yn gweithio gydag ef yn y ffordd honno. Rwyf wedi gweld bod hynny'n digwydd yn yr Alban. Ni welaf unrhyw reswm pam na ddylem wneud hyn yng Nghymru. Bydd anghytuno—wrth gwrs—ar rai agweddau, ond, pan ddaw i hawliau sylfaenol y sefydliad hwn, sydd wedi’i ethol gan bobl Cymru, credaf fod yna dir cyffredin rhyngom ni, sef y dylai'r pwerau orffwys lle maen nhw i fod i orffwys, ac mae hynny'n golygu bod y pwerau hynny yn dod yn ôl i Gymru heb fod angen mynd trwy Whitehall.
Mae datganiad heddiw yn cynrychioli diweddariad pwysig arall ar Fil ymadael â’r UE ac ymateb Cymru. Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, wedi bod yn gyson ein safbwynt ers cyhoeddi refferendwm yr UE bod yn rhaid amddiffyn buddiant cenedlaethol Cymru. Mae hynny'n golygu dull o weithredu y mae pawb sydd wedi ymrwymo i warchod pwerau'r Cynulliad hwn a'r wlad hon yn cyfrannu ato, a hynny er gwaethaf yr anghytuno rhwng ein pleidiau ynghylch pa gamau penodol y mae'n rhaid eu cymryd.
Ym mis Ionawr eleni, anogais Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth yr Alban ar ddull gweithredu ar y cyd, yn unol â'n buddiannau cyffredin, ac rwy'n falch o weld datblygiad cyd-welliannau, gan gyflawni yr hyn y mae Plaid Cymru wedi galw amdano. Rydym ni, wrth gwrs, yn bwriadu cefnogi'r gwelliannau hynny ar y cam priodol. Bydd Plaid Cymru hefyd yn cyflwyno ein gwelliannau ein hunain drwy hynt y Bil ymadael â’r UE yn San Steffan, a gallaf sicrhau'r Siambr hon y bydd ein ASau, a Dafydd Wigley yn yr ail Siambr, yn defnyddio pob cyfle sydd ganddynt i wthio gwelliannau sy'n atal San Steffan rhag bachu pŵer yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cyflwyno gwelliannau sy'n ceisio amddiffyn ein haelodaeth o'r farchnad sengl a’r undeb tollau, ac sy'n ceisio atal dadreoleiddio a’r ras i'r gwaelod pan fydd y DU yn gadael asiantaethau rheoleiddio amrywiol yr UE.
Rwyf am ailadrodd rhywbeth yr wyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon yn y gorffennol. Bydd Bil ymadael â’r UE a'r ymdrechion i'w wella yn dechnegol iawn, ac ni fyddem yn disgwyl iddo fod yn sgwrs yn y dafarn neu'r gweithle, ond, 20 mlynedd ers y bleidlais 'ie' gyntaf, mae un peth y mae pobl yn ei ddeall ac yn siarad amdano. Maen nhw’n gwybod y bu dwy bleidlais i gadarnhau pwerau'r Cynulliad hwn, ac nid yw dinasyddion Cymru yn cefnogi’r cyfyngu ar y pwerau hynny na’u lleihau. Felly, hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog a yw wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol honno yn y Cynulliad ac yn union sut y bydd yn gweithio. A fyddai'n cytuno y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i dderbyn canlyniad cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y lle hwn, yn ogystal ag mewn unrhyw senedd arall? Wrth gwrs, mae cynsail o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru, yr ymrwymodd Llywodraeth y DU i’w gydnabod. Tybed a wnaiff amlinellu pa gamau y gellir eu cymryd os yw Llywodraeth y DU yn anwybyddu pleidlais i wrthod caniatâd.
Yn gyntaf, buom yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban nawr ers sawl mis, ac mae'r gwaith hwnnw wedi arwain at y gwelliannau a welwyd heddiw. Hefyd, wrth gwrs, rydym wedi siarad â Llywodraethau megis Gibraltar, sydd mewn sefyllfa ychydig yn wahanol yn yr ystyr eu bod yn yr UE ond y tu allan i'r undeb tollau, ond, serch hynny, yn bryderus iawn am Brexit a’r goblygiadau iddyn nhw. Ynys Manaw, Jersey a Guernsey—byddwn ni’n eu gweld yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Unwaith eto, maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw y tu allan i'r UE ond y tu mewn i'r undeb tollau, a byddan nhw’n cael eu tynnu allan o'r undeb tollau heb eu caniatâd os bydd y DU yn dewis gadael yr undeb tollau. Rydym yn dadlau, wrth gwrs, fel y gwna hithau, nad yw hynny'n angenrheidiol mewn gwirionedd
O ran y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol, dywedodd David Davis ei fod yn dymuno cael caniatâd y deddfwrfeydd datganoledig. Ni all y caniatâd hwnnw fod ar y sail na all fod yn ganiatâd heb fod Llywodraeth y DU yn cytuno ag ef. Mae’n rhaid iddo fod yn ganiatâd cwbl wybodus, ac mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn, os na fydd y Cynulliad hwn yn rhoi caniatâd, y bydd yn rhaid iddyn nhw dderbyn hynny. Mae'r hyn yr ydym wedi'i gynnig, wrth gwrs, yn ffordd o geisio osgoi hynny—i siarad a chael sefyllfa pan ddilëir y rhwystrau sy'n ein hatal rhag rhoi caniatâd o safbwynt datganoli, ac felly mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn dod yn fwy derbyniol i’r Aelodau nag ydyw yn awr. Hyd yn hyn, ni chynhaliwyd y trafodaethau hynny a bu—wel, maen nhw wedi digwydd, ond ni wnaed unrhyw gynnydd o ganlyniad iddyn nhw.
Os bydd y Cynulliad hwn yn penderfynu gwrthod caniatâd, wel, gallai Llywodraeth y DU ei anwybyddu. Mae hynny'n creu argyfwng cyfansoddiadol difrifol yn fy marn i. Sut y gall fod yn bosibl parchu datganoli ar y naill law, a dweud wrthym, 'Wel, rydym ni eisiau eich caniatâd, ond, os na fyddwch chi'n ei roi, byddwn ni’n eich anwybyddu chi beth bynnag'? Mae yna lawer yn Nhŷ'r Cyffredin ym mhob plaid a fydd â barn ar hynny; rwy'n siŵr y bydd gan Geidwadwyr yr Alban farn ar hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn Nhŷ’r Arglwyddi a fydd yn pryderu’n fawr am y syniad o newid cyfansoddiadol—na, nid newid cyfansoddiadol, ond y dylai tynnu pwerau oddi ar Gymru a'r Alban fynd rhagddo er gwaethaf gwrthwynebiad seneddau democrataidd Cymru a'r Alban. Felly, mae llawer yma a all arwain at argyfwng. Mae'n argyfwng yr wyf i’n arbennig o awyddus i'w osgoi. Mae'n argyfwng y gellir ei osgoi. Ni chredaf mai strategaeth bresennol Llywodraeth y DU, yn fy marn i, o ymladd cynifer o bobl o gynifer o gyfeiriadau â phosibl, yw'r ffordd synhwyrol o ymdrin â Brexit. Rydym ni wedi cynnig ffordd o edrych ar y materion hyn, dod i gytundeb ar y daith a'r nod terfynol, a chredaf y gellir gwneud hynny, wrth warchod, wrth gwrs, y setliad datganoli. Mae hynny'n egwyddor bwysig yn fy marn i, ac, rwy'n siŵr ym marn yr holl Aelodau. Bydd Brexit yn digwydd; gwyddom hynny. Ond nid oedd yn fwriad byth, does bosib, y byddai Brexit yn ymyrryd â symudiad naturiol y pwerau rhwng Brwsel a Chymru. Dyna'r union beth yr ydym yn ceisio ei osgoi ac, ar yr un pryd, wrth gwrs, yn creu'r sicrwydd yr ydym yn deall y mae ei angen ar fusnesau a dinasyddion.
Rydw i, yn fras, yn cydymdeimlo â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn dymuno’i gyflawni yn y pen draw, ond credaf fod hyn yn gwneud môr a mynydd o bethau. Mae’n eithaf rhyfeddol fod arweinydd Plaid Cymru yn sôn am gyfyngu ar bwerau'r Cynulliad hwn neu eu lleihau. Nid oes gennym y pwerau yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma, ar hyn o bryd, ac nid oedd unrhyw gŵyn o du Plaid Cymru na'r rhan fwyaf o'r Blaid Lafur, yr SNP, ac yn sicr nid y Rhyddfrydwyr, pan anfonwyd y pwerau a oedd yn arfer bod gan Senedd y Deyrnas Unedig etholedig boblogaidd i Frwsel i'w penderfynu gan gomisiynwyr anetholedig, ac nad oes fawr ddim rheolaeth ddemocrataidd ganddyn nhw o gwbl ar eu pŵer. Felly, mewn gwirionedd, i mi mae Brexit yn ymwneud, ac erioed wedi ymwneud, ag adfer rheolaeth ddemocrataidd dros benderfyniadau technocrataidd a gaiff eu gwneud gan bobl na allwch chi hyd yn oed eu henwi, yn aml, heb sôn am eu hethol neu eu gwrthod.
Felly, dylem groesawu hyn fel adfywiad seneddol, gan gynnwys hon. Ac, ydw, rwy’n cytuno'n gryf â'r Prif Weinidog y dylai'r holl bwerau yn y meysydd datganoledig sydd gennym ar hyn o bryd, ond y mae’r pwerau ym Mrwsel ar hyn o bryd, ddod i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn. Rwyf wedi dweud hynny lawer tro yma, a bydd ganddo fy nghefnogaeth gref i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond, wrth gwrs, mewn pleidiau eraill, yn benodol Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr, ac, yn wir, yr SNP hefyd, gwelir polisi o awydd i wrthdroi'r broses Brexit gyfan. Ac mae creu arf newydd i allu rhwystro hyn, er gwaethaf canlyniad y refferendwm fis Mehefin y llynedd, i mi, yn gwbl annerbyniol. Er nad wyf yn credu bod Theresa May wedi trafod cysylltiadau â'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd synhwyrol iawn, ac rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog y bu gormod o agwedd unbenaethol heb ymdrech ddigonol i ymgysylltu a dwyn perswâd, nid wyf yn credu ei bod yn werth talu'r pris y gallai fod yn rhaid i ni ei dalu os ydym yn cychwyn math o ryfel ffosydd yn y Senedd ynglŷn â’r broses i adennill pwerau nad oes gennym ar hyn o bryd. Felly, nid wyf yn ystyried bod hyn yn ymosodiad ar y broses ddatganoli mewn unrhyw ffordd.
Yn y datganiad, cyfeiriodd y Prif Weinidog at hepgor siarter hawliau sylfaenol. Cofiaf yn dda, yn y flwyddyn 2000, pan drafodwyd hyn, dywedodd Llywodraeth Blair ar y pryd y byddai'n rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeddfu ar gyfer hynny. Ac wrth gwrs, dywedodd Keith Vaz, yn gofiadwy iawn, nad oedd ganddo ddim mwy o bŵer cyfreithiol na chopi o'r 'Beano'. Ac eto, erbyn hyn, mae hyn yn cael ei ddyrchafu yn rhywbeth o bwys mawr. Ac, ydw, rwy’n deall pam mae’r Aelodau'n dweud bod pethau fel hawliau cyflogaeth yn hanfodol bwysig, ond, ar ddiwedd y dydd, os ydym ni’n credu mewn democratiaeth, mae'n rhaid i ni dderbyn y dylai fod gan seneddau yr hawl i wneud pethau nad ydym ni'n eu hoffi. Efallai na fyddwn yn credu eu bod yn synhwyrol iawn yn gwneud hynny, ond, yn y pen draw, y prawf yw: a allwch chi gael y bobl i gefnogi eich polisïau ger y blwch pleidleisio? Yn fy marn i, ni ddylai barnwyr neu weision sifil, neu, yn wir, gyrff cyfreithiol, dynnu pŵer oddi ar y bobl i benderfynu pa newidiadau deddfwriaethol y dylid neu na ddylid eu rhoi ar waith, ac rwyf i’n credu bod yr ymgais, a ddisgrifiwyd gan arweinydd Plaid Cymru foment yn ôl, i geisio nodi meysydd y gyfraith na ellir byth eu newid, oherwydd eu bod yn mynd yn rhai sylfaenol, yn groes i'r broses ddemocrataidd gyfan. Felly, dywedaf wrth y Prif Weinidog, ydw, rwy’n cydymdeimlo ag ef yn yr hyn a ddywedodd. Rwy'n credu ei fod yn hollol gywir, mewn gwirionedd, o ran ei amcan, ond rwy’n hynod bryderus ynghylch y modd y mae'n ceisio cyflawni’r amcan hwnnw, ac felly byddwn ni’n edrych yn ofalus iawn ar y gwelliannau hyn cyn i ni benderfynu a fyddwn ni'n eu cefnogi ai peidio.
Wel, ni ellir rhoi’r bai arnaf i am i'r DU ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd ym 1972, o gofio fy mod i’n bump oed ar y pryd, yn yr un modd ag y gofynnwyd i mi pa ffordd yr oeddwn wedi pleidleisio yn refferendwm 1979. Yn amlwg, mae angen i mi edrych ychydig yn iau, oherwydd dim ond 12 oed oeddwn i. Serch hynny, mae'n rhaid i ni gofio bod y DU wedi ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oherwydd ei fod yn dyheu am wneud hynny yn fawr iawn. Ond trafodaeth ar gyfer diwrnod arall yw honno o bosibl.
Nid yw hyn yn ymwneud â gwrthdroi Brexit. Rwyf wedi dweud hynny dro ar ôl tro. Siawns bod hyn yn achos o 'Mae’n rhaid i Brexit ddigwydd ar y telerau a gyflwynir gan Lywodraeth y DU yn unig'. Oherwydd dyna'r hyn maen nhw'n ei ddweud: 'Ein Brexit ni neu hen dro i chi'. Nawr, nid yw hynny'n ffordd synhwyrol o ymdrin â materion pan ddaw i ddatganoli. Nid yw’r DU fel yr oedd ym 1972. Nid yw'n wladwriaeth unedol gydag un Llywodraeth. Mae'n bartneriaeth o bedair gwlad lle mae gwahanol gyfrifoldebau wedi'u dyrannu i’r gwahanol lywodraethau yn unol ag a ydyn nhw wedi'u datganoli neu heb eu datganoli.
Dychwelaf at y pwynt y gwnes i’n gynharach, i atgoffa arweinydd UKIP. Yr hyn y gofynnir i mi ei wneud yma fel Prif Weinidog, os caiff Llywodraeth y DU ei ffordd, yw sefyll gerbron y Cynulliad a dweud wrth y Cynulliad y dylai'r pwerau a fyddai'n dod yn awtomatig i'r Cynulliad fynd i Lundain am gyfnod diderfyn ac y dylem ni fel Cynulliad gefnogi hynny. Does bosib na fyddai neb yn dymuno cefnogi sefyllfa o’r fath—wel, mae’n bosibl y byddai rhai, ond ni fyddai neb yma eisiau cefnogi sefyllfa o’r fath, lle mae pwerau a fyddai'n dod atom ni yn cael eu cipio. Yn wir, nid ydyn nhw’n bwerau yr ydym yn eu harfer ar hyn o bryd, ond yn naturiol, byddan nhw’n dod atom ni. Pa wahaniaeth y mae'n ei wneud—mae'n cwyno am Frwsel—os ydyn nhw wedyn yn mynd i Whitehall ac yn diflannu i’w fecanweithiau, ac wedyn rydym mewn sefyllfa lle rydym yn ei chael yn anodd llunio amaethyddiaeth, llunio datblygiad economaidd, llunio ein polisi pysgodfeydd yn y ffordd y byddem yn ei dymuno? Wrth gwrs, ni ellir rhoi rhyddid i bawb. Rwy'n deall hynny. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod marchnad sengl yn y DU, ac nad oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl dros sut y telir cymorthdaliadau. Ni allwn ennill y frwydr honno. Mae Lloegr yn fawr iawn. Ni allwn ennill y frwydr honno. Felly, mae'n rhaid cael rheolau. Rydym yn deall hynny. Ond dylid gwneud hyn trwy ganiatâd ac nid trwy orfodaeth. Hynny sy’n allweddol.
Y Bil hwn—gellir dileu'r cymalau dadleuol o'r Bil hwn sy'n ymdrin â datganoli. Mae hynny'n dileu rhwystr, o ran datganoli, wrth symud y Bil hwn ymlaen. Mae yna faterion eraill a drafodir yn y Senedd, rwy'n siŵr, ac yn y Siambr hon. Nid oes pris i Lywodraeth y DU am hyn. Nid oes unrhyw gost iddyn nhw. Nid oes unrhyw anfantais iddyn nhw o gwbl. Y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw gweithio gyda ni i ddod i gytundeb derbyniol, ac mae'n dileu problem iddyn nhw. Ni allaf ddeall y synnwyr strategol o ddweud, 'Gadewch i ni frwydro yn erbyn pawb posibl', yn hytrach na dweud, 'Gadewch i ni ganolbwyntio ar y materion. Mae hon yn broblem i Gymru a'r Alban. Nid yw'n broblem i ni mewn gwirionedd. Gadewch i ni ddod i gytundeb ar y mater ac ymdrin ag ef’. Hyd yn hyn, ni fu unrhyw awgrym eu bod wedi gallu gwneud hynny, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni’n dymuno ei weld yn y dyfodol, a dyna'r mater sylfaenol yma. Mewn rhai ffyrdd, nid yw'n ymwneud â Brexit. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sicrhau bod y pwerau lle maen nhw i fod, a’r egwyddor o ganiatâd wrth sôn am greu fframweithiau cyffredin mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na gorfodi’r Bil hwn, ar yr wyneb—. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedir gan Weinidogion y DU, ond mae'r hyn sydd ar wyneb y Bil yn eithaf gwahanol. Yr hyn y byddai'r Bil yn ei wneud fyddai amddifadu pobl Cymru o’r pwerau y mae ganddyn nhw’r hawl iddynt am gyfnod amhenodol, ac ni allwn i awgrymu i’r Cynulliad, mewn unrhyw fodd, y dylai'r Cynulliad bleidleisio o blaid hynny.
Hoffwn i ddechrau trwy groesawu ffordd wirioneddol adeiladol, yn fy marn, y Prif Weinidog o ddisgrifio’r gwelliannau y mae wedi eu cyflwyno, a'r ffordd y mae'n fodlon gweithio gyda Llywodraeth y DU i beidio â rhwystro'r llais a oedd yn glir yn y refferendwm, nac i rwystro’r Bil ymadael â’r UE, ond i'w wneud yn addas yn gyfreithiol ac yn gyfansoddiadol hefyd?
Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod grŵp mawr o Aelodau’r Cynulliad o’n dau bwyllgor trawsbleidiol—pwyllgor David Rees, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'm Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i—wedi eistedd am oriau lawer ddoe yng nghwmni dros 60 o awdurdodau amlwg, o safbwynt y DU ac o safbwynt Cymru, i ystyried y materion cyfreithiol a chyfansoddiadol. Mae'n debyg na fydd yn syndod cael gwybod bod siâp y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog yn adlewyrchu ac yn ymateb i lawer o'r pryderon a godwyd gan y bobl hynny, a bod y rhain yn cynnwys pobl o Gymdeithas Hansard a'r Sefydliad Llywodraeth yn San Steffan yn ogystal ag awdurdodau Cymru. Nid oedd unrhyw anghytundeb bod yna fygythiadau gwirioneddol. I ymateb i bwynt Neil, maen nhw’n cydnabod pwysigrwydd hyn. Nid materion technegol yr ydym ni'n eu tafod, ond materion cyfansoddiadol sylfaenol a ddylai fod yn destun pryder—ac rwy’n credu eu bod yn destun pryder, gyda rhywfaint o feddwl—i bob un ohonom yma yn y Cynulliad.
Felly, y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn i'r Prif Weinidog ynghylch y gwelliannau y mae wedi eu cyflwyno—. Gyda llaw, cyn i mi ofyn y cwestiwn hwnnw, yr oedd yn ddiddorol nodi ddoe, ar un adeg, heb unrhyw anghytuno, fod un cyfranogwr wedi awgrymu ddoe y byddai ffordd wahanol o gyflwyno’r Bil hwn wedi gweithio, sef ei lunio mewn ffordd a oedd yn cydnabod nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol i Fil ymadael â'r UE gwahanol iawn—un a fyddai’n rhoi i Gymru yn llwyr ac yn glir, yr hyn sydd, ar ôl ymadael â’r UE, yn rhan o’n cymhwysedd presennol. Gwelwyd nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol i lunio Bil tra gwahanol. Ond gadewch i ni roi hynny o’r neilltu. Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn i'r Prif Weinidog yw hyn: a yw o’r farn, ar ôl dweud eisoes na all argymell ymateb yn gadarnhaol i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil fel y mae ar hyn o bryd—a yw'n ei ystyried yn hanfodol bod yn rhaid derbyn yr holl welliannau y mae wedi eu cyflwyno, neu y mae’r Llywodraeth wedi eu cyflwyno mewn rhyw fodd, yn foddhaol, bob un, er mwyn gwneud y Bil ymadael â’r UE hwn yn addas at ei ddiben, ym marn y Prif Weinidog? Yn ail, a yw hefyd yn credu bod y mecanweithiau ychwanegol hynny, i ddatrys anghydfod yn y dyfodol a cheisio cytundeb yn y dyfodol, hefyd yn hanfodol ac yn rhan o ddweud ie i'r Bil ymadael â’r UE hwn.
Yn gyntaf, rydym wedi cyflwyno'r holl welliannau gyda'r amcan o’u derbyn i gyd. Credwn eu bod yn ymdrin â'r materion sy'n effeithio ar ddatganoli yn benodol ac y byddent yn dileu'r rhwystrau o ran datganoli y mae'r Bil yn eu cynnwys ar hyn o bryd.
Gofynnodd y cwestiwn: a yw cefnogaeth i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith? Ar hyn o bryd, byddwn i’n dweud 'nag ydyw'. Rwy'n credu y gallai derbyn y gwelliannau olygu digon o gynnydd, ond nid oes amheuaeth bod mabwysiadu mecanwaith ar fin digwydd. Mae ei angen. Pe derbynnir yr egwyddor ei bod yn fater i'r Llywodraethau gytuno ar ffordd gyffredin ymlaen, mae'n rhaid ei bod hefyd yn wir y derbynnir bod yn rhaid creu mecanwaith er mwyn i hynny ddigwydd, ac mae hynny'n golygu creu cyngor o Weinidogion y DU.
Yr anhawster, yn fy marn i, yw bod llawer yn y Llywodraeth yn Llundain ar hyn o bryd sydd o'r farn y byddai hynny'n rhoi Llywodraeth y DU ar lefel o gydraddoldeb nad ydyn nhw’n dymuno ei gweld. Nid ydyn nhw’n ystyried eu bod yn gydradd â'r Llywodraethau datganoledig, hyd yn oed mewn meysydd datganoledig, ac maen nhw’n ei chael yn anodd derbyn hynny. Ond, rydym ni’n byw mewn cyfnod pan fo angen atebion newydd a dulliau newydd arnom.
Wrth sôn am feysydd datganoledig, y realiti yw ein bod yn llywodraethau cyfartal mewn gwirionedd. Ni fyddem byth yn derbyn sefyllfa lle byddai gan Lywodraeth y DU, er y gallan nhw wneud hynny’n gyfreithlon, ryw fath o hawl i ymyrryd neu newid cyfraith Cymru a pholisi Cymru. Nid dyna swyddogaeth Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig ac mae pobl Cymru wedi penderfynu ar ddau achlysur nad honno yw eu swyddogaeth chwaith.
Ond rwy'n credu bod sefydlu mecanwaith yn ganlyniad naturiol i dderbyn y gwelliannau. A gellir gwneud hyn yn gyflym. Mae'r strwythur ar gael eisoes. Ni fyddai'n cymryd llawer o amser i newid y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gyngor priodol o Weinidogion. Gellid gwneud hyn i gyd yn eithaf hawdd cyn i'r DU adael yr UE yn y diwedd, ni waeth pryd fyddai hynny.
Tasg gyntaf y cyngor Gweinidogion fyddai cytuno ar beth i’w rewi, ar y cyd; mae synnwyr yn hynny o beth wrth ystyried ffermio a physgodfeydd. Yr ail dasg fyddai ystyried sut i ddatblygu system o reolau cymorth gwladwriaethol o fewn y DU sy'n effeithio ar y DU a chael dyfarnwr annibynnol i oruchwylio’r rheolau hynny. Mae hynny, byddwn i’n dadlau, yn eithaf hawdd: rydych chi’n dweud mai’r Goruchaf Lys ydyw. Mae'r Goruchaf Lys yn gweithredu fel dyfarnwr y farchnad sengl, yn yr un modd ag y mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn gwneud hynny ym marchnad sengl Ewrop, fel y mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn gwneud hynny gyda masnach ryng-daleithiol yn yr Unol Daleithiau. Nid yw’n anodd gwneud hynny.
Mae’r cwestiwn ynghylch rheolau cymorth gwladwriaethol yn anoddach. Mae gwahanol safbwyntiau ynghylch a ddylai fod unrhyw reolau o gwbl ymysg rhai o'r gweinyddiaethau—neu un o'r gweinyddiaethau blaenorol, beth bynnag—yn y DU. Ond dyna'r fforwm lle dylid penderfynu ar y pethau hyn. Rwy’n derbyn y gwelliannau, ond yn fy marn i, mae'n arwain yn naturiol at ffordd well o lawer o gydweithio i ddatblygu fframweithiau cyffredin yn y DU ac o gael y sicrwydd hwnnw yr ydym yn derbyn y mae busnesau ei eisiau.
A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am ei ymdrech i esbonio i’r Cynulliad hwn ac i bobl Cymru beth y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn ceisio ei wneud? Ond, a all fy helpu ychydig ymhellach? A all roi arwydd o wybodaeth i’r Cynulliad yma pa mor gynnar y cafodd o ragwybodaeth o fwriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu yn y ffordd hon? Oherwydd yr hyn sydd yn ‘bygio’ fi—fel rydym yn ei ddweud yn Llanrwst—yw pam fod deddfwriaeth ddatganoli wedi cael ei gosod mewn deddfwriaeth Ewropeaidd yn lle ei bod wedi cael ei thrin fel deddfwriaeth ddatganoli. Ar ôl yr holl amser a wastraffom ni ar Ddeddf Cymru, fel y mae erbyn hyn, yn ceisio datblygu strwythur newydd o bwerau, mae’r cyfan i gyd yn cael ei dynnu o dan ein traed ni, fel petai—y map datganoli—gan farn a ffordd y Deyrnas Unedig o ddeddfu. Rwy’n amau mai wedi methu â drafftio mewn ffordd gallach y maen nhw. Hynny yw’r gwendid yn fan hyn yn sylfaenol.
Y ffordd synhwyrol o wneud hyn fyddai i siarad gyda ni yn gynnar, cyn drafftio’r Mesur ei hunan, er mwyn gweld os gallwn ni gael unrhyw fath o gytundeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Nid felly oedd hi. Fe gawsom ni rai rhannau o’r Mesur o flaen llaw, cwpwl o wythnosau—dim popeth, ond rhai o’r cymalau—ond nid digon i gael unrhyw fath o synnwyr o beth oedd y darlun llawn. So, nid oedd hwnnw’n help. Ac, wrth gwrs, fe ddywedom ni ar y pryd, ‘Wel, nid yw’r Bil fel y mae wedi cael ei ddrafftio ar hyn o bryd yn rhywbeth y gallwn ni gytuno arno’. Ond, er eu bod nhw’n gwybod taw dyna beth oedd ein safbwynt ni fel Llywodraeth, nid felly oedd y sefyllfa pan aethon nhw, wrth gwrs, i gyhoeddi’r Mesur eu hunan. Y trueni yw, wrth gwrs, nad yw hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth. Nid ydw i’n gwybod os oedden nhw’n ofn beth oedd yn mynd i ddigwydd yn yr Alban, yn ofn beth fyddai Gogledd Iwerddon yn ei wneud, ond nawr, wrth gwrs, maen nhw’n mynd i fod mewn sefyllfa lle mae yna gyfle wedi cael ei golli—ddim yn gyfan gwbl, achos mae’r cyfle yn dal i fod yna ar y ford. Beth sy’n hollbwysig nawr yw bod y cyfle’n cael ei gymryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn i ni weithio ar beth rydym ni’n gallu cytuno arno, ac rydw i’n credu bod yna lawer yna y gallwn ni gytuno arno ynglŷn â strwythur y Deyrnas Unedig yn y pen draw a’r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn y meysydd datganoledig. Dyna fe; mae’r cynnig yn dal i fod yna. Fe gawn ni weld beth fydd yr ateb.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â llawer, gan gynnwys y rhanddeiliaid a nodwyd gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca, y byddai Bil Ymadael Ewropeaidd heb ei ddiwygio yn ymosodiad annheg a sylfaenol ar ddatganoli, ac yn ogystal â hyn, y gallai Gweinidogion y DU, ar ôl datganoli, ddeddfu, ac felly ansefydlogi, i bob pwrpas, yr 20 mlynedd o ddatganoli democrataidd, ac, fel Neil Hamilton, ddeall bod y Bil hwn felly o arwyddocâd cyfansoddiadol mawr iawn i Gymru, ac felly pobl Cymru?
Ydy. Hynny yw, o safbwynt Llywodraeth y DU, mater bach yw hwn. O'n safbwynt ni mae'n fater pwysig iawn. Fel y dywedais, nid oes—. Nid yw cytundeb ar eu rhan nhw yn costio dim iddyn nhw o gwbl; nid oes unrhyw bris i’w dalu ganddyn nhw. Ond mae pris enfawr i Gymru.
Rhan o'r anhawster yma yw’r ffaith bod Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ei chael yn anodd deall pa mor bwysig yw'r broblem hon i ni a'r Alban. Nid wyf i’n credu eu bod nhw’n deall, ond, yn sicr, rydym ni’n deall, ac mae pobl Cymru yn deall. Dyna'r egwyddor sylfaenol, sef y dylai pwerau ddod i’r mannau hynny sy'n briodol o ran meysydd datganoledig: yn y sefydliadau datganoledig. O'n safbwynt ni, ni all fod yn iawn i Weinidogion y DU allu ymyrryd â chyfraith Cymru a basiwyd gan y Cynulliad hwn, neu ei newid, o bosibl, heb gyfeirio at y Cynulliad hwn, nac, yn wir, at Senedd y DU. Rwy’n cofio’n dda rai o'r dadleuon a oedd yn cael eu hymarfer yn ystod y refferendwm i ddod â phwerau yn ôl i’r—'senedd' meddan nhw, fel pe bai'n un: 'i'r Senedd'. Yna, wrth gwrs, y peth cyntaf sy'n digwydd yn rhan o'r Bil diddymu yw nad yw'r Senedd yn cael y pwerau hynny; maen nhw’n aros yn nwylo'r Llywodraeth. Mae yna faterion i ni fel Llywodraeth Cymru, oherwydd wrth i bwerau ddychwelyd atom ni, mae'n hynod bwysig bod y pwerau hynny yn dychwelyd, i'r graddau y mae’n bosibl gwneud hynny, i'r sefydliad hwn, ac nid i'r Llywodraeth, fel y sefydliad etholedig. O reidrwydd, mae angen i bwerau'r Llywodraeth fod mor gyfyngedig â phosibl, o ystyried y ffaith bod y sefydliad hwn, wrth gwrs, wedi ei ethol. Ond mae Llywodraeth y DU wedi mynd yn groes i hyn, drwy fynd i'r llys i ymladd y pwynt hwn. Ond dylai'r pwerau fod yn nwylo’r weithrediaeth, nid yn nwylo’r ddeddfwrfa. Mae'n rhaid bod hynny yn anghywir mewn egwyddor.
Un o'r themâu sydd wedi codi heddiw gan gynifer o siaradwyr yw bod llawer o ffyrdd gwell o wneud hyn na'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi’i chymryd ar hyn o bryd. Mae'n deg dweud, rwy'n credu, bod llawer ar feinciau y Ceidwadwyr sy'n cydnabod hynny. Gallaf ddeall bod amser a lle ar gyfer dweud pob peth; rwy'n deall hynny. Mae hwn yn fater y gellir ei ddatrys, ond mae angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu, ac mae hynny yn cynnwys Prif Weinidog y DU, mae’n cynnwys y bobl hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hyn. Nid y Swyddfa Gymreig sy'n penderfynu ar hyn; y Swyddfa Gymreig, i bob pwrpas, yw—rwy'n dweud hyn fy hun; y Swyddfa Gymreig 20 mlynedd yn ôl—Mae’r Swyddfa Gymreig ei hun yn fath o eiriolwr yn yr ystyr hwnnw. Pe bai hyn yn nwylo’r Swyddfa Gymreig, efallai y gallai fod gwell ymgysylltiad, ond nid dyna’r sefyllfa. Mae hwn yn gyffordd sylfaenol ar daith datganoli. Rydym naill ai yn symud tuag at sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn cadw pwerau mewn meysydd yr ydym yn eu rheoli ar hyn o bryd, neu rydym yn symud tuag at sefyllfa lle mae pwerau'n dod i’r man priodol ac mae gennym well strwythur, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU gyfan, sy'n cynrychioli partneriaeth y cenhedloedd sy'n bodoli yn y DU.