– Senedd Cymru ar 3 Hydref 2017.
Rydym yn symud ymlaen i eitem 7 ar yr agenda heddiw, sef dadl ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, a galwaf ar Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Alun Davies.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch am amseru’r trafodaethau yma.
Mi fydd Aelodau yn cofio fy mod i wedi cyhoeddi ein strategaeth ni, ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’, a’n huchelgais ni i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg nôl ym mis Mehefin. Roeddwn i’n glir, ac roeddwn i’n gobeithio yr oeddwn i’n glir i bob un Aelod ar y pryd, fy mod i’n awyddus iawn i osod ein strategaeth ni a’n gweledigaeth ni ar gyfer y dyfodol cyn ein bod ni yn trafod deddfu a deddfwriaeth, achos mae’r strategaeth a’r weledigaeth yn fwy na Bil, yn fwy na deddfwriaeth, ac yn fwy na’r prosesau yr ydym ni’n eu dilyn fan hyn.
Mae’r weledigaeth o drawsnewid sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn rhywbeth rwy’n gobeithio a fydd yn uno pob un rhan o’r Siambr yma. Ond rydw i eisiau sicrhau hefyd bod gennym ni y math o ddeddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod gyda ni sylfaen i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cafodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ei wneud ar ddiwedd y trydydd Cynulliad, yn dilyn oedi gan Lywodraeth San Steffan i roi’r pwerau angenrheidiol i’r Cynulliad i ddeddfu ym maes y Gymraeg. Oherwydd yr oedi, nid oedd digon o amser ar y pryd i ymgynghori ar bolisi’r iaith, ac mae’r diffygion hynny i’w gweld yn y Mesur. Mae calon y Mesur yn y lle iawn. Mae’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg. Mae’n rhoi rhyddid i bobl siarad Cymraeg â’i gilydd a, drwy’r safonau, mae’n rhoi hawliau i bawb gael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond mae’n rhaid inni nawr ystyried sut mae’r Mesur wedi cael ei weithredu. Pan fo cynghorau Gwynedd a Blaenau Gwent yn cytuno bod yna ormod o fiwrocratiaeth, mae’n rhaid inni wrando. Teitl y Papur Gwyn yw, ‘Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg’; hynny yw, y cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Yn gyntaf felly, rwy’n cynnig yn y Papur Gwyn sefydlu comisiwn y Gymraeg. Y bwriad yw i ddod ag arweiniad ac egni newydd at y gwaith o hybu’r Gymraeg.
Mae yna sawl rheswm dros sefydlu comisiwn yn hytrach na rhoi dyletswyddau ychwanegol i’r comisiynydd. Yn gyntaf, mae adroddiad awdurdodol Tŷ’r Arglwyddi ar lywodraethiant rheoleiddwyr yn glir iawn na ddylai corff sy’n rheoleiddio gael ei redeg gan un person. Rwy’n cytuno â hynny. Ac, yn ail, nid yw hybu a hyrwyddo yn golygu balŵns a beiros. Mae hybu yn golygu arbenigrwydd proffesiynol mewn meysydd fel cynllunio ieithyddol, cynllunio gweithlu, datblygu economaidd a newid ymddygiad, ac yn mynd ymhellach â’r cyfryngau a marchnata. Mae’n rhaid i’r comisiwn sy’n arwain y corff newydd gael trawstoriad o’r sgiliau hyn er mwyn gallu hybu’r Gymraeg yn effeithlon. Yn drydydd, ac ar wahân i’r comisiynwyr eraill, rydw i’n cynnig y bydd gan y comisiwn bwerau dyfarnu a chosbi, a bydd hefyd yn rhan ganolog o ran cyflwyno ‘Cymraeg 2050’. Mae cryfder mewn amrywiaeth y gwahanol safbwyntiau, mewn her a sialens.
Un gwrthwynebiad rydw i wedi ei glywed yw nad yw un corff yn gallu rheoleiddio a hybu ar yr un pryd. Nid ydw i’n derbyn y ddadl yma. Mae yna lawer o gyrff sy’n gwneud y ddau beth yn llwyddiannus iawn. Yr enghraifft amlwg, wrth gwrs, yw Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’r Comisiwn Cyfrifoldeb a Hawliau Dynol.
Nid ydw i’n argymell mynd nôl at ddyddiau bwrdd yr iaith. Bydd gan y comisiwn gyfrifoldebau ehangach, ac mae safonau yn llawer mwy grymus na chynlluniau iaith. Bydd y comisiwn yn gweithredu mewn fframwaith a thargedau ‘Cymraeg 2050’. Nid oes amheuaeth gen i bydd Llywodraeth Cymru, y Cynulliad, a’r cyhoedd, yn gofyn cwestiynau treiddgar iawn am berfformiad y comisiwn a’i gyfraniad at y miliwn.
Beth, felly, am y safonau? Yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gadw’r safonau. Mae hynny yn glir. Nid oes troi nôl ar hynny. Mae dau prif nod i’r cynigion yn y Papur Gwyn: (1) i dorri allan cymaint o’r biwrocratiaeth ag sy’n bosibl, a (2) i sicrhau gyfundrefn sy’n rhoi ffocws ar gywiro gwallau os oes rhywbeth yn mynd o’i le, ac er gwelliant. Rydw i hefyd yn credu y dylai fod gan y drefn atebolrwydd i ni mewn ffordd ddemocrataidd. Rydw i’n cynnig mai Llywodraeth Cymru y dylai wneud a gosod safonau, ac, wrth wneud hynny, gorfod cael cefnogaeth y fan hyn yn ein Senedd cenedlaethol ni. Rôl y comisiwn fydd monitro a gorfodi.
Nid ydw i wedi fy mherswadio bod angen trefn ar wahân pan fo cwyn yn cael ei wneud am wasanaethau Cymraeg. Gellir defnyddio’r un gyfundrefn sy’n bodoli os yw person yn cwyno am wasanaeth i gyngor lleol neu i’r gwasanaeth iechyd. Rydw i’n bwriadu, felly, i’r comisiwn ddilyn yr un drefn â’r ombwdsmon pan fo’r comisiwn yn derbyn cwyn. Yn y cyd-destun hwn, rydw i wedi derbyn ymateb i’r Papur Gwyn oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r ombwdsmon wedi copïo ei ymateb i’r comisiynydd ac i Simon Thomas, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Mae’r ombwdsmon yn cynnig y gall ei swyddfa fe delio â chwynion ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â safonau fel rhan o’i dyletswyddau craidd. Bydd hyn yn debyg i’r drefn yng Ngwlad y Basg, lle mae’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn gyfrifol am yr iaith. Dirprwy Lywydd, rydw i’n credu bod y cynnig hwn yn un diddorol. Mae’n dangos bod posibiliadau eraill i’w hystyried y tu hwnt i’r cynigion yn y Papur Gwyn. Mi fyddaf i yn ystyried ymateb yr ombwdsmon yng nghyd â’r holl ymatebion eraill i’r ymgynghoriad. Rydw i’n annog pawb i ymateb gyda’u syniadau cyn y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad, sef diwedd y mis hwn.
Rydw i’n gofyn, felly, i’r Aelodau gefnogi’r cynnig hwn, gan dderbyn gwelliannau 1, 3, 5 a 7, a gwrthod gwelliannau 2, 4, 6 ac 8. Rydw i’n gwrthod gwelliant 2 oherwydd mae darlun ehangach yn ‘Cymraeg 2050’. Rydw i’n gwrthod gwelliant 4 oherwydd rydw i’n credu y bydd yn ddryslyd i’r cyhoedd ac yn gwastraffu adnoddau cyhoeddus i gael dau gorff sydd yn gyfrifol am y Gymraeg. Rydw i’n gwrthod gwelliant 6. Rydw i’n bwriadu gosod rheolau iechyd cyn diwedd y flwyddyn, ond, os oes cefnogaeth i’r cynigion yn y Papur Gwyn, bydd yn rhaid i ni gymryd hynny i mewn i ystyriaeth cyn gwneud mwy o reoliadau. Ac rydw i’n gwrthod gwelliant 8. Rydw i wedi gosod allan yn y Papur Gwyn, ac o flaen y Senedd heddiw, fy rhesymau clir dros ddiddymu rôl y comisiynydd a sefydlu comisiwn.
Rydw i’n derbyn gwelliant 1. Mae’r dystiolaeth yn adlewyrchu amrywiaeth farn ar rai o bethau, ac mae hynny’n iach ac yn beth da. Rydw i’n derbyn gwelliant 3. Mae’r Papur Gwyn yn gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg. Rydw i’n derbyn gwelliant 5. Mae pawb am weld llai o fiwrocratiaeth. Ac rydw i’n derbyn gwelliant 7. Mae’r Papur Gwyn yn gwneud cynnig cadarn a phendant i ymestyn y gyfundrefn safonau i’r sector breifat.
A gaf i ddweud hyn wrth gau, Dirprwy Lywydd? Rydw i’n awyddus iawn i glywed barn Aelodau'r prynhawn yma, ond rydw i hefyd yn awyddus iawn i glywed barn pobl ar draws y wlad. Beth rydw i wedi bod yn trio ei wneud trwy gydol y broses yma yw sicrhau undeb ar draws ein gwlad amboutu dyfodol ein hiaith genedlaethol ni. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n sicrhau ein hawliau ni fel Cymry Cymraeg i siarad ac i ddefnyddio’r Gymraeg, ac rydym ni hefyd yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg i sicrhau bod mwy o’n cyd-Gymry yn defnyddio ac yn dysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith. Mae hynny yn golygu, ambell waith, ein bod ni’n gwrando ar bethau nid ydym ni eisiau eu clywed, ac rydym ni’n gwrando ar farnau sydd yn wahanol iawn i’n rhai ni. Beth rydw i wedi bod yn ei wneud fel Gweinidog dros y Gymraeg yw cynnal a chydio yn y math o drafodaeth a fydd yn sicrhau undeb ar ddiwedd y drafodaeth. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy’n symud y gwelliannau yn enw Paul Davies. A allaf ddiolch i’r Gweinidog am gyflwyno’r ddadl heddiw ac i Plaid hefyd am eu gwelliannau? Rydym yn cefnogi nifer ohonynt. Y peth cyntaf yr hoffwn i ddweud yw bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi tri amcan craidd y ddeddfwriaeth hon: gwerth am arian, lleihau biwrocratiaeth yn y gyfundrefn safonau a gwella’r cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo a hwyluso. Mae cyplysiad hyrwyddo a hwyluso yn benderfyniad diddorol rwy’n credu, ac mae’n gwahanu hwyluso a rheoleiddio a chydymffurfio, ac mae hyn yn cynnig i mi argraff o rôl comisiynydd yr iaith Gymraeg sy’n gul iawn ac sy’n cael ei lywio gan gyfnod penodol yn ystod stori’r comisiynydd sydd ddim yn adlewyrchu dyletswyddau’r comisiynydd fel y nodir ym Mesur 2010. Mae’r dyletswyddau hynny, cyn gwneud unrhyw sôn am reoleiddio a gorfodi, yn cynnwys hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith, ac nid yw wedi’i gyfyngu i gyd-destun y safonau. Felly, ar hyn o bryd, rwy’n ei chael hi’n anodd gweld ble mae’r gwahaniaeth rhwng amcanion eich comisiwn ffafriedig ac amcanion gwreiddiol y comisiynydd fel y rhagwelwyd gan Fesur 2010.
Rwy’n cytuno â chi o ran cael gwared ar fiwrocratiaeth ormesol o’r prosesau a gynhwysir yn y Mesur presennol. Mae rhywfaint o feddwl i’w wneud o hyd ar hyn; sut, er enghraifft, y gallai’r broses apelio ymddangos. Rwyf i jest yn meddwl am symud cwynion yn y lle cyntaf i’r corff sydd wedi, o bosib, gwneud camgymeriad, achos nid wyf yn siŵr os byddai’r ombwdsmon yn rhoi atebion—‘remedies’—i bobl yn y sefyllfa yna. Felly, mae’n werth tipyn bach mwy o ystyriaeth. Rwy’n cytuno hefyd am newid natur y safonau sydd ddim yn amddiffyn hawliau ystyrlon. Dyna pam fod gen i anhawster yn cefnogi gwelliant 4, oherwydd mae yna risg o weld unrhyw newid, yn enwedig colli prosesau, yn gwanhau’r hawliau yn eu cyfanrwydd. Nid wyf yn siŵr os ydych chi, Plaid, yn meddwl hynny, wir, ond jest oherwydd hynny, rwy’n mynd i ymatal heddiw. Ond, yn y dyfodol, efallai y byddwn yn newid ein meddyliau ar hynny.
Mae yna gwestiwn hefyd, ar wahân, sef: os oes rhai safonau—cadw cofnodion am flynyddoedd, er enghraifft—lle nad oes gan neb ddiddordeb mewn arfer yr hawl, a ydy’r safon yn dal i fod yn gymesur? Mae yna gwestiwn i’w ateb yn ystod broses yma. Mae angen cael gwared ar y rheini sydd ddim yn effeithiol i wella’r ffocws ar hawliau sy’n bwysig, ac, wrth gwrs, i ffocysu ar hyrwyddo a hwyluso. Gan ddweud hynny, rydym yn gohirio dedfryd ar hyn hyd nes y byddwn yn gweld rhai cynigion manwl gan y Llywodraeth, fel y dywedais i.
Rydym hefyd yn gohirio dedfryd ar welliant 4. Nawr, nid wyf yn derbyn yr awgrym a wnaed gan swyddogion yn ystod ein cyfarfod pwyllgor yr wythnos ddiwethaf, sef nad oes lle i ddau gorff Cymraeg yn y tirwedd hwn. Mae bodolaeth y canolfannau addysg oedolion yn tanseilio’r ddadl yna yn barod. Fy nadl i yw bod yna dystiolaeth gymysg iawn yn yr ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth, ac nid oes unrhyw gefnogaeth glir a phendant ar gyfer yr opsiynau a ffafriwyd gan y Gweinidog a Plaid. Pwrpas y gwelliant yw ceisio atal y Gweinidog rhag neidio i unrhyw gyfeiriad nawr pan fo dewisiadau credadwy eraill y mae’n rhaid gweithio trwyddynt. Ac, am yr un rheswm, byddwn yn cefnogi gwelliant 8.
Y prif ystyriaeth i ni, wrth i’r Papur Gwyn fynd yn ei flaen, yw’r lefel o annibyniaeth a roddir i bwy bynnag sy’n hyrwyddo a rheoleiddio’r iaith. Er gwaethaf y Mesur yn tanlinellu annibyniaeth y comisiynydd—cyfyngu cyn lleied â phosib ar ei gweithgareddau, ac yn y blaen—anwybyddodd Leighton Andrews yr amddiffyniad statudol hwnnw ac fe wnaeth e ddwyn dyletswyddau hyrwyddo’r comisiynydd yn ôl i mewn i’r Llywodraeth. Gadawodd hyn y comisiynydd gyda’r gwaith ar safonau a’r rôl hwyluso, ac, yn ôl ymatebion yr ymgynghoriad, mae croeso mawr iddi. Mae helpu cyrff i gydymffurfio â safonau yn well na’r rhwymedigaeth i orfodaeth drom sydd ei hangen ar y ddeddfwriaeth bresennol, ac mae’r comisiynydd yn gwneud mwy o hynny nawr yn ddiweddar. Felly, nid ydym yn gwybod beth allai’r comisiynydd ei wneud ynglŷn â hyrwyddo a hwyluso ehangach oherwydd ymyrraeth y Llywodraeth.
Wrth gefnogi gwelliant 8, rydym yn cytuno nad yw’r Llywodraeth wedi ennill y ddadl bod comisiwn yn well na rôl ddiwygiedig i’r comisiynydd, ac rwy’n credu bod y cychwyn ffug wedi ysgogi dewis y Llywodraeth i bwyso am strwythur newydd, gyda pherthynas â’r Llywodraeth sy’n bell o fod yn glir. A dyna pam rydym wedi cynnwys ein hail welliant, sef y gallai’r deddfwriaeth hon greu rôl newydd i’r comisiynydd sy’n fwy hyd braich ac yn atebol i’r Cynulliad hwn yn hytrach na’r Llywodraeth, fel rydym wedi dadlau ers tro.
Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch i chi am gynnal y drafodaeth yma ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Mae’r ymgynghoriad, wrth gwrs, yn mynd ymlaen tan ddiwedd y mis ac mae’r ddadl yma yn ffordd dda o atgoffa pobl o’r angen i gofnodi eu sylwadau drwy’r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau.
Rydym ni wedi gosod ein safbwynt ni fel plaid yn glir iawn drwy gyfrwng gwelliannau sy’n egluro’n gweledigaeth ni, a gweledigaeth sydd yn wahanol i un y Llywodraeth. Nid ydym ni am weld unrhyw wanhau na chyfyngu ar hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg. Rydym yn credu bod angen cadw rheoleiddio a hyrwyddo ar wahân, a’u bod yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol, ac rydym yn galw am symud ymlaen efo’r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac yn galw am amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i’r sectorau ynni, dŵr, telathrebu, trenau a bysys. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector preifat. Felly, rydym yn gosod ein stondin yn glir ar gychwyn y broses.
Mi fyddai unrhyw wanhau, unrhyw gyfyngu ar y ddeddfwriaeth, yn gam sylweddol yn ôl i’r Gymraeg. Gyfeillion, mae’r Gymraeg yn colli tir. Dim ond mewn 7 y cant—7 y cant—o gymunedau Cymru y mae’r Gymraeg yn iaith dros 70 y cant o’r boblogaeth, yn iaith fyw ar y stryd ac yn y dafarn. Mae hynny yn loes calon i mi, ac ni fedraf gefnogi unrhyw droi nôl, unrhyw wanhau ar yr hawliau sydd wedi eu sefydlo’n barod. I’r gwrthwyneb: ymlaen, gweithredu, cryfhau sydd angen os ydym o ddifri eisiau gweld y Gymraeg yn parhau.
A gawn ni fod yn glir o’r cychwyn cyntaf? Mae cynigion y Llywodraeth Lafur yma yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i wanhau ein hawliau ni. Mae mynd yn ôl at un corff a disgwyl i hwnnw wneud dwy swyddogaeth cwbl wahanol yn gwanio ein hawliau ni. Mae rhoi’r grym yn nwylo’r Llywodraeth yn lle’r Cynulliad wrth benderfynu pwy sy’n dod o dan ddyletswydd iaith, pa bryd ac ati—mae hynny yn gwanio ein hawliau ni. Mae dileu’r rhestrau presennol sy’n sicrhau bod hawl gan y Cynulliad i osod dyletswyddau iaith ar rai cwmnïau preifat yn gwanio ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg. Mae dileu hawl y cyhoedd i gwyno yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg yn gwanhau ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg. Mae dweud mai dim ond cwynion difrifol fydd yn cael eu hymchwilio—ac nid oes diffiniad o beth ydy difrifol—mae hynny eto yn cyfyngu ar ein hawliau ni fel siaradwyr Cymraeg, ac mae Plaid Cymru yn erbyn unrhyw wanhau, unrhyw gyfyngu ar ein hawliau ni.
Ym maes hyrwyddo a hybu, mae Plaid Cymru yn credu bod angen corff annibynnol i wneud y gwaith pwysig yma, gan adael y comisiynydd yn rhydd i ganolbwyntio ar y gwaith o osod safonau a rheoleiddio. Mi fyddai sefydlu comisiwn fyddai’n ceisio gwneud yr holl waith sydd ei angen yn gam sylweddol yn ôl, a dyna pam rydym ni wedi dadlau yn gyson dros gael asiantaeth hyd braich i hyrwyddo, hybu ac i gynllunio’n strategol dros y Gymraeg ar sail egwyddorion cynllunio ieithyddol cadarn.
Cryfhau ein hawliau ni sydd angen, a dyna ddod â ni at y sector preifat. Mae yna sawl esiampl o pam fod angen ymestyn y safonau i’r sector preifat. Mae’r rheini wedi amlygu eu hunain dros y misoedd diwethaf: saga Sports Direct, pan geisiwyd cyfyngu ar hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle; Santander a chwmni Banc Lloyds yn gwrthod derbyn papurau yn yr iaith Gymraeg, ac yn y blaen. Ac mi hoffwn i ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb chwyrn yn erbyn Sports Direct a’r banciau. Ond rwy’n nodi bod y Papur Gwyn yn dweud hyn:
‘Nid ydym yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Safonau’n fuan ar gyrff nad ydynt yn dod o fewn system y Safonau ar hyn o bryd.’
Sef y rhan fwyaf o’r sector preifat. Ac, yn anffodus, mae hanes yn dangos nad ydy dibynnu ar berswadio cyrff i fabwysiadu hawliau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn gweithio. Mae angen deddfu, ac mae angen ymestyn y ddeddfwriaeth i’r sector preifat, ond nid yw hynny yn y Papur Gwyn. Rwyf yn nodi eich bod chi y prynhawn yma wedi dweud eich bod chi o blaid ein gwelliant ni—gwelliant 7—ac rwy’n croesawu clywed hynny heddiw.
Mae angen i chi weithredu. Dyna ydy’r prif fater o dan sylw—mae angen i chi weithredu. Mae angen symud ymlaen efo gosod y safonau ar y cyrff iechyd, ac rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi’n dweud, o’r diwedd, ar ôl bron i ddwy flynedd—neu dros ddwy flynedd, a dweud y gwir—y bydd y Llywodraeth yn symud ar hyn. Mae gan gleifion hawl i gael trafod eu problemau yn y Gymraeg. Mae’r adroddiad ar safonau’r cymdeithasau tai ar eich desg chi ers dwy flynedd, y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd, bysiau a threnau a’r rheilffyrdd ers bron i flwyddyn. Mae yna lawer iawn o waith i’w wneud, a megis dechrau ydym ni. Rŵan ydy’r amser i weithredu. Ac efallai nad rŵan ydy’r amser i fod yn trafod Papur Gwyn fel hwn. Beth am symud ymlaen efo’r gwaith? Beth am ddechrau gweithredu?
Yn y cefndir, wrth gwrs, mae’ch strategaeth miliwn o siaradwyr chi. Oni ddylai’r Llywodraeth fod yn canolbwyntio ar y gwaith sydd angen ei gychwyn yn y fan honno, yn y strategaeth miliwn o siaradwyr, yn hytrach na chreu trafodaeth ddiangen am Ddeddf sydd angen amser i wreiddio, a safonau sydd angen eu gosod a’u gweithredu?
Rhaid inni ymrafael â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar sail un egwyddor bwysig—bod popeth nawr ym maes y Gymraeg yn ddarostyngedig i’r egwyddor o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Ac mae’r sialens y mae’r strategaeth newydd yn ei rhoi i bob un ohonom yn drawsnewidiol. Os ydym ni o ddifrif ein bod ni am weld uchelgais y strategaeth yn realiti, bydd yn rhaid i ni gydnabod bod y tirwedd ieithyddol yn newid yn llwyr. Ac, mewn cyfnod o gyni, bydd angen sicrhau bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario, gan unrhyw gorff, ar dwf yr iaith yn cael impact uniongyrchol ar lawr gwlad.
Mae’r ffocws ar y mwyaf hyd yn hyn wedi bod ar hawliau—hawliau drwy safonau. Mae’n amlwg bod lle i ddiwygio y broses o greu a gosod safonau; gwelsom dystiolaeth o bob tu bod y broses yn feichus i bawb. Y nod sydd rhaid yn y fan yma yw sicrhau bod y safonau yn gweithio, a bod ymdrech ac adnoddau yn cael eu ffocysu ar yrru i fyny safonau darpariaeth, nid ar negodi a gweinyddu.
A gaf i ddweud fy mod i yn bersonol yn cefnogi’r cysyniad o hawl gyffredinol? Mae gyda ni sawl cyfundrefn sy’n llwyddo i greu hawliau, ynghyd â phroses o gloriannu hawliau pan mae’n nhw’n gwrthdaro. A gyda dychymyg, rwy’n credu y gallai hynny weithio gyda hawl gyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond rwy’n barod i dderbyn y pwynt a wneir yn y Papur Gwyn bod cymhlethdodau a chyfyngiadau hefyd yn dod yn sgil hynny. Rwy’n sicr y dylem ni ymestyn safonau i gwmpasu archfarchnadoedd, banciau ac ati. Rwy’n croesawu ymroddiad y Gweinidog i wneud hynny o dan y gyfundrefn arfaethedig, a hoffwn glywed ganddo, felly, beth yw ei gynllun ynglŷn â hynny.
Y gwir amdani yw na allwn ni gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr gyda’r cydbwysedd presennol sydd rhwng hawliau a hybu. Nid yw cynnal ac ehangu’r gyfundrefn safonau bresennol ddim yn ddigonol. Mae grym hawliau i greu newid yn dibynnu ar ein parodrwydd i fynnu ein hawliau. Ac mae’r Papur Gwyn yn glir bod llawer mwy o siaradwyr y Gymraeg na sydd o bobl sy’n manteisio ar eu hawliau. Dim ond drwy hybu a hyrwyddo y mae creu yr hyder i fwy a mwy o siaradwyr fynnu eu hawliau. Mae angen hybu mewn cymdeithas yn gyffredinol. Mae’r strategaeth a’r Papur Gwyn yn manylu ar hynny. Ond mae angen hybu o fewn y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r safonau—newid diwylliant, nid jest rheoleiddio. Gall newid ffyrdd o weithio i greu diwylliant dwyieithog feithrin hygyrchedd mewn gwahanol ffyrdd a meithrin creadigrwydd mewn ffyrdd amrywiol o weithredu, ac mae angen creu gofod am sgwrs gynhwysol, ddychmygus am fanteision y Gymraeg yn y cyrff hynny.
Rwy’n croesawu, felly, y cynnig i ailddiffinio safonau a chreu ffocws newydd ar ddyletswyddau cynllunio iaith—dyletswydd a fydd yn golygu mwy na bwrw tic mewn blwch a chyfundrefn a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda dyletswydd i ymchwilio, cynllunio a darparu. Dyma’r cyfle nawr i wir ddechrau trawsnewid y tirlun.
Un gair am strwythur, hynny yw y comisiwn newydd. Nid dyma’r elfen bwysicaf yn y Papur Gwyn yn fy marn i. Ond hefyd ni ddylem fod yn geidwadol yn ein hagwedd at ddiwygio strwythur os oes angen gwneud hynny i ateb galw newydd. Mae maint y sialens yn y strategaeth yn creu galw newydd. Y cynnig yw y dylai pwerau gorfodi a chydymffurfio’r comisiynydd barhau. Mae wedi bod yn gydnabyddedig ers degawd a mwy mai o fewn strwythur bwrdd ac nid trwy awdurdodi unigolyn y mae hynny’n fwy addas am amryw o resymau. Felly, mae’n briodol i esblygu’r corff sy’n rheoleiddio erbyn hyn.
Pum deg pum mlynedd yn ôl, yn Chwefror 1962, mewn cyfweliad radio, datganodd Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli, mai dyfodol y Gymraeg oedd her fwyaf Cymru—gosodiad cryn anarferol i Aelod Seneddol Llafur bryd hynny. Yr un mis, traddododd Saunders Lewis ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ a drawsnewidiodd ein hymwybyddiaeth fel cenedl o’r bygythiad i ddiwylliant Cymraeg. Gwnaeth ef ddarogan y byddai’r Gymraeg wedi marw erbyn dechrau’r ganrif hon. Wel, fel siaradwyr Cymraeg, rŷm ni yma o hyd, ond dim ond trwy weithio a gweithredu ac y mae mwy o’r ddau i’w wneud—
Cyn i chi gloi, a fyddech chi’n gallu, ac rwyf wedi bod yn gwrando’n astud—? Ar y cwestiwn canolog yma, sydd yn codi mewn cyd-destunau eraill hefyd, wrth gwrs, ai system sydd yn canoli grym gyda’r Llywodraeth neu system o gomisiynydd neu gomisiwn sydd yn annibynnol ar Lywodraeth er mwyn rhoi’r hygrededd a’r hyder i siaradwyr Cymraeg bod eu hawliau yn cael eu cydnabod—beth yw barn yr Aelod ynglŷn ag hynny?
Wel, rwy’n credu ei fod yn bosib i’r comisiwn fod yn ddigon annibynnol i allu darparu’r gwasanaeth hynny i bobl Cymru.
Rŷm ni nawr, rwy’n gobeithio, ar drothwy cyfnod o gynnydd yn y Gymraeg ac mae’n rhaid inni sicrhau bod yr offer a’r pwerau a’r adnoddau gyda ni, trwy Fil y Gymraeg, i wireddu hynny.
Mae fy mhlaid yn cefnogi'n fras y dull y mae'r Llywodraeth yn ei gymryd i hyrwyddo'r Gymraeg ac rydym yn cefnogi'n gryf y cynigion Cymraeg 2050. Rwy’n credu bod yr ymagwedd iawn gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—mae'n ymagwedd gydsyniol, a dyna'r unig ffordd y byddwn, yn fy marn i, yn gallu llwyddo yn yr amcan y mae pawb yn y Siambr hon yn ei gymeradwyo.
Rwy’n credu bod y cynigion yn y Papur Gwyn, ar y cyfan, yn rhai synhwyrol iawn. Dechreuodd Suzy Davies trwy ddweud bod gwerth am arian, lleihau biwrocratiaeth a gwella'r cydbwysedd rhwng hyrwyddo a grymuso yn amcanion canmoladwy iawn. Rwyf yn sicr yn cefnogi'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei araith am gyflwyno rheolaeth ddemocrataidd wirioneddol i ddatblygu a gosod safonau. Rwy'n credu ei bod yn iawn mai'r Llywodraeth ddylai gychwyn y rheini yn hytrach na chorff annibynnol. Rwy'n credu ei fod wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd mai’r hyn yr oedd eisiau ei gyflawni oedd undod ar draws y genedl ar gyfer consensws i symud hyn ymlaen. Mae hyn yn gwbl hanfodol oherwydd mae gennym ffordd faith i fynd ac mae llawer o bobl y mae angen eu hargyhoeddi mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fy hun ynglŷn â hynny. Rwyf i eisiau gweld cenedl ddwyieithog yn y pen draw. Mae'n debyg na fydd yn digwydd yn ystod fy oes i, ond serch hynny, credaf fod y strategaeth hon yn bendant yn mynd i’n helpu i gyflawni hynny.
Wedi dweud hynny, gallwn gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, heblaw am welliant 7, yn ogystal â gwelliannau'r Ceidwadwyr, ond nid wyf yn credu bod y geiriad ar y papur gorchymyn mewn gwirionedd yn gwrthdaro â'r hyn yr oedd y Gweinidog yn dadlau drosto yn gynharach. Rwyf yn credu y bydd y dadleuon a gyflwynwyd ar yr ochr hon i'r Siambr yn rhoi cig ar y geiriau hynny, ond ni fyddant ar y cofnod mewn gwirionedd yn yr un modd â chynnig diwygiedig. Felly, rwy’n credu bod hynny'n werth chweil.
Mae’r unig gafeat yr wyf yn dymuno ei gyflwyno i'r ddadl hon yn ymwneud ag ymestyn safonau i'r sector preifat. Mae hyn yn rhywbeth a ddylai ddigwydd ond yr amserlen yw’r mater allweddol yn y fan yma. Mae'n iawn y dylid trin cwmnïau mawr fel BT, neu gwmnïau cyfleustodau mawr, mewn gwirionedd, fel y sector cyhoeddus—gallan nhw ei fforddio—ond rydym wedi clywed dadleuon ynghylch effaith cyni heddiw, ac nid wyf yn mynd i ailadrodd y rheini, ond nid yw’r amgylchiadau yn hawdd i fusnesau ac mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gosod yn rhy gynnar yr hyn a allai fod yn gostau sylweddol ar fusnesau nad ydynt yn gallu eu fforddio.
Cefais fy nychryn braidd, mewn ffordd, o glywed Siân Gwenllian yn dweud nad yw perswâd yn gweithio ac felly bod yn rhaid i ni gael gorfodaeth. Nid dyma’r agwedd iawn yn fy marn i. [Torri ar draws.] Gwnaf—
Diolch am dderbyn yr ymyriad, gan na chefais gyfle i siarad yn fy nghyflwyniad yn y fan yma. O ran y pwynt am gwmnïau preifat, yn amlwg, gwlad o fusnesau bach a chanolig ydym ni. Ydych chi'n credu bod y gofyniad i unrhyw safonau fod yn rhesymol a chymesur yn ddigon i sicrhau bod y busnesau bach a chanolig hynny yn cael eu gwarchod rhag y posibiliadau yr oeddech chi’n cyfeirio atynt?
Wel, gallai fod. Nid yw’n rhywbeth yr wyf wedi fy argyhoeddi yn ei gylch hyd yma. Hoffwn ystyried hynny yn fanylach. Rwyf yn credu y dylid cael rhyw fath o brawf de minimis, boed hynny yn ymwneud â maint y cwmni, a boed hynny'n cael ei fesur drwy nifer y gweithwyr neu’r trosiant neu beth bynnag. Nid wyf i’n bersonol yn credu bod gan y Llywodraeth unrhyw fwriad o gwbl i ymgymryd â dwy gyfres o rwymedigaethau llym iawn. Ond byddwn yn casáu meddwl y byddem yn creu gelyniaeth pan nad oes angen hynny trwy gynyddu ofnau pobl yn ddiangen.
Cawsom sefyllfa anffodus iawn yn Llangennech y llynedd yn yr ysgol, ac achosodd yr hyn a welais yno bryder mawr i mi, gan fy mod i eisiau gweld mwy o addysg ddwyieithog a fy mod i eisiau gweld mwy o addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid oedd rhieni'r ysgol honno wedi eu hargyhoeddi mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ac roedd polisi'r cyngor sir yn creu gelyniaeth wirioneddol yno, ac rwy’n credu y byddai'n golygu cam yn ôl i’r iaith mewn gwirionedd yn hytrach na cham ymlaen. Felly, rwyf o blaid agwedd esblygol tuag at hyn. Rwyf yn credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth arwain ac rwy'n meddwl y dylai ddylanwadu'n gryf i’r cyfeiriad iawn, ond rwyf yn credu bod angen i ni fod yn glir iawn, cyn i ni basio cynigion, o ran pa rwymedigaethau yn union yr ydym ni’n eu gosod. Yn fy marn i, byddai datganiadau bras, mewn termau cyffredinol, y gellid eu camddehongli mewn modd a fyddai’n anfanteisiol i gyflawni'r amcan yr ydym i gyd yn ei rannu. Rwy'n credu y byddai'n gam yn ôl.
Mae yna waith mawr i’w wneud i gyrraedd nodau’r strategaeth iaith, onid oes? Mae yna wagleoedd, yn sicr. A’r asiantaeth hyrwyddo a hybu ydy un ohonyn nhw, a dweud y gwir. Roedd ein plaid ni yn galw am greu asiantaeth o’r math hwnnw ac roedd sicr yn gamgymeriad strategol i gael gwared â’r elfen honno. Ond wrth geisio llanw’r gwagle yna, y perygl yw, wrth gwrs, ein bod ni wedyn yn gwanhau yn enbyd y rhan o’r gyfundrefn sydd yn ymwneud â rheoleiddio sydd yn dechrau delifro, a dweud y gwir.
Roeddwn yn edrych ar y ffigurau ar gyfer y cynnydd sydd wedi bod yn barod yn adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Maent yn syfrdanol, a dweud y gwir, o ystyried bod y gyfundrefn newydd o dan y Mesur ddim ond wedi bod yn gweithredu ers ychydig dros flwyddyn yn llawn. Hynny yw, cyfarchiad Cymraeg neu ddwyieithog i 90 y cant o alwadau ffôn—cynnydd o 31 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Pum deg pedwar o dderbynfeydd yn arddangos yn glir fod croeso i ddefnyddio’r Gymraeg—cynnydd o 28 y cant dros y flwyddyn flaenorol. A nawr 25 y cant o hysbysebion swyddi yn dweud bod y Gymraeg yn hanfodol—cynnydd o 9 y cant ers y flwyddyn cyn hynny.
Rŷm ni mewn perig o chwalu’r gyfundrefn reoleiddio, yntefe, wrth ei bod hi nawr yn dechrau delifro. Wel, nid fi sydd yn dweud hynny, Alun. Roeddech chi’n dweud eich bod chi eisiau consensws. Cael ei chwalu mae’r consensws iaith. Mae Dyfodol yr Iaith yn gwrthwynebu, mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu, mae hyd yn oed Huw Onllwyn, cyn-bennaeth uned iaith Llywodraeth Cymru, yn collfarnu rhai o’r awgrymiadau craidd yma sydd gyda chi. Hynny yw, mae creu un corff ar gyfer hybu a rheoleiddio yn gamgymeriad, oherwydd maen nhw’n nodau ac yn weithgareddau gwahanol iawn sydd yn galw am ymagwedd a llywodraethiant a sgiliau gwahanol iawn.
Mae’r cwestiwn yma’n ganolog, o roi’r grym i’r Llywodraeth i osod y safonau. Mae hynny’n gamgymeriad dybryd, ac mae Huw Onllwyn ei hunan yn dweud, ‘Rwy’n ofni ein bod ni ar fin colli gwasanaeth pencampwr iaith annibynnol’, a’r Llywodraeth fydd yn rheoli popeth. Ac yng nghyd-destun hawliau, wrth gwrs, mae hynny’n bryder mawr, yntefe, achos beth sy’n digwydd os ydy gwleidyddiaeth yn newid? Roedd y Gweinidog yn sôn bod sefyllfa’r comisiynydd yn rhoi’r grym i gyd yn nwylo un person. Wel, yn ffeithiol, mae yna ddirprwy gomisiynydd ac yn y blaen, ac mae yna system lywodraethiant, ac mae yna staff ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, beth rŷch chi’n ei awgrymu, wrth roi’r hawl i’r Llywodraeth osod y safonau, yn y pen draw, ydy rhoi—. Wel, ar hyn o bryd, Alun, ar hyn o bryd mae’r safonau’n dod yn ôl i’r Cynulliad yma. Mae hynny’n briodol, wrth gwrs, mewn system ddemocrataidd. Beth rydym ni’n sôn amdano fe, wrth gwrs, ydy rhoi gormod o reolaeth uniongyrchol i’r Llywodraeth, a’r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi hynny, yn wynebu gwrthdaro buddiannau. Maen nhw’n ariannu’r cyrff sydd yn cael eu rheoleiddio, a Gweinidogion yn dod atyn nhw wedi hynny i ddweud, ‘Wel, a ydym ni’n gallu gwanychu’r safonau yn y cyd-destun hwnnw?’
Mae system o annibyniaeth trwy system gomisiynydd neu gorff ‘collective’ yn golygu bod yna hyder gan siaradwyr Cymraeg fod yr hawliau yn mynd i gael eu gweithredu. Roedd Sian Gwenllian wedi dweud bod hyn yn hollol ganolog: yr hawl gyda’r unigolyn i gwyno’n uniongyrchol i gomisiynydd, i swyddfa comisiynydd, sydd wedi hynny yn mynd i ymchwilio. Yn lle hynny, ie, cwyno i’r cyrff sydd yn tramgwyddo. Wel, roedd hynny wedi gweithio yn arbennig o dda am flynyddoedd i siaradwyr Cymraeg, oedd e? Dyna pam roedd rhaid creu Mesur y Gymraeg: er mwyn rhoi sicrwydd i siaradwyr Cymraeg ein bod ni yn mynd i gael hawliau cyfartal yng Nghymru.
Alun, roeddet ti a fi yn rhan o’r ymgyrch yna dros hawliau i siaradwyr Cymraeg, ac rŷm ni nawr yn cefnu arno fe. Hynny yw, mae’n cael ei dynnu’n ôl, colli momentwm, glastwreiddio. Dyna mae eich Papur Gwyn chi yn ei gynrychioli. Mae eisiau dechrau o’r dechrau. Rwy’n cytuno â Jeremy Miles: pam ddim cael hawliau sylfaenol mewn deddfwriaeth? Dyna sydd wedi delifro i bobl eraill mewn cyd-destunau eraill o anfantais. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dangos y math yna o uchelgais a radicaliaeth yn lle’r Papur Gwyn tila yma sydd yn mynd â ni gam yn ôl?
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg i ymateb i’r ddadl.
Rydw i’n ddiolchgar, Llywydd, am y cyfle i gyflwyno’r drafodaeth yma a’r drafodaeth ar y Papur Gwyn, a sut rydym ni’n symud ymlaen gyda pholisi iaith. Rydw i’n hynod o ddiolchgar i bob un—pob un—sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Roeddwn i’n falch iawn o glywed sylwadau Suzy Davies, Neil Hamilton, hyd yn oed Adam Price, ac rydw i’n falch hefyd ein bod ni’n dal i allu cael y fath yma o drafodaeth amboutu dyfodol yr iaith Gymraeg.
Roeddwn i’n hynod o falch o glywed Jeremy Miles yn dyfynnu Jim Griffiths. Fe yw un o arweinyddion Llafur Cymru, a rhywun sy’n adlewyrchu’r fath o Gymreictod rydw i’n credu bod Cymru eisiau ei weld, nid jest gan y Llywodraeth ond gennym ni i gyd. Ond a gaf i ddweud cwpl o bethau wrth ymateb i’r drafodaeth? Rydw i’n clywed y cyhuddiadau yma ein bod ni yn gwanhau ein hawliau ni fel Cymry. Nid ydym ni’n gwanhau unrhyw hawliau sy’n bodoli heddiw. ‘In fact’, beth rydym ni’n ei wneud yw mynd yn bellach i ymestyn y math o hawliau sydd gyda ni, ymestyn yr hawliau rydym ni’n gallu eu gweithredu, a beth rydym ni’n mynd i’w sicrhau yw ein bod ni’n gallu gweithredu'r hawliau yma. Nid oes gen i amynedd o gwbl gyda hawliau sy’n byw—a dim ond yn byw—ar bapur. Beth rydw i eisiau eu gweld yw hawliau sy’n gallu cael eu gweithredu gan Gymry Cymraeg bob dydd, lle bynnag maen nhw yn y wlad yma, ond nid yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw’n digwydd ar hyn o bryd, a dyna pam mae’n rhaid i ni weld bod yna newid, nid i wanhau—.
Na, nid ydw i’n mynd i adael i chi dorri i mewn ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—ond beth rydw i yn mynd i wneud yw sicrhau ein bod ni’n gallu gweithredu'r hawliau yna lle bynnag ydym ni ar draws Cymru. Dyna pam rydw i’n meddwl bod rhaid i ni ystyried sut ydym ni’n cryfhau ein hawliau ni. Nid yw’n ddigon da—nid yw e byth yn ddigon da—i jest ddod i fan hyn yn y Siambr a dweud nad ydym ni’n fodlon newid, bod gyda ni system sy’n bodoli ar hyn o bryd; nid yw hi’n ddigonol, ond nid ydym ni’n fodlon ystyried sut rydym ni’n newid y system honno.
Rydw i’n gwybod, Adam, eich bod chi’n eistedd ar bwys UKIP nawr, ond mi fuaswn i’n gofyn i chi beidio bod cweit mor geidwadol ag yr wyt ti wedi bod.
A ydy’r Gweinidog o leiaf yn ei hystyried hi yn dystiolaeth glir bod yna ddiffygion, o bosib, yn y Papur Gwyn yma fod pob cymdeithas, pob corff sy’n cynrychioli ymgyrchwyr iaith, siaradwyr Cymraeg, yn dweud eu bod nhw yn poeni bod y Papur Gwyn yma yn mynd i wanhau hawliau siaradwyr Cymraeg? Fe fyddech chi’n gwrando ar Stonewall petasai’n fater o hawliau pobl hoyw. Pam nad ydych chi’n gwrando ar y mudiadau iaith?
Rydw i yn gwrando. Rydw i yn gwrando. Roeddwn i yn Llandudno yn trafod â phobl ddoe. Roeddwn i yn Abertawe bythefnos yn ôl yn gwrando ar bobl. Rydw i’n mynd i barhau i deithio o gwmpas Cymru yn gwrando ac yn siarad â phobl. Beth rydw i’n ei ddweud wrthych chi nawr, Adam, yn eithaf clir, yw nad yw pobl yn cytuno â beth rydych chi’n ei ddweud y prynhawn yma. Mae yna bobl rydw i’n siarad â nhw, ar draws y wlad hon, nad ydynt yn cytuno â phob dim rydych chi a Sian wedi’i ddweud y prynhawn yma, ac mae angen i chi ystyried ac i feddwl hynny. Mae’n rhaid i ni, fel Senedd Cymru, adlewyrchu beth ydy ein gweledigaeth ni i gyd ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg. Rydw i’n hollol glir yn fy meddwl i bod rhaid i ni gryfhau'r hawliau sydd gyda ni fel Cymry Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag ydym ni ac i sicrhau ein bod ni’n gallu cael gwasanaethau yn y Gymraeg, ac mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud hynny.
Mae’r rhaid i ni hefyd wneud hynny mewn system ddemocrataidd, a system o ddemocratiaeth. Beth rydw i’n ei glywed ambell waith yw nad yw pobl yn trystio ein democratiaeth ni, nad yw pobl yn fodlon trystio’r ddemocratiaeth sydd gyda ni. Nawr, rydw i’n meddwl bod rhaid i ni gael rheoleiddio sy’n gwbl annibynnol o’r Llywodraeth, a dyna pam rydw i’n ystyried yr opsiwn o’r ombwdsman sydd yn hollol annibynnol o’r Llywodraeth, a hefyd yn sefydlu comisiwn gyda phwerau, gyda chyllideb, gyda grymoedd angenrheidiol i sicrhau bod y Llywodraeth yn atebol am ei weithrediadau. Hefyd, rydw i eisiau cydweithio yn well ar gyfer sut rydym ni’n gorfodi’r safonau ar gyrff gwahanol. Beth rydw i’n ei weld yw rheoleiddio fel ffordd bositif o sicrhau, os oes gwallau wedi bod, fod pobl yn cael eu hawliau wedi’u gweithredu, ond hefyd ein bod ni’n rheoleiddio drwy gydweithio â phobl, cydweithio a chwmnïau mawr, cydweithio â hyd yn oed y banciau, ond cydweithio i sicrhau bod gyda ni bolisi iaith sy’n adlewyrchu ein gweledigaeth ni.
A beth rydw i’n mynd i ddweud, wrth bennu y drafodaeth yma yw: mae gyda ni drafodaeth i’w chael ar hyn o bryd, ac mi fydda i’n dod â chasgliadau’r drafodaeth yma yn ôl i’r Cynulliad yn ystod y flwyddyn nesaf ac wedyn symud i ddeddfu. Ond fe fyddwn ni’n deddfu i sicrhau system ddeddfwriaethol a fydd yn adlewyrchu ein gallu i gyrraedd ein gweledigaeth ni, a gweledigaeth rydw i’n credu bod pob un ohonom ni yn ei rhannu. Nid ydym ni’n mynd i dreulio amser yn trafod strwythurau gwahanol. Rydym ni’n mynd i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg, ac rydym ni yn mynd i sicrhau gweledigaeth a fydd yn cael ei rhannu ym mhob un rhan o’r wlad, o Gaerbybi i Fynwy—[Torri ar draws.]
Gadewch i’r Gweinidog orffen.
[Yn parhau.]—ac mi fyddwn ni yn arwain hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.