7. 7. Dadl UKIP Cymru: Ardrethi Busnes

– Senedd Cymru ar 11 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, gwelliannau 2, 4, 5 a 6 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:43, 11 Hydref 2017

Yr eitem nesaf yw dadl UKIP ar ardrethi busnes, a galwaf ar Caroline Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6526 Caroline Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu:

a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn rhoi manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;

b) bod ardrethi busnes o’u hanfod yn annheg oherwydd mai ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a’u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i’r broses o sefydlu busnesau newydd;

c) y byddai lleihau effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi’r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i’r stryd fawr.

2. Yn penderfynu:

a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy’n gysylltiedig â’r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;

b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;

c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ysgwyddo cyfran fwy ond rhesymol o’r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o’r fath fod yn berthnasol i’w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:43, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gadeirydd. Rwy’n falch o gynnig y cynnig ger eich bron heddiw. Cyn i mi ddechrau mewn gwleidyddiaeth, roeddwn yn berchennog busnes bach, yn gweithredu busnesau ar y stryd fawr ym Mhen-y-bont yr Ogwr a Phorthcawl, a chefais brofiad personol o’r heriau sy’n wynebu busnesau ar ein strydoedd mawr. Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau yn ceisio lliniaru rhai o’r heriau hyn. Galwn ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ardrethi busnes fel ateb tymor hwy ac i gyflwyno rhyddhad ardrethi gwell i fusnesau bach yn y tymor byr. Bydd hyn yn chwistrellu cymorth mawr ei angen i fanwerthwyr annibynnol bach sy’n cael trafferth, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu ar ein strydoedd mawr.

Fel y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan yn eu maniffesto ar gyfer 2017, mae manwerthwyr annibynnol bach yn gwneud cyfraniad unigryw ac anhepgor i gymeriad ein strydoedd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi. Maent yn hanfodol i economïau lleol ar hyd a lled y wlad. Mae cyfran lawer uwch o refeniw yn cael ei ailgylchu i mewn i’r gymuned leol trwy fusnesau bach na thrwy fusnesau eraill yn lleol. Heb siopau annibynnol bach, mae ein strydoedd mawr mewn perygl o ddod naill ai’n gregyn gwag neu’n fersiynau llai o’r parciau manwerthu ar gyrion y dref. Os ydym am gadw cymeriad ein strydoedd mawr, o Ben-y-bont ar Ogwr i Fangor, o Gei Connah i’r Bont-faen, mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.

Mae un o bob wyth uned fanwerthu ar hyn o bryd yn wag, a chydag economi Cymru’n llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU nid yw’r rhagolygon ar gyfer y stryd fawr yn wych. Mae manwerthwyr y stryd fawr yn cael trafferth gyda rhenti ac ardrethi busnes cynyddol, ar yr un pryd ag wynebu cystadleuaeth gynyddol gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion y dref sydd â chostau llawer is. Mae’n rhaid i ni sicrhau chwarae teg, ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau bach a manwerthwyr annibynnol bach am weld camau’n cael eu rhoi ar waith ar ardrethi busnes.

Mae ardrethi busnes, fel y’u cyfansoddir ar hyn o bryd, yn eu hanfod yn annheg gan nad oes unrhyw berthynas rhyngddynt a phroffidioldeb busnes. Tâl yn seiliedig ar rent yr eiddo ydynt, ac fel y mae llawer o fanwerthwyr bach ar y stryd fawr wedi ei brofi er anfantais iddynt, nid ydynt yn adlewyrchu trosiant nac elw’r busnes. Nid oes dewis gan fanwerthwyr sy’n dymuno aros ar y stryd fawr ond ysgwyddo’r gost ychwanegol. Gallant symud, fel y mae rhai Gweinidogion wedi awgrymu yn y gorffennol. Felly, mae’n hanfodol i oroesiad ein strydoedd mawr ein bod yn cael treth decach yn seiliedig ar y gallu i dalu yn lle’r system ardrethi busnes bresennol.

Cefnogir hyn gan y Ffederasiwn Busnesau Bach a chonsortiwm manwerthu Cymru. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn datgan bod y system ardrethi annomestig, fel y mae, yn dreth annheg ac anflaengar nad yw’n ystyried gallu cwmni i dalu. Mae’n rhaid i fusnes dalu £1 mewn ardrethi busnes cyn iddo ennill £1 mewn trosiant, heb sôn am £1 mewn elw. Nid yw’r system hon yn addas at y diben mwyach ac nid yw’n ystyried natur newidiol rhedeg busnes. Mae treth sy’n seiliedig ar eiddo, o ran ei natur, yn targedu busnesau’n annheg mewn lleoliadau dethol, megis strydoedd mawr. Pentyrru gofid yn unig a wna ailbrisiadau anaml, gan waethygu treth eiddo sydd eisoes yn llusgo ar ôl y cylch economaidd. Rydym yn cytuno.

Yn ôl consortiwm manwerthu Cymru, mae manwerthwyr Cymru am weld ardrethi busnes yn cael eu diwygio’n sylfaenol i bawb, boed yn fusnesau bach, canolig neu fawr eu maint. Yr hyn sy’n gwbl glir yw nad yw’r system bresennol yn addas at y diben. Mae’n rhwystro buddsoddiad ac yn arwain at gau siopau a cholli swyddi. Rydym yn deall na all hyn ddigwydd dros nos. Dyma pam yr ydym yn cynnig system interim o ryddhad ardrethi a fydd yn golygu na fydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £15,000 yn talu ardrethi busnes o gwbl, a gostyngiad o 20 y cant i fusnesau sy’n werth rhwng £15,000 a £20,000.

Er mai ardrethi busnes yw’r rhwystr mwyaf i oroesiad busnesau ar y stryd fawr, nid hwy yw’r unig un. Mae ein strydoedd mawr yn wynebu cystadleuaeth galed gan fanwerthwyr ar-lein ac ar gyrion y dref. Rwy’n credu mewn marchnad rydd ond yma nid oes gennym chwarae teg, ac felly mae’r ods wedi eu pentyrru yn erbyn busnesau stryd fawr mewn mwy nag un ffordd. Mae datblygiadau ar gyrion y dref yn elwa o ddatblygiadau parcio am ddim ac nid yw’r meysydd parcio hynny wedi eu cynnwys yn y prisiad ardrethi busnes. Er mwyn cael mwy o chwarae teg, rydym yn cynnig y dylid cynnig parcio am ddim am o leiaf un awr mewn meysydd parcio ynghanol y dref a chanol y ddinas. Rydym yn credu y bydd hyn yn annog masnach yn lleol.

Nid Llywodraeth Cymru’n unig sydd i gymryd camau i achub ein strydoedd mawr. Mae gan Lywodraeth y DU ran i’w chwarae. Mae’n rhaid iddynt greu’r sefydlogrwydd economaidd sydd ei angen arnom er mwyn i’r stryd fawr oroesi. Mae angen iddynt edrych hefyd ar drethiant busnes. Hoffwn i Lywodraeth y DU adolygu’r dreth ar werth pan gaiff Brexit ei wireddu. Mae angen codi’r trothwy TAW o £85,000 ar hyn o bryd, a chyflwyno system fwy graddoledig. Ond yn anad dim, mae gan y cyhoedd yng Nghymru ran i’w chwarae hefyd. Dylai pawb ohonom flaenoriaethu manwerthwyr annibynnol—pan allwn wneud hynny—sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau o’r gwerth uchaf yn aml iawn. I aralleirio araith arweinydd y Blaid Lafur i’w cynhadledd, mae’n fater o’i ddefnyddio neu ei golli. Os yw’r cyhoedd yng Nghymru yn gweld gwerth y stryd fawr, mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r stryd fawr. Mewn ychydig llai nag wyth wythnos, fe fydd hi’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach unwaith eto wedi lansio’r addewid £10, lle y maent yn annog cymaint o bobl â phosibl i addo y byddant yn gwario o leiaf £10 gyda busnes lleol, busnes bach, ddydd Sadwrn 2 Ragfyr. Rwyf wedi derbyn yr addewid hwnnw, fel y gwneuthum y llynedd a’r blynyddoedd cyn hynny, a byddaf yn cefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac rwy’n annog pawb yma i wneud yr un peth.

Rwy’n annog pawb sy’n gwylio’r ddadl hon i dderbyn yr addewid. Mae cefnogi busnesau bach ein strydoedd mawr yn sicrhau bod gennym economi leol amrywiol a bywiog. Trwy ostwng y trothwy ar gyfer TAW, gallwn gyflogi mwy o bobl, ac yna bydd yr economi yn tyfu ymhellach. Rwy’n gofyn i chi ddangos eich cefnogaeth i’r stryd fawr yng Nghymru drwy gefnogi’r cynnig ger eich bron. Diolch yn fawr.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:51, 11 Hydref 2017

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol; os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru.

2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau traws-lywodraethol sy’n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a thyfu.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.

4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru’n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy’n fwy syml, yn fwy teg ac sy’n fwy penodol ar gyfer busnesau sy’n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

Diolch yn fawr. Galwaf nesaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliannau 2, 4, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r penderfyniad i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru yn llawn a’r potensial y mae hyn yn ei ddatgloi.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y cant.

Gwelliant 5—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; a

b) diwygio’r system ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd busnesau llai.

Gwelliant 6—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd ar gael i gefnogi cynlluniau peilot parcio am ddim yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 4, 5 a 6.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:51, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro—rwy’n credu y byddai Cadeirydd yn haws yn ôl pob tebyg. Rwy’n falch o gynnig y gwelliannau heddiw yn enw Paul Davies.

A gaf fi yn gyntaf groesawu parodrwydd Llywodraeth y DU i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru? Yn sicr, rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hwnnw’n gam i’r cyfeiriad iawn. Oedd, roedd gennym rywfaint o reolaeth dros ardrethi busnes cyn hynny, ond mae datganoli ardrethi busnes yn llawn, yn ein barn ni, yn dod â chyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru weithredu yn y maes hwn—offeryn arall yn y blwch offer economaidd, fel yr oedd y Prif Weinidog a rhagflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn awyddus i’w alw. Mae cael yr offeryn yn un peth, a’i ddefnyddio i wella’r gyfundrefn ardrethi busnes yn fater arall, a dyma ble y teimlwn nad yw gwelliant y Llywodraeth yn dderbyniol i ni. Mae nifer o elfennau yng ngwelliant y Llywodraeth na fuasem yn anghytuno â hwy. Yn sicr, pwysigrwydd busnesau bach—wrth reswm; nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn sefyll yn y Siambr hon i ddweud nad yw busnesau bach yn hanfodol bwysig i economi Cymru, fel y mae Caroline Jones yn wir newydd ei wneud yn glir.

Mae pwysigrwydd hanfodol gweithio ar draws y Llywodraeth yn rhan allweddol o welliant y Llywodraeth hefyd, ac mae hynny i’w groesawu. Yn y ddadl flaenorol, clywsom am bwysigrwydd Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd. Mae arnom angen fframwaith cydgysylltiedig rhwng Llywodraethau, a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at Brexit, yn ystod y trafodaethau Brexit, y gwn fod llawer o’r Aelodau, gan fy nghynnwys i, yn bryderus yn eu cylch.

Fodd bynnag, dyna ble’r ydym yn gwahanu, ni fydd yn syndod i chi glywed. Nid ydym yn credu bod gwelliant Llafur yn pwysleisio’r brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa a rhoi’r gefnogaeth y maent yn crefu amdani, ac y maent wedi bod yn crefu amdani ers peth amser, i fusnesau ledled Cymru. Felly, fel y mae ein gwelliant, gwelliant 5, yn egluro, mae angen i ni weld mwy o fusnesau’n cael eu heithrio rhag gorfod talu ardrethi busnes yn gyfan gwbl, a busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000 yn benodol yn cael eu tynnu allan o hynny. Rydym yn cytuno gyda rhan fawr o gynnig UKIP yn y maes hwn, mewn gwirionedd. Rydym yn anghytuno ar rai o’r manylion, ond rydych hefyd wedi cydnabod yn fras pa mor bwysig yw tynnu’r baich hwnnw oddi ar fusnesau. Byddem hefyd yn cael gwared ar y lluosydd, fel y mae’r gwelliant yn nodi. Gallwn wneud hynny bellach wrth i ardrethi busnes gael eu datganoli’n llawn. Wrth gwrs, mae hyn i gyd wedi ei gynllunio i gynyddu cystadleurwydd a gwella’r economi; ymwneud â hynny y mae hyn i gyd.

Mae’n hawdd iawn sefyll yn y Siambr hon a siarad am ystadegau fel pe baem mewn rhyw fath o wactod, a gallaf daflu ystadegau at y Siambr a bydd y Gweinidog yn eu taflu’n ôl, ond rwy’n aml yn teimlo nad ydym yn mynd i wraidd y dadleuon drwy wneud hynny. Fel cymaint o’r dadleuon yn y Siambr hon, mae hyn yn ymwneud â gwella bywydau pobl allan yno, cefnogi busnesau, gwella bywydau pobl, helpu mwy o bobl i gynnal eu hunain. Yn sicr, dyna pam rwyf fi yma, ac rwy’n siŵr mai dyna pam y mae Aelodau Cynulliad eraill yma hefyd. Felly, gadewch i ni gofio’r effaith a gafodd yr ailbrisio diweddar ar fusnesau ledled Cymru. Nid anghofiaf i, gan fy mod wedi cael fy moddi, fel y cafodd llawer o Aelodau’r Cynulliad rwy’n siŵr, gan ohebiaeth, galwadau ffôn a negeseuon e-bost gan bobl a oedd yn poeni’n wirioneddol am yr effaith y byddai’r newidiadau i’r ailbrisio yn ei chael ar eu busnesau. Wrth gwrs, nid ailbrisiad Llywodraeth Cymru oedd hwn; roedd yr ailbrisio’n digwydd ar draws y sbectrwm, ar draws y DU. Felly, rydym yn cydnabod nad bai Llywodraeth Cymru oedd yr angen i gael ailbrisiad, wrth gwrs—mae’n rhan angenrheidiol o’r cylch economaidd a’r cylch busnes ac roedd yn rhaid mynd i’r afael â hynny. Ond roedd y ffordd yr ymdriniwyd â’r ailbrisio a’r ffordd y cafodd ei gyfathrebu i bobl ledled Cymru yn peri pryder i ni.

Fel y dywedais, cefais lawer o sylwadau ac mewn gwirionedd, yn anffodus—archwiliais hyn yn ddiweddar—mae un neu ddau o’r busnesau y cysylltodd eu perchnogion â mi eisoes wedi mynd—maent yn wag, mae byrddau ar y ffenestri. Credaf fod hynny wedi crisialu’n glir i mi pam yr oeddwn yn ymwneud â deiseb ar y pryd a pham yr oeddwn eisiau helpu’r perchnogion busnes hynny. Felly, nid codi bwganod oedd hynny, fel y mae rhai ohonom yn aml yn cael ein cyhuddo o wneud, nid gwneud llawer o sŵn am ddim rheswm—mae canlyniadau gwirioneddol yr ailbrisiad a’r diffyg cefnogaeth briodol i fusnesau eisoes wedi cael effaith.

Am ein gwelliant olaf—dylai fod mwy o gefnogaeth i gynlluniau peilot parcio am ddim—credaf y dylai’r Llywodraeth allu—wel, rwy’n tybio y dylech allu—cefnogi hyn, gan fy mod yn gwybod eich bod eisoes wedi rhoi rhywfaint o gefnogaeth i ymestyn cynlluniau peilot ledled Cymru ar gyfer parcio. Yr hyn a ddywedwn yn syml yw ein bod yn credu bod hynny’n beth da ac y dylid ei wella. Felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig er mwyn cael ein gwelliannau ar y papur, ond mae llawer o bethau da yn y cynnig hwn ac rwy’n falch fod UKIP wedi ei gyflwyno i’r Siambr heddiw, ac rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth i’n gwelliannau.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:56, 11 Hydref 2017

Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy’n lleihau’n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;

b) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd ledled Cymru;

c) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; a

d) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:56, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Dyma gyfle arall eto i ni drafod diwygio ardrethi busnes. Hynny yw, nid fi yw’r unig un, rwy’n siŵr, yn y Siambr hon, i gael fy nharo gan dswnami o déjà vu. Mae’n ymddangos ein bod yn dragwyddol yn y lle hwn yn dychwelyd yn gyson at y pwnc, ac am reswm da, mewn gwirionedd. Mae hon yn dreth anachronistig a ddifrïwyd. Mae hi ychydig fel y dreth ar ffenestri, a gafodd ei diddymu yn 1851, ond mae hon yn un sy’n dal i fod gyda ni. Ac am yr holl resymau y cyfeiriodd Caroline Jones atynt ac y cytunodd Nick Ramsay â hwy, mae’n hen bryd inni nid yn unig ddiwygio ar yr ymylon, ond edrych ar ffordd hollol wahanol o ymdrin ag ardrethi busnes. Oherwydd, wrth inni symud i sefyllfa lle y mae busnesau ffisegol, a elwir hefyd yn siopau, yn y sector manwerthu yn arbennig yn wynebu heriau enfawr wrth i ni symud ar-lein, rydym yn llwytho cost ychwanegol ar y sector hwn, sy’n anghynaliadwy, ac mae’r canlyniadau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt yno i’w gweld ym mhob un o’n canol trefi.

Mae ein gwelliant yn nodi’r polisi yr ymladdasom yr etholiad arno. Hynny yw, mae’n mynd i gyfeiriad tebyg. Roeddem yn awgrymu diddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £10,000 y flwyddyn a rhyddhad sy’n lleihau’n raddol hyd at £20,000. Rydym yn anghytuno ar rai o’r manylion, ond rwy’n meddwl bod yr egwyddor yn glir. Roeddem hefyd yn cynnig eithrio busnesau yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu er mwyn annog dechrau busnesau newydd, cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban ac yn Lloegr. Ond dyma’r un go iawn, dyma’r wobr go iawn, sef archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.

Nawr, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei dogfen ymgynghori. Mae dau ddiwrnod ar ôl, rwy’n meddwl, i bobl sy’n awyddus i leisio barn, ond mae’n ddogfen anhrefnus, siomedig iawn i fod yn onest gyda chi. Un o’r pethau cyntaf y mae’n ei ddweud yw y bydd y cynllun newydd yn cael ei lunio o fewn yr amlen cyllid blynyddol presennol o £110 miliwn. Felly, ble y mae’r cyfle i ddiwygio yno? Roeddent hefyd yn nodi rhai argymhellion i gynyddu’r trothwy ar gyfer rhyddhad, ond maent yn hynod o gymedrol. Hynny yw, yr unig opsiynau dichonadwy, yn ôl y ddogfen ymgynghori, yw codi trothwy’r 100 y cant o ryddhad o £6,000 i £8,000. Briwsion yw’r rhain, mewn gwirionedd, o ran helpu’r sector busnesau bach yng Nghymru. Cynyddu’r trothwy uchaf ar gyfer rhyddhad o £12,000 i £13,000—wel, mae hynny’n mynd i greu effaith drawsnewidiol ar ein sector busnes yng Nghymru. Ac, arhoswch amdano, o bosibl—mae’n llawn o iaith amodol—codi’r trothwy isaf i £8,000 a’r trothwy uchaf i £13,000. Wel, dyna’r broblem, ynte? Dyna’r diffyg uchelgais o ran diwygio ardrethi busnes ac o ran polisi economaidd yn gyffredinol gan y Llywodraeth hon.

Nid oes sôn o gwbl yn nogfen ymgynghori Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am newid o fynegeio yn ôl y mynegai prisiau manwerthu i’r mynegai prisiau defnyddwyr. Dyna oedd yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar lefel y DU mewn gwirionedd. Dim sôn am eithrio buddsoddiad newydd mewn offer a pheiriannau. Rwy’n cofio John McDonnell yn canmol hwnnw fel polisi radical a oedd yn mynd i wneud gwahaniaeth i fusnesau ar draws y tir—Lloegr, wrth gwrs. Unwaith eto, enghraifft o wneud a dweud un peth pan fo’n gyfleus iddynt yn wleidyddol dros y ffin, ac yn yr un rhan o’r Deyrnas Unedig lle y maent yn Llywodraeth mewn gwirionedd, nid ydynt yn gweithredu eu polisi eu hunain. Nid ydym yn synnu, ydym ni, ond yn sicr, rwy’n meddwl bod gennym hawl i fod yn hynod siomedig ynghylch diffyg arweiniad y Llywodraeth. Mae angen meddwl yn radical. Yn sicr nid yw wedi ei gynnwys o fewn cwmpas y datganiad o uchelgais pathetig o isel a gawsom gan y Llywodraeth mewn perthynas â’u hymgynghoriad. Dylem fod yn edrych ar arwain gweddill y DU ar ddileu’r dreth hen ffasiwn hon a chreu llwyfan y gall ein busnesau ffynnu arno.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:02, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn cael eu cyflogi mewn busnesau bach a chanolig eu maint. Mae’r perchnogion busnes fel arfer yn dod o’r gymuned y maent yn masnachu ynddi, neu’n byw gerllaw. Mae eu diddordeb mewn gweld canol tref sy’n gynaliadwy yn bersonol yn ogystal â phroffesiynol, ac mae elw, yn wahanol i elw Amazon, Tesco, Asda a’r lleill, yn llawer mwy tebygol o aros yn y gymuned leol yn hytrach na chael ei anfon i ryw riant-gwmni pell mewn gwlad arall. Gan fod yr elw’n aros yn y wlad, bydd y busnesau hynny’n talu eu cyfran deg o dreth y DU, yn wahanol i rai cwmnïau rhyngwladol.

Mae’r system gyfredol yn trethu pobl fusnes ar sail gwerth nominal eu heiddo. Mae hyn yn afresymegol ac yn canolbwyntio ar adeiladau yn hytrach na’r busnes sy’n gweithredu ohonynt. Mae i’w weld yn anghofio bod yna unigolyn neu bobl y tu ôl i unrhyw fusnes bach yn ceisio gwneud bywoliaeth. Mae’n dreth anflaengar, ac mae’n hen bryd ei newid i fodel mwy blaengar, fel y mae’r eiddo gwag ar lawer o strydoedd mawr Cymru a’r nifer gymharol lai o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn ei ddangos.

Mae datganoli ardrethi busnes i Gymru yn galluogi Cymru i arwain ar gyflwyno system ardrethu busnes sy’n flaengar ac yn decach. Hoffwn weld ardrethi busnes yn seiliedig ar elw neu drosiant, gyda chymhellion wedi eu hymgorffori fel bod cyflogwyr yn rhannu budd gostyngiadau mewn ardrethi busnes â gweithwyr, ar ffurf cyflogi mwy o bobl. Er enghraifft, gellid ailstrwythuro ardrethi busnes yn y fath fodd fel bod busnesau’n cael gostyngiad neu gyfradd ratach am gyflogi mwy o bobl. Gellid gosod amodau ar y disgowntiau i annog busnesau i gyflogi pobl ar gyflog uwch na’r isafswm cenedlaethol. Ychydig bach o feddwl creadigol sydd ei angen yma, dyna i gyd.

I’r rhai sy’n honni y byddai system o’r fath yn gallu bod yn gymhleth i’w gweinyddu, mae’n bosibl eu bod yn gywir, ond mae hyn yn ymwneud â’r ffordd orau o gefnogi busnesau a thalu am wasanaethau lleol. Rwy’n credu o ddifrif fod ffordd o’i wneud lle y ceir ewyllys i’w wneud, ac mae ysgogi twf economïau lleol â system drethi lleol decach yn bendant yn werth y gwaith gweinyddol ychwanegol a allai gael ei greu. Cyn i fusnes ddechrau masnachu, a chyn eu bod wedi ennill ceiniog drwy’r busnes, cânt eu llyffetheirio â bil ardrethi busnes mawr. Mae’r drefn ardrethi busnes yn datgymell busnesau rhag dechrau, ac yn gwneud bywyd yn anos i fusnesau ifanc ar adeg pan fydd angen rhywfaint o le arnynt i dyfu, i wneud elw a dechrau cyflogi pobl.

Nodaf welliannau Llywodraeth Cymru i’n cynnig, a hoffwn wneud y pwyntiau canlynol. Mae eich gwelliannau’n gwneud llawer o’ch cefnogaeth i fusnesau bach, ond cyhyd â’ch bod yn parhau i wneud dim gan ganiatáu i awdurdodau lleol chwalu’r strydoedd mawr a’r economi leol drwy ei gwneud yn anos ac yn ddrutach i wneud busnes yno, bydd eich honiadau ynglŷn â chefnogi busnesau bach yn parhau i swnio mor wag ag y maent wedi gwneud dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’n iawn cyflwyno rhyddhad ardrethi, ond mae angen i fusnesau allu cynllunio a chyllidebu, ac nid yw’r senario ad hoc sydd gennym ar hyn o bryd yn caniatáu ar gyfer hynny.

(Cyfieithwyd)

Member of the Senedd:

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:05, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Na wnaf. Mae’r rhai a oedd o blaid aros yn yr UE yn y lle hwn yn siarad o hyd am niwed ansicrwydd pan fyddant yn ceisio dadlau yn erbyn gwireddu ewyllys pleidleiswyr Cymru o blaid Brexit, ond maent yn hapus i adael mater ardrethi busnes yn ansicr ac yn annelwig. Mae angen set o reolau pendant ar gyfer y wlad gyfan, er gwaethaf mympwy achlysurol Llafur i adael i fusnesau osgoi ardrethi busnes ar ambell achlysur. Nodaf nad oes sôn yng ngwelliannau Llafur am ailstrwythuro neu adolygu ardrethi busnes er mwyn eu gwneud yn fwy teg.

Wrth edrych o amgylch strydoedd mawr gogledd Cymru—strydoedd mawr a oedd yn ganolfannau prysur, ffyniannus i’r gymuned o fewn fy oes i—maent bellach yn llawn o siopau gwag. Gallwch weld y pelenni chwyn, fwy neu lai, yn rholio ar hyd y stryd fawr. Mewn ardaloedd yn fy rhanbarth i, mae masnachwyr wedi cael eu hatal rhag llwytho yng nghefn a thu blaen i’w heiddo. Efallai y gallai Llywodraeth Cymru gael y cyngor perthnasol i gynnig ateb o ran sut y mae masnachwyr yn mynd i lwytho’u stoc i’w siopau os na allant fynd â fan gludo nwyddau’n agos atynt. Go brin fod parcio yn y maes parcio aml-lawr i lawr y ffordd yn briodol.

Mae pethau fel hyn yn esbonio pam, yn gyffredinol, mai gan Gymru y mae’r gyfradd genedlaethol uchaf o adeiladau gwag ar y stryd fawr o’i chymharu â Lloegr a’r Alban. Roedd 15 y cant o siopau ac adeiladau hamdden yn wag ar ddiwedd hanner cyntaf 2015 ac rwy’n dyfalu nad yw’r sefyllfa’n ddim gwell. Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, ac fe’i dywedaf eto: mae rhai o’r penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol, megis pedestreiddio, rheoliadau a thaliadau parcio, cael gwared ar fannau llwytho, cynyddu ardrethi busnes ac yn y blaen, yn dinistrio ein strydoedd mawr a’r busnesau bach a arferai fasnachu oddi yno. Mae hefyd yn dangos nad yw’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau perthnasol erioed wedi ceisio rhedeg busnes bach ac nad oes ganddynt syniad pa broblemau y mae’r rhai sy’n ceisio rhedeg busnesau bach yn eu hwynebu.

Nid yw gwneud rhedeg busnes yng Nghymru yn ddrutach o werth i neb—nid i Lywodraeth Cymru, Trysorlys y DU, yr awdurdod lleol, ac yn sicr nid i’r perchennog busnes a’u gweithwyr—ond dyna mae ein trefn bresennol o ardrethi busnes yn ei wneud. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad ar frys ar ailstrwythuro ardrethi busnes, fel bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn rhoi’r gorau i ladd gwydd aur y busnesau bach. Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon, ac mae’n adeg bwysig i ddatblygu polisi mewn perthynas ag ardrethi annomestig. Rwy’n cydnabod y profiad sydd gennym ni yma yn y Siambr, yn ogystal â’r safbwyntiau polisi a fynegwyd heddiw.

Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru ac ailddosberthir yr holl refeniw ardrethi a gesglir yng Nghymru yn llawn i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yma yng Nghymru i gefnogi’r gwasanaethau hyn. Rydym yn talu trethi oherwydd bod pawb ohonom yn cael y manteision cyfunol o wneud hynny. Y gwasanaethau lleol y mae ardrethi annomestig yn eu cynnal yw’r union rai y mae busnesau eu hangen er mwyn llwyddo. Er mwyn cynnal y gwasanaethau hyn, mae’n iawn fod pawb sy’n gallu yn cyfrannu eu cyfran deg.

Mae ardrethi annomestig yn gymwys i’r rhan fwyaf o fathau o eiddo annomestig, gan gynnwys meysydd parcio a pharciau manwerthu ar gyrion y dref. Nid i fusnesau’n unig y maent yn berthnasol. Maent yn berthnasol i eiddo a ddefnyddir gan y sector cyhoeddus, wrth gwrs, a sefydliadau dielw. Cynlluniwyd y system ardrethi yn benodol i fod yn dreth ar eiddo er mwyn codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol. Nid yw’n dreth ar drosiant neu elw; mae’r rhain yn ddarostyngedig i fathau eraill o drethi a godir gan Lywodraeth y DU ac a ddefnyddir at ddibenion eraill.

Mae Nick Ramsay wedi ein hatgoffa mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n cynnal prisiadau eiddo. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae’n pennu’r fethodoleg ar gyfer prisio eiddo ac yn cymhwyso’r un fethodoleg ar draws y wlad, gan roi ystyriaeth i amodau’r farchnad eiddo yn lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw pob talwr ardrethi â’r un gallu i dalu, yn enwedig busnesau bach, lle y gall yr ardrethi fod yn gyfran uwch o’u costau cyffredinol. Dyna pam ein bod yn darparu dros £200 miliwn o gymorth ariannol fel rhyddhad ardrethi yn y flwyddyn ariannol hon, 2017-18, ac mae hwn yn cynorthwyo mwy na thri chwarter yr holl dalwyr ardrethi. Mae dros £100 miliwn i’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach eisoes yn cefnogi bron i 70 y cant o fusnesau yng Nghymru, ac nid yw dros hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth eleni, ond rydym wedi ei ymestyn ar gyfer 2017-18. Heb y cymorth hwn, byddai busnesau bach yng Nghymru yn wynebu biliau trethi uwch.

Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad clir i roi cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach newydd parhaol ar waith o fis Ebrill 2018. Fel sydd wedi cael ei ddweud a’i gydnabod heddiw yn y Siambr hon—a pham ei fod mor amserol, wrth gwrs—rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer y cynllun rhyddhad newydd, ac mae’r ymgynghoriad yn cau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rwy’n siŵr fod y sylwadau—rwy’n siŵr ein bod wedi eu gweld o’n hetholaethau a’n busnesau a’n cyrff, yn y cyfnod cyn y daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn bwysig. Mae’n gofyn am farn ar sut y gellid targedu’r rhyddhad yn well i gefnogi’r busnesau a fyddai’n elwa fwyaf a’r rhai a fyddai’n cyfrannu fwyaf at dwf economi Cymru a chynaliadwyedd ein cymunedau. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried sut y gellid datblygu’r cynllun parhaol i gefnogi amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n edrych, er enghraifft, ar yr opsiwn o ddarparu rhyddhad ychwanegol i ddiwydiannau neu sectorau penodol, megis gofal plant. Wrth gwrs, mae angen sail dystiolaeth gadarn i ni ystyried yr opsiynau hynny.

Bydd y cynllun rhyddhad parhaol yn darparu sicrwydd a diogelwch i fusnesau bach, gan gyflwyno toriad treth a’u helpu i ysgogi twf economaidd hirdymor ar gyfer Cymru. Mae cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach parhaol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol Cymru yn dangos yn glir y pwys a roddwn ar gefnogi busnesau bach drwy ostwng eu trethi annomestig.

Er bod y gwerth ardrethol cyffredinol yng Nghymru wedi gostwng, rwy’n cydnabod bod prisiadau wedi codi mewn rhai mannau ac ar gyfer rhai mathau o eiddo. Felly, mewn ymateb i ailbrisiad 2017, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad trosiannol newydd gwerth £10 miliwn i helpu busnesau bach yr effeithir yn niweidiol ar eu hawl i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mae’r cynllun rhyddhad yn darparu cymorth ychwanegol i dros 7,000 o dalwyr ardrethi, ac mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Ar y llaw arall, caiff rhyddhad trosiannol yn Lloegr ei ariannu gan dalwyr ardrethi a welodd ostyngiadau yn eu gwerthoedd ardrethol o ganlyniad i’r ailbrisio. I fod yn glir, mae’r rhyddhad i’r rhai y mae eu prisiadau wedi codi yn cael ei dalu gan y rhai y dylai eu biliau fod wedi lleihau.

Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae busnesau bach wedi bod yn dweud wrthym, yn enwedig manwerthwyr y stryd fawr. Wrth gwrs, mae rhai ohonom wedi bod yn cynrychioli etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn fawr gan hyn, ac rydym yn sylweddoli bod yr ailbrisio wedi effeithio’n fwy ar rai trefi a chymunedau. Er bod llawer o strydoedd mawr ledled y wlad wedi gweld gostyngiad yn yr ardrethi, mae angen cymorth ychwanegol ar rai manwerthwyr yn fwy cyffredinol—gwnaed y pwyntiau hyn y prynhawn yma—oherwydd, er enghraifft, y gystadleuaeth gan dwf siopa ar-lein a siopau ar gyrion y dref. Dyna pam yr ydym wedi dyrannu £10 miliwn arall o gymorth ychwanegol i fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys siopau, caffis a thafarndai yn 2017-18. Unwaith eto, mae hyn yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. I lawer o dalwyr ardrethi, yn enwedig y rhai nad oedd ond yn gymwys yn flaenorol ar gyfer rhyddhad ardrethi rhannol i fusnesau bach, mae’r rhyddhad ychwanegol hwn wedi lleihau eu dyled sy’n weddill i ddim.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leddfu’r pwysau ar fusnesau stryd fawr yr effeithir arnynt gan yr ailbrisio ac unwaith eto’n adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu â’r Ffederasiwn Busnesau Bach i ddysgu ac i drafod y materion hyn. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol inni dynnu sylw at y ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein busnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru, yn enwedig y stryd fawr a’r cyfleoedd hynny. Lansiwyd y benthyciad i ficrofusnesau ym mis Hydref 2012 i roi cyfle, er enghraifft, i gefnogi busnesau gyda benthyciadau o rhwng £1,000 ac £20,000. Hyd yn hyn, mae’r gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau Cymru wedi cefnogi 371 o fusnesau, gan fuddsoddi £9 miliwn yn uniongyrchol a denu dros £7.8 miliwn o gyllid sector preifat pellach. Mae’r gronfa wedi creu a diogelu 1,747 o swyddi hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017. Weithiau, mae ystadegau’n ddefnyddiol, Nick Ramsay, i dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd. Yn bwysig o ran adfywio, rydym hefyd wedi ariannu 20 o bartneriaethau canol y dref ar draws Cymru, ac yn ychwanegol at hyn, cronfa fenthyciadau canol y dref gwerth £20 miliwn.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:14, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am ildio, Gweinidog. Rwy’n cydnabod y lefel o gefnogaeth a fu, yn ychwanegol at yr hyn a addawyd y llynedd, ac rydym yn croesawu hynny. Ond mae busnesau eraill wedi disgyn drwy’r rhwyd, ar wahân i’r rhai a grybwylloch, felly a allai eich Llywodraeth edrych eto ar y cynlluniau sydd ar waith?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:15, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n credu mai dyma pam y mae hi mor bwysig fod yr ymateb i’r ddadl hon heddiw a’r ymateb i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried yn llawn, ac rwy’n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cofio—. Rwyf am wneud sylw ar y cynllun maes parcio—wrth gwrs, eich gwelliant 6 oedd hwnnw—ond hefyd y ffaith, fel y dywedoch, fod arian wedi cael ei ddyrannu i gefnogi mentrau peilot i brofi dichonoldeb ac effaith parcio ceir am ddim, gyda’r bwriad o gefnogi adfywio ein trefi a’n dinasoedd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:15, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Felly, yn olaf, yn y tymor hwy, byddwn yn edrych i weld a allai newidiadau mwy sylfaenol i’r system ardrethi annomestig fod o fudd i wasanaethau lleol ac economi Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Adam Price wedi croesawu’r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ei gynlluniau ddoe, lle’r ydym yn edrych yn fwy manwl ar ddulliau amgen yn lle trethi eiddo annomestig. Mae’n rhaid i ni edrych ar yr enghreifftiau gorau o systemau trethiant o bob cwr o’r byd, gan gynnwys gwahanol fathau o drethi. Ac wrth gwrs, wrth ystyried y diwygiadau hynny, mae’n rhaid inni flaenoriaethu mwy o gydnerthedd i awdurdodau lleol, tegwch i ddinasyddion, a chyllid cynaliadwy i wasanaethau lleol hanfodol. Felly, adeg bwysig: datblygiad ar bolisi rhyddhad ardrethi busnesau bach. Edrychwn ymlaen at weld yr ymatebion i’n hymgynghoriad, ac rwy’n cymeradwyo gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig hwn i’r Cynulliad. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 11 Hydref 2017

Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, rwy’n ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac mae’n ymddangos bod UKIP i wedi cyflawni rhywbeth nad yw pobl fel arfer yn ei gysylltu â ni: y gallu i sicrhau consensws ac undod, ar yr ochr nad yw’n Llywodraeth i’r tŷ o leiaf. Rwyf mewn sefyllfa lle y gallwn fod wedi pleidleisio, mewn gwirionedd, dros welliant y Ceidwadwyr, neu welliant Plaid Cymru, oni bai am y ffaith y byddai hynny’n golygu dileu rhan o’n cynnig ein hunain. Rwy’n credu bod hon wedi bod, wel, yn un o nifer o ddadleuon rwyf wedi byw drwyddi yn ystod fy oes wleidyddol—go brin ei fod yn bwnc tragwyddol—ond, serch hynny, nid yw ei bwysigrwydd byth yn diflannu, a chafodd hynny ei ddangos yn glir yn yr areithiau a wnaed, o araith Caroline Jones ar ddechrau’r ddadl, yr holl ffordd at arweinydd y tŷ’n siarad. Mae rhethreg angerddol Adam Price bob amser yn fantais i’w chael ar eich ochr, a nododd beth yw’r diffyg sylfaenol mewn trethi eiddo, sef ei fod yn anachronistig ac yn yr achos penodol hwn, yn mynd yn ôl i Ddeddf y Tlodion 1601. Mae tir yn hawdd i’w drethu am ei fod yn sefydlog ac ni ellir ei guddio, ac mae’n dreth gyfleus i gasglwyr trethi, ond nid dyna’r ddadl orau y gallech ei gwneud fel arfer dros gael treth. Rydym wedi clywed gan bawb arall am y niwed y mae’r dreth hon yn ei wneud i’r busnesau mwyaf bywiog yn y tir, a sut y mae’n effeithio’n wael ar yr economi. Nododd Caroline Jones yn ei haraith agoriadol fod un o bob wyth uned fanwerthu yng Nghymru yn wag. Mae’n annheg ac yn anflaengar. Clywsom Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yn siarad am y gyllideb a’r trethi newydd a gawn yn fuan iawn, ac yn cyfeirio at ba mor falch y mae o allu eu gwneud yn flaengar. Ond wrth gwrs, yn achos ardrethi busnes, y gwrthwyneb sy’n wir. Ni allaf ddeall pam fod yr awydd am flaengaredd mor fawr mewn trethi eraill y mae Llywodraeth Cymru â rheolaeth drostynt, ond yn gwbl absennol, fel y nododd Adam Price, yn achos ardrethi busnes.

Nawr, rwy’n sylweddoli bod y Llywodraeth am hysbysebu’r hyn y mae wedi ei wneud i leddfu’r problemau a achosir gan y system bresennol, ac rydym yn cydnabod hynny. Mae croeso i’w chynigion—y rhai dros dro a’r cynnig i gael ffurf fwy parhaol ar ryddhad—ond nid yw hynny’n mynd at wraidd y broblem. Yr hyn y dylem ei gael yw math o gomisiwn hollbleidiol i geisio ffurfio consensws barn ar sut i gael gwared ar y dreth hynafol hon, sy’n gwneud cymaint o ddifrod. Rwyf wedi byw drwy lawer o ailbrisiadau eiddo yn ystod fy oes—a rhai ohonynt yn llawer mwy dramatig na’r un yr ydym newydd ei brofi yma yng Nghymru—ac rwyf wedi byw drwy ymdrechion trychinebus i ddiwygio systemau trethi eiddo, yn enwedig treth y pen yn yr 1980au, a aeth â gormod o fy nosweithiau, yn y dyddiau hynny, yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid yw’n broblem hawdd i’w datrys—rwy’n derbyn hynny’n llwyr—ond serch hynny, rwy’n meddwl y dylem o leiaf roi cynnig arni, ac—

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:20, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch. A fyddech yn cytuno â mi ei fod yn ymwneud â Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE a bod modd gostwng y trothwy TAW a’r ardrethi i annog pobl i fuddsoddi yn ein gwlad, fod angen i Lywodraethau weithio gyda’i gilydd ar fater ardrethi busnes a TAW? Oherwydd pan dynnodd Gordon Brown 5 y cant i ffwrdd, a’i ostwng o 20 y cant i 15 y cant, roedd y gwahaniaeth a wnaeth hynny i fusnesau bach, gallaf ddweud wrthych, yn anhygoel. Fe gyflogodd pobl staff newydd â hwnnw, felly—.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’n wir fod pob treth fusnes, mewn gwirionedd, yn cael ei thalu yn y pen draw gan ddefnyddwyr neu drethdalwyr ar wahân i’r busnesau sy’n gyfrwng i’w thalu, oherwydd os nad oes gan fusnes arian y mae’n mynd i’w roi i’r awdurdodau trethu yn ei gyfrif banc ei hun, i’w wario naill ai ar fuddsoddi o fewn y busnes neu ddatblygu ei fusnes neu’n wir i’w drosglwyddo i fuddsoddwyr yn y busnes drwy gyfrwng difidendau, yna naceir ffyrdd eraill o wario’r arian, ac mae trethiant bob amser yn bwysau marw ar economi menter, er bod trethi, wrth gwrs, yn anochel, fel marwolaeth, fel y gwyddom. Ond yr hyn y byddwn—

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:21, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi gymryd cwestiwn?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

A fuasech yn cydnabod, fel y sonioch chi’n gynharach, fod £210 miliwn hyd yn hyn, ynghyd ag £20 miliwn, wedi mynd tuag at ardrethi busnes annomestig yng Nghymru? Mewn perthynas â Lloegr, mae llai na thraean wedi cael rhyddhad ardrethi o’r fath. A fuasech yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn hynny o beth, a hefyd yr ymgynghoriad presennol? Ac o ran y lluosydd hollt, y mae’n ymddangos bod peth consensws arno ar draws meinciau’r wrthblaid, a fuasech yn cydnabod bod hwnnw’n achos o roi cymhorthdal, dyweder, er enghraifft, i fusnesau bach o sectorau dan bwysau fel y diwydiant dur?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:22, 11 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yn yr ysbryd consensws y dechreuais fy araith, rwy’n croesawu Rhianon Passmore i mewn i fy mhabell fawr, os nad yw honno’n olygfa rhy frawychus ac erchyll. Ond wrth gwrs, rwy’n cydnabod bod y Llywodraeth wedi gosod sawl plastr ar y system bresennol, ond nid ydym eisiau atebion sydd ond yn gosod plastr. Rydym eisiau ateb, ar gyfer y tymor hwy yn bendant, sy’n mynd i’r afael â diffygion sylfaenol y system hon sy’n seiliedig ar eiddo ac sydd wedi hen golli ei defnyddioldeb. Mae’r economi’n wahanol iawn i’r hyn ydoedd ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, ac mae gennym fathau eraill o drethi sy’n gysylltiedig â’r gallu i dalu, ac ar hyd y llwybr hwnnw y dylem fynd os ydym am adfywio economi Cymru. Rwy’n dweud hyn o hyd—ein bod ar waelod y raddfa incwm yng ngwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig. Os ydym am newid hynny, mae’n rhaid i ni gael atebion mwy radical yma yng Nghymru. Mae Cymru bob amser wedi bod yn wlad radical. Yr hyn sydd mor ddigalon a thorcalonnus i mi ynglŷn â’r Llywodraeth Lafur hon yw ei diffyg radicaliaeth. Siaradodd Adam Price am ei chymedroldeb. Rwy’n cofio bod Margot Asquith wedi dweud am ei gŵr, Herbert Asquith, a oedd yn Brif Weinidog Rhyddfrydol gan mlynedd yn ôl, mae ei gymedroldeb cystal ag anffurfiad a chredaf fod hynny’n wir am y Llywodraeth Lafur hon hefyd. Mae angen i ni gyfuno ein hadnoddau, rwy’n meddwl, a cheisio canfod ateb i’r broblem hon, nad yw’n mynd i blesio pawb efallai, ond mae pawb yn cytuno ynglŷn â diffygion y system bresennol. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau Llafur hyd yn oed—er fy mod yn siomedig nad oes yr un ohonynt wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae pawb yn cytuno bod y system yn ddiffygiol ac mae pawb yn cytuno ynghylch natur y diffygion hynny. Ond serch hynny, nid oes neb i’w weld yn meddwl bod yna ateb; mae’r cyfan yn rhy anodd. Wel, mae Llywodraethau’n aml iawn yn creu anawsterau. Nid ydynt cystal am eu datrys, ond gydag ewyllys, ac ewyllys da, rwy’n credu y gallwn gyflawni hyn.

Felly rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac ysbryd eu hareithiau—Nick Ramsay, Adam Price a Michelle Brown—ac roedd rhannau o araith arweinydd y tŷ hyd yn oed y gallwn gytuno â hwy. Ond fy mhrif bwynt yw, pa dda bynnag y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud, mae’n rhaid inni gael dull o weithredu sy’n llawer mwy radical a hirdymor, ac nid wyf yn gweld hynny’n dod o’r ddogfen ymgynghori hon sydd ar y gweill. Felly, cymeradwyaf ein cynnig i’r tŷ.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 11 Hydref 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.