1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Hydref 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym pam y cynhaliwyd ymgynghoriad gennych ar 56 o gynigion gwahanol ar reoli adnoddau naturiol dros yr haf?
Cyflwynais yr ymgynghoriad ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy gan y credaf ei bod yn arbennig o bwysig, yn sgil Brexit, ein bod yn clywed barn rhanddeiliaid ynglŷn â pha ddeddfwriaeth a rheoliadau y bydd angen inni eu hystyried, yn enwedig dros y flwyddyn nesaf cyn ein cyfnod pontio Ewropeaidd.
Nid amrywiadau Heinz yn hollol, ond bron â bod. [Chwerthin.] Un arall a byddech wedi’i gwneud hi. Awgrymodd llawer o bobl fod hyn yn edrych fel clirio’r desgiau cyn Brexit. A gaf fi awgrymu y byddai’n siŵr o fod yn well cyflawni mewn perthynas ag ymgynghoriadau blaenorol cyn agor rhai newydd? Er enghraifft, yr hydref diwethaf, fe ymgynghoroch chi ar barthau perygl nitradau, a ddeng mis yn ddiweddarach, nid ydych wedi gwneud penderfyniad o hyd. Sut y gallwn fod o ddifrif ynglŷn ag ymgynghoriad pan fo’n cymryd blwyddyn iddo ddod i unrhyw gasgliad?
O ran y parthau perygl nitradau, rwyf wedi dweud sawl tro ein bod wedi cael nifer sylweddol o ymatebion a chredaf fod llawer o’r syniadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r parthau perygl nitradau yn haeddu cael eu hystyried yn fanwl iawn. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi penderfyniad ar barthau perygl nitradau erbyn diwedd y flwyddyn. Mewn gwirionedd, mae gennyf gyfarfod gyda swyddogion yn ddiweddarach heddiw ynglŷn â pharthau perygl nitradau.
O ran pam y cawsom ymgynghoriad arall, credaf fy mod wedi egluro hynny yn fy ateb gwreiddiol i chi, a gwn y bu llawer o sôn am yr ymgynghoriad hwn. Rwyf wedi gwrando ar yr hyn yr oedd y rhanddeiliaid yn ei ddweud. Ymestynnais yr ymgynghoriad hyd at ddiwedd mis Medi. Rydym wedi cael 15,000 o ymatebion, a byddwn yn dweud bod oddeutu 1,000 ohonynt yn annibynnol a bod 14,000 ohonynt yn ymgyrchwyr ac ati, mae’n debyg. Unwaith eto, bydd yn rhaid edrych yn ofalus iawn ar yr ymatebion hynny. Mae angen inni fod mewn sefyllfa i allu cyhoeddi deddfwriaeth yn gyflym iawn, o bosibl. Dyna’r broblem, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn clywed barn rhanddeiliaid. Mae’n rhaid i mi ddweud bod y rhanddeiliaid wedi bod yn dda iawn o ran cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Credaf eu bod wedi cymryd rhan am eu bod yn bryderus, i fod yn onest, eich bod yn awgrymu cymaint o newidiadau mewn cyfnod mor fyr. Nid yw hyn yn feirniadaeth o rai o’r syniadau unigol yn rhai o’r ymgynghoriadau hyn; mae’n ymwneud â’r ffordd y mae eich Llywodraeth yn ymgymryd ag ymgynghori bellach—ffrwd gyson o gynlluniau newydd heb unrhyw arwydd o gyflawni’r rhai blaenorol. Felly, gadewch i ni edrych ar un yr ydych newydd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf. O’r diwedd, fe gyhoeddoch chi’r nodyn cyngor technegol 20 newydd, sy’n ymwneud â chynllunio a’r iaith Gymraeg. Cymerodd hynny flwyddyn a hanner. Felly, tybed pa mor hir y bydd 56 o ymgynghoriadau gyda 15,000 o ymatebion yn ei gymryd. Ond fe gawsom nodyn cyngor technegol 20 yr wythnos diwethaf. Yn nodyn cyngor technegol 20, dywedwch eich bod yn awyddus i gael system a arweinir gan gynlluniau datblygu lleol, a dywed nodyn cyngor technegol 20 yn ei dro mai’r ffordd orau o asesu effeithiau cronnol posibl datblygiadau ar yr iaith Gymraeg ar draws ardal y cynllun datblygu lleol yw ystyried y defnydd o’r iaith Gymraeg wrth baratoi’r cynllun datblygu lleol ei hun. Felly, rydych eisiau system a arweinir gan y cynllun datblygu lleol a dywedwch mai’r ffordd orau o ystyried yr iaith Gymraeg a’r effaith ar yr iaith Gymraeg yw wrth baratoi’r cynllun datblygu lleol. Os felly, pam nad yw ystyried yr iaith Gymraeg yn rhan orfodol o baratoi ac adolygu’r cynllun datblygu lleol yn ei gyfanrwydd, ac yn un o’r gwahanol asesiadau?
Rwy’n credu ei bod yn siomedig ein bod yn cael ein beirniadu am ymgynghori. Yn sicr, nid dyna y mae’r rhanddeiliaid yn ei ddweud. Rwy’n derbyn eu bod wedi cael llawer iawn o waith i’w wneud dros yr haf a dyna pam yr ymestynnais y cyfnod ymgynghori, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymgynghori. Rwy’n credu y byddem yn cael ein beirniadu pe na baem yn gwneud hynny, felly mae arnaf ofn, ar y sail na allwch blesio pawb drwy’r amser, fy mod yn fwy na pharod i ymgynghori. Rwyf hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet sy’n mynnu cymaint â phosibl ein bod yn cael yr amser llawn ar gyfer ymgynghori; credaf fod 12 wythnos yn wirioneddol bwysig.
Mewn perthynas â nodyn cyngor technegol 20, rydych yn llygad eich lle. Cyhoeddais nodyn cyngor technegol 20 wedi ei ddiweddaru yr wythnos diwethaf i ddarparu eglurder i awdurdodau cynllunio, datblygwyr a chymunedau lleol ynglŷn â sut y gall y system gynllunio gefnogi a diogelu’r iaith Gymraeg. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol i ystyried yr iaith fel rhan o werthusiad cynaliadwyedd cynlluniau datblygu lleol, a chredaf y bydd nodyn cyngor technegol 20 yn eu cynorthwyo gyda’r dasg honno.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, buoch yn sôn am, ac yn wir, pleidleisiodd eich plaid o blaid treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu yng Nghymru. Tybed a allwch roi rhywfaint o eglurhad inni ynghylch manylion ac ymarferoldeb y bwriad hwn a sut y gallech fwrw ymlaen â hynny, neu ai rhyw sicrwydd amwys i Blaid Cymru ydoedd fod ganddynt rywfaint o berthnasedd o hyd ym mhroses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau?
Ni fyddwn byth yn ymddwyn felly gyda Phlaid Cymru, David Melding. O ran y dreth ar blastig, cawsom ddadl dda iawn ddoe ynglŷn â’r economi gylchol. Crybwyllais sawl pwynt ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb estynedig o gyfrifoldeb cynhyrchwyr sydd ar y gweill gennyf. Siaradodd sawl Aelod am gynllun dychwelyd blaendal, ac yn amlwg, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 3 Hydref rwy’n credu, y posibilrwydd, o bedair o’r trethi, y gallai treth ar blastig fod yn un ohonynt. Byddaf yn cael y trafodaethau manwl hynny gyda swyddogion a chydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwy’n ffyddiog y byddwch yn cynnal asesiad llawn, oherwydd yn y gorffennol, rydych wedi dweud bod angen i gynllun dychwelyd blaendal asesu goblygiadau hynny i filiau’r cartref o ddydd i ddydd, ac a allwch roi sicrwydd inni, mewn unrhyw dreth newydd y gallech fod yn ei hystyried, unwaith eto, y byddai’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar filiau’r cartref yn cael ei hystyried yn llawn?
Gallaf, yn sicr. Soniais ddoe fy mod yn un o blant y 1960au ac rwy’n cofio cynlluniau dychwelyd blaendal, ond credaf fod pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny, ac yng Nghymru, rydym yn ailgylchu 75 y cant o’n poteli plastig. Mae ein gwasanaethau ailgylchu ar garreg y drws yn rhagorol, felly mae’n rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw effeithiau neu ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas â chael cynllun dychwelyd blaendal. Ond yn sicr, mae’n rhaid i’r gost i’r cartref fod yn rhan o’r dadansoddiad ynglŷn ag a ddylem fwrw ymlaen â hyn.
Rwy’n cytuno â hynny, ac mae’n bwysig iawn, ond mae’r modd y defnyddir unrhyw dreth yn bwysig hefyd. Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, yn dechnegol, gellir ailddefnyddio cynhwyswyr bwyd polystyren. Credaf fod angen inni fod yn fanwl iawn o ran y camau rydym yn ceisio’u cymryd i sicrhau canlyniadau o ran lleihau llygredd o blastigion. Tybed a fyddech yn agored i gynnig mwy radical, un y byddai’r meinciau Torïaidd hyn yn fwy na pharod i’w gefnogi, os gallwch ddod o hyd i ffordd ymarferol o wneud hynny, sef gwahardd rhai o’r deunyddiau hyn. Dyna y maent yn ei wneud yn yr Unol Daleithiau bellach. Felly, os gallant hwy ei wneud heb ei ystyried yn ymosodiad ofnadwy ar y farchnad rydd, efallai y dylem ninnau ei wneud hefyd. Mae’n llawer symlach i’r cyhoedd ei ddeall hefyd.
Rwyf o blaid polisïau radical, felly rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth a fydd yn ein helpu i leihau sbwriel plastig, yn enwedig. Cafwyd ymgyrch yn ddiweddar ynghylch sbwriel plastig yn ein cefnforoedd, a chredaf fod hynny’n hollol ofnadwy, felly unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu—. Felly, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw bolisi radical, ac os hoffai’r Aelod gyfarfod â mi i’w drafod ymhellach, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu cynhadledd NFU Cymru mewn pythefnos, ac rwy’n siŵr y bydd wedi gweld y datganiad i’r wasg ymlaen llaw gan John Mercer, cyfarwyddwr NFU Cymru, lle y mae’n dweud hyn:
Cred yr Undeb yn gryf y gallwn sicrhau bod Brexit yn llwyddiant os canolbwyntiwn gyda’n gilydd ar gynorthwyo ein diwydiant i oresgyn yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n cynyddu â bwyd diogel, safonol a fforddiadwy.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod gan ffermwyr Cymru syniad cadarn o beth fydd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amaethyddiaeth wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly, mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau fframwaith beth bynnag, cyn gynted â phosibl, a’i bod yn eu cyhoeddi. Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru, fel y dywed John Mercer. A all Ysgrifennydd Cabinet roi syniad cadarn o’r amser y bydd yn ei gymryd iddi ddatblygu o leiaf polisi fframwaith amaethyddol y gall ei gyhoeddi?
Diolch i Neil Hamilton am ei gwestiwn. Yn sicr, byddaf yn mynychu cynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Credaf ei bod yn gynnar ym mis Tachwedd neu ddiwedd mis Tachwedd—
Ar 2 Tachwedd.
Dyna ni. Felly, rwy’n edrych ymlaen at hynny’n fawr iawn. Nid wyf yn siŵr fy mod wedi gweld y datganiad i’r wasg y cyfeiriwch ato, ond yn sicr, rwy’n ymgysylltu’n aml ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwy’n ymwybodol iawn o’u safbwyntiau ar gyfleoedd yn ogystal â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae fy swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â fframweithiau, deddfwriaeth bosibl yn ogystal â thrafodaethau gyda’u swyddogion cyfatebol. Felly, gwn fod yr holl uwch swyddogion o’r pedair gwlad wedi cyfarfod yma yng Nghaerdydd ddydd Mercher diwethaf. Fe fyddwch yn gwybod am yr ymgysylltiad gweinidogol rwy’n ei gael. Bellach, mae gennym ddyddiad arall ar gyfer ein cyfarfodydd misol—yn anffodus, ni chawsom un ym mis Hydref—gydag Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond byddwn yn cyfarfod eto, yn Llundain unwaith eto yn anffodus, ar 6 Tachwedd. Ond mae’n bwysig iawn fod y trafodaethau hynny’n parhau.
O ran amserlen, buaswn yn dychmygu y gallwn ddechrau cyhoeddi hynny’n gynnar y flwyddyn nesaf, ond unwaith eto, mae llawer iawn o waith manwl yn cael ei wneud am gyfnod.
Rwy’n deall hynny’n llwyr. Nid oes unrhyw un yn bychanu maint enfawr y prosiect hwn, ond mae’n hanfodol bwysig i ni a Llywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ym Mrwsel ar hyn o bryd hefyd, oherwydd, os ydym am gael y fargen orau sydd ar gael gan yr UE, mae angen iddynt wybod ein bod yn hollol barod am ddim bargen. Ac felly, yn fy marn i, bydd po fwyaf y gallwn ei gyhoeddi ymlaen llaw yn ein helpu i sicrhau bargen resymol gan yr UE os ydynt yn synhwyrol yn ei gylch.
Sail sylfaenol y drefn bresennol yw cynllun y taliad sylfaenol, a pholisi UKIP yw parhau ag amrywiad o hwnnw, ond gyda chap o £120,000 ar y taliadau, er mwyn rhoi diwedd ar y gwahaniaethu o blaid ffermwyr a busnesau amaethyddol mwy o faint a rhoi mwy o gefnogaeth i fentrau llai. Credwn hefyd y dylid rhoi codiad o 25 y cant i ffermydd organig. O gofio bod natur amaethyddiaeth yng Nghymru yn wahanol iawn i Loegr—nid oes gennym beithdiroedd helaeth fel Swydd Lincoln ac yn y blaen—ni ddylai fod yn anodd i Lywodraeth Cymru ddod i gasgliadau gweddol debyg. Felly, tybed a all roi unrhyw syniad inni ynglŷn â sail polisi amaethyddol yn y dyfodol, o leiaf.
Credaf i chi godi pwynt pwysig iawn ar ddechrau’ch cyfraniad ynglŷn â sicrhau y ceir y wybodaeth orau bosibl. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhannu gwybodaeth hefyd, ac yn sicr, rwy’n fwy na pharod i rannu gwybodaeth gyda gweinidogion cyfatebol. Credaf ein bod yn dechrau gweld mwy o hynny.
O ran bod yn hollol barod ar gyfer ‘dim bargen’, wel, nid wyf yn gwybod sut y gallwch fod yn hollol barod ar gyfer ‘dim bargen’. Mewn gwirionedd, nid wyf yn deall sut y gallwch gael ‘dim bargen’, oherwydd mae gadael yr UE, yn fy marn i, fel ysgariad. Nawr, ni allwch gael ‘dim bargen’ gydag ysgariad. Mae’n rhaid ichi gael bargen o ryw fath; mae’n rhaid ichi gael bargen. Felly, mae’r holl sôn am ddim bargen—rwyf mewn penbleth llwyr ynglŷn â sut y gallwch gael ‘dim bargen’. Credaf yn bendant y dylai fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth y DU eu bod yn sicrhau’r fargen orau bosibl, ac rydym yn pwyso am hynny ar gyfer pobl Cymru.
O ran eich cynigion, unwaith eto, buaswn yn fwy na pharod i edrych ar beth yw cynigion UKIP ar gyfer ffermio yn y dyfodol ar ôl Brexit.
Wel, yn amlwg, mae pob un ohonom yn awyddus i gael bargen os oes un ar gael, ond mae dwy ochr i hyn, ac os nad yw’r UE yn barod i daro bargen, ac os nad ydynt yn barod i barhau i siarad, hyd nes ein bod yn talu’r pridwerth, dyna sut beth fydd ‘dim bargen’. Nid hynny oedd diben fy nghwestiwn heddiw. Y bwriad oedd edrych ar ddyfodol ffermio a physgota yng Nghymru.
Yn dilyn cwestiwn Michelle Brown yn gynharach, yr hyn yr hoffai UKIP ei weld er mwyn adfer bywyd i’n cymunedau pysgota a chymunedau ein harfordir yw parth economaidd cyfyngedig o amgylch y Deyrnas Unedig, ac yn amlwg, yn nyfroedd Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn atal pysgotwyr Ewropeaidd rhag cael mynediad cyfartal i’r dyfroedd hyn, cael parthau lle na chaniateir pysgota i gynorthwyo’r broses o silio ac ailgyflenwi stociau pysgod—efallai y gallai llongau pysgota tramor gael mynediad i’n dyfroedd, ond gyda thrwyddedau—a sicrhau bod yr holl bysgod sy’n cael eu dal yn nyfroedd y DU, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu dal gan longau tramor sy’n gweithredu o dan drwydded, yn cael eu glanio a’u gwerthu yn y DU i helpu i ariannu a denu buddsoddiad mewn diwydiant pysgota sy’n datblygu o’r newydd.
Felly, gobeithiaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld y gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y ddadl hon mewn ffordd amhleidiol. Credaf fod lle i wneud hynny gyda phob plaid yn y Cynulliad hwn.
Oes, yn sicr. Rwyf newydd ddweud wrth David Melding fy mod yn fwy na pharod i edrych ar syniadau unrhyw un, wrth gwrs, ac yn sicr, rwy’n awyddus i gael polisi pysgota a physgodfeydd cadarnhaol iawn. O siarad â’r diwydiant pysgota—ac rydym newydd ddechrau paratoi ein trafodaethau yn awr cyn y cyngor pysgodfeydd ym mis Rhagfyr—rwy’n credu eu bod yn teimlo bod yr UE wedi gwneud tro gwael â hwy. Nid oes amheuaeth am hynny, yn sicr wrth siarad â diwydiant pysgota Cymru. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn cael y polisi pysgodfeydd yn gywir. Felly, ydw, rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw syniadau yr hoffech eu cyflwyno.