Grŵp 1. Dileu’r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu (Gwelliannau 5, 14, 9, 11, 1, 3)

– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:47, 28 Tachwedd 2017

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â dileu'r ataliad dros dro presennol ar yr hawl i brynu. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy'n galw ar David Melding i gynnig y gwelliant ac i siarad amdano. David Melding. 

Cynigiwyd gwelliant 5 (David Melding).

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:48, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Ac rwyf yn cynnig gwelliant 5. Cyn imi siarad am welliant 5, a gaf i ddweud ychydig eiriau am Carl Sargeant, a oedd, wrth gwrs, yn Ysgrifennydd y Cabinet yng Nghyfnodau 1 a 2 y Bil hwn? Rhaid imi ddweud, ar ôl cwblhau cyfnod 2, lle'r oedd llawer o ddadleuon difrifol iawn ynghylch materion o egwyddor, ni chredais am eiliad y byddwn yn y sefyllfa hon o orfod gwthio fy ngwelliannau yng Nghyfnod 3 a chael person gwahanol yn ymateb.

Drwy gydol y ddadl, roeddwn yn ystyried Carl i fod yn gwrtais, yn deg ac yn anodd ei drechu, rhaid dweud. Ac ni chafwyd llawer o ymatebion o ran ildio i'r hyn yr oeddem yn galw amdano yng Nghyfnod 2, ond rwy'n siŵr y byddai wedi disgwyl imi roi'r ddadl lawn yma yn y cyfarfod llawn ar gyfer pwyntiau dilys o egwyddor lle'r ydym yn anghytuno, ond, mewn perthynas â'r Bil hwn, lle credwn y byddai'n gwella'r Bil, o ystyried bod y Cynulliad yn awr yn ystyried rhyw fath o ddiddymu.

Felly, os caf gynnig, Llywydd, i bwrpas gwelliant 5, sydd yn cael gwared ar ataliadau dros dro ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr ardaloedd sydd wedi'u dynodi i fod wedi'u hatal dros dro ar hyn o bryd dan Fesur Tai (Cymru) 2011. Ar hyn o bryd, y rhain yw Caerdydd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Bydd hyn yn galluogi tenantiaid cymwys yn yr ardaloedd hynny i arfer eu hawliau fel unrhyw denantiaid cymwys eraill ledled Cymru, hyd nes bydd y diddymiad yn dod i rym.

Mae gwelliannau 14, 9, 11, 1 a 3 yn welliannau canlyniadol y mae eu hangen i wneud y prif welliant yn effeithiol.

Llywydd, rwyf wedi cyflwyno gwelliant 5 oherwydd credaf y byddai Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) wedi bod yn annheg, pe byddai'n cael ei weithredu fel y saif ar hyn o bryd. Os yw'r Llywodraeth yn benderfynol o gael gwared yn gyfan gwbl ar yr hawl i ddefnyddio'r hawl i brynu ar gyfer y tenantiaid hynny yn y chwe awdurdod a ataliwyd dros dro, tra'n ymestyn cyfnod gras i denantiaid yn yr 16 awdurdod sy'n weddill, yna i bob pwrpas byddai'r Llywodraeth yn creu dau gategori o denantiaid ar y mater sylfaenol hwn. Gallai fod, yn fy marn i, oblygiadau hawliau dynol difrifol ar y mater hwn, ac nid wyf yn credu bod y Llywodraeth wedi ymateb yn ddigonol hyd yma i'r pryderon hyn yn ystod unrhyw gam o'r ystyriaethau hyd yn hyn.

Yn ystod sesiynau tystiolaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor, gwelsom gymaint o broblem oedd hyn. Amlygodd rhai o'r cyfranwyr, mewn ardaloedd lle'r oedd ataliad dros dro ar waith ar hyn o bryd, y gellid ystyried bod peidio â rhoi'r cyfle i denantiaid brynu eu cartref cyn diddymu yn annheg. Credaf fod y pwynt hwn wedi cael ei bwysleisio ar bob aelod o'r Pwyllgor, hyd yn oed os na wnaethant newid eu safbwynt yn y pen draw. Roedd y dystiolaeth yn gryf.

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, dywedodd cynrychiolwyr o Ddinas a Sir Abertawe eu bod eisoes wedi cael profiad o denantiaid oedd yn mynegi cwynion ynghylch annhegwch peidio â chael cyfle i brynu eu cartrefi cyn i'r diddymu ddod i rym. Pwysleisiodd ymatebwyr eraill, gan gynnwys Shelter Cymru, y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i'r mater hwn o ecwiti.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef ei bod wedi cael sylwadau gan denantiaid unigol, a gwn y gall pob un ohonom werthfawrogi hynny oherwydd rwyf i wedi derbyn llawer o ymatebion hefyd gan etholwyr pryderus. Yn wir, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, pan ymatebodd i'r gwelliant hwn yng Nghyfnod 2, ildio'r pwynt a dweud ei fod yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r gwelliannau hyn mewn cysylltiad â gwneud sylwadau unigolion.

Credaf fod y gwelliant hwn yn hanfodol os ydym i fod yn deg â'r holl denantiaid ledled Cymru, wrth gynnig iddynt un cyfle olaf i brynu eu cartref, a gobeithio y bydd y Siambr yn cadw hyn mewn cof wrth ystyried y gwelliant hwn. Rwy'n gwneud y cynnig felly.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:52, 28 Tachwedd 2017

Diolch, Llywydd. Rydw i am siarad am y gwelliannau ond hefyd am amlinellu agwedd Plaid Cymru at y Bil. Bu Plaid Cymru yn gwrthwynebu hawl i brynu ers tro byd, efo ein haelodau ni yn cefnogi dileu’r hawl i brynu mewn cynigion i’r gynhadledd—cynadleddau’r blaid—ers degawdau, o’r adeg y gweithredwyd y polisi i ddechrau gan y Llywodraeth Geidwadol. A phan roeddem ni’n rhan o glymblaid Cymru’n Un, fe wnaethon ni geisio gweithredu’r polisi yma yn unol â dymuniadau ein haelodau ni drwy sicrhau’r pwerau deddfwriaethol i wneud hynny. Ers hynny, caniatawyd i awdurdodau lleol wneud cais i atal yr hawl i brynu, ac yn wir fe wnaeth rhai hynny. Mae awdurdodau o dan reolaeth y blaid a rhai dan reolaeth pleidiau eraill wedi manteisio ar hyn i warchod eu stoc tai a gwarchod buddsoddiadau yn y stoc tai. Felly, yn amlwg, mi fyddwn ni’n cefnogi y Bil yma. Ac yn wir, rydym ni wedi cymryd rhan lawn yn y broses graffu, ac rydym ni’n credu bod hyn wedi arwain at Fil cryfach o ganlyniad. Rydym ni wedi gweithio efo’r Llywodraeth ar welliannau 15 ac 16, ac felly rydym ni’n gobeithio y bydd y rheini yn pasio.

Yn unol â’r agwedd yma, byddwn yn pleidleisio dros y Bil a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau Ceidwadol a fydd, yn ein barn ni, yn glastwreiddio bwriad polisi’r Bil. Ond tybiaf ei fod yn deg dweud hefyd, er y bydd y ddeddfwriaeth yn gam cadarnhaol tuag at warchod y stoc tai, ynddo'i hun, ni fydd yn ddigon. Mewn llawer ffordd, daw’r ddeddfwriaeth hon yn rhy hwyr i warchod y stoc a gollwyd. Rydym ni’n gwybod bod yna ddiffyg enfawr o ran tai cymdeithasol, efo rhestri aros yn parhau yn warthus o uchel. Ers 1980, dim ond 60,000 o gartrefi newydd a godwyd yn y sector awdurdodau lleol neu dai cymdeithasol. Mae yna 90,000 ar y rhestr ar hyn o bryd. Dros y bum mlynedd diwethaf, rydym ni wedi codi, ar gyfartaledd, 950 o dai newydd yn y sector tai cymdeithasol o dan y Llywodraeth yma. Ar y rât yma, mae'n mynd i gymryd 95 mlynedd i godi digon o dai i fynd i'r afael â'r rhestr aros a rhagdybio na fydd newid net yn y galw, sydd yn llawer rhy hir.

Ac ydy, mae'n wir y gallai'r bobl hynny mewn tai cymdeithasol fod yn awr eisiau bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond mae'r cyfuniad o gyflogau isel, cyflogaeth ansicr a phrisiau tai uchel yn rhwystr, felly mae angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol, a rhoi llawer mwy o gefnogaeth i bobl i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, trwy gefnogaeth i brynwyr tro cyntaf, er enghraifft. 

Mae yna rai cynlluniau ar y gweill yn barod. Mae yna un yn cael ei gynnal yn fy ardal i, lle rydych chi'n talu rhent canolradd ar eich eiddo cymdeithasol, ac yna mae gennych chi ddewis o brynu'r tŷ, ond os ydych chi'n symud ymlaen, wedyn, i'w werthu fo, mae'n rhaid i chi ei werthu fo yn ôl i bobl leol. Gallai dulliau fel hyn fod yn erfyn gwerthfawr i helpu perchnogaeth eiddo mewn ardaloedd lle mae'r pris cyfartalog yn sylweddol uwch na'r cyflogau lleol. Ac mewn rhannau o Wynedd, mae hynny'n sicr o fod yn wir.

Felly, mae gwarchod ein buddsoddiad drwy basio'r ddeddfwriaeth yma'n un cam bychan o'r hyn sydd angen ei wneud, ac rydw i'n cofio clywed Carl Sargeant ei hun yn dweud yn y pwyllgor mai darn yn unig o'r jig-so ydy'r ddeddfwriaeth yma; mae angen dipyn mwy na'r cydsynio i hyn, heddiw. Felly, rydw i'n mawr obeithio na fyddwn ni'n gweld y Ddeddf yma fel diwedd y daith.

Gair am welliannau'r Torïaid: mae'r gwelliannau hyn i gyd yn codi atal yr hawl i brynu mewn ardaloedd lle mae hyn eisoes mewn grym. Rydym ni'n credu y byddai hyd yn oed codi'r atal dros dro yn niweidiol, ac fel rhan o'r cyfnod ataliol, mae tenantiaid yn yr ardaloedd penodedig eisoes wedi cael cyfle i brynu tra roedd yr atal yn mynd drwy'r broses, felly fe fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y gwelliannau.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:57, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, cytunaf â sylwadau David Melding am y cyn-Weinidog, Carl Sargeant. Wrth gwrs, roedd gwahaniaethau gwleidyddol ar y Pwyllgor pan drafodwyd y Bil, ac mae'n anochel y bydd gwahaniaethau gwleidyddol, ond roedd bob amser yn gyfeillgar ar lefel bersonol. Felly, hoffwn gytuno â'r hyn a ddywedodd David am Carl. 

Fel grŵp, nid oedd UKIP yn cefnogi diddymu'r hawl i brynu. Roeddem yn teimlo mai dim ond niferoedd eithaf bach o denantiaid sy'n prynu eu cartrefi bellach, felly nid oeddem yn teimlo y byddai dileu'r hawl i brynu yn arwyddocaol iawn o ran helpu i ddarparu tai cymdeithasol, ac mae'n ei gwneud hi'n fwy anodd i gyflawni'r dyhead pwysig o fod yn berchen ar eich tŷ eich hunan. 

Roedd gwelliannau amrywiol wedi'u cyflwyno yn y cam pwyllgor gan David Melding a Bethan Jenkins. Yn absenoldeb Bethan, wrth gwrs, mae Siân Gwenllian yn siarad amdanynt heddiw. Teimlwn, yn y Pwyllgor, fod y rhain yn welliannau defnyddiol yn gyffredinol a fyddai wedi gwella'r ddeddfwriaeth, ac roeddwn yn siomedig na wnaeth y Llywodraeth gefnogi unrhyw welliannau yn y cam Pwyllgor. Mae UKIP yn hapus i gefnogi'r holl welliannau heddiw. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:58, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Byddai Carl Sargeant wedi bod yn siomedig pe na fyddai David Melding wedi cyflwyno'r gwelliant hwn. Roedd yn parchu sefyllfa David yn llwyr, rwy'n siŵr, er nad oedd yn cytuno ag ef. A'r hyn a ddywedodd ar y pryd oedd, 'Rwy'n derbyn pwyntiau'r Aelod ynghylch yr angen i adeiladu mwy o dai, ond tra'r ydym ni'n eu hadeiladu, rydym yn dal i'w colli nhw drwy'r hawl i brynu ac ni all hynny barhau.'

Felly, fel Aelod dros Gaerdydd, byddwn yn bryderus iawn ynghylch y cynnig i gael gwared ar atal yr hawl i brynu yng Nghaerdydd. Mae gennym fwy na 8,000 o bobl ar y rhestr aros am dai yng Nghaerdydd. Byddai'r gwelliant hwn ar unwaith yn gwahodd y fwlturiaid i ddisgyn ar Gaerdydd a dechrau poeni pobl i arfer eu hawl i brynu, yn rhoi'r arian blaendal iddynt ac yna'n eu symud i lety mewn mannau eraill, fel y gall y fwlturiaid ddefnyddio'r tŷ hwn, a adeiladwyd ag arian cyhoeddus, ar gyfer elw preifat. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn, ac rwy'n gobeithio na fyddwn ni, ar y cyd, yn gwneud hynny ychwaith.

Mae gwahaniaeth enfawr rhwng rhenti tai cyngor yng Nghaerdydd a rhenti cyfartalog mewn llety rhent preifat yng Nghaerdydd, sydd, yn anffodus, ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n fforddiadwy i bobl ar gyflogau isel, a dyna sy'n ysgogi'r lefel anochel hon o gam-fanteisio. Yn fy marn i, gan fod cymaint o brinder, mae'n rhaid i dai cymdeithasol gael eu neilltuo ar sail angen yn hytrach nag ar sail incwm. Felly, hyd nes y bydd gennym neb, neu nifer fach iawn yn unig, ar y rhestr aros am dai, nid wyf yn credu y gallwn fforddio gollwng ein gafael ar yr asedau gwerthfawr o dai cyngor sydd gennym. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn trechu'r gwelliant hwn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:00, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Codaf i gefnogi gwelliannau fy nghyd-Aelod, David Melding, yn enwedig gwelliant 5. Nid wyf yn cytuno â diddymu'r hawl i brynu. Rwy'n adnabod gormod o bobl sydd wedi cael y gallu i brynu cartref, ac ni fyddent wedi cael y cyfle hwnnw o'r blaen. Ond rwy'n barod i dderbyn bod honno'n frwydr sydd wedi'i cholli eisoes, ac rwy'n deall y gwrthwynebiad ideolegol i hyn. Ond, os ydych yn mynd i wneud hyn, yn syml yr hyn na allaf ei ddeall yw'r ffaith nad ydych yn mynd i fod yn deg yn ei gylch, ac rwy'n disgwyl bod unrhyw gyfraith yr ydym ni fel Cynulliad yn ei phasio i fod yn deg a chydradd i holl Aelodau ein cymdeithas.

Ni allaf ddeall pam nad yw rhai pobl, yn bennaf y rheini yn y chwe sir sydd eisoes wedi'u hatal dros dro, yn mynd i gael y cyfle i brynu eu cartrefi os ydynt yn dymuno hynny. Nid wyf yn credu bod y niferoedd, mewn gwirionedd, mor uchel â hynny, ond y pwynt yw ein bod ni'n gwneud dau ddosbarth o denantiaid. Clywais y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am y fwlturiaid yn disgyn ar Gaerdydd, ond yna gallech ddweud y bydd y fwlturiaid yn disgyn ar bob un arall sydd heb ataliad dros dro ar hyn o bryd. Yr hyn y credaf yr ydym yn ei wneud yw bod yn eithriadol o annheg. Rwyf wedi cael nifer sylweddol o bobl yn ysgrifennu ataf o Sir Gaerfyrddin sydd wedi methu prynu eu tai a byddent wedi hoffi cael y cyfle hwnnw. Nid oeddent yn sylweddoli bod ataliad dros dro yn mynd i ddigwydd. Pan ddigwyddodd, roeddent yn rhagdybio y byddai'n dod i ben ar ryw adeg a gallent wneud hynny, ac maent wedi bod yn teimlo'n ddig gan y ffaith eu bod nhw'n mynd i gael eu trin yn wahanol i bobl yn Sir Benfro neu Geredigion, ac yn syml —

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n deall yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Mae problem sylfaenol gyda safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn. O'r meinciau hynny, mae dadlau cyson dros wneud penderfyniadau lleol ac awdurdodau lleol yn gallu gwneud y penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae'r chwe awdurdod hyn wedi gwneud eu penderfyniadau eu hunain, wedi cael eu hethol i wneud y penderfyniadau hynny, ac wedi atal dros dro yr hawl i brynu yn eu hardaloedd. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn newid hynny, a siawns mai'r cyfan yr ydym yn ei wneud yw adlewyrchu penderfyniadau lleol.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Na, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl—

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Ataliad dros dro oedd hyn, nid diddymiad.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Ataliad dros dro—wel, fel y mae David yn ei ddweud, nid yw ataliad dros dro yr un fath â diddymu, a bydd y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn awr yn gwybod nad oes ganddynt unrhyw gyfle bellach i allu prynu eu cartref. Y cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw eu bod yn cael eu trin yr un fath â phobl yn Sir Benfro neu bobl yng Ngheredigion, ac mae ganddynt y flwyddyn honno o ras. Os ydynt yn prynu eu tŷ, maent yn prynu eu tŷ; os nad ydynt yn prynu'r tŷ, yna nid ydynt yn ei brynu, ac wedyn awn ymlaen o hynny ac mae pawb yn cael eu trin yr un fath.

Ond mae'r lle hwn bob amser yn mynd ymlaen ac ymlaen am gydraddoldeb, ac rydym yn dweud mai cydraddoldeb yw un o egwyddorion sylfaenol y Cynulliad. Ond heddiw, rydym ar fin gwneud darn o gyfraith sydd braidd yn anghyfartal, sy'n dweud, 'os ydych yn digwydd bod yn denant yn rhai o'n hawdurdodau lleol, mae gennych flwyddyn i gynilo arian, cael morgais a phrynu eich cartref, ond os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin neu'r pump arall, druan â chi, rydych wedi colli eich cyfle.' Credaf fod hynny'n sylfaenol annheg. Rwy'n gofyn ichi, Gweinidog, oherwydd ein bod yn adeiladu ein busnes, ein Senedd dan egwyddorion gwahanol—mae cydraddoldeb yn sail i bopeth yr ydym yn dweud ein bod am wneud—ond nid yw hyn yn deg. Os ydych chi'n mynd i'w ddiddymu, diddymwch ef, ond diddymwch ef yn gyfartal i bawb, a gadewch i'r chwe awdurdod hynny gael gras am y flwyddyn ychwanegol honno ar gyfer y llond dwrn o bobl a allai fod yn dymuno prynu eu cartrefi.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:04, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Y prif reswm dros brinder tai cymdeithasol yw, heb fynd yn ôl i hen hanes, fod Llywodraethau Cymru yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad wedi penderfynu rhoi blaenoriaeth isel i hynny yn eu cyllid, a thorrwyd dros 70 y cant ar y cyflenwad o dai cymdeithasol newydd dros gyfnod o 12 mlynedd. Cafwyd rhybuddion gan y sector, o'r sector masnachol i'r sector elusennol, y byddai hyn yn digwydd. Bob tro, yn aml gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y dyddiau hynny, y byddwn i'n gwneud cynnig yn tynnu sylw at y rhybuddion o argyfwng tai Cymru, yr ymateb gan Lywodraeth Cymru oedd peidio ag ymateb i'r pryderon sylweddol a godwyd gan y sector tai, ond cyflwyno gwelliant i gael gwared ar y term 'argyfwng tai Cymru'. Roedd hynny'n frad. Dyna'r rheswm sylfaenol dros fod yma heddiw.

Bellach, ceir elfen o ddal i fyny, ond, yn anffodus, yn dal i fod, mae nifer y tai cymdeithasol a ddarperir yn sylweddol is na'r lefelau gofynnol. Mae rhywfaint o gelu yn mynd ymlaen gyda'r defnydd o'r term 'tai fforddiadwy', ond gwyddom fod hynny'n cynnwys rhent canolradd, perchentyaeth cost isel ac unrhyw beth arall y gellir ei ychwanegu i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni targed sy'n dal yn sylweddol is na'r lefelau y mae adroddiadau annibynnol olynol wedi dweud sydd eu hangen arnom. Gwyddom, o ymchwil annibynnol, y bydd y tenant tai cyngor cyffredin sy'n preswylio yn ei gartref heddiw yn aros yn y cartref hwnnw am 15 mlynedd arall. Felly, bydd yr effaith ar gynyddu'r cyflenwad o bobl ar restrau aros, neu'r bobl mewn argyfwng tai, yn ddibwys. Ond ers 2010 yn Lloegr, ac ers 2010 gyda'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru, mae cyfle i ddefnyddio'r enillion i adeiladu tai cymdeithasol newydd—tai cyngor—a thynnu rhai pobl oddi ar y rhestr aros am dai, ond ni fydd y cynnig hwn yn ei gyflawni. Gyda gwelliannau David Melding, gellid sicrhau o leiaf rhywfaint o arian i adeiladu rhai tai cymdeithasol newydd a thynnu rhai pobl oddi ar restrau aros am dai mewn niferoedd na allai'r dull amgen yr ydych chi'n ei gynnig hyd yn oed freuddwydio am ei gyflawni. Mae hynny'n hunanddinistriol. Mae'n wael o ran economeg tai, ac, yn anffodus, mae'n ychwanegu at y brad a fu yn ystod tymhorau blaenorol y Cynulliad hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:06, 28 Tachwedd 2017

Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn, ar ddechrau fy nghyfraniad, gydnabod a thalu teyrnged i Carl Sargeant am ei arweiniad wrth gyflwyno'r Bil hwn, ac am ei ymrwymiad a'i waith caled i'w lywio drwy Gyfnodau 1 a 2. Hoffwn hefyd ddiolch i Aelodau'r Cynulliad ac, yn benodol, aelodau'r Pwyllgor, am eu craffu adeiladol ar y Bil yn ystod trafodion Cyfnod 1 a Chyfnod 2, ac am y gefnogaeth y mae'r Bil wedi ei chael hyd yn hyn ar ei daith drwy'r Cynulliad.

Mae'r Bil hwn yn ffurfio rhan allweddol o bolisi tai'r Llywodraeth. Bydd rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn diogelu ein tai cymdeithasol ar gyfer y rhai mewn angen ac yn rhoi'r hyder i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fuddsoddi mewn datblygiadau newydd er mwyn helpu i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru. Mae'r hawl i brynu wedi bod yn nodwedd o dai cymdeithasol ers blynyddoedd lawer yng Nghymru, ac mae hyn wedi arwain at golli nifer sylweddol o gartrefi—mwy na 139,000 rhwng 1981 a 2016—o'r stoc tai cymdeithasol. Yn y blynyddoedd diwethaf, er bod gwerthiant tai cymdeithasol wedi arafu, mae'r stoc tai cymdeithasol yn cael ei golli ar adeg o gryn bwysau ar gyflenwi tai. Gan gydnabod effaith y tai a gollwyd drwy hawl i brynu a'r pwysau parhaus ar dai cymdeithasol, cyflwynodd y Llywodraeth Cymru flaenorol Fesur Tai (Cymru) 2011. Mae hwn yn galluogi awdurdod lleol i wneud cais i atal dros dro yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael yn ei ardal. Ar hyn o bryd, fel y clywsom, mae chwe awdurdod lleol wedi atal dros dro yr hawl i brynu.

Mae gwelliant 5 yn ceisio codi'r ataliadau hawl i brynu a rhwystro unrhyw geisiadau pellach am atal dros dro rhag cael eu cyflwyno. Mae cynnig i godi'r ataliadau dros dro yn anwybyddu'r ffaith fod awdurdodau lleol wedi dangos tystiolaeth o bwysau tai sylweddol ac maent wedi cynnig ac wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r pwysau yn ystod y cyfnod atal. Cymeradwywyd ataliadau dros dro lle mae tystiolaeth yn dangos anghydbwysedd sylweddol rhwng y galw am dai cymdeithasol a'u cyflenwad. Byddai codi'r ataliadau dros dro yn gwaethygu'r anghydbwysedd hwnnw ac yn tanseilio diben y Mesur a gweithredoedd y trydydd Cynulliad wrth basio'r Mesur yn 2011.

Mewn ardaloedd ataliedig, mae tenantiaid presennol tai cymdeithasol yn dal i elwa ar ddeiliadaeth a rhenti fforddiadwy. Maent hefyd yn elwa o fuddsoddiad gan landlordiaid i ddod â'r holl dai cymdeithasol i fyny at safon ansawdd tai Cymru, ac mae hyn yn wahanol i'r rhai na allant gael mynediad at dai cymdeithasol.

I'r rhai sy'n anelu at berchentyaeth cost isel, mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i'w cefnogi, ond nid ar draul lleihau'r stoc tai cymdeithasol. Mae cynlluniau perchentyaeth eraill ar gael, megis Cymorth i Brynu—Cymru a Chymorth Prynu. Rydym hefyd yn datblygu cynllun rhentu i brynu newydd, sy'n cynnig llwybr i fod yn berchen ar gartref i'r rheini nad oes ganddynt flaendal wedi'i gynilo, ond a all fforddio rhent y farchnad.

Lle mae ataliadau dros dro ar waith, mae landlordiaid tai cymdeithasol yn dawel eu meddwl bod buddsoddiad mewn tai cymdeithasol newydd yn fuddsoddiad hirdymor. Er enghraifft, cynigir datblygiadau yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Sir y Fflint. Byddai codi'r ataliadau yn tanseilio ymdrechion awdurdodau lleol i reoli eu stoc tai yn wyneb pwysau cynyddol. Byddai hefyd yn tanseilio ein nod craidd o ddiogelu tai cymdeithasol er budd hirdymor y bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly anogaf yr Aelodau i wrthod gwelliant 5 a phob gwelliant cysylltiedig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:10, 28 Tachwedd 2017

Galwaf ar David Melding i ymateb i'r ddadl.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ynghylch gwelliant 5. Rwy'n rhwystredig iawn, yn naturiol, fod yr holl fater hwn o gydraddoldeb a thegwch wedi ei osgoi. Gadewch imi ailadrodd pam y mae hynny'n achosi pryder gwirioneddol ar yr ochr hon i'r Siambr. Pan ymgynghorwyd â thenantiaid ar atal dros dro yn yr awdurdodau hynny, roeddent yn cael cysur yn y syniad y byddai yr ataliad yn un dros dro, nid yn barhaol. Nid yw atal hawl dros dro yr un fath â diddymu'r hawl honno. Dyna'r gwahaniaeth, a chredaf nad yw ond yn deg bod pobl yn sylweddoli beth y maent yn mynd i bleidleisio arno. Yn amlwg, gall y Cynulliad hwn gymryd y penderfyniad hwnnw, ond fy nyletswydd i yw sicrhau bod hwn ar gofnod a bod pawb yn amlwg yn deall beth y maen nhw'n ei wneud o ran creu dau ddosbarth o denantiaid rhwng nawr a diddymu'r hawl hwn yn y pen draw.

Dywedodd TPAS Cymru, sefydliad y tenantiaid, wrth y Pwyllgor fod rhai tenantiaid sy'n byw mewn ardaloedd lle mae ataliad dros dro ar waith dan yr argraff y byddai'n rhaid iddo gael ei godi rywbryd, ac yna byddent wedi gallu arfer eu hawl os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Dywedasant hefyd, a dyfynnaf, pan fyddai'r hawl i brynu yn cael ei atal yn yr ardaloedd hynny:

Nid oedd y drafodaeth diddymu yno bryd hynny. Felly o ran tegwch a chysondeb ledled Cymru, dylid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r cyfnod hwnnw o 12 mis fod yn berthnasol yn yr un modd i denantiaid.

Credaf fod hyn yn ateb, er enghraifft, y pwynt gan Simon eu bod rywsut eisoes wedi cael y ddadl hon. Cawsant ddadl ynghylch atal dros dro heb unrhyw hawl, unwaith y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ar gyfer cyfnod gras lle gallent wedyn arfer eu hawliau sefydledig. Felly, nid yw'r statudau hyn yr un fath. Mae'r Mesur yn wahanol iawn i'r Bil sydd ger ein bron.

Yn y pen draw, Llywydd, diben y Mesur atal dros dro oedd atal yr hawl i brynu am bum mlynedd, ac nid diddymu'r hawl yn llwyr—mor syml â hynny. Fel y dywedodd Mr Clarke, Cynghorydd i denantiaid Cymru, ceir tenantiaid sydd wedi derbyn yr egwyddor atal dros dro sydd yn awr yn rhagweld, ymhen pum mlynedd, y bydd ganddynt gyfle i ymarfer eu hawl i brynu eu cartref. Wel, wrth gwrs, maent yn mynd i gael eu dadrithio ynglŷn â hynny ar ryw adeg. Ac ofnaf, pan ddigwydd hynny, y bydd gennym lawer mwy o lythyrau yn cael eu hanfon atom, ar ben y rhai yr ydym eisoes wedi'u derbyn, gan denantiaid sy'n anhapus iawn â'r ffordd wahanol hon o drin tenantiaid mewn gwahanol rannau o Gymru.

A gaf i ymateb i rai o'r sylwadau cyffredinol a wnaed, oherwydd credaf fod rhai Aelodau wedi manteisio ar y cyfle yn y grŵp cyntaf i edrych ar rai materion mwy cyffredinol? Mae'n ddrwg gennyf yn amlwg na fydd Siân Gwenllian a grŵp Plaid yn cefnogi'r gwelliant, ond credaf eu bod yn iawn i ddweud mai'r gwir broblem yw diffyg cyflenwad. Mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae angen inni adeiladu cartrefi mwy cymdeithasol yn benodol. Gwerthfawrogaf yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett, ac mae hynny'n ddefnyddiol. Mae'n sicr wedi bod yn fwriad gennym ar yr ochr hon i'r Siambr i wella'r ddeddfwriaeth sydd ger ein bron. Ni allwn atal y diddymu. Credaf fod hynny yn amlwg yn mynd i ddigwydd oherwydd derbyniwyd yr egwyddor eisoes, ac, wrth gwrs, ni chaniateir gwelliannau os ydyn nhw'n difetha egwyddor y ddeddfwriaeth; ni fyddai'r Llywydd yn caniatáu hynny. Felly, rwy'n credu y gallai pob un o'r gwelliannau y byddaf yn eu cyflwyno y prynhawn yma gael eu pasio gan bobl sy'n credu'n gryf bod diddymu yn bwysig iawn, iawn.

Dywedodd Jenny ei bod yn dal yn wir fod cartrefi cymdeithasol yn dioddef o waedlif—defnyddiodd y gair 'gwaedlif'—ac roedd yn rhaid mynd i'r afael â hynny o ran y problem cyflenwad. Wel, credaf fod angen inni gael syniad o'r maint yma. Ceir prin 300 neu 400 o werthiannau dan yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig ar hyn o bryd bob blwyddyn. Rydym yn gobeithio adeiladu rhwng 4,000 a 5,000 o gartrefi cymdeithasol, a chredaf, dros y 10 mlynedd nesaf, y dylem wneud hyd yn oed yn well na hynny. Felly, wyddoch chi, mewn gwirionedd mae'n fater o sicrhau cyflenwad, a chredaf mewn gwirionedd mai dyma'r hyn y dylem fod yn canolbwyntio arno.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:10, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ond, yn amlwg, gwyntyllwyd y ddadl honno ac rydym wedi'i cholli hi. Ond rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig eu rhoi mewn persbectif. Ildiaf, os—

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:15, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gan dderbyn yr egwyddor sylfaenol o ddemocratiaeth leol a'r rhesymeg dros yr ataliadau dros dro yn yr ardaloedd a drafodwyd, a fyddech yn derbyn bod y gair 'gwaedlif' yn adlewyrchu colli 46 y cant o'r tai cymdeithasol drwy'r cynllun hawl i brynu? A fyddech yn derbyn, drwy golli mwy o nwyddau gwerthfawr, nad ydych yn eu diogelu?

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, nid ydym wedi colli stoc dai, ydym ni? Newidiodd y denantiaeth, yn amlwg, ac mae hynny'n arwyddocaol. Mae dadl gyfan i'w chael ynglŷn â hynny, ond mae dweud rywsut ein bod wedi colli 150,000 o gartrefi yng Nghymru mewn gwirionedd yn ddadl braidd yn wirion.

Mewn gwelliannau eraill yr wyf yn eu cynnig, byddaf yn dychwelyd at y mater hwn o p'un a ellid awgrymu diwygiad synhwyrol, a chydbwysedd gwahanol. A pe digwydd i ni byth fod mewn sefyllfa i ail-sefydlu'r hawl i brynu, rwy'n siŵr y byddai pethau y byddem yn eu gwneud yn wahanol. Rwy'n meddwl, weithiau, y bu un neu ddau o eiriolwyr pellennig o'r hawl i brynu nad ydynt wedi pwysleisio'r angen am dai cymdeithasol yn ddigon, oherwydd nid yw'r hawl i brynu ar gyfer pawb; nid yw ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd yn y sector cymdeithasol, a wyddoch chi, dwi ddim yn meddwl bod ildio hynny'n lleihau'r ddadl yr wyf yn ei gwneud y prynhawn yma.

Rwy'n ddiolchgar i Angela, a bwysleisiodd fater tegwch yn angerddol, ac yna i Mark, sydd, wrth gwrs, i'r rheini ohonom sydd wedi gwasanaethu ers etholiad Mark gyntaf yn 2003, fydd yn gwybod cymaint o hyrwyddwr adeiladu tai y mae wedi bod a'r ffaith bod angen inni gynyddu'r cyflenwad, sy'n bendant yn sail i hyn i gyd.

Ond gadewch i ni wneud y Bil hwn yn decach. Anogaf yr Aelodau i gefnogi gwelliant 5.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:17, 28 Tachwedd 2017

Os na dderbynnir gwelliant 5, bydd gwelliannau 9, 11, 1 a 3 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5. 

Gwelliant 5: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 565 Gwelliant 5

Ie: 15 ASau

Na: 35 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Methodd gwelliannau 9, 11, 1 a 3.