6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Inswleiddio waliau ceudod

– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:43, 29 Tachwedd 2017

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rwy'n galw ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6521 Mike Hedges, David Melding, Simon Thomas, Dawn Bowden

Cefnogwyd gan Mick Antoniw, Russell George, Siân Gwellian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.

2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:44, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae'n briodol ein bod yn cael dadl ar fater y gellid, i'r rhai yr effeithir arnynt, ei ddisgrifio'n deg fel pantomeim, er yn un gyda llinyn storïol tywyll a sinistr. Nid oes fawr o arwyr ym mhantomeim inswleiddio waliau ceudod, ond ceir llawer o dihirod.

Yn gyntaf, ceir y cwmnïau ynni. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dim heblaw cyrraedd targedau Llywodraeth y DU, nid oes ganddynt fawr o barch tuag at ansawdd y gwaith a wneir neu, o'i ymestyn, pa un a yw'r manteision amgylcheddol a fwriadwyd yn cael eu gwireddu. Yna, ceir y cwmnïau gosod twyllodrus, sy'n targedu'r tlotaf â thechnegau galw diwahoddiad ymosodol, gan ddefnyddio staff heb eu hyfforddi'n dda sy'n cael eu talu ar sail comisiwn yn unig. Yna, mae gennym y Cavity Insulation Guarantee Agency, y corff cwynion honedig 'annibynnol' a sefydlwyd gan y diwydiant, gyda gweithwyr o'r diwydiant, ar gyfer y diwydiant, gallech ddweud. Ac yn olaf, mae Llywodraeth y DU sydd, drwy osod targedau i gwmnïau ynni ar gyfer insiwleiddio waliau ceudod heb yn gyntaf roi fframwaith goruchwyliaeth cadarn ar waith, wedi annog diwylliant laissez-faire a nodweddir gan ddiffyg atebolrwydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:45, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Lywydd, nid yw camwerthu inswleiddio waliau ceudod yn fater i chwerthin yn ei gylch i filoedd o bobl sy'n byw gyda chanlyniadau inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn amhriodol neu'n wael. Mae proses inswleiddio waliau ceudod yn gymhleth ac yn gweithio'n llwyr yn erbyn y defnyddiwr. Caiff ei werthu fel mater o drefn fel rhywbeth wedi'i 'gefnogi gan y Llywodraeth', pwynt gwerthu allweddol i gwmnïau gosod diegwyddor. Nid yw wedi'i gefnogi gan y Llywodraeth, ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i wneud hyn yn glir. Mor bell yn ôl â 2014 derbyniodd Corff Cofrestru a Goruchwylio'r Fargen Werdd adroddiadau gan heddluoedd yng Nghymru, yr Alban a Surrey am honiadau o arferion twyllodrus yn y farchnad inswleiddio waliau ceudod, gan gynnwys gweithgaredd twyll ar raddfa fwy ac achosion posibl o wyngalchu arian.

Mae'n ofynnol i'r person sy'n gwerthu inswleiddio waliau ceudod, sy'n aml heb gael fawr iawn o hyfforddiant, asesu addasrwydd eiddo ar gyfer inswleiddio waliau ceudod. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf pa mor ansylweddol yw'r asesiad hwn. Nid yw ymarfer ticio blychau yn gwneud y tro yn lle asesiad gan weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n briodol. Gyda llaw, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael copi o'r ddogfen asesu, ac nid yw ychwaith yn elfen orfodol o broses gwyno CIGA. Mater pellach amlwg iawn yw bod yr asesiad i'w weld yn anwybyddu lleoliad yr eiddo. Mae Cymru i gyd bron wedi'i lleoli yn ardal categori 4 ar gyfer glaw wedi'i yrru gan y gwynt, hynny yw, yn agored i dywydd difrifol. Mewn amgylchiadau o'r fath mae ffibrau mwynau'n gweithredu fel pont i  leithder groesi drwy geudod y wal. Yn 2015 gofynnwyd i Amber Rudd AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd, a ddylid defnyddio inswleiddio waliau ceudod mewn ardaloedd categori 4 o gwbl. Mewn ymateb, dywedodd:

Yn ôl yr hyn a gofiaf, ni ddylid gwneud hynny at ei gilydd.

Felly, pam y mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i'r sefyllfa hon barhau? Gallent ymyrryd i roi diwedd ar y camddefnydd hwn. Er enghraifft, pam y mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i gyflenwyr ynni gontractio cynifer o gwmnïau gosod amheus? Maent yn creu llanast, yn mynd i'r wal, ac yna'n ailymddangos ar ffurf wahanol gyda'r un cyfarwyddwyr yn eu lle. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn sicrhau bod cwmnïau gosod a chyflenwyr ynni yn cadw cofrestr gywir o gartrefi lle maent wedi inswleiddio waliau ceudod? Ar hyn o bryd, nid yw Ofgem hyd yn oed yn gwybod mewn faint yn union o gartrefi y cafodd ei osod.

Pam nad yw Llywodraeth y DU yn mynnu trefn brofi sy'n addas at y diben? Mae Ofgem hyd yn oed yn cydnabod y gall problemau ddigwydd flwyddyn neu fwy ar ôl gosod, felly yn sicr rhaid i hynny gael ei adlewyrchu yn yr amserlen ar gyfer cynnal profion. Nid yw gofyniad Ofgem am archwiliad untro ychydig wythnosau ar ôl gosod yn gwneud synnwyr. Ac yn olaf, pam y mae Llywodraeth y DU, mewn datganiad ym mis Ebrill 2017, wedi derbyn yn llariaidd y sicrwydd gan CIGA fod pob un o'r 3,663 o gwynion gan gartrefi yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru wedi'u datrys? Gallaf ddweud wrth Lywodraeth y DU nad yw hynny'n wir o gwbl.

Nawr, gadewch i ni droi at CIGA. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i a ledled Cymru wedi cwyno i CIGA. Mae'n broses drofaus. Yn 2015, adroddodd The Daily Telegraph fod saith o 11 cyfarwyddwr CIGA hefyd yn gyfarwyddwyr cwmnïau sy'n gweithgynhyrchu neu'n inswleiddio waliau ceudod; mae tri yn ymwneud â lobïo Llywodraeth y DU ar gyfraith effeithlonrwydd ynni. Pan fydd CIGA yn colli achos ac yn cytuno i glirio gwaith a wnaed ar inswleiddio waliau ceudod, yn aml mae'n rhoi'r contract i gwmnïau a weithredir gan gyfarwyddwyr CIGA. Naw wfft i annibyniaeth.

Mae'n ymddangos i breswylwyr fel pe bai CIGA yn gwneud popeth yn eu gallu i rwystro hawliadau. Tan yn ddiweddar iawn, mewn rhai achosion, roedd yn gweithredu dwy warant, gydag un ohonynt yn gosod gofynion cynnal a chadw llym ar berchnogion eiddo, gyda llawer ohonynt yn hŷn neu'n anabl. Roedd yn gadael pobl yn y sefyllfa amhosibl o gael eu gwarant wedi'i hannilysu os oeddent yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw, neu fe gaent eu cais wedi'i wrthod os oeddent heb wneud gwaith cynnal a chadw. Yn achos fy etholwr, Mr Morgan, ni ddaeth yn ymwybodol o'r cymal cynnal a chadw hwn hyd nes y gofynnodd am gopi o dystysgrif ei warant—ac nid oes ryfedd, gan fod y dystysgrif wreiddiol yn rhestru saith amod, tra oedd y copi'n cynnwys wyth amod. Roedd yr amod cynnal a chadw ychwanegol wedi'i fewnosod heb yn wybod i Mr Morgan a heb ei ganiatâd.

Mae cyllid CIGA yn hollol annigonol i dalu am yr holl waith adfer sydd ei angen. Yn 2015, adroddwyd bod gan CIGA gronfeydd i dalu am lai na 1,000 o'i 6 miliwn o warantau. A oes unrhyw syndod fod cyfradd wrthod hawliadau CIGA mor uchel? Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnynt ar incwm isel, felly mae'n ddealladwy fod y posibilrwydd o gynnal arolwg annibynnol, sy'n costio hyd at £500, yn lladd unrhyw fwriad i wneud cwyn. Yn lle hynny, nid oes ganddynt hwy na'u plant unrhyw ddewis heblaw byw mewn lleithder a llwydni a byw gyda'r clefydau anadlol a mathau eraill o glefyd a ddaw yn sgil hynny.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:50, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw dystiolaeth fod proses y dull amgen o ddatrys anghydfod, a weithredir y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau'n Effeithiol, yn fwy effeithiol o gwbl. Mae fy etholwr, Mr Gray, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, yn achos prin o'r ganolfan yn caniatáu buddugoliaeth. Cafodd CIGA ei chyfarwyddo gan y ganolfan i gael gwared ar yr inswleiddio o gartref Mr Gray, a gwnaethant hynny, ond yn y broses, achosodd y gwaith cloddio ddifrod helaeth i'r rendr allanol. Argymhellodd adroddiad syrfëwr Mr Gray y dylid ailrendro'r eiddo'n llawn. Gwrthododd CIGA weithredu. Aeth Mr Gray yn ôl at y ganolfan, a ddywedodd nad oedd unrhyw beth y gallent ei wneud, ac mai unig opsiwn fy etholwr oedd mynd â CIGA neu'r cwmni gosod i'r Uchel Lys, ac fel y gwyddoch, mae hynny'n ddrud iawn. Yn aml, y rhai sydd â leiaf o fodd sy'n cael eu brawychu fwyaf gan y broses, a cheir llawer nad ydynt yn trafferthu cwyno. Yn fy marn i, nid yw CIGA yn addas at y diben. Felly, lle mae hyn oll yn gadael y defnyddiwr? Fel y mae Corff Cofrestru a Goruchwylio'r Fargen Werdd yn datgan ar ei wefan, 'Ni cheir llwybr clir ar gyfer digolledu defnyddwyr oherwydd trefniadau contractio cymhleth'.

Lywydd, rwy'n cydnabod bod y cymhellion sydd wrth wraidd yr amrywiol gynlluniau inswleiddio waliau ceudod yn werth chweil: darparu cartref cynnes a chostau tanwydd is i bobl yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd, a helpu'r DU i gyflawni ei rhwymedigaethau mewn perthynas â lleihau allyriadau carbon, ond ni all hynny fod yn ben draw ar atebolrwydd a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Mae gan Lywodraeth y DU, sy'n cynllunio i wneud 1 filiwn o osodiadau pellach, rwymedigaeth i ddatrys y broblem hon. Polisi Llywodraeth y DU sydd wedi chwyddo'r farchnad hon i'w maint enfawr presennol—sy'n werth £800 miliwn yn ôl rhai dulliau o fesur. Llywodraeth y DU sydd wedi methu cymhwyso rheoliadau i ddiogelu pobl rhag camwerthu, a Llywodraeth y DU sydd wedi methu cyflwyno proses dryloyw a chadarn ar gyfer unioni camweddau a digolledu pobl yn briodol.

Rwy'n cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru eisoes. Bydd sicrhau bod gosodiadau arfaethedig yn cael eu cyflawni'n annibynnol gan bobl sydd â chymwysterau priodol yn helpu i atal camwerthu yn y dyfodol. Bydd darparu canllawiau i ddeiliaid tai ar gynnal a chadw yn helpu hefyd. Fodd bynnag, buaswn yn gofyn a oes rhagor y gallwn ei wneud o fewn ein pwerau presennol. Er enghraifft, buasai ail asesiad wedi 24 mis, dyweder, ar ôl gosod yn darparu tystiolaeth gadarn i'w chyflwyno i CIGA ac yn cael gwared ar faich y gost i'r defnyddiwr. Yn y bôn, mae angen i'r cyflenwyr ynni fod yn rhan o'r broses a chymryd cyfrifoldeb dros waith wedi'i is-gontractio a gyfarwyddir ganddynt. Hwy sy'n penderfynu pa fesurau y byddant yn eu hariannu a chyda pha osodwr y maent yn gweithio, felly ni ddylid caniatáu iddynt gamu'n ôl rhag y broblem y maent wedi helpu i'w chreu. Mae'n bosibl y bydd datganoli polisi ynni ymhellach yn 2018 yn cynnig cyfleoedd i wneud hyn, a buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried pa opsiynau newydd a allai fod ar gael i chi mewn gwirionedd.

Agorais drwy broffilio'r dihirod yn y sgandal gynyddol hon, ond diolch byth, ceir rhai arwyr. Mae pob preswyliwr sy'n sefyll yn ddewr yn erbyn camwerthu gan y diwydiant yn deilwng o gydnabyddiaeth. Hoffwn sôn yn arbennig am Pauline Saunders a CIVALLI, y sefydliad gwirfoddol sy'n sefyll dros ddioddefwyr camwerthu gwaith inswleiddio waliau ceudod. Mae Pauline a nifer o ddioddefwyr camwerthu yn yr oriel heddiw, a hoffwn dalu teyrnged i bawb ohonoch am y gwaith a wnewch fel gwirfoddolwyr.

Ond fel y dywedais ar ddechrau fy araith, mae'r broses wedi'i llwytho yn erbyn yr unigolyn. Rhaid inni sefyll yn ddiamwys ar ochr y teuluoedd y mae eu bywydau wedi'u difetha gan y sgandal hon. Fel cam cyntaf, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu beth yn union yw'r sefyllfa yng Nghymru a chyhoeddi cynllun gweithredu. Rhaid iddi gydnabod na fydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi bod o fudd i'r rheini sydd eisoes wedi dioddef camwerthu, felly mae'n rhaid cynnwys galwad ar Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad llawn o'r diwydiant, gan gynnwys rheoleiddio gwerthiannau, rôl CIGA, yr angen am broses unioni camweddau a digolledu sy'n deg, rôl Ofgem a chyfrifoldebau'r cwmnïau ynni. Mae'n ymddangos i lawer fod y diwydiant wedi celu'r gwirionedd, naill ai'n fwriadol neu drwy fod yn hunanfodlon. Drwy gefnogi'r cynnig hwn, rydym yn cydnabod bod camwerthu inswleiddio waliau ceudod yn sgandal gynyddol, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i helpu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr camwerthu a chyfiawnder i'r rheini a fydd yn dioddef yn y blynyddoedd i ddod. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:55, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym yn dadlau am bwnc pwysig iawn y prynhawn yma, ac roeddwn yn falch o gael cyfle i gydgyflwyno'r cynnig hwn, ac rwy'n cymeradwyo Mick Antoniw am ei flaengarwch yn codi'r mater hwn. Hoffwn ddweud bod inswleiddio waliau ceudod yn parhau i fod yn offeryn pwysig yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd, ond wrth gwrs, mae'n rhaid ei wneud lle bo hynny'n briodol, ac mae'n rhaid iddo gael ei wneud yn effeithiol.

Hoffwn ddweud ychydig eiriau am yr amcangyfrifon diweddaraf ynglŷn â thlodi tanwydd gan Lywodraeth Cymru, fod 291,000 o aelwydydd, 23 y cant, yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r ffaith fod yr ystadegau hyn yn welliant ar ddata 2010 yn rhoi peth calondid, ond yn amlwg mae'n dal i fod yn her enfawr i ni. Efallai ei bod yn well arnom mewn cymhariaeth â'r Alban, dyweder, lle mae ganddynt gyfraddau hyd yn oed yn uwch o dlodi tanwydd, ond mae gwaith enfawr i'w wneud, ac mae inswleiddio waliau ceudod yn rhan o gyfres o fesurau y mae angen i ni eu cael. Credaf hefyd ei bod hi'n bwysig rhoi hyn ym mhersbectif ehangach y mesurau eraill a roddir ar waith gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wella mynediad at systemau tanwydd a gwresogi effeithlon.

Pan edrychwch ar ffeithiau gwirioneddol inswleiddio waliau ceudod, credaf fod angen i ni gofio'r cyfrif a wnaed y gallai, lle y bo'n briodol, arbed hyd at £150 y flwyddyn mewn biliau gwresogi, o effeithiau inswleiddio yn unig. Yn amlwg, dyna yw'r sbardun ar gyfer ei ddefnyddio lle mae'n effeithiol. Yn ogystal, drwy waliau allanol y collir 35 y cant o wres domestig, ac mae astudiaethau wedi awgrymu eich bod yn arbed tunnell o garbon deuocsid ar gyfartaledd am bob metr sgwâr o waliau ceudod a inswleiddir dros oes yr adeilad. Felly, yn achos tŷ pâr cyffredin, mae hynny'n 80 tunnell neu fwy dros oes y cartref. Felly, mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol, o'i wneud yn dda, at leihau allyriadau carbon deuocsid, yn ogystal â chadw cartrefi'n gynhesach am lai o arian wrth gwrs.

Ond fel y mae pwynt 2 y cynnig hwn yn cydnabod, ceir lleiafrif sylweddol—nid yw'n nifer fach, rwy'n cyfaddef hynny—o osodiadau mewn eiddo anaddas a gwaith nad yw'n cydymffurfio â safonau crefftwaith da. Nid af i ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Mick; credaf ei fod wedi darlunio'r pwyntiau'n rymus. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n dangos bod gan y diwydiant lawer o waith i'w wneud i wella ansawdd crefftwaith ar safleoedd. Gwelodd adroddiad Sefydliad Ymchwil Adeiladu 'Post Installation Performance of Cavity Wall & External Wal Insulation', adroddiad allweddol yn y maes hwn, fod safon peth o'r gwaith a gwblhawyd yn wael, a bod tystiolaeth gref i ddangos nad oedd gwaith cynnal a chadw priodol yn cael ei wneud ar ôl inswleiddio. Felly, mae'n destun pryder go iawn.

Yn y pen draw, beth yw'r pwynt hyrwyddo ac annog cartrefi i fanteisio ar gynlluniau inswleiddio waliau ceudod os yw'r gwaith inswleiddio ei hun yn achosi mwy o broblemau na'i werth? Ac mae'n amlwg fod rhai pobl wedi cael eu harwain i'r cyfeiriad hwnnw, ac ni wnaed defnydd effeithlon o adnoddau mawr eu hangen o'r pwrs cyhoeddus i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Os caf sôn am rai o'r problemau a achoswyd gan arferion inswleiddio gwael: lleithder a llwydni, sy'n achosi arogleuon annymunol, plastr yn briwsioni, staenio waliau ac mewn rhai achosion, mae gwerth eiddo wedi gostwng yn sylweddol.

Felly, rwy'n cytuno â llawer o ddadansoddiad Mick o'r broblem hon y mae'n ei galw'n gamwerthu gwaith inswleiddio waliau ceudod. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweld dull effeithiol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n hawdd gosod y bai i gyd ar Lywodraeth y DU. Hynny yw, mae hwn wedi bod yn bolisi hirsefydlog ers bron i 25 mlynedd, ac yn amlwg, cafwyd Llywodraeth Lafur am lawer o'r amser hwnnw. Ond mae'n deg dweud bod ymyl galed hyn bellach yn torri ar draws gwaith Llywodraeth Cymru, a chredaf ei bod hi'n bwysig i ni gael arolwg effeithiol o'r cartrefi sy'n wynebu problemau, a dyma oedd un o argymhellion canolog adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu rwyf newydd gyfeirio ato. Credaf fod honno'n ffordd briodol ymlaen.

Mae llawer mwy y gallwn fod wedi ei ddweud. A bod yn deg, rwy'n credu bod Mick wedi mynegi'r pryder gwirioneddol y mae'r bobl sydd wedi dioddef yn sgil ymarfer gwael yn ei deimlo, ac ni chredaf y gall unrhyw un ohonom wadu hynny, oherwydd mae'n fater sylfaenol. Mae inswleiddio gwael iawn yn gwbl annerbyniol ac yn arwain at ddioddefaint mawr iawn i'r rhai yr effeithir arnynt.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:01, 29 Tachwedd 2017

Mae'n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl. Dadl ydy hi yn y bôn am degwch a chwarae teg. Mae'n fater sy'n effeithio ar fywydau miloedd o bobl yng Nghymru. Mae insiwleiddio waliau ceudod wedi'i osod mewn bron i 14 miliwn o gartrefi ledled y Deyrnas Unedig, ond mewn 3 miliwn o'r rheini, mae o wedi achosi problemau mawr.

Cafodd y math yma o insiwleiddio ôl-weithredol ei hyrwyddo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a chwmnïau ynni, yn ogystal â chynghorau lleol, a'r nod cychwynnol oedd i leihau costau ynni oddeutu £250 y flwyddyn i bob cartref, ac hefyd, wrth gwrs, i fodloni targedau effeithlonrwydd ynni y Llywodraeth.

Mewn llawer o achosion yn fy etholaeth i yn Arfon, nid yw insiwleiddio waliau ceudod ddim wedi cael y canlyniad yna, ond yn hytrach, mae o wedi achosi problemau megis llwydni du, lleithder, pydru sych a difrod i addurniadau a dodrefn. Ac wedyn, mae'r lleithder, yn ei dro, wedi achosi problemau iechyd: asthma a phroblemau anadlu, heb sôn am straen a phryder. Ac, er ei bod hi'n broblem sylweddol, nid oes ymchwil wedi cael ei wneud, o unrhyw fath, y medrwn ni alw'n sylweddol, na galwad cyhoeddus i bobl ddod ymlaen er mwyn adnabod dioddefwyr a chynnig help iddyn nhw.

Cafodd llawer o'r math yma o insiwleiddio ei osod gan gwmnïau ynni neu gan eu his-gontractwyr nhw, fel rhan o gynlluniau Bargen Werdd ac ECO Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a llawer o ddefnyddwyr yn teimlo eu bod nhw'n gallu ymddiried mewn cynllun a oedd yn cael ei gefnogi gan y Llywodraeth. Nid oedden nhw'n cwestiynu addasrwydd eu heiddo ar gyfer y math yma o insiwleiddio, nac yn cwestiynu gallu'r gosodwyr i'w gosod yn gywir.

Mae'n wir dweud, hyd yn hyn, y bu'r broses iawndal drwy'r Cavity Insulation Guarantee Agency yn anfoddhaol, efo pobl fregus yn dal i ddioddef mewn cartrefi llaith. Mae cynllun gwarantu'r diwydiant wedi siomi llawer o ddioddefwyr, ac mae'r gosodwyr a'r asiantaeth efo hanes o beidio â chymryd y cwynion o ddifrif, gwrthod cynnig mesurau cywiro a gwrthod cynnig iawndal digonol. Mae yna ddiwylliant o osgoi ac anwybyddu ymholiadau cwsmeriaid, methu â darparu atebion llawn i gwestiynu syml a gwadu cyfrifoldeb.

Mae cwmnïau ynni megis E.ON, SSE, Npower ac EDF yn dal i wthio insiwleiddio waliau ceudod, er bod Nwy Prydain wedi rhoi'r gorau i gynnig hyn beth amser yn ôl. Ac, fel y clywsom ni, mae rhaglen Nyth Llywodraeth Cymru—y Llywodraeth yma—yn dal i annog pobl i gael insiwleiddio waliau ceudod wedi'i osod yn y wlad yma, er bod y problemau yn parhau. Mae llawer o'r cwmnïau a gyflawnodd y gosodiadau wedi mynd i'r wal erbyn hyn, ac felly dim ond yr asiantaeth warant sydd gan bobl ar ôl i droi ato fo. Mae dioddefwyr wedi beirniadu'r asiantaeth am fethu ag ymateb yn briodol i bryderon ynglŷn ag insiwleiddio sydd wedi cael ei osod yn wael neu insiwleiddio sydd wedi'i osod mewn eiddo anaddas.

Yn Arfon, mae Hywel Williams AS wedi bod yn hynod weithgar yn ceisio cefnogi etholwyr. Rydym ni wedi gweld, hyd yma, 80 a mwy o achosion, ac yn yr achosion yna, nid oes gan neb gopi o'r adroddiad cyn-osod a ddylai fod wedi cael ei gwblhau gan y gosodwr cyn cychwyn gwaith insiwleiddio. Ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod CIGA yn parhau i ddatgan y cynhaliwyd asesiadau cyn-osod ar gyfer pob eiddo ac na fyddai'r insiwleiddio wedi cael ei osod os nad oedd yr eiddo yn addas. Mae'n ddrwg iawn gen i, ond nid dyna'r profiad rydym ni wedi ei gael yn Arfon.

Mae un etholwr yn Arfon wedi bod yn brwydro efo'r problemau am bron i bedair blynedd. Aeth y cwmni gosod gwreiddiol i'r wal ac mae'r asiantaeth wedi gwrthod cyfrifoldeb ers dros ddwy flynedd. O'r diwedd, maen nhw wedi cynnig tynnu'r deunydd insiwleiddio allan o un wal, ond rydw i'n deall gan arbenigwyr yn y maes echdynnu fod tynnu insiwleiddio allan o un wal yn creu mannau oer ac yn debygol o waethygu'r broblem yn y tymor hir. Felly, nid ydy hynny'n foddhaol o gwbl.

Mae Hywel Williams wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd i ddarganfod atebion a sicrhau tegwch i etholwyr Arfon a Chymru, ac rydw i'n gwybod bod yna eraill wedi helpu llawer yng Nghymru sydd wedi dioddef. Ac ie, rydw i hefyd yn diolch i Pauline Saunders a CIVALLI am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae'n hen bryd i'r miloedd sydd wedi cael profiadau hollol annerbyniol yn sgil insiwleiddio waliau ceudod gael chwarae teg, ac rydw i'n diolch yn fawr iawn i Mick, Mike a'r gweddill am ddod â'r ddadl yma gerbron.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:06, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Mick am y cefndir manwl iawn, a'r dadansoddiad, mewn gwirionedd, o'r problemau a arweiniodd at gyflwyno'r cynnig hwn? Felly, yn bersonol rwyf am ychwanegu ychydig o fy sylwadau fy hun i gefnogi'r hyn a ddywedodd Mick eisoes, yn enwedig mewn perthynas â'r effaith ar rai o fy etholwyr.

Yr hyn a ddaeth yn amlwg i mi'n gynnar iawn yn fy nghyfnod fel AC oedd fy mod wedi dechrau gweld patrwm yn dod yn amlwg yn fy ngwaith achos a pheth o'r ohebiaeth a gawn gan etholwyr, ac mae'n batrwm sy'n parhau heddiw mewn gwirionedd, yn ymwneud â phobl sydd wedi cael gwaith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud yn eu cartrefi. Mae'r patrwm wedi dod yn weddol gyfarwydd. Felly, gwelwn waith inswleiddio'n cael ei hyrwyddo, cawn ddeiliaid tai yn manteisio ar y cynnig o waith inswleiddio, ac yna'n canfod problemau ar ryw bwynt wedyn megis lleithder yn dechrau codi, a daw'n amlwg yn gyflym nad achosion unigol a ddôi i fy sylw, ac nid oeddwn yn sylweddoli ar y pryd, ond roeddent yn ffurfio rhan o batrwm ehangach o lawer. Rwy'n ddiolchgar iawn i gyd-Aelodau yn y Cynulliad gan ein bod wedi ymchwilio ac wedi gweithio gyda'n gilydd i ganfod natur a graddau'r problemau hyn. Mae'n ddrwg gennyf ddweud nad yw'n ymddangos bod hon yn mynd i fod yn sefyllfa hawdd ei datrys.

Ceir cymysgedd o broblemau'n rhan o'r broblem hon sy'n amrywio o ddiffyg arolygon paratoi y clywsom Siân a Mick yn siarad amdanynt gan staff â chymwysterau addas, gan arwain at wneud gwaith amhriodol yn y cartrefi a gwaith amhriodol wedyn i'r stoc dai cymdeithasol heb yn wybod i landlordiaid, a'r landlordiaid hynny bellach yn gorfod talu i gael gwared ar beth o'r gwaith inswleiddio a gwblhawyd, diffyg atebolrwydd neu achrediad ar ran contractwyr sydd wedi gwneud gwaith inswleiddio, a gwendid y warant y soniai Mick amdani yn y sector. Mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod y Cavity Insulation Guarantee Agency yn addas i'r diben; yn wir, mae'n ymddangos eu bod wedi'u llethu gan faint y problemau y maent yn eu hwynebu. Dyna pam y dewisais ychwanegu fy enw at y cynnig hwn.

Mae'n caniatáu i mi adrodd ar achosion fel yr etholwr oedrannus a gafodd waith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud bron ddwy flynedd yn ôl drwy gynllun Llywodraeth ac o ganlyniad i hynny, mae hi bellach yn cael problemau mawr gyda lleithder drwy ei heiddo i gyd. Mae'r etholwr wedi siarad â'r contractwr, a dywedodd y contractwr fod y lleithder yn gysylltiedig â chyddwysiad yn eu barn hwy ac nad oes unrhyw beth pellach y gallant ei wneud. Yn ffodus, yn yr achos hwn, mae'r contractwr yn dal i fasnachu ac mae'r etholwr bellach wrthi'n dechrau ar y broses o wneud cais i CIGA gan fod ganddi warant 25 mlynedd. Yn anffodus, i lawer o bobl eraill, lle nad yw'r contractwr yn gweithredu mwyach, nid yw dwyn achos o'r fath gerbron bob amser yn syml, gan adael rhai perchnogion tai i wynebu biliau mawr gan fod yn rhaid iddynt unioni'r gwaith eu hunain.

Mae'r cynnig hwn yn cefnogi achos etholwyr fel hyn, sy'n wynebu anghyfleustra a chostau, wedi i waith inswleiddio diffygiol gael ei gyflawni. Ym mhob achos bron, ni ragwelwyd y costau hyn ac ni chyllidebwyd ar eu cyfer, ac mewn llawer o achosion, maent yn bwyta i mewn i arian pensiwn gwerthfawr neu arbedion ac yn yr achosion gwaethaf, maent yn peri i bobl fynd i ddyled pan fydd yn rhaid iddynt fenthyca arian i gywiro'r gwaith. Ac mae costau wedyn i landlordiaid cymdeithasol, lle maent yn gorfod gwario arian ar gyweirio eu heiddo, arian na ellir ei wario mwyach ar ehangu neu wella eu stoc dai.

Ceir angen parhaus i ddeall mwy am y problemau wrth gwrs, ac i ehangu ein dealltwriaeth o sut y digwyddodd, a rhaid bod gwersi i'w dysgu—yn enwedig wrth inni barhau i ôl-osod eiddo hŷn i allu defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Ond efallai fod mwy o frys i sicrhau bod gennym system sy'n addas at y diben yn y dyfodol; system a all helpu deiliaid tai fel defnyddwyr; system sy'n rhoi mwy o sicrwydd a diogelwch i ddefnyddwyr. Fel y dywedais ar y dechrau, nid oes ateb hawdd i'r broblem hon, ond mae'n rhaid inni fod yn barod i wella'r sefyllfa wrth symud ymlaen.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:10, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mick Antoniw a'r amryw o Aelodau eraill a oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf yn credu y bydd cymaint o ddiddordeb gan y cyfryngau yn y ddadl hon â'r un flaenorol, ond mae'n bwnc pwysig, yn enwedig i ddeiliaid tai sydd wedi dioddef yn sgil gwaith inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn wael. Nawr, yn ei araith i agor y ddadl heddiw, araith a oedd wedi ei hymchwilio'n dda, amlinellodd Mick lawer o'r problemau gyda sicrhau iawndal am waith gwael, yn rhannol oherwydd diffyg dannedd CIGA, ac awgrymodd y gallai fod gwrthdaro buddiannau posibl rhwng CIGA a'i chysylltiadau â'r diwydiant yn gyffredinol. Roedd Siân Gwenllian yn sôn am y problemau canlyniadol i iechyd sy'n gallu deillio o inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud yn wael, felly credaf fod achos dros geisio gwthio yma am unrhyw beth a fuasai'n helpu i unioni'r sefyllfa. Felly, ceir achos dros fwy o amddiffyniad i ddefnyddwyr a safonau gwell ar draws y diwydiant.

Dylai inswleiddio waliau ceudod o'i wneud yn gywir gyfrannu'n helaeth tuag at fynd i'r afael â phroblem tlodi tanwydd, fel y dywedodd David Melding yn ei gyfraniad. Dyfynnodd ffigur o £150 o arbedion. Mae gennyf ffigur gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, sy'n amcangyfrif y gellir arbed £225 yn flynyddol ar filiau tanwydd mewn tŷ sengl cyffredin drwy waith inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn briodol. Oherwydd y mathau hyn o arbedion, gall cartref cyffredin adennill y gost o osod o fewn pedair blynedd o bosibl. Yn UKIP, rydym yn awyddus i ymdrin yn effeithiol â thlodi tanwydd, felly mae hwn yn fesur cadarnhaol y gallem ei gefnogi, ac rydym yn gwneud hynny. Un fantais fawr arall yw ei fod yn lleihau allyriadau carbon deuocsid, felly buasai gwella'r diwydiant inswleiddio waliau ceudod yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd hefyd. Ac fel y mae pawb ohonoch yn gwybod, mae UKIP bob amser yn hoffi polisïau sydd o fudd i'r amgylchedd, felly rydym yn cefnogi'r cynnig heddiw.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:13, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch i Mick Antoniw ac eraill—Aelodau eraill—am gyflwyno hyn. Mae'n galonogol, i raddau, fod Aelodau eraill yn profi, neu ag etholwyr sydd wedi dioddef yr un problemau â fy etholwr i; nid wyf yn teimlo ar fy mhen fy hun. Rwy'n credu bod Dawn Bowden wedi cyfeirio at hynny yn ogystal.

Yn fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at drafferthion un o fy etholwyr oedrannus. Ei hunig incwm yw pensiwn y wladwriaeth ac mae hi bellach yn byw mewn eiddo llaith o'r 1950au ar ben bryn agored yn Sir Drefaldwyn. Mae hi'n honni bod ei chartref wedi ei effeithio'n ddifrifol gan leithder ers derbyn grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru tuag at inswleiddio waliau ceudod yn 2005, sydd, yn ôl ei meddyg teulu, yn niweidio ei hiechyd. Mae hi'n credu bod ei heiddo yn un o'r rhai a oedd yn anaddas ar gyfer inswleiddio waliau ceudod oherwydd ei safle agored iawn ar ben bryn oddeutu 800m uwchben lefel y môr, sydd, wrth gwrs, yn agored i law a yrrir gan y gwynt. Canfu dau arolwg CIGA dilynol ei bod yn ymddangos bod gwaith ar inswleiddio waliau ceudod wedi ei wneud yn unol â manylebau cynllunydd y system a'r British Board of Agrément. O ganlyniad, ac oherwydd diffyg tystiolaeth i'r gwrthwyneb, a diffyg adnoddau ariannol i herio'r penderfyniad hwn ymhellach, ni fu fy etholwr yn llwyddiannus wrth gymrodeddu ac ni all hawlio iawn. Felly, fel y gallwch ddychmygu, mae hi'n rhwystredig iawn ynglŷn â hyn ac wrth gwrs, rwy'n teimlo'n rhwystredig hefyd am nad wyf yn teimlo y gallaf gynnig llwybr gweithredu pellach iddi ychwaith.

Mae adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu wedi canfod bod y rhan fwyaf o Gymru mewn ardal sy'n agored iawn i wynt a glaw, ac mewn lleoliad anaddas felly ar gyfer gwaith inswleiddio waliau ceudod. Mae'r adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu hefyd yn nodi pryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau'r warant inswleiddio sydd ar gael i breswylwyr. O'r dystiolaeth a gafwyd wrth gwblhau'r adroddiad, ni fu'r un o'r 24 safle sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'r astudiaeth yn llwyddiannus gyda'u hawliadau drwy drefniadau'r warant inswleiddio. Ond dywedodd yr ymateb gan CIGA yn gyffredinol nad oedd y methiant i'w briodoli i'r arolwg ond ei fod yn deillio o resymau eraill megis diffyg cynnal a chadw neu ymddygiad meddiannydd.

Nawr, mae gennyf bryderon mawr fod cartref fy etholwr—ac eraill tebyg iddo—yn anaddas i gael gwaith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud iddo yn y lle cyntaf oherwydd ei safle agored iawn. O fy ymchwil fy hun, rwyf wedi canfod—ni allaf ond tybio bod treiddiad y glaw a yrrir gan y gwynt, a dreiddiodd drwodd i'r gwaith inswleiddio ac i'r waliau mewnol—. Ni ellir ond tybio, rwy'n credu, fod y lleithder sy'n effeithio ar y gwaith inswleiddio wedi gwaethygu dirywiad y waliau allanol a mewnol, sy'n darparu'r sail resymegol y mae CIGA yn ei chynnig dros dorri'r warant 25 mlynedd.

Mae'r cynllun grant a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer inswleiddio waliau ceudod wedi ei anelu at rai ag incwm cyfyngedig ac aelodau mwyaf bregus y gymuned. Felly, rwy'n pryderu bod cynllun grant gan Lywodraeth Cymru a gafodd fy etholwr tuag at inswleiddio waliau ceudod wedi ei gadael mewn twll ac wedi methu ei helpu pan oedd hi angen help. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, roi rhywfaint o gyngor i fy etholwr yn y dyfodol: pa gamau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i sicrhau rhywfaint o iawndal, a pha gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i weithio gyda phartneriaid i adolygu effeithiolrwydd trefniadau'r warant inswleiddio er mwyn cryfhau amddiffyniad i ddefnyddwyr yn y maes hwn.  

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 5:17, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o weld y cynnig hwn yn cael ei drafod yn y Siambr heddiw, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno hyn. Fel y dywed Mick Antoniw, rhaid inni dalu teyrnged i bawb sydd wedi dod yma heddiw. Mae fy etholwr, Pauline Saunders, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, yn ymgyrchydd dygn a chredaf fod llawer ohonom o amgylch y Siambr hon yn cydnabod hynny. Hoffwn ganmol Pauline am yr holl waith y mae wedi'i wneud ar ran llawer o bobl yng Nghymru a'r DU.

Fel y clywsom, mae miloedd o bobl wedi dioddef yn sgil y gwaith gwael a wnaed ar inswleiddio waliau ceudod, a heddiw rwy'n mynd i ganolbwyntio ar brofiad Pauline. Roedd cartref Pauline, sy'n dŷ pâr, bob amser wedi bod yn rhydd o leithder. Ond yn fuan ar ôl inswleiddio waliau ceudod, dechreuodd swigod ymddangos yn y papur wal a llwydodd y paneli pren, ac roedd y waliau'n teimlo'n llaith. Cysylltodd Pauline â Mark Group, y gosodwyr gwreiddiol, a yrrodd syrfëwr i archwilio'r eiddo. Dywedodd fod y lleithder yn deillio o waith cynnal a chadw ar yr eiddo. Ac am nad oedd wedi cael unrhyw broblemau blaenorol gyda'r eiddo, gwyddai Pauline nad oedd hyn yn debygol. Ni chynigiodd y cwmni unrhyw ateb, cyfrifoldeb na iawndal am y problemau.

Yn dilyn hyn, gofynnodd Pauline i syrfëwr CIGA archwilio'r eiddo. Mae CIGA yn cynnig gwarant 25 mlynedd os aiff rhywbeth o'i le ar waith gosod. Gan wybod hyn, gofynnodd yn benodol am y rwbel yn y wal. Drwy ymchwil Pauline ei hun fe wyddai na ddylid inswleiddio waliau ceudod os oes malurion yn y ceudod. Hyd yn oed ar ôl mynnu bod CIGA yn cynnal gwiriadau'n drylwyr, dywedwyd wrth fy etholwr nad oedd unrhyw falurion yn bresennol. Pan symudodd ei gŵr fricsen o'r wal, daethant o hyd i ddigonedd o falurion yn y ceudod.

Yn y pen draw, cafodd Pauline £1,750 mewn iawndal, a chafodd y gwaith inswleiddio ei dynnu. Ond ni fuasai wedi ei gael oni bai bod adroddiad wedi'i anfon ati mewn camgymeriad. Nodai'r adroddiad:

Roedd yr eiddo, ac mae'r eiddo'n anaddas ar gyfer inswleiddio waliau ceudod ac ni ddylai fod wedi'i insiwleiddio.

Nawr, mae hynny'n warthus. Heb yr adroddiad hwnnw, na fwriadwyd iddi ei weld, mae'n credu na fyddai byth wedi cael yr iawndal.

Er bod ei hachos wedi ei ddatrys, sylweddolodd Pauline fod ei phrofiad wedi datgelu pryderon gwirioneddol ynglŷn â sut roedd y diwydiant yn trin ei gwsmeriaid. Roedd hi o'r farn y byddai llawer o bobl eraill mewn sefyllfa debyg, ond yn llai abl i wneud hawliad. Roedd llawer o'r bobl a gysylltodd â Pauline yn oedrannus ac yn agored i niwed ac roeddent yn ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol gyda'r problemau parhaus a achoswyd gan inswleiddio anaddas. Ar y pwynt hwn, aeth Pauline ati gydag eraill i ffurfio CIVALLI—y gynghrair i ddioddefwyr gwaith inswleiddio waliau ceudod. Ers hynny, mae wedi parhau i ymgyrchu'n ddiflino ar ran preswylwyr sydd wedi dioddef yn sgil gwaith gwael neu waith na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf.

Mae Pauline yn rym go iawn ac yn ysbrydoliaeth. Mae tystiolaeth pobl sydd wedi cael cymorth gan CIVALLI yn profi faint o effaith y mae Pauline a gwirfoddolwyr eraill wedi'i chael. Dywedodd un:

Rhoddodd gyngor hyddysg i ni ar bob cam o'r ffordd ac mae hynny wedi helpu'n fawr... Heb gymorth a chyngor Pauline nid wyf yn gwybod ble y buasem. Rydym mor ddiolchgar. Mae'n wraig wych, angerddol a brwd sy'n haeddu medal! 

Ac rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno â hynny.

Fe wnaeth Pauline ac eraill yn CIVALLI hyn yn gyfan gwbl wirfoddol, gan helpu pobl eraill i lywio'r tir peryglus a'r broses drofaus, fel y dywedodd Mick eisoes. Er bod CIVALLI wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth dynnu sylw at y materion hyn a darparu cymorth i dioddefwyr, mae'n bwysig ein bod ni, fel Aelodau Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gweithredu i ddiogelu'r rhai yr effeithir arnynt ac sy'n agored i niwed rhag wynebu'r sefyllfa hon. Dyna pam rwy'n falch o siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, yn gyntaf i dalu teyrnged i fy etholwr, Pauline Saunders, am bob dim a wnaeth ac y mae'n parhau i wneud, ac yn ail i annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a CIGA ac i bwyso arnynt i ddarparu atebolrwydd ac iawndal priodol am waith inswleiddio gwallus. Mae'n hollbwysig ein bod yn atgyfnerthu ein hamddiffyniad i ddefnyddwyr er mwyn sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw un fynd drwy'r un anawsterau â fy etholwr a llawer o rai eraill yng Nghymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:22, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, sy'n dal i beri pryder i Aelodau ac i'w hetholwyr. Mae'n rhywbeth y cydnabûm yn fy natganiad ysgrifenedig ar 13 Mehefin, lle roeddwn yn nodi'r camau gweithredu roeddem yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae pawb ohonom yn ymwybodol o'r caledi difrifol y gall methiannau inswleiddio waliau ceudod eu hachosi, yn enwedig i aelwydydd sy'n agored i niwed sy'n aml yn flaenoriaeth ar gyfer mesurau o'r fath. Dyma aelwydydd a oedd, gyda phob bwriad da, yn credu y byddai'n cadw eu cartrefi'n gynhesach a'u biliau tanwydd yn llai. Mae inswleiddio waliau ceudod yn ffordd gosteffeithiol o leihau biliau tanwydd pan fydd wedi'i osod yn gywir. Y Cavity Insulation Guarantee Agency, a elwir yn CIGA, yw'r darparwr gwarantau mwyaf ar gyfer gwaith inswleiddio waliau ceudod ac mae hefyd yn weithredwr y cynllun person cymwys o dan ein rheoliadau adeiladu.

Dengys data gan CIGA fod 67,630 o osodiadau inswleiddio waliau ceudod wedi'u cyflawni yng Nghymru o dan eu cynllun person cymwys rhwng ei gyflwyno ym mis Hydref 2010 a'r mis hwn. Ers 1995, mae CIGA wedi cyhoeddi dros 330,000 o warantau yma yng Nghymru. Mae eu data'n dangos bod ychydig dros 4,167 o gwynion wedi bod yng Nghymru, sy'n cyfateb i gyfradd gwyno o 1.26%. Er bod hynny, fel canran, yn fach, pan fydd problemau, gall y canlyniadau fod yn drychinebus, fel y nododd Mick. Mae camau effeithiol i unioni camweddau pan fo methiannau'n digwydd yn hollbwysig. Yn amlwg, o'r ohebiaeth rwy'n ei chael, mynegwyd amheuon ynglŷn â hyn, a dyma fu ffocws ein trafodaethau gyda CIGA.

Roedd fy natganiad ysgrifenedig yn nodi tri phrif faes sy'n peri pryder, sef: ansawdd asesiadau cyn inswleiddio, y wybodaeth a roddir i ddeiliaid tai, a'r broses unioni pan fydd pethau'n mynd o chwith. O 1 Hydref eleni, gwneuthum newidiadau i gryfhau'r gofynion ar gyfer cynlluniau person cymwys y rheoliadau adeiladu sy'n gyfrifol am inswleiddio waliau ceudod yng Nghymru. Bellach, mae un o'r prif newidiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r arolwg adeiladu cyn inswleiddio gael ei wirio'n annibynnol cyn gwneud y gwaith inswleiddio. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn gwneud llawer i leihau achosion o inswleiddio eiddo anaddas. Mae newid pellach yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr y cynllun wneud gwaith goruchwylio mwy mynych. Unwaith eto, dylai hyn arwain at lai o inswleiddio heb gydymffurfiaeth a bydd hefyd yn nodi unrhyw ymarfer gwael gan gwmnïau gosod.

Mae pwysigrwydd cynnal a chadw eich eiddo ar ôl inswleiddio waliau ceudod yn allweddol. Mae CIGA wedi datblygu pecyn gofalu am eiddo i ddeiliaid tai sy'n cynghori ar yr angen i gynnal a chadw eu cartrefi. Mae hyn yn galonogol gan fod yn rhaid pwysleisio'r angen am waith cynnal a chadw i ddeiliad y tŷ cyn iddynt wneud y penderfyniad i gael y gwaith wedi'i wneud.

Cynigir inswleiddio waliau ceudod i rai o'r cartrefi tlotaf yng Nghymru, a rhaid egluro i aelwydydd beth yw eu rhwymedigaethau os ydynt i osgoi'r risg o fethiant ac annilysu eu gwarant. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae CIVALLI wedi ei gydnabod, ac mae'n faes rydym wedi ei drafod gyda CIGA.

Gan fy mod wedi crybwyll CIVALLI, fel eraill, hoffwn innau fachu ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Pauline Saunders a'r gwaith y mae hi a'i grŵp wedi ei wneud dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu aelwydydd. Rwy'n falch iawn ei bod hi ac eraill wedi ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus heddiw.

Er y dylai'r camau gweithredu a nodais helpu i leihau nifer y methiannau yn y dyfodol, nid yw hyn yn helpu aelwydydd sydd eisoes yn wynebu methiant gwaith inswleiddio waliau ceudod. Felly, mae ymdrin â'r hawliadau etifeddol hyn wedi bod yn bwynt trafod allweddol gyda CIGA. Mae CIGA wedi gwneud newidiadau i'w systemau trin cwynion ac wedi penodi eiriolwr defnyddwyr. Er bod hyn yn galonogol, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i barhau i gyfarfod â CIGA ac eraill i nodi camau cadarnhaol pellach mewn perthynas â chamau unioni i ddefnyddwyr, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i sicrhau bod camau unioni effeithiol ar gael.

Caiff y rhan fwyaf o waith inswleiddio waliau ceudod ei gyllido drwy raglenni a ariennir gan y Llywodraeth, ac un o'r rhaglenni mwyaf yw cynllun rhwymedigaeth cwmni ynni Llywodraeth y DU a'i ragflaenwyr. Mae adolygiad 'Each Home Counts' a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU wedi arwain at raglen waith a ddechreuodd yn gynharach yn y flwyddyn i ddatblygu ymarfer gorau o ran cynghori a diogelu defnyddwyr, safonau a gorfodi ar gyfer ystod o fesurau arbed ynni yn y cartref ac ynni adnewyddadwy. Ceir disgwyl eiddgar am y gwaith hwn, os yw'n cyflawni'r hyn a ddisgwylir, ac yn cael ei fabwysiadu ar gyfer rhwymedigaeth cwmni ynni, gan symud pethau pwysig yn ei blaenau'n fawr.

Eisoes mae gan ein dau gynllun, Arbed a Nyth, brosesau rheoli ansawdd cadarn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn mabwysiadu hyn wrth symud y gwaith yn ei flaen. Mae'n bwysig ein bod yn deall pryd y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau a pha mor fuan y bydd yn cael effaith. Byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn am amserlenni clir iawn.

Soniodd Russell George am un o'i etholwyr yn benodol, a buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu ataf gyda'r manylion penodol er mwyn i mi allu ymchwilio i'r mater.

Gellir cynnwys inswleiddio waliau ceudod hefyd yn rhan o becyn o fesurau a gyflawnir o dan gynlluniau Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, Nyth ac Arbed. Fodd bynnag, mae ein dull o weithredu, drwy ddefnyddio asesydd cymwys i bennu pa fesurau effeithlonrwydd ynni a argymhellir ar gyfer pob eiddo, yn sicrhau mai'r mesurau mwyaf priodol yn unig a roddir ar waith. Nid ydym yn caniatáu galwadau diwahoddiad ychwaith. Rydym yn cryfhau'r broses ymhellach ac yn datblygu ein cynlluniau Nyth ac Arbed newydd a gaiff eu cyflwyno o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys gofynion llym ar gyfer gwarantau, prosesau monitro a sicrhau ansawdd cadarn ac arolygiadau o'r holl waith inswleiddio. Bydd data newydd am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni pob math o dai yng Nghymru ar gael fel rhan o'r arolwg o gyflwr tai Cymru 2017-18. Byddwn yn adolygu'r data hwn i weld beth y mae'n ei ddweud wrthym am bresenoldeb inswleiddio waliau ceudod a phroblemau lleithder yng nghartrefi Cymru, a pha gamau pellach y gallwn eu cymryd yng ngoleuni hyn.

Soniodd Mick Antoniw yn ei sylwadau agoriadol am bwerau pellach y gallem fod yn eu cael ac a allai ein helpu yn y maes hwn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bwerau a fydd yn dod inni yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2017 y flwyddyn nesaf mewn perthynas ag ynni a fyddai'n helpu yn y maes hwn. Mae'r rhan fwyaf o'r pwerau a gawn yn ymwneud â chydsyniad a chynhyrchiant.

Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r rheini sy'n gosod safonau, Llywodraeth y DU, CIGA ac eraill, i hyrwyddo camau effeithiol i ddiogelu defnyddwyr ac ymarfer da drwy ein rheoliadau adeiladu, cynlluniau a arweinir gan y DU a'r rhai a ddarparir yn uniongyrchol yma yng Nghymru. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:29, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, gwyddom fod hyn yn ymestyn ar hyd a lled Cymru. Cawsom Siân Gwenllian o'r gogledd, cawsom Jayne Bryant o'r dwyrain, cawsom Dawn Bowden, Mick Antoniw a David Melding o Ganol De Cymru, cawsom Russell George o ganolbarth Cymru a minnau o Abertawe. Mae'n broblem ledled Cymru gyfan, ac mae hwnnw'n bwynt y credaf ein bod wedi llwyddo i'w gyfleu. Cawsom Gareth Bennett hefyd, mae'n ddrwg gennyf, o Ganol De Cymru.

Credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol iddo. Mae pob un ohonom fel Aelodau'r Cynulliad yn gwneud ein gorau dros ein hetholwyr, ac efallai ein bod yn anghytuno ar bolisïau mawr, ond mae pawb ohonom yn ceisio gwneud ein gorau dros ein hetholwyr. Mae pob un ohonom wedi'n cynhyrfu pan fyddwn yn gweld pobl sydd â llwydni'n dod drwodd yn eu tŷ, plastr yn briwsioni, paneli pren yn dod oddi ar y waliau, lleithder yn yr eiddo, gostyngiad yng ngwerth yr eiddo, pydredd sych a'r effeithiau ar iechyd—pobl ag asthma a gorbryder, pethau a grybwyllwyd. Un peth na soniodd pobl amdano, a rhywbeth rwy'n siŵr ein bod wedi dod ar ei draws, yw'r dagrau—y gofid llwyr pan fo cartrefi pobl yn y fath gyflwr, cartref yr arferent gredu ei fod yn fendigedig a chartref roeddent yn ei fwynhau, maent yn ei weld yn wahanol bellach. Yn aml, pobl dlawd a'r henoed sy'n tueddu i ddioddef hyn, y bobl y mae'n ymddangos eu bod wedi eu targedu, fel y soniodd Mick Antoniw. Ac rwy'n credu ei fod yn fater difrifol ac yn fater y mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i geisio gwneud ein gorau glas i wneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd.

Os nad oedd y ddadl ddiwethaf yn ymwneud â'r Cynulliad ar ei orau, credaf mai dyma yw'r Cynulliad ar ei orau pan fydd pawb ohonom yn ceisio gweithio ar ran ein hetholwyr ein hunain y mae pawb ohonynt yn dioddef yr un problemau'n union. Nid yw Mick Antoniw a minnau'n rhannu hyder Ysgrifennydd y Cabinet yn CIGA. O'r hyn a welais ohonynt pan y bu'n rhaid i mi ymdrin â hwy, fel y nododd Mick Antoniw, ymddengys eu bod yn dda iawn am geisio osgoi gwneud taliadau. Llongyfarchiadau i etholwr Jayne Bryant a lwyddodd i gael arian mewn gwirionedd, oherwydd nid oeddwn yn meddwl bod neb erioed wedi llwyddo. Dyna'r tro cyntaf mewn gwirionedd i mi gyfarfod ag unrhyw un sydd wedi llwyddo i'w gael. Gwn am bobl sydd wedi treulio llawer o amser, ac ymdrechu llawer, ac mae pobl wedi ei grybwyll drwy gydol y ddadl, yn ceisio ei gael, ac nid oes ond 4,167 o gwynion. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n cyfateb i nifer y problemau. Credaf fod yna lawer iawn o bobl nad ydynt yn siŵr sut i gwyno, ac mae llawer o bobl oedrannus nad ydynt yn dda am gwyno; maent yn ei dderbyn fel y sefyllfa sy'n bodoli, a phan fydd y rhain yn dweud, 'Eich bai chi ydyw', maent yn derbyn hynny hefyd. Pam fod tŷ sydd wedi sefyll ers 120 o flynyddoedd heb unrhyw broblemau, 12 mis ar ôl inswleiddio waliau ceudod yn cael problemau, nid wyf yn deall, ac rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn deall hynny chwaith.

Mae'n rhywbeth rwy'n falch iawn—ac rwy'n gobeithio—y byddwn yn cael cefnogaeth unfrydol iddo. Mae Llywodraeth y DU dan rwymedigaeth i ddatrys hyn. Mae'n rhywbeth nad yw'n eithriadol o ddrud iddynt o ran y ffordd y maent yn ymdrin â biliynau yma, ond mae'n cael effaith mor ddifrifol, fel y soniodd pawb, ar fywydau unigolion ac mewn llawer o achosion, ar sut y mae pobl yn treulio blynyddoedd olaf eu bywydau. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod rhywbeth yn cael ei wneud.

Mae David Melding yn llygad ei le. Mae'n fuddiol o'i wneud mewn man priodol ac o'i wneud yn gywir, ond yn llawer rhy aml caiff ei wneud yn anghywir mewn mannau amhriodol. Ni all fod yn iawn fod pobl yn codi yn y bore ac yn gweld llwydni'n dod drwodd a bod rhywun yn dweud wrthynt, 'Eich bai chi yw'r cyfan, nid ydych yn edrych ar ei ôl yn briodol.' Nid wyf yn credu hynny. Credaf nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn credu hynny. Gobeithio y bydd pobl yn cefnogi hyn, a gobeithiaf y gallwn barhau i ddatblygu hyn oherwydd rwy'n siarad yn awr ar ran fy etholwyr, yn hytrach nag ateb y ddadl, ac nid wyf yn ildio. Rwy'n mynd i barhau i ymladd, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yma yn parhau i wneud hynny hefyd. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:33, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.