– Senedd Cymru am 5:22 pm ar 27 Chwefror 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar fapiau rhwydwaith integredig teithio llesol, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i wneud y datganiad. Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn heddiw i ddiweddaru'r Aelodau ar garreg filltir fawr yng ngweithrediad ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Yn dilyn cyflwyno a chymeradwyo'r mapiau sy'n dangos y llwybrau teithio llesol presennol yn 2016, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau teithio llesol integredig fis Tachwedd diwethaf, ac mae'r rhain wedi'u hasesu'n llawn erbyn hyn.
Mae'r Ddeddf teithio llesol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno map rhwydwaith integredig o fewn tair blynedd i'r adeg pan ddaw'r Ddeddf i rym. Gwnaeth y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd ymestyn y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno gan chwe wythnos i 3 Tachwedd 2017 oherwydd yr etholiadau llywodraeth leol a'r anhawster posibl i ymgynghori ar y mapiau drafft yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.
Heddiw, mae awdurdodau lleol wedi cael penderfyniad ar y mapiau rhwydwaith integredig a gyflwynwyd ganddynt. Rhoddodd fy swyddogion gymorth rheolaidd i'r awdurdodau, gan gynnwys drwy weithdai a nodiadau cyngor. Ymgysylltodd y rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yn llawn yn y broses gan fynychu amrywiaeth o weithdai a gynhaliwyd gennym ledled Cymru i'w helpu i ddatblygu eu mapiau integredig. Fe wnaethom hefyd gomisiynu prosiect a oedd yn treialu elfennau o'r broses o baratoi mapiau rhwydwaith integredig. Gwnaeth y prosiect, a gomisiynwyd gyda Sustrans, weithio gyda nifer o awdurdodau lleol drwy rai o'r camau allweddol wrth lunio map rhwydwaith integredig gan ddatblygu arferion da a lledaenu gwersi a ddysgwyd.
Rwy'n falch bod 21 o'r 22 o awdurdodau lleol wedi cyflwyno eu mapiau ar amser. Rhoddodd Cyngor Sir Fynwy wybod i'm swyddogion ar 5 Medi na fyddai'n gallu cyflawni'r terfyn amser. Ym mis Hydref, cyflwynwyd cyfarwyddeb i Gyngor Sir Fynwy ac maen nhw yn awr i fod i gyflwyno eu mapiau rhwydwaith integredig yfory.
Mae'r holl fapiau rhwydwaith integredig a gyflwynwyd wedi'u hasesu yn erbyn y gofynion a nodir yn y Ddeddf a'r canllawiau statudol. Gan fod y fersiwn gyntaf hon o weithrediad y Ddeddf yn broses o ddysgu i bawb ohonom ni, penodais yr Athro John Parkin ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr fel dilysydd annibynnol. Gofynnwyd iddo edrych ar ganlyniadau'r arfarniad i sicrhau eu bod yn gyson ac yn rhesymol ac i helpu i ddod i benderfyniad cadarn. Roeddwn i'n meddwl bod ymrwymiad yr awdurdodau lleol ledled Cymru yn rhagorol ynghyd â safon y rhan fwyaf o'r cyflwyniadau.
Efallai yn anochel yn y cylch cyntaf hwn, mae amrywiaeth o ddulliau wedi'u defnyddio gan awdurdodau wrth ddatblygu'r mapiau hyn, ac mae llawer iawn o amrywiaeth yn lefelau'r uchelgais a fynegwyd yn y mapiau hyn. Ar sail yr arfarniad a gynhaliwyd gan fy swyddogion ac asesiad yr Athro Parkin, rwyf wedi gwneud y penderfyniadau canlynol: rwy'n falch o allu cymeradwyo cyflwyniadau 14 o awdurdodau lleol yn llwyr, oherwydd eu bod nhw wedi dangos bod eu cynigion yn seiliedig ar ymgysylltu ystyrlon ac yn ffurfio map rhwydwaith integredig cam cyntaf credadwy. Mae grŵp arall o gyflwyniadau sy'n disgyn ychydig yn is na'n disgwyliadau, naill ai yn y modd yr ymgysylltwyd ac yr ymgynghorwyd â'r cymunedau yn y broses, neu o ran cydlyniad eu rhwydweithiau arfaethedig. Ar gyfer y rhain, rwyf wedi penderfynu cymeradwyo'r mapiau ar yr achlysur hwn, gydag argymhellion clir ar gyfer mynd i'r afael â'r gwendidau hyn.
Rwy'n siomedig bod cyflwyniadau gan bedwar awdurdod lleol yn anaddas i'w cymeradwyo ar eu ffurf bresennol oherwydd bod yr awdurdodau lleol hyn naill ai wedi methu ag ymgynghori'n effeithiol ar eu cynigion neu oherwydd nad ydyn nhw'n cynnig rhwydweithiau teithio llesol ystyrlon, ac, mewn rhai achosion, roedd y ddau beth yn wir am eu cyflwyniadau. I'r awdurdodau lleol hynny, byddaf yn cyflwyno cyfarwyddeb iddyn nhw ailgyflwyno eu cynigion erbyn 27 Awst eleni. Byddwn yn eu cefnogi drwy gydol y cyfnod hwn yn barhaus. Darparodd y dilysydd annibynnol argymhellion penodol ar feysydd y dylid rhoi sylw iddynt, a bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i sicrhau cynnydd buan. Rydym ni hefyd yn gwneud argymhellion i awdurdodau eraill i dynnu sylw at feysydd i'w gwella. Man cychwyn yw'r mapiau rhwydwaith integredig cyntaf hyn; rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol barhau i weithio ar y mapiau rhwydwaith hyn a'u mireinio drwy drafod â'u cymunedau. Fel hyn, pan fydd yn rhaid iddyn nhw eu cyflwyno eto ymhen tair blynedd, bydd y broses yn llawer symlach.
Nawr bod y mapiau rhwydwaith integredig cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru wedi'u sefydlu gennym, mae gennym ni sylfaen gadarn i wireddu'r rhwydweithiau cerdded a beicio hyn ac i gael mwy o bobl i gerdded a beicio yng Nghymru. Rwyf bellach wedi cael y ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o grantiau trafnidiaeth lleol, a bydd llawer ohonyn nhw'n gynlluniau teithio llesol, a byddaf yn cyhoeddi pa gynlluniau a gaiff eu cyllido y mis nesaf. Byddaf yn parhau i geisio ategu'r cyllid hwn eleni yn ystod y flwyddyn pryd bynnag y daw cyfle i gael gafael ar gyfalaf ychwanegol, fel yr wyf wedi'i wneud eleni. Dyrennais dros £8 miliwn o arian cyfalaf ychwanegol i gynlluniau sydd er budd teithio llesol ar gyfer 2017-18 i hybu'r cynlluniau presennol ac ariannu prosiectau ychwanegol. Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad ehangach o sut yr ydym ni'n ariannu teithio llesol ac i edrych ymlaen at y gofynion yn y dyfodol. Fy mwriad yw cynyddu faint yr ydym yn ariannu teithio llesol ac yr ydym yn ei roi ar gael yn ganolog ar gyfer seilwaith yn sylweddol, a byddaf yn rhannu mwy o fanylion ar hyn gyda chi cyn bo hir.
Mae'r mapiau integredig yn cynrychioli cyfle gwych i gynllunio'n gydgysylltiedig. Rwy'n annog awdurdodau lleol a chyrff eraill i sicrhau bod cynlluniau a rhaglenni eraill yn eu hystyried ac, yn bwysig, yn eu defnyddio yn rhagweithiol i sicrhau cyllid o amrywiaeth o ffynonellau eraill. Pan fyddwn yn llwyddo i greu'r rhwydweithiau hyn, a phan gânt eu defnyddio'n dda, byddwn i gyd yn elwa ar well iechyd a llai o gostau gofal iechyd, llai o dagfeydd, llai o lygredd aer ac allyriadau, ac, yn gyffredinol, lleoedd gwell. Mae cyflawni hyn yn gyfle ac yn gyfrifoldeb ar y cyd i bob un ohonom ni yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi o'r farn bod diffyg unrhyw adnoddau ariannol a dynol yn un o'r rhesymau pam yr oedd wyth awdurdod lleol wedi disgyn yn is na'ch disgwyliadau? Ceir rhywfaint o bryder hefyd gan y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol bod gweithredu'r ddeddfwriaeth yn drwm o ran prosesau, sy'n golygu y bu oedi o ran datblygu llwybrau a bod amser hollbwysig wedi'i golli. Byddwn yn ddiolchgar o gael eich barn ar hynny.
Mae'n ymddangos, heb gyllid digonol, na fydd awdurdodau lleol yn gallu gweithredu'r cynlluniau blaenoriaeth a nodwyd yn eu mapiau rhwydwaith integredig yn briodol, felly a ydych chi'n cydnabod y pryderon a fynegwyd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru bod yr arian hwnnw ar gyfer teithio llesol, yn hanesyddol, wedi bod yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen i weithredu'r Ddeddf teithio llesol? A gaf i ofyn pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i gyllideb teithio llesol benodol â setliad ariannu aml-flwyddyn, hefyd?
Felly, i droi at rai canlyniadau yng Nghymru, mae'r data diweddar yn dangos bod y canlyniadau, mewn gwirionedd, yn gwaethygu, ac nad yw traean y bobl yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd o gwbl, ac na fu unrhyw welliant i nifer cyffredinol y bobl sy'n cerdded a beicio. Felly, mae'r data diweddaraf yn nodi'n glir bod cynnydd ar annog teithio llesol yng Nghymru yn arafu a bod yr angen am well diogelwch yn un o'r rhesymau am hyn, yn ôl astudiaeth diogelwch Beicio am Oes Sustrans Cymru, er mwyn cael pobl ar eu beiciau. Mae gan datblygu seilwaith teithio llesol diogel, wrth gwrs, y potensial i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd yn sylweddol a helpu i gyflawni canlyniadau iechyd cyhoeddus y byddem yn hoffi eu gweld. Felly, a gaf i ofyn beth yr ydych chi'n ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd er mwyn hyrwyddo teithio llesol a sut yr ydych chi'n ymateb i bryderon diogelwch sydd wedi'u mynegi gan Sustrans Cymru, Cycling UK a Ramblers Cymru ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr A487 yng Nghaernarfon, y maen nhw'n dweud y byddai'n gwaethygu diogelwch ac nad yw'n darparu'n ddigonol ar gyfer cerdded a beicio?
Yn olaf, a gaf i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, ystyried cymryd perchenogaeth bersonol o'r agenda teithio llesol i sicrhau ei bod yn cael sylw traws-adrannol? Mae llawer o'r lleoedd o amgylch y DU ac Ewrop sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth hyrwyddo teithio llesol wedi bod â Gweinidogion neu feiri y mae'n ymddangos eu bod, yn bersonol, wedi arwain yr agenda hon. Mae Andy Street, maer gorllewin canolbarth Lloegr yn enghraifft dda o hyn. Felly, yn hyn o beth, beth ydych chi'n bwriadu ei wneud i weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet i gynyddu nifer y rhaglenni teithio llesol mewn ysgolion a gweithleoedd i gefnogi newid ymddygiad fel y gall ysgolion a gweithwyr sbarduno'r newid sydd ei angen er mwyn i bobl allu croesawu teithio llesol?
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Rwy'n meddwl bod llawer o'r hyn y mae wedi'i gynnig heddiw yn dangos bod angen gwella ymddygiad yn sylweddol yng Nghymru, a hefyd ar draws y DU o ran hynny, ym maes teithio llesol a'r dewisiadau a wnawn pan fyddwn yn symud o A i B. Bu achosion lle y mae unigolion wedi arwain a bod yn gyfrifol am agendâu teithio llesol yn bersonol, a bu canlyniadau gwych o ganlyniad i hynny. Soniodd yr Aelod am faer gorllewin canolbarth Lloegr fel un enghraifft benodol. Ond wedyn, os byddwn ni'n cymharu'r haeriad bod un person yn gallu cymryd rheolaeth uniongyrchol gyda'r ystyriaeth o fod ag un gyllideb ac, efallai, awgrymu y byddai bod â chyllidebau ar gael ar draws y Llywodraeth yn ei gwneud yn llawer haws i sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth traws-lywodraethol, nid yw hynny'n golygu nad oes gennych chi un arweinydd o'r agenda, ac, yn sicr, rwy'n dymuno gweld y swm o adnoddau a ddyrennir i deithio llesol yn cael ei wella'n sylweddol. Ond ni ddylai'r cynnydd hwnnw mewn cyllid ddod, yn fy marn i, ddim ond o un gyllideb adrannol. Felly, er fy mod i'n derbyn y dylai fod arweinyddiaeth gref ar yr agenda benodol hon gennyf i, rwy'n credu hefyd na fydd bod â chronfa benodol ar gyfer teithio llesol efallai yn cael y math o gefnogaeth traws-Lywodraeth sydd ei hangen arnom. mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried o ganlyniad i'r adolygiad i ariannu teithio llesol a gomisiynwyd gennyf.
O ran yr ariannu aml-flwyddyn i deithio llesol, wel, rydym wedi amlinellu yn y cynllun gweithredu economaidd sut y byddwn yn symud i gylchoedd pum mlynedd ar gyfer cyllid, ac rwy'n credu y gallai hynny fod o fudd mawr i deithio llesol. Fy mwriad i yn sicr fyddai defnyddio rhywfaint o'r arbedion cyllid y gellir eu gwneud o gyllidebau aml-flwyddyn er mwyn gwella'r seilwaith sy'n cefnogi teithio llesol.
O ran y pryder ynghylch diffyg adnoddau ariannol a dynol posibl ar lefel llywodraeth leol, fe wnaethom ni sicrhau bod £700,000 ar gael i awdurdodau lleol baratoi eu mapiau. Mae'n werth nodi bod un o'r awdurdodau lleol hynny—o leiaf un o'r awdurdodau lleol hynny—nad yw hyd yn hyn wedi cael cymeradwyaeth i'w fapiau wedi penderfynu peidio â defnyddio'r adnodd hwnnw a oedd ar gael. Ond yn ychwanegol at yr adnoddau ariannol, mae swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau bod yr arbenigedd ar gael a bod y sgiliau a'r profiad wrth law i gynhyrchu mapiau.
Rydym eisoes yn dyrannu £5 miliwn i weithio ar gynlluniau sy'n barod i'w gweithredu ledled Cymru. Wrth inni symud i flynyddoedd y dyfodol, rwy'n disgwyl i gyfran y cyfalaf sydd ar gael o'r gyllideb drafnidiaeth gyffredinol gynyddu ar gyfer teithio llesol. Rydym wedi gweld cynnydd o oddeutu 3 y cant i 6 y cant yn ystod y 10 mlynedd diwethaf o ran cyfran y cyllid sydd ar gael ar gyfer teithio llesol o'r gyllideb drafnidiaeth, ond hoffwn weld y gyfran honno yn cynyddu mwy eto, fel y gallwn ni gael cyfres o brosiectau y gellir eu hariannu, y gellir eu cyflawni, yn seiliedig ar y £5 miliwn cychwynnol o gynlluniau a nodwyd, neu'r cynlluniau a nodir drwy'r £5 miliwn o gyllid.
O ran diogelwch, un o'r ffactorau mwyaf rhwystrol sy'n atal llawer o bobl rhag teithio i'r gwaith neu deithio i'r ysgol neu deithio at wasanaethau ar droed neu ar feic yw eu bod ofn traffig sy'n symud yn gyflym. Mae parthau ugain milltir yr awr wedi profi'n llwyddiannus iawn yn agos i ysgolion. Mae'r rhain ar gael i awdurdodau lleol i'w datblygu os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae'n sicr yn rhywbeth yr ydym wedi'i annog. Ond er mwyn cael y newid, mewn gwirionedd, gweld y newid ymddygiadol, mewn gwirionedd, y credaf y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn dymuno ei weld, mae'n rhaid inni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o oedolion cyfrifol yn ystyried teithio llesol yn ddull blaenoriaeth o symud o un man i'r llall.
Mae'r data a nodwyd gan yr Aelod yn anffodus yn dangos gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n cerdded unwaith yr wythnos yn rheolaidd yng Nghymru. Yn yr un modd, mae gostyngiad sy'n achosi pryder o ran nifer y bobl ifanc sy'n cerdded. Yr hyn yr ydym ni wedi sylwi arno, o ran pobl ifanc, yw ei bod yn ymddangos bod pryder rhieni ynghylch diogelwch yn ffactor pwysig, oherwydd mae'n ymddangos bod y ganran sy'n cerdded gydag oedolyn i'w weld yn eithaf sefydlog os nad yn cynyddu, ond mae yna ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n cerdded gyda ffrindiau neu ar eu pennau eu hunain. Felly, yn sicr, mae'n ymddangos bod yna bryder ynghylch diogelwch—boed yn ddiogelwch ar y ffyrdd neu'n ddiogelwch o ran y graddau y mae plant yn cael mynd allan heb eu rhieni. Mae angen rhoi sylw i hyn, rwy'n credu, yn yr ystad ysgolion, ac rwyf i yn sicr yn gwneud gwaith i weld pa un a yw cau ysgolion, cyfuno'r ystad ysgolion, wedi effeithio ar y data hyn.
Rydym hefyd wedi datblygu pecyn cymorth ar lwybrau ysgol, ac mae'r gwaith hwn wedi galluogi ysgolion i allu asesu ac archwilio'r llwybrau cerdded y mae pobl ifanc yn eu defnyddio i fynd i'r ysgol. Mae hyn yn ddarn o waith sydd ar y gweill, ond bydd yn cyfrannu, rwy'n credu, at newid canfyddiadau am deithio llesol ac yn annog pobl ifanc i fynd ar y beic neu i gerdded, yn enwedig i fynd i'r ysgol ac yn ôl adref. Mae'r union ddata ar ysgolion cynradd ac uwchradd lle mae plant yn byw o fewn taith gerdded o 10 munud yn drawiadol iawn. Mae oddeutu 84 y cant o blant ysgolion cynradd yn mynd i'w hysgolion ar droed os ydyn nhw o fewn taith gerdded o 10 munud i'r ysgol gynradd, ac mae hynny oddeutu 31 y cant o'r holl bobl ifanc. Yn yr ysgol uwchradd, mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch—mae'n 96 y cant. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud, mewn gwirionedd, yw cael mwy o'r rhai hynny sy'n byw ychydig ymhellach i ffwrdd i ddechrau beicio neu gerdded. Mae'r data—. Mae'n ddrwg gennyf i sôn am y data o hyd, Dirprwy Lywydd, ond mae'r data hefyd yn dangos o ran oedolion, bod yr oedolion hynny a oedd yn cerdded neu'n beicio rai blynyddoedd yn ôl, neu yn y blynyddoedd diweddar, fwy na thebyg yn cerdded hyd yn oed mwy nawr. Y broblem yw bod y rhai hynny sydd heb fod yn cerdded yn dal i beidio â cherdded, ac am y rheswm hwnnw, mae'n rhaid inni sicrhau bod y mapiau sy'n cael eu datblygu a'r rhwydweithiau sy'n cael eu hadeiladu yn addas ar gyfer anghenion pobl mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Diolch. Y rheswm yr oeddwn i'n eich brysio chi yw bod gennym ni nifer o siaradwyr. Rydym ni bron hanner ffordd a ddim ond wedi cael un siaradwr. Dai Lloyd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet? Yn amlwg, o safbwynt iechyd y cyhoedd, mae'n hollbwysig i fynd i'r afael â'r agenda hon. Mae'n hollbwysig i fynd i'r afael â'r agenda gordewdra sy'n rhan annatod o deithio llesol ac annog yr agenda ffitrwydd corfforol gyfan yn gyffredinol, oherwydd mae'r holl ystadegau'n dangos, o safbwynt meddygol, os ydych chi'n ffit yn gorfforol fel unigolyn, fel yr wyf i wedi ei ddweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae eich pwysedd gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych chi'n ffit yn gorfforol, mae'r siwgr yn eich gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych chi'n ffit yn gorfforol, ac mae eich colesterol hefyd 30 y cant yn is nag os nad ydych chi'n ffit yn gorfforol. Nawr, pe byddem ni wedi dyfeisio tabled neu gyffur a fyddai'n cael yr effaith sylweddol honno ar y mynegeion hynny—oherwydd dydym ni ddim wedi llwyddo i wneud hynny hyd yn hyn—byddai'n gyffur cwbl drawsnewidiol, a byddai galw mawr ar NICE i'w gymeradwyo yfory. Nid oes cyffur o'r fath yn bodoli, ond mae ffitrwydd corfforol yn bodoli. Felly, byddwn i'n awgrymu, wrth i chi chwilio am rywfaint o arian ychwanegol, y byddai ymgynghori'n agos ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd o fudd oherwydd rydym ni'n sôn am agenda enfawr yn y fan yma, y mae angen mynd i'r afael â hi, yn amlwg.
Felly, rwy'n croesawu eich datganiad, ac yn amlwg rwy'n croesawu gweledigaeth y ddeddfwriaeth teithio llesol y mae'r datganiad hwn heddiw ar fapiau rhwydwaith teithio llesol integredig yn rhan annatod ohoni. Ond, yn amlwg, mae'r weledigaeth teithio llesol hon yn mynnu newid sylweddol mewn ymddygiad, fel yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn amlwg, mae'r newid sylweddol hwnnw mewn ymddygiad yn her i bawb ohonom ni, yn bersonol, yn ogystal â bod yn her i'r Llywodraeth, yn genedlaethol ac yn lleol. Oherwydd mae ofn gwirioneddol a dealladwy o'r traffig ar y ffyrdd—ofn y perygl o geir a lorïau—a phroblem wirioneddol o ran damweiniau, yn enwedig yn ymwneud â beicwyr. I dawelu'r ofn hwnnw, mae angen, rwy'n credu, hanes o wario ar ddiogelwch a chadw beicwyr a cherddwyr yn ddiogel fel y gallwn brofi i bobl eu bod yn ddiogel, a'u cadw ar wahân oddi wrth ceir a lorïau. Nawr, ni all hynny ddigwydd dros nos, rwy'n sylweddoli hynny, ond dyna'r syniad. Mae angen i'r syniadau hynny fod yn drawsnewidiol, gymaint ag y mae angen i'n meddyliau ar newid ymddygiad fod yn drawsnewidiol, ac mae angen i'r gwariant, byddwn yn dadlau, fod yn drawsnewidiol hefyd.
Nawr, yn amlwg, rydych chi wedi sôn am eich bwriad i gynyddu'r cyllid, sydd i'w groesawu'n fawr, ond fel y gwyddom, mae gwariant fesul pen ar deithio llesol oddeutu £5 y pen y flwyddyn yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Alban yn gwario £16 y pen y flwyddyn. Mae byd delfrydol beicio'r Iseldiroedd a Denmarc yn gwario oddeutu £30 y pen y flwyddyn. Felly, nid wyf yn dweud y dylem ni neidio i hynny yfory, ond dyna'r newid trawsnewidiol yr ydym ni'n chwilio amdano. Yn ôl pob tebyg, fe wnaeth heriau gwariant lywio'r awdurdodau lleol sydd wedi ymateb yn eu mapiau rhwydwaith integredig ac, yn amlwg, fel yr ydych wedi cyfeirio ato, nid yw pob un ohonyn nhw wedi cael eu cymeradwyo gennych, ond mae awdurdodau lleol yn amlwg, fel pawb arall yn yr oes hon o gyni, o dan bwysau ariannol aruthrol.
Felly, yn y bôn, a wnewch chi roi manylion faint o arian ychwanegol y byddwch chi'n chwilio amdano, neu y gellir ei ddarparu ar gyfer deddfwriaeth teithio llesol fel y gallwn ni, mewn gwirionedd, weld y trawsnewid sydd angen digwydd? Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau? Byddwn yn cytuno'n llwyr ag ef y gall teithio llesol chwarae rhan hanfodol wrth leihau nifer yr achosion o ordewdra ac afiechydon corfforol eraill, ond gall hefyd helpu i wella ein lles, ac yn sicr ein hiechyd meddwl. Rwyf i yn sicr yn cael budd o gerdded, beicio a rhedeg yn rheolaidd, yn enwedig pan fy mod yma ym Mae Caerdydd, ar ôl gwaith neu cyn gwaith. Rwy'n gweld fy mod yn perfformio'n llawer gwell os ydw i wedi bod yn rhedeg ar ôl gwaith neu yn gynnar yn y bore na phan fy mod yn segur am y rhan fwyaf o'r diwrnod. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni yn y Siambr, mae'n debyg, ran i'w chwarae wrth arwain drwy esiampl a cheisio bod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach. Gwn fod amser yn brin iawn, ond mae'n gwbl hanfodol mewn bywyd modern i allu neilltuo digon o amser i chi i fod yn gorfforol egnïol. Mae'n gwbl hanfodol ar gyfer eich iechyd corfforol, eich iechyd meddwl a'ch lles.
O ran pwysigrwydd cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ac adrannau eraill, rwy'n credu bod addysg ac iechyd, yn enwedig, yn hanfodol wrth herio a newid ymddygiad pobl er mwyn cael mwy o bobl i fod yn egnïol yn gorfforol, nid yn unig o ran gweithgarwch corfforol, ond i fod yn fwy egnïol yn gyffredinol, i fod yn gwneud mwy, i fod yn fwy corfforol yn amlach. Yn sicr drwy fforymau fel y bwrdd teithio llesol rydym yn gallu galw ar swyddogion ar draws adrannau am ddiweddariadau gan eu priod Ysgrifenyddion Cabinet ar y camau a gymerir i gyflawni ysbryd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Credaf fod ofn, fel y mae Russell George wedi ei ddweud eisoes, yn ffactor hollbwysig sy'n atal neu'n gwneud pobl yn amharod i fod yn egnïol wrth deithio. Roedd bod ofn colli allan, neu 'FOMO', fel y'i gelwir erbyn hyn ymhlith pobl ifanc, yn arfer gwneud iddynt gerdded adref neu gerdded i'r ysgol, oherwydd eu bod yn ofni methu â bod gyda'u ffrindiau. Erbyn hyn, mae arnaf ofn, mae FOMO yn gwneud i lawer o bobl ifanc fynnu eu bod yn cael eu nôl er mwyn gallu mynd yn ôl adref i fynd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyflymach, neu ar y system gyfrifiadurol. Yn anffodus, mae hynny wedi dod yn norm diwylliannol. Mae'n rhaid herio hynny mewn ysgolion, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod llawer o ysgolion yn ei wneud eisoes. Mae gennym rai hyrwyddwyr gwych yn y gwasanaeth addysg hefyd, ac rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod mwy o bobl yn cael y math o gefnogaeth a gefais i yn sicr, ac a gafodd llawer o bobl eraill, o ran hyfedredd beicio.
Roedd llyfr gwych a ysgrifennwyd gan Anthony Seldon ychydig o flynyddoedd yn ôl o'r enw Trust, lle'r oedd yn rhoi darlun eithaf tywyll o fywyd cyfoes lle rydym yn cael ein trochi mewn delweddau ofnus, delweddau negyddol, sy'n arwain at golli ffydd yn ein gilydd. Rwy'n credu, o ganlyniad i hynny, fod pobl yn credu eu bod yn llai diogel nag y maen nhw mewn gwirionedd, maen nhw'n llai tebygol o ymddiried mewn pobl eraill mewn cymdeithas, fel y byddent wedi gwneud yn y gorffennol, ac mae hynny'n anffodus iawn. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw annog pobl i fod yn fwy ffyddiog, mewn gwirionedd, a bod yn realistig ynghylch y bygythiadau ar ein system ffyrdd a'n llwybrau seiclo ac ar ein palmentydd.
O ran y gwariant fesul pen, does dim angen fy argyhoeddi i o gwbl bod angen inni weld cynnydd sylweddol yn yr adnoddau a ddyrennir i gefnogi teithio llesol. Hoffwn i ddefnyddio fy meic Boardman yn fwy aml. Hoffwn i fod yn fwy egnïol o ran cerdded, ac er na fyddwn yn dymuno rhoi ffigur ar hyn o bryd o ran faint yr hoffwn gynyddu'r gwariant ar deithio llesol, hoffwn ei weld yn cynyddu, o ran punnoedd y pen o'r boblogaeth, i'r un lefel â'r Alban. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddyhead. Rwy'n credu, yn y bôn, os gallem ni gyrraedd lefelau iwtopia beicio rhai o wledydd y cyfandir un diwrnod, yna byddai hynny'n wych, ond yn sicr, i ddechrau, mae angen inni anelu at gynyddu i'r math o lefel yr ydym wedi'i gweld yn yr Alban. Ond rwy'n credu hefyd bod angen inni fod yn realistig ynghylch o ble y daw'r cyllid hwn. Ni all ddod o un pot mewn un adran o fewn y Llywodraeth. Mae'n rhaid iddo ddod o amrywiaeth o adrannau ac nid yn unig, yn wir, o Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid cael cyfraniad, yn fy marn i, gan Lywodraeth Leol hefyd, ac mae llawer iawn o gynghorau ledled Cymru wedi bod yn hynod gyfrifol a rhagweithiol yn yr agenda hon.
Mae'n dda gwybod bod gennych chi'r holl gynlluniau hyn gan awdurdodau lleol erbyn hyn, ond rwy'n gobeithio ein bod ni nawr yn mynd i weld camau gweithredu yn cael eu cymryd, a hynny'n yn fuan iawn. Fel y dywedodd Dai Lloyd eisoes, mae budd iechyd cyhoeddus enfawr o hyn ac mae'n rhaid inni gymryd sylw o bobl fel yr Athro Syr David King, y cyn-brif gynghorydd gwyddonol i Lywodraeth y DU, sy'n rhybuddio bod llygredd aer yn fwy niweidiol i blant mewn ceir na'r rhai hynny sy'n cerdded ar y stryd. Mae hon yn neges y mae'n rhaid inni rywsut ei chyfleu i rieni—eu bod mewn gwirionedd yn rhoi eu plant mewn mwy o berygl drwy fynd â nhw i'r ysgol yn y car nag y byddent pe byddent yn cerdded gyda nhw neu yn eu hannog i gerdded ar eu pennau eu hunain neu gyda'u ffrindiau.
Yn fy amser i, roeddwn i'n gorfod aros rownd y gornel i godi fy mhlant o'r ysgol uwchradd, os oedd yn rhaid i mi eu casglu nhw i fynd â nhw i rywle ar ôl yr ysgol, oherwydd doedd hi ddim yn 'cŵl' i gael eich gweld gyda'ch rhieni. Ar ba bwynt yr ydym ni'n mynd i roi'r gorau i fynd â'n plant i'r ysgol? A fyddwn ni'n mynd â nhw i'w gwaith? Rywsut, rydym ni'n babïo pobl ifanc—gallen nhw fod yn gweithredu'n annibynnol ac yn penderfynu pa lwybr y maen nhw'n mynd i'w gymryd i fynd adref a gyda phwy y maen nhw'n mynd i gerdded adref ac ati. Felly, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i ni bwysleisio'r pwynt hwn: mae naw i 12 gwaith yn uwch—lefel y llygredd y tu mewn i'r car na'r llygredd y tu allan iddo. Mewn lle fel Caerdydd, mae hynny'n sylweddol iawn oherwydd bod gan Gaerdydd lefelau mor uchel o lygredd aer. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef bod ein cynlluniau presennol ar gyfer datrys y broblem hon yn anghyfreithlon. Tybed pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i weithredu parth aer glân yng Nghaerdydd, oherwydd mae gwir angen inni symud ymlaen yn gyflym.
Rwyf yn ymddiddori'n fawr yn y ffaith bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn dweud bod llwybrau beicio oddi ar y ffordd yn werth da iawn am arian a bod pob £1 sy'n cael ei buddsoddi yn rhoi £14 mewn buddion. Mae buddsoddi mewn seilwaith cerdded yn rhoi £37 am bob £1 a fuddsoddwyd—sydd, heb amheuaeth, yn cyfeirio'n ôl at rai o'r ystadegau y mae Dr Dai Lloyd wedi eu rhoi inni.
Os ydych chi'n chwilio am arian ar gyfer gweithredu'r cynlluniau rhagorol hyn, tybed a fyddech chi efallai'n ystyried yr arian ychwanegol y gellid ei godi drwy roi ardoll ar barcio ceir yng nghanol y ddinas, oherwydd yng Nghaerdydd yn unig rwyf wedi amcangyfrif y gallai ardoll 100 y cant ar y ffi am ddwy awr ar yr holl barcio yng nghanol y ddinas godi £1 biliwn. Gallech chi gyflwyno llawer iawn o lwybrau cerdded a beicio gydag arian o'r fath. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i'r math hwn o beth, oherwydd mae gennym ni'r ffyrdd eisoes—nid oes angen inni adeiladu mwy o ffyrdd, ond mae angen inni eu defnyddio at ddibenion gwahanol. Mae angen inni ddefnyddio llwybrau penodol ar gyfer cerdded a beicio.
Yn olaf, tybed a allech chi ddweud wrthym ni, ar gyfer y cyflwyniadau hynny nad oeddent yn bodloni eich disgwyliadau, y gwnaethoch chi benderfynu eu cymeradwyo beth bynnag gydag argymhellion ar gyfer mynd i'r afael â gwendidau, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau yr ymdrinnir â'r gwendidau hynny.
A gaf i ddiolch i Jenny am ei chwestiynau, ac am dynnu sylw at broblem y mae angen mynd i'r afael â hi ar frys, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, sef bodolaeth ceunentydd carbon, ar lawer cyfrif, sy'n llygru ysgyfaint cymudwyr, a phobl ifanc yn arbennig? Yr eironi, wrth gwrs, yw mai yn yr ardaloedd trefol mwyaf dwys hynny y mae mwyaf hawdd i bobl ifanc gerdded i sefydliadau. Yr hyn sy'n eu hatal rhag gwneud hynny yw ofn rhieni neu eu hofn eu hunain o beidio â bod yn ddiogel ar y ffyrdd neu ar balmentydd, neu yn wir, mae arnaf ofn, diffyg awydd i fod yn egnïol yn gorfforol.
Arferai fod, yn sicr pan oeddwn i yn yr ysgol, yn cŵl i feicio i'r ysgol. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n dal i fod yn wir heddiw. Ymddengys ei bod yn aml yn cŵl i gael eich casglu, i gael 'chauffeur'. Unwaith eto, mae'n gwbl hanfodol, o fewn yr ystad ysgolion, eu bod yn edrych ar yr ymddygiad hwn a bod arferion yn cael eu herio a'u newid. Rwy'n credu bod yna swyddogaeth i ymarferwyr addysg o ran arwain y math hwnnw o newid diwylliannol.
Nid Llywodraeth Cymru yn unig a ddylai fod yn codi'r arian ar gyfer y dibenion hyn, yn fy marn i. Rwyf newydd ddweud fy mod yn credu ei bod yn gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol hefyd yn chwarae rhan wrth gynyddu faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer teithio llesol. Rwy'n credu bod yr awgrym a wnaethoch am gael ardoll ar barcio ceir yn un diddorol iawn. Nid oes gan Lywodraeth Cymru fonopoli ar syniadau, a'r hyn yr ydym ni'n chwilio amdano gan awdurdodau lleol fel partneriaid, gan weithio yn unigol neu gyda'n gilydd, yw syniadau da a fydd yn herio a hefyd cyflwyno cynigion a fydd yn newid y sefyllfa ac yn cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ac yn creu cenedl iachach. Rwy'n credu bod syniad yr ardoll yn sicr yn un sy'n werth ei ystyried ymhellach.
Rwy'n credu bod Jenny wedi bod yn gyson iawn dros nifer o flynyddoedd o ran hyrwyddo teithio llesol, a hoffwn gofnodi fy niolch iddi am sicrhau fy mod i, yn bersonol, yn gwbl atebol am lefel y gwariant a'r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei dangos i deithio llesol. Unwaith eto, a gaf i addo i Jenny y byddaf yn chwilio am gynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau teithio llesol mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Mae arnaf ofn, wrth ddod i'r ddadl braidd yn hwyr, fod llawer o'r pwyntiau yr hoffwn i eu gwneud eisoes wedi'u gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n diolch i chi, yn amlwg, am eich datganiad, a maddeuwch i mi os gwelwch yn dda os byddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud heno.
Gall mesur unrhyw raglen fod yn heriol. Rydym ni'n gweld gyda llawer o gynlluniau fod y pwyslais, yn aml, ar weithgareddau sy'n ymwneud â'u gweithredu, yn hytrach na'u canlyniadau. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi ar waith i fonitro effeithiolrwydd eich rhaglen teithio llesol?
Nodwyd bod y cyllid wedi'i bennu yn £5 y pen o'r boblogaeth. Rydym ni eisoes wedi sôn am arian, ond awgrymwyd ei fod, mwy na thebyg, yn nes at £3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ffigurau sy'n fwy cyfredol na hynny? Gwnaethoch chi sôn am ffigur yr Alban, ond gwnaethoch chi ddim mewn gwirionedd roi'r ffigur hwnnw i ni, felly a wnewch chi wneud hynny hefyd?
Mae'r Ddeddf teithio llesol yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran camau gweithredu i hyrwyddo cerdded a beicio, ac mae wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am hynny. Fodd bynnag, mae gweld y rhesi o fysiau a cheir y tu allan i ysgolion, yn aml yn teithio pellteroedd eithaf byr, yn dangos pa mor ddwfn yw'r broblem o ran gweithredu newid moddol yn agweddau pobl. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu â mi y gred y dylai fod ymdrech ar y cyd mewn ysgolion i argyhoeddi ein pobl ifanc i fynd ar feic a cherdded i'r ysgol?
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet yw'r diffyg uchelgais ymddangosiadol gan awdurdodau lleol o ran eu mapiau teithio integredig. Nodwyd hyn gan ffynhonnell mor awdurdodol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun, hyd yn oed, sy'n credu bod hyn oherwydd ofnau awdurdodau lleol am ddiffyg cyllid y maent yn ei ragweld ar gyfer y seilwaith teithio llesol. A all Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ynghylch hyn? Diolch.
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau a chyffwrdd ar bwynt y dylwn fod wedi ymdrin ag ef pan gafodd ei godi gan Jenny Rathbone, sy'n ymwneud â'r cyllid sydd ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n cael eu datblygu? Mae'r £5 miliwn hwnnw y soniais i amdano yn gynharach yn cael ei neilltuo at ddibenion dwyn cynlluniau i'r cam adeiladu. Y rheswm fy mod am weld cynnydd sylweddol yn yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y prosiectau hynny yw oherwydd bod gwerth £5 miliwn o gyllid yn debygol o arwain at nifer sylweddol o brosiectau y bydd angen adnoddau cyfalaf arnynt. Os ydym ni i sicrhau, os mynnwch chi, nad yw'r weledigaeth yn aros yn ddim ond breuddwyd, ond bod y gweithredu yn troi'n realiti, mae'n rhaid i ni ei chefnogi ag adnoddau sylweddol. Dyna pam yr wyf yn pwysleisio'r pwynt y byddaf yn chwilio am gynnydd sylweddol ym maint y buddsoddiad cyfalaf sy'n mynd i deithio llesol.
Cododd yr Aelod y ffigur o £16 y pen yn yr Alban. Y cyfanswm sy'n cael ei wario yn yr Alban—mae wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar—yw £80 miliwn. Yma yng Nghymru, roeddwn yn falch o allu neilltuo £8 miliwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol ar gyfer teithio llesol, a arweiniodd at ffigur, o fewn fy adran fy hun, o £23 miliwn. Mae hynny'n cyfateb i fwy na £7 y pen o'r boblogaeth yng Nghymru, ond nid yw'n adlewyrchu peth o'r gwariant ychwanegol sydd wedi mynd i gynlluniau sydd wedi annog newid moddol. Mae'n llawer mwy anodd i allu nodi yr holl wariant, yr holl fuddsoddiad, pan nad oes gennych chi un gyllideb teithio llesol. Serch hynny, hoffwn i weld, yn fy adran i, gynnydd sylweddol yn y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n gallu cael eu darparu yn y dyfodol.
Rwy'n credu bod yr amrywiad yn ansawdd y cyflwyniadau gan awdurdodau lleol yn dangos nad adnoddau ariannol oedd yr her i gynghorau ledled Cymru, yn bennaf, ond yn hytrach, yr her oedd eu parodrwydd a'u cred yn yr agenda hon—parodrwydd i weithio'n galed i ddarparu mapiau rhwydwaith integredig rhagorol ac i gyfrannu at yr agenda hon yn ystyrlon, yn aml gydag adnoddau ariannol. Ceir cynghorau rhagorol yng Nghymru yn hyn o beth, a hoffwn weld pob cyngor yn perfformio'n eithriadol o dda yn y blynyddoedd i ddod.
Am y rheswm hwnnw, rydym yn monitro cynnydd y tri awdurdod lleol hynny yr ydym wedi cymeradwyo eu mapiau rhwydwaith. Rydym ni'n mynd i fod yn monitro gweithrediad yr argymhellion y gofynnodd Jenny Rathbone amdanyn nhw, ac rydym ni'n mynd i fod yn monitro cyflwyniad prosiectau a rhaglenni ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau lleol. Cam cyntaf yw hwn. Caiff rhagor o fapiau eu cyflwyno ymhen tair blynedd. Byddwn yn cynnal asesiadau o ran data a'r nifer sy'n manteisio ar y llwybrau hynny a nodir ar y mapiau. Byddwn yn asesu eu heffeithiolrwydd. Byddwn yn edrych ar y prosiectau sy'n cael eu darparu yn rhan o'r ymarfer mapio, ac yn gweithio i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Sustrans ac ar draws llywodraeth leol a sefydliadau eraill y trydydd sector i gynyddu’r arlwy o ran teithio llesol.
Rwy'n credu, unwaith eto, i'r Aelod dynnu sylw at swyddogaeth addysg yn hyn o beth. Os gallwn ni newid ymddygiad plant, byddwn ni hefyd, yn ôl pob tebyg, yn newid ymddygiad eu rhieni, fel a ddigwyddodd gydag ailgylchu. Mae'r cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu yn bennaf wedi bod o ganlyniad i bobl ifanc yn ysgogi'r agenda hon, yn dylanwadu ar eu rhieni a'r cenedlaethau hŷn ac yn eu hysbrydoli.
O ran ansawdd aer, a godwyd, unwaith eto, gan Jenny Rathbone, rwy'n gwybod bod Aelodau o gwmpas y Siambr hon yn bryderus iawn ynghylch y broblem hon. Mae hwn yn fater y mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn ei arwain, ond mae gennym grŵp gorchwyl gweinidogol sy'n cwrdd yn rheolaidd i drafod datgarboneiddio, ac mae ansawdd aer wrth gwrs yn bryder allweddol sydd gennym yn y grŵp hwnnw.
Diolch. Lee Waters.
Diolch. Gweinidog, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd ddydd Llun, mae lefelau diabetes yn mynd i ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf, a hynny'n arbennig o wir am ddiabetes math 2, sy'n gysylltiedig â segurdod corfforol. Dangosodd ymchwil ddoe fod 70 y cant o bobl a anwyd rhwng y 1980au cynnar a chanol y 1990au yn mynd i fod dros eu pwysau cyn cyrraedd canol oed. Mae hwn yn achos o fesur iechyd cyhoeddus yn cael ei ddarparu gan adran drafnidiaeth, ac adrannau trafnidiaeth ledled y wlad sydd heb y sgiliau, y gallu na'r diwylliant i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd yr agenda hon.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud am y bwriad i gynyddu'r buddsoddiad yn sylweddol, ond gyda phob parch, rydym ni wedi clywed am fwriadau yn y Siambr hon ers nifer o flynyddoedd bellach. Dywedasoch chi mai man cychwyn yw'r cyntaf o'r mapiau rhwydwaith integredig hyn. Pasiwyd y Ddeddf hon yn 2013. Dechreuais i ymgyrchu drosti 11 mlynedd yn ôl. Rydych chi wedi eu disgrifio fel sylfaen gadarn. Dyna'r union eiriau a ddefnyddiwyd gan eich rhagflaenydd, Edwina Hart, ym mis Rhagfyr 2015 pan ddisgrifiodd fod y mapiau llwybr presennol yn rhoi'r sylfeini yn eu lle. Mae angen inni symud y tu hwnt i hyn yn gyflym. Mae'n sicr bod angen inni ei gyflymu.
Dywedasoch chi fod rhywfaint o amrywiaeth yn lefelau uchelgais awdurdodau lleol, sy'n dibynnu ar barodrwydd a chred yn yr agenda hon. Ni ddylai ddibynnu ar gred awdurdodau lleol yn yr agenda hon. Mae yna Ddeddf o'r Senedd hon sy'n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gyflwyno cynlluniau. Ceir canllawiau dylunio sy'n nodi'r glir iawn y gofyniad am rwydwaith sylfaenol, ac am weledigaeth 15 mlynedd. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi dweud wrth bedwar awdurdod lleol nad yw'r hyn yr oedden nhw wedi ei gyflwyno yn ddigon da, ond mae arnaf ofn—ac mae'r grŵp traws-bleidiol ar deithio llesol yr wyf i'n ei gadeirio wedi dwyn ynghyd grwpiau o bob cwr o Gymru—ac mae'r dystiolaeth yn gyson: mae yna syrthni a diffyg uchelgais ar draws Cymru ac, i awdurdodau lleol, anawsterau gwirioneddol o ran capasiti a chefnogaeth gan uwch swyddogion. Dyna pam mae angen i'r ysgogiad ddod gan y Llywodraeth hon.
Felly, fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw hyn: rydych chi'n dweud eich bod yn mynd i adolygu'r canllawiau teithio llesol, felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn ei wneud i'w gorfodi? Dyna'r pwynt allweddol. Oes, mae angen y buddsoddiad arnom ni, ac oes, mae angen cefnogaeth traws-adrannol arnom ni, ond mae angen arweiniad arnom o'r brig hefyd. Mae'r ddeddfwriaeth hon ar waith. Dyma ein Deddf nodedig. Mae'n rhaid i ni bellach ddangos mewn gwirionedd ein bod yn credu yn hyn, a'i gyflawni oherwydd mae iechyd cyhoeddus cenedlaethau'r dyfodol yn dibynnu arno.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Byddwn i'n dweud unwaith eto, dim ond i ailadrodd, nad manteision corfforol yn unig sydd i deithio llesol; mae yna fanteision emosiynol a meddyliol hefyd. Mae pymtheg biliwn o bunnoedd yn cael ei golli o economi'r DU bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn cyrraedd eu gwaith heb fod yn gallu cyflawni hyd eithaf eu gallu oherwydd eu bod nhw'n dioddef o orbryder neu iselder, ac mae angen herio hyn. Mae modd ei herio drwy gael mwy o bobl i fod yn egnïol yn gorfforol er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a'u lles. Nid dyna'r unig ateb, wrth gwrs, ond mae ganddo ran i'w chwarae yn hyn.
Gwn fod yr Aelod, unwaith eto, wedi bod o gymorth mawr wrth ein dwyn i gyfrif, ac yn aml, rwy'n siŵr y byddai ef yn cydnabod hyn hefyd, mae wedi bod yn feirniadol iawn o ddull y Llywodraeth cyn belled ag y mae trafnidiaeth yn y cwestiwn. Byddwn i'n cytuno'n fawr iawn ag ef nad yw digon yn ddigon a gan fod gennym ni'r Ddeddf hon, byddwn i'n annog yr holl bartneriaid i wneud mwy na dim ond bodloni gofynion y Ddeddf, ond i fynd ymhellach a gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni'r newid mewn ymddygiad sy'n ofynnol er mwyn gwella iechyd yng Nghymru. O ganlyniad, o'n rhan ni, byddwn ni'n edrych ar y gofynion ar Lywodraeth Cymru, nid dim ond yn eu cyflawni fel safon ofynnol ond yn gwneud yn siŵr y gallwn ragori arnynt.
Mae modd i ni sicrhau bod gweithgareddau ac arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru yn esiampl i weddill Ewrop, ac rwy'n derbyn y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd hefyd. Rwy'n barod i wneud y penderfyniadau anodd hynny, ond bydd yn bwysig bod pob aelod yn cydnabod y bydd penderfyniadau anodd yn denu beirniadaeth gan rai, gan rai etholwyr, gan rai pobl sy'n anghytuno â'r agenda teithio llesol. Felly, er fy mod yn clywed galwad ar draws y Siambr heddiw am fwy o arian i'w fuddsoddi mewn teithio llesol, ar gyfer arweinyddiaeth gryfach ar deithio llesol, rwy'n gobeithio, pan wneir y penderfyniadau anodd gennyf i, y bydd fy adran i a'r Llywodraeth hon, Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn eu cefnogi pan ddaw'r amser, yn hytrach na chynnig megaffon i'r beirniaid hynny y tu allan i'r Siambr a fydd, rwy'n siŵr yn gyflym i wrthwynebu'r cynnydd mewn gwariant ar deithio llesol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd, ydy, mae hi wedi cymryd tair blynedd i gyrraedd y pwynt hwn, ond roedd y tair blynedd hynny wedi'u hamlinellu, roedden nhw wedi eu cynnwys yn y Ddeddf. Er fy mod yn derbyn ei bod wedi cymryd amser, rwy'n credu ei fod yn fan cychwyn a bod gennym ni bellach sylfeini cadarn. Yr hyn sy'n allweddol yw sicrhau na chaiff y sylfeini hynny eu gadael heb fod y seilwaith sydd ei angen yn cael ei adeiladu arnynt er mwyn cyflawni'r newid ymddygiadol y credaf y mae pawb yn y Siambr hon wedi bod yn sôn amdano.
Diolch. mae gen i dri siaradwr arall, felly os gallan nhw wneud dim ond gofyn eu cwestiynau a, Gweinidog, os wnewch chi wneud dim ond ymateb i'r un cwestiwn y maen nhw'n mynd i'w ofyn i chi, yna ni fyddwn yn mynd gormod dros amser. John Griffiths.
A gaf i groesawu'n fawr iawn y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'ch ymrwymiad chi, sydd yn fy marn i yn glir iawn? Mae rhai o'r atebion yr ydych chi wedi'u rhoi ar gyllid, er enghraifft, i'w croesawu’n fawr, rwy'n credu. Rwy'n ffyddiog y byddwch chi'n cael y gefnogaeth ar draws y Siambr hon, yr ydych chi'n chwilio amdani o ran y penderfyniadau anodd ynghylch gweithredu.
A gaf i ddweud fy mod yn meddwl bod y grwpiau buddiant yn glir iawn am botensial mawr y ddeddfwriaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae peth rhwystredigaeth ynghylch ei gweithredu sydd eisoes wedi ei mynegi. Mae peth pryder ynghylch pa un a yw awdurdodau lleol yn ystyried llwybrau cymudo sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, er enghraifft, ac yn cydgysylltu yn y ffordd honno, a phryderon ynghylch y rhwydwaith sylfaenol ar gyfer newid moddol ynghylch pethau fel y terfyn cyflymder 20 mya y soniasoch chi amdano. Mae angen inni wneud y cymdogaethau lleol yn addas ar gyfer cerdded a beicio, er mwyn gallu cyrraedd y llwybrau newydd a chydgysylltu yn y ffordd honno.
A gaf i ofyn i chi am newid ymddygiad, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae arnom angen i bobl feddu ar y sgiliau a'r hyder i wneud y newid hwn i gerdded a beicio, ac rwy'n credu bod ysgolion a gweithleoedd yn allweddol i hynny. O ran ysgolion, mae Sustrans Cymru yn gwneud gwaith da iawn, ond nid ydynt wedi cyrraedd ond 8 y cant o ysgolion, er ei fod yn waith effeithiol oherwydd rydym ni'n gweld cynnydd o 9 y cant mewn teithio llesol ar ôl un flwyddyn o waith. Mae hyfforddiant beicio yn—
Rwy'n colli amynedd â chi nawr. Dewch ymlaen, yn gyflym.
Byddaf yn gyflym iawn. Mae'r cyfan yn gysylltiedig â newid ymddygiadol, Dirprwy Lywydd.
Ie, mae angen ychydig o newid ymddygiad yn y Siambr. [Chwerthin.] Dewch ymlaen. Symudwch ymlaen.
Felly, rwy'n gofyn am hyfforddiant beicio hefyd, ac mae Her Teithio Cymru wedi dod i ben o ran newid ymddygiad yn y gweithle, Ysgrifennydd y Cabinet, heb unrhyw beth i gymryd ei le.
A gaf i sicrhau'r Aelod—ac rwy'n falch o allu rhannu'r newyddion hwn â'r holl Aelodau mewn gwirionedd—fy mod yn ddiweddar wedi cytuno i ymestyn y contract Teithiau Llesol am flwyddyn arall, hyd at fis Gorffennaf 2019, a hynny am y rhesymau a amlinellwyd gan John Griffiths? Mae wedi profi'n eithriadol o lwyddiannus yn yr ysgolion hynny lle y mae wedi bod ar waith. Rwy'n credu bod 88 y cant o'r ymatebwyr wedi dweud bod nifer y disgyblion sy'n beicio i'r ysgol wedi cynyddu o ganlyniad i'r rhaglen hon, felly rwy'n hapus i'w ymestyn am flwyddyn arall.
Diolch. Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i groesawu eich cyhoeddiad heddiw, yn enwedig y cynnydd i'r cyllid sydd ar gael yn ganolog ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Yn ystod y toriad, cefais i a fy nghyd-Aelod Dawn Bowden drip gwych pan y caniatawyd i ni fynd drwy twnnel rheilffordd Abernant sy'n cysylltu ein dwy etholaeth, a byddwch yn cofio imi godi cwestiwn gyda chi ar hyn ychydig cyn y toriad, a soniasoch chi am yr arian yr ydych chi wedi'i ddyrannu i Gyngor Merthyr i edrych ar ddatblygu twnnel Abernant yn benodol. Y prif rwystr, fel y dywedodd pobl eraill, i ddefnyddio mwy ar deithio llesol yw'r canfyddiad o berygl gan draffig, felly a ydych chi'n cytuno â mi y gallai defnyddio twneli rheilffordd segur fel Abernant oresgyn y rhwystr sylweddol hwn yn ogystal â gwella'n sylweddol y cysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin yn ein cymoedd gogleddol i ategu'r cysylltiadau gogledd-de a fydd yn cael eu gwella gan y metro? Os yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i fod yn fwy nag ymarfer ar bapur, a yw'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu'n fwy eofn a buddsoddi yn y seilweithiau twneli rheilffyrdd hyn sydd gennym ar garreg ein drws?
Rwy'n credu bod Vikki Howells yn gwneud pwynt dilys iawn, pwysig iawn na ddylem ni ystyried ffyrdd fel yr unig seilwaith y gall pobl ei ddefnyddio ar gyfer beicio. Rwyf wedi sylwi yn fy etholaeth i bod uwchraddio llwybr tynnu camlas Llangollen wedi bod yn hynod o bwysig wrth alluogi beicwyr i gyrraedd mannau gwaith ac i gyrraedd ysgolion yn Llangollen. Rwy'n credu hefyd bod twneli yn gallu bod â swyddogaeth bwysig iawn, ond mewn ardaloedd mwy trefol, rwy'n credu ei bod yn hanfodol yr ystyrir llwybrau beicio a phriffyrdd beicio pwrpasol. Felly, ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru, dylai ateb pwrpasol gael ei ddatblygu gan yr awdurdod lleol ar y cyd â phartneriaid yn y trydydd sector. Rwy'n siŵr y byddai gan Sustrans ddiddordeb mawr iawn mewn cynghori a chefnogi unrhyw awdurdod lleol sy'n awyddus i ddatblygu ateb arloesol i'r heriau penodol sy'n eu hwynebu. Rwy'n falch iawn, yn achos Vikki Howells, o fod wedi gallu darparu'r cyllid i'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â rhagor o waith y gallai fod ei angen er mwyn troi'r twnnel arbennig hwnnw yn llwybr beicio.
Yn olaf, Julie Morgan.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Ym mis Ionawr, yn fy etholaeth i, trefnais ddigwyddiad i annog mwy o bobl i fanteisio ar feicio bob dydd, a daeth llawer o bobl iddo, a chafodd pobl gyfle i fynd ar daith beicio byr o glwb rygbi yr Eglwys Newydd, lle y cynhaliwyd y digwyddiad, ac roedd yn llwyddiannus iawn. Roedd gennym gynrychiolwyr o Beicio Cymru i ddweud wrthym am grwpiau beicio cymdeithasol, a oedd yn ddeniadol iawn, a theithiau i bobl sydd angen datblygu eu hyder beicio. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar Lwybr Taf, sy'n amlwg yn wych ar gyfer beicio, ond cododd llawer o bobl yno y broblem o sut y maen rhaid iddyn nhw frwydro yn erbyn y traffig i gyrraedd Llwybr Taf, a dyna'r pwynt yr wyf am ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet: sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod y llwybrau beicio a'r llwybrau cerdded sy'n cael eu sefydlu yn gydgysylltiedig? Rwy'n credu bod hynny'n un o'r materion allweddol.
Yn hollol. Rwy'n credu mai'r ateb yw drwy uchelgais mawr a phenderfyniad a thrwy ddangos arweinyddiaeth gref. Mae'n sicr yn wir—os gallaf nodi un enghraifft yn Llundain, lle y cafwyd gwrthwynebiad ffyrnig i ddatblygiad y briffordd beicio dros Bont San Steffan, rwy'n credu, gan rai modurwyr, ond mewn gwirionedd mae wedi profi'n llwyddiannus iawn o ran cael mwy o bobl i feicio i fannau gwaith. Mae wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus wrth wella, rwy'n credu, diogelwch beicio hefyd. Felly, efallai bod honno'n esiampl i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i weithredu—i fod yn uchelgeisiol, i fod yn eofn ac i fod yn ddewr hefyd yn wyneb beirniadaeth wrth i gynigion gael eu datblygu.
Diolch yn fawr iawn. Fe gyrhaeddom ni yno yn y diwedd. Diolch.