– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 27 Chwefror 2018.
Rydym ni wedi symud i eitem 8, sef datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ynglŷn ag ailgylchu yng Nghymru, a galwaf ar y Gweinidog, Hannah Blythyn, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel cenedl, medrwn ni fod yn falch iawn o'n llwyddiant ysgubol wrth ailgylchu.
Cyn datganoli, nid oedd Cymru ond yn ailgylchu 5 y cant o wastraff. Rydym ni bellach wedi cyrraedd dros 60 y cant. Rydym ni'n arwain y ffordd yn y DU, ac rwyf eisiau inni adeiladu ar hyn fel mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd am ailgylchu. Mae ein llwyddiant yn ganlyniad i waith caled pobl ym mhobman yng Nghymru, p'un a ydynt yn ailgylchu yn y cartref, yn y gymuned, neu yn y gwaith. Fe hoffwn i roi ar gofnod heddiw fy niolch a'm llongyfarchiadau i'r holl unigolion, sefydliadau a busnesau sydd wedi cyfrannu i fynd i'r afael â gwastraff yng Nghymru. Mae ein canlyniadau trawiadol yn dangos drwy i bob un ohonom ni gydweithio a gwneud ein rhan, y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae ein rhaglen newid cydweithredol arloesol yn fodd i awdurdodau lleol ledled Cymru fanteisio ar arbenigedd technegol ynglŷn ag ailgylchu. Mae hyn yn galluogi iddyn nhw fabwysiadu'r systemau yn ein casgliadau enghreifftiol, sef y dewisiadau mwyaf cynaliadwy a chosteffeithiol ar gyfer gwasanaethau casglu. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod yn cymeradwyo £7.5 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhaglen newid cydweithredol.
Roeddwn ym Merthyr Tudful ddoe i weld, drosof fy hun, y gwelliannau y mae'r cyngor wedi'u gwneud i'w gwasanaethau drwy'r rhaglen newid cydweithredol, a sut mae hyn yn annog mwy o bobl i ailgylchu gartref. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r rhaglen wedi helpu Cyngor Merthyr Tudful i fabwysiadu systemau casglu gwastraff mwy cynaliadwy yn ogystal â lleihau costau. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae eu cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu o lai na 50 y cant i dros 65 y cant. Mae ein buddsoddiad parhaus yn y rhaglen newid cydweithredol ac yn ein rhaglen buddsoddi o fri mewn seilwaith gwastraff wedi cynyddu ansawdd a faint o ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn sylweddol. Bydd ein cymorth parhaus yn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran systemau a seilwaith ailgylchu.
Er bod ein hailgylchu wedi gwella'n sylweddol drwy, er enghraifft, dargedu gwastraff bwyd, mae angen yn awr i ni ganolbwyntio ar ddeunyddiau eraill anodd eu hailgylchu, fel rhai plastigion a thecstilau, gan beidio â llithro'n ôl ar ein cynnydd presennol. Amlygodd cyfres Blue Planet ddiweddar y BBC y brys ar gyfer gweithredu byd-eang ar blastigion a sbwriel môr. Mae arfordir Cymru yn un o'n trysorau ac yn atyniad enfawr. Dwy fil a deunaw yw blwyddyn y môr Cymru, felly mae'n amserol gweithredu i ddiogelu ein hasedau naturiol drwy gymryd camau pellach. Rydym ni wedi sefydlu partneriaeth moroedd glân Cymru gyda gweithgor i edrych ar y materion hyn, ac i ganolbwyntio ar atal y broblem yn y man cychwyn.
Rydym ni wedi arwain y DU mewn cyflwyno tâl am fagiau siopa ac yn awr rydym ni'n cyflwyno deddfwriaeth i wahardd microbelenni. Rydym ni'n ystyried y posibiliadau o ddarparu mwy o ddŵr yfed mewn mannau cyhoeddus er mwyn lleihau nifer y poteli dŵr, yn ogystal â chydweithio â chwmnïau dŵr a gyda City to Sea, a oedd yn gweithio ar y cynllun ym Mryste. Rydym ni wedi sicrhau y bu Cymru'n rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â mater plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol posibl ar gyfer Cymru. Rydym ni hefyd yn ystyried dichonoldeb a fyddai cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yn gweithio i Gymru, o ystyried ein cyfradd ailgylchu sydd eisoes yn uchel.
Mae gan weithredu cymunedol ran allweddol i'w chwarae mewn annog ailgylchu wrth i bobl fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd, a mynd i'r afael â sbwriel. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o fod yng Nghei Newydd pan ddyfarnwyd statws dim plastig Syrffwyr yn Erbyn Carthion iddi, yn dilyn Aber-porth a oedd y lle cyntaf yng Nghymru i sicrhau'r statws hwnnw. Rwy'n llongyfarch y cymunedau hyn am eu cyflawniad ysbrydoledig ac rwy'n awyddus i gael mentrau tebyg, megis statws rhydd o blastig, ledled Cymru. Mae'r fenter Syrffwyr yn Erbyn Carthion yn dangos grym a dylanwad mudiadau ar lawr gwlad a chymunedau unigol yn manteisio ar ymwybyddiaeth gymdeithasol y cyhoedd a'i droi'n weithredu cydgysylltiedig ar lawr gwlad a newid arferion defnyddwyr. Mae cymunedau Cei Newydd ac Aber-porth wedi dangos drwy gynnig a phrynu cynhyrchion amgen i'r rhai a wnaed o blastig, gall defnyddwyr, gwerthwyr a chynhyrchwyr wneud gwahaniaeth go iawn i gael gwared ar blastig o'n moroedd a'n harfordir.
Mae rheoli gwastraff yn briodol lle bynnag yr awn yn lleihau'r sbwriel sy'n bla ar ein trefi, cymunedau gwledig a pharciau cenedlaethol, gan greu amgylchedd mwy dymunol a ffyniannus i bawb ohonom ffynnu ynddi. Rydym yn darparu cyllid i awdurdodau lleol a sefydliadau megis Cadwch Gymru'n Daclus a Groundwork Cymru i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â sbwriel ac ailgylchu i ffwrdd o'r cartref. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r sector gweithgynhyrchu i edrych ar y materion sy'n gysylltiedig ag ailgylchu deunydd pacio bwyd ac ailgylchu wrth fynd.
Mae ailgylchu ac ailddefnyddio cynhyrchion a deunyddiau am gyhyd ag y bo modd, mewn economi gylchol, yn darparu manteision amgylcheddol ac economaidd ehangach. Mae economi gylchol lwyddiannus yn dibynnu ar ddeunyddiau ailgylchadwy, o ansawdd uchel a gweithlu hyfforddedig a brwdfrydig iawn. Mae llwyddiant ailgylchu Cymru wedi'i gydnabod gan y diwydiant, sy'n gwerthfawrogi ein deunyddiau ailgylchadwy o ansawdd uwch. Dengys ein hymchwil fod y sector gwastraff ac ailgylchu trefol yn darparu dros 4,000 o swyddi parhaol ar draws Cymru. Ceir 23,100 o swyddi pellach yn economi gylchol ehangach Cymru, gyda ffigur rhagamcanol o 12,000 arall erbyn 2030. Rwy'n falch o glywed bod cwmni ailgylchu defnyddiau plastig mawr yn edrych i leoli cyfleuster modern newydd yng Nghymru o fewn y 12 mis nesaf. Yn ogystal, rydym yn ariannu WRAP i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu map llwybr plastig ar gyfer Cymru a gyhoeddir eleni. Bydd y map llwybr yn nodi camau i gynyddu'n sylweddol faint o blastig wedi'i ailgylchu a ddefnyddir fel deunydd bwyd anifeiliaid gan ddiwydiant Cymru.
Mae ein canlyniadau ailgylchu trawiadol yn ganlyniad i waith caled trigolion, ac rwyf am weld y sector preifat yn cyflawni yn yr un modd. Fel rhan o'n hymgyrch i gael busnesau i gyrraedd y targed ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, rydym yn datblygu cynigion ar gyfer rheoliadau newydd o dan ran 4 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a bwriadwn ymgynghori ar y cynigion hyn yn yr haf.
Rydym yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a diwydiant i fynd i'r afael â throseddau gwastraff ac i atal deunydd ailgylchadwy rhag cael ei golli o'r economi gylchol. Bydd hyn yn mynd i'r afael â deunyddiau ailgylchadwy ansawdd gwael, wedi'u halogi yn cael eu dympio, eu llosgi neu eu hallforio dramor yn anghyfreithlon. Mae dileu'r arferion hyn yn hybu'r diwydiant ailgylchu dilys, gan gryfhau hyder y cyhoedd a'u cyfranogiad mewn ailgylchu. Fel y mae gwledydd eraill yn cynyddu diogelu'r amgylchedd ac yn adeiladu economïau cylchol eu hunain, byddant yn llai dibynnol ar fewnforio deunyddiau ailgylchadwy, fel y dangosir gan waharddiad Tsieina ar fewnforio plastigion gwastraff.
Gellir cyflawni cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd drwy gydweithio ar draws ffiniau. Cefnogwn strategaeth plastigion yr UE a gyhoeddwyd yn ddiweddar a'r ymrwymiadau ar blastig a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ei chynllun gweithredu ar yr amgylchedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Rydym yn croesawu ymagwedd y DU ar ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â sbwriel ac atal gwastraff er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.
Dylem ni yng Nghymru ymfalchïo yn ein record polisi amgylcheddol arloesol a'n ffordd Gymreig lwyddiannus o fynd i'r afael â gwastraff. Bwriadaf gynnal ac adeiladu ar y dull hwn, gan adennill ein hadnoddau tuag a gweithio tuag at Gymru ddiwastraff. Drwy weithio gyda'n gilydd, ar lawr gwlad ac yn y Llywodraeth, ac ar bob haen rhwng hynny, gallwn fod y brif genedl ailgylchu yn y byd erbyn 2020. Diolch yn fawr.
A gaf i ddechrau drwy ddweud bod hyn yn newyddion cadarnhaol ar y cyfan? Mae gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo, a chredaf ei fod yn llwyddiant ar gyfer datganoli. Cofiaf yr holl ddadleuon 20 mlynedd yn ôl ynghylch pa fath o wahaniaethau polisi allai ddod i'r amlwg, a hyd yn oed mewn meysydd lle mae cyfeiriad polisi wedi ei gytuno i raddau helaeth, gallai cymharu gwahanol awdurdodaethau a'u perfformiad fod yn allweddol i effeithlonrwydd cyffredinol polisi cyhoeddus, a chredaf ei fod wedi cael ei ddangos.
Hefyd, credaf fod y Gweinidog yn hollol iawn i ganmol gwaith y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru; nhw yn amlwg fu'r prif asiantau i gyflawni llawer o'r llwyddiannau yr ydym ni wedi'u mwynhau dros gyfnod o 20 mlynedd. Croesawaf hefyd y gydnabyddiaeth o ran y sector preifat, ac yn aml maent yn ymateb i'r galw gan y cyhoedd; credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei groesawu'n fawr iawn. Y llynedd, fel y gwyddoch chi, dechreuodd Ikea ei gynllun derbyn tecstilau yn ei siop yng Nghaerdydd, ac mae hynny'n berthnasol i bob math o decstilau, nid dim ond dillad ond defnydd yn gyffredinol. Felly, dyna'r math o fenter yr ydym ni eisiau ei gweld.
Nodaf yr hyn a ddywedasoch ynglŷn â darparu dŵr yfed, a chredaf mewn gwirionedd bod ymgyrch ail-lenwi poteli dŵr Water UK wedi dechrau ennill ei blwyf yn Lloegr. Fe wnaethoch chi sôn am Fryste, sef lle y credaf y dechreuodd, a'r nod erbyn hyn yw y byddai pob tref a dinas yn Lloegr yn cael hyn erbyn 2021. Credaf ei bod yn llawn dychymyg i allu mynd i mewn i bob math o siopau ac, am ddim, cael ail-lenwi poteli dŵr. Hoffwn glywed ychydig mwy ynglŷn â sut mae hynny'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru.
Credaf yn ogystal â mwy o ailgylchu, mae angen inni wneud defnydd mwy gofalus o ddeunyddiau, ac mae hynny'n mynd â ni i strategaeth fwy cyffredinol ynghylch pa fath o ddeunyddiau mae arnom ni eisiau eu hannog yn ein heconomi gylchol. Rydych yn cyfeirio at y deunyddiau hynny sy'n anodd eu hailgylchu, a nhw yw'r prif rai nad ydym eu heisiau, mewn gwirionedd, yn ein heconomi. Ond credaf fod y cyhoedd yn gofyn llawer mwy ynghylch y math o ddyfnder ac integreiddio y mae arnynt ei eisiau yn y fath hon o strategaeth. Felly, rwy'n falch eich bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i annog cyfrifoldeb cynhyrchwyr, sydd yn amlwg yn allweddol yn y maes hwn, a nodaf yr hyn a ddywedwch am y polisi plastigion a gynhwysir bellach yn y cynllun gweithredu ar yr amgylchedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, ac, unwaith eto, rwyf yn eich annog i gydweithredu'n llawn fel ein bod yn dysgu gwersi ganddynt, ac i'r gwrthwyneb.
Credaf eich bod yn iawn fod sbwriel yn broblem bwysig iawn i fynd i'r afael â hi. Rwy'n meddwl, weithiau, bod pobl yn ei gweld yn drosedd dibwys, ond o ran ei heffaith ar yr amgylchedd ac ymdeimlad o les, mae'n wirioneddol ddifrifol. Credaf ein bod i gyd wedi bod mewn cymunedau lle ceir record wael iawn, mewn gwirionedd, o fynd i'r afael â hyn, a gall fod yn wanychol iawn, rwy'n meddwl, ar gyfer rhai cymunedau sy'n gweld llwythi mawr o wastraff yn cael ei daflu ar y strydoedd, er enghraifft. Mae'n ymestyn i bob math o faterion, fel baw cŵn, yn ogystal. Mae angen inni fod yn wyliadwrus, ac mae angen inni sicrhau bod gan bob cymuned y gallu hwnnw i sicrhau yr eir i'r afael ag o, oherwydd oni bai eich bod yn dal pobl ac wedyn sefydlu rhywbeth i annog pobl i beidio â gwneud hynny, yn anffodus, gall newid ymddygiad ymysg rhai troseddwyr fod yn araf iawn, gan nad yw'r rhan fwyaf o bobl ym mhobman, wrth gwrs, ddim yn gollwng sbwriel.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau penodol. Credaf o hyd ei bod yn bwysig i fod yn llym ar yr awdurdodau lleol sy'n methu â chyrraedd eu targedau ailgylchu. Yn gyffredinol, mae hon yn neges gadarnhaol. Nid oes angen inni fod yn rhy llym yn yr hyn a ddywedwn yn y maes hwn, ond credaf fod hynny'n ddull y mae angen ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd, ac nid wyf yn hollol siŵr beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd: nid yw'n ymddangos eich bod yn gosod dirwyon yn aml iawn.
Rwy'n meddwl ei bod yn amser am strategaeth integredig ar blastigion, gan adeiladu ar y gwaith hwn, a nodaf yr hyn a ddywedasoch chi yr ydych yn ei wneud o ran microbelenni ac archwilio'r ddeddfwriaeth yno, o bosibl. Yn yr un modd, byddem yn croesawu rhagor o ymchwiliad i'r defnydd o'r dreth blastig, os gallai hynny fod yn gydlynol. Nid wyf yn hollol siŵr ble'r ydym ni arni gyda'r cynllun dychwelyd blaendal. Dyna'r cwestiwn y bydd Simon Thomas yn mynd ar ei drywydd, mae'n debyg, ond roeddem i fod i gael cynllun peilot a bellach dim ond ymchwiliad yr ydym yn ei gael. Mae'r amod hwn—nid wyf yn siŵr a yw gweision sifil wedi sleifio hwn i mewn—eich bod yn ei ystyried yng ngoleuni ein cyfraddau ailgylchu uchel yn barod. Wel, mae hynny'n ymddangos braidd yn ddiddychymyg i mi.
Yn olaf, gadewch inni beidio ag anghofio y gellid atal llawer iawn o'r angen i ailgylchu drwy ddychwelyd i'r amser y cofiaf yn rhy dda pan nad oedd popeth wedi'i orchuddio mewn plastig neu wedi'i bacio mewn blychau polystyren. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni anfon neges glir arno, ac, eto, mae'r cyhoedd yn awyddus i wneud hynny. Nid oes ots ganddyn nhw gael eu ffrwythau a'u llysiau wedi'u gwerthu yn rhydd.
Diolch. Diolch i chi am y cyfraniad cynhwysfawr a'r cwestiynau. Fe wnaethoch chi sôn ynglŷn â sut y caiff sbwriel a baw ci yn aml eu hystyried fel y materion gwleidyddol bychain neu ddibwys hynny, ond os ewch o gwmpas y gymuned leol ac y gwnewch arolwg, dyna'r pethau sydd yn debygol o fod uchaf arno, a dyna pam, i mi, mae'n bwysig iawn inni fynd i'r afael â sbwriel fel rhan o ailgylchu a sut i ddelio â phethau yn rhan o'n bywydau beunyddiol. Nawr, rydym ni mor gyfarwydd â'r diwylliant hwnnw o gasglu pethau ar garreg y drws, ond beth sy'n digwydd gyda rhywun pan fydd ganddyn nhw botel, maen nhw wedi mynd allan am y diwrnod, ac maent yn cerdded i lawr y stryd? Mae angen inni wneud yn siŵr bod lleoedd ar gael yn haws i bobl allu ailgylchu pan nad ydyn nhw gartref.
Rydych chi'n gwneud nifer o sylwadau—i gyd, ar y cyfan, yn gadarnhaol iawn, yr wyf yn ei groesawu, wrth gwrs. O ran y ffaith eich bod yn sôn am awdurdodau lleol, roedd 20 o'r 22 awdurdod lleol yn bodloni neu'n rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 58 y cant yn 2016-17. Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn gweithredu. Maent wedi cael cymorth gan y rhaglen newid cydweithredol hon, ac rydym ni wedi gweld gwelliant yn eu cyfraddau ailgylchu. Lle mae awdurdodau lleol wedi methu â chyrraedd eu targedau, mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y posibiliadau sydd ar gael o ran defnyddio cosbau ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny nad oeddent yn bodloni'r targed statudol, ac mae hynny'n rhywbeth y gallem ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ein gylch maes o law.
Strategaeth blastigion integredig—yn hollol. Credaf fod yn rhaid inni ystyried popeth yn ei gyfanrwydd ac mewn ffordd sy'n gweithio i ni yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn—soniais am y cymunedau sydd wedi dod yn rhydd o blastig eisoes a sut yr ydym yn gweld bod ymchwydd enfawr ym marn y cyhoedd a mudiadau. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig, fel Llywodraeth, ein bod yn derbyn hynny yn ogystal, ac, fel Aelodau Cynulliad unigol, ein bod yn cyflawni ar yr hyn yr ydym yn ei bregethu ynglŷn â hynny hefyd. Credaf felly, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn dod â hynny i gyd at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr bod unrhyw ateb a gynigiwn yn yr ychydig fisoedd nesaf ar gyfer Cymru yn bodloni ein hanghenion ac mewn gwirionedd yn ymdrin â'r meysydd hynny sy'n dal i fodoli y gwyddwn sy'n dal i fod yn broblemau o ran tecstilau, plastigau anodd eu cyrraedd—ein bod yn dwyn hynny ynghyd. Credaf eich bod yn sôn am y deunydd pacio mewn pethau archfarchnadoedd. Mae'n braf gweld nifer o frandiau archfarchnadoedd adnabyddus bellach yn dechrau cyhoeddi eu bod nhw'n cymryd sylw o'r farn gyhoeddus gynyddol hon y mae bellach angen i ni—. Byddant yn edrych ar sut y maent yn pecynnu, ac yn enwedig eu cynnyrch eu hunain. Credaf fod hynny'n bwysig iawn a phan, fel Llywodraeth, ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys consortiwm manwerthu, i geisio dod â busnesau ynghyd â ni i gymryd y camau y mae angen inni eu cymryd.
Hefyd, gan edrych ar ein hastudiaeth o gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd a DRS, rwy'n siŵr eich bod yn llygad eich lle y bydd cwestiwn manwl iawn gan Simon Thomas cyn bo hir. Mae'n rhywbeth—. Rydych yn cyfeirio at ble mae gennym lefelau uchel o ailgylchu. Credaf fod hyn yn mynd yn ôl at beth yr wyf newydd ei ddweud. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod gennym ateb nad oes canlyniadau anfwriadol iddo ond sydd mewn gwirionedd yn ategu'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru ac yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.
Wrth gwrs, rwy'n croesawu cynnwys yr adroddiad gan y Llywodraeth heddiw ac yn nodi, fel yr oedd David Melding hefyd, fod hwn yn ffrwyth ymdrech genedlaethol, nid yn unig gan y Llywodraeth, ond gan yr awdurdodau lleol ar lawr gwlad yn ogystal, a bod y ffaith bod Cymru wedi'i lleoli'i hun yn wlad werdd ym mhob ystyr y gair mewn perthynas ag ailgylchu yn dangos beth y medrwn ni ei wneud gyda'r grymoedd priodol ar lefel genedlaethol, a beth y medrwn ni ei wneud tuag at y dyfodol. Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi bennu gyda'r gosodiad y gallem ni ddod ar ben y brig ar gyfer ailgylchu erbyn 2020, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n troi'n darged, nid yn unig yn uchelgais.
Ac mae gan y Llywodraeth record ddeche i'w ymfalchïo ynddi hi yn y maes yma, ond nid da lle gellir gwell, fel mae'r hen ymadrodd yn ei ddweud, ac rydw i jest eisiau holi ychydig o gwestiynau nawr am rai o'r pethau sydd efallai yn fwy niwlog yn y datganiad gan y Gweinidog heddiw. Yn gyntaf oll, bydd llawer yn gofyn: ble mae'r adroddiad erbyn hyn ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr? Roedd yr adroddiad i fod wedi cael ei gyhoeddi'r mis yma. Rydw i'n cofio gofyn i'r Prif Weinidog tua mis yn ôl, ac fe ddywedodd e rhywbryd ym mis Chwefror y byddem ni'n gweld yr adroddiad, ac rwyf i jest eisiau bod yn glir nad yw'r oedi yma yn rhywbeth sydd yn ein dal ni nôl rhag gwneud rhywbeth yng Nghymru y medrwn ni ei wneud, yn aros i rywbeth, er enghraifft Llywodraeth San Steffan i benderfynu, neu beth bynnag. Achos mae'r record yn ddigon clir: rŷm ni'n gallu arloesi yn y fan hyn. Nid oes rhaid i ni aros am weddill y Deyrnas Gyfunol yn y materion yma; rŷm ni'n gallu eu harwain nhw, a dweud y gwir, ac maen nhw'n gallu dal i fyny gyda ni. Ond yr hyn sydd yn bwysig yn y cyd-destun yna yw rwy'n credu bod nifer o bobl erbyn hyn, dinasyddion, sydd yn poeni yn enwedig am blastig a'r defnydd yr oedd David Melding yn sôn amdano, yn chwilio am arweiniad gan y Llywodraeth. Maen nhw'n sylweddoli bod y dinesydd ond yn gallu mynd mor bell. Ond erbyn i chi fynd i mewn i'r siop fawr neu'r archfarchnad, nid oes gennych chi dewis. Wel, mi fedrwch chi dynnu'r holl wisg ymaith o'r nwyddau, wrth gwrs, fel maen nhw'n dueddol o wneud yn yr Almaen, ond nid dyna beth sydd yn ddiwylliannol dderbyniol yn y wlad yma. Ond, yn sicr, nid oes dewis; nid oes unrhyw beth arall y medrwch chi ei wneud. Mae yna ddatblygiadau diddorol iawn. Rydw i'n edrych ymlaen at ymweld â siop newydd yng Nghrug Hywel wythnos nesaf o'r enw Natural Weigh—'weigh' yn yr ystyr o 'bwyso'—sydd yn ceisio gwneud popeth heb unrhyw blastig, ac yn gwerthu yn rhydd fel yna. Dim ond dychwelyd ydym ni, wrth gwrs, i'r hyn roeddem ni'n arfer byw, gyda rhai o'r dulliau yma rydym ni'n eu gwneud. Ond, yn sicr, mae'r adroddiad yna ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr yn bwysig, rydw i'n meddwl, i ddangos ein bod ni'n cymryd arweiniad cenedlaethol.
Yr ail beth rydw i eisiau gofyn i chi amdano yw'r dreth blastig. Roeddwn i'n siomedig nad hynny oedd y dreth oedd wedi'i dewis gan y Llywodraeth achos, yn sicr, nid ydw i wedi gweld unrhyw fater yn cydio cweit yn nychymyg pobl—yn amgylcheddol, beth bynnag—yn ystod y chwe mis diwethaf na phlastig a'r defnydd o blastig. Ond a fedrwch chi ddiweddaru'r Cynulliad gydag ychydig mwy o'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid drwy ddweud nawr bod y Llywodraeth yn bwriadu cydweithio ar y cysyniad o dreth blastig ar y cyd gyda Llywodraeth San Steffan? Beth, felly, a fedrwn ni ddisgwyl i ddigwydd nawr? A beth yw’r camau i ni ddilyn drwyddo'r posibiliadau ar gyfer treth neu lefi ar blastig un defnydd maes o law?
Rwy’n croesawu eich bod chi wedi cyhoeddi £7.5 miliwn, rydw i’n meddwl, ychwanegol ar gyfer y rhaglen ar y cyd ag awdurdodau lleol, ond un o’r cwestiynau sydd yn dal i gael eu holi, gan ddinasyddion eto, yw: pam nad yw’n gyson dros Gymru beth sy’n cael ei ailgylchu a beth sydd ddim yn cael ei ailgylchu felly? Mae’r ffordd rydw i’n ailgylchu fan hyn yng Nghaerdydd, pan wyf i’n sefyll yng Nghaerdydd, yn wahanol i’r ffordd rwy’n ailgylchu yn Aberystwyth—ac mae Aberystwyth ar y blaen, wrth gwrs, ond mater arall yw hwnnw. Byddai fe’n ddiddorol i wybod beth yr ydych chi’n ei wneud i safoni pethau bellach dros Gymru, gan fod pobl yn teithio o le i le, ac, fel yr oeddech chi’n cyfeirio ato eich hunan, os ŷch chi ar y stryd, â photel yn eich llaw ac ŷch chi eisiau ei rhoi yn rhywle priodol, wel, eto, mae’n amrywio. Yng nghanol ambell i le, yng nghanol ambell i dref a dinas, fe gewch chi rhywle i roi’r botel yna; mewn dinasoedd eraill a threfi eraill, chewch chi ddim lle i roi unrhyw beth o’r fath.
A’r cwestiwn olaf yw’r cwestiwn ar flaendal, y cynllun blaendal—rydw i’n croesawu, wrth gwrs, bod yna arian yn y gyllideb ar gyfer cynllun o’r fath. Fel rwy’n credu sydd yn glir erbyn hyn, mae’r cynlluniau hyn yn gweithio—maen nhw’n gweithio dramor, maen nhw’n gweithio ar y cyfandir. Y cwestiwn i Gymru, rydw i’n meddwl, yw: ym mha ffordd y gall cynllun cydweithio â’r system sydd gyda ni? Rwy’n gweld beth sydd gyda chi yn eich datganiad—roedd David Melding wedi cyfeirio ato fe hefyd—ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gofio, er ein bod ni’n llwyddiannus yn ailgylchu’r poteli plastig, neu’r poteli sydd yn cyrraedd y ffrwd sbwriel felly, mae yna dipyn sydd ddim yn cyrraedd y ffrwd yna, ac mae cynllun blaendal, rydw i’n meddwl, yn ceisio mynd i’r afael â’r poteli sydd yn cael eu twlu ar y stryd, neu sydd jest yn cael eu rhoi yn y biniau sbwriel, sydd heb gael mynd mewn i’r posibiliad hyd yn oed o ailgylchu.
Nid ydw i’n meddwl ein bod yn ailgylchu cymaint o blastig ag yr ŷm ni’n meddwl ein bod ni’n ei ailgylchu, achos nid ydym ni’n cyfrif y plastig sydd yn cael ei waredu drwy’r brif ffrwd sbwriel. Os edrychwch chi ar Norwy, lle maen nhw’n llwyddo ailgylchu dros 90 y cant o blastig, mae’n cynnwys pob darn o blastig sydd yn cael ei werthu neu sy’n mynd drwy’r system, a dyna beth yr ŷm ni eisiau anelu ato fe, ac, yn fy marn i, dyna le mae’r cynllun blaendal a’r posibiliadau i ychwanegu at ein tasgau ailgylchu. Ymhlyg yn y geiriau niwlog, os liciwch chi, yn y datganiad fan hyn, yw’r ffaith bod plastig yn werthfawr, wrth gwrs, a’r ffaith nad yw pob un eisiau ildio, efallai, rheolaeth dros ffrwd werthfawr o sbwriel sydd, ar hyn o bryd, yn dod ag arian i mewn. Ond gyda, fel yr ŷch chi’n ei ddweud, y newidiad sydd yn digwydd yng ngwledydd fel Tsieina, nid ydym ni eisiau jest switsio Tsieina i Fietnam cyn belled ag y mae plastig yn y cwestiwn—rydym ni eisiau ein gweld ni yn mynd i’r afael â’r broblem yma yng Nghymru, defnyddio pob darn o blastig sydd yn gallu cael ei ailgylchu, neu ailddefnyddio cymaint ag sydd yn bosibl, ac mae cynllun blaendal yn rhan o hynny.
Diolch am eich cwestiynau.
I ddechrau, o ran adroddiad cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd—ac rwy'n cytuno â chi ein bod ni'n falch ein bod wedi arwain y ffordd a'n bod yn gallu arloesi yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i barhau i wneud hynny. O ran pryd y mae'r adroddiad i fod ar gael, mae i fod i gyrraedd yr wythnos hon. Pan fydd hwnnw ar gael byddwn yn asesu hyn ac yn datblygu argymhellion, lle y bo'n briodol. Felly, gobeithiaf allu dod yn ôl yn y dyfodol agos iawn gyda rhai dyddiadau ynglŷn â hynny.
Os af yn syth i edrych ar y cynllun dychwelyd blaendal, y cwestiwn i Gymru ynglŷn â sut yr ydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, rydych yn llygad eich lle: sut allwn ni wneud iddo gyd-fynd â sut yr ydym yn gweithio yma yng Nghymru? Ac mae'n rhywbeth y mae angen inni roi ystyriaeth ofalus iddo, a gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n frwdfrydig iawn yn ei gylch oherwydd y cytundeb, ac rwy'n siŵr unwaith y bydd gennym rywbeth o'r astudiaeth yna gobeithio gallwn gwrdd ac wedyn mynd â hynny ymhellach ynglŷn â beth yw'r camau nesaf. Ond yn sicr mae angen inni edrych ar sut y mae'n cyd-fynd o fewn yr hyn a wnawn yma. Hefyd, credaf, yn gysylltiedig â'r hyn a ddywedasoch am Tsieina—nad ydym eisiau allforio ein cynhyrchion ailgylchadwy i fannau eraill yn y byd—credaf mai un o'r ffyrdd gorau o wneud hynny yw edrych ar sut yr ydym yn ailgylchu'n gwell, ond gan edrych hefyd ar sicrhau bod gennym y seilwaith yma i ailgylchu ac ailddefnyddio'r cynhyrchion hynny yng Nghymru. Rwyf wedi gweld rhai enghreifftiau arloesol diweddar pan mae plastigion wedi cael eu hailgylchu i'w defnyddio fel rhan o ffyrdd tarmac yn ogystal. Felly, mae yna lawer o syniadau arloesol, a chredaf mai'r allwedd yw bod yn agored i hynny ond, mewn gwirionedd, ar yr un pryd, gwneud yn siŵr ein bod yn troi, fel yr ydych wedi dweud, ein dyheadau—. Yr oeddwn yn mynd i ddweud 'yn weithredu concrid'; mae'n debyg nad dyna yw'r ymadrodd cywir felly.
O ran y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol o ran y ffyrdd y maent yn ailgylchu, rwy'n gyfarwydd iawn â'r gwahaniaeth mewn arfer o ran Caerdydd a fy nghyngor fy hun yn sir y Fflint hefyd, wedi bod mewn dau le o fewn yr wythnos. Mae gan Lywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, lasbrint casgliadau, sy'n argymell pethau, ond gall awdurdodau lleol, fel cyrff sofran, wneud eu penderfyniadau eu hunain, ond, yn amlwg, drwy ein glasbrint casgliadau a'r cymorth y gallwn ei roi drwy'r rhaglen newid cydweithredol, gobeithio y gallwn ni gefnogi a gweithio gyda chynghorau i wella eu heffeithlonrwydd o ran ailgylchu a hefyd o ran, mewn gwirionedd, buddsoddi-i-arbed gyda'r cynghorau yn ogystal.
Credaf mai'r peth arall sy'n gysylltiedig â hyn yw sut y gallwn ni ddatblygu addysg bellach ynglŷn ag ymgyrchoedd newid ymddygiad, oherwydd rydym wedi gweld, i gyrraedd y lefelau yr ydym wedi'u cyrraedd, newid diwylliannol sylweddol o ran agweddau i ailgylchu ac mae'n rhywbeth awtomatig y mae pobl yn ei wneud yn awr, ond credaf fod cryn lefel o ddryswch yn dal i fod, a gallwn weld hynny pan ymwelais â safleoedd penodol a gallwch weld rhai o'r pethau y mae pobl yn eu rhoi i mewn, hyd yn oed mewn casgliadau ailgylchu wedi'u gwahanu— felly, pwysigrwydd ymgyrchoedd ymddygiadol pellach i siarad am ba blastigion, ar hyn o bryd, y gellir eu hailgylchu, beth gaiff fynd yn eich bagiau neu fag ailgylchu, beth bynnag fydd yr achos.
Yn olaf, y dreth blastigion: nid wyf yn synnu i glywed eich bod chi wedi'ch siomi gan benderfyniad yr Ysgrifennydd Cyllid ac rwy'n cydnabod y diddordeb sylweddol a'r gefnogaeth ar gyfer treth. Fe'i gwelais fy hun ar-lein ac mewn gohebiaeth yn ogystal, ond sylweddolaf gymhlethdod datblygu treth effeithiol yn y maes hwn. Rydym wedi cael trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar lefel weinidogol a swyddogol ar yr angen i fynd i'r afael â mater treth ar waredu, gan gynnwys trethiant, ac ar y sail hon—. Rydym yn glir bod gennym arbenigedd y gallwn ei rannu, drwy fod ar flaen y gad mewn arwain ar yr agenda wastraff ac mae gennym lawer i'w gynnig o ran yr hyn yr ydym wedi'i wneud a'n gallu ymchwil. Felly, ar y sail honno mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a minnau wedi cytuno y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd ar y cam cynnar hwn a'n bod yn cyfrannu at y dadansoddiad o ganfyddiadau yn dilyn yr alwad am dystiolaeth. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi cytuno i gyfarfod Ysgrifennydd y Trysorlys unwaith eto i drafod cynnydd ac i gyfrannu safbwyntiau Cymru ar ddatblygu dewisiadau polisi ar ffyrdd posibl ymlaen er mwyn adlewyrchu anghenion Cymru. Ond, fel y dywedais yn y datganiad, rydym hefyd yn parhau i ystyried posibiliadau ar gyfer y dreth blastig tafladwy annibynnol ar gyfer Cymru yn ogystal.
Fe hoffwn i gyflwyno persbectif gwahanol ar hyn. Rwy'n cydnabod yn llwyr lwyddiant Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei hamcanion ailgylchu, ond credaf y dylem gydnabod bod y budd i'r blaned o'r hyn a wnawn yng Nghymru yn amlwg yn mynd i fod yn fach iawn, iawn. Mae mwy na hanner y plastig gwastraff sy'n llifo i mewn i'r cefnforoedd yn dod o bum gwlad yn unig: Tsieina, Indonesia, y Philippines, Fietnam a Sri Lanca. Yn wir, yr unig wlad orllewinol ddiwydiannol ar y rhestr o'r 20 uchaf o lygrwyr plastig yw'r Unol Daleithiau, sy'n rhif 20 ar y rhestr honno. Nid ydym yn camreoli ein gwastraff a gesglir yn yr Unol Daleithiau neu Ewrop. Wrth gwrs, mae rhywfaint o sbwriel sy'n cael ei waredu. Nid oes neb yn mynd i fod o blaid hynny; nid oes neb yn mynd i fod o blaid gwastraff, ond rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod lle mae ffynhonnell y broblem, os ydym yn mynd i ymdrin â hi'n effeithiol. Mae Tsieina yn gyfrifol am 2.4 miliwn tunnell o blastig sy'n gwneud ei ffordd i'r môr bob blwyddyn. Dyna 28 y cant o gyfanswm y byd. Mae'r Unol Daleithiau mewn cymhariaeth yn gyfrifol am 77,000 tunnell, sydd yn llai nag 1 y cant. Nid oes neb yn amddiffyn yr 1 y cant hwnnw hyd yn oed ond os ydym yn mynd i gael effaith sylweddol ar lygredd plastig moroedd—clywais y Gweinidog yn cyfeirio at effaith y rhaglen Blue Planet II, a chefnogaf hynny'n llwyr—mae'n rhaid i ni ddelio â'r broblem wrth ei gwraidd. Mae naw deg pump y cant o blastig sy'n llygru cefnforoedd y byd yn arllwys o 10 afon yn unig. Mae wyth ohonynt yn Asia, ac mae dwy ohonynt yn Affrica. Nid yw'n broblem Ewropeaidd, yn llai fyth o broblem Prydain. Felly, rhaid inni roi mwy o bwysau neu ddarparu cymhellion ar gyfer y gwledydd hynny sy'n sylweddol gyfrifol am y broblem hon. Er bod yr hyn a wnawn yn y wlad hon yn deilwng iawn ac yn werth chweil, heb amheuaeth, nid yw'n mynd i wneud y gwahaniaeth lleiaf i'r problemau gwirioneddol sy'n bodoli. Rwy'n sicr yn cymeradwyo gwahardd pelenni plastig, er enghraifft, sy'n peri problemau sylweddol gyda physgod, a gwyddom os nad ymdrinnir â'r broblem mewn ffordd ystyrlon, bydd pethau'n mynd yn waeth. Erbyn 2050, mae faint o blastig sydd yn y môr yn mynd i bwyso mwy, mae'n debyg, na chyfanswm pwysau'r holl bysgod yn y môr, ac nid oes neb eisiau gweld hynny. Felly, nid wyf yn gwybod beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu Llywodraeth y DU roi mwy o bwysau ar y gwledydd hynny sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r math hwn o lygredd, ond byddai unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, rwy'n siŵr, efallai, hyd yn oed yn fwy buddiol na'r gwaith da a wneir yn agosach i gartref.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mewn gwirionedd, credaf fy mod yn anghytuno'n llwyr â llawer o'r pwyntiau a wnaethoch. Nid mater i ni yw troi ein cefn a dweud mai dim ond am nad ydym yn creu'r mwyafrif helaeth o broblem y byd, nid ydym yn mynd i ddangos arweiniad a gwneud rhywbeth amdano. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom—unigolion, cymunedau, llywodraethau—i fentro mewn gwirionedd a dangos arweiniad ar y mater hwn ac i chwarae ein rhan fel dinasyddion byd-eang cyfrifol. A dyna beth yr ydym yn gobeithio ei wneud yng Nghymru drwy fod yno: rydyn ni'n rhif un yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd. Dylem fod yn defnyddio hynny a dangos ein harweiniad i ddylanwadu er mwyn annog eraill i weithredu. Os nad ydym yn chwarae ein rhan, sut ydych chi'n disgwyl i eraill chwarae eu rhan yn ogystal?
Rwy'n cytuno gyda'r Gweinidog y gallwn fod yn falch iawn o'n llwyddiant wrth ailgylchu; cyn datganoli, roedd 5 y cant o wastraff yn cael ei ailgylchu, bellach mae'n 60 y cant. Ond mae llawer o hynny wedi'i ysgogi gan y trethi ar wastraff, ac mae hynny wedi cynyddu. Mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n galetach ac yn galetach er mwyn ailgylchu. Bellach mae angen inni edrych ar drethiant fel sbardun ar gyfer newid ymddygiad pobl.
Credaf y bydd pawb yn croesawu gwaharddiad ar ficrobelenni. Mewn gwirionedd, credaf pe baem wedi cael y drafodaeth hon 10 mlynedd yn ôl, ni fyddai'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod beth oedd microbelen. Mae codi 5c am fagiau plastig wedi cael effaith weladwy ar yr amgylchedd. Nid oes ond rhaid edrych yn ôl i'r cyfnod cyn fod hynny'n bodoli, a ble bynnag yr oeddech yn mynd lle'r oedd glaswellt, byddai bagiau siopa; bellach does dim. Os ydych yn gweld bag siopa ar gae chwaraeon, mae'n anarferol; os ydych yn gweld un mewn man glaswelltog, mae'n anarferol. Arferai fod yn olygfa gyffredin iawn.
Mae ailgylchu ac ailddefnyddio cynhyrchion a deunyddiau am gyhyd ag y bo modd mewn economi gylchol yn darparu manteision amgylcheddol a manteision economaidd. A gaf i ategu'r hyn a ddywedodd Simon Thomas? Os ydych chi eisiau i bethau gael eu hailddefnyddio, cynllun blaendal yw'r ffordd i wneud hynny. Nid yw hyd yn oed yn gorfod bod yn fawr iawn. Pe byddai rhywun yn dod a gofyn i mi am 5c yn awr, byddwn yn ei roi iddynt, ond talu 5c am fag plastig, teimlaf nad wyf eisiau, a byddwn yn gwneud unrhyw beth posib i geisio osgoi gwneud hynny. Mae llawer iawn o bobl yn gwneud hynny—. Y ffaith yw eich bod yn talu am rywbeth ac mewn gwirionedd nid oes ei angen arnoch. Credaf y gallai yn union yr un peth fod yn wir gyda photeli. Mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio mynd â photeli Corona yn ôl a chael 5c. Gweithiodd hynny yn anhygoel o dda. Yn anffodus, rydym ni'n defnyddio cymaint o blastig bellach a chyn lleied o wydr.
Wrth gwrs, ailgylchu ac ailddefnyddio yw'r ail a'r trydydd orau, oherwydd y gorau yw peidio â defnyddio, neu os oes raid i ni ddefnyddio, yna defnyddio llai. Rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth inni, ac mae angen inni roi mwy o ystyriaeth i hynny. Ac mae hyn ynglŷn â mwy na phlastig yn unig. Mae'n ymddangos ein bod yn canolbwyntio ar blastig bellach fel rhywbeth yr ydym yn sôn amdano, ond mae gennym ni wydr hefyd, dur wedi'i dunplatio ac alwminiwm—gellid eu gwneud i gyd yn deneuach byth, a thrwy hynny leihau pwysau ailgylchu.
Rhywbeth y mae'n rhaid i ni anelu ato yw ceisio lleihau pwysau ailgylchu drwy geisio lleihau'r metel, gwydr a chynnyrch eraill yn y deunyddiau sy'n cael eu creu. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hybu llai o ddeunydd pacio? Mae'n debyg eich bod eisiau tun o ffa pob— ni fyddech yn dymuno eu cael yn rhydd; gallai eu cario adref fod yn anodd ac yn embaras braidd—ond a ydych chi mewn gwirionedd angen tun mor drwchus ? Mae er budd y gwneuthurwr, y defnyddwyr a'r amgylchedd i gael tuniau teneuach. Felly, beth sy'n cael ei wneud i geisio lleihau'r meintiau hynny?
A gaf ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad addysgiadol iawn? Diolch iddo hefyd am ei waith a'i ddiddordeb yn y maes hwn, yn arbennig fel Cadeirydd ei bwyllgor.
Rwyf yn ddigon hen fy hun i gofio cael yr arian yn ôl pan aethoch â photel Corona yn ôl, ond credaf yr arferwn ei gadw a'i ddefnyddio ar gyfer bag cymysg o losin, felly mae'n debyg nad dyna'r newid mewn ymddygiad y byddem yn edrych amdano. Credaf y byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd rywbeth i'w ddweud am hynny pe bawn yn ei awgrymu, fel polisi yn y dyfodol. [Torri ar draws.] Ie.
Gan edrych ar sut y gallem ddefnyddio trethiant ac ymgyrchoedd ymddygiad, credaf mewn gwirionedd ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw o'r dull annog a chosbi ac, ar yr un pryd, i wneud pobl yn ymwybodol pam ein bod yn gwneud hyn a pham ei bod hi'n bwysig a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud hefyd. Felly, rydym yn ystyried pethau o ran y ffaith honno, ydy, mae'n dda ar gyfer tymor hir ein hamgylchedd, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond hefyd ceir manteision economaidd a chymdeithasol yn ogystal o ailddefnyddio ac ailgylchu.
O ran hyrwyddo llai o ddeunydd a deunydd pacio, ie, credaf yn sicr, fod hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried, a dyna pam ei bod mor bwysig y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithio gydag ein rhanddeiliaid a'r grwpiau gwaith ar draws y Llywodraeth i edrych ar sut y gallwn ymgysylltu gyda'r sector. Mae hynny hefyd yn mynd yn ôl i wneud yn siŵr ein bod yn cael y buddsoddiad hwnnw o ran arloesi a seilwaith yno i allu gwneud y datblygiadau hyn.
Rwyf yn cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud am y ffaith mae'n debyg na allech gael eich tun o ffa pob heb ei becynnu, yn enwedig os byddwch yn anghofio mynd â'ch bag siopa i'r archfarchnad. Mae wedi newid ymddygiad yn hollol a chredaf ei fod yn dangos i ni sut y gellir gwneud hynny'n a rhoi inni—. Dyna pam y credaf, yng Nghymru, fod gennym lwyfan da i adeiladu arno. Os yw unrhyw un arall fel fi, mae gennych gist yn llawn bagiau yn barod ar gyfer pan fyddwch yn galw i mewn i'r siop—ac roeddwn yn siarad â rhai pobl am hyn—ond weithiau, rydych yn eu hanghofio. Yn enwedig yn awr, yn y sefyllfa hon, rwyf yn fwy na thebyg o gario llwyth o bethau fel hyn ac yn ceisio peidio â'u gollwng neu rwy'n rhedeg allan a gadael i rywun arall ddelio â nhw os wyf wedi anghofio fy mag. Rydym wedi gweld y newid hwnnw mewn ymwybyddiaeth a pham mae'n bwysig yn awr yn ogystal. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried: sut y gallwn barhau i adeiladu ar hynny mewn ffordd nad dim ond busnesau yn unig sy'n deall, ond hefyd y newid ymddygiad hwnnw fel bod pobl mewn gwirionedd 100 y cant yn gefnogol, ac yn angerddol ac yn credu yn y rheswm pam yr ydym yn gwneud hyn yn ogystal.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Soniaf am rai pryderon sydd gennyf ynglŷn â'r ffordd y mae rhai awdurdodau lleol yn ceisio gwasgu cyfraddau ailgylchu pellach allan o'u cymunedau lleol.
Fel y gwyddoch chi, Weinidog, un o'r materion sy'n achosi rhywfaint o syndod yn fy etholaeth i yw dyfodiad casgliadau gwastraff cyffredinol bob pedair wythnos gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'n bwysig ein bod yn ennyn cefnogaeth y cyhoedd a cheisio newid ymddygiad a gallwch weld o'r canlyniadau ledled Cymru nad oes angen i bobl gasglu gwastraff ar sail pedair wythnos er mwyn cyrraedd y targedau. Mae rhai o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yn dal i fod yn casglu eu gwastraff bob pythefnos. Felly, mae ffyrdd eraill o sicrhau cyfraddau ailgylchu gwell, heb mewn gwirionedd dileu'r gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol. Beth sy'n peri pryder i mi, rwy'n meddwl, yw bod angen sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru o ran y ffordd y darperir gwasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau gwastraff hynny o gartrefi pobl ar garreg y drws, oherwydd os oes gennych fwy o gysondeb, yna bydd aelodau'r cyhoedd yn fwy cyfarwydd â phethau, a gallwch o bosibl gyflawni llawer mwy o arbedion maint ar gyfer pobl, ac felly gwasanaethau ailgylchu gwell, mwy effeithlon.
Un o'r problemau mawr gyda'r sefyllfa yng Nghonwy ar hyn o bryd—a byddwn yn gwerthfawrogi clywed safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn—yw'r pryder ynghylch iechyd y cyhoedd. Felly, nid yn unig y mae gennym ni fwy o sbwriel ar ochrau'r ffyrdd—ac rwy'n herio unrhyw un i yrru i lawr yr A55 ar hyn o bryd neu drwy rai o'r cefnffyrdd yng Nghonwy ar hyn o bryd, lle maent yn hollol frith o sbwriel, yn hollol frith o sbwriel— ond, y canlyniad yw mwy o dipio anghyfreithlon. Rydym wedi cael cynnydd mawr a sylweddol mewn tipio anghyfreithlon yn y gymuned honno, er bod y gyfradd ailgylchu fymryn yn well. Ac yna, ar ben hynny i gyd, rydym wedi cael cynnydd mewn problemau rheoli plâu, ac mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd wedi mynegi pryderon difrifol am y goblygiadau iechyd cyhoeddus o gasgliadau gwastraff pedair wythnos, yn enwedig gyda gwastraff anifeiliaid anwes yn mynd i finiau pobl a'r problemau y gall hynny ei achosi.
Felly, beth sydd ei angen arnom ni, rwy'n credu, yw mwy o gysondeb fel y gall pobl gael gwell mynediad at wasanaethau cyson ledled y wlad, fel pan fyddant yn symud o un ardal awdurdod lleol i'r nesaf, byddant fwy neu lai yn gwybod beth y maent yn ymdrin ag o. Ond, pan mae gennych chi gasgliadau gwastraff bob pedair wythnos, os byddwch yn colli un—os byddwch yn colli un casgliad, fel y gall pobl wneud o bryd i'w gilydd—yna mae'n wyth wythnos erbyn y cesglir eich bin unwaith eto. Nid yw hynny'n dderbyniol mewn cenedl fodern fel Cymru. Rwyf yn hollol o blaid hyrwyddo ailgylchu, rwyf yn hollol o blaid cefnogi newid ymddygiadol. Roeddwn yn un o'r rhai cyntaf i ddatgan cefnogaeth i ardoll ar fagiau siopa yn y Siambr hon bron 10 mlynedd yn ôl bellach. A chredaf ei bod hi'n bryd, fel cenedl, bod y Llywodraeth yn gallu gosod safon na ddylai amlder casglu gwastraff ddisgyn oddi tani. Felly, rwy'n eich annog chi, Weinidog: rhowch rywfaint o ystyriaeth i hyn os gwelwch yn dda, os gwelwch yn dda rhowch rywfaint o ystyriaeth i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd lleol gan gynnal lefelau penodol o'r gwasanaeth ac, yn benodol, lefel y gwasanaeth o ran amlder casgliadau gwastraff.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn eich llongyfarch ar fod ymhlith y rhai cyntaf i ddatgan eich cefnogaeth i'r tâl am fagiau siopa yng Nghymru, ac ni yw'r cyntaf yn y DU. [Torri ar draws.] Ie, yn yr hen ddyddiau drwg. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran y materion yr ydych chi'n eu cael ar yn lleol. Mater i awdurdodau lleol unigol yw pennu amlder eu casgliadau gwastraff gweddilliol yn eu hardaloedd, ond yn sicr, wrth gwrs, os ydych am gysylltu â ni gallwn roi ystyriaeth i rai o'r problemau penodol yr ydych chi'n eu crybwyll. Mewn egwyddor, byddem yn cefnogi casgliadau gwastraff gweddilliol llai rheolaidd, cyhyd â bod ailgylchu a chasgliadau gwastraff bwyd yn wythnosol, a hefyd bod trefniadau ar wahân ar gyfer clytiau a deunyddiau tebyg fel hynny, felly er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion o ran— [Torri ar draws.] Ie. Felly, os hoffai'r Aelod gysylltu ynglŷn â hynny mewn mwy o fanylder, yna mae'n rhywbeth y gallem roi rhywfaint o ystyriaeth iddo.
Cytunaf fod gennym ni stori dda iawn i'w hadrodd, ond credaf nad yw'r ffaith nad yw gwledydd eraill wedi symud mor bell â ni o ran ailgylchu yn rheswm inni beidio â pharhau i ddilyn y mater hwn, a rhaid inni gofio tri phen y bregeth: lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu. Synnais wrth ddarllen y diwrnod o'r blaen fod y diwydiant dŵr potel wedi llwyddo i'n perswadio ni i brynu dŵr potel ar gost o £2.4 biliwn y flwyddyn ar gyfer cynnyrch sydd ar gael am ddim yn y tap. Mae'n rhyfeddol beth y gall ychydig o hysbysebu ei wneud i wrthweithio ymddygiad rhesymegol.
Rhaid inni beidio ag anghofio, wrth gwrs, bod gwastraff bwyd yn broblem sylweddol, ac mae'n fater moesegol mewn byd lle mae cymaint o bobl yn llwglyd fod traean o'n holl fwyd yn cael ei wastraffu a ddim yn cael ei fwyta, ac mae hynny'n amlwg yn faes y mae angen gwneud rhywbeth amdano. Ond o ystyried 'lleihau' yn gyntaf, tybed pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddeddfwriaeth yr Almaen—mae'n deitl hir iawn—y Ddeddf Rheoli Gwastraff a Chylch Sylweddau Caeedig 1996. Roedd honno'n gorfodi gweithgynhyrchwyr i leihau eu deunydd pacio, ac yn amlwg mae wedi bod yn effeithiol yno.
O ran ailddefnyddio, credaf fod gwerth enfawr i'r cynllun blaendal ar boteli, fel y crybwyllwyd gan eraill, ond credaf hefyd fod ymddygiad Julie James o ddod â'i chwpan goffi gyda hi pan fydd hi'n mynd i brynu coffi—dyna arfer sydd bellach yn cael ei gyflwyno yn y rhan fwyaf o siopau coffi adnabyddus yn y wlad, ac yn rhywbeth i'w ddathlu. Ond credaf ei bod yn dal yn broblem fawr fod gennym blastig a chaniau yn frith dros ein cefn gwlad, yn groes i farn Neil Hamilton, a chredaf ei fod yn ddolur i'r llygaid.
Felly, nid oes unrhyw amheuaeth y gallwn leihau faint o sbwriel sy'n cael ei gynhyrchu gan y sylweddau hyn os oes gennym gynllun blaendal, oherwydd gallwch weld mewn gwledydd fel Awstralia—mae 80 y cant o'u holl blastig yn cael ei ailgylchu, 90 y cant yn Nenmarc a 97 y cant yn Norwy. Ac yn Norwy, mae Prif Weithredwr y cynllun dychwelyd blaendal yn dweud:
Ein prif egwyddor yw os gall cwmnïau diodydd gael poteli i siopau i werthu eu cynhyrchion, gallant hefyd gasglu'r poteli hynny.
Ni allaf ddeall pam nad yw'n gost-effeithiol gwneud hyn. Rwyf hefyd yn meddwl bod awtomatiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn oll, oherwydd yng nghynllun Norwy, maent yn postio'r botel wag i beiriant, mae'n darllen y cod bar ac yn cynhyrchu cwpon ar gyfer dychwelyd y blaendal. Ond os yw'r defnyddwyr diofal wedi gadael yr hylif yn y botel, mae'r peiriant yn cymryd y botel beth bynnag ond mae'r cwpon yn mynd i'r siopwr sy'n gorfod gwagio a glanhau'r botel.
Yn olaf, gan ganolbwyntio ar y gost o ailgylchu, pa ystyriaeth sydd wedi'i roi i gyflwyno mentrau ailgylchu gwahanu ar garreg y drws ledled Cymru? Oherwydd nid oes amheuaeth ynghylch maint a gwerth y deunyddiau wedi'u hailgylchu sydd wedi'i halogi gan ddarnau gwydr, sy'n halogi'r plastig a'r papur ac yn ei gwneud yn amhosibl i'w hailgylchu. Conwy, awdurdod lleol ardderchog—maen nhw'n ailgylchu ar garreg y drws, felly os gallan nhw wneud hynny pam na all awdurdodau lleol eraill? Byddai hynny'n creu deunyddiau ailgylchadwy mwy gwerthfawr a llai o gost i'r awdurdod lleol.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Mae hi'n gwneud rhai pwyntiau dilys a phwysig iawn, yn enwedig gan ddechrau drwy bwysleisio'r angen i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu-tri phen y bregeth y dylem oll eu hadrodd yn rheolaidd.
O ran y pwyntiau a wnewch o ran gwastraff bwyd, mae hynny'n fater o bwys yn ogystal. Rwy'n meddwl mai dyna pam ei bod hi mor bwysig bod ein huchelgais i haneru'r gwastraff bwyd mae cartrefi yn ei gynhyrchu yn gysylltiedig â'r gwaith yr ydym yn ei wneud o ran gweithio gyda manwerthwyr a diwydiant i leihau deunydd pacio a'r math o ddeunydd pacio a ddefnyddiant yn ogystal. Oherwydd rhan o hynny yw bod y ffordd y mae pethau'n cael eu pecynnu mewn gwirionedd yn arwain at wastraff bwyd cynyddol yn ogystal. Felly, mae hyn i gyd yn cydgysylltu o ran y darlun ehangach o ran sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hynny a pham ei bod hi'n bwysig ei fod i gyd wedi'i gysylltu.
Nid wyf yn or-gyfarwydd â deddfwriaeth yr Almaen o 1996 a grybwyllwyd gennych, ond byddaf yn sicr yn ceisio edrych ar hynny neu ofyn i swyddogion wneud hynny hefyd.
Ynghylch cwpanau coffi amldro, credaf yn sicr y gwelwch sut y mae hynny'n ennill ei blwyf ac yn ennill tir bellach. Ni wnaf sôn am y manwerthwyr coffi adnabyddus sy'n eu defnyddio. Roeddwn yn mynd i ddweud efallai y gallai un ohonynt ddefnyddio rhywfaint o'r arian y maen nhw'n codi am eu cwpanau coffi i dalu eu trethi. Ond rhaid imi gyfaddef, rwyf wedi dilyn ffasiwn Julie James ac mae gennyf fy nghwpan ailgylchadwy fy hun a gefais ar gyfer y Nadolig, gyda brand arno. Mae'n dweud 'Hannah for Delyn' arno, felly ni all neb ddwyn y gwpan, byddai'n amlwg iawn.
Ond o ddifrif, ynglŷn â'r pwynt a wnaed am awtomatiaeth ac arloesi a sut y gall hynny gyflwyno cyfleoedd, rydym wedi sôn yn y Siambr ynglŷn â sut y gall awtomatiaeth hefyd gyflwyno cyfleoedd i ni o ran sut y mae'n cyfateb â'n huchelgeisiau a'n hagenda amgylcheddol hefyd. Yr unig beth a ddywedaf yw fy mod yn gobeithio bod modd ailgylchu'r cwponau hefyd.
Nid wyf yn gwybod a ydynt yn ailgylchu pelenni plastig i wneud gwres, ond pe gallent eu rhoi i mewn i'r system yma a chynhesu'r Siambr, byddai hynny'n wych.
Weinidog, mae'n ddrwg gennyf i mi na welais i mohonoch chi ym Merthyr Tudful ddoe. Roeddwn eisiau croesawu eich cyhoeddiad, yn enwedig y £1.3 miliwn bron iawn yr ydych wedi'i gyhoeddi i fuddsoddi mewn offer peiriannau arbenigol ym Merthyr, gan gynnwys peiriant ail-fwndelu cynnyrch sy'n cael ei ailgylchu. Byddwn wrth fy modd yn mynd yno a gweld beth y mae'n ei wneud.
Yr hyn a ddywedwn yw y credaf fod Llywodraeth Cymru yn benodol wedi adlewyrchu pryderon cyhoeddus ynghylch y lefelau o blastig yn yr amgylchedd. Rydym ni wedi gwrando ar y cyfraniadau heddiw am y cynllun blaendal plastig ac sydd eisoes wedi cael llawer o sylw, ond mae'n amlwg y gallwn gyflawni mwy drwy gynyddu ein cyfraddau ailgylchu plastig. Ond, fel y gwyddom, ceir rhai plastigau nad ydym ni ar hyn o bryd yn eu hailgylchu, yn syml oherwydd bod y diwydiant bwyd neu ddewisiadau defnyddwyr yn ein hatal rhag gwneud hynny. Mae'r ddau beth hyn yn faterion y gall polisi cyhoeddus ddylanwadu arnynt mewn gwirionedd.
Mae rhai plastigau hefyd fel gorchuddion seloffen nad ydynt yn cael eu derbyn yn gyffredinol yn ein systemau ailgylchu presennol, ond mae gwledydd eraill yr UE yn casglu ac yn ailgylchu'r deunydd hwnnw. Er y mynegwyd pryderon ynghylch y penderfyniad a wnaed yn Tsieina i beidio â derbyn plastig, onid yw hynny hefyd yn rhoi cyfle i gynyddu'n sylweddol ein sector ailgylchu plastig domestig ein hunain?
Mae canfyddiad cyffredin bod y diwydiant plastigau yn broblem, ond ymddengys i mi y dylem fod yn gweithio ochr yn ochr â'r diwydiant i fuddsoddi mewn technoleg planhigion a all fynd â ni ymhellach ar ein taith ailgylchu, fel y gellir ailgylchu'r plastigau hynny na ellir eu hailgylchu ar hyn o bryd. Os gallwn ddatblygu'r technolegau planhigion, yna yn sicr gellid eu hallforio i helpu'r rhannau hynny o'r byd lle, fel rydym wedi clywed, mae ailgylchu plastigau yn her fwy o lawer nag ydyw yma.
Felly fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw sut y credwch y gallem ni weithio ochr yn ochr â'r diwydiant plastigau, y mae'n rhaid inni dybio sy'n arbenigwyr yn y cynnyrch penodol hwnnw, i helpu datblygu ffyrdd pellach ac arloesol o'n helpu i ailgylchu plastigion?
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Fel y soniasoch chi, fe wnaethoch chi golli'r ymweliad â Merthyr ddoe. Roeddwn i yn sicr yn meddwl bod yr ymweliad yn ddiddorol iawn ac mae'n dda gweld sut y maen nhw wedi datblygu ar eu llwyddiant ar ôl cael y cyllid ac wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu ym Merthyr Tudful. Maen nhw wedi gwella eu cyfraddau ailgylchu, ac mewn gwirionedd maen nhw hefyd wedi helpu i leihau eu costau, felly mae yna fuddion buddsoddi i arbed ychwanegol i'r awdurdod lleol. Rydych chi wedi dweud y byddech chi wrth eich bodd yn mynd i lawr i weld beth y mae byrnwr yn ei wneud mewn gwirionedd—maen nhw wedi fy ngwahodd i i fynd yn ôl, mae croeso mawr i chi ymuno â mi, ond rwy'n credu bod yr ymweliad nesaf yn cynnwys mynd allan gyda'r timau ailgylchu ar gasgliadau i weld sut y mae hynny'n gweithio gyda'r cyhoedd. [Torri ar draws.] Mae'r Aelod newydd ddweud i fynd i lawr ei stryd hi.
Y pwynt a wnaeth hi o ran y plastigau nad ydym ni'n eu hailgylchu ar hyn o bryd—mae'n hollol allweddol i edrych ar sut y gallem ni ehangu ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar hynny. Hefyd o ran—mae wedi'i grybwyll yma o'r blaen—Tsieina'n prynu allforion ac nid allforio i farchnadoedd eraill yw'r ateb o reidrwydd. Dylai'r ateb fod i weld sut y gallwn ni fuddsoddi hynny fel rhan o'n heconomi gylchol, sy'n dod â gwerth amgylcheddol ond sydd hefyd yn dod â gwerth economaidd o ran creu swyddi a gweithio gyda chadwyni cyflenwi plastig.
Rydych chi'n hollol gywir, mae yna rai cwmnïau allan yna, ac yng Nghymru, sydd eisoes yn gwneud pethau arloesol. Dyna pam mae hi mor bwysig, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud, dod â diwydiannau a rhanddeiliaid at ei gilydd. Ac mae ein map llwybr plastig mor bwysig, fel y gallwn ni ymdrin â hynny yn ei gyfanrwydd i wneud yn siŵr bod gennym ni atebion sy'n gweithio ar gyfer y tymor hir yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.