– Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
Dyma ni'n dod, felly, i ddadl Plaid Cymru ar ddarlledu, a galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6669 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru;
2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol;
3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach;
4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys;
5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru;
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn blwyddyn.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ein cynnig ni heddiw yn un a fyddai'n rhoi cychwyn ar y daith tuag at ddatganoli darlledu, a'r unig beth rydym ni'n gofyn amdano fo, mewn gwirionedd, ydy ymrwymiad i ymchwilio i ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru, gan adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn. Felly, gan fod gwelliannau Llafur yn dileu y gofyn syml hwnnw, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn eu herbyn nhw.
Mae Plaid Cymru yn uchelgeisiol dros Gymru ac yn credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru—darlledu, yn yr achos sydd gerbron heddiw. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod nad ydy pawb wedi cael eu hargyhoeddi, felly heddiw rydym ni'n chwilio am gonsensws i o leiaf ystyried y materion ymhellach dros gyfnod o 12 mis. Ac mi fyddwn i'n bersonol yn siomedig iawn petaem ni ddim yn cael hynny heddiw. Byddai pleidlais yn erbyn ein cynnig ni yn awgrymu bod popeth yn iawn yn y byd darlledu yng Nghymru. Wel, nid ydy o.
Mewn cyfnod o ansicrwydd ac anghydfod oherwydd Brexit, mae datganoli darlledu yn bwysicach nac erioed er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais. Mae cyfuniad o ddiffyg amrywiaeth yng nghyfryngau Cymru a dirywiad mewn oriau darlledu yn rhwystro dadleuon gwleidyddol, ac felly yn rhwystro democratiaeth. Mae'r ffaith bod y mwyafrif o bobl yn derbyn eu newyddion gan ddarparwyr o Loegr yn llesteirio addysg wleidyddol, efo'r darparwyr hynny yn canolbwyntio'n llwyr ar Lundain, gan ddangos diffyg dealltwriaeth llwyr o ddatganoli. Dim rhyfedd, felly, fod traean o bobl a gafodd eu holi mewn arolwg y flwyddyn ddiwethaf yn meddwl bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae yna ambell i ddatblygiad positif wedi bod, efo'r BBC ac S4C yn dechrau cynnig cynnwys newydd, a hynny ar blatfformau newydd hefyd, sy'n apelio at gynulleidfaoedd newydd ac ifancach. Ac mae Golwg360 a nation.cymru yn cynnig darpariaeth werthfawr ar-lein. Ond mae nifer o ddarlledwyr wedi cwtogi eu horiau darlledu ar gyfer Cymru. Yn 2015-16, roedd allbwn teledu Saesneg ar y BBC yn 641 awr, sef gostyngiad o 21 y cant o 814 awr mewn cyfnod blaenorol. Cafwyd toriadau o 30 y cant i raglenni ITV, a hynny'n fwy nag mewn unrhyw ardal arall o'r Deyrnas Unedig.
Pryder arall ydy cynlluniau Llywodraeth Llundain ynglŷn â rheoleiddio radio masnachol. Mi allai hynny arwain at lai fyth o amrywiaeth, ac er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod angen sicrhau bod newyddion yn parhau i gael ei ddarparu ar radio masnachol, nid ydyn nhw'n sôn o gwbl am newyddion Cymru.
Rydw i'n troi rŵan at S4C, ac yn sicr mae angen sicrhau cyllid sefydlog a digonol ar gyfer ein hunig sianel Gymraeg er mwyn sicrhau dyfodol bywiog, perthnasol a llwyddiannus ar gyfer cenedlaethau i ddod. Bron i bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth comisiwn Silk argymell datganoli pwer i ariannu S4C i Gymru. Yn y cyfamser, mis i ffwrdd o flwyddyn ariannol newydd, rydym ni'n dal i aros am adolygiad Euryn Ogwen Williams o S4C. Mae'n galonogol bod S4C yn gweithio ar gynyddu amrywiaeth ac yn darparu cynnwys ar blatfformau newydd, ond mae'r ffaith bod y sianel wedi bod trwy gyfnod o ansicrwydd ariannol ers blynyddoedd yn gwneud cynllunio ar gyfer y dyfodol yn anodd ac yn hynod, hynod o heriol.
Rŵan, nid oes yna neb yn amau y bydd ariannu S4C ar ôl datganoli yn sialens, gan fod yna gymaint o'r arian yn cael ei sybsideiddio gan y ffi drwydded. Ond beth rydym ni'n gofyn amdano fo heddiw ydy ymchwilio hynny, ymchwilio i'r posibiliadau, ymchwilio i ddatganoli darlledu, ac edrych ar y gwahanol opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau cyllidol. Ac mae'n rhaid inni gofio hefyd fod S4C yn hollbwysig yn economaidd, yn ogystal ag yn ddiwylliannol, efo pob £1 sy'n cael ei buddsoddi gan y sianel mewn diwydiannau creadigol yng Nghymru yn werth £2.09 i'r economi. Yn ôl adolygiad Hargreaves o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, heb S4C efallai na fyddai gan Gymru unrhyw gwmnïau teledu annibynnol.
Rydw i'n cloi yng ngeiriau Elfed Wyn Jones, sydd newydd gwblhau wythnos o ympryd dros ddatganoli darlledu. Rydw i yn credu bod Elfed wedi crynhoi yn dda iawn, yn y geiriau yma, y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi heddiw yma. Mae Elfed yn dweud fel hyn: 'Rydw i'n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol ydy'r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu. Mae o'n mynd i fod yn anodd, ond wrth feddwl am beth fydd hyn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru—gwell democratiaeth, gwybodaeth gliriach a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg—byddai hynny yn rhoi cryfder imi frwydro nes bwrw'r maen i'r wal. Rwy'n derbyn fy nghyfrifoldeb i weithredu. Gobeithio y bydd ein gwleidyddion yn cymryd eu cyfrifoldebau hwythau hefyd.'
Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni, fel pobl, allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei llywodraethu. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill yn y Siambr yma heddiw, ond rwy'n erfyn arnoch chi: cefnogwch ein cynnig ni er mwyn inni gael y drafodaeth bwysig yma y mae angen ei chael yng Nghymru heddiw.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1. Julie James
Dileu Pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.
Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.
Yn ffurfiol. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2. Paul Davies
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i hyfywedd datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn.
Gwelliant 3. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau.
Gwelliant 4. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen.
Gwelliant 5. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd.
Gwelliant 6. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gwnawn ni symud ein gwelliannau. Mae'n drueni, mewn ffordd, nad ydym ni yn disgwyl am y ddadl hon tan ganol y flwyddyn, efallai. Rwy'n deall pam—penderfyniad Elfed Wyn Jones, wrth gwrs—ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol i ystyried adolygiad Euryn Ogwen Williams ar ddyfodol S4C, ac i gael cyfnod o arsylwi ar gyflenwi gan y BBC ar ei rwymedigaethau portreadu—
Tybed a wnaiff yr Aelod dderbyn ymyrraeth am eiliad.
Yn siŵr.
Jyst imi roi sicrwydd i chi, o safbwynt y Llywodraeth, mi fyddwn ni yn gosod dadl gyffredinol ar gyfathrebu, ond gyda golwg arbennig ar yr adroddiad ar S4C pan fydd hynny'n amserol, ar ôl imi dderbyn copi o'r adroddiad. Rydw i'n dal i ddisgwyl amdano.
Wel, edrychwn ni ymlaen at hynny achos, siŵr o fod, fydd yna siawns i ailystyried hyn.
Efallai y gallwch chi ymateb i hyn. A ydych chi'n cytuno ei bod yn syniad da i gael cyfnod o arsylwi ar gyflenwi gan y BBC ar ei rhwymedigaethau portreadu a chomisiynu newydd ynglŷn â Chymru, wrth gwrs? Achos credaf i fod y materion hyn, a chynigion y Deyrnas Unedig ar gyfer rheoleiddio'r farchnad radio, angen eu craffu, i ryw raddau, cyn inni edrych, unwaith eto, ar ddatganoli darlledu. Achos y mae'n fater o 'unwaith eto', onid yw e? Felly, nid oes gennym unrhyw broblem gyda chynnwys gwelliant y Llywodraeth, ond os yw'n pasio, mae'n dad-ddethol ein gwelliant 2. Mae'r gwelliant hwnnw, fel pwynt 6 yn y cynnig gwreiddiol, yn sôn am fframwaith amser. Y gwirionedd yw nad wyf yn poeni gormod am y cyfnod penodol, ond mae rhinwedd mewn hoelio Llywodraeth Cymru i amserlen i lunio adroddiad, a gallem ddatrys y cwestiwn hwn am gryn amser. Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto y bydd datganoli yn datrys y problemau gyda darlledu cyhoeddus, fel, efallai, y mae rhai pobl yn ei obeithio. Dyna pam y mae gwelliant 2 yn sôn am 'hyfywedd' yn lle'r 'ymarferoldeb' sydd yn y cynnig gwreiddiol—viable rather than feasible.
Rydym wedi trafod y goblygiadau ariannol lawer gwaith o'r blaen. Y gŵyn yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanwario ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Ngymru, yn enwedig S4C. Mae Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn cwyno bod yna dan-gyllido, yn mynd i ffeindio, rywsut, ddigon o arian i unioni'r cam. Nid wyf yn meddwl y bydd trosglwyddo'r rhwymedigaeth statudol ar gyfer digon o arian oddi wrth DCMS i Lywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth, a gwelwn ddim mwy na Llywodraeth wahanol yn dweud bod eu cynnig nhw yn ddigon. Rydym yn cytuno gyda safbwynt y Gweinidog, fel y gwelwn yng ngwelliant 4.
O ran ITV Cymru, nid wyf yn beirniadu ansawdd eu gwaith wrth ddweud hyn, ond mae'n debyg i mi fod trwydded Cymru-yn-unig wedi gwneud dim byd o gwbl i wella'r gostyngiad mewn oriau a ddarlledwyd. Mewn byd aml-lwyfan, mae yna gwestiwn, onid oes: a fydd y cwmnïau preifat cyfarwydd yn chwilio am drwyddedau â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus os bydd Llywodraeth Cymru y dyfodol yn rhy gyfarwyddol? A ddylem ni boeni am hynny? Mae yna gwestiwn.
Mae'r sefyllfa'n wahanol gyda'r BBC, wrth gwrs, mae'n cael ei ariannu gan drethdalwyr. Gall pawb fod yn siŵr y bydd y Senedd yma yn craffu ar y BBC a rhoi rhwymedigaethau newydd i genhedloedd a rhanbarthau. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am yr atebolrwydd ar y cyd y cyfeirir ato yng ngwelliant y Llywodraeth, ac mae'r pwyllgor diwylliant eisoes wedi manteisio'n llwyr ar y sefyllfa hon, er gwaethaf ein diffyg cyfrifoldeb ariannol dros y sefydliad.
A fyddai datganoli darlledu yn ein helpu ni i ddeall ein gwlad ddatganoledig yn well? Wel, nid wy'n siŵr. Yr hyn a welaf ar hyn o bryd yw Cymru sy'n dal ddim yn deall yn llawn ar ôl 19 mlynedd. A yw hynny oherwydd bod ein darlledwyr yng Nghymru yn camarwain neu'n cam-gynrychioli’r hyn sy'n digwydd yma? Ni chredaf felly. Calon y broblem yw bod pobl yng Nghymru yn dewis cael eu newyddion am faterion cyfoes o gyfryngau y tu allan i Gymru, ar draws nifer o lwyfannau. Dyma lle nad ydych yn clywed am Gymru na'n gweld Cymru'n cael ei chynrychioli a'i mwynhau—gyda'r eithriadau arferol, sef Doctor Who ac yn y blaen—na chynnyrch a wnaed yng Nghymru.
A fyddai datganoli yn newid y sefyllfa hon? Nid wy'n siŵr. Mae eisoes yn fyd aml-lwyfan. Fy ofn i yw y byddai datganoli yn rhoi esgus i gyfryngau Llundain ein hanwybyddu'n gyfan gwbl yn eu holl ffurfiau. Ni wnaiff hynny ddim i helpu gweddill y Deyrnas Unedig i ddeall ddatganoli. Ni fydd yn gwneud dim i hysbysu nifer y bobl yng Nghymru nad ydynt yn dewis cyfryngau Cymru am eu gwybodaeth. Nid wy'n siŵr bod hwn yn welliant. Ni fydd hyn yn gwella o dan ddatganoli ddarlledu, yn fy marn i. Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Diolch i Siân Gwenllian am ei harweiniad doeth ar y cychwyn. Wrth gwrs, mae cynnig Plaid Cymru yn galw am ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu i Gymru. Rwy'n dweud hynny'n ddigon araf deg achos mae hynny'n gynnig weddol syml. Nid yw'r peth mwyaf radical erioed sydd wedi cael ei gynnig yn y lle yma. Dim ond ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu i Gymru.
Rwyf hefyd, fel Siân, yn llongyfarch Elfed Wyn Jones, a fu yma ar risiau'r Senedd ddoe, wedi ymprydio am wythnos i alw am ddatganoli darlledu. Mae o'n adlewyrchu galwadau cynyddol i hyn i ddigwydd. Dangosodd pleidlais Brexit mor ychydig mae pobl Cymru'n gwybod am faterion cyfoes eu gwlad eu hunain. Mae Cymru'n elwa o fod yn yr Undeb Ewropeaidd, yn derbyn mwy o arian i mewn i Gymru nag sydd yn mynd allan. Ond, prin oedd sôn am hynny yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit, na'r ffaith chwaith fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar ein haelodaeth o'r farchnad sengl. Newyddion o Lundain y mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn ei dderbyn. Rhaid chwilota efo cryn ymdrech weithiau i ffeindio unrhyw beth am Gymru, a manylion pwysig fel rwyf newydd grybwyll.
Mae papurau newydd Cymreig lleol yn crebachu, fel y mae papurau newydd ym mhob man. Nid oes sôn am Gymru ar wasanaeth radio BBC Radio 2, sef yr orsaf radio efo'r mwyaf o wrandawyr yma yng Nghymru. Nid oes sôn am Gymru. Bu sefydlu S4C yn hwb aruthrol, yn naturiol, nôl yn 1982. Hwb aruthrol i'n cenedl, i'n hunaniaeth, ac i'n diwylliant. Ond, mae angen llawer mwy. Mae Cymru yma i bawb, p'un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae S4C yn fendigedig ond mae angen mwy i hyrwyddo hunan barch 3 miliwn o bobl a hyrwyddo datblygiad cenedl gyfan.
Achos ar faterion dyddiol, nid jest fel Brexit, ond fel y gwasanaeth iechyd, er enghraifft—fel mae Siân wedi'i ddweud—nid yw traean o bobl Cymru yn gwybod bod iechyd wedi'i ddatganoli i fan hyn ers bron 20 mlynedd. Rwy'n cofio yn ystod streic meddygon ysbytai yn Lloegr y llynedd roedd meddygon yn Ysbyty Treforys yn Abertawe hefyd yn credu eu bod nhw ar streic ac yn chwilio am y baricéd agosaf. Nawr, yn aml, rwy'n un i chwilio am faricedau, ond roedd hi'n amhriodol yn yr achos yma, achos nid oedd streic yn digwydd yng Nghymru, ond roedd nifer o bobl ddim yn sylweddoli hynny o gwbl. Mae nifer o esiamplau tebyg o gyhoeddiadau yn Llundain yn creu stori yma yng Nghymru er nad ydynt yn berthnasol i ni o gwbl, nid jest ym maes iechyd ond addysg a phob math o feysydd eraill sydd wedi'u datganoli. Dylai pobl fod yn gwybod amdanyn nhw drwy gael y newyddion yma yng Nghymru wedi'u darlledu yma o Gymru.
Felly, i gloi, mynnwn glywed y gwirionedd am ein gwlad. Mynnwn o leiaf ein bod ni'n ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu. Mae wedi digwydd mewn gwledydd eraill—yng Ngwlad y Basg, er enghraifft, mae'n digwydd ac yn llwyddiannus tu hwnt. Mae wedi digwydd efo S4C—mae angen datblygu hynny. Rŷm ni eisiau datganoli darlledu yn gyfan gwbl.
Mae yna hanes i'w adrodd efo'n cenedl. Rŷm ni'n dioddef—clywsom ni yn y ddadl yn gynharach—efo llywodraethiant y Deyrnas Unedig ac efo Brexit y diffyg parch sydd i'n cenedl a'r diffyg parch sydd i'n Llywodraeth yma yn yr holl drafodaethau. Rŷm ni eisiau adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C mewn hinsawdd wleidyddol hynod fregus rŵan, lle mae goroesiad ein cenedl ei hun o dan fygythiad. Yn y pen draw, mynnwn ddatganoli darlledu. Diolch yn fawr.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yn UKIP yn cytuno â llawer o bwyntiau Plaid Cymru heddiw. Gresynwn at y toriadau i gyllideb S4C a hefyd y toriadau i oriau darlledu ITV Wales—mae angen darpariaeth ddigonol ar ddarlledu yn yr iaith Saesneg a'r iaith Gymraeg yng Nghymru—ond nid ydym yn cytuno â Phlaid Cymru ar eu galwad am ddatganoli darlledu.
Rydym yn teimlo bod llawer o lwyddiannau wedi bod ym maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Credaf mai dau o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y BBC o ran marchnadoedd allforio ar hyn o bryd yw Doctor Who a Sherlock, ac mae'r ddwy gyfres yn cael eu creu yng Nghymru—credaf fod Doctor Who wedi'i chrybwyll yn gynharach yn y ddadl. Am resymau economaidd, rydym—
Gareth, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Mae pawb ohonom yn falch fod Doctor Who yn cael ei chynhyrchu yma yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, wrth edrych ar y cynnwys, gallai fod wedi ei chynhyrchu yn unrhyw le. Nid wyf yn gofyn am Ddaleks dwyieithog na dim, ond byddai rhyw sôn am Gymru'n ddefnyddiol.
Dyna ymyriad diddorol, Dai. Yn yr araith, fe gyfeiriaf at yr hyn a ddywedoch y tro diwethaf inni drafod y pynciau hyn, sef dadl a gyflwynwyd gan y pwyllgor diwylliant, ac mewn gwirionedd rwy'n dychwelyd at y pwyntiau rydych newydd eu gwneud, felly fe ymhelaethaf arnynt yn nes ymlaen.
Am resymau economaidd, rwy'n credu bod angen inni gael cymaint o gynhyrchu ag y gallwn wedi'i leoli yng Nghymru, a chymaint o swyddi cynhyrchu a ffilm ag y gallwn wedi'u creu yma. Nid ydym am beryglu'r amcanion hynny drwy fynd tuag at ddatganoli darlledu, a allai arwain yn y pen draw at lai o gynhyrchu yma. Dyna'r broblem bosibl gyda mynd ar hyd llwybr datganoli.
Soniais yn awr ein bod wedi trafod y materion hyn flwyddyn yn ôl, pan gyflwynodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ddadl debyg, a gwnaeth Dai bwyntiau diddorol. Cwynodd nad oedd unrhyw bortread go iawn o Gymru yn y cyfryngau darlledu. Soniodd am yr hyn y mae newydd ei grybwyll eto: fod cynhyrchu Casualty a Doctor Who yma yng Nghymru yn iawn, ond nad yw'r rhaglenni hyn mewn gwirionedd yn ceisio rhoi darlun o Gymru i ni. Crynhodd yn gofiadwy ar yr achlysur hwnnw drwy ddweud nad oedd eisiau Daleks dwyieithog, ond fe deimlai y dylai fod gan yr ysbyty yn Casualty arwyddion dwyieithog. Y broblem yw bod Caerdydd a BBC Wales—fe lobïwyd yn llwyddiannus dros ddod â'r gwaith o gynhyrchu Casualty o Fryste, lle y câi ei wneud yn wreiddiol. Roedd Casualty eisoes wedi bod yn rhedeg am fwy nag 20 mlynedd cyn i'r gyfres ddod i Gymru. Mewn gwirionedd mae wedi ei lleoli mewn dinas ffuglennol o'r enw Holby, mewn sir ffuglennol o'r enw Wyvern, sydd i fod yng ngorllewin Lloegr, felly byddai'n rhyfedd braidd pe baent yn dechrau cynnwys llawer o siaradwyr Cymraeg yn awr, neu pe bai ganddynt arwyddion dwyieithog ar eu waliau.
O ran Doctor Who, gallem gael arwyddion ffyrdd dwyieithog yn awr ac yn y man yn Doctor Who, ond y drafferth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Credaf ein bod yn crwydro oddi ar y pwynt yma. [Chwerthin.] Nid wyf yn sicr fy mod yn cytuno gyda Dai am yr arwyddion dwyieithog yn Casualty chwaith, ac rwy'n falch iawn fod gennym sector darlledu cryf o ran ei botensial economaidd, ond beth am y potensial i gryfhau'r ffordd y siaradwn amdanom ein hunain fel cenedl a chynhyrchu drwy ddarlledu y ddadl honno ar ein dyfodol fel cenedl?
Wel, mae'n debyg mai'r pwynt rwyf wedi'i godi, neu'r pwynt rwyf wedi ceisio ei godi yw, 'A yw un peth yn gwrthdaro yn erbyn y llall?', felly efallai mai dyna sydd angen inni ei ystyried.
Bellach, mae gennym—. Iawn, Doctor Who, gallem gael arwyddion ffyrdd dwyieithog yn Doctor Who, ond yn amlwg, nid ydym yn mynd i fynd yno. Maent yn mynd i blaned Mawrth. Yn amlwg nid yw'r gyfres i fod wedi'i lleoli yng Nghymru.
Felly, mae gennym y broblem ymddangosiadol hon fod rhaglenni'n cael eu gwneud yng Nghymru nad ydynt am Gymru'n benodol, sef yr hyn y buom yn siarad amdano, ond mae'n amheus, yn fy marn i, a fydd canran enfawr o bobl yng Nghymru â diddordeb go iawn mewn gwylio rhaglenni a wnaed am Gymru, sy'n bwynt a grybwyllodd Suzy Davies yn gynharach. Wedi'r cyfan, rydym wedi cael pethau fel Radio Wales a Radio Cymru ers y 1970au, ond mae'n dal yn ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru heddiw yn gwrando ar Radio 1 a Radio 2 na sy'n gwrando ar Radio Wales a Radio Cymru. Mae yna hen ddywediad y gallwch arwain ceffyl at ddŵr, ond ni allwch wneud iddo yfed. Gallwch ddarparu'r gwasanaethau hyn, ond ni allwch orfodi eich gwrandawyr i wrando arnynt.
Nawr, nid yw'r materion hyn yn newydd o bell ffordd. Yn y 1970au roedd gennym broblemau lle roedd yn rhaid i bobl yn ne-ddwyrain Cymru ddewis a oeddent yn gosod eu setiau teledu i dderbyn gwasanaeth o drosglwyddydd Mendips neu o drosglwyddydd Gwenfô. Cefais fy magu ar aelwyd yng Nghaerdydd lle roeddem yn cael gwasanaeth o'r Mendips, fel bod y sianeli Cymreig yn niwlog ac nid oeddem yn eu gwylio mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym BBC West yn hytrach na BBC Wales, a golygai hynny ein bod yn gwylio Points West o Fryste fel ein rhaglen newyddion min nos, yn hytrach na Wales Today, sy'n swnio'n hurt heddiw, ond dyna beth a wnaem a dyna beth a wnâi llawer o bobl eraill hefyd.
Felly, mae gennych eich ardaloedd Cymraeg eu hiaith yng ngorllewin Cymru. [Torri ar draws.] Oes, mae gennych siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd hefyd. Ond y pwynt yw nad yw dwyrain Cymru yn rhy annhebyg yn ddiwylliannol i Loegr. A siarad yn ddiwylliannol, nid oes fawr o raniad rhwng pobl yn ne-ddwyrain Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru a phobl yng ngogledd-orllewin Lloegr a de-orllewin Lloegr. Nawr, gyda dyfodiad datganoli, yn ogystal â theledu digidol, byddech wedi credu y byddai mwy o ffocws diwylliannol Cymreig yng Nghymru. Ond mae teledu digidol yn golygu nad ydych yn gyfyngedig i lond llaw o sianeli, felly mae pobl yn gwylio pob math o bethau. Nid yn unig bod mwy o bobl yng Nghymru yn gwylio Eastenders a Coronation Street yn hytrach na Pobol y Cwm; mae'n debyg y bydd gennych fwy o bobl yng Nghymru yn gwylio The Walking Dead na Pobol y Cwm, felly efallai ein bod, yn araf deg, yn dod yn wladfa i UDA yn ddiwylliannol.
Felly, mae'r rhain yn broblemau rydym yn gorfod ymgiprys â hwy yn y byd modern. Ni chredaf y gallwch lyffetheirio gwaith cynhyrchu teledu a ffilm drwy gael mwy o ymwneud ar ran Llywodraeth Cymru ym maes darlledu. Mae yna broblem bosibl o ormod o ymwneud ar ran y wladwriaeth yn y cyfryngau.
Mae angen i chi ddwyn eich cyfraniad i ben yn awr. Rwyf wedi bod yn garedig iawn.
Efallai ein bod yn gofyn am bortreadau gwahanol o Gymru, ond un hen ddywediad yw na chafodd unrhyw gelfyddyd dda erioed mo'i chreu gan bwyllgor. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu i ddadl ar ddarlledu, oherwydd mae o wedi bod yn bleser gen i dros y blynyddoedd i fod yn gyfrifol am ddeddfu am ddarlledu yn San Steffan. Ac rydw i am ei gwneud hi'n hollol glir fy mod i'n parhau o'r farn, yn bersonol ac fel Gweinidog â'm mhrofiad i yn y pedwar mis, pum mis, diwethaf yma, nad dyma yr amser i ddechrau sôn am ddatganoli rhan o ddarlledu, neu unrhyw ran o ddarlledu, i Gymru fel rhan o ddatblygu'r setliad datganoli, oherwydd mae natur economi a diwylliant darlledu ac, yn bwysicach, yr holl lwyfannau cyfathrebu digidol sydd gyda ni, a llawer iawn o'r diwydiant yna yn y bae yma yng Nghaerdydd—mae'r diwydiant yna o reidrwydd yn ddiwydiant sydd wedi gweithredu a datblygu nid yn unig drwy reoleiddio yn y Deyrnas Unedig, ond hefyd drwy reoleiddio ar lefel ryngwladol.
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud ei barn yn hollol glir yn y gwelliannau i'r cynnig yr hyn yr ydym ni am ei sicrhau o ran darlledu yn Gymraeg a Saesneg yn cael ei gyllido yn ddigonol, a'r pryder am doriadau i S4C. Ond rydym ni'r un mor gadarn fod angen i ni allu dadlau am economi ac effeithiau cyfathrebu yn gyffredinol gyda'n gilydd o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae ITV Cymru, wrth gwrs, yn parhau i chwarae rôl hanfodol fel dewis amgen effeithiol i'r BBC ac rydym ni yn gweld bod cyflwyno gwelliant sy'n cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy atebol i holl Seneddau'r Deyrnas Unedig yn ran allweddol o'n gwaith ni. Dyna rydw i wedi bod yn ceisio ei ddilyn, fel Gweinidog gyda chyfrifoldeb—trosolwg—dros ddarlledu, sydd heb ei ddatganoli, sef cynyddu atebolrwydd sefydliadau darlledu a chyfathrebu y Deyrnas Unedig i'r Cynulliad hwn, a thrwy hynny, i wylwyr a gwrandawyr yng Nghymru.
Mi fuom ni'n gweithio'n galed, fel Llywodraeth, i sicrhau bod siarter newydd y BBC yn rhoi mandad i'r BBC gyflawni llawer mwy i bobl Cymru. Mae gan y BBC bellach atebolrwydd priodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wrth i ninnau fel Llywodraeth baratoi i benodi aelod o fwrdd Ofcom i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf erioed, rydym ni'n ymwybodol bod y trefniadau yma yn agor y ffordd i ni gael dylanwad gwirioneddol fel Llywodraeth Cymru ar strwythur cyfathrebiadau yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.
Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod diffyg uchelgais y Gweinidog yn hynod siomedig—ddim eisiau hyd yn oed cael y drafodaeth, ddim hyd yn oed eisiau gweld beth sy'n bosib, ddim hyd yn oed eisiau edrych ar yr opsiynau—
Os caf i ymateb, yn amlwg, os ydy'r gwrthbleidiau yn llwyddo i ennill y ddadl drwy wrthod y gwelliannau rhesymol heddiw, mi fydd y Llywodraeth yn ystyried sut y gallwn ni ymateb i benderfyniad y Cynulliad. Felly, nid yw hi'n gywir i ddweud na fyddwn ni'n ystyried unrhyw benderfyniad i ymchwilio ymhellach. Ond nid dyna safbwynt y Llywodraeth.
Yn union. Dyna beth rydw i'n ei ddweud. Safbwynt y Llywodraeth ydy ddim eisiau cael y drafodaeth, ddim eisiau gweld beth sy'n bosib—[Torri ar draws.] Ie, oherwydd dyna'r gwelliannau sydd wedi cael eu gosod. Mae'r gwelliannau rydych chi wedi'u gosod yn dileu beth yr ydym ni a'r wrthblaid ei eisiau, sef cynnal y drafodaeth, ac mae hynny yn hynod o siomedig. Ac mae'n rhaid i mi ofyn: i ble yr aeth y Dafydd Êl cynnar yr ydym ni'n ei gofio?
Mae o'n eistedd fan hyn. [Chwerthin.]
Diolch yn fawr i Suzy Davies am egluro pwrpas eich gwelliant chi. Rydw i yn gweld synnwyr yn beth yr ydych chi'n ei ddweud ac, er yn wannach na'n cynnig ni, rydym ni yn barod i gefnogi hwnnw os oes yn rhaid, achos galw am y drafodaeth, dyna beth rydych chithau hefyd yn ei wneud drwy'ch cynnig chi.
Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y Llywodraeth yn bwriadu cynnal dadl ar ddarlledu i'r dyfodol. Wel, da iawn hynny. Bryd hynny, mi fyddwn ni'n parhau i bwyso am ddatganoli darlledu achos mae seilio dadl o gwmpas adolygiad Ogwen, nid ydy hynny nac yma nac acw. Guto Harri ei hun, un o aelodau y bwrdd, sydd wedi dweud i beidio â disgwyl gormod o hwnnw a dweud ei fod o bron yn amherthnasol bellach beth bynnag.
Y bore yma—ac rydw i'n cloi rŵan—y bore yma, mi fues i yn Sain Ffagan efo Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a gweld hanes Cymru yn cael ei ddehongli yn ddeheuig iawn yn fanno. Mae'n bryd i ni hefyd gael dehongli ein bywyd cyfoes ni a'n democratiaeth ni gennym ni ein hunain. Mae'n bryd i ni fod yn arwain ein sgwrs cenedlaethol ni yma yng Nghymru. Felly, gobeithio y gallwch chi weld eich ffordd yn glir i o leiaf gefnogi yr awydd i gael y drafodaeth. Dyna i gyd yr ydym ni'n gofyn amdano fo heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.