2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 21 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi mynegi pryderon ynghylch y fformiwla ariannu bresennol ar gyfer llywodraeth leol. Nawr, mewn perthynas â hynny, dywedasoch wrthyf ym mis Ionawr:
'Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau Ceidwadol yma yn dadlau dros newid y fformiwla. Yr hyn na chlywais yw cynghorwyr Ceidwadol yn dadlau dros newid y fformiwla yn y fath fodd.'
Ond mae gennyf gopïau yma o'r llythyrau a anfonwyd at eich adran gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Bro Morgannwg a ysgrifennwyd ar ôl i chi ddod i'ch swydd ar 3 Tachwedd. Mae'r ddau wedi'u llofnodi gan gynghorwyr Ceidwadol, ac mae'r ddau'n nodi bod eu hawdurdodau yn dymuno gweld newidiadau yn y fformiwla. Mewn gwirionedd, roedd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd John Thomas, yn galw am adolygiad llawn, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r gwactod amlwg hwn o ran ymgysylltu ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac a wnewch chi ymddiheuro wrth y cynghorau a ysgrifennodd at eich adran ynglŷn â'r fformiwla ariannu am fod mor barod i ddiystyru eu pryderon os gwelwch yn dda?
Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth—[Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth sydd ganddi, gan mai gennyf fi y cafodd yr ohebiaeth honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r cynnwys. Yr hyn a ddywedaf wrth yr Aelod yw ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflwyno fformiwla y mae llywodraeth leol yn awyddus i'w defnyddio er mwyn dosbarthu ein grant cynnal ardrethi yn deg i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Ni chafwyd unrhyw gynnig gan lywodraeth leol i wneud newidiadau sylweddol ac arwyddocaol i'r fformiwla honno. Yn amlwg, bydd yr is-grŵp dosbarthu yn edrych ar newidiadau ymylol i'r fformiwla drwy gydol y flwyddyn, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. A byddaf yn parhau i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ac arweinwyr cyllid mewn llywodraeth leol er mwyn trafod pa mor dda y mae'r fformiwla'n gweithio yn eu barn hwy ac a ydynt credu bod angen newid sylweddol neu arwyddocaol. Ond hyd yn hyn, nid yw llywodraeth leol wedi mynd ar drywydd y newid sylweddol ac arwyddocaol hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni roesoch y rhain i mi, yn dechnegol. Fe'u cefais o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth. Nawr, fe ddywedoch ddoe—[Torri ar draws.] Fe ddywedoch ddoe eich bod wedi bod yn siarad ag arweinwyr cynghorau ledled Cymru, ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod eich Papur Gwyrdd wedi achosi 'pryder a dryswch'. Yn ychwanegol at hynny, mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi na chafwyd unrhyw ymgysylltu neu drafodaeth ystyrlon â chynghorau mewn perthynas â hyn. Dyma enghraifft arall lle rydych yn dweud un peth yn y Siambr, ond mae'r realiti'n wahanol. Nid yw'r dull diofal hwn o gymryd awdurdodau lleol yn ganiataol, o gymryd ein pleidleiswyr yn ganiataol, a chymryd y Cynulliad hwn yn ganiataol, yn ddigon da. Mae'n peri digalondid. Mae'n peri blinder. Ac mae mwy a mwy o rwystredigaeth ynghylch eich cynigion i ddiwygio llywodraeth leol—am y trydydd tro dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nawr, onid ydych yn credu, fel yr Aelod o'r Cabinet—sy'n weddol newydd yn y swydd, rwy'n cydnabod hynny—fod gennych ddyletswydd, mae gennych ddyletswydd, i gael gwared ar y rhwystrau hyn, yn enwedig o ystyried y pwysau y mae eich Llywodraeth Lafur wedi'i roi ar ein hawdurdodau lleol, ac i ddarparu cynllun clir, strategol, a fu'n destun ymgynghori trylwyr ar gyfer llywodraeth leol, gydag ymrwymiad a chytundeb llwyr gan awdurdodau lleol cyn ei gyflwyno gerbron y Cynulliad hwn? Credaf mai dyna'r peth lleiaf y mae'r awdurdodau hynny'n ei haeddu. A wnewch chi hynny?
Rwy'n cael llawer o sgyrsiau gydag arweinwyr awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol. Ac mae pob un ohonynt yn dweud pethau gwahanol iawn, mewn gwahanol ffyrdd, ac yn mynegi eu hunain yn wahanol. Ond nid oes un ohonynt—dim un—gan gynnwys arweinydd Bro Morgannwg, mewn gwirionedd, wedi dweud wrthyf, 'Hoffwn pe baem—' neu 'Rydym am i chi gyflwyno polisïau Ceidwadol a'r polisïau Ceidwadol sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer llywodraeth leol yn Lloegr.' Dim un. Yn Lloegr, rydym wedi gweld llywodraeth leol yn cael ei datgymalu, yn cael ei thanseilio. Rydym wedi gweld cyllid llywodraeth leol yn gostwng 12 y cant mewn termau real ledled Lloegr. Yng Nghymru, rydym wedi gweld arian lleol yn cynyddu 4.4 y cant. Roedd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar y capasiti o fewn llywodraeth leol yn Lloegr, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, yn condemnio'r polisi yn Lloegr, polisi'r Ceidwadwyr ar gyfer llywodraeth leol. Yr hyn a wnawn yma yw cyflwyno cynigion i gryfhau a grymuso llywodraeth leol. Yr hyn a welwn yn Lloegr yw tanseilio llywodraeth leol. A gadewch i mi roi'r ymrwymiad hwn ichi, Lywydd: ni waeth pa gynigion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad a lansiwyd gennyf ddoe, yr hyn y byddwn yn ei ddefnyddio i brofi'r holl gynigion hynny yn ei erbyn yw, 'A yw hyn yn grymuso ac yn cryfhau llywodraeth leol?' Ac os ydyw, byddwn yn symud ymlaen. Ein gweledigaeth yw llywodraeth leol gadarn, llywodraeth leol weithredol, llywodraeth leol sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ni fyddwn byth yn dilyn llwybr y Ceidwadwyr o danseilio llywodraeth leol, tanariannu llywodraeth leol, a thanseilio arweinwyr awdurdodau lleol.
Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch enwi un arweinydd awdurdod lleol sydd wedi cefnogi'r cynlluniau hyn hyd yma? Nawr, mae CLlLC wedi sôn am y sicrwydd a roddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ad-drefnu yn mynd rhagddo am 10 mlynedd. Ddoe, fe ddinistriodd cynigion eich Papur Gwyrdd y sefydlogrwydd hwnnw, yn ogystal â'r hyder, y morâl ac unrhyw allu i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer y dyfodol. A gaf fi ofyn cwestiwn i chi hefyd? Ar ba bwynt y codwyd hyn gyda'ch cyd-Aelodau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, ac a allwch ddweud wrthyf heddiw hefyd a gawsoch gefnogaeth pob un o'ch cyd-Aelodau Cabinet i fwrw ymlaen â'ch cynigion?
Rwy'n dod yma i siarad ar ran Llywodraeth Cymru, nid i siarad ar fy rhan fy hun, ac roedd y broses a lansiwyd gennym ddoe yn un o brosesau'r Llywodraeth. Roedd yn un o brosesau'r Llywodraeth. Fe'i lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond gadewch i mi ddweud hyn, gadewch imi ddweud hyn: gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol cyn y Nadolig beth oedd eu huchelgeisiau ar gyfer llywodraeth leol. Gofynnais i'r holl arweinwyr llywodraeth leol anfon eu hawgrymiadau i mi ynghylch y pwerau, y rhyddid, yr hyblygrwydd, y cyfrifoldebau ychwanegol roeddent yn dymuno'u cael ar gyfer llywodraeth leol. Gofynnais iddynt amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol. A soniodd yr Aelod dros ogledd Cymru, dros Aberconwy, am arweinydd Bro Morgannwg, felly gadewch inni ddeall beth y gofynnodd arweinydd Bro Morgannwg amdano: camerâu awtomatig mewn meysydd parcio. Dyna weledigaeth y Ceidwadwyr ar gyfer llywodraeth leol. Nid yw'n fawr o weledigaeth; mae'n eithaf disylwedd. Ein gweledigaeth ni ar gyfer llywodraeth leol—[Torri ar draws.] Ein gweledigaeth ni ar gyfer llywodraeth leol yw cynghorau wedi'u grymuso sy'n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus cryf ac effeithiol, gan ddiogelu gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, diogelu gwasanaethau cyhoeddus a darparu cynghorau cryfach yn y dyfodol nag sydd gennym heddiw, gan ddatganoli pŵer o'r lle hwn ledled Cymru gyfan. Credaf fod cryn dipyn o gefnogaeth i'r weledigaeth honno yn y lle hwn a ledled y wlad.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Wel, dilynwch hynny, ynte? Yn ddiweddar, hysbysebwyd eiddo i'w rentu'n breifat gan asiantiaid eiddo Clee Tompkinson Francis yn fy rhanbarth i, ac rwy'n siŵr fod llawer wedi gweld yr hysbyseb, a oedd yn cynnwys y geiriau, 'Dim anifeiliaid anwes' a 'Dim hawlwyr budd-daliadau' yn yr un frawddeg. Gwn fod pobl eraill wedi hysbysebu yn yr un modd ar Facebook, ond roeddent yn gweithredu'n breifat wrth wneud hynny. A ydych yn cytuno â mi bod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn wahaniaethol? Gallech awgrymu bod cymhariaeth yno rhwng pobl ag anifeiliaid anwes a'r modd y gwahaniaethir yn erbyn pobl wedyn os ydynt am geisio deiliadaeth yn y sector rhentu preifat.
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r sector rhentu preifat i gael gwared ar y rhwystrau a welwn mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yn darparu tai ar gyfer pobl sy'n derbyn budd-daliadau.
Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, rwy'n awyddus i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran yn darparu tai i bobl a ddaw'n syth oddi ar y strydoedd. Ac rydym yn gallu gwneud hynny drwy ein dull tai yn gyntaf, sydd eisoes yn golygu bod rhai pobl yn dod oddi ar y strydoedd yn syth i'r sector rhentu preifat. Rydym yn gallu gwneud hynny am fod Llywodraeth Cymru yn darparu bondiau, er enghraifft, sy'n cael gwared ar yr elfen o risg ar gyfer y sector rhentu preifat o ran darparu tai i bobl nad oes ganddynt hanes o ddeiliadaethau ddiogel. Ond yn sicr, nid wyf am weld unrhyw arferion gwahaniaethol ar waith mewn unrhyw ran o'r sector, ac rwy'n rhannu eich pryderon difrifol ynghylch pobl nad ydynt am ddarparu tai i bobl sy'n derbyn budd-daliadau am resymau gwahaniaethol.
Diolch am eich ateb. Gan barhau ar hyn, rwyf wedi trafod y mater gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a dywedasant wrthyf fod hyn yn ymwneud yn aml ag yswiriant neu forgais, sy'n bolisi a osodwyd arnynt gan Lywodraeth y DU. Fy mhryder i, gyda chymaint o ansicrwydd o ran swyddi a chan mai'r sector rhentu preifat yw'r unig opsiwn i lawer o bobl, yw nad yw'r gwahaniaethu yn erbyn pobl ar gredyd cynhwysol, er enghraifft, yn ymarferol bosibl iddynt. Er enghraifft, pe bai rhywun yn colli swydd, neu mewn gwaith rheolaidd ond dros dro a'i bod yn ofynnol iddynt ailgychwyn hawliad credyd cynhwysol o bryd i'w gilydd, a yw'r unigolyn hwnnw'n mynd i'w chael hi'n anodd naill ai i rentu cartref yn y lle cyntaf neu i fentro peidio â chael tenantiaeth wedi'i hadnewyddu oherwydd eu hanes gwaith?
Felly, roeddwn am ofyn i chi yma heddiw a fyddech yn ymrwymo i gyflwyno sylwadau i fanciau, cwmnïau yswiriant a sector rhentu preifat yn y DU i geisio canfod ffordd o newid yr ymddygiad hwn, ac a wnewch chi gyflwyno sylwadau i'ch swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU er mwyn egluro bod Llywodraeth Cymru yn credu bod y polisïau hyn, yn y pen draw, yn anghynaladwy, yn wahaniaethol ac yn afrealistig, hyd yn oed, yn yr hinsawdd bresennol?
Diolch. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwy'n ysgrifennu, yn aml iawn, at Lywodraeth y DU i fynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn â nifer o agweddau ar weithredu credyd cynhwysol, yn enwedig yr effaith y mae'n ei chael o ran ôl-ddyledion rhent a'r cynnydd a welwn ar draws yr holl sectorau deiliadaeth o ganlyniad i weithredu credyd cynhwysol.
Un peth rwy'n awyddus iawn i'w weld yw Llywodraeth y DU yn bod yn rhagweithiol a chynnig taliadau amgen i bobl, sef taliadau uniongyrchol i'w landlordiaid yn hytrach nag iddynt hwy eu hunain, pan fyddant yn cael eu trafodaethau cyntaf gyda'u hyfforddwyr gwaith. Nid yw hynny yn y templed a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond rydym wedi cael trafodaethau uniongyrchol da iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar sail leol i sicrhau eu bod yn cael sgyrsiau ystyrlon â phobl ynglŷn â'u dewisiadau o ran derbyn y taliadau hynny. Felly, yn hytrach na dweud, 'A hoffech chi daliad amgen?' maent yn cael gwybod beth y mae hynny'n ei olygu iddynt yn ymarferol, gan mai cysyniad yn unig yw taliadau amgen, mewn gwirionedd, os ydych yn cael trafodaeth heb ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi yn eu cyfanrwydd.
Ond unwaith eto, mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru berthynas waith gadarn gyda'r sector rhentu preifat, y banciau a chwmnïau yswiriant, ac yn sicr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion gynnal trafodaethau gyda hwy ynglŷn â hyn.
Iawn. Diolch. Wel, edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw, gan y credaf ei fod yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y cywair ar gyfer sut y mae pobl yn trin ei gilydd mewn cymdeithas hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn awyddus iawn i glywed mwy amdano.
Gan aros gyda'r sector rhentu preifat, er mwyn datrys heriau digartrefedd a sicrwydd tai, bydd angen i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran, ac rydym wedi cael cryn dipyn o drafod yn ddiweddar ar dai yn gyntaf a'r cynlluniau peilot sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â mater cymorth parhaus i rai yn y sector rhentu preifat. A fyddai modd ichi ystyried sut y byddech yn gweithio yn y cynlluniau peilot hyn er mwyn helpu pobl sy'n derbyn budd-daliadau mewn perthynas â thai yn gyntaf? Er enghraifft, mae llawer o bobl yn gallu byw'n annibynnol ac yn gallu gweithio o bosibl, ond efallai fod materion personol eraill yn golygu nad yw'r unigolyn hwnnw bob amser yn dda am dalu biliau, efallai eu bod yn wynebu heriau iechyd meddwl o bryd i'w gilydd ac felly maent yn peryglu eu hunain yn y sefyllfa rhentu preifat honno. Felly dyna pam nad yw rhai landlordiaid preifat, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cynnig y tenantiaethau i bobl yng Nghymru, gan eu bod yn ofni goblygiadau hynny, a'r ffaith nad oes ganddynt yr un lefel o gefnogaeth ag y gall tai cymdeithasol ei darparu mewn perthynas ag iechyd meddwl neu gymorth cofleidiol. Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn, pan fyddwch yn edrych ar y datblygiadau tai yn gyntaf, yw eich bod hefyd yn ystyried y sector rhentu preifat fel rhan annatod o hyn ac yn siarad â'r sector ynglŷn â sut y gallant fod yn rhan o'r drafodaeth.
Diolch yn fawr am hynny, a rhoddaf ymrwymiad i chi ein bod yn ystyried y sector rhentu preifat yn ganolog i'r gwaith o gyflawni ein dyheadau uchelgeisiol mewn perthynas â thai yn gyntaf. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu fy mod wedi cael cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda Tai Pawb, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio creu cynnig tai yng Nghymru, os mynnwch, sy'n hygyrch i bawb. Mae Tai Pawb wedi gwneud rhywfaint o waith mewn dwy ardal awdurdod lleol gyda'r sector rhentu preifat yn uniongyrchol, i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid preifat ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ac i gael gwared ar y rhwystrau sydd ganddynt mewn perthynas, efallai, â syniadau rhagdybiedig ynglŷn â beth y gall cymhorthion ac addasiadau ei olygu i werth eu heiddo, ac ati. Roedd Tai Pawb yn arbennig o gadarnhaol ynglŷn â'r trafodaethau a gawsant gyda'r sector rhentu preifat yn y ddwy ardal. Felly yn sicr, ceir cyfleoedd i ddysgu o'r hyn y maent wedi'i wneud yn y ddwy ardal o ran y mathau o sgyrsiau y mae'n rhaid inni eu cael, mewn gwirionedd, gyda'r sector rhentu preifat i gynyddu hyder ac agor drysau i bobl sy'n anabl neu sydd â nodweddion gwarchodedig eraill.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ddychwelyd at fater diwygio llywodraeth leol y buom yn ei drafod ddoe. Roedd yna faterion amrywiol yn deillio o hynny. Soniodd Mike Hedges, eich cyd-Aelod, y bydd amrywiadau poblogaeth sylweddol o hyd, hyd yn oed ar ôl eich ad-drefnu arfaethedig, gyda phoblogaethau gwahanol iawn mewn gwahanol gynghorau.
Ar hyn o bryd, mae gan Rhondda Cynon Taf un o'r poblogaethau mwyaf o blith y 22 cyngor presennol, gydag oddeutu 240,000 o bobl. Pe baech yn cyfuno Rhondda Cynon Taf â Merthyr Tudful, sef eich cynnig presennol—neu ran o'ch cynnig presennol—byddai hynny'n ychwanegu 60,000 o bobl. Pe baech yn ychwanegu Pen-y-bont ar Ogwr hefyd, sydd hefyd yn rhan o'ch cynllun arfaethedig fel y mae ar hyn o bryd, byddai gennych gyngor arfaethedig gyda phoblogaeth o bron i 0.5 miliwn o bobl. Mae gan Rondda Cynon Taf hefyd oddeutu 30 o wardiau un aelod, a byddai'r mwyafrif ohonynt yn cael eu llyncu, mae'n debyg, neu eu cyfuno wedi'r ad-drefnu. Felly, sut y gallwn gadw synnwyr o leoliaeth ac atebolrwydd lleol pan na fydd gan ardaloedd fel Ffynnon Taf, Pentre'r Eglwys, Llantrisant—nid wyf yn sôn am yr union leoedd hyn, ond cymunedau tebyg iddynt yn sicr—eu cynghorydd eu hunain yn gwasanaethu'r lle hwnnw yn unig?
Credaf fod yr her a amlinellwyd gan lefarydd UKIP yn un dda, ac nid wyf yn anghytuno ag ef ynglŷn â'r heriau a amlygwyd. Nid wyf yn credu, ac nid wyf erioed wedi honni, fod y Llywodraeth yn credu bod siâp delfrydol a maint delfrydol i lywodraeth leol. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw cyhoeddi map dangosol a fydd yn ystyried siapiau posibl ar gyfer strwythurau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro i'r Aelodau ddoe fy mod yn fwy na pharod ac yn fodlon iawn cael trafodaethau pellach ynglŷn â'r holl faterion gwahanol hynny. Mae hon yn broses Papur Gwyrdd: mae'n sgwrs, yn ymgynghoriad, yn ddadl, yn drafodaeth; nid yw'n bolisi Llywodraethol gorffenedig ac nid yw'n safbwynt dogmatig neu'n safbwynt penderfyniadol ynglŷn â'r hyn y dylem ei weld yn y dyfodol. Rwy'n awyddus i ystyried beth sy'n bosibl, gan sicrhau cydbwysedd rhwng y math o leoliaeth a ddisgrifiwyd yma a'r meintiau i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus cadarn o ansawdd uchel, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried y ffordd orau o wneud hynny.
Rwy'n falch o glywed eich bod yn agored i drafod a gobeithio y cawn sgwrs dda, gan gynnwys llawer o gyfranwyr, ynglŷn â ble rydym yn anelu tuag ato wrth ddiwygio llywodraeth leol. A bod yn deg, credaf y bydd yna elfen ddadleuol i unrhyw beth a wnewch. Mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth. Ni allwch wneud omlet heb dorri wy, fel petai. Ond gan ddychwelyd at bryderon penodol—[Torri ar draws.]. Wel, gwn fod mwy nag un. Gallwn ofyn naw cwestiwn ynglŷn â hyn, ond fe'm cyfyngwyd i dri. [Torri ar draws.] O, wyau. O'r gorau, iawn.
Beth am ddychwelyd at y cwestiynau. Bro Morgannwg, er enghraifft—dyma un arall. Mae gennym atebolrwydd gwleidyddol hefyd. Mae hwn yn fater arall, gan y credaf mai'r hyn sydd arnom ei angen, i'r graddau mwyaf posibl, yw etholiadau cystadleuol yn y cynghorau newydd, yn hytrach na chreu gwladwriaethau un blaid, efallai, os meiddiaf ddweud hynny. Nawr, i roi enghraifft bosibl, mae Bro Morgannwg bob amser wedi bod yn gyngor hynod gystadleuol. Mae'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr wedi'i reoli dros y blynyddoedd diwethaf. Ond pe baech yn ei uno â Chaerdydd, sydd, rwy'n cymryd, yn ddim byd ond cynnig—rwy'n deall hynny, Weinidog, ond dyna yw'r cynnig presennol—pe baech yn uno'r Fro â Chaerdydd, byddai perygl iddo droi'n barth diogel i'r Blaid Lafur. Nawr, nid wyf yn siarad yn benodol am y Blaid Lafur na'r Ceidwadwyr oherwydd, fel y gwyddoch mae'n debyg, nid wyf yn perthyn i'r naill blaid neu'r llall, ond dyma'r pwynt: a oes perygl y bydd cyngor yn cael ei redeg yn wael os oes gan un blaid wleidyddol afael haearnaidd ar y cyngor hwnnw? Ac a ydych yn cydnabod, Weinidog, fod perygl y gallem fod yn anelu tuag at sefyllfa o'r fath, mewn rhai achosion, o dan eich cynlluniau arfaethedig?
Na. Na, nid wyf yn cydnabod hynny, ac yn sicr, buaswn yn gobeithio gweld etholiadau cystadleuol a democratiaeth gystadleuol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, hyd yn oed.
Wel, mae Blaenau Gwent yn enghraifft ddiddorol, gan mai'r cynnig bellach yw eu cyfuno hwy â Sir Fynwy a Thorfaen. Nawr, y tro diwethaf, clywsom fod Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cynnig uno'n wirfoddol—credaf fod Lynne Neagle wedi sôn am hyn ddoe—ond gwrthodwyd yr uno gwirfoddol hwnnw. Felly, credaf fod hon yn enghraifft yn y gorffennol lle nad oedd un o'ch rhagflaenwyr mor barod i ymgynghori ag y dylai fod, o bosibl. Felly, gobeithio y byddwch yn dilyn trywydd gwahanol os cawn gynnig gwirfoddol, yn cynnwys Torfaen a Blaenau Gwent efallai. Gobeithio y byddech yn ei ystyried, efallai, yn fwy ffafriol nag y gwnaeth Leighton Andrews.
Gan barhau at fy nhrydydd cwestiwn, cyflwynwyd dadl heddiw gan arweinydd Bro Morgannwg, a grybwyllwyd yn gynharach—John Thomas. Mae'n gwneud pwynt penodol, sef bod y Fro, ar hyn o bryd—dyma mae'n ei honni—yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau. Felly, ni wnaf unrhyw sylwadau ar hynny, ond fy nghwestiwn yw: a fyddwch yn ystyried dangosyddion perfformiad wrth i chi edrych ar y cynigion, ac i ba raddau y byddant yn effeithio ar eich ystyriaethau terfynol o ran yr uno?
Dros y misoedd nesaf, rwy'n gobeithio y byddwn yn dadlau ac yn trafod gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, yn hytrach na'r dull o gyflawni'r weledigaeth honno yn unig. Yr hyn y ceisiais ei nodi ddoe, a'r hyn yr hoffwn ei nodi dros y misoedd nesaf, yw gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol lle mae llywodraeth leol yn fwy pwerus nag y mae heddiw, yn gryfach nag y mae heddiw, lle mae ganddi unedau llywodraethu mwy cadarn, a'r gallu i ddarparu ystod ehangach o bwerau. Nid wyf yn awyddus i ddadlau gyda'r honiad ein bod yn adeiladu ar ludw. Nid wyf yn awyddus i ddadlau mai'r cyfan a wnawn yw unioni methiant. Nid wyf yn awyddus i gael dadl ar y telerau hynny. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud yn glir droeon nad yw'r strwythurau presennol yn gynaliadwy. Nid oes unrhyw un y siaradais â hwy wedi dadlau dros gael 22 o awdurdodau.
Felly, mae pawb yn cytuno na allwn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Mae pawb yn cytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Yr hyn sydd angen inni ei wneud, felly, yw dadlau a thrafod sut y dylem fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn edrych y tu hwnt i ddadl ynghylch uno fel y gallwn gael dadl ynghylch pa fath o unedau llywodraethu rydym yn dymuno'u gweld yng Nghymru yn y dyfodol. Sut rydym yn datganoli pwerau o'r lle hwn? Sut rydym yn grymuso cymunedau lleol? A sut rydym yn ymgorffori atebolrwydd democrataidd? Rwy'n awyddus i gael y ddadl gadarn a chyfoethog honno ynghylch dyfodol llywodraeth leol. Credaf fod gennym botensial i greu adfywiad gwirioneddol mewn perthynas â llywodraeth leol ledled Cymru gyfan, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu a chyflawni'r weledigaeth honno.