8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol

– Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:07, 18 Ebrill 2018

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol.

Cyn inni drafod y cynnig yma, rwyf am wneud fy safbwynt yn glir ynghylch ei gyfreithlondeb. I ddechrau, mae'r cynnig hwn mewn trefn ac, yn ail, mae'r pŵer yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, heb amheuaeth, yn eang, a dyna pam mai dim ond o ganlyniad i bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yma y gellir ei weithredu. Rwy'n disgwyl i Aelodau i barhau i ddefnyddio adran 37 yn gymesur, felly, ac yn rhesymol. Rwy'n galw nawr ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig. Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM6702 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.

2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.

3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:08, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gynnig y ddadl sydd ar y papur trefn y prynhawn yma yn enw Paul Davies. Ac yn benodol, mae'n werth myfyrio'n fyr iawn ar ddigwyddiadau ddoe—ein bod wedi wynebu'r posibilrwydd na fyddai'r ddadl hon yn digwydd mewn gwirionedd.

Yn benodol, os caf dynnu sylw'r Cynulliad at y llythyr a anfonwyd at y Llywydd, yn enwedig pwynt tri a nododd fod y Llywodraeth yn credu nad oedd y Swyddfa Gyflwyno a'r Llywydd yn gweithredu'n anghyfreithlon yn derbyn y cynnig hwn. Dyna oedd yn y llythyr a gyflwynwyd. Fel rwy'n deall, cafodd ei ddatgelu heb ganiatâd i'r wasg wedyn, sydd braidd yn eironig a dweud y lleiaf, ein bod yn cael ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd a dyma lythyr wedi'i ddatgelu heb ganiatâd, y credaf iddo ddod o'r Llywodraeth, fel rwy'n deall, i'r cyfryngau. Felly, tybed a gawn ni ymchwiliad Ysgrifennydd Parhaol i'r llythyr penodol hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd. Ond mae'n werth myfyrio ar y math o iaith a welwch ar y dudalen gyntaf—nid 'o'r farn' ei fod yn anghyfreithlon; mae'n dweud wrth y Llywydd ei 'fod yn' anghyfreithlon. Mae hynny, yn bendant, yn amgylchedd bygythiol iawn i fynd i geisio'i greu ynghylch dadl yma yn y Cynulliad.

Hoffwn ganolbwyntio ar dri maes, os caf. Dros y tri mis diwethaf, y dadleuon amrywiol a gyflwynodd y Llywodraeth i geisio atal yr adroddiad hwn rhag cael ei gyhoeddi wedi'i olygu. Daeth y gyntaf ym mis Ionawr gan y Prif Weinidog, pan holais ef mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch preifatrwydd a chyfrinachedd tystion a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw—ac rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid glynu wrth hynny, a dyna pam ein bod, yn y cynnig heddiw, wedi dweud y dylai'r adroddiad fod ar gael ar ffurf wedi'i golygu, i wneud yn siŵr fod y cyfrinachedd hwnnw'n cael ei sicrhau ac uwchlaw popeth, sicrwydd a diogelwch tystion sy'n teimlo y gallent gael eu bygwth pe bai eu henwau'n cael eu rhoi, er fy mod braidd yn amheus o ble y gallai'r bygythiadau ddod pe bai'r enwau hynny'n dod yn gyhoeddus. Ac rwy'n gresynu at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi dweud, yn ei ddewis ef o iaith yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ar y pryd, pan oedd yn ymateb i mi,

'Yr hyn y mae e'n gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ei wneud—oherwydd ei phenderfyniad hi yw hwn—yw datgelu pwy yw'r bobl hynny, i'r dystiolaeth gael ei rhoi ar gael a'u henwau. Byddai cam o'r fath, mae'n rhaid i mi ddweud, yn waradwyddus ac yn anonest, a byddai'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.'

Rwy'n gwrthod hynny. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr, a chyfeiriaf y Cynulliad at adroddiad ymchwiliad Hamilton a ryddhawyd, yn arbennig cymal 22 yn adroddiad ymchwiliad Hamilton ddoe, a ddangosai'n glir sut yr aeth Hamilton ati i ddiogelu cyfrinachedd tystion yn yr adroddiad hwnnw. Felly, yn amlwg mae hynny'n ateb y pwynt y gallwch ddarparu adroddiad a diogelu cyfrinachedd tyst lle y darparwyd enw'r tyst.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:11, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ildio?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

A all yr Aelod nodi unrhyw enghraifft o Lywodraeth San Steffan yn cyhoeddi adroddiad i ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd? Rwy'n tybio na all, oherwydd mae'n gwybod yn iawn nad yw unrhyw Lywodraeth yn San Steffan, o unrhyw blaid, yn cyhoeddi ymchwiliadau i wybodaeth a ddatgelwyd heb ganiatâd. Felly, pam y mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nad yw Llywodraeth ei blaid ei hun yn Llundain yn ei wneud?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn awgrymu wrth yr Aelod dros Lanelli fod y rhain yn amgylchiadau unigryw. Gofynnais i'r Llywydd roi enghreifftiau i mi y mae'n cyfeirio atynt yn ei llythyrau at Aelodau Cynulliad ynghylch yr anallu i ddarparu'r adroddiad. Mae'r rhain yn set unigryw o amgylchiadau a arweiniodd, yn anffodus, at edrych ar farwolaeth unigolyn. Mae'n hanfodol bwysig, fel Aelodau Cynulliad, ein bod yn gallu craffu ar weithredoedd yr ymchwiliadau hyn a bod yn fodlon fod yr ymchwiliadau wedi edrych ar ac wedi dilyn pob trywydd posibl. A thynnaf sylw'r Aelodau at y cynnig heddiw sy'n datgan yn benodol 'at ddibenion y Cynulliad', h.y. Aelodau'r Cynulliad. Ceir llawer o ddarpariaethau y gellid eu rhoi ar waith er mwyn i'r adroddiad hwn fod ar gael i Aelodau'r Cynulliad ddarllen ac ystyried yr adroddiad hwn, mewn fersiwn wedi ei golygu, a fyddai'n diogelu cyfrinachedd unigolion sydd wedi rhoi tystiolaeth.

Nawr, dyna un ddadl a gyflwynwyd yn ôl ym mis Ionawr. Ym mis Chwefror, pan gawsom y cynnig yma a gymeradwywyd gan Aelodau'r Cynulliad, y ddadl nesaf a ddefnyddiwyd gan arweinydd y tŷ yn ei hateb i mi—mewn ateb byr iawn, hoffwn ychwanegu, i'r ddadl honno. A dyma oedd ei hymateb i mi:

Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r adroddiad hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd; mae'n ymwneud â chywirdeb ymchwiliadau yn y dyfodol ac adroddiadau a ddatgelir heb ganiatâd yn y dyfodol.

Ond yma, ceir yr elfen ychwanegol o ymchwiliadau parhaus, ceir risgiau posibl pellach i gywirdeb cyffredinol y broses os caiff gwybodaeth ei gwneud yn gyhoeddus ar sail dameidiog.

Wel, ddoe, daeth adroddiad Hamilton gerbron. Rwy'n croesawu'r ffaith fod yr adroddiad hwnnw wedi ei ryddhau'n gyhoeddus i Aelodau ei ddarllen a'i weld, ond rhaid imi ddweud, os mai dyna'r ail ddadl i'r Llywodraeth ei defnyddio i atal yr adroddiad hwn rhag cael ei gyhoeddi, yna rydych wedi gwneud niwed mawr iddo, yn amlwg, drwy sicrhau bod adroddiad ymchwiliad Hamilton ar gael. Rwy'n croesawu canlyniad yr ymchwiliad hwnnw, sy'n dweud nad yw'r Prif Weinidog wedi gwneud dim o'i le o ran ffocws penodol yr ymchwiliad hwnnw ar gamarwain y Cynulliad. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith nad erlid y Prif Weinidog yw hyn, fel y mae pwynt 48 yr adroddiad hwnnw'n nodi'n glir, pan ddywed na chafodd unrhyw honiad—ni chafodd unrhyw honiad—ei wneud yn erbyn y Prif Weinidog am fwlio neu weithredu difrïol ar ei ran. Ac felly, nid yw hyn yn ymwneud ag erlid y Prif Weinidog, ond hefyd hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith, os mai honno oedd yr ail ddadl a wnaed, sef y byddai rhyddhau gwybodaeth i'r cyhoedd yn ddull tameidiog o ymdrin â hyn ac y byddai'n peryglu ymchwiliadau yn y dyfodol, pam y cafodd Hamilton ei drin yn wahanol?

Rwy'n awgrymu mai'r trydydd pwynt, yn amlwg, yw'r pwynt a wnaed ddoe mewn perthynas â'r dadleuon cyfreithiol a wnaeth y Llywodraeth ynghylch arfer darpariaeth Llywodraeth Cymru. A gellir rhoi hynny, unwaith eto, i un ochr yn sgil y cyngor cyfreithiol a roddwyd i'r Aelodau yma yn y Cynulliad. Ceir gwahaniaeth barn yma. Mae'r Llywodraeth yn credu y byddai llywodraeth yn dod i stop pe bai'r cynnig hwn, yn amlwg, yn pasio y prynhawn yma, ac na fyddent yn gallu gwneud eu gwaith mewn gwirionedd. Y cyngor cyfreithiol a roddwyd—ac fe ddarllenaf hyn air am air—yw na roddodd y Senedd bŵer cwbl benagored i'r Cynulliad. Rhoddodd fesur diogelu lle mae'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid cynnig. O dan adran 37(8), nid yw person yn gorfod dangos unrhyw ddogfen y byddai hawl ganddo ef neu ganddi hi i wrthod ei dangos at ddibenion achosion llys yng Nghymru a Lloegr. Ceir nifer o amgylchiadau lle y gallai hyn fod yn berthnasol. Er enghraifft, ni fyddai'n rhaid datgelu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru yn unol â'r ddarpariaeth hon, na chyfrinachedd masnachol chwaith. Gallwn fynd ymlaen. A gallwn fynd ymlaen i ddweud, fel rwyf wedi nodi wrth yr Aelod dros Lanelli, y ceir amgylchiadau megis amgylchedd ystafell ddarllen y gellid ei sicrhau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad i ateb darpariaethau a gofynion y cynnig ger ein bron. Oherwydd mae'r cynnig ger ein bron yn gofyn am gynhyrchu'r adroddiad at ddibenion y Cynulliad. Felly, mae defnyddio'r ddadl gyfreithiol y byddai'r Llywodraeth yn dod i stop pe bai'r cynnig hwn yn cael ei dderbyn heddiw yn nonsens—yn nonsens pur.

Nawr, efallai y bydd chwip y Llywodraeth yn sicrhau'r bleidlais heddiw i atal y cynnig hwn rhag cael ei dderbyn. Gobeithio na wnaiff. Gobeithio y bydd Aelodau unigol yn pleidleisio ar gryfder y ddadl sydd ger eu bron, ond os yw'r chwip yn sicrhau'r bleidlais honno, ni fydd yn cyflawni'r hyn sy'n foesol gywir yma, sef y gallu i gael yr adroddiad hwn ochr yn ochr ag adroddiadau eraill a gomisiynwyd fel y gallwn fod yn fodlon fod pob llwybr ymchwilio wedi'i ddihysbyddu er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn fynd at wraidd y ddadl a'r drafodaeth, a gwneud rhywfaint o synnwyr yn y pen draw o'r drychineb a arweiniodd at farwolaeth aelod o'r sefydliad hwn. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw, sy'n ceisio'r tryloywder hwnnw yma yng nghartref democratiaeth Cymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:17, 18 Ebrill 2018

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw, felly, ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Yn ffurfiol, felly. Adam Price.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae hon yn ddadl fer y gallai ei chanlyniad arwain at effeithiau hirdymor. Nawr, yn ôl pob golwg, mae'n ymwneud â chyhoeddi adroddiad penodol—set benodol o amgylchiadau—sydd, wrth gwrs, yn seiliedig ar drasiedi bersonol. Fodd bynnag, mae ei harwyddocâd hefyd yn mynd yn llawer pellach na hynny. Dylwn ddweud, ar y cychwyn, nad oes gennyf unrhyw ddisgwyliadau afrealistig y bydd cyhoeddi'r adroddiad hwn yn ateb yr holl gwestiynau ynghylch yr achos hwn, na hyd yn oed yn yr agwedd hon ar yr achos. Mae ymchwiliadau i ryddhau gwybodaeth heb ganiatâd yn tueddu, oherwydd eu natur, i fod yn yn amhendant. Fel y dywedodd Syr Humphrey Appleby wrth Jim Hacker yn Yes Minister, rwy'n credu, gorchwyl ymchwiliad mewnol a gynhaliwyd yn broffesiynol yw datgelu llwyth mawr o ddim tystiolaeth. Nawr, er gwaethaf hynny—. Mae Lee Waters yn iawn, wrth gwrs. Nid yw llywodraethau byth yn hoffi—. Maent yn hoffi cyhoeddi ymchwiliadau i wybodaeth a ddatgelir heb ganiatâd, nid ydynt yn hoffi cyhoeddi'r adroddiad, gan fod y cynnwys bron bob amser yn fwy diddorol na'r casgliadau. Yn lle crynhoi'r ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd wrth wraidd mater Westland wrth siarad yn Nhy'r Cyffredin, pe bai Margaret Thatcher wedi cyhoeddi'r adroddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, yna mentraf ddweud y byddai Geoffrey Howe wedi dod yn Brif Weinidog erbyn 6 o'r gloch, fel yr oedd hi wedi'i ddarogan i'w chydweithwyr. Nawr, ceir rhai eithriadau. Damian Green—yr adroddiad gan y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd ynghylch yr ymchwiliad i'r datgelu heb ganiatâd yn 2009, fe gredaf. Ymchwiliad Alistair Carmichael i'r datgelu heb ganiatâd yn 2015—ni chawsom yr adroddiad llawn gan y Llywodraeth, ond roedd yna grynodeb fanwl tu hwnt mewn gwirionedd, a nodai'r broses a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Nawr, rwy'n derbyn mai adroddiad wedi'i olygu fydd hwn drwy ddiffiniad, ond hyd yn oed wedyn, drwy ddiffiniad, bydd hi bron yn bosibl casglu o leiaf fwy o wybodaeth nag sydd gennym ar hyn o bryd o'r ddau baragraff byr a gawsom gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Nawr, rwy'n credu bod y dadleuon o blaid cyhoeddi yn fwy sylfaenol. Maent yn ymwneud ag egwyddorion Llywodraeth agored, maent yn ymwneud ag atebolrwydd seneddol, ac maent yn cyffwrdd â'r bennod dywyll, rwy'n credu, yng ngwleidyddiaeth Cymru y cawn ein hunain ynddi ar hyn o bryd.

Ar werth tryloywder, Louis Brandeis—yr unig sosialaidd erioed i gael ei benodi i'r Goruchaf Lys, dyn a raddiodd yn y gyfraith o Harvard, ond peidiwch â gadael i ni ddal hynny yn ei erbyn—a lefarodd y geiriau enwog:

Dywedir mai golau haul yw'r diheintydd gorau; a golau trydan yw'r plismon mwyaf effeithlon.

Os ceir amheuon dilys ynghylch mater pwysig sy'n destun trafod a dadlau cyhoeddus, y ffordd orau o chwalu'r amheuon hynny yw cyhoeddi, a'r ffordd sicraf o gynnal yr amheuon yw gwrthod. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi cynnig y ddadl y bydd yna bob amser gategori o wybodaeth na ellir ei ryddhau oherwydd ei natur, ac yn gyffredinol, mae hynny'n wir wrth gwrs, ond mae'n wir hefyd, ar faterion mawr sydd wedi dod yn destun dadl genedlaethol, y dylai buddiannau sylfaenol tryloywder ac atebolrwydd ennill bob amser yn y pen draw dros awydd y weithrediaeth am gyfrinachedd. Ac yn achlysurol, mae'n rhaid i Seneddau atgoffa Llywodraethau, fel y dadleuodd Ralph Nader yn gyntaf, mai:

Gwybodaeth sy'n gyrru democratiaeth. Rhaid i unrhyw gamau i'w gwrthod godi amheuon.

Nawr, mae'r hawl i alw am bobl a phapurau wedi'i hymgorffori yn y traddodiad seneddol. Yn ein hachos ni, mae wedi'i ysgrifennu mewn statud yn hytrach nag Erskine May, ond yr un egwyddor ydyw ag a ysgogwyd gan yr wrthblaid swyddogol yn San Steffan wrth wneud cynnig fis Tachwedd diwethaf a orfododd Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei hastudiaethau o effaith Brexit, a chydsyniodd y Llywodraeth â hynny pan dderbyniwyd y cynnig. Ni ellid dychmygu swyddogion y gyfraith yn gorymdeithio i swyddfa'r Llywydd yn San Steffan, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol i'n Llywydd ni, i gyhoeddi bygythiad o achos cyfreithiol. Am y rheswm hwnnw'n unig, buaswn yn dadlau bod yn rhaid inni dderbyn y cynnig hwn fel symbol ein bod yn gwrthod cael ein bwlio i gyfaddawdu gan Weithrediaeth drahaus.

Nawr, y rheswm olaf pam y mae'n rhaid derbyn y cynnig hwn yw er mwyn gwella'r clwyfau dwfn presennol yng nghorff gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r rhain yn amseroedd tywyll. Mae Hamilton yn cyfeirio at yr awyrgylch gwenwynig yn Llywodraeth Cymru. Beth bynnag yw eich barn am y cyhuddiad penodol hwnnw, rydym yn sicr mewn lle tywyll, mewn cyfnod tywyll. Mae coctel gwenwynig yn erydu ymddiriedaeth oddi mewn a chan y cyhoedd yn sefydliadau ein democratiaeth, pa un a yw'n onestrwydd neu uniondeb Llywodraeth, natur ddiduedd y gwasanaeth sifil, neu allu'r Senedd hon i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif—mae'r cwestiynau hyn yn chwyrlïo drwy feddyliau pobl.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, ac mae'n bwysig inni fod yn deg ynglŷn â hyn, fod ymchwiliad Hamilton yn rhyddhau'r Prif Weinidog o fai ar y cwestiynau a roddodd i Mr Hamilton. Fodd bynnag, credaf ei bod hi'n deg dweud hefyd nad yw'r adroddiad yn peintio darlun hapus iawn o ddiwylliant Llywodraeth, a buaswn yn dweud mai'r cam cyntaf wrth symud ymlaen yw diwylliant newydd o onestrwydd, waeth pa mor boenus, ac anghyfleus weithiau, y gallai'r gonestrwydd hwnnw fod.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:22, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn meddwl bod arweinydd yr wrthblaid, gyda sgiliau fforensig, wedi chwalu dadleuon tila'r Llywodraeth yn erbyn cyhoeddi'r adroddiadau hyn. Yn sicr roedd yn syfrdanol darllen y llythyr a ddatgelwyd heb ganiatâd a gefais ychydig funudau cyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, yn bygwth camau cyfreithiol yn erbyn y Llywydd. Eto, clywais wedyn, ychydig funudau ar ôl imi ddarllen y dudalen honno, y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn derbyn nad oes unrhyw bŵer i atal y lle hwn rhag cael y ddadl yr oedd yn ceisio'i hatal drwy gyfrwng camau cyfreithiol.

Nid wyf yn gwybod sut y byddai camau cyfreithiol wedi cael eu rhoi ar waith pe bai wedi llwyddo i berswadio barnwr o gywirdeb ei achos, barnwr a fyddai wedi ymddangos yma, fel tipstaff uchel lys, i arestio'r Llywydd neu unrhyw rai eraill a geisiai arfer ein hawliau democrataidd i roi ein barn ar sut yr oedd y Llywodraeth yn ymddwyn ar unrhyw fater o gwbl. Roeddwn yn meddwl ei fod yn atgynhyrchiad eithriadol o'r math o agwedd a welsom ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn y 1640au, pan gollodd brenin trahaus ei ben yn y pen draw oherwydd ei fod yn amharod i dderbyn hawl y bobl i drafod drostynt eu hunain yr hawliau yr oeddent wedi'u hetifeddu gan y cenedlaethau blaenorol.

Rwy'n credu ei bod yn berffaith amlwg o adroddiad James Hamilton y gellir golygu'r materion hyn mewn ffordd sy'n diogelu cyfrinachedd unigolion, er nad yw eu henwau'n gyfrinachol mewn gwirionedd beth bynnag, gan ein bod i gyd yn gwybod am bwy rydym yn sôn yn yr achos hwn a phwy yw'r bobl a ddrwgdybir fwyaf. Ond yr anhawster yn aml yw profi hyn o ganlyniad i ddiffyg tystiolaeth, oherwydd, mewn diwylliant omertà, nid oes neb yn barod i siarad a dweud y gwir.

Nid wyf yn gweld pam na allwn gael rhywbeth yn debyg i'r system o ddarllen dogfennau a chael trafodaethau ar delerau'r Cyfrin Gyngor yn y Cynulliad hwn, lle'r ydym yn ymddiried yn ein gilydd i wneud y peth iawn, ac mewn ymateb i ymyriad Lee Waters yn gynharach i ddweud bod Llywodraethau San Steffan yn cadw'r pethau hyn yn gyfrinach fel mater o drefn, oni ddylem anelu, mewn gwirionedd, i fod yn well na'r rhai yn San Steffan? Oni ddylai Cymru geisio arwain yn hytrach na dilyn yn yr amgylchiadau hyn? Nid fy mod yn disgwyl y bydd unrhyw ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd byth yn cyrraedd y gwir; byddai'n annhebygol iawn—er fy mod yn Nhŷ'r Cyffredin pan gynhaliwyd yr ymchwiliad i ddatgeliad Westland a'r gyfres hynod ddramatig o ddigwyddiadau a ddatblygodd wedyn—ond yr hyn y gallwch ei wneud gyda chyhoeddi dogfennau o'r fath, wrth gwrs, yw gwerthuso pa mor drwyadl y mae'r ymchwiliadau wedi bod, a gellid rhoi pob math o ddarnau o wybodaeth y gellid eu cael at ei gilydd yn jig-so, yn enwedig pan allai fod cyfres o ymchwiliadau fel y ceir yn yr achos arbennig hwn, ac ar y sail honno gallwn ddod i gasgliadau mwy gwybodus ar ddiwedd y prosesau hyn.

Mae'r pwynt olaf yr oeddwn am ei wneud yn ymwneud â sylwedd y llythyr hwn gan y Llywodraeth at y Llywydd, sy'n ceisio rhoi'r Prif Weinidog mewn sefyllfa hynod freintiedig. Y ddadl gyfreithiol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yw bod unrhyw benderfyniadau neu gamau gweithredu a wneir gan y Llywodraeth yn gyfunol, ac y gallai unrhyw Weinidog eu gwneud o dan y pwerau a ddatganolir yn y Ddeddf hon, ar gael i'r Cynulliad hwn i gael eu gwneud yn destun ymchwiliad, ond nad oes gennym unrhyw bŵer i ymchwilio i weithredoedd y Prif Weinidog lle mae ganddo ef yn unig bŵer i wneud penderfyniadau o'r fath neu i gymryd camau o'r fath. Ymddengys bod hyn yn dyrchafu'r Prif Weinidog yn rhyfeddol yn rhyw fath o frenin absoliwt, ac yn sicr ni fyddem byth wedi rhagweld hyn pan oedd y Bil hwn yn cael ei ddatblygu yn 2005, 2006, ac mae'n gamddehongliad llwyr o'r adran berthnasol i roi'r Prif Weinidog yn y sefyllfa freintiedig honno. Credaf mai'r hyn a wna yn syml yw gwahaniaethu rhwng pwerau Gweinidogion. Nid yw'r is-Weinidogion, gan gynnwys Gweinidogion y Cabinet, o reidrwydd yn gyfrifol ar y cyd am ei benderfyniadau yn yr ystyr gyfreithiol, ond mae ef yn gyfrifol, oherwydd ei fod yn gyfrifol am y Llywodraeth gyfan, am yr holl benderfyniadau y gallai unrhyw Weinidog eu gwneud. Fel arall, byddai wedi ei eithrio mewn modd unigryw o waith craffu'r Cynulliad, a chredaf ei bod hi'n hanfodol bwysig felly fod y Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn y prynhawn yma i ddangos ein gwrthwynebiad i'r Llywodraeth ac i ddangos ein bod yn gwrthod yr egwyddor wenwynig honno.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 5:27, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Rhoddais y cynnig i ddefnyddio adran 37 i gael yr adroddiad wedi'i gyhoeddi gan fod anwybyddu'r Cynulliad hwn yn sarhad ar ddemocratiaeth. Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr yn hoffi fy nghynnig cymaint fel eu bod wedi ei gynnwys eu hunain, ac rwy'n falch eu bod wedi gwneud hynny oherwydd rydym yn trafod hyn yn gynt nag y byddem wedi ei wneud fel arall.

Dro'n ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog gyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio lobïwyr. Sylwaf heddiw ei fod yn absennol o'r ddadl hon. Mae'n rhywbeth y gelwais amdano ers cael fy ethol i'r Cynulliad hwn, ac mae'n rhywbeth sy'n digwydd ym mhob un o'r gwledydd democrataidd mawr o amgylch Cymru. Roedd ei ateb yn y ddadl honno'n ddiddorol iawn. Dywedodd ei bod yn iawn i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth fel hon; mater i'r Cynulliad yn gorfforaethol ydyw. Felly, yma rydym yn penderfynu'n gorfforaethol, fel Cynulliad, ar y mater hwn ynglŷn ag a ddylid cyhoeddi ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd o'r Llywodraeth, ond yn hytrach na gadael inni benderfynu ar y mater hwn mae'r Prif Weinidog wedi ymateb gyda bygythiadau a heriau cyfreithiol. Rwy'n credu bod hynny'n dangos blaenoriaethau Llywodraeth: gwneud dim ynghylch lobïwyr ond ceisio ymyrryd i atal Llywodraeth agored rhag digwydd.

Mae'r Prif Weinidog yn honni y byddai rhyddhau'r ddogfen hon yn atal llywodraethu rhag gallu digwydd, ac ymddengys ei fod yn credu na all lywodraethu oni bai ei fod yn gallu gweithredu yn y cysgodion a chadw pethau wedi eu cuddio rhag y cyhoedd. Efallai fod hynny'n wir i'r Llywodraeth Lafur hon, oherwydd pe bai pobl Cymru'n cael cyfle byth i weld beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, nid wyf yn meddwl y byddai yn ei swydd yn llawer hirach. Hefyd nid yw fel pe bai'n rhoi llawer o ffydd yng nghynrychiolwyr Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd i ddefnyddio adran 37 yn ddoeth. Mae wedi bod ar gael ers blynyddoedd—blynyddoedd—a nawr yn unig y caiff ei ddefnyddio am y tro cyntaf, a hynny ar fater o ddiddordeb i'r cyhoedd sy'n hynod o bwysig.

Pe bai'r Prif Weinidog yn gweithredu ei Lywodraeth mewn ffordd fwy tryloyw, ni fyddai angen inni ei ddefnyddio o gwbl. Ar y mater hwn, gobeithio y gallwn, fel Cynulliad, bleidleisio er mwyn i'r cyhoedd weld canlyniad yr ymchwiliad. Mae'n rhaid inni amddiffyn pobl Cymru ac uniondeb y sefydliad hwn. Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn, oherwydd mae'n ymwneud ag atebolrwydd democrataidd a chywirdeb democratiaeth Cymru. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:31, 18 Ebrill 2018

Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae adran 37 yn faes cymhleth, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio yw eglurder. Byddai hyn wedi bod yn well, yn ein barn ni, cyn i'r ddadl heddiw gael ei chynnal. Yn anffodus, nid oes gwahaniaeth barn amlwg rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad. Rhaid inni symud yn awr i ddatrys y mater hwn, a hynny heb orfod troi at y llysoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig hwn ac yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn ei erbyn am y rhesymau canlynol. Yn gyntaf, mae'r cynnig y tu allan i gwmpas pwerau'r Cynulliad, fel y'u nodir yn adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Y rheswm am hyn yw bod y ddarpariaeth hon yn cynnwys materion sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn unig, yn hytrach na'r nifer gyfyngedig o swyddogaethau y gellir eu harfer gan y Prif Weinidog yn unig. Comisiynwyd a chyflawnwyd yr adroddiad dan sylw yn unol â swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Prif Weinidog yn unig, ac felly, ym marn Llywodraeth Cymru, mae y tu allan i gwmpas y pŵer adran 37.

Yn ail, mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y cynnig yn codi cwestiynau ynglŷn â'r dull priodol o gynnal busnes y Cynulliad—un o'r seiliau lle y ceir disgresiwn i wrthod y cynnig. Ceir arfer hirsefydlog o beidio â datgelu adroddiadau ymchwiliadau i achosion o ddatgelu heb ganiatâd, sy'n ymestyn, fel y clywsom, ar draws Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig. Mae hyn oherwydd y perygl o niweidio cyflawniad a chyfrinachedd ymchwiliadau yn y dyfodol. Hefyd, pe bai'n ofynnol datgelu adroddiadau ar ymchwiliadau i ddatgelu heb ganiatâd i'r Cynulliad, ceir risg glir yn y dyfodol, efallai na fydd unigolion yn barod i wirfoddoli gwybodaeth neu gydweithredu mewn ymchwiliadau dilynol, ac nid oes yr un ohonom am weld y canlyniad hwnnw.

Ym marn Llywodraeth Cymru, nid yw'r cynnig heddiw yn ddull priodol o ddatrys y mater hwn. Hoffwn bwysleisio mai'r hyn a fyddai orau gan y Llywodraeth yw gallu perswadio'r Cynulliad ynglŷn â'i safbwynt a chytuno ar sail ar gyfer gweithredu adran 37. Fodd bynnag, yn absenoldeb cytundeb gyda'r Cynulliad ynghylch cwmpas adran 37, efallai fod angen inni ofyn i lys ddehongli'r gyfraith inni a dyna sail y Prif Weinidog dros ysgrifennu at y Llywydd yn gynharach yr wythnos hon.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:33, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Ar yr union bwynt hwnnw, tybed a allwch rannu gyda'r Cynulliad eich safbwyntiau ar is-adran (8), sydd i'w weld yn datrys llawer o'r problemau rydych wedi'u codi eisoes yn eich ateb i'r ddadl.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu ei fod. Mae'n nodi egwyddor, ond mae'n amlwg, pan edrychwch i weld pryd y gallai'r egwyddor fod yn gymwys, nad yw'n sefydlu ym mha amgylchiadau y gallai fod yn gymwys, ac os oes gwahaniaeth barn, sut y gellid datrys y gwahaniaeth barn hwnnw. Ond mae hyn yn rhywbeth y dof ato mewn eiliad, os caf.

Byddai'n llawer gwell gennym weithio gyda'r Cynulliad i gytuno ar brotocol neu fecanwaith arall ar gyfer gweithredu pob rhan o adran 37 yn briodol yn y dyfodol. Rydym wedi rhannu cynnig gyda'r Cynulliad yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â sut y gellid datblygu'r drafodaeth hon a gobeithio y bydd y Comisiwn yn ymgysylltu â ni i ddatrys y mater mewn ffordd sy'n bodloni nodau cyfreithlon y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:34, 18 Ebrill 2018

Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch i bawb a gyfrannodd. Os caf ganolbwyntio'n bennaf, yn yr amser sydd gennyf, ar ymateb i ateb y Cwnsler Cyffredinol. Credaf fod rhan gyntaf y ddadl yn ceisio gosod y Prif Weinidog uwchben y gyfraith, os cymerwch y dehongliad a roddodd inni nad yw, mewn gwirionedd, yn atebol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru am y swyddogaethau y mae'n eu harfer, er bod Gweinidogion, a bod yn deg, yn atebol o dan y gyfraith honno. Unbennaeth yw hynny, ac fel y dywedais wrthych, yr unig enghraifft y gallasom ddod o hyd iddi yn unrhyw le yw'r Aifft. Dyna'r unig enghraifft y gallem ei chanfod.

Darllenais—ac ni wnaethoch ei herio, Gwnsler Cyffredinol—darllenais y nodyn cyfreithiol rydym yn seilio ein dadl arno, ac ni wnaethoch ei herio. Rwy'n fwy na bodlon i chi fy herio ar yr hyn a gyflwynais gerbron y Cynulliad heddiw yn y nodyn cyfreithiol. Na? Iawn.

Fe ddywedoch chi wedyn fod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at y Llywydd ddoe i geisio cael consensws. Fe ddarllenaf eto yr hyn yr agorais fy sylwadau ag ef y prynhawn yma, sef pwynt 3 yn y llythyr:

Yn gyntaf, mae'r Swyddfa Gyflwyno, ar ran y Llywydd, wedi nid 'gallai fod wedi'— gweithredu'n anghyfreithlon drwy dderbyn y cynnig.

4. Yn ail, mae'r Llywydd wedi— nid 'gallai fod wedi'— gweithredu'n… anghyfreithlon, drwy beidio â thynnu'r cynnig yn ôl.

Roeddech yn dweud wrth y Llywydd beth y dylai ei wneud ddoe a thrwy gysylltiad, rydych yn dweud wrth y Cynulliad beth y dylai ei wneud. Carwn awgrymu na all unrhyw ddemocratiaeth weithredu o dan y lefel honno o bwysau, a bydd hi'n ddiwrnod tywyll iawn pe bai'r Aelodau ar feinciau cefn y blaid sy'n llywodraethu, ar ôl gwrando ar y dadleuon a gyflwynais heddiw, yn dilyn y chwip ac yn gwrando ar eich dadleuon, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn rydych wedi ei awgrymu yw anwybyddu'r gyfraith a sathru ar yr hyn sy'n ein llywodraethu, sef democratiaeth.

Ni chlywais un wrthddadl gennych heddiw, Gwnsler Cyffredinol, i herio unrhyw bwynt a gyflwynais gerbron y Cynulliad hwn. Dim un. Euthum yn systematig drwy'r tair dadl a ddefnyddiodd y Llywodraeth dros y tri mis diwethaf ynglŷn â pham na ddylai'r adroddiad hwn weld golau dydd: (1) diogelu cyfrinachedd unigolion sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad; (2) gallai ei ryddhau beryglu ymchwiliadau pellach; (3) arfer y gyfraith a darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru. Nid ydych wedi ceisio tanseilio unrhyw un o'r dadleuon hynny. Galwaf felly ar feinciau cefn y llywodraeth i ymateb i'r cynnig ger ein bron heddiw, oherwydd, yn y pen draw, os na wnewch hynny, yna fel y dywedais, gallai chwip y Llywodraeth ennill, ond yn foesol fe fyddwch yn gwneud cam mawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 18 Ebrill 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.