1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 25 Ebrill 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud wrthym pryd y byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi'r cod trefniadaeth ysgolion newydd?
Diolch, Darren. Fy mwriad yw cyhoeddi'r cod cyn toriad yr haf. Yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, buaswn yn disgwyl i'r cod newydd fod ar waith erbyn y flwyddyn academaidd newydd.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd, fel y gwyddoch, rwy’n rhannu eich dyhead i sicrhau bod y cod yn gytbwys ac nad yw'n anffafrio nac yn gwneud tro gwael ag ysgolion gwledig yn benodol, gyda llawer ohonynt, wrth gwrs, fel y gwyddoch, yn ysgolion bach, cyfrwng Cymraeg. O gofio bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a llawer o bobl eraill wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffaith ei bod yn ymddangos bod rhai awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â’r broses o ad-drefnu ysgolion yn y cyfamser, gan nad oes unrhyw newid yn y cod ar hyn o bryd, beth yw eich neges i’r awdurdodau lleol a allai fod yn ceisio sleifio un drwy gil y drws, fel petai, cyn i'r drws gau yn nhermau'r newidiadau i’r cod ad-drefnu ysgolion?
Diolch, Darren. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cael cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'n deg dweud bod rhai wedi ymateb yn fwy cadarnhaol na'i gilydd ynghylch fy nghynnig i sefydlu rhestr o ysgolion gwledig a sicrhau rhagdybiaeth yn erbyn cau, fel man cychwyn ar gyfer awdurdodau lleol. Buaswn yn dweud wrth awdurdodau lleol sy'n ystyried y mater hwn ar hyn o bryd fy mod wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nghyfeiriad teithio a'm bwriad polisi, a buaswn yn eu hannog i ystyried yr ysbryd hwnnw rhwng nawr ac unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn perthynas â'r cod trefniadaeth newydd.
Dyna eiriau cynnes iawn, ac rwy'n siŵr fod ysbryd y cod yn rhywbeth y bydd awdurdodau lleol cyfrifol, wrth gwrs, yn ei arddel, ond y gwir amdani yw bod gennym awdurdodau lleol yng Nghymru—Ynys Môn, Sir Ddinbych ac eraill—sy'n bwrw ymlaen gyda chau ysgolion mewn cymunedau gwledig, ac ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y cyfan, o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r cod yn ddigonol ar hyn o bryd. A allwch roi sicrwydd llwyr, Weinidog, y byddwch yn edrych yn ofalus ar effaith eich newidiadau ac yn sicrhau eu bod yn cael eu mesur yn erbyn y cynigion yn eich cod newydd yn hytrach na'r darpariaethau yn yr hen god, y dywedoch y byddech yn mynd i'r afael â hwy gryn dipyn o amser yn ôl?
Darren, er fy mod yn cydnabod na ellir rhoi'r cod newydd ar waith yn ôl-weithredol, fel y dywedais yn gwbl glir, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda graen y cod newydd. Maent yn llwyr ymwybodol o fy mwriad a fy mwriadau polisi. Mae unrhyw gais a gyflwynir gan awdurdod lleol, o dan y cod presennol neu'r cod sydd i ddod, yn cael ei ystyried yn hynod ofalus gan fy mod yn cydnabod, i lawer o'r rhai sy'n rhan o'r broses honno, fod angen cod arnynt yno i sicrhau bod unrhyw ymgynghoriad ac unrhyw gynigion yn cael eu profi yn ôl y safonau uchaf. Fel y dywedais, rwy'n disgwyl i'r cod gael ei gyhoeddi y tymor hwn. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad hwn, bydd y cod ar gael i'w roi ar waith o'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn 2016, cafwyd dau adroddiad am gau ysgolion. Dywedai un fod 157 ysgol wedi cau ledled Cymru dros y 10 mlynedd blaenorol—gyda thair o bob pump o'r ysgolion a gaewyd yn ysgolion gwledig. Dywedai'r llall fod 50 o ysgolion eraill wedi'u clustnodi i gael eu cau. Ar yr un pryd, mae awdurdodau lleol yn ceisio annog teuluoedd i symud i bentrefi, ac eto mae rhai ysgolion yn y pentrefi hynny mewn perygl o gau neu wedi cau eisoes. Beth arall y gallwch ei wneud i roi sicrwydd i rieni yng Nghymru na fydd eu hysgol leol yn cau yn y dyfodol agos?
Fe'ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i Darren Millar. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir mai fy mwriad yw diwygio'r cod trefniadaeth ysgolion presennol i greu rhestr o ysgolion gwledig penodol a sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau'r ysgolion hynny. Yn hollbwysig, hefyd, o ran addysg wledig, ni allwn orffwys ar ein bri drwy gadw sefydliadau ar agor. Mae angen i'r sefydliadau hynny ddarparu cyfle addysgol o'r radd flaenaf i blant gwledig. Nid yw adeiladau'n unig yn ddigon; mae'r ansawdd o fewn yr adeiladau hynny yn gwbl hanfodol i mi a dyna pam rydym wedi cyflwyno grant ysgolion bach er mwyn gallu cynorthwyo awdurdodau lleol i wella safonau mewn ysgolion bach, gwledig sy'n wynebu heriau penodol wrth gyflwyno'r cwricwlwm.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol ag ysgolion gwledig, mewn gwirionedd. Cymhlethais y mater i raddau, o bosibl, drwy sôn am ysgolion gwledig. Roedd fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag ysgolion lleol, hynny yw ysgolion y gall plant gerdded iddynt bob dydd. Mae plant sy'n teithio i'r ysgol mewn car yn dod i gysylltiad â chynnydd o 40 y cant mewn llygredd ar y daith honno, o gymharu â rhai sy'n cerdded. Mae mwy o gludo plant i'r ysgol ac oddi yno yn arwain at fwy o lygredd yn gyffredinol ac yng nghyffiniau'r ysgolion. A ydych yn cytuno â mi fod caniatáu i ysgolion gael eu cau yn mynd yn groes i hynny, gan fod hynny'n golygu bod angen i blant roi'r gorau i gerdded i'r ysgol a chael eu rhoi yng nghar eu rhieni neu gar rhywun arall i gael eu gyrru i'r ysgol? Mae'n mynd yn groes i honiadau Llywodraeth Cymru ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â llygredd, gan fod yna nifer gynyddol o blant nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol agosaf.
Buaswn yn annog pob rhiant ym mhobman, os ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgolion, i sicrhau bod eu plant yn defnyddio mesurau teithio llesol i fynychu ysgolion lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny drwy ddarparu grant llwybrau diogel i ysgolion—nid fy ngrant i ydyw, ond grant fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet sydd â'r adnoddau ar gyfer hynny—sy'n galluogi—. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, yn Llanandras, gwn ein bod wedi gallu gosod palmentydd newydd a chroesfannau newydd i annog rhieni i wneud hynny, i gerdded gyda'u plant i'r ysgol. Wrth gwrs, mewn llawer o ardaloedd gwledig, mae hynny'n amhosibl. Mae fy mhlant yn mynychu ysgol oddeutu 25 milltir o'u cartref a chredaf y buaswn i, hyd yn oed, yn gofyn gormod ohonynt pe bawn yn disgwyl iddynt gerdded. Ond lle bo'n bosibl, buaswn yn annog rhieni ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i greu amgylchedd lle mae pobl yn dewis teithio'n llesol i'w hysgol, boed hynny drwy gerdded neu drwy feicio.
Wel, onid ydych—? Rydych newydd roi darlith imi ar gerdded i'r ysgol a llwybrau diogel i'r ysgol, ond nid ydych wedi ateb y cwestiwn mewn gwirionedd, gan nad oeddwn yn sôn am blant sy'n gallu cerdded neu deithio mewn rhyw ffordd ar eu liwt eu hunain, a gwneud ymarfer corff ar y ffordd i'r ysgol. Roeddwn yn sôn am blant sy'n cael eu rhoi mewn cerbydau i'w cludo i'r ysgol. Onid ydych yn credu eich bod yn gwrth-ddweud eich hun drwy orfodi rhieni, ar y naill law, i roi eu plant mewn car i gael eu gyrru i'r ysgol, ac ar yr un pryd, yn rhefru ar bobl ar y llaw arall i gadw allan o'u ceir a gwneud llai o deithiau?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rheolau ynghylch mynediad at gludiant i'r ysgol wedi'u diffinio o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae gan bob plentyn sy'n byw ddwy filltir o ysgol gynradd hawl i ddefnyddio cludiant yr awdurdod lleol. Mae gan bob plentyn sy'n mynychu'r ysgol uwchradd ac sy'n byw dair milltir o ysgol uwchradd hawl i ddefnyddio cludiant yr awdurdod lleol.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Mae'r cwestiynau hyn i Weinidog y Gymraeg. Ddoe, fe wnaeth fy ffrind yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, ymddangos ar raglen Daily Politics yn amddiffyn iaith ein cenedl yn dilyn yr ymosodiad diweddaraf ar ein hiaith, y tro yma gan y newyddiadurwr Rod Liddle. Yn anffodus, rydym ni'n byw mewn oes lle mae ymosodiadau o'r fath yn cael eu gweld yn gynyddol dderbyniol. Mae ymosod ar yr iaith Gymraeg, ac felly ymosod ar siaradwyr Cymraeg—chi a fi a nifer ohonom ni yn fan hyn—mae hynny, mewn gwirionedd, yn drosedd casineb. Ond, nid yw'r gyfraith ddim yn adlewyrchu hynny. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn gefnogol i ieithoedd lleiafrifol cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol a gweddill Ewrop ac wedi gweithredu er mwyn diogelu'r Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddiogelu siaradwyr Cymraeg rhag ymosodiadau ffiaidd yn dilyn y cyfnod ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n condemnio unrhyw ymosodiad ar bobl sy'n siarad unrhyw iaith sy'n lleiafrifol. Nid wyf yn meddwl bod y stŵr sydd wedi cael ei greu yn helpu pethau. Y cwestiwn yw: sut ddylem ni fod yn ymateb? Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n tanlinellu pa mor gymhleth fyddai hi i wneud rhywbeth o ran deddfwriaeth yn y maes yma. Ond rwy'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig ein bod ni'n deall nad yw'n dderbyniol i newyddiadurwyr na neb arall gondemnio ein hiaith ni yn y ffordd yna.
Cymhleth neu beidio, mae'n amlwg bod angen edrych yn fanwl ar y sefyllfa yn dilyn colli rhai o'r amddiffynfeydd sydd gennym ni ar hyn o bryd drwy fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Sicrhau hawliau i ddefnyddwyr dderbyn gwasanaeth yn y Gymraeg ydy sail Deddf 2011, wrth gwrs, a'r safonau sydd wedi dilyn hynny. Mae'r safonau iechyd a gafodd eu pasio'n ddiweddar yn gwbl ddiffygiol—nid ydyn nhw ddim yn gosod unrhyw safon sydd yn cydnabod yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb drwy'r Gymraeg yn ein hysbytai, ac nid ydyn nhw chwaith ddim yn gosod safonau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddarparwyr gofal sylfaenol, sef y prif gysylltiad rhwng trigolion a'r byd iechyd.
Er gwaetha'r safonau diffygiol yma, mae'n bwysig rŵan fod y Llywodraeth yn symud ymlaen efo'r gwaith i ddiogelu'r hawliau yma drwy gytundebau meddygol, fel sydd wedi cael ei addo. Hefyd, mae'n bwysig cyflwyno'r holl safonau eraill sydd wedi bod ar ddesg y Gweinidog, eich rhagflaenydd chi, a'i ragflaenydd o, ers sawl blwyddyn. Rŷm ni'n dal i ddisgwyl am y safonau ar gyfer y sector cymdeithasau tai, dŵr, cwmnïau post, bysiau, trenau a rheilffyrdd, nwy a thrydan, a thelathrebu. Ai diffyg ewyllys gwleidyddol sydd y tu ôl i'r arafwch yma? A oes yna lusgo traed bwriadol?
Na. A gaf i jest ddweud—? Roedd hi'n rhywbeth pwysig i fi fy mod i yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Llun yn amddiffyn y siarter ar hawliau ffwndamental ar gyfer ieithoedd. Rwy'n meddwl, ac yn gobeithio, y bydd hynny'n cael ei gario draw, ac y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i ni, efallai, yn gyfreithiol, mewn ffordd efallai fyddai'n cael ei dynnu oddi wrthym ni os nad oedd hynny'n cael ei basio drosodd.
Ar y cwestiwn o safonau, byddwch chi yn ymwybodol bod trafodaethau ar beth ddylai ddigwydd yn y maes gofal sylfaenol—mae'r rheini eisoes wedi dechrau. Mae cytundebau meddygol—mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hynny eisoes. Un peth arall rŷm ni'n ei wneud, wrth gwrs, sef ein bod ni wedi dechrau peilot hefyd gyda Iaith Gwaith i sicrhau ein bod ni'n ymwybodol beth yw'r problemau o ran cyflwyno'r iaith yn y sector gofal sylfaenol, jest i weld pa mor hawdd yw hi, neu beidio, a faint o gefnogaeth sydd ei angen yn y maes yna.
O ran y safonau eraill, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n bwriadu dod â Deddf iaith newydd i mewn, a beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael rhyw fath o sicrwydd y bydd beth sydd gyda ni ar y bwrdd ar hyn o bryd yn cydymffurfio â beth bynnag newydd fydd yn dod i mewn. Felly, nid wyf yn meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr ar hyn o bryd inni ddod â safonau newydd i mewn tan ein bod ni'n cael lot fwy o eglurder ynglŷn â sut mae'r dyfodol yn mynd i edrych.
Wel, dyna ydy fy mhryder i, wrth gwrs. Y teimlad ydy bod y ddeddfwriaeth newydd yma, pryd bynnag y mae hi'n mynd i weld golau dydd, yn dal pethau yn ôl yn sylweddol ar hyn o bryd, ac felly yn dal yn ôl hawliau siaradwyr Cymraeg.
Mi wnes i sôn mai efallai ewyllys gwleidyddol sydd y tu ôl i'r arafwch yma. Efallai mai diffyg staffio ydy'r broblem ynglŷn â chyflwyno safonau. Rwy'n dal i ddisgwyl ateb i gwestiwn ysgrifenedig mi wnes i ei anfon ym mis Ionawr yn holi faint o staff sydd wedi'u lleoli'n benodol yn uned Gymraeg y Llywodraeth, sef y staff sydd yn gyfrifol yn benodol am baratoi rheoliadau safonau'r iaith Gymraeg. Pan ofynnais i hyn i chi mewn pwyllgor, mi wnaethoch chi ddweud bod yna beth wmbreth o bobl yn gweithio arnyn nhw—'loads', meddech chi. Pryd gaf i ateb iawn? Nid wyf fi'n credu bod loads yn gweithio ar y safonau'n benodol yn eich Llywodraeth chi o gwbl, a bod gennych chi gywilydd i gyhoeddi mai dim ond un—dau, efallai, ar y mwyaf—sydd yn gwneud y gwaith hollbwysig yma. Rydych chi'n edrych yn syn, ond rwyf heb gael yr ateb, felly ni fedraf i ddim ond amau.
Digon teg, ond rwy'n meddwl mai beth sy'n bwysig—. Rŷch chi wedi cael ateb wrthyf fi. Rŷch chi'n ymwybodol bod materion staffio yn gwestiwn i'r Ysgrifennydd Parhaol, a byddaf i'n sicrhau y byddaf yn ei gwthio hi i ymateb ar hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi yn bwysig ein bod ni'n canolbwyntio nawr. Os mai ein targed ni yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, rwy'n meddwl ei bod yn hollbwysig ein bod ni yn pwysleisio pwysigrwydd hybu a hyrwyddo, ac un peth rwy'n gobeithio y gwelwn ni yn y dyfodol yw ein bod ni'n newid y pwyslais o ddeddfwriaeth i wthio pobl i sicrhau bod pobl yn defnyddio'r iaith—ein bod ni'n hyrwyddo. Dyna sy'n bwysig. Ni allwch wneud i bobl siarad iaith; mae'n rhaid i ni eu darbwyllo nhw mai dyna yw'r ffordd ymlaen, a dyna beth rwyf eisiau ei weld yn y dyfodol.