2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni nodau llesiant drwy wasanaethau cyhoeddus? OAQ52138
Ar hyn o bryd, mae cyrff cyhoeddus yn paratoi eu hadroddiadau blynyddol cyntaf o dan y Ddeddf. Bydd yr adroddiadau hyn yn nodi sut y mae cyrff cyhoeddus yn bodloni'r amcanion y maent wedi'u pennu, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy i wneud cynnydd pellach tuag at ein nodau llesiant cyffredin.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, oherwydd mae sicrhau llesiant yn ein holl bolisïau yn amlwg yn her fawr a fydd yn wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd angen cyfres o fesurau canlyniadau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a fydd, yn eu tro, yn eu helpu i roi ffocws clir ar lesiant cymunedol.
Fel y byddwch yn deall, mae gan wasanaethau cyhoeddus gyfrifoldeb cyfunol enfawr i ddarparu cartrefi, hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant a sicrhau bod y GIG yn parhau i drawsnewid i fod yn wasanaeth llesiant yn hytrach na gwasanaeth afiechyd yn unig. A ydych yn cytuno, felly, yn arbennig yn y cyfnod hwn o gyni, fod yn rhaid cefnogi llesiant personol a chymunedol, nid yn unig fel syniad haniaethol ond fel ysgogiad economaidd allweddol yn ein cymunedau, ac y dylem roi llawer mwy o bwyslais ar gyflawni cyfres o fesurau canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy'n rhoi ffocws clir ar lesiant cymunedol a fydd yn gwella bywydau pobl yn awr ac yn y dyfodol?
Lywydd, a gaf fi ddweud cymaint rwy'n cytuno â chynsail y cwestiwn a'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt? Mewn sawl ffordd, credaf mai gwasanaethau cyhoeddus yw sylfaen ein gwareiddiad. Mae sut yr ymdriniwn â phobl a sut y darparwn wasanaethau ar gyfer, weithiau, y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, yn dweud cyfrolau am bwy ydym fel gwlad a phwy ydym fel pobl.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy'n cytuno â'r hanfodion sy'n sail i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer darparu dull mwy cyfannol o ddeall sut i sicrhau gwelliannau yn ein cymunedau. Hoffwn weld sut y gallwn ddod â dangosyddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol at ei gilydd i ddarparu darlun llawer mwy cyfoethog o sut y deallwn ein cymunedau yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weld a darllen y nodau llesiant a'r polisïau llesiant sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, a pha mor bell y mae awdurdodau lleol ac eraill yn gallu dod tuag at gyflawni'r weledigaeth honno a'r uchelgais hwnnw.
Un o'r nodau llesiant yw creu Cymru iachach. Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae Cymru'n wynebu epidemig diabetes tra bod adroddiad blynyddol diweddaraf y Rhaglen Mesur Plant Cenedlaethol yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar rôl gwasanaethau cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gordewdra a diabetes, gan helpu i gyrraedd y nod o sicrhau Cymru iachach yn y dyfodol? Diolch.
Credaf fod gennym oll gyfrifoldeb i wella iechyd ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n falch iawn o glywed fy mod wedi ymrwymo i ddigwyddiad milltir ddyddiol mewn ysgol yn fy nghymuned sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn—efallai y bydd yn cymryd mwy na diwrnod i mi ei gwblhau, ond yn sicr dyna fy uchelgais. Credaf fod gennym oll gyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r materion hyn.
A gadewch i mi ddweud hyn: gan siarad, efallai, fel Aelod dros Flaenau Gwent, pan ymladdais fy etholiad cyntaf yn yr etholaeth, teimlwn mai'r economi oedd dechrau a diwedd y materion a oedd yn ein hwynebu fel cymuned. Pe bawn yn sefyll am y tro cyntaf unwaith eto, buaswn yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd ac yn canolbwyntio ar rai o'r heriau iechyd cyhoeddus go iawn sydd gennym yn y gymuned rwy'n ei chynrychioli ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Credaf fod mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hynny sy'n ymwneud â iechyd y cyhoedd yn benderfynydd allweddol i ddangos a yw'r nodau, y dangosyddion a'r cerrig milltir llesiant cenedlaethol yn llwyddiant go iawn ar gyfer ein cymunedau.
A chithau hefyd yn gorff cyhoeddus, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac, o dan ddyletswyddau'r Ddeddf yma, er mwyn cyrraedd y nodau llesiant, mae’n rhaid i chi ymwneud â’ch ffwythiannau mewn ffordd sy’n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ym mhob agwedd. Mae hynny wedi’i ymgorffori yn y Ddeddf a hefyd yn Neddf Cymru, sydd wedi’i newid gan y Ddeddf. Nawr, nid ydym ni'n cytuno ar effaith y Bil tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb rhynglywodraethol, ond mae’n rhaid ichi gytuno fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol o dan y cytundeb yna—rŷm ni’n gallu cytuno ar hynny, mae’n siŵr gen i. Felly, a fedrwch chi esbonio sut y byddwch chi’n sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn cael ei gadw a'i grisialu mewn unrhyw fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol, gan fod hwnnw nawr bellach yn rhan o'r gwaith yr ydych chi'n cytuno ei wneud gyda Llywodraeth San Steffan? Yn benodol, a fydd gyda ni fel Cynulliad yr hawl i bleidleisio ar gynnwys y fframweithiau hyn wrth ichi negodi hynny er lles y nodau llesiant?
Mae cyfraniadau Gweinidogion Cymru ym mhob un o'r trafodaethau rydym ni'n eu cael gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig wastad yn seiliedig ar approach polisi'r Llywodraeth yma. Mae hynny ei hun wedi ei greiddio yn egwyddorion y Ddeddf rydych chi wedi ei disgrifio. Felly, mae pob un rhan o'n polisïau ni a'r ffyrdd gwahanol y byddwn ni'n gwireddu ein huchelgeisiau dros ein gwlad yn rhan o, ac yn ffynnu o, yr un commitment i'r Ddeddf ac i'r egwyddorion sy'n rhan ohoni. Felly, mi fydd Gweinidogion Cymru ym mhob un achos, nid jest tra ein bod ni'n delio â'r Deyrnas Unedig, ond pob un cyfle rydym ni'n ei gael, yn gwireddu ein gweledigaeth a sicrhau bod hyn yn rhan hanfodol ohoni hi.