– Senedd Cymru am 2:58 pm ar 5 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y gwasanaethau rheilffyrdd a metro de Cymru. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Tynnaf eich sylw at fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd i’r Aelodau ddoe. Rwy’n falch o gyhoeddi, ar ôl cwblhau’r cyfnod segur statudol ar gyfer caffael gweithredwr a phartner darparu ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau a metro de Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r cytundeb contract ffurfiol ac wedi dyfarnu’r contract i KeolisAmey.
Mae hwn yn gyfnod hanesyddol i ddarpariaeth gwasanaeth rheilffyrdd a bydd ein partneriaeth yn chwyldroi ein rhwydwaith rheilffyrdd, gan ddod â gwelliannau trawsnewidiol i gymunedau a phobl ar hyd a lled Cymru, ac wrth gwrs, y gororau. Bydd ein contract newydd ar gyfer y gwasanaeth rheilffyrdd yn canolbwyntio ar galon cymunedau, gan sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bawb, a bod gwasanaethau ar gael yn amlach, y cyfleusterau’n well a’n bod yn cysylltu pobl â swyddi, iechyd a hamdden.
Yn ddiweddar rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu economaidd. Mae pobl Cymru yn ganolog i’r ymyriadau yn y cynllun, ac mae’n eu cefnogi i fyw bywydau diogel, iach a boddhaus, boed hynny drwy eu cysylltu â gwaith a chyfleoedd eraill drwy gyfrwng seilwaith o ansawdd, eu harfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, neu gefnogi ein sylfeini economaidd. Mae KeolisAmey yn rhannu'r weledigaeth hon. Maen nhw wedi dangos eu hymrwymiad i ddod â’r arferion gorau o ran gweithrediadau rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn i Gymru, buddsoddi mewn seilwaith, cerbydau a staff, a defnyddio technoleg i ddarparu ar gyfer pobl, cymunedau ac economi Cymru.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i staff Trafnidiaeth Cymru ac i bawb sy'n rhan o'r broses yn yr enghraifft hynod hon o ddull caffael trawslywodraethol. Trafnidiaeth Cymru fydd yn gyfrifol am reoli’r gwasanaethau rheilffyrdd ar ein rhan, ac am ddarparu ein buddsoddiad yn seilwaith y rheilffyrdd a'r metro, a gyda'i gilydd byddant yn darparu’r gwasanaeth rheilffyrdd trawsnewidiol newydd hwn y gall Cymru fod yn falch ohono dros y 15 mlynedd nesaf.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Dylwn hefyd diolch iddo am eich digwyddiadau briffio brynhawn ddoe a bore heddiw, a oedd yn hynod o ddefnyddiol, felly diolch ichi am hynny.
Mae dyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn cynrychioli cyfle gwerth biliynau a biliynau o bunnoedd ac rwyf fi, fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru’n elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Nid wyf eto wedi gweld manylion faint yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi a faint mae’r gweithredwr wedi'i fuddsoddi. Rwy’n sylweddoli imi efallai beidio â sylwi ar yr wybodaeth hon yn y dyddiau diwethaf, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu manylion y proffil ariannu o ran faint fydd Llywodraeth Cymru a faint fydd y gweithredwr yn ei fuddsoddi ym mhob blwyddyn y contract.
Mae perthynas y contractwr â Network Rail, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac rwy’n meddwl tybed sut gynghrair a ffurfir rhwng gweithredwr y fasnachfraint a Network Rail. Tybed a allwch chi amlinellu pa strwythurau a gaiff eu rhoi ar waith i sicrhau bod perthynas waith agos rhwng Network Rail a'r contractwr i gynnal y rhwydwaith o ddydd i ddydd, ac, wrth gwrs, gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal.
Roeddwn yn arbennig o falch o weld yr ymrwymiad o ran cyflwyno 4G a 5G, gyda mastiau ar hyd y trac, ac mae’n debyg bod hynny’n enghraifft o’r cwestiwn yr wyf newydd ei ofyn o ran bod Network Rail yn gyfrifol am un agwedd, a’r gweithredwr—y llall, wrth gwrs, Network Rail, sy'n berchen ar y tir o amgylch y rheilffordd. Ac o ran y gwell seilwaith symudol, sut fydd hynny'n cydweddu â chynllun gweithredu symudol Llywodraeth Cymru?
Buaswn yn hoffi gofyn ichi am hygyrchedd toiledau ar drenau. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod am y ddeddfwriaeth newydd a fydd yn dod i rym erbyn 2020, a bod rhai cwmnïau trenau’n ceisio ymdopi â'r ddeddfwriaeth ar hen drenau Pacer drwy gloi toiledau'r trenau. Rwy’n sylweddoli eich bod wedi gwneud rhai datganiadau yn hyn o beth, ond byddai gennyf ddiddordeb clywed gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich barn ynglŷn â sut rydym ni'n gochel rhag canlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth ar bobl gydag anawsterau symud, a byddai datganiad cadarn gennych chi ynghylch hygyrchedd toiledau ar drenau i bobl anabl yn cael ei groesawu.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gytuno ag un neu ddau o bwyntiau: i gyhoeddi, mewn partneriaeth, wrth gwrs, gyda Thrafnidiaeth Cymru a KeolisAmey, y cyfleoedd sy’n dangos yn glir i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yr holl gyfleoedd masnachol dros y blynyddoedd nesaf y bydd y fasnachfraint yn eu cyflwyno; i ddarparu diweddariadau ynglŷn â beth arall mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i hysbysebu’r cyfleoedd ariannol fydd yn dod yn sgil y fasnachfraint; ac, yn olaf, i gyhoeddi targedau penodol Llywodraeth Cymru o ran canran y gwaith a enillir ar y cynllun hwn gan gwmnïau yng Nghymru yn y dyfodol? Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r cyhoeddiad a wnaethpwyd ddoe, ynghyd â manylion masnachfraint newydd Cymru a'r gororau? Gwnaethom yn siŵr drwy broses sgorio’r ymarfer caffael bod pawb ym mhob rhan o Gymru ac, yn wir, yn ardal y gororau, yn elwa o’r trefniadau masnachfraint newydd. Roedd y system sgorio yn sicrhau bod y cynigwyr yn awyddus i ddangos sut yr oeddent yn mynd i drawsnewid pob rhan o ardal Cymru a'r gororau.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd nifer o faterion pwysig iawn a amlygwyd yn ddiweddar, gan gynnwys hygyrchedd a thoiledau. Gallaf gadarnhau y bydd pob toiled ar bob trên yn cydymffurfio â rheoliadau PRM erbyn yr amser gofynnol. Mae'n gwbl hanfodol bod toiledau PRM allyriadau is wedi’u cynnwys ar yr holl drenau a fydd yn gweithredu ac mae’r ODP wedi rhoi sicrwydd clir iawn, iawn y bydd hynny'n digwydd. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y bydd £15 miliwn ar gael ar gyfer hygyrchedd mewn gorsafoedd ledled Cymru ar gyfer pobl sydd ag anawsterau symud. Rwy’n gwybod yn bersonol am nifer o orsafoedd, gan gynnwys fy ngorsaf fy hun, Rhiwabon, lle nad oes mynediad heb risiau, neu fynediad ychwanegol i fynediad grisiau yn unig. Caiff hynny ei unioni yn y trefniadau masnachfraint sydd ar droed. Bydd pob gorsaf yn ardal y metro hefyd yn hygyrch heb risiau. Ac o ran toiledau, bydd toiledau ychwanegol ar orsafoedd o fewn y rhwydwaith metro i sicrhau, ar gyfer y datrysiad o fewn rhwydwaith craidd rheilffyrdd y Cymoedd, na fydd unrhyw deithiwr yn gorfod aros mwy na 14 munud cyn gallu defnyddio toiled mynediad cyffredinol.
Mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig eraill ynghylch cyfleoedd caffael i fusnesau bach a chanolig. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o ymgysylltu â chynifer â phosibl o gwmnïau o Gymru a’r gororau yn y broses o ganfod cyfleoedd ar gyfer partneriaid datblygu seilwaith i sicrhau ein bod yn creu’r cyfle mwyaf posibl i gwmnïau o Gymru. Yn ogystal, mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, wedi'i sefydlu yn fudiad dielw. Yn y dyfodol, ein disgwyliad yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gosod gwasanaethau ychwanegol ar sail nid-er-elw i fwy o gwmnïau Cymru, ac rydym hefyd yn disgwyl yn y dyfodol y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu cymryd cyfrifoldebau ychwanegol dros fathau eraill o reoli trafnidiaeth a darparu seilwaith—ac eto’n gallu, wrth wneud hynny, dyfarnu mwy o gontractau i fusnesau bach a chanolig Cymru.
O ran y gwaith y bydd y partner gweithredu a datblygu yn ei wneud gyda Network Rail, bydd gwaith ar y cyd yn digwydd gyda Network Rail, ond bydd hefyd ar sail gweithio ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal. Rwy’n falch y caiff Cymru ei chynrychioli ar fwrdd cenedlaethol Network Rail gan aelod o Gymru ei hun, sy’n sicrhau y bydd gan Gymru lais ar fwrdd Network Rail. Rwy’n credu y byddai pawb yn cydnabod yn y Siambr nad yw rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, yn ddiweddar, wedi cael y math o ariannu seilwaith y byddai’n deg ei ddisgwyl. Rwy’n gobeithio yn y cylch nesaf, y cyfnod rheoli nesaf, y caiff hynny ei unioni, ac yn sicr bydd cynrychiolaeth o Gymru ar fwrdd Network Rail o gymorth.
O ran cyflwyno technoleg newydd, mae KeolisAmey wedi cynllunio proses i gyflwyno gwell Wi-Fi, gosod mastiau newydd, yn unol â'n rhaglen Cyflymu Cymru a'n hymyriadau ffonau symudol i sicrhau nad ydynt yn eu dyblygu, ond yn hytrach bod gennym ni gyswllt di-dor o drên i orsaf i drên o ran Wi-Fi. Rwy’n hyderus o gofio’r buddsoddiad y mae KeolisAmey yn bwriadu ei wneud mewn technolegau newydd y byddwn yn gallu gweld pob trên yn darparu mynediad Wi-Fi am ddim yn y blynyddoedd i ddod. Bydd y trefniant hwn gan y fasnachfraint yn un trawsnewidiol, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn cynyddu'r cyfleoedd, nid dim ond i fusnesau heddiw ond hefyd i fusnesau newydd a fydd yn gallu edrych ar gyfleoedd lle mae gorsafoedd newydd.
Nawr, un o fanteision allweddol y cytundeb masnachfraint hwn i lawer o gymunedau gwledig yw’r addewid a wnaethpwyd i fuddsoddi mewn adeiladau gorsafoedd ac mewn tirlunio gorsafoedd ac mewn ailddechrau defnyddio gorsafoedd lle nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio, a gallai hynny ddarparu cyfleoedd enfawr, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, i fusnesau newydd mewn gorsafoedd. Rwy’n credu y gallai llawer ohonom ni gyfeirio at nifer enfawr o orsafoedd o fewn y slab gorsafoedd 247 sy'n bodoli ar rwydwaith Cymru a'r gororau lle ceir cyfleoedd i agor lle i fusnesau newydd, boed hynny ym maes adwerthu, boed mewn lletygarwch, boed mewn dylunio busnes neu’r diwydiannau creadigol. Mae cyfleoedd di-ri, ac rwy’n arbennig o falch o weld pwyslais cryf gan y gweithredwr a'r partner datblygu ar y maes busnes posibl hwnnw.
Rwy’n mynd i ddechrau, os caf, drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw i awgrymu rywsut bod Plaid Cymru wedi gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o gael trenau mwy gweddus, gobeithio, ar ryw adeg. Nid oes gennyf amheuaeth bod KeolisAmey wedi llunio cynnig trawiadol iawn, ac rwy’n eu llongyfarch am sicrhau’r fargen broffidiol hon. Felly, ai—[Torri ar draws.]
Does dim cyfle am ymyriad, felly does dim angen i’r Aelod ei gymryd fel ymyriad.
Felly, Plaid Cymru yn gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru—mae’r cyd-destun yn eithaf pwysig yma. Llywodraethau olynol Llafur a Cheidwadol y DU sydd wedi gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru: y Ceidwadwyr, sydd yn ddiweddar wedi camu'n ôl ar drydaneiddio; 13 blynedd o Lywodraethau Llafur cyn hynny a fethodd â gwneud dim trydaneiddio, gogledd, de, dwyrain neu orllewin; Llywodraeth Lafur—rwy’n meddwl fy mod yn iawn—a’n gadawodd â masnachfraint chwerthinllyd Arriva heb unrhyw dwf o gwbl—chwerthinllyd, hynny yw, pe na bai mor ddifrifol i filoedd o gymudwyr rheilffyrdd y Cymoedd sydd wedi’u gwasgu ar drenau, ddydd ar ôl dydd, neu deithwyr o’r gogledd i’r de sy’n eistedd am bump awr ar drenau sydd wir yn fwyaf addas i siwrneiau hanner awr neu awr. Felly, ydym, rydym ni i gyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o drenau newydd, mwy ffres. Roeddwn ar y pwyllgor menter a busnes yn y Cynulliad diwethaf pan fuom yn ystyried, yn fanwl iawn, sefyllfa enbyd—cyflwr enbyd, a dweud y gwir—y system rheilffyrdd presennol sydd gennym ni yng Nghymru. Mae teithwyr yn gwybod ei bod hi'n hen bryd inni gael trenau gwell, oherwydd maen nhw wedi gweld lluniau o'r hyn sydd ganddyn nhw mewn gwledydd eraill—maen nhw wedi bod ar wyliau ac maen nhw wedi teithio ar drenau sy’n addas i’r ganrif hon yn hytrach na chanol y ganrif ddiwethaf. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth i fod yn realistig yn eich disgwyliadau ynghylch pa mor ddiolchgar y dylai pobl fod am yr hyn sydd gennym yn awr, neu’r hyn sy'n cael ei addo ar ôl iddyn nhw ddioddef y gwasanaeth presennol ers cyhyd.
Nawr, wrth ddarllen rhannau o’r datganiad a gyhoeddwyd gennych chi ddoe—ac rydym ni'n ddiolchgar am y datganiad hwnnw—mae elfen o dristwch mewn llawer ffordd. Mae ansawdd y fargen fasnachfraint yn bwysig iawn, iawn. Nid oedd y fargen fasnachfraint ddiwethaf yn ddigon da am lawer o resymau. Dywedwyd wrthym 15 mlynedd yn ôl ein bod yn cael trenau nad oeddent yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—mae’r trenau hynny’n dal i fod gennym ni heddiw. Hyd yn oed nawr rydym yn cael clywed y bydd un o bob 20 o deithiau, am rai blynyddoedd i ddod, yn dal i gael eu gwasanaethu gan yr hen gerbydau rhydlyd, tolciog sydd gennym ni ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Wel, gallwch egluro hynny, ond rydych chi'n sôn am 95 y cant yn teithio ar drenau newydd ymhen ychydig flynyddoedd—mae hynny’n dal i adael un o bob 20 ar y cerbydau hen iawn o’r ugeinfed ganrif sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rydych chi'n dal i orfod aros tan 2020, i gael cyflenwad pŵer i wefru ar drenau, dywedodd y datganiad ddoe wrthym. Ac, unwaith eto, ni fydd gan un o bob 20 siwrnai yr anghenraid sylfaenol hwnnw.
Roedd yn bwysig iawn dysgu o gamgymeriadau’r fasnachfraint diwethaf a gwneud yn siŵr nad oeddent yn cael eu dyblygu y tro hwn, ac nid wyf yn gwbl argyhoeddedig, eto, bod y gwersi hynny wedi cael eu dysgu. Dywedasoch yn eich datganiad fod arlwyo ar y trenau’n dal i fod yn un o nodweddion allweddol gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Bydd unrhyw un sy'n teithio o’r gogledd i’r de yn dweud wrthych—ar wahân i’r un trên y dydd, un tua'r gogledd ac un tua'r de, sydd â chyfleusterau bwffe priodol—bydd unrhyw un sy'n teithio ar y trenau arferol, o’r gogledd i’r de, yn dweud wrthych nad yw’r trenau’n addas i’r teithiau hir hynny—pump awr yn teithio ar drenau sy’n addas i deithiau byr iawn. Es ar y trên ym Modorgan—byddwn yn annog unrhyw un i fynd ar y trên ym Modorgan, mae'n orsaf mewn cae yng nghanol Ynys Môn; rwy'n teimlo'n falch iawn o’n gorsaf fach ni, ond mae'n ddwy awr a hanner dda neu’n dair awr cyn inni gael cynnig paned o de. Ac rwy’n cofio gofyn i Arriva, 'Pam nad yw’r troli te’n dod ymlaen tan Amwythig?' a'r ateb a gefais oedd, 'gan fod y cytundeb masnachfraint yn dweud na ddylai’r troli te ddod ymlaen tan Amwythig.' Felly, mae cael y cytundeb masnachfraint yn iawn yn gwbl hanfodol. Felly, pan ddywedwch chi, yn y fargen fasnachfraint newydd sbon danlli hon,
'Bydd lefel y gwasanaeth yn cadw o leiaf at ei lefel bresennol', mae hynny’n codi arswyd arnaf am fy siwrneiau o—. Mae hyn yn eich datganiad; rwy’n dyfynnu o'ch datganiad ddoe. Mae hynny'n codi arswyd ar bobl, oherwydd hoffai pobl ddefnyddio mwy ar y trenau ar gyfer teithiau rhwng y gogledd a'r de, ac mae pobl yn chwilio am wasanaeth gwell. Cael gwybod bod y ddarpariaeth bresennol o bethau fel cwpanaid o de, gwydraid o ddŵr, ar daith pum awr; ddylai hynny ddim bod yn ormod i ofyn amdano yn yr unfed ganrif ar hugain.
Gadewch imi ofyn am eich barn, hefyd, am gyfraniad y system newydd ar gyfer dod â Chymru ynghyd. Nid symud pobl o A i B yw unig swyddogaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Does bosib na ddylai ein system rheilffyrdd newydd, flaengar ar gyfer Cymru fod yn seiliedig, yn y bôn ar ddod ag A a B yn nes at ei gilydd, gan adeiladu rhwydwaith sy'n clymu gwahanol rannau o Gymru at ei gilydd. Ychydig iawn yr wyf yn ei weld yn y rhestr honno o welliannau a gyhoeddwyd ddoe sy’n dangos inni ein bod yn creu system rheilffyrdd go iawn i Gymru gyfan. Wrth gwrs ceir gwelliannau—rwy’n gweld y cynnydd yn nifer y trenau ar lwybrau penodol, ar lawer o wahanol lwybrau, a gwelliannau i gymudwyr, a threnau newydd—ac mae hynny'n wych, ond ble mae creu system rheilffyrdd i Gymru gyfan?
O ran elw, i ddilyn y sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn gynharach, ni ddylid bod wedi preifateiddio’r rheilffyrdd fel y digwyddodd, ond maen nhw wedi’u preifateiddio. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw rheolaeth gyhoeddus go iawn dros yr arian sy'n llifo drwy’r system reilffyrdd. A allech roi mwy o sicrwydd inni ynglŷn â sut yr ydym ni'n cyfuno perfformiad gwell, yr ydym yn gobeithio ei gael gan y gweithredwr newydd, â sut yn union y caiff yr arian a gawn ni o’r perfformiad newydd hwnnw ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd? Dyna’r mathau o eglurhad sydd eu hangen arnom ni nawr. Gwnaethom golli rheolaeth dros y rheilffyrdd; aeth y rheilffyrdd yn beiriant pres. Roedd cwmnïau’n gallu gwneud elw—maent yn dal i allu gwneud elw. Mae angen inni wneud yn siŵr bod hyn yn hollol ddiogel, ac rwy’n dal i aros i glywed bod hyn yn rheolaeth gyhoeddus lwyr dros y rheilffyrdd yng Nghymru.
O ran gweithredwyr rheilffyrdd nid-er-elw, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, 'Wel, ni allwn ei wneud. Mae'r gyfraith yn dweud na allwn ni gael system rheilffyrdd gyhoeddus.' Yr hyn y gallwn ei gael, wrth gwrs, a gwnaethom ymchwilio i hyn y tro diwethaf—[Torri ar draws.] Diolch am yr awgrym mai dim ond ychydig eiliadau sydd gennyf ar ôl. Buom yn edrych yn y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf ar y posibilrwydd o greu cyfrwng nid-er-elw, sy'n sicr yn rhywbeth a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth. A allwch chi ddweud wrthyf, fel cwestiwn olaf, pa ymdrechion a wnaeth y Llywodraeth i edrych ar y posibilrwydd o ddarganfod, datblygu, ceisio cyfrwng i ddarparu rheilffyrdd nid-er-elw? Os gwnaethoch chi geisio a methu, pam rhoi yn eich maniffestos yr hoffech chi gael system nid-er-elw? Os na wnaethoch chi geisio o gwbl, wel, beth ar y ddaear yr oeddech yn ei wneud, yn ei roi yn eich maniffestos? Fe adawaf bethau fel yna. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod ei neges yn anghyson braidd â’r neges a roddwyd yn gynharach gan arweinydd ei blaid, o ran croesawu'r cytundeb masnachfraint. Dylwn nodi bod arweinydd Plaid Cymru wedi disgrifio’r trefniadau newydd yn gynharach y prynhawn yma yn rhai ‘eilradd’.
Mae'n amlwg mai sefyllfa Plaid Cymru, o ran gosod y fasnachfraint hon, yw na fydden nhw wedi bod mewn unrhyw sefyllfa, pe baen nhw mewn grym, i wneud dim ond parhau â’r trefniadau masnachfraint presennol, oherwydd yn syml—[Torri ar draws.] Oherwydd yn syml nid yw'n bosibl sicrhau bod corff cyhoeddus yn gallu cynnal y rhwydwaith rheilffyrdd presennol yn ôl y gyfraith. Rydym ni wedi ceisio newid y gyfraith honno, fel y mae pob plaid yn ei gydnabod. Gallai fod wedi digwydd—gallai mudiad nid-er-elw fod wedi ennill y contract pe baen nhw wedi gwneud cynnig, ond ni ddigwyddodd hynny, ac yn amlwg byddai gwladoli'n dal i fod yn well gennym. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddynt, rydym ni'n credu mai hon, o bell ffordd, oedd y fargen orau y gellid bod wedi ei tharo.
Yn wir, ymrwymodd Aelodau Plaid Cymru i adroddiad yn ddiweddar a oedd yn dweud, pe baem ni yn cyrraedd y pwynt lle’r ydym ni heddiw, y byddem ni wedi cyflawni uchelgais arwrol. Rydym ni wedi gwneud hynny, ac o fod â’r safbwynt hwnnw—un sydd mor ddi-ildio nes nad ydynt yn cydnabod bod angen inni fod yn bragmatig o ran dyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd—mae'n awgrymu mai'r unig ffordd ymlaen i Blaid Cymru fyddai wedi bod i barhau gyda’r trefniadau presennol, a byddai pris hynny wedi bod yn enfawr: 16 y cant yn uwch o ran cymorthdaliadau. Felly, byddai Plaid, dros 15 mlynedd, wedi talu pris sy’n cyfateb i fwy na £300 miliwn ychwanegol: 16 y cant yn fwy. Rydym ni'n mynd i arbed 16 y cant o ganlyniad i'r cytundeb yr ydym ni wedi’i daro, a byddai’r gwasanaethau gwael y mae Aelodau eisoes wedi sôn amdanynt wedi parhau ac, wrth gwrs, bydd dros £28 miliwn o elw yn cronni bob blwyddyn. Mae hynny'n ffaith, pe baech chi wedi parhau gyda'r trefniadau presennol, a dyna’r unig beth y gallech fod wedi ei wneud, yn seiliedig ar eich dadl bresennol.
Os na all Plaid Cymru groesawu’r ffaith ein bod wedi cyflawni’r hyn a ddisgrifiodd eu Haelodau eu hunain yn uchelgais arwrol, yna does bosib—does bosib—na ddylai fod rhyw gydnabyddiaeth o'r manteision enfawr a ddaw i Gymru o ganlyniad i'r fasnachfraint newydd hon: £800 miliwn yn fwy ar gerbydau; £194 miliwn yn fwy ar orsafoedd; tocynnau hanner pris i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed; hanner y trenau’n cael eu hadeiladu yng Nghymru. Rwy’n meddwl ei bod hi'n bryd cydnabod ein bod, weithiau, yn llwyddo. Rydym ni yn llwyddo ac rydym ni wedi llwyddo. Rydym ni wedi llwyddo i gyflawni trefniant masnachfraint ardderchog ar gyfer pobl Cymru.
Codwyd elw fel mater yn gynharach, a gan yr Aelod nawr. Roedd sôn am elw o 3 y cant yn gynharach, a 2.9 y cant. Wel, os edrychwch chi ar yr hyn y mae Arriva wedi bod yn ei wneud o ran elw: mae’r elw cyn treth yn ddiweddar wedi cyrraedd cymaint â 18.6 y cant; elw ar ôl treth, 6.9 y cant; talu difidendau o £20 miliwn i'r rhiant gwmni; buddsoddi dim ond £3 miliwn mewn—[Torri ar draws.]
Nid ni a lofnododd y contract hwnnw. Nid Llafur—. Corff cyhoeddus anadrannol oedd hwnnw. Gwnaethant gamgymeriad. Gwnaethant gamgymeriad, ac rwyf ar goedd droeon yn dweud eu bod wedi gwneud camgymeriad. Hoffwn pe bai’r rheini ar yr ochr honno i'r Siambr yn cyfaddef eu bod wedi bod yn barod iawn i feirniadu'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati i gaffael yr ymarfer hwn ar sawl achlysur, ond nawr yw'r amser i edifarhau oherwydd rydym ni wedi cyflawni hyn dros bobl Cymru.
Ac o ran y gweithredwr a'r partner datblygu’n gwneud elw, wel, mae'n ddiddorol, oherwydd mae gan Keolis ac Amey ill dau hanes rhagorol o ran cyflawni. Os edrychwch chi ar fodlonrwydd cwsmeriaid, yn wir, y ddau rwydwaith sy’n perfformio orau ar hyn o bryd yn y DU, o ran boddhad cwsmeriaid, yw rheilffordd ysgafn y dociau a system fetro Manceinion—Keolis sy’n gweithredu’r ddau. Ac o ran Amey: hanes rhagorol, fel y dylai’r Aelod wybod, oherwydd un o'r sefydliadau y maent yn gweithio iddynt yw Cyngor Ynys Môn o dan reolaeth Plaid.
O ran ansawdd, ac mae’r Aelod yn hollol gywir i ddweud bod ansawdd y ddarpariaeth yn hollbwysig—gwnaf faddau iddo am beidio â bod wedi darllen y briff i gyd, oherwydd mae llawer iawn o wybodaeth yno—ond dywedodd y bydd yn rhaid i bobl deithio ar y cerbydau rhydlyd sydd gennym ni nawr. Roedd y datganiad yn dweud bod pob trên yn mynd i gael ei ddisodli, ac y bydd 95 y cant o’r holl deithiau teithwyr yn cael eu gwneud ar gerbydau newydd sbon erbyn 2023. [Torri ar draws.] Na, dywedodd yr Aelod y byddwn yn dal i weithredu cerbydau rhydlyd sydd gennym nawr. [Torri ar draws.] Na.
Pedair blynedd.
Na. Byddwn yn disodli’r unedau sydd ar waith ar hyn o bryd ar y brif reilffordd o’r gogledd i'r de. Rydym yn mynd i ddechrau defnyddio trenau Marc 4 sydd wedi’u hailosod a’u hadnewyddu. Pam? Wel, oherwydd yn ystod y broses ymgynghori—ac roedd 1,300 o bobl a sefydliadau wedi cymryd rhan yn y broses honno—dywedwyd wrthym fod angen gwella’r gwasanaeth gwerthfawr hwnnw o ran amseroedd teithio ac o ran ansawdd y ddarpariaeth. Ac felly, o ganlyniad, aeth y cynigwyr i chwilio am y cerbydau gorau i ddatrys y sefyllfa. Mae’r Marc 4 yn arweinydd dosbarth o ran cysur. Fe’i cydnabyddir fel un o'r trenau gorau o ran cysur teithwyr ac felly, am y rheswm hwnnw, byddant yn cael eu hailosod a byddwn yn dechrau eu defnyddio cyn gynted â phosibl.
O ran y trenau newydd a fydd yn gweithredu, a dweud y gwir, bydd yr unedau lluosog disel newydd yn gweithredu nid yn 2023-24, fel y mae’r Aelod newydd ddweud ar draws y Siambr. Yn y gogledd, y gwn y mae'r Aelod yn awyddus iawn i’w weld yn elwa o’r ymarfer hwn—. Gogledd Cymru fydd yr ardal gyntaf i elwa o’r unedau lluosog disel newydd yn 2022, ac o ran y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de y mae’r Aelod, eto, wedi cyfeirio ato ar sawl achlysur, nid yn unig y byddwn yn cynnal y lefel gwasanaeth bresennol, byddwn yn ei gwella gyda gwasanaethau i’r ddau gyfeiriad.
Dywedodd yr Aelod hefyd fod y cynnig arlwyo ar y trenau’n annigonol ar hyn o bryd, ac rwy’n cytuno. Dyna pam yr wyf wedi dweud, fel isafswm, y dylid cynnal y ddarpariaeth ar yr un lefel ym mhob man, a'i gwella lle bo hynny'n bosibl. Felly, o ganlyniad, yr hyn y mae’r cynigydd llwyddiannus wedi addo ei wneud yw gwella'r cynnig arlwyo ar y gwasanaeth a nodwyd gan yr Aelod. Ond nid dim ond y gwasanaeth hwnnw: caiff y cynnig arlwyo ei wella ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Mae'n gwbl hanfodol bod teithwyr yn disgwyl teithiau mwy cysurus, a gwell cynnig arlwyo. Ni fyddent wedi cael hynny pe baem wedi cadw’r cytundeb masnachfraint cyfredol, sef yr hyn y byddai’n rhaid i arweinydd Plaid Cymru ei wneud, ond byddant yn ei gael gyda’n cytundeb masnachfraint ni.
Ac o ran trafnidiaeth yn dod â phobl yn nes at ei gilydd, mae llawer o enghreifftiau o sut y bydd hyn yn dod â phobl yn nes at ei gilydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn fudiad nid-er-elw cenedlaethol sy'n gyfrifol am oruchwylio’r cytundeb masnachfraint presennol a gwneud yn siŵr bod gwelliannau i’r rhwydwaith yn cael eu gwneud yn gyflym ac o fewn y gyllideb. Ond o ran rhai o'r enghreifftiau o sut y bydd hyn yn dod â phobl yn nes at ei gilydd, o fis Rhagfyr eleni ymlaen bydd gwasanaethau newydd; cyflwynir newidiadau yn 2019; a bydd 22 y cant yn fwy o filltiroedd ar ddydd Sul o 2019 ymlaen. Caerdydd Canolog i Ben-y-bont ar Ogwr: enghraifft berffaith o sut y gallwn ni ddod â phobl yn nes at ei gilydd. Bydd datrysiad cyson pedwar-trên-yr-awr o 2019 ymlaen. Gallwn roi rhagor o enghreifftiau. Mae’r rhestr yno, yn barod i Aelodau ei gweld, os ydynt yn dymuno. Mae pob un gwelliant i’r gwasanaeth yn dangos sut yr ydym yn uno’r wlad yn well, yn dod â phobl yn nes at ei gilydd ac yn dod â phobl yn nes at eu mannau gwaith yn gyflymach yn ogystal.
O ran elw, mae'r Aelod yn gywir, mae angen ailfuddsoddi elw lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl. Rydym yn capio elw’r gweithredwr a'r partner datblygu, a chaiff pob gormodedd ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith. Byddwn yn monitro perfformiad y gweithredwr, a byddwn hefyd yn edrych ar ddefnyddio cymalau toriad fel modd o sicrhau eu bod yn cyflawni yn erbyn y cynigion y maent wedi eu hamlinellu yn eu cynnig caffael.
O ran y cwestiwn nid-er-elw—a allai mudiad nid-er-elw weithredu’r gwasanaethau rheilffyrdd—unwaith eto, rhaid imi bwysleisio nad oedd dim i atal mudiad nid-er-elw rhag ymgeisio. Yn anffodus, ni wnaeth un—[Torri ar draws.] Roeddem yn annog un, ac yn wir, roedd hynny yn ein maniffesto. Dyna pam yr oeddem yn annog mudiad nid-er-elw. Yn anffodus, ni ddaeth un ymlaen.
Y pwynt allweddol yma, Llywydd, yw budd y teithwyr. Dyna sydd bwysicaf, ac rydym yn darparu trefniant masnachfraint o'r radd flaenaf i bobl Cymru.
Wel, efallai y dylwn nodi ei bod yn debygol y talwyd am y trenau gwych hynny y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt ar y cyfandir â’r biliynau o bunnoedd y mae Prydain wedi’u harllwys i mewn i Ewrop dros y 40 mlynedd diwethaf.
Ond, i symud ymlaen, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, sy'n rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r hyn y disgwylir i’r fasnachfraint newydd ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf? Rhaid imi ddweud, ceir rhai addewidion deniadol iawn a ddylai tawelu hyd yn oed y sylwebyddion mwyaf beirniadol. Mae gwelliannau i orsafoedd a cherbydau ac amserlenni llawer iawn mwy yn argoeli'n dda i ddyfodol teithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru a'r gororau. Mae’n sicr yn ymddangos bod modd cyfiawnhau'r broses ddeialog gystadleuol o edrych ar yr ymrwymiadau yr ydych chi wedi’u sicrhau gan y masnachfreiniwr buddugol.
Rydym, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o ddyheadau yn hytrach na chanlyniadau, felly mae'n braf gwybod eich bod wedi cynnwys cymalau sy'n caniatáu ichi derfynu contractau ar ôl pump a 10 mlynedd os nad yw gweithredwr y fasnachfraint yn darparu fel y rhagwelwyd. Ceir llawer o welliannau i amlder ac amseroedd gwasanaethau a ddylai, ynghyd â’r cynnydd mewn capasiti a ddarperir gan gerbydau newydd a mwy niferus, ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd y mae ei ddirfawr angen i wella boddhad teithwyr.
Dim ond un nodyn o siom, fel Aelod o’r de, a hwnnw yw, er eich bod yn sôn am wasanaethau ychwanegol, gwell cerbydau a gwelliannau i reilffordd Glynebwy, un peth sy’n dal i fod yn amlwg wedi’i hepgor yw ymrwymiad i gyswllt rheilffordd i Gasnewydd. Pan holais Trenau Arriva pam na ellid cyflawni’r cyswllt hwn, dywedasant fod y rheilffordd yn llawn gyda'r gwasanaeth i Gaerdydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd y gwelliannau newydd i reilffordd Glynebwy o’r diwedd yn creu digon o gapasiti ar gyfer y cyswllt â Chasnewydd y mae ei ddirfawr angen? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, am ei gwestiynau ac am roi croeso cynnes i'r cyhoeddiad, ac a gaf i ddiolch iddo am groesawu ar achlysuron blaenorol hefyd y broses yr ydym ni wedi’i defnyddio i gaffael gweithredwr masnachfraint Cymru a’r gororau, sef deialog gystadleuol?
Rwy’n meddwl ei bod yn enghraifft ddiddorol o sut, drwy ddefnyddio dull creadigol ac arloesol, rydym ni wedi gallu dangos i weddill y DU sut efallai y dylid caffael contractau rheilffyrdd yn y dyfodol. Cyn hyn, mae masnachfreintiau wedi cael eu gosod drwy i Lywodraethau anfon fan fawr o fanylebau ac wedyn bod cynigwyr wedi dod yn ôl gyda phris, ac nid yw’r ffordd honno o fynd ati i gaffael contractwr wedi cymell cynigwyr i wneud dim mwy na chynnig y gost isaf bosibl ac, felly, byddent yn aml yn darparu darpariaeth anghynaladwy. O ganlyniad, rydym ni wedi gweld methiant trefniadau masnachfraint ledled y DU. Rydyn ni wedi troi hynny ar ei ben a drwy broses o ddarparu amlen ariannu ac ymrwymo i ddeialog gystadleuol, rydym ni wedi dweud wrth gynigwyr: 'Dyma’r amlen; dyma’r swm mwyaf o arian sydd ar gael; beth allwch chi ei wneud ag ef?' Ac yna rydym ni wedi ymestyn ac ymestyn er mwyn sicrhau y cawn ni'r trefniadau gorau posibl, ac rwy’n meddwl mai dyna pam ein bod ni wedi gallu taro bargen mor gadarnhaol i bobl ar hyd a lled Cymru.
Mae'r Aelod yn hollol gywir bod angen gwella cerbydau. Darperir dros 140 o drenau newydd ar gyfer y rhwydwaith ac, wrth gwrs, caiff mwy na hanner y rheini eu hadeiladu yng Nghymru. Caiff pob un o'r 247 o orsafoedd eu huwchraddio. Mae'n dipyn o ffaith, a dweud y gwir, ein bod yn credu bod oddeutu £600,000 wedi'i wario ar orsafoedd yn y trefniant masnachfraint presennol dros y 15 mlynedd diwethaf. Ar y llaw arall, bydd y ffigur yn £194 miliwn yn y fasnachfraint nesaf—tipyn o gyferbyniad, ac rwy’n meddwl bod hynny'n dangos unwaith eto pam yr oedd y trefniant masnachfraint blaenorol yn anaddas, tra bod y trefniadau presennol yr ydym ni wedi cytuno arnynt yn wych i deithwyr a chymunedau fel ei gilydd.
Rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod bod ymgyrch y South Wales Argus ar gyfer gwasanaethau o Lynebwy i Gasnewydd wedi bod yn llwyddiannus, a bod yr Aelodau wedi cyflawni’r hyn y maent wedi dymuno ei wneud ers blynyddoedd lawer oherwydd o fewn y trefniant masnachfraint bydd un trên bob awr yn gweithredu rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Mae'n rhywbeth y dywedodd llawer o bobl yn ystod yr ymarfer ymgynghori fod ei angen arnynt, fod ei eisiau arnynt, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ei ddarparu.
Croesawaf y cyhoeddiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n meddwl ei fod yn gadarnhaol iawn ac yn gyffrous iawn a bydd yn dod â manteision mawr i Gymru. Yn sicr, rwy’n croesawu’r dull caffael; rwy’n meddwl y bydd yn arwain at wasanaeth sy'n canolbwyntio mwy ar y teithwyr, ac rwy’n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei lwyddiant.
Hoffwn roi croeso arbennig i un—. Rwy’n croesawu’r pwyslais ar gyflwyno trenau trydan a’r ymrwymiad i gael y trydan o ffynonellau adnewyddadwy—50 y cant oddi mewn i Gymru; rwy’n meddwl bod hynny'n gam mawr ymlaen—a hefyd defnyddio trenau tri-moddol, a fydd yn lleihau amhariadau ar reilffyrdd y Cymoedd.
Mae fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd bob amser yn cwyno nad ydynt yn gallu mynd ar y trenau neu fod y trenau mor orlawn nes bod y daith yn anodd iawn, felly rwy’n falch iawn y bydd, rwy’n meddwl, 45 y cant yn fwy o seddau yn y cyfnod prysur yn y bore. Felly, rwy’n meddwl y bydd hynny’n help mawr i'm hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd.
Rwyf hefyd yn falch iawn am y gorsafoedd newydd a gynigir. Mae gorsaf newydd wedi’i chynnig o’r enw gorsaf Gabalfa. Nawr, nid yw honno yn union lle’r oeddwn wedi disgwyl iddi fod; a dweud y gwir, mae hi yn ward Gogledd Llandaf. Rwy’n ei chroesawu, ond tybed a oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y penderfynwyd ble yn union i’w lleoli, oherwydd nid yw'n union yn lle y meddyliais i y byddai, ac a yw hynny wedi’i gadarnhau hefyd. Yn sicr mae angen gorsaf yn yr ardal honno, ond rwy’n meddwl y byddai o fantais ei rhoi mewn lle ychydig yn wahanol.
Roedd hefyd yn ddiddorol iawn gweld bod cynlluniau i ddatblygu cyswllt cangen metro â chanolfan canser Felindre, sy'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn awyddus iawn i’w weld, oherwydd, yn amlwg, gan fod niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio gwasanaethau'r Felindre, yn enwedig gan fod y boblogaeth yn heneiddio, rwy’n meddwl y byddai darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n mynd yn syth i Felindre fel hyn yn ddelfrydol. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o fanylion am y cynlluniau ar gyfer y gwaith trawslywodraethol ynglŷn â hyn, y cyfeirir ato yn ei ddatganiad ddoe.
Yn olaf, hoffwn ategu eich galwad ar Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb am y fasnachfraint rhwng dinasoedd rhwng Cymru a gweddill y DU.
A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau ac unwaith eto am roi croeso cynnes i'r cyhoeddiad?
Rwyf innau’n falch iawn bod y cynigiwr a ffefrir wedi gallu cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol iawn ar gyfer lleihau allyriadau carbon—gostyngiad 25 y cant yn y pum mlynedd nesaf—ac, yn fwy na thebyg yn bwysicach, yr addewid y bydd 100 y cant o’r trydan i’w ddefnyddio i drydaneiddio gwasanaethau’n adnewyddadwy, ac y bydd 50 y cant ohono’n dod o Gymru. Gyda’r trenau tri-moddol, gyda’n trenau batri, rwy’n meddwl ein bod yn dangos bod Cymru yn arloesol fel darparwyr trydaneiddio i’r unfed ganrif ar hugain. Tan yn ddiweddar, y dyb erioed oedd mai’r unig ffordd o drydaneiddio fyddai drwy osod nifer enfawr o beilonau, ceblau ym mhobman, ond, a dweud y gwir, nid yw hynny'n wir. Yn ddiweddar tynnwyd sylw yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig bod potensial trenau pŵer hydrogen a batri heddiw yn enfawr. Mae rhai gwledydd, a bod yn deg, wedi bod yn gweithredu’r mathau hynny o welliannau technolegol ers blynyddoedd lawer—mae Japan, er enghraifft, wedi bod yn defnyddio'r math hwnnw o dechnoleg ers dros ddegawd—ond ychydig iawn yn y DU. Felly, rwy’n falch iawn y bydd Cymru ar flaen y gad o ran defnyddio ynni adnewyddadwy, defnyddio ffurf newydd ar drydaneiddio, ac arloesi yn y ffordd honno.
Rwyf hefyd yn falch, fel y nododd yr Aelod, y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol mewn capasiti. Rwy’n meddwl bod y ffaith syfrdanol y bydd cynnydd o 65 y cant ym maint y fflyd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau a'r ardal fetro yn dangos potensial mawr iawn, iawn nawr i gwrdd â’r twf disgwyliedig yn nifer y teithwyr, sydd ar hyn o bryd o gwmpas 74 y cant erbyn 2030. Felly, yn amlwg, mae’r hyn y mae’r cynigydd, y mae KeolisAmey, wedi’i ddarparu o fewn eu cynnig caffael yn bodloni disgwyliadau teithwyr o ran y galw am seddi.
O ran lleoli gorsafoedd newydd, wel, penderfynwyd ar hyn ar sail argaeledd tir ac eiddo a'r posibilrwydd o integreiddio â mathau eraill o drafnidiaeth—bysiau, teithio llesol, parcio a theithio strategol—a hefyd yr angen i integreiddio gyda chynllunio tir strategol ar gyfer datblygiadau newydd ac, wrth gwrs, yr angen i’w lleoli mewn ardaloedd strategol bwysig i bobl allu eu defnyddio o'u cartrefi ac o'u gwaith. Rwy’n hapus i drafod ymhellach lleoliad yr orsaf benodol y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ati, ond mae'r Aelod yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y sbardun a fydd yn gwasanaethu Felindre, bod hyn yn enghraifft wych o integreiddio gwasanaethau cyhoeddus gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.
O ran gweithio trawslywodraethol, rwy’n awyddus i barhau i drafod gyda'm cyd-Aelodau, yn arbennig mewn llywodraeth leol ac mewn iechyd ac mewn cynllunio, i sicrhau, lle mae seilwaith cymdeithasol yn cael ei greu, ei fod yn cyfateb yn berffaith i’r seilwaith trafnidiaeth sydd hefyd yn cael ei gynllunio ar gyfer yr ardaloedd hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwrando ar Blaid Cymru heddiw wedi fy atgoffa o hen gynrychiolydd undeb gweithwyr ffowndri a aeth, pan oedd ei weithwyr wedi bod allan ar streic, i drafodaethau. Daeth allan wedyn a dweud wrth ei aelodau, cyfarfod torfol o’r aelodau—dywedodd, 'Wel,' dywedodd, 'frodyr a chwiorydd,' meddai, 'rwyf wedi negodi wythnos ychwanegol o dâl gwyliau,' dywedodd, 'rwyf wedi negodi cynnydd 10 y cant, ac nid yn unig hynny', meddai , 'dim ond ar ddydd Gwener y byddwch yn gorfod gweithio.' Ac mae’r dyn yn y cefn yn gweiddi, 'Beth? Bob dydd Gwener?' Mae’n rhaid imi dybio mai aelod o Blaid Cymru oedd hwnnw oherwydd, o wrando ar eu sylwadau heddiw, mae’n ymddangos i mi nad oes dim byd am yr holl becyn hwn sydd o unrhyw fudd. Wel, gallaf ddweud wrthych chi, yn sicr, yn fy etholaeth i, bod Trafnidiaeth Cymru, yn gyntaf oll, yn dod i Bontypridd, yn mynd i adfywio'r dref honno yn sylweddol. Mae eisoes yn cael yr effaith honno: 500 i 1,000 o swyddi. Mae’r gwaith cynnal a chadw cerbydau newydd yn fy etholaeth i, yn Ffynnon Taf, sy’n creu rhai cannoedd o swyddi, hefyd yn rhywbeth y mae croeso mawr iddo gan bobl Pontypridd a Thaf Elái. Ac mae'r ffaith bod gennym ni bellach yng Ngholeg y Cymoedd rai o'r rhaglenni hyfforddiant gorau, ac rwy’n falch o weld eich bod wedi dod i Nantgarw i’r lansiad, eto yn bwysig iawn—pwysig iawn oherwydd, wrth gwrs, bydd rhai ohonom yn cofio mai dyna oedd safle hen waith glo a golosg Nantgarw; am ardal wedi’i hadfywio. Hefyd mae’r ffaith, nawr, wrth gwrs, bod gorsaf Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn mynd i symud, a hoffwn ichi efallai roi rhyw sylw am yr union amserlen a'r raddfa amser ar gyfer y symudiad hwnnw yn agosach at Nantgarw.
A allech chi hefyd efallai amlinellu’r manteision a fydd yno, yn enwedig i bobl ifanc 16 i 18 oed, o ran y gyfundrefn tocynnau, oherwydd mae hynny wedi bod o fudd sylweddol, a hefyd efallai rywbryd a ydych yn ystyried ymestyn—wrth imi ddatgan buddiant yma—y cerdyn teithio rhatach i bobl dros 60 oed i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn ogystal?
A gaf i hefyd ofyn ichi am gadarnhad y bydd yn bendant, yn unol â thrafodaethau ag ASLEF a’r undebau llafur RMT, gardiaid ar y trenau? Mae pobl yn hoff o weld gardiaid ar y trenau. Maent yn eu gweld yn rhywbeth sy'n eu cadw’n ddiogel, yn rhoi cysur a hyder iddynt yn y rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'n rhywbeth sydd wedi’i golli mewn meysydd eraill.
Ac a gaf i wedyn ofyn ichi am un pwynt olaf cyn cloi? Sef, wrth gwrs, y bydd y rhan fwyaf o'r trenau hyn yn weithredol erbyn 2023. Mae angen inni ddechrau paratoi nawr am y cyfnod nesaf, a byddwch yn gwybod fy mod wedi sôn wrthych, wrth gwrs, am fater y rheilffordd yn mynd i fyny i Lantrisant. Ac, wrth gwrs, cefais neges drydar yn gynharach heddiw yn dweud bod Nessie o'r diwedd wedi cael ei gweld ar ei ffordd i fyny tuag at yr A470, ac rwyf wedi trydar yn ôl yn dweud, wel, rydym yn gobeithio mai dim ond aros ennyd y mae Nessie ac y bydd yn awr yn mynd i fyny tuag at Lantrisant lle’r ydym i gyd yn aros i’w gweld hi yno.
A gaf i ddiolch i Mike Antoniw am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Rwy’n meddwl ei fod yn tynnu sylw at ddatblygiad pwysig iawn yn ei etholaeth ei hun, sef sefydlu Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd. Gallai hynny fod yn enghraifft berffaith o sut y gallwn ddefnyddio seilwaith trafnidiaeth, busnes sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, i sbarduno twf economaidd ledled Cymru. Ac rwy’n arbennig o awyddus i wneud yn siŵr ein bod, o'r cytundeb masnachfraint hwn, yn cymryd pob cyfle posibl i sbarduno twf economaidd mewn ffordd gynhwysol ledled Cymru.
Roeddwn hefyd yn falch iawn bod lansiad y fasnachfraint newydd wedi digwydd yng nghyfleuster rheilffordd Nantgarw, cyfleuster sy’n dod â gobaith a chyfle i bobl ifanc ac, unwaith eto, a fydd yn dod yn gyfleuster pwysicach fyth yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i’r union gytundeb masnachfraint hwn.
O ran yr amserlen ar gyfer symud y soniodd yr Aelod amdani, gallaf gael mwy o fanylion i’r Aelod am hynny, ond rydym wedi ymrwymo i wneud y gwaith sy’n ofynnol mewn modd amserol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu rhedeg yn ôl y disgwyl erbyn y dyddiad arfaethedig 2023.
O ran teithio rhatach i bobl ifanc, wrth gwrs, rydym yn ymestyn teithio am ddim o blant dan bump oed i blant dan 11 oed. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd rhatach, neu docynnau rhatach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 mlwydd oed, gan haneru cost tocynnau i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed. A byddwn hefyd yn cynnig teithio am ddim ar adegau tawel i blant 11 i 16 mlwydd oed sy'n teithio gydag oedolyn ar rai gwasanaethau—unwaith eto, yn hanfodol bwysig er mwyn cysylltu teuluoedd â'i gilydd, yn enwedig ar benwythnosau, pan fyddant efallai am fynd i wylio gêm rygbi neu gêm bêl-droed, neu unrhyw fath arall o chwaraeon neu weithgarwch diwylliannol. A bydd y budd penodol hwn yn berthnasol i deuluoedd a ffrindiau fel ei gilydd. Cedwir y trefniadau presennol ar gyfer pobl dros 60 oed, ac rwy’n cytuno ei bod yn hanfodol bwysig bod gard neu ail unigolyn ar y trên, nid yn unig ar gyfer diogelwch y trên, ond ar gyfer diogelwch teithwyr hefyd.
Ac, o ran symud y tu hwnt i 2023, mae'r metro yn cael ei lunio yn y fath fodd fel y gellir ei ymestyn, ac rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod pobl mewn cymunedau lle ceir cyfran uchel o bobl na allant eto deithio i’r gwaith yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael y cyfle i wneud hynny yn y dyfodol drwy ymestyn y metro ac, yn wir, nid dim ond ymestyn y metro yn y de-ddwyrain, ond hefyd ledled Cymru, a gweld gwasanaethau’n cael eu hehangu drwy fuddsoddi yn y dyfodol yn y seilwaith ac yn y trenau sy’n teithio arno.
Mae ein hamser ar ben ar gyfer y datganiad hwn, ond, o ystyried ei bwysigrwydd, gwnaf ymestyn yr amser datganiadau ychydig, ond os caf alw ar Aelodau i fod yn gryno yn eu cwestiynau—. Nick Ramsay.
Dim ond un cwestiwn gennyf fi, diolch, Llywydd. Rwyf finnau’n croesawu eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch ichi am drefnu’r papur briffio. Euthum i'r un brecwast y bore yma, ac roedd yn ysbrydoledig. Mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n unol â’r cynllun, ond roedd yr hyn a welais yn gadarnhaol iawn.
A gaf ofyn ichi am ymrwymiad KeolisAmey i fynediad i bobl anabl yn ein gorsafoedd rheilffordd a hygyrchedd cyffredinol? Bu problemau parhaus gyda mynediad gwael i bobl anabl yng ngorsaf y Fenni yn fy etholaeth i ers blynyddoedd lawer bellach, ac yn sicr o dan fasnachfraint Arriva. Pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda KeolisAmey ynglŷn â’r problemau yn yr orsaf arbennig honno? Pa atebion y maent yn eu cynnig? A wnaiff y fasnachfraint newydd ddatrys y problemau hyn a pha mor hir fydd hi cyn i bobl yn y Fenni weld y gwelliannau o ran mynediad y mae eu hangen yn daer yn yr orsaf honno?
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am groesawu'r cyhoeddiad, a diolch hefyd i Nick a phob Aelod arall a ddaeth i'r cyfarfod brecwast briffio am gymryd rhan yn hwnnw? Oherwydd fy mod yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gallu rhannu cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl gydag Aelodau, a fydd wedyn yn ddiamau yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i etholwyr.
Roedd hygyrchedd i bobl anabl yn ystyriaeth allweddol, nid yn unig yn yr ymarfer caffael, ond hefyd yn y gwaith a wnaeth y pwyllgor economi a seilwaith wrth edrych ar drefniadau masnachfraint ar gyfer y dyfodol. Rwy'n arbennig o falch na fydd unrhyw orsafoedd ar y map metro â mynediad grisiau yn unig. Caiff pob gorsaf sylw, a bydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod hygyrchedd i bobl anabl yn gwella. Mae gorsaf Y Fenni yn un o'r gorsafoedd hynny a fydd yn gweld gwelliannau. Yn ogystal â hynny, mae £15 miliwn yn cael ei roi ar gael i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd y tu allan i ardal y metro, gan eto gynnig cyfleoedd i bobl allu teithio ar drenau o orsafoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn addas iddyn nhw eu defnyddio.
O ran yr amserlen, bydd y gwaith a gaiff ei wneud rhwng nawr a 2023, pan fydd y gwasanaethau metro yn llwyr weithredol, yn cynnwys y gwaith angenrheidiol o ran hygyrchedd. Nid wyf i'n gwybod ymhle yn union y daw'r Fenni o ran yr amserlen ar gyfer y gwaith seilwaith y mae angen ei wneud, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod, ac aelodau eraill, cyn gynted ag y gallaf gyda manylion am yr amserlen benodol y bydd y gorsafoedd hynny yn cael eu gwella oddi mewn iddi.
Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Mae e newydd grybwyll rhai o'r ffyrdd y gall y fasnachfraint newydd arbed ar garbon; a wnaiff e gadarnhau yn benodol y byddwn ni'n gweld trenau sy'n defnyddio hydrogen fel rhan o'r cynllun yma dros y 15 mlynedd nesaf? Mae trenau o'r math eisoes yn rhedeg yn rhanbarthau o'r Almaen, ac mae'n ffordd, fel mae e wedi awgrymu, o neidio heibio'r cwlwm trydaneiddio sydd gyda ni ar hyn o bryd a chyflwyno rhywbeth gwell yn syth bin i bobl yng Nghymru.
Yr ail beth rydw i eisiau jest gofyn iddo fe yw ynglŷn â'r seilwaith ariannol sydd tu ôl i hwn i gyd. Rydym ni'n gwybod rhywfaint—nid y cyfan, achos mae'n fasnachol—ynglŷn â chostau, ond ddydd Gwener gwnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â thaliadau mynediad ar gyfer y rheilffyrdd, ac roedd e'n dda gennyf weld eich bod chi wedi dod i gytundeb erbyn hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond nid yw manylion y cytundeb ar gael eto. A wnewch chi gadarnhau pryd fydd y manylion a'r cytundeb yn cael eu cyhoeddi fel bod modd i ni graffu ar hynny? Byddwch chi'n cofio, wrth gwrs, os nad ŷch chi'n dod i gytundeb, i bob pwrpas, y byddwch chi'n talu £1 biliwn dros 15 mlynedd er mwyn cael y mynediad o dan y system bresennol. Rydych chi'n dweud bod hynny'n dod i ben—grêt—ond rydych chi hefyd yn dweud eich bod chi wedi gorfod cytuno, o dan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol, i dalu dros £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. O ystyried bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ond yn rhoi £125 o miliwn tuag at fetro'r de, mae hynny'n enghraifft, mae'n amlwg i fi, o roi mewn un llaw a chymryd gyda'r llaw arall. Nid yw Llywodraeth Cymru ddim fawr well o gyfraniad gan y Llywodraeth sydd yn dal yn gyfrifol—gan nad ydyn nhw wedi datganoli rheilffyrdd—am y rheilffyrdd drwy'r Deyrnas Gyfunol. A fedrwch chi jest rhoi bach mwy o gnawd ar y symiau hynny, a hefyd esbonio pryd byddwch chi'n cyhoeddi'r datganiad a chytundeb yn llawn, fel bod cyfle i ni, efallai, graffu yn ofalus iawn ar y cytundeb ariannol yma?
A gaf i ddiolch i Simon Thomas am ei gwestiynau? Rwy'n credu y bydd y defnydd o drenau hydrogen yn cael ei weld yn fwy eang yn y blynyddoedd i ddod. Maen nhw'n dal i fod dan brawf mewn rhai amgylchiadau ac ar rai rheilffyrdd, ond yn fy marn i byddwn yn gweld llawer mwy o enghreifftiau o drenau hydrogen ar rwydweithiau rheilffyrdd ledled y byd yn y degawd nesaf neu oddeutu hynny. Nid oedden nhw yn cynrychioli unrhyw ran o'r cynnig gan weithredwr y fasnachfraint. Er hynny, pe byddai elw dros ben yn y dyfodol yn cael ei ailfuddsoddi mewn cerbydau newydd, yna yn sicr gellid ystyried trenau hydrogen, yn arbennig wrth inni gyflwyno cysyniadau metro mewn mannau eraill yng Nghymru. Yn hytrach, mae trydaneiddio'r unfed ganrif ar hugain—os mynnwch chi, trydaneiddio'r genhedlaeth nesaf—wedi cael ei ddefnyddio, gyda phŵer batri. Mae rhai pobl yn dal i hiraethu am y dyddiau pan oedd peilonau a cheblau yn arwydd o'r dyfodol. Wel, mewn ffordd debyg i'r ffordd y mae'r iPhone a'r iPad yn dangos nad oes angen ichi fod â'ch cyfrifiadur Apple wedi'i blwgio i mewn, felly hefyd y mae'r trenau batri yn dangos nad oes angen ichi gael ceblau ym mhobman. Efallai mai'r cam naturiol nesaf fydd hydrogen—nid ydym yn gwybod beth fydd y farchnad yn galw amdano eto. Ond, yn sicr, wrth inni archwilio datblygu trenau hydrogen a pha mor ddibynadwy ydyn nhw, bydd yn ystyriaeth allweddol ar gyfer unrhyw ailfuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn y dyfodol ac ailfuddsoddi mewn cerbydau yn y dyfodol.
O ran taliadau ar gyfer defnydd o'r cledrau, byddaf yn fwy na pharod i ysgrifennu at Aelodau gyda manylion y cytundeb y daethpwyd iddo gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau wedi dod i gytundeb yn dilyn yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn drafodaethau cadarnhaol iawn sydd wedi eu cynnal ers mis Medi 2017. Mae'r Aelod yn gwbl gywir fod y cytundeb gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn ymdrin â'r hyn yr adroddwyd yn eang amdano y llynedd, pan fyddai angen i Lywodraeth Cymru fod wedi talu dros £1 biliwn i Lywodraeth y DU dros y 15 mlynedd nesaf mewn taliadau i ddefnyddio cledrau. Yn y bôn rydym wedi rhwystro trethdalwyr Cymru rhag gorfod ysgwyddo baich y rhan fwyaf o £1 biliwn, a chyda terfyniad y taliad cymwysedig hwn rydym wedi cytuno ar drefniant newydd, yn debyg i'r trefniadau sydd ar waith rhwng y rhai sy'n gweithredu'r masnachfreintiau yn Lloegr â'r Adran Drafnidiaeth, sydd hefyd yn cymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, y modd yr ariennir Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu, yn ei dro, mai'r costau tâl a ragolygir ar gyfer y defnydd yn y cais fydd yr hyn a delir am y 15 mlynedd nesaf. Yn sgil y cymhlethdodau o ran yr adolygiad presennol o wariant, gwneir dau daliad addasedig pellach hyd at 2020, fel y nododd yr Aelod.
Mae'n werth ailadrodd bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi ailgadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi £125 miliwn o gyllid tuag at fetro de-ddwyrain Cymru ac y bydd yr Adran Drafnidiaeth yn ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Lloegr yn unig hefyd. Ond rwy'n fwy na pharod i roi mwy o fanylion ar y cytundeb.
Fel cyd-Aelodau ar y meinciau hyn, rwy'n awyddus iawn i ddathlu'r cyfan yr ydych wedi llwyddo i'w gyflawni. Rwy'n credu bod manteision enfawr yn deillio o'r contract newydd hwn. Yn amlwg, mae gallu prynu ein tocynnau ar y ffôn a thocynnau integredig fel bod y daith lawn yn cael ei chwblhau o phan fyddwn yn mynd o gartref i'n cyrchfan ac yn ôl eto—mae hynny'n gwbl wych. A hefyd mae bod â'r gallu i adeiladu ein cerbydau newydd yng Nghymru yn golygu y gallwn ymateb yn gyflymach o lawer pan fo'r galw yn cynyddu.
Mae gennyf i un cwestiwn penodol. Yn eich datganiad ddoe roeddech chi'n sôn am 45 y cant yn fwy o seddau ar gael i fynd i mewn i Gaerdydd yn ystod oriau brig y bore, ac roeddwn yn meddwl tybed a fydd hynny'n ddigon o gofio bod gennym 80,000 o bobl ar hyn o bryd yn cymudo i Gaerdydd, sydd yn gwbl annerbyniol. Byddai'n ddefnydd llawer mwy cynhyrchiol o'u taith i'r gwaith pe bydden nhw'n yn eistedd ar y trên yn llunio eu hadroddiadau neu'n darllen eu negeseuon e-bost. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a fydd cynnydd o'r fath yn ddigonol o gofio ein bod nid yn unig yn dymuno eu gweld yn dod i mewn ar y trên, ond bod angen inni eu gweld yn dod ar y trên am resymau da iawn o ran iechyd y cyhoedd hefyd.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Mae'r Aelod yn llygad ei lle bod yn rhaid i'r dechnoleg newydd gael ei defnyddio gan y gweithredwr. Mae hi yn cael ei defnyddio, ac mae'n werth i mi rannu gydag aelodau fwy o fanylion am y system ad-dalu a gaiff ei gweithredu. Bydd yn awtomatig, ac felly bydd unrhyw deithiwr a fydd yn dioddef oedi am 15 munud neu fwy yn cael ad-daliad ar bris ei docyn yn awtomatig. Mae hynny'n rhywbeth sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Ewrop, ac rwy'n falch iawn y byddwn ninnau'n cyflwyno'r trefniant hwnnw yma yng Nghymru.
Rwy'n ffyddiog y bydd nifer y seddau ychwanegol yn ddigonol i deithwyr, ac mae'n werth tanlinellu'r pwynt hefyd y bydd cosbau ar gyfer y gweithredwr pan fo unrhyw un yn gorfod bod ar ei draed am fwy nag 20 munud. Yn ogystal â'r cynnydd yn nifer y seddau, bydd ychwaneg o le ar drenau ar gyfer beiciau a ffurfiau eraill o deithio a roir ar drên, gan gynnwys cadeiriau olwyn, oherwydd wrth gwrs bod angen inni integreiddio trafnidiaeth mewn modd llawer gwell, ac os na allwch chi roi eich beic ar y trên ni allwch wedyn fynd ar ei gefn y pellter byr hwnnw, y filltir olaf un honno, fel y'i gelwir yn aml, i'r gwaith. Ceir hefyd rai cynigion cyffrous yn y trefniant masnachfraint ar gyfer y filltir olaf honno i'r gwaith, a byddaf yn falch o gael eu rhannu â'r Aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Hoffwn roi fy niolch ar y cofnod am gyflawni’r capasiti ychwanegol ar reilffordd Glynebwy, gan sicrhau y bydd y cyswllt yn aros yng Nghasnewydd hefyd. Mae hyn i'w groesawu'n fawr yn y rhanbarth ac yn arbennig yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd. Roedd hi'n wych cael deffro i ddarllen pennawd y South Wales Argus fore heddiw a oedd yn dweud, 'O'r diwedd!', a chredaf fod hynny yn crynhoi'r hyn y mae llawer ohonom wedi bod yn aros amdano. Gorsaf trenau Casnewydd yw'r ail orsaf trenau brysuraf yng Nghymru. Bydd cysylltu cymoedd Gwent a rhannau o Gasnewydd fel Tŷ-du a Rhiwderyn â chanol y ddinas yn helpu i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd.
Mae'n hanfodol bwysig fod teithio ar drên yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bobl ifanc, a chroesawaf y cyhoeddiad fod tocynnau rhatach wedi'u hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno bod galluogi pobl ifanc i symud yn rhwydd ac yn fforddiadwy ledled y rhanbarth ar gyfer cyfleoedd am addysg a chyflogaeth nid yn unig yn annog defnyddio cludiant cyhoeddus ond hefyd yn cyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer twf cynhwysol?
Yn hollol; allwn i ddim cytuno mwy â chi. Mae'n ffaith frawychus, mewn rhai rhannau o Gymru, na all un o bob pump o bobl ifanc hyd yn oed gyrraedd eu cyfweliad am swydd oherwydd na allan nhw fforddio'r cludiant cyhoeddus sydd ei angen arnyn nhw i gyrraedd eu cyfweliad. Felly, yn sicr bydd cynllun tocynnau hanner pris i rai 16 i 18 mlwydd oed yn helpu i sbarduno twf cynhwysol ledled Cymru a sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael cyfweliadau am swyddi a mynd yn ôl a blaen i'r gwaith.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle, yng Nghasnewydd mae'r ail orsaf brysuraf yng Nghymru, a bydd yn bwysig ei bod hi, fel pob gorsaf arall, yn cael swm da o fuddsoddiad i'w chynnal fel gorsaf ddymunol i edrych arni, ond hefyd yn un sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf fel bod y teithwyr yn gyfforddus wrth deithio ar wasanaethau dibynadwy. Rwy'n falch hefyd y bydd gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd o 2021 ymlaen.
Ac yn olaf, Darren Millar.
A gaf innau hefyd ddiolch ichi am eich datganiad? Rwy'n falch iawn y bydd yna rai gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hi'n hen bryd yn fy marn i, fel un sy'n teithio'n rheolaidd rhwng y gogledd a'r de. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau, er hynny.
Rwy'n gwybod eich bod chi a minnau wedi bod yn awyddus iawn i weld cyswllt rheilffordd uniongyrchol â Lerpwl yn cael ei sefydlu a bydd hynny yn digwydd gobeithio ym mis Rhagfyr eleni, sydd yn newyddion da dros ben. Ond un peth na wnaethoch chi sôn amdano mewn unrhyw un o'ch datganiadau hyd y gwelaf i oedd y cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol i feysydd awyr Lerpwl a Manceinion, sydd wrth gwrs yn gynyddol bwysig wrth i Gymru ddod yn rhan o'r economi fyd-eang. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni a fydd yna gynnydd yn amlder y trenau i faes awyr Manceinion o'r gogledd, yn enwedig o ran y trefniadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus y cyhoeddwyd gennych eich bod yn ymchwilio iddynt a'r cymorth i'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus y gallech chi ei roi i'r cysylltiadau awyr i'r mannau hynny.
Yn ail, mae gorsaf trên a gaewyd ychydig ddegawdau yn ôl yn fy etholaeth i, yr hoffwn ei gweld yn ailagor, a'r Foryd yw honno, sy'n gwasanaethu ardal Tywyn a Bae Cinmel. Byddwch yn ymwybodol o boblogrwydd mawr Tywyn a Bae Cinmel fel cyrchfan i dwristiaid, gyda 60,000 o welyau mewn parciau carafanau yno. Credaf ei bod yn bryd inni edrych eto ar hyfywedd y Foryd fel cyfle i wella trafnidiaeth gwyrdd yn y gogledd, a tybed a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth y byddwch yn gallu ei drafod gyda'r gweithredwr newydd, o ystyried y wythïen gyfoethog o arian sydd ar gael i wella a buddsoddi mewn gorsafoedd newydd.
Ac yn olaf, er fy mod i'n croesawu ymestyn tocynnau mantais i rai 16 i 18 mlwydd oed, wrth gwrs nid yw hynny'n mynd cyn belled â'r cynigion a gyflwynwyd gennym yn y Siambr hon beth amser yn ôl ar gyfer ein cerdyn gwyrdd, a fyddai'n cynnig tocynnau gostyngol ar y rheilffyrdd i rai 16 i 25 mlwydd oed, ac, yn wir, rai cyfleoedd i deithio'n rhatach ar fysiau hefyd. Tybed a ydych chi wedi rhoi ystyriaeth bellach i'r rheini a sut y gallen nhw gydblethu â'r cynllun arbennig hwn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r trefniadau caffael, ac am ei ddiddordeb parhaus mewn gwasanaethau allweddol yn y gogledd, gan gynnwys y gwasanaeth o'r gogledd i Lerpwl a fydd yn gweithredu drwy Halton Curve. Fe soniaf am hynny mewn eiliad, ond, yn gyntaf, ddylwn i ddweud hefyd ein bod yn edrych ar wasanaethau uniongyrchol o'r gogledd i orsaf Lime Street yn Lerpwl gan ddefnyddio twnnel Mersi. Gan ddefnyddio cerbydau daufoddol newydd, byddem yn gallu mynd drwy dwnnel Mersi yn uniongyrchol o Wrecsam i Lerpwl, ac nid dim ond o Wrecsam i Bidston. Credaf y byddai hynny'n dod â manteision enfawr i'r gogledd.
O ran y gwasanaethau rhwng y gogledd a Lerpwl, rwy'n falch, gan ddefnyddio Halton Curve, y caiff gwasanaethau newydd eu darparu o'r gogledd i Lerpwl. Bydd y gwasanaeth newydd o Lerpwl i Landudno, er enghraifft, yn 2022, yn un o'r gwasanaethau hynny fydd yn defnyddio llinell newydd Halton Curve, ac o ganlyniad bydd yn gallu mynd i faes awyr John Lennon yn Lerpwl. Yn yr un modd, rwyf hefyd yn falch i allu rhannu gwybodaeth â'r Aelod ynghylch meysydd awyr eraill sy'n gwasanaethu'r gogledd ar ochr Lloegr y ffin, sef maes awyr Manceinion, a bydd gwasanaethau dyddiol uniongyrchol newydd o'r gogledd i faes awyr Manceinion, eto ym mis Rhagfyr 2022. Rwyf hefyd yn falch o allu dweud wrth yr Aelod y bydd y rhain yn drenau newydd sbon wedi eu gwneud yng Nghymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.