– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i iechyd meddwl emosiynol plant a phobl ifanc, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig. Lynne Neagle.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel arfer, rwy'n cychwyn drwy ddweud ei bod hi'n bleser cael agor y ddadl, ond heddiw, mae'n fwy na phleser; rwy'n falch, ac mae'n fraint cael annerch y Siambr hon ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
I mi, iechyd emosiynol a iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yw un o'r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, i ni fel Cynulliad. Mae sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y lle hwn, ac ysgolion, ysbytai, ffermydd a ffatrïoedd ein cenedl yn wydn, yn feddyliol iach, ac yn meddu ar yr adnoddau i fynd i'r afael â'r heriau a fydd, yn anochel, yn eu hwynebu, yn gyfrifoldeb sylfaenol i bob un ohonom.
Amcangyfrifir y bydd un o bob 10 o bobl ifanc yn cael profiad o broblem iechyd meddwl, ac mae bron dri o bob pedwar unigolyn ifanc yn ofni ymateb eu ffrindiau pan fyddant yn siarad amdano. Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau erbyn 14 oed, a thri chwarter erbyn ugeiniau canol yr unigolyn ifanc. A dyna pam y dewisom neilltuo llawer o dymor y gaeaf i'r ymchwiliad hanfodol hwn.
Cynhaliodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y pedwerydd Cynulliad adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Roeddem eisiau edrych ar hynny eto a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gynnydd. Ond roeddem eisiau mynd gam ymhellach. Roeddem hefyd yn ymrwymedig i ystyried pa gymorth y gellid ei roi i osgoi uwchgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Mae costau salwch emosiynol a salwch meddwl—nid yn unig i bwrs y wlad, ond yn bwysicaf oll, i'r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sy'n dioddef yn ei sgil—yn rhy uchel i ni beidio â cheisio atal y llif yn gynharach.
Heb gymorth, gwyddom fod trallod meddwl yn gallu effeithio'n ddifrifol ar lesiant plant, eu datblygiad a'u cyrhaeddiad. Ond gyda chymorth priodol ac amserol, mae tystiolaeth hefyd yn dangos y gall plant a phobl ifanc sydd wedi cael problemau iechyd meddwl ac iechyd emosiynol fyw bywydau iach a hapus. Nid oes angen i hyn, ac ni ddylai, fod yn sefyllfa sy'n gwaethygu'n anochel.
Cyn i ni barhau, rwyf eisiau i ni glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain. Rydym wedi ymrwymo i roi llais iddynt yn holl waith y pwyllgor, ac nid oedd yr ymchwiliad hwn yn eithriad. Rwyf eisiau cofnodi fy niolch i bawb a siaradodd â ni, ond yn enwedig i'r plant a'r bobl ifanc a roddodd ganiatâd i ni ymweld â hwy ac a siaradodd mor agored ac mor rymus am faterion rydym yn aml, hyd yn oed fel oedolion, yn ei chael hi'n anodd eu mynegi.
Yn ystod ein hymchwiliad, casglwyd tystiolaeth o brofiadau pobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd. Un ohonynt oedd drwy fideo, gyda'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Newid Meddyliau Mind Casnewydd, sy'n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Gwn fod rhai ohonynt yn yr oriel heddiw. Hoffwn eu croesawu yma a rhoi cyfle i bawb wrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.
Hayden: 'Dechreuodd fy mhroblemau o gwmpas blwyddyn 8, felly roeddwn tua 13 neu 14, ac roeddwn yn cael cynnig cwnselydd bob amser, ond ni fyddai hynny byth yn digwydd mewn gwirionedd. Felly, roeddwn yn rhyw fath o ymdrin â'r peth ar fy mhen fy hun, ac yna, un diwrnod, digon oedd digon; nid oeddwn yn gwybod at bwy i droi.'
Tristan: 'Mae angen dulliau gwahanol o geisio helpu pobl ifanc, felly mae'n debyg i archwilio gwahanol bosibiliadau o oedran ifanc, fel myfyrdod, fel ioga, gallai fod yn ymarfer corff—yn hytrach na dim ond dweud "O, nid ydych yn teimlo'n dda; ewch i siarad â rhywun". Nid yw bywyd yn gweithio felly. Nid ydych yn mynd i gael rhywun i siarad â hwy drwy'r amser, ac nid yw hynny'n gweithio i bawb.'
Rwy'n siwr y byddai pawb ohonoch yn hoffi ategu fy niolch i'r bobl ifanc am rannu eu barn a'u profiadau gyda ni. Gobeithio ei fod wedi rhoi blas i bawb o rai o'r pethau a gododd yn ystod ein hymchwiliad.
Felly, beth oedd ein casgliad? Rydym yn credu bod angen newid sylweddol ar frys yn y cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r hyn sydd ar gael wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir. Rydym wedi galw ein hadroddiad yn 'Cadernid Meddwl', oherwydd credwn ei bod hi'n bryd i ni sicrhau hynny—dangos cadernid meddwl; darparu cymorth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol priodol, amserol ac effeithiol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, unwaith ac am byth.
Er ein bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw'n ddigon. Mae angen gwneud mwy, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal argyfwng a sut yr atgyfeiriwn ein plant a'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed at wasanaethau cymorth. Ni ddylai diagnosis meddygol gael ei weld fel yr unig allwedd sy'n agor y drws i gymorth. Nid yw'r ffaith nad yw rhywun wedi cael diagnosis o anhwylder yn lleihau difrifoldeb y trallod a'r niwed a ddioddefir. Ni ddylai hynny fod yn rhwystr rhag cael cymorth gyda gwasanaethau.
Mae angen dybryd i ni helpu'r hyn a elwir yn 'canol coll'. Yn 2014, dywedwyd wrth y pwyllgor a'n rhagflaenai fod gormod o plant a phobl ifanc mewn gwasanathau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) arbenigol yn cael eu hatgyfeirio yno yn amhriodol ac y dylid eu helpu mewn rhannau eraill o'r system. Erbyn 2018, nid oes digon wedi newid. Yn syml, mae'r darnau jig-so a ddylai fod yn eu lle ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc y tu allan i'r rhan fwyaf o leoliadau arbenigol ar goll. Bedair blynedd ers yr ymchwiliad diwethaf, mae hyn yn annerbyniol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn ar frys.
Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid gwneud rhywbeth drastig ar y pen ataliol i'r gwasanaethau. Os ydym yn parhau i fethu darparu llesiant emosiynol, gwydnwch a chymorth ymyrraeth gynnar, bydd plant a phobl ifanc yn parhau i ddioddef yn ddiangen. Mae hefyd yn golygu y bydd cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol yn parhau i fod o dan fygythiad.
Felly, beth sydd angen digwydd? Credwn fod angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a roddir i wydnwch emosiynol a llesiant plant a phobl ifanc. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod hon yn flaenoriaeth genedlaethol benodol. Ond nid yw geiriau'n unig yn ddigon. Mae angen iddynt fod yn seiliedig ar gynlluniau, adnoddau ac ymrwymiad i gyflawni newid gwirioneddol. Credwn fod angen clustnodi adnoddau i wneud ysgolion yn ganolfannau cymorth traws-sector a thrawsbroffesiynol ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn ein cymunedau. Credwn hefyd y dylid rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â stigma, hybu iechyd meddwl da, a'u galluogi i gyfeirio at wasanaethau lle bo angen.
Mae diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ymgorffori llesiant ym mywydau ein plant, ac mae ysgolion mewn sefyllfa dda iawn i wneud cyfraniad sylweddol tuag at adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Ond ni allant wneud hynny ar eu pennau eu hunain. Yn sicr nid ydym yn disgwyl i athrawon ac aelodau eraill o staff ysgol ddod yn arbenigwyr mewn iechyd meddwl. Mae cefnogaeth gan gyrff statudol eraill a chyrff y trydydd sector, ac iechyd yn enwedig, yn hanfodol. Mae angen i'r dull ysgol gyfan, lle mae ethos iechyd meddwl da yn llifo drwy bopeth, fod yn gyfrifoldeb traws-sector ac rydym angen newid sylweddol go iawn ar gyfer cyflawni hynny.
Mae ein hadroddiad yn gwneud un argymhelliad allweddol a 27 i'w gefnogi. Gyda'i gilydd, credwn y bydd y rhain yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen i adeiladu poblogaeth o blant a phobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol ac yn feddyliol iach yng Nghymru. Maent yn fanwl, yn heriol ac yn uchelgeisiol, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu cael uchelgais uchel wedi'i gosod, ac yn haeddu'r galwadau sylweddol rydym yn eu gwneud ar eu rhan.
Dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, fy mod i a'r pwyllgor yn siomedig iawn gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion. Yn gyntaf, mae gormod o bwyntiau hanfodol wedi'u gwrthod. Yn ail, er bod llawer o argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor, mae hyn, i raddau helaeth, ar y sail fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod y pethau rydym wedi galw amdanynt eisoes yn eu lle. Wel, rwy'n dweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw: nid ydym yn cytuno â chi. Nid ydym yn credu bod digon o sylw wedi cael ei roi i'r dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr rydym wedi'i chyflwyno yn ein hadroddiad. Yn olaf, nid yw ymateb y Llywodraeth yn bodloni ein disgwyliadau, a'n galwadau am newid sylweddol o ran dull o weithredu. Fel pwyllgor, rydym yn gwrthod yr ymateb hwn; nid yw'n ddigon da. Nid yw'r dystiolaeth fanwl rydym wedi'i hamlinellu, a ddarparwyd gan amrywiaeth o arbenigwyr sydd â phrofiad helaeth yn y maes, na'r argymhellion rydym wedi'u hystyried yn fanwl ac yn ddifrifol wedi cael y gydnabyddiaeth, y dadansoddiad na'r parch y maent yn eu haeddu. Nid yw'r newid sylweddol rydym wedi galw amdano i'w weld yn yr ymateb hwn fel ag y mae. Nid yw'r Llywodraeth hon wedi ymateb i'n huchelgais â'r uchelgais rydym yn ei ddisgwyl ac yn ei fynnu ganddi. Fel y cyfryw, heddiw, rwy'n gwahodd Ysgrifenyddion y Cabinet i fyfyrio eto ar eu hymateb, ac i ddod yn ôl atom yn gynnar yn ystod tymor yr hydref gydag ymagwedd newydd. Bydd ein pwyllgor wedyn yn defnyddio ein hamser i archwilio'r materion pwysig hyn gydag Ysgrifenyddion y Cabinet gyda'r manylder fforensig y mae'r pwnc pwysig hwn yn ei haeddu.
Nawr, nid wyf yn dymuno dod â fy sylwadau i ben ar nodyn negyddol. Mae ein hadroddiad wedi'i groesawu ar sail drawsbleidiol a thraws-sector. Fe'i croesawyd fel cam pwysig tuag at y newid trawsffurfiol y mae ein plant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Fe'i croesawyd fel rhan allweddol o'r daith bwysig rwyf fi a fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor yn ymrwymedig iddi ac yn benderfynol o'i theithio a'i chwblhau yn y Cynulliad hwn. Fel y dywed ein hadroddiad, dyma bwnc sy'n cyffwrdd â phawb ohonom, a maes lle mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb a gallu i wneud i newid ddigwydd. Nid ydym yn barod i ganiatáu i'r mater hollbwysig hwn gael ei drosglwyddo ymlaen mewn adroddiad etifeddiaeth arall i bwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad, gan ddweud, 'Mae angen gwneud mwy.' Mae'r amser wedi dod i ni ddangos cadernid meddwl, a sicrhau'r newid sylweddol rydym ei angen mor ddirfawr.
Diolch. Mae yna nifer o Aelodau sy'n dymuno siarad yn y ddadl. Felly, byddaf yn defnyddio'r rheol pum munud yn llym iawn. Felly, nid oes unrhyw ddiben i chi edrych arnaf a gwenu os oes gennych hanner tudalen arall. Yr ateb fydd 'na', byddaf yn gwasgu'r botwm ac yn galw'r siaradwr nesaf. Mae'n ddrwg gennyf wneud hynny, ond mae gennym nifer o bobl sy'n dymuno siarad nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, ac rwy'n credu bod hynny'n tystio i waith y pwyllgor, fod eraill am gymryd rhan. Felly, gofynnaf i chi gadw at y rheol pum munud, a chawn weld sut yr aiff hi. Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. £7.2 biliwn o bunnoedd, 6,000 o dderbyniadau brys i'n hysbytai a 300 o fywydau y flwyddyn; dyna yw cost iechyd meddwl bob blwyddyn yma yng Nghymru. Ac rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn cydnabod difrifoldeb yr angen i fynd i'r afael â'r broblem hon, a'r brys, o gofio nad ydym wedi cael fawr iawn o gynnydd hyd yn hyn ar roi camau ar waith i fynd i'r afael â hyn. Rydym yn gwybod bod tua thri chwarter yr holl achosion o salwch meddwl yn dechrau cyn i'r plentyn gyrraedd eu pen blwydd yn ddeunaw oed, a bod plant o gefndiroedd difreintiedig, neu'r rhai sydd â rhieni sydd â salwch meddwl eu hunain eisoes, yn fwy tebygol o i ddatblygu problemau iechyd meddwl eu hunain. Mae'n glir iawn o waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod angen inni adeiladu mwy o wydnwch yn ystod plentyndod a blynyddoedd yr arddegau, a rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r anawsterau y mae llawer o'n pobl ifanc yn eu hwynebu pan fyddant angen gofal mwy arbenigol hefyd. Mae ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn nodi'r heriau a'r manylion ac yn darparu llu o argymhellion synhwyrol ac ymarferol i fynd i'r afael â hwy. Cafodd ei groesawu'n unfrydol gan randdeiliaid, ond nid gan Lywodraeth Cymru—neu felly mae'n ymddangos.
Rhaid imi ddweud, nid wyf yn meddwl fy mod wedi gweld un ymateb gan y Llywodraeth, yn yr 11 mlynedd y bûm yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sydd mor siomedig a hunanfodlon. Saith o argymhellion yn unig a gafodd eu derbyn, gwrthodwyd naw yn llwyr neu'n rhannol, ac o blith y gweddill, a bod yn onest, dylai'r rhai a ddisgrifiwyd fel rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor fod wedi'u nodi fel rhai a wrthodwyd, gan nad yw 'derbyn mewn egwyddor' yn ddisgrifiad cywir o'r ymateb a ddarllenasom ar y papur. Nid yw'n syndod felly fod llu o randdeiliaid wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau'r pwyllgor ac aelodau eraill o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn cyn y ddadl y prynhawn yma i fynegi eu pryderon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi llwyddo i uno nid un, nid dau, ond 73 o seicolegwyr i lofnodi un llythyr yn galw am weithredu pob un o'r argymhellion yn ein hadroddiad yn llawn. Mae'r comisiynydd plant wedi dweud bod yr ymateb a ddaeth i law yn gyfle a gollwyd, a dywedodd nad yw'r system bresennol yn ddigonol nac yn gydlynol. Mae'r NSPCC wedi dweud nad yw'n mynd i sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen, ac maent yn hollol gywir. Mae angen inni weld y newid sylweddol hwnnw, ac mae'n drueni mai'r unig newid y mae rhai pobl i'w gweld â diddordeb ynddo yw'r newid sylweddol o un swydd i swydd y Prif Weinidog.
Rwy'n teimlo o ddifrif fod angen i Lywodraeth Cymru rwygo'i hymateb ac ailfeddwl a chynhyrchu rhywbeth sy'n dangos ychydig bach mwy o barch, nid yn unig at y pwyllgor, ond at y rhanddeiliaid a'r unigolion a ddarparodd y dystiolaeth y seiliwyd ein hadroddiad arni. Rydym wedi cael llond bol ar eiriau gwag. Rydym wedi gweld adroddiadau sydd wedi nodi problemau o'r blaen mewn Cynulliadau blaenorol, ac yn anffodus nid ydym wedi gweld gweithredu gan Lywodraeth Cymru, gan Weinidogion olynol, i allu ymdrin â'r heriau. Gwelsom arferion da yn y dystiolaeth a gawsom—arfer da ar adeiladu gwydnwch iechyd meddwl yn ein hysgolion. Ysgolion megis Ysgol Pen y Bryn yn fy etholaeth fy hun a'u rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar—cyfle gwych a gyflwynwyd gennym ac yr awgrymwyd y dylid ei gyflwyno ymhellach mewn ysgolion eraill. Eto i gyd, roedd eich ymateb i argymhelliad 3 yn hunanfodlon, yn annigonol, ac yn awgrymu mwy o'r un peth a dim mwy na hynny. Roedd hefyd yn awgrymu eich bod eisoes yn gwneud y pethau a oedd yn angenrheidiol. Nid yw hynny'n wir.
Rydych wedi gwrthod argymhelliad 9 a rhan o'n hargymhelliad 11, sy'n galw am bethau syml megis casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd ar amseroedd aros iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi gofyn am asesiad ac ymyrraeth, mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Mae'n waradwyddus—yn gwbl warthus—fod yr argymhellion hynny wedi'u gwrthod, ac mae'n awgrymu diffyg blaenoriaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru. Oni bai ein bod yn cael y data hwnnw, nid ydym yn mynd i allu dwyn pobl i gyfrif. Ac nid yw'n syndod fod gan sefydliadau fel bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros 1,000 o bobl ifanc, mwy na'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru gyda'i gilydd, ar restrau aros ers dros flwyddyn, yn aros i gael asesiadau ac yn aros i gael triniaeth ar gyfer eu problemau gofal eilaidd acíwt mewn iechyd meddwl. Mae'n gwbl annerbyniol. Ac er mwyn y 1,000 o unigolion yng ngogledd Cymru, ac eraill o amgylch y wlad, mae angen inni weld y newid sylweddol y mae ein hadroddiad yn cyfeirio ato.
Felly, credaf y dylem roi'r ymateb penodol hwn mewn man lle nad yw'r haul yn disgleirio, y peiriant rhwygo papur, a meddwl am rywbeth llawer gwell yn unol â dymuniadau'r pwyllgor, gan mai dyna'r unig beth rydym yn mynd i weld unrhyw newid yn ei gylch.
A gaf i jest ddweud ar y cychwyn fy mod i a'm plaid i yn cytuno gyda phrif argymhellion y pwyllgor yma? Wrth gwrs, y prif argymhelliad yw bod y mater yma yn dod yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Nawr, mi glywon ni gyfeiriad at adroddiadau blaenorol y pwyllgor—adroddiad yn ôl yn 2014, er enghraifft, a arweiniodd at beth newid o safbwynt gofal yn y maes yma. Ond mae angen nawr i ni fynd i'r lefel nesaf, ac mae'r ystadegau yn mynnu hynny. Rydym ni wedi clywed rhai yn barod. Yn 2017, er enghraifft, mi welodd Childline Cymru 20 y cant o gynnydd yn nifer y galwadau ynghylch hunanladdiad. Yn y 12 mis i fis Hydref 2016, mi gafwyd 19,000 o atgyfeiriadau at wasanaethau CAMHS yng Nghymru—3,000 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae problemau lles emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn tyfu ac mae angen pwyslais newydd, pwyslais didrugaredd, ar ochr ataliol y llwybr gofal—lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar. Rydym ni wedi clywed am y canol coll—y missing middle yma—ac os nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno y newid trawsnewidiol y mae'r pwyllgor eisiau'i weld, mi fydd y gwasanaethau ar frig y sbectrwm yn mynd yn gwbl anghynaladwy oherwydd nid fydd modd 'cope-io' gyda'r niferoedd a fydd yn galw am y gwasanaethau.
Ni all ysgolion, wrth gwrs, ddim ysgwyddo'r her yma ar eu pennau eu hunain. Dyna pam rydym am weld dull cyflawni systemau cyfan—whole-systems approach—lle mae plant, pobl ifanc, ysgolion, gofal cymdeithasol, iechyd a'r sector wirfoddol i gyd yn cyd-dynnu ac yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaeth a'r gefnogaeth orau posib. Tra bod uchelgais y pwyllgor yn glir—bod angen y gweithredu trawsnewidiol yna—mae'n rhaid dweud bod ymateb y Llywodraeth, fel y dywedais i ddoe wrth y Prif Weinidog, yn llipa, yn hunanfodlon ac yn gwbl annigonol. Mae yn siom, ac rwy'n rhannu siom Aelodau eraill bod cyn lleied o'r argymhellion wedi eu derbyn a bod cynifer wedi'u derbyn mewn egwyddor, ac, yn wir, bod cynifer wedi'u gwrthod. Gwrthodwyd, er enghraifft, yr argymhelliad y dylid mapio argaeledd staff nad ydyn nhw yn addysgu mewn ysgolion ond sydd yna i gefnogi iechyd a lles emosiynol. 'O, cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd yw hynny', meddai'r Llywodraeth. Wel, pasio'r buck yw hynny, oherwydd mae hon yn broblem genedlaethol a rôl Llywodraeth yw cymryd y darlun cenedlaethol yna i ystyriaeth. Mwy o ddata ar gael a mwy o wybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â sut mae byrddau iechyd yn gwario eu harian ar wasanaethau iechyd meddwl i blant—yn cael ei wrthod. Mae hwnnw'n dweud rhywbeth am dryloywder, buaswn i'n dweud, hefyd.
Fe argymhellodd y pwyllgor bod angen sicrhau bod pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ac yn gallu cyfeirio pobl wedyn, neu deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chyfeirio pobl ifanc, at wasanaethau eraill. Sawl gwaith clywsom ni, fel pwyllgor, staff ysgolion yn dweud nad ŷn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw wedi ymbweru i fedru ymateb i'r hyn yr oedden nhw'n pigo i fyny arno fe yn yr ystafell ddosbarth? Yn wir, maen nhw'n cael eu llethu gan yr achosion yma ac mae angen help arnyn nhw, ac ar y gweithlu ehangach. Mae'r cwricwlwm, wrth gwrs, yn mynd i gyfrannu, ond fel rwy'n dweud, mae yna weithlu ehangach sylweddol.
Mae yna bwynt arall, rwy'n meddwl, yn fan hyn, sydd wedi dod fwyfwy i'r amlwg. Yn amlwg, mae Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion yn rhannu'r cyfrifoldeb am hyn ac mae hynny'n gallu bod yn gryfder ar adegau, ond yn amlwg, rwy'n ofni, mae'n gallu bod yn wendid hefyd ar adegau, oherwydd y peryg yw bod neb yn gyrru'r mater yma—bod neb yn cymryd perchnogaeth ac yn rhoi momentwm wedyn i'r ymdrech o fynd i'r afael â'r broblem. O ganlyniad, mae 'derbyn mewn egwyddor' yn dod yn rhyw fath o ymateb default sydd, i bob pwrpas, yn golygu 'busnes fel arfer' ac nid newid trawsnewidiol. Rwy'n cefnogi'r sylwadau a wnaeth y Cadeirydd a'i beirniadaeth hi o'r Llywodraeth—mae e'n fethiant amlwg yn fy marn i, yn yr achos yma. Mi wnes i awgrymu ddoe, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau ar draws Llywodraeth, yna dylem ni fod yn edrych ar arweinydd y Llywodraeth i fod yn gyrru hwn, fel yr unig berson, buaswn i'n meddwl, sydd â statws digonol i sicrhau bod hwn yn wirioneddol yn flaenoriaeth genedlaethol.
Yn fyr, i gloi, rwyf jest eisiau sôn am un cynllun penodol yr wyf fi wedi dod ar ei draws e. SAP yw'r acronym—student assistance programme. Rhaglen yw e i blant a phobl ifanc rhwng pedwar ac 19 oed. Mae'n cael ei weithredu ar hyn o bryd yn ysgolion Wrecsam, lle mae plant yn dod at ei gilydd i siarad am eu teimladau a'u problemau er mwyn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n cael eu cyfeirio at wasanaethau os oes angen hefyd. Mae grwpiau o gyfoedion yn dod at ei gilydd, maen nhw'n cwrdd yn wythnosol mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ac mae e'n caniatáu adnabod y problemau rydym yn sôn amdanyn nhw'n gynnar. Mae wedi cael—
Iawn. Diolch.
O'r argymhellion allweddol yn yr adroddiad hwn, yr unig rai y mae'r Llywodraeth yn eu derbyn yw'r rhai nad ydynt yn galw am unrhyw weithredu neu'r rhai nad ydynt yn fesuradwy. Maent yn derbyn yr argymhelliad i ddatgan bod lles a gwydnwch emosiynol a meddyliol ein plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol, ond yn achos yr argymhellion sy'n golygu bod yn rhaid iddynt weithredu, mae'r Llywodraeth yn dechrau osgoi a sbinio eu hymatebion drwy wrthod argymhellion neu eu derbyn mewn egwyddor yn unig, ac mae pawb ohonom yn gwybod bod hynny'n golygu na chaiff unrhyw beth ystyrlon ei wneud.
Nid wyf yn gwybod beth arall y gall y pwyllgor hwn ei wneud i'r Llywodraeth roi'r camau sydd eu hangen ar waith. Mae'r sefyllfa'n anobeithiol. Fel y soniodd Darren eisoes, mae mwy na 1,000 o blant a phobl ifanc yn aros 12 i 18 mis am asesiad niwroddatblygiadol yn Betsi Cadwaladr, ac mae'r pwyllgor wedi argymell bod y Llywodraeth yn datblygu cynllun adfer ar unwaith. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Maent yn dweud y byddant yn ysgrifennu at Betsi Cadwaladr i ofyn iddynt amlinellu cynllun adfer. Yn gyntaf, mae'r broblem hon wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd tra bo Llafur mewn grym, felly pam nad ydynt wedi gofyn i Betsi Cadwaladr wneud hyn o'r blaen? Os ydynt wedi gwneud hynny, pam gofyn eto? Yn ail, mae'r bwrdd presennol wedi llywyddu dros yr ôl-groniad ffiaidd ac annynol hwn ac wedi helpu i'w greu yn y lle cyntaf, felly beth sy'n gwneud i'r Llywodraeth gredu bod gan un o'r prif elfennau a greodd y broblem unrhyw syniad sut i'w datrys? Mae'r Llywodraeth yn sôn am sefydlu llinellau sylfaen ar gyfer darparu llwybrau niwroddatblygiadol, ond mae hynny'n ddibwrpas pan fo byrddau iechyd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth yn methu cyrraedd y llinellau sylfaen presennol fel mater o drefn, ac yn gynyddol felly.
Yn yr wythnos y dathlwn ben blwydd y GIG yn 70 oed, a phan fo Llafur yn ceisio honni mai hwy yw unig warcheidwaid etifeddiaeth Bevan, mae'n bwysig cofio ei fod wedi dweud y dylai pobl gael mynediad pan fyddant yn sâl at y gofal gorau y gall sgiliau meddygol eu darparu. Wel, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn dod yn agos at ddarparu hynny. Po hwyaf yr amser aros, y mwyaf o salwch meddwl y bydd dioddefwr yn ei wynebu. Mae'r risg o hunanladdiad neu hunan-niwed yn cynyddu, bydd eu haddysg yn cael ei niweidio ymhellach a bydd bywydau eu teuluoedd yn mynd yn fwyfwy anodd.
Fel pwyllgor, fe edrychwyd ar hyn yn fanwl iawn, fel grŵp o Aelodau Cynulliad o bleidiau gwahanol iawn yn dod at ei gilydd i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc, felly pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl y bydd hi'n iawn gwrthod rhai o'r argymhellion a derbyn y rhan fwyaf o'r lleill mewn egwyddor yn unig? Ym mhwynt 4, dywedwch eich bod yn ei dderbyn mewn egwyddor, ond wedyn rydych yn gwrthod yr argymhelliad allweddol, gan ddweud na fyddwch yn cefnogi rhaglen benodol y mae'r pwyllgor yn gofyn i chi ei chefnogi, er bod y prosiect yn cynnwys y Samariaid, y credaf fod ganddynt ddealltwriaeth ddyfnach o lawer o faterion iechyd meddwl na chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae pwynt 9 yn ymateb y Llywodraeth yn dweud wrth bobl ifanc Cymru a'u rhieni bopeth sydd angen iddynt ei wybod ynglŷn â beth y mae'r Llywodraeth Lafur yn ei feddwl o'r modd y maent wedi rheoli'r mater hwn. Mae'r Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad y pwyllgor, sy'n argymhelliad synhwyrol iawn, i gyhoeddi data ar amseroedd aros am asesiadau ac ymyriadau ar gyfer plant a phobl ifanc ers cychwyn darpariaethau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Pe bai'r data'n newyddion da, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ei gyhoeddi. Felly, tybed pa reswm cadarnhaol a allai fod dros awydd Llywodraeth Cymru i atal y wybodaeth hon rhag cyrraedd y cyhoedd.
Mae'r sefyllfa mor annioddefol bellach fel na fydd dim llai na derbyniad llawn ac ymrwymiad i weithredu holl argymhellion y pwyllgor yn ddigon da. Mae'r Llywodraeth â'i phen yn y tywod o hyd ynglŷn â'r broblem hon, a'u hagwedd 'Gwneud y synau iawn, ond gwneud dim' sydd wedi arwain at y broblem yn y lle cyntaf. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn gwneud ei orau glas i ymddiheuro i'r bobl ifanc a'r teuluoedd y mae ef a'i Lywodraeth wedi gwneud cymaint o gam â hwy a gwneud popeth y mae'r pwyllgor wedi ei argymell.
Felly, yn olaf, yn fwy na fy anobaith ynglŷn â maint y broblem, rwy'n anobeithio am eu bod o hyd, hyd yn oed yn wyneb adroddiad fel hwn, yn dal i geisio sbinio'u ffordd allan ohoni tra bo plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dioddef. Mae ymateb y Llywodraeth yn ffiaidd, ac fe adawaf fy sylwadau yno.
Rwy'n aelod o'r pwyllgor, a chredaf mai dyma un o'r ymchwiliadau mwyaf pwysig a gyflawnwyd gennym mewn gwirionedd. Gwn fod y Llywodraeth yn cydnabod bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant yn fater sy'n croesi cymaint o ffiniau rhwng cymaint o wahanol bobl a chymaint o wahanol sefydliadau—iechyd, ysgolion, sefydliadau cefnogi ieuenctid, clybiau ieuenctid, CAMHS—felly, croesawaf argymhelliad y pwyllgor a derbyniad y Llywodraeth y dylai fod yn flaenoriaeth genedlaethol, ond os oes gennych rywbeth yn flaenoriaeth genedlaethol, credaf fod yn rhaid ichi wneud popeth a allwch i'w chyflawni, ac yn yr argymhellion mwy manwl ni chawsom yr ymateb y gobeithiem ei gael mewn gwirionedd.
Rwy'n cytuno'n gryf â barn y pwyllgor y dylai pawb sy'n dod i gysylltiad â phlant roi eu lles a'u hiechyd meddwl yn flaenaf yn eu meddyliau, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na chyflwr meddwl plentyn? Rhaid inni anelu i gael cenhedlaeth o blant hapus a sicr yn emosiynol, gyda meddylfryd cadarnhaol, ond i wneud hynny rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pawb sy'n gofalu am blant, neu'n gwirfoddoli neu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel y gallant fynd i'r afael â materion stigma a hyrwyddo iechyd meddwl da. Nawr, mae'r Llywodraeth yn derbyn hyn, ond mewn egwyddor yn unig. Mae'n siomedig gweld hyn yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth 'afrealistig'. Does bosib nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio gyda phlant yn cael rhywfaint o leiaf o hyfforddiant cychwynnol, felly pam na allai hyn gynnwys elfen i godi ymwybyddiaeth fan lleiaf o bwysigrwydd gofalu am les emosiynol a meddyliol plant? Ni allaf weld bod unrhyw broblem o gwbl yn hynny, ac nid wyf yn gweld bod hynny'n afrealistig o gwbl. Credaf ei bod yn hanfodol ei fod wedi'i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon, a'r hyfforddiant y mae gweithwyr ieuenctid yn ei gael, yr hyfforddiant y mae staff iechyd yn ei gael, ac rwy'n meddwl o ddifrif fod hynny'n rhywbeth y gellid ei ymgorffori yn yr hyfforddiant sydd eisoes yn digwydd heb unrhyw drafferth. Felly, nid wyf yn derbyn bod gweithredu'r argymhelliad hwnnw'n afrealistig.
Nawr, pan fydd iechyd meddwl plentyn yn dioddef, credaf fod hynny'n achosi llawer iawn o straen a gofid i'w teulu, eu ffrindiau, yr ysgol, a phawb sy'n gweithio gyda hwy. Credaf fod goblygiadau iechyd meddwl plentyn mor bellgyrhaeddol ac mae llawer ohonom wedi profi'r problemau hynny. Gall teuluoedd wneud eu gorau i ddarparu ar gyfer eu plant yn emosiynol ac yn faterol, ond gall problemau gyda'ch iechyd emosiynol a'ch iechyd meddwl ddigwydd i bob teulu. Felly, mae iechyd meddwl plant yn broblem sy'n gallu effeithio ar deuluoedd o bob math. Ond credaf fod pawb ohonom yn gwybod bod yna grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed, a dau o'r grwpiau hynny yw plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, ac mae'n bwysig cyfleu hynny.
Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad pan lansiodd Adoption UK eu hadroddiad o'r enw 'Bridging the Gap' ar roi cyfle cyfartal i blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol. Mae angen cymorth ychwanegol ar blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol, ac efallai nad yw ysgolion mor ymwybodol o hynny ag y dylent fod weithiau—mae yna fwlch yn y ddealltwriaeth. Ac mae'n dangos nad oedd 65 y cant o blant wedi'u mabwysiadu yn teimlo bod eu hathrawon yn deall yn iawn sut i'w cefnogi, a chodai hyn i 74 y cant yn ystod oedran ysgol uwchradd. Felly, credaf ei fod yn destun pryder mawr fod yr adborth gan blant wedi'u mabwysiadu—sydd, fel y gwyddom, oherwydd problemau ymlyniad y gallent fod wedi'u cael yn gynnar mewn bywyd, yn fwy agored i gael problemau iechyd meddwl—yn dangos nad oeddent yn teimlo y gallent droi at eu hathrawon. Rwy'n credu bod ein hadroddiad wedi adlewyrchu hynny mewn gwirionedd yn y rhan fwyaf o'r elfennau y buom yn ymdrin â hwy—fod plant yn gorfod gofyn am gymorth ac aros am gymorth mewn modd y mae'r Cadeirydd wedi'i alw'n annerbyniol.
Rwy'n teimlo y dylai'r Cynulliad hwn ei gwneud hi'n genhadaeth danbaid i sicrhau bod ein plant yn tyfu i fyny'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mai ein cenhadaeth danbaid ni yw gwneud i hyn ddigwydd. Teimlaf felly fod yr adroddiad hwn yn nodi'r cyfan hyn, ond credaf mai mater i'r Llywodraeth yw sicrhau ei bod hi'n genhadaeth danbaid iddi hi yn ogystal, ac y gallwn, gyda'n gilydd, gydweithio i wneud ein plant yn hapus ac yn fodlon.
Mae'n 4 Gorffennaf heddiw, ac yn rhyddiaith ddisglair Jefferson, cawn ein hatgoffa ein bod yn cael ein geni â hawliau diymwad, a'r mwyaf pwysig yw bywyd, rhyddid a'r ymchwil am ddedwyddwch.
Nawr, byddem yn diffinio'r 'ymchwil am ddedwyddwch' fel rhyw fath o lesiant emosiynol heddiw, ac nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod amddifadu plant o gymorth effeithiol a diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl ac iechyd emosiynol yn ystod plentyndod yn effeithio'n enfawr ar yr unigolyn a'u datblygiad fel oedolion, a'r potensial i fod yn hapus a'r ymdrech i gyflawni pob math o nodau mewn bywyd.
Rwy'n siarad o fy mhrofiad fy hun. Nid rhywbeth a nodais ydyw. Rwyf wedi byw gyda chyfnodau o iselder ac yn fwy arbennig, gorbryder, ar hyd fy oes. Dysgais lawer o fy ffyrdd o ymdopi drosof fy hun ac yn fwy diweddar, drwy ymyriadau iechyd effeithiol. Ond wyddoch chi, mae'n brofiad sy'n dieithrio rhywun yn enfawr, a hyd yn oed yn y brifysgol, rwy'n cofio bod mewn dryswch llwyr ynglŷn â rhai o fy symptomau a heb ddealltwriaeth sylfaenol o'r hyn oeddent. Credaf fod honno'n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi.
Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn. Credaf ei fod yn rhagorol, fel y mae Lynne Neagle, sy'n un o'n Haelodau meinciau cefn gorau yn bendant, ac mae eich ffordd o ddwyn eich hochr chi i gyfrif yn ddosbarth meistr ar sut y dylai pobl fynd ar drywydd y lles cenedlaethol ac mae hynny'n mynd â chi ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. Rydych yn ennyn y parch mwyaf ar draws y Siambr.
A gaf fi ddweud mai fy mraint yw cadeirio grŵp cynghori Gweinidog y Llywodraeth ar ganlyniadau i blant? Cawsom gyfarfod ddydd Gwener, ac roedd yr adroddiad hwn, 'Cadernid Meddwl', yn un o'r eitemau ar yr agenda, a chafodd ei dderbyn gyda llawer o frwdfrydedd, yn enwedig ymhlith cynrychiolwyr y trydydd sector sy'n hollbwysig i waith y grŵp. Ond roedd peth pryder, yn arbennig, am yr arfer hwn o dderbyn mewn egwyddor. Nawr, fe eglurais, mewn ffordd weddol niwtral, fod hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn arfer yn ymatebion y Llywodraeth i adroddiadau ers blynyddoedd lawer, ac fel arfer byddai pwyllgor yn treulio llawer o amser yn dychwelyd at yr eitemau a gafodd eu derbyn mewn egwyddor, ac yn archwilio pa mor ddwfn roedd hynny'n mynd ar ôl chwe mis, blwyddyn neu beth bynnag, a wnaed rhywbeth yn ymarferol neu ai ffordd oedd hi o osod rhywbeth o'r neilltu yn y bôn. Felly, gwn y byddwch yn dychwelyd at hyn pan ddowch at y gwaith craffu manwl yn sgil yr adroddiad, a gwn y bydd y Gweinidogion yn ymwybodol o hyn yn ogystal, a byddant yn gwybod am bryder a rhwystredigaeth rhai o'r Aelodau yma. Ond rwy'n atgoffa Ysgrifenyddion y Cabinet fod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi dweud y llynedd y byddai Llywodraeth Cymru yn symud oddi wrth yr arfer o dderbyn argymhellion mewn egwyddor ac yn dweud yn onest a ydynt yn derbyn yr argymhelliad fel y'i lluniwyd ai peidio, ac yna gallant roi eu rhesymau am hynny. Credaf mai dyna sy'n dangos atebolrwydd go iawn. Mae gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr adroddiad hwn yn rhwystredig braidd.
A gaf fi droi at rywfaint o'r manylion? Credaf fod yr angen i ganolbwyntio yn awr ar ben ataliol y llwybr yn bwysig tu hwnt, neu fel arall byddwn yn gweld anawsterau pellach gyda'r pen acíwt, ac atgyfeirio trwy CAMHS, gyda'r atgyfeiriadau amhriodol o beidio â gwybod ble arall i fynd, felly rydych yn gwneud atgyfeiriad CAMHS. Rwy'n credu bod rhai o'r awgrymiadau ymarferol—y dull cenedlaethol o weithredu ar gyfer ysgolion, gan gynnwys yr angen am fodel athro arweiniol, fel bod aelodau arweiniol o staff â chyfrifoldeb ac yn galluogi athrawon eraill i nodi pethau—addysgeg sylfaenol yw hyn. Mae'n anhygoel i mi y cyfeirir ato fel rhywbeth sy'n anymarferol mewn rhyw ffordd, ac ymhlith y bobl fwyaf proffesiynol sydd gennym yn ein gwlad, nad yw staff addysgu'n gallu gwneud hyn. Dylent gael hyfforddiant a chymorth i'w wneud. Mae pwysigrwydd ymyrraeth therapiwtig wedi bod yn allweddol iawn yn fy mhrofiad fy hun, a'r cynnig gweithredol o eiriolaeth ar gyfer plant sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl.
A gaf fi gymeradwyo argymhelliad 22 yn benodol—asesiad o anghenion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant sy'n dechrau derbyn gofal? Mae hynny'n peri pryder penodol i grŵp cynghori'r Gweinidog. Ac argymhelliad 23—fod Llywodraeth Cymru i asesu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a dylai hyn gael ei lywio gan waith grŵp cynghori'r Gweinidog—[Anhyglyw.]
Yn wir, ac mae'n fraint cael cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf yn aelod o bwyllgor ardderchog Lynne Neagle. Rwy'n cymeradwyo Lynne Neagle fel Cadeirydd, yn y lle cyntaf. Rwy'n Gadeirydd dinod y pwyllgor iechyd yn y lle hwn, ac nid wyf yn gwybod a wyf fi wedi crybwyll o'r blaen fy mod yn feddyg teulu hefyd, yn Abertawe, ers 38 mlynedd.
Felly, o brofiad rheng flaen o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl i blant, mae'n wirioneddol rhwystredig, rhaid i mi ddweud. Mae angen newid llwyr—mwy na newid sylweddol, ond chwyldro go iawn yn y ddarpariaeth, nid yn unig o ran y gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ond yn yr holl wasanaethau cymorth emosiynol a chwnsela yn ogystal, yn y sector gwirfoddol ac yn y sector statudol hefyd. Mae angen inni gynyddu'r ddarpariaeth statudol ac anstatudol—mewn gwirionedd, mwy o bobl yn gweithio i helpu ein plant a'n pobl ifanc. Pam felly? Wel, dros y blynyddoedd—. Roeddwn i'n arfer cynnal y clinig babanod flynyddoedd yn ôl, a babanod bendigedig a fyddai'n gwenu'n hapus, ond rwy'n eu gweld yn tyfu i fyny yn awr—bellach maent yn neiniau a theidiau, fel y dywedais wrthych ddoe—ond yn tyfu i fyny—. Weithiau os ydych chi'n anlwcus i fod mewn cartref sydd wedi dioddef trawma, rydych yn dioddef plentyndod erchyll—bydd babanod bendigedig yn tyfu'n blant bach sy'n troi'n dreisgar—ac wedyn yn bobl ifanc yn eu harddegau sy'n wynebu trawma, yn methu ymddiried mewn neb sydd mewn awdurdod, hyd yn oed y rhai sy'n ceisio eich helpu. Rydych yn hunan-niweidio, rydych wedi eich niweidio'n emosiynol, a phwy y gallwch droi atynt? Felly, rydych chi'n rhoi cynnig ar eich meddyg teulu. Felly, meddygon teulu, ie, rydym wedi ein rhaglennu i helpu pobl, ond oni bai fy mod yn gallu argyhoeddi gofal eilaidd fod gennych anhwylder iechyd meddwl y mae modd ei ddisgrifio, ni fyddant yn eich cymryd.
Mae atgyfeiriadau i CAMHS yn bownsio'n ôl at y meddyg teulu. Mae hynny oherwydd nad yw'r elfen o drallod i berson ifanc yn cael ystyriaeth o gwbl. Rhaid cael diagnosis priodol—dyna'r canol coll fel y mae'r adroddiad rhagorol hwn yn sôn amdano. Ac mae'n rhaid inni stryffaglu drwyddi gyda'r canol coll, ac nid dyna sut y dylem fod yn gwneud pethau yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Felly, rwy'n dal i weld pobl, maent yn dal i dyfu fyny, fy mhlant a fy mhobl ifanc, ac mae rhai ohonynt wedi'u niweidio'n ddychrynllyd. Ac eto, mae'n rhaid i mi aros iddynt fod yn ddigon gwael i gael mynediad at CAMHS. Nawr, nid dyna yw ymyrraeth gynnar.
Nid dyna yw ymyrraeth gynnar; ymwneud â chyrraedd trothwy o driniaeth y mae hynny, ac nid dyna fel y gwnawn bethau y dyddiau hyn, ers inni basio'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ardderchog dan arweiniad Jonathan Morgan yma yn 2010. Mae a wnelo ag ymyrryd yn gynnar, mae a wnelo ag atal, ac rydym yn dal i fod yn methu ei wneud. Rhaid inni gael y gwasanaethau hynny ar lawr gwlad. Nid wyf eisiau dal ati i weld pobl mewn trallod gyda fy ngalluoedd cyfyngedig, heb unman i'w cyfeirio i ddatrys eu problemau am nad ydynt yn ddigon gwael neu am nad ydynt wedi cael diagnosis iechyd meddwl. Ni allwn ymdopi â phobl ifanc mewn cymaint o drallod oherwydd pethau sydd wedi digwydd heb fod anhwylder iechyd meddwl go iawn yn bresennol. Oes, mae gan rai pobl anhwylder iechyd meddwl yn ogystal, ond nid pob unigolyn ifanc ac nid yw trallod yr holl sefyllfa yn ddigon drwg i ni fel cymdeithas wneud unrhyw beth yn ei gylch.
Fel meddygon teulu, mae cael llythyrau o ofal eilaidd yn dweud, 'Na, ni allwch gyfeirio'r person hwn yma am nad oes ganddynt unrhyw anhwylder iechyd meddwl adnabyddadwy' yn ein brifo. Felly, beth ddylwn i ei wneud? Ie, yn ôl i'r ysgolion. Nid oes gennyf unrhyw reolaeth dros wasanaethau cwnsela mewn ysgolion, er hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld gweithrediad llawn yr argymhellion yma yn golygu y bydd gofal sylfaenol, y sector gwirfoddol ac ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd—meddygon teulu, gofal sylfaenol ac athrawon gyda'i gilydd. Oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes gennym ddewis ond pasio bobl yn ôl ac ymlaen, am na allaf fi eu helpu. Gobeithio y gall yr athrawon wneud hynny. Ond rhaid inni rymuso ein hathrawon yn ogystal, gadewch inni fod yn deg.
Gadewch inni fod yn deg yma, oherwydd rydym yn stryffaglu. Mae pobl yn sôn am gydraddoldeb rhwng salwch corfforol a salwch meddyliol—wel, os oes gennyf blentyn sy'n sâl yn gorfforol, rwy'n codi'r ffôn, rwy'n ffonio gofal eilaidd, ac maent hwy'n ymdrin ag ef. Rwy'n ceisio cael gafael ar ofal eilaidd ar gyfer plant sydd mewn trallod emosiynol, ac nid oes dim yn digwydd. Mae'n rhaid i hynny newid. Diolch yn fawr.
Cofiaf yn dda pan agorwyd yr adeilad hwn, rhoddodd bardd cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, ddarlleniad lle roedd hi'n disgrifio'r Siambr hon fel caban peilot y genedl—y man lle y down at ein gilydd i drafod pethau o bwys. Ac wrth wrando ar y ddadl hon a darllen yr adroddiad, mae'n amlwg y ceir consensws trawsbleidiol fod y system bresennol yn annigonol. I fod yn deg â Llywodraeth Cymru, y tro diwethaf yr ysgrifennwyd adroddiad fel hwn, fe ymatebodd a chafwyd gwelliannau sylweddol yn ansawdd y driniaeth ar gyfer pobl ifanc ag anhwylderau iechyd meddwl, ac mae galwad ganolog yr adroddiad hwn i drin datblygiad problemau iechyd meddwl ar gamau cynharach yn haeddu ymateb tebyg.
Nid wyf ar y pwyllgor, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad yn fanwl, rwyf wedi darllen ymateb y comisiynydd plant, rwyf wedi eistedd drwy gyflwyniadau lluosog gan wahanol grwpiau, rwy'n ymdrin â'r materion hyn ar sail wythnosol bron yn fy nghymhorthfa ac rwyf wedi ei drafod gyda fy mwrdd iechyd lleol—bwrdd iechyd, mae'n rhaid dweud, sydd â rhestr aros o ddwy flynedd a hanner i weld CAMHS. Daw rhieni i fy ngweld yn rheolaidd mewn cyflwr truenus—cyflwr truenus—a rhaid iddynt aros am ddwy flynedd a hanner i gael diagnosis. A phan gânt y diagnosis, mae eu disgwyliadau'n rhy uchel, oherwydd nid oes gan y system fawr ddim i'w gynnig iddynt. Ceir anobaith ymhlith meddygon teulu—clywsom hyn eisoes. Ceir anobaith ymhlith athrawon. Roeddwn yn siarad yn hwyr neithiwr ag athro yn fy etholaeth a ddywedodd wrthyf, 'Nid ydych bob amser yn gwybod ble i edrych am help ar gyfer y plant hyn, rydych chi ond eisiau i rywbeth gael ei wneud.' Y canol coll y tynnodd yr adroddiad sylw ato mor effeithiol, lle y gall cymorth therapiwtig neu gymorth lefel is helpu, yw'r ffocws a ddylai fod gennym mewn perthynas â'r adroddiad hwn. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn. Dyma'r adroddiad gorau gan bwyllgor a ddarllenais yn fy amser yn y Cynulliad a hoffwn dalu teyrnged i'w holl aelodau ac yn enwedig i'w gadeirydd.
Ond dylwn ddweud ei fod yn adroddiad anodd iawn. Cafodd ei lunio'n dda iawn, mae ganddo dargedau CAMPUS, mae'r argymhellion yn benodol, maent yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn berthnasol, ac mae ganddynt derfynau amser. Nid yw'n syndod fod y Llywodraeth wedi'i chael hi'n anodd ymateb i hynny yn ei hymateb ffurfiol, ac roeddwn innau'n siomedig tu hwnt ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n deall dicter aelodau'r pwyllgor ac wrth edrych ar wynebau fy nghyfeillion a fy nghyd-Aelodau, Ysgrifenyddion y Cabinet, gallaf innau hefyd ddweud nad ydynt yn fodlon ar y sefyllfa y maent ynddi. Credaf fod angen inni gyfeirio hyn at Lywodraeth Cymru a pheidio â gwneud sylwadau annoeth i'w droi'n bersonol, os caf ddweud wrth Darren Millar.
Credaf fod peiriant y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd ymateb i'r argyfwng hwn sydd gennym gyda phobl ifanc. Mae hon yn broblem sydd wedi cynyddu o ran ei dwysedd a'i maint dros y blynyddoedd diwethaf a chredaf fod y system yn ei chael hi'n anodd gwybod sut i ymateb iddi. Rhinwedd yr adroddiad yw ei fod yn rhoi tystiolaeth sy'n seiliedig ar waith ymarferwyr a chan y trydydd sector i roi map ymarferol i ni, ac rwy'n credu y byddai'n ddoeth inni ddychwelyd yn yr hydref, gyda dadl aelod unigol neu ddadl bwyllgor arall efallai, i roi cyfle i Weinidogion fyfyrio dros yr haf ar gryfder y teimlad ac ar y dystiolaeth.
Rwyf wedi byw y materion a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Rwy'n petruso ynghylch trafod materion personol yn y Siambr hon, ond rwyf wedi ystyried ein bod wedi ein hethol yma nid yn unig i gynrychioli ein hetholwyr, ond oherwydd ein profiadau personol hefyd. Pan gefais brofiad o'r system am y tro cyntaf pan oedd fy mab yn saith oed, dywedwyd wrthyf, 'Dewch yn ôl pan fydd yn taflu ei hun yn erbyn y wal', ac yn sicr ddigon, chwe blynedd yn ddiweddarach, ar ôl mis o driniaeth ysbyty ddrud iawn, fe gawsom gefnogaeth effeithiol. Cymorth gan y trydydd sector ydoedd, gan Gweithredu dros Blant, ac roedd yn wych, a therapi teuluol drwy CAHMS, sydd hefyd yn effeithiol iawn. Dyma'r math o gefnogaeth y byddem wedi elwa o'i chael chwe blynedd ynghynt, cymorth a fyddai wedi arbed straen a gofid teuluol enfawr, nid yn unig i fy mab, ond i bob un ohonom. Mae ei effaith yn ddwys ac yn bellgyrhaeddol, a dyna'r math o ymyrraeth y mae'r adroddiad hwn yn ei argymell—y math o fesurau llai o faint, yr ymyriadau cynharach a all helpu cyn i bethau dyfu'n argyfwng.
Ceir dyfyniad yma gan bobl ifanc yn Abergele, lle maent yn dweud
Rhaid iddi fynd yn argyfwng arnoch yn gyntaf, cyn y bydd y system yn ymateb. Mae'r comisiynydd plant, yn ei hymateb llym iawn, yn disgrifio ymateb y Llywodraeth fel cyfle a gollwyd ac mae'n dweud na ddylai fod unrhyw ddrws anghywir. Mae hi'n dweud na fu cydweithio o fewn y Llywodraeth, a gofynnaf i fy nghyd-Aelodau ar y fainc flaen i fyfyrio ar hynny a dod yn ôl atom yn yr hydref. Diolch.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle a'i phwyllgor am yr adroddiad hwn. Lynne, rydych yn eofn ac yn gadarn ac mae gennyf edmygedd a pharch llwyr tuag atoch. Credaf fod y pwyllgor plant a phobl ifanc mewn dwylo da iawn, a buaswn yn dweud fy mod yn credu y byddai plant Cymru yn iawn ac yn ddiogel yn eich dwylo hefyd.
Credaf fod adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn mynd i wraidd y problemau, maent wedi gwrando ar leisiau'r arbenigwyr, maent wedi gwrando ar yr ymarferwyr ac ar sefydliadau pobl ifanc, ac maent wedi gwneud argymhellion swmpus, craff a gwerth chweil. Credaf eu bod yn argymhellion sy'n haeddu cael eu clywed.
Meddyliais yn galed iawn beth fyddai cywair fy nghyfraniad i'r ddadl hon heddiw. A fyddwn yn adlewyrchu'r corws o sioc a siom gan y pwyllgor a chan dystion ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth, neu a ddylwn sôn am yr effaith a gaiff hyn ar blant a phobl ifanc yn fy etholaeth—y plant rydym wedi ceisio eu hachub, fy nhîm a minnau, yn fy swyddfa fach yn Ninbych-y-pysgod gyda chymorth cynghorau sir, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro—neu a fyddwn yn sôn am yr holl achosion o hunanladdiad a welsom yn Sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf a chwestiynau parhaus y crwner, neu a ddylwn wneud dadansoddiad fforensig o ymatebion Llywodraeth Cymru? Rwyf wedi penderfynu nad wyf am wneud dim o hynny.
'Cadernid Meddwl', iechyd meddwl amenedigol, gwasanaethau mabwysiadu, iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gordewdra ymhlith plant, presenoldeb ac ymddygiad, mabwysiadu, gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant, lleoli plant mewn gofal, cyfiawnder ieuenctid, rhai nad ydynt mewn cyflogaeth neu addysg, awtistiaeth mewn addysg bellach, dyslecsia, rhai ôl-19 ag anghenion dysgu ychwanegol, gwasanaethau iechyd meddwl: 15 o adroddiadau pwyllgor gan dri phwyllgor gwahanol, a phob un ohonynt ers i mi fod yn Aelod Cynulliad.
Beth sydd gan iechyd meddwl amenedigol i'w wneud â'r hyn rydym yn sôn amdano heddiw? Wel, gadewch imi ddweud wrthych. Argymhelliad 10, argymhelliad 22, argymhelliad 26, maent i gyd yn cyfeirio at yr hyn a grynhowyd mor dda gan David Melding: sef os na fyddwn yn cynorthwyo ar y dechrau un, os na chawn bethau'n iawn ar y dechrau un, y cyfan a wnawn yw treulio gweddill ein hamser yn codi'r darnau. Ac mae chwarter—chwarter—ein poblogaeth mewn trallod ar ryw adeg neu'i gilydd. Mae gan 98 y cant o'r plant nad ydynt mewn addysg yn swyddogol broblemau iechyd meddwl o'r math y mae'r adroddiad hwn yn sôn amdanynt. Na, nid ydynt yn seicotig mewn modd y gallwn ei drin yn feddygol, ond mae ganddynt yr holl broblemau eraill. Gwnaethpwyd cam â hwy. Maent wedi'u hesgeuluso. Maent wedi'u cam-drin. Maent wedi'u colli, maent wedi drysu, nid ydynt yn gwybod ble i fynd, mae ganddynt broblemau emosiynol ac ymddygiadol.
Mewn 11 mlynedd—roeddwn yn meddwl mai 10 mlynedd oedd hi ond fe sonioch chi am 11 mlynedd, Darren Millar, a daethom yma yr un pryd—ers 11 mlynedd, 15 o adroddiadau, pob un ohonynt yn cyffwrdd ar y ffaith nad ydym wedi ei gael yn iawn. Beth mae'n ei gymryd? Oherwydd dywedaf hyn wrthych: mae gennym ormod o blant allan o addysg, mae gennym ormod o blant yn methu ymdopi â bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, mae gennym ormod o blant clwyfedig yn ein gwlad a fydd yn tyfu'n oedolion na fydd yn cyflawni eu potensial, na fydd yn gallu gwneud yr holl bethau rydym ni yn y Siambr hon yn ddigon ffodus i'w gwneud. Sut y gallwn ddatblygu ein haeddfedrwydd fel gwlad? Sut y gall Cymru gamu ymlaen i'r unfed ganrif ar hugain pan ydym yn gadael cymaint o bobl ar fin y ffordd? Sut y gallwn obeithio gwella ffordd o fyw pobl? Oherwydd os na rown sylfaen gadarn iddynt adeiladu arni, sut y byddwn ni, Cymru, yn gallu fforddio codi'r darnau yn y blynyddoedd i ddod?
Roeddwn yn meddwl bod ymateb y Llywodraeth yn llugoer. Roeddwn yn meddwl ei fod yn ddi-hid, Ysgrifenyddion y Cabinet, ac mewn rhannau roeddwn yn credu ei fod yn gwbl ddirmygus. Roeddwn yn teimlo bod yna awgrym go iawn o syrthni. Lywodraeth Cymru, rydych yn tynnu'n groes i Aelodau Cynulliad o bob plaid, gan gynnwys Aelodau o Lafur Cymru. Mae'r adwaith i'r adroddiad hwn wedi bod yn rhyfeddol—y comisiynydd plant, y Samariaid, yr NSPCC, y seicolegwyr. Pe bai gennych unrhyw synnwyr, byddech yn gwneud Lynne Neagle yn gyfrifol am grŵp gorchwyl a gorffen i yrru'r math hwn o adroddiad drwodd a gwneud iddo ddigwydd, oherwydd mae fy mhlant i, eich plant chi a'ch wyron angen hwn. Y bobl hyn i fyny yma, maent angen y newid hwn yn awr.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwn fod pob un ohonom eisiau gweld y canlyniad gorau posibl mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond rhaid eich bod yn teimlo'r siom amlwg gan yr Aelodau ar draws y Siambr hon ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn. Gwyddom am y problemau, gwyddom am yr atebion, ond mae Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn amharod i weithredu.
Ni fydd derbyn syniadau mewn egwyddor yn arwain at weithredu, ac mae angen gweithredu. Mae pob arbenigwr yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau bod gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol fecanwaith i ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Rhaid iddynt hefyd ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth sicrhau bod CAMHS a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth integredig i blant ag anghenion emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl. Mae angen dull ysgol gyfan, wedi'i fapio a'i arwain ar y cyd gan iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i arwain ysgolion, a bydd hyn yn sicrhau y bydd y cymorth a ddylai fod ar gael i blant a phobl ifanc yn sylfaen i wasanaeth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl teg ar gyfer pobl ifanc a phlant yn y wlad hon.
Ysgrifennydd Cabinet, atebion polisi technegol yw'r rhain. Mae acronymau a jargon yn gwneud inni deimlo ein bod wedi'n datgysylltu oddi wrth yr effeithiau go iawn y mae darpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl gwael yn arwain atynt. Os oes unrhyw un yn adnabod unrhyw athrawon, mae iechyd meddwl pobl ifanc yn fater a godir ganddynt drwy'r amser. Mae bellach yn effeithio ar gynifer o bobl. Fel y mae cynifer o bobl wedi dweud heddiw, mae cymaint o anobaith ynglŷn â hyn.
Pan oeddwn yn ifanc ac yn tyfu i fyny, ofn mwyaf fy mam oedd beichiogrwydd cynnar. Nawr, buaswn yn dweud bod pryderon mwyaf y rhan fwyaf o rieni yn ymwneud â lles meddyliol eu plant. Yn eithaf hwyr y bore yma, postiais ar fy nhudalen Rhondda ar Facebook fy mod yn siarad yn y ddadl hon, ac roedd yr ymateb yn ysgubol. Rwyf am sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o rai o'r straeon go iawn sydd y tu ôl i rai o'r ystadegau hyn. Soniodd un unigolyn nad wyf yn mynd i'w enwi am eu profiad fel hyn.
Ymwelais â'r meddyg teulu bedair gwaith i ofyn am help a'r cyfan a gefais oedd dolenni i ganllawiau hunangymorth ar-lein ar raglennu niwroieithyddol. Y pedwerydd tro, a'r tro olaf, datgelais fy nefnydd o alcohol a chanabis fel ffurf ar hunanfeddyginiaeth a dywedais fy mod yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad. Nid oeddwn yn mynd i adael heb iddo ddeall sut roeddwn yn teimlo a pha mor anobeithiol roeddwn i'n teimlo bellach. Dywedwyd wrthyf y byddai'n rhaid i mi roi'r gorau i yfed cyn y gallwn gael unrhyw gymorth pellach ac aros chwe mis am yr apwyntiad cwnsela mwyaf sylfaenol. Ar 12 Awst, ceisiais gyflawni hunanladdiad. Tarfwyd arnaf gan ffrind yn dychwelyd adref yn annisgwyl.
Nawr, roedd yr eiliad honno'n drobwynt i'r unigolyn dan sylw. Trodd at ffrindiau am gymorth ac rwy'n falch o ddweud iddynt ei gael ac maent mewn lle llawer gwell erbyn hyn.
Dywedodd un fam fod ei mab saith oed yn dioddef o orbryder. Er gwaethaf y terfyn amser aros o 28 diwrnod ar gyfer cael cymorth iechyd meddwl, mae hi wedi bod yn aros ers tua pedwar mis. Mae bellach ar fin cael ei wahardd o'r ysgol a hyd yn oed ei leoli mewn ysgol arbennig oherwydd nad yw'r ysgol yn gallu darparu ar ei gyfer heb ddiagnosis swyddogol. Ni all unrhyw un mewn argyfwng fforddio aros, ac i blant a phobl ifanc, mae'r brys hyd yn oed yn fwy. Roedd straeon am blant yn aros misoedd bwy'i gilydd neu'n cael eu trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed mor gyffredin mewn ymateb i fy sylw ar Facebook fel na allaf grafu'r wyneb yma hyd yn oed.
Os ydych yn darllen yr erfyniadau hyn am help, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno eu bod yn dorcalonnus, ac i'r teuluoedd sy'n dioddef o ganlyniad i ddiffyg gweithredu ar ran y system mae'n waeth byth. Felly, os gwelwch yn dda, gwrandewch ar yr Aelodau yma heddiw. Gweithredwch ar frys. I rai, mae'r cwestiwn hwn yn llythrennol yn fater o fyw neu farw. Mae argyfwng yn cyniwair ym maes iechyd meddwl plant, ac os na fyddwch yn gwneud newidiadau radical ar frys bellach, gallem wynebu trychineb go iawn. Rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor, sydd wedi siarad yn yn ardderchog yn y ddadl hon. Mae'n ddyletswydd arnom oll i gael gwell atebion i'r cwestiwn hwn er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.
Yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n adroddiad pwysig iawn a hoffwn ganmol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gynnal eu hymchwiliad trylwyr ac amserol a fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod Lynne Neagle am ei harweinyddiaeth yn hynny o beth ac am y ffordd y mae hi wedi siarad heddiw.
Canfu ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gynharach eleni fod 10 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed yn dweud eu bod yn unig drwy'r amser neu'n aml. Dyma'r uchaf o unrhyw grŵp oedran. Adlewyrchir y ffigurau hyn yng nghyhoeddiad y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cysylltu â ChildLine ynglŷn â'u hiechyd emosiynol a'u hiechyd meddwl. Dyma'r rheswm mwyaf cyffredin bellach dros gwnsela gan ChildLine yng Nghymru.
Croesawyd yr adroddiad rhagorol 'Cadernid Meddwl' gan weithwyr proffesiynol clinigol, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r trydydd sector. Maent yn cefnogi'r modd y mae'r adroddiad yn nodi'r heriau pwysig a wynebir ar ddechrau'r llwybr gofal a'i argymhelliad allweddol y dylai lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae'r sefyllfa'n un enbyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tua hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau yn 14 oed. Gall methu ymyrryd arwain at alw uwch na'r cyflenwad o wasanaethau arbenigol ac fel Aelodau eraill yma, rwy'n ymdrin â llawer o'r materion hyn ar sail dyddiol ac wythnosol.
Mae'r adroddiad yn amlygu pwysigrwydd mesurau y gellir eu cymryd i atal plant a phobl ifanc rhag cyrraedd pwynt o argyfwng ac adeiladu gwydnwch. Ledled Cymru, ceir enghreifftiau gwych o brosiectau sy'n gweithio i gefnogi iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a hoffwn dynnu sylw at rai rwy'n gyfarwydd iawn â hwy. Yn gynharach eleni, ymwelais â'r grŵp anogaeth yn Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn fy etholaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r grŵp yn darparu cymorth i blant sydd angen cymorth ychwanegol gydag anghenion emosiynol ac ymddygiadol drwy feithrin perthynas rhwng disgyblion, athrawon a rhieni. Mae'r grŵp yn helpu i roi'r sgiliau a'r gwydnwch angenrheidiol i blant gael y gorau allan o bob agwedd ar yr ysgol. Mae'r plant eu hunain yn agored iawn ynglŷn â sut y mae bod yn rhan o'r grŵp anogaeth wedi newid y ffordd y maent yn teimlo, ac mae'r grŵp hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r plant hynny.
Rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi ymweld â phrosiect Newid Meddyliau yng Nghasnewydd fel rhan o'i ymchwiliad. Gwelais drosof fy hun sut y mae'r prosiect yn Mind Casnewydd yn darparu cymorth gan gymheiriaid ar gyfer pobl ifanc. Mae ei natur ataliol yn effeithio'n sylweddol ar leihau'r defnydd o wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, a hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd yma heddiw am gynnwys eu lleisiau unwaith eto y prynhawn yma. Ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad am bwysigrwydd mesurau ataliol roedd Carol Fradd, Cyfarwyddwr Samariaid Casnewydd. Cyfarfûm â Carol heb fod yn hir wedyn, ac eglurodd am yr offeryn datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando, adnodd i athrawon a ddatblygwyd gan y Samariaid. Yn dilyn llwyddiant yr offeryn, mae'r Samariaid wedi galw am gynnwys ymwybyddiaeth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl mewn cymwysterau hyfforddiant cychwynnol i athrawon, ac mae gwaith a wnaed gan Gymdeithas y Plant wedi dangos y gall yr amgylchedd ysgol effeithio'n fawr ar les plant, ac eto ni all y cyfrifoldeb syrthio ar ysgwyddau athrawon yn unig, ac fel y dywedodd eraill, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom.
Sefydlu partneriaethau gweithio gyda chlinigwyr plant a gweithwyr proffesiynol sy'n meddu ar sgiliau i drawsnewid gofal iechyd meddwl i blant—rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i'w galluogi i rannu eu profiad a'u harbenigedd. Mae Barnardo's ymhlith y rhai sydd wedi tynnu sylw at y fantais o ddatblygu gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol megis ysgol gynradd Millbrook yn y Betws, yr ymwelais â hi gyda'r Gweinidog plant yn gynharach yr wythnos hon.
Un ffactor allweddol sy'n cyfrannu at yr achosion cynyddol o broblemau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn ddi-os yw dylanwad a phwysau cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n anodd iawn i bawb ohonom yma heddiw ddychmygu sut y mae cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar hunan-barch pobl ifanc. Yn gynyddol, mae pobl ifanc yn profi cyfran sylweddol o'u rhyngweithio cymdeithasol ar-lein, ond ni all hyn gymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb rhwng pobl a'r sgiliau gwerthfawr y mae hynny'n eu rhoi. Gall sgrolio drwy'r cyfryngau cymdeithasol chwyddo'r gymysgedd o emosiynau a brofir gan bob un ohonom, gan atgyfnerthu ac ymestyn meddyliau a theimladau negyddol yn aml, yn anffodus. Heddiw, yn drawsbleidiol, rydym wedi clywed cryfder y teimlad ynglŷn â hyn. O oedran ifanc, rydym yn meithrin plant i ddeall nad oes angen iddynt oddef poen corfforol. Mae adroddiad y pwyllgor yn ein hatgoffa'n rhagorol ac yn allweddol fod gan bawb ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl ifanc yn tyfu i fyny gan wybod bod eu meddyliau'n bwysig hefyd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad cynhwysfawr yn rhoi manylion y newid sylweddol y maent yn teimlo sydd ei angen yn y maes hwn? Ymunaf â David Melding i dalu teyrnged i Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, am ei hymroddiad i'r materion hyn, nid yn unig yn yr adroddiad hwn, ond dros ei hamser yma fel Aelod Cynulliad. A gaf fi ymuno â hi hefyd i ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth bersonol i'r pwyllgor—nid yw hynny byth yn beth hawdd i'w wneud—a diolch hefyd i David a Lee sydd wedi sôn am eu profiadau personol eu hunain yn hyn o beth heddiw? Mae'n ein hatgoffa nad oes neb ag imiwnedd rhag problemau iechyd meddwl.
Mae cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yn fater sy'n torri ar draws portffolios ac yn faes lle na wnaiff dim ond gweithio trawslywodraethol ac amlasiantaethol effeithiol sicrhau'r gweithredu ataliol ac ymyraethol sydd ei angen er mwyn newid, ac mae'n hanfodol inni gael hyn yn iawn. Ac rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, nid yn unig fel Ysgrifennydd y Cabinet, ond fel mam i ferched yn eu harddegau. Mae gwella iechyd meddwl a lles meddyliol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac er bod yr adroddiad yn cydnabod y bu gwelliannau mewn gwasanaethau, yn enwedig ar y pen arbenigol i'r ddarpariaeth iechyd meddwl, mae'n tynnu sylw at y maes lle y gallwn a lle mae'n rhaid inni wneud yn well ar gyfer ein pobl ifanc. Yn gyffredinol, credaf fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn rhannu'r un dyheadau, er ein bod yn anghytuno mewn rhai meysydd ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hynny. Ond gallaf addo hyn i chi—yn bersonol, rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r pwyllgor a'i aelodau i wneud cynnydd ar yr agenda hon. Rydym wedi teithio'n bell, Ddirprwy Lywydd, ond fi fyddai'r cyntaf i gydnabod bod ffordd bell iawn i fynd o hyd. Ac mae'r araith gan Leanne Wood, a'r dystiolaeth y mae wedi'i chyflwyno o'i hetholaeth ei hun yn ategu hynny.
Ein nod yw sicrhau newid diwylliannol yng Nghymru i gyfeirio ffocws ar les pobl ifanc. Dylai atal fod yn un o ganlyniadau'r ffocws newydd hwn ar les, er mwyn inni symud ein pwyslais o reoli argyfwng i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yn y lle cyntaf. Fel y cydnabu'r Cadeirydd, dyma sydd orau i'r unigolyn, er mwyn inni allu cyfyngu ar eu poen a'u trallod. Ond bydd hefyd yn creu lle o fewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i ganolbwyntio ar y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf o angen y gwasanaethau hynny er gwaethaf y cymorth a'r gefnogaeth.
Rydym yn disgwyl i feysydd gwahanol allu gweithio gyda'i gilydd fel bod gennym ymagwedd system gyfan sydd o ddifrif yn rhoi'r plentyn neu'r unigolyn ifanc yn y canol, ac i'r perwyl hwn, mae angen i ni barhau i adeiladu a gwella'r berthynas rhwng gwahanol wasanaethau.
Os caf droi'n syth at rai materion sy'n wynebu addysg, mae llawer o waith ar y gweill eisoes yn ein hysgolion i gefnogi'r ffocws newydd hwn ar les, megis datblygiad y cwricwlwm newydd a maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad, newidiadau i ddysgu proffesiynol, a rhwydwaith ymchwil iechyd yr ysgolion, gyda'r data newydd y maent wedi'i gasglu ar les.
Hefyd, cyn diwedd y tymor hwn, rwy'n gobeithio cyhoeddi offeryn diogelwch ar-lein ar gyfer plant i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau perthnasol iawn y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt yn ei haraith ac effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc. O ran hyfforddi staff, a grybwyllwyd gan Julie Morgan, rydym ar hyn o bryd yn diwygio'r ffordd y darparir ein haddysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwyr addysg gychwynnol achrededig newydd i athrawon—a gyhoeddwyd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf—gynllunio a chyflwyno cyrsiau sy'n ymdrin â maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad. Os nad ydynt yn gwneud hynny, ni chânt eu hachredu.
Nawr, o ran yr argymhelliad a gafodd lawer o sylw heddiw, mae'n hollol iawn wrth gwrs, Julie, i ddisgwyl bod pobl sy'n gweithio yn ein proffesiwn addysg ac yn ein gwasanaeth ieuenctid wedi cael eu hyfforddi yn hyn o beth. Ond mae'r argymhelliad yn dweud y dylid hyfforddi pob gwirfoddolwr sy'n gweithio gyda phlentyn hefyd, ac mae angen amser ychwanegol arnom i ystyried sut, yn ymarferol, y gellid cyflawni hynny, a sut y gallwn ei wneud heb unrhyw ganlyniadau anfwriadol fel anghymell pobl rhag gwirfoddoli gyda phlant o bosibl. A bydd angen inni ystyried yn fwy manwl sut y gallwn weithio gyda'r rhai sy'n cynorthwyo plant yn eu clwb pêl-droed ar ddydd Sadwrn, neu'r Brownis, Geids neu Sgowtiaid, neu hyd yn oed pobl fel fi a fy ngŵr, sy'n gwirfoddoli gyda'n clwb ffermwyr ifanc lleol—sut y gallwn wneud i hyfforddiant gorfodol weithio ar gyfer yr holl bobl sy'n rhoi cymaint o'u hamser i'w cymunedau heb unrhyw gost i'r wladwriaeth. Nid ydym am gael unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chefnogaeth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau megis gorbryder, iselder neu hunan-niwed, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod cydnabyddiaeth ar draws y Siambr na all hyn fod yn waith i athrawon yn unig. Rydym eisoes yn gofyn llawer iawn gan ein system addysg a'n gweithwyr proffesiynol, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod yr Aelodau wedi cydnabod hyn.
Felly, mae gan y GIG rôl mewn ymgynghori a hyfforddi ar draws y sectorau, gan ddarparu cymorth cynnar mewn ysgolion gan staff wedi'u hyfforddi'n addas. Dyna pam, ym mis Medi y llynedd, y lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau ar y cyd raglen fewngymorth CAMHS i ysgolion, a gefnogwyd gan £1.4 miliwn o fuddsoddiad i ddarparu cymorth proffesiynol penodol i ysgolion. Mae manteision gan wasanaethau ar sail ysgol o'r fath i staff ysgolion a'u dysgwyr, ond hefyd maent yn sicrhau budd i wasanaeth y GIG drwy leddfu'r pwysau ar CAMHS arbenigol, a lleihau atgyfeiriadau amhriodol, ac yn hollbwysig, maent yn adeiladu'r berthynas sydd angen inni ei hadeiladu rhwng gwahanol sectorau'r gwasanaeth cyhoeddus. [Torri ar draws.] Mae angen inni—. Wrth gwrs.
Os caf ystyried pwynt a wnaethoch ychydig yn gynharach am oblygiadau ymarferol un o'r argymhellion, a gwnaeth David Melding y pwynt: roedd yr Ysgrifennydd Parhaol wedi sicrhau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y byddai'r Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'r arfer o dderbyn pethau mewn egwyddor ac yn dweud yn glir pan fyddent yn eu gwrthod. Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Parhaol unwaith eto y bore yma, yn gofyn iddi atgyfnerthu'r dyfarniad hwnnw yng ngoleuni'r adroddiad hwn. Bydd yna adegau, wrth gwrs, pan nad yw'n bosibl derbyn argymhelliad, ond a ydych yn derbyn y byddai'n well inni fod yn glir am y rhesymau dros hynny yn hytrach na derbyn mewn egwyddor?
Wel, Lee, yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddai'n llawer gwell gennyf, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod mewn sefyllfa i allu derbyn neu wrthod, ond weithiau—ac rwy'n cydnabod yr amser ychwanegol y mae'r pwyllgor wedi'i roi i fy swyddogion a minnau i weithio ar hyn—mae angen mwy o amser arnom i ddeall o ddifrif beth yw goblygiadau dweud 'derbyn'. Oherwydd os dywedwn ein bod yn 'derbyn', mae'n golygu bod rhaid i hynny ddigwydd, ac weithiau ceir materion cymhleth y mae angen eu deall yn llawn, a deall a lliniaru canlyniadau anfwriadol. Felly, rwyf am wneud cynnydd ar bob un o'r argymhellion lle rydym yn dweud ein bod wedi eu derbyn mewn egwyddor. Ac fel y dywedais ar ddechrau fy araith, rwy'n ymrwymo'n llwyr i hynny fy hun a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i weithio gyda'r pwyllgor i allu symud y pethau hynny yn eu blaen. Yn wir, ers cyhoeddi adroddiad, argymhellion ac ymateb y Llywodraeth, mae gwaith wedi bod ar y gweill, ac eisoes, fel Llywodraeth, rydym wedi gallu bod yn fwy cadarnhaol ynglŷn ag ymateb i hyn. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd yn fy araith, Ddirprwy Lywydd, gallwn roi enghraifft real iawn i'r Aelod o sut, mewn byr amser, rydym wedi gallu parhau'r gwaith hwnnw ac wedi gallu ymateb yn briodol.
Fel y dywedais, mae angen inni fabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan, ac rydym eisoes wedi cydnabod bod ein sefydliadau addysg yn safleoedd allweddol ar gyfer hybu iechyd meddwl a lles meddyliol cadarnhaol a darparu atal ac ymyrraeth gynnar yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol er mwyn gwella'r ddarpariaeth CAMHS ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, gyda dros £8 miliwn o arian blynyddol penodol, sydd wedi ein galluogi i recriwtio staff newydd, hyfforddi staff presennol a sefydlu gwasanaethau newydd. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cydnabod yn briodol fod yna feysydd lle mae angen inni wella, yn enwedig yn achos gofal sylfaenol. Rydym wedi comisiynu uned gyflawni'r GIG i adolygu gweithgarwch a pherthynas â gwasanaethau CAMHS eraill er mwyn inni allu ymdrin â heriau darparu.
Ers ymateb i'r pwyllgor, mae'r Ysgrifennydd iechyd a minnau wedi parhau ein trafodaethau ynglŷn â sut y gallwn barhau i symud yr agenda yn ei blaen. Felly byddwn yn derbyn pwynt 4 o argymhelliad allweddol y pwyllgor ar adolygu'r cynnydd a wnaed yn blaenoriaethu iechyd emosiynol a iechyd a lles meddyliol a gwydnwch ein plant. Byddwn yn blaenoriaethu ac yn cryfhau'r trefniadau i yrru'r agenda hon yn ei blaen, gan weithio'n strategol ar draws yr adrannau addysg ac iechyd i ddarparu dulliau cynaliadwy o weithredu ar les meddyliol. O ran gwerthuso ein cynnydd, byddwn yn gweithio gyda'r pwyllgor i sicrhau ein bod yn gosod y paramedrau cywir ar gyfer y gwaith hwnnw. Er bod gennym rai pryderon ynglŷn â beth yw'r amser gorau ar gyfer parhau i adolygu, byddwn yn ymgysylltu â'r pwyllgor ac yn adrodd ar gynnydd ar adeg y gallwn ei chytuno â Chadeirydd y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau Cynulliad eraill ddiddordeb yn hyn hefyd, fel y dangoswyd ar draws y Siambr y prynhawn yma, er nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor, a byddwn yn cyflwyno cynigion wrth i'n syniadau ddatblygu.
Rydym wedi cael trafodaethau pellach hefyd ynghylch argymhelliad 12—pwynt 2—ynglŷn â thrallod. Mae hyn wedi'i grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma. Mae CAMHS arbenigol yn darparu cymorth ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl mwy cymhleth ac fel y cyfryw, bydd angen ymateb i anghenion clinigol yr unigolyn bob amser. Fodd bynnag, ystyrir trallod fel un o nifer o ffactorau ar gyfer pennu'r gwasanaethau mwyaf priodol i ddiwallu anghenion yr unigolyn, i rai sy'n cael eu hatgyfeirio at CAMHS ac i rai nad ydynt yn cyrraedd y trothwy atgyfeirio. Felly, byddwn yn ymgysylltu â bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan i fonitro darpariaeth eu gwasanaethau yng Ngwent, sy'n eithriadol ac yn gwneud yn dda iawn, i weld sut y gallwn ddysgu o'u profiadau gyda'r prosiect yng Ngwent er mwyn gwella gwasanaethau ledled ein gwlad.
A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs. Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd.
Felly, a gaf fi yn olaf ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd eto am eu hymgysylltiad helaeth ac am godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn? Hefyd, rwy'n croesawu'r gwaith y mae'r pwyllgor iechyd yn ei wneud ar hyn o bryd ar atal hunanladdiad, sy'n elfen bwysig ochr yn ochr â'r gwaith hwn. Ddirprwy Lywydd, ni allwn ganiatáu i unrhyw blentyn neu berson ifanc deimlo nad oes ganddynt neb i droi ato, a byddaf fi a chyd-Aelodau yn y Cabinet, yn gweithio gyda'r pwyllgor i sicrhau'r ddarpariaeth o gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y gŵyr pawb ohonom fod angen inni ei darparu, a hynny'n fuan.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf dri munud a 30 eiliad i ateb, sy'n cyfyngu braidd ar yr hyn y gallaf ei wneud. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n maddau imi os nad wyf yn ymateb i bob cyfraniad unigol, ond hoffwn eich sicrhau y byddwn yn mynd drwy'r Cofnod ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael ymateb i'r ddadl bwysig hon. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad, ar draws y pleidiau. Mae hi mor galonogol clywed y gefnogaeth enfawr sydd yn y lle hwn i'r newid sylweddol y gŵyr y pwyllgor fod ei angen. Yn arbennig—er imi ddweud nad oeddwn yn bwriadu ymateb i gyfraniadau unigol—hoffwn ddiolch i David a Lee am rannu eu profiadau personol, sy'n dangos dewrder ond hefyd mae'n helpu pawb arall i sylweddoli ei bod hi'n iawn iddynt siarad am y pethau hyn. Felly, diolch i'r ddau ohonoch.
Dylwn ddiolch, hefyd, i'n clerc gwych a'n tîm ymchwil ardderchog. Rydym yn wirioneddol ffodus, fel pwyllgor, i gael tîm mor wych yn ein cefnogi. Diolch i aelodau'r pwyllgor sydd wedi gweithio'n galed iawn ar yr ymchwiliad pwysig hwn a diolch unwaith eto i'r rhanddeiliaid sydd wedi dod atom mor barod a rhannu eu profiadau mewn ffordd mor rymus. Credaf mai'r pwyllgorau yw un o gryfderau mawr y Cynulliad hwn, ac rydym yn freintiedig, a dylem fod yn ddiolchgar fod pobl wedi dod atom i rannu eu safbwyntiau yn y ffordd honno. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, a gobeithiaf fod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb a diolch iddi am ei hymwneud â mi, fel arfer. Hyd yn oed lle nad ydym wedi cytuno, bu parodrwydd i ymgysylltu, a gwn ei bod yn bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb, oherwydd mae hyd yn oed sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yno yn tynnu sylw at rai o'r anghysonderau, mewn gwirionedd. Rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru mor bryderus ynglŷn â gweld pawb—neu bobl sy'n gweithio gyda phlant—yn cael rhywfaint o hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n rhy uchelgeisiol. Mae digonedd o fodelau allan yno. Nid oes ond angen i chi edrych ar Cyfeillion Dementia—45 munud i roi dealltwriaeth dda iawn i chi. Clywodd y pwyllgor iechyd am hyfforddiant atal hunanladdiad 20 munud o hyd. Mae modelau ar gael allan yno, ac ni chredaf y dylai fod yn ormod o ddyhead inni geisio gwneud hyn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.
Rwy'n falch gyda'r symud a fu, ond mae angen llawer iawn mwy. Hoffwn ddweud bod y symud ar yr argymhelliad 'canol coll' yn enghraifft bwerus iawn, mewn gwirionedd, o'r modd nad yw'r ymateb hwn wedi cael ei ystyried yn briodol yn fy marn i, oherwydd pe bai pobl wedi darllen y naratif, wedi deall y naratif ac wedi sylweddoli bod hyn yn digwydd yng Ngwent beth bynnag, yna ni ddylai fod angen ei wrthod yn y ffordd honno. Felly, nid yw'n rhoi darlun da o Lywodraeth gydgysylltiedig ar fater mor bwysig.
A gaf fi orffen felly drwy ddiolch unwaith eto i'r bobl ifanc—y bobl ifanc sydd yma ar gyfer y ddadl hon, ond hefyd yr holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac y gwn fod hyn mor bwysig iddynt? Rwy'n eu sicrhau ein bod wedi clywed eu lleisiau ac fel pwyllgor, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn gyda'r brys mwyaf i gael y newid sylweddol sydd ei angen arnom. Mae'n ymwneud â mwy na siarad am ymyrraeth gynnar. Mae'n ymwneud â mwy na honni bod iechyd meddwl yn gydradd ag iechyd corfforol. Mae'n ymwneud â darparu hyn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Os cawn hynny'n iawn, nid yn unig y byddwn yn gwella ansawdd eu bywydau, rwy'n credu y byddwn yn achub bywydau hefyd. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.