– Senedd Cymru am 2:42 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar raglen ddeddfwriaethol ei Lywodraeth. Rydw i'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Llywydd, gyda phleser y gallaf i ddatgan heddiw y Biliau y bydd y Llywodraeth yn dod â nhw o flaen y Cynulliad dros y flwyddyn nesaf.
Rydym yn gwybod mai'r flwyddyn o'n blaenau fydd un o'r prysuraf o ran deddfwriaeth ers i Gymru gael pwerau deddfu sylfaenol. Wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yna swm sylweddol o waith i'r Cynulliad hwn ymgymryd ag ef rhwng nawr a mis Mawrth os ydym am gael llyfr statud cwbl weithredol wrth inni ymadael. Bydd hwn yn gyfnod heriol ac ni ddylid tanamcangyfrif y llwyth gwaith deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â gadael yr UE.
Bydd angen i'r Cynulliad ymdrin â rhaglen sylweddol o gywiro rheoliadau o dan y Ddeddf tynnu'n ôl o'r UE rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen ar gyfer Biliau sy'n gysylltiedig â Brexit dros y 12 mis nesaf, ac mae'n debygol y bydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar nifer o Filiau Brexit y DU. Cyn belled ag y bo modd, ni ddylem ganiatáu i'r llwyth gwaith Brexit hwn gyfyngu ar ein huchelgeisiau deddfwriaethol, ond mae'n rhaid inni fod yn hyblyg ac yn barod i addasu ein rhaglen ddeddfwriaethol pe bai'r angen yn codi.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau o ran amddiffyn hawliau plant. Rydym wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y Mesur nodedig Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Byddwn yn parhau i weithredu er mwyn amddiffyn plant a hawliau plant a byddwn yn cyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cefnogi hawliau plant drwy wahardd y defnydd o gosb gorfforol. Rydym wedi ymgynghori yn eang a bydd yr ymatebion gan y cyhoedd, rhieni a phobl ifanc yn helpu i lunio ein cynigion.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn credu y dylai cyfraith Cymru fod yn glir a hygyrch nid yn unig yn awr, ond yn yr hirdymor. Rydym wedi dechrau rhaglen i atgyfnerthu a chyfundrefnu cyfraith Cymru ond bydd hon yn siwrnai hir. Bydd cwblhau llyfr statud clir, hylaw a threfnus yn cymryd llawer o flynyddoedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd cyson a pharhaus. Byddwn felly yn cyflwyno Bil yn ymrwymo'r Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff deddfwriaeth Cymru ei dehongli.
Llywydd, cyhoeddais y llynedd y byddem yn cyflwyno Bil llywodraeth leol. Bydd y Bil hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn ac yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol, gan ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed. Bydd hefyd yn cynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â chanlyniad ein hymgynghoriad yn ddiweddar ar Bapur Gwyrdd llywodraeth leol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad manwl ar hyn a'r Bil yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn awyddus i sicrhau bod ansawdd yn ganolog i'n GIG. Ar yr adegau prin hynny pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le—ac, yn anffodus, mewn system sy'n dibynnu ar bobl yn gweithio dan bwysau difrifol, o bryd i'w gilydd bydd pethau yn mynd o chwith—rydym yn awyddus i gael gwasanaeth iechyd sy'n agored a thryloyw ac yn gallu dysgu oddi wrth ei gamgymeriadau. Byddwn ni, felly, yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu dyletswydd o ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru a dyletswydd o onestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai dyletswydd o onestrwydd yn rhoi rhwymedigaethau statudol ar bob corff iechyd yng Nghymru i fod yn agored a thryloyw, ac yn nodi'r broses sydd i'w dilyn pan fydd pethau'n mynd o chwith a phobl yn dioddef niwed. Bydd y Bil hwn hefyd yn sefydlu corff annibynnol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, i sicrhau bod gan bobl lais cryfach sy'n adlewyrchu eu profiadau o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn cynnwys cynigion i fynnu bod byrddau ymddiriedolaeth GIG yn penodi is-gadeirydd.
Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol. Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Llywydd, gwneuthum fy natganiad deddfwriaethol cyntaf fel Prif Weinidog ychydig dros wyth mlynedd yn ôl. Y datganiad hwn fydd fy un olaf i a hyderaf y byddwch chi yn caniatáu imi fyfyrio ar yr hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gyflawni yn yr amser hwnnw. Mae tai wedi bod, ac yn parhau i fod, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cymryd camau i amddiffyn tenantiaid ac atal digartrefedd. Rydym wedi terfynu'r hawl i brynu yng Nghymru. Rydym wedi gwarchod ein stoc o dai cymdeithasol a thai cyngor. Bydd Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), sy'n destun craffu gan y Cynulliad ar hyn o bryd, os caiff ei basio, yn gwahardd asiantau gosod rhag codi ffioedd ar denantiaid, gan ddileu'r rhwystrau rhag cael mynediad a symud o gwmpas yn y sector rhentu preifat.
Rydym wedi gwneud diwygiadau mawr i'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru, rydym wedi deddfu i wella safonau hylendid drwy ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau ar eu drysau, a bydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn diwygio sut yr ydym yn cynllunio ac yn adeiladu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio yng Nghymru. Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o weithredu radical mewn iechyd cyhoeddus a'r sefydliad hwn oedd y cyntaf yn y DU i bleidleisio i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a'r cyntaf i wahardd ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol. Llywydd, rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym drwy weithio gyda'n gilydd yn y Cynulliad hwn i ddiogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru: gwelliannau yn y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus, cyfundrefn drwyddedu ar gyfer tatŵio a thyllu'r corff, gwaharddiad ar dyllu mewn rhan bersonol o'r corff ar gyfer pobl dan 18 oed, gwaharddiad ar welyau haul heb eu staffio ac isafswm pris uned ar alcohol.
Efallai mai Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 oedd y ddeddf wirioneddol arloesol ac mae'n achub bywydau. Mae'n enghraifft arall o sut y mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU, gan newid y system gydsynio ar gyfer rhoi organau i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w trawsblannu. Ond nid hwn yw'r unig dir newydd a dorrwyd gennym. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn rhoi amddiffyniad a chymorth i ddioddefwyr, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sbarduno cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Llywodraeth, i gynllunio a darparu mewn modd cynaliadwy i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Llywydd, lle bo angen, rydym wedi defnyddio ein pwerau deddfwriaethol i amddiffyn datganoli. Drwy Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, ac yn fwyaf diweddar Ddeddf y Gyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau, pan fyddo buddiannau Cymru dan fygythiad oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU, ein bod wedi defnyddio'r arfau sydd ar gael inni er mwyn sefyll dros Gymru. Yn ystod fy amser fel Prif Weinidog, nid yw ein setliad datganoli wedi aros yn ei unfan. Gan ddefnyddio ein rhaglen ddeddfwriaethol, rydym wedi cyflawni ein trethi Cymreig newydd—y cyntaf am bron 800 mlynedd—ac Awdurdod Cyllid Cymru.
Llywydd, mae yna lawer mwy o ddeddfau y gallwn eu crybwyll, ond mae maint yr hyn a gyflawnwyd yn yr amser hwn yn eglur. Efallai fod yr holl ddeddfau y soniais amdanynt wedi cael eu cynnig a'u cyflwyno gan y Llywodraeth, ond maen nhw wedi cael eu siapio gan randdeiliaid ac wedi cael eu gwella gan waith craffu'r Cynulliad hwn. Rydym wedi cydweithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod ein deddfwriaeth yr orau y gall fod a sicrhau ei bod yn gwella bywydau pobl Cymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny ar Filiau'r Llywodraeth sydd ar hyn o bryd gerbron y Cynulliad, a'r biliau yr wyf wedi eu cyhoeddi heddiw. Efallai mai hwn fydd fy natganiad deddfwriaethol olaf i, ond bydd rhaglen ddeddfwriaethol lawn ar gyfer cyflawni ymrwymiadau'r Llywodraeth hon, gan gynnwys Bil mewn cysylltiad â'r iaith Gymraeg, yn cael ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf. Ac felly, Lywydd, cymeradwyaf y rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rydym bron hanner ffordd drwy'r Cynulliad hwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael digon o amser i gyflwyno rhaglen ddeddfwriaethol i wella bywydau pobl Cymru. Ond, yn anffodus, mae prinder uchelgais yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi dangos yn syml nad yw hynny'n wir.
Rwyf am ddechrau trwy ofyn ychydig o gwestiynau ynghylch meysydd polisi a blaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru cyn gofyn rhai cwestiynau pellach ynghylch y materion ymarferol a'r prosesau o gyflwyno deddfwriaeth. Mae'r datganiad heddiw yn egluro na ddylid bychanu'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwyf innau'n cytuno. Ond efallai y gwnaiff y Prif Weinidog nodi yn y cyfnod cynnar iawn hwn beth fydd ei flaenoriaethau deddfwriaethol cychwynnol pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn sôn am gyflwyno deddfwriaeth iechyd y cyhoedd i wella bywydau pobl sy'n byw yng Nghymru, ac rwy'n nodi o'r datganiad fod deddfwriaeth ar y ffordd. Mae'r digwyddiadau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos methiant difrifol atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd ac mae'r Prif Weinidog yn iawn i ddweud bod angen inni weld gwasanaeth iechyd sy'n agored a thryloyw ac sy'n gallu dysgu oddi wrth ei gamgymeriadau.
Llywydd, un o'r biliau a gynigwyd ym maniffesto fy mhlaid i yn 2016 oedd Bil llywodraeth a chyllid y GIG, a fyddai'n cynyddu atebolrwydd drwy ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr iechyd a phrif weithredwyr y GIG ymddangos ddwywaith y flwyddyn gerbron pwyllgorau awdurdod lleol ac yn flynyddol gerbron y Cynulliad. Mae'r Llywodraeth yn ystyried deddfwriaeth i gyflwyno corff newydd i warchod cleifion, ond mae gennym ni gorff gwarchod cleifion eisoes ar ffurf cynghorau iechyd cymuned. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd y corff newydd hwn yn gweithredu ochr yn ochr â chynghorau iechyd cymuned.
Mae ein cynigion hefyd yn ceisio sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol, a fyddai yn ein barn ni yn rhoi llawer mwy o lais i gymunedau yn y penderfyniadau iechyd lleol sy'n effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael derbyniad gwresog mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, sy'n wynebu newidiadau diangen i'w gwasanaethau. Gan hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog gadarnhau a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried y cynnig deddfwriaethol hwn o ddifrif fel rhan o'r symudiad ehangach i wella atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru.
Wrth gwrs, nid atebolrwydd yn y GIG yw'r unig fater iechyd sy'n wynebu Cymru. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr sy'n dangos bod cynifer â 1,300 o bobl yn marw'n gynamserol bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd eu bod wedi anadlu aer llygredig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer yn argyfwng brys o ran iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu ac yn fwy o achos pryder na gordewdra ac alcohol. Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog gadarnhau yn ei ymateb y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno unrhyw gamau deddfwriaethol ar y mater arbennig hwn.
Llywydd, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol yn ddiamau o'r ymrwymiadau deddfwriaethol a rheoleiddiol niferus sydd gan Lywodraeth Cymru ym maes amaethyddiaeth a lles anifeiliaid. Felly, efallai y gallai roi rhywfaint o arweiniad eglur ar yr amseriad o ran pryd y byddwn ni'n debygol o weld Bil amaethyddiaeth Cymru yn cael ei gyflwyno, er enghraifft, o ystyried na chyfeirir ato yn y datganiad hwn heddiw. Mae datganiad y prynhawn yma yn cadarnhau y bydd y gwahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau yn cael ei weithredu yn awr o'r diwedd ac rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cryn nifer o wahanol lwybrau deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ei briff hi. Felly, o ystyried yr ymrwymiadau hynny, efallai y gallai ef hefyd daflu mwy o oleuni ynghylch pa Filiau yn ei phortffolio hi a gaiff eu cyflwyno mewn gwirionedd yn y pumed Cynulliad.
Mae lles anifeiliaid hefyd yn faes polisi lle mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chefnogaeth i ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, yn enwedig felly ynghylch y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad) ac ynghylch polisi Llywodraeth y DU ar wahardd gwerthiant cŵn bach trydydd parti. Efallai y gallai roi asesiad cyffredinol o sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda San Steffan ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru a sut y gellid cryfhau'r prosesau hynny fel bod gweithredu'r Biliau mor syml ag y bo modd.
Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd Bil arall eto yn cael ei gyflwyno i leihau nifer y cynghorau ledled Cymru. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i'r Prif Weinidog faddau inni am fod yn amheus i dderbyn haeriad Llywodraeth Cymru y bydd yn diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, gan yr ymddengys fel petai'r un syniad yn parhau i gael ei ailgylchu a'i ollwng bob rhyw flwyddyn neu ddwy. Rwy'n sylweddoli y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad gyda rhagor o wybodaeth am hyn yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ond efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni unwaith ac am byth a fydd yn derbyn bod yr un hen ddadleuon dros ganoli llywodraethau lleol yn groes i ewyllys y bobl wedi eu rhoi o'r neilltu nawr, ac a wnaiff ef ystyried defnyddio pwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru bellach i edrych ar agweddau eraill ar Lywodraeth Leol yma yng Nghymru.
Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn dadlau bod y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o achosion yn rhoi baich ariannol ar gyllideb Cymru. Felly mae'n hanfodol bod eglurder ar y canlyniadau a ddisgwylir gan y ddeddfwriaeth newydd ac a yw'r costau a nodwyd yn y gyllideb yn rhoi gwerth am arian mewn gwirionedd. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym pa fecanweithiau sydd yn eu lle i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau yn sgil deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gywirdeb a dibynadwyedd y costau a amcangyfrifwyd sydd wedi eu rhoi gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth. Efallai y gallai'r Prif Weinidog roi diweddariad i ni hefyd ar sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y pwyllgor hwnnw.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn gyfeirio'n fyr at fy Mil awtistiaeth arfaethedig, a gaiff ei gyflwyno brynhawn yfory. Yn y gorffennol, mae'r Prif Weinidog wedi nodi'n glir nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd ef yn bresennol yn ystod fy natganiad i yfory i glywed am y manteision gwirioneddol y bydd gweithredu deddfwriaeth sylfaenol yn eu rhoi i bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn eto iddo ailystyried ei safbwynt ar y Bil hwn a bod, o leiaf, yn feddwl agored i'r posibilrwydd o weithredu deddfwriaeth ar awtistiaeth.
Wrth gloi, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at graffu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. Byddwn ni, fel gwrthblaid, yn gweithio mewn ffordd agored ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pan fydd, yn ein barn ni, yn gwneud yr hyn sy'n iawn. Hyderaf y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau yn y ffordd orau bosibl i lunio deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac a fydd yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru.
Roedd nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, y pum Mesur yr ydym wedi eu cyflwyno—maen nhw'n caniatáu rhywfaint o slac inni er mwyn gallu rhyddhau adnoddau i ymdrin ag unrhyw Filiau, neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, y bydd eu hangen o ganlyniad i Brexit. O ran beth fydd y blaenoriaethau, ni wyddom, oherwydd nid oes gennym unrhyw syniad beth yw dymuniad Llywodraeth y DU. Roeddwn ym Mrwsel ddoe, a'r rhwystredigaeth a deimlir yno yw hyn yn gwbl syml: beth mewn gwirionedd yw dymuniad y DU? Does neb yn gwybod. Roeddem yn gwybod ar y penwythnos, ac yna newidiodd popeth ddoe, ac erbyn hyn nid oes syniad gennym eto beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ymbalfalu yn y tywyllwch, o ran beth fydd canlyniad terfynol Brexit. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod a fydd Llywodraeth gan y DU erbyn diwedd yr wythnos, felly mae angen sicrwydd yno.
O ran iechyd, mae gennym, wrth gwrs, y Bil ansawdd a llywodraethu ym maes iechyd a gofal, yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Mae tryloywder a dyletswydd o onestrwydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn, ac maen nhw'n arbennig o bwysig fel bod gan bobl obaith, lle bo camgymeriadau yn digwydd, y gellir eu cywiro wedyn. O ran comisiynwyr iechyd, credaf mai'r anhawster o gael unigolyn etholedig mewn ardal neilltuol yw y bydd yn canolbwyntio yn unig ar y gwasanaethau a ddarperir i'w etholwyr ei hunan. Os oes Comisiynydd Iechyd wedi ei ethol ar gyfer, dyweder, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, pa sicrwydd sydd y gwnaiff y Comisiynydd Iechyd gymryd unrhyw ddiddordeb o gwbl yn yr hyn sy'n digwydd yn Hywel Dda? Dyna'r broblem. Felly, mae perygl mawr y byddai'r Comisiynydd Iechyd yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal ei hun yn unig gan y byddai hynny'n effeithio ar ei etholwyr ei hun. O ganlyniad, nid ydym yn argyhoeddedig y byddai comisiynwyr iechyd yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol.
O ran ansawdd aer, mae e'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio bod ansawdd aer yn bwysig. Mae gennym gynlluniau sydd ar waith. Nid ydym yn gweld bod angen ymyriad deddfwriaethol ar hyn o bryd. Mae gennym ni, wrth gwrs, fetro de Cymru. Mae'n drueni mawr na wnaeth ei blaid ef gefnogi trydaneiddio'r brif reilffordd o Gaerdydd i Abertawe, ac yn drueni mawr iawn na wnaeth ei blaid ef gefnogi—wel, nid yw hynny'n deg, gan fod yna rai ar ei feinciau ef oedd yn cefnogi'r morlyn llanw, ond ni wnaeth ei blaid ef yn Llundain gefnogi'r prosiect a fyddai wedi creu cynifer o swyddi ac a fyddai wedi gwella ansawdd yr aer yn rhinwedd y ffaith mai ynni adnewyddadwy fyddai wedi cael ei gynhyrchu. Nid yw hynny wedi helpu dim, o ran gwneud yn siŵr bod ansawdd yr aer yn gwella.
Roedd yn holi ynghylch Bil amaethyddiaeth Cymru. Nid ydym yn gwybod eto beth sydd ym Mil amaethyddiaeth y DU—nid ydym wedi ei weld, ac rwy'n tybio nad oes neb wedi ei weld yn Whitehall. Mae'n debyg y caiff ei gyhoeddi ym mis Medi. Hyd nes y byddwn yn ei weld, mae'n anodd inni wybod yn union pa ymyriadau deddfwriaethol y bydd angen i ni eu gwneud. Yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd ar ôl 2021. Beth fydd yn digwydd i gymorthdaliadau amaethyddol? Nid oes gennym unrhyw sicrwydd y daw'r un geiniog i Gymru. Daw rhyw £260 miliwn o arian i ffermwyr bob blwyddyn. Nid oes gwarant o geiniog y tu hwnt i'r dyddiad sydd eisoes wedi ei ddatgan yn gyhoeddus. Ni allwn ddod o hyd i'r arian hwnnw. Yr hyn a ddywedwyd wrth Lywodraeth y DU yw, 'Rhowch swm cyfatebol o arian o'r neilltu a'i ddosbarthu yn yr un ffordd yn union ag yn awr, hyd nes y ceir cytundeb rhwng y Llywodraethau i newid y system pe bai angen hynny.' Hyd yma, ni chafwyd ateb.
O ran lles anifeiliaid, unwaith eto, byddwn yn gweithio gyda Senedd y DU, yn ôl yr angen i wneud hynny. Bu achlysuron pan gawsom ein cario ar gefn deddfwriaeth y DU, a phan nad yw'r ddeddfwriaeth honno'n ddadleuol, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni wneud felly yn y dyfodol—lle nad oes prawf o unrhyw angen am ddeddfwriaeth ar wahân i Gymru a phan fyddwn yn cytuno â'r hyn sy'n digwydd dros y ffin. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei wneud yn eithaf cyffredin mewn Llywodraeth.
Mae e'n sôn am y Bil Llywodraeth Leol. Nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar strwythur Llywodraeth Leol. Ond mae'n rhaid imi ddweud, a yw ef yn dweud mewn gwirionedd bod Cyngor Sir Penfro wedi cyflawni gwasanaeth da a chyson i'w ddinasyddion? Wir? Ar ôl yr hyn a dalwyd i'r prif weithredwr, ar ôl y car a gafodd, ar ôl y methiannau mewn addysg, mae'n eistedd yno ac yn amddiffyn hynny. Bobl bach. Ni all wneud hynny cyn belled ag y mae ei etholwyr yn y cwestiwn. Nawr, os nad yw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig, bydded iddo gyflwyno ei syniadau ei hun. Nid wyf wedi clywed dim o feinciau'r Ceidwadwyr am ddiwygio llywodraeth leol. Nid wyf wedi clywed dim o feinciau'r Ceidwadwyr am sut y gallem ni wella llywodraeth leol—dim byd o gwbl. Maen nhw o fewn eu hawliau i wrthwynebu'r hyn a gyflwynwyd gennym ni, ond er mwyn popeth, cyflwynwch rai syniadau a gadewch i ni weld sut y byddai'r syniadau hynny'n gweithio.
Rwyf wedi fy syfrdanu oherwydd bod arweinydd dros dro yr wrthblaid o'r farn bod pobl, yn Sir Benfro, ac mewn nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru, rywsut wedi cael gwasanaeth da yn gyson dros lawer o flynyddoedd. Do, efallai fod pethau wedi gwella, ond er mwyn popeth, roedd yn sobr o wael ar un adeg. Nid hwn yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi bod yn y sefyllfa honno ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y bydd eraill yn yr un sefyllfa yn y dyfodol. Dyna pam mae mor bwysig mynd i'r afael â hyn nawr, ac nid bod yn wrthbleidiol heb gyflwyno eich syniadau eich hun.
Mae e'n gwneud y pwynt ynghylch gwerth am arian. Mae hwnnw'n bwynt teg o ran system o Asesiadau Effaith Rheoleiddiol sydd gennym. Rydym bob amser yn ceisio sicrhau y ceir gwerth am arian. Mae'n gwestiwn agored bob amser a yw'r ddeddfwriaeth yn dda ai peidio; mae hynny'n dibynnu, mae'n debyg, ar eich safbwynt gwleidyddol, a lle'r Cynulliad yw craffu ar honno.
O ran ei Fil awtistiaeth, bydd yn cael ymateb llawn yfory gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs.
Hwn yw wythfed datganiad y Prif Weinidog, a'r olaf, ar raglen ddeddfwriaethol y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at gael dadl lawn ar y cwestiwn hwn yn yr hydref. Felly, beth sydd gennym ni yn yr wythfed datganiad hwn? Wel, mae uno'r cynghorau yn ôl ar yr agenda bum mlynedd wedi i Gomisiwn Williams ei godi gyntaf. Unwaith eto, mae mater cosbedigaeth resymol, sydd gyda ni bob amser yn ôl pob golwg, yn codi ei ben eto, ac rwy'n edrych ymlaen, o'r diwedd, at weld rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth; ac estyniad cyfyngedig o etholfraint pleidlais i rai 16 ac 17 oed. Onid ailbobiad yw hwn fwy neu lai o'r rhaglen ddeddfwriaethol a welsom ni o'r blaen? Pan fo ein democratiaeth, ein cenedl a gwleidyddiaeth drwyddi draw mewn cyflwr o newid, mae angen uchelgais, gwerthoedd, gweledigaeth ac arweinyddiaeth, ac nid wyf yn gweld y pethau hynny'n cael eu cynrychioli yn natganiad heddiw.
Gallwn gytuno bod San Steffan yn siomi Cymru. Ond bwriad y Senedd hon, cartref newydd democratiaeth Cymru, oedd rhoi'r cyfle inni wneud pethau mewn ffordd arall. Pan ddiddymwyd y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw, onid ydych chi o'r farn y dylid bod wedi cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cwmni ynni newydd gwladol Cymreig? Mae'n rhaid inni sicrhau bod y dyfodol yn ein dwylo ni, ac nid caniatáu i San Steffan glymu ein dwylo tu ôl i'n cefnau.
Prif Weinidog, mae cenedlaethau'r dyfodol yn wynebu heriau mawr, ac er bod eich Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sy'n cael ei chanmol yn fawr, yn edrych yn dda ar bapur o bosibl, mae'r pwysau'n parhau yn y byd go iawn. Mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu. Rydym yn gadael amgylchedd sy'n gynyddol ddigroeso. Mae llygredd aer yn lladd degau o filoedd bob blwyddyn, a gwastraff plastig yn hagru ein harfordir a chefn gwlad, ond ni cheir Deddf aer glân na chynllun dychwelyd poteli yn unman yn y datganiad hwn. Ble maen nhw? Ble mae'r ddeddfwriaeth i baratoi ein cenedl ar gyfer pŵer i gerbydau hydrogen a thrydan? Yn hytrach na gweithredu, rydych wedi dewis ymosod ar Aelodau ar y meinciau hyn am feiddio gofyn y cwestiynau hyn.
Nawr, Prif Weinidog, rwy'n parchu eich dyhead i greu Llywodraeth ffeministaidd. Rydych wedi dweud eich bod yn awyddus i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw. Beth sydd ddim i'w hoffi am hynny? Wel, gallaf ddweud wrthych ein bod ni beth cythraul o ffordd o'r fan honno. Felly, pa ddeddfwriaeth, pa gyfreithiau, pa newidiadau yr ydych yn eu cynnig i wneud hyn yn realiti? Unwaith eto, mae hwn swnio'n fwy fel datganiad bachog nag unrhyw beth o sylwedd, yn fy nhyb i. Mae eich cynllun gofal plant di-uchelgais, nad yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, wedi cael ei fychanu gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am ei reoli, a bydd yn cael ei orfodi drwodd ac rydych yn dal i wrthod galw am ddatganoli gweinyddu lles—un o argymhellion allweddol eich adolygiad cyflym eich hun ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Nid ydym yn agos o gwbl at iwtopia ffeministaidd, hyd yn oed o ran uchelgais.
Rwy'n gobeithio bod hepgor y manylion ar Fil iaith Gymraeg yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd egwyl ac yn meddwl eto. Gwyddoch fod yr angen yno. O dan eich cynigion presennol, onid yw hi'n wir y byddai cwmnïau preifat fel Trago Mills yn cael eu rhyddhau o'u cyfrifoldeb i barchu a diogelu ein hiaith a'n diwylliant? A ninnau wedi gweld cynnydd enfawr mewn rhagfarn wrth-Gymreig, does bosib fod hynny'n dderbyniol.
Gohiriwyd llawer o benderfyniadau allweddol: maint ein Senedd a'r rhai hynny sy'n gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth yn un peth, a bu diffyg dewrder dirfawr ynglŷn â'r cwestiwn hwn ac mae hynny wedi bod yn siomedig. Rwy'n gwybod y daw newidiadau yn anochel yn sgil cael Prif Weinidog newydd, ond nid oes amser i aros am brosesau mewnol y Blaid Lafur. Mae Brexit ar y ffordd ac mae'r byd yn dal i droi. Ni chynlluniwyd un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer addysg, trafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd, tai, gofal cymdeithasol, ffermio, pysgodfeydd, ac eto mae gennym heriau ym mhob un o'r meysydd hynny, onid oes?
Prif Weinidog, mae hon yn rhaglen ddeddfwriaethol o hen syniadau a dim uchelgais. Nid yw'n mynd i'r afael â llawer o'r problemau sy'n wynebu ein pobl. Mae angen gwell na hyn ar Gymru, ac mae modd gwneud llawer mwy.
Yn gyntaf, dim ond dweud, unwaith eto, yr awgrymwyd bod uno cynghorau ger ein bron yn anochel; nid felly. Ceir Bil llywodraeth leol; ceir gweithgor wedi ei sefydlu i edrych ar welliannau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng llywodraeth leol. Mae'n iawn ar yr etholfraint pleidleisio—rydym wedi dwyn hyn ymlaen oherwydd nid ydyw wedi digwydd eto, felly mae'n bwysig yn achos etholiadau llywodraeth leol bod hynny'n rhan o'r broses honno.
Mae'n rhaid imi ddweud, nid yw pasio cyfreithiau ar bethau yn golygu y byddan nhw'n digwydd. Mae angen adnoddau er mwyn i bethau ddigwydd. Mae hi'n dweud bod angen deddfwriaeth i fod â chwmni ynni mewn perchenogaeth gyhoeddus; nid yw hynny'n golygu unrhyw beth oni fydd arian wrth gefn. Os oes arian y tu cefn, o ble y daw hwnnw? Ac o ran o ble y daw, a yw hynny'n golygu bod yr arian ar y llyfrau neu oddi ar y llyfrau? Nid oes un o'r pethau hyn wedi cael eu hesbonio mewn gwirionedd o ran sut y byddai hynny'n darparu ar gyfer pobl Cymru. Rwyf o'r un farn â hi pan mae'n condemnio'r penderfyniad ar forlyn llanw Bae Abertawe oherwydd ein penderfyniad ninnau oedd hwnnw hefyd, ond ni allwn esgusodi San Steffan gan honni bod cynllun i'w gael a fydd yn sicrhau £500 miliwn o fuddsoddiad yn y cyfamser, oherwydd ni fyddai'n gwneud hynny.
O ran cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n dychwelyd at y metro—nid yn unig y metro yn y De, ond y cynlluniau ledled Cymru gyfan. Rydym yn gweld system trafnidiaeth gyhoeddus lawer, llawer gwell yn cael ei datblygu ledled Cymru o ran rheilffyrdd trwm, a rheilffyrdd ysgafn a bysiau hefyd ymhen amser. Bydd y dewisiadau hynny, wrth iddyn nhw ddod yn fwy deniadol i bobl, yn golygu y bydd llai a llai o bobl yn defnyddio ceir, bydd llai o bobl yn teimlo na allant feicio neu gerdded i'r gwaith a dyna'r ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn gweld gwell ansawdd aer yn y dyfodol. Nid yw cyfraith yn mynd i helpu hynny; newid ymddygiad pobl fydd yn helpu hynny a chynnig dewisiadau gwell na'r hyn sydd ganddyn nhw nawr.
Mae hi'n iawn i ddweud ein bod ni ymhell o fod y wlad fwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw ynddi. Rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae'n iawn i ddweud bod gennym ni'r Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig sydd yn gyfran falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud, ond ceir llawer eto i'w wneud, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. A dyna pam rydym wedi cael cam un yr adolygiad a pham bydd cam dau yn digwydd ar ôl fy amser i yn y swydd hon, oherwydd bod angen gwneud mwy. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn un maes o'r fath, ond ceir mwy na hynny. Yn fy marn i, mae pethau wedi mynd tuag yn ôl yn y tymor byr o ran y ffordd y mae menywod wedi cael eu trin. Rydym i gyd wedi gweld beth sydd wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym i gyd wedi gweld y gwaith sydd yn rhaid ei wneud yno. Felly, cytunaf yn llwyr â hi o ran y ffaith bod angen inni wneud mwy i gyflawni'r hyn y byddai hi a minnau yn dymuno ei weld.
O ran y cynllun gofal plant, mae hi'n dweud na fyddai'n cyflawni, ond nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth o ran pam na fyddai'n cyflawni. Mae hwn yn gynllun y pleidleisiodd pobl Cymru arno. Roeddem yn glir ynghylch yr hyn y byddem yn ei wneud gyda'r cynllun gofal plant a bydd yn darparu ar gyfer y bobl a bleidleisiodd o'i blaid a'r bobl sydd angen gofal plant i rai tair a phedair oed. Wrth gwrs y byddai'n braf gallu ymestyn hyn, ond nid yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny. Felly, dyma'r man pellaf y gallwn ei gyrraedd gyda'r adnoddau sydd ar gael inni.
Roedd hi'n sôn am Fil yr iaith Gymraeg. Y rheswm pam rydym yn ystyried Bil newydd yw oherwydd nad yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a ddygwyd ymlaen gan Aelod o'i phlaid hi ei hun, yn ddigonol nac yn gweithio er mwyn pobl Cymru. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwella'r ddeddfwriaeth—[torri ar draws.] Fe wnaethom ni bleidleisio o'i blaid, ond pleidleisiau Plaid Cymru oedden nhw hefyd, ac felly dyna pam mae angen inni gael system sy'n ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith. Wrth gwrs, mae gennym ein targed ar gyfer 2050. Ond ceir rhai agweddau ar y Mesur y mae angen eu cryfhau, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna'r hyn y bwriadwn ei wneud yn Llywodraeth.
O ran y ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu fel sefydliad, nid fy lle i, â phob parch, yw barnu hynny—mae hynny'n fater i'r Llywydd ac i bob un ohonom ni sy'n Aelodau o'r Siambr hon i weithio ar sut fath o strwythur ddylai fod gennym ar gyfer y Siambr hon. Ceir anghytundeb mawr, nid yn gymaint o ran y niferoedd, ond o ran y system etholiadol a bydd angen datrys hynny yn ystod y misoedd nesaf. Ceir safbwyntiau gwahanol iawn yn y Siambr hon o ran, yn gyntaf, a ddylid cael 80 o Aelodau, ac yn ail, os ceir hynny, sut y cânt eu hethol, ac ni ellir datrys hynny'n gyflym. Bydd angen cryn amser i ddatrys hynny.
Wedyn, o ran y materion eraill a godwyd ganddi, fe sylwais nad oedd hi, yn wahanol, mae'n rhaid dweud, i arweinydd y Ceidwadwyr, wedi rhoi unrhyw syniadau deddfwriaethol gerbron. Nawr, os oes gan Blaid Cymru syniadau, gadewch inni eu clywed a gadewch inni ddeall sut raglen ddeddfwriaethol fyddai ganddyn nhw. Gadewch inni weld pa syniadau sydd ganddyn nhw ar gyfer Biliau, ac wedyn wrth gwrs gallwn weld a fyddai'r mesurau hynny yn ymarferol ac, yn wir, yn deilwng o'u cefnogi cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn. Rydym ni wedi cyflwyno ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef, wrth gwrs, yn ystod y flwyddyn nesaf.
Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog. Ac er fy mod yn croesawu rhai o'r mesurau a amlinellwyd gennych yn eich rhaglen ddeddfwriaethol, nid wyf i'n teimlo ei bod mor uchelgeisiol ag y dylai fod.
Rydym bron hanner y ffordd drwy'r Cynulliad hwn ac mae gennym wyth Deddf ar y llyfrau statud ac, ar wahân i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (Cymru) 2018, mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar drethiant. Mae'r cyhoedd yng Nghymru, rwy'n teimlo, yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i weld gwelliant yn eu bywydau, i wneud eu bywydau yn well, ac nid wyf yn gweld digon o dystiolaeth i'r gwelliant hwn.
Rwy'n croesawu'r cynlluniau am lais annibynnol i gleifion Cymru, cyn belled â bod y llais yn un gwir annibynnol, llais gwirioneddol y cleifion. Rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y Bil hwnnw yn fanwl, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y bydd yn gwahaniaethu oddi wrth y cynghorau iechyd cymuned. Prif Weinidog, pa swyddogaeth fydd gan y corff newydd hwn i fynd i'r afael ag esgeulustod clinigol, a sicrhau y bydd byrddau iechyd lleol yn bodloni eu rhwymedigaethau a sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol?
Mae'r cynlluniau i sefydlu dyletswyddau o ansawdd a didwylledd mewn iechyd a gofal cymdeithasol i'w croesawu'n fawr. Bydd y rhain yn sicrhau bod pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cadw at yr un safonau proffesiynol â'n meddygon a'n nyrsys. Prif Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r trafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Colegau Brenhinol a'r cyrff proffesiynol ynglŷn â'r modd y mae'r dyletswyddau newydd yn cyd-fynd â'u codau amrywiol?
Rwy'n croesawu'r cynlluniau i ddiwygio Llywodraeth Leol, oherwydd fy mod yn teimlo ei bod yn chwerthinllyd bod gennym 22 o wahanol awdurdodau lleol ar gyfer poblogaeth gymharol fechan. Er hynny, rydym ni wedi ein bod yma o'r blaen ac ni ddigwyddodd unrhyw beth. Felly, Prif Weinidog, a oes gan eich Llywodraeth chi yr ewyllys mewn gwirionedd i wireddu hynny'r tro hwn?
Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto ynglŷn â gostwng oedran pleidleisio, ond rwy'n gweld ei bod yn gall i fwrw ymlaen â hynny ar yr un pryd â diwygio llywodraeth leol. Prif Weinidog, a fydd y Bil yn ceisio gwneud newidiadau eraill hefyd i'r etholfraint? A fydd preswylwyr hirdymor yn gymwys i bleidleisio?
Rwy'n croesawu'r bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau; bu hen ddisgwyl amdani. Eto i gyd, beth ydym ni'n bwriadu ei wneud ynglŷn â ffermydd cŵn bach neu'r rhai sy'n cam-drin anifeiliaid anwes? Prif Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i ehangu'r ddeddfwriaeth hon i ymdrin â materion lles anifeiliaid yn ehangach?
O ran y cynlluniau i gyflwyno gwaharddiad ar daro plant, a oes gennym ni hawl i ddweud wrth rieni sut i ddisgyblu eu plant? Prif Weinidog, gan nad yw canlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynnig deddfwriaethol wedi eu cyhoeddi eto, a wnewch chi roi gwybod inni beth wnaeth eich argyhoeddi chi o'r angen i gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn awr?
Mae'r Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn ymddangos yn gefnogol iawn, ond mae gennym ffordd hir eto i fynd er mwyn darparu digon o leoedd lloches yn y maes hwn.
Mae llygredd yr aer, fel y soniodd Paul Davies, yn achos pryder mawr. Rwy'n holi, pan fyddwn yn gofyn i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd, sut y gallwn ni gynnwys y mater hwn yn yr hafaliad i wella ansawdd aer ar gyfer pawb.
Prif Weinidog, roedd eich rhaglen lywodraethu yn addo camau i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl. Ymhle mae'r ddeddfwriaeth, os gwelwch yn dda, i ategu hyn? Ac wrth inni barhau i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u lles, mae cynllunio seilwaith yn bwysig, ac rwy'n falch o weld bod hyn wedi cael ei grybwyll. Rwy'n edrych ymlaen at y newyddion diweddaraf yn y maes hwn a'r cynnydd, a byddaf yn gwylio'r datblygiad hwn â diddordeb mawr.
Gwnaethoch addewid i ddiwygio Mesur yr iaith Gymraeg fel y gall busnesau fuddsoddi i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, ac rydych wedi addo edrych ar roi terfyn ar fancio tir, gwella lles anifeiliaid, ymladd yn erbyn torcyfraith seiber, mynd i'r afael â hysbysebu bwyd cyflym yn ymyl ysgolion, a gwneud Cymru yn genedl sy'n cydymdeimlo â dementia. Roeddech yn addo llawer o bethau sydd heb eu cyflawni hyd yn hyn. Felly, pryd allwn ni ddisgwyl rhaglen ddeddfwriaethol fwy uchelgeisiol ar gyfer Cymru? Diolch.
Rwy'n credu mai'r peth cyntaf sy'n bwysig i'w gofio yw na ellir datrys popeth gyda deddfwriaeth sylfaenol. Mae materion a nodwyd ganddi yna sy'n rhai pwysig ond nid oes angen Biliau mewn gwirionedd er mwyn iddyn nhw gael eu dwyn ymlaen. Mae angen adnoddau ar rai ohonyn nhw; byddai angen deddfwriaeth eilaidd ar rai ohonyn nhw. Nid yw'n wir bod angen Bil o reidrwydd. O ran ansawdd a llywodraethu yn y Bil iechyd a gofal, wel, a gaf i atgoffa'r Aelodau unwaith eto y bydd y ddyletswydd statudol o ansawdd yn adeiladu ar y gofynion presennol sydd ar Weinidogion Cymru a'r GIG a bydd yn sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol am wasanaethau gofal iechyd yn arwain at welliant parhaus a chanlyniadau gwell ac yna, wrth gwrs, bydd y ddyletswydd o onestrwydd yn arwain at fod yn agored, at ddysgu a gwelliant ledled y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol.
Holodd am yr ymgynghoriad: gallaf ddweud y cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Mehefin a mis Medi y llynedd. Mae adborth o'r ymgynghoriad hwnnw wedi canolbwyntio yn helaeth ar gynigion i roi llais i ddinasyddion ac, wrth gwrs, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar 21 Chwefror yn amlinellu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a sut y byddwn yn dwyn pethau yn eu blaenau.
O ran y Bil llywodraeth leol, roedd yr hyn a ddywedodd hi am leihau nifer yr awdurdodau lleol yn ddiddorol. Mater iddi hi, wrth gwrs, yw hynny, ond, o ran beth fydd y Bil llywodraeth leol yn ei gynnwys, bydd o leiaf yn cynnwys darpariaethau ar gyfer uniad gwirfoddol rhwng y prif awdurdodau lleol. Bydd yn cynnwys, fel y soniwyd eisoes, faterion megis gostyngiad yn oedran pleidleisio mewn etholiadau awdurdodau lleol a chymhwysedd—felly, er enghraifft, o ystyried preswyliaeth—pŵer cyffredinol o gymhwysedd ar gyfer y prif awdurdodau lleol a'r cynghorau cymuned cymwys; cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol; bydd yn edrych ar ddyletswyddau ac ymddygiad yr Aelodau; system newydd ar gyfer gwella llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygiad gan gymheiriaid; pŵer i gyhoeddi canllawiau ar faterion gweithlu; cryfhau'r modd y rheolir osgoi ardrethi annomestig; ymchwiliadau ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus i gwynion cod ymddygiad; a mwy o hyblygrwydd i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno neu ddaduno. Dyna esgyrn sychion y Bil Llywodraeth Leol.
O ran lles anifeiliaid, ceir cod ymarfer—neu godau ymarfer—sy'n ymdrin â mater ffermio cŵn bach, i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw. Ceir gofynion cyfreithiol ar y bridwyr hefyd.
O ran cosb resymol, wel, y gwir amdani yw ein bod ni yn rheoli'r modd y gall rhieni geryddu eu plant, fel arall byddem yn caniatáu iddyn nhw wneud yn union fel y dymunent, ac ni fu hynny erioed—. Nid felly y bu ers llawer iawn o flynyddoedd. Nid amcan y Bil yw erlyn pobl yn ddianghenraid, ond ystyried arallgyfeirio pe ceid achos cychwynnol ac ystyried erlyniad pe ceid achosion dilynol. Felly, nid y bwriad yn sicr yw gweld llu o erlyniadau pan geir achos cyntaf. Bydd angen i hynny ddigwydd drwy weithio gyda'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o ran pwy sy'n cael eu cyhuddo, o ran gwedd y canllawiau erlyn a gyhoeddir gan Wasanaeth Erlyn y Goron i'r cyhoedd, ac mae'r gwaith hwnnw ar y gweill. Rwyf i o'r farn ei fod yn gam arall y bydd pobl yn ei ystyried yn bwysig o ran cael y cydbwysedd cywir rhwng cosbedigaeth ac amddiffyn plant. Roeddwn i yn y Siambr hon, fel llawer un arall, cyn cyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu a chafwyd llawer a oedd yn gwrthwynebu hynny, a bellach mae hynny wedi ei dderbyn. Nid oes neb—. Wel, ychydig iawn o bobl sydd yn dadlau gyda'r gwaharddiad ar ysmygu a'r ffaith ei fod ar waith.
O ran gwasanaethau iechyd meddwl, rydym yn parhau i—. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad, wrth gwrs, i wasanaethau iechyd meddwl gyda'r arian ychwanegol a roddwyd ar gyfer hynny. Fel y dywedais, gan ddod yn ôl at y pwyntiau a wnaethoch chi ar seilwaith, wel, unwaith eto, nid oes angen deddfwriaeth ar hynny; mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n edrych arno o ran y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, er enghraifft, sy'n rhoi inni'r cynllun ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.
A chyn belled ag y bo Mesur yr iaith Gymraeg yn y cwestiwn, wrth gwrs, ein bwriad yw cryfhau'r diogelwch deddfwriaethol a'r hawliau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg.
Rwy'n croesawu'r rhaglen ar gyfer llywodraethu, ac rwy'n croesawu rhai o'r eitemau yn arbennig sydd yn rhaglen lywodraethu yr wyf yn credu eu bod yn uchelgeisiol, ac rwy'n arbennig o falch y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i roi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, mae hwn yn rhywbeth yr ydwyf i wedi ymgyrchu amdano ers blynyddoedd lawer. Siaradais amdano yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn y flwyddyn 2000. Felly, caf fy atgoffa dro ar ôl tro mai gêm hirfaith yw gwleidyddiaeth. Beth bynnag am hynny, rwy'n falch iawn ei fod o'r diwedd wedi cyrraedd hyd yma, ac, os caiff ei basio, bydd Cymru'n ymuno â rhestr gynyddol o wledydd sydd yn dileu'r amddiffyniad hwn. Ac ni fu unrhyw dystiolaeth o'r gwledydd hynny o unrhyw gynnydd mewn troseddoli rhieni. Mae'n ymddangos yn gam normal iawn ac ymarferol i'w gymryd a chredaf, wedi gwneud hyn a chael, yn ddiamau, ddadl hwyliog, byddwn i gyd yn rhyfeddu at yr holl stŵr a fu wedi iddo fod.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r gwaith ymchwil diweddaraf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n dangos newid yn agwedd y cyhoedd yng Nghymru tuag at y ffordd mae rhieni yn cosbi eu plant. Mae'r mwyafrif bellach yn cefnogi gweithredu deddfwriaethol. Mae nifer y rhieni sy'n taro eu plant yn gostwng yn gyflym mewn gwirionedd, felly rwy'n credu bod barn y cyhoedd yn newid, a chredaf fod y ddadl yr ydym wedi ei chael dros flynyddoedd lawer yma yn y Siambr hon a'r tu allan wedi helpu i gael y newid hwn o ran barn. Felly, rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n cael y ddeddfwriaeth hon yn uchelgeisiol, ac rwy'n credu ei bod yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn rhoi amddiffyn plant mewn lle blaenllaw, felly mae hon yn agwedd ar ddeddfwriaeth yr wyf yn ei gwir groesawu yn gynnes iawn.
Yr un arall yw'r ffaith y bydd gan rai 16 a 17 mlwydd oed bleidlais mewn llywodraeth leol, pe byddai hynny'n cael ei basio yn y Siambr hon, sydd, unwaith eto, yn ymgyrch y mae llawer ohonom wedi ymwneud â hi ers blynyddoedd lawer. Felly, mae'n wych i weld hynny'n dwyn ffrwyth. Mae'n ddrwg gennyf i mai dim ond gyda llywodraeth leol y bydd hynny'n digwydd ar hyn o bryd ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau hynny ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, ac yn y pen draw yn San Steffan, ond bydd ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed, gan barchu eu barn a'u cael i fod â rhan yn eu dyfodol, yn fy marn i yn gam cadarnhaol iawn ac rwy'n credu bod hyn yn unol â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon i Gymru dan arweiniad y Blaid Lafur wedi ei wneud bob amser o ran rhoi plant yn gyntaf yn ein holl bolisïau. Felly, dyna'r ddau fater yr hoffwn i roi croeso arbennig iddyn nhw ac rwyf wir yn credu y bydd modd, gobeithio, i ni gyflawni hynny trwy'r ddau ddarn penodol hyn o gyfraith.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd hi'n cofio'r trafodaethau a gafodd hi a minnau a Christine Chapman yn fy ystafell i fyny'r grisiau. Roedden nhw'n drafodaethau oedd yn arwain at gytundeb bob amser, a bydd hi'n gweld yr hyn y byddwn yn ei gyflawni o ran bwrw hyn yn ei flaen nawr. Wrth gwrs, mae'n ymwneud hefyd â rhoi cymorth i rieni drwy becyn o fesurau, gan gynnwys cyngor ar dechnegau rhianta. Fel y dywedodd hi—ac eraill—nid y bwriad yw bod â golwg ar wneud pobl yn droseddwyr fel y bwriad cyntaf, ond i roi'r cymorth hwnnw a gwneud yn siŵr y bydd pobl yn deall y neges. Gwyddom o'r arfer mewn gwledydd eraill mai dyna'r ffordd y cyflawnwyd hyn.
Wrth gwrs, mae'r hyn a ddywed am rai 16 ac 17 oed yn iawn. Os oedd hi'n iawn i rai 16 ac 17 oed allu pleidleisio yn y refferendwm yn yr Alban yn 2014, nid oes unrhyw reswm pam na ddylen nhw allu pleidleisio ledled y DU mewn etholiadau eraill hefyd. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol pam na ddylai un ddilyn y llall. A dyna pam, wrth gwrs, cyn belled ag y mae Llywodraeth Leol dan sylw, y byddwn yn cyflwyno pleidleisiau i rai 16 a 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol, ac, wrth gwrs, ymhen amser, bydd Bil gerbron y Cynulliad yn edrych ar etholfraint y Cynulliad ei hun. Bydd hi'n gwybod fy mod i, yn bersonol, wedi bod o blaid y bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, ond mae ei hanes hi yn y maes hwnnw yn haeddu'r clod mwyaf.
Efallai y gallaf innau ddechrau gyda'r gwaharddiad ar smacio hefyd, os caf i. Yn amlwg, rydym yn cydnabod eich amcan polisi ar hyn. Ond mae problem o hyd gan fod yr amddiffyniad presennol wedi'i lunio o gyfraith trosedd ac nid yw dileu'r amddiffyniad yn diddymu'r drosedd wirioneddol sy'n aros o faes cyfraith trosedd chwaith. Felly, pa un a oes erlyniad neu beidio—ac rwy'n gwybod nad hyn yw eich bwriad—ond bydd yn gadael y rhieni mewn perygl o fod yn droseddwyr yn dechnegol. Felly, sut ydych yn disgwyl gweithio gyda Llywodraeth y DU i oresgyn y gwirionedd gweddol anghyfleus hwn, o'ch safbwynt chi, fod curo heb wneud niwed yn parhau i fod yn drosedd?
Rydym yn cytuno bod y CCUHP yn bwysig, felly byddwn yn awyddus i wybod lle mae eich Bil i sicrhau bod y CCUHP, hawliau plant a'r parch dyledus yn cael eu cadw ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus. Mae'n iawn ein bod ni yma yn gwneud polisïau a deddfwriaeth wedi rhoi'r ystyriaeth ddyledus i hawliau plant. Ond os nad yw gweithredu'r polisïau hynny na'r dehongliad ohonyn nhw yn destun i'r ystyriaeth ddyledus honno, yna nid oes unrhyw warant y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn darparu yn y ffordd yr ydym yn ei bwriadu. Rwy'n gweld y cwestiwn hwn yn berthnasol i hawliau pobl hŷn hefyd. Roeddech yn sôn—wel, rwy'n credu mai Paul Davies, a grybwyllodd, mewn gwirionedd—nad oes gennych chi fonopoli ar y syniadau gwych i gyd. Wel, pam na wnewch chi gynnwys y ddau syniad hyn, y ddau syniad gwych hyn gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn eich rhaglen ddeddfwriaethol i'r dyfodol tra bod y cyfle gennych i wneud hynny? Rydych wedi gwneud felly gydag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a gallwch weld fod gennym ni rai pethau da i'w dweud, ac, ar yr un pryd, efallai y gallech chi edrych ar ein syniadau ar gyfer lleoliaeth a dinasyddiaeth, y gellid eu gwireddu drwy Fil hefyd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn awyddus i sôn am ansawdd y ddeddfwriaeth sy'n debygol o gael ei chyflwyno. Mae gennym ni bwyslais enfawr yma o hyd ar Filiau fframwaith, sydd weithiau yn seiliedig ar dystiolaeth anghyflawn, ac rwy'n cyfeirio at Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) i gefnogi'r ddadl honno. Ond yn bendant mae'r pwyslais ar ormod o ddeddfwriaeth eilaidd, a dim digon o gyfle i graffu, gyda Senedd cyn lleied ei maint, wrth gwrs. Credaf ei fod yn etifeddiaeth o'r cyffyrddiad â'r cod Napoleonaidd, nad yw erioed wedi cydweddu â'n system gyfraith gyffredin ni yma yn y DU. Mae wedi arwain at lawer o orgymhlethu yma. Felly, a ydych chi'n gweld ffurf deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn newid efallai dros amser wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda mwy o fanylion ar wyneb Biliau drafft, lle y byddan nhw, wrth gwrs, yn wynebu ein gwaith craffu manwl ni? Diolch.
Feddyliais i erioed y byddwn i'n clywed cod Napoleon yn cael ei grybwyll yn y Siambr, ond bydd hi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y systemau cyfraith sifil sydd gan wledydd y cyfandir yn cael eu hadlewyrchu yn yr Alban hefyd. Felly, dydy hi ddim yn wir bod y DU gyfan rywsut yn wahanol i'r systemau cyfreithiol sy'n bodoli mewn mannau eraill. Mae'r cydbwysedd a geir rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn bennaf yn un o hyblygrwydd, oherwydd pan fo angen, efallai yn flynyddol, neu'n llai aml, ddiweddaru'r ddeddfwriaeth, yna yn amlwg is-ddeddfwriaeth yw'r cyfrwng i wneud hynny. Dyna pam, wrth gwrs, yn aml ceir materion na fydd yn ymddangos ar wyneb Bil, oherwydd efallai y bydd angen diwygio'r Bil hwnnw o fewn blwyddyn neu lai neu y tu hwnt i hynny, ac felly mae angen hyblygrwydd is-ddeddfwriaeth.
Un o'r materion sydd wedi ein trethu ni—yn eironig—wrth inni edrych ar Filiau cyllid yn y dyfodol a Biliau a fydd yn cynnwys cyfraddau trethu—. Yr arferiad, rwy'n deall, yn San Steffan yw cynnwys cyfraddau trethu ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol. Ond mae ganddyn nhw system benodol o Reolau Sefydlog i ymdrin â hynny, a bydd angen i ni eu datblygu, o bosibl, yn y dyfodol os yw hynny i ddigwydd—os cawn ni Filiau cyllid a gyflwynir i'r Cynulliad yn y dyfodol.
O ran cosb resymol, wrth gwrs, drwy gael gwared ar yr amddiffyniad, mae'n golygu nid bod trosedd newydd yn cael ei chreu ond bod amddiffyniad yn cael ei ddiddymu i drosedd bresennol. Doedd hi ddim yn dadlau, rwy'n ffyddiog, i'r drosedd o ymosodiad cyffredin gael ei thynnu o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, ond, serch hynny, bydd yn golygu pan fo pobl yn pledio amddiffyniad cosb resymol mewn llys na fydd yr amddiffyniad hwnnw ar gael iddyn nhw mwyach. A allai hynny arwain at fwy o erlyniadau? Gallai. Ond dyna pam mae'n bwysig dros ben ein bod yn canolbwyntio ar ddargyfeirio, ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau nad oes unrhyw erlyniadau am dramgwyddau cyntaf, er enghraifft, ac y cedwir erlyniad yn rhywbeth i'w ddefnyddio mewn cyfyngder. Nawr, mae'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd rhan yn hyn. Maen nhw'n gweithio gyda ni i weld sut y byddai hynny'n gweithio, ac wrth gwrs, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dymuno pennu canllawiau cyhuddo er mwyn bod yna ddealltwriaeth lawn, yn gyhoeddus, o sut y bydd y gyfraith yn gweithredu. Ni fydd creu neu gael gwared ar amddiffyniad, ynddo'i hun, yn arwain at fwy o erlyniadau, cyhyd ag y bydd y sefyllfa yn cael ei drin yn synhwyrol.
O ran ansawdd y ddeddfwriaeth, rwy'n credu mewn gwirionedd y bu'n eithaf rhyfeddol. Dim ond ers 2011 y cafodd y sefydliad hwn bwerau sylfaenol. Doedd gennym ni ddim hanes o gwbl o ddrafftio deddfwriaeth, yn wahanol i Swyddfa'r Alban, a oedd yn brofiadol. Wrth gwrs cafwyd y dyddiau Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol a'r dyddiau Mesurau, a roddodd ychydig o ymarfer inni, mae'n debyg, ond mae'n eithaf rhyfeddol ein bod ni wedi gallu cynhyrchu cymaint o ddeddfwriaeth ar y cyd yn y Siambr hon er gwaethaf y ffaith nad oedd gennym unrhyw bedigri o gwbl a dim arbenigedd o gwbl nes yn eithaf diweddar. Credaf fod y ffaith y barnwyd bod y ddeddfwriaeth honno yn gadarn—dydyn ni ddim wedi gweld heriau mawr i'r ddeddfwriaeth honno—yn deyrnged i'r holl rai hynny sydd wedi cymryd rhan wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth honno ac ansawdd y bobl sydd gennym ni—nid oes llawer ohonyn nhw o'u cymharu â Llywodraethau eraill, ond ansawdd y bobl sydd gennym ni. Felly, rydym ni'n fodlon ar y ddeddfwriaeth fel y caiff ei chyflwyno. Credwn y bydd y Biliau yr wyf i wedi mynd trwyddyn nhw heddiw yn rhoi didwylledd llawn inni, er enghraifft, yn y gwasanaeth iechyd, ac y byddan nhw'n rhoi'r cynnydd y mae angen inni ei weld mewn Llywodraeth Leol. Ac, wrth gwrs, byddant yn ein galluogi ni i symud ymlaen â'r ymrwymiad hirdymor i gael gwared ar bellter cosb resymol.
Prif Weinidog, dim ond tri phwynt cymharol gryno sydd gen i. O ran pobl ifanc 16 i 17 mlwydd oed yn pleidleisio, tybed a wnewch chi efallai ymhelaethu ar eich barn ynglŷn â sut y gallai'r ddeddfwriaeth honno gael ei llunio, yn arbennig gan y byddai'n effeithio'n sylweddol ar sut y mae'r cwricwlwm addysg yn gweithredu a'r materion sy'n bodoli, er enghraifft, ynghylch ysgolion o fewn eu cwricwlwm yn sôn am faterion gwleidyddol, yn sôn am undebau llafur a chyrff fel hynny o fewn cymdeithas, sy'n amlwg yn bwysig i hwyluso pobl ifanc 16 a 17 oed i arfer y pŵer hwnnw os yw'r ddeddfwriaeth yn mynd rhagddi ac yn cael ei phasio. Fe wnes i rywfaint o ymgynghori â dwy ysgol yn fy etholaeth i—Bryn Celynnog ac Y Pant—a'r hyn oedd yn glir oedd bod mwyafrif llethol y disgyblion yn amlwg eisiau'r bleidlais yn 16 ac 17 oed, ar yr amod fod ganddyn nhw'r wybodaeth a oedd yn eu galluogi i'w defnyddio. Heb hynny, roedd i lawr i tua 50 y cant o ddisgyblion eisiau hynny mewn gwirionedd. Felly, ymddengys i mi fod hynny'n rhan sylfaenol o'r ddeddfwriaeth wrth fynd i'r afael â'r diffyg penodol hwnnw.
Er fy mod yn croesawu Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), byddwch yn ymwybodol hefyd yn y Siambr hon y cafwyd pleidlais unfrydol i gefnogi deddfwriaeth i ddiddymu lesddeiliadaeth. Rwy'n ymwybodol o'r datganiadau cadarnhaol iawn a wnaed gan y Gweinidog yn hyn o beth. Ymddengys i mi fod hwn yn ddarn syml o ddeddfwriaeth, a tybed a allech chi o leiaf gadarnhau nad yw wedi cael ei ddiystyru ar hyn o bryd, a'i fod yn dal i fod yn opsiwn penodol.
Yn drydydd, ar fater anghydraddoldeb, byddwch yn ymwybodol bod adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn benodol yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau ar benderfyniadau mawr, i leihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau mewn gwirionedd. Nawr, ataliodd y Torïaid weithrediad adran 1 o'r Ddeddf honno, ond wrth gwrs o dan adran 45 o Ddeddf Cymru 2017, mae'r pŵer hwnnw i sbarduno adran 1, a'i rhoi ar waith, bellach yn y Cynulliad hwn. Ymddengys i mi, heb faich y prosesau arteithiol ynghylch deddfwriaeth ac ati, y gellid cymryd cam syml drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru i weithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn gwirionedd.
O ran pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, rwy'n credu bod dyletswydd ar bleidiau gwleidyddol—efallai nad y mwyaf diduedd o ffynonellau—i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr, er mwyn iddyn nhw benderfynu sut y dylen nhw bleidleisio. Dydy mater addysg gyfansoddiadol ddim yn dod i ben yn 17 oed yn fy marn i; mae yno i bobl o bob oedran. Dydyn nhw ddim yn deall yn iawn, yn eithaf aml, sut y mae Llywodraeth yn gweithio, a pham ddylen nhw? Dydy e' ddim yn rhan o'u bywydau bob dydd. Felly, rwy'n credu, ie, gallwn ni edrych ar y cwricwlwm, ond mae yna rwymedigaeth, rwy'n credu, arnom ni fel gwleidyddion hefyd i ymgysylltu, nid yn unig â'r bobl ifanc 16 mlwydd oed ac 17 mlwydd oed, ond â phobl o bob oedran.
O ran lesddeiliadaeth, os ydych chi'n gofyn, 'A yw'n cael ei diystyru?', yr ateb yw, 'Na, dydy hynny ddim yn cael ei ddiystyru.' Yn amlwg, dydy hynny ddim yn y rhaglen ddeddfwriaethol eleni, ond serch hynny mae'n fater sy'n dal yn fyw cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn.
O ran y Ddeddf Cydraddoldeb, gadewch imi ysgrifennu ato ar hynny, o ran beth y byddai angen ei wneud er mwyn gweithredu adran 1, a beth fyddai effeithiau hynny. Ysgrifennaf ato i roi'r diweddaraf ar y mater hwnnw iddo.
Ac yn olaf, Simon Thomas.
Brif Weinidog, pan rydych chi'n edrych ar y Cofnod, mae'n siŵr y byddwch chi'n canfod bod yna chwe chynnig deddfwriaethol gan arweinydd Plaid Cymru yn ei hymateb i'ch cynigion chithau, chwech ohonyn nhw yn syniadau cyffrous a radical ar gyfer Cymru. A hoffwn i ychwanegu tri arall atyn nhw.
Yn gyntaf oll, fe ddywedodd arweinydd y tŷ wrthyf fi, wrth i ni drafod y Bil a ddaeth yn Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, y byddwch chi—eich Llywodraeth chithau—yn manteisio ar y cynnig cyntaf i gyflwyno egwyddorion amgylcheddol i mewn i ddeddfwriaeth Gymreig. Fe wnaethoch chi wneud hynny wrth wrthod cynigion Plaid Cymru i ysgrifennu'r egwyddorion yna ar wyneb deddfwriaeth Gymreig. Ac ers hynny, wrth gwrs, mae Tŷ’r Arglwyddi, yn yr EU withdrawal Bill, wedi mynd ymlaen i ysgrifennu'r egwyddorion yna. Ac felly mae yna rywbeth ar goll fan hyn sydd ddim yn y ddeddfwriaeth Gymreig, ond sydd bellach yn neddfwriaeth Cymru a Lloegr, ond ar gyfer Lloegr yn unig, fel y dywedoch chi. Felly, pryd y cawn ni weld yr egwyddorion amgylcheddol yma yn cael eu hysgrifennu i ddeddfwriaeth sylfaenol Gymreig?
Yn ail, mae'ch Ysgrifennydd Cabinet dros faterion gwledig yn ymgynghori ar faterion eang iawn ar hyn o bryd ynglŷn â chyllido cefn gwlad wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymddangos i fi bod rhai o'r cynigion yna yn gofyn am Fil yn ymwneud ag amaeth, ac felly pryd cawn ni'r cyfle i drafod deddfu ar gyfer y pwrpasau hynny? Rwy'n cymryd, felly, nid yn ystod y flwyddyn nesaf.
Ac yn olaf, mae eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid wedi mynegi ei fwriad i fynd ymlaen â threth tir gwag fel un o'r trethi newydd lle gallwn ni ddefnyddio ein pwerau newydd ni i fynd â ni ymlaen. Rwy'n cymryd y bydd angen deddfwriaeth arnom i sylfaenu unrhyw dreth ac na fyddwch yn chwilio am ddeddfwriaeth fframwaith ar gyfer cyflwyno trethi. Felly, pryd welwn ni'r dreth yma? A ydym i gymryd, felly, na fydd y dreth tir gwag yn realistig o gwbl yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf?
Wel, mae yna wahaniaeth rhyngom ni a Lloegr achos y ffaith bod gennym ni Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys yn llawer mwy eang yr egwyddorion sydd yna ynglŷn â'r amgylchedd. Ond nid oes rheswm pam na allwn ni ystyried hwn yn ystod y misoedd nesaf, achos un o'r pethau sydd ddim yn amlwg yw pa Filiau fydd eu heisiau.
A fydd eisiau Bil amaeth? Wel, yr ateb i hynny yw, 'Efallai bydd eisiau Bil amaeth.' Ond, ar hyn o bryd, mae'n anodd dweud beth fydd y Bil amaeth hwnnw'n cynnwys. Nawr, dyna pam, wrth gwrs, mae yna le wedi cael ei greu yn y rhaglen ddeddfwriaethol er mwyn sicrhau bod yna le yno i ddatblygu Biliau Brexit. Yn lle ein bod ni'n datgan chwech neu saith Mesur y prynhawn yma, mae yna le yno i'r cyfreithwyr, a hefyd i'r timau Biliau, i ddatblygu Biliau pan mae'r angen yn dod. Mae'r capasiti yno i wneud hynny, fel y dywedais i ar ddechrau'r broses.
Ynglŷn â threth tir gwag, nid yw hynny'n rhywbeth sydd yn y rhaglen y flwyddyn hon, ond mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn dal i ystyried. Wrth gwrs, fe fydd yna fwy i'w ddweud ynglŷn â hynny yn y pen draw.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.