– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 19 Medi 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar graffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Diolch, Lywydd. Bron bum mlynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 2013, daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) i rym. Bwriad y Ddeddf oedd creu newid o un genhedlaeth i'r llall, a thrawsnewid ein ffordd o wneud teithiau hanfodol i'r gwaith ac i'r ysgol, gan wneud cerdded a beicio yn norm.
Credaf fod y rhesymau dros wneud hyn yn glir: mae teithio llesol yn hyrwyddo iechyd gwell, yn lleihau llygredd a thagfeydd. Yn wir, cafodd y pwyllgor brofiad uniongyrchol i'w ychwanegu at y cyfoeth o dystiolaeth ar y pwnc. Cawsom gystadleuaeth rhwng y beic, y car a'r trên er mwyn lansio ein hadroddiad. Gan ddechrau o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, cafodd aelodau'r pwyllgor ras yn ôl i'r Senedd yn gynnar un bore ym mis Mai. A hoffwn eich gwahodd i wylio'r sgriniau, i weld canlyniadau'r ras honno.
'Mae'n 8.30 a.m. yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae'r Aelodau Cynulliad hyn yn dechrau eu diwrnod gydag arbrawf. Maent am dynnu sylw at fanteision teithio llesol fel y'i gelwir, sy'n anelu i'n hannog i ddod allan o'r car er mwyn teithio o gwmpas mewn ffyrdd iachach, ond hyd yma, mae'r canlyniadau wedi bod yn wael.'
Russell George: '—dau, un. Dyna ni.
Wel, mewn gwirionedd, nid ydym yn cerdded a beicio mwy, sy'n siomedig iawn a dweud y gwir. Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth bum mlynedd yn ôl. Mae arian yn cael ei ryddhau i awdurdodau lleol ar gyfer creu llwybrau cerdded a beicio gwell. Yn y rhan fwyaf o lefydd, yr hyn a welsom yw bod lefelau cerdded a beicio heb wella. Ac o ran plant yn cerdded i'r ysgol, mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng mewn gwirionedd, felly mae hynny'n peri pryder a bod yn onest. Mae ein hargymhellion i'r Llywodraeth yn ymwneud â beth sydd angen iddynt ei wneud i fywiogi'r ddeddfwriaeth teithio llesol i bob pwrpas.'
Wel. Fe brynais bâr newydd o esgidiau ymarfer ar gyfer y ras, ac fe gollais er hynny—ond dyna ni.
Er ei fod yn hwyl, roedd yna neges ddifrifol wrth wraidd yr hyn a wnaethom yn ôl ym mis Mai. Y beicwyr a gyrhaeddodd yn gyntaf, ac roedd y daith iddynt hwy'n rhad, ac yn gyfle gwych i wneud ymarfer corff. Eto ers i'r Ddeddf ddod yn gyfraith, mae cyfraddau teithio llesol wedi aros yn yr unfan yng Nghymru. Ac yn fwy siomedig efallai, mae nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n beicio neu'n cerdded i'r ysgol wedi gostwng.
Felly, ceisiodd gwaith craffu ar ôl deddfu'r pwyllgor ar y Ddeddf teithio llesol ddarganfod beth oedd y rheswm dros hyn. Aethom ati i siarad â nifer o dystion yn ystod ein hymchwiliad, gan gynnwys awdurdodau lleol, cynllunwyr, peirianwyr. Clywsom gan Sustrans, Strydoedd Byw, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Buom yn siarad ag ymgyrchwyr anabledd a defnyddwyr gwasanaethau. Cawsom ymatebion ffurfiol i'n hymgynghoriad, yn ogystal â dros 2,500 o ymatebion i arolwg ein pwyllgor. A chynhaliwyd pum grŵp ffocws ledled Cymru i glywed gan grwpiau o bobl nad ydynt yn cerdded na'n beicio ar hyn o bryd.
Roedd y dystiolaeth yn glir iawn. Ceir dau brif rwystr i deithio llesol: teimlo'n anniogel a diffyg seilwaith priodol. Nawr, yn ddiddorol, mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei hun na fyddai'n teimlo'n ddiogel yn beicio drwy'r ddinas yma yng Nghaerdydd. Mae rhai aelodau o'r pwyllgor wedi dweud wrthyf eu bod yn beicio yn y ddinas a bod hynny'n braf iawn ac maent yn mwynhau beicio ar hyd rhai o'r llwybrau beicio oddi ar y ffordd yn arbennig.
Ond ym mhob tref yng Nghymru, ceir ardaloedd lle mae'n anodd ac yn annymunol i gerdded a beicio. Mae rhai beicwyr yn rhannu ffyrdd gyda thraffig trwm, lle mae tyllau'n rhwystrau ac yn creu peryglon eraill yn ogystal, lle mae llwybrau beicio'n rhy gul neu'n rhy fyr neu wedi'u lleoli'n wael, a lle mae parcio ar y palmant wedi'i gwneud yn amhosibl cerdded yn ddiogel. Mewn ychydig wythnosau, bydd ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru'n 'Beicio i'r Senedd' i dynnu sylw at y ffaith bod gwariant ar deithio llesol yng Nghymru tua hanner y lefel sydd angen iddo fod.
Wrth gwrs, nid oedd teithio llesol byth yn mynd i newid y ffordd y teithiwn dros nos, ond roedd i fod i newid y ffordd roedd awdurdodau lleol, cynllunwyr a pheirianwyr yn gwneud eu gwaith. Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu mapiau o lwybrau presennol a mapiau o'r rhwydweithiau integredig y byddent yn hoffi eu creu. Canfu ein hymchwiliad fod yna ddryswch ynglŷn â diben y mapiau, a oedd yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser i'w cynhyrchu. Disgwyliai aelodau'r cyhoedd gael map y gallent ei ddefnyddio i gynllunio eu taith i'r gwaith neu i'r ysgol, ond nid dyna a ddigwyddodd. Roedd y Gweinidog yn disgwyl i fapiau'r rhwydwaith integredig fod yn uchelgeisiol, ond dywedodd peirianwyr wrthym nad oeddent eisiau codi disgwyliadau ac na fyddai unrhyw weithiwr proffesiynol yn creu cynllun heb ystyried yr adnoddau sydd ar gael. Fel y mae pethau, nid oes digon o gyllid ar gael.
Mae'r pwyllgor wedi argymell adnoddau'n cyfateb i £20 y pen y flwyddyn. Mae'r ffigur hwnnw'n seiliedig ar arferion gorau mewn rhannau eraill o'r DU. Nid yw'n bopeth y byddem ei eisiau pe bai coeden arian hud ar gael, ond mae'n ffigur pragmataidd yn ein barn ni ac mae'r ymgyrchwyr a fydd yn ymgasglu yma mewn ychydig wythnosau'n cytuno. Derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor, ond wrth wneud hynny, tynnodd sylw at y ffaith y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer teithio llesol, hyd yn oed gyda'r dyraniad cyfalaf ychwanegol o £60 miliwn a gyhoeddwyd ganddo yn ystod yr ymchwiliad, ychydig o dan £92 miliwn dros dair blynedd. Ond yn ôl ei gyfrif ei hun, mae angen cyllideb o £62 miliwn y flwyddyn i ddarparu'r cyllid y gelwir amdano: diffyg o dros 50 y cant.
Rwy'n deall y galwadau sy'n cystadlu am arian wrth gwrs. Ond os yw'r Llywodraeth yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth uchelgeisiol, rhaid iddi hefyd gyflwyno modd o gyflawni'r uchelgais hwnnw. Buaswn yn awgrymu na fyddwn yn darbwyllo nifer fawr o bobl newydd i fabwysiadu teithio llesol hyd nes y bydd y seilwaith yn ei le er mwyn iddynt allu teimlo'n ddiogel wrth gerdded a beicio. Ac ni chaiff seilwaith ei ddarparu heb arian.
Wrth gwrs, nid arian yw popeth, rwy'n derbyn hynny. Mae angen newid ymddygiad hefyd. Ers i'r Ddeddf ddod i rym yn 2013, clywodd y pwyllgor fod y dull o newid patrymau ymddygiad wedi bod yn anghyson ac wedi'u cynllunio'n wael. Clywodd y pwyllgor am rwystr diwylliannol sy'n atal teithio llesol rhag cael ei osod wrth wraidd y broses o gynllunio seilwaith, gydag ymagwedd draddodiadol tuag at beirianneg yn drech nag arloesedd. Roedd tystion yn cwestiynu ymrwymiad arweinwyr awdurdodau lleol ar lefel uwch i hyrwyddo'r newid, yn hytrach na'i adael i'w swyddog beicio ei gyflawni ar ei ben ei hun.
Dywedodd Strydoedd Byw fod Llywodraeth Cymru, ar y diwrnod cyn i'r Ddeddf teithio llesol droi'n flwydd oed, wedi rhoi'r gorau i ariannu Dewch i Gerdded Cymru. Roeddent yn dweud bod y penderfyniad hwnnw wedi gadael Cymru heb unrhyw gynllun cerdded sy'n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, ar wahân i'r cynllun Teithiau Llesol. A dywedodd Sustrans wrthym mai 8 y cant o ysgolion yn unig sy'n rhan o'r rhaglen teithiau llesol i'r ysgol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym ei fod wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad y dylid cynnwys cydgynhyrchu fel safon ofynnol. Fodd bynnag, mae ei ymateb hefyd yn nodi ei fod yn ystyried bod gwneud hynny'n wrthgynhyrchiol ac o bosibl yn fwy costus. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r pwynt hwnnw ac a yw'n derbyn ein hargymhelliad ai peidio.
Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y prynhawn yma a chlywed cyfraniadau gan yr Aelodau cyn crynhoi'r ddadl yn nes ymlaen.
Ni ddylem synnu nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor yn unig, argymhelliad a oedd yn ystyried mai diffyg arweinyddiaeth strategol ar lefel Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd hyd yn hyn, lle dylid cryfhau arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ac egluro'r hyn y mae'n ei ddisgwyl gan arweinwyr lleol.
Un peth yw i Ysgrifennydd y Cabinet ddweud,
'Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos arweinyddiaeth wrth roi’r Ddeddf
Teithio Llesol ar waith', ond fel y mae ein Cadeirydd, Russell George, yn datgan yn rhagair yr adroddiad,
'Mae'n bryd nawr i'r Llywodraeth newid ei hymddygiad ei hun, dangos arweinyddiaeth go iawn a chymryd camau i wireddu uchelgeisiau'r Ddeddf.'
Yn wir, nid yw ymateb disylwedd, hunanesgusodol Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn parhau i hyrwyddo'r agenda hon a bod gan awdurdodau lleol rôl glir i'w chwarae yn gwneud y tro. Ac nid yw'n ddigon da iddo dderbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chanllawiau statudol i gynnwys cydgynhyrchu fel safon ofynnol ar gyfer cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru), a chynnwys rhanddeiliaid nid yn unig yn y broses o nodi'r broblem, ond eu galluogi i fod yn rhan o'r ateb hefyd.
Mae disgrifio technegau cydgynhyrchu fel modd o ddatblygu cynlluniau da yn unig yn dangos methiant cyson Ysgrifennydd y Cabinet i ddeall bod cydgynhyrchu'n golygu gwneud pethau'n wahanol—llunio a darparu gwasanaethau gyda phobl a chymunedau er mwyn gwella bywydau a chryfhau'r cymunedau hynny. Nid yw cydgynhyrchu'n ymwneud â chyni; mae'n rhan o fudiad byd-eang sy'n ddegawdau oed bellach ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol ar draws ein planed. Mae'n ymwneud â symud o ddulliau seiliedig ar anghenion tuag at ddatblygu sy'n seiliedig ar gryfder—helpu pobl mewn cymunedau i nodi'r cryfderau sydd ganddynt eisoes, a defnyddio'r cryfderau hynny gyda hwy.
Ym mis Gorffennaf 2017, agorais a siaradais mewn digwyddiad yn y Cynulliad gydag ESP Group ar wneud i wasanaethau trafnidiaeth a thechnoleg weithio dros gynhwysiant a lles. Mae'r ESP Group yn helpu gweithredwyr trafnidiaeth mawr a dinasoedd i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid heddiw a llunio gwasanaethau symudedd ar gyfer y dyfodol, gyda chleientiaid megis Transport for London, Rail Delivery Group, ScotRail, Stagecoach, cynghorau Llundain a Llywodraeth yr Alban. Fel y dywedais yno, rwy'n falch o weithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a'r nifer gynyddol o sefydliadau ar draws Cymru sy'n arddel egwyddorion cydgynhyrchu, gan gydnabod nad yw hyn yn ymwneud â chyni, ond â datgloi cryfderau pobl i allu adeiladu bywydau gwell a chymunedau cryfach.
Hefyd dyfynnais ddatganiad Sefydliad Bevan sy'n dweud, os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nad yw'r polisïau hynny'n gweithio, ac y dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau ac nid ei chyfeirio o'r brig i lawr. Ychwanegai y gallwn gyflawni mwy drwy ddeall beth sy'n bwysig a thrwy gynllunio tuag yn ôl, gan ddefnyddio'r pen blaen fel y system gynllunio proses, lle dylai ymwneud cymunedol mewn cydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog.
Mewn cyferbyniad, dywedodd Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru yn glir wrth y pwyllgor, er bod llwybrau'n gallu troi'n fannau anhygyrch, ni fu fawr iawn o ymgysylltiad â phobl ddall a rhannol ddall na sefydliadau sy'n cynrychioli eu safbwyntiau. Fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dweud, rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pobl yn gallu cyfrannu at eu cymuned, a'u bod yn cael eu hysbysu, eu cynnwys a'u clywed. Rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet ddeall bod cyflawni hyn yn galw am roi diwedd ar ddweud wrth bobl beth y gallant ei gael, a gofyn iddynt yn lle hynny beth y gallant ei gyflawni.
Mae Sustrans Cymru, yr elusen sy'n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio, yn gweld gwerth mewn buddsoddi a chysylltu pob math o drafnidiaeth fel bod cerdded a beicio yn opsiwn hawdd a hygyrch. Maent yn disgrifio proses gaffael masnachfraint Cymru a'r Gororau fel, cyfle a gollwyd i integreiddio cerdded a beicio'n well gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, ac maent yn datgan y dylai gorsafoedd trên fod yn ganolfannau teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr, pobl leol ac ymwelwyr gadw'n heini.
Ym mis Ebrill 2017, noddais ddigwyddiad Cynulliad yma ar gyfer y cwmni datblygu seilwaith Furrer+Frey, a oedd yn lansio eu Papur Gwyn ar ddatblygu atebion trafnidiaeth cynaliadwy, hyblyg, amlfodd ar gyfer Cymru. Roedd yn cynnwys canlyniadau llawn arolwg YouGov o drafnidiaeth gyhoeddus Cymru, a ganfu mai 29 y cant o bobl yn unig sy'n meddwl bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i chydgysylltu'n dda yng Nghymru, gyda 5 y cant yn unig yn fodlon iawn yng ngogledd Cymru. Rwy'n gorffen gyda'u datganiad fod seilwaith trafnidiaeth yn cysylltu cymunedau a rhaid ei ddefnyddio mewn ffordd gynaliadwy a than reolaeth gan ddefnyddio adnoddau lleol, h.y. pobl, lle bynnag sy'n bosibl.
Credaf fod y Ddeddf teithio llesol, unwaith eto, yn rhoi gwers lesol inni am ddynameg, neu absenoldeb dynameg, yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae gwleidyddiaeth Cymru yn anweithredol, yn yr ystyr ein bod yn pasio cyfres o fwriadau da wedi'u hysgrifennu mewn cyfraith ag iddynt gonsensws eang, oherwydd, mewn gwirionedd, realiti gwleidyddiaeth Cymru yw ein bod yn rhannu llawer o'r un gwerthoedd—y bwlch gweithredu yw'r broblem. Rwy'n credu bod y ffaith bod y Ddeddf teithio llesol, ydi, yn ymgorffori egwyddorion clir a synnwyr clir o gyfeiriad ac eto ein bod wedi mynd tuag yn ôl i raddau helaeth yn rheswm dros oedi ac ystyried natur yr hyn a wnawn yma.
Cyfeiriwyd at sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach, ac mae'n debyg fy mod yn ategu ei sylwadau am Geraint Thomas—mwy yn cael ei wneud mewn 21 diwrnod i Gymru nag a wnaed mewn gwleidyddiaeth, efallai. Gallech ddweud hyn: 'Ar Gymru, gweler beicio'—neu gerdded.
Fel y soniwyd eisoes, mae'n amlwg mai rhan o'r broblem yw lefel y cyllid. Yn y pen draw, dyna sut yr ydym yn blaenoriaethu yn fwy na dim arall. Rydym wedi clywed y ffigurau a'r bwlch ariannu y cyfeiriwyd ato—y £120 miliwn a addawyd dros dair blynedd yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru.
Rydym ar ei hôl hi'n enbyd, wrth gwrs, o gymharu â llawer o'r gwledydd bach eraill sy'n arweinwyr yn y maes hwn. Gallem fod yn arweinwyr hefyd gyda'r gwledydd Nordig, yr Iseldiroedd a rhai o Länder yr Almaen. Bydd y 2,000 o gefnogwyr pêl-droed Cymru a aeth ar bererindod i Copenhagen ac Aarhus—sut bynnag mae ei ddweud—yn dod yn ôl yn llawn rhyfeddod, mewn gwirionedd. Canlyniad siomedig i bêl-droed, ond eu hymdeimlad o edmygedd a gwerthfawrogiad o'r modd y mae'r Daniaid yn synied am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol—dyna oedd y prif beth a ddarllenwn ar Twitter.
Trawsnewid dinasoedd fel Copenhagen yn ddinasoedd beicio—. Wrth gwrs, yr hyn y mae pobl yn ei anghofio yw nad oedd Copenhagen bob amser fel hyn. Newid diwylliannol diweddar iawn ydyw, a digwyddodd trwy arweiniad gwleidyddol eglur a oedd yn bwydo drwodd wedyn i gymdeithas sifil yn ogystal. Mae'r cynnydd anferth o 68 y cant mewn traffig beicio, y £240 miliwn neu'r 2 biliwn DKK a fuddsoddwyd mewn un ddinas yn unig ar seilwaith beicio-gyfeillgar—. A chanlyniad hynny, wrth gwrs, oedd—beth oedd hi, ddwy flynedd yn ôl—fod synwyryddion wedi cofnodi'r record newydd fod mwy o feiciau nag o geir bellach yng nghanol y ddinas am y tro cyntaf.
Gan symud at argymhellion yr adroddiad, mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7, sy'n golygu y bydd yr arolwg 'Polisi Cynllunio Cymru' presennol yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i gryfhau cefnogaeth i deithio llesol, ac mae hynny'n iawn. Ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yw dod â theithio llesol o ble mae wedi bod, sef ar ymylon polisi trafnidiaeth, i'w graidd. Dyna natur yr her i bob un ohonom a dweud y gwir.
Mae argymhelliad 18 yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu llinell gyllideb gylchol ar gyfer ariannu teithio llesol, fel y clywsom, ar lefel o £17 i £20 y pen y flwyddyn. Dyna lefel y cyllid y byddai angen i ni yng Nghymru ei—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch am ildio, Adam Price. Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf pan fuom yn ystyried y ddeddfwriaeth gychwynnol ar deithio llesol. Daeth un Lee Waters, sydd bellach yn Aelod dros Lanelli, atom i roi llawer o dystiolaeth yn rhinwedd ei swydd gyda Sustrans ar y pryd. Roeddem yn dweud yr hyn rydych newydd ei ddweud yn eich araith—fod yn rhaid i hyn fod yn fwy nag ychwanegiad yn unig. Dylai teithio llesol fod yn ganolog i'r holl ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio, ac yn ganolog i holl ystyriaethau cynghorau lleol. A ydych yn rhannu fy ngofid nad yw hynny'n digwydd yn awr, bum mlynedd yn ddiweddarach?
Ydw. Wyddoch chi, mae pawb ohonom yn esblygu ac efallai, wrth ddod yn dad, rydych yn dechrau meddwl am bethau mewn ffordd wahanol. Rydym yn dweud rhai o'r pethau cywir a rhai o'r un pethau. Mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau. Mae angen inni osod targed yn gyntaf i fod i fyny yno gyda'r gwledydd bach hynny—i fyny yno gyda Caergrawnt, sy'n gwario ar y lefel hon.
Yn olaf, o ran derbyn argymhellion mewn egwyddor, roeddwn yn meddwl bod y Llywodraeth wedi dweud ym mis Ionawr y byddai'n rhoi'r gorau i dderbyn argymhellion mewn egwyddor, oherwydd bod hynny'n gwneud atebolrwydd yn anodd iawn wir. Felly, a gawn ni eglurder hefyd gan y Llywodraeth? Os yw'n gwrthod neu'n anghytuno ag argymhellion, credaf ei bod yn haws os yw'n dweud hynny yn hytrach na chael rhyw fath o'r math hwn o—disylwedd oedd y term technegol a ddefnyddiwyd yn gynharach rwy'n credu. Oherwydd nid yw hynny o fudd i neb.
Un mlynedd ar ddeg yn ôl safwn ar risiau'r Senedd i gyflwyno deiseb i Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd ar y pryd, o blaid deddf i hyrwyddo cerdded a beicio. A ddegawd wedyn, mae gennym ddeddf a rhaid imi ddweud, er mawr glod i Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym y talp gwirioneddol sylweddol cyntaf o arian y tu ôl iddo. Ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn haeddu clod go iawn am hynny. Ond gadewch inni fod yn onest am hyn. Yr hyn rwy'n ei gael yn fwyaf digalon am yr ymchwiliad hwn—a chawsom dystiolaeth dda, ac mae'n adroddiad purion—yw mai'r un pethau sydd wedi bod yn codi dro ar ôl tro dros y degawd neu fwy y bûm yn rhan o'r ddadl hon. Rydym yn cydnabod beth sydd angen ei newid, ond nid ydym yn gwthio newid ar y lefel sylfaenol. Un mlynedd ar ddeg yn ôl, newidiais fy ail gar a phrynu beic. Nid oeddwn wedi bod ar gefn beic er pan oeddwn yn fy arddegau, ac roedd y profiad o feicio yng Nghaerdydd ar y pryd o gymharu â nawr yn wahanol iawn. Roedd yn beth go ecsentrig i'w wneud 11 mlynedd yn ôl; bellach mae'n beth prif ffrwd i'w wneud. Mae beicio yn Llanelli yn awr fel yr oedd yng Nghaerdydd 11 mlynedd yn ôl—mae mynd ar hyd prif strydoedd y dref ar gefn beic yn beth go ecsentrig i'w wneud; nid wyf yn gweld llawer o rai eraill yn ei wneud. Rwy'n gweld eraill ar lwybrau di-draffig o amgylch y dref, ond nid fel dull bob dydd o deithio. Ond mae Caerdydd, rwy'n credu, yn dangos y gallwch greu momentwm a newid trwy fàs critigol, ac mae hynny'n digwydd yn organig, nid oherwydd y pethau y mae'r Llywodraeth a'r Cyngor wedi'u gwneud at ei gilydd, ond oherwydd bod momentwm y tu ôl iddo.
Ond yr hyn a welais o brofiad personol yw mai'r manylion sy'n bwysig mewn gwirionedd, ac mae angen inni ystyried hyn o safbwynt rhywun na fyddai fel arfer yn beicio. Dyna'r broblem gyda'r ddadl hon, a dyna'r perygl o wneud Geraint Thomas yn esiampl. Nid pobl nodweddiadol yw'r rhain. Pencampwyr elitaidd yw'r rhain sy'n gwneud ymdrechion gorchestol i gyflawni tasgau anferthol. Ac mewn gwirionedd, dylem fod yn gweld hyn drwy brism fy mam a fi a fy mhlant, a'r pethau bach sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth. A yw ymyl y palmant yn gostwng yn y man cywir? A oes arwydd yn dangos i chi ble i fynd? A ydych chi'n teimlo'n ddiogel a chyfforddus? A dyna lle rydym yn methu.
A rhaid imi ddweud fy mod wedi teimlo'n eithaf digalon wrth ddarllen ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad, gan ei fod yn adroddiad heriol, ond mae'r ymateb a gyflwynwyd gan swyddogion yn gwneud i chi feddwl eu bod yn gwneud hyn i gyd, eu bod wedi concro'r peth. A gwyddom o'r dystiolaeth a gawsom nad ydynt yn gwneud hyn i gyd; nid ydym wedi'i goncro. Cam cyntaf newid yw cydnabod lle rydych yn methu, ac nid oes unrhyw gywilydd yn hynny. Mae hon yn agenda heriol iawn o newid diwylliannol. Gallwn gynhyrchu strategaethau yr ydym yn eu hoffi—gwyddom o lyfrau ar reoli fod diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast, ac mae hynny'n wir yn yr achos yma. Clywsom y dystiolaeth fanwl am arferion peirianneg, am swyddogion cynllunio awdurdodau lleol a'u hagweddau, eu rhagdybiaethau. Dyma'r pethau y mae angen inni eu newid a'r hyn rwy'n poeni yn ei gylch, ar ôl gweld Llywodraeth, yw nad yw'r capasiti yno, nid yw'r arbenigedd yno, nid yw'r cyrff yno i wneud i hyn ddigwydd. Oherwydd rhaid inni gael y manylion yn iawn.
Credaf fod trosglwyddo peth o'r cyfrifoldeb i Trafnidiaeth Cymru am hyn yn galonogol, cyhyd â bod y cylch gwaith ganddynt, a'r capasiti i'w wneud. Ac rwy'n poeni am yr arian a ddyrannwn ar hyn o bryd—pa mor dda y caiff ei wario, ar sail y dystiolaeth a gawsom—oherwydd mae'n iawn i awdurdod lleol gyflwyno cynllun, ond os nad yw'n cydymffurfio'n fanwl â'r canllawiau cynllunio da iawn a luniodd Phil Jones ar ran Llywodraeth Cymru, nid yw'n mynd i weithio—mae'n wastraff arian. Rwyf o blaid dyblu'r arian, ond os na chawn y pethau sylfaenol yn iawn, mae'n wastraff arian, a dyna ble y credaf fod angen i'r Llywodraeth ganolbwyntio yma. Nid yw cael dadleuon a chyflwyno datganiadau lefel uchel yn unig yn ddigon da. Rhaid cael trylwyredd, rhaid cael ffocws, rhaid cael her—ohoni ei hun ac ymysg yr holl wahanol bartneriaid—er mwyn cael y manylion yn iawn, oherwydd mae'n anodd ond mae'n bosibl ei wneud. Rwy'n annog y Gweinidog yn gryf i ystyried sut y gall newid sylweddol ar y lefel weithredol honno ddigwydd.
Oherwydd, wrth gwrs, paradocs hyn yw nad sôn am bolisi trafnidiaeth a wnawn mewn gwirionedd; polisi iechyd yw hwn. Mae'n bolisi iechyd y gofynnwn i beirianwyr priffyrdd ei ddarparu. Ac nid yw peirianwyr priffyrdd yn ei ddeall. Maent wedi'u hyfforddi i ddarparu ar gyfer gwneud i geir yn symud yn gyflymach, ac yn aml, nid ydynt yn deall. Nid yw'n fai arnynt hwy. Rhaid inni eu helpu, rhaid inni eu hyfforddi, rhaid inni roi gallu iddynt. Ble mae rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hyn? Roeddwn yn credu bod y dystiolaeth a gawsom gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wirioneddol wael. Maent yn ardderchog am gynhyrchu'r strategaethau sy'n dangos y manteision i iechyd y cyhoedd, ond mae angen iddynt ddod i'r cyfarfodydd hyn i herio, fel y maent yn herio ar ysmygu. Mae angen iddynt wthio'r awdurdodau i wneud yn well?
Gallwn siarad am beth amser ar hyn, Ddirprwy Lywydd, ond yn naturiol, ni allaf wneud hynny. Ond gadewch i mi orffen drwy ddweud rhywbeth am uchelgais. Roeddem yn dweud yn y Ddeddf ein bod yn anelu at
'sicrhau mai cyfuniad o gerdded a beicio yw'r ffordd fwyaf naturiol a normal o symud o le i le.'
Ac eto targed y cynllun gweithredu ar deithio llesol yw cael 10 y cant o bobl i feicio unwaith yr wythnos. Nawr, pan feddyliwch am y targedau sydd gennym ar gyfer ynni adnewyddadwy, sy'n dod yn berthnasol i bob pwrpas mewn penderfyniadau cynllunio—ystyriaethau perthnasol—mae'r rheini'n dargedau heriol. Meddyliwch am y targedau sydd gennym ar ailgylchu—mae'r rheini'n dargedau heriol. Mae gennym lefel uchel o uchelgais yma a'n targed yw cael 10 y cant o bobl i feicio unwaith yr wythnos. Nid yw hynny'n mynd i gyflawni'r uchelgais a nodwyd gennym. Felly, nid oes gennym ddigon o uchelgais, nid ydym yn ddigon trylwyr a gonest ynglŷn â'n sefyllfa, nid oes gennym sgiliau a chapasiti ar lefel leol i fwrw ymlaen â hyn, ac a dweud y gwir, rwy'n dechrau diflasu ar drafod hyn. Rydym i gyd yn cytuno bod angen iddo ddigwydd. Mae yna fwlch rhwng hynny a gwneud iddo ddigwydd. Rhaid inni wella ein perfformiad.
Yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor ar effaith y Ddeddf teithio llesol, a oedd, wrth gwrs, yn cynnwys ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, nodwyd nifer o fethiannau. Yn bennaf, nodwyd yn y rhan fwyaf o ardaloedd nad oedd wedi arwain at wneud i bobl ddechrau cerdded neu feicio, ac mewn rhai sefyllfaoedd gwelsom ostyngiad yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn teithio llesol, yn enwedig o ran plant naill ai'n seiclo neu'n cerdded i'r ysgol. Nawr, gwyddom fod perygl, canfyddedig neu wirioneddol, yn effeithio ar ein gallu ac yn benodol ar awydd rhieni i anfon eu plant i'r ysgol. Felly, dyna un o'r ffactorau sy'n rhaid inni eu cynnwys yn yr holl senario hon o geisio cael pobl ar gefn beiciau neu i gerdded.
Roeddem hefyd yn pryderu nad oedd rhai o gamau gweithredu'r Ddeddf yn cael eu dilyn, er enghraifft nid yw seilwaith teithio llesol yn cael ei gynnwys mewn prosiectau ffyrdd mawr, neu caiff seilwaith teithio llesol ei israddio wrth i brosiectau ddatblygu ac wrth i gyllidebau ddod o dan bwysau—mae Ffos-y-frân yng Nghaerffili yn un prosiect lle na chafodd unrhyw seilwaith teithio llesol ei gynnwys, naill ai ar y cam cynllunio neu'r cam gweithredu.
Roedd un neges yn amlwg iawn gan bob un o'r cyfranwyr i'r ymgynghoriad: diffyg cyllid, a diffyg cyllid hirdymor yn enwedig, a olygai ei bod hi'n amlwg nad oedd gan awdurdodau lleol ddigon o uchelgais i weithredu seilwaith newydd ar gyfer llwybrau teithio llesol. Daeth yn amlwg hefyd nad oedd unrhyw arweiniad strategol effeithiol ar lefel awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru a lle cafwyd llwyddiannau, roedd y rhain yn bennaf yn deillio o frwdfrydedd a gwaith unigolion brwd.
Roedd y broses fapio'n fwy anodd a hirwyntog nag a ragwelodd Llywodraeth Cymru. Felly, roedd y £700,000 a ddyrannwyd i awdurdodau lleol ar gyfer y gwaith yn annigonol, gan arwain at orfodi'r awdurdodau i wneud iawn am y diffyg, gyda rhai rhanddeiliaid yn honni bod hyn wedi arwain at ddargyfeirio arian oddi wrth brosiectau seilwaith.
Mae pawb ohonom yn gwybod am yr effaith y gallai newid sylfaenol yn arferion teithio llesol pobl ei chael ar broblemau tagfeydd cronig a welwn mewn llawer o rannau o Gymru, felly hoffwn gydnabod teilyngdod uchelgais y Llywodraeth yn hyn o beth, ond rhaid iddynt gael eu hariannu'n briodol a'u hannog yn briodol. A gaf fi alw ar Lywodraeth Cymru felly i gynyddu cyllid i'r holl sectorau sy'n gweithredu teithio llesol gan wybod yn sicr y bydd y manteision economaidd a ddaw o deithio llesol yn llawer mwy nag unrhyw arian a werir arno?
Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon gan fy mod yn gefnogwr cadarn i'r Ddeddf teithio llesol, fel llawer o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd, a'i lwybr Taf enwog iawn, un o lwybrau beicio a cherdded gwych Cymru. Gwn o gynnwys fy mlwch llythyrau yng Ngogledd Caerdydd pa mor bwysig yw beicio, a hefyd daeth llawer iawn o bobl i'r digwyddiad beicio a drefnais yn ddiweddar, gyda llawer o blant a llawer o drigolion Gogledd Caerdydd, ac roedd yn llwyddiant mawr. Felly, croesawaf yr adroddiad, a chredaf yn sicr ei fod yn tynnu sylw at y materion y mae angen rhoi sylw iddynt os ydym yn mynd i allu newid arferion teithio pobl. Roeddwn i'n croesawu'n arbennig y ffilm ar y dechrau. Roedd hi'n dangos yn glir iawn y mathau gwahanol o drafnidiaeth yn fy marn i, felly llongyfarchiadau i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ffilm.
Mae wedi'i ddweud eisoes, wrth gwrs, mai ymwneud ag iechyd y mae hyn. Credaf fod Lee Waters wedi dweud hynny yn ei gyfraniad, ac felly nid wyf am ailadrodd hynny heddiw. Ond pan ddaeth y Ddeddf teithio llesol i rym yn 2014, rwy'n credu ein bod i gyd braidd yn naïf yn disgwyl gweld cerdded a beicio yn dod yn norm ar gyfer y teithiau byr bob dydd, ac mae'n siomedig na welsom y tueddiadau y disgwyliem eu gweld ar i fyny, a gwn fod mater plant yn arbennig wedi'i godi gan nifer o Aelodau yma heddiw.
Credaf fod adroddiad y pwyllgor wedi nodi rhai o'r rhesymau pam y bu'r cynnydd yn araf hyd yma, yn enwedig yr elfen ddiogelwch, sydd eisoes wedi cael ei thrafod yma, a diffyg seilwaith priodol. Ond credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn cysylltu pob math o drafnidiaeth fel bod teithio llesol yn opsiwn hawdd a hygyrch. Rydym wedi sôn am gael system drafnidiaeth integredig yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ond rydym yn dal i fod ymhell o gyflawni hynny. Credaf fod integreiddio teithio llesol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan hanfodol o greu newid sylweddol yn y ffordd y teithiwn.
Gwn fod rhywun yma heddiw wedi dweud bod masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn gyfle a gollwyd, ond i mi mae'n gyfle gwych, a chredaf y bydd yna gyfle go iawn gyda'r fasnachfraint honno i sicrhau, ochr yn ochr â datblygu metro de Cymru, ein bod yn adeiladu beicio a cherdded yn rhan o'r system gyfan. Mae'n gyfle gwych i integreiddio cerdded a beicio'n well gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, fel y dywed Sustrans, rhaid i orsafoedd trên ddod yn ganolfannau teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr, pobl leol ac ymwelwyr gadw'n heini, ac mae angen inni sicrhau bod pob gorsaf yn hygyrch i gerddwyr a beicwyr, fod yna lefydd diogel i adael beiciau a bod mynediad i bobl anabl yn gwella er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Yng Nghaerdydd, rwy'n credu bod cynnydd mawr wedi bod yn y nifer sy'n beicio. Yn sicr, mae yna lawer mwy o feiciau ar y ffordd yng Nghaerdydd, a chredaf ein bod oll wedi gweld y cynnydd ym mhoblogrwydd nextbike yng Nghaerdydd, gyda lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd. Eisoes mae gennyf rai o'r mannau docio hyn yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod rhagor yn dod cyn bo hir i Riwbeina, yr Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf. A bydd hyn yn rhoi cyfle delfrydol i gynyddu teithiau beic yn y ddinas o orsafoedd trenau, y brifysgol, gweithleoedd a chyrchfannau i dwristiaid.
Wrth gwrs, mae gennym ddatblygiad cyfnewidfa drafnidiaeth newydd Caerdydd yng nghanol y ddinas—yr orsaf fysiau, fel y byddwn yn ei galw yng Nghaerdydd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle enfawr arall i gynnwys beicio, cerdded a hygyrchedd yn y lle hwnnw. Mae wedi cymryd amser hir i gyrraedd lle rydym yn awr, ond rwy'n obeithiol iawn y bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth honno'n anogaeth fawr i gerddwyr a beicwyr.
Credaf y bydd pobl yn ei chael hi'n llawer haws penderfynu gadael eu car gartref os gallwn greu system deithio llesol a chyhoeddus wirioneddol integredig. Felly, rwy'n cydnabod bod yr adroddiad wedi dweud pa mor anodd yw hi a sut y bu diffyg cynnydd, a chredaf i rywun ddweud yn y ddadl hon hefyd ein bod yn dda iawn yn y sefydliad hwn am wneud deddfwriaeth dda iawn—wyddoch chi, deddfwriaeth sy'n well na dim yn y byd—ond yr her fawr yw sut y mae cymhwyso honno wedyn a sut y mae gweld y cyflawniadau mewn gwirionedd. Ond rwy'n optimistaidd iawn oherwydd credaf fod gennym sylfaen yn ei lle. Yn sicr, yng Nghaerdydd, rydym wedi gweld bod yna ewyllys i'w wneud—newid mawr sy'n digwydd wrth inni siarad yma. Felly, rwy'n teimlo'n optimistaidd ar gyfer y dyfodol ac yn diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn.
Weinidog, rwy'n credu eich bod wedi clywed y pryderon go iawn a geir yn y Siambr hon, er bod rhai pethau cadarnhaol yno yn ogystal, ond fel y mae'r enwog Mark Isherwood newydd ddweud wrthych, nid yw eich ffordd ddisylwedd yn gwneud y tro, ac a dweud y gwir, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei ategu'n gadarn iawn.
Rwy'n credu o ddifrif fod craffu ar ôl deddfu yn agwedd hanfodol o'r hyn sydd angen inni ei wneud yn y Siambr hon, a dylem wneud mwy ohono. Ganed y ddeddfwriaeth hon o'r sector dinesig, cafodd ganmoliaeth eang ledled y DU, gan gynnwys ym mhapur newydd The Times, a dynnodd sylw ato fel maes gweithgarwch deddfwriaethol a allai hyrwyddo lles y cyhoedd o ddifrif, ac eto o'r 24 o argymhellion, mae'r Llywodraeth yn derbyn 11, ac yna'n derbyn 11 arall mewn egwyddor ac yn gwrthod dau. Rhaid imi ddweud, os nad yw hynny'n ddisylwedd, beth sydd? 'Derbyn mewn egwyddor', wrth gwrs, yw ffordd y Llywodraeth o ddweud, 'Ie, ond—' gyda'r pwyslais yn fawr ar yr 'ond'. Wel, nid yw hynny'n mynd i sicrhau'r math o newid sydd ei angen arnom. Fodd bynnag, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 15, sy'n golygu y bydd prosiectau seilwaith Llywodraeth Cymru yn arddangos y dulliau teithio llesol arloesol y mae'n disgwyl eu gweld gan awdurdodau lleol, gan geisio arwain drwy esiampl o leiaf, ac mae angen iddi ei wneud yn llawer mwy eang mewn meysydd eraill o bolisi cyhoeddus, fel y mae Julie Morgan newydd ei nodi mewn perthynas â'r fasnachfraint rheilffyrdd, er enghraifft.
Felly, mae angen inni fynd lawer ymhellach, a gadewch i mi sôn ychydig am ddatblygiadau tai newydd. Nawr, pe baem yn trawsnewid y rheini a sicrhau eu bod yn addas iawn ar gyfer teithio llesol, mae'n enghraifft o'r hyn y gallem ei wneud mewn mannau eraill, oherwydd nid ydym yn adeiladu cymaint â hynny, ac yn amlwg, mae angen inni fynd yn llawer pellach na chymunedau newydd. Ond dylem gael eu cynllun yn iawn fan lleiaf, a chredaf y byddai defnydd gwell, er enghraifft, o gytundebau adran 106 yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau bod y system gynllunio yn ymgorffori teithio llesol. Mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, yn gwneud hyn i ryw raddau gyda seilwaith cerbydau trydan, nad yw'n deithio llesol yn hollol ond o leiaf mae'n fwy gwyrdd, a chredaf y dylech ymestyn hynny o ran yr agenda teithio llesol. Mae angen i'n polisïau fod yn meddwl 50 mlynedd i'r dyfodol yn ogystal â beth y gallwn ei gyflawni'n weddol gyflym, fel y nododd Adam Price gan ddefnyddio Copenhagen fel enghraifft. Felly, dyna sydd angen inni ei weld mewn gwirionedd—newid go iawn—er mwyn manteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer teithio cynaliadwy, ac mae hynny'n galw am ffordd glir a synhwyrol ymlaen, gyda'r Llywodraeth yn arwain, a sicrhau bod cynaliadwyedd wedi'i ymgorffori mewn datblygiadau newydd ar gyfer cerdded, beicio a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gwir angen iddo fod yn ddull cynhwysfawr o weithredu.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth inni edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill, ac mae llawer ohonynt i'w gweld yn Ewrop. Rwy'n sôn yn awr am Ewrop diwylliannol ac Ewrop fel ffynhonnell syniadau ysbrydoledig yn dod gan lywodraethau ac ardaloedd a'r bobl. A gaf fi dynnu sylw—a gobeithiaf fod fy Almaeneg yn ddigon da—at enghraifft o'r math hwn o feddylfryd yn natblygiad preswyl Vauban sydd wedi'i leoli ar ymyl ddeheuol dinas Freiburg—rwy'n meddwl fy mod wedi ynganu hynny'n gywir—sy'n cynnwys 5,000 o drigolion? Roedd y nodau ar gyfer y datblygiad hwn, a gwblhawyd yn 2006, yn cynnwys creu ardal lle roedd llawer llai o ddefnydd o geir. Canolbwyntiai ar drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da a seilwaith teithio llesol ochr yn ochr â chymhellion economaidd i annog pobl i beidio â phrynu a defnyddio ceir. Nawr, nid yw hynny'n addas ar gyfer pawb, ond wyddoch chi, arweiniodd yr hen gysyniad o ardd-bentref—gardd-faestrefi—y ffordd at newid cymdeithasol. Byddech yn cael grwpiau a fyddai eisiau arddel gweledigaeth o'r fath ar gyfer eu bywydau a chael strydoedd lle gallai eu plant chwarae a bod yn ddiogel. Mae llawer o ddatblygiad amgylchedd di-gar Vauban wedi bod yn llwyddiannus; ni chewch barcio yn y gymuned, ceir mannau parcio ar y cyrion, ac o ganlyniad, mae mwyafrif y trigolion yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a cherdded neu feicio er mwyn teithio o gwmpas. Canlyniad hyn yw mai 164 o geir sydd yna i bob 1,000 o bobl yn Vauban—llawer is na'r cyfartaledd ar gyfer Freiburg, sydd eisoes yn gwneud yn well o lawer na'r rhan fwyaf o ddinasoedd yr Almaen i hyrwyddo teithio llesol.
A gaf fi orffen? Efallai y dylem lenwi'r cylch yma a chael dull radical ar waith o ran y defnydd o gerbydau yn ein hardaloedd dinesig lle rydym yn caniatáu cerbydau a rhagdybiaeth o 20 milltir yr awr, a chredaf y bydd hynny, unwaith eto, yn gwneud teithio llesol ei hun yn fwy dymunol a diogel. Nid wyf am bwysleisio mater diogelwch yn ormodol, gan mai'r dewis mwyaf diogel o hyd, fel arfer, yw dulliau teithio llesol. Ond mae angen iddo fod yn rhan o'r hyn y dylem ei wneud ac rwy'n gobeithio y gwelwn rywfaint o newid o ran y terfynau cyflymder yn fuan iawn. Ac rwy'n canmol Caerdydd am arwain y ffordd yng Nghymru ar hyn o bryd a datblygu arferion gorau yno.
Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn adeiladu fy sylwadau o gwmpas un ateb penodol iawn ar gyfer gwella cyfleoedd teithio llesol. Ni fydd yr ateb penodol a gynigiaf yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet gan ei fod yn un y bûm yn ei hyrwyddo'n gyson ers i mi gyrraedd y lle hwn, sef ailagor twneli rheilffordd segur ledled Cymru fel llwybrau ar gyfer cerdded a beicio.
Bydd fy sylwadau'n canolbwyntio ar dwnnel Abernant yn bennaf, twnnel sy'n cysylltu Cwm-bach yn fy etholaeth gyda thref Merthyr Tudful. Gan ddisgyn i 650 troedfedd o dan y ddaear yn ei fan dyfnaf, agorwyd y twnnel yn 1853 ac roedd yn gysylltiad rheilffordd pwysig rhwng y cymoedd am 110 mlynedd. Ar ei letaf, mae lle yn yr adeilad 1.3 milltir o hyd i ddau drac. Hyd yn oed ar ei fwyaf cul, gall car mawr fynd drwyddo'n gyfforddus. Mae ei hanes yn drawiadol. Cafodd y twnnel ei fesur a'i gynlluniau eu paratoi gan Isambard Kingdom Brunel, y peiriannydd enwog o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y pleidleisiodd y cyhoedd dros ei ddyfarnu'n ail Brydeiniwr enwocaf erioed. Ond yn fwyaf trawiadol, mae'n amlwg y gallai ailagor hwn fel llwybr teithio llesol ateb nifer o'r heriau a nodwyd gan ein hadroddiad.
Yn unol â'n hargymhelliad cyntaf, er mwyn i uchelgais y Ddeddf teithio llesol gael ei wireddu, buaswn yn dadlau'n gryf ein bod angen cynlluniau blaenllaw sy'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ysbryd y Ddeddf. Ac yn y £0.25 miliwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygu'r gwaith o ailagor twneli Abernant a Rhondda, rydym yn dechrau gweld hyn yn cychwyn. At hynny, ac yn unol â'n trydydd argymhelliad, cyflwyna'r twnnel ffordd arloesol ac unigryw o ddenu pobl nad ydynt fel arfer yn cerdded neu'n beicio. Wedi imi fod yn siarad am y twnnel, neu'n sôn amdano ar y cyfryngau cymdeithasol, crëwyd cyffro go iawn yn y gymuned leol. Rwy'n credu y byddai twnnel Abernant nid yn unig yn denu cerddwyr a beicwyr, ond byddai hefyd yn annog pobl i gerdded drwy'r adeilad hanesyddol hwn.
Mae'r gwaith partneriaeth sy'n sail i gynnydd ar y twnnel hyd yma hefyd yn cyflawni argymhelliad 5 yn gampus. Er mwyn inni gyrraedd lle rydym, cafwyd ymgysylltiad ac ymwneud â Sustrans, gyda chwmnïau lleol yn fy etholaeth a'r cynghorau. Credaf hefyd y byddai ailagor twnnel Abernant yn helpu, yn rhannol, i gyflawni argymhelliad 20 o ran seilwaith. Un dadl gyffredin a wnaed gennyf fi ac ACau eraill y Cymoedd yw y dylai rhwydweithiau trafnidiaeth wneud mwy na rhedeg o'r gogledd i'r de yn unig, gan wneud cymunedau balch y Cymoedd yn fawr mwy na maestrefi cymudwyr i'r brifddinas. Yn hytrach, mae angen inni feddwl am lwybrau cadarn a dynamig o'r dwyrain i'r gorllewin rhwng cymunedau'r Cymoedd. Gallai twnnel Abernant greu cysylltiad teithio llesol bywiog rhwng fy etholaeth a Merthyr Tudful.
Ar y pwynt hwn, mae'n werth cofio mai dim ond un twnnel yn unig y gellid ei addasu yw hwn. Pan wnaeth Sustrans waith ar 21 o dwneli rheilffordd segur, roeddent yn dweud bod Abernant yn ddeniadol gan fod ganddo botensial llawer iawn mwy na'r lleill ar gyfer newid y ffordd y mae pobl yn teithio. Mapiodd Sustrans ddata cyfrifiad a nodi'r niferoedd fawr o bobl a oedd yn teithio rhwng y ddau Gwm. ond roeddent hefyd yn nodi'r posibilrwydd o allu ailagor naw twnnel arall i fod yn llwybrau teithio llesol. A gallai hyn sicrhau'r newid moddol y mae'r pwyllgor yn galw amdano yn ein casgliad cyntaf.
Ar ben hynny, maent yn amlygu'r manteision y soniwn amdanynt yng nghasgliad 3. Er enghraifft, mae Sustrans wedi gwneud gwaith ar y posibilrwydd o ailagor twnnel Abernant fel llwybr teithio llesol i greu swyddi. Byddai cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu wrth i'r llwybr gael ei ailagor a'i drawsnewid ar gyfer teithio llesol, wrth wneud yn siŵr fod llwybrau cerdded a beicio i'r twnnel yn addas i'r diben ac wrth sicrhau bod y twnnel yn parhau i fod mewn cyflwr diogel a chroesawgar. Byddai addasu'r twnnel hefyd yn gwella cysylltiad â BikePark Cymru a llwybrau Cynon a Taf. Gallai hyn greu swyddi newydd o bosibl a diogelu gwaith gweithwyr presennol wrth i niferoedd yr ymwelwyr gynyddu.
Gallwn weld enghreifftiau lle mae llwybrau teithio llesol wedi cael yr effaith hon. Pan grëwyd Two Tunnels Greenway rhwng Caerfaddon a gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf fel llwybr beicio, yn seiliedig ar ran o hen reilffordd Gwlad yr Haf a Dorset, heidiodd pobl o bob cwr i ddathlu ei agoriad. Yn ogystal â dod yn llwybr a ddefnyddir yn helaeth gan bobl leol, mae'r twnnel hefyd wedi dod yn atyniad i dwristiaid ynddo'i hun. Daw llawer o ymwelwyr i weld y twnnel beicio hiraf yn y DU ar hyn o bryd, ac mae'r twnnel hwnnw'n fyrrach nag Abernant mewn gwirionedd.
Wrth gwrs, mae teithio llesol yn ymwneud hefyd â gwneud dewisiadau amgylcheddol gwell, a hybu iechyd a lles, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc. Fel y dywedais, i wneud hyn rhaid inni wneud cynnig mentrus ac arloesol. Mae rhoi anadl newydd i'n hen dwneli trên yn darparu cynnig o'r fath.
Cytunaf â'r rhai sy'n dweud nad ydym wedi gwneud digon mewn gwirionedd dros y pum mlynedd diwethaf. Roeddwn yn ymwneud â drafftio'r Ddeddf hon, ac mewn gwirionedd, mae ein cynnydd ar weithredu ac effaith wedi bod yn eithaf siomedig. Credaf fod yn rhaid inni bellach fynd ar drywydd y newid sy'n rhaid inni ei wneud yn gyflym—awgrymwyd £62 miliwn, rwy'n credu, gan Adam Price. Arian bach yw hwn—arian hollol ddibwys—o gymharu â'r taliadau a gaiff eu gorfodi gan y llysoedd, a fydd yn ein llusgo'n ôl am fethu â mynd i'r afael â'n llygredd aer. Felly, mae teithio llesol yn un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wneud rhywbeth am y llygredd aer sy'n llythrennol yn lladd rhai o'n dinasyddion, ac ni allwn barhau i fynd ar hyd y ffordd yr ydym yn mynd ar hyd-ddi ar hyn o bryd.
Pan oeddwn yn dod i'r Senedd y bore yma, fe basiais ddyn ar ffyn baglau a oedd yn hebrwng ei blentyn i'w ysgol. Roedd yn cerdded i'r ysgol. Mae'n fwy na thebyg nad oedd ganddo gar, ond a dweud y gwir, os gall ef wneud hynny, gall unrhyw un ei wneud. Nid oes unrhyw esgus dros ddefnyddio car i fynd ar deithiau byr i fynd â'u plentyn i'r ysgol. Nid yn unig eu bod yn cynyddu'r gwenwyn y mae eu plant yn ei gael, am eu bod mewn car, na phe baent ar y ffordd, ond hefyd maent yn gwneud y peth anghywir o ran gweddill y gymuned hefyd. Ac felly, rhaid inni ddefnyddio moron a ffyn i gael y newid y mae nifer o bobl wedi awgrymu bod angen i ni ei wneud.
Rwy'n cytuno â Julie Morgan fod nextbike wedi bod yn ddatblygiad gwych yn ein prifddinas. Cyflwynwyd nextbike yng Nghaerdydd yn fwy llwyddiannus nag yn unrhyw ddinas yn y byd. Ers mis Ebrill/mis Mai yn unig y maent wedi bod yn weithredol a bellach mae ganddynt—neu bydd ganddynt y penwythnos hwn—500 o feiciau ar waith, a 50 o fannau lle gallwch eu casglu a'u gadael. Ac mae ganddynt dechnoleg i sicrhau nad yw'n werth chweil i bobl geisio'u dwyn, oherwydd yn y broses byddant wedi'u difetha ac yna ni fydd modd eu defnyddio. Felly, credaf ei fod yn ddatblygiad gwych, ond nid yw'n ddigon. Mae'n rhaid inni newid agwedd pobl tuag at wneud teithiau bob dydd ar droed ac ar feic.
Rwy'n falch iawn o weld Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma, oherwydd teimlaf fod yr hyn a wnawn â'n pobl ifanc yn ein hysgolion yn allweddol i wneud y newid hwnnw, oherwydd mae angen inni sicrhau bod gwersi hyfedredd beicio mewn ysgolion yn ystyrlon, a'i fod yn arwain at bobl yn defnyddio'u beiciau ar gyfer cyrraedd yr ysgol. Anaml iawn y bydd plant yn beicio i'r ysgol, ac mae'n ymddangos i mi mai dyna un o'r pethau sy'n rhywbeth y dylai pob person ifanc gael y cyfle i wneud, a dylem gael cynlluniau benthyciadau i alluogi rhieni i brynu beic ar gyfer eu plant os nad ydynt yn gallu talu amdano i gyd ar unwaith. Hoffwn weld yr holl arweinwyr ysgol yn gorfod darparu cynlluniau teithio llesol i bob un o'u hysgolion, a'i gwneud yn glir fod hyn i'w ddisgwyl—mai dyna sut y bydd disgyblion yn teithio i'r ysgol.
Ni allwn barhau fel y gwnawn ar hyn o bryd. Ni allwn gyflawni 'Cymru Iachach', sef ein strategaeth ddiweddaraf ar gyfer gwella'r GIG, oni bai ein bod yn newid ymddygiad pobl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog arweinyddiaeth lawer mwy egnïol i wneud y newidiadau sydd eu hangen, oherwydd yn rhy aml, nid yw'r peirianwyr priffyrdd hyn yn bobl sy'n beicio. Pan euthum adref ddydd Llun, gwelais arwydd newydd yn dweud—wrth imi ddod at bont Sblot—'Beicwyr yn ailymuno â'r ffordd'. Wel, ailymuno â'r ffordd yn y man culaf yw hynny pan allent fod yn aros ar y palmant, lle maent yn llawer mwy diogel. Felly, mae'n amlwg iawn nad yw pobl yn deall o hyd. Yn yr un modd, defnyddir alïau y mae Caerdydd wedi'i bendithio â hwy fel llwybrau tarw gan gerbydau yn y bore, ac mewn gwirionedd maent yn gwthio pobl sy'n cerdded i'r ysgol oddi ar y llwybr. Ni ddylent fod yno o gwbl. Mae angen inni ddefnyddio ein halïau fel lonydd beicio a llwybrau cerdded diogel.
Gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi sicrwydd inni y bydd newid sylfaenol yn digwydd yn y polisi, nid yn lleiaf oherwydd bod angen inni gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd a lleihau ein hallyriadau trafnidiaeth, a dyma un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wneud hynny.
Fel y Gweinidog ar y pryd a hebryngodd y Ddeddf teithio llesol drwy'r Cynulliad, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi gwneud y gwaith craffu ar ôl deddfu hwn. Fel y dywedwyd, roedd yn bolisi a ddaeth drwy'r gymdeithas ddinesig, gyda Sustrans yn amlwg yn chwarae rôl allweddol iawn. Roedd yn tarddu o, ac yn cael cefnogaeth gan y Gymru ehangach, ac roedd yn dda iawn ei datblygu a'i rhoi ar y llyfr statud, ond mae'n amlwg yn siomedig iawn gweld, o ran ei gweithrediad, tua pum mlynedd yn ddiweddarach, nad ydym wedi gweld cynnydd mewn cerdded a beicio, na gwell seilwaith yn wir, fel yr oeddem wedi disgwyl.
Rwy'n credu bod arweinyddiaeth wleidyddol yn gwbl allweddol i hyn—arweinyddiaeth wleidyddol i sicrhau ein bod yn cael y gweithrediad sydd ei angen ar gyfer y newid sylweddol a fydd yn cyflawni'r gwelliannau i iechyd, lles, yr amgylchedd, yr economi ac ansawdd bywyd y mae pawb ohonom am eu gweld. Mae'r Aelodau yn rheolaidd yn codi'r pwyntiau hyn gyda Ken Skates ac yn wir, gyda Gweinidogion eraill, gan ddangos, rwy'n credu, fod consensws ar draws y Siambr i gael y ffocws a'r blaenoriaethau sydd eu hangen. Yng ngoleuni hynny, Ddirprwy Lywydd, rhaid imi ddweud fy mod yn falch iawn fod Ken Skates wedi ymrwymo arian ychwanegol—er fy mod yn cytuno ag eraill fod yna ffordd bell i fynd o hyd—a'i fod hefyd yn awyddus iawn o ran y cyhoeddiadau a'r datganiadau a wnaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill sy'n ymateb yn y ffordd iawn i'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau a sefydliadau allanol. Credaf fod Ken Skates yn dangos y newid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol, ariannu gwell a mwy o ffocws a blaenoriaethu wrth inni symud ymlaen. Yn amlwg, yr her yw gyrru hynny ar draws Llywodraeth Cymru ac yn wir, ledled rhengoedd y gwasanaeth sifil, gan gynnwys y peirianwyr trafnidiaeth, a gwneud yn siŵr hefyd fod newid diwylliant o'r fath yn digwydd yn ein hawdurdodau lleol, lle mae angen arweinyddiaeth awdurdodau lleol ar ran yr arweinwyr, aelodau cabinet a'u pobl trafnidiaeth i ddeall beth sydd angen ei gyflawni a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni.
Rwy'n cytuno ag eraill hefyd, Ddirprwy Lywydd, ynghylch pwysigrwydd ysgol a gwaith, am mai teithio pwrpasol oedd y nod o'r cychwyn cyntaf. Ar hyn o bryd, ni cheir rhaglen ar gyfer gweithleoedd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru i yrru'r newid sydd ei angen yn niwylliant ein gweithleoedd. Mae'r cyllid ar gyfer ysgolion drwy Sustrans yn bwysig iawn ac yn wir, yn cyflawni cynnydd o 9 y cant ar gyfartaledd mewn teithio llesol dros 12 mis cyntaf y rhaglen, ond nid yw ond yn cyrraedd 8 y cant o'r ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd, felly rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar hynny, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod rhagor o ysgolion yn ymwybodol o arferion gorau. Pan ewch i rai ysgolion cynradd yn awr, yn y blynyddoedd cynharaf mae ganddynt feiciau cydbwysedd, maent yn eu darparu ar gyfer y plant nad oes ganddynt feiciau yn y cartref o bosibl, mae'r hyfforddiant yn digwydd—wyddoch chi, mae'n rhoi dechrau da iawn iddynt. Ceir hyfforddiant hyfedredd yn ddiweddarach, fel y soniodd Jenny Rathbone, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod arferion da i'w gweld ym mhob un o'n hysgolion. Ac mae angen inni wneud yn siŵr, oes, fod seilwaith o'n cwmpas i'w gwneud yn ddiogel i deithio, i feicio a cherdded, yn y ffordd yr ydym am ei weld. Yng Nghasnewydd mae llawer mwy o feicio ar hyd glan yr afon bellach ar lwybr Sustrans o ganol dinas Casnewydd i Gaerllion, er enghraifft, am eu bod yn llwybrau oddi ar y ffordd sy'n safonol a diogel. Ond mae angen inni ddarparu llawer mwy o'r cyfle hwnnw yng Nghasnewydd a ledled Cymru.
Ddirprwy Lywydd, un mater arall yr hoffwn sôn amdano'n gyflym, i adleisio'r hyn a ddywedodd David Melding, yw'r parthau 20 mya. Rwy'n credu, ac mae momentwm cynyddol y tu cefn i hyn—mae digwyddiadau wedi'u cynnal ac yn mynd i gael eu cynnal yng Nghymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod i wneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn yng Nghymru, gan symud oddi wrth hynny ar sail amgylchiadau penodol ffyrdd penodol, gyda'r awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniadau hynny. Ond byddai'n derfyn 20 mya diofyn a fyddai'n gymwys ledled Cymru, a chredaf y dylai Llywodraeth Cymru roi'r polisi hwnnw ar waith. Lle mae wedi digwydd, megis Bryste, er enghraifft, maent wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded a beicio oherwydd mae'n fwy diogel i wneud hynny bellach, ac oherwydd ei fod wedi bod yn rhan o'r newid angenrheidiol yn y diwylliant.
Felly, mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n falch iawn fod Ken Skates wedi dangos blaenoriaeth, ffocws ac ymrwymiad newydd ar ran Lywodraeth Cymru, ac mae angen inni eu gweld ar waith.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf fi hefyd yn edrych ymlaen at gyfarch y beicwyr i'r Senedd pan fyddant yn ymweld yn fuan. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â dirprwyaeth ohonynt. Rwy'n gobeithio y byddant yn cyrraedd yn ddiogel ac yn gwneud fel y mae Geraint Thomas a llawer o bobl eraill yn ei annog, sef gwisgo helmed. Wrth siarad am ddiogelwch, fodd bynnag, y realiti, fel y dywedodd David Melding, yw ei bod hi'n hynod o ddiogel i seiclo ac i gerdded, ac eto cawn ein peledu ar sail ddyddiol gan ddelweddau a negeseuon sy'n ein hannog i deimlo'n anniogel yn ein bywydau bob dydd, oherwydd bod llawer o bobl am fanteisio ar deimlad o ansicrwydd. Dyna pam fod SUVs wedi dod yn ffordd mor boblogaidd o deithio—oherwydd ein bod yn cael ein hannog gan hysbysebwyr i gredu, oni bai eich bod yn uwch nag eraill, fod eich plant mewn perygl neu eich bod chi mewn perygl. Y gwir amdani yw ein bod yn fwy diogel heddiw yn beicio neu'n cerdded nag y buom erioed, a'r realiti, yn groes i'r hyn a ddywedir wrthym yn barhaus sef bod pawb ohonom yn byw bywydau anhygoel o brysur, yw bod llawer ohonom yn gallu dod o hyd i'r ychydig bach o amser ychwanegol i feicio neu i gerdded i'r gwaith neu i'r ysgol, neu at y gwasanaethau yr ydym—[Torri ar draws.] Iawn, yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. O ran diogelwch, credaf eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer o'r cwestiynau sy'n codi ynglŷn â diogelwch yn ymwneud â chanfyddiad, ond mae'n broblem go iawn i fenywod a merched sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a beicio a cherdded, yn enwedig yn y nos. A gaf fi eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i ni yrru'r agenda teithio llesol hon yn ei blaen, i wneud yn siŵr fod y pryderon dilys hynny—ac maent yn beryglon dilys—yn cael sylw, a materion fel goleuo yn benodol, a sicrhau bod llwybrau sy'n mynd drwy ardaloedd lle mae pobl, lle nad ydych ar eich pen eich hun os ydych chi'n beicio a cherdded yn ystod y nos fel menyw, yn rhan awtomatig o'r modd y datblygir y cynlluniau hynny?
Yn hollol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Ceir materion penodol sy'n arbennig o berthnasol ac yn broblem arbennig i fenywod a merched. Credaf y buaswn hefyd yn cynnwys yr henoed yn hynny ac mae'n rhywbeth rwy'n ymwybodol iawn ohono. Ond mae'n anodd weithiau i wthio'n erbyn y symiau enfawr o arian sy'n cael ei wario ar ein hannog i deimlo'n llai diogel yn ein bywydau bob dydd. Fodd bynnag, os ceir màs critigol, fe allwch chi newid ymddygiad, cyhyd â bod hynny'n gysylltiedig â seilwaith mwy diogel, mwy cyfleus. Yna gallwch weld y math o ddatblygiadau a welsom yn Copenhagen, ac yng Nghaerdydd yn wir. Rwy'n siŵr y bydd Lee Waters yn gallu mynegi barn ynglŷn ag a yw'n fwy diogel i feicio a cherdded yng Nghaerdydd heddiw nag 20 mlynedd yn ôl. Fy ngobaith i fyddai ei bod hi'n sicr yn fwy diogel, a buaswn yn pwyso ar bob Aelod i annog, nid yn unig eu hetholwyr eu hunain, ond y bobl y maent yn ymgysylltu â hwy ar sail ddyddiol, i deithio mewn modd mor llesol ag y gallant.
Rwy'n credu'n bendant fod y Ddeddf teithio llesol yn llwyddiant mawr. Mae'n rhywbeth rwy'n arbennig o falch ohono ac ni chredaf y dylem danbrisio'r effaith a gafodd y Ddeddf eisoes. Mae wedi cyflawni rhywbeth na wnaethpwyd erioed o'r blaen yng Nghymru. Ac ers ei chychwyn bedair blynedd yn ôl, mae'r Ddeddf wedi arwain at ddatblygu cynlluniau'n systematig ar gyfer rhwydweithiau cerdded a beicio diogel ar gyfer yr holl drefi mwy a chanolig eu maint a phentrefi yng Nghymru—mwy na 140 ohonynt.
Credaf fod creu'r cynlluniau yn gyflawniad allweddol, ond nid ydym wedi rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn seilwaith yn y cyfamser. Yn y pedair blynedd ariannol ers gwneud y Ddeddf, rydym wedi buddsoddi mwy na £60 miliwn mewn seilwaith cerdded a beicio o'r cyllidebau trafnidiaeth yn unig. Mae'r ffigur yn cynnwys cyllid ar gyfer tua 125 o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a thua 70 o gynlluniau'r gronfa trafnidiaeth leol sy'n canolbwyntio ar deithio llesol. Ond nid yw'r arian hwnnw'n cynnwys gwelliannau ehangach a ariannwyd gennym fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd, cyfyngiadau terfyn cyflymder a chynlluniau trafnidiaeth integredig.
A nawr bod y cynlluniau yn eu lle, rydym yn cyflymu'r gwaith o greu llwybrau teithio llesol. Eleni, rydym eisoes wedi dyrannu mwy na £22 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer gwelliannau teithio llesol lleol drwy ein grantiau trafnidiaeth lleol ac wedi addo £50 miliwn pellach ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol fel rhan o'r gronfa teithio llesol, ar ben y £10 miliwn ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Ac fel y dywedodd Julie Morgan, byddwn yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar wella gorsafoedd trên a gorsafoedd bysiau yng Nghymru, gyda'r nod o wella cyfleoedd i bobl fabwysiadu arferion teithio llesol.
Nawr, rwy'n cydnabod, fel yr amlygwyd gan argymhellion y pwyllgor, y gellid ac y dylid gwella prosesau. Rwy'n credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yn dangos ein parodrwydd i wneud hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gyda Sustrans a phartneriaid eraill i ystyried ac i ddysgu o brofiad y camau cynnar a llywio camau dilynol y broses. Byddwn yn nodi gwelliannau pellach y gellir eu gwneud i'r broses.
Eisoes rydym wedi cryfhau cynrychiolaeth awdurdodau lleol ar y bwrdd teithio llesol, fel yr argymhellwyd, ac rydym wedi croesawu cynrychiolaeth ranbarthol newydd yng nghyfarfod diwethaf y bwrdd ym mis Mehefin. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn aelod parhaol o'r bwrdd teithio llesol bellach ac rwyf wrth fy modd fod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio arweinydd teithio llesol dynodedig i adeiladu capasiti arbenigol yn y sefydliad, fel y trafodwyd gyda'r pwyllgor yn gynharach eleni.
Ac roeddwn yn cytuno gyda'r pwyllgor fod yn rhaid gweithredu'r Ddeddf mewn modd integredig. Derbynnir yn gyffredinol fod gan deithio llesol botensial i sicrhau manteision uniongyrchol mewn ystod eang o feysydd, ac mae hyn yn golygu nad mater trafnidiaeth yn unig neu hyd yn oed yn bennaf yw cynyddu lefelau teithio llesol, fel y dywedodd Lee Waters. O'm rhan i, nid wyf yn cerdded a beicio'n rheolaidd er mwyn ysgafnhau traul ar fy nghar nac i arbed costau ar danwydd; rwy'n ei wneud er fy lles meddyliol ac emosiynol a chorfforol fy hun. Ac rwy'n credu bod Vikki Howells wedi gwneud achos cryf iawn dros fuddsoddi mewn teithio llesol er mwyn gwella iechyd a lles ar draws y wlad.
Rwy'n gweld gwerth mewn partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae teithio llesol yn eu cynnig, yn enwedig ym maes iechyd y cyhoedd, a hefyd rwy'n bwriadu cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i drafod beth arall y gellir ei wneud yn ein meysydd cyfrifoldeb ein hunain. Credaf fod Lee Waters wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, oherwydd mae'n arbennig o bwysig ein bod yn sicrhau bod newid ymddygiad yn cael ei drin gyda'r difrifoldeb mwyaf, ar draws y Llywodraeth ac ar draws llywodraeth leol, ac yn wir ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyd.
Buaswn yn bendant yn cytuno â John Griffiths fod yn rhaid inni annog cyflogwyr i wneud mwy i annog eu gweithwyr yn eu tro i ymgymryd â theithio llesol. Mae pedwar amod ynghlwm wrth y contract economaidd. Felly, bydd unrhyw fusnes sy'n awyddus i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gorfod cydymffurfio â hynny. Wel, mae dau o'r amodau'n ymwneud â datgarboneiddio a gwelliannau i iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu gweithwyr. Wrth gwrs, mae dechrau ymgymryd â theithio llesol, annog teithio llesol, gan fuddsoddi mewn seilwaith yn y gweithle sy'n galluogi gweithwyr i feicio neu gerdded i'r gwaith yn un ffordd o ddatgarboneiddio'r busnes ac mae'n ffordd arall o wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol cyflogeion, felly lluniwyd y contract economaidd i wneud hynny.
Nawr, yr hyn a ddaeth yn amlwg yn glir iawn o waith y pwyllgor oedd yr angen i wella ymgysylltu ac ymgynghori o fewn y broses teithio llesol, a chytunaf â phwysigrwydd ymgynghori nid yn unig gyda rhai sy'n ymgymryd â theithio llesol ar hyn o bryd, ond hefyd gyda rhai y gellid eu perswadio i roi cynnig arni pe bai'r amodau'n iawn.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ond dylwn ddweud ein bod hefyd ar y camau cynnar o ddatblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Bydd y strategaeth honno'n amlinellu ein polisïau strategol ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau effeithiol ac economaidd sy'n ddiogel, yn integredig, ac yn gynaliadwy. Wrth gwrs, bydd cerdded, beicio a dulliau eraill cynaliadwy yn ffocws i'r strategaeth hon.
Yn olaf, mae llawer o'r Aelodau yn hoffi pregethu, weithiau, wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y dylem ac y gallem wneud mwy, ond fy nghwestiwn yn ôl i'r Aelodau yw gofyn i chi sut y gallwch chi wneud mwy hefyd fel arweinwyr gwleidyddol, fel arweinwyr dinesig. Fel y dywedodd Russell George, mae'n ymwneud â mwy nag arian—mae'n ymwneud ag ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys eich ymddygiad chi fel arweinwyr dinesig, felly buaswn yn annog pob Aelod i fod yn gyson â'r hyn y maent yn ei ddweud trwy ymgymryd â theithio mwy llesol o ran y ffordd y maent hwy eu hunain yn teithio, i ddangos arweiniad gwleidyddol eu hunain ac i arwain drwy esiampl a beicio a cherdded yn fwy rheolaidd, fel y gwn fod pobl fel Jenny Rathbone yn ei wneud—sef cerdded y llwybr ei hun ac nid siarad am wneud hynny'n unig.
Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd hi'n ddiddorol—nid oeddwn wedi ystyried y ffaith mai 11 mlynedd yn ôl y cyflwynwyd y ddeiseb, gyda Lee Waters yn cyflwyno'r ddeiseb honno, nid fel Aelod o'r sefydliad ar y pryd, ond ar ran y bobl a'i llofnododd, a mai dyna oedd dechrau'r daith i deithio llesol.
Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad a'r rhai a fynychodd y grwpiau ffocws, ac wrth gwrs i'r 2,500 o bobl a ymatebodd i arolwg ein pwyllgor, ac a ddywedodd yn glir iawn beth oedd y rhwystrau i deithio llesol, sef diogelwch—mater y canolbwyntiodd Ysgrifennydd y Cabinet arno yn ei gyfraniad, roeddwn yn falch o glywed. Hoffwn ddiolch i bob aelod o'r pwyllgor am eu cyfraniadau heddiw, a hefyd i dîm clercio'r pwyllgor, yn ogystal â'r tîm allgymorth, am eu cymorth mawr.
Canolbwyntiodd Mark Isherwood ar gydgynhyrchu fel ffordd o alluogi beicwyr a cherddwyr i helpu i lunio seilwaith, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig. Wrth gwrs, cawsom argymhelliad ar y pwynt hwn, a chefais fy atgoffa, pan siaradodd Julie Morgan, am lwybr Taf. Cawsom enghraifft, mewn gwirionedd, gan un tyst a ddywedodd wrthym am y rhwystrau ffisegol ar lwybr Taf a oedd yn ei atal rhag defnyddio ei feic a addaswyd ar y llwybr hwnnw. Byddai cydgynhyrchu wedi atal yr angen i symud y rhwystrau hynny ar ôl y digwyddiad ar gost ychwanegol.
Rwy'n credu bod Adam Price wedi sôn yn briodol am enghraifft Copenhagen, ond byddai'n afrealistig iawn yn fy marn i inni ddisgwyl y newid sylweddol sydd ei angen arnom dros nos, neu dros bum mlynedd hefyd. Ni fyddai neb yn disgwyl i Gaerdydd droi'n Copenhagen dros nos, ond byddem yn disgwyl i fwy fod wedi digwydd ac i fwy o gynnydd fod wedi'i wneud. Ond credaf fod Adam yn gywir i nodi, yn amlwg, fod Copenhagen ar un adeg yn arfer bod lle'r ydym ni.
Lee Waters, diolch am eich cyfraniad. Wrth gwrs, roeddech yn aelod gwerthfawr o'r pwyllgor ar yr adroddiad hwn, ac wrth lunio ein hadroddiad a'n hargymhellion. Ni wnaf sylwadau ar y term 'disylwedd' a gafodd ei drafod ychydig o weithiau, ond buaswn yn cytuno â David Melding fod y defnydd cynyddol o 'derbyn mewn egwyddor' mewn perthynas ag argymhellion pwyllgor yn rhwystredig iawn. Nid wyf yn credu bod hyn yn dda i graffu, a rhaid imi ddweud fy mod yn gobeithio y bydd Gweinidogion yn ystyried y defnydd o 'derbyn mewn egwyddor'—rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei ben i gytuno â hynny, felly rwy'n hapus o weld hynny.
Vikki Howells, nid oeddwn wedi sylweddoli cymaint o dwneli rheilffordd sydd yna yn eich etholaeth chi, felly diolch i chi am eich cyfraniad. Jenny Rathbone, rydych yn fath o aelod mabwysiedig o'n pwyllgor—rydych yn siarad ar y rhan fwyaf o'n hadroddiadau pwyllgor, rwy'n falch o ddweud. Fe wnaethoch y pwynt eich bod yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma, sy'n atgyfnerthu'r pwynt, rwy'n credu, fod hon yn ddeddfwriaeth drawsbynciol nad yw'n perthyn yn unig i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r seilwaith.
Credaf ei bod hi'n iawn inni fod yn gadarnhaol fod teithio llesol yng Nghymru wedi dechrau ar ei daith, ond ar gyfer y camau nesaf mae angen i wleidyddion etholedig, yn y Llywodraeth ac mewn llywodraeth leol gymryd cyfrifoldeb—ac rwy'n derbyn her Ysgrifennydd y Cabinet i bawb ohonom ni yn ogystal. Credaf fod angen inni ddangos arweiniad i'n cymunedau, mae angen inni weithio gyda phobl leol i ddatblygu'r llwybrau teithio llesol a ddymunant, ac mae angen inni ddarparu'r arian sydd ei angen, a chredaf mai dyna oedd casgliad cyfraniad David Rowlands. Mae angen inni gael yr adnoddau i adeiladu seilwaith effeithiol a chefnogi'r newid diwylliannol yr ymrwymodd y Cynulliad hwn iddo pan basiodd y Ddeddf teithio llesol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei fod yn credu bod y Ddeddf hon wedi bod yn llwyddiannus, ond rwy'n gobeithio ymhen pum mlynedd y gallwn edrych yn ôl ar y degfed pen-blwydd ac y gall pawb ohonom gytuno bryd hynny fod y Ddeddf teithio llesol wedi bod yn ddeddfwriaeth lwyddiannus. Mae gennym Ddeddf sydd â photensial i drawsnewid y ffordd y mae Cymru yn symud. Nawr mae angen inni weithredu fel bod Cymru yn teithio'n llesol mewn ffordd a all drawsnewid ein hiechyd a'n lles. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.