– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 24 Hydref 2018.
Eitem 6 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu , 'Taro'r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o ddechrau’r drafodaeth hon ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Taro'r Tant', ar ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati. Waeth beth fo ein cefndiroedd, ein proffesiynau, neu ein teyrngarwch, rwy’n siŵr ein bod ni oll, ar ryw adeg, wedi cael boddhad a balchder mawr yn statws ein gwlad fel 'gwlad y gân'. Mae cerddoriaeth yn amlwg iawn yn hanes Cymru erioed. Wel, beth pe bai’r statws hynny yn newid?
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ym mis Rhagfyr 2016, eglurodd Dr Owain Arwel Hughes, sylfaenydd Proms Cymru, a chyn arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, fod y toriadau i wasanaethau cerddoriaeth ysgol, a'r diffyg cyfleoedd dysgu o ganlyniad i hynny, yn peri'r hyn a ddisgrifiodd fel argyfwng mewn addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Adlewyrchwyd pryderon Dr Hughes hefyd yn arolwg cyhoeddus y pwyllgor. Yn haf 2016, gofynnwyd i'r cyhoedd bleidleisio ar beth ddylai ein hymchwiliad nesaf fod. O'r 11 opsiwn, daeth arian ar gyfer addysg cerddoriaeth i'r brig.
Nid diwylliant a threftadaeth Cymru yn unig sy'n manteisio o addysg cerddoriaeth. Mae addysg cerddoriaeth yn effeithio'n gadarnhaol mewn cymaint o ffyrdd ar ddatblygiad plentyn. Eto ac eto, dywedwyd wrthym gan y rhai a roddodd dystiolaeth, fod addysgu cerddoriaeth yn eu hysgolion yn dysgu gwerth pethau fel ymrwymiad estynedig, amynedd, a gwaith caled i blant yn eu blynyddoedd ffurfiannol—yn ogystal â disgyblaeth. Bydd adran bres llawer o gerddorfeydd ledled Cymru yn deall pam y mae angen disgyblaeth—nid oes angen imi ddweud wrthynt yma heddiw. Ar ôl eu caffael, dyma rinweddau y gellid eu defnyddio mewn nifer di-ben-draw o feysydd a disgyblaethau.
Fel cerddor fy hun, a dyfodd drwy system y gwasanaeth cerddoriaeth, gallaf dystio bod y datganiadau hyn yn wir. Drwy addysg cerddoriaeth, cefais gyfleoedd a phrofiadau anhygoel, a gyfoethogodd fy addysg. Maent yn brofiadau yr wyf yn eu gwerthfawrogi hyd at heddiw.
Cafodd pethau fel teithio dramor yn rhan o dîm a chwarae peth o gerddoriaeth gerddorfaol enwocaf y byd effaith bendant a chadarnhaol arnaf, mewn ffyrdd rwy'n dal i elwa ohonynt heddiw. Ac ni allaf wrando ar Mahler 1 heb gael atgofion melys iawn o fy nghwrs cerddorfa ieuenctid cenedlaethol diwethaf. Fel y cyfryw, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i fanteisio ar yr hyn a oedd yn rhan mor werthfawr o fy addysg fy hun. Mae'r amser wedi dod i beidio â phapuro dros y craciau, ond i feddwl am atebion radical yn wyneb toriadau parhaus a hirsefydlog i'r gwasanaethau hyn, a Wrecsam yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o doriadau a arweinir gan awdurdodau lleol yn y maes hwn.
Fel y soniais yn gynharach, deilliodd yr ymchwiliad o arolwg barn cyhoeddus a ddefnyddiwyd gennym i ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru beth ddylai ein hymchwiliad nesaf fod. Hwn oedd y tro cyntaf i bwyllgor Cynulliad drosglwyddo penderfyniad o'r fath yn uniongyrchol i bobl Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr hyn a oedd, i ni fel pwyllgor, yn ymarfer gwerthfawr iawn, mor werthfawr, yn wir, fel ein bod wedi penderfynu ei wneud eto dros yr haf ar bwnc hollol wahanol.
Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl bod gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn wynebu, neu'n mynd i wynebu, argyfwng os na weithredwn yn awr. Oni roddir camau brys ar waith, rydym yn edrych ar ddiraddio'r gwasanaethau hanfodol hyn ymhellach. Yn ddiweddar, mewn papur at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan grynhoi effaith bosibl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau llai o faint fel cerddoriaeth yn dod i ben.
Os nad ydynt wedi dod i ben eisoes wrth gwrs.
Roedd dwy o'r prif themâu a gyflwynwyd trwy gydol yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gydraddoldeb mynediad a darpariaeth gyfartal. Dywedwyd wrthym yn gyson fod lefel y gwasanaethau sydd ar gael yn ddibynnol iawn ar yr ardal y mae'r disgybl yn byw ynddi, gydag awdurdodau lleol yn cynnig lefelau gwasanaeth gwahanol tu hwnt. Mewn rhai ardaloedd, trosglwyddir cost hyfforddiant yn gyfan gwbl i rieni, gan arwain at sefyllfa lle mae'r disgyblion o gefndiroedd tlotach yn cael cynnig llawer llai o gyfleoedd na'r rhai y mae eu rhieni'n gallu ei fforddio. Mae'r sefyllfa'n gwbl annerbyniol.
Mae sicrhau digon o arian ar gyfer y gwasanaethau hyn yn amlwg yn fater pwysig. Fodd bynnag, clywsom gan y sector ei fod yn dioddef o ddiffyg cyfeiriad strategol—felly nid yw'n ymwneud yn gyfan gwbl ag arian—a bod hyn hefyd wedi cyfrannu at natur amrywiol y gwasanaethau sydd ar gael. O ganlyniad, rydym wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r cyfeiriad strategol hwn.
Felly, argymhelliad canolog ein hadroddiad yw bod Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich. Gellid trafod sut beth fyddai hwnnw, wrth gwrs. Er bod y pwyllgor yn gefnogol i'r egwyddor o wneud penderfyniadau'n lleol, ac y byddai angen i hynny fod yn ffactor, nid yw'r system bresennol, o'i roi'n syml, yn gweithio. Mae gwasanaethau cerddoriaeth, o fod yn anstatudol, yn dadfeilio o dan bwysau cyllidebau awdurdodau lleol sy'n lleihau.
Rwy'n falch iawn o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, yn amodol ar ganlyniad astudiaeth ddichonoldeb. Fodd bynnag—ac mae yna 'fodd bynnag'—nid yw rhoi penderfyniad terfynol ar ganlyniad yr ymarfer hwn i awdurdodau lleol, sydd eisoes â budd yn hyn—fel y nodir yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i ni fel pwyllgor—yn rhywbeth y byddem yn awyddus i'w weld yn fy marn i. Credaf ei bod yn bryd i'r Llywodraeth gymryd rheolaeth ar y sefyllfa hon yn ganolog er mwyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen a'i rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Bu'r pwyllgor yn ystyried opsiynau eraill. Buom yn trafod llawer ar glustnodi cyllid ar gyfer cerddoriaeth o fewn cyllidebau awdurdodau lleol, neu wneud darparu gwasanaethau'n rhwymedigaeth statudol. Daethom i'r casgliad ein bod eisiau cynnig syniadau gwahanol yn ateb a fyddai'n hirsefydlog ar gyfer y dyfodol. Mae'n amlwg fod ariannu'n bryder mawr. Oni bai ein bod yn mynd i'r afael ag ariannu, bydd problemau megis natur amrywiol y ddarpariaeth yn debygol o barhau. Dyma pam y galwasom ar y Llywodraeth i roi'r cyllid angenrheidiol i'r corff cenedlaethol arfaethedig allu cynnal mynediad a darpariaeth gyfartal ar lefel Cymru gyfan. Beth bynnag fydd canlyniadau astudiaeth ddichonoldeb Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn disgwyl i unrhyw system newydd gael ei hariannu'n ddigonol ac i gael cyllid craidd wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru.
Argymhelliad canolog arall yn ein hadroddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn cymryd perchnogaeth strategol o wasanaethau cerddoriaeth trwy ymgynghori â rhanddeiliaid er mwyn creu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth.
Mae absenoldeb cyfarwyddyd o'r fath wedi arwain at anghysondeb a chymhlethdod. Mae angen cyfarwyddyd yn awr ar frys er mwyn osgoi dirywiad pellach y gwasanaethau sydd ar gael. Nid yw hyn yn golygu mai'r gwasanaethau eu hunain yw'r unig bethau yr effeithir arnynt gan ddiffyg strategaeth gyffredinol. Mae telerau ac amodau staff y sector yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau. Rhaid rhoi sylw i hyn hefyd. Byddai cysondeb mewn perthynas â thelerau ac amodau staff yn caniatáu ymagwedd fwy cydweithredol tuag at ddarpariaeth, gan alluogi awdurdodau lleol i gydlynu gwasanaethau a rhannu adnoddau. Gellid defnyddio strategaeth o'r fath hefyd i gyflwyno mesurau a thargedau perfformiad er mwyn sicrhau safonau cyfatebol ledled Cymru. O'r herwydd, er fy mod i'n siomedig fod yr argymhelliad hwn wedi'i wrthod, yn ôl pob golwg, rwy'n credu, ar y sail nad oedd y gair 'addysg' yn y teitl ar ein cynllun arfaethedig, rwy'n falch fod byrdwn yr argymhelliad yn cael ei ystyried yn astudiaeth ddichonoldeb Ysgrifennydd y Cabinet.
Fodd bynnag, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei henw dan ragair yr adroddiad flwyddyn yn ddiweddarach ar y gwasanaethau cerdd, felly nid wyf yn deall pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet, drwy wrthod argymhelliad 2, wedi datgan nad yw'n credu y dylai gymryd cyfrifoldeb strategol am wasanaethau cerddoriaeth, gan eu bod y tu allan i'w phortffolio. A beth bynnag, rwy'n credu bod llawer o enghreifftiau wedi digwydd eisoes o fewn Llywodraeth Cymru o Weinidogion yn mabwysiadu arweiniad strategol ar bethau nad ydynt yn eu portffolio'n llwyr. Gwn ei bod hi wedi gwneud cyhoeddiadau mewn perthynas â'r gwaddol ac arian ychwanegol ar gyfer offerynnau. Felly, rwy'n credu ei bod wedi arwain drwy esiampl yn hynny o beth.
Mae'n amlwg yn yr adroddiad ein bod yn sôn am gynllun ar gyfer addysg cerddoriaeth. Felly, rwy'n credu bod gwrthodiad Ysgrifennydd y Cabinet o argymhellion 2, 6, 8 a 12, sydd oll yn ymwneud â'n cynllun gweithredu cenedlaethol arfaethedig ar gyfer cerddoriaeth, braidd yn fyrbwyll. Awgrymaf fod yr argymhellion wedi'u cymryd allan o gyd-destun, ond byddaf yn falch o glywed beth yw dadansoddiad Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithiaf y gallwn ddod i gasgliad cadarnhaol.
Wrth gwrs, rydym wedi croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd pob cyngor yn derbyn £10,000 ychwanegol ar gyfer prynu offerynnau cerdd. Nodwyd prinder offerynnau cerdd yn ystod ein hymchwiliad fel un mater ymysg llawer o faterion mwy o faint. Ond rwy'n credu bod gan bob awdurdod lleol broblemau unigryw a chlywsom gan wasanaethau cerddoriaeth lleol fod angen inni ystyried y cyflenwad presennol, y boblogaeth ddisgyblion a lefel amddifadedd. Mae'r hyn y gall Merthyr Tudful ei wneud gyda £10,000 yn wahanol iawn i'r hyn y gall Caerdydd ei wneud gyda'r arian hwnnw.
Rydym yn croesawu creu Anthem, Cronfa Gerdd Cymru—gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn amlwg yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn un y gobeithiaf y bydd yn darparu rhan effeithiol o ateb mawr ei angen i'r argyfwng presennol, ac rwy'n siŵr y bydd gan gyd-aelodau'r pwyllgor, fel fi, ddiddordeb brwd yn hyn o beth.
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi agor deialog gyda mi er mwyn trafod ffordd ymlaen. Ac mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn adeiladol o ran eu cywair a hoffwn glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud yma heddiw mewn perthynas â hynny. Diolch i'r llu o randdeiliaid sydd wedi rhoi syniadau mewn perthynas â sut y gallwn godi'r pryderon hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at ei swyddogion yn uniongyrchol, gan ddweud sut yr hoffwn weld y £2 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn y cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru yn cael ei wario. Nid wyf am roi manylion hynny yma heddiw, ond gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet, naill ai heddiw, neu rywbryd yn y dyfodol agos, roi syniad inni o'i chynigion ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
I gloi, os ydym ni, fel cenedl, yn gwerthfawrogi ein treftadaeth gerddorol gyfoethog, ac yr hoffem ni i fanteision y rhan mor werthfawr hon o fywyd Cymru barhau am amser hir eto, rhaid inni weithredu nawr i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.
Mae gwerth cerddoriaeth i Gymru ac i'r rheini sy'n byw ac yn dysgu o fewn ein gwlad wedi bod yn ased pwerus ers talwm iawn, ac yn un sy'n creu balchder, llawenydd a boddhad i ni ac felly mae'n rhaid iddo barhau. Mae'n werthfawr eithriadol i'n sector diwydiannau creadigol, a chredaf fod yn rhaid cydnabod nad un sector yn unig o gymdeithas y mae'n effeithio arno, mae'n codi uwchlaw ein bywydau yma yng Nghymru ac yn treiddio trwy bob agwedd ar ein bywydau, boed trwy'r modd y gweithredwn yn awr fel gwleidyddion i'r modd y gallwn fwynhau amser y tu allan i'r lle hwn yn ein theatrau lleol, yn ein cyfleoedd cerddorfaol lleol.
Edrychaf ymlaen at glywed beth fydd gan bawb ohonoch i'w ddweud yma heddiw ac at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi gymryd eiliad fer i ddiolch i bawb ar y pwyllgor, gan gynnwys y rhai a fu'n gyd-aelodau i mi o'r pwyllgor ac aelodau o'r tîm clercio? Mwynheais fy amser ar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn fawr, ac er fy mod yn falch iawn o siarad am addysg yn awr, rwy'n mynd i gofio'r ddwy flynedd a hanner hynny, nid yn unig gyda hoffter, ond oherwydd i mi ddysgu cymaint yno sy'n mynd i fod yn werthfawr yn fy mhortffolio newydd, ac fe ddof at hynny wrth imi wneud fy nghyfraniad heddiw.
Digwyddodd yr ymchwiliad hwn am fod pobl Cymru wedi gofyn inni ei wneud, a gwn ei fod o ddiddordeb arbennig i'r Cadeirydd, ond ni sylweddolais fod cymaint o awydd i daflu goleuni ar yr hyn y gwelwyd ei bod yn sefyllfa sy'n codi ledled Cymru nes inni wneud yr apêl hon i'r cyhoedd yng Nghymru. Ac rwy'n dal i feddwl bod y ffordd arloesol hon o benderfynu ar ran o leiaf o'r hyn a fyddai'n waith i'r pwyllgor yn werthfawr iawn ac yn bendant yn werth i bwyllgorau polisi eraill ei hystyried. Gyda'r ymchwiliad penodol hwn yn unig, cynorthwyodd y broses i nodi'r angen am gyngor arbenigol, er enghraifft, na fyddech wedi bod yn ymwybodol ohono o'r blaen efallai, ac roedd hynny o gymorth inni ddeall bod angen inni gasglu rownd arall o dystiolaeth, a gwnaethom hynny, ar ôl canfod fod materion o bwys yn deillio o'r cylch casglu tystiolaeth gwreiddiol. Felly, gwledd symudol yn bendant, ond ffordd newydd o wneud pethau y credaf ei bod wedi sicrhau ein bod oll fel aelodau pwyllgor yn teimlo inni gael ein haddysgu'n briodol cyn i ni lofnodi argymhellion yr adroddiad.
Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rai o'r argymhellion yn unig, gan ddechrau gyda'r ddau gyntaf. Mae gwir angen i rywun gymryd cyfrifoldeb dros fodolaeth a llwyddiant gwasanaethau cerddoriaeth, ac rydym yn credu mai Llywodraeth Cymru a ddylai wneud hynny, yn bennaf o ganlyniad i'r nodau llesiant statudol sy'n effeithio ar lywodraeth bellach yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Roedd gennym ddiddordeb mewn amrywiaeth o fodelau cyflawni, a byddaf yn dychwelyd atynt, ond roeddem yn glir na ellir gadael hyn i gynghorau heb fawr o arian geisio achub y gwasanaethau hyn eu hunain—mae'r pwysau o ran ariannu gweithgareddau nad ydynt yn statudol ym mhob cyngor yn ddifrifol y dyddiau hyn—ac ni all ddibynnu ar ddiddordeb swyddogion allweddol mewn cynghorau, nac yn wir o fewn arweinyddiaeth ysgolion, er mwyn i'r gwasanaethau hyn fodoli o gwbl, mae'n ymddangos i mi. Nid yw'n ffordd ddiogel o sicrhau'r gwasanaethau hynny. Hefyd, cawsom siom braidd—credaf ichi sôn am hyn, Bethan—na wnaed unrhyw gynnydd sylweddol iawn ar argymhellion go ddefnyddiol a wnaed gan grŵp gorchwyl a gorffen y Llywodraeth ei hun ar wasanaethau cerddoriaeth flwyddyn neu ddwy yn ôl.
Nawr, wedi dweud hynny, credaf yn gryf fod cynllunio gwasanaethau cerddoriaeth yn weithgaredd cydgynhyrchiol. Nid wyf yn meddwl y dylai hynny fod yn fater i Lywodraeth Cymru. Nid mater i weision sifil ydyw, a dyna pam yr oeddwn yn hapus iawn i gefnogi argymhelliad 1, oherwydd credaf mai rôl y Llywodraeth yw pennu amcanion strategol ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth sydd, yn fy marn i, yn mynd y tu hwnt i ddiben craidd gwasanaethau cerddoriaeth, sef tyfu ein cenhedlaeth nesaf o gerddorion. Drwy edrych ar gyfranogiad mewn cerddoriaeth fel arf i gyflawni ystod gyfan o amcanion lles ac addysg, hyd yn oed y tu hwnt i'r cynllun dysgu creadigol, os oes angen—arf ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, er enghraifft. Mae gennym adroddiad Kay Andrews. Rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o waith wedi'i wneud ar hwnnw'n eithaf buan i weld sut y mae'r ddarpariaeth i'w gweld yn erbyn hwnnw. Ond mae'r rhain oll yn ffyrdd o adeiladu angen am wasanaethau cerddoriaeth.
Felly nid yw'n fater o'r diben craidd yn unig. Gall gwasanaethau cerddoriaeth wneud cymaint yn fwy, ac mae angen i bobl eraill dderbyn bod yna gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cynnal y gwasanaethau hynny y tu hwnt i'r diben craidd. Mae'n golygu mwy nag un ffrwd incwm i ddechrau, ac rwy'n credu efallai y bydd rhai puryddion allan yno sy'n credu efallai ei bod yn ffordd braidd yn weithrediadol o edrych ar wasanaethau cerddoriaeth, ond mae'r ffordd rwy'n edrych arno'n adeiladu ar gasgliadau sylfaenol y pwyllgor y bydd pethau'n methu os ydym yn parhau fel y gwnawn. Felly, os gall sectorau polisi eraill ddechrau edrych ar sut y gall cerddoriaeth fod o werth iddynt hwy—ac fe sonioch am rai enghreifftiau, rwy'n meddwl, Bethan—yna credaf fod ei fodolaeth yn dod yn fwy o flaenoriaeth wleidyddol. Gorau po fwyaf o bobl sydd â budd ynddo.
Rwy'n credu mai corff cenedlaethol, sydd er hynny'n gweithredu'n helaeth ar lefel ranbarthol a lleol, yw'r ffordd orau o sicrhau bod y ddarpariaeth yn deg, fod safonau'n cael eu cynnal, fod pob rhan o Gymru'n cael ei chynnwys, ac wrth gwrs fod yna safonau ar gyfer talu am ddarparwyr gwasanaethau cerddoriaeth. Credaf ei bod hi'n rhaid mai corff cenedlaethol yw'r dull gorau o wneud hynny, yn ogystal â chyd-drefnu'r ffrydiau incwm amgen hyn. Felly, os yw hynny'n golygu gwella rôl Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, neu rywbeth ar wahân, nid oes ots gennyf mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod angen inni wneud hynny.
Yna'n fyr fe ddychwelaf at y cwestiwn sy'n codi ynghylch argymhelliad 4. Un ateb sy'n gweddu i bawb—nid ydym ei angen, nid yw'n ddymunol. Cawsom dystiolaeth ardderchog gan grŵp cydweithredol yn sir Ddinbych, rwy'n credu. Pam y dylem ailddyfeisio'r olwyn pan fo'r darparwyr cerddoriaeth eu hunain yn gallu cynllunio gwasanaethau sy'n gweithio'n dda?
Yn olaf hoffwn ddweud, fel unigolyn di-dalent fy hun, fy mod yn dibynnu ar eraill i wneud cerddoriaeth i fy ngwneud i'n hapus, ond mae hynny'n wir hefyd am y bobl unig, ynysig, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, problemau cyfathrebu, dementia, pobl â phroblemau iechyd meddwl—maent yn dibynnu ar gerddoriaeth mewn rhai achosion i'w helpu i fyw eu bywydau, ac mae pawb ohonom ei hangen er mwyn cymryd rhan yn ein diwylliant cenedlaethol. Diolch.
Nid yw'r adroddiad hwn wedi'i frysio. Cynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyntaf ym mis Ionawr 2017, ac am yr amser roeddwn i ar y pwyllgor, roedd y rhai ohonom a wasanaethodd—ac mae'n arwyddocaol, pan edrychwch chi ar yr adroddiad, faint o bobl wahanol sydd wedi mynd drwy'r broses benodol hon; mae wedi ymwneud â hyd at un rhan o bump o holl Aelodau'r Cynulliad. Ond credaf ein bod wedi cymryd ein hamser yn fwriadol, oherwydd roedd yn hawdd rhuthro i gael ateb slic a chyflym i'r hyn sy'n fater anodd iawn yn yr oes hon o gyni. Rwy'n credu ein bod wedi dod i gytundeb cyffredinol fod cael darpariaeth o wasanaethau cerddorol mewn ysgolion yn nwydd cyhoeddus ac yn hawl ddiwylliannol. Ond gyda llai a llai o adnoddau i awdurdodau lleol a dyletswydd i ddarparu gwasanaethau statudol, nid oedd unrhyw ffordd hawdd allan. Ac er cymaint y demtasiwn i ymateb i alwad Owain Arwel Hughes a soniai am argyfwng drwy gyhoeddi adroddiad yn dweud bod hyn yn bwysig ac y dylai cynghorau wario mwy arno, byddai'n annheg i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, sy'n cael trafferth i ymdopi â phenderfyniadau anodd bob wythnos.
Felly, fe wnaethom gymryd ein hamser ac fe sefydlwyd panel arbenigol i graffu ar ein syniadau cychwynnol a gweithio gyda ni, ochr yn ochr â ni, i roi prawf ar y syniadau a oedd yn datblygu, i weld a oeddent yn dal dŵr. Felly, rwy'n credu bod y pwyllgor i'w ganmol am gymryd ei amser, er nad oes amheuaeth gennyf fod y rhanddeiliaid yn teimlo braidd yn rhwystredig ein bod wedi cymryd cyhyd i lunio adroddiad.
Rhaid imi ddweud, roeddwn yn credu bod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn galonogol iawn. Nid wyf yn siŵr a wyf fi wedi'i gamddarllen, ar ôl gwrando ar ddisgrifiad Cadeirydd y pwyllgor a oedd braidd yn surbwch yn fy marn i. Roeddwn yn meddwl bod yr ymateb yn adeiladol iawn ac yn ymgais go iawn i geisio llunio ateb a fyddai'n para i'r hyn sydd, heb amheuaeth, yn set anodd o amgylchiadau.
Roeddwn yn drist iawn o glywed yn ddiweddar fod Cerddorfa Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi rhoi'r gorau iddi am y tro, a chredaf fod hyn yn destun pryder i bawb sydd wedi mynd drwy'r gwasanaethau, fel Cadeirydd y pwyllgor ei hun ac fel Jeremy Miles hefyd, a fu'n gwasanaethu ar y pwyllgor gyda mi. Ceir ymdeimlad go iawn o ymrwymiad, rwy'n credu, ar ran aelodau'r pwyllgor i gadw'r hyn sydd yno.
Roeddwn yn meddwl wrth ddarllen am effaith y modd y mae byd gwaith yn newid, ac awtomatiaeth a digido a sgiliau rydym yn eu dysgu i bobl ifanc i roi gallu iddynt wneud swyddi nad ydynt wedi'u creu eto. Ac mewn gwirionedd, nid pwysigrwydd codio neu raglennu yw'r peth pwysicaf. Y peth pwysicaf yw creadigrwydd, gwaith tîm, empathi, sgiliau dynol. Yn union y math o bethau a gewch o addysg gerddorol. Ac roeddwn yn gwrando ar y radio yr wythnos hon ar rywun yn sôn am y profiad a roddwyd iddynt, o fod â diddordeb mewn cerddoriaeth yn hytrach na dawn. Roeddent yn cael sylw mawr ac anogaeth drwy ddangos diddordeb yn unig—y math o brofiad diwylliannol rydym am ei roi i bobl ifanc.
Felly, mae'r agenda hon yn ganolog i'r agenda sgiliau yn y dyfodol. Nid yw'n rhywbeth ychwanegol, 'Oni fyddai'n braf pe bai gennym fwy o arian i ariannu gwasanaethau awdurdod lleol?' A dyna pam rwy'n credu bod galwad y pwyllgor i roi hyn ar hyd braich oddi wrth awdurdodau lleol, i roi arweiniad cenedlaethol—. Oherwydd fe edrychasom ar y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd o dan Huw Lewis ac olrhain ei gynnydd, ac ychydig iawn a oedd wedi digwydd iddo. Cawsom dystiolaeth nad oedd yn drawiadol iawn gan CLlLC. Ac rwy'n cydymdeimlo â'r cyfyng-gyngor y maent ynddo, ond maent wedi methu. Maent wedi methu yn y dasg o ddarparu arweinyddiaeth ar hyn ac rwy'n deall pam, ond nid yw hynny'n ddigon da. Felly, credaf ei bod yn iawn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a dweud y dylid gwneud hyn ar sail Cymru gyfan.
Rwy'n cymeradwyo'r modelau newydd a gyflwynwyd drwy'r gwaddol gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy'n poeni amdanynt, ar ôl bod yn rhedeg elusen a cheisio cael arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae'n anodd ar y naw. Mae'n wirioneddol anodd, ac nid yw ymddiriedolaethau a sefydliadau Llundain yn gyflym i ddod i helpu gwasanaethau diwylliannol y tu allan i'r fetropolis. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod wedi'u sefydlu, ond rhaid inni beidio â gadael iddynt ddihoeni—rhaid inni ddilyn hynny gyda chefnogaeth, ar ffurf arian parod, ond hefyd ar ffurf cymorth. Rwy'n cymeradwyo'r amnest offerynnau cerdd roeddwn yn falch iawn o roi gitâr fy merch iddo. Strymiais ryw ychydig cyn imi ei hestyn iddynt.
Felly, rwy'n credu bod yr ymyriadau y mae'r Llywodraeth eisoes yn eu gwneud yn iawn ac i'w croesawu. Credaf mai'r cyfeiriad teithio a nodir gan y pwyllgor yn yr adroddiad yw'r un cywir. Mae pwysigrwydd yr agenda hon yn hanfodol, o ran hawliau diwylliannol, ond hefyd o ran sgiliau yn y dyfodol. Ac fe fyddaf fi, ynghyd ag eraill, yn gwylio gyda diddordeb wrth i'r Llywodraeth ddatblygu'r hyn a oedd yn ymateb calonogol yn fy marn i. Ond yn anochel, yr hyn sy'n bwysig yw beth sy'n dilyn. Diolch.
Mae'n hyfryd i minnau gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma hefyd. Wel, fel roedd Lee Waters wedi'i grybwyll, mae tua phumed ran o’r Senedd yma wedi bod yn aelod o’r pwyllgor yma tra rydym wedi bod wrthi’n traddodi’r pwnc hynod bwysig yma, ac, i fod yn deg, mae’r pwnc o gerddoriaeth yn ein hysgolion ni yn bwnc sylfaenol, o bosib. Dyna y mae cyhoedd Cymru wedi bod yn ei ddweud wrthym ni, a dyna sut y daethom ni i drafod y pwnc hwn yn y lle cyntaf, achos roedd pobl Cymru eisiau inni drafod y pwnc yma. Rwy’n talu teyrnged i frwdfrydedd heintus y Cadeirydd, a’i gallu cerddorol, yn naturiol, yn dod yn amlwg, ond hefyd ei gallu i yrru'r agenda yma ymlaen. Rydym ni i fod, fel cenedl, mewn cariad efo cerddoriaeth—gwlad y gân, wedi’r cwbl, fel y gwnaeth Bethan sôn—ond, wrth gwrs, mae yna argyfwng syfrdanol, fel y dywedodd Owain Arwel Hughes wrthym ni yn y pwyllgor. Owain Arwel Hughes, wrth gwrs, yw sylfaenydd Proms Cymru, yn enwog drwy’r byd i gyd, a phan fydd o’n dweud bod yna argyfwng, mae’n rhaid i bobl eistedd i fyny a gwrando.
Cawsom ni dystiolaeth fanwl, hir a dwys dros wythnosau a misoedd ac, ie, mi fuon ni’n trin a thrafod pa ffordd oedd y ffordd orau ymlaen. Rwy’n dal i gofio’r dadleuon yna: a oeddem ni’n mynd i ddal i fynd ymlaen efo'r sefyllfa fel yr oedd hi, ac wrth gwrs arian yn brin a blaenoriaethau gwahanol gan wahanol awdurdodau lleol, ac ati, neu a oeddem ni’n mynd i fod yn ddewr a chrybwyll bod angen corff hyd-braich cenedlaethol a oedd yn gallu pennu blaenoriaethau? Wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd, dyna ydy’r prif argymhelliad. Hwnnw yw argymhelliad rhif 1: bod angen datblygu corff cenedlaethol hyd braich, achos mae’r agenda yma yn fwy na dim ond dysgu cerddoriaeth yn yr ysgolion. Fel y gwnaeth Lee Waters ei grybwyll, a Bethan cyn hynny, mae’n rhan o’n datblygiad naturiol ni fel pobl, fel plant. Rydym ni’n ennyn disgyblaeth, rydym ni’n ennyn bod yn rhan o dîm, rydym ni’n ennyn gorfod gweithio’n galed weithiau er mwyn gallu dod a rhagori, ac ymarfer dro ar ôl tro er mwyn cyrraedd y brig.
Dim ond rhyw getyn organydd mewn capel fues i erioed, ond mae’r sgiliau amgen hynny yn eich datblygu chi fel nad oes gennych chi un ffordd gul yn yr hen fyd yma. A dyna yr oedd nifer o’n tystion ni yn ei ddweud wrthym ni. Wrth gwrs, rwyf mor hen rŵan, pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddem ni’n cael dosbarthiadau cerddoriaeth ta beth. Roedd pawb yn eu cael nhw. Roeddech chi’n troi i fyny yn naturiol i'w cael nhw; roedd miwsig ar yr agenda. Ac roeddem ni’n eu mwynhau nhw ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ennyn diddordeb ar y pryd ac roedd yna ddigon o gyfle yn yr ysgol i gael gwersi efo’r ffidil—er, nid oeddwn i’n llwyddiannus ar hwnnw. Roedd pawb yn cael cyfle bryd hynny. Roedd yn amser gwahanol. Rwy’n sôn am flynyddoedd maith yn ôl.
Mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y sector wirfoddol. Buasai'n well inni sôn am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun, ond mae mudiad yr Urdd hefyd yn cyflawni gwyrthiau: miloedd o blant yn dysgu pob math o offerynnau a hefyd yn canu yn ein gwahanol gorau ni ac ati, ac yn datblygu fel cantorion. Mae pobl fel Bryn Terfel wastad yn sôn am y ffaith eu bod nhw wedi cyrraedd y brig yn rhannol achos y fath ddisgyblaeth a’r cyfle y gwnaethon nhw ei gael drwy wahanol eisteddfodau'r Urdd a’r genedlaethol. Mae eisiau inni ddatblygu’r llwyfannau naturiol yna sydd gennym ni fel cenedl, achos mae’n fater o gryfder.
Pan rydym ni’n sôn weithiau yn gul, rydym ni’n anghofio am y gwaith bendigedig sy’n mynd ymlaen ar lawr gwlad drwy wahanol aelwydydd yr Urdd a drwy’r Urdd yn genedlaethol yn magu dyfodol pendant i’n pobl. Achos mae yna weithgaredd rhyfeddol, ysbrydoledig yn mynd ymlaen ar lawr gwlad. Ie, gydag athrawon ysbrydoledig ym mhob man, yn enwedig efo'r cerddorfeydd, ond i ennyn y diddordeb yna yn y lle cyntaf, diddordeb mewn cerddoriaeth sy’n mynd i’ch helpu chi i ddatblygu fel person, felly—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pethau rydych wedi'u dweud, ac rydych wedi sôn am yr Urdd a sefydliadau cenedlaethol, a buaswn hefyd yn dweud bod yna sefydliadau cerddorol lleol megis Cerddoriaeth Gwent yn fy ardal i, a ariennir yn rhannol gan awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill fel hynny ar draws Cymru sy'n gwneud llawer iawn i hyrwyddo cerddoriaeth y tu allan i ysgolion mewn gwirionedd.
Rwy'n cytuno 100 y cant, ond wrth gwrs, fel y dywedodd Owain Arwel Hughes, rydym ni'n wynebu argyfwng, achos mae gwybodaeth oddi wrth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dweud taw dim ond 13 y cant o ddisgyblion o Gymru sy'n cynnig am le yn ein Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar—13 y cant. Mae yna argyfwng ac mae angen mynd i'r afael â'r peth. Diolch yn fawr.
Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, hoffwn ddechrau drwy ganmol ymdrechion ein Cadeirydd, Bethan, a chyd-aelodau'r pwyllgor a'r clercod am eu gwaith diwyd a phwysig yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Yn aml, gofynnir i mi pam rwy'n rhoi cymaint o flaenoriaeth i addysg cerddoriaeth, ac er nad fi yw'r unig un, yn ystod mis Medi 2016, cyn i mi wasanaethu ar y pwyllgor, fel y gwyddoch, fe ofynnwyd i'r cyhoedd beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, a daeth hyn i'r brig wrth gwrs. Y rheswm am hynny yw bod y cyhoedd yn deall gwerth addysg cerddoriaeth yn ein hysgolion i'n pobl ifanc—nid yn unig i'r bobl ifanc hynny, ond i ni fel gwlad, i ni fel cenedl, ac i ni fel diwylliant.
Fel Cadeirydd ein pwyllgor, rwy'n gerddor, a diolch i fy nghyd-Aelodau yn y coridor yn Nhŷ Hywel, gan gynnwys Lee Waters a Jack Sargeant, sydd wedi gwneud sylwadau ar fy chwarae, ac fel dysgwr gydol oes rwy'n dal i fod yn fyfyriwr cerddoriaeth ac rwy'n addo cyrraedd y nodyn cywir hwnnw iddynt, ond yn fwy felly i fy etholwyr. [Chwerthin.] Ac os yw'n golygu cymaint i mi yn bersonol fel Aelod Cynulliad i ddysgu a pherffeithio a chwarae offeryn cerdd, ni allaf ddweud wrthych pa mor hollbwysig yw hi i mi wybod nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru yn colli cyfle i godi offeryn a chael cyfle i ddysgu ei chwarae, nid yn seiliedig ar allu i dalu, ond yn seiliedig ar y gallu i chwarae.
Mae'n ymwneud â mwy na dysgu chwarae offeryn. Mae'n ymwneud â sicrhau cyfle cyfartal i bob un o'n myfyrwyr ledled Cymru, a'n hunaniaeth yn rhyngwladol fod rhaid inni barhau i fod, yng geiriau'r adroddiad a gomisiynodd fy swyddfa gan yr Athro Carr, yn 'wlad y gân'. Ni all hynny fod mewn enw'n unig. Rhaid inni gael y seilwaith yn sail i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom er mwyn cyflawni ar ran ein holl ddisgyblion. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at glywed sut y mae'r Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i weithio drwy'r argymhellion hyn, ac rwy'n arbennig o falch fod argymhelliad 13 wedi'i dderbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, argymhelliad sy'n sicrhau ac yn ceisio sicrwydd fod gwasanaethau cerddoriaeth yn parhau i fodoli, er mwyn sicrhau bod y gallu gan ddisgyblion o bob cefndir mewn bywyd i gyrraedd y lefel o ragoriaeth sy'n ofynnol ar gyfer cael lle mewn ensembles cenedlaethol. Ac fel y clywsom eisoes, yn gynyddol nid yw hynny'n wir.
Mae'n iawn y dylai ein holl ddisgyblion, beth bynnag am incwm, gael yr un gallu a chyfle i gael hawl i ddysgu offeryn cerdd—cyfle cyfartal i bob un o'n myfyrwyr. Rydym yn wynebu adeg allweddol iawn ar berfformiad addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Rydym yn gwybod ein bod wedi cael gormod o flynyddoedd o gyni, a bellach mae'n iawn i ni asesu a chydnabod effaith wirioneddol colli gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru, i ni gydnabod yr anghydraddoldebau sy'n bodoli, ac fel gwleidyddion, i ni ddod at ein gilydd i ddarparu'r atebion. Mae diogelu a darparu addysg cerddoriaeth a gwasanaethau cymorth cerddoriaeth mor allweddol—maent yn darparu'r dechrau, ensembles elfennol, canolraddol ac uwch, sy'n darparu cyfleoedd i'r rhai na allant dalu—a rhaid i hyn ddod yn genhadaeth genedlaethol y gall Aelodau ein holl bleidiau, a'r rhai heb bleidiau, uno y tu ôl iddi. Credaf fod Bethan, fel gwleidydd Plaid Cymru, fi fy hun fel gwleidydd Llafur, ac Ysgrifennydd y Cabinet fel Democrat Rhyddfrydol, yn dangos sut rydym yn ceisio cytundeb ar draws y rhaniadau gwleidyddol. Hoffwn ddiolch hefyd am y cyfraniadau gan eraill yn y pwyllgor.
Ond rwy'n credu mai'r thema heddiw yw ei bod yn bryd gweithredu yn awr dros Gymru ac yn awr dros ein disgyblion. Gwelir hyn yn amlwg yn argymhelliad 1, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i drosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaeth i gorff cenedlaethol hyd braich. Nawr, mae yna ddadl ynglŷn â hyn o hyd, a beth bynnag yw'r dull, gwn ei bod yn galonogol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor i ariannu gwasanaethau cymorth cerddoriaeth. Edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar gynnydd yr ymarfer dichonoldeb, ond hoffwn danlinellu'r ffaith mai yn awr y mae gwasanaethau cymorth cerddoriaeth yn dadfeilio fel gwasanaethau anstatudol. Os ydynt yn mynd i barhau i fod yn anstatudol, mae cyfrifoldeb arnom i ariannu gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru, beth bynnag fo'r dull, a rhaid gwneud hynny'n gyflym. Diolch.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Cyn imi ymateb i'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl ac amlinellu gwaith y Llywodraeth yn y maes hwn, rwyf am dawelu meddwl yr Aelodau ar draws y Siambr mai anaml y byddaf yn ymweld ag ysgol lle na chaf fy nghyfarch gan ddoniau cerddorol y disgyblion yn yr ysgol honno—corau, bandiau samba, bandiau dur, pedwarawdau ffidil a llu o berfformwyr unigol. Weithiau rwy'n jocian ei bod hi'n drueni nad yw'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn mesur doniau cerddorol yn ogystal â mathemateg, gwyddoniaeth, Saesneg a darllen, gan y buaswn yn cysgu'n haws bob tro y byddai PISA yn digwydd.
Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud, pan fo'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi edrych ar ein rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, maent wedi'i disgrifio fel un 'sy'n arwain y byd' ac maent wedi'i defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill sydd am wneud yn union yr hyn y siaradoch chi amdano, Lee: cyflwyno elfennau o greadigrwydd yn eu cwricwlwm, oherwydd maent yn cydnabod mai dyna rai o'r sgiliau y bydd eu pobl ifanc eu hangen yn y dyfodol, ac mae'r OECD yn cydnabod ein bod yn gwneud hyn yn dda drwy ein rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad. Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n rhannu uchelgais y pwyllgor ar gyfer darparu mynediad o safon i bawb at addysg cerddoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Rwy'n cydnabod yr angen hefyd i sicrhau bod llwybrau priodol yn bodoli ar gyfer dysgwyr sy'n awyddus i ddatblygu a gwella eu profiadau a'u harbenigedd cerddorol er mwyn cyrraedd eu potensial llawn.
Hoffwn ddiolch i Bethan am gydnabod yn yr adroddiad y camau niferus rydym wedi'u cymryd i geisio gwneud cynnydd yn y maes hwn. Nawr, mae'r argymhellion yn sylweddol, gyda goblygiadau sefydliadol ac ariannol pellgyrhaeddol i'r sector addysg cerddoriaeth, ac fel y cyfryw maent yn galw am amser ac adnoddau priodol i'w harchwilio a'u hystyried yn fanwl. Hoffwn dynnu sylw at rai o'r materion sy'n codi a'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad, felly.
Fel y clywsom gan amryw o siaradwyr y prynhawn yma, mae argymhelliad 1 yn cyfeirio at drosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich er mwyn sicrhau bod cyfleoedd teg yn cael arian craidd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol fod mynediad at gerddoriaeth ac addysg cerddoriaeth ar gael ar gyfer pob dysgwr, ni waeth beth fo'u lleoliad, eu cefndir cymdeithasol a'u gallu i dalu. Rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod rhwystrau i gyfranogiad yn cael eu dileu. Fodd bynnag, nid yw gwneud yr hyn a argymhellir mor hawdd â hynny, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni economaidd pan fo cyllidebau'n dynn. Fel y clywsom hefyd, ar hyn o bryd cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac nid Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaethau cerddoriaeth. Felly, nid yw trosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny i gorff arall yn arbennig o syml i'w wneud. Rhaid inni ystyried yr effaith a'r goblygiadau'n ofalus iawn cyn gwneud hynny. O ganlyniad, rwyf wedi awgrymu ein bod yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn ymchwilio i opsiynau addas ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth yn y dyfodol. Fel y cydnabu'r Cadeirydd ei hun, mae'n dal i fod angen gweithio drwy union strwythur, rolau a chyfrifoldebau'r corff hwnnw. Fel cam cyntaf, mae fy swyddogion wrthi'n trefnu cyfarfod ymgynghori â rhanddeiliaid gyda phartneriaid allweddol i drafod cwmpas a chylch gorchwyl yr astudiaeth honno, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar y cynnydd a wneir wrth gwrs.
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell fy mod yn perchnogi gwasanaethau cerddoriaeth er mwyn paratoi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Fodd bynnag, yn bersonol rwy'n credu nad yw'n briodol i mi gymryd cyfrifoldeb strategol fy hun am wasanaethau cerddoriaeth, gan fod y meysydd hyn yn llawer ehangach na fy nghyfrifoldebau portffolio ar gyfer ysgolion yn unig. Fel rydym newydd ei glywed gan Dai Lloyd, ceir llawer o gyfleoedd i bobl ifanc fynd ar drywydd cerddoriaeth y tu hwnt i addysg orfodol, ac wrth gwrs ceir cyfrifoldebau trawsbynciol gyda'r adran ddiwylliant yma o fewn Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n credu y dylai fod yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb, a bydd yr astudiaeth honno'n edrych ar ystyried cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth. Efallai y dylwn ymfalchïo yn y ffaith bod y Cadeirydd am imi ysgwyddo cyfrifoldeb dros y cyfan. Ac mae'n dweud mai oherwydd fy mod wedi gwneud rhai pethau penodol ers dechrau yn fy swydd y mae'n dweud hynny; wel, bydd hynny'n wers imi, oni fydd—[Chwerthin.]—am gadw fy mhen uwchben y parapet a cheisio cael pethau wedi'u gwneud? Mae'n golygu y bydd gofyn ichi wneud rhagor o bethau.
Byddaf hefyd yn ehangu'r astudiaeth ddichonoldeb i ystyried hyfywedd modelau amgen o ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth. Rwy'n ymwybodol fod nifer o awdurdodau lleol wedi datblygu modelau gwahanol, ac mae angen deall effeithiolrwydd a'r galw am y modelau hynny. Ar daith i sir Ddinbych yn ddiweddar, gwelais y trefniant cydweithredol a roddwyd ar waith yno, a chefais adborth gan athrawon ysgolion yn yr ardal sy'n dweud wrthyf fod mwy o blant yn cael mynediad at gerddoriaeth ac mae'n costio llai iddynt mewn gwirionedd. Felly, mae'r rhain yn bethau diddorol sydd angen inni eu deall ac mae angen inni edrych ymhellach arnynt.
Rwy'n falch fod llawer o'r argymhellion gan grŵp gorchwyl a gorffen Huw Lewis ar wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol wedi'i gwblhau, er fy mod yn rhannu eich rhwystredigaeth. Rydym wedi ceisio ailedrych ar y materion hyn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfarfodydd rwy'n eu cael gyda hwy. Ond byddaf yn darparu diweddariad llawn ar y cynnydd o adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Gan droi at y sylwadau a wnaed yn yr adroddiad ynglŷn ag ariannu gwasanaethau cerddoriaeth, nid wyf am falu awyr: rwy'n derbyn yn llawn ac yn cydnabod bod yna heriau sylweddol o ran cyllid, ond credwch fi, Lee, pan ddywedwch eich bod yn deall yr anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â ble i flaenoriaethu'r cyllidebau hynny, dyna'r un sgyrsiau'n union sy'n digwydd yma ar lefel Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw atebion cyllido hawdd i'r broblem hon i ni fel Llywodraeth ychwaith. Mewn ymateb, fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hynny, rwy'n falch ein bod wedi gallu cynyddu'r arian sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prynu offerynnau cerdd. Rydym wedi rhyddhau £1 filiwn y flwyddyn ar gyfer 2018-19 a 2019-20 ar gyfer y ddarpariaeth gerddoriaeth, ac ar hyn o bryd rwy'n ystyried argymhellion ar sut y dylid dyrannu'r arian. Mae hyn yn cynnwys opsiwn i sicrhau o bosibl fod mwy o arian ar gael i bob awdurdod lleol allu prynu rhagor o offerynnau eto. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau yn y Siambr sydd wedi cyfrannu eu hofferynnau a oedd yn llechu yn eu cypyrddau, boed yn gitâr merch Lee Waters, ffidil fy merch, ac rwy'n credu bod mab Lynne Neagle yn falch o weld cefn yr offerynnau y gallodd Lynne eu cyfrannu. Ond rydym hefyd wedi gallu cefnogi prynu offerynnau. Wrth ymweld â sir Ddinbych, cefais weld y piano newydd a brynwyd ar gyfer y trefniant cydweithredol yno o ganlyniad i'r arian. Gan weithio gyda Bethan, byddaf yn penderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu'r arian hwn i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac yn hollbwysig, ei fod yn gynaliadwy, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn diwedd tymor yr hydref.
Mae sawl un o argymhellion yr adroddiad yn rhai ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu y tu allan i reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth, megis Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ni allaf ymateb ar ran y sefydliadau hynny, ond gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru er mwyn sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu harchwilio'n llawn.
Os trof at Anthem, Cronfa Gerdd Cymru, sydd wedi'i sefydlu, penodwyd cadeirydd newydd, a bydd y penodiad yn cael ei gyhoeddi i'r cyhoedd ym mis Tachwedd. Er mai sefydliad elusennol annibynnol fydd Anthem heb unrhyw gysylltiadau uniongyrchol â'r Llywodraeth, fe fyddwn ni, ynghyd â sefydliadau rhanddeiliaid eraill, yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r corff newydd wrth iddo ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. Felly, gallaf ddweud wrthych, Lee—nid ydym yn mynd i'w adael i grwydro ymaith ar ei ben ei hun. Mae Anthem yn wynebu'r her o sefydlu brand a hunaniaeth ei hun tra'i fod yn dechrau ar strategaeth godi arian uchelgeisiol ar gyfer denu'r cyfalaf sy'n angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau cael effaith go iawn ar gyfer cerddorion ifanc erbyn 2021. Rwy'n cydnabod ei bod hi'n hanfodol bwysig fod hyn yn cael ei wneud heb niweidio'r arian sydd ar hyn o bryd yn cefnogi'r celfyddydau eraill a'r ddarpariaeth addysg, ond rwy'n hyderus y gellir cyflawni hyn. Dylem bwysleisio nad yw pawb yn hoffi cerddoriaeth o reidrwydd, a'r hyn rydym yn awyddus i sicrhau yw bod cyfleoedd creadigol ac artistig o bob math ar gael i'n plant, yn dibynnu ar beth sy'n tanio'u brwdfrydedd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Gwnaf.
Iawn, yn gyflym.
Ie, iawn. O ystyried y nifer o elfennau gwahanol a'r mentrau da iawn sy'n datblygu, a ydych chi felly'n cydnabod yr angen am strategaeth neu gynllun cydlynol i allu tynnu'r holl fentrau hyn at ei gilydd o dan un weledigaeth strategol ar gyfer addysg cerddoriaeth yng Nghymru?
Fel y dywedais yn gynharach, Rhianon, byddwn yn edrych ar yr argymhelliad ynglŷn â'r cynllun fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb. Nid wyf am weld addysg cerddoriaeth yn digwydd ar wahân i bopeth arall o fewn yr ysgol. Rhaid inni edrych ar y cyfleoedd yn eu cyfanrwydd, ond dyna fydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn edrych arno.
I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor wedi gosod her go iawn i Lywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o ymdrin â gwasanaethau cerddoriaeth a'r ddarpariaeth gerddoriaeth, ond mae'n her rwy'n hapus iawn i'w derbyn. Gallai gymryd peth amser i archwilio'r holl opsiynau posibl sydd ar gael yn llawn, ond byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso'r sefyllfa mewn perthynas â'r ddarpariaeth bresennol yn y maes yn ogystal â rhoi camau ar waith lle gallwn er mwyn lleddfu'r pwysau hwnnw. Byddaf yn darparu diweddariadau rheolaidd a chynnydd ar gamau allweddol i'r pwyllgor ac i gyd-Aelodau'r Cynulliad.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed, i ymateb i'r ddadl?
Rwy'n ymwybodol o'r amser, ac nad oes llawer ohono i fynd drwy sylwadau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Gwn eich bod wedi cael eich lobïo i fynychu a chymryd rhan yn y ddadl hon, ac y byddech yn gwneud hynny beth bynnag oherwydd ei fod mor bwysig. Felly, diolch yn fawr iawn—ac i holl aelodau'r pwyllgor, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi dangos cymaint o frwdfrydedd ynglŷn â hyn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am bob un o'i sylwadau. Mae'n galonogol clywed y byddwch yn rhoi hyn ar flaen yr agenda wleidyddol, ac nid ceisio bod yn—nid wyf yn gwybod beth oedd y gair—surbwch oeddwn i yn yr hyn y ceisiwn ei ddweud am y cynlluniau cerddoriaeth mewn addysg, ond os cafodd yr argymhellion eu gwrthod, yn amlwg, fel pwyllgor, mae angen inni fynd drwyddynt yn fanwl iawn i ddeall sut y gallwn eu symud yn eu blaen. Mae'n galonogol clywed, felly, fod hynny'n mynd i gael ei ystyried yn yr astudiaeth ddichonoldeb fel y gallwn ddeall, os nad yw'n mynd i fod yn un cyfrifoldeb uniongyrchol o fewn y Llywodraeth, o ran eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, sut y gallai edrych o bosibl trwy ymgysylltu ag arbenigwyr yn y maes. Dyna'r cyfan rwyf fi ac eraill yn poeni amdano rwy'n credu—deall sut y byddai cynllun yn gweithio a sut y gallwn gynnwys y bobl orau yng Nghymru mewn perthynas â sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed, erbyn diwedd y flwyddyn, beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, yn ogystal â pharhau trafodaethau o ran y £2 filiwn hefyd.
Rwy'n credu fodd bynnag ei bod hi'n werth pwysleisio'r ffaith bod yr OECD wedi dweud hynny am ddysgu creadigol drwy'r celfyddydau, oherwydd os ydym yn mynd i fod—. Mae llawer o'r sylwadau yma wedi nodi sut rydym am brif ffrydio, sut rydym am sicrhau bod hon yn agenda sgiliau—os gallwn ddangos i'r byd ei fod yn cael ei ddefnyddio drwy ein systemau addysg, mae honno'n un ffordd, yn anad dim arall, o allu gwneud hynny. Felly, rwy'n croesawu'r gwaith hwnnw yn ogystal.
I droi at Aelodau eraill o'r Cynulliad yn fyr, gwn fod Suzy Davies—. Diolch i chi—rydych wedi gadael y pwyllgor erbyn hyn, ond diolch ichi am eich cyfraniad gwerthfawr, ac rwy'n siŵr y bydd yn eich helpu fel llefarydd y portffolio addysg. Soniasoch am y cyngor arbenigol. Roedd hwnnw'n ddefnyddiol iawn a gobeithio ei fod yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ystyried fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y corff hyd braich, oherwydd heb—. Roeddem yn gyson yn dychwelyd at y gweithwyr cerddoriaeth proffesiynol i ddweud wrthym sut roeddent yn credu bod ein syniadau'n datblygu, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei wneud mewn ymchwiliadau pwyllgor yn y dyfodol. Ac fe ddywedoch chi hefyd na allwn ei adael i gynghorau sy'n brin o arian ysgwyddo'r gwaith, a chredaf yn y bôn mai dyna pam y daethom i'r casgliad hwn. Mae cydgynhyrchu'n hynod o bwysig, wrth gwrs, oherwydd gallwn osod y cyfeiriad strategol cenedlaethol, ond y bobl sy'n deall ar lawr gwlad sut y mae gwasanaethau cerddoriaeth yn gweithredu sy'n allweddol yma.
Lee Waters, diolch i chi am eich cyfraniadau yn ogystal ag yn ystod y pwyllgor. Roeddwn yn gwerthfawrogi'r ffaith ichi ddweud ei fod yn fater anodd a'n bod wedi cymryd amser i edrych arno'n benderfynol. Nid oedd yn rhywbeth y credwn y dylem ei ruthro, oherwydd gallem fod wedi dweud pethau poblogaidd iawn wrth rai pobl, ond byddai hynny wedi bod yn anodd iawn ei weithredu. Er enghraifft, pe baem wedi'i wneud yn statudol, beth fyddai hynny wedi'i ddweud am wasanaethau eraill? Dyna'r mater dadleuol sy'n rhaid inni ei wynebu yma heddiw. Yn bersonol, rwy'n cytuno â chi mewn perthynas â CLlLC. Efallai eu bod yn siarad yn fwy cadarnhaol bellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ond pan ddaethant i roi tystiolaeth, nid oedd yn ymddangos eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd gyda'r argymhellion. Efallai fod yr holl ddadl hon wedi'u bywiogi rywfaint; rwy'n gobeithio mai dyna sydd wedi digwydd yn y cyswllt hwn.
Yn fyr ar y gwaddol cyn imi orffen, credaf ei bod yn werth nodi yma yn y ddadl hon fy mod wedi cyfarfod â'r sefydliad cymunedol. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad mewn perthynas â'r cronfeydd gwaddol, ac nid ydynt wedi cael eu defnyddio eto mewn perthynas ag Anthem yn ôl yr hyn a ddeallaf, felly gallai fod yn werth ymgysylltu â hwy—os oes ganddynt y sylfaen sgiliau honno yma yng Nghymru eisoes, dylem ei defnyddio.
Nid oes gennyf amser ar ôl; rwy'n gweld y system yn goch i fyny acw. Diolch i Rhianon—gwn eich bod yn teimlo'n angerddol ynglŷn â'r maes hwn—ac i Nick Ramsay a Dr Dai Lloyd a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n dangos pa mor bwysig yw hyn, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld newid ar lawr gwlad fel bod ein teuluoedd a'n plant yn y dyfodol i gyd yn gallu cymryd rhan mewn gwasanaethau cerddoriaeth ac y bydd ganddynt yr un straeon i'w hadrodd—a gwell peidio ag adrodd rhai ohonynt yn yr ystafell hon—am eu hamser gyda cherddorfeydd amrywiol neu gwmnïau dawns, fel y gallant ddangos i genedlaethau'r dyfodol pa mor bwysig yw hyn iddynt.
Diolch yn fawr iawn i'r tîm clercio hefyd ac i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith pwysig yma, ac i'r bobl sydd wedi troi lan yma heddiw ar gyfer y ddadl. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn rhan dyngedfennol o'r hyn rydym ni'n ei wneud fel pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.