– Senedd Cymru am 3:47 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y cyflog byw. Rydw i'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig. Jane Hutt.
Cynnig NDM6860 Jane Hutt
Cefnogwyd gan David Rees, Dawn Bowden, Hefin David, Helen Mary Jones, Jayne Bryant, Jenny Rathbone, John Griffiths, Julie Morgan, Mark Isherwood, Mick Antoniw, Mike Hedges, Rhianon Passmore, Rhun ap Iorwerth, Vikki Howells
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi yr adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, 'The Living Wage Employer Experience'.
2. Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru i dalu cyflog byw go iawn i'w cyflogeion.
3. yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) nodi'r mesurau i gefnogi mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; a
b) ystyried cryfhau y Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y cyflog byw go iawn yn dilyn yr Wythnos Cyflog Byw fis diwethaf. Rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r ddadl Aelod unigol hon heddiw. Mae'r cyflog byw go iawn yn seiliedig ar y gost o fyw ac fe'i telir yn wirfoddol gan dros 4,700 o gyflogwr yn y DU sy'n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog teg. Mae'r cyflog byw go iawn yn wahanol i gyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU, sy'n seiliedig ar darged i gyrraedd 60 y cant o'r enillion canolrifol erbyn 2020, ac ni chaiff ei gyfrifo yn ôl beth sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Ond mae cyflog byw go iawn yn ddigon i dalu costau byw, nid isafswm y Llywodraeth yn unig.
Flwyddyn yn ôl, ymunais â grŵp arweiniad ar y cyflog byw go iawn yma yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae'r grŵp hwn yn cysylltu â'r Living Wage Foundation, sydd wrth wraidd yr ymgyrch cyflog byw go iawn yng Nghymru. Mae ein grŵp yng Nghymru yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan gynnwys Guy Leach, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni adeiladu Cymreig Knox & Wells Limited, a Mari Arthur, prif weithredwr Cynnal Cymru, sy'n gyfrifol am achredu cyflogwyr cyflog byw go iawn yng Nghymru.
Rwyf wedi manteisio ar y cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf i godi cwestiynau gydag aelodau o'r Cabinet ynghylch cynnydd a chyflawniad y cyflog byw go iawn yng Nghymru fel ffactor allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith a chyflogau isel er mwyn bod yn gymdeithas decach ac economi fwy cynhyrchiol. Yn fy nghwestiynau i'r Gweinidogion, rwyf wedi ceisio nodi ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru annog cyflogwyr yng Nghymru i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn. Dengys y ffigurau diweddaraf fod 174 cyflogwr yng Nghymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn talu'r cyflog byw go iawn i'w gweithwyr, sef £9 yr awr, o'i gymharu â chyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU o £7.83 yr awr.
Arweiniodd Llywodraeth Cymru y ffordd yn y sector cyhoeddus ac mae wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig i wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ers 2015. Sicrhaodd Mark Drakeford y cyflog byw go iawn ar gyfer gweithlu GIG Cymru o ganlyniad i negodiadau yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae GIG Cymru wedi talu'r cyflog byw go iawn ers mis Ionawr 2015. Mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i'r cyflog byw go iawn, gyda Chyngor Caerdydd yn symud tuag at fod yn ddinas cyflog byw go iawn, gan gynnwys cyflogwyr cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, yn ogystal â hwy eu hunain fel awdurdod. Roeddwn yn falch iawn o fynychu lansiad yr Wythnos Cyflog Byw ym mis Tachwedd gyda'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi'r gyfradd wedi'i diweddaru yn y Bigmoose Coffee Company yng Nghaerdydd, elusen sy'n darparu gwaith a chymorth i bobl ddigartref yn y ddinas ac sy'n talu'r cyflog byw go iawn.
Rwyf hefyd yn falch o'r cynnydd ym Mro Morgannwg, lle bûm yn ymgyrchu fel Aelod Cynulliad ers blynyddoedd lawer o blaid sicrhau'r cyflog byw go iawn ar gyfer gweithwyr a phobl sy'n gweithio'n uniongyrchol i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n falch fod Cyngor Bro Morgannwg bellach ar fin dechrau talu'r cyflog byw go iawn i'r rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol iddynt, fel bod modd i tua 4,000 o staff elwa ar draws adrannau cyngor ac ysgolion o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam i'w groesawu'n fawr. Yn wir, mae Cyngor Tref y Barri hefyd yn talu'r cyflog byw go iawn yn fy etholaeth, fel y mae llawer o gyflogwyr y trydydd sector a'r sector preifat yn ei wneud.
Rwyf hefyd yn falch fod rheolwyr Maes Awyr Caerdydd wedi cytuno i dalu'r cyflog byw go iawn i'w holl weithwyr o fis Ebrill nesaf. Mae'r cynnig hwn heddiw wedi ei gyfeirio ar draws Llywodraeth Cymru i gynnwys holl aelodau'r Cabinet sydd â rhywfaint o ddylanwad dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, yr economi a'r seilwaith, cyllid drwy'r contract economaidd a'r cod moesegol, addysg ar gyfer addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac wrth gwrs, cydraddoldebau.
Bydd mynd i'r afael â chyflogau isel yn effeithio'n uniongyrchol ac yn gadarnhaol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyflogau pobl anabl a phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sy'n aml yn gyflogau annheg. Dywedodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod eu bod eisiau i fusnesau ymrwymo i dalu cyflog byw (fel y'i cyfrifir gan y Living Wage Foundation) i staff a hwyluso arferion gweithio hyblyg.
Ac yn ddiweddar cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad ar amgylchiadau ariannol pobl anabl, gan dynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog anabledd yn parhau, gyda phobl anabl yn ennill llai fesul awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
Rwyf wedi cyfeirio yn y cynnig at y gwaith a wnaed gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar brofiad cyflogwyr cyflog byw ar draws y DU. Canfyddiad canolog yr adroddiad yw bod y cyflog byw go iawn wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r rhan fwyaf o gyflogwyr, i gefnogi eu honiad fod achos busnes dros ddod yn gyflogwr cyflog byw go iawn. Yn wir, mae 93 y cant o gyflogwyr yn teimlo eu bod wedi elwa o'r achrediad—gwella enw da yn gwella'u brandiau cyflogwyr, gwella cysylltiadau â chwsmeriaid a chleientiaid ac uwchraddio rheoli adnoddau dynol. Ac yn bwysig, o ran cryfder ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, nodir mynediad at gontractau neu gyllid fel canlyniad cadarnhaol.
Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn symud i newid yr ymrwymiadau a ddisgwylir gan gyflogwyr sy'n cael grantiau a chontractau o 'ystyried' talu o leiaf y cyflog byw go iawn i ymrwymiad gwirioneddol gydag amserlen i gyflawni'r canlyniad hwn. Bydd hyn yn galw am gymorth ac adnoddau i allu ei gyflawni o fewn Llywodraeth Cymru ac asiantaethau allanol. Yn yr Alban, rwy'n credu y gallwn weld y gwersi a ddysgwyd am effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn.
Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru a'n Prif Weinidog newydd gynnwys y cyflog byw go iawn yn flaenoriaeth allweddol ym mriff y Comisiwn Gwaith Teg ac i arwain grŵp cydgysylltu trawslywodraethol i osod cerrig milltir i Lywodraeth Cymru weithio tuag at eu cyrraedd. Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau'r Aelodau.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Wedi'i ariannu gan Sefydliad Joseph Rowntree, cafodd yr hyn a elwid bryd hynny'n 'isafswm incwm safonol' ei gyfrifo a'i ddogfennu gyntaf gan Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Loughborough yn 2008. Cyfartaledd y DU oedd hwn ac nid oedd yn cynnwys amrywiadau y tu mewn a'r tu allan i Lundain. Yn dilyn ymgyrch gan Creu Cymunedau Gyda'n Gilydd yn Wrecsam, cyflwynodd y Cynulliad gyflog byw ar sail yr isafswm cyflog a 15 y cant ar ei ben ar gyfer staff glanhau a staff contract yn 2006. Chwe blynedd yn ôl i heddiw, cyhoeddodd y Cynulliad yn ffurfiol ei fod wedi dod yn gyflogwr cyflog byw achrededig.
Mae adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd 'The Living Wage Employer Experience' yn nodi bod y cyflog byw wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth y DU, ac rwy'n dyfynnu, yn fwyaf nodedig gyda'r cyhoeddiad yn 2015 am y cyflog byw cenedlaethol a thystiolaeth fod cymhelliant adnoddau dynol i gyflogwyr y cyflog byw go iawn. Y cyflog byw go iawn yw'r unig gyfradd gyflogau yn y DU a delir yn wirfoddol gan dros 4,700 fusnesau, ac mae dros 3,000 ohonynt wedi ennill achrediad y Living Wage Foundation, sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog teg. Mae'r cyflogwyr hyn yn talu cyflog byw go iawn, cyflog sy'n uwch nag isafswm y Llywodraeth a chyflog byw Llundain yn Llundain. Mae dros 180,000 o weithwyr yn y DU wedi cael codiad cyflog o ganlyniad i'r ymgyrch dros y cyflog byw, ac mae'r Living Wage Foundation yn dweud eu bod yn cael cefnogaeth drawsbleidiol. Caiff y cyfraddau eu cyfrif yn flynyddol gan Sefydliad Resolution ar ran y Living Wage Foundation a chânt eu goruchwylio gan y Living Wage Commission a sefydlwyd ym mis Ionawr 2016, gan ddefnyddio fformiwla'n seiliedig ar yr hyn sy'n digwydd i safonau byw o un flwyddyn i'r llall yn Llundain a'r DU. Mae'r comisiwn yn darparu fforwm penderfynu tryloyw i ddatrys dyfarniadau penodol ynglŷn â sut i ymgorffori newidiadau polisi a ffynonellau newydd o ddata yn y cyfrifiad. Mae hefyd yn cynghori ar sut i reoli amrywiadau eithafol o flwyddyn i flwyddyn o gynnydd cyffredinol mewn costau byw.
Y cyflog byw presennol yn y DU y tu allan i Lundain yw £9 yr awr a £10.55 yn Llundain, ond mae'r enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU. Yn ôl Sefydliad Bevan, mae 300,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael cyflogau is na'r cyflog byw gwirfoddol. Dengys eu hadroddiad 'Fair Pay' yn 2016 y byddai'r cyflog byw o fudd i gyflogwyr Cymru, eu cyflogeion a'u teuluoedd, a'r economi ehangach gyda'r nesaf peth i ddim risg. Maent yn datgan bod y manteision i gyflogwyr Cymru yn cynnwys mwy o gynhyrchiant, yn gwella recriwtio staff, presenoldeb staff a lefelau cadw staff, ac yn gwella enw da, gydag ond effeithiau bach iawn ar filiau cyflog, er y byddai hyn yn amrywio yn ôl sector a maint y sefydliad.
Maent yn ychwanegu bod y manteision i weithwyr Cymru yn cynnwys mwy o arian, mwy o amser ac yn cynyddu llesiant, er bod graddau'r enillion yn dibynnu ar batrymau gwaith cyflogeion, hawl i les a threfniadau mewnol eraill.
Maent yn dweud bod yr economi ehangach yn elwa o gynyddu refeniw treth ac yswiriant cenedlaethol ac arbedion ar fudd-daliadau. Mae modelu'r effaith ar gyfanswm cyflogaeth yn awgrymu, ar y gwaethaf, mai risg bach a chyfyngedig iawn o golli swyddi sydd o'i weithredu, ac ar y gorau, gallai arwain at beth cynnydd mewn cyflogaeth. Yn bwysig, dywedant, efallai y bydd llawer o gartrefi'n canfod eu bod yn gallu cael ychydig mwy o incwm heb weithio oriau ychwanegol, a bod yn fwy diogel yn ariannol ac efallai'n llai dibynnol ar fudd-daliadau. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n debygol o leihau oherwydd gor-gynrychiolaeth menywod yn y gweithlu cyflog isel yng Nghymru, a gellir cryfhau llesiant ac annibyniaeth ariannol yr unigolyn hefyd.
Fel y dywedodd un cyn-faer Llundain, mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill, yn weithlu a chyflogwr fel ei gilydd.
Yn bwysig, meddai, nid ymwneud â difidendau economaidd yn unig y mae hyn, ond â'r gwelliant anfesuradwy i ansawdd bywyd a morâl y gweithle.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn uchelgais ac y dylid gwobrwyo gwaith caled â chyflog teg. Ein gweithlu yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gennym, ac mae unrhyw beth sy'n tanseilio eu hymdrechion yn niweidiol i'n heconomi. Mae'n hanfodol fod pobl yn cael y cyflogau y mae ganddynt hawl i'w cael.
Rydym yn cefnogi'r cyflog byw cenedlaethol, sy'n mynd i fod o fudd i 150,000 o weithwyr yng Nghymru erbyn 2020. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y gall y cyflog byw go iawn ddarparu manteision clir o ran cynhyrchiant a lefelau presenoldeb. Felly, ers amser maith, rydym wedi bod o blaid camau i adeiladu ar y cyflog byw cenedlaethol er mwyn cefnogi gweithwyr y sector cyhoeddus ymhellach, a dylai pob busnes mawr hefyd anelu at dalu cyflog byw gwirfoddol, a dylem weithio gyda busnesau bach i ystyried sut y gallant gyflawni hyn ar sail gynaliadwy. Dylid ystyried unrhyw beth a all sicrhau gwelliant pellach i safonau byw pobl weithgar Cymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o godi heddiw i gefnogi'r cynnig hwn ac roeddwn yn falch iawn o'i weld yn cael ei gyflwyno gan Jane Hutt yn y lle cyntaf a'i gefnogi gan gymaint o gyd-Aelodau. Fel sawl un yn y Siambr hon, mae'n siŵr, teimlaf yn flin iawn fod cynifer o'n cyd-ddinasyddion yn gweithio'n galed iawn a'u bod yn dal yn dlawd. Rwy'n gwrthwynebu defnyddio trethi pobl i sybsideiddio cyflogwyr gwael a ddylai allu talu cyflogau heb fod raid i bobl sy'n gweithio amser llawn ddibynnu ar fudd-daliadau. Ac wrth gwrs, menywod—a menywod sy'n aml yn gwneud nifer o swyddi rhan-amser—sy'n cael eu heffeithio gan gyflogau isel, ac ar brofiad menywod yr hoffwn ganolbwyntio'n benodol heddiw.
Mae'n amlwg fod y polisi cyflog byw wedi bod yn llwyddiant ac yn amlwg, mae ei ehangu wedi bod yn rhan bwysig o strategaeth economaidd a strategaeth trechu tlodi'r Llywodraeth. Ond telir llai na'r cyflog byw go iawn i tua 26 y cant o weithwyr Cymru o hyd. Golyga hynny fod ychydig dros chwarter ein cyd-ddinasyddion i bob pwrpas yn byw mewn tlodi mewn gwaith. A rhaid inni beidio â drysu rhwng y cyflog byw gwirioneddol, y cyflog byw go iawn, a'r hyn a elwir yn gyflog byw—sef yr isafswm statudol.
Nawr, mae nifer anghymesur o'r 26 y cant yn fenywod, yn enwedig gweithwyr rhan-amser a rhai o dan 30, ac mae menywod yn wynebu llawer o gosbau economaidd ychwanegol. Roedd y bwlch cyflog rhwng menywod a dynion—weithiau rydym yn ei alw'n fwlch cyflog ar sail rhywedd, ond mewn gwirionedd, bwlch cyflog ar sail rhyw ydyw, ac mae'n eithaf pwysig, rwy'n credu, ein bod yn defnyddio'r ddeddfwriaeth gywir, fel y cyfeirir ati yn Neddf Cydraddoldeb 2010—ar sail amser llawn canolrifol fesul awr, heb gynnwys goramser ym mis Ebrill eleni, yn 7.3 y cant yng Nghymru ac 8.6 y cant yn y DU. Nawr, yn anffodus, nid yw hynny oherwydd bod menywod yng Nghymru yn cael eu talu'n well; y rheswm am hynny yw oherwydd bod dynion yng Nghymru yn cael eu talu ychydig yn waeth.
Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi tyfu 0.9 pwynt canran, ac yn y DU, mae wedi gostwng 0.5 pwynt canran, felly gallem ddadlau ein bod mewn perygl yma o symud i'r cyfeiriad anghywir. Fel y gŵyr Aelodau o'r Siambr, mae rheoliadau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sector preifat a sector gwirfoddol gyda 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Yn dilyn y rownd gyntaf o adroddiadau eleni, ac yn seiliedig ar adroddiadau dros 10,000 o gyflogwyr, nododd ychydig dros 78 y cant eu bod yn talu mwy i ddynion na menywod ar gyfartaledd, ac wrth gwrs, mae hyn yn canolbwyntio ar gyflogau amser llawn, ac nid yw'n edrych ar y gosb gwaith rhan-amser y gwyddom fod menywod yn ei hysgwyddo.
Rydym hefyd yn gwybod bod canran ddychrynllyd o uchel o famau newydd yn nodi eu bod yn cael profiadau negyddol neu wahaniaethol o bosibl hyd yn oed naill ai yn ystod beichiogrwydd ac ar absenoldeb mamolaeth, neu ar ôl dychwelyd i'r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth. Mae'n amlwg fod angen i'r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru—weithredu mwy ar hyn, er bod yr hyn a wnaethant eisoes i'w groesawu. Mae'n rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i'r afael â chyflogau isel a gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y gwaith a wneir, sy'n cael ei arwain ar hyn o bryd gan arweinydd y tŷ, yn helpu i gyfrannu tuag at hynny.
Fel y dywedais, mae'r polisi isafswm cyflog wedi cael peth llwyddiant ac mae wedi ein galluogi i roi mwy o amlygrwydd i drafodaeth ar y cyflog byw, ond mae'n dal yn wir yng Nghymru fod tua 8 y cant o swyddi'n talu'r isafswm cyflog cyfreithiol, a rhai ohonynt yn talu llai na hynny. Mae hynny'n gadael llawer iawn o'n cyd-ddinasyddion yn gweithio'n galed iawn ac yn aros yn dlawd iawn. O waith y Comisiwn Cyflogau Isel, gwyddom fod dros hanner y swyddi sy'n talu cyflogau isel wedi'u crynhoi mewn tri sector: manwerthu, lletygarwch, a glanhau a chynnal a chadw. Os edrychwch ar y rhai a gyflogir yn y sector preifat, byddai'r rheini'n cynnwys gofalwyr hefyd, ond oherwydd ein bod, er enghraifft, wedi cyflwyno cyflog byw yn y gwasanaeth iechyd, nid yw gofalwyr yn gyffredinol wedi'u cynnwys, ond os edrychwch ar y rhai a gyflogir gan y sector preifat, maent i'w gweld yno. Felly, yn fy marn i, ni allwn gael trafodaeth ystyrlon yn y Siambr am gyflogau isel, tlodi ac ecsbloetio economaidd heb gynnwys gwahaniaethu ar sail rhyw yn y ddadl.
Rhaid inni fynd i'r afael â gwahaniaethu mewn cyflogaeth; rhaid inni fynd i'r afael â chosb cyflog mamolaeth a gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Buaswn yn mynd ymhellach a dweud mai'r unig ffordd—yr unig ffordd—o fynd i'r afael â chyflogau isel yw drwy gael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a byddai llawer o'n problemau economaidd yn lleihau'n sylweddol pe baem yn gallu gwneud hynny. Felly, hoffwn gysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a wnaeth Jane Hutt am y pethau ymarferol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud. Er enghraifft, pe bai'n cyhoeddi na fyddai ond yn defnyddio cyflogwyr cyflog byw ar gyfer glanhau, cynnal a chadw, lletygarwch a gofal, dyna neges wych y byddai hynny'n ei gyfleu i'r diwydiannau hynny, a'r fath effaith enfawr a gâi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn; nid yw ein cyd-ddinasyddion gweithgar yn haeddu llai oddi wrthym. Ni lwyddwn i drechu tlodi mewn gwaith oni bai ein bod yn trechu gwahaniaethu ar sail rhyw yn y gweithle, a chredaf fod cymaint mwy y gallem ei wneud.
Ymddengys ein bod wedi teithio'n bell ers 1997, ac wrth wrando ar Mark Isherwood yn rhestru manteision cyflog byw, oni fyddai wedi bod yn wych pe bai wedi bod o gwmpas ynghanol y 1990au i geisio darbwyllo'r Llywodraeth Geidwadol i gyflwyno isafswm cyflog cenedlaethol? Roeddent yn ei wrthwynebu'n llwyr—yn gwbl bendant yn erbyn gwneud hynny. Yn ôl yr hyn a ddywedent, byddai isafswm cyflog cenedlaethol yn dinistrio ein heconomi. Maent bellach wedi newid eu meddyliau, ac mae'n dda mai'r Blaid Lafur a greodd y newid hwnnw. Ond wedi dweud hynny, rhaid i waith y Llywodraeth barhau, a dyna pam y mae'r cynnig hwn mor deilwng o'n cefnogaeth, ynghyd â'r ffaith y dylem fod yn talu cyflog byw go iawn ledled Cymru, fel y dywedodd Helen Mary Jones.
Roeddwn am dynnu sylw at Educ8, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn fy etholaeth, gan eu bod oll yn gyflogwyr cyflog byw achrededig, a chyngor Caerffili, nad yw'n gyflogwr cyflog byw achrededig, ond mae'n talu'r cyflog byw go iawn.
Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau hefyd ar bolisi Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi sylfaenol a'r cynllun gweithredu economaidd, ac yn arbennig y gwaith y mae'r Ganolfan Ymchwil ar Newid Diwylliannol-Gymdeithasol ym Manceinion—CRESC—wedi'i wneud. Maent wedi tynnu sylw at y ffaith, os oes gennych ffocws ar yr economi sylfaenol, y bydd hefyd yn canolbwyntio ar gyflogaeth technoleg isel, cyflog isel, a dyna'n benodol yw'r broblem mewn cymunedau yn y Cymoedd gogleddol a llawer o'r cymunedau yn rhan ogleddol yr etholaeth a gynrychiolaf. Mae'n broblem benodol, yn rhannol oherwydd bod yr amgylchedd yn llawn o gwmnïau bach a microgwmnïau yn enwedig. Nid yw hynny'n golygu bod pob microgwmni'n gyflogwr cyflog isel, ond maent yn tueddu—ceir cyfran fwy sy'n tueddu—i'r cyfeiriad hwnnw. Soniwn yn aml am arferion adnoddau dynol mewn microfusnesau bach fel pe baent yn ddiffygiol yn yr ystyr nad ydynt mor berffaith ag y gallech feddwl; nid oes gennych y rhyddid y gallech feddwl, wrth weithio mewn cwmni bach.
Ond hoffwn dynnu sylw'r Siambr at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach a luniwyd ac a lansiwyd heddiw, 'Cymru Fedrus', lle maent hefyd yn amlygu bod microfusnesau 53 y cant yn fwy tebygol o fod yn defnyddio ac yn talu'r cyflog byw go iawn na chwmnïau sy'n cyflogi mwy na 10 o bobl. Felly, mae'n ddarlun da; mae'n ddarlun cymhleth, ond ceir darlun da yn y sector sylfaenol.
Felly, mae ffocws polisi ar yr economi sylfaenol y mae Ysgrifennydd y Cabinet bellach yn ei chefnogi'n frwdfrydig yn rhoi dylanwad i Lywodraeth Cymru yn y meysydd y maent wedi'u dewis fel sectorau—sef gofal, bwyd, manwerthu a thwristiaeth. Mae eu pwysigrwydd fel darparwyr a chyflogwyr yn golygu y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar ganlyniadau economaidd a chymdeithasol yn y sectorau sylfaenol hynny. Yn benodol, mae CRESC yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gael gwared ar y syniad o greu amgylchedd busnes generig gyda pholisïau ansafonol a addasir yn ôl nodweddion sectoraidd a gofynion busnes penodol, gan gydnabod cymhlethdod y sector sylfaenol, a hyd yn oed y pedwar sector y mae'r Llywodraeth wedi'u dewis—gan gydnabod y cymhlethdod a defnyddio'r grym llywodraethol sydd ar gael i ddylanwadu yn y sectorau hynny.
Yn y sector bwyd, er enghraifft, gallai hyn olygu negodi gyda chyflenwyr ar ymrwymiadau ffurfiol o ran cyrchu, hyfforddiant a chyflogau byw. Mae CRESC yn dadlau y dylai'r Llywodraeth annog busnesau i fod yn gyfrifol drwy hyrwyddo parhad perchnogaeth ar fusnesau bach a chanolig. Un o'r problemau yw bod ein busnesau bach a chanolig, pan fyddant yn cyrraedd lefel o lwyddiant, yn cael eu prynu gan sefydliadau heb yr un cymhellion allgarol o bosibl o ran eu harferion adnoddau dynol. Felly, gall caffael cyhoeddus chwarae rhan bwysig hefyd, lle mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio'i phwerau caffael i hybu'r economi sylfaenol drwy ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr a chyflenwyr dalu'r cyflog byw.
Gallwn greu amgylchedd polisi sy'n cefnogi'r economi sylfaenol a busnesau bach a chanolig lleol ac ymgorffori diwylliant o'i mewn sy'n talu'r cyflog byw yn y cwmnïau hynny. Mae ganddo botensial i fod o fudd enfawr i fusnesau bach a chanolig os ydych yn talu'r cyflog byw, fel yr amlinellwyd eisoes—y manteision i sefydliad o wneud hynny—a gallwn greu'r amgylchedd polisi cywir hwnnw. Ceir enghraifft y buom yn siarad amdani o'r blaen, yn Preston, gyda'r sefydliad angori, ond hefyd wrth sôn am y gweoedd cyflenwi sy'n bodoli ar draws y Cymoedd gogleddol, a galluogi'r rheini i dyfu, i ehangu, ac yn y pen draw i dalu'r cyflog byw go iawn yn y sefydliadau hynny.
Rydw innau'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig yma. Mi ydym ni wedi dod ymhell iawn, fel y mae Hefin David newydd ei ddweud, o'r dadleuon yna nôl yng nghanol y 1990au ynglŷn â gwerth lleiafswm cyflog bryd hynny. Mae hi'n dweud rhywbeth am ein dealltwriaeth ni rŵan fod y blaid a wnaeth wrthwynebu lleiafswm cyflog nôl bryd hynny, bellach, wrth gwrs, wedi cyflwyno rhyw fath o leiafswm cyflog eu hunain, er nad y lleiafswm cyflog fel y mae'r rheini ohonom ni sydd eisiau mynd ymhellach yn dymuno ei weld. Ond, wir, rydym ni'n deall, onid ydym, beth ydy gwerth i'r economi'n ehangach o roi rhagor o arian i bobl am eu gwaith caled nhw.
Ers talwm, diwethdra—taclo diweithdra—oedd y nod. Rydym ni'n deall, erbyn hyn, mai cyflogau uwch, gwell swyddi ac ati, sydd eu hangen ar economi Cymru. Mae o'n bryder gennyf i ac rydw i wedi adrodd hynny sawl tro yma yn y Cynulliad, sef bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dal yn rhoi gormod o bwyslais braidd ar y ffaith bod diweithdra, ydy, yn gymharol isel yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae o'n beth da, ond allwn ni ddim dibynnu ar hwnnw fel yr arwydd o le mae ein heconomi ni arni.
Ond gan ein bod ni’n deall, ac yn cefnogi rŵan, yr egwyddor yma o leiafswm cyflog neu o gyflog byw go iawn, mae’n rhaid edrych ar beth mae Llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn gallu ei wneud. Mae angen iddi roi trefn ei thŷ ei hun, yn sicr, a sicrhau—. Rwy’n gwybod bod yna waith da iawn wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn gwthio’r cyflog byw allan ar draws y sector cyhoeddus, ond rydym ni’n dal yn aros am i rai staff ym Maes Awyr Caerdydd, er enghraifft, gael lefel y cyflog hwnnw. Rydym ni’n dal yn edrych ar draws y sector cyhoeddus a gweld bod yna dyllau sydd angen eu llenwi o hyd. Ac mae’n rhaid rhoi trefn ar ein tŷ cyhoeddus ein hunain.
Mae angen, oes, ddefnyddio prosesau caffael, fel mae Hefin David a Helen wedi cyfeirio atyn nhw, i sicrhau bod y rheini sy’n darparu gwasanaethau yn sector cyhoeddus yn cael eu cydnabod a’u dewis am eu bod nhw yn gwmnïau sy’n talu cyflog byw.
Rŵan, yn ôl astudiaeth blynyddol KPMG ar gyfer 2018, mae Cymru yn un o’r tair rhan o’r Deyrnas Unedig sydd â’r gyfran uchaf o swyddi yn ennill llai na’r cyflog byw. Felly, rydym ni’n gwybod bod hon yn broblem arbennig o acíwt i ni yn fan hyn. Ac rydym ni wedi cyfeirio yn barod at rai o’r sectorau lle mae’r broblem ar ei mwyaf: lletygarwch, arlwyo, manwerthu, celf, a hamdden, amaeth hefyd, iechyd a gofal—gormod o swyddi o lawer yn talu yn is na’r cyflog byw. Ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth wthio’r neges yma fod yna help ar gael—mae’n rhaid sicrhau bod yr help ar gael—i gwmnïau a chyrff allu derbyn achrediad cyflog byw a’u perswadio nhw o’r manteision amlwg sydd yna—manteision fel a oedd yn cael eu dangos mewn dadansoddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, sydd yn sicr yn dangos nad oes yna dystiolaeth o gyflogwyr cyflog byw yn trio ennill peth o’r arian hwnnw maen nhw’n ei roi mewn cyflogau uwch yn ôl mewn ffyrdd eraill. Mae 93 y cant o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg yn teimlo eu bod nhw wedi cael budd go iawn o gael achrediad cyflog byw, budd i’w henw da nhw fel cwmnïau yn aml iawn, yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw recriwtio, yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw gadw staff yn hirach. Mi ddywedodd rhai bod achrediad cyflog byw wedi arwain atyn nhw’n cynnig rhagor o hyfforddiant i’w staff—felly, yn rhoi codiad cyflog iddyn nhw, ac uwchsgilio eu staff. Hynny ydy, mae’r knock-ons yn amlwg. Mae tystiolaeth wedyn o gwmnïau yn symud gweithwyr o weithio rhan-amser i lawn-amser, o gytundeb dros dro i gytundeb parhaol, cyflwyno ffurfiau newydd o weithio, am eu bod nhw’n meddwl yn wahanol am y ffordd maen nhw’n talu’r cyflogau ac yn gwerthfawrogi eu staff nhw.
Ond mae yna fudd economaidd ehangach, wrth gwrs, o sicrhau bod gan ein gweithwyr ni ragor o arian i’w wario yn eu heconomïau lleol nhw. Rydw i’n meddwl bod yr adroddiad diweddar gan y Smith Institute yn amcangyfrif, pe baech chi’n talu cyflog byw i’r rheini sydd ddim ar gyflog byw yn ardal Caerdydd yn unig ar hyn o bryd, byddai gennych chi ryw £24 miliwn yn ychwanegol yn cael ei dalu fel cyflogau i gael eu gwario yn yr economi leol. Mae’n rhaid bod hynny yn beth y dylem ni fod yn gwthio amdano fo ledled Cymru. Ac rydw i’n cefnogi, ac mae fy mhlaid i’n cefnogi, hyn, oherwydd ei fod yn llesol i unigolion. Mae beth sy’n llesol i unigolion yn llesol i deuluoedd, a beth sy’n llesol i deuluoedd yn llesol i gymunedau, a lles cymuned yn adeiladu lles cenedlaethol. Felly, oes, mae yna lawer o dir wedi ei ennill ym maes cyflog byw, ond mae yna ffordd bell i fynd, ac mi fyddem ni’n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau bod Cymru yn dod yn wlad cyflog byw go iawn.
Mae rhai o'r siaradwyr eisoes wedi dweud ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd, ond mae gennym ffordd bell i fynd, ond credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol iawn—a hoffwn sôn amdano, oherwydd roeddwn i yno—gyda phasio'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur a ddaeth i rym yn 1997—rhan o'i diwygiadau mawr. Rwy'n meddwl mai dyna oedd y dechrau sydd wedi arwain bellach at yr ymgyrch hon. Ac rwy'n llongyfarch Jane Hutt a Mick Antoniw ac eraill am gyflwyno hyn heddiw, oherwydd credaf ei fod yn fater bara menyn go iawn, fel y dywedodd ein Prif Weinidog newydd. Mae'n ymwneud â'r arian sydd gan weithwyr yn eu pocedi ar ôl talu'r biliau. Mae'n ymdrin â thlodi mewn gwaith, fel y mae eraill wedi'i ddweud yma heddiw. Ar un adeg, os oedd gennych swydd, roeddem yn meddwl mai dyna ni; ni fyddech yn byw mewn tlodi. Gwyddom bellach fod tlodi mewn gwaith yn un o'r problemau anoddaf i fynd i'r afael â hi, felly mae cyflwyno cyflog byw go iawn yn hanfodol bwysig i'n holl ddinasyddion.
Bellach mae 175 o gyflogwyr yng Nghymru a achredwyd gan y Living Wage Foundation wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw go iawn. Wrth gwrs, mae'n effeithio'n arbennig ar bobl ifanc os ydynt o dan 25 oed, gan fod y bwlch rhwng cyfradd is yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw go iawn yn fwy ar gyfer y rhai yn y grŵp oedran 18 i 25 oed. Mae hwnnw'n eithaf sylweddol—bron i £3,200 y flwyddyn, sy'n llawer iawn o arian. Rwy'n falch iawn, fel y soniodd Jane Hutt, fod cyngor Caerdydd yn gefnogwr cynnar i'r cyflog byw go iawn, gan ymrwymo iddo yn 2012, ac rydym yn gwybod bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn talu'r cyflog byw go iawn, megis Cymorth i Fenywod, Chwarae Teg a Mind. Rwyf hefyd yn falch fod 96 o gyflogwyr sector preifat yng Nghymru yn talu'r cyflog byw go iawn, ac yng Nghaerdydd, soniodd Jane Hutt am y Bigmoose Coffee Company, lle lansiwyd yr wythnos cyflog byw; cwmni cysylltiadau cyhoeddus Freshwater, cwmni cyfreithwyr Darwin Gray, y Cardiff Window Cleaning Company ac IKEA, sydd i gyd yn talu cyflog teg i'w staff am ddiwrnod caled o waith. Felly, credaf fod arnom eisiau llongyfarch y cyflogwyr sector preifat hynny a'u hannog, oherwydd, yn amlwg, rhan o'r ymgyrch hon yw annog cyflogwyr sector preifat i wneud hyn.
Credaf fod llawer o siaradwyr heddiw wedi amlygu'n glir iawn pam y dylai cyflogwyr gyflwyno'r cyflog byw go iawn yn hytrach na chyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU. Mae yna resymau moesol. Rydym am i bobl gael digon o arian i allu byw. Ond yn amlwg, ceir rhesymau busnes cadarn yn ogystal, ac mae sawl siaradwr eisoes wedi sôn am arolwg Ysgol Fusnes Caerdydd o brofiad 840 o gyflogwyr a gynhaliwyd yn ystod hydref 2016, a chredaf fod siaradwyr wedi tynnu sylw at fanteision gwirioneddol cyflwyno'r cyflog byw go iawn, ac nid wyf am ailadrodd y rheini.
Ond credaf fod talu'r cyflog byw go iawn mor bwysig i'r rhai sydd mewn gwaith cyflog isel, oherwydd gall wneud y gwahaniaeth rhwng cael dau ben llinyn ynghyd a methu gwneud hynny. Credaf ein bod oll yn gwybod am y straen ofnadwy sy'n wynebu cynifer o deuluoedd ar hyn o bryd. Yn arbennig, gwelwn bobl yn ein cymorthfeydd, ac mae polisi cyni wedi taro cymaint o deuluoedd mor galed. Fel gwlad, mae gennym ormod o weithwyr ar gyflogau isel, a gwn fod gennym broblem benodol yng Nghymru oherwydd dangosodd adroddiad gan Sefydliad Resolution mai pobl yng Nghymru a gafodd y cynnydd lleiaf ond un yn eu cyflogau yn y DU ar ôl gogledd-ddwyrain Lloegr. O'i gymharu â naid o 18 y cant yng nghyflogau Llundain, 4.5 y cant yn unig o gynnydd a fu yn y cyflogau yma.
Felly, hoffwn groesawu ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, i hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r agenda gwaith teg a'r cyflog byw go iawn, yn ogystal, wrth gwrs, â chau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fel yntau, credaf mai'r ffordd fwyaf effeithiol allan o dlodi a'r llwybr gorau tuag at fywydau bodlon, sydd hefyd wrth gwrs yn golygu eich iechyd a'ch llesiant—mae'n golygu popeth a wnewch—yw drwy greu cyflogaeth werth chweil a wobrwyir yn briodol. Ac mae cyfle gwych gan Lywodraeth Cymru i ledaenu'r cyflog byw drwy ein cadwyni cyflenwi, a byddai hynny'n helpu i greu ffyniant ledled y wlad.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jane Hutt am gyflwyno'r ddadl a'r cynnig pwysig hwn y prynhawn yma, yn amserol iawn, rwy'n credu. Mae Jane wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros lawer iawn o flynyddoedd o blaid mwy o hawliau i weithwyr yng Nghymru, o fewn y Llywodraeth ac oddi allan, mae'n deg dweud, ac unwaith eto heddiw, mae'n gwneud achos cryf a grymus dros Gymru cyflog byw, gyda llawer o'r Aelodau eraill ar draws y Siambr hon. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau heddiw sydd wedi cyfrannu at y ddadl, y drafodaeth?
Credaf ei bod hi'n deg dweud fod digon o dystiolaeth yn bodoli bellach i ddangos bod cymdeithasau mwy cyfartal yn bendant iawn yn gymdeithasau hapusach, yn gymdeithasau mwy dedwydd, a bod cyflogwyr sy'n talu cyflog da yn tueddu i gyflawni cyfraddau cynhyrchiant uwch. Ac o fewn yr economi sylfaenol, fel y clywsom, mae yna broblem arbennig gyda chyflogau isel, ond hefyd, yn yr economi sylfaenol y gwelwn gyfran uwch o fenywod mewn gwaith, sydd, yn ei dro, yn cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd gennym yn ein cymdeithas gwaetha'r modd, a rhaid inni fynd i'r afael â hynny. A dyna pam y canolbwyntiwn fwy nag erioed ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gwell cyflogau a gwaith o ansawdd uwch yn yr economi sylfaenol. Dyna pam y mae gwaith tasglu'r Cymoedd wedi canolbwyntio'n fawr ar rôl yr economi sylfaenol, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn hapus i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma, gan fod gwneud Cymru'n genedl fwy cyfartal, yn genedl lle mae gan bawb fynediad at waith teg sy'n talu cyflog byw, a lle y gall yr holl weithwyr ddatblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd, yn un o amcanion sylfaenol y Llywodraeth hon.
Dyna pam ein bod hefyd wedi datblygu'r cynllun gweithredu economaidd ac wedi gosod y contract economaidd newydd yn ganolog iddo. Ac rwy'n credu'n bendant mai dyma'r cyfle gorau posibl i ni i weithredu polisi mor radical, gyda diweithdra ac anweithgarwch economaidd ar lefelau is nag erioed. Pe bai diweithdra gryn dipyn yn uwch, byddai'n llawer anos gweithredu'r contract economaidd sy'n gofyn cymaint mwy gan gyflogwyr. Ac mae'r contract yn nodi disgwyliad clir iawn y dylai busnesau ddangos eu hymrwymiad i waith teg yn amlwg os ydynt yn dymuno cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Lle mae sefydliadau'n cael ac yn gwario arian cyhoeddus, credaf ei bod hi'n iawn ein bod yn disgwyl iddynt ymrwymo i'n cod ymarfer cyflogaeth foesegol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf mewn munud—ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi a gwneud popeth a allant i wneud yn siŵr fod eu gweithwyr eu hunain a'r gweithwyr o fewn y gadwyn gyflenwi yn cael eu cyflogi'n deg. Ac rwyf am ildio i Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n meddwl tybed a allwch gynnwys ystyriaeth yn y canllawiau hynny o ba mor wahanedig yw gweithleoedd cwmnïau, oherwydd gwyddom mai dyna'r sail—. Tra byddwn yn parhau i dalu mwy i'r dynion sy'n trwsio ein ceir nag a wnawn i'r menywod sy'n edrych ar ôl ein plant, rydym yn dal yn mynd i fethu symud yn y lle hwn. Felly, yn y canllawiau diwygiedig, a allech chi edrych ar sut y gallai monitro'r gwahaniad weithio?
Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny oherwydd, fel y dywedodd yr Aelod, mae'n fwy cyffredin mewn rhai diwydiannau penodol ac mewn rhai sectorau penodol, ac rwy'n falch y byddwn yn adolygu pob un o'r canllawiau, a chredaf fod gwahaniad yn nodwedd allweddol y mae'n rhaid inni edrych yn agosach arni. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gwaith y Comisiwn Gwaith Teg sy'n edrych ar y diffiniad o waith teg ar fin cael ei gwblhau. Daw i ben yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r agenda hon.
I gefnogi gweithredu a mabwysiadu'r cyflog byw go iawn, rydym yn mynd i edrych ar opsiynau sy'n cynnwys defnyddio ein pwerau a'n dylanwad ein hunain i gyrraedd y nodau y credaf fod pawb wedi'u cefnogi heddiw yn y gweithlu ehangach, ac rwy'n falch o ddweud bod yr Athro Edmund Heery, prif awdur yr adroddiad gan Brifysgol Caerdydd y buom yn ei drafod heddiw, yn aelod o'r comisiwn hwnnw.
Mae'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi bellach yn cynnwys ymrwymiad i ystyried talu'r cyflog byw i bob aelod o staff, ac annog cyflenwyr i wneud yr un peth. Hyd yma, mae 150 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r cod, gan gynnwys ein holl heddluoedd, byrddau iechyd a phrifysgolion; mae 14 o awdurdodau lleol wedi ymrwymo a disgwylir i eraill wneud hynny'n fuan; mae 84 o fusnesau preifat mewn amrywiaeth eang o sectorau ac 17 o elusennau hefyd yn gefnogol. Mae'n ddechrau da, ond rydym am weld y nifer honno'n cynyddu'n ddramatig. Credaf ei bod hi'n galonogol clywed am uchelgais cyngor Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd cyflog byw cyntaf yn y DU, ac nid cyrff cyhoeddus mwy o faint yn unig sy'n dod yn achrededig—mae cynghorau tref y Barri ac Aberhonddu yn gwneud hynny hefyd, ac mae hynny'n glod mawr iddynt.
Rwyf hefyd yn falch fod y cod ymarfer wedi bod o ddiddordeb mawr y tu allan i Gymru yn ogystal. Er enghraifft, cynhwysodd cyfarwyddwr gorfodi'r farchnad lafur ar gyfer y DU argymhelliad ar god Cymru yn ei adroddiad blynyddol diwethaf. Gallai weld mantais defnyddio gwariant cyhoeddus fel dull o fynd i'r afael â diffyg cydymffurfiaeth â deddfau llafur ac isafswm cyflogau. Felly, credaf ein bod ar y blaen o gymharu â gweddill y DU mewn sawl ffordd ac yn sicr o ran gofyn i gyrff cyhoeddus a busnesau llai ac elusennau i gyhoeddi datganiadau gwrth-gaethwasiaeth fel rhan o'u hymrwymiad i'r cod hwn. Busnesau mawr yn unig sy'n gorfod gwneud hyn o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Ond ni ddylem edrych ar gyflogau yn annibynnol ar agweddau eraill ar waith teg a chyfreithlon. Mae hyn yn rhywbeth y soniodd Helen Mary Jones amdano mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail rhyw, ac mae hefyd yn rhywbeth y cyfeiriodd Julie Morgan ato mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail oedran, ac yn arbennig, yr her y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu.
Rydym wedi cynnwys sbectrwm o arferion yn y cod o'r troseddol i'r anghyfreithlon, yr anfoesol ac ymlaen at yr arfer gadarnhaol o dalu'r cyflog byw. Nid oes unrhyw doriad clir rhwng y categorïau hyn, a'r peth pwysig yw ein bod yn cyflawni rhagor o ddiwydrwydd dyladwy. Os nad ydych yn gwybod, er enghraifft, sut y cyflenwir gweithwyr yn eich cadwyn gyflenwi, sut y gwyddoch nad oes neb yn cael eu hecsbloetio? Nid yw sefydliad yn gwneud y peth iawn os yw'n talu'r cyflog byw ond ei fod yn cyllido hyn drwy dorri manteision eraill neu drwy symud pobl i gontractau llai diogel.
Felly, fel y dywedais yn gynharach, mae'n sicr y gallwn wneud rhagor a bod rhagor y dylem ei wneud drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r cod ymarfer. Credaf eu bod yn gam mawr ymlaen o'n dull blaenorol o ymdrin â'r byd busnes. Rydym eisoes yn ymrwymedig i adolygu effeithiolrwydd y cod yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi derbyn argymhelliad cyfarwyddwr gorfodi'r farchnad lafur ar gyfer y DU y dylem ei adolygu. Bydd pob un o ymrwymiadau'r cod, gan gynnwys yr un ar y cyflog byw, yn cael eu hadolygu. Byddwn yn edrych ar yr effaith y mae eisoes yn ei chael a beth sydd ei angen i'w hyrwyddo ac i annog sefydliadau i gyflawni eu hymrwymiadau. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen ei gryfhau mewn mannau, a byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth â chyflogwyr y sector cyhoeddus, gyda busnesau a chyda'r undebau llafur.
Os byddaf yn dychwelyd i'r rôl hon, byddaf yn edrych yn fanwl lle gall y contract economaidd fynd nesaf a pha sefydliadau partner y gallwn ofyn iddynt ddechrau ei ddefnyddio, oherwydd fy mwriad o'r cychwyn pan luniais y contract economaidd oedd ei gyflwyno yn y pen draw ar draws holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector sy'n cael cymorth cyhoeddus, ac ymgorffori—yn amodol ar argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg wrth gwrs—y cyflog byw yn y contract economaidd. Nid dyhead yw Cymru cyflog byw, ond cyrchfan y byddwn yn ei gyrraedd. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd yr ymrwymiad a ddangoswyd yn y Siambr hon heddiw yn ein helpu ar hyd y ffordd. Diolch yn fawr iawn.
Mick Antoniw, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i grynhoi yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n croesawu cyfraniad pawb. Roedd pob cyfraniad yn deillio o fwriad da ac yn cefnogi'r syniad, oherwydd mae'n gysyniad sy'n llifo mor rhwydd oddi ar y tafod wrth sôn am gyflogau byw. Mae'r realiti yn wahanol braidd, oherwydd lle rwy'n anghytuno yw nad wyf yn credu mewn gwirionedd ein bod wedi dod yn bell iawn. Credaf yn wir ein bod wedi bod yn mynd tuag at yn ôl.
Un agwedd yw'r cyflog byw. Mae'n llawer gwell gennyf y cysyniad o Gymru fel cenedl gwaith teg yn hytrach na chenedl cyflog byw, am mai un agwedd ar yr elfennau sy'n rhoi'r gallu i gael safon byw gweddus yw cyflogau. Yr egwyddor sylfaenol y dylai rhywun sy'n gweithio wythnos lawn o waith allu byw bywyd o ansawdd gweddus, safon weddus, gallu mynd ar wyliau, gallu mwynhau rhai o'r pethau cymdeithasol a diwylliannol yn eu bywydau—yn amlwg nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.
Pan siaradodd Mark Isherwood, gwn fod ei fwriad yn dda. Gwn ei fod yn ei gredu o'i galon. Ond a dweud y gwir, y realiti yw nad yw'r Blaid Geidwadol erioed wedi credu yn y cysyniad o gyflog byw go iawn. Y tric creulonaf oll oedd galw'r isafswm cyflog yn gyflog byw pan nad oedd yn gyflog byw mewn gwirionedd, felly roedd yn rhaid inni ddechrau cymryd rhan yn y drafodaeth honno i'w egluro a dweud, 'Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn awr yw cyflog byw go iawn, hynny yw, cyflog sy'n eich galluogi i fyw'n iawn.'
Pan edrychwch ar yr hanes, pan edrychwch ar yr holl enghreifftiau o'r hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar, y llif o ddeddfwriaeth sydd wedi gwahaniaethu ac wedi cyfyngu ar undebau llafur, lle gwyddom mai prif achos y cyfyngu ar ddosbarthu cyfoeth ymhlith pobl sy'n gweithio oedd y gostyngiad mewn cydfargeinio—gallwch weld y data hwnnw ledled Ewrop. Po leiaf o gydfargeinio a geir, y mwyaf o dlodi sy'n bodoli, a'r mwyaf o anghydraddoldeb mewn gwirionedd.
Gadewch i ni edrych hefyd ar beth yw agenda'r Torïaid wedi bod ar bob agwedd ar ddeddfwriaeth lle rydym wedi sôn am ansawdd cyflogau ac ansawdd gwaith. Roeddent yn gwrthwynebu Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i amddiffyn gweithwyr fferm. Roeddent yn gwrthwynebu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017. Roeddent yn gwrthwynebu gweithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar lefel y DU. Roeddent yn gwrthwynebu pennod gymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd. Roeddent yn gwrthwynebu cynnwys y siarter Ewropeaidd o hawliau sylfaenol. Ar lefel y DU, maent wedi gwrthwynebu ymgyrch dros orfodi'r isafswm cyflog. Yng Nghymru mae gennym 19,000 bobl—amcangyfrifedig—nad ydynt yn cael yr isafswm cyflog hyd yn oed. Ble mae'r 19,000 o erlyniadau i orfodi hynny mewn gwirionedd? Ac maent hefyd wedi cyflwyno, ac yna wedi gwrthwynebu, eu polisi eu hunain o ddod â gweithwyr ar fyrddau cyfarwyddwyr cwmnïau mawr er mwyn i weithwyr gael lleisio barn.
Byddai'n well o lawer gennyf weld symud tuag at ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol o beth yw gwaith gweddus, a dyma'r diffiniad:
Mae gwaith gweddus yn crynhoi dyheadau pobl yn eu bywydau gwaith. Mae'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n gynhyrchiol ac yn sicrhau incwm teg, diogelwch yn y gweithle ac amddiffyniad cymdeithasol i deuluoedd, gwell rhagolygon ar gyfer datblygiad personol ac integreiddio cymdeithasol, rhyddid i bobl fynegi eu pryderon, i drefnu a chymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a chyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal i'r holl fenywod a dynion.
Credaf fod yn rhaid inni fynd ymhellach o lawer na'r math o ymagwedd wirfoddol sy'n cael ei mabwysiadu. Rwy'n croesawu gwaith y Comisiwn Gwaith Teg wrth gwrs, rwy'n croesawu gwaith y Living Wage Foundation a'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd yn sgil hynny, ond rwy'n eithriadol o falch fod gennym Brif Weinidog sydd wedi ymrwymo i ddeddfu yn y maes hwn mewn gwirionedd, oherwydd credaf mai dyna yw'r unig ffordd ymlaen—deddfu ar gyfer Deddf partneriaeth gymdeithasol, Deddf a fydd yn darparu mecanwaith ar gyfer sicrhau mai i gwmnïau sy'n barod i ymrwymo i safonau moesegol yn unig y bydd ein £6 biliwn o arian caffael yn mynd, a bod y cwmnïau sy'n cael yr arian caffael hwnnw'n ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol am y gadwyn gyflenwi, yr holl ffordd i lawr, fel nad oes gennych system is-gontractio lle mae pawb yn cymryd toriad o'r elw ac yn y pen draw, y gweithwyr sy'n cael llai a llai.
Ac rwy'n falch hefyd fod gennym Brif Weinidog sydd wedi ymrwymo yn awr i weithredu adran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Torīaid wedi gwrthod ei wneud ar lefel y DU. Mae wedi'i roi ar waith yn yr Alban ac nid oes unrhyw rheswm o gwbl pam na ddylem ymrwymo bellach i'w weithredu, gan ddefnyddio caffael ar gyfer amcanion economaidd-gymdeithasol. Ac rwy'n falch iawn fod gennym Brif Weinidog yn awr sy'n ymrwymedig i hynny hefyd.
Felly, er fy mod yn croesawu'r penderfyniad hwn, rwy'n ei groesawu cyn belled ag y mae'n mynd, a'r hyn a ddywedaf yw nad yw'n mynd yn ddigon pell. Rhaid inni symud yn awr i'r ewyllys newydd; hynny yw, creu hawl penodol i waith gweddus a theg, os ydych yn gweithio yng Nghymru. Rwyf am weld Cymru'n dod yn genedl gwaith teg, nid cenedl cyflog byw yn unig na hyd yn oed cenedl cyflog byw go iawn. Mae cymaint o ffactorau'n perthyn i hynny. Wrth gwrs ceir cyfyngiadau, a dyna pam fod angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac rydym angen y math o agenda sy'n cael ei hyrwyddo gan John McDonnell yn awr ar ail-sefydlu hawliau cyflogaeth, ond hawliau cyflogaeth sylfaenol fel rhan greiddiol o fusnes. A ydym yn gweithio i fusnesau wneud elw yn unig, neu a ydym yn gweithio mewn gwirionedd er mwyn inni allu cael safon byw sy'n weddus? Mae'r cydbwysedd wedi'i golli yn ein cymdeithas a rhaid inni adfer y cydbwysedd hwnnw ar lefel y DU, ond mae llawer y gallwn ei wneud ar lefel Cymru hefyd, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddatblygu agenda ddeddfwriaethol i wneud yr hyn a allwn yng Nghymru i sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl gwaith teg. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.