– Senedd Cymru am 3:02 pm ar 29 Ionawr 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ddiwygio'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu ac ar y Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer newid deddfwriaethol. A dwi'n galw ar y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, i gyflwyno'r datganiad. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae cyhoeddi Papur Gwyn y cwricwlwm ac asesu yn garreg filltir bwysig ar daith bresennol diwygio addysg yng Nghymru. Mae hon hefyd yn eiliad arwyddocaol yn ein hanes fel pobl sy'n ystyried addysg yn fenter i'r unigolyn, i'r gymuned ac i'r genedl. Am y tro cyntaf erioed, rydym yn cyflwyno cynigion deddfwriaethol a 'luniwyd yng Nghymru' ar gyfer y cwricwlwm ysgol. Ie, a luniwyd yng Nghymru, ond a ddatblygwyd gan y gorau yn y byd. Mae'n hanfodol ar gyfer cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol ein bod yn codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd.
Dyma wireddu'r alwad a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan yr addysgwraig flaengar, Elizabeth Phillips Hughes. Hi oedd pennaeth cyntaf y Coleg Addysg i Fenywod yng Nghaergrawnt, a daeth yn ei hôl adref i fod yr unig fenyw ar y pwyllgor a ddrafftiodd Siarter Prifysgol Cymru. Wrth ddadlau achos addysg ar y cyd, hyrwyddo addysg i ferched a phwysigrwydd dimensiwn Cymreig i'n system addysg, dywedodd fod yn rhaid i addysg fod yn genedlaethol, ac mae'n rhaid iddi fod yn ein dwylo ni ein hunain.
A heddiw, rydym yn symud ymlaen ar yr addewid hwnnw.
Mae nodweddion hanfodol y cwricwlwm presennol, a ddyfeisiwyd ym 1988 gan Lywodraeth San Steffan ar y pryd, yn henffasiwn erbyn hyn oherwydd y newidiadau diweddar a'r newidiadau sydd i ddod eto o ran technoleg a datblygiad ein cymdeithas a'n heconomi. Mae'r pwyslais yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfarwyddiadau wedi tueddu i greu diwylliant sy'n llesteirio creadigrwydd. Bu cyfyngu ar addysgu a dysgu, ac ni chafodd cyfraniad proffesiynol y gweithlu ei ddatblygu'n ddigonol.
Er mwyn codi safonau i bawb ac ehangu cyfleoedd, rwy'n gwbl glir bod angen rhoi grym i'r ysgolion ac athrawon i symud i ffwrdd oddi wrth gwricwlwm cyfyng, anhyblyg a gorlawn. Bydd ein cwricwlwm newydd yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu safonau uwch o ran llythrennedd a rhifedd, i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i esblygu'n feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Bydd yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion hyderus, medrus a gofalgar yng Nghymru— yn wir, yn y byd.
Ers 2016, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhwydwaith o ysgolion arloesi, arbenigwyr ac amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu cwricwlwm newydd. Rwy'n ystyried hwn yn gryfder allweddol yn ein diwygiadau ni—diwygiadau i bobl Cymru, a ddatblygwyd gan bobl Cymru. Mae'r dull hwn wedi caniatáu inni gadw ysgolion a dysgwyr wrth wraidd ein datblygiadau ni. Mae wedi hybu perchnogaeth o ran y diwygiadau, sy'n allweddol i sicrhau bod y newidiadau yr ydym yn eu gwneud yn gywir a chynaliadwy.
Byddwch yn ymwybodol eisoes o'r rhan fwyaf o'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig, gan eu bod yn adlewyrchu ac yn unol â'r argymhellion a nodir yn 'Dyfodol Llwyddiannus', conglfaen ein diwygiad o'r cwricwlwm. Rydym yn cynnig deddfwriaeth i sicrhau y bydd y pedwar diben a nodir yn 'Dyfodol Llwyddiannus' wrth hanfod y cwricwlwm newydd, a dysgwyr yn elwa ar rychwant eang o addysg. Byddwn yn dychwelyd at hanfodion addysg drwy gyflwyno meysydd dysgu a phrofiad, yn cwmpasu dyniaethau, iechyd a lles, gwyddoniaeth a thechnoleg, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, celfyddydau mynegiannol, a mathemateg. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n troi oddi wrth ddyddiau'r cwricwlwm cul ac yn symud ymlaen at wahanol ddull o addysgu a dysgu, sef cwricwlwm sy'n chwalu'r ffiniau traddodiadol rhwng pynciau ac yn rhoi hyblygrwydd i athrawon ar gyfer trin gwahanol faterion o wahanol gyfeiriadau. Gan ddefnyddio'r dull hwn, bydd ymarferwyr yn gallu defnyddio eu proffesiynoldeb a'u gwybodaeth arbenigol i greu a chynllunio gwersi sy'n ymestyn ein dysgwyr—yn ymestyn eu haddysg, yn ymestyn eu gallu ac, yn hollbwysig, yn ymestyn eu gorwelion nhw.
Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei drefnu fel continwwm dysgu rhwng tair a 16 oed. Bydd y pwyslais ar bontio'n ddi-dor, a chaiff cyfeiriadau at gyfnodau allweddol eu dileu. Yn hytrach, bydd cynnydd yn cael ei nodi drwy gamau cynnydd ar bum pwynt yn y continwwm dysgu, yn cysylltu'n fras â'r disgwyliadau ar gyfer oedrannau pump, wyth, 11, 14 a 16. Byddant yn gweithredu fel map o daith datblygiad pob dysgwr, gan ystyried cyfraddau dysgu a dealltwriaeth a phrofiadau a galluoedd unigol. Rwy'n bwriadu deddfu i ddiffinio'r camau hyn.
A ninnau'n genedl sy'n falch o'n dwyieithrwydd, bydd Cymraeg a Saesneg wrth gwrs yn parhau'n statudol, fel y bydd astudiaethau crefyddol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ochr yn ochr â hyn, bydd y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd o ran llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn parhau'n statudol hyd at 16 oed.
Llywydd, mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru. Nid yn unig yr ydym yn datblygu cwricwlwm sy'n sicrhau bod ein dysgwyr â'r gallu i ateb anghenion y dyfodol, ond rydym hefyd yn datblygu cwricwlwm drwy gydweithredu gwirioneddol â'n hysgolion a'n rhanddeiliaid allweddol. Mae angen inni sicrhau bod ein deddfwriaeth, fel y caiff ei nodi yn y Papur Gwyn, yn ein galluogi ni i wireddu ein huchelgeisiau ac nid yn eu mygu nhw.
Rwy'n gofyn i'r Aelodau yn y Siambr heddiw, a phobl ledled Cymru, gyfrannu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae'r Papur Gwyn yn uchelgeisiol ac yn bellgyrhaeddol, ond ni fyddwn yn cyrraedd y safonau uchel hynny heb genhadaeth a thrafodaeth genedlaethol o'r iawn ryw. Bydd cynnwys a manylion y cwricwlwm newydd yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs, ar ffurf drafft ym mis Ebrill eleni. Heddiw rydym yn gosod y sylfeini, gan ymgynghori ar y ddeddfwriaeth sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer y cwricwlwm newydd, ei egwyddorion, ei ryddid, a'r strwythurau a fydd yn ei gefnogi. Diolch.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog? Rydych chi'n hollol iawn, bydd hwn yn newid enfawr i Gymru, ond gyda phob newid enfawr ceir perygl y bydd rhai yn colli'r trywydd. A thra bod gennych chi, wrth gwrs, gefnogaeth lawn gan bawb yn y Siambr hon o ran egwyddor gyffredinol y polisi, rwy'n gobeithio, y maen prawf hyn ar gyfer hyn fydd yr hyn a gaiff ei gyflawni'n ymarferol, ac a fydd yn sicrhau'r canlyniadau yr ydym yn dymuno eu gweld.
Sôn yr ydym, mewn gwirionedd, yn y fan hon am ddarn o ddeddfwriaeth, ac felly rwy'n mynd i grybwyll hynny i raddau helaeth iawn yn y cyd-destun hwnnw. Roeddwn yn falch o weld bod yr egwyddorion cyffredinol—ac maen nhw wedi bod ers amser—yn fwy eglur na'r hyn sydd gennym yn y ddeddfwriaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Rydych chi eisiau symud i ffwrdd oddi wrth system sy'n rhoi cyfarwyddiadau. Rwy'n eich credu pan ddywedwch chi hynny, ac rydym ni, Geidwadwyr Cymreig, wedi dweud bob amser wrth gwrs ein bod yn awyddus i athrawon fod yn rhydd i ddysgu ac na ddylem gael gormod o gyfarwyddyd yn y cyswllt hwn. Ond, wrth gwrs, mae hynny wedyn yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar atebolrwydd gweladwy. Ansawdd yr athrawon a'r addysgu, a chredaf mai honno fwy na thebyg yw'r ffactor fwyaf—ond ni fyddaf yn siarad gormod am hynny heddiw—a gwelliant mewn safonau o ran cyrhaeddiad, o ran cyflawniad, y bydd y bobl ifanc eu hunain yn credu sy'n werthfawr, yn ogystal â'r hyn y bydd Cymru fel cymdeithas yn ei gredu fydd yn werthfawr i ni fel cenedl, yn enwedig i'n heconomi.
Felly, rydym yn sôn nawr am yr hyn fydd yn effeithiol er mwyn darparu hyn mewn ffordd sy'n ein helpu i feithrin dinasyddion cyflawn a all gyflawni er eu mwyn eu hunain ac er mwyn eu gwlad. A dyna pam yr oeddwn yn awyddus i ofyn, yn wir, pam nad yw'r gair 'cyfrifoldeb' ond wedi ymddangos mewn un man yn yr hyn y bydd ein pobl ifanc yn ei gyflawni yn y chwe maes dysgu. Rwyf i o'r farn ei bod yn beth ardderchog i ni weld geiriau fel 'hyder' a 'chydnerthedd', a'r gallu i gymryd rhan neu fod â rhan mewn penderfyniadau. Ond os nad yw ein haddysg yn helpu pobl i symud ymlaen oddi wrth barchu anghenion pobl eraill yn unig, sydd yn nod a bennir, i ystyried y gallen nhw fod â chyfrifoldeb gwirioneddol i helpu pobl i fodloni'r anghenion hynny, yna rwy'n credu y gallem gael trafferth o bosib wrth lunio polisi gwir gydgynhyrchiol yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, yn fy marn i, dyna lle mae angen y newid enfawr, y newid yn y chwarae, os hoffech, gyda pholisi cyhoeddus yn y dyfodol—ymhlith newidiadau eraill.
Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn dweud bod fy mhwynt i yn cael ei gwmpasu yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad, a byddai'n wych pe gallech nodi sut yn union y credwch y bydd hynny'n digwydd. Ond nid yw'n eglur i minnau chwaith ar hyn o bryd sut y bydd y rhannau hynny o'r cwricwlwm ar y dinasyddion da, os hoffech chi, yn cydbwyso â'r meysydd addysg sy'n cael eu harholi. Rwy'n llwyr groesawu'r angen i leihau'r chwarae a all fod yn y system bresennol, ond rwy'n credu hefyd bod angen inni gadw llygad ar osgoi meysydd newydd o chwarae gemau lle mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau naill ai'n troi o blaid canlyniadau arholiadau neu'n osgoi cwestiynau anodd am ganlyniadau arholiadau drwy ganolbwyntio ar y gweithgarwch nad yw'n cael ei arholi. Oherwydd pan fyddwn ni'n sôn am ryddid i athrawon—ac, fel y dywedaf i, rwy'n cytuno â chi yn hyn o beth—dim ond ceisio darganfod pa mor rhydd yn union a fydden nhw yw hyn. A fydden nhw'n ddigon rhydd mewn gwirionedd i osgoi'r amcanion polisi a nodwyd o ran yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni yma? Felly, efallai y gallwn drafod rhywfaint ar hynny.
Cyfeiriais at yr hyn y mae'r bobl ifanc eu hunain yn ei ystyried yn werthfawr, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi ryw syniad i ni ynghylch sut mae'r plant a'r bobl ifanc eu hunain wedi bod â rhan yn y cyswllt hwn hyd yn hyn. Mae'r Papur Gwyn yn sôn am sylw'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), sef bod Llywodraeth Cymru a'r sector addysg wedi bod yn gweithio'n agos â'i gilydd. Ond byddai'n fuddiol iawn cael amcan o'r hyn y mae'r rhai a fydd yn derbyn yr addysg hon ar ei newydd wedd yn teimlo ynglŷn â'r peth.
Rwy'n siŵr y bydd hon yn sioc enfawr i chi, Gweinidog, ond hoffwn sôn am adfywio cardiopwlmonaidd a sgiliau cymorth cyntaf—a'u lle yn y cwricwlwm. Gwn eich bod wedi clywed y dystiolaeth i gyd—tystiolaeth sydd wedi perswadio llywodraethau eraill, nid yn unig y DU, fod hyn mor werthfawr fel nad ydyn nhw wedi rhoi'r rhyddid i athrawon benderfynu ar hyn. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad iechyd a Lles yn siarad ag unigolion am gymryd gofal o'u hunain, ond nid yw'n cyfeirio llawer iawn mewn gwirionedd at gymryd gofal o bobl eraill, sy'n mynd yn ôl at fy mhwynt cychwynnol ynghylch cyfrifoldeb y naill i'r llall. Felly, byddwn yn awyddus iawn i wybod pam, ar hyn o bryd, mae'n edrych fel pe byddai plant Cymru dan anfantais efallai o'u cymharu â'u cyfoedion mewn rhannau eraill o'r byd, o ran medr y bydden nhw nawr yn ei gymryd yn ganiataol.
Rwy'n ymwybodol o adael rhai cwestiynau i eraill, ond mae gennyf i rai eto. O, ie — atebolrwydd. Nawr, rwy'n derbyn y bydd y dull y caiff atebolrwydd ei fesur ynddo o hyn ymlaen yn parhau i fod yn rhywbeth a gaiff ei drafod yn y Cynulliad hwn. Ond yr hyn yr hoffwn rywfaint o arweiniad arno heddiw, oherwydd rydym yn sôn am ddeddfwriaeth, yw pa gamau a fyddech yn eu cymryd ac yn cyfeirio atyn nhw mewn deddfwriaeth os na chaiff y ddolen gyswllt wan hon, fel y'i disgrifiwyd gan yr OECD, rhwng atebolrwydd a gwelliant yng Nghymru, ei disodli a hynny'n fuan iawn, gan ddolen gyswllt sy'n gweithio, yn arbennig gan fod y Papur Gwyn yn dweud y bydd rhai o'r mesurau atebolrwydd presennol yn cael eu cadw?
Dim ond yn fyr ar y Gymraeg a'r geiriad o ran dysgu'r Gymraeg mewn gwahanol fannau yn y Papur Gwyn—credaf fod angen inni edrych ar hynny ryw ddiwrnod eto. Nid oes llawer o amser gennym ni heddiw. Roeddwn yn arbennig o awyddus i ofyn, serch hynny, am gyflwyniad dysgu Saesneg mewn mannau lle ceir addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant ifanc iawn, a gallaf ddeall ar sail tegwch efallai, wrth i ni gyflwyno cymaint o Gymraeg mewn mannau addysg cyfrwng Saesneg, y gallai hyn fod yn ymgais i beidio â thrin un iaith yn fwy ffafriol na'r llall. Ond nid yw'r rhain yn sefyllfaoedd cyffelyb, ac rwyf i o'r farn y byddai o gymorth pe gallech roi rhywfaint o dystiolaeth i ni sy'n awgrymu bod y plant ifanc iawn hynny sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gontinwwm neu fel arall, mewn rhyw ffordd dan anfantais y byddai cyflwyno Saesneg yn eu bywydau yn y cyfnod hwnnw'n ei oresgyn. Fel y dywedaf, nid yw'r rhain yn sefyllfaoedd cyffelyb, ac nid wyf i'n credu y gellir eu trin yn yr un modd. Wrth fynd heibio, tybed pa ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno ieithoedd tramor modern yn y Meysydd Addysg a Phrofiad mewn ffordd fwy gweladwy cyn cyfnod allweddol 3. Gwn nad yw hynny'r un peth â'r iaith Gymraeg, ond rwy'n gofidio'n fawr am ddyfodol ieithoedd tramor modern, hyd yn oed gyda'r cwricwlwm hwn.
Ac yna, yn olaf—fel y dywedaf i, byddaf yn cadw hyfforddiant athrawon i'w drafod eto. Rwy'n falch o weld y byddwch yn rhoi rhai dyletswyddau i Lywodraeth Cymru ar wyneb y Bil. Tybed a oes modd gofyn i chi ystyried dyletswydd yn hytrach na phŵer i gyflwyno canllawiau statudol i helpu Llywodraeth Leol, llywodraethwyr ac arweinwyr ysgol ynglŷn â sut y gallen nhw roi tystiolaeth o'u cyflawniad o'r dyletswyddau hynny ynghylch y pedwar diben? Gwn y byddwch chi'n dweud, 'Wel, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn, ac mae sôn amdano yn y Papur Gwyn mewn gwirionedd'. Ond drwy ymrwymo i ddyletswydd i gyflwyno canllawiau—ac nid wyf i'n awgrymu beth ddylai fod yn y canllawiau hynny—credaf fod hynny'n rhoi peth cysur i'r rheini sy'n chwilio am sicrwydd yn y ddeddfwriaeth. Credaf fod angen imi roi rhybudd teg i chi y byddwn yn edrych ar lunio'r dyletswyddau hynny mewn gwelliannau ryw bryd ar gyfer cyflwyno ac adolygu canllawiau statudol, i fod â rhai pwerau i amrywio'r cyfarwyddyd hwnnw ar ôl craffu gan Senedd Cymru, a hefyd, fel y soniais yn gynharach, i weld pa bwerau yr ydych yn awyddus i'w cael er mwyn cymryd camau pe na fyddai'r dyletswyddau eraill yn cael eu bodloni.
Felly, rydych yn ymwybodol eisoes o'r datganiadau o ansicrwydd ynghylch cyflawni'r polisi—rydym ni wedi trafod hynny yn y Pwyllgor ac ychydig bach ar hynny yn y Siambr. Felly, mae gennych waith i'w wneud ar hynny, ac, mewn gwirionedd, fel deddfwrfa, rydym ni'n dymuno eich helpu chi i ymateb i rai o'r pryderon hynny. Credaf y bydd hynny'n ein helpu ni oll—rwy'n golygu ni yn Senedd a chithau yn Llywodraeth—pe byddai eich Bil yn ceisio creu sicrwydd i'r rhai a fydd yn gyfrifol am roi'r Bil ar waith maes o law ac nad yw'n ymuno â'r rhestr o gawsiau tyllog o'r Swistir sydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y rhestr faith o gwestiynau? Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw orau y gallaf ac mor gyflym ag y gallaf. Rwy'n falch fod yr Aelod yn cydnabod y ceir mwy o eglurder ynghylch dibenion y cwricwlwm. Wrth gwrs, canfyddiad gan Graham Donaldson oedd hwn yn ei adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus', a oedd yn mynegi bod angen i ni gael yr eglurder hwnnw, ac rwyf i o'r farn ein bod ni wedi cael hynny.
Yn ddealladwy, fel sy'n digwydd bob amser yn y trafodaethau hyn, tueddir i ganolbwyntio ar gymwysterau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ar ddiwedd y broses. Yn amlwg, bydd angen i'r cymwysterau yng Nghymru gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. Un o'r pethau yr ydym wedi bod yn ofalus iawn yn eu gwneud yn ystod y broses gyfan yw ymgysylltu â Chymwysterau Cymru fel y ceir rhagolwg cynnar gan ein corff cymwysterau o'r hyn y bydd angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau aliniad gwirioneddol. Dyna hefyd un o'r rhesymau pam y penderfynais ohirio cyflwyno'r cwricwlwm.
Yn wreiddiol, lluniwyd hyn gyda'r bwriad o wneud popeth ar unwaith ac y byddai'r system gyfan yn symud at y cwricwlwm newydd dros nos. Yn amlwg, roedd hynny, o bosibl, yn beryglus i'r myfyrwyr hynny a oedd yn cyrraedd diwedd eu haddysg orfodol ac yn gweithio tuag at yr arholiadau tyngedfennol hynny. A dyna pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad i gyflwyno'r rhaglen yn raddol. Felly, wrth gwrs, ni fydd y cymwysterau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd hwn yn digwydd mewn gwirionedd tan 2026. Mae hynny'n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, ond rydym eisoes yn y broses gynllunio ar gyfer yr hyn y bydd y newid hwn yn y cwricwlwm newydd yn ei olygu i gymwysterau.
Rhagweld yr wyf i, Llywydd, y bydd Suzy Davies a minnau'n cael dadleuon hir ynghylch dyletswyddau a chanllawiau statudol. Wrth gwrs, wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei drafftio a'i chyflwyno, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r rheini. Rydym wedi bod yn gwbl glir ynghylch y dyletswyddau a fydd ar wyneb y Bil—dyletswyddau i Lywodraeth Cymru a dyletswyddau i ysgolion a phenaethiaid a chyrff llywodraethu, a'r hyn a ofynnir ganddyn nhw. Ond rwy'n awyddus i ystyried y safbwyntiau a ddaw gerbron yn ystod y papur ymgynghori hwn, yn gyntaf oll, ac yna wrth i ni symud ymlaen at y ddeddfwriaeth. Byddaf yn dechrau ar y trafodaethau hynny gyda meddwl agored.
Gofynnodd yr Aelod pa ran a gafodd plant yn y broses hyd yn hyn. Gadewch i mi roi enghraifft glir iawn i chi: byddwch yn ymwybodol o'm datganiad i, a datganiadau blaenorol yr wyf wedi eu gwneud, y byddwn yn rhoi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar wyneb y Bil. Mae hynny mewn ymateb i argymhelliad gan adroddiad y grŵp arbenigol a phwysau'r dystiolaeth a roddodd y bobl ifanc eu hunain i'r broses honno ynglŷn â pha mor bwysig oedd hyn. Mewn gwirionedd, dyma enghraifft o ymwahanu oddi wrth 'Ddyfodol Llwyddiannus'—mae hwn yn ychwanegiad newydd—ond rydym yn gwneud hyn gan fod pwysau'r dystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain a gafodd ei fwydo i'r broses honno yn dangos eu bod eisiau gweld y newid hwn ac rydym wedi gwrando ar hynny. Ac un enghraifft yn unig yw honno.
Yn amlwg, cafwyd enghreifftiau eraill lle mae pobl ifanc wedi ymgysylltu, ond, yn hollbwysig, byddwn yn gwneud corff penodol o waith pan gyhoeddir y Meysydd Addysg a Phrofiad adeg y Pasg, pan fydd gennym rywbeth diriaethol i'w drafod gyda phlant a phobl ifanc. Wrth gwrs, mae'n demtasiwn siarad ar hyn o bryd am yr hyn a roddir yn y ddeddfwriaeth a beth sy'n briodol mewn gwirionedd i'r Meysydd Addysg a Phrofiad unigol. Bydd yn rhaid i Suzy Davies aros ychydig eto nes y bydd y Meysydd Addysg a Phrofiad hynny'n cael eu cyhoeddi adeg y Pasg. A bydd hynny, gobeithio, yn taflu rhywfaint o oleuni ar rai o'r cwestiynau eraill a godwyd ganddi hi. Ar yr un pryd, byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am asesu a gwerthuso i gyd-fynd â chynnwys y Meysydd Addysg a Phrofiad. Mae'r Papur Gwyn yn nodi rhai dyletswyddau ynghylch asesu a sut y bydd asesu ar gyfer dysgu yn digwydd yn sgil y broses hon. Ac mae'n rhaid inni wahaniaethu bob amser rhwng asesu a gwerthuso—dau wahanol beth ydyn nhw, a gynlluniwyd at ddau wahanol ddiben yn ein system addysg, a chaiff manylion pellach ar y gwerthusiad a'r mesurau atebolrwydd eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn y gwanwyn.
A gaf i ddod at fater iaith? Yn amlwg, nid oes dim yn y cynigion hyn a fydd yn tanseilio'r mater iaith yr wyf yn credu yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato, o ran addysg drochi, yn enwedig ar gyfer ein plant ieuengaf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod, sy'n gefnogol, rwy'n credu, i'r cyfnod sylfaen, yn ymwybodol o'r canllawiau cyfredol sydd ar gael i ymarferwyr y cyfnod sylfaen. Mae'n dweud y dylid helpu plant i ddatblygu ymwybyddiaeth o Gymru fel gwlad a chanddi ddwy iaith a
Dylai sgiliau iaith a ddysgir mewn un iaith fod yn gefnogol i ddatblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall.
Mae hynny eisoes yn ein canllawiau ar y cyfnod sylfaen, y disgwylir i bob lleoliad cyfnod sylfaen ei gyflawni. Nid oes unrhyw beth yn y papur hwn y credaf y bydd yn tanseilio hynny.
Mae fy ymrwymiad i'r iaith fel rhan bwysig o'n system addysg yn un personol, oherwydd y dewisiadau a wneuthum i fy hunan—dewisiadau cadarnhaol yr wyf wedi eu gwneud i'm plant fy hun. Mae gennyf i dri tuag at darged 2050 y Llywodraeth a fydd yn ddwyieithog oherwydd y cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad proffesiynol ac yn ymrwymiad polisi.
Rwy'n falch iawn ein bod yn diwygio'r system addysg fel y bydd pob plentyn—pob un plentyn—yn cael cyfle mwy cyfartal i fod yn ddinesydd dwyieithog yn y genedl hon a dysgu mwy o ieithoedd hyd yn oed o oedran iau. Oherwydd, fel chi, rwyf innau'n rhannu eich pryderon ynglŷn ag ieithoedd tramor modern. Mae'n ddrwg gennyf os nad ydym wedi gwneud hynny'n glir yn y datganiad. Wrth gwrs, bydd cyfnod allweddol 3 yn diflannu; ni fydd unrhyw gyfnodau allweddol yn y broses newydd. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw cyflwyno ieithoedd eraill yn gynharach yn nhaith addysgol y plentyn, tra byddan nhw yn yr ysgol gynradd. Mae hynny'n golygu ieithoedd tramor modern, mae'n golygu ieithoedd o wareiddiad hynafol—roedd gan y Gweinidog blaenorol, mi wn, olwg arbennig ar Ladin. Rydym hefyd yn edrych ar ieithoedd cymunedol—felly, yr ieithoedd hynny sy'n cael eu siarad mewn gwahanol rannau o'n cymuned—ac Iaith Arwyddion Prydain hefyd. Bydd cyfle gan ysgolion, ac yn wir bydd yn ofynnol iddynt sicrhau y bydd y profiadau hynny ar gael yn y sector cynradd. Oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn rhy hwyr os arhoswch nes i'r plentyn fynd i'r ysgol uwchradd cyn cyflwyno ffyrdd eraill o gyfathrebu ac ieithoedd eraill, ac mae hynny wedi arwain at rai o'r problemau a welir o ran niferoedd ar hyn o bryd.
Rwy'n credu bod hynny'n cwmpasu, yn ddigon agos, y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod, ond rwy'n ddiolchgar am yr ysbryd cydweithredu a'r parodrwydd i fod â rhan yn y broses hon. Fel y dywedais, cenhadaeth genedlaethol yw hon ac rydym ni'n Gynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn dymuno gwneud cyfraniad.
Buaswn i'n licio mynd ar drywydd tair agwedd bwysig heddiw yma: hyfforddi'r gweithlu, trefniadau asesu, ac effaith y newidiadau ar gymwysterau. Dydy'r rhain ddim yn uniongyrchol yn ymwneud â'r Papur Gwyn, wrth gwrs, ond yn rhan o'r darlun mawr o'r newid anferth sydd i ddigwydd. Mi fydd y cwricwlwm newydd yn golygu newid chwyldroadol i ddulliau dysgu, felly beth ydy cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer ailhyfforddi'r gweithlu? Dwi yn defnyddio'r gair 'ailhyfforddi' yn hollol fwriadol er mwyn cyfleu lefel y dasg a'r newid yn fwy effeithiol na'r term 'datblygiad proffesiynol'.
Mae ysgolion yn gweiddi allan am wybodaeth goncrit ynglŷn â pryd fydd hyn yn digwydd—hynny yw, pryd fydd yr ailhyfforddi mawr yma'n digwydd? Fydd o'n digwydd yn ystod oriau ysgol, tu hwnt i oriau ysgol, mewn diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ychwanegol, neu beth? Mae angen syniad ynghylch y buddsoddiad ariannol fydd yn cael ei neilltuo i hyn—mwy o fanylion, os liciwch chi. Dŷch chi wedi clustnodi £100,000, dwi'n credu, ar gyfer datblygiad parhaus, ond ydy hynny yn ddigon? Mae rhyddhau athrawon yn gostus. Mae angen i'r cwbl fod wedi ei gynllunio yn ofalus ymlaen llaw. Mae angen cydnabyddiaeth o faint y dasg, ac mae angen pwysleisio bod hyn yn cynnwys athrawon dosbarth, cynorthwywyr dosbarth ac arweinwyr ysgol fel ei gilydd. Dwi yn ymwybodol na fydd hyfforddiant datblygiad proffesiynol yn rhan o'r Papur Gwyn, ond mae'r cwestiynau dwi'n meddwl sydd yn cael eu codi gan yr athrawon a gan yr undebau yn hollol berthnasol.
Mae fy ail gwestiwn i ynghylch trefniadau asesu, a dŷch chi wedi sôn y byddwch chi'n cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â hynny yn y gwanwyn. Ar hyn o bryd, cyn cael y wybodaeth yna, mae athrawon yn pryderu nad ydyn nhw yn gallu cael syniad clir o natur a dull y trefniadau asesu fydd yn cydfynd â'r cwricwlwm. Dŷn ni'n gwybod am y profion ymaddasol blynyddol, a dŷn ni'n gwybod am newidiadau sylweddol a chadarnhaol yn dod o ran y trefniadau atebolrwydd ehangach, ond, o ran y camau cynnydd a'r deilliannau cyflawniad, mi fyddai'n dda cael mwy o eglurhad ynghylch hyn oll, a dwi'n cymryd mai'r bwriad fydd symud i ffwrdd o asesiadau athrawon fel maen nhw ar hyn o bryd.
Cwestiwn anferth arall lle nad oes yna unrhyw un fel petaen nhw'n fodlon mynd i'r afael ag o ar hyn o bryd ydy: beth fydd sgil-effaith y newidiadau i'r cwricwlwm ar gymwysterau, fel roedd Suzy yn sôn? Mi wnaethoch chi ddechrau ateb y cwestiwn, ond mae angen eglurder yn fuan iawn ar y mater yma. Roeddech chi'n sôn, 'O, mae 2026 yn bell i ffwrdd'. Wel, nac ydy, dydy 2026 ddim yn bell i ffwrdd, oherwydd mi fydd y garfan gyntaf o ddisgyblion sydd wedi dilyn y cwricwlwm newydd, sef y rhai fydd ym mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022, yn cyrraedd blwyddyn 10, sef yn dechrau cyrsiau TGAU, ym mis Medi 2025. Gweithio nôl o'r pwynt yna, bydd angen i'r manylebau ar gyfer y cymwysterau hynny fod wedi eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024 er mwyn i athrawon gael amser i ymbaratoi. Mae yna waith aruthrol i'w wneud yn gyntaf gan Cymwysterau Cymru o ran gosod y meini prawf, ac wedyn gan Cydbwyllgor Addysg Cymru, ac unrhyw gyrff dyfarnu eraill fydd â diddordeb cynnig cymhwyster, o ran llunio'r cymhwyster, a mynd drwy brosesau dilysu Cymwysterau Cymru. Dwi'n gwybod eich bod chi, yn ddealladwy efallai, wedi eisiau osgoi bod natur a chynnwys cymwysterau yn dylanwadu'n ormodol ar y cwricwlwm, ond mae'r amser wedi dod i fynd â'r maen i'r wal a gwneud penderfyniadau cadarn.
Troi rŵan at fater sydd yn peri consern i mi hefyd, sef Cymreictod y cwricwlwm, ac fe hoffwn i wybod pa mor Gymreig fydd profiad y disgybl a faint o bwyslais fydd ar hanes Cymru. Dŷch chi'n sôn am ddimensiwn Cymreig; dwi'n sôn am gwricwlwm wedi ei wreiddio yn y profiad Cymreig, a dwi yn meddwl bod yna wahaniaeth yn fanna, a hoffwn i eglurder am hynny. Mae yna gwestiynau yn codi am y fframwaith ar gyfer y Gymraeg, a beth fydd y trefniadau asesu yn fan honno, a'r cwestiwn mawr sydd ddim yn cael ei ateb ar hyn o bryd ydy: beth fydd natur y cymhwyster neu gymwysterau o ran y Gymraeg? Mae diffyg eglurder ynglyn â hynny yn peri ychydig bach o ofid; mae yna wagle yn ei gylch o, ac mi fyddai'n dda cael dipyn bach mwy o gig ar yr asgwrn o safbwynt hwnnw.
Ac, yn olaf, dwi'n troi at yr hyn roedd Suzy wedi cychwyn sôn amdano fo—yr hyn sydd ar dudalen 35 yn yr adroddiad yn y ddogfen ymgynghori, ac yn fan hyn mae o'n dweud y bydd:
'Dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg, fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.'
Rŵan mae hwnna yn taro rhywun fel rhywbeth chwithig iawn yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae cylchoedd meithrin y Mudiad Ysgolion Meithrin yn cyflwyno eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae pob barn arbenigol yn pwysleisio bod trochi plant yn y Gymraeg yn yr oed cynnar yna—dyna ydy'r ffordd i gynhyrchu plant sydd yn rhugl yn y Gymraeg. Ac mae datganiad fel yna yn codi llawer iawn o gwestiynau, dwi'n meddwl, ac mae o wedi dychryn y Mudiad Ysgolion Meithrin yn sicr, ac mae'n ymddangos i mi yn mynd yn hollol groes i'r nod o filiwn o siaradwyr. Felly, hoffwn i wybod ai camgymeriad ydy o mewn gwirionedd. Mae o'n ddatganiad mor od ac annisgwyl yn y cyd-destun dŷn ni ynddo fo yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n fy nharo i efallai mai camgymeriad ydy o, beth bynnag.
Felly—
Gadewch i'r Gweinidog felly ateb rhai o'r cwestiynau. Dwi'n meddwl bod yna ddigon yn y cyflwyniad yna.
Mae yna lot o gwestiynau angen eu holi yn sicr.
I'w holi a'u hateb. Y Gweinidog, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau. Mae hi'n hollol iawn, wrth gwrs, nad mater i'r Papur Gwyn yw gofynion dysgu proffesiynol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm. Ond er mwyn tawelu meddwl yr Aelod ni all unrhyw system addysg fod yn well nag ansawdd y sawl sy'n sefyll o flaen ein plant yn feunyddiol yng Nghymru, ac, felly, mae'n gwbl hanfodol bod â gweithlu proffesiynol sydd mewn sefyllfa i wireddu gweledigaeth y cwricwlwm. Dyna pam yr ydym wedi ymgymryd â phroses ddiwygiedig ar gyfer addysg gychwynnol athrawon. Nid yw wedi bod yn fêl i gyd, ac rydym yn hyderus y bydd y canolfannau darpariaeth addysg gychwynnol athrawon newydd sydd wedi eu dewis trwy'r broses drwyadl honno mewn sefyllfa i sicrhau y bydd y rhai sy'n mynd i mewn i'r proffesiwn o'r newydd yn meddu ar y sgiliau sy'n angenrheidiol.
Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar lwybrau arloesol eraill at gymhwyster ar gyfer dysgu, a fydd yn ein rhoi ar flaen y gad o ran addysgu athrawon, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiadau ynglŷn â hynny cyn bo hir. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid inni roi sylw hefyd i anghenion y rhai sydd yn y gweithlu eisoes, a fydd, rwy'n gobeithio, yn parhau i fod yn y gweithlu am flynyddoedd lawer eto. Rwyf wedi cyhoeddi'r pecyn ariannol cymorth dysgu proffesiynol mwyaf erioed yn hanes datganoli yn y Siambr hon o'r blaen. Bydd rhai adnoddau sylweddol yn mynd i mewn nawr ac yn y flwyddyn ariannol newydd. Bydd yr adnoddau hynny ar gael i ysgolion yn uniongyrchol, a bydd y penaethiaid, sydd yn y sefyllfa orau i ddeall beth yw anghenion dysgu proffesiynol eu cydweithwyr yn eu hysgol, yn gallu gwneud cynlluniau unigol ar gyfer y defnydd o'r adnoddau hynny.
Rwy'n chwilio am ddull newydd, dull newydd ac arloesol o ddysgu proffesiynol. Credaf fod pethau wedi newid ers y cyfnod pan allem ddibynnu ar anfon pobl, i Gaerdydd fel arfer, i dreulio'r diwrnod yn gwrando ar bobl ddoeth ar lwyfan, ac yn mynd oddi yno gyda dim ond syniad prin o sut y gellid rhoi hynny ar waith mewn ystafelloedd dosbarth unigol. Mae angen i ni fod yn fwy clyfar na hynny.
Mae'r Aelod yn codi mater pwysig—ac rwy'n gwybod o siarad mewn cynadleddau penaethiaid cyn y Nadolig, fod mater diwrnod HMS, diwrnod HMS ychwanegol, yn un uchel ar yr agenda. Bydd yr Aelodau hynny sydd yn gyfarwydd â phrosesau is-ddeddfwriaeth yn gwybod, mewn gwirionedd, nad oes gennyf i mo'r pŵer i gyhoeddi diwrnod HMS ychwanegol. Rwyf wrthi'n ystyried a ddylid ei roi, ond bydd yn rhaid mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus a bydd yn ddarostyngedig i'r prosesau yma o fewn y Cynulliad ei hun. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad yn fuan ynghylch a gynhelir y broses honno. Ond rwy'n deall y bydd angen cyfle ar athrawon i baratoi eu hunain ar gyfer yr her newydd hon, fel y bydd ei angen ar ein harweinyddion ysgol, a dyna pam yr wyf wedi bod yn gwbl glir i'n Hacademi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, wrth gomisiynu rhaglenni i gefnogi penaethiaid presennol a darpar benaethiaid, y dylai eu gallu i gefnogi diwygio'r cwricwlwm yn eu hysgolion eu hunain fod yn rhan bwysig o hynny.
Pan ddywedais i fod 2026 ymhell i ffwrdd, nid bod yn wamal yr oeddwn i. Yr hyn yr oeddwn yn ceisio ei ddweud mewn gwirionedd—nid yn ddigon eglur, mae'n amlwg—oedd y daw hynny cyn inni sylweddoli. A dyna pam mae wedi bod yn gwbl hanfodol i mi ein bod wedi cael Cymwysterau Cymru yn cymryd rhan yn y broses o'r cychwyn cyntaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n barod i ddeall y goblygiadau i gymwysterau o ganlyniad i'r newidiadau hyn i'r cwricwlwm. A phe carai'r Aelod gael rhagor o fanylion, byddwn yn hapus i hwyluso cyfarfod rhyngddi hi a Chymwysterau Cymru, fel y gall hi glywed, gyda mwy o amser nag yr wyf i'n gallu ei roi yma'r prynhawn hwn, a thrafod natur y gwaith hwnnw, gan gofio, wrth gwrs, fod cymwysterau bellach hyd braich oddi wrth Weinidogion.
Daw hynny â mi at fater asesu. Bydd angen newid manylion a phwyslais ein trefniadau asesu ni ar gyfer rhoi'r gefnogaeth orau i'r cwricwlwm newydd. Prif ganolbwynt asesiad yn y dyfodol fydd sicrhau bod yr holl blant a'r bobl ifanc yn deall sut y maent yn perfformio, ac, yn hollbwysig, yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud nesaf ar gyfer gwneud cynnydd a dod yn eu blaenau. Felly bydd yna fwy o bwyslais yn cael ei roi ar asesu ffurfiannol, i lywio'r camau nesaf ar gyfer dysgu ac addysgu. I gryfhau'r berthynas rhwng y cwricwlwm ac asesu, a chanolbwyntio ar gynnydd pob plentyn, ni cheir lefelau mwyach. Yn hytrach, caiff asesiad ei seilio ar ddeilliannau cyflawniad, a gyhoeddir ochr yn ochr â chynnwys y Meysydd Addysg a Phrofiad. Ac fe fyddan nhw'n nodi'n bendant yr hyn y mae cyflawniad yn ei olygu ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad hynny. A'r hyn yr wyf yn ei gynnig—ac sy'n cael ei gynnwys yn y Papur Gwyn—yw y bydd gan benaethiaid ddyletswydd i bennu deilliannau cyflawniad ar gyfer cefnogi'r holl blant a'r bobl ifanc yn eu hysgol, i deithio yn eu blaenau ar hyd y continwwm dysgu. Ac i sicrhau y ceir cysondeb rhwng ysgolion, rydym yn cynnig y bydd yn rhaid iddyn nhw roi ystyriaeth i'r deilliannau cyflawniad, a fydd, fel y dywedais, yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Felly, bydd y canolbwyntio ar asesiadau athrawon yn parhau, ac asesu ar gyfer dysgu, ochr yn ochr â'n cyfundrefnau asesu eraill, fel y profion ymaddasol ar-lein. O ran gwerthuso, sydd, fel y dywedais i'n gynharach, yn rhywbeth gwahanol—a dyna sut yr ydym yn dal y system i gyfrif, yr ysgolion unigol a'r system yn ei chyfanrwydd—caiff manylion am hynny eu cyhoeddi yn nes ymlaen.
O ran yr iaith Gymraeg, roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael cefnogaeth Cymdeithas yr Iaith ddoe, sydd wedi croesawu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran y continwwm dysgu Cymraeg yn fawr iawn. A byddwn yn pellhau oddi wrth y gwahaniaeth hwn rhwng yr hyn a ddosberthir yn 'iaith gyntaf', a'r hyn sy'n 'ail iaith'. Mae'n hen bryd inni weld hynny'n digwydd yn ein system ni, ac rwy'n falch iawn ein bod cyrraedd y sefyllfa o fod yn sefydlu continwwm. Bydd y continwwm hwnnw'n bodoli hefyd, wrth gwrs, ar gyfer yr iaith Saesneg, a byddem yn disgwyl i blant deithio ar hyd y naill gontinwwm neu'r llai, ar gyfradd ac mewn ffordd sy'n gymesur â natur iaith yr addysgu yn eu hysgol. Felly, wrth reswm, byddem yn disgwyl plentyn sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae iaith y dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—y byddai'r plentyn hwnnw fwy na thebyg yn symud ymlaen ar hyd y camau cynnydd yn gyflymach. Ond ein bwriad ni yw adolygu'r camau cynnydd yn barhaus fel y gallwn ni ychwanegu trylwyredd ychwanegol at y system wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.
Byddaf i'n gwbl glir, fel yr oeddwn i gyda Suzy Davies: mae'n ofynnol yn y cyfnod sylfaen eisoes i blant ddatblygu ymwybyddiaeth o'n dwy iaith ni, ac mae sgiliau iaith a ddysgir mewn un iaith yn cefnogi datblygiad a gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall. Nid oes dim yn y fan hon a fydd yn tanseilio mater trochi. Ac mewn gwirionedd—yn y 'cylchoedd' yr wyf yn eu hadnabod orau, yn sicr, mewn ardaloedd o Gymru lle mae angen i fwy o bobl wneud dewis cadarnhaol, i ddewis cylch, a dewis cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant—mae'r 'cylchoedd' hynny'n gweithio mewn ffordd ddwyieithog, yn arbennig ar gyfer plant fel fy mhlant i, sy'n dod o deulu cwbl ddi Gymraeg, i allu ymgartrefu, a gallu mwynhau eu hamser yno, a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Ac nid oes dim yn y cynigion hyn a fyddai'n tanseilio hynny.
Mewn gwirionedd, byddwn hyd yn oed yn mynd cyn belled â dweud nad yw'n gredadwy dweud y byddai unrhyw gynnig yn y papur hwn yn niweidio ein huchelgais ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg, a pheth arall a ddywedaf yw y dylech weld fy mewnflwch Gweinidogol. Rwy'n ceisio cadw at fy egwyddorion a sicrhau bod ansawdd y dysgu yng Nghymru cystal ag y gallai fod. Ond mae hynny'n golygu fy mod i'n cael rhai negeseuon e-bost cas iawn yn fy mewnflwch, ac mae'n dangos i mi fod gennym ffordd bell i'w theithio eto—ffordd bell i'w theithio—i ennill y ddadl o ran profi mai cael plant sy'n ddwyieithog yw'r rhodd orau bosib y gallwn ei rhoi i'n plant a'n pobl ifanc.
Ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn am rywfaint o'r iaith a ddefnyddiwn ni ein hunain wrth drafod y materion hyn. Rwy'n cael fy synnu'n aml yn fy mewnflwch fod gennym ni rieni sy'n ysgrifennu ataf nad ydyn nhw'n credu y dylai eu plant gael gwersi Cymraeg o gwbl—o gwbl—yn ein system ni. Wrth inni gyflwyno system sy'n—. Fel y dywedais i, rwy'n awyddus i sicrhau bod ein plant i gyd yn cael cyfle cyfartal i fod yn siaradwyr dwyieithog—. Wedyn, mae angen inni symud ymlaen yn ofalus, a sicrhau nad ydym yn codi bwganod, nac yn teimlo bod mater yr iaith yn cael ei danseilio mewn unrhyw ffordd.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae eich datganiad yn rhoi disgrifiad crand iawn o gynllun crand iawn ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac ni allaf fi ddweud fy mod i'n anghytuno ag amcanion y cwricwlwm hwnnw. Ond, fel y gwyddoch chi, mae Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi dweud y gallai addysgu disgyblion ddigwydd trwy hap a damwain, gan fod y cynlluniau mor amwys. Rydych chi wedi dweud, heb unrhyw brofiad addysgu o gwbl—. Rydych chi wedi bod mor feiddgar â dweud nad ydyn nhw'n deall y cynigion neu eu bod yn gweithio ar wybodaeth henffasiwn. Wel, os nad ydyn nhw'n deall y cwricwlwm newydd, neu eu bod yn gweithio ar wybodaeth sy'n henffasiwn, mae'r bai ar y broses a roddwyd ar waith i esbonio'r cwricwlwm newydd a darparu'r wybodaeth amdano. Os yw'r bobl hanfodol ar ei hôl hi neu heb ddeall y cwricwlwm, yna cyfrifoldeb y Gweinidog yw cywiro hynny. Felly, byddwn i'n gofyn beth pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud hynny.
Byddwn i'n awgrymu mai'r broblem wirioneddol yn y fan hon yw bod y CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yn deall y cwricwlwm newydd, ond yr ymddengys eu bod nhw'n bryderus ynghylch a yw'r cwricwlwm yn ddigon eglur i alluogi athrawon i'w gyflawni, a gwneud hynny'n gyson ledled Cymru. Maen nhw wedi dweud ym maes dysgu iaith a llythrennedd
Ceir llawer o themâu uchel ael a mawreddog ar draul hanfodion datblygu sgiliau iaith–siarad, darllen ac ysgrifennu a'i bod yn ymddangos mai gwyddoniaeth a thechnoleg yw'r maes 'lleiaf datblygedig'. Dylai hyn beri pryder i bawb. Mae'n ymddangos hefyd bod hanfodion dysgu—fel y maen nhw'n eu galw nhw—yn ail i'r uchelgais am themâu mawreddog.
Fy nghwestiwn i yw a fydd y Gweinidog yn ystyried y beirniadaethau hyn neu'n parhau i wadu y gallai problem fodoli yma? Rwy'n deall bod y Gweinidog yn awyddus i gael mwy o ymreolaeth i athrawon ac ysgolion. Onid yw hynny'n gwrthdaro â'r penderfyniad i orfodi ysgolion i fabwysiadu eu gweledigaeth hi o asesiadau wedi eu personoli ac addysg cydberthynas a rhywioldeb? Felly, Gweinidog, faint yn fwy o ymreolaeth wirioneddol yr ydych chi'n dymuno gweld yr ysgolion ei chael? A beth yw'r meysydd na fyddech chi'n fodlon iddyn nhw gael mwy o annibyniaeth ynddyn nhw?
Nid yw cymwysterau ond mor werthfawr â'r enw da sydd iddyn nhw. Bydd yn rhaid i'r cwricwlwm newydd anelu at gymhwyster ar ei ddiwedd. Ond nid yw'r cymwysterau hynny ond mor werthfawr â'r enw da sydd iddyn nhw, fel y dywedais. Ac yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cyflogwyr yn colli rhywfaint o ffydd mewn rhai graddau prifysgolion, a rhai prifysgolion yn amau gwerth rhai arholiadau a gymerwyd yn yr ysgol. Felly, i ba raddau yr ydych chi wedi rhoi prawf ar sut dderbyniad sydd i'r cwricwlwm newydd gan brifysgolion a chyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt?
Mae pobl ifanc heddiw yn gorfod sefydlu eu hunain mewn marchnad swyddi sydd wedi globaleiddio yn llawer mwy nag y bu'n rhaid i neb yma ymdopi â hi. Felly, i ba raddau yr ydych chi wedi edrych ar gwricwla gwledydd fel India a Tsieina sy'n cynhyrchu rhagor eto o bobl ifanc gyda sgiliau eithriadol? Un peth yw edrych ar wledydd eraill yn Ewrop, ond y gwledydd sy'n datblygu sy'n dominyddu'n gynyddol yn y farchnad swyddi fyd-eang. [Chwerthin.] Gallwch chwerthin, ond dyma'r gwir. Felly, tybed a ydych chi'n cytuno â mi y dylem ni fod yn edrych ar sut y gall ein pobl ifanc ymdopi â'r gystadleuaeth oddi yno, yn hytrach nag oddi wrth y gwledydd sydd eisoes yn cael anhawster cystadlu'n fyd-eang.
Ac ar bwnc cyflogadwyedd, er ei bod yn amlwg bod eisiau inni ddatblygu'r ochr honno o bethau, ni ddylai'r Gweinidog golli golwg ar y ffaith fod angen system addysg ar Gymru sy'n annog pobl ifanc i fod yn ddyfeiswyr, yn arloeswyr, yn arbrofwyr a thorrwyr tir newydd. Rwy'n cytuno bod sgiliau digidol, llythrennedd a rhifedd yn feysydd pwysig i gyd, oherwydd eu bod yn arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen i ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd a chyflogaeth. Ond a wnewch chi ddweud wrthyf i beth yr ydych wedi ei wneud, os oes unrhyw beth, i sicrhau na fydd ein cwricwlwm yn y dyfodol yn ymwneud yn unig â hyfforddi pobl i ennill sgiliau cyflogadwyedd, ond y bydd yn rhoi'r anogaeth a'r sgiliau sydd yn angenrheidiol er mwyn bod yn feddylwyr y tu allan i'r bocs a bod yn entrepreneuriaid y dyfodol? Pa arweiniad yr ydych chi wedi ei roi o ran y mater arbennig hwnnw, Gweinidog?
Ac yn olaf, mae cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn rhoi digon o gyfle yn y blynyddoedd i ddod i'r Gweinidog haeru y gallai perfformiad gwael ddigwydd oherwydd bod yr ysgolion yn mynd i'r afael â'r cwricwlwm yn hytrach na bod diffyg yn y cwricwlwm ei hunan. Felly, pa fesurau a wnaiff y Gweinidog eu rhoi ar waith fel y byddwn yn gallu mesur ei lwyddiannau a'i fethiannau, a'r rhesymau amdanynt, o'r cychwyn, yn hytrach nag mewn blynyddoedd wedyn, pan na fydd y Gweinidog yn ei swydd mwyach i fod yn atebol am ei rheolaeth hi o luniad y cwricwlwm newydd? Diolch.
Dechreuodd yr Aelod drwy ofyn sut ydw i'n ymateb i faterion a godwyd gan CLlLC a CCAC. Wel, wrth gwrs, buom yn ymarfer y rhain yn helaeth yng , maen nhw wedi atgyfnerthu fy marn i. Y dydd Llun canlynol, roeddwn mewn digwyddiad yn eistedd yn ymyl dau o'n cyfarwyddwyr awdurdodau addysg lleol a gwadodd y ddau eu bod wedi gweld y papur hwnnw ac nid oeddent yn gwybod pwy oedd wedi ei ysgrifennu. Ond, yn amlwg, rwy'n derbyn os oes diffyg eglurder gan y gymdeithas cyfarwyddwyr neu CLlLC, yna mae'n rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i weithio ochr yn ochr â nhw, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n digwydd heddiw. Mae yna fwrdd newid sy'n cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr addysg Llywodraeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd CCAC a CLlLC yn bresennol pan fydd y bwrdd newid yn cymeradwyo'r holl feysydd dysgu a phrofiad yn derfynol.
Mae'r Aelod yn gofyn a ydw i wedi ystyried effeithiau globaleiddio. Globaleiddio yw un o'r ffactorau sy'n ein hysgogi i wneud y diwygiadau i'r cwricwlwm. Dyma un o'r rhesymau pam yr ydym yn gorfod gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud, i sicrhau ein bod wedi paratoi ein plant i gystadlu'n fyd-eang. Mae'r Aelod yn gofyn a yw materion yn ymwneud â chreadigrwydd a meddwl yn feirniadol yn rhan o'r broses hon. Byddwn yn cyfeirio'r Aelod at y pedwar diben, a bydd y ddyletswydd drostynt yn flaenllaw ym meddyliau Llywodraeth Cymru a'n hysgolion wrth ddatblygu cwricwla unigol.
Nawr, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch gallu cymwysterau Cymru i fod yn basbort i gyfleoedd unrhyw le yn y byd. Rwy'n gwbl hyderus, drwy weithio ochr yn ochr â Chymwysterau Cymru, sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am greu a rheoli'r cymwysterau hynny, na fyddwn ni, mewn unrhyw ffordd yn rhoi plant a phobl ifanc Cymru dan anfantais. Ni fydd eu gallu nhw i ddefnyddio'r cymwysterau hyn fel pasbort, fel y dywedais i, i brifysgolion, profiadau gwaith, cyfleoedd cyflogaeth unrhyw le yn y byd—ni fyddan nhw'n cael eu hatal oherwydd y cymwysterau hyn. Mae'n bosib y bydd llawer o resymau eraill pam na allan nhw fynd i leoedd i weithio ac astudio, ond ni fydd hynny o ganlyniad i'r diwygiadau hyn i'r cwricwlwm.
Nid yw dim newid yn opsiwn—nid yw'r swyddi wedi'u dyfeisio eto ar gyfer ein plant ysgol gynradd, felly mae'n rhaid inni newid y cwricwlwm yn sicr. Nid oes pwrpas mewn dysgu ffeithiau ar gof pan fo pawb yn gallu chwilio am ffeithiau ar eu ffôn symudol. Felly, rwy'n cefnogi'n llwyr athroniaeth a dull y Llywodraeth ar y mater hwn. Roeddwn i eisiau cyfyngu fy sylwadau i ychydig o gwestiynau. Yn gyntaf oll, nid yw cyflwyno hyn yn statudol ym mis Medi 2022, mewn gwirionedd, yn bell iawn i ffwrdd. Felly, tybed sut yr ydym ni'n lleihau pryderon staff sy'n wynebu newid, sydd bob amser yn achosi—. Nid oes gen i ddiddordeb yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r cyfarwyddwyr addysg; mae gen i ddiddordeb yn y rheng flaen. Oherwydd mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol bod problem ddifrifol o ran cadw staff mewn ysgolion yn Lloegr, ac oherwydd bod y gwaith mor hollgynhwysol os ydych chi'n athro amser llawn. Felly, a fydd y cwricwlwm mwy creadigol ar gyfer disgyblion hefyd yn cynnig llwybrau gyrfa mwy creadigol a hyblyg i athrawon? Dyna un cwestiwn.
Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â dogfen eithaf torcalonnus, 'Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2018', a laniodd ar ein desgiau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu. Cymharol ychydig o ysgolion—. Mae hyn yn ymwneud â'r gostyngiad enfawr i ddysgu ieithoedd tramor modern ac effaith Brexit, y mae'r adroddiad hwn yn ei grybwyll. Mae mwy na thraean o'r ysgolion yn adrodd bod proses Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau tuag at astudio ieithoedd tramor modern. Wrth gwrs, dylem fod yn dathlu ein dwyieithrwydd yng Nghymru, ond ni allwn fod yn ddysgwyr Cymraeg a Saesneg yn unig; mae'n rhaid inni fod yn ddysgwyr ieithoedd tramor eraill er mwyn inni barhau i allu ymdrin â'r amgylchedd byd-eang. Felly, tra'r ydym yn ymwreiddio'r cwricwlwm newydd—ac rwy'n dymuno'n dda i chi â hynny i gyd—sut ydym ni'n mynd i atal y gostyngiad o ran ieithoedd tramor modern, oherwydd nid wyf i hyd yma wedi gallu dod o hyd i unrhyw beth am hynny yn y Papur Gwyn?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau? Weithiau, mewn dadleuon ynghylch dyfodol polisi addysg, ceir dewis artiffisial a ffug, credaf, rhwng bod â chwricwlwm sy'n canolbwyntio ar sgiliau a bod â chwricwlwm sy'n canolbwyntio ar wybodaeth. Nawr, er gwaethaf y ffaith y gallwn ni i gyd chwilio yn Google i weld pryd yr oedd brwydr Hastings neu beth a ddigwyddodd ar ddyddiad penodol, nid yw hynny'n disodli'r ffaith, mewn gwirionedd, bod angen rhywfaint o wybodaeth arnom yn ein cwricwlwm o hyd. Ni allwn osgoi hynny. Nid yw'n sefyllfa o 'naill ai/neu'. Mae hwn yn gwricwlwm a fydd yn cynnwys y ddau.
Mae'r Aelod yn llygad ei lle bod addysgu yn broffesiwn heriol iawn, ac mae dau beth y mae angen inni eu gwneud. Yn gyntaf oll—ac mae ffrwd waith yn Llywodraeth Cymru i wneud hyn—beth bynnag am y cwricwlwm newydd, mae'n rhaid inni edrych ar broblemau llwyth gwaith athrawon yn y cwricwlwm presennol yn ogystal â'r cwricwlwm yn y dyfodol. Nid yw cynnig arian ychwanegol i bobl os byddan nhw'n aros yn y proffesiwn yn mynd i weithio. Nid wyf erioed wedi cyfarfod ag athro a aeth i mewn i ystafell ddosbarth oherwydd ei fod yn credu y byddai'n ei wneud yn gyfoethog. Maen nhw'n gwneud hynny oherwydd eu bod wedi'u hysgogi oherwydd cariad at eu pwnc a'r awydd i rannu gwybodaeth am y pwnc hwnnw â phobl eraill neu oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth cynhenid cyfrannu at eu cymdeithas, at eu cymuned, at eu gwlad drwy ymgymryd â'r swydd bwysig hon, ac mae angen inni wneud honno'n swydd hwylus iddyn nhw ei gwneud.
Felly, nid yw hyn yn ymwneud â thaflu arian atyn nhw, fel yr ydym ni wedi ei weld yr wythnos hon. Mewn gwirionedd mae'n ymwneud â deall a mynd i'r afael â'r problemau llwyth gwaith hynny. Ond rwy'n credu y bydd y newidiadau hynny i'r cwricwlwm yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw yn y fan hon yn gwneud Cymru yn lle deniadol i fod yn athro. Oherwydd byddwn yn cydnabod eu sgiliau, eu creadigrwydd a'u gallu i lunio gwersi sy'n wirioneddol addas i'r plant o'u blaen ac nid dim ond gorfod gweithio o restr wirio y mae gwleidydd yn rhywle wedi dweud y mae'n rhaid iddyn nhw eu haddysgu. Gwyddom hefyd, wrth edrych ar astudiaethau rhyngwladol gan yr OECD, mai ffordd o gael gwared ar straen i'r rheini sy'n gweithio yn y proffesiwn rhoi lefel uwch o ymreolaeth iddyn nhw. Mae'r ymarferwyr hynny sydd â lefelau uwch o ymreolaeth mewn systemau, fel yn y Ffindir lle ceir llawer o ymreolaeth i athrawon unigol—dyna lle mae gennych chi'r lefelau uwch o foddhad â'r proffesiwn ac mae gennych chi gyfraddau cadw gwell a llai o bobl yn gadael. Ac mae hyn yn rhan o'r broses yr ydym ni ynddi—rhoi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd i athrawon yn eu hystafelloedd dosbarth unigol.
Nawr, o ran ieithoedd tramor modern, nid wyf yn credu bod yna lais sy'n anghytuno—wel, nid wyf yn gwybod beth yw barn UKIP—ond nid oes yna lais sy'n anghytuno, rwy'n credu, ar ran y Blaid Geidwadol na Phlaid Cymru nac ar y meinciau hyn yn y fan hon am bwysigrwydd ieithoedd tramor modern. Rydym ni i gyd yn rhannu hynny. Wrth gwrs, y broblem yw, os ydych chi'n berson dwyieithog, pan fyddwch chi wedi dysgu dwy iaith, mae'r drydedd, y bedwaredd, y bumed, chweched, seithfed, yn wir, yn haws eu dysgu. Felly, mewn gwirionedd, fel system gyfan, gan ei bod yn system ddwyieithog, rydym yn rhoi ein plant mewn sefyllfa wybyddol well i gaffael ieithoedd eraill. Ond rydych chi yn llygad eich lle: rydym ni yn gweld her barhaus o ran argyhoeddi pobl ifanc i ddewis yr ieithoedd hynny pan fyddan nhw'n dod yn bynciau dewisol—fel arfer, yn y rhan fwyaf o ysgolion, pan fyddant yn 14 oed. Rwyf wedi gweld hynny yn fy nheulu i fy hun; rwyf wedi gweld yr her honno yn fy nheulu i fy hun. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma, yn ein cwricwlwm newydd, yw eu cyflwyno i ieithoedd eraill—ieithoedd cymunedol yma yng Nghaerdydd, cydnabyddiaeth ar gyfer y plant hynny sy'n siarad ieithoedd gwahanol yn y cartref, cydnabod ieithoedd cymunedol, ieithoedd tramor modern, yr ieithoedd clasurol ac Iaith Arwyddion Prydain—a'r disgwyliadau yn y cwricwlwm newydd yw y bydd yn dod i lawr i'r hyn yr ydym yn ei alw'n oedrannau cynradd. Ac, yn wir, mae eu cyflwyno yn gynnar yn hytrach na'u gadael nes bydd y plant yn 11 oed, sef pryd mae'r rhan fwyaf o blant, nid yr holl blant—. Oherwydd mae gennym ni rai ysgolion cynradd sy'n gwneud gwaith gwych gyda Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Tsieinëeg. Trwy ddod â hynny i lawr fel bod cyfle i'r holl blant oedran cynradd ddod i gysylltiad â'r iaith honno, rwy'n gobeithio y gwelwn newid mewn agweddau, angerdd a dealltwriaeth bod caffael llawer o ieithoedd, mewn gwirionedd, yn rhywbeth sy'n achosi twf yn bersonol, ond hefyd mae cyfleoedd economaidd enfawr yn codi o hyn os gallwch wneud hynny.
A gaf i ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad? Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau ac, yn amlwg, gynnwys y cyfraniadau y prynhawn yma. Yn amlwg, gan ganolbwyntio ar yr arwyddocâd hanesyddol yn gyntaf, y Parchedig Griffith Jones o Landdowror yn Sir Gaerfyrddin a sefydlodd ysgolion Sul cylchynol yn y ddeunawfed ganrif fel templed ar gyfer pob ysgol fodern. Roedd yr ysgolion cylchynol mor llwyddiannus fel mai Cymru oedd un o'r gwledydd mwyaf llythrennog o wledydd Ewrop gyfan, ar y pryd, yng nghanol y ddeunawfed ganrif, i'r graddau y gwnaeth Catherine Fawr, Ymerodres Rwsia, anfon cennad yma i Gymru fach i ddarganfod sut yr oedd yr ysgolion hynny'n gweithredu. Efallai na fyddwch yn dod o hyd i hynny wrth chwilio yn Google, a dyna pam mae angen inni addysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwneud y ple hwnnw, ond, yn amlwg, rwyf wedi gwneud hynny o'r blaen.
O ran amser, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un pwynt yn eich Papur Gwyn, ac mae'n bwynt y cyfeiriwyd ato eisoes gan Suzy a Siân Gwenllian. O ran y ddyletswydd ar yr holl ysgolion—rwy'n ei weld o dan adran 3.79 yma, pwynt bwled 4:
'Dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.'
Gallaf ddeall hynny o safbwynt cydraddoldeb, ond mewn gwirionedd nid yw'n digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n gam yn ôl pe byddai ein meithrinfeydd a'n grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a'r blynyddoedd cynnar mewn ysgolion yn dechrau cyflwyno Saesneg nawr oherwydd mae hyn yn ymwneud â throchi iaith. Mae'n sefyllfa anghyfartal ar hyn o bryd. Rwy'n siarad fel cadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, lle mae 92 y cant o'r plant yn dod o gefndir di-Gymraeg. Maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol i ddysgu Cymraeg. Felly, dim ond 8 y cant ohonyn nhw sydd â rhywfaint o Gymraeg yn y cartref, ac, yn wir, dim ond hanner o'r rheini sydd ag un rhiant. Felly, mewn geiriau eraill, mae gan 4 y cant un rhiant yn siarad Cymraeg. Felly, mae 92 y cant o gefndir hollol ddi-Gymraeg. Mae'n sefyllfa anghyfartal wedyn, oherwydd mae'n ymwneud â dysgu iaith yn gynnar a throchi yn yr iaith honno.
Roedd yr ysgol yr wyf i bellach yn gadeirydd y llywodraethwyr ynddi—yn arfer bod, dros 20 mlynedd yn ôl, yn ysgol ddwyieithog. Nid ysgol cyfrwng Cymraeg oedd hi, roedd hi'n ddwyieithog—Cymraeg a Saesneg. Yr hyn a ganfuwyd gennym oedd nad oedd rhai o'r plant bob amser yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y pen draw, erbyn eu bod yn 11 oed. Maen nhw erbyn hyn. Maen nhw'n dechrau, mae popeth yn Gymraeg, mae Saesneg yn cael ei chyflwyno pan fydd y plant yn saith oed—erbyn eu bod nhw'n 11, mae pawb yn ddwyieithog, ac yn dod o'r cefndir 92 y cant di-Gymraeg hwnnw neu beidio. Ac, yn amlwg, mae'n haws dysgu iaith arall fel Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, yn enwedig os caiff ei chyflwyno ar lefel cynradd. Felly, byddwn yn erfyn arnoch—mae'r holl brofiad rhyngwladol ynghylch dysgu iaith mewn sefyllfa leiafrifol yr ydym ni ynddi nawr, nid yw'n gyfartal, ac mae'n rhaid inni unioni'r anghydraddoldeb hwnnw drwy wneud yn siŵr mai Cymraeg yn unig a geir hyd at saith oed, ac yna rydych chi hefyd yn cyflwyno ieithoedd eraill ar ôl hynny, oherwydd bod ganddyn nhw'r dylanwad Saesneg llethol hwnnw yn y cartref, o'u cwmpas i gyd, ar y teledu. Maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol am y Gymraeg. Edrychwch eto, os gwelwch yn dda, Gweinidog, ar adran 3.79. Diolch yn fawr.
Diolch, Dai. Y profiad yr ydych chi newydd ei ddisgrifio yn yr ysgol yr ydych chi'n gadeirydd y llywodraethwyr arni yw'r profiad sydd gen i yn fy nheulu fy hun. Mae fy mhlant i yn blant dwyieithog. Cymerais yr amser i ofyn i fy mhlentyn 14 mlwydd oed neithiwr a oedd yn edifar ganddi, oherwydd nid yw bob amser yn hawdd i riant wneud y dewis hwnnw. Nid yw wedi bod yn ddi-broblem pan wyf wedi eistedd wrth eu hymyl, a sylweddoli bod eu Cymraeg yn llawer gwell na fy un i yn gyflym iawn, iawn, iawn. Nid yw bob amser yn sefyllfa gyfforddus i fod ynddi ac nid yw heb ei phroblemau. Ond gofynnais iddi neithiwr a oedd yn edifar am unrhyw beth, a dywedodd 'Rwy'n falch. Rwy'n hynod falch fy mod yn gallu siarad dwy iaith ac, fel y gwnaeth fy atgoffa i, 'Mae hynny'n rhywbeth na alli di ei wneud'. A phan maen nhw'n uno gyda'i gilydd yn fy erbyn i a phan nad ydyn nhw eisiau i mi ddeall beth maen nhw'n ei ddweud amdanaf—wel, gallwch chi ddychmygu sut maen nhw'n siarad â'i gilydd. Gadewch imi fod yn gwbl glir yma. Nid wyf i mewn unrhyw ffordd eisiau tanseilio'r egwyddor trochi, sy'n ffordd bwysig o sicrhau y gall plant fod yn blant dwyieithog.
A gaf i wneud y pwynt ynghylch dimensiwn Cymreig y cwricwlwm hwn? A gaf i ddweud bod dimensiwn Cymreig yn gorfod bod yn fwy na dim ond hanes Cymru, Dai? Ymddengys bod dadl lle'r ydym bob amser yn sôn am y dimensiwn Cymreig dim ond o fewn cyfyngiadau gwersi hanes Cymru. Nid wyf i eisiau i blant ddysgu am hanes Cymru yn unig—ac, wrth gwrs, rwyf eisiau iddyn nhw ddysgu am hanes Cymru—ond rwyf eisiau iddyn nhw ddeall am gyfraniad Cymru i'r byd ehangach, rwyf eisiau iddyn nhw ddeall am awduron, actorion, cerddorion Cymru, y bobl hynny sydd wedi rhagori yn y celfyddydau mynegiannol; y ffaith mai Cymro yn Genefa sy'n rhedeg y peiriant gwrthdaro hadron. Felly, nid wyf eisiau i'r dimensiwn Cymreig fod yn fater o wersi hanes Cymru yn unig. Rwyf eisiau i ddimensiwn Cymreig ein cwricwlwm ymestyn i bob maes profiad a dysgu, oherwydd nid oes un maes dysgu a phrofiad lle nad oes gan Gymru stori falch i'w hadrodd am ei chyfraniad at yr holl agweddau pwysig iawn, iawn hynny. Ac ni allwn ei gyfyngu i ddysgu am ein hanes yn unig.
Diolch. Mae gennyf ddau siaradwr arall ac, fel y gallwch chi weld, rydym ni wedi mynd dros amser. Ond fe wnaf i alw'r ddau siaradwr hynny, ond byddwn yn gofyn iddyn nhw fod yn gryno a dim ond i godi pwyntiau ychwanegol nad ydyn nhw wedi'u codi eisoes. Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i hepgor fy rhagymadrodd i'r cwestiwn. Yn fyr roeddwn i, felly, Gweinidog, os gaf i, eisiau canolbwyntio ar un o'r pedwar diben a nodir yn y newidiadau strwythurol arfaethedig i'r cwricwlwm—sef sicrhau bod ein plant yn ddinasyddion moesegol, gwybodus ac, yn arbennig, eu bod yn llawn gwybodaeth am eu diwylliant, eu cymuned a'u cymdeithas yn y byd nawr ac yn y gorffennol. Mae amcanion y diben hwn yn amlwg yn ganmoladwy, ond hoffwn i, rwy'n credu, ddilyn ymlaen o'r pwynt a wnaed gan Paul Davies yn gynharach yn ei gyfraniad, pan oedd yn gofyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ynghylch y diffyg gwybodaeth am yr Holocost, neu wadu ei fodolaeth hyd yn oed.
Treuliais yr wythnos ddiwethaf yn myfyrio ar yr Holocost a hil-laddiad a sut y gellir creu'r amodau ar gyfer hynny drwy anwybodaeth a rhagfarn. Gan wybod, fel yr ydym ni i gyd, bod poblyddiaeth ac anoddefgarwch yn cynyddu, byddai gennyf ddiddordeb i wybod beth yn benodol yr ydym ni'n debygol o'i weld yn y cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau ein bod yn gweld mwy o unigolion goddefgar, cynhwysol a pharchus yn gadael yr ysgol, sydd â gwell dealltwriaeth o effaith eu geiriau a'u gweithredoedd. Rwy'n siŵr y byddwch, fwy na thebyg, yn dweud bod hyn yn fwy priodol i'w drafod neu ei gwestiynu pan rydym yn sôn am y cwricwlwm drafft. Ond byddwn i'n dal i groesawu eich meddyliau ar hyn o bryd o ran beth yn benodol y gallwn ni ei wneud o fewn y cwricwlwm i wneud yn siŵr bod ein plant yn gadael yr ysgol â barn, gwerthoedd ac agwedd llawer mwy cytbwys tuag at eu lle mewn cymdeithas.
A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am y cwestiwn hwnnw? Wrth gynllunio'r cwricwlwm a chynnwys unigol y meysydd dysgu a phrofiad mewn ysgolion, bydd dyletswydd ar ysgolion i allu barnu'r cynnwys hwnnw yn erbyn cyflawniad y dibenion hynny. Felly, mae'r ffaith bod y diben hwnnw yno yn ganolbwynt i'n cwricwlwm—a'r disgwyliadau o ran pa fath o bobl yr ydym yn disgwyl iddyn nhw adael ein system addysg orfodol, rwy'n credu, yn eithaf clir.
Rwy'n gwybod, dros y penwythnos, fod yr Aelod wedi bod yn gysylltiedig i raddau mawr â'r materion yn ymwneud â chofio'r Holocost. Ac roeddwn yn falch iawn yr wythnos ddiwethaf o ddefnyddio fy sianel gyfathrebu swyddogol i hyrwyddo a thynnu sylw at yr adnoddau gwych sydd gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost ac i hyrwyddo'r defnydd o'r adnoddau hynny yn ysgolion Cymru. A gaf i roi enghraifft ymarferol iawn i chi o sut y mae hyn yn digwydd eisoes o ran ein fframwaith cynhwysedd digidol? Weithiau bydd pobl yn meddwl ein bod ni, wrth sôn am y fframwaith cymhwysedd digidol, yn sôn yn unig am sut yr ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur, ond mae'n llawer mwy na hynny. Un o'r pethau yr ydym ni'n gweithio arno yn y fframwaith yw'r gallu i adnabod newyddion ffug: i allu mynd ar-lein, gweld darn o wybodaeth a gallu gofyn y cwestiynau hollbwysig hynny i'ch hunain ynghylch a yw hyn yn wir neu'n ffug neu sut y gallwch chi gael gafael ar wybodaeth arall er mwyn cadarnhau yr hyn yr ydych newydd ei ddarllen. Mae'r gallu hwnnw i gwestiynu'r wybodaeth sydd ar gael ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, rwy'n credu, yn bwysicach nag y bu erioed ac mae hwnnw'n bwynt hollbwysig, er enghraifft, o'r hyn yr ydym ni'n gweithio arno ar hyn o bryd o ran y fframwaith cymhwysedd digidol, ac, wrth gwrs, bydd yn rhan statudol o'r cwricwlwm yn y dyfodol.
Yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog. Yn wir, mae potensial a chyfle mawr yn y cwricwlwm newydd hwn, ac, rwy’n credu, gwobrau gwych: rwy’n croesawu’n fawr iawn y bwriad strategol o amgylch datblygiad cynnar a chyn-ieithyddol ledled Cymru. Mae angen y datblygiad ieithyddol hwnnw arnom. Gallwn ni fod yn genedl ddwyieithog i raddau mwy, ond mae angen inni fod yn wlad amlieithog i gymryd ein gwir le yn y byd—ac ni wnaf sôn am y meysydd profiad a dysgu o ran cerddoriaeth a'r celfyddydau heddiw. A allwch chi amlinellu imi sut yr ydych chi’n credu y bydd y consortia gwella addysg yn cyfrannu at gyflenwi hyn a helpu o bosibl i roi’r cwricwlwm newydd ar waith yng Nghymru?
Diolch, Rhianon, am hynny. Yn amlwg, bydd gan yr haen ganol, sy'n cynnwys ein hawdurdodau addysg lleol, Estyn a’r gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol, ran hanfodol i'w chwarae i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fabwysiadu a’i gyflenwi at safon uchel iawn. Yr hyn yr hoffwn i ei wneud yw sicrhau'r ysgolion y byddwn ni'n defnyddio'r cyfnod hwn rhwng cyhoeddi’r meysydd dysgu a phrofiad, pasio’r ddeddfwriaeth hon, a’r cyflwyno statudol yn 2022 i wneud yn siŵr bod pob agwedd ar ein system addysg yn ddigon da a bod unrhyw ddyfarniadau y gallai’r gwasanaeth gwella ysgolion eu gwneud neu beidio o ran effeithiolrwydd yr ysgol—y bydd y personél y maen nhw’n eu hanfon i’r ysgol honno’n gyfarwydd iawn ag egwyddorion addysgeg ac ethos y cwricwlwm hwn.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.