– Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
Eitem 8 ar yr agenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr a galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig hwnnw.
Cynnig NDM7050 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.
2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys:
a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg;
b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith;
c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt; a
d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio rhatach.
Diolch. Ddirprwy Lywydd, braint ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yw agor y ddadl heddiw, a chodi i ddiogelu ein plant a hawliau pellach i gefnogi ein gofalwyr iau.
Mae'r cynnig sy'n cael ei drafod heddiw yn estyniad o'n gwaith blaenorol yma, a chyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac adolygiad Donaldson. Fodd bynnag, mae ein cynnig yn mynd hyd yn oed ymhellach, gan gynnig bod y mwy na 21,000 o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn swyddogol am eu haberth, eu gwaith caled a'u gofal amhrisiadwy i deulu a ffrindiau, a hefyd yn cael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnynt er mwyn gofalu am eu hiechyd a'u hanghenion eu hunain a ffynnu mewn agweddau eraill ar eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr ifanc sy'n ofalwyr ac nid ydym yn petruso rhag cymeradwyo polisi a gyflwynwyd yn gynharach gan y grŵp hwn a fyddai'n rhoi £60 yr wythnos i fyfyrwyr a phrentisiaid ifanc sy'n ofalwyr. Mae'r argymhelliad hwn gan y Ceidwadwyr wedi'i anwybyddu dro ar ôl tro a hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth, a chefnogaeth y grŵp hwn, i'r mesur hwn.
O ganlyniad i ymchwil pellach i realiti bywydau gofalwyr ifanc, rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o'r anawsterau anferth a chymhleth sy'n wynebu ein gofalwyr ifanc. Yn hollbwysig, mae ein hymchwil a'n hymgysylltiad â sefydliadau gofalwyr ifanc, fel Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog, wedi dangos bod angen fframweithiau cymorth pellach ar ofalwyr ifanc, a bod pob achos o ofalu a chefnogi aelod o'r teulu neu rywun annwyl arall yn wahanol.
Mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn amrywio o rai 14 i 16 oed mewn ysgolion—er i mi glywed yn ddiweddar am ofalwr ifanc wyth mlwydd oed—yn ceisio ymdopi â'u hymrwymiadau TGAU a thyfu drwy'r glasoed, i rai 18 oed yn y chweched dosbarth; a phobl 20 oed mewn prifysgolion a 24 a 25 oed yn ceisio addasu i ofynion bywyd fel oedolion a bywyd gwaith. Er fy mod yn llwyr gydnabod y gall y llwybr hwn amrywio yn dibynnu ar yr unigolyn, cytunir yn gyffredinol fod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn llawer llai tebygol o fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant arall. Yn wir, yn ôl gofalwyr ifanc yng Nghymru, mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr deirgwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu categoreiddio fel pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ategwyd hyn gan y Comisiwn Archwilio, a ddaeth i'r casgliad, mor gynnar â 2010, fod gofalwyr ifanc rhwng 16 a 18 oed ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi bod yn NEET ers dros chwe mis. Ac yn ôl ymchwil Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, 'Time to be Heard Wales', y cymhwyster mwyaf cyffredin ymhlith ymatebwyr yr arolwg oedd gradd D mewn TGAU. Eto i gyd, Ddirprwy Lywydd, mae'r rhwystrau a'r heriau addysgol hyn wedi'u nodi ar gamau cynharach ar y daith drwy'r ysgol.
Yn 2014, daeth Prifysgol Nottingham i'r casgliad yn eu hadroddiad, 'Time to be Heard: A Call for Recognition and Support for Young Adult Carers', fod chwarter y gofalwyr ifanc wedi sôn am brofiadau o fwlio a cham-drin yn yr ysgol oherwydd eu rôl a'u cyfrifoldebau gofal. O ystyried y llu o ffyrdd y gall rhywun weithredu fel gofalwr, gall rhai cyd-ddisgyblion weld sefyllfa rhieni neu frawd neu chwaer gofalwr fel rhywbeth i chwerthin yn ei gylch—gwyddom am enghreifftiau o hynny—gan wneud iddynt deimlo cywilydd ac embaras dwfn.
Yn yr un modd, gall plant ysgol gam-drin a bwlio gofalwr ifanc os ydynt yn gweld eu bod yn helpu rhywun arall anabl, neu oherwydd eu perfformiad academaidd gwael, trafferthion ariannol, aeddfedrwydd emosiynol a nodweddion personoliaeth sy'n ymddangos fel pe baent yn gwrthdaro yn erbyn rhai aelodau eraill o'r dosbarth. Ni ddylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael eu stigmateiddio a bod yn destun bwlio, ac wrth fynd i'r afael â'r ystadegau ar berfformiad academaidd ac addysgol, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y dimensiynau cymdeithasol ac emosiynol sy'n dylanwadu ar y tueddiadau hyn a cheisio annog ysgolion a sefydliadau addysg bellach i ddatblygu ffyrdd ymarferol o gefnogi'r grŵp hwn sydd o dan anfantais ac yn agored i niwed.
Fel y nododd ymchwil gan yr Adran Addysg, y gofalwyr mwyaf agored i niwed yw'r rhai nad ydynt yn cael cymorth ac sydd â chyfrifoldebau sy'n anghymesur â'u hoed a'u haeddfedrwydd eu hunain. Fel yr argymhellodd Estyn, y dasg gyntaf i sefydliadau addysg yw nodi pa fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a mynd ymhellach drwy lunio cofnod o gyfanswm y gofalwyr ifanc sy'n cyflawni gwahanol raglenni a chymwysterau addysgol gan jyglo'r cyfrifoldebau gofalu hyn yn y cartref. I ailadrodd, yr hyn sy'n nodweddu gofalwr ifanc yw bod eu cyfrifoldebau'n parhau dros amser a bod eu mewnbwn yn hanfodol i gynnal iechyd neu les aelod o'r teulu, neu ffrind yn wir.
Nawr, er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y ffordd fwyaf priodol, mae angen nodi pwy yw'r gofalwyr hyn cyn gynted ag y bo modd. Am y rheswm hwn, fel Ceidwadwyr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr. Bydd hyn o fudd iddynt drwy eu hatal rhag ailadrodd eu hamgylchiadau, sy'n golygu eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth fywyd arferol yn yr ysgol neu mewn mathau eraill o addysg, a'u helpu i gyfathrebu'n well â gweithwyr addysgol ac eraill ym maes iechyd y gwelant nad oes ganddynt ddewis heblaw rhyngweithio â hwy.
Cafodd llwyddiant y canllawiau hyn ei gyfleu gan Goleg Gwent, sydd wedi datblygu strategaeth i roi cymorth penodol i ofalwyr ifanc o'r adeg cyn eu derbyn i'r adeg ar ôl iddynt orffen astudio. Hynny yw, mae darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol sydd â chyfrifoldebau gofalu yng Ngholeg Gwent yn gallu manteisio ar gymorth diduedd wedi'i deilwra ar eu cyfer er mwyn cynyddu eu profiad dysgu a'u cyflawniad i'r eithaf. Felly, o gofio'r hyn a ddywedwyd yma, hoffwn alw ar y Llywodraeth i ddefnyddio llwyddiant Coleg Gwent fel esiampl i sefydliadau addysg bellach er mwyn i ofalwyr ifanc gael cyfle nid yn unig i wella eu bywydau a llwyddo—. Gallem fynd ymlaen, mewn gwirionedd, i sôn am yr agweddau negyddol, ond pan welwch arfer da mewn maes, hoffwn ofyn am inni edrych ar hynny ymhellach, a chithau fel Llywodraeth, er mwyn cyflwyno hynny ledled Cymru fel na fydd yr un gofalwr yn methu cael cymorth ychwanegol o'r fath.
Yr ail bwynt allweddol yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol ledled Cymru ddysgu cydnabod bod yn rhaid cyflwyno'r cardiau hyn yn orfodol a bod yr holl bartïon perthnasol, megis y proffesiynau iechyd ac addysg, yn deall y cardiau adnabod yn iawn, yn ogystal â'u goblygiadau. Dylid cyflawni hyn drwy lansio ymgyrch effeithiol cyn i'r cardiau adnabod gael eu cyflwyno. Dylai athrawon a gweithwyr gofal iechyd—ymysg eraill—fod yn ymwybodol o'r cerdyn a'i ddeall.
Nawr, oni bai eu bod yn orfodol a rhywfaint o ddyletswydd statudol yn eu cylch, mae gennym dystiolaeth sy'n awgrymu na fydd y cardiau'n cael eu cyflwyno'n llawn ar draws yr holl awdurdodau lleol. Pam y dylem weld un awdurdod yn bod yn dda iawn, ac awdurdod arall nad yw'n trafferthu ei wneud? Felly, mewn gwirionedd, o ran unffurfiaeth a chysondeb, mae'n hanfodol fod yna ddyletswydd statudol ynghlwm wrth hyn. Oni bai fod y cardiau hyn yn orfodol, mae perygl y bydd amrywiadau rhanbarthol yn peri annhegwch, ac y collir manteision y cardiau os bydd awdurdodau lleol yn dewis peidio â'u cymeradwyo.
Yn wir, mae'n hanfodol hefyd fod awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd wedi'i hymestyn. Rydym bellach yn 2019, felly beth am weithio gyda'r ddeddfwriaeth honno a'i gwneud yn ystyrlon? Mae angen iddynt gyfathrebu'n well â'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ei olygu a sut y gallai fod o fudd i'n gofalwyr ifanc. Mae angen i awdurdodau lleol ar draws Cymru sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael asesiad gofalwr amserol er mwyn iddynt allu eu cynorthwyo gyda'r heriau a wynebant drwy roi gwybodaeth a chyngor iddynt a'u cyfeirio i'r mannau y mae angen iddynt fynd. O gofio bod dros 50 y cant o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn dioddef problemau iechyd meddwl—mae hwnnw'n ffigur enfawr—mae'n hanfodol cynnwys cymorth lles. At hynny, fel y crybwyllwyd yn flaenorol, y prif faes ar gyfer gwella yw addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, gan mai dyma lle mae gofalwyr ifanc yn dangos tangyflawniad sylweddol o gymharu â phobl ifanc nad ydynt yn ofalwyr.
Yn y Llywodraeth ac mewn awdurdodau lleol, a llawer o fannau lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, rydym yn siarad llawer, onid ydym, am gydraddoldeb yn gyffredinol. Dyma enghraifft glasurol. Ni allwch gael sefyllfa lle mae gan 50 y cant o ofalwyr ifanc anghenion iechyd meddwl, ac nad yw'r rheini'n mynd i gael sylw. Dyma faes sy'n gallu gwella eu hymdeimlad o gyflawniad a hunan-barch drwy sicrhau llwyddiant a chyfle i wneud cynnydd yn eu dewis faes gwaith. Drwy fabwysiadu'r fframweithiau hyn mewn lleoliadau addysgol, gobeithir y bydd nifer y rhai yn y grŵp hwn sy'n gadael y brifysgol cyn pryd yn gostwng.
Dylai cyflwyno cynllun teithio rhatach fod yn rhan annatod o'r rhaglenni hyn, eto er mwyn goresgyn y rhwystrau ariannol y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu wrth fynychu lleoliad addysg bellach. Yn ôl y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mae 24 y cant o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn credu mai cyfyngiadau ariannol yw'r hyn sy'n eu hatal rhag mynychu lleoliadau addysg bellach mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, nid yw'r cynllun tocynnau consesiwn ond yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl 60 oed a hŷn, cyn-filwyr a phobl anabl, ac unwaith eto, nid yw hyn yn ystyried pa mor hanfodol yw gofalwyr ifanc yn ein cymdeithas, a sut y mae eu cyfraniad ar y cyd â gofalwyr eraill yn arbed £8.1 biliwn y flwyddyn i'n heconomi yma yng Nghymru.
Felly, heddiw, Ddirprwy Weinidog a Dirprwy Lywydd, galwaf ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r argymhellion a gynigir heddiw er mwyn parhau i flaenoriaethu anghenion ein hoedolion ifanc sy'n ofalwyr, sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i barhau â'u rôl anrhydeddus a chael y cyfle gorau i greu bywyd llwyddiannus a boddhaus. Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen at Wythnos y Gofalwyr sydd ar y ffordd, a gwn fod yr Aelodau ar y meinciau hyn yn edrych ymlaen ati hefyd. Mae gennym lawer o asiantaethau trydydd parti yn gweithio'n galed iawn i dynnu sylw at y materion a nodais yma heddiw. Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw ysgwyddo eu cyfrifoldebau ei hun mewn perthynas â hyn. Cefnogwch ein cynigion yma heddiw. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n bles iawn i allu cyfrannu i'r ddadl yma ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr, ac yn symud y gwelliant ar bwysigrwydd gofal seibiant i ofalwyr ifanc.
Wrth gwrs, mae Janet Finch-Saunders wedi disgrifio'r tirlun i ofalwyr ifanc yn dda iawn. Fe af i ddim i ymhelaethu ar hynny. Ond, hefyd dwi'n cyfrannu y prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, achos ar hyn o bryd mae’r pwyllgor iechyd yn cynnal ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr. Mae’r pwyllgor wedi gorffen casglu tystiolaeth ac mae’r gwaith o lunio adroddiad wedi dechrau, gyda’r bwriad o’i gyhoeddi cyn toriad yr haf yma, felly nid ydym am achub y blaen ar unrhyw un o ganfyddiadau’r pwyllgor yn y ddadl yma.
Fodd bynnag, fel rhan o’r ymchwiliad yn gynharach eleni, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc—sef 31 Ionawr eleni—neilltuodd y pwyllgor iechyd ddiwrnod i glywed barn gofalwyr ifanc ar ba mor dda y mae’r Ddeddf yn gweithio iddyn nhw. Gwnaethom ni siarad efo grŵp o ofalwyr ifanc rhwng 10 mlwydd oed a 22 mlwydd oed o bob cwr o Gymru, ac, yn y cyfraniad byr hwn, fe wnaf i amlinellu rhai o’r materion allweddol a glywodd y pwyllgor sy’n wynebu gofalwyr ifanc yng Nghymru heddiw.
Mae gan lawer o ofalwyr ifanc gyfrifoldebau sylweddol, o ran gofalu am y person sydd â salwch neu anabledd, ac o ran gofalu am aelodau eraill o’r teulu. Gall hyn gynnwys rhoi cymorth emosiynol yn ogystal â chymorth ag anghenion iechyd, symudedd a thasgau domestig. Mewn rhai achosion, gall hyn gymryd amser sylweddol, sy’n effeithio ar addysg gofalwyr ifanc yn ogystal â’u bywyd cymdeithasol a’u hamser hamdden. Mae effaith gofalu ar blant a phobl ifanc yn sylweddol, ac mae gofalwyr ifanc yn wynebu rhagolygon gwaeth na’u cyfoedion, er enghraifft o ran swyddi a chael mynediad at addysg uwch.
Mae nifer y gofalwyr ifanc yn cynyddu, a hynny law yn llaw efo cymhlethdod eu hanghenion. Mae cynlluniau i gefnogi gofalwyr ifanc yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso gweithgareddau hamdden a chyfleoedd i ofalwyr ifanc gwrdd a rhannu eu profiadau a chefnogi ei gilydd. Maent yn cefnogi gofalwyr ifanc sydd, ar gyfartaledd, yn darparu rhwng 15 ac 20 awr o ofal bob wythnos.
Mae ymagwedd awdurdodau lleol tuag at asesu anghenion gofalwyr ifanc o dan y Ddeddf hefyd yn amrywio. Nid yw rhai gofalwyr ifanc wedi cael asesiad o'u hanghenion eu hunain, ac mae eraill wedi'u hasesu yn ddiarwybod iddyn nhw. Dylid asesu anghenion gofalwyr ifanc yng nghyd-destun y teulu, nid ar wahân. Mae tystiolaeth gan gyrff y trydydd sector yn awgrymu bod y camau sy'n cael eu cymryd i flaenoriaethu gofalwyr ifanc wedi gostwng yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Gall yr ysgol fod yn ffynhonnell bwysig o gymorth i ofalwyr ifanc. Mae cael cymorth da yn yr ysgol yn aml yn dibynnu ar ymrwymiad athro unigol, ac mae ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn aml yn wael ar draws yr ysgol gyfan. Nid yw llawer o ofalwyr ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn yr ysgol ac nid yw pob gofalwr ifanc yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn y lleoliad yma. Mae rhai gofalwyr ifanc yn amharod i ddweud eu bod yn ofalwyr yn yr ysgol rhag ofn iddynt wynebu stigma neu fwlio, yn enwedig os ydyn nhw'n gofalu am berson efo problemau iechyd meddwl. Dywed gofalwyr ifanc ei bod yn bwysig cael rhywun yn yr ysgol y maen nhw'n teimlo y gallant ymddiried ynddo ac sy'n deall yr heriau sy'n eu hwynebu nhw, fel pobl ifanc efo dyletswyddau gofalu am bobl eraill.
Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn i'r Cynulliad yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.
Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon yn un rhadlon, lle bydd pob un ohonom yn edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi aelodau o'r boblogaeth y mae gan bawb ohonom ddiddordeb arbennig ynddynt. Rydym yn aml yn canmol nyrsys ac athrawon a gweithwyr gofal, a gweithwyr dur hyd yn oed, ond rwy'n credu bod ein gofalwyr di-dâl, yn enwedig ein gofalwyr ifanc, yn haeddu sylw arbennig gennym fel Aelodau Cynulliad.
Felly, fe wnaf i groesawu gwelliant Dai Lloyd. Rŷm ni'n mynd i gefnogi hwnnw, ac rydym yn edrych ymlaen at yr adroddiad ymlaen llaw.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gwn nad yw'n edrych fel fawr o newid ar yr olwg gyntaf, ond yr hyn a welaf fi yw enghraifft arall o rywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud dro ar ôl tro, sef defnyddio ei phwerau i 'ddisgwyl' yn hytrach na 'chyflawni'. Fe edrychais yn gyflym drwy Gofnod y Trafodion a gweld bod Gweinidogion wedi defnyddio'r gair 'disgwyl' 36 gwaith yn ystod sesiynau craffu yn 2019, ac rwy'n siŵr o fod wedi methu ambell un. Ond chi yw'r Llywodraeth. Nid oes raid i chi ddisgwyl; gallwch fynnu. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn o wybod, yn bersonol ac ar ran etholwyr, y gallai'r Llywodraeth wneud rhywbeth, pan fydd cytundeb llwyr ar bolisi ar bob ochr yn y Siambr, ond ei bod yn dewis peidio. Felly, yn amlwg, rwyf wrth fy modd fod Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn helpu i gynghori'r Llywodraeth, ond nid yw hynny'n ymrwymiad i gyflwyno cerdyn adnabod yn gyson ledled Cymru. Gallwch hyrwyddo'r cerdyn adnabod hwn drwy bartneriaid rhwydwaith a chyfryngau cymdeithasol gymaint ag y mynnwch, ond os byddwch yn gadael hyn i ddisgresiwn cynghorau a'r grant cynnal refeniw, ni chaiff eich disgwyliadau mo'u bodloni.
Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n mynd i fynd ymhellach na Janet Finch-Saunders heddiw a'ch gwahodd i dynnu eich gwelliant yn ôl a defnyddio'ch pŵer i greu'r ddyletswydd y galwn amdani yn ein cynnig, a gwneud hynny dros y gofalwyr ifanc. Credaf y gallwch ei wneud heb orfod troi at ddeddfwriaeth fawr. Rydym eisoes yn amheus ynghylch statudau blaenllaw sy'n tueddu i roi loes a fawr o lawenydd: yr holl ddisgwyliadau na chafodd eu gwireddu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac yn awr o bosibl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn seiliedig ar yr hyn a glywsom heddiw. A ddylem ddathlu ein deddfwriaeth sy'n seiliedig ar hawliau, deddfwriaeth yr ydym wedi bod yn falch ohoni, os nad yw'n cynnig atebion cyraeddadwy i'n hetholwyr? Rwy'n ofni bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol wedi siomi gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, er eu bod yn bendant iawn ym meddwl pob un ohonom pan basiwyd y ddeddfwriaeth honno gennym.
Felly, gadewch i ni droi at y pethau cadarnhaol. Mae'r wybodaeth ar y rhyngrwyd am wledydd eraill a sut y maent yn cydnabod ac yn cefnogi eu gofalwyr ifanc yn syndod o fach ac wedi'i chyfuno â gwybodaeth am ofalwyr yn gyffredinol. Wrth gwrs, ni fu'n bosibl imi ymchwilio i wefannau Llywodraeth pob gwlad ar y blaned yn y gwahanol ieithoedd, ond mae'n awgrymu, efallai, ein bod ni yn y DU, ac yng Nghymru yn enwedig, yn cydnabod ein dyled i ofalwyr ifanc yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r byd, hyd yn oed os nad ydym yn diwallu eu hanghenion. Rydym o leiaf yn gwneud ymdrech.
Mae'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth drwy feddygfeydd meddygon teulu, sy'n gwahodd ymwelwyr i holi eu hunain a ydynt yn ofalwyr, yn un weladwy iawn. Credaf fod Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a'r gwahanol fudiadau lleol fel Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i—sydd o dan fygythiad yn anffodus yn sgil tynnu arian yn ôl gan yr awdurdod lleol, penderfyniad sy'n peri dryswch—yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith a wnânt, nid yn unig o ran codi ymwybyddiaeth ond o ran gofalu am ofalwyr. Ond rydym yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc yn y ddadl hon ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu dweud rhywbeth wrthym am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu plant a phobl ifanc i adnabod eu hunain fel gofalwyr.
Hoffwn orffen drwy atgoffa am ein grant dyfodol gofalwyr ifanc ein hunain. Roedd yn bolisi a ddatblygodd y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl siarad yn uniongyrchol ag oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr. Mae pob un ohonom yn chwilio am ffyrdd i gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag adeiladu'r dyfodol gorau iddynt eu hunain, ac yn gryno, byddai'r grant hwn yn disodli unrhyw lwfans gofalwr a gollir gan bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 amser llawn. Gwn fod yna systemau cymorth eraill, cronfeydd prifysgol a chronfeydd caledi, y grant oedolion dibynnol ar gyfer gofalwyr hŷn, ond nid oes dim y gallai oedolyn ifanc sy'n ofalwr ei gael fel hawl sy'n orfodadwy. Daw hynny â mi yn ôl at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach am y cerdyn adnabod. Rwy'n credu bod y grant dyfodol yn bolisi da, yn cefnogi dyhead, yn amlwg, i ofalwyr ifanc, ond yn hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod—ystyriwch cymaint o fenywod ifanc sy'n ofalwyr. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych heibio i'r rhosglwm glas y tro hwn ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r syniad hwn.
Yn olaf, rwyf am gyfeirio at Goleg Penybont, sydd â hyrwyddwr coleg ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr ac yn hollbwysig, maent yn gyfrifol am hyfforddi staff. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn ymwybodol, i ryw raddau, o'r lefelau cymysg o ymwybyddiaeth a geir yn y proffesiwn addysg o sut y gallant nodi pwy sy'n ofalwyr ifanc a'u cefnogi yn sgil hynny, felly rwy'n credu bod angen i Goleg Penybont ddangos sut y gellir ei wneud. Felly nid Coleg Gwent yn unig sy'n ei wneud; maent yn ei wneud yng Ngorllewin De Cymru hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Mae hon yn ddadl bwysig yn wir. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwerthfawrogi'n fawr y rôl hanfodol y mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi'r rhai y maent yn gofalu amdanynt, ac adlewyrchir hyn yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n darparu ar gyfer hawliau gwell i bob gofalwr yng Nghymru. Am y tro cyntaf, mae'r Ddeddf yn rhoi yr un hawliau i ofalwyr ag i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Nid oes angen i ofalwyr ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn i'w hanghenion gael eu hasesu a'u bod yn cael y cymorth sydd ar gael iddynt. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol bellach i hysbysu gofalwyr yn rhagweithiol ynglŷn â'u hawl i gael eu hasesu, ac ar ôl cwblhau'r asesiad hwnnw, mae'n rhaid iddynt roi trefniadau ar waith i ddiwallu'r anghenion a nodwyd a rhoi cynllun gofal statudol ar waith. Lle nad yw hyn yn digwydd, fe ddylai ddigwydd.
Mae'n adlewyrchu'r egwyddor fod gofalwyr, os cânt eu cefnogi'n effeithiol, yn darparu gwasanaeth ataliol yn eu hawl eu hunain, gan alluogi pobl sy'n eiddil, yn agored i niwed neu sydd â chyflyrau hirdymor i barhau i fyw gartref yn hirach fel aelodau o'u cymunedau lleol. Mae'r broses o weithredu'r Ddeddf yn dal ar gam cymharol gynnar, ac mae Llywodraeth Cymru drwy ei chamau gweithredu yn cydnabod yn llawn fod angen gwneud mwy i sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau. Fel y dywedwyd, mae grŵp cynghori'r Gweinidog wedi cael ei sefydlu i ddatblygu'r gwaith o weithredu'r Ddeddf yn rhagweithiol ac i oruchwylio'r tair blaenoriaeth genedlaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau gofalwyr.
Ac er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwell hawliau i ofalwyr Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu bron i £1.1 miliwn yn flynyddol i fyrddau iechyd lleol allu cydweithio â phartneriaid i gyflawni'r blaenoriaethau cenedlaethol hynny. Mae cyfran a dargedir o'r arian hwn wedi'i glustnodi'n benodol i gefnogi gofalwyr ifanc. Ac i gydnabod hynny, ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru £50 miliwn ychwanegol o gyllid i gefnogi gofalwyr ac oedolion ag anghenion gofal. Bydd yr arian ychwanegol newydd hwn yn hwb i gynnydd y gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau cenedlaethol hynny a bydd yn caniatáu i sefydliadau'r trydydd sector ymchwilio i ffyrdd o wella ansawdd a phriodoldeb cymorth seibiant i ofalwyr o bob oed yng Nghymru. Mae hyn yn hollbwysig.
Mae gofalwyr hefyd wedi'u cynnwys yng nghylch gwaith cronfa gofal integredig £60 miliwn Llywodraeth Cymru. Gellir defnyddio'r gronfa gofal integredig yn awr i ariannu gwaith arloesol sy'n cefnogi dull mwy integredig a chydweithredol ar gyfer gofalwyr a'u hanwyliaid, ac mae hynny'n gydnabyddiaeth. Felly, fel cenedl sydd â threftadaeth ddiwydiannol a'r gyfran uwch o salwch sy'n gysylltiedig ag etifeddiaeth o'r fath, gwyddom mai gan Gymru y mae'r gyfran fwyaf o ofalwyr yn y DU, mwy nag mewn unrhyw ranbarth yn Lloegr ar 12 y cant, a'r gyfran uchaf o ofalwyr hŷn ac o ofalwyr sy'n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Felly, gyda'r cynnydd yn y boblogaeth hŷn, rydym yn debygol o weld mwy o bobl hŷn mewn rolau gofalu, gyda'r disgwyl y bydd nifer y gofalwyr dros 85 oed yn dyblu yn yr 20 mlynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau gofalwyr o bob oed, ac mae am gynorthwyo gofalwyr er mwyn iddynt allu cael bywyd y tu hwnt i'r cyfrifoldebau gofalu hynny. A gwn yn fy etholaeth fy hun, sef Islwyn, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ceisio mynd i'r afael yn rhagweithiol ag anghenion brys gofalwyr drwy amrywiaeth o fesurau arloesol, gan gynnwys cyngor ar ymdrin ag argyfyngau, a chynllun cerdyn argyfwng ynghyd â'r gwasanaeth seibiant byr i ofalwyr, sy'n galluogi gofalwyr i gael mwy o amser i allu mynychu eu hapwyntiadau eu hunain ar gyfer eu hanghenion iechyd eu hunain.
Fodd bynnag, ceir cydnabyddiaeth ar draws y Siambr fod angen gwneud llawer mwy eto mewn maes mor dyngedfennol a phwysig, yn enwedig i bobl ifanc Cymru. Ac o'r herwydd, byddaf yn cefnogi Wythnos y Gofalwyr yn Islwyn, ac mae honno'n rhan o ymgyrch ragweithiol flynyddol, fel y gwyddom, i godi ymwybyddiaeth o ofalu, amlygu'r heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad a wnânt i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Gyda'r wybodaeth gywir, mae gofalu'n bosibl, ond mae'n anodd, ac os na chaiff ei gefnogi'n iawn, bydd yn anos byth os ydych yn blentyn. Felly, rwy'n achub ar y cyfle hwn i annog yr holl Aelodau sy'n bresennol i dynnu sylw at waith gofalwyr ifanc yn ystod Wythnos y Gofalwyr ym mis Mehefin ar draws eu hetholaethau a'u rhanbarthau.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, gwn y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i hybu hawliau gofalwyr ifanc, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at glywed pa gamau strategol pellach y gallwn eu cymryd yn y cyswllt hollbwysig hwn. Diolch.
Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas. Boed yn ariannol neu'n gymdeithasol, ni ellir gorbwysleisio'r cyfraniad a wneir gan ofalwyr. Nid yn unig fod mwy o bobl yn gofalu, maent hefyd yn gofalu am gyfnod hwy o amser, ac mae nifer y bobl sydd angen gofal a'r rhai sydd angen gofal am gyfnodau hwy o amser wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cydnabod i ba raddau y mae ein heconomi yn dibynnu ar ofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Pe na bai ond cyfran fach o'r bobl sy'n darparu gofal yn gallu gwneud hynny mwyach, byddai'r baich costau'n sylweddol.
I oedolion ifanc sy'n ofalwyr, mae'r ymdrech o geisio jyglo'r cyfrifoldeb am ofalu am rywun annwyl gyda'u haddysg, eu gyrfaoedd a'u perthynas â'u cyfeillion yn gallu effeithio'n barhaol ar eu dyfodol. Mae ein dadl y prynhawn yma'n ymwneud â chynorthwyo gofalwyr ifanc fel eu bod yn gallu parhau i wneud y gwaith hanfodol. Maent yn cael eu gwerthfawrogi cymaint. Rhaid inni ofalu am ofalwyr yma. Fel y dywedodd Janet yn gynharach, ceir mwy na 22,000 o ofalwyr ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru. Gall y pwysau sy'n wynebu'r bobl ifanc hyn oherwydd eu dyletswyddau gofalu effeithio'n negyddol ar eu hiechyd corfforol, iechyd meddwl, addysg a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau y prynhawn yma ar y rhwystrau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu ym myd addysg. Heb gefnogaeth, gallant wynebu anhawster i fynychu'r ysgol a gwneud cynnydd addysgol da. Mae tua un o bob 20 gofalwr ifanc yn colli ysgol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Mae eu cyrhaeddiad addysgol ar lefel TGAU gryn dipyn yn is, a hefyd mewn addysg uwch, ac maent yn fwy tebygol na'r cyfartaledd cenedlaethol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant rhwng 16 a 19 oed—sef yr hyn a elwir yn NEET mewn termau addysgol.
Mae'n gwbl annerbyniol, Ddirprwy Lywydd, fod cyfleoedd bywyd y bobl ifanc hyn yn llai, a hynny'n unig am eu bod yn gorfod gofalu am berthnasau sâl yn y rhan hon o'r byd. Os ydynt yn llwyddo i gyrraedd coleg a phrifysgol, mae mwy na'u hanner yn dweud eu bod yn wynebu anawsterau oherwydd eu rôl fel gofalwyr, ac maent yn ystyried rhoi'r gorau iddi. Mae angen i golegau a phrifysgolion wneud mwy i gydnabod a chefnogi anghenion gofalwyr ifanc. Tynnodd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr sylw at y diffyg mecanweithiau ffurfiol i adnabod neu i gyfrif gofalwyr yn yr ysgol neu mewn addysg bellach ac uwch. Ceir rhai eithriadau nodedig. Mae gan Goleg Gwent, a grybwyllwyd yn gynharach, er enghraifft, strategaeth i adnabod gofalwyr ifanc cyn gynted ag y bo modd, fel bod modd darparu gwasanaeth cymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer. Gobeithio y gall pob sefydliad yng Nghymru ddilyn eu hesiampl. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi gwneud nifer o argymhellion i gynorthwyo gofalwyr ifanc. Mae gofalu am eraill yn waith clodwiw. Ond mae 74 y cant o'r gofalwyr yng Nghymru eisoes wedi sôn eu bod yn dioddef salwch meddwl o ganlyniad i ofalu yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Yn fy sylwadau wrth gloi y prynhawn yma, hoffwn nodi mai un agwedd ar y gefnogaeth hon yw'r hawl i ofal seibiant hyblyg o safon uchel. Mae angen iddynt edrych ar ôl eu hunain. Mae edrych ar ôl aelod o'r teulu neu ffrind yn rhoi boddhad mawr ond hefyd yn hynod o heriol. Gall seibiant, hyd yn oed am ychydig ddyddiau'n unig, gynyddu lefel eich egni a'ch brwdfrydedd. Mae gwybod eich bod yn gallu dianc am seibiant yn gymhelliant mawr, yn enwedig pan fyddwch yn hyderus y bydd y person yr ydych yn gofalu amdanynt yn cael gofal da yn eich absenoldeb. Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar iechyd a lles gofalwyr ifanc. Mae gofalwyr yn gwneud mwy nag erioed i gefnogi eraill. Ein dyletswydd foesol yw sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.
Ddirprwy Lywydd, cafodd fy ngwraig strôc y llynedd. Bu ond y dim iddi beidio â dod drwyddi. Roedd yn agos iawn at farw. Gwnaeth y GIG waith bendigedig. Rwy'n gwneud ychydig bach, nid wyf yn dweud fy mod i'n gwneud llawer. Rwy'n gofalu amdani. Yn y bore, rwy'n gwneud yn siŵr ei bod yn codi o'r gwely ac rwy'n gwneud cwpanaid o de ac yn gwneud yn siŵr ei bod wedi codi yn ystod y dydd. Gall gerdded o gwmpas a gwneud popeth ond mae hi'n dal i fod â rhai problemau meddyliol ar hyn o bryd. Rwy'n rhoi nodyn bach ar y plwg, 'Gwna'n siŵr dy fod yn diffodd y gwresogydd', 'Gwna'n siŵr dy fod yn diffodd y golau'. Pethau bach felly. Gwaith gofalwr ydyw. Rwy'n teimlo boddhad. Rwyf wedi bod yn briod ers dros 36 o flynyddoedd. I anwyliaid, rydych yn teimlo pleser yn ei wneud. Ond rwy'n meddwl, pan fyddwch yn hŷn, pwy sy'n mynd i edrych ar eich ôl chi? Y math yna o beth ydyw. I'r rhai ifanc ac i eraill, mae'n waith clodwiw. Mae'n ddyletswydd foesol arnom i sicrhau bod y Siambr hon yn cydnabod yr angen i ofalwyr gael gofal yn ein diwylliant a'n cymdeithas. Rhaid inni osod esiampl i'r byd a dangos mai ni yw'r gorau yn y byd yn hyn o beth. Diolch.
A gaf fi ddweud, ar ôl Oscar, fy mod yn credu iddo grynhoi'r teimlad sydd gan ofalwyr tuag at y person y maent yn gofalu amdanynt? Mae'n weithred o gariad dwfn ond mae'n weithred anodd hefyd. Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cofio'r cyd-destun y cyflawnir y gweithgareddau hyn ynddo.
A gaf fi ddechrau gyda sylw? Dyma'r ail wythnos y mae'r Prif Weinidog wedi eistedd drwy ddadl y Ceidwadwyr. Buom yn trafod e-chwaraeon yr wythnos diwethaf, ac rydym yn trafod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yr wythnos hon. Credaf ei bod yn deg dweud nad yw Prif Weinidogion, yn draddodiadol, wedi manteisio bob amser ar y cyfle i ddysgu drwy aros i wrando ar ddadl gan y Ceidwadwyr. Ond rwy'n credu ei fod yn dangos bod y pleidiau lleiafrifol yn dod â phynciau gwirioneddol amhleidiol i'r Siambr sydd angen sylw a bod angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â'r ddadl hon.
Roeddwn am sôn am nifer o bethau sydd eisoes wedi cael eu crybwyll, ond efallai y gallwn ymhelaethu ar y sylwadau a wnaed yn awr i sôn am yr angen am weithio amlasiantaethol. Mae'r gwahanol elusennau gofalwyr yn pwysleisio hyn. Rydym wedi clywed am y diffyg cymorth weithiau i ofalwyr ifanc yn yr ysgol, ac mai eu gradd ganolrifol mewn TGAU yn aml yw D. Mae hynny'n dangos eu bod yn agos iawn at gael gradd uwch. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w ystyried yn fanwl. Ac yna, pan fyddant mynd ymlaen at addysg bellach, yn aml nid ydynt yn cael cymorth, nid ydynt bob amser yn cael yr asesiad gofalwyr y mae ganddynt hawl iddo gan yr awdurdod lleol, ac nid yw pobl yn rhoi'r darlun at ei gilydd. A dyna sydd angen i ni ei ddatrys.
Ond mae angen i'r pleidiau gwleidyddol wneud yr un peth. Un o'r rhwystrau mawr sydd gennym ar hyn o bryd yw'r modd y mae gofalwyr ifanc yn cael mynediad at addysg bellach ac addysg uwch. Gall roi diwedd ar eu hawl i'r lwfans gofalwyr os ydynt yn gwneud mwy na 21 awr o astudio. Rydym wedi clywed mai ein cynnig ni yw ceisio cael grant i gyfateb i hynny y gallem ei reoli, sef grant dyfodol gofalwyr ifanc. Byddai'n gostus iawn, ac mae'n flaenoriaeth y teimlwn yn ymrwymedig iawn iddi. Credaf fod angen inni anfon neges hefyd at Lywodraeth y DU fod angen edrych ar y ffordd y mae gofalwyr yn cael eu lwfansau amrywiol, ond yn enwedig y lwfans gofalwyr. Mae hefyd yn wir fod cyflogaeth ran-amser a hyd yn oed cyflogaeth wirfoddol, weithiau, sydd mor angenrheidiol i ofalwyr allu cael y cysylltiadau cymdeithasol hynny, yr ymdeimlad o lesiant a bywyd y tu hwnt i ofalu yn unig—mae'n bwysig tu hwnt ein bod yn cynnal hynny.
Rydym wedi clywed ychydig y prynhawn yma am bwysigrwydd iechyd a lles gofalwyr ifanc. Mae hynny mor bwysig pan ydych yn oedolyn ifanc. Rydych yn ffurfio perthynas â phobl newydd, rydych yn chwilio am gyfleoedd newydd—mae'r pethau hyn i gyd yn digwydd. Ac rwy'n meddwl y byddai pawb ohonom yn dweud bod y cyfnod hwnnw o ieuenctid, yn ein harddegau hwyr a'n 20au yn amser gwerthfawr dros ben. Nid wyf yn credu bod dim byd gwell na bod yn ifanc, a dywedaf hynny fel rhywun sydd ar fin cyrraedd ei ben-blwydd yn 57 oed. Ond wyddoch chi, nid ydych yn cael eich ieuenctid ddwywaith chwaith. Ond mae llawer o heriau hefyd, o ran eich profiad i ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth ac anodd, eich diffyg incwm cyffredinol—wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch yn cael mwy o arian ac mae'r angen i'w wario'n lleihau weithiau, ond pan fyddwch yn iau, mae'r galwadau hynny'n ddwys iawn. Felly, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol o'r materion iechyd a lles hyn ac mae angen inni gysylltu, mewn gwirionedd, â'r gwaith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, y pwysau gwirioneddol y mae angen inni ei roi ar Lywodraeth y DU o ran yr hyn y gwelwn sydd ei angen ar ein gofalwyr ifanc, a sut y gallai fod angen ystyried yn drylwyr addasiadau yn awr i rai o'r rheoliadau lles a budd-daliadau.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y gweithgor sy'n edrych ar y modd y gellir rhoi cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc yn adrodd yn ôl yn fuan iawn ac y byddwch yn ystyried ein hawgrym, ond credaf fod angen anfon neges glir o'r Cynulliad hwn fod yn rhaid i bob plaid weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion hyn, oherwydd mae gofalwyr ifanc yn gwneud gwaith aruthrol ar ein rhan a dylem fod yn ddiolchgar iawn am eu dinasyddiaeth o ansawdd uchel a'r cariad a ddangosant i'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.
Diolch i'r grŵp Torïaidd am gyflwyno'r cynnig, ac rwy'n ei gefnogi, er fy mod yn rhyfeddu bod gennym gynifer o ofalwyr ifanc yn 2019. Cyfarfûm â gofalwr 18 oed dros y penwythnos sy'n gofalu am ei mam sy'n sâl a'i chwaer anabl. Nid oes ganddi fywyd ei hun. Mae'n haeddu medal, mae'n haeddu cael cefnogaeth, ond yn fwy na hynny, mae'n haeddu ei bywyd ei hun, ac mae'r awdurdodau'n ei hamddifadu o hynny. Mae'r Llywodraeth wedi siarad yma ynglŷn â chefnogi mentrau yn erbyn caethwasiaeth fodern, ond wedyn maent yn caniatáu i hyn ddigwydd i filoedd o blant ein gwlad. Pe bai'r ferch y cyfarfûm â hi y diwrnod o'r blaen wedi cael ei masnachu yma a'i chadw mewn caethwasiaeth ddomestig, byddai'n briodol ceisio ei hachub, felly pam nad yw hi a'i theulu'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen i'w rhyddhau hi a miloedd o bobl eraill?
Dywed Llafur mai hwy yw plaid y GIG a'r rhai sy'n agored i niwed, ond eto mae gennym system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cynyddu anghydraddoldeb. Ni fydd plant teuluoedd cyfoethog yn cael eu llyffetheirio yn eu haddysg neu eu gyrfa drwy orfod gofalu am aelod o'r teulu. Bydd eu cyfleoedd mewn bywyd yn parhau i gynyddu, tra bydd y plentyn o deulu tlawd yn cael ei ddal yn ôl—nid gan y ffaith bod ganddynt aelod o'r teulu sydd angen gofal, ond gan y wladwriaeth sy'n eu hamddifadu o'r cymorth y gallai ei ddarparu pe bai'n dymuno gwneud hynny, y cymorth y mae yno i'w ddarparu mewn gwirionedd. Dyna beth oedd ein system les i fod yno i'w wneud, fel na fyddai plant yn gweithio ac yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb am ofalu am berthynas sâl.
Mae gofalwyr ifanc yn gweithio am ddim, ac nid ydynt yn cael yr isafswm cyflog hyd yn oed. Nawr, mae rhai pobl yn amddiffyn y sefyllfa drwy ddweud bod pobl ifanc yn awyddus i helpu i ofalu am eu hanwyliaid. Mae hynny'n wir iawn ac mae'n gwbl ganmoladwy ac yn hyfryd fod plant a phobl ifanc eisiau helpu aelodau o'u teulu sy'n sâl, ond nid yw'r ffaith eu bod am wneud hynny'n golygu y dylem adael iddynt ei wneud—y dylem adael iddynt aberthu eu bywydau, eu bywydau ifanc, i wneud gwaith y dylai'r system gofal cymdeithasol fod yn ei wneud.
Mae digonedd o bethau nad ydym yn caniatáu i bobl ifanc eu gwneud er eu diogelwch eu hunain, ac rydym yn cyfyngu ar eu hoedran i'w rhwystro rhag eu gwneud. Yn 2019 mae'n hurt fod gennym blant sy'n gorfod rhoi gofal. Rydym yn genedl fodern; mae cymaint wedi cael ei ddarganfod yn ystod y 50 mlynedd diwethaf ac mae bywyd wedi ei weddnewid. Gallwn wella pob math o afiechydon na ellid eu gwella 50 o flynyddoedd yn ôl, pob math o ddatblygiadau technolegol, ac eto mae gennym blant o hyd sy'n cael eu gorfodi i ofalu am nad yw'r wladwriaeth yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt.
Felly, rwy'n gefnogol iawn i gynnig y Torïaid, ond gwnaf hynny â chalon drom, a chan resynu'n enfawr fod y cynnig hwn yn angenrheidiol. Felly, byddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ond nid y gwelliant gan Lafur, oherwydd mae'n nodweddiadol o Lywodraeth sy'n cymryd ei dinasyddion yn ganiataol, gan ochri gyda chynghorwyr Llafur a swyddogion cyngor ar draul y bobl y maent i fod i'w gwasanaethu. Nid yw'r Llywodraeth hon yn gorfodi cynghorau lleol i wneud llawer. Y peth lleiaf y gallant ei wneud yw mynnu eu bod yn gweithredu cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc. Dylai hyd yn oed y Llywodraeth hon allu gwneud hynny, bid siŵr. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i oedolion ifanc sy'n ofalwyr er mwyn sicrhau bod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn cael pob cyfle i wireddu eu potensial mewn bywyd.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn. Mae llawer o gytundeb ar y cyfan yn y Siambr, ac mae'r Llywodraeth yn gefnogol iawn i ysbryd y cynnig. Fel y dywedodd Suzy Davies, mae hon yn ddadl radlon, ac rwy'n meddwl bod disgrifiad Oscar o rôl gofalwr wedi crisialu'r cyfan—mae'n waith clodwiw.
Cymru sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr o dan 18 oed o bob un o wledydd y DU. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 29,155 o bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru yn gofalu am eraill am o leiaf awr yr wythnos. Ac wrth gwrs, ni fydd angen cymorth ar bob un o'r rhain, ond mae angen i'r rheini sydd â chyfrifoldebau sylweddol gael eu cydnabod yn llawer gwell. Yn ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel y crybwyllodd siaradwyr eraill heddiw, cyflwynasom hawliau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol hyrwyddo lles gofalwyr sydd angen cymorth.
Mae'r cynnig yn tynnu sylw'n briodol at bryderon ynghylch lles oedolion ifanc a'u gobaith o gyrraedd eu potensial llawn. Felly, gadewch i mi fynd i'r afael â'r hyn y mae'r cynnig yn ei ofyn gan Lywodraeth Cymru fesul un. Mae'n gofyn am nodi pwy sy'n ofalwyr yn gynnar, cymorth hygyrch ac atal ymddieithrio o addysg. Yng Nghymru, nid ydym yn casglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc ar hyn o bryd, felly nid yw'n bosibl dweud a yw cyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc yn sylweddol is na'u cyfoedion, fel y mae'r cynnig yn awgrymu. Ond wedi dweud hynny, rydym yn llwyr gydnabod yr angen i nodi a chynorthwyo gofalwyr ifanc mewn addysg i gyflawni eu canlyniadau gorau. Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar helpu ysgolion i adnabod a rhoi cymorth gwell i'w gofalwyr ifanc.
Yn yr un modd, nid ydym yn cydnabod yr awgrym fod gofalwyr ifanc dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, fel y dywed y cynnig, a chredaf efallai mai ffigurau o Loegr yw'r rhain. Yng Nghymru mae gennym ddull llwyddiannus o leihau nifer y plant ifanc sy'n NEET drwy ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, ac ers ei lansio, mae nifer y rhai sy'n gadael yr ysgol nad ydynt yn mynd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru wedi mwy na haneru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yn llwyr fod gofalwyr ifanc yn wynebu mwy o risg o lawer o fod yn NEET, ac rydym yn awyddus iawn i'w cefnogi ac osgoi gweld hyn yn digwydd.
Mae'r cynnig hefyd yn sôn am gyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith, a chyfeiriais at welliant y Llywodraeth. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r model cenedlaethol newydd ar gyfer cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac rwy'n gobeithio cyhoeddi y byddant yn cael eu cyflwyno'n raddol cyn diwedd y flwyddyn. Yr wythnos diwethaf, anfonais lythyr at holl arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn â'r cerdyn, ac rwyf eisoes wedi cael rhai ymatebion cadarnhaol iawn. Rydym yn disgwyl y byddant yn cymryd rhan lawn yn ein cynlluniau. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu bod angen i ni osod dyletswydd. Ni ellir deddfu ar gyfer y gwaith pwysig o ddatblygu manylion y dull o weithredu'r cerdyn adnabod. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn. Rydych newydd ddweud nad oes tystiolaeth fod angen inni osod dyletswydd, ac fe dderbyniaf hynny ar ei olwg. A oes gennych dystiolaeth—? Beth yw'r dystiolaeth y bydd pob cyngor yn ddiwahân yn mabwysiadu pa fersiwn bynnag o'r cerdyn adnabod y byddwch yn ei gyflwyno?
Y wybodaeth sydd gennym yw y bydd pob cyngor yn ei fabwysiadu, ac y bydd pob cyngor eisiau ei fabwysiadu. Ac rydym yn cychwyn o'r rhagdybiaeth honno, oherwydd credaf ei bod yn well inni weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae gennyf bob ffydd y byddant yn gwneud hynny. A beth bynnag, ni ellir deddfu ar gyfer y gwaith pwysig o ddatblygu manylion y modd y caiff y cerdyn adnabod ei weithredu. I roi un enghraifft i chi, dywedodd un gofalwr ifanc wrthym yn ddiweddar ei fod yn mynd â'i frawd anabl i'r pwll nofio a'i fod wedi cael cerydd am ei fod o'r oedran anghywir ar gyfer defnyddio'r sleidiau. Pe bai ganddo fand garddwrn yn hytrach na cherdyn gallai ddynodi ei angen i hebrwng ei frawd. Nid yw'n bosibl i ddyletswydd gyfreithiol allu ymdrin â manylion o'r fath. Pe baem yn oedi cyn cyflwyno'r cerdyn adnabod a gynlluniwyd er mwyn cyflwyno deddfwriaeth, credaf y byddai gofalwyr ifanc yn teimlo eu bod wedi cael cam mawr, oherwydd bu cryn dipyn o ymgysylltu â gofalwyr ifanc ynglŷn â'r cerdyn adnabod. Ond os ceir tystiolaeth ar unrhyw adeg yn y dyfodol fod angen cael deddfwriaeth, hoffwn ddweud y byddwn yn sicr yn adolygu'r penderfyniad a wnaethom heddiw. Ond ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw reswm dros gael deddfwriaeth.
Mae'r cynnig hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo lles gofalwyr. Fel y Gweinidog, byddaf yn sicrhau ein bod yn monitro effeithiolrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym wedi cynorthwyo'r trydydd sector i wella ymwybyddiaeth drwy ddyfarnu cyllid o dros £1.7 miliwn o'n cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy i Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac rydym yn parhau i ariannu'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc.
Mae'r cynnig hefyd yn gofyn am gymorth i ofalwyr ifanc gael mynediad at addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gynllun teithio rhatach. Felly, wrth inni edrych ar ddyfodol y cynllun cerdyn disgownt presennol i bobl ifanc a'r cynlluniau ehangach sydd gennym ar gyfer tocynnau teithio a thocynnau integredig ar draws y rhwydwaith, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar anghenion gofalwyr ifanc wrth gwrs.
Wedyn, i ystyried gwelliant Rhun, cytunwn fod gofal seibiant yn bwysig iawn, fel y gall gofalwyr ifanc gael seibiant oddi wrth ofalu, a gobeithiwn y byddwn yn edrych ar ofal seibiant mewn llawer o ffyrdd gwahanol i'r hyn a wnaethom yn y gorffennol, ond mae'r Llywodraeth yn sicr yn cefnogi'r gwelliant hwnnw.
Felly, hoffwn ailadrodd bod hon yn ddadl bwysig iawn. Ni ddylai neb yn ein cymuned gael ei adael ar ôl, ac mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom. Credaf fod bron bawb a siaradodd heddiw wedi ein hysbrydoli â'r hyn a ddywedasant am ofalwyr ifanc, oherwydd maent yn arwain ac yn dangos inni sut i ofalu am ein teuluoedd a'n cymunedau. Felly, rwy'n eu canmol, ac rwy'n falch iawn o ddatgan fy nghefnogaeth i Wythnos y Gofalwyr, fel y mae eraill wedi'i wneud, yn ail wythnos mis Mehefin, ac rydym am ddathlu pob gofalwr yma yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddasom ein tair blaenoriaeth genedlaethol: cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu—mae mor bwysig i oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael eu bywydau eu hunain; adnabod a chydnabod gofalwyr, a gobeithiaf y bydd y cerdyn adnabod i ofalwyr yn helpu i sicrhau hynny; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd ar gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud. Gwn na allwn laesu dwylo, ac rwy'n credu bod y ddadl heddiw wedi ein helpu i sylweddoli beth sy'n rhaid i ni ei wneud. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Agorodd Gweinidog yr wrthblaid, Janet Finch-Saunders, y ddadl drwy dynnu sylw at yr angen i gydnabod a chefnogi oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru, i gydnabod adroddiadau annibynnol, a chydnabod argymhellion blaengar y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i ofalwyr ifanc yng Nghymru. Fel y dywedodd, ni ddylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr fod o dan anfantais, cael eu stigmateiddio neu ddioddef bwlio. Dywedodd fod dros 21,000 o'r oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru rhwng 14 a 25 oed, ac yn darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau. Mewn gwirionedd, cyfeiriodd y Gweinidog at ffigur uwch o 29,000 sy'n darparu gofal am awr neu fwy.
Yn ôl yr ymchwil 'Time to be Heard Wales' gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, gwelwyd bod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn colli neu'n colli rhan o 48 o ddyddiau ysgol y flwyddyn ar gyfartaledd oherwydd eu rôl fel gofalwyr. Roeddent bedair gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg neu'r brifysgol na myfyrwyr nad oeddent yn gofalu. Anaml y byddant yn cael yr asesiad o'u hanghenion y mae ganddynt hawl iddo, ac maent yn profi cyfraddau uwch o fwlio.
Cynigiodd Dai Lloyd welliant a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofal seibiant i ofalwyr ifanc, a byddwn yn cefnogi hwnnw wrth gwrs. Mynegodd Suzy Davies ei siom ynghylch gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru. Fel y dywedodd, nid oes yn rhaid iddynt ddisgwyl i awdurdodau lleol gyflwyno cardiau adnabod ledled Cymru; gallant fynnu. Gallant wneud rhywbeth ond maent yn dewis peidio. Fel y dywedodd Rhianon Passmore, pan nad yw pethau a ddylai ddigwydd o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn digwydd, fe ddylent wneud hynny. Cyfeiriodd Mohammad Asghar at y cyfraniad a wneir gan ofalwyr ifanc, ac ni ellir gorbwysleisio hynny. Soniodd am ddarparu mwy o ofal a gofalu am gyfnod hwy o amser. Ni ddylid lleihau cyfleoedd bywyd gofalwyr ifanc, a'n dyletswydd foesol yw gofalu am ein gofalwyr ifanc. Fel y dywedodd David Melding, un o'r rhwystrau mawr yw'r modd y mae gofalwyr ifanc yn cael mynediad at addysg bellach ac uwch. Fel y dywedodd Michelle Brown, mae gofalwyr ifanc yn haeddu eu bywyd eu hunain. Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, y dylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael pob cyfle i gyflawni eu potensial mewn bywyd, ac fel y dywedodd, ni ddylai neb yn ein cymunedau gael ei adael ar ôl.
Wel, mae saith mlynedd wedi mynd heibio bellach ers i Sir y Fflint ddod yn sir gyntaf yng Nghymru i lansio cynllun cardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc neu blant mewn gofal i'w helpu i egluro eu sefyllfa a sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth briodol a mynediad cyflym at y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt. Datblygwyd hyn gan ofalwyr ifanc a oedd naill ai'n rhan o wasanaeth gofalwyr ifanc Barnardo's Cymru yn Sir y Fflint neu a gefnogwyd gan wasanaethau cymdeithasol plant yno. Fel y dywedais ar y pryd mewn cyfarfod yn y Senedd saith mlynedd yn ôl, dyma'r cynllun cyntaf yng Nghymru i helpu'r bobl ifanc hyn i gael y gydnabyddiaeth a'r mynediad prydlon at wasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dywedodd y comisiynydd plant wrthym ei fod yn gobeithio y byddai awdurdodau lleol eraill yn ymateb i hyn a'i fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cerdyn adnabod cenedlaethol ar y sail hon. Saith mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'n iawn nad yw hyn wedi digwydd. Gobeithio y byddwch yn gwrando ar ein hargymhelliad.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Nac oes.