– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 4 Mehefin 2019.
Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sef y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. Roedd y pryderon sylweddol ar y pryd yn ymwneud ag arwain a llywodraethu, gwasanaethau mamolaeth, iechyd meddwl, ailgysylltu â'r gwasanaethau cyhoeddus a gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
Gwnaed cynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn. Cafodd gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau eu his-gyfeirio ac nid ydyn nhw bellach yn destun mesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd wedi bodloni nifer o'r disgwyliadau a nodwyd yn y fframwaith gwella mesurau arbennig sydd i'w gyflawni erbyn mis Ebrill eleni. Bu gwelliannau o ran prosesau llywodraethu ac ansawdd, arweinyddiaeth y bwrdd, gwasanaethau iechyd meddwl, ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth, a sicrhau oriau cynaliadwy mewn ymarfer cyffredinol.
Mae David Jenkins, yr ymgynghorydd annibynnol i'r bwrdd, wedi rhoi sicrwydd bod gwaith y bwrdd yn goruchwylio ac yn craffu ar y ddarpariaeth a'r perfformiad wedi gwella'n sylweddol. Dywed hefyd fod y bwrdd bellach yn gosod disgwyliadau clir ac yn herio'n adeiladol. Mae'r cadeirydd wedi dod â chymhelliant newydd gyda chyfranogiad mwy gweithredol ac adeiladol mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth.
Mae gwella ansawdd wedi bod yn sbardun allweddol i'r bwrdd iechyd dan arweiniad clinigol y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth. Mae data sy'n ymwneud â phryderon bellach ar gael ar gyfer wardiau unigol yn dilyn cyflwyno'r dangosfwrdd niwed ac uwchgynadleddau niwed i hybu dysgu a rennir. Bu gwelliannau sylweddol hefyd yng nghyfraddau heintiau, gan gynnwys gostyngiad o fwy na 50 y cant mewn cyfraddau MRSA.
Roeddwn yn falch o weld bod adroddiadau diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar iechyd meddwl, ynghyd ag adborth gan Emrys Elias, y cynghorydd annibynnol ar wasanaethau iechyd meddwl, wedi rhoi sicrwydd annibynnol bod gwelliannau wedi'u gwneud i ansawdd y gofal a ddarperir, i ymrwymiad y staff, ac i fynediad i gleifion.
Fel pob bwrdd iechyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio â phartneriaid drwy glystyrau gofal sylfaenol lleol i weddnewid gwasanaethau lleol. Mae'r bwrdd iechyd yn gwneud yn dda gyda llai o ymddiswyddiadau mewn practisau meddygon teulu, practisau meddygon teulu a reolir yn dychwelyd at gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac mae pob swydd dan hyfforddiant i feddygon teulu yn y gogledd yn llawn am y tro cyntaf.
Canfuwyd o'r trosolwg mesurau arbennig, fodd bynnag, bod pryderon eraill drwy'r system gyfan o ran cyflawni'r cynnydd sydd ei angen ym maes cyllid, cynllunio a pherfformiad amser aros. Nid yw'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith yn y meysydd hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn wynebu her ariannol sylweddol, ond mae cyfleoedd hefyd i wella ei sefyllfa ariannol. Cefnogwyd hyn gan asesiadau lleol o gyfleoedd ariannol a meincnodi. Yn 2013, canfuwyd o waith meincnodi gan Deloitte bod modd gwneud arbedion effeithlonrwydd o rhwng £85,000,000 a £125,000,000. Amcangyfrifwyd o waith meincnodi mewnol pellach yn 2017 ei bod hi'n bosib arbed mwy fyth. Nid yw'n dderbyniol o gwbl na wnaed fawr ddim cynnydd, os o gwbl, o ran manteisio ar y cyfleoedd hyn.
Er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol, rwyf wedi cytuno i roi cymorth i PricewaterhouseCoopers weithio gyda'r bwrdd iechyd yn ystod chwarter cyntaf eleni i wella'r ffordd y mae'n cynllunio ac yn gweithio i sicrhau gwelliant ariannol cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan y bwrdd gynllun mwy cadarn ar gyfer 2019-20 a sail ar gyfer cynllunio ariannol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd yn cydnabod yr angen am arbenigedd ychwanegol o ran newid, a hynny o safon uchel, ac mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn.
Bydd llwyddiant y bwrdd iechyd yn y dyfodol y tu hwnt i fesurau arbennig wrth ddarparu gwasanaethau amserol o ansawdd uchel o fewn yr adnoddau sydd ar gael yn dibynnu ar ei allu i ddatblygu strategaeth glinigol gynaliadwy. Mae angen strategaeth glir i ategu gweledigaeth ehangach y bwrdd i ddarparu gofal yn agosach at y cartref gan ganolbwyntio mwy ar wella iechyd a lles y boblogaeth. Dyma hefyd yw barn glir Swyddfa Archwilio Cymru. Heb strategaeth glinigol briodol, bydd y bwrdd yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael yn gynaliadwy â'i berfformiad gwael o ran gofal wedi'i gynllunio a heb ei drefnu. Mae hefyd yn debygol o barhau'n orddibynnol ar staff locwm ac asiantaeth wrth geisio cynnal gwasanaethau, ac mae ansawdd gwasanaeth cysylltiedig a goblygiadau cost yn gysylltiedig â hynny.
Wrth i'r strategaeth gwasanaethau clinigol gael ei datblygu, byddaf yn darparu cymorth mwy penodol er mwyn sicrhau cynnydd mewn amseroedd aros, yn enwedig ym maes orthopedeg, wroleg, endosgopi a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed. Er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn gwasanaethau orthopedig, rwyf wedi gofyn i brif weithredwr y GIG ymyrryd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd. Rhoddir cymorth i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhyrysgerbydol cymunedol, i gynyddu nifer yr ymgynghorwyr orthopedig gyda chwe swydd arall, ac i gwblhau'r broses ddylunio a chaffael cyfalaf ar gyfer y cynlluniau cyfalaf yn y tri phrif ysbyty.
Mae'r arian rheolaidd ychwanegol a gyhoeddais fis Gorffennaf diwethaf wedi cefnogi mwy o gapasiti, gallu a chydnerthedd yn y tri phrif ysbyty. Disgwyliaf i'r cylchoedd gwella 90 diwrnod mewn gofal heb ei drefnu barhau i wella llif cleifion a dechrau dangos effaith gadarnhaol barhaus ar dargedau eraill gofal heb ei drefnu.
Disgwyliaf weld gweithredu a chynnydd sylweddol o ran y pryderon sy'n weddill er mwyn sicrhau pobl yn y gogledd bod y pwyslais yn parhau ar wneud y gwelliannau y mae eu hangen y tu hwnt i fesurau arbennig.
Mae'r datganiad hwn yn sioc i mi, mewn gwirionedd. Pan ddarllenwch ef, pe bai hwn yn fwrdd iechyd a oedd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig nawr, neu a oedd wedi bod mewn mesurau arbennig am chwech neu wyth mis, gallwn dderbyn llawer o'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ei fod yn dal i fod yn waith sy'n mynd rhagddo, ond rydym ni'n sôn am bedair blynedd hir.
Roedd gennyf i restr fach neis o bethau yr oeddwn yn mynd i ofyn i chi ynglŷn â'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud, neu'r hyn y dylech chi fod yn ei wneud ym mwrdd Betsi Cadwaladr, ond neidiodd un sylw cwbl frawychus allan o'ch datganiad: 'heb strategaeth glinigol briodol'. Byddwn i'n credu mai dyna'n union yw gwaith craidd bwrdd iechyd: bod â strategaeth glinigol sy'n darparu ar gyfer ei gleifion, sy'n cyflawni ar gyfer ei ardaloedd, sy'n galluogi ei staff i wneud y gwaith y maen nhw wedi eu hyfforddi i'w wneud ac yn dymuno'i wneud. I chi sefyll yma, Gweinidog, ar ôl pedair blynedd a dweud nad oes gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr strategaeth glinigol gadarn a chytûn o hyd, mae'n wirioneddol frawychus. Ac, felly, nid wyf yn synnu nad yw'r llu o welliannau eraill y mae'r bwrdd iechyd hwn yn ceisio eu gweithredu ac sydd angen eu gweithredu wedi cael eu gweithredu, oherwydd os nad oes gennych chi gynllun, nid ydych chi'n gwybod i ble'r ydych chi'n mynd, nid ydych chi'n gwybod o ble'r ydych chi wedi dod ac, yn anad dim, nid ydych chi'n gwybod a ydych chi wedi cyflawni'r nodau yr oeddech chi wedi'u bwriadu eu cyflawni. Felly, mae hyn yn gwbl frawychus a hoffwn gael llawer mwy o fanylion gennych chi am y strategaeth gwasanaethau clinigol yma, ynglŷn â phwy sy'n mynd i'w rhoi at ei gilydd, pryd fyddech yn gobeithio y caiff ei gweithredu mewn gwirionedd—ac rwyf yn golygu mewn gwirionedd—nid yr amserlenni, a sut ydych chi'n mynd i sicrhau ei bod hi'n strategaeth glinigol sy'n addas i bobl y gogledd.
Y sylw arall rydych chi'n ei wneud yw, o'r diwedd—ac rwyf wedi sôn am hyn wrthych chi, a gallwn edrych ar y cofnod fel eich bod yn gwybod ei fod yno—rwyf wedi sôn wrthych chi lawer, lawer gwaith fod trawsnewid yn sgìl, nid gwyddoniaeth ydyw, nid celfyddyd ydyw, mae'n sgìl rheoli absoliwt, ac i wir drawsnewid rhywbeth sydd mewn trafferthion, fel y sefydliad hwn, mae angen bobl newydd, ac rwyf wedi gofyn ichi dro ar ôl tro: pryd ydych chi'n mynd i gael pobl newydd? Rwyf yn falch o glywed eich bod bellach yn bwriadu cyflwyno sefydliad allanol i helpu'r bwrdd iechyd hwn, ond, unwaith eto, mae'n bedair blynedd yn rhy hwyr ac, a bod yn blwmp ac yn blaen, byddwn i wedi credu y byddai ychydig bach o wyleidd-dra ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch y sefydliad cythryblus hwn wedi bod yn fuddiol iawn.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau ychwanegol cyflym iawn i'w gofyn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yr haf diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi fframwaith gwella mesurau arbennig a oedd yn nodi cerrig milltir i'r bwrdd eu cyrraedd erbyn mis Medi 2019. Nawr, a ydych chi'n wirioneddol ffyddiog bod y rhain wedi'u cyflawni, neu eu bod wedi cyrraedd y camau olaf, neu a oes rhaid inni aros am y strategaeth gwasanaethau clinigol yma? Pa gynnydd mae'r bwrdd wedi'i wneud o ran gweithredu adolygiadau Ockenden a'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol y llynedd, a pha mor ffyddiog ydych chi fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwella, oherwydd rwy'n sylwi bod eich datganiad yn sôn am CAMHS, ond nid yw'n sôn mewn gwirionedd am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion? Rydych chi wedi sôn am brofiadau GIG Lloegr gydag ymddiriedolaethau mewn mesurau arbennig o'r blaen—pa arferion gorau ydych chi wedi ystyried eu cyflwyno i helpu i ddatblygu'r ymddiriedolaeth hon?
Ac, yn olaf, mae gennyf lawer o gwestiynau, ond rwy'n ymwybodol iawn bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig yr wythnos diwethaf i sôn am bedwaredd flwyddyn Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yfory—felly nid wyf yn synnu am wn i, fod y datganiad hwn wedi ymddangos yn hollol annisgwyl—ond, unwaith eto, yn eich datganiad, rydych chi'n sôn eich bod wedi atal colledion o ran meddygon teulu. Ond gadewch i ni fod yn glir iawn: prin iawn yw'r meddygon teulu sydd bellach ar ôl yn y gogledd. Beth ydych chi'n ei gredu y mae'r polisi 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ei gyflawni yno? A ydych chi'n credu ei fod yn ateb y galw hwnnw, yn enwedig gan fod gormod o geisiadau am leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu erbyn hyn? Ac a ydych chi'n credu, o gofio bod gennym ni'r fath brinder o feddygon teulu—mae prinder gwirioneddol meddygon teulu yn y gogledd—ac a ydych chi'n ffyddiog y bydd gofal y tu allan i oriau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn addas i'r diben yn y blynyddoedd i ddod? Cadwaf tan brynhawn yfory weddill y sylwadau sydd gennyf ar y datganiad hwn ac ynglŷn â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gyffredinol ac ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r bwrdd iechyd hwn sy'n perfformio mor wael.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Mae'n dda eich gweld yn ôl yn y Siambr, Angela; rydym ni wedi gweld eich colli chi. Dylwn i dynnu sylw at y ffaith—ac ni fuoch chi yma ers tro, ac rwy'n falch iawn o'ch gweld yn ôl—mae'r ffaith y byddwn i'n gwneud datganiad heddiw wedi bod yn y datganiad busnes ers rhai wythnosau; nid yw wedi cael ei gynhyrchu fel ymgais strategol i geisio tanseilio dadl yfory, ac mae'n gwbl briodol i'r Llywodraeth wneud datganiad yn ystod wythnos pedwaredd flwyddyn y bwrdd iechyd hwn yn cael ei roi mewn mesurau arbennig. Mae'n gyfnod o amser anarferol. Roedd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Medway yn Lloegr mewn mesurau arbennig am ychydig llai na phedair blynedd, roedd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Barts yn Lloegr mewn mesurau arbennig am ychydig dros bedair blynedd ar sail ansawdd ac mae'n dal i fod mewn mesurau arbennig am resymau ariannol. Felly, mae'n anarferol yn y DU, ac nid ydym ni erioed wedi ceisio cuddio rhag y ffaith honno. Rwyf wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n dweud eto ar y dechrau, cyn ymdrin â'r sylwadau a wnaethoch chi—i ddod allan o fesurau arbennig, mae'r Bwrdd Iechyd yn gorfod dangos nid yn unig y cynnydd, ond dangos rhywfaint o ffydd yn ei allu i barhau â'r cynnydd hwnnw a pharhau i wella. Ac mae'r fframwaith yr wyf wedi'i nodi o'r blaen wedi'i gynllunio i ddangos yn glir ar ba feysydd y mae angen gwelliant, ac i ddangos cynnydd gwirioneddol a chynaliadwy. Ond mae annibyniaeth y cyngor a gaf i cyn i mi orfod gwneud dewis wedyn—nid dewis rhywun arall mohono; fy newis i ydyw o hyd—mae'n dod o'r broses deirochrog honno sy'n cynnwys Prif Weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae'r sylwadau yr wyf wedi'u gwneud ar y cynnydd a fu yn dod o'r ffynonellau annibynnol o amgylch y bwrdd, nid y bwrdd yn marcio ei waith cartref ei hun. Felly, mae'r sylwadau rydych chi'n eu gwneud am wasanaethau iechyd meddwl a'r gwasanaeth y tu allan i oriau—nid yw'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn destun mesurau arbennig bellach oherwydd y cyngor a gawsom ni ynghylch y gwelliant parhaus sydd wedi'i wneud. Yn wir, mae'r sylwadau a wneuthum yn fy natganiad, nid yn unig am CAMHS ond am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion—eto mae hyn yn deillio o'r adborth gan gynghrair Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a hefyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a nodais hynny yn fy natganiad hefyd.
O ran eich sylw ehangach ynghylch pryd y byddwn yn gweld y cynnydd, wel, mewn gwirionedd ni allaf ddweud wrthych chi yn awr beth yw sefyllfa'r bwrdd, gan fy mod yn aros tan dymor yr hydref 2019 i weld faint o gynnydd a wnaed o safbwynt y fframwaith. Dyna a ddywedais i—y byddwn i'n dyfarnu ar y gwaith y maen nhw wedi'i wneud, ond, yn amlwg, bydd y cynnydd a wnaethant yn ystod y cyfnod hwnnw'n cael ei ystyried pan gynhelir y cyfarfod uwch gyfeirio teirochrog yn ystod ei amserlen arferol dros yr haf.
Nawr, pan ddaw'n fater o arweinyddiaeth, bu newid sylweddol yn y tîm gweithredol, ac yn wir yn aelodau'r bwrdd annibynnol, ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi mesurau arbennig. Mae'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn wahanol, ac rwy'n credu bod chwe aelod annibynnol gwahanol ac wyth aelod gweithredol gwahanol. Felly, mae wedi bod yn drawsnewid go iawn. Rydym ni bellach wedi gweld bod y cyfarwyddwr cyllid wedi gadael y sefydliad. Rydym ni'n recriwtio cyfarwyddwr meddygol newydd, ac mae honno'n swydd allweddol, mewn gwirionedd, y gallu i ymdrin â'r strategaeth gwasanaethau clinigol. Oherwydd, mewn gwirionedd, yn y gorllewin, yr hyn a welsom ni yw nad yw cael strategaeth yn rhywbeth a wneir mewn ffordd gyflym a rhwydd—mae'n rhaid i'r staff a'r cyhoedd eich cefnogi chi, a hyd yn oed wedyn, gyda llawer o fuddsoddiad ac amser i wneud hynny, mae'n rhywbeth sy'n parhau i fod yn ddadleuol, pan fydd gan bobl farn bob amser ynghylch a ydyn nhw eisiau gweld hynny'n digwydd, oherwydd bod gofyn ichi edrych ar y ffordd yr ydych chi'n darparu gwasanaethau nawr a'r ffordd yr ydych chi eisiau darparu gwasanaethau yn y dyfodol, ac mae hynny'n gofyn am newid a diwygio. Ond heb hynny, dim ond o flwyddyn i flwyddyn y bydd y bwrdd yn gallu parhau, felly mae angen iddyn nhw wneud cynnydd tuag at nod tymor hwy hynny. Ond o ran y cynnydd y mae angen iddyn nhw ei wneud nawr—o ran newid, rydym ni'n gobeithio cael pobl newydd. Dyna'r hyn a nodais yn fy natganiad. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi datgan ei farn yn glir, ac, yn wir, mae'n gyd-ddigwyddiad ffodus o ran y sefyllfa y mae'r Llywodraeth a'r Bwrdd Iechyd eisoes ynddi. Roedd y cadeirydd wedi cydnabod hynny eisoes. Cafwyd sgyrsiau â'r Llywodraeth ynghylch gwella'r swyddogaeth newid, cael cefnogaeth cynghorwyr allanol i wneud hynny, ac mae argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ategu'r angen i wneud hynny.
Roedd eich sylw olaf yn ymwneud â meddygon teulu yn y gogledd. Bydd gennyf i fwy i'w ddweud yn gyffredinol am feddygon teulu a'n gallu ni i hyfforddi a recriwtio meddygon teulu ym mhob rhan o Gymru, ond mae'r darlun yn llawer mwy cadarnhaol yn y gogledd. Rydym ni nid yn unig wedi llenwi pob un o'r tri chynllun hyfforddi yn y gogledd—rydym ni wedi gorlenwi dau o'r rheini, ac rwyf wedi cyhoeddi'n gynharach eleni bod modd cael 24 o leoedd ychwanegol ledled Cymru. Rwy'n bwriadu ail-bwysleisio ein huchelgeisiau a'n gallu i hyfforddi meddygon teulu yma yng Nghymru, yn dilyn cyngor a gawsom ni gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ond rwy'n gwneud datganiad ar hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn toriad yr haf.
Fe hoffwn i hefyd ddechrau, fel y mae'r Gweinidog wedi'i wneud, drwy groesawu Angela Burns yn ôl i'r Siambr. Rydym ni'n sicr wedi colli ei chyfraniad yma ac ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n braf eich gweld yn edrych mor dda.
Dechreuaf drwy ategu llawer o'r hyn a ddywedodd Angela yn ei sylwadau agoriadol; does dim angen i mi eu hailadrodd nhw. Ond rwyf yn synnu braidd fod y Gweinidog, yn ei ymateb iddi, yn cyfeirio at enghreifftiau o sefydliadau iechyd yn Lloegr sy'n parhau i fod mewn mesurau arbennig am amser hir iawn. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gennym ni system wahanol iawn yma yng Nghymru, system y credaf y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, mae'n debyg, y dylai fod yn well, a system sy'n sicr yn rhoi llawer mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros sefydliadau iechyd yng Nghymru na'r hyn sydd gan Lywodraeth Lloegr dros sefydliadau yn Lloegr. Felly, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog nad yw'n fawr o gysur i mi, mae arnaf ofn, iddo ddweud wrthyf fod sefydliadau yn Lloegr yn gwneud yr un mor wael o dan Weinidogion Ceidwadol yn eu hymgais i wella, ag y mae Bwrdd Betsi Cadwaladr yn ei wneud neu'n peidio â'i wneud oddi tano ef.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle y bydd gennym ni i drafod y materion hyn yn fwy manwl o dan y cynnig y mae'r Ceidwadwyr wedi ei gyflwyno ar gyfer yfory. Un neu ddau beth yr hoffwn i holi'r Gweinidog yn eu cylch—ni fyddwn o reidrwydd yn disgwyl iddo gael y ffeithiau ar flaenau ei fysedd heddiw, mewn datganiad eithaf cyffredinol, ond byddwn yn ddiolchgar pe bai modd efallai, cyfeirio'n ôl at rai o'r pwyntiau hynny pan fydd yn ymateb yn nadl y Ceidwadwyr yfory.
Rwy'n mynd i strwythuro fy nghwestiynau mor gryno ag y gallaf, Dirprwy Lywydd, gan fy mod yn ymwybodol ein bod wedi cael prynhawn hir yn barod, o gwmpas y pum nod, y pum mater, a roddodd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, a'r cyntaf o'r rheini yw llywodraethu ac arwain. Tybed a yw'r Gweinidog yr un mor bryderus â minnau bod materion ariannol, hyd yma, yn dal mewn sefyllfa mor ddifrifol ac, fe ddywedwn i, yn drychinebus yn y bwrdd. Clywaf yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am yr hyn y mae ef a'i swyddogion yn ei wneud i geisio gwella hyn, ond, bedair blynedd yn ddiweddarach rwy'n pryderu oherwydd mae'n rhaid bod y problemau wedi'u gwreiddio'n eithaf dwfn os nad yw wedi llwyddo i'w gwella erbyn hyn. Yn benodol, hoffwn wybod ychydig mwy am gost hyn i gyd, ac yn enwedig ymyriad PricewaterhouseCoopers. Croesawaf y ffaith ei fod yn dod ag arbenigedd allanol i mewn os yw hynny'n angenrheidiol, ond ni fydd hynny, wrth gwrs, o reidrwydd yn sicrhau newid cynaliadwy oni wneir rhywbeth ar yr un pryd i gynyddu'r capasiti ariannol a'r gallu i gynllunio'n ariannol o fewn y bwrdd ei hun. Felly, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar o glywed gan y Gweinidog beth mae ef a'i swyddogion yn ei wneud i sicrhau y caiff y capasiti ariannol hwnnw ei ddatblygu, nid yn unig ar y brig lle mae'n amlwg yn hollbwysig, ond ymhellach i lawr y bwrdd iechyd lle mae pobl yn gyfrifol am unedau llai, oherwydd yn ôl y dywediad, diwedd y gân yw'r geiniog. Ac yn achos Betsi Cadwaladr, oni bai y gellir datrys y problemau ariannol, bydd materion eraill yn parhau i fod yn her wirioneddol. Rwy'n cytuno â phopeth y mae Angela Burns wedi'i ddweud am yr angen am gynllun, ond, unwaith eto, gallwn ddychwelyd at hynny yfory.
Felly, trof yn fyr at iechyd meddwl. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol, oherwydd gohebiaeth yr wyf wedi'i rhannu ag ef, am rai pryderon gwirioneddol sy'n dal i gael eu dwyn i'm sylw gan etholwyr sy'n byw yn ardal Betsi Cadwaladr ynghylch agweddau ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Mae'n sôn am rai gwelliannau clir. Rhoddwyd sicrwydd annibynnol iddo y bu gwelliannau clir o ran ansawdd y gofal a ddarperir, ymrwymiad i staff a mynediad i gleifion. Rwy'n mawr obeithio ei fod yn gywir ynglŷn â hyn. Mae rhywfaint o'r dystiolaeth a ddaeth i'm rhan, er yn anecdotaidd, yn awgrymu nad yw efallai'n gwbl gywir ynghylch hynny, ac felly byddwn yn ddiolchgar petai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni heddiw neu yfory: beth yw'r matricsau sy'n cael eu defnyddio i farnu'r gwelliannau hynny? Beth yw'r llinell sylfaen? Sut ydym ni'n barnu'r gwelliant hwnnw? A ble mae llais—wrth wneud dyfarniadau ynglŷn â'r gwelliant hwnnw—y cleifion, teuluoedd a gofalwyr cleifion? Rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol.
Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad fod rhagor o waith i'w wneud ynghylch mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ac, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar am rai manylion, naill ai heddiw neu yfory, am beth yn union yw'r gwelliannau hynny, oherwydd, unwaith eto, yn sicr, mae llwyth achosion fy etholaeth yn awgrymu bod problemau ofnadwy o ran mynediad, ac mae gennyf bryder penodol ynglŷn â gallu defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n gwbl hanfodol yn y maes hwn. Ac nid yw hynny'n ymwneud â hawl person i gael gwasanaethau yn ei iaith ei hun yn unig, ond gwyddom fod pobl yn fwy tebygol o wella, yn enwedig o ran meysydd iechyd meddwl, os yw'r gwasanaethau hynny ar gael iddyn nhw.
Rwyf eisiau cyfeirio nawr at nod 4—y gwasanaethau meddygon teulu a'r ddarpariaeth y tu allan i oriau—mae'n dda clywed bod y Gweinidog yn ffyddiog ei fod wedi gallu is-gyfeirio'r rheini. Unwaith eto, rwy'n ategu rhai o'r pryderon y mae Angela Burns wedi sôn amdanyn nhw am y proffil tymor hir, ond mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, wrth gwrs, am y mater yn ymwneud â lleoedd hyfforddi ac mae hynny'n gadarnhaol iawn i'w glywed. Tybed, o gofio nad ydym ni wedi gallu dod o hyd i unrhyw ystadegau cyhoeddus a gyhoeddwyd ynghylch pa mor hawdd yw cael gwasanaethau y tu allan i oriau—ac mae'n bosib bod fy ymchwil yn y maes hwn wedi bod yn annigonol—a wnaiff y Gweinidog roi gwybodaeth fanylach inni ynghylch sut ac ar ba sail y mae'n ffyddiog, mewn gwirionedd, fod y ddarpariaeth y tu allan i oriau wedi gwella, oherwydd rydym ni'n amlwg yn gwybod bod y sgil-effaith ar ofal eilaidd, os nad yw'r gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau yn gynaliadwy, yn ddifrifol.
Hoffwn, felly, yn y cyd-destun hwnnw, gyfeirio'n fyr at y gwahaniaeth mewn perfformiad o ran gofal brys yn yr ysbytai ar draws yr ardal. A yw'r Gweinidog yn ffyddiog bod y gwahaniaethau hynny'n cael sylw effeithiol gan y bwrdd nawr, ac a wnaiff ddweud ychydig mwy wrthym ni am y ffordd y mae hynny'n digwydd a phryd y byddai'n disgwyl gweld yr ysbytai eraill yn yr ardal yn cyrraedd safon Ysbyty Gwynedd?
Ac, yn olaf, o ran y pumed nod, a oedd, wrth gwrs, ynglŷn ag adfer ffydd y boblogaeth leol—rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn fy marn i fel un o gynrychiolwyr y boblogaeth leol bod problemau gwirioneddol o hyd o ran ffydd. Ac un mater sydd o bryder arbennig i mi yw fy etholwyr yng ngorllewin yr ardal sy'n teimlo nad yw'r bwrdd presennol yn deall eu cymunedau, nad yw'n siarad dros eu cymunedau, yn llythrennol, nid yw'n siarad eu hiaith, ac mae hynny'n bwysig ynddo'i hun. A phan fo gwasanaethau'n cael eu 'rhesymoli', maen nhw'n cael eu rhesymoli ar sail lleoliad yr ysbytai, nid ar ddaearyddiaeth y gymuned gyfan. Hoffwn ofyn, yn ddiffuant iawn, ar i'r Gweinidog gael rhywfaint o drafodaethau, neu'n briodol, i'w swyddogion gael rhywfaint o drafodaethau, i sicrhau pan fydd gwasanaethau, gwasanaethau wedi eu cynllunio—. Gwasanaethau—. Pan fydd cynlluniau i newid gwasanaethau—mae hi wedi bod yn brynhawn hir, Dirprwy Lywydd. Pan fydd cynlluniau'n cael eu hystyried gan y bwrdd, y bydd yn ystyried daearyddiaeth gyfan y rhanbarth ac nid dim ond lleoliad ysbytai yn y rhanbarth. Oherwydd bod ymdeimlad, a dydw i ddim yn dweud y gellir cyfiawnhau hyn, ond mae'n ymddangos yn glir i mi pan fyddaf yn y rhan honno o'm rhanbarth, pan fyddwn yn sôn am symud gwasanaethau, ein bod yn eu symud i fan canolog o ran lleoliad yr ysbytai, nid man canolog o ran ble mae'r bobl yn byw. Ac o ran adfer y ffydd honno, Gweinidog, a oedd yn un o'ch nodau wrth i chi roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig—o ran adfer y ffydd honno yng ngorllewin y rhanbarth, mae'n gwbl hanfodol bod angen i'r bobl hynny gael ymdeimlad bod y bwrdd a chithau yn deall daearyddiaeth yr ardal yn ddigon da i wybod bod pellter mawr iawn, iawn, rhwng Dolgellau a Wrecsam. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu y bu ychydig o gamddealltwriaeth ar y dechrau ynghylch y sylwadau yr oeddwn yn eu gwneud am y pedair blynedd. Roeddwn yn gwneud y pwynt ei fod yn gyfnod anarferol o hir i fod mewn mesurau arbennig. Rwy'n rhoi dwy a dim ond dwy enghraifft o sefydliadau iechyd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig am gyfnod tebyg. Nid yw'n rhywbeth anrhydeddus; mae'n arwydd o ba mor anarferol yw bod mewn mesurau arbennig am gyfnod fel hwn.
O ran y sylwadau am y gwahanol feysydd a barodd i'r bwrdd iechyd fynd i mewn i fesurau arbennig, rwy'n credu na allwn ni wadu y bu gwelliant sylweddol o ran arwain a llywodraethu. Nid fy marn i yn rhinwedd fy swydd weinidogol yn unig yw hon, nid dim ond barn a roddwyd gan David Jenkins yn ei waith ynghylch y bwrdd ydyw, ond y farn a gawn ni hefyd gan sylwebyddion annibynnol, gan bartneriaid, barn yn sgil ymgysylltu â'r bwrdd iechyd, ac nid oes a wnelo hynny dim ond â'r ysgogiad newydd y mae'r cadeirydd newydd wedi'i ddarparu, er y bu hynny yn gam ymlaen gweladwy iawn o ran arweinyddiaeth y sefydliad, ond mae'n ymwneud â chraffu gweladwy yn y sefydliad ar ddewisiadau wrth wneud penderfyniadau, ac mae hynny'n sylfaen dda er mwyn iddyn nhw symud ymlaen.
Dydw i ddim yn credu bod cysylltiad uniongyrchol o reidrwydd rhwng arwain a llywodraethu a heriau ariannol. Mae'r cynnydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at rywfaint o'r perfformiad annerbyniol yn swyddogaeth gyllid y bwrdd iechyd, ac rwy'n chwilio am fwy o waith i'w wneud o ran y swyddogaeth gyllid, dyna pam fy mod i wedi cefnogi cais y cadeirydd am y gwaith ychwanegol yn gysylltiedig â PricewaterhouseCoopers, ond dyna pam hefyd fod uned cyflawni cyllid y GIG yn ymgysylltu ac yn ymwneud â'r bwrdd hefyd. Felly, nid ymagwedd 'laissez faire' mohoni, ewch ati i wneud iddo weithio, ond rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd fynd ati mewn ffordd wahanol a sicrhau canlyniadau gwahanol o ran swyddogaeth cyllid. Nid oedd hynny'n dderbyniol. Hwn oedd yr unig fwrdd yng Nghymru nad oedd yn gallu gweithredu o fewn ei gyfanswm rheoli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwariodd fwy na hynny. Rwy'n disgwyl iddo wneud cynnydd fel y bydd yn gweithredu o fewn y cyfanswm rheoli eleni. Rwyf wedyn yn disgwyl iddo symud ymlaen i sefyllfa lle mae'n torri'r siwt yn ôl y brethyn ac nid yn byw mewn diffyg sy'n cael ei oddef.
O ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl—unwaith eto, daw hyn yn uniongyrchol o waith y mae'r Arolygiaeth Gofal Iechyd wedi ei wneud, mae'n dod o waith yr ymgynghorydd annibynnol, Emrys Elias, y cyfeiriais ato yn fy natganiad—bu gwelliant gwirioneddol o ran amseroedd mynediad yn CAMHS a gwasanaethau i oedolion. Nid yw hynny'n golygu bod y gwasanaeth yn berffaith. Nid yw'n golygu na welwch chi nac unrhyw gynrychiolydd arall yn y gogledd bobl yn dod atoch chi gyda straeon dilys am y ffaith eu bod yn dal i aros yn rhy hir. Ond mae'n dangos bod gwelliant gwirioneddol yn cael ei wneud, ac mae angen gwneud mwy o hyd, ond mae maint hwnnw wedi lleihau'n sylweddol dros y cyfnod mewn mesurau arbennig. Yn wir, mae'r bwrdd iechyd wedi cael rhywfaint o ganmoliaeth am y ffordd y mae wedi cynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o ail-drefnu'r strategaeth iechyd meddwl mewn ffordd na ddigwyddodd yn y gorffennol. Mae hynny'n rhan o'r sylfaen rwy'n credu a fydd yn sail dda ar gyfer gwella'r gwasanaethau iechyd meddwl ymhellach.
O ran y ddarpariaeth y tu allan i oriau, cafodd ei isgyfeirio gryn amser yn ôl erbyn hyn. Yn wir, cyn i chi ddychwelyd i'r Cynulliad, roedd gwasanaethau y tu allan i oriau yn cael eu hisgyferio fel pryder ac maen nhw'n gydradd â gwasanaethau eraill ar draws gweddill Cymru. Rwyf mewn gwirionedd yn edrych ar y broses o ehangu'r gwasanaeth 111 yn rhan o'n gwasanaethau y tu allan i oriau, a hefyd y rhan y gall hynny ei chwarae fel model ar gyfer rhai o'n gwasanaethau yn ystod oriau hefyd. Felly, rydym ni'n bwriadu trawsnewid a newid y ffordd y mae'r rhan honno o'n system yn gweithio mewn gwirionedd, nid yn unig yn y gogledd ond y tu hwnt i hynny hefyd.
O ran gofal heb ei drefnu, y cylchoedd gwella 90-dydd yw'r prif ddull o wella sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn y bwrdd iechyd. Mae wedi sefydlogi; yn wir, bu rhywfaint o welliant, ond mewn gwirionedd yr her dros y chwarter nesaf yw gweld llawer mwy o welliant, oherwydd pe bai pob rhan o'r bwrdd iechyd yn perfformio ar yr un lefel ag Ysbyty Gwynedd, byddai hynny'n welliant sylweddol i sefyllfa'r bwrdd iechyd ar y cyfan nawr. Ond, mewn gwirionedd, mae angen i'r holl sefydliad symud ymhellach a thu hwnt i hynny hefyd. Mae a wnelo hynny'n rhannol â modelau a ffyrdd o weithio, mae'n ymwneud â'r arweinyddiaeth glinigol, ond mae hefyd yn ymwneud â'r gwasanaethau y tu allan i adrannau achosion brys hefyd, a'r cysylltiad â gofal cymdeithasol a'r cyswllt ar draws y system gyfan ac mewn gwirionedd mae'r gweithio mewn partneriaeth sydd wedi gwella yn darparu sail lawer gwell er mwyn gwneud hynny hefyd.
O ran eich pwynt am ddaearyddiaeth y gogledd, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn o ddaearyddiaeth y gogledd ers cryn amser. Pan oeddwn yn fachgen, yn mynd i wahanol rannau o Gymru ar wyliau, roedd fy nhad yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwahanol rannau o'r wlad. Mae gennym y benbleth hon nid yn unig yn y gogledd ond ledled y wlad. Ac os meddyliwch chi am y mesurau arolwg Seneddol, bydd rhai gwasanaethau'n arbenigol a dwys, a byddwn yn gofyn i bobl deithio ymhellach i gael gofal gwell. Y sefyllfa gyfatebol, serch hynny, yw y bydd gennym ni fwy o wasanaethau'n cael eu darparu mewn lleoliad mwy lleol hefyd. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid inni fuddsoddi yn y lleoliadau lleol hynny. Felly, yn ddiweddar, rydym ni wedi buddsoddi mewn modelau gofal newydd gyda chyfalaf sylweddol. Yn Alltwen, yn Nhywyn a Blaenau Ffestiniog, fel enghreifftiau, rydym ni'n darparu gwahanol wasanaethau mewn ffordd wahanol, fodern er mwyn darparu gofal iechyd. Felly, byddwch yn gweld y ddau beth hynny'n digwydd yn y gogledd ac ar draws gweddill Cymru i ddarparu mwy o ofal yn agosach at adref, ond, i rai gwasanaethau, byddant yn arbenigol a byddant yn darparu gofal gwell mewn llai o ganolfannau.
Mandy Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Angela, Croeso'n ôl hefyd. Rydym ni wedi gweld eich eisiau. Mae'n wych eich gweld chi.
Gweinidog, rydym yn haeddiannol falch o'r GIG. Mae llawer o wledydd eraill yn eiddigeddus ohonom gan fod gennym ni wasanaeth iechyd sydd am ddim. Mae'n flin gennyf i sefyll yma heddiw unwaith eto yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb pennaf i oruchwylio darpariaeth a pherfformiad y GIG. Ond yn achos Betsi, mae'n fwy na hyn. Ar ran Llywodraeth Cymru, rydych chi, Gweinidog, wedi ymgymryd â'r gwaith o redeg rhai agweddau ar waith y bwrdd iechyd drwy fesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn bodolaeth am 10 mlynedd yn unig, felly mae hynny'n golygu nad yw wedi bod yn perfformio yn ôl y disgwyl am o leiaf 40 y cant o'i fywyd, felly ymddengys i mi fod mesurau arbennig yn debycach i drefn arferol pethau. Croesawaf y meysydd sydd wedi gwella yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, ar ôl pedair blynedd, siawns na ddylid cael rhyw fath o ddyddiad terfyn ar gyfer dod â mesurau arbennig i ben. Mae'r datganiad heddiw yn swnio ac yn teimlo'n debyg iawn i'r datganiad diwethaf a wnaethoch chi, a'r un cyn hynny, a'r un cyn hynny. Rydym ni'n mynd at wraidd hyn nawr. Mae gennyf ddiddordeb cael gwybod pryd y byddwch chi'n cymryd camau pendant a chadarnhaol i sicrhau bod newid gwirioneddol yn digwydd.
Nid yw'r datganiad hwn yn cyfeirio at yr argyfwng recriwtio sy'n peri pryder mawr i weithwyr meddygol proffesiynol a gweithwyr cymorth yn y rhanbarth. A tybed pa ddadansoddiad ydych chi wedi'i wneud o effaith y penawdau ynghylch y gwasanaeth iechyd yn y gogledd o ran recriwtio. Credaf fod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y gwersi llywodraethu a ddysgwyd yn peri pryder mawr, oherwydd mae hi'n ymddangos i mi, er gwaethaf nifer o ymholiadau dros y degawdau, nad yw gwersi'n cael eu dysgu mewn gwirionedd. Yn fwy na dim, rwy'n pryderu am gost ddynol her y bwrdd iechyd hwn. Mae miloedd o bobl, yn llythrennol, yn aros yn llawer rhy hir am lawdriniaeth, yn llawer hwy na'r amserau targed, tra bod eu hiechyd (1) yn dirywio ymhellach fyth, (2) maen nhw mewn poen, (3) nid ydyn nhw'n gallu gweithio, a (4) nid ydyn nhw'n gallu gofalu am eu teuluoedd. Os gwelwch yn dda, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i ac wrthyn nhw sut y gallan nhw gael cysur o'r datganiad hwn a bod â ffydd yn eich stiwardiaeth dros GIG Cymru.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf eisiau sicrhau nid yn unig yr aelod ond y cyhoedd yn gyffredinol nad mesurau arbennig yw trefn arferol pethau. Mae hyn yn ymwneud â gweld y bwrdd iechyd yn gwella ac yn symud y tu hwnt i fesurau arbennig. Ac, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, dydw i ddim yn mynd i osod terfyn amser artiffisial ar gyfer dod â'r mesurau arbennig i ben. Byddai hynny'n weithred gyfleus i mi ond yn gwbl anghywir ar gyfer y cyhoedd a'n staff. Mae rhaid i'r broses o ddod allan o fesurau arbennig ddigwydd ar sail cyngor sy'n fy ngalluogi i ddweud mai dyna'r peth priodol i'w wneud i'r sefydliad. Mae'r cyngor hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn bwysig iawn, neu fel arall byddai ein proses uwchgyfeirio yn ddiystyr, ac yn ymwneud â chyfleustra gweithredu i wleidyddion ynghylch cylchoedd etholiadau yn hytrach na'r hyn sy'n briodol i'w wneud ar gyfer y gwasanaeth a'r peth priodol i'w wneud ar gyfer y cyhoedd.
O ran yr heriau recriwtio yr ydym ni'n eu hwynebu, rwyf wedi sôn am nifer o'r rhain yn y datganiad ac yn y sgwrs a gefais gydag Angela Burns am niferoedd meddygon teulu a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae llwyddiant 'Hyfforddi, Gweithio, Byw', o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU o ran niferoedd meddygon teulu yn gadarnhaol iawn i ni hefyd. Mae'r ffaith ein bod yn gweld nifer o'r practisau hynny sy'n cael eu rheoli, sydd bellach yn barod i fynd yn ôl i fod yn fodelau contractwyr annibynnol hefyd, yn gadarnhaol iawn—y ffaith ein bod yn cynnal ymgyrch recriwtio o ran fferylliaeth, o ran nyrsys ac o ran therapyddion fel rhan o'r proffesiynau perthynol i iechyd hefyd, felly rydym ni'n weithgar yn recriwtio pobl, yn ogystal â'r buddsoddiad rydym ni'n parhau i'w wneud o ran hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yma yng Nghymru.
Ar adeg heriol, rydym ni'n parhau i fuddsoddi mwy mewn hyfforddi nid yn unig meddygon, gyda lleoedd hyfforddi ychwanegol yn y gogledd hefyd, ond hefyd o ran proffesiynau gofal iechyd eraill. Felly, credaf fod gennym ni lawer i'w ddweud, ac yn y datganiad, wrth gwrs, amlinellais y gwaith ychwanegol sy'n cael ei wneud ym maes orthopedeg—y chwe swydd ychwanegol yr ydym ni'n eu hariannu, y gwaith rydym ni'n ei wneud i sicrhau bod cynllun ar gael ac nid dim ond aros am fuddiannau cystadleuol yn y gogledd i lunio cynllun ar ryw adeg ymhell yn y dyfodol.
Felly, mae ymyrryd yn digwydd. Mae mwy wedi digwydd oherwydd ein hymyrraeth, ac edrychaf ymlaen at weld mwy yn digwydd yn gynt, oherwydd fy uchelgais yw i'r bwrdd iechyd hwn ddod allan o fesurau arbennig gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud, gan ei fod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a pharhaus gyda, ac ar gyfer ei staff a gyda, ac ar gyfer pobl y gogledd y mae'n eu gwasanaethu.
Ac yn olaf, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Rhannaf eich uchelgais. Rwyf eisiau i hwn fod yn fwrdd iechyd sydd wedi newid o ran ei berfformiad ac i fod y bwrdd iechyd sy'n perfformio orau yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU gyfan, os oes modd o gwbl, yn hytrach na bod, oherwydd llawer o bethau—nid popeth, ond llawer o bethau—yn gyson ar waelod tabl cynghrair y DU, ac yn sicr ar waelod tabl cynghrair Cymru.
Byddwn yn gofyn y cwestiwn sylfaenol hwn i chi, serch hynny, a chredaf ei fod yn un y mae llawer o bobl yn ei ofyn i mi, nawr, a hwnnw yw: mesurau arbennig—a yw'n gymorth ynteu'n rhwystr? Oherwydd nid wyf yn siŵr a yw'r trefniadau mesurau arbennig yng Nghymru, sy'n wahanol i'r rhai dros y ffin yn Lloegr, yn gweithio'n dda. Rwy'n credu—wyddoch chi, yr wybodaeth a'r adborth a gaf i gan glinigwyr, gan gyfarwyddwyr anweithredol ac eraill, yw, weithiau, oherwydd y trefniadau mesurau arbennig hynny, ei bod hi'n cymryd amser hir i gael penderfyniadau drwy'r bwrdd iechyd pan, weithiau, fod angen gweithredu'n gyflym er mwyn rhoi trefn ar bethau.
Roeddwn yn falch o'ch clywed yn cyfeirio at y ffaith eich bod wedi cymeradwyo'r buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhyrysgerbydol cymunedol yn ddiweddar, cynnydd yn nifer yr ymgynghorwyr orthopedig a rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf yn y maes hwnnw. Ond mae wedi cymryd dros 18 mis i'r rhaglen gyfalaf honno gael ei chymeradwyo gennych chi, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog, ac nid wyf yn gwybod a yw hynny'n broblem gan nad yw eich swyddogion wedi dwyn y mater i'ch sylw yn ddigonol—nid oes syniad gennyf sut y mae eich systemau'n gweithio yn y Llywodraeth. Ond mae wedi cymryd llawer iawn o amser. Ac, wrth gwrs, gwyddom fod mater y chwe meddyg ymgynghorol orthopedig yn bennaf oherwydd yr amgylchiadau trasig a arweiniodd at orchymyn i atal marwolaethau pellach o dan reoliad 28 yng nghyswllt achos Megan Lloyd-Williams—gwraig 77 oed o Sir y Fflint a dorrodd glun ym mis Medi'r llynedd ac yn anffodus bu farw a phetai hi wedi cael gofal iechyd o'r safon y dylid fod wedi ei ddarparu yna ni fyddai wedi marw.
Mae'n destun pryder i mi ei bod yn cymryd digwyddiad o'r fath—digwyddiad na ddylai fyth fod wedi digwydd—gyda thrychineb mewn teulu a gwraig yn colli ei bywyd i wneud i bobl lofnodi yn y man priodol fel y gall y cynlluniau ar gyfer gwella gael y cyllid sydd ei angen. Mae'n bryder i mi, er enghraifft, bod y gronfa ddata genedlaethol ar dorri clun yn rhoi Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd—ac fe'ch clywais yn dweud y dylem ddyheu i fod cystal ag Ysbyty Gwynedd ym mhob agwedd, ond mae'n rhoi'r ysbyty hwnnw hefyd, a Wrecsam Maelor, yn y 10 uchaf o ysbytai sy'n perfformio waethaf ar y gronfa ddata honno yn y DU gyfan, allan o 176 o ysbytai. Mae hynny'n fy mhoeni, ac rwyf eisiau gweld y sefyllfa hon yn newid.
Nawr, cafwyd rhywfaint o gynnydd; rwy'n cydnabod hynny. Cafwyd cynnydd mewn gwasanaethau mamolaeth, yn bennaf oherwydd i 10,000 o bobl orymdeithio ar y strydoedd yn y Rhyl—gan cynnwys y Dirprwy Lywydd a minnau—i ymgyrchu dros uned gofal arbennig newydd i fabanod yn y gogledd. Rwy'n falch iawn ein bod wedi sicrhau'r buddsoddiad hwnnw—dyna oedd y penderfyniad cywir, a chefnogais y Prif Weinidog yn llawn am wneud y penderfyniad hwnnw.
Rwy'n cydnabod y bu rhywfaint o welliant ym maes meddygon teulu hefyd. Rwyf wedi'i weld yn o ran nad yw rhai o'r practisau hynny a oedd mewn peryg mewn peryg mwyach. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni o hyd nifer o bractisau meddygon teulu sydd wedi cau eu drysau unwaith ac am byth; mae degau o filoedd o gleifion yn gorfod wynebu'r drafferth o gofrestru gyda meddygon teulu newydd neu'n cael eu trosglwyddo i feddygon teulu newydd. Ac er fy mod yn derbyn bod rhai yn dod yn ôl i faes ymarfer cyffredinol, yn hytrach na chael eu rheoli gan y bwrdd iechyd, y ffaith yw bod gan Betsi fwy o gyfleusterau meddygon teulu y mae'r bwrdd iechyd yn eu rheoli nag unrhyw ran arall o'r wlad, ac mae hynny'n dal i fy mhoeni.
Bûm ar ymweliad ag Ysbyty Maelor Wrecsam ddoe i ymweld â'r adran achosion brys, ac mae'n rhaid imi ddweud na welwch chi dîm mwy ymroddedig yn ein hysbytai. Ond roedden nhw'n dweud wrthyf i am rywfaint o'r pwysau. Pan gyrhaeddais i yno, 10.30 yn y bore, roedd yr arhosiad hiraf yn yr adran honno yn 11.5 awr, ac erbyn i mi adael roedd yn 3.5 awr oherwydd gwaith caled pobl yn ceisio gwneud yn siŵr bod y llif drwy'r ysbyty yn dderbyniol. Ond roedd clywed am rai o'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, a dynnwyd o'r rhaglen mesurau arbennig, yn peri pryder imi gan fod bylchau o hyd mewn rotâu yn rhannau o'r gogledd. Nawr, nid yw hynny'n dderbyniol. Ni allaf ddeall sut rydych chi'n gallu bod mor ddidaro ynglŷn â sefyllfa'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, a hwythau'n dweud wrthyf fi, y staff rheng flaen, fod bylchau yn rotâu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae hynny'n fy mhoeni.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y newid ar frig y sefydliad, a bu llawer o newid, ond mae'n ymddangos i mi mai trobwll parhaus ydyw. Rydych yn gwybod bod y Cyfarwyddwr Cyllid yn gadael, mae'r Cyfarwyddwr Meddygol hefyd yn y broses o adael y sefydliad. Cawsom wybod gennych mewn datganiad yn y Siambr hon y llynedd fod cyfarwyddwr newid wedi'i benodi. Wrth gwrs, roedd yn un o gyn-brif weithredwyr dros dro'r sefydliad, ac yn ystod cyfnod y cyfarwyddwr hwnnw y cawsom ni lawer o'r llanast hwn yr ydym ni'n ceisio cael trefn arno. Fe wnaethom ni ddweud mai hwn oedd y person anghywir ar gyfer y swydd ar y pryd—
A ydych chi'n dod i'r diwedd? Oherwydd chi yw'r ail siaradwr ac rydych chi wedi cael mwy na phum munud.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael rhywfaint o ffydd, gan ein bod eisiau rhoi ffydd i'n hetholwyr, bod pobl ar gael sydd â'r gallu i weddnewid y sefydliad, a bod gan eich adran y gallu ynddi i achosi'r math o weddnewidiad yn y sefydliad hwn sydd ei angen. Gallwn i sôn am lawer o agweddau eraill—
Na, dydw i ddim yn credu y byddwch chi. Dydw i ddim yn credu y byddwch chi.
Rwy'n derbyn hynny. Rwy'n gwybod bod amser o hyd ar y cloc. Ond byddwn yn eich annog ac yn erfyn arnoch i edrych ar eich systemau a'ch trefniadau mewnol yn Llywodraeth Cymru, gan nad wyf yn siŵr—rwy'n credu eu bod yn rhan o'r broblem nawr. Dydw i ddim yn credu eu bod yn rhan o'r ateb.
Gweinidog, mae gennych chi lai na phum munud i ymateb, oherwydd byddaf yn eich atal ar 45.
Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Ceisiaf ymdrin â phob un o sylwadau a chwestiynau Darren yn yr amser a neilltuwyd, Dirprwy Lywydd.
Dywedaf yn garedig iawn fod y cysylltiad â marwolaeth anffodus y claf a ddisgrifiodd a'r chwe swydd ychwanegol—ni ellir gwneud cysylltiad uniongyrchol fel ceisia'r Aelod ei wneud. Ers fy nghyfnod i ar ddechrau'r tymor hwn fel Aelod Cabinet dros iechyd, rwyf wedi cael trafodaethau gyda llawfeddygon orthopedig mewn grwpiau amrywiol a chystadleuol yn y tri safle, gan ddod â hwy ynghyd gyda'r bwrdd iechyd i edrych ar gynllun priodol ar gyfer orthopedeg. Yr her yw cyrraedd y pwynt lle gallwn ni gefnogi cynllun i fuddsoddi yn y gwasanaeth y mae'r holl safleoedd yn cytuno ag ef mewn gwirionedd. Erbyn hyn rydym ni mewn gwell sefyllfa, a dyna pam ein bod ni'n gallu darparu mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth hwnnw. Rydym ni'n cydnabod bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
Ac mae dewisiadau cyfalaf yn cymryd amser—y broses y mae angen inni fynd drwyddi i sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y rhan gywir o'r gwasanaeth—ac mae'n rhan o'm rhwystredigaeth i nad ydym yn gallu gwneud hynny'n gynt. A dweud y gwir, dydw i ddim yn credu bod mesurau arbennig yn ateb ar gyfer oedi mewn dewisiadau cyfalaf; mae'n ymwneud â'r ffaith fod y bwrdd iechyd yn glir o ran y dewisiadau y mae angen iddo eu gwneud ochr yn ochr â'i staff, i gael cytundeb ar yr hyn y gallai ac y dylai fuddsoddi ynddo. Ac rwy'n awyddus i sicrhau bod mesurau arbennig yn gymorth i wneud hynny, nid yn rhwystr, oherwydd rhan o'r her yw pa un a yw sefydliad yn teimlo y gall wneud dewisiadau y gallai ac y dylai eu gwneud mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhan o'r her ynghylch cael goruchwyliaeth y mesurau arbennig i sicrhau eu bod yn parhau i wneud dewisiadau.
O ran eich sylw am famolaeth, mae'r buddsoddiad yn y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig wrth gwrs yn cael ei groesawu, ond mewn gwirionedd, y rheswm pam y daeth gwasanaethau mamolaeth allan o fesurau arbennig oedd oherwydd newid diwylliannol sylweddol yn y ffordd yr oedd yr adran honno'n gweithredu—newid yn yr arweinyddiaeth ar lefel bydwreigiaeth, yn arbennig, a newid yn y ffordd yr oedd staff yn gweithio gyda'i gilydd mewn gwirionedd. Dyna oedd y ffactor pwysicaf o ran gwella gwasanaethau mamolaeth ledled y gogledd. Mae'r newid hwnnw wedi'i gynnal hefyd, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn ac mae'n dangos i'r sefydliad ei fod wedi ac yn gallu gwella gwasanaethau a chynnal y gwelliant hwnnw fel bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac, mewn gwirionedd, bod y cleifion, y bobl y maen nhw'n gofalu gyda nhw ac amdanyn nhw, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael gwell gofal o ganlyniad.
O ran eich sylwadau am ymarfer cyffredinol, hoffwn eich atgoffa eto nad oes neb wedi cael ei adael heb feddyg teulu, a bron yn ddieithriad, mae'r gofal yn cael ei ddarparu ar y dechrau o'r un lle y maen nhw wedi arfer ag ef. Fodd bynnag, byddwn yn gweld newid yn y ffordd y caiff ymarfer cyffredinol ei gyflwyno. Bydd yn golygu y bydd gennym ni grwpiau mwy o feddygon teulu, meddygon teulu eraill yn gweithio i feddygon teulu eraill, yn yr un ffordd yn union ag y mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cael eu cyflogi gan gyfreithwyr eraill mewn cwmnïau cyfreithiol. Ond rwy'n credu bod angen i ni hefyd weld hynny fel rhywbeth cadarnhaol, symud pobl i fan lle bydd eu gofal yn cael ei ddarparu mewn cymuned leol ond mewn lleoliad sydd wedi'i adeiladu i'r diben ac sy'n addas i'r diben. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fuddsoddi yn yr ystad gofal sylfaenol ledled Cymru.
Ac rwy'n falch eich bod wedi ymweld ag adran achosion brys Wrecsam, gan eu bod yn grŵp ymroddedig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymdrechu ac yn ymdopi â'r heriau gwirioneddol sy'n dod i'w rhan. Mae'n llawer haws bod yn wleidydd, a dweud y gwir, hyd yn oed yn y swydd hon, nag ydyw i fynd a gweithio mewn adran achosion brys mewn unrhyw un o'n hysbytai mewn unrhyw ran o'r DU, nid dim ond yng Nghymru. Ac mae hynny mewn difrif yn amlygu'r heriau ar draws ein system gyfan, nid yn unig o ran pobl sy'n cyrraedd yr ysbyty. Dyna pam fy mod yn rhoi cymaint o bwyslais, yn y sgyrsiau a gefais gyda phartneriaid ledled y gogledd, ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ar hynny fel arwydd o lwyddiant y system gyfan, iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, a pham fod angen inni ddiwygio ac ailstrwythuro gofal sylfaenol i wneud yn siŵr bod gennym ni fwy o gapasiti y tu allan i'r ysbyty, fel nad oes angen i bobl fynd yno yn ddiangen. Credaf y bydd hynny'n gwella'n sylweddol y ffordd y mae pobl yn darparu gofal ac, mewn gwirionedd, y ffordd y gall pobl ymfalchïo yn y gofal y maen nhw'n ei ddarparu, a bod pobl yn dal i werthfawrogi a bod â ffydd a hyder gwirioneddol yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac edrychaf ymlaen at weld y bwrdd iechyd yn y gogledd yn dod allan o fesurau arbennig ac yn parhau i ddangos ei fod yn haeddu ffydd a chefnogaeth y cyhoedd, a'i fod yn wasanaeth y dylai pob un ohonom ni yma ymfalchïo ynddo.
Diolch yn fawr iawn.